1535ke Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website.

Y Beibl Cysegr-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620.

Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition.

 

0001 Yr Hafan / Home Page
or via Google: #kimkat0001

..........
2659e Y Fynedfa yn Saesneg / Gateway in English to this website
          or via Google: #kimkat2659e

....................0010e Y Gwegynllun yn Saesneg / Siteplan in English
                    or via Google: #kimkat0010e

...........................................0977e Y Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) / Welsh texts on this website - contents page  
                                           or via Google: #kimkat0977e

...................................................................1284e Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620 / Wiliam Morgan’s 1620 Bible - Index Page
                                                                   or via Google: #kimkat1284e

............................................................................................y tudalen hwn
/ this page

 

baneri
..

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

Y Beibl Cysegr-lân :
(36) Seffaneia (yn Gymraeg ac yn Saesneg)

 

The Holy Bible:
(33)
Zephaniah (in Welsh and English)

 

 
 

(delw 6676)

 

Adolygiad diweddaraf – latest update 08 02 2003

 
 1534k Y tudalen hwn yn Gymraeg yn unig

·····



PENNOD 1


1:1 Gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Seffaneia mab Cusi, fab Gedaleia, fab Amareia, fab Heseceia, yn amser Joseia mab Amon brenin Jwda.

1:1 The word of the LORD which came unto Zephaniah the son of Cushi, the son of Gedaliah, the son of Amariah, the son of Hizkiah, in the days of Josiah the son of Amon, king of Judah.


1:2 Gan ddistrywio y distrywiaf bob dim oddi ar wyneb y ddaear, medd yr ARGLWYDD.

1:2 I will utterly consume all things from off the land, saith the LORD.


1:3 Distrywiaf ddyn ac anifail; distrywiaf adar yr awyr, a physgod y mor; a’r tramgwyddiadau ynghyd a’r annuwiolion; a thorraf ymaith ddyn oddi ar wyneb y ddaear, medd yr ARGLWYDD.

1:3 I will consume man and beast; I will consume the fowls of the heaven, and the fishes of the sea, and the stumblingblocks with the wicked; and I will cut off man from off the land, saith the LORD.


1:4 Estynnaf hefyd fy llaw ar Jwda, ac ar holl breswylwyr Jerwsalem; a thorraf ymaith o’r lle hwn weddill Baal, ac enw y Chemariaid â’r offeiriaid;

1:4 I will also stretch out mine hand upon Judah, and upon all the inhabitants of Jerusalem; and I will cut off the remnant of Baal from this place, and the name of the Chemarims with the priests;


1:5 A’r neb a ymgrymant ar bennau y tai i lu y nefoedd; a’r addolwyr y rhai a dyngant i’r ARGLWYDD, a hefyd a dyngant i Malcham;

1:5 And them that worship the host of heaven upon the housetops; and them that worship and that swear by the LORD, and that swear by Malcham;


1:6 A’r rhai a giliant oddi ar ôl yr ARGLWYDD; a’r rhai ni cheisiasant yr ARGLWYDD, ac nid ymofynasant amdano.

1:6 And them that are turned back from the LORD; and those that have not sought the LORD, nor inquired for him.


1:7 Distawa gerbron yr ARGLWYDD DDUW; canys agos yw dydd yr ARGLWYDD: oherwydd arlwyodd yr ARGLWYDD aberth, gwahoddodd ei wahoddedigion.

1:7 Hold thy peace at the presence of the Lord GOD: for the day of the LORD is at hand: for the LORD hath prepared a sacrifice, he hath bid his guests.


1:8 A bydd, ar ddydd aberth yr ARGLWYDD, i mi ymweled â’r tywysogion, ac â phlant y brenin, ac â phawb a wisgant wisgoedd dieithr.

1:8 And it shall come to pass in the day of the LORD’S sacrifice, that I will punish the princes, and the king’s children, and all such as are clothed with strange apparel.


1:9 Ymwelaf hefyd â phawb a neidiant ar y rhiniog y dydd hwnnw, y sawl a lanwant dai eu meistr â thrais ac a thwyll.

1:9 In the same day also will I punish all those that leap on the threshold, which fill their masters’ houses with violence and deceit.


1:10 A’r dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y bydd llais gwaedd o borth y pysgod, ac udfa o’r ail, a drylliad mawr o’r bryniau.

1:10 And it shall come to pass in that day, saith the LORD, that there shall be the noise of a cry from the fish gate, and an howling from the second, and a great crashing from the hills.


1:11 Udwch, breswylwyr Machtes: canys torrwyd ymaith yr holl bobl o farchnadyddion; a holl gludwyr arian a dorrwyd ymaith.

1:11 Howl, ye inhabitants of Maktesh, for all the merchant people are cut down; all they that bear silver are cut off.


1:2 A’r amser hwnnw y chwiliaf Jerwsalem â llusernau, ac yr ymwelaf â’r dynion sydd yn ceulo ar eu sorod; y rhai a ddywedant yn eu calon, Ni wna yr ARGLWYDD dda, ac ni wna ddrwg.

1:12 And it shall come to pass at that time, that I will search Jerusalem with candles, and punish the men that are settled on their lees: that say in their heart, The LORD will not do good, neither will he do evil.


1:13 Am hynny eu cyfoeth a â yn ysbail, a’u teiau yn anghyfannedd: adeiladant hefyd dai, ond ni phreswyliant ynddynt; a phlannant winllannoedd, ond nid yfant o’r gwin.

1:13 Therefore their goods shall become a booty, and their houses a desolation: they shall also build houses, but not inhabit them; and they shall plant vineyards, but not drink the wine thereof.


1:14 Agos yw mawr ddydd yr ARGLWYDD, agos a phrysur iawn, sef llais dydd yr ARGLWYDD: yno y bloeddia y dewr yn chwerw.

1:14 The great day of the LORD is near, it is near, and hasteth greatly, even the voice of the day of the LORD: the mighty man shall cry there bitterly.


1:15 Diwrod llidiog yw y diwrnod hwnnw, diwrnod trallod a chyfyngdra, diwrnod dinistr ac anghyfanhedd-dra, diwrnod tywyll a du, diwrnod cymylau a thywyllni.

1:15 That day is a day of wrath, a day of trouble and distress, a day of wasteness and desolation, a day of darkness and gloominess, a day of clouds and thick darkness,


1:16 Diwrnod utgorn a larwm yn erbyn y dinasoedd caerog, ac yn erbyn y tyrau uchel.

1:16 A day of the trumpet and alarm against the fenced cities, and against the high towers.


1:17 A mi a gyfyngaf ar ddynion, a hwy a rodiant megis deillion, am bechu ohonynt yn erbyn yr ARGLWYDD; a’u gwaed a dywelltir fel llwch, a’u cnawd fel tom.

1:17 And I will bring distress upon men, that they shall walk like blind men, because they have sinned against the LORD: and their blood shall be poured out as dust, and their flesh as the dung.


1:18 Nid eu harian na’u haur chwaith a ddichon eu hachub hwynt ar ddiwrnod llid yr ARGLWYDD; ond â than ei eiddigedd ef yr ysir yr holl dir: canys gwna yr Arglwydd ddiben prysur ar holl breswylwyr y ddaear.

1:18 Neither their silver nor their gold shall be able to deliver them in the day of the LORD’S wrath; but the whole land shall be devoured by the fire of his jealousy: for he shall make even a speedy riddance of all them that dwell in the land.


PENNOD 2


2:1 Ymgesglwch, ie, deuwch ynghyd, genedl anhawddgar;

2:1 Gather yourselves together, yea, gather together, O nation not desired;


2:2 Cyn i’r ddeddf esgor, cyn i’r dydd fyned heibio fel peiswyn, cyn dyfod arnoch lid digofaint yr ARGLWYDD, cyn dyfod arnoch ddydd soriant yr ARGLWYDD.

2:2 Before the decree bring forth, before the day pass as the chaff, before the fierce anger of the LORD come upon you, before the day of the LORD’S anger come upon you.


2:3 Ceisiwch yr ARGLWYDD, holl rai llariaidd y ddaear, y rhai a wnaethant ei farn ef; ceisiwch gyfiawnder, ceisiwch larieidd-dra; fe allai y cuddir chwi yn nydd digofaint yr ARGLWYDD.

2:3 Seek ye the LORD, all ye meek of the earth, which have wrought his judgment; seek righteousness, seek meekness: it may be ye shall be hid in the day of the LORD’S anger.


2:4 Canys bydd Gasa yn wrthodedig, ac Ascalon yn anghyfannedd: gyrrant allan Asdod hanner dydd, a diwreiddir Ecron.

2:4 For Gaza shall be forsaken, and Ashkelon a desolation: they shall drive out Ashdod at the noon day, and Ekron shall be rooted up.


2:5 Gwae breswylwyr glan y môr, cenedl y Cerethiaid! y mae gair yr ARGLWYDD i’ch erbyn: O Ganaan, gwlad y Philistiaid, mi a’th ddifethaf, fel na byddo cyfanheddwr.

2:5 Woe unto the inhabitants of the sea coast, the nation of the Cherethites! the word of the LORD is against you; O Canaan, the land of the Philistines, I will even destroy thee, that there shall be no inhabitant.


2:6 A bydd glan y môr yn drigfâu ac yn fythod i fugeiliaid, ac yn gorlannau defaid.

2:6 And the sea coast shall be dwellings and cottages for shepherds, and folds for flocks.


2:7 A bydd y fro yn rhan i weddill tŷ Jwda; porant arnynt: yn nheiau Ascalon y gorweddant yn yr hwyr: canys yr ARGLWYDD eu DUW a ymwêl â hwynt, ac a ddychwel eu caethiwed.

2:7 And the coast shall be for the remnant of the house of Judah; they shall feed thereupon: in the houses of Ashkelon shall they lie down in the evening: for the LORD their God shall visit them, and turn away their captivity.


2:8 Clywais waradwyddiad Moab, a chabledd meibion Ammon, â’r hwn y gwaradwyddasant fy mhobl, ac yr ymfawrygasant yn erbyn eu terfynau hwynt.

2:8 I have heard the reproach of Moab, and the revilings of the children of Ammon, whereby they have reproached my people, and magnified themselves against their border.


2:9 Am hynny fel mai byw fi, medd ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel, Fel Sodom y bydd Moab, a meibion Ammon fel Gomorra: danhadldir, a phyllau halen, ac anghyfanheddle tragwyddol: gweddill fy mhobl a’u difroda, a gweddill fy nghenedl a’u meddianna hwynt.

2:9 Therefore as I live, saith the LORD of hosts, the God of Israel, Surely Moab shall be as Sodom, and the children of Ammon as Gomorrah, even the breeding of nettles, and saltpits, and a perpetual desolation: the residue of my people shall spoil them, and the remnant of my people shall possess them.


2:10 Hyn a ddaw iddynt am eu balchder, am iddynt waradwyddo ac ymfawrygu yn erbyn pobl ARGLWYDD y lluoedd.

2:10 This shall they have for their pride, because they have reproached and magnified themselves against the people of the LORD of hosts.


2:11 Ofnadwy a fydd yr ARGLWYDD iddynt: canys efe a newyna holl dduwiau y ddaear; ac addolant ef bob un o’i fan, sef holl ynysoedd y cenhedloedd.

2:11 The LORD will be terrible unto them: for he will famish all the gods of the earth; and men shall worship him, every one from his place, even all the isles of the heathen.


2:12 Chwithau hefyd, yr Ethiopiaid, a leddir a’m cleddyf.

2:12 Ye Ethiopians also, ye shall be slain by my sword.


2:13 Ac efe a estyn ei law yn erbyn y gogledd, ac a ddifetha Asyria, ac a wna Ninefe yn anghyfannedd, ac yn sych fel diffeithwch.

2:13 And he will stretch out his hand against the north, and destroy Assyria; and will make Nineveh a desolation, and dry like a wilderness.


2:14 A diadellau a orweddant yn ei chanol hi, holl anifeiliaid y cenhedloedd: y pelican a’r dylluan hefyd a letyant ar gap y drws; eu llais a gân yn y ffenestri; anghyfanhedd-dra a fydd yn y gorsingau: canys efe a ddinoetha y cedrwaith.

2:14 And flocks shall lie down in the midst of her, all the beasts of the nations: both the cormorant and the bittern shall lodge in the upper lintels of it; their voice shall sing in the windows; desolation shall be in the thresholds: for he shall uncover the cedar work.


2:15 Hon yw y ddinas hoyw oedd yn trigo yn ddiofal, yn dywedyd yn ei chalon, Myfi sydd, ac nid oes ond myfi: pa fodd yr aeth yn anghyfannedd, yn orweddfa anifeiliaid! pawb a’r a êl heibio iddi, a’i hwtia, ac a ysgwyd ei law arni.

2:15 This is the rejoicing city that dwelt carelessly, that said in her heart, I am, and there is none beside me: how is she become a desolation, a place for beasts to lie down in! every one that passeth by her shall hiss, and wag his hand.


PENNOD 3


3:1 Gwae y fudr a’r halogedig, y ddinas orthrymus!

3:1 Woe to her that is filthy and polluted, to the oppressing city!


3:2 Ni wrandawodd ar y llef, ni dderbyniodd gerydd; nid ymddiriedodd yn yr ARGLWYDD, ni nesaodd at ei DUW.

3:2 She obeyed not the voice; she received not correction; she trusted not in the LORD; she drew not near to her God.


3:3 Ei thywysogion o’i mewn sydd yn llewod rhuadwy; ei barnwyr yn fleiddiau yr hwyr, ni adawant asgwrn erbyn y bore.

3:3 Her princes within her are roaring lions; her judges are evening wolves; they gnaw not the bones till the morrow.


3:4 Ei phroffwydi sydd ysgafn, yn wŷ r anffyddlon: ei hoffeiriaid a halogasant y cysegr, treisiasant y gyfraith.

3:4 Her prophets are light and treacherous persons: her priests have polluted the sanctuary, they have done violence to the law.


3:5 Yr ARGLWYDD cyfiawn sydd yn ei chanol, ni wna efe anwiredd: yn fore y dwg ei farn i oleuni, ni phalla; ond yr anwir ni fedr gywilyddio.

3:5 The just LORD is in the midst thereof; he will not do iniquity: every morning doth he bring his judgment to light, he faileth not; but the unjust knoweth no shame.


3:6 Torrais ymaith y cenhedloedd: eu tyrau sydd anghyfannedd, diffeithiais eu heolydd, fel nad elo neb heibio; eu dinasoedd a ddifwynwyd, heb w^r, a heb drigiannol.

3:6 I have cut off the nations: their towers are desolate; I made their streets waste, that none passeth by: their cities are destroyed, so that there is no man, that there is none inhabitant.


3:7 Dywedais, Yn ddiau ti a’m hofni; derbynni gerydd: felly ei thrigfa ni thorrid ymaith, pa fodd bynnag yr ymwelais â hi: eto boregodasant, a llygrasant eu holl weithredoedd.

3:7 I said, Surely thou wilt fear me, thou wilt receive instruction; so their dwelling should not be cut off, howsoever I punished them: but they rose early, and corrupted all their doings.


3:8 Am hynny disgwyliwch arnaf fi, medd yr ARGLWYDD, hyd y dydd y cyfodwyf i’r ysglyfaeth: canys fy marn sydd ar gynnull y cenhedloedd, ar gasglu y teyrnasoedd, i dywallt arnynt fy llid, holl angerdd fy nigofaint: canys â thân fy eiddigedd yr ysir yr holl ddaear.

3:8 Therefore wait ye upon me, saith the LORD, until the day that I rise up to the prey: for my determination is to gather the nations, that I may assemble the kingdoms, to pour upon them mine indignation, even all my fierce anger: for all the earth shall be devoured with the fire of my jealousy.


3:9 Oherwydd yna yr adferaf i’r bobl wefus bur, fel y galwo pob un ohonynt ar enw yr ARGLWYDD, i’w wasanaethu ef ag un ysgwydd.

3:9 For then will I turn to the people a pure language, that they may all call upon the name of the LORD, to serve him with one consent.


3:10 O’r tu hwnt i afonydd Ethiopia y dwg fy ngweddïwyr, sef merch fy ngwasgaredig, fy offrwrn.

3:10 From beyond the rivers of Ethiopia my suppliants, even the daughter of my dispersed, shall bring mine offering.


3:11 Y dydd hwnnw ni’th waradwyddir am dy holl weithredoedd, yn y rhai y pechaist i’m herbyn: canys yna y symudaf o’th blith y neb sydd yn hyfryd ganddynt dy falchder, fel nad ymddyrchafech mwyach yn fy mynydd sanctaidd.

3:11 In that day shalt thou not be ashamed for all thy doings, wherein thou hast transgressed against me: for then I will take away out of the midst of thee them that rejoice in thy pride, and thou shalt no more be haughty because of my holy mountain.


3:12 Gadawaf ynot hefyd bobl druain dlodion, ac yn enw yr ARGLWYDD y gobeithiant hwy.

3:12 I will also leave in the midst of thee an afflicted and poor people, and they shall trust in the name of the LORD.


3:13 Gweddill Israel ni wna anwiredd, ac ni ddywedant gelwydd; ac ni cheir yn eu geneuau dafod twyllodrus: canys hwy a borant ac a orweddant, ac ni bydd a’u tarfo.

3:13 The remnant of Israel shall not do iniquity, nor speak lies; neither shall a deceitful tongue be found in their mouth: for they shall feed and lie down, and none shall make them afraid.


3:14 Merch Seion, cân; Israel, crechwena; merch Jerwsalem, ymlawenycha a gorfoledda â’th holl galon.

3:14 Sing, O daughter of Zion; shout, O Israel; be glad and rejoice with all the heart, O daughter of Jerusalem.


3:15 Tynnodd yr ARGLWYDD ymaith dy farnau, bwriodd allan dy elynion: yr ARGLWYDD brenin Israel sydd yn dy ganol, nid ofni ddrwg mwyach.

3:15 The LORD hath taken away thy judgments, he hath cast out thine enemy: the king of Israel, even the LORD, is in the midst of thee: thou shalt not see evil any more.


3:16 Y dydd hwnnw y dywedir wrth Jerwsalem, Nac ofna; wrth Seion, Na laesed dy ddwylo.

3:16 In that day it shall be said to Jerusalem, Fear thou not: and to Zion, Let not thine hands be slack.


3:17 Yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy ganol di sydd gadarn: efe a achub, efe a lawenycha o’th blegid gan lawenydd; efe a lonydda yn ei gariad, efe a ymddigrifa ynot dan ganu.

3:17 The LORD thy God in the midst of thee is mighty; he will save, he will rejoice over thee with joy; he will rest in his love, he will joy over thee with singing.


3:18 Casglaf y rhai sydd brudd am y gymanfa, y rhai sydd ohonot, i’r rhai yr oedd ei gwaradwydd yn faich.

3:18 I will gather them that are sorrowful for the solemn assembly, who are of thee, to whom the reproach of it was a burden.


3:19 Wele, mi a ddifethaf yr amser hwnnw bawb a’th flinant: ac a achubaf y gloff, a chasglaf y wasgaredig; ac a’u gosodaf yn glodfawr ac yn enwog yn holl dir eu gwarth.

3:19 Behold, at that time I will undo all that afflict thee: and I will save her that halteth, and gather her that was driven out; and I will get them praise and fame in every land where they have been put to shame.


3:20 Yr amser hwnnw y dygaf chwi drachefn, yr amser y’ch casglaf: canys gwnaf chwi yn enwog ac yn glodfawr ymysg holl bobl y ddaear, pan ddychwelwyf eich caethiwed o flaen eich llygaid, medd yr ARGLWYDD.

3:20 At that time will I bring you again, even in the time that I gather you: for I will make you a name and a praise among all people of the earth, when I turn back your captivity before your eyes, saith the LORD.
 
DIWEDD – END

_______________________________________________________________

Adolygiadau diweddaraf - latest updates - 08 02 2003

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

 

 

hits counter o ymwelwyr i’r Adran hon (Y Beibl Cymraeg) oddi ar 1 Medi 2005

Cipolwg ar Ystadegau Adran y Beibl Cymraeg / View the Stats for the Welsh Bible Section