0212kc Gwefan Cymru-
http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_testunau/sion_prys_016_llanwynno_01_0212kc.htm
Y Tudalen Blaen / Pàgina principal
.........1861c Y Porth Catalaneg / La porta
en català
....................0008c Y Gwegynllun
/ Mapa de la web
..............................0969c Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys / textos en gal·les ("Projecte Siôn
Prys")
..................................................y tudalen hwn / aquesta
pàgina
|
Gwefan Cymru-Catalonia |
|
1283k
Yn Gymraeg yn unig
Llanwynno [lhan-WØ-no]
Teitl / título:
Llanwynno - Yr Hen
Amser, yr Hen Bobl a'r Hen Droeon (els vells temps, i la gent i els successos d'aquella època)
Dyddiad / data:
1888
Awdur / autor:
Glanffrwd, pseudònim d'en William Thomas 1843 (Ynÿs-y-bŵl, De Cymru / Gal·les
del Sud) - 1890 (Llanelwÿ, Gogledd Cymru / Gal·les del Nord) (yn 47
oed / als 47 anys)
____________________________________________
a) el text
b) trossos del text amb traducció
catalana, i apunts
____________________________________________
ÿ es pronuncia [i] o [i:], segons la paraula. Aquest símbol no existeix a l’ortigrafia oficial - en textos per a aprenentns es posa un h invertida, però aquesta és la nostra solució per els textos electrònics
a) el text
CIPOLWG AR Y PLWYF / Vista de la parròquia
Hen blwÿf barddol ei olwg ÿw Llanwynno. Mae amrÿwiaeth ei olygféÿdd yn
fawr.Ewch ar daith o Bont-tÿ-pridd trwÿ ganol y plwÿf tuag Aber-dâr, a chewch
weled llawer ysmotÿn teg, a llawer golygfa brydferth yn galw eich sÿlw. Dyna Graig-yr-hesg yn ymÿl hen dref
Pont-tÿ-pridd. Dylai preswÿlwÿr yn falch ohoni.
Rhaid i'r haul
ddringo yr awÿr yn lled uchel cÿn y gwêl ef waelod cwm Ynÿs-y-bŵl. Y mae
brÿn Maes-y-gaer, ac islaw hwnnw, ochor Tyle'r Fedw a'r Gelli, yn cysgodi y lle
rhag gwÿnt llÿm y dwÿrain. Cyfÿd Craig Buarthycapel tua'r Gorllewin, ac yn uwch
na hynnÿ Dwÿn y Fanhalog, ac yn uwch drachefn Mynÿdd Gwyngul, a rhwng hynnÿ a'r
Gogledd cyfÿd tir y Mynachdÿ a'r Dduallt yn lled uchel, ac fellÿ yr oedd y
pentref bychan hynafol, Ynÿs-y-bŵl, yn ymnythu ar waelod cysgodol y Cwm, a
Chlydach yn llifo yn dawel dan y geulan a gysgodai0r lle; a Ffrwd hithau yn
rhuthro i lawr i'w chyfarfod, yn fwÿ gwÿllt ei thymer wedi cael ei blino gan y
felin a'r tarennÿdd a'r cwympiadau sÿdd o'i chwmpas. Ond yma yn Ynÿs-y-bŵl
yr ymbrioda Clydach â'r Ffrwd, ac yn un afon y llifant hÿd nes i Daf eu llyncu
mewn un traflwnc yn ymÿl Gilfach-goch, gyda'i bod yn dyfod megis i olwg tref
Pont-tÿ-pridd. Edrychai yr hen breswÿlwÿr ar Daf fel afon fawr a pheryglus, ac
y mae fellÿ yn fynÿch yn sydynrwÿdd codiad ei llif ar ôl glawogÿdd a tharanau
trmion y mynydd-dir. Ysgrifennodd un o hen rigymwÿr y plwÿf hanes bywÿd Taf
mewn triban, fel hÿn:-
Mae taf yn afon
nwÿdus,
Ofnadwÿ o gynhyrfus;
Mae wedi dygÿd bywÿd
cant,
mae'n cerdded pant
echrydus.
Yn awr, wedi iddi
dwÿn bywÿd Clydach, rhaid i ni ei gadael a myned yn ôl i Ynÿs-y-bŵl - fel
yr oedd gÿnt yn nyddiau ei gÿn-dangnefedd a'i dawelwch naturiol, nid fel
y mae yn awr, wedi i'r march tanllÿd ei ddeffro, a'i sarnu, a'i halogi,
a'i ysbeilio o'i ogoniant, a'i ddistrywio, a bwÿta ei farddoniaeth heb flino ei
gydwÿbod, a phlygu ei lesni teg, yr hen labwst, braidd na felltithaf ef am
ddyfod yn agos i le tawel yr adar, a'r pysgod, a'r ysgyfarnogod rhwng Clydach a
Ffrwd. Mor hawdd ÿw dinistrio peth. Rhais cael gallu dwÿfol i greu. Ni fedr neb
mwÿach osod Ynÿs-y-bŵl fel yr oedd gÿnt. O! na,-
Humpty Dumpty sat on
the wall,
Humpty Dumpty had a
great fall,
All the King's horses,
And all the King's
men,
Couldn't set Humpty
Dumpty on the wall again.
Dichon mai natur a sefyllfa ddaearyddol y lle roddodd yr enw i
Ynÿs-y-bŵl. Fodd bynnag, gellid yn naturiol ddywedÿd Ynÿs-y-pwll. Gelwir
ef yn Saesneg 'Bowling Green'. 'Wn i ddim pwÿ a Seisnigeiddiodd yr enw. Ond yn
ddiau, gwnaeth, gamsyniad. Yr oedd y lle yn Ynÿs-y-pwll cÿn ei fod yn
Bowling-green. Yr oedd y lle yn Ynÿs-y-pwll er y cread, ond yn gymharol
ddiweddar y dechreuwÿd chware Bwlbinnau ynddo. Fellÿ, nis oes gennÿf ddim diolch i dalu i neb
am roddi enw Saesneg i'r lle. Ond daeth yr enw Ynÿs-y-bŵl i gael ei
gymhwÿso at yr holl ardal - i fynÿ at Dai'r Plwÿf a lleoedd eraill ar bob llaw.
Dywedir i'r hynafiaethÿdd enwog Camden, yr hwn a elwir 'The Strabo of England', dalu ymweliad ag Ynÿs-y-bŵl pan oedd yncasglu defnyddiau at ei hanes, a elwir 'Brittania', ac iddi gysgu noson yn y lle. Diau mai yn yr hen westÿ a elwid Ynÿs-y-bŵl y cysgodd y noson honno. Yr oedd Camden yn ŵr dysgedig iawn, ac wedi dysgu Gaeleg, Cymráeg, a'r hen Saesneg i'w gymhwÿso at y gwaith oedd ganddo mewn llaw. Cyhoeddwÿd ei lÿfr cyntaf 'Brittania', yn y flwÿddÿn 1586, a'i waith arall, a elwid 'Anglica Normanica Cambrica', yn 1603. Tueddir fi i gredu mai at y gwaith olaf hwn yr oedd yn caglu defnyddiau pan ymwelodd ag Ynÿs-y-bŵl, ac mae ymweled a'r Mynachdÿ oedd y prif amcan. Yr oedd y Mynachdÿ wedi ei ddadsefydlu yn amser harri'r Wÿthfed, efallai 40 neu 50 mlynedd cÿn i Camden ymweled â'r lle. I ba le y dygwÿd y llyfrau a hanes y lle, wÿ^s? Yr oedd y Mynachdÿ yn amaethdÿ gwÿch iawn pan ymwelodd Camden ag ef; a'r mynachod, ac eraill a breswÿliai ynddo wedi eu troi allan - rhai at wahanol alwedigaethau, a rhai i huno yr 'hunell ber'yn ymÿl Eglwÿs Gwynno Sant. Bÿdd gennÿf ychwaneg rÿw dro eto yng ngghÿlch y Mynachdÿ. Rhaid i mi ei adael yn awr gydag un nodiad dipÿn yn bersonol. Pan ddifuddiwÿd y Mynachdÿ, yr oedd dau frawd yn fynachod ynddo, a elwid Hywel ap Hywel, a Llywelÿn ap Hywel. Y mae fy nheulu i - Howeliaid Cwmcynon, a theulu Llewelÿn y Fforest, etc, yn deillio o'r ddau frawd hÿn. Wedi iddÿnt droi allan o'r Mynachdÿ, pridasant dwÿ chwaer, ac yr wÿf yn meddwl i Hywel, yr wÿf yn ddisgynnÿdd ohono, dreulio ei ddyddiau yng Nghwmcynon, a'r brawd arall, y galwÿd ei disgynyddion ar ôl ei enw cyntaf, sef Llywelÿn, wedi trigfannu yn ochr y Fforest a rhÿwle arall yn Sir Frycheiniog. Fodd bynnag, bu yr Howeliaid yn bÿw yn hir, ac yn meddiannu hefÿd bob darn o Gwmcynon, o Abercynon hÿd Gwmcynon Uchaf, ger Mountain Ash. Dyna wibdaith oddi wrth Ynÿs-y-bŵl eto. Yn ôl â ni.
Sefydlwÿd ffair flynyddol yn Ynÿs-y-bŵl; pa mor fore nid wÿf wedi cael allan eto. Ond yr oedd yn enwog iawn; cyrchid iddi o grÿn bellter, ac iddi y dygid anifeiliaid yyr amgulchoedd i'w prynu a'u gwerthu. Yn wir, mewn un Almanac lled hen gelwid hi 'Ffair prynu a gwerthu yr Ynÿspool', i'w gwahaniaethu oddi wrth ffair gwagedd a phleserau.
__________________________________________________________________________
b) Trossos del text, amb traducció
catalana, i apunts
CIPOLWG AR Y PLWYF / Vista de la
parròquia
Hen blwÿf barddol ei olwg ÿw Llanwynno. Mae
amrÿwiaeth ei olygféÿdd yn fawr. Ewch ar daith o Bont-tÿ-pridd trwÿ ganol y
plwÿf tuag Aber-dâr, a chewch weled llawer ysmotÿn teg, a llawer golygfa
brydferth yn galw eich sÿlw. Dyna Graig-yr-hesg yn ymÿl hen dref Pont-tÿ-pridd. Dylai preswÿlwÿr yn falch ohoni.
Llanwynno és una parròquia antiga amb
aparença poètica. Hi ha una gran varietat de vistes. Aneu de viatge o
Pont-tÿ-pridd pel centre de la parròquia en direcció a Aber-dâr, i veureu molts
llocs bonics, i molts paistages formosos us cridaran l'atenció. A manera
d'exemple (la zona de la masia de) Graig-yr-hesg aprop de la ciutat
antiga de Pont-tÿ-pridd. Els habitants
en deuen ser molt orgullosos.
(1) plwÿf [PLUIV] (m) = parròquia. Forma
literària, i forma sudenca. La forma col·loquial nordenca és plwÿ' [PLUI], amb
pèrdua de la 'f' final. Al nord és normal la pèrdua en monosíl·Labes. De llatí
PLÊB- (PLÊBS) = classe baixa del poble de l'antiga Roma. La [b] 'b' llatina
> britànic > gal·lès [v] 'f', i la vocal llarga [ee] llatina >
britànic > gal·lès [ui] 'wÿ'.
Altres exemples de la pèrdua de la [v]
final de monosíl·labes - estàndard i meridional / septentrional cof [KOOV], co'
[KOO] = memòria; gof [GOOV], go' [GOO] = ferrer; haf [HAAV], ha' [HAA] =
estiu; llif [LHIIV], lli' [LHI] = serra; prÿf [PRIIV], prÿ' [PRII] =
insecte;
Altres exemples de la ê llatina > [ui]
en gal·lès: pês- > pwÿs [PUIS] = pes; bêst- > bwÿst [BUIST], a la forma
composta bwÿstfil = bèstia (bwÿst + mutació suau + mil [MIIL] = animal)
(2) hen [HEEN] = antic, vell. Es posa
normalment davant del substantiu, i causa la mutació suau. En paraules
compostes és [HEN] - eg Hendre' [HENDRE] = masia, casa de la terra baixa, lloc
hivernal del bestiar i els agricultors. També té un ús despectiu, i és més
aviat [HEN] amb vocal curta. "Yr hen dwpsÿn / Yr 'en dwpsÿn" [ør en
DUP sin] = l'idiota.
(3)
bardd [BARDH] (m) = poeta, [BAR dhol] = poètic. El
súfix -ol fa adjectius de substantius. Nerth [NERTH] (m) = força,
nerthol [NER thol] (adj) = fort
(4)
golwg [GO lug] (f) = aparença. Yr olwg
[ør O lug] = l'aparença. La construcció 'ADJECTIU + yr olwg' és molt general, i
equival al català d'aspecte + ADJECTIU.
hardd yr
olwg [HARDH ør O lig] = d'aspecte bonic
rhyfedd
yr olwg [HRØ vedh ør O lug] = d'aspecte estrany
(5) En gal·lès, la distinció entre una
'frase de verb en primer lloc' i 'frase de verb en segon lloc' és molt
important. El primer tipus és de frases sense cap èmfasi; al segon, la part de
la frase que es vol emfatitzar és posa al començament, davant el verb. La
cópula 'és' és normalment 'mae' [MAI].
Mae Llanwynno yn y De - Llanwynno és al
Sud
Si l'element davant el verb és un adverbi,
'mae' també s'utilitza
Yn y De mae Llanwynno -
Llanwynno és al SUD (i no al NORD com dius tu)
Si es tracta d'un adjectiu o un substantiu,
que sempre necessiten una partúcula 'yn' + mutació suau després de la cópula,
s'utilitza ÿw [IU] en comptes de 'mae'.
Mae Llanwynno yn bentre' = Llanwynno és un
poble
Pentre' ÿw Llanwynno = Llanwynno és un POBLE
(i no una ciutat)
Mae Llanwynno yn fach = Llanwynno és petit
Bach ÿw Llanwynno = Llanwynno és PETIT
De fet, les frases amb un adjectiu al cap
no són tan generals, i normalment es refa introduint un substantiu
Lle bach ÿw Llanwynno = Llanwynno és un LLOC
PETIT
A la llengua litèraria, ÿw i ydÿw [IU / ød
IU] són sinònims. També s'utilitza ydÿ [ø DI], una forma reduïda de ydÿw.
Colloquialment, al Sud, es diu ÿw, i al Nord una forma de ydÿ : ydi [ø DI] o,
amb pèrdua de la primera síl·laba, 'di [DI]
(6) amrÿw
[AM riu] = varis, varies; amrÿwiaeth [am RIU yeth] = varietat (-iaieth = sufix
per fer substantius abstractes)
(7) golwg [GO lug] = vista (tot allò que
s'hi veu), golygfa [go LØG va] = vista (paisatge)
(8) '(Ella) és gran' : mae hi yn fawr
("és + ella + en + gran"). Com hem vist, per lligar el complement
(quan sigui adjecti o substantiu) al cópula 'mae' cal interposar la partícula
'yn', d'origen la preposició 'en, dins'. A la preposició li segueix la
mutació aspirant; a la 'yn' partícula, en canvi, li segueix la mutació suau.
(9) mÿnd
ar daith [mind ar DAITH] = anar de viatge, fer una volta. L'expressió gal·lesa
és calcada sobre l'expressió anglès /gou on ø jøørni/ go on a journey. Taith
[TAITH] = viatge
(10)
Pont-tÿ-pridd [pon-tii-PRIID]. La forma original és Pont-y-tÿ-pridd
[pon-tø-tii-PRIID]. El article 'y' s'elideix
sovint en topònims (o si es tracta de la forma 'yr', amb la 'r' històrica, que
es troba davant una consonant, la vocal 'y' també s'elideix, però es queda la
consonant).
Exemples: Pen-dre (= Pen-y-dre) (cap de
vila); Glanrafon (= Glanyrafon) (marge de riu).
La forma actual (i també la forma al text original d'aquesta obra) és Pont-y-pridd [pon-tø-PRIID]. Però es poc probable que s'hagués perdut l'element 'tÿ', sobretot quan el sentit queda evident (el pont (aprop de) la casa d'adob). La pèrdua de l'article no afecte gens el sentit. La forma actual distorciona el sentit - 'la casa de l'adob'. (Vaig fer una investigació sobre aquest nom fa uns anys, i si puc trobar els apunts, els ajuntarem a l'apartat de la toponomia gal·lesa). Entre els gal·lesoparlants tradicionals de la zona, la forma curta del poble és Y Bont (el pont), cosa que és general arreu del país amb noms que comencen amb 'Pont'. Hi ha una certa tendència ara entre els gal·lesoparlants de dir-li 'Ponti', l'abreviatura que li donen els anglesparlants ('Ponty' en ortografia anglesa). Probablament és Pont + el sufix diminutiu anglès 'i' (que s'escriu -ie, -y, -ey - Johnnie, Dolly, Mickey). Però queda la possiblitat que és un rastre del nom gal·lès Pont-tÿ-pridd.
·····
DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y WEFAN HON ..... |
2184c
tudalen mynegeiol y Wenhwÿseg
índex de pàgines sobre el 'Gwenhwÿseg', el dialecte
del sud-est de Gal_les
·····
Sumbolau arbennig: ŷ ŵ
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o
dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the
“CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
llanwynn.doc
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu
les estadístiques / View My Stats