1568k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i
Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân
(1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620.
Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh.
Online Edition.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_thesaloniaid1_52_1568k.htm
0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001
..........2657k Y Fynedfa yn Gymraeg
neu trwy Google: #kimkat2657k
....................0009k Y Gwegynllun
neu trwy Google: #kimkat0009k
..............................0960k Cywaith Siôn
Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
neu trwy Google: #kimkat0960k
........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl
Wiliam Morgan 1620
neu trwy Google:
#kimkat1281k
.............................................................y tudalen hwn
|
Gwefan Cymru-Catalonia Cywaith Siôn Prys |
(delw 6676)
|
1569ke This page with an English
translation - The First Epistle of Paul
the Apostle to the Thessalonians (1620 Welsh Bible / 1611 English Authorized Version)
·····
PENNOD I
1:1 Paul, a Silfanus, a Thimotheus, at eglwys y Thesaloniaid, yn
Nuw Dad, a'r Arglwydd Iesu Grist: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw
ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist.
1:2 Yr ydym yn diolch i Dduw yn wastadol drosoch chwi oll, gan
wneuthur coffa amdanoch yn ein gweddïau,
1:3 Gan gofio yn ddi-baid waith eich ffydd chwi, a llafur eich
cariad, ac ymaros eich gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist, gerbron Duw a'n
Tad;
1:4 Gan wybod, frodyr annwyl, eich etholedigaeth chwi gan Dduw.
1:5 Oblegid ni bu ein hefengyl ni tuag atoch mewn gair yn unig,
eithr hefyd mewn nerth, ac yn yr Ysbryd Glân, ac mewn sicrwydd mawr; megis y
gwyddoch chwi pa fath rai a fuom ni yn eich plith, er eich mwyn chwi.
1:6 A chwi a aethoch yn ddilynwyr i ni, ac i'r Arglwydd, wedi
derbyn y gair mewn gorthrymder mawr, gyda llawenydd yr Ysbryd Glân:
1:7 Hyd onid aethoch yn siamplau i'r rhai oll sydd yn credu ym
Macedonia ac yn Achaia.
1:8 Canys oddi wrthych chwi y seiniodd gair yr Arglwydd, nid yn
unig ym Macedonia, ac yn Achaia, ond ym mhob man hefyd eich ffydd chwi ar Dduw
a aeth ar led; fel nad rhaid i ni ddywedyd dim.
1:9 Canys y maent hwy yn mynegi amdanom ni, pa ryw ddyfodiad i
mewn a gawsom ni atoch chwi, a pha fodd y troesoch at Dduw oddi wrth eilunod, i
wasanaethu'r bywiol a'r gwir Dduw;
1:10 Ac i ddisgwyl am ei Fab ef o'r nefoedd, yr hwn a gyfododd
efe o feirw, sef Iesu, yr hwn a'n gwaredodd ni oddi wrth y digofaint sydd ar
ddyfod.
PENNOD 2
2:1 Canys chwi eich hunain a wyddoch, frodyr, ein dyfodiad ni i
niewn atoch, nad ofer fu:
2:2 Eithr wedi i ni ddioddef o'r blaen, a chael amarch, fel y
gwyddoch chwi, yn Philipi, ni a fuom hy yn ein Duw i lefaru wrthych chwi
efengyl Duw trwy fawr ymdrech.
2:3 Canys ein cyngor ni nid oedd o hudoliaeth nac o aflendid, nac
mewn twyll:
2:4 Eithr megis y'n cyfrifwyd ni gan Dduw yn addas i ymddiried i
ni am yr efengyl, felly yr ydym yn llefaru; nid megis yn rhyngu bodd i ddynion,
ond i Dduw, yr hwn sydd yn profi ein calonnau ni.
2:5 Oblegid ni fuom ni un amser mewn ymadrodd gwenieithus, fel y
gwyddoch chwi, nac mewn rhith cybydd-dod; Duw yn dyst:
2:6 Nac yn ceisio moliant gan ddynion, na chennych chwi, na chan
eraill; lle y gallasem bwyso arnoch, fel apostolion Crist.
2:7 Eithr ni a fuom addfwyn yn eich mysg chwi, megis mamaeth yn
maethu ei phlant.
2:8 Felly, gan eich hoffi chwi, ni a welsom yn dda gyfrannu â
chwi, nid yn unig efengyl Duw, ond ein heneidiau ein hunain hefyd, am eich bod
yn annwyl gennym.
2:9 Canys cof yw gennych, frodyr, ein llafur a'n lludded ni:
canys gan weithio nos a dydd, fel na phwysem ar neb ohonoch, ni a bregethasom i
chwi efengyl Duw.
2:10 Tystion ydych chwi, a Duw hefyd, mor sanctaidd, ac mor
gyfiawn, a diargyhoedd, yr ymddygasom yn eich mysg chwi y rhai ydych yn credu:
2:11 Megis y gwyddoch y modd y buom yn eich cynghori, ac yn eich
cysuro, bob un ohonoch, fel tad ei blant ei hun,
2:12 Ac yn ymbil, ar rodio ohonoch yn deilwng i Dduw, yr hwn a'ch
galwodd chwi i'w deyrnas a'i ogoniant.
2:13 Oblegid hyn yr ydym ninnau hefyd yn diolch i Dduw yn
ddi-baid, oherwydd i chwi, pan dderbyniasoch air Duw, yr hwn a glywsoch gennym
ni, ei dderbyn ef nid fel gair dyn, eithr fel y mae yn wir, yn air Duw, yr hwn hefyd
sydd yn nerthol weithio ynoch chwi y rhai sydd yn credu.
2:14 Canys chwychwi, frodyr, a wnaethpwyd yn ddilynwyr i eglwysi
Duw, y rhai yn Jwdea sydd yng Nghrist Iesu; oblegid chwithau a ddioddefasoch y
pethau hyn gan eich cyd-genedl, megis hwythau gan yr Iddewon:
2:15 Y rhai a laddasant yr Arglwydd Iesu, a'u proffwydi eu
hunain, ac a'n herlidiasant ninnau ymaith, ac ydynt heb ryngu bodd Duw, ac yn
erbyn pob dyn;
2:16 Gan warafun i ni lefaru wrth y Cenhedloedd, fel yr iacheid
hwy, i gyflawni eu pechodau hwynt yn wastadol: canys digofaint Duw a ddaeth
arnynt hyd yr eithaf.
2:17 A ninnau, frodyr, wedi ein gwneuthur yn amddifaid amdanoch
dros ennyd awr, yng ngolwg, nid yng nghalon, a fuom fwy astud i weled eich
wyneb chwi mewn awydd mawr.
2:18 Am hynny yr ewyllysiasom ddyfod atoch (myfi Paul, yn ddiau,)
unwaith a dwywaith hefyd, eithr Satan a'n lluddiodd ni.
2:19 Canys beth yw ein gobaith ni, neu ein llawenydd, neu goron
ein gorfoledd? onid chwychwi, gerbron ein Harglwydd Iesu Grist yn ei ddyfodiad
ef?
2:20 Canys chwychwi yw ein gogoniant, a'n llawenydd ni.
PENNOD 3
3:1 Am hynny, gan na allem ymatal yn hwy, ni a welsom yn dda ein
gadael ni ein hunain yn Athen;
3:2 Ac a ddanfonasom Timotheus, ein brawd, a gweinidog Duw, a'n
cyd-weithiwr yn efengyl Crist, i'ch cadarnhau chwi, ac i'ch diddanu ynghylch
eich ffydd;
3:3 Fel na chynhyrfid neb yn y gorthrymderau hyn: canys chwychwi
eich hunain a wyddoch mai i hyn y'n gosodwyd ni.
3:4 Canys yn wir pan oeddem gyda chwi, ni a ragddywedasom i chwi
y gorthrymid ni, megis y bu, ac y gwyddoch chwi.
3:5 Oherwydd hyn, minnau, heb allu ymatal yn hwy, a ddanfonais i
gael gwybod eich ffydd chwi, rhag darfod i'r temtiwr eich temtio chwi, a myned
ein llafur ni yn ofer.
3:6 Eithr yr awron, wedi dyfod Timotheus atom oddi wrthych, a
dywedyd i ni newyddion da am eich ffydd chwi a’ch cariad, a bod gennych goffa
da amdanom ni yn wastadol, gan hiraethu am ein gweled ni, megis yr ydym ninnau
am eich gweled chwithau;
3:7 Am hynny y cawsom gysur, frodyr, amdanoch chwi, yn ein holl
orthrymder a'n hangenoctid, trwy eich ffydd chwi.
3:8 Oblegid yr awron byw ydym ni, os ydych chwi yn sefyll yn yr
Arglwydd.
3:9 Canys pa ddiolch a allwn ni ei ad-dalu i Dduw amdanoch chwi,
am yr holl lawenydd â'r hwn yr ydym ni yn llawen o'ch achos chwi gerbron ein
Duw ni,
3:10 Gan weddïo mwy na mwy, nos a dydd, ar gael gweled eich wyneb
chwi, a chyflawni diffygion eich ffydd chwi?
3:11 A Duw ei hun a'n Tad ni, a'n Harglwydd Iesu Grist, a
gyfarwyddo ein ffordd ni atoch chwi.
3:12 A'r Arglwydd a'ch lluosogo, ac a'ch chwanego ym mhob cariad
i'ch gilydd, ac i bawb, megis ag yr ydym ninnau i chwi:
3:13 I gadarnhau eich calonnau chwi yn ddiargyhoedd mewn
sancteiddrwydd gerbron Duw a'n Tad, yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist gyda'i
holl saint.
PENNOD 4
4:1 Ymhellach gan hynny, frodyr, yr ydym yn atolwg i chwi, ac yn
deisyf yn yr Arglwydd Iesu, megis y derbyniasoch gennym pa fodd y dylech rodio
a bodloni Duw, ar i chwi gynyddu fwyfwy.
4:2 Canys chwi a wyddoch pa orchmynion a roddasom i chwi trwy'r
Arglwydd Iesu.
4:3 Canys hyn yw ewyllys Duw, sef eich sancteiddiad chwi, ar
ymgadw ohonoch rhag godineb:
4:4 Ar fedru o bob un ohonoch feddiannu ei lestr ei hun mewn
sancteiddrwydd a pharch;
4:5 Nid mewn gwy^n trachwant, megis y Cenhedloedd y rhai nid
adwaenant Dduw:
4:6 Na byddo i neb orthrymu na thwyllo ei frawd mewn dim: canys
dialydd yw'r Arglwydd ar y rhai hyn oll, megis y dywedasom i chwi o'r blaen, ac
y tystiasom.
4:7 Canys ni alwodd Duw nyni i aflendid, ond i sancteiddrwydd.
4:8 Am hynny y neb sydd yn dirmygu, nid dyn y mae yn ei ddirmygu,
ond Duw, yr hwn hefyd a roddes ei Ysbryd Glân ynom ni.
4:9 Ond am frawdgarwch, nid rhaid, i chwi ysgrifennu ohonof
atoch: canys yr ydych chwi eich hunain wedi eich dysgu gan Dduw i garu eich
gilydd.
4:10 Oblegid yr ydych yn gwneuthur hyn i bawb o'r brodyr y rhai
sydd trwy holl Facedonia: ond yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, gynyddu ohonoch
fwyfwy,
4:11 A rhoddi ohonoch eich bryd ar fod yn llonydd, a gwneuthur
eich gorchwylion eich hunain, a gweithio a'ch dwylo eich hunain, (megis y
gorchmynasom i chwi,)
4:12 Fel y rhodioch yn weddaidd tuag at y rhai sydd oddi allan,
ac na byddo arnoch eisiau dim.
4:13 Ond ni ewyllysiwn, frodyr, i chwi fod heb wybod am y rhai a
hunasant, na thristaoch, megis eraill y rhai nid oes ganddynt obaith.
4:14 Canys os ydym yn credu farw Iesu, a'i atgyfodi; felly y rhai
a hunasant yn yr Iesu, a ddwg Duw hefyd gydag ef.
4:15 Canys hyn yr ydym yn ei ddywedyd wrthych yng ngair yr
Arglwydd, na bydd i ni'r rhai byw, y rhai a adewir hyd ddyfodiad yr Arglwydd,
ragflaenu'r rhai a hunasant.
4:16 Oblegid yr Arglwydd ei hun a ddisgyn o'r nef gyda bloedd, â
llef yr archangel, ac ag utgorn Duw: a'r meirw yng Nghrist a gyfodant yn
gyntaf:
4:17 Yna ninnau'r rhai byw, y rhai a adawyd, a gipir i fyny gyda
hwynt yn y cymylau, i gyfarfod â'r Arglwydd yn yr awyr: ac felly y byddwn yn
wastadol gyda'r Arglwydd.
4:18 Am hynny diddenwch eich gilydd a'r ymadroddion hyn.
PENNOD 5
5:1 Eithr am yr amserau a'r prydiau, frodyr, nid rhaid i chwi
ysgrifennu ohonof atoch.
5:2 Oblegid chwi a wyddoch eich hunain yn hysbys, mai felly y daw
dydd yr Arglwydd fel lleidr yn y nos.
5:3 Canys pan ddywedant, Tangnefedd a diogelwch; yna y mae dinistr
disymwth yn dyfod ar eu gwarthaf, megis gwewyr esgor ar un a fo beichiog; ac ni
ddihangant hwy ddim.
5:4 Ond chwychwi, frodyr, nid ydych mewn tywyllwch, fel y
goddiweddo'r dydd hwnnw chwi megis lleidr.
5:5 Chwychwi oll, plant y goleuni ydych, a phlant y dydd: nid
ydym ni o'r nos, nac o'r tywyllwch.
5:6 Am hynny na chysgwn, fel rhai eraill; eithr gwyliwn, a byddwn
sobr.
5:7 Canys y rhai a gysgant, y nos y cysgant, a'r
rhai a feddwant, y nos y meddwant.
5:8 Eithr nyni, gan ein bod o'r dydd, byddwn sobr, wedi ymwisgo a
dwyfronneg ffydd a chariad, ac â gobaith iachawdwriaeth yn lle helm.
5:9 Canys nid apwyntiodd Duw nyni i ddigofaint, ond i gaffael
iachawdwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist,
5:11 Yr hwn a fu farw drosom, fel pa un bynnag a wnelom ai
gwylied ai cysgu, y byddom fyw gydag ef.
5:11 Oherwydd paham cynghorwch eich gilydd, ac adeiledwch bob un
eich gilydd, megis ag yr ydych yn gwneuthur.
5:12 Ac yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, adnabod y rhai sydd yn
llafurio yn eich mysg, ac yn eich llywodraethu chwi yn yr Arglwydd, ac yn eich
rhybuddio,
5:13 A gwneuthur cyfrif mawr ohonynt mewn cariad, er mwyn eu
gwaith. Byddwch
dangnefeddus yn eich plith eich hunain.
5:14 Ond yr ydym yn deisyf arnoch, frodyr, rhybuddiwch y rhai
afreolus, diddenwch y gwan eu meddwl, cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous
wrth bawb.
5:15 Gwelwch na thalo neb ddrwg dros ddrwg i neb: eithr yn
wastadol dilynwch yr hyn sydd dda, tuag at eich gilydd, a thuag at bawb.
5:16 Byddwch lawen yn wastadol.
5:17 Gweddiwch yn ddi-baid.
5:18 Ym mhob dim diolchwch: canys hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist
Iesu tuag atoch chwi.
5:19 Na ddiffoddwch yr Ysbryd.
5:20 Na ddirmygwch broffwydoliaethau.
5:21 Profwch bob peth: deliwch yr hyn sydd dda.
5:22 Ymgedwch rhag pob rhith drygioni.
5:23 A gwir Dduw'r tangnefedd a'ch sancteiddio yn gwbl oll: a
chadwer eich ysbryd oll, a'ch enaid, a'ch corff, yn ddiargyhoedd yn nyfodiad
ein Harglwydd Iesu Grist.
5:24 Ffyddlon yw'r hwn a'ch galwodd, yr hwn hefyd a'i gwna.
5:25 O frodyr, gweddiwch drosom.
5:26 Anerchwch yr holl frodyr a chusan sancteiddiol.
5:27 Yr ydwyf yn eich tynghedu yn yr Arglwydd, ar ddarllen y
llythyr hwn i'r holl frodyr sanctaidd.
5:28 Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Amen.
Y cyntaf at y Thesaloniaid a ysgrifennwyd o Athen.
DIWEDD
Sumbolau arbennig: ŷŵ
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o
dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (=
Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə
"CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a
page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website
Cipolwg ar Ystadegau Adran y Beibl Cymraeg / View the Stats for the Welsh Bible Section