1534k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i
Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysegr-Lân
(1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620.
Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online
Edition.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_seffaneia_01_1534k.htm
0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001
..........2657k Y Fynedfa yn Gymraeg
neu trwy Google: #kimkat2657k
....................0009k Y Gwegynllun
neu trwy Google: #kimkat0009k
..............................0960k Cywaith Siôn
Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
neu trwy Google: #kimkat0960k
........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam
Morgan 1620
neu trwy Google:
#kimkat1281k
.............................................................y tudalen hwn
|
Gwefan Cymru-Catalonia Cywaith Siôn Prys |
(delw 6540) |
1533ke
This page
with an English translation - Haggai
(1620 Welsh Bible / 1611 English Authorized Version)
PENNOD 1
1:1
Gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Seffaneia mab Cusi, fab Gedaleia, fab
Amareia, fab Heseceia, yn amser Joseia mab Amon brenin Jwda.
1:2
Gan ddistrywio y distrywiaf bob dim oddi ar wyneb y ddaear, medd yr ARGLWYDD.
1:3
Distrywiaf ddyn ac anifail; distrywiaf adar yr awyr, a physgod y mor; a'r
tramgwyddiadau ynghyd a'r annuwiolion; a thorraf ymaith ddyn oddi ar wyneb y
ddaear, medd yr ARGLWYDD.
1:4
Estynnaf hefyd fy llaw ar Jwda, ac ar holl breswylwyr Jerwsalem; a thorraf
ymaith o'r lle hwn weddill Baal, ac enw y Chemariaid â’r offeiriaid;
1:5
A'r neb a ymgrymant ar bennau y tai i lu y nefoedd; a'r addolwyr y rhai a
dyngant i'r ARGLWYDD, a hefyd a dyngant i Malcham;
1:6
A'r rhai a giliant oddi ar ôl yr ARGLWYDD; a'r rhai ni cheisiasant yr ARGLWYDD,
ac nid ymofynasant amdano.
1:7
Distawa gerbron yr ARGLWYDD DDUW; canys agos yw dydd yr ARGLWYDD: oherwydd
arlwyodd yr ARGLWYDD aberth, gwahoddodd ei wahoddedigion.
1:8
A bydd, ar ddydd aberth yr ARGLWYDD, i mi ymweled â'r tywysogion, ac â phlant y
brenin, ac â phawb a wisgant wisgoedd dieithr.
1:9
Ymwelaf hefyd â phawb a neidiant ar y rhiniog y dydd hwnnw, y sawl a lanwant dai
eu meistr â thrais ac a thwyll.
1:10
A'r dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y bydd llais gwaedd o borth y pysgod, ac udfa
o'r ail, a drylliad mawr o'r bryniau.
1:2 A'r amser hwnnw y chwiliaf Jerwsalem
â llusernau, ac yr ymwelaf â'r dynion sydd yn ceulo ar eu sorod; y rhai a
ddywedant yn eu calon, Ni wna yr ARGLWYDD dda, ac ni wna ddrwg.
1:15 Diwrod llidiog yw y diwrnod hwnnw,
diwrnod trallod a chyfyngdra, diwrnod dinistr ac anghyfanhedd-dra, diwrnod
tywyll a du, diwrnod cymylau a thywyllni.
1:17 A mi a gyfyngaf ar ddynion, a hwy a
rodiant megis deillion, am bechu ohonynt yn erbyn yr ARGLWYDD; a'u gwaed a
dywelltir fel llwch, a'u cnawd fel tom.
PENNOD 2
2:1 Ymgesglwch, ie, deuwch ynghyd, genedl
anhawddgar;
2:2 Cyn i'r ddeddf esgor, cyn i'r dydd
fyned heibio fel peiswyn, cyn dyfod arnoch lid digofaint yr ARGLWYDD, cyn dyfod
arnoch ddydd soriant yr ARGLWYDD.
2:3 Ceisiwch yr ARGLWYDD, holl rai
llariaidd y ddaear, y rhai a wnaethant ei farn ef; ceisiwch gyfiawnder,
ceisiwch larieidd-dra; fe allai y cuddir chwi yn nydd digofaint yr ARGLWYDD.
2:4 Canys bydd Gasa yn wrthodedig, ac
Ascalon yn anghyfannedd: gyrrant allan Asdod hanner dydd, a diwreiddir Ecron.
2:5 Gwae breswylwyr glan y môr, cenedl y
Cerethiaid! y mae gair yr ARGLWYDD i'ch erbyn: O Ganaan, gwlad y Philistiaid,
mi a'th ddifethaf, fel na byddo cyfanheddwr.
2:6 A bydd glan y môr yn drigfâu ac yn
fythod i fugeiliaid, ac yn gorlannau defaid.
2:7 A bydd y fro yn rhan i weddill
tŷ Jwda; porant arnynt: yn nheiau Ascalon y gorweddant yn yr hwyr: canys
yr ARGLWYDD eu DUW a ymwêl â hwynt, ac a ddychwel eu caethiwed.
2:8 Clywais waradwyddiad
2:9 Am hynny fel mai byw fi, medd ARGLWYDD
y lluoedd, DUW Israel, Fel Sodom y bydd Moab, a meibion Ammon fel Gomorra:
danhadldir, a phyllau halen, ac anghyfanheddle tragwyddol: gweddill fy mhobl
a'u difroda, a gweddill fy nghenedl a'u meddianna hwynt.
2:13 Ac efe a estyn ei law yn erbyn y
gogledd, ac a ddifetha Asyria, ac a wna Ninefe yn anghyfannedd, ac yn sych fel
diffeithwch.
PENNOD 3
3:1 Gwae y fudr a'r halogedig, y ddinas
orthrymus!
3:2
Ni wrandawodd ar y llef, ni dderbyniodd gerydd; nid ymddiriedodd yn yr ARGLWYDD,
ni nesaodd at ei DUW.
3:3
Ei thywysogion o'i mewn sydd yn llewod rhuadwy; ei barnwyr yn fleiddiau yr
hwyr, ni adawant asgwrn erbyn y bore.
3:4
Ei phroffwydi sydd ysgafn, yn wŷ r anffyddlon: ei hoffeiriaid a halogasant
y cysegr, treisiasant y gyfraith.
3:5
Yr ARGLWYDD cyfiawn sydd yn ei chanol, ni wna efe anwiredd: yn fore y dwg ei
farn i oleuni, ni phalla; ond yr anwir ni fedr gywilyddio.
3:6
Torrais ymaith y cenhedloedd: eu tyrau sydd anghyfannedd, diffeithiais eu
heolydd, fel nad elo neb heibio; eu dinasoedd a ddifwynwyd, heb w^r, a heb
drigiannol.
3:7
Dywedais, Yn ddiau ti a'm hofni; derbynni gerydd: felly ei thrigfa ni thorrid
ymaith, pa fodd bynnag yr ymwelais â hi: eto boregodasant, a llygrasant eu holl
weithredoedd.
3:9
Oherwydd yna yr adferaf i'r bobl wefus bur, fel y galwo pob un ohonynt ar enw
yr ARGLWYDD, i'w wasanaethu ef ag un ysgwydd.
DIWEDD
_______________________________________________________________
Adolygiadau diweddaraf -
02 02 2003
Ble’r
wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o
dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə
“CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (=
Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA