1283k Gwefan Cymru-Catalonia. Llanwynno - Yr Hen Amser, yr Hen Bobl a’r Hen Droeon. Dyddiad: 1888. Awdur: Glanffrwd (William Thomas; ganwyd 1843, Ynys-y-bŵl, De Cymru; bu farw 1890 yn Llanelwy, Gogledd Cymru) (yn 47 oed). “Hen blwyf barddol ei olwg yw Llanwynno. Mae amrywiaeth ei olygféydd yn fawr.Ewch ar daith o Bont-ty-pridd trwy ganol y plwyf tuag Aber-dâr, a chewch weled llawer ysmotyn teg, a llawer golygfa brydferth yn galw eich sylw. Dyna Graig-yr-hesg yn ymyl hen dref Pont-ty-pridd. Dylai preswylwyr yn falch ohoni.”

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_016_llanwynno_01_1283k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
Dyma ran o Adran 11 yn y wefan hon, sef

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

LLANWYNNO (1888)
Glanffrwd (William Thomas 1843-1890).

 


Adolygiadau diweddaraf:
26 03 2002, 09 09 2003

 

 

 

Mae’r sylwadau wedi eu hychwanegu gennym mewn llythrennau oren.

 0212kc Llanwynno - traducció catalana del llibre sobre aquesta parròquia del sud-est

·····

 

AR Y GWEILL GENNYM

 

 Sganiad amrwd yw’r rhan fwyaf o’r tudalennau yn y fan hyn. Mewn print coch y mae’r tudalennau sydd wedi’u cywiro gennym hyd yma:

 

*0009 *0010 *0011 *0012 *0013 *0014 *0015 *0016 *0017 *0018 *0019 *0020 *0021 *0022 *0023 *0024 *0025 *0026 *0027 *0028 *0029 *0030 *0031 *0032 *0033 *0034 *0035 *0036 *0037 *0038 *0039 *0040 *0041 *0042 *0043 *0044 *0045 *0046 *0047 *0048 *0049 *0050 *0051 *0052 *0053 *0054 *0055 *0056 *0057 *0058 *0059 *0060 *0061 *0062 *0063 *0064 *0065 *0066 *0067 *0068 *0069 *0070 *0071 *0072 *0073 *0074 *0075 *0076 *0077 *0078 *0079 *0080 *0081 *0082 *0083 *0084 *0085 *0086 *0087 *0088 *0089 *0090 *0091 *0092 *0093 *0094 *0095 *0096 *0097 *0098 *0099 *0100 *0101 *0102 *0103 *0104 *0105 *0106 *0107 *0108 *0109 *0110 *0111 *0112 *0113 *0114 *0115 *0116 *0117 *0118 *0119 *0120 *0121 *0122 *0123 *0124 *0125 *0126 *0127 *0128 *0129 *0130 *0131 *0132 *0133 *0134 *0135 *0136 *0137 *0138 *0139 *0140 *0141 *0142 *0143 *0144 *0145 *0146 *0147 *0148 *0149 *0150 *0151 *0152 *0153 *0154 *0155 *0156 *0157 *0158 *0159 *0160 *0161 *0162 *0163 *0164 *0165 *0166 *0167 *0168 *0169 *0170 *0171 *0172 *0173 *0174 *0175 *0176 *0177 *0178 *0179 *0180 *0181 *0182 *0183 *0184 *0185 *0186 *0187 *0188 *0189 *0190 *0191 *0192 *0193 *0194 *0195 *0196 *0197 *0198 *0199 *0201 *0202 *0203 *0204 *0205 *0206 *0207 *0208 *0209 *0210 *0211 *0212 *0213 *0214 *0215 *0216 *0217 *0218 *0219 *0220 *0221 *0222 *0223 *0224 *0225 *0226 *0227 *0228 *0229 *0230 *0231 *0232 *0233 *0234 *0235 *0236 *0237 *0238 *0239 *0240 *0241 *0242 *0243 *0244 *0245 *0246 *0247 *0248 *0249 *0250 *0251 *0252 *0253 *0254 *0255

CYNNWYS:
 
Y CYFLWYNIAD (x9)
(1) LLANWYNNO A’R AMGYLCHOEDD
(x11)
(2) CIPOLWG AR Y PLWYF (x16)
(3) YNYS-Y-BWL, RHYS DAFYDD AC ALS (x22)
(4) TRIBANNAU
(x31)
(5) Y CYRCHFAOEDD-GLO A CHALCH (x35)
(6) Y GYMORTH (x42)
(7) FFRWD A CHLYDACH
(8) HELA
(9) FFAIR YNYS-Y-BŴL
(10) GELLI-LWCH
(11) BEN Y GRAIG-WEN
(12) AR BENRHIW-CEIBR
(13) TROEDRHIW-TRWYN
(14) PONT-Y-PRIDD
(15) CWMCLYDACH
(16) YSBRYDION
(17) YSBRYDION ETO
(18) YSBRYDION ERAILL
(19) Y TAI ADFEILIEDIG
(20) HEN DDYWEDIADAU
(21) HEN GYMERIADAU
(22) Y TRIBANWYR
(23) CYMERIADAU PONT-Y-PRIDD
(24) PWLLHYWEL A MORMONIAETH
(25) TWMI BEN-WAL
(26) HELWYR Y GLOG
(27) EGLWYS WYNNO
(28) FFWRNEISIAU A GLOFEYDD
(29) FFYNHONNAU
(30) FFYNHONNAU ETO
(31) Y CAPEL

 

(x9)

Y CYFLWYNIAD

 

FY ANNWYL RIENI,

Yr wyf yn dymuno cyflwyno y llyfr hwn i chwi, fel arwydd o'm diolchgarwch, ac o'r ddyled fawr sydd arnaf i chwi am y gofal, y tynerwch a'r cariad anghymharol a ddangosasoch imi, o ddydd fy ngenedigaeth hyd yr awr hon, ynghyda'r esiampl dda, mewn buchedd rinweddol a chrefyddol a osodasoch o'm blaen bob amser. Nid wyf wedi gallu ad-dalu i chwi, ac nis gallaf fyth, canys y mae serch a thynerwch rhieni fel chwychwi uwchlaw un pris a ellid ei roddi, na’i gyfrif mewn aur ac arian, a chyfoeth y byd hwn. Nid pethau daearol ydynt, ac nid peth daearol a ddylid ei osod yn gydwerth a hwynt, - ysbrydol a thragwyddol ydynt, a pharhant pan fyddoch chwi wedi gadael y byd sydd yn peri fod eisiau cyfoeth daearol arnom.

 

Ysgrifennais y llythyrau sydd yn gynnwys y llyfr hwn, ynghanol llawer o waith arall; yr oedd troi i gyfnodi digwyddiadau plwyf fy ngenedigaeth, ac i aros tipyn yng nghwmni yr hen drigolion, yn adnewyddiad i'm hysbryd, a oedd yn flinedig yn fynych, gan brysurdeb a gofal, a goruchwylion sydd â thuedd i gystuddio ysbryd dyn. Bwriedais gyhoeddi rhai pethau eraill yn y llyfr, ond gwelais y buasai hynny yn ei chwyddo i ormod o faint am ddeunaw ceiniog o bris. Dichon os gwerthir hwn, y cyhoeddaf y gweddill eto. Yr wyf yn dymuno arnoch chwi a'r cyhoedd beidio â  chraffu ar y gwallau a'r gwendidau sydd ynddo. Ni chefais hamdden i aildrefnu y llythyrau, nac i gyweirio gwallau y gwaith. Teg ydyw coffa fod y llythyrau cymeradwyol i'r gwaith a gefais o bryd i bryd, a'r derbyniad brwd a gafodd ar adeg ei ymddangosiad yn y Darian, wedi bod yn gymorth ac yn llonder (x10) nid bychan imi. Yr wyf yn awr yn ei anfon allan i chwi ac i'r cyhoedd, gyda dymuniad ar iddo fod o ddiddordeb a lles, bron amryw bethau a ddigwyddasai yn un o’r plwyfydd hynotaf  ym Morgannwg.

 

I chwi, fy annwyl Dad a Mam, dymunaf brynhawn teg, a machludiad haul digwmwl, pan ddelo awr yr ymddatodiad.

 

Yr eiddoch, yn llawn serch,

GLANFFRWD.

Mawrth 17eg, 1888.

 

(x11)

PENNOD  I

LLANWYNNO A'R AMGYLCHOEDD

 

MR. GOL.,- Os rhoddwch gongl fechan o'ch Tarian imi yn awr ac eilwaith, bydd yn dda gennyf anfon ichwi dipyn o hanes Llanwynno a'r amgylchoedd, nid fel y mae yn awr, ond fel yr oedd ys talwm, chwedl pobl sir Fflint yma.

 

Dichon nad rheolaidd iawn o ran amseriad a threfn y bydd fy nodion, ond y mae cynifer o hen wynebau, a chynifer o hen droeon yn dyfod yn fyw ger fy mron wrth enwi hen ardal Llanwynno, fel y bydd yn waith hawdd tynnu math o ddarluniau ohonynt fel y bydd y cof a'r dychymyg yn eu galw gerbron. Myn rhai ysgrifennu enw yr hen blwyf mewn gwisg dipyn yn Seisnigaidd -  gwnânt ef yn Llanwonno! Gwynno yw Sant y plwyf, ond nid yw hynny yn ddim yng ngolwg rhai, Wonno y mynnant iddo fod, er i'r hen Sant gael ei fedyddio yn Gwynno gannoedd o oesoedd cyn geni y rhai sydd yn ei lysenwi yn bresennol. Gofus gennyf imi geisio perswadio Bwrdd Ysgol Llanwynno i beidio a rhoddi ‘Wonno’ ar y gyn-ddelw {stamp} y siaredid y pryd hwnnw am ei gael, ond dygodd y diweddar John Andrew Wynn hen ddaearlen o'r plwyf i ddangos mai y ffordd iawn i'w ysgrifennu oedd yr un Seisnigaidd. Yr oedd y map oedd ganddo ef yn hen, ond yr oedd gennyf finnau fap hŷn na hwnnw, ac ar hwnnw gelwid yr hen blwyf a'i Sant hefyd yn Gwynno. Ond ni waeth pa fodd y dewisodd yr hen Sant ysgrifennu ei enw, na pha fodd yr arferid ysgrifennu yr enw yn yr hen oesoedd, rhaid oedd i'r Bwrdd Ysgol gael stamp, a rhaid oedd i'r stamp lysenwi Gwynno, ac hyd y dydd hwn, Llanwonno sydd ar stamp neu sêl y Bwrdd.

 

Pwy oedd Gwynno? Un o'r ysbrydion brwd a selog a gyfododd ymhlith y Cymry pan daflasant eu Derwyddiaeth (x12) a’u paganiaeth heibio, ac y cofleidiasant grefydd lesu o Nasareth. Nid oes sôn i Gwynno gyflawni gwyrthiau. Nid oes dim o’i weithredoedd ar gof a chadw, oddieithr eu bod ar ddalennau rhyw hen lyfr Lladin yn llyfrgell fawr y Vatican yn Rhufain. Y mae yno lawer o bethau Cymreig pe gellid eu chwilio allan. Pa bryd y cânt oleuni dydd nid oes neb a feiddia broffwydo! Pa fodd bynnag, nid oes ond enw Gwynno yn aros gyda ni. Ei waith ni wyddys yn ei gylch, ei fedd ni wyddys pa le y mae. Ond y mae yr hen Eglwys yn aros - Eglwys Wynno yw hi:

Hen Eglwys Wynno hyglod, - a godwyd
I gadw i’r Duwdod
Wasanaeth melys hynod,
A llawr glan allor Ei glod.

Y mae Daerwynno heb fod ymhell o’r hen Lan. Dichon mai yn yr amaethdy hwn yr oedd Gwynno yn preswylio, a’i fod yn meddiannu y tir a darn o’r Mynydd Gwyngul fel ei eiddo ei hun, a’i fod wedi gadael y tir naill ai at yr Eglwys neu dlodion y plwyf, ond fod hyn, fel llawer peth arall, wedi cyfnewid gyda threigliad amser. Fodd bynnag, y mae yn beth lled arwyddocaol fod y ffermdy nesaf at yr Eglwys yn cael ei adnabod fyth fel ‘Daer Wynno.’ Pa un ai Daer Wynno’r Sant, neu Ddaer Wynno’r Llan, neu Ddaer Wynno’r plwyf - hynny yw, tlodion y plwyf - ni ddywedir. Nid wyf yn meddwl fod yr un geiniog yn dyfod oddi wrth dir Daerwynno i gynorthwyo tlodion y plwyf. Y mae pum punt yn y flwyddyn oddi wrth ffermdy arall cyfagos a elwir y Dduallt yn cael eu rhannu rhwng deg o dlodion nad ydynt yn derbyn cymorth plwyfol. Rhennir y ‘chweugeiniau’ bob dydd Gŵyl Domos, ym mhorth yr Eglwys. Yr wyf yn cofio pan na cheid nifer digonol o dlodion i dderbyn yr arian, yr oedd yn rhaid i’r pwrcaswyr fyned ar hyd a lled y plwyf i ofyn a fyddai dynion mor dda â derbyn y ‘chweigien.’ Paham y (x13) penodwyd dydd Gŵyl Domos i rannu y pres? Y mae yn werth 10s. {= deg swllt} i gerdded o un man o’r plwyf i ddrws yr Eglwys ar y dydd byrraf o’r flwyddyn!
 
Ond y mae plwyf Llanwynno wedi gweled cyfnewidiadau mawrion yn ddiweddar. Y mae y trwst a’r prysurdeb, y cyffro a’r ystŵr sydd yn awr wedi cymryd lle y tawelwch a’r unigrwydd hirfaith, yn ddigon i beri i Gwynno Sant godi ar ei eistedd yn ei fedd a melltithio y bobl sydd wedi torri ar heddwch y plwyf, ac wedi aflonyddu ar un o hen dawelfannau natur. Yn boeth y bo’r cwbl!

Y mae afon Ffrwd yn griddfan ar ôl ei chyn-loywder, a Chlydach fel pe’n ceisio ffoi rhagddi ei hun i ymguddio rhag cywilydd ym monwes Taf. Ow! fy hen Lanwynno, goddiweddwyd dithau o’r diwedd gan draed y gelyn! Sathrwyd ar gysegredigrwydd dy gaeau prydferth, gyrrwyd dy adar perorus ar encil, gweryrodd y march tanllyd, ac ysgrechodd fel mil o foch ar dy lanerchau heirdd!
Mor deg, mor dawel, mor bur, mor ddistaw, mor annwyl oeddit cyn i’r anturiaethwyr durio dy fonwes! Ond yn awr, yr wyt fel - wel, fel pob lle y mae glo ynddo! Piti na fuasai rhyw un yn ddigon anturiaethus i ddyfod a’r môr i fyny i Ynys-y-bŵl! Ie, y mae Ynys-y-bŵl yn dyfod yn lle mawr, poblogaidd, ac ochr yn ochr â’r afon Clydach. Carlama y march tanllyd o Ynys-y- bŵl i Bont-y-pridd.
 

I lawr ar y gwastadedd gor-is Ynys-y-bŵl yr oedd Glyn Mynach, ac y mae y glyn yno eto.
Ni ŵyr neb ddim am y Mynach. Ond ni fuasai fawr, ys dywed y bobl, i’r dieithriaid a’r pererinion adael llonydd i’r enw er iddynt fethu â gadael llonydd i’r tir. Yr oedd yr hen enw Glyn Mynach yn dwyn ger ein bron lawer o feddyliau, ac yn sibrwd am yr amser gynt, ac yr oedd hefyd yn fath o weddillion cyfnod neilltuol yn hanes y wlad, yn aros yn ein plith, fel y gwelir ambell hen dŷ yn aros mewn tref i ddangos i’r tai newyddion fod rhywbeth wedi bod o’u blaen hwy! Ond y mae Glyn Mynach wedi (x14) myned, o’r hyn lleiaf wedi cael ei gyfnewid. Robert’s Town, Os gwelwch yn dda! Ie, Robert’s Town! Hawyr annwyl. Nid oes na swyn, na phrydferthwch, na naturioldeb, na phriodoldeb yn yr enw, ac y mae yn Saesneg hefyd. Diolch am hynny. Buasai Tref Robert yn filain o beth! Gelwid y lle unwaith yn Black Rock. Codwyd tŷ newydd, a rhoddwyd enw y Glyn i’r tŷ. Saif tŷGlyn Mynach o hyd, ond y mae yn awr yn un o dai Robert’s Town, yn enw dyn! Bydd yn fuan lediaith Saesneg ar afon Clydach! Ond ni waeth gan fasnach, nid oes calon ganddi hi. Ni ŵyr hi am wladgarwch, na ieithgarwch, na bryn na dôl-garwch. ‘Glo, haearn, mwyn, aur, ac arian’ yw ei hiaith hi. Felly y mae hen blwyf Gwynno wedi dyfod dan oruchwyliaeth newydd. Er ys ychydig flynyddoedd yn ôl gallaswn gyfrif enciliau y plwyf o ben uchaf Mynydd Gwyngul hyd droed Craig-yr-hesg, ac o fin Taf a Chynon hyd fin Rhondda ym Mlaenllechau a’r Ystrad; ond erbyn hyn, y mae hyd yn oed Ynys-y-bŵl wedi dyfod fel twmpath y morgrug, ac y mae hen, hen broffwydoliaeth led vulgar am y lle yn cael ei gwirio.

“Ynys-y-bŵl, lle del ar don,
Lle araf ar lan afon,
Fe ddaw angel o waith dynion,
Ac a’i briw i gyd o’r bron.”

Wel, wel, Ynys-y-bŵl fel yr oedd sydd yn annwyl i mi. Llanwynno fel yr oedd cyn i fwg y gerbydres ei bardduo sydd yn hoff i mi. Fy hen chwaraele! Tir hec-a-cham-a-naid plentyndod, rhoddwn lawer am dy gael eto fel yn y dyddiau gynt; ond
 Ni ddaw yn ôl ddoe i neb.

Gyda’ch cennad, Mr. Gol. {= golygydd} mi a sylwaf yn fy llythyrau nesaf ar rai o’r hen enwau a’r hen gymeriadau y mae fy serch a’m cof yn eu clymu â’r lle. Ni wnaf ond enwi rhai ohonynt yn (x15) awr - Rhys ac Als, Twm y Gof a’i frawd Wil, Lewis o’r Fforest, Williams o’r Glog, Twmi Ben-rhiw, Edwards Gilfach Glyd, yr hen Williams Gelli-lwch, Meudwy Glan Elái, Bili a Jini Lys-nant, Dewi Haran, Evans Mynachdy, Ieuan ap Iago, Evan Moses, ac amryw eraill o hen breswylwyr y plwyf, na fuont, hwyrach, erioed allan o olwg mwg simneiau Llanwynno, ond y mae iddynt eu hanes a’u doniolwch.

(x16)

PENNOD II
CIPOLWG AR Y PLWYF

Hen blwyf barddol ei olwg yw Llanwynno. Mae amrywiaeth ei olygféydd yn fawr. Ewch ar daith o Bont-ty-pridd trwy ganol y plwyf tuag Aber-dâr, a chewch weled llawer ysmotyn teg, a llawer golygfa brydferth yn galw eich sylw. Dyna Graig-yr-hesg yn ymyl hen dref Pont-ty-pridd. Dylai preswylwyr yn falch ohoni. Mae ei gwedd arw fygythiol yn y gaeaf yn fawreddog a barddonol iawn, ac yn y gwanwyn a’r haul, pan ddaw glesni a thyfiant i ymgripian o amgylch yr hen feini llwydion, a phan wisgir ei choed oll â gwyrddlesni bywyd. O! mae yn farddoniaeth ei hun y pryd hwnnw, a Berw Taf fel llyn o ysbrydiaeth yn berwi ac yn tragwyddol suo wrth ei throed. Ni raid i chwi fyned i Ysgotland neui i Switzerland chwaith i weled golygfeydd rhamantus, dyna Graig-yr-hesg a Berw Taf yn eich ymyl, ac oddi ar ben yr hen graig, cewch un o’r golygfeydd harddaf erioed - Dyffryn Taf oddi tanoch yn estyn o’ch blaen fel pe yn eich gwahodd hyd Gaerdydd trwy ddolydd sydd fel gardd yr Arglwydd; ochr Eglwysilan yn edrych fel un o furiau natur i amddiffyn y Dyffryn; a’r amaethdai fel mydylau calch yn gloywi y llethrau; ac ysbryd barddoniaeth yn crwydro ar y bannau, a’r clogwyni oll yn fendigedig. Ewch i ben Craig-yr-hesg yn amlach, chwi Bontypriddiaid; cewch fwynhau golygfeydd a lonna eich ysbryd, a chewch archwaeth at ginio yn y fargen. Dipyn ymhellach ymlaen, yn nes i ganol y plwyf, yr ydych yn dod at droed Twyn-y-glog. Braidd na thueddir chwi i gredu mai artificial mound ydyw. Ond nid felly, yn wir. Mae yn rhy ardderchog i fod yn waith llaw halogedig dyn. Mor grwn ydyw, onid e? fel marble mawr wedi ei wisgo â phorfa a defaid ar ei lethrau a’i gopa. Gwaith natur ei hun ydyw. (x17) Mae yna hen feini llwydion yn edrych allan rhwng y coed, ac o’i ochr y distylla dyfroedd cyn oered â ia Nadolig, mor bur â’r nef, ac mor hyfryd âA neithdar y duwiau. Mae yr hen Dwyn i mi fel cartrefle swyn, ac y mae yn anodd i mi ysgrifennu darn o farddoniaeth, na thynnu un math o bictiwr dychmygol heb i Dwyn-y-glog ruthro i mewn iddo. Tybed na ddaw y relwe a’r glo a’r mwg i ymyrraeth â’r hen Dwyn yn awr, wedi iddynt ddod â’u trwynau i mewn i ganol y plwyf. Os deuant, bydd yn ansancteiddrwydd ac yn bechod o’r mwyaf. Ond wrth fyned ymlaen ychydig yn uwch drwy y plwyf, yr ydys yn dyfod at Foelydduallt. Nid yw yr hen Foel agos mor hardd â Thwyn-y-glog, ond y mae iddi hithau ei gwylltedd a’i harddwch priodol ei hun. Yr argraff a roddai imi yn blentyn oedd, ei bod fel pe’n ymdrechu i edrych dros fryncyn Ffynnon-dwym a’r Wern-goch i gael cipolwg ar ryw hen Foel arall oedd â’i thraed yn afon Cynon. Mae Moelydduallt wedi bod yn fath o le i dreio chware torri glo, er ys cyn cof gan neb. Mae llawer o dyllau yn ei hochrau. Byddai yr hen bobl yn gwneud twll, ac yn cael glo ynddo ond odid, ond pan welent berygl colli golwg ar olau dydd, yn troi allan, ac yn dechrau twll newydd, nes yr aeth yr hen Foel yn dyllau i gyd, ond cadarn y safodd trwy y cwbl. Mae Howel Ddu wedi tyllu iddi hi, ac wedi llwyddo i fyned ym mhellach dan ei gwreiddiau na phobl yr oesau gynt. Pan welais i yr hen Foel ddiwethaf, yr oedd Howel Ddu wedi codi pabell yng nghysgod y tir yr oedd yn ei durio, a sylwais fod ei dabernacl wedi ei osod i lawr yn union ar y fan y byddai yr hen bobl yn arfer gweled ysbryd - Ysbryd Ysgubor y Clun y gelwid ef. Goleuni nwyol, ond odid ydoedd. Bu yn blino yr hen drigolion yn hir, a chyda dychryn mawr yr adroddent yn ei gylch. Yn eu diniweidrwydd, nid oedd dim gwahaniaeth iddynt hwy rhwng fflam las-olau y nwy, ac ysbryd rhyw adyn oedd wedi ymgrogi wrth un o ganghennau Coed-y-foel. Bu yr hen Offeiriad Jones yn treio (x18) alltudio yr ysbryd, a’i dynghedu i aros mil o flynyddoedd i gario dwfr o’r Môr Coch mewn gogr, ac ar ôl iddo orffen, ei fod i wneud rhaff o dywod y môr i’w chyflwyno yn rhodd i drigolion y plwyf - yn gloch-raff Eglwys Wynno. Canodd un o hen rigymwyr y plwyf i’r ysbryd hwn ac ysbrydion eraill y gymdogaeth fel hyn:-

Mae ysbryd yn trigo ar Gefnyrerw,
Ysbryd rhyw adyn a dorrodd ei wddw,
Ac ysbryd yn cadw wrth Sgubor y Clun,
Ysbryd hen gybydd a laddodd ei hun.

Nid ym mhell oddi wrth Foelydduallt, ond i’r teithiwr fyned rhag ei flaen dipyn bach, daw ar draws y Pistyll Golau. Rhaeadr, neu waterfall, prydferth iawn yw hwn. Mae y syrthiant hwn i lawr mewn glyn lled isel. Y Mynydd Gwyngul uwch ei ben, a hen Lan y plwyf, a gorweddle llawer mil o breswylwyr yr ardal. O dan gribyn o graig yn gwthio allan o ochr yr hen Fynydd Gwyngul, yn lled sydyn yr ymnytha yr Eglwys a’i monwent gysegredig. O lannerch dawel! y gwynt yn rhuo neu yn suo yn dragwyddol ar frig ac yng nghesail y mynydd, heb na mwg peiriant na churiad morthwyl, na dim ond sŵn traed teithwyr a chwibaniad y bugail i dorri ar dawelwch a distawrwydd y fonwent hon ym mron y mynydd, ond fod y Pistyll Golau yn pruddganu bass yn iselder y dyffryn, a rhywbeth yn sŵn disgyniad y rhaeadr sydd yn gydweddol â’r ysbryd sydd yn llanw bron yr hwn sydd yn sefyll yma i edrych ar “dir cwsg” cynifer o genedlaethau o frodorion Llanwynno ac eraill. Yma y gorffwys gweddillion llawer a gollodd eu bywydau mewn mwy nag un danchwa yng nglofa Blaenllechau. Awel Mynydd Gwyngul yn canu requiem wrth fyned drostynt, a’r Pistyll Golau yn y dyffryn islaw, yn cadw cyfeiliant mawreddog wrth rolio dros y darren i waered, a gwynnu ac ewynnu fel Niagra fechan. Mor ddoniol (x19) oedd yr hen bobl gyda rhoddi enwau ar leoedd. Maent bob amser yn iawn. Disgrifiadol a chywir yw yr enw Pistyll Golau. I lawr mewn twll du yn y dyffryn, o dan gangau tew-dyfol derw a chorgoedydd y lle, mae y Pistyll yn wyn, yn ewynnog, ac yn goleuo y gilfach oll pan fo yn ei nerth a’i gyflawnder, ac yn cyfateb yn hollol i’w enw.

Yr ydym yn awr wedi cyrraedd i wylltedd y mynydd-dir, a gall y teithiwr yma ddywedyd fel yr afr,-

Gwlad rydd a mynydd i mi.

Mae y Fforch-don yn y golwg, ac afon Clydach yn dechrau ei thaith fel llygedyn yn agor rhwng tyweirch a mawn, ond yn fuan yn ymestyn yn llinyn ariannaid ac yn ymsymud fel peth byw yn dechrau gwneud ei ffordd tua Chaerdydd. Mae yr enw Fforch-don eto yn ddisgrifiadol iawn. Mae y tir yn ymfforchi megys i fyny ar las gefn y mynydd, yn dir lled groyw, yn don teg, fel y dywedir ym Morgannwg - nid yn weundir gwlyb. Nid yw pobl y Gogledd yma yn arfer y gair ‘ton.’ Mae cryn drafferth, weithiau, i beri iddynt ddeall meddwl y gair. Ond y mae yn air cyffredin ym Morgannwg.

’Waeth inni droi yn ôl yn awr heb ddringo i gefn y Mynydd-bach, ac oddi yma cawn olwg iawn ar Ddyffryn Cynon o Mountain Ash hyd flaen Hirwaun. Nid yw Aberdâr yn awr yn edrych cyn hardded ag ydoedd i fugeiliaid y Mynydd Bach ddau can mlynedd yn ôl, cyn bod tomenni glo wedi eu codi ar hyd wyneb y plwyf; ond heddiw, glo, mwg, angerdd, a duwch cyffredinol yw yr hyn a wêl yr edrychydd oddi ar gefn y Mynydd Bach, a theimla ei bod yn hwyr glas iddo droi ei wyneb yn ôl i edrych ar lesni yr hen blwyf sydd yn cael ei fygwth â’r un dynged. Gadawn Gynon i lawr ar ein haswy, fel sarff wedi ei halogi ei hun yn llwch y glo y Dyffryn, a cherddwn gribyn y mynydd-dir uwchlaw, a’n hwynebau yn ôl ar (x20) Bont-y-pridd, ond ar ochr ddwyreiniol y Dyffryn, gan adael Ynys-y-bŵl mewn padell yng nghanol y wlad. Yr ydym yn sefyll ar ben Tarren-y-foel, neu Foelygelli. Oddi tanom y mae y lle rhyfedd a elwir Navigation yn awr, Basin cyn hynny, Ynysfeurig o flaen hynny. Mae yn cael ei alw hefyd yn Aberdare Junction. Y mae yr enwau Saesneg wedi eistedd yn hynod o anesmwyth ar y lle. Ac yr wyf yn meddwl fod tuedd i gael yr hen enw Cymraeg yn ôl eto, oblegid sonnir am Ynysfeurig Schools, &c.

Gallaswn adrodd llawer o bethau am y lle, ond bodlonaf ar un peth lled bersonol. Yr oedd gan fy nhaid - neu fel y dywedwch chwi ym Morgannwg, fy nhad-cu-William Thomas Howel, lease ar dir Ynysfeurig, wedi ei thynnu allan fel y tynnid hen arlesoedd llawer o’r Cymry - i barhau tra rhedai dwfr yn afon Cynon, a thra talai yntau bedair punt yn y flwyddyn o ardreth. Druan ohono! Yr oedd yn hoff o’r peint, ac un diwrnod o dan ei effeithiau, gwerthodd y les i rywun am ₤20. Ac y mae yn orchwyl lled galed pan fyddwyf yn pasio drwy y lle, a gweled y cwbl yn nwylo dieithriaid, i ddywedyd, ‘Bendith ar yr hen ŵr a wnaeth y fath dric â’i ddisgynyddion!’ Ond pan gollodd morwyn Tŷ-draw ystycaid o laeth i’r llawr, hi a gysurodd ei hun â’r syniad ei fod yn beth amhosibl ei godi yn ôl drachefn. ‘Nid gwiw wylo am yr hyn sydd ddiadfer;’ ond yr ydym ar ben Tarrenygelli. Mae Taf yn llifo ar un ochr, a Chlydach ar yr ochr arall inni, ac y mae swynion fil cydrhwng y ddwy. Yma y mae Paradwys yr heliwr. Llawer gwaith y bûm yma yn hela cadno, a llawer gwaith y clywais

Ochrau’r Darren fach ar dorri -
Eco’r Tali ho didewi.

Cartref llwynogod Morgannwg ydyw Tarren-y-foel a Choed-y-parc. Yr oedd pobl Llanwynno yn helwyr cedyrn o’u (x21) mebyd, ac y mae yn eu plith hyd heddiw ambell Nimrod lled gadarn. Nid yw wow yr heliwr, na chorn-galw y Glog, mwy na melysgri y bytheuad wedi tewi yn Llanwynno. Ac y mae’r geinach ar Goetgae’r Gelli, a Reynard yn bwyta y da pluog benthyg, hyd y dydd hwn yn Nharren-y-foel. Yn y nesaf, gair am rai o hen gymeriadau hynod y plwyf.

(x22)

PENNOD III
YNYS-Y-BŴL, RHYS DAFYDD AC ALS

Y mae Ynys-y-bŵl yn debyg o ddyfod yn lle mawr a phoblogaidd. Y mae gwedd y lle wedi cyfnewid yn fawr eisoes, ac ym mhen ychydig o flynyddoedd eto, bydd y cyfnewidiad mor llwyr fel na fydd yn aros ddim o olion yr hen le tawel llonydd a adnabyddid gynt fel Ynys-y-bŵl. Yr wyf wedi sôn eisioes ei fod mewn padell ddofn, a’r bryniau yn codi o’i amgylch.
Rhaid i'r haul ddringo yr awyr yn lled uchel cyn y gwêl ef waelod cwm Ynys-y-bŵl. Y mae bryn Maes-y-gaer, ac islaw hwnnw, ochor Tyle'r Fedw a'r Gelli, yn cysgodi y lle rhag gwynt llym y dwyrain. Cyfyd Craig Buarthycapel tua'r Gorllewin, ac yn uwch na hynny Dwyn y Fanhalog, ac yn uwch drachefn Mynydd Gwyngul, a rhwng hynny a'r Gogledd cyfyd tir y Mynachdy a'r Dduallt yn lled uchel, ac felly yr oedd y pentref bychan hynafol, Ynys-y-bŵl, yn ymnythu ar waelod cysgodol y Cwm, a Chlydach yn llifo yn dawel dan y geulan a gysgodai0r lle; a Ffrwd hithau yn rhuthro i lawr i'w chyfarfod, yn fwy gwyllt ei thymer wedi cael ei blino gan y felin a'r tarennydd a'r cwympiadau sydd o'i chwmpas. Ond yma yn Ynys-y-bŵl yr ymbrioda Clydach â'r Ffrwd, ac yn un afon y llifant hyd nes i Daf eu llyncu mewn un traflwnc yn ymyl Gilfach-goch, gyda'i bod yn dyfod megis i olwg tref Pont-ty-pridd. Edrychai yr hen breswylwyr ar Daf fel afon fawr a pheryglus, ac y mae felly yn fynych yn sydynrwydd codiad ei llif ar ôl glawogydd a tharanau trmion y mynydd-dir. Ysgrifennodd un o hen rigymwyr y plwyf hanes bywyd Taf mewn triban, fel hyn:-

Mae taf yn afon nwydus,
Ofnadwy o gynhyrfus;
Mae wedi dygyd bywyd cant,
mae'n cerdded pant echrydus.

(x23) Yn awr, wedi iddi dwyn bywyd Clydach, rhaid i ni ei gadael a myned yn ôl i Ynys-y-bŵl - fel yr oedd gynt yn nyddiau ei gyn-dangnefedd a'i dawelwch naturiol, nid fel y mae yn awr, wedi i'r march tanllyd ei ddeffro, a'i sarnu, a'i halogi, a'i ysbeilio o'i ogoniant, a'i ddistrywio, a bwyta ei farddoniaeth heb flino ei gydwybod, a phlygu ei lesni teg, yr hen labwst, braidd na felltithaf ef am ddyfod yn agos i le tawel yr adar, a'r pysgod, a'r ysgyfarnogod rhwng Clydach a Ffrwd.
Mor hawdd yw dinistrio peth. Rhais cael gallu dwyfol i greu. Ni fedr neb mwyach osod Ynys-y-bŵl fel yr oedd gynt. O! na,-

Humpty Dumpty sat on the wall,
Humpty Dumpty had a great fall,
All the King's horses,
And all the King's men,
Couldn't set Humpty Dumpty on the wall again.

Dichon mai natur a sefyllfa ddaearyddol y lle roddodd yr enw i Ynys-y-bŵl. Fodd bynnag, gellid yn naturiol ddywedyd Ynys-y-pwll. Gelwir ef yn Saesneg 'Bowling Green'. 'Wn i ddim pwy a Seisnigeiddiodd yr enw. Ond yn ddiau, gwnaeth, gamsyniad. Yr oedd y lle yn Ynys-y-pwll cyn ei fod yn Bowling-green. Yr oedd y lle yn Ynys-y-pwll er y cread, ond yn gymharol ddiweddar y dechreuwyd chware Bwlbinnau ynddo. Felly, nis oes gennyf ddim diolch i dalu i neb am roddi enw Saesneg i'r lle. Ond daeth yr enw Ynys-y-bŵl i gael ei gymhwyso at yr holl ardal - i fyny at Dai'r Plwyf a lleoedd eraill ar bob llaw.

Dywedir i'r hynafiaethydd enwog Camden, yr hwn a elwir 'The Strabo of England', dalu ymweliad ag Ynys-y-bŵl pan oedd yncasglu defnyddiau at ei hanes, a elwir 'Brittania', ac iddi gysgu noson yn y lle. Diau mai yn yr hen westy a elwid Ynys-y-bŵl y cysgodd y noson honno. Yr oedd Camden yn ŵr dysgedig iawn, ac wedi dysgu Gaeleg, Cymráeg, a'r (x24) hen Saesneg i'w gymhwyso at y gwaith oedd ganddo mewn llaw. Cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf 'Brittania', yn y flwyddyn 1586, a'i waith arall, a elwid 'Anglica Normanica Cambrica', yn 1603. Tueddir fi i gredu mai at y gwaith olaf hwn yr oedd yn caglu defnyddiau pan ymwelodd ag Ynys-y-bŵl, ac mae ymweled a'r Mynachdy oedd y prif amcan. Yr oedd y Mynachdy wedi ei ddadsefydlu yn amser harri'r Wythfed, efallai 40 neu 50 mlynedd cyn i Camden ymweled â'r lle. I ba le y dygwyd y llyfrau a hanes y lle, wy^s? Yr oedd y Mynachdy yn amaethdy gwych iawn pan ymwelodd Camden ag ef; a'r mynachod, ac eraill a breswyliai ynddo wedi eu troi allan - rhai at wahanol alwedigaethau, a rhai i huno yr 'hunell ber'yn ymyl Eglwys Gwynno Sant. Bydd gennyf ychwaneg ryw dro eto yng ngghylch y Mynachdy. Rhaid i mi ei adael yn awr gydag un nodiad dipyn yn bersonol. Pan ddifuddiwyd y Mynachdy, yr oedd dau frawd yn fynachod ynddo, a elwid Hywel ap Hywel, a Llywelyn ap Hywel. Y mae fy nheulu i - Howeliaid Cwmcynon, a theulu Llewelyn y Fforest, etc, yn deillio o'r ddau frawd hyn. Wedi iddynt droi allan o'r Mynachdy, pridasant dwy chwaer, ac yr wyf yn meddwl i Hywel, yr wyf yn ddisgynnydd ohono, dreulio ei ddyddiau yng Nghwmcynon, a'r brawd arall, y galwyd ei disgynyddion ar ôl ei enw cyntaf, sef Llywelyn, wedi trigfannu yn ochr y Fforest a rhywle arall yn Sir Frycheiniog. Fodd bynnag, bu yr Howeliaid yn byw yn hir, ac yn meddiannu hefyd bob darn o Gwmcynon, o Abercynon hyd Gwmcynon Uchaf, ger Mountain Ash. Dyna wibdaith oddi wrth Ynys-y-bŵl eto. Yn ôl â ni.


Sefydlwyd ffair flynyddol yn Ynys-y-bŵl; pa mor fore nid wyf wedi cael allan eto. Ond yr oedd yn enwog iawn; cyrchid iddi o gryn bellter, ac iddi y dygid anifeiliaid yyr amgulchoedd i'w prynu a'u gwerthu. Yn wir, mewn un Almanac lled hen gelwid hi ‘Ffair prynu a gwerthu yr Ynyspool’, i'w gwahaniaethu oddi wrth ffair gwagedd a (x25) phleserau. Yr oedd yn gynaliedig ar yr 16eg o fis Mawrth. Heblaw prynu a gwerthu, yr oedd llawer o ymladd yn myned ymlaen. Yno y treiid nerth ac ysgil pobl ieuainc y plwyf. Yno y mynnid gweled pa un ai gwŷr Ynys-y-bŵl neu wŷr Blaenllechau a Rhondda Fach oedd y cryfaf. Yno yn aml y penderfynid y ffrae oedd rhwng gwŷr Llanfabon a gwŷr Llanwynno, ac yn fynych yr oedd gan wŷr Llanwynno ‘hen chwech’ i’w thalu i wŷr Llantrisant, a gwneid hynny yn ffamws ar nos ffair yr Ynys. Yr oedd gwahanol deuluoedd yn setlo’u materion ymrysonol yno hefyd; ac ar ôl i fechgyn Llwynperdid gael dau lygad du, a thrwyn fel pen dafad, a bechgyn y Dduallt fyned heb drwynau o gwbl, a dwy neu dair o’u hasennau wedi eu torri, aent adref wrth eu bodd, mewn heddwch mawr am flwyddyn. Yn y ffair hon hefyd y trefnid cystadleuaeth lladd gwair yr haf dyfodol, a rhedegfa filltir y flwyddyn i fod ar Fynydd Gwyngul o’r Heol Las i fyny weithiau. Yr oedd rhedegfeydd wedi cymryd meddiant cryf o’r plwyf oddi ar amser Gruffydd Morgan, neu Guto Nyth Brân - y buanaf a’r ysgafnaf ar ei droed a welwyd erioed yn y wlad hon. Deuwn ar ei draws ef rywbryd eto. Yr oedd porthmyn lawer yn dyfod i ffair yr Ynys, ac yn fynych yn dyfod yno y nos cyn y ffair, a llawer tro direidus a chwaraeid i hwynt gan bobl y lle, oblegid yr oedd pobl Ynys-y-bŵl a’r cylchoedd yn ddiarhebol am eu digrifwch, eu deheurwydd yn chware pêl, a chyn hynny, chware bando, a chynnal braich-gwymp. Yr oedd lle pwrpasol i hyn yn Ynys-y-bŵl. Y plaen pêl enwocaf yn y wlad, a Chaebachybedw a’r Ynysoedd y pryd hynny o’r Ynys i lawr at y Pandy yn lle braf i’r bando neu’r bêl droed.


Un siopwr a siopwraig tra enwog fu crioed ar Ynys-y-bŵl sef Rhys Dafydd ac Als, neu fel y gelwir hi fynychaf ‘Als gwraig Rhys gŵr Als.’ Yr oeddynt yn cadw siop mewn tŷ bychan a safai lle y saif Aber-ffrwd yn bresennol. Yr oedd gwedd ddigrif ar Rhys ac Als a’r siop hefyd. Yr oedd tua dau (x26) bwys o ganhwyllau bychain, ac ychydig o fân bethau defnyddiol eraill yn gwneud i fyny gynnwys y faelfa. Tua hanner coron fuasai yn prynu y cwbl! Ac eto, yr oedd ar Als gymaint o ofn i’r siop fynd ar dân fel y gwrthododd gadw matches yn y siop wedi iddynt ddod allan gyntaf. Dyn go dal, garw ei wedd oedd Rhys. Hen Gymro trwyadl, gwledig yr olwg, a manners Ynys-y-bŵl yn ei nodweddu, bid siŵr. Yr oedd yn hollol ddiniwed, ond ei fod yn cael ambell ffrae ag Als yn herwydd ei phengamrwydd, meddai ef, ond oherwydd ei diniweidrwydd, meddaf fi. Un ffrae drom fu rhyngddynt yng nghylch y lleuad. Yr oedd Als wedi codi yn fore un tro, ac wedi edrych allan, hi a welodd y lleuad wedi treulio tipyn, a meddyliodd hi mai lleuad newydd ydoedd, a dywedodd wrth ei gŵr iddi weled y lleuad newydd yn edrych yn iachus am bump o’r gloch y bore, a mawr yr ymryson a’r dadlu fu rhyngddynt, a therfynodd yr ymgom fel hyn: Ebe Rhys, fel ei parting shot, ‘Pwy glywodd sôn erio’d am leuad newydd yn y bora?’ Ebe Als, ‘Y fi a’i gwelws hi â’m llygaid fy hun, a baw iti Rhys Dafydd.’ Ni chafodd yr un o’r ddau fuddugoliaeth; aeth Rhys at ei waith i goblera, ac Als i bwyso gwerth dimai o snuff i Mari Rhys o’r Tai.


Y ffrae nesaf rhyngddynt fu yng nghylch rhannu pwys o ganhwyllau yn ddau hanner pwys. Yr oedd un o weision Ffynnon-dwym wedi dyfod yno frig rhyw noson, gan feddwl cael hanner pwys o ganhwyllau dwy ar bymtheg yn y pwys. Ond yr oedd y pwnc yn rhy ddyrys i Als, nis gallai yn ei byw rannu y pwys yn ddau. Yr oedd Rhys hefyd mewn tipyn o benbleth. Mynnai ef roddi wyth cannwyll yn un hanner pwys, a naw yn y llall, ond yr oedd Als yn gweled hynny yn naill ochrog ac annheg. Meddyliodd am dorri cannwyl yn ddwy, a rhoi wyth a hanner ym mhob sypyn; ond wrth dorri y gannwyll â chyllell gobler Rhys, torrodd y gannwyll yn amryw ddarnau, a phenderfynwyd na werthid y canhwyllau oddieithr yn bob o gannwyll ddimai neu yn bwys cyfan. Bu Rhys (x27) mewn tymer led ddrwg am ddyddiau. Yr ydwyf yn cofio clywed fod Als wedi cerdded tua Phen-twyn i brynu mochyn cyfan, ar y pin, fel y dywedir. Dywedodd wedi cyrraedd yno, fod Rhys wedi ei gyrru hi yno i brynu y mochyn, ac i gynnig coron a chwech y sgôr amdano, ac os na chawsai hi ef am hynny, am roddi chwe swllt, ac yr oedd yn well gan bobl Pen-twyn gael chwe swllt na choron a chwech.


Aeth Als ar visit i’r Tynewydd ym mis Mehefin, a mawr y gobeithiai am gael teisen wyliau gyda’i the. Cafodd de a theisen, ond nid teisen wyliau; ac ar ôl yfed ei chwpanaid te, taflai y grounds dros ei hysgwydd ar y carped. Yr oedd gwraig y tŷ yn meddwl, ond rhoddi awgrym i Als, y gwnâi hi dywallt gweddillion y ddysglaid nesaf i’r llestr pwrpasol ar y bwrdd, ond ni fynnai Als wneud hynny. Yr oedd, meddai hi, gymaint yn fwy cyfleus i roddi jerk iddo i’r carped, a chymaint mwy o le iddo yno, a chafodd gwaelod pedair dysglaid o de du da gysgu y noswaith honno ar garped y Tynewydd. Druan o Als! Mor ddiniwed, mor dywyll, ac eto mor hapus yr oedd yn byw. Gwyddai lawer am lysiau a phlanhigion. Gwyddai pa fodd i’w casglu a’u sychu, a’u defnyddio yn feddygol. Yr ydwyf yn cofio ei bod yn rhoddi te wermod i Mocyn y gath, oherwydd fod ei awydd at fwyd wedi pallu. Digon tebyg mai dal gormod o gwningod yr oedd y gath, ond yr oedd Mocyn yn gorfod myned drwy gwrs o feddyginiaeth bob spring; mynnai rhai ei fod yn cael ei orfodi ganddi i gymryd brwmstan a thriagl i buro ei waed ar gwymp y dail. Ond ni wyddai Rhys am hynny, ac efallai mai y bechgyn direidus a luniodd yr ystori hon.
 
Yr oedd ei chof yn llawn o hen bethau a throeon yr hen bobl. Yr oedd ysbrydion yn llanw ei meddwl. Credai yn ddiysgog eu bod yn rhodio o gwmpas, ac yn enwedig ar bob nos Calangaeaf i’w gweled ar bob camfa yn y wlad. Yr oedd Als ei hun wedi cael cryn ddychryn a thrafferth gyda’r ysbryd oedd yn cadw wrth glwyd Cae’r Defaid. Hwn oedd yr ysbryd (x28) oedd wedi rhoddi sicrwydd iddi hi am fodolaeth ysbrydion eraill. Pa helynt fu ar yr hen wraig, druan, gyda’r ysbryd nid yw wybyddus, ond yr oedd wedi cymryd ffurf asyn, ac wedi lleisio fel asyn, mewn gair wedi gweithredu yn deilwng o asyn, - yn y tywyllwch dan frig derwen fawr Cae’r Defaid. A chan fod yn y Mynachdy asyn mileinig o ddrwg ar y pryd, a’i fod wedi cael ei weled gan eraill yn agos i’r lle y gwelodd Als yr ysbryd, a chan fod yr asyn hwnnw wedi arfer dychrynu pobl y tai, meddyliai llawer mai ef oedd yr ysbryd a welodd Als wrth ddychwelyd o Gelliwrgan, a’r nos wedi ei dal a’i dychrynu. Ond yr oedd hi yn credu fod ‘ysbryd yn cadw’ yno, ac yr oedd ysbryd yno yn ddiau, ac y mae yno eto, o ran hynny.
 
Nid yw y pethau a nodais yn hanes Als ond gwendidau. Yr oedd er yr anwybodaeth, a’r gor-ddiniweidrwydd, a’r tywyllwch hwn, yn rhinweddol, ac yn ei ffordd neilltuol ei hun, yn hen wraig glyfar. Bu farw mewn gwth o oedran. Bychan, bychan oeddwn i pan ddigwyddodd ei diwedd, ond yr wyf yn cofio amdani yn lled dda, ac y mae gennyf achos arbennig i’w chofio hi a’r hen ffon oedd yn gynhaliaeth iddi wrth ymlwybro o gwmpas. Disgynnodd ei chlopa ar fy mhen droeon yn lled drwm. Ni ddywedaf am ba beth y rhoddwyd yr ergydion hynny! Mae Als, druan, a Rhys yn gorffwys wrth Eglwys Wynno, a’u pebyll o bridd wedi ymgymysgu â phridd Mynydd Gwyngul ers llawer dydd. Yr wyf yn lled gredu mai brodor o Lanilltud Fawr oedd Rhys, ac mai ym mhlwyf yr Ystrad y gwelodd Als oleuni dydd gyntaf Yr oeddynt yn gymdogion tawel a hawddgar, ac oes oedd eu gwendidau yn peri i rai wenu, yr oedd eu diniweidrwydd a’u rhinweddau eraill yn peri i’r rhai a’u hadwaenai orau eu caru a’u hanwylo. Mor Gymreigaidd oedd eu dull a’u gwedd. Nid oedd ffasiwn yn effeithio dim arnynt hwy. Hosan ddu’r ddafad, a dillad gwlân cartref, wedi eu gwneud yn y dull mwyaf gwladaidd posibl, ac eto, yr oeddynt yn daclus a threfnus eu golwg. Yr (x29) wyf yn meddwl fod yr hen ddull Cymreig o fyw yn un llawer gwell o ran gwisg, iaith, ac arferion na’r rhai sydd yn nodweddu yr oes hon. Nid wyf yn meddwl y gwyddai Als air o Saesneg. Dichon y medrai Rhys siarad tipyn yn yr iaith honno. Ond yn y dyddiau hynny, yr oedd Saesneg heb ddyfod i fyny o Bont-y-pridd, ond megis rhyw flaen-don ohoni. Braidd na ddywedaf da pe cadwesid hi heb ddod o gwbl. Hen drigolion dedwydd, uniaith, unplyg Llanwynno, yr wyf yn caru sôn amdanoch, ac yr wyf yn parchu eich coffadwriaeth.

(x30)

PENNOD IV
TRIBANNAU

Bu adeg pan breswyliai amryw o feirdd y tribannau yn Llanwynno. Nid oeddynt yn feirdd uchelgeisiol iawn, ni chynigient fyned yn uwch na thriban, ac yn fynych byddai cloffni neu wall yn hwnnw; ond yr oedd natur yn ymwthio i’w tribannau er hynny. Ac y mae lawer yn well cael triban llithrig, naturiol, na chael englyn celfus ond anystwyth ei gymalau. Gormod o gelfyddyd sychlyd a difywyd sydd yn englynion llawer o feirdd y dyddiau hyn. Nid oes ynddynt nac arnynt ddim o eneiniad a hyfrydedd Anian. Bydd gennyf bennod eto ar Feirdd Tribannau yn Llanwynno. Gallaf enwi rhai ohonynt yn awr, - Job Morgan, Siencyn Jones, Thomas Jones, a William Jones, Llewelyn Bili Siôn, Morgan William, ac eraill a enwir eto. Wrth alw i’m cof enwau rhai o’r dynion hyn, a chofio rhai o’u tribannau difyr, rhedodd fy meddwl dros yr holl blwyf mewn amser byr. Teithiodd o gwr i gwr, ac o dŷ i dŷ, trwy y plwyf, mewn llai o amser nag a gymer i mi ysgrifennu hanes ei daith. Peth hynod yw meddwl, onid e?

Gwibia i Benrhyn Gobaith, - mewn eiliad
Mae’n ôl ar ei ymdaith,
Dros donnog li’r morfri maith,
I derfyn y wlad hirfaith.

Gwelwn yr holl dai o’m blaen yn eglur. Cerddai o amgylch fel yn y dyddiau gynt, yr hen breswylwyr sydd yn ddigon llonydd yn ‘ninas y meirw,’ wrth Eglwys Wynno, ers llawer o flynyddoedd. Fodd bynnag, yn yr ysbryd, safwn yn ymyl man fy ngenedigaeth i wneud survey feddyliol o’r plwyf; a chyfansoddais survey dribannol yn ôl chwaeth a hoffter yr hen drigolion, a llawer o’r trigolion presennol. Math o fap (x31) barddonol o blwyf Llanwynno ydyw. Gan ddechrau wrth fy nhraed, a myned rhagof tua’r gogledd, ac i lawr gydag ochr ddwyreiniol y plwyf, ac yn ôl drachefn trwy y canol, ac ymyldir y mynydd, hyd nes cyrraedd yn ôl i Gwmyrynys i orffwyso.

’R wy’n sefyll ar Gae’r Sgubor,
A’r plwyf o’m blaen yn agor
Mi welaf lawer bryndwn brith,
A chaeau blith anhyder.

Gerllaw mae Buarthcapel,
Mewn pantle gweddol isel,
Yn llechu megys nyth mewn llwyn,
Is twyn y Glynnog dawel.

Islaw mae Ffrwd yn murmur
Ei thonnau fel ffoadur;
A Ffynnon Illtud ar ei min
Fel gwinoedd gorau natur.

A dacw wynion furiau
’R Mynachdy ar y caeau;
Er llawer storm a gaeaf hyll,
Mae’n sefyll fel y bryniau.

Yn llechu mae’r Tynewydd
O dan y cops a’r coedydd
A’r hen breswylwyr, George ac Ann,
Yn hudo dan y mynydd.

A dacw’r Dduallt hefyd,
A’r Foel nad yw yn syflyd;
A Ffynnon-dwym tu draw i’r pant,
A Chelliwrgant hyfryd.

Ac yn eu hymyl yna,
Mi welaf Nantyrhysfa
A’r ŵyn a’r defaid ar y bryn,
A’u gwlân mor wyn â’r eira.
 
(x32) Gerllaw mae Tynygelli
A’i ben fel pe yn codi
I ofyn am i Glydach glir
Ddod trwy ei dir a’i olchi.

A’r hen Gwmclydach annwyl,
Sydd fel pe bai yn disgwyl
Daw’r hen breswylwyr yn eu tro
I aros yno eilchwyl.

Ma,’r Lan a Phenrhiw Cradog,
Ar eu safleoedd creigiog;
A’r ddau Ben-twyn yn dal fel cynt
Guriadau’r gwynt ysgythrog.

Tŷ-draw a Thyle’r Fedw,
Sy’n cadw’u gwedd yn loyw;
Er fod eu caeau gorau’u drych
Yn edrych wedi marw.

Mae’r Gelli yn fendigaid,
Yn ôl ei henw telaid;
A’r Foel a’r Coetgae rhag pob pla
Gysgodant dda a defaid,

Mae’r Cefn o hyd yn gyfan,
A’i fur yn wyn fel arian;
A’r Cribyn-du sydd megis cynt
Yn herio’r gwynt ei hunan.

A’r Gelli-lwch le rhial
Yn loyw fel yr afal;
Ac ar bob tu Pen-wal a’r Lan
I’w gadw’n ddianwadal.

Yn lanwedd a diderfysg,
Mi wela’r hen Flaenhenwysg
A rhos, a thon, a bryn, a gwaen
O’i flaen sydd yn ymgymysg.

(x33) Mae Hendre Rhys lysieuog,
Neu Lety Hywel laethog,
Yn syllu’n wylaidd ar y Twyn
A Chynin fwyn risialog.

A’r Glog mor lân a dedwydd,
O dan ei dwyn a’i goedydd
A’i ffynnon a’i hariannaid li
Yng gloywi dan y glaswydd.

Llys-nant a’i draed yn oeri
O hyd yn nŵr y mawnli
A Llwynyperdid uwch ei law
Yn gwyliaw yn yr oerni.

A Rhydygwreiddyn hefyd,
Yn edrych yn fwsoglyd;
Ond mae’r Fanhalog ar ei ffin
Yn gloywi’n ddifrycheulyd.

Parhau mae Tynycwarra
Yn ddigon llwyd ei gopa,
Ond bendith nef ddymuna’r bardd
I’r ardd a’r fangre yna

Mae’r Capel yn yr ymyl,
Lle deuodd llu o engyl
I gario llawer gweddi gu
I fyny drwy y cymyl.

Mae Brynffrwd yma eto
Yn haeddu cael ei gofio,
A brodyr hoff a thad a mam
Heb gam yn trigo ynddo.

B’le mae’r ddau Glotch a’r Creunant?
Aeth Pant-y-gwal o’r glasbant?
Ond mae’r Tai Newydd ’nawr yn hen
A’u talcen wrth y gornant.

(x34) Mae’r Felin a Phwllhelig
I’m cof yn gysegredig,
Yn eistedd wrth y gloyw li
I mi sydd fendigedig.

Mae’r Llechwen wrth y Clydach
A’i wedd yn mynd yn hynach,
Ac fel yn disgwyl yn y man
Daw Rhys ac Ann yn holliach.

Mae Aber-ffrwd a’r Efail
Yn llechu yng nghlyd gesail
Y Cwm, lle rhed yr hen Ffrwd iach
I Glydach gyda’i hysbail.

A dacw’r Graig a’r Ynys,
Y naill ar Gribyn hysbys,
A’r llall a’i draed ar wastad fan
O dan y Geulan echrys.

Ond rhaid i’r awen dewi,
Er gallai hi farddoni
I bob hen garreg yn y plwyf
Gan rym y nwyf sydd ynddi.

Dichon mai gwell fyddai ymatal ar hyn. Yn y nesaf ceisiaf ddisgrifio gwŷr y plwyf yn cyrchu i ymofyn glo a chalch ar y ceffylau pynnau, ynghyda hanes bywyd ‘Mwlsyn y Pwll Glo.’

(x35)

PENNOD V
Y CYRCHFAOEDD - GLO Â CHALCH

Bu y plwyf am lawer o flynyddoedd yn cyrchu i lannau Ffrwd, ar gwr deheuol y Mynachdy, i gael glo. Mae yr hen lefel yn aros mewn rhan yn agored hyd eto; a gweithir glo yr un haen mewn lefel arall yn is i lawr, ar lan yr afon, gan Mr. Daniel Thomas, o Bont-y-pridd. Nid oedd yr hen lefel ond twll cyfyng, prin lle i’r asyn a’i lwyth ddyfod trwyddo; ond daeth llawer pwn o lo allan o’r twll, i gadw trigolion y cwm a’r mynydd-dir yn gynnes yn ystod gaeafau drycinog ac oer. Yr oedd gan fy nhad-cu lease ar y glo, ac yn ei feddiant ef y bu hyd pan werthodd y diweddar Mr. Evans y lle i Alaw Goch, o Ynysgynon, a Meisgyn wedi hynny. Ni weithiwyd glo yn y lefel hon o’r pryd y gwerthwyd y tir, hyd nes i’r Bardd o Aberdâr ymgymryd â’r gwaith o ailagor y lefel, pryd y daethpwyd o hyd i’r offerynnau gweithio - y mandreli, y rhaw, y morthwyhon, a’r geingion, y lamp, a’r ystên olew wedi bod yno am ugain mlynedd - mwy neu lai - heb neb oddieithr ysbryd fy nhad-cu wedi ymweled â hwynt. Yr oedd Mwlsyn - asyn y gwaith glo - yn asyn doniolach na’i frodyr clustfawr yn gyffredin. Adnabyddid ef ym mhell ac agos, a chan fod trigolion y Mynydd-dir, Ochr Llechau, y Ffaldau, Pwllfa, y Mardy, a lleoedd eraill anghysbell yn dyfod yno i gael glo, yr oedd enwogrwydd yr asyn wedi cael lledaeniad cyffredinol. Yr oedd yr asyn mwyaf mileinig a welais erioed. Llawer curfa a gafodd gan fy nhad-cu, am gyflawni pechodau na fuasai neb yn meddwl i asyn freuddwydio amdanynt. Yn fynych iawn ar fore Llun pan oedd Dic i fyned i’r lefel yr oedd wedi myned ar grwydr. Byddai yn myned am visit ddydd Sul, ac yn gofalu peidio â dyfod yn ôl ddydd Llun at ei waith. Bryd arall gwelais ef yn ymguddio yn y drysni yn ymyl y lefel (x36) am ddyddiau, heb i neb feddwl ei fod mor agos, pan chwilid yr holl blwyf amdano - oblegid dim asyn, dim glo. Gwyddai Dic trwy brofiad beth oedd yn ei aros. Yr oedd ierthyd Morgan Jones wedi ei pharatoi, ond byddai yn rhaid dyfeisio llawer cyn y gellid dyfod o hyd ergyd i Dic. Hir a dygn oedd y frwydr yn y coed rhwng yr asyn a’i feistr, heb neb yn eu gweled, ond clywed y sŵn lach, lach, bloedd rheg, he-haw-haw fawr, a charlam wyllt trwy ddrain a drysni, a phererindod arall trwy goed y Geulan; ac ym mhen ysbaid o amser, gorffennid y frwydr, a gwneid heddwch; a gwae a fyddai i’r neb a roddai ei fys yn y cawl i dreio myned rhyngddynt. Nid oedd neb a feiddiai ddywedyd yn ddrwg am yr hen fwlsyn, ac nid wyf yn meddwl fod Dic wedi teimlo gronyn o barch i neb erioed, ond i Morgan Jones.

Yr wyf yn cofio yn dda am ddau dric drwg o eiddo yr hen asyn. Yr oedd un o’r plwyfolion - Dafydd Rhys wrth ei enw, wedi dyfod i gynorthwyo i dorri glo am wythnos neu bythefnos yn y gaeaf, pan oedd galwad mawr am lo yn y wlad. Yr oedd Dafydd un diwrnod wedi cychwyn gyda Dic a’r ddram allan yn gynnar y prynhawn. Yr oedd Morgan Jones wedi rhoddi caniatad iddynt i ddechrau eu taith tua golau dydd. Aethant allan yn gysurus ddigon. Aeth Dafydd Rhys at ei ginio o fara a chaws, a Dic at ei wair i’r lodge; ac wedi bwyta a gorffwys tipyn, paratowyd i ailgychwyn i mewn i’r lefel. Ond tybiai Dafydd fod arwyddion o anfoddogrwydd mawr tua chymdogaeth clustiau Dic. Aeth ato yn araf, gan feddwl cydio yn ei ben, a’i arwain i ddechrau ei daith danddaearol. Gostyngodd Dic ei glustiau, a chododd ei flew i fyny fel llew rheibus, ac aeth yn pitch battle rhwng Dafydd a Dic. Dafydd a gafodd y llawr gyntaf, a cheisiodd Dic gael mantais trwy ei gicio ar y llawr. Yr oedd Dafydd yn gweiddi yn ofnadwy. Parhaodd y storm am tuag awr o amser. Llwyddodd Dafydd i gael cymorth i blygu Dic i gychwyn yn ôl i’r talcen glo, lle yr oedd Morgan Jones yn aros wrthynt. I (x37) mewn yr aethpwyd, ond ni chyrhaeddwyd y pen draw eto. Wedi aros yn hir am eu dychweliad, meddyliodd Morgan Jones y buasai yn ddoethach myned i edrych amdanynt, ac allan yr aeth, a chafodd y ddau mewn sefyllfa flin enbydus. Yr oedd Dafydd wedi myned allan o’r ddram, gan feddwl agor drws yr oedd yn rhaid iddynt fyned trwyddo. Gwyliodd Dic am y cyfle, a phan oedd Dafydd yn pasio ei ochr, gwasgodd Dic ef yn erbyn y glo, fel na allai na symud yn ôl nac ymlaen. Yr oedd fel teisen ddiamddiffyn, a’r lamp wedi diffodd. Pan gyrhaeddodd Morgan Jones y fan, yr oedd Dafydd yn glasu yn ei wyneb, a bron wedi colli ei anadl. Adroddodd Dafydd ei farn am Dic droeon yn y geiriau hyn:-
‘Chreda i ddim taw mwlsyn yw a, na chreda i wir, ’does dim bosib taw a, yr w i yn meddwl taw’r hen fachan i hun yw a, odw i yn wir, dyna chi.’

Y tro brwnt arall a wnaeth Dic oedd ymosod ar hen Gaseg y Llys-nant. Yr oedd Bili wedi dod i gael pwn o lo, ac wedi dod yno dipyn yn rhy gynnar. Gollyngodd yr hen gaseg i bori, - yr oedd yn hen iawn hefyd. Ym mhen rhyw ennyd, clywyd trwst yr olwynion, a gwelid clustiau Dic yn dod i’r golwg. Dygwyd y llwyth i’r llorfa, gollyngwyd Dic yn rhydd, ac aethpwyd i lanw pwn o lo. Yr oedd Dic wedi gweled yr hen gaseg yn malltgnoi tipyn o’i wair ef yr ochr draw i’r lodge; aeth yn syth ati, a chydiodd yn ei thrwyn â’i ddannedd, aeth yn frwydr erchyll, ysgrechai yr hen gaseg fel hwch dan law cigydd, a chiciai a chnoai Dic a’i holl egni. Rhuthrodd Bili i gynorthwyo yr hen gaseg, druan, ac aeth yn frwydr boethach rhwng Bili a Dic nag oedd rhwng Dic a’r gaseg; syrthiodd Bili dros y brincyn i’r Nant Fach, a chododd Dic ar ei draed blaen ar ei ysgwyddau, ac erchyll oedd gwaedd Bili ar ei wyneb yn y dwfr.

‘Paid y bal d...l’- ‘Paid y Bal d...l, ..... ’nai di!’
Er fod sefyllfa Bili yn un lled beryglus, yr oedd chwerthin wedi cymryd meddiant o bawb, fel na fedrent symud llaw na throed i’w waredu. Ond diwedd y stŵr oedd (x38) rhoddi curfa ofnadwy i Dic, a Bili yn gweiddi,

‘Beth i chi gwell? Mae i grôn e fel lleder! y Bal y d...l!’

Ymddengys y pethau hyn yn ysmaldod ffôl iawn i rai, fe ddichon. Ond i’r rhai sydd yn cofio am yr amser hwnnw, ni fydd yr ysgrif ond galw i gof droeon digrif a ddigwyddodd o gylch llorfa lo’r Mynachdy yn lled debyg i’r modd y disgrifiais hwynt. Yr oedd enwogrwydd Dic mor fawr yn y plwyf, fel mai teg yw rhoddi tipyn o hanes ei fywyd.
Nid oedd neb yn gwybod oedran Dic. Yr oedd yn Matriarch y llwyth asynol yn ddiau. Gwerthwyd ef yn ei hen oed i fyned i weithio i un o byllau glo Cefnpennar. Beth a ddaeth ohono Dic, druan? Yr oedd William, Tyn-y-wern, a Dic wedi cysgu llawer noswaith ynghyd yn y lodge; ac yr oedd William yn tribannu weithiau. Canodd feddargraff i Dic. Ond credaf fod Wil wedi marw o flaen Dic wedi’r cwbl, ac mae beddau y ddau yn llwyr anghofus. Wele y beddargraff

Y mwlsyn gwaetha’i dymer
A fu erioed o’r hanner;
Fe gnodd, a chiciodd fwy na’i lwyth
Anystwyth yn ei amser.

Os bydd ef farw rywbryd,
Y cythraul pendew enbyd
Rhowch ei ysgerbwd brwnt i’r brain,
A’i groen i chwain Llanilltud.

Cafwyd llawer o ddifyrrwch wrth ddyfod ynghyd i Lorfa’r Glo. Yr oedd trigolion mannau anghysbell y plwyf yn dyfod i gyffyrddiad â’i gilydd yno, ac yn cael tipyn o hanes y plwyf; adroddid ystori, cenid cân a thriban wrth dân y lodge. Yr oedd yn gyfarfyddfan i’r plwyf. Yr oedd ar y cyfan yn dylanwadu yn llesol arnynt. Yr oedd amser y ceffylau pynnau yn amser dedwydd; ac os oedd yn ddull anghyfleus ac anghelfydd o gludo nwyddau, nid wyf yn sicr nad oedd yn (x39) ateb y dyddiau hynny yn llawn cystal ag yw dull y dyddiau hyn yn ein hateb ninnau.

Cyrchfan arall ydoedd yr odyn galch. Yr wyf fi yn cofio clywed sŵn traed llawer o geffylau yn myned heibio yn fore iawn un adeg o’r flwyddyn. Ceffylau Daerwynno yng ngofal Siôn Arnold. Ceffylau Blaenllechau a Ffynnon-dwym, tri neu bedwar ceffyl pwn yng ngofal un dyn yn fynych. Cyrchid i odyn yr Ynys-ddŵr rhwng y Bont a’r Basin, neu i odyn Gwernygerwn, ger Trefforest, i gael calch. Mawr fyddai yr helbul weithiau, pan fyddai dwfr trwm yn afon Taf; nid oedd pont, ond rhyd i groesi yn ôl a blaen o Lanwynno i’r Ynys- ddŵr. Cofus gennyf fod y llif yn drwm unwaith, a cheffylau y Ffynnon-dwym yn rhydio’r afon, ac yn cael eu dwyn o flaen y llif. Syrthiodd y pynnau, llosgodd y calch y cydau, a bu agos i Morgan Morgan foddi, croesodd y ceffylau rywfodd, a gadawyd Morgan ar glamp o garreg fawr yng nghanol yr afon; ond gwaredwyd ef cyn hir o’i sefyllfa beryglus. Codid yn fore iawn yn adeg calchu. Yn y mannau mwyaf blaeneuig, byddai yn rhaid gadael y gwely yn fuan wedi hanner nos, ac erbyn dal y ceffylau, a rhoddi yr ystarnau a’r cydau dan y cenglau yn ddiogel, a chael dysglaid dda o fara llaeth yn frecwast fore iawn, yr oedd yn bryd trotian i gyfeiriad yr odyn. Cafwyd llawer tro digrif, a llawer chwerthiniad calonnog wrth fyned o Flaenllechau a Daerwynno dros y mynydd i lawr, weithiau ar gam tawel, weithiau ar drot gyflym, bryd arall ar garlam wyllt, yn ôl fel y byddai yr ysbryd yn cynhyrfu dynion a cheffylau. Chwerthin mawr fu unwaith pan godwyd yr hen Ifan Morgan ar gefn un o’r ceffylau i gael lift dros y mynydd; ond yn lle croesi, ffwrdd â’r ceffyl ar hyd y mynydd i lawr ar garlam ddiymatal, a’r hen ŵr yn cydio ag un llaw ym mwng y ceffyl, a’r llaw arall yn yr ystarn o’r tu ôl, ac yn gweiddi,

‘Wo Wat-Wo Wat, gwellti!’

Mae y dull hwn o galchu wedi myned allan o’r ffasiwn ychydig sydd yn cofio amdano yn awr. Daeth y cart, neu (x40) fel y dywed y Gogleddwyr, y drol i arferiad. Mae yn fwy cyfleus, ond nid
 hanner mor Gymreig a rhamantus â hen ddull y ‘ceffylau pynnau.’ Wrth ennill gwareiddiad, collir gwreiddiolder. Wrth fyned yn ffasiynol, rhaid yw myned yn llai cartrefol, ac wrth fyned yn llai cartrefol, yr ydym yn colli llawer o hynodion a difyrion y mynydd-dir.

Yr wyf yn cofio llawer o gynnwrf wrth fyned â’r gwlân i ffwrdd o Lanwynno i Bandy Machen, cartref y bardd Gwilym Ilid. Dygid gwlân y gwahanol ffermdai ynghyd at yr Ysgubor Isaf, a chymerid ef ymaith yn waggon fawr y Mynachdy, a throl neu ddwy heblaw hynny. Trefnid y gwlân yn llwyth mawr parod yn y dydd, a rhywbryd yn ystod y nos, cych- wynnid ar y daith i Fachen, ac Ai amryw o’r hen ffermwyr doniol o’r plwyf gyda’r gwlân, yn marchogaeth ar eu ceffylau bychain. Walter Nantrhysfa oedd un enwog iawn, Evan o Ddaerwynno hefyd, Twmi o’r Mynachdy, Dafydd o’r Dduallt, Siencyn Gelliwrgan, a Thomos Blaenllechau, &c.; a byddai llawer helynt ar y ffordd, ac ar ôl cyrraedd Machen, weithiau’n ddifrifol, fynychaf yn ddigrifol iawn, yn ystod y bererindod wladol hon.

Yr oedd llawer o sôn am mesmerism y dyddiau hynny, ac yr oedd yn newyddbeth yn y parthau hyn. Yr oedd ym Mhandy Machen un neu ddau yn cymryd arnynt fod yn alluog i fesmereisio pobl. Mynnai Walter Nantrhysfa gael treial ar y pwnc, a chael gan y dyn dreio ei law ar hen ddant yr oedd Walter wedi dioddef y ddannodd ynddo yn hir. Credodd y gŵr oedd yn mesmereisio ei fod wedi llwyddo i roddi Walter i gysgu, a rhywfodd rhoddodd ei fys i safn Walter, a chyffyrddodd â’r hen gilddant poenus. Caeodd dannedd Walter yn dynn am y bys, ac ni ollyngent er fod y dyn yn gweiddi yn ofnadwy! Nid yw wybyddus eto pa un ai y dyn a fesmeriodd Walter neu ynteu Walter a fesmeriodd y dyn; yr oedd mwy o olion cilddaint Walter ar y dyn nag oedd o olion mesmeriaeth y dyn ar Walter. Dyn byr, crwn, corfforol oedd Walter, yn (x41) marchogaeth ar ferlen fechan Gymreig; llawer gwaith y bûm wrth ei ysgîl ar y poni bach, yn fore iawn ar ben y Mynydd-bach a chwr Coetgae Aberaman, yng ngwylltineb y mynydd, yng nghartref hafaidd yr ŵyn a’r defaid. Byddai Walter yn disgyn oddi ar y gaseg fach, ac yn dal ambell oen gyda chymorth y ci, ac yn poeri dybaco i lygaid yr oen pan feddyliai fod rhyw ddolur neilltuol arno. Nid oeddwn ond prin wyth mlwydd oed pan grwydrwn y mynyddoedd fel hyn gyda Walter; ond y mae pob tro a roddais, a phob golygfa a welais yr amser hwnnw, mor fyw yn fy nghof â’r amser dedwydd hwnnw. Gadewch i mi roddi pennill neu ddau i Walter a’r hen ffermwyr fel offrwm bychan wrth derfynu yr ysgrif hon.

Breswylwyr hoff y bryniau gwyllt,
’Rwy’n hoffi cofio’ch troeon gynt,
Ar ôl y da, a’r ŵyn, a’r myllt
Yr aech drwy haul, a glaw, a gwynt
Ni feddech chwi ddysgeidiaeth gref,
Ond adnabyddech anian fwyn, -
Arwyddion haul, a gwedd y nef,
A si ffynhonnau dan y twyn

Deallech yr argoelion hyn, -
Proffwydech lawer am yr hin
Wrth weld y niwl ar ben y bryn,
Neu’r aber lifai fel y gwin;
Diniwed oeddech chwi, a rhydd, -
Eich Nefoedd oedd Llanwynno fad,
Cyn dyfod mwg i bylu dydd
Ac awel beraidd tir eich gwlad

Gorffwyswch, hunwch yn y tir
Mor dda a garwyd gennych gynt
Mae awel Mynydd Gwyngiil hir
Er gwaetha’r mwg yn bêr ei hynt
Murmured hon ei dwyfol si
Uwchben eich beddau wrth y Llan,
A lled obeithio yr wyf fi
Gael byth orffwyso yr un fan!


(x42)

PENNOD VI
Y CYMORTH

Arferiad arall a fu yn gyfrwng cymundeb rhwng trigolion gwahanol rannau plwyf Llanwynno ydoedd ‘Y Cymorth.’ Cymorth Lladd Gwair, Cymorth Aredig, Cymorth Medi, &c. Deuai llawer ynghyd oddi yma ac oddi draw i ddangos cyfeillgarwch a chymdogaeth dda yn y modd hwn. Yr oedd llawer o ddadlau a llawer o ddifyrrwch i’w gael yn y rhai hyn yn aml iawn. Yr oedd disgwyliad mawr yng Nghymorth Lladd Gwair am weled y cae wedi ei gynaeafu i gael penderfynu pwy oedd y gweirwr gorau, ac ystod pwy oedd y llydanaf, y wastataf, a’r decaf wedi ei thorri; a mawr fyddai y siarad a’r barnu ynghylch yr ystod wair, yr awch ar y bladur, a’r dull o sefyll yn yr ystod. Yr oedd hwn-a-hwn yn cadw gwell min ar ei bladur, ond nid oedd yn sefyll fel y dylasai yn ei ystod. Yr oedd y llall yn rhy gefngrwm; nid oedd modd iddo allu bod yn weirwr mawr, a’i gwman yntau mor hir. Yr oedd y llall yn methu yn ei gil-ystod, ac arall yn methu dod allan wrth y ‘gwrychyn.’ Yr oedd yno un yn lled gyffredin yn lled rydd oddi wrth yr holl feiau hyn, ac efe a ystyrid yn champion y gweirwyr y flwyddyn honno, er fod gan lawer un y fath feddwl uchel am ei dad, neu ei frawd, neu gyfaill neilltuol, fel na fynnai roddi y flaenoriaeth na’r clod i neb arall. Felly yr oedd Iantws o’r Lechwen yn wastad; nid oedd neb yn dyfod i fyny yn ei dyb ef â Rhys ei frawd. Yr oedd Rhys wedi bod yn weirwr da, ond wedi iddo heneiddio a gwanychu, ef oedd y prif weirwr ym marn Iantws.

‘Pwy sydd yn cario’r dorch yn y Cymorth ar Waun y Lechwen heddiw, Iantws?’
 
ebe cyfaill wrtho, pan oedd Rhys yn rhy wan braidd i droi ei bladur fel y dylasai.

 

‘O, Rhys y m’awd dwto wir,’ ebe Iantws.

(x43) Yr oedd y cynulliadau hyn yn llesol mewn llawer ffordd. Yr oedd y plwyfolion yn cael eu dwyn ynghyd, ac yn cael cyfle i ddangos eu cariad at eu cymydogion, ac hefyd i ddangos eu nerth a’u medrusrwydd fel gweirwyr ac fel medelwyr. Enwog iawn ydoedd y Nawer a’r Seither yn Ffynnon-dwym; Nawer a Phumer Gilfach-rhyd; Seither Tyle’r Fedw; Goetgae’r Gwair a Gwaun y Cawstell, Mynachdy, Gweunydd y Dduallt, a Daerwynno. Llawer tro digrif, a llawer ystori ddoniol a allwn adrodd ynghylch y rhai hyn. Ond rhaid yw i mi fyned heibio heb fanylu llawer, heblaw cyffwrdd ag enwau y gweirwyr enwocaf yn y plwyf, yn fy nghof i, y mwyafrif ohonynt wedi taflu y bladur, y rhaw a’r gaib i lawr, ac wedi myned i orffwyso ar ôl diwrnod caled o waith, hyd nes y byddo tarren yr Eglwys yn neidio oddi ar ei gwadnau yn sŵn treiddgar utgorn yr Archangel, pan ddywedir,

 

‘Ni bydd amser mwyach.’


Yr oedd Evan Rhys yn cael ei ystyried yn brif weirwr yn ei ddydd. Ef oedd tad y bardd Merfyn. John Thomas - fy nhad - un o feibion Blaennantyfedw, oedd y cryfaf a’r cyflymaf yn ei ystod a welais i erioed. Yr oedd Mr. Evans, Mynachdy, yn enwog iawn am ladd ystod o wair. Dywedai yn fynych y medrai ladd erw o wair, a chneifio cant o ddefaid yr un diwrnod. Yr oedd ei frawd William yn weirwr mawr pan fynnai dreio, ond nid bob amser y ceid gweled ei orau ef. Cyfrifid Evan Jenkins, Tyle’r Fedw, hefyd, yn un da iawn gyda’r bladur, ond ni waeth heb enwi fel hyn, oblegid yr oedd y plwyf yn magu bechgyn cryfion, cedyrn, ac anodd fuasai cyfarfod i’u gwell mewn un plwyf, pa un ai lladd gwair, medi, chware pôl, neu hela cadno a gymerid mewn llaw. Yr wyf yn cofio am un Cymorth Lladd Gwair, lle yr oedd Twm y Gof wedi cael ei wahodd i gynnull y gwair ac i fwyta cinio. Y mae llawer yn fyw heddiw sydd yn cofio Twm. Ni welwyd corff mwy lluniaid gan neb erioed; yr oedd fe derwen gron deg a dyfodd ar ganol dôl. Yr oedd yn dal hefyd, (x44) tua chwe throedfedd o hyd; ni wyddai pa faint oedd ei nerth. Gwelais gryddion yr Ynys yn peri iddo gydio yn hen boni Siencyn Buarthcapel, a’i daflu i’r clawdd du, er mwyn iddo gael y pleser o’i godi ef allan ei hun. Cododd ef allan rywfodd, ond bu agos i’r ddau foddi yn y dwfr a’r llaid yng Nghlawdd y Wern, a chafodd Twm ddau chwart o gwrw am wneud y wyrth gan Dafydd Gaerfyrddin a Jacob y Crydd, a gŵyr pawb oedd yn adnabod Wil y Gof, brawd Twm, pa mor serchus yr oedd yn edrych ar Twm wedi iddo gyflawni ei wrolwaith, a dyfod adref yn orchuddiedig â mawn a chlai y Clawdd du!

 

Fodd bynnag, yn y Cymorth Lladd Gwair y cyfeiriais ato, yr oedd cinio fawr wedi ei darparu, ac yr oedd i gael ei bwyta allan ar y Waun, ar garped o laswellt. Yr oedd yno liaws o ddarpariaethau ar gyfer y ginio, ac amrywiol ddanteithion. Yr oedd Tomos y Gof yn awchus iawn at ei ginio, ac nid ychydig oedd yn eisiau i’w ddigoni ef. Yr oedd amryw o’r bechgyn direidus yn fodlon bod heb ginio os gallent lwyddo i gael gan Twm fwyta eu rhan hwynt. Yr oedd yno wylio manwl, a rhai wedi myned mor bell â chynnig bets na allai y Gof mawr ddim bwyta wyth cinio, a thra oeddynt hwy yn siarad ac yn betio, yr oedd y danteithion yn diflannu yn gyflym, a Tomos yn edrych yn lled anesmwyth, ei wyneb yn goch, a’i lygaid yn ymwthio allan, a’i anadl yn boenus o fyr, ond nid oedd wedi rhoddi y gorau iddi eto. Yr oedd Twmi’r Potiwr yno yn gwylied yn fanwl, heb ddweud llawer eto, a gwyddai pawb oedd yn adnabod Twmi nad oedd ddiben yn y byd dechrau ei holi ef, oblegid pan holid ef, nid oedd ef un amser yn gwybod dim – ‘dim byd,’ ond os câi lonydd i arllwys ei gwd ohono ei hun, byddai ganddo budget lled dda, a llawer sylw miniog yn fynych. Yr oedd amryw yn ysu am glywed barn Twmi am ginio fawr Twm y Gof. Y cwbl a ddywedodd Twmi oedd hyn: -

 

‘Dau ddin si’n y plwyf hyn all fyta cino rwbeth yn debyg i gino, - Lewis o’r Fforest a Thwm y Gof, ond os bidd (x45) eisia cino ar Twm ar ôl y didd heddi, ’do’s neb all wed o bwy stwff y mae’i ’stymog e’ wedi gneud, y mochyn bolog trachwantis; trylwch e’, neu fe hollta yn siwr.’

 

Ei dreiglo fu raid, buwyd wrth y gwaith o rolio’r gôf am gryn lawer o’r prynhawn; a diau ei fod yn dweud fel y dywedodd bwytawr mawr o’r plwyf cymydogaethol wrth gael ei rolio ar ôl cinio,


‘O! am dreigliad fach eto.’

 

Ond nid oes angen dweud fod Twm y Gof wedi bwyta llawer cinio ar ôl hon.

Pe buasai pen Twm o wneuthuriad mor sound â’i gorff, buasai yn gawr meddyliol a chorfforol. Ond fel y digwydd yn fynych, yr oedd natur wedi gwario gormod o’i nerth ar ei gorff, fel y bu yn rhaid i’w ben fod yn llai, ac yn feddalach na’r cyffredin. Ond yr oedd pawb yn hoff ohono, ac yr oedd yn ei ffordd ei hun yn gyfeillgar, ac yn falch o gael cyfle i wneud rhywbeth dros ryw gymydog. Un o rai diniwed y plwyf ydoedd ef, a phan gyflawnai ryw drosedd, y cryddion direidus neu ryw un arall, a’i gosodai ar waith. Y mae yntau, er ys blynyddoedd bellach, gyda’r mwyafrif yng nghysgod tarren Eglwys Wynno, a’r tro nesaf y cawn ei weled, bydd ganddo gorff ac enaid heb anaf na bai; bydd ei gorff cawraidd yn cael ei breswylio gan feddwl cryf cyfaddas, a hynod fydd gweled Twm y Gof fraich ym mraich â’r angel! Ond felly y bydd yn ddiau. Treuliodd Wil ei frawd ac yntau eu bywyd ym mhentref bychan Ynys-y-bŵl, heb fyned ond ychydig iawn o olwg mwg y lle, yn ystod bywyd go hir. Diniwed iawn oeddynt. Llawer ceffyl a bedolwyd gan Wil yn ystod ei oes; ef oedd Gof y Plwyf. Gweithiodd ar ei eingion drwy ei fywyd; nid oedd ei enillion ond bychan - prin ddigon i’iv gadw yn gysurus; ond eto, yr oedd yr hen efail, a’r eingion, a’r morthwyl fel rhan ohono ef ei hun. Ni ddymunai balas gwell na’r efail, na hapusrwydd mwy na chael eistedd ar yr eingion, neu gerdded o gwmpas y pentis, yr afon, a’r ardd, heb lawer o waith i’w wneud.
 
(x46) Hoff iawn oedd ef o ystori ddigrif, ddiniwed. Lluniodd lawer ystori erbyn y deuai ei hen gyfaill Twmi Ben-rhiw â’r hen gaseg i’w phedoli. Yr oedd clywed cellweiriwch y ddau hen bererin yn ddifyrrwch mawr i eraill yn fynych yn siop y go’. Y mae y ddau yng ngro mynwent Eglwys Wynno er ys tipyn. Ni fu dau ddiniweitiach erioed yn y plwyf, na dau a llai o elyniaeth at eu cyd-ddynion, a llai o gariad at waith caled. Treuliodd Wil ei fywyd yn yr un fan hon, - Efail Ynys-y-bŵl. Ar ddiwedd ei oes trefnodd ef a rhai cyfeillion iddo ymadael, a myned i Efail Cwmclydach i weithio tipyn wrth ei bleser, ac i fod yn gwmpeini i’r hen bobl Morgan Jones a Rachel. Aeth yntau i’w wely un noswaith, gan feddwl codi fore trannoeth i gasglu ynghyd ei eiddo, a symud o hen fangre ei febyd, ei ganol oes, a’i hen ddyddiau hefyd, ond erbyn y bore yr oedd ei ysbryd wedi ffoi, a gadael ei gorff cul, tal, a thenau ar ôl i’w symud o’i hen breswyl hoffus, nid i Gwmclydach, ond i feddrod ei dadau a chwsg tawel mynwent Eglwys Wynno. Felly y bu fyw a marw William Morgan y Gof, yn efail fechan Ynys-y-bŵl.

Y morthwyl, a’r eingion, a’r efel
···Adawodd ar waelod y Cwm,
Lle treuliodd hir fywyd yn dawel,
···Er nad oedd ond bywyd lled lwm;
Mor hapus â brenin yr ydoedd
···A’i hen ffedog leder o’i flaen,
Ond huddug a lludw blynyddoedd
···Oedd wedi tywyllu ei raen.

Yr oedd, er ys blynyddoedd yn ôl, lawer o gyrchu tua’r felin i gyweirio cyrch, neu yn iaith y plwyf i ‘gwyro.’ Nid oes ond ychydig, os dim, o hyn mewn arferiad yn awr. Byddai ceirch y gwahanol ffermydd yn cael ei ddwyn - pawb yn ei dro - i’r odyn i’w grasu. Endid o geirch y gelwid ef. Y mae yn debyg mai dull arall o’r gair hanfod ydyw endid, ac y mae yn air priodol iawn i’w ddefnyddio yn y cysylltiad hwn, fel y (x47) defnyddir ef gan ŵyr Llanwynno. Dywedodd Rowlands, y gramadegwr, wrthyf droeon cyn ei farwolaeth, fod geiriau Cymraeg da iawn yn cael eu harfer yn sir Forgannwg. Llawer endid o geirch a ddygwyd i odyn melin y Mynachdy i’w grasu, a phan fyddai yr endid wedi ei throi a’i thrafod nes dyfod yn ddigon cras, yna deuai dydd y ‘cwyro.’ Byddai y ceirch yn cael ei ddwyn o’r odyn i’r felin. Rhoddid ef yn y pin, troid y dwfr ar yr olwyn neu y rhod, a gwahenid rhwng yr us a’r ceirchyn; byddai rhai yn gwyntyllu â chanfasau; rhwng dau ddrws agored y Felin, byddai un yn llanw gograu croen o’r ceirch fel yr oedd yn dyfod trwy y felin, ac yn ei roddi yn llaw Evan Phylip, yr hwn a dywalltai y gograid o flaen y gwyntyllwyr; felly, chwythid yr us neu yr eisin i un cyfeiriad, a disgynnai y gronynnau pur, neu y pillgorn, yn sypyn mawr ar lawr y felin, ac felly deuai yn fuan yn addas i’w falu i wneud blawd ceirch. Yr oedd tomen o eisin bob amser gerllaw y felin, a’r ochr arall i’r nant mae cae a elwir Singrug, neu yr Eisingrug, ac yn ddiau wedi derbyn ei enw oddi wrth oruchwyliaeth y ‘cwyro,’ pan deflid i’r cae yr eisin o’r felin.


Mae llawer yn cofio am Evan Phylip. Dyn bychan, sionc, cochlyd, yn cerdded yn fywiog; yn loyw a threfnus ei wedd bob amser, ac o’r braidd y cyffyrddai ei draed â thom a phridd y ddaear, a gwae yr hwn a ddygai draed budron i mewn i’r felin; byddai yn rhaid iddo droi allan ynghynt nag y trodd i mewn. Yn y tŷ, yn yr odyn, ac yn y felin, yr oedd yn hynod ofalus am fod yn loyw a glanwedd. Yr oedd, fel y dywedir, yn Llanwynno, ‘mor loyw â’r pin yn y papur.’ Ceid llawer o ddigrifwch wrth ei weled yn edrych.ar draed ambell glamp o lanc o’r wlad, ac yn dweud wrtho mewn llais cras cynhennus,

 

‘Anghyffredin iawn mor lân yw dy facsa di.’


Ac yna yn iselu ei lais, ac yn dywedyd yn araf,

 

‘Cera i sychu dy drâd yn y glaswellt oco, ac etrych ffordd yr wyt ti’n dansial,
y clwbyn clustgyfan; wyt ti yn ’y nghlywed i, eh?’

 

(x48) Yr oedd yn nodedig o frwd a byr ei dymer. Fflamiai fel mellten yn y fan, a gellid meddwl wrth ei weled ar y funud honno, a chlywed ei lais cryf, cynhyrfus, cecrus braidd ar brydiau, ei fod y chwerwaf o ddynion; ond dyn da, hynaws ydoedd, gonest a chywir ym mhob peth ac er ei fod o dymer wyllt, ac yn ymddangos yn gynhennus weithiau, yr oedd pawb oedd yn ei adnabod yn dda yn gwybod fod o dan y gerwindeb-arwynebol hwn lawer o natur dda ac o dynerwch gwirioneddol. Bu ef yn frenin yr hen felin ar lannau Ffrwd am flynyddoedd; yno y gwelais i ef, ac y mae ef a’r felin ynglŷn â’i gilydd rywfodd o hyd yn fy meddwl. Yr oedd yn hoff o fygyn o’r cetyn cwta,’ ac yn hoff o straeon ac o hen ganeuon a phenillion, Yr oedd hefyd yn meddu ar lais canu mwyn a pheraidd, fel y teulu oll. Mae llawer wedi sylwi fod llais y Phylipiaid yn un mwyn a pherorol iawn. Mae yn perthyn i’r teulu yn lled gyffredinol. Ni wn am un teulu y gellir dilyn y nodwedd hon ynddo am genedlaethau fel y teulu hwn. Felly yr oedd Evan Phylip o’r Felin. Clywais ef yn canu lawer tro; gwelais ef a’r dagrau ar ei ruddiau a’r gân yn ei enau ar yr un pryd, ac yr oedd mwyneidd-dra ei lais a thynerwch yr expression a roddai yn hyfryd iawn; naturiol, diorchest, perorol, ac yn disgyn ar y galon fel tyner wlith yr hafnos ydoedd ei acenion ef. Ond rhaid ffarwelio ag Evan Phylip; aeth heibio ei ddydd gwaith hir yntau. Melys ydyw cofio amdano a cheisio ei ddisgrifio. Mae rhod y felin o hyd yn troi, a Ffrwd yn neidio o Bwllycrochan dros bistyll y felin fel cynt, ac yn rhuo yn dawel ar ddiwrnod teg, neu yn brochi yn ffyrnig ar ddydd y storm a’r llifeiriant; ond distaw yw llais Iantws, gwag yw ei eisteddle ef. Ni ddaw na llif na storm na hafddydd teg, na throad rhod fawr y felin byth â’i lais ef yn ôl i’r felin a’r odyn. O chwi, awelon pêr y mynyddoedd Gwyngul a Thwyn y Brynbychan, yr ydych yn crwydro dros feddau cysegredig! Yr ydych yn byth-suo uwch gorweddle (x49) Llawer sydd yn haeddu cael eu cofio. Yr ydych yn chware o gylch clustog briddlyd llawer hen bererin doniol gynt. Ond nos da, Ifan Phylip, nos da! Hunwch chwi a Mari hun yr onest, a chyfodwch i fri uwch - uwch bri nag ‘Odyn a thelyn, a melin a maes.’



 

 

 

(x50)

PENNOD VII

FFRWD A CHLYDACH

 

Nis gwn yn iawn pa fodd y daeth yr enw cyffredin Ffrwd i fod yn enw priodol yr afon fechan gynhyrfus sydd yn ilifo o Fynydd Gwyngul i lawr i Ynys-y-bŵl , ac ar y gwastadle hwn yn ymgolli yn nyfroedd Clydach. Fodd bynnag, dyna y ffaith. Ffrwd yw enw priodol yr afon hon, fel y mae y llall yn Glydach, neu y llall ar derfyn dwyreiniol y plwyf - Taf. Rhaid fod rhyw arbenigrwydd yn perthyn iddi cyn i’r hen bobl ei galw ar wahan oddi wrth ffrydiau ereill, ‘y Ffrwd.’ Dichon nad oeddynt yn ystyried y ffrydiau eraill o Daf i’r mynydd yn deilwng o’r enw, ac mai cornentydd bychain yr ystyrient y lleill, sef Cynin, Nant y Nawer, Nant Tyn-wern, a Nant y Mynachdy, ac fel enw o ragoriaeth arnynt galwyd hon ‘ Ffrwd.’ Y mae yn hynod am oerni ei dwfr. Y mae yn llawer is ei thymheredd na Chlydach, dichon fod yn hawdd rhoddi cyfrif am hyn. Nid yw ei gyrfa o’i tharddiad ym mlaen Ffrwd, ar y Mynydd Gwyngul hyd ei hymarllwysiad i Glydach, wrth bont Ynys-y-bŵl, ond byr. Nid yw yn cael amser i glaearu yng ngwres yr haul, wrth redeg rhwng ei cheulannau i’r Cwm; hefyd y mae ei gwely yn cael ei gysgodi gan goedydd yn agos yr holl ffordd, ac y mae llawer o ffynhonnau oer eu dyfroedd yn ymdywallt iddi yn ystod ei thaith fer o’r mynydd i’r Cwm. Hynodir ei tharddiad hefyd gan fawndir pyllog, a thyllau dyfnion a pheryglus. Lle drwg iawn fyddai blaen Ffrwd i deithiwr ymgrwydro iddo yn ystod y nos. Llawer gwaith wrth groesi y mynydd y bu arnaf ofn Blaen Ffrwd. Y tyllau erchyll, a’r mawnbyllau, na ŵyr neb pa mor ddwfn ydynt, a llawer ‘sugn-di-figen’ yn chware fel tyweirch ar wyneb llyn, sydd yn gwneud Blaen Ffrwd yn lle i’w ochelyd yn y dydd niwlog, ac hefyd yn y nos ddiloergan. Y mae yno un (x51) pwll lled enwog, oblegid llyncodd fastardd mul a llwyth mawr o goed glo ar ei gefn, na welwyd blewyn ohono fyth. Yr oedd y mulod yn dwyn eu llwythi coed i lawr dros y mynydd, ac aeth un ohonynt dipyn oddi ar y ffordd, gan feddwl cael cildamaid gwell na chyffredin, a suddodd dros ei ben i’r pwll, ac yno y mae hyd heddiw; yr oedd John y cariwr yn adrodd yr hanes a’r dagrau ar ei rudd pa fodd yr aeth y mul oddi ar y llwybr, y mulyn gorau ohonynt oll, a pha fodd ‘yr aeth y creadur bach i dragwyddoldeb mewn munud.’


Yn ddiau pe gellid cloddio i lawr trwy’r mawn, ceid fod y bastarddful a’i lwyth yn well preserved, oblegid nid oes perygl iddo bydru yn fuan yn y dwfr a’r mawn. Ym mhen oesoedd i ddyfod, dichon y bydd rhyw ddaearegwr enwog yn gwneud darganfyddiad mawr, ac yn cael fossil gwych o’r ‘creadur bach aeth i dragwyddoldeb’ mor sydyn ym Mlaen Ffrwd. Yn agos i darddellau Ffrwd y mae ffynnon gyffelyb o ran natur a blas ei dyfroedd i Ffynhonnau Llanwrtyd. Bu cryn dipyn o gyrchu iddi er ys blynyddoedd yn ôl, ond nid oedd y ffynnon mewn gwedd drefnus pan welais hi ddiwethaf; yr oedd mewn perygl o gael ei cholli yn y glaswellt a’r brwyn ar y mawndir. Gwelais un hen wreigan o’r plwyf yn yfed pedwar gwydryn ar hugain o’r dwfr; nis gwn ar ba egwyddor yr oedd yn gwneud hynny, os nad egwyddor y kill or cure. Fodd bynnag, yr oedd yn dangos yn eglur nad oedd dim drwg yn y dwfr, beth bynnag oedd y daioni oedd ynddo, oblegid bu yr hen wraig yno droeon wedi hynny yn cael yr un nifer o wydrau o’r dwfr.

 

‘Diolch i Dduw am y dŵr,’ meddai hi.

‘Ie,’ meddai un arall, ‘ ac am ddigonedd ohono.’


Yn agos i’r ffynnon, ac i Flaen Ffrwd, y saif tyddyn bychan o’r enw Rhydygwreiddyn. Hen dŷ cefngrwm, fel pe buasai wedi cael anap trwy dorri asgwrn ei gefn er ys oesoedd yn ôl, ydyw, o dan lwyth mawr o do gwellt - nid anturiaf ddweud gwellt pa sawl oes sydd yn gorwedd yn haen ar haen ar hen geibr Rhydygwreiddyn. Clywais yr hen ŵr, Mr. Morgan (x52) Jones, Rhiwyrychen, yn dywedyd mai yn y lle hwn y

cynhelid moddion cyhoeddus pan ddechreuodd Anghydffurfiaeth yn yr ardal. Yr oedd sefyllfa’r wlad mewn gwybodaeth, moesau, a chrefydd yn dra isel yr adeg honno. Dywedir fod y crefyddwyr yn cyfarfod â’i gilydd yn Rhydygwreiddyn, a’u bod wrth ymdrin yn y seiat un noswaith a’r geiriau,

 

‘Rhedwch yr yrfa a osodwyd o’ch blaen, ‘

 

 wedi dod i’r penderfyniad i redeg o amgylch gwaun Rhydygwreiddyn er mwyn cyflawni y geiriau, ac ennill hawl i fywyd gwell a pherffeithiach! Yr oedd Morgan Jones dros 8o oed pan adroddodd wrthyf am hyn, ac yr wyf yn meddwl iddo ddweud mai ei dad-cu oedd wedi dweud wrtho ef iddo eu gweled,

 

‘a bod rhedeg ofnadw budr yno.’

 

Yr oedd crefydd yn ei babandod yn Llanwynno yn ddiau y pryd hynny, ond daeth yn fuan i’w thwf, oblegid magwyd glewion yn y lle wedi hynny.


Y mae yn werth i ni ddilyn Ffrwd i lawr ar hyd ei gyrfa o’r mynydd drwy y cwm i’r pantle, lle y cyferfydd â’i diwedd. Disgyn hi o’r mynydd heibio i droed Melin-y-cwrt, i lawr i Gwm Downs, trwy le cul, cyfyng, a golwg lled ddieithriol. Mor unig, mor ddigyffro, er fod yno wylltineb ar wedd anian. Ochr Ceulan y Mynachdy, a llethr goediog Coetgae y Fanhalog yn bwrw eu cysgodion ar Ffrwd, ac yn ei chadw i lawr yn y tywyllni wrth eu traed i weithio ei ffordd trwy y mieri, a’r drain, a’r drysni, ac i frochi yn lled gynhyrfus yn y trobyllau yma a thraw, a cholli ei thymer wrth amgylchu ambell hen garreg fawr, neu ruthro dros ei phen, ac yna yn disgyn gydag ysbonc i ddwfn-bant, ac yn yswilio dan y ceulannau, a ffwrdd i hi trwy yr hen ‘Olchfa,’ gan furmur cerdd dan frig y derw, a llonni tipyn fel y nesa i lawer at ben isaf Craigyrickets, heibio i’r Bontbren-Arthur, ac yna sudda i dipyn o bruddglwyfni o dan darren y Glwyd Drom, a’r hen Goeden Fawr dan lwyth o iorwg yn ysgwyd ei breichiau bygythiol uwchben y dwfr, sydd ar amser llifeiriant yn ymosod (x53) yn nerthol ar yr hen graig, ac ar yr hen geubren sydd yn gorwedd dan y darren er ys llawer blwyddyn. Oddi yma heibio i Ffynnon Illtud, a thrwy Olchfa Buarthcapel a Chwmfelin ar ei phen i Bwllycrochan, lle y berwa yn gyffrous o dan un o’r meini mwyaf yn y wlad; ac yna wedi gadael Pwllycrochan, a Llun-troed-Arthur, o dan Bont y Felin, a rhoddi benthyg tipyn o ddwfr i droi y rhod, neidia yn orwyllt fel gorffwyllddyn yn bloeddio, wrth ysboncio dros y graig i lawr i Bwll y Felin, a ffwrdd â hi yn llidiog a digofus heibio i’r Ardd Isaf a Gardd yr Efel, gan ymwylltu tipyn o flaen Aber-ffrwd, ac yna yn sydyn llyncir hi ar un traflwnc gan Afon Glydach, a therfyna Ffrwd ei rhawd erwin. Fel llawer pererin, ni chafodd ond taith arw o ben bwy gilydd; gyda’i bod wedi dianc o byllau y mynydd, y mae yn nhywyllwch Cwm Downs, a chyfyngle y Geulan, ac felly o bwll i bwll, ac o rwystr i rwystr yr â, nes yn yr aber paid ei thwrw hi byth. Nid oes gobaith i lawer un ohonom ninnau gael tawelwch ac esmwythfyd, hyd nes yn yr aber y paid terfysg bywyd, pan groeswn linell amser, pan derfyna rhawd bywyd, -

Pan fyddo prynhawn hyn o fywyd yn nesu,
A’m huan ar fyned i lawr!

Dichon y byddai yn fuddiol i ni fyned i lawr dipyn, gan ein bod wedi dyfod i Aber Ffrwd. Cychwynnwn gyda glannau Clydach, ar y llaw aswy mae Caebachybedw yn ffinio â’r afon, ac yn ffurfio gyda’r Ynysoedd, odre tir Tŷ-draw, neu Gilfach Glyd. Y mae rhai yn fyw sydd yn cofio yr hen Dŷ-draw, ei furau a’i do yn wyn fel eira, oblegid yr oedd yn cael ei wyngalchu o’r brig i’r bôn bob blwyddyn; ond prynwyd y lle gan y diweddar Mr. D. Edwards, a chodwyd tŷ newydd gwych a chollwyd yr hen Dŷ-draw yn y Gilfach Glyd newydd. Trawsffurfiwyd y lle - y tir fel y tŷ i wedd arall dan oruchwyliaeth (x54) rymus ei berchennog newydd. Plannwyd coed yn y pantleoedd dryslyd a digynnyrch, ac ar yr hen dwyni llwydion, a cheulennydd oedd wedi bod yn hir yn ddirinwedd, ac erbyn hyn y mae y lle yn orchuddiedig â choed deiliog prydferth. Ychydig neu ddim o’r hen le sydd i’w ganfod oddieithr yr hen ysgubor; saif hi yn yr un man, ac yn agos yn yr un modd a’r dyddiau gynt, wrth odre y Talar-gwyn, ar fin Hewl Ifan Hywel, wedi ei thoi â cherrig llwydion, ac yng nghanol y cyfnewidiadau yn aros yn Gymreigaidd ei golwg, ac fel yn protestio yn erbyn y pethau ifainc a newydd sydd yn codi o’i hamgylch ar ffurf llawer o goedydd. Nid yw Gwaun Tŷ-draw i’w chael mwyach. Yr ydys yn ei chofio fel lle enwog am ‘wair mân.’ Lle gwlyb, mawnog, a’i blewyn yn fyr ac yn sur oedd y Waun hon, ond cloddiwyd hi, a rhoddwyd iddi achles amaethyddol, a daeth yr anialwch yn ‘ddoldir’ cnydiog. Gwnaeth Mr. Edwards welliannau mawrion yn ei ddydd. Trodd ef hen dir garw y Tŷ-draw yn dir ffrwythlon, a gwedd baradwysaidd arno. Ond y mae Maes-y-gaer yn aros agos fel yr oedd. Diau ei fod yn naturiol cadw yr hen gaerfa hon heb fyned dan gyfnewidiad mawr. Arni hi yr ymladdwyd mwy nag un frwydr chwerw. Yr oedd yn sefyllfa dda iawn i fyddin. Yma y gwersyllai byddin Cymry y Blaenau, pan ddaeth y Normaniaid i fyny drwy ddyffryn Taf. Gorchfygwyd hwynt yma, ac ym mhellach draw ym Mhlwyf Gelli-gaer, ac nid enillodd y Normaniaid fawr safle allan o fro Morgannwg; pan ddeuent i’r Bryniau, yr oedd ‘ gŵyr y ceffylau bychain’ yn rhy galed a chwim iddynt allu eu trechu yn llwyr. Bu Owen Glyndŵr a rhan o’i fyddin yn gwersyllu ar Faes-y-gaer; cafodd wrthwynebiad cryf gan rai o wŷr Morgannwg yma, ac mae beddau y cwympedigion yn amlwg yma heddiw, ac yn gorchuddio Gwaun Tyle’r Fedw. Os caf ganiatâd, mi a agoraf rai ohonynt yn fuan. Bydd yn angenrheidiol gwneud ymchwiliadau eraill o gylch Maes-y-gaer. (x55) Gelwir y ffordd fawr sydd yn arwain o Ynys-y-bŵl tua’r Basin, tros grib Maes-y-gaer, yn Hewl Ifan Hywel, oddi wrth un o’m hynafiaid, un o Howeliaid Cwmcynon, a disgynnydd ydoedd o un o’r ddau frawd fynach y soniais amdanynt o’r blaen. Yn nyddiau Ifan Hywely gwnaed ffordd blwy’gyntaf o’r Ynys i Ben-twyn, ac o dan ei arolygiaeth ef y cyflawnwyd y gwaith; ac er ei fod ef wedi myned ymaith ers llawer cenhedlaeth, erys ei enw fyth yng nglŷn â’r heol hon. Cafodd fath o anfarwoldeb yn y ffordd hon, ac am a wn i, y mae y ffordd yn gystal monument â marble, ac efallai yn well ac yn fwy parhaus. Cerfiwyd enw Ifan Hywel ar y ffordd fawr, ac y mae traddodiad a llafar gwlad yn ei ddarllen, ac yn ei gadw yn fyw o oes i oes. Ond rhaid myned yn ôl tuag afon Clydach, ac ymadael â’r Gilfach Glyd gydag un gair o goffadwriaeth am y diweddar berchennog. Dyn cryf, synhwyrol, a galluog oedd Mr. Edwards, efallai gryn dipyn o flaen ei oes, hynny yw, yr oes yn y wlad. Ond gwnaeth lawer o ddaioni yn ei ddydd, ac mae gwedd newydd y tir yn aros o’i ôl yn dystiolaeth fyw i’w fedrusrwydd fel diwygiwr amaethyddol, a’i benderfyniad gwrol a di-droi-yn-ôl er pob rhwystrau. Dyn mawr o ran gorff hefyd ydoedd ef. Pan fyddai yn gynhyrfus ei natur eisteddai cwmwl du mawr ar ei aeliau, a gellid gweled y cwmwl hwnnw yn araf ymsymud gyda duwch trymllyd dros ei wynepryd; ni welais neb erioed ag expression ei wynepryd mor hynod. Pan fyddai mewn tymer dda, ymloywai ei wyneb, ac serchai drosto fel dôl o dan dywyniad hyfryd haul. Pelydrai bywyd a serchogrwydd o’i lygaid, ac eisteddai hawddgarwch yn lle cwmwl du ar ei aeliau mawrion, meddylgar; adroddai stori ddoniol, chwarddai yn iachus, ac ailchwarddai, a’i chwarddiad yn treiglo fel ton fawr nes cyffro atseiniau cyffelyb o amgylch, ac yntau yn ymfoddhau ac yn ymlonni yn eu sŵn. Yr oedd yn gryf fel Samson, ond yn dyner fel geneth. Ymgynhyrfai yn nwydus a digofus, ond ymdoddai ac ymdynerai (x56) fel cawod Ebrill, ac nid oedd ei nwyd wyllt ond dangoseg o gryfder ei natur ac angerddoldeb ei deimlad. Pennill da, hanesyn diddorol, emyn dwy-deimlad, a chyfeiriad cydwybodol, a’i toddai yn swp, a gwelid llif o ddagrau brwd yn ymdywallt o’i ddau lygad mawr a threiddgar. Er ei afrywiogrwydd ar brydiau, nid adnabûm i neb â chalon gynhesach, fwy gwlatgar, a mwy Cymroaidd nag ef. Nid oedd bob amser yn cymryd y gofal mwyaf pa fodd y siaradai, a pharai hynny i rai feddwl ei fod yn ŵr traws a gormesol, ond nid felly yr oedd. Yr oedd yn casáu rhagrith, ac yr oedd yn berffaith wyneb-agored, ac ni phetrusai ddweud ei feddwl yn eglur, heb wneud gwahaniaeth rhwng brenin a chardotyn. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, ac yn fyfyriwr parhaus. Yr oedd ei wybodaeth yn eang, a’i gof fel trysorfa gyfoethog o bob peth. Yr oedd yn Gymro dysgedig, yn Gymro gwlatgarol, ac yn Gymro trwyadl.


Hoffai yr iaith, carai awen, a hanner-addolai wlad ei dadau. Ow! ow! nid yw ef yma. Gwelir profion o’i feddwl o amgylch y Gilfach Glyd, ond ‘ei le nid edwyn ddim ohono ef mwy.’ Diau ei fod wedi gadael cyfansoddiadau da ar ei ôl. Cyhoeddodd rai darnau yn amser ei gyfaill mynwesol, y diweddar Alaw Goch. Gwag yw y Tŷ-draw hebddo. Gofidus gennyf feddwl ei fod wedi ei symud o’i gadair fawr yn y Gilfach Glyd i’w wely argel ym mynydd-dir Gwynno. Pa beth a wnaf? Ai wylo ar ei fedd? A fyddai yn rhyw rinwedd i mi sefyll a thywallt ffrwd o ddagrau calon ar ‘fan fechan ei fedd? ‘ Na fyddai! Man cysgu ydyw hwn! Ewch yn ddistaw barchus at ymyl ei fedd; plennwch flodau yno a fyddo yn sirioli trymder y fynwent, yn llonni pruddglwyfni yr hen ywen, ac yn siarad fel y sieryd blodau am ‘ddydd gwell,’ am doriad gwawr, am fore o haf digwmwl, am etifeddiaeth well a pharadwysach na’r un a adawodd, am gynhesach hinsawdd na’i hoff Gilfach Glyd, am ‘fywyd ac anllygredigaeth yn y (x57x) goleuni.’ Yn iach i Dafydd Edwards, nid oes eisiau rhoddi Yswain ar ôl ei enw. Good bye. Esmwyth hûn a gaffo i fwrw ymaith ei flinder, a chyfodiad gloyw yn y bore pan fyddo

Dorau beddau y byd
Ar un gair yn agoryd.

 

(x58)

PENNOD VIII
HELA

 

Hela wiwer oedd difyrrwch i lawer yn y plwyf gynt, yn enwedig ar.ddydd Nadolig. Yr wyf yn cofio y tro cyntaf erioed i mi gymryd rhan mewn hela gwiwer. Bachgen bychan oeddwn. Yn y bore am bump o’r gloch yr oeddem oll yn y Pylgain yn yr hen gapel, oblegid bore Nadolig ydoedd. Yr oeddwn yn adrodd pennod i ddechrau y cyfarfod. Yr oedd yr hen gapel wedi ei addurno â chanhwyllau o bob math a lliw, a’r rhai hynny wedi eu gwisgo gan y merched mewn modd prydferth iawn. Yr oedd rhes o ganhwyllau wedi eu gosod o gwmpas y sêt fawr, a rhes o gwmpas y seti eraill, oll yn addurnol iawn; a Daniel Rhydygwreiddyn, Shadrach o’r Lechwen, a William Llwynperdid wedi gwneud math o chandelier o glai ffynnon y Fanhalog, a’i hongian a chadwyn hir wrth dop y capel neu y nenfwd yng nghanol y lle. Yr oedd yn brydferth ac yn hynod iawn. Yr oedd yn ddarn o gywreinrwydd, a mawr y syllu arno a’r sôn a fu amdano. Yr oedd yr hen gapel yn orwych iawn, ac mor olau ag y gallasai canhwyllau ei wneud. Mae yn awr yn bryd dechrau y cyfarfod. Rhoddir emyn allan gan Joseph Davies, - ‘Wele cawsom y Meseia,’ &c., yna adroddais innau fy mhennod a ddysgodd fy mam i mi. Yna rhoddwyd emyn allan gan George Davies, -

Tair, tair,
Arglwyddes feichog dda eu gair,
Arfaeth, addewid, ac hefyd Mair, &c.

Canu bywiog iawn. Ond cododd Richard Williams ar ei draed i dorri pen un o’r canhwyllau a oedd yn llosgi dipyn yn dywyll. Pawb yn edrych ar y gannwyll, ac yn ofni i rywbeth (x59) ddigwydd i’r frills ardderchog o’i chwmpas, a rhywfodd  mae Richard yn lled drwsgl gyda’r gwaith o’i thacluso, ac ar unwaith, mae y papur a’r addurnwaith yn ffaglu, ac yn ffurfio math o goelcerth yn ymyl yr hen gwpwrdd, ac mewn ychydig eiliadau mae cannwyll addurnedig Mari Tynewydd wedi llosgi allan, a lludw’r papur yn hofran uwchben drwy y capel, a Mari Tynewydd ac Ann merch Richard yn gwneud golwg chwerw, ac yn edrych yn ddicllon ar yr hen ŵr am ddifetha ‘r gannwyll cyn pryd. Wedi i George Davies weddïo, dyma Siencyn Buarthcapel yn rhoi emyn allan i’w ganu, yn ei ddull gwledig ei hun. Yr emyn oedd hwn, -


Mewn bywyd mae gwasnaethu Duw,
Dydd gras ac Iachawdwriaeth yw,
Tra dalio’r lamp i losgi ma’s
Yr adyn gwaethaf all gael gras.

Pawb yn meddwl pe buasai yn ‘llosgi maes ‘ cyn gynted â channwyll Mari Tynewydd, mai siawns wael fuasai i lawer un. Gwên ar wyneb pawb, a Siencyn yn gwneud gweddi fer, ac yn sôn mai ‘gwell oedd ci byw na llew marw.’ Yr oedd hyn yng ngweddi Siencyn yn wastad, ac hefyd diolchai am grefydd,

‘oblegid,’ meddai ‘ond busa crefydd bwswn wedi briwa ’nghorff a’m hesgyrn yn rags cyn hyn! ‘

 

Yna dibennu, fel y byddai Siencyn bob amser gydag ‘Omen’ mawr, oblegid nid oedd ganddo ef un amser Amen.


Allan yr aethpwyd o’r Pylgain; a chlywais amryw o’r bechgyn a’r dynion ieuainc yn siarad am gyfarfod â’i gilydd ar ôl brecwast, i gael hela gwiwer yng ‘Nghoed Tyle’r Fedw a Choetgae Siasber.’ Penderfynais innau ddianc gyda’r lleill, a myned am y waith gyntaf i’r coed ar ôl y wiwer. Ffwrdd â ni ac erbyn cyrraedd i blith y derw mawr uwchben yr hen Bandy, yr oedd yno dorf go fawr ohonom, yn blant, yn hogiau cryfion, yn ddynion ieuainc, a rhai hen ddynion. Yr oeddwn i a William Jones, Clotch, William Phillips, William o’r Rhiw, (x60) Dafydd Cribyn-du, John Morgan, o’r Lan yn awr, Daniel Rhydygwreiddyn, a Rhys o’r Lechwen, a’r ci Coryn; a chyn hir daeth atom Siams Llwynmelyn a’r ast Fury. Yr oedd Morgan Rhys yno hefyd wedi cael gafael ar y ci Ship o Dyle’r Fedw. Ar ben y Darren uwchlaw y Pandy, - dyma rywun yn gweiddi, ‘Ha, wiw! ha, wiw!’ ac mewn eiliad dyma gyffro mawr a gweiddi a rhedeg at fonau y deri cedyrn, gan daflu cerrig, a darnau o goed i’r brigau ar ôl y wiwer hithau yn neidio o frigyn i frigyn, o dderwen i dderwen gyda rhwyddineb mawr. Ymaith â ni rhwng y tarennydd, trwy y coed, a’r wiwer yn ysboncio rhwng y brigau nes peri i’n calonnau ninnau lamu gyda hi. Bu tipyn o anffawd yn awr, trawodd Siams Llwynmelyn ei droed yn erbyn carreg, a syrthiodd i lawr, ond ni fu lawer gwaeth er hynny, ond rhoddodd achos i Dafydd Cribyn-du siarad cryn dipyn, a chafodd lawer cerydd gan Siams, cyn i ni ddal y wiwer gyntaf Ond anghofiwyd y cwbl yn fuan.


Yr oedd y wiwer wedi dringo i frigyn uchaf un o’r derw talaf yn y goedwig, ac wedi aros yno; nid oedd modd gwneud iddi symud. Penderfynwyd gyrru Daniel Thomas, a phren yn ei law a llinyn arno, i geisio ei roddi am wddf y wiwer a’i dal felly. Dringodd Daniel braidd fel gwiwer arall hyd nes yr oedd o fewn cyrraedd ati, ac estynnodd ei bren a’i linyn dolennog ati. Ond yn hytrach na chymryd ei chrogi fel hynny, penderfynodd y wiwer roddi ysbonc arall, gan feddwl yn ddiau gyrraedd i frig derwen y tu arall i’r clawdd, a dianc ar ei gelynion, ond methodd yn rhywfodd â chyrraedd ei nod, yr oedd wedi blino, neu llithrodd wrth gymryd ei llam, a disgynnodd, i ba le? Gwelwyd hi yn llithro drwy y brigau i lawr i ganol y dynion a’r cŵn, ond pa le yr aeth? Nid oedd pigwrn nag asgwrn ohoni i’w weled. 

 

‘Yn enw’r annwyl, i ble’r aeth y creadur? ‘ meddai un.

 

‘Pwy gwelws hi ddiwethaf?’ ebe’r llall.

 

‘Ym mha le y disgynnws hi? ‘ ebe un arall.

 

‘O fi weda wrtho chi,’ ebe Siams Llwynmelyn, ‘b’le (x61) disgynnws hi, ym mola hen Ship Tyla’r Fedw, fe llyncws hi yn gyfan!’ 

 

Ac felly y digwyddodd mae’n debyg. Yr oedd yr hen gi a’i safn yn agored, pan ddisgynnodd y wiwer o’i sedd uchel, a syrthiodd i fol yr hen gi fel maen i lyn. Bu llawer o hela drachefn cyn diwedd y dydd Nadolig hwnnw, a’r unig beth tebyg i ffrae yn ystod y dydd fu rhwng Siams a Rhys o’r Lechwen. Yr oedd Rhys yn tueddu i anghredu yr hyn a ddywedodd Siams yng nghylch llynciad y wiwer gan yr hen gi, a syrthiodd William o’r Clotch, dros bontbren y Pandy i’r afon, a chafodd chwipsi gan ei famgu am wlychu ei ddillad, ac yr wyf braidd yn meddwl i minnau gael chwipsi am ddianc o’r tŷ i hel y wiwer. Mae amryw, ie, y nifer mwyaf o’r rhai a gymerodd ran yn yr helfa hon wedi gorffen eu rhawd ddaearol, a myned i orffwys i gŵys y bedd.


Mae un dydd Nadolig arall a’i weithrediadau yn fyw yn fy nghof. Yr oedd disgwyliad mawr am ddyfodiad y Nadolig hwn, oblegid yr oedd rhedegfa led bwysig i fod rhwng un o fechgyn Llanwynno ac un o fechgyn Mountain Ash.
Yr oedd sôn mawr yn y plwyf am y race oedd i fod ar Gefnyrerw ddydd Nadolig. Yn wir yr oedd yn bwnc y siarad cyffredinol gan y plant, yr hen wragedd, a’r dynion. Yr oeddynt i redeg am amryw bunnoedd yr ochr, os wyf yn cofio yn iawn; ac yr oedd pobl y plwyf yn barod i anturio llawer o arian ar draed eu rhedegwr. Yr oeddynt yn credu ei fod yn fuandroed; ond ni wyddent pa beth a allai llanc y Mountain Ash ei wneud yn y cyfeiriad hwnnw. Fodd bynnag rhaid oedd bod yn blwyfgar, a betio, a gweiddi gymaint fyth ag a fedrent gyda’u dyn. Daeth y dydd, yr wyf yn ei gofio yn dda, ac yn cofio gweled y lluoedd yn tynnu tua Chefnyrerw o gyfeiriad Mountain Ash. Lliaws yn tyrru o’r Ynys, a rhannau eraill o’r plwyf, yr hen ŵyr a’r hen wragedd yn dyfod yno yn llawn brwdfrydedd - Morgan o’r Cwm, Siôn Bach Tynygelli, a llawer eraill. Wel, mae’n bryd cychwyn Ond mae yn rhaid gorffen rhoddi yr arian i lawr - y lay - pa le y mae Thomas Meyrick?



===========================(x062)

Nid yw wedi dod eto?
Mae ef yn un sy’n rhoddi arian o blaid bachgen Llanwynno.  Pa le y mae? O dyma fe’n dod yn rhedeg yn chŵys mawr, ac yn gofyn   

‘Pwy rydd fenthyg arian i mi?
Mae meistres wedi pallu âg arian i mi heddiw!’  

Yr oedd arni hi ofn iddo golli ei bres mae yn debyg.  Fodd bynnag, cafodd fenthyg yr hyn oedd arno eisiau. 
Trefnwyd y cwrs, cliriwyd y ffordd.  Tynnwyd blewyn cwta am yr ochr. Thomas Morgan (Adi) a Thomas Meyrick, yr wyf yn meddwl, neu fe ddichon Morgan Morgan, yn dal y neised ar ben y tir. Siôn Jones yn cychwyn y ddau redegwr.  Bloedd fawr! 

 ‘Dyma nhw off!’    

‘Cerdd Llanwynno!’     

‘Nage! Mountain Ash sydd ar y blaen.’  

‘Sweet y Mount.’  

“Nawr Wil bach off i ti 1    O’r bach
âg e, mae e wedi pasio’r Mount Cer’ yn awr.’ Maent yn awr ar hanner y ffordd, a Llanwynno o’r blacn, ac yn rhoi arwydd i rai o’i gyfeillion ar droad y tir, ei fod yn siŵr o ennill.  Yr oedd y bloeddio yn awr wedi myned yn daranu.  Yr oedd pen y tir wedi ei gyrraedd, a Llanwynno wedi ennill, a Thomas Meyrick yn sefyll ar ben y clawdd, yn gweiddi a throi ei het o gwmpas ei ben.  Yr hen ŵr Morgan o’r Cwm, ac yntau Siôn Tynygelli, yn ymffrostio yn yr arian a enillasant ar draed eu rhedegwr.  â chyffro a chynnwrf, a llawenydd a miri y plwyf yn ddi-ben-draw, ac ym mhen ychydig o amser, fodd bynnag, cyn diwedd y dydd, yr oedd y rhedegwr wedi ennill dryll saethu ar y targed a osodwyd i fyny wrth Ynys-y-bŵl.  Mae y dryll hwnnw yn digwydd bod yn fy meddiant yn awr.  Bydd amryw o’r hen gyfeillion sydd ar wasgar yma a thraw ar hyd wyneb y ddaear yn cofio y rhedegfa, a’r targed, os digwydd i’r ysgrif hon ddyfod ger eu bron i’w hatgofio am y Nadolig hwnnw yn Llanwynno. Nid oes niwed mewn myned ar ôl hen bethau fel hyn, er nad ydynt ond pethau plentynnaidd; ond ‘ hoff yw cofio’r amser gynt, -yr hen amser gynt.’ Dichon yr esgusodir fi am roddi hanes helfa a fu yn y plwyf pan oeddwn yn fachgen lled fychan, ond yn ddigon mawr i 

 =========================== (x063)  

gymryd diddordeb mawr mewn hela cadno.  Yr oedd Siôn yr Heliwr-john Jones, o Gwmelen-deg-wedi chwythu yn ei gorn, a galw ynghyd yr helgwn o wahanol gyfeiriadau nos o’r blaen.  Yn y bore yr oeddem yn cychwyn tua Tharren-y-foel i chwilio am y llwynog.  Yr wyf yn cofio y bore yn eithaf da; nid oedd yn fore clir iawn, tipyn yn gymylog ydoedd, ond tawel iawn heb nemor wynt yn chwythu o un cyfeiriad; yr wyf yn meddwl fod y gwynt yn llechu yn hytrach yn y gorllewin.  Fodd bynnag, yr ydym yn cychwyn, ac yn cyfeirio ein traed tua’r Darren, lle y lletyodd miloedd o lwynogod o bryd i’w gilydd.  Dyma ni yng Nghwmyrynys; y mae y niwl yn esgyn yn golofnau o’r Cwm, a thorrir ar dawelwch y lle gan drwst traed llawer o geffylau, a siarad anarferol llawer o xqr traed, sydd yn ymgyfarfod yng ngwaelod y Cwm o wahanol gyfeiriadau. 
Y mae y lle yn ferw gwyllt o siarad.  Nid yw Clydach islaw i’w chlywed yn murmur ar ei graean, er ei bod yn llifo yn gyflym heibio.  Dacw bistyll mawr y felin yn gwynnu yr ochr uchaf i’r efail.  Y mae Iantws wedi gadael y felin a’r pistyll, i fyned rhag ei flaen tua Tharren-y-foel. Dacw Twm y Gof, eisoes ar ben y Talar-gwyn, a Wil, ei frawd, yn dringo ceulan yr Ynys yn rysur ar el ôl.    yma blant y Mynachdy, a phlant Buarthcapel, yn brysio a minnau gyda nhw oll i’r un cyfeiriad. - O, pwy yw hwn sydd yn dyfod ar ein holau, yn ein pasio, yn cerdded yn gyflym? Tomos o’r Dduallt yw ef; nid yw ef un amser yn colli helfa fel hon. O, dacw Siôn Ben-rhiw yn cerdded a dau gi tnewn cwpl yn un llaw, a’i het yn y llaw arall, ac os oes yna bwllyn o ddwfr, bydd Siôn yn siŵr o roddi ei droed ynddo, -splash, dyna’ fe hyd ei figwrn ynddo; ond ym mlaen yr awn.  Yr ydym wrth y xxx Tŷ-draw.  ‘ Ha! ha! ha! ‘ Beth sydd yna? O, Mr. David Edwardt yn craciojoke ar draul rhywun.  Un garw am driban yw Dafydd Edwards.  ‘Beth wedws e’nawr!  ‘meddai rhywun.  ‘O,hyn’:- 

=========================== (x064)  

Y gorau’i ffroen o’r helgwn,
A’r gorau’i droed, debygwn,
Ohonoch chwi, yw Turner wiw,
A Siôn Ben-rhiw@dau batrwn

‘Ha! ha!’

Ond dyna’r dynion calla’
Yw’r rhai sydd ar geffyla’;
Chwych’i @r traed cyn byrhau’r cam
Gofalwch am y bola

‘Ha    ha! ha!’

Ffwrdd â ni, rhai heibio i Dyle’r Fedw, eraill yn uwch i fyny i dwyn Gilfach-rhyd, ond yr ydym oll yn cydgyfarfod ar ben y Darren.  Dyma dorf o helwyr, llawn nwyf, bywyd a brwdanrwydd! Yn gyntaf oll@ Williams o’r Lan ar y poni coch, a’i waedd yn iach a chadarn, a’i lais fel utgorn arian, yn goglais pawb i’i skn, ac yn trydanu dynion a chŵn a cheffylau.  Y mae yn awr yn dechrau cymell y cŵn i chwilio am y cadno. Y mae Siôn ac yntau wedi myned i lawr i’r coed dan y darren. Dyna’r gŵr o Flaenhenwysg, ac os ydych yn y fan, dyma Ifan Moses. le, siŵr, dyma Mr. Griffith Griffiths wedi dyfod allan i’r helfa.  Dacw Dafydd Gilfach-rhyd, poorfellow, er cloffed yw, yn bywhau yn sŵn yr helgwn.  Dyma Twmi o’r Turnpike, O dear! fel arfer, y mae yn taro ei droed ynghyd â charreg, ac yn syrthio yn garn ar ei hyd, ond yn parhau i weiddi gyda’r cŵn serch ei fod hyd-gyd a’i wyneb yn cusanu y pridd. ‘Hard to Turner,’ ebe Twmi ar y llawr.  Dyma Rhys o’r Lechwen, yn gweiddi gyd     a Soywal. ‘Y mae hi wedi acor,’ meddaiRhys,’fifentra”mhenarni.’ llawrageffelbachgen i’r coed.  Y mae llu o ddynion a hogiau yn myned mor agos ag y medrant i yinylon y darren, i gael edrych i lawr ar y cŵn. Dyrna Ifan Richard yn gweiddi arnom, ‘ Meindiwch, fechgyn, y mae y cadno yn siŵr o ddyfod i fyny yn y bwlch.’ ‘ Tali ho      Doco fe; y @ae yn troi i lawr i Goed-y-parc.’ I lawr 

 =========================== (x065)  

y maent yn myned, ddynion a chkn, ar ôl y llwynog, ond erys Ifan Richard ar ben y darren.  ‘Fe ddaw yn ôl yn awr,’ meddai, ac yn fuan dyma gri fawr yn y coed; y mae y cŵn yn agor fel yn unllais, a’u skn fel miwsig peraidd yn tynnu atebiad o galon yr hen graig, yn taro yn erbyn pigyrnau yr hen darren, yn llifo i lawr dros ei hysgithredd, a phob dant yn ei gwylltineb yn felys-gri yr helgwn a bloeddiadau yr helwyr; mae pawb fel wedi eu trydanu, nis gall neb fod yn llonydd, mae y plant yn gweiddi, mae pawb yn gwynfydu-dyn, ci, ceffyl, ic, natur ei hun-; maent fel pe baent wedi eu gogleisio, a’u codi i hwyl anarferol.  Mae yna fwy nag ugain o ddynion nerthol yn cydweiddi, ‘ Wow! ‘ i lawr yn y coed.  ‘ Ust! chwi ar y top! byddwch ddistaw.’ ‘ Dyma fe’n dod,’ gwaeddai Ifan Richard nerth ei geg.  Mae Twmi o’r Turnpike wedi syrthio eto, ond y mae yn gweiddi yn iawn ar y llawr. 
‘ Dacw’r cadno ar ben y darren! ‘ a’i gynffon hir o’i ôl yn cael ei dal gan yr awel. O! mae yn edrych yn brydferth! Croesa’r Cefn, mor ysgafn-droed i’r awel ei hun, -a’i gynffon cyn sythed âg y gall fod.  Mae ei wedd yn hy a mawreddus.  Nid yw uchelgri yr helgwn, na thali ho yr helwyr, na charlamiad y ceffylau, yn effeithio dim arno, cred y gall guro yr holl ymosodwyr a chael gŵydd i ginio cyn hanner nos eto! I lawr yr awn trwy Goedygelli a thros afon Clydach, i fyny trwy Darren-y-garth, trwy Gwm Hendre Rhys.  Mae Reynard ddigon ar y blaen o hyd, ac y mae’r cŵn yn lleisio yn beraidd; mae yr hen sgweier wedi dod allan, ac ma’ c yn teimlo ei waed yn cynhesu, a’i nerth yn adnewyddu.  Gwaedda yntau.  Yr ydym ni wŷr traed wedi croesi dipyn dros berthi a chloddiau, ond yr ydym ymhell ar ôl er hynny.  Dacw nhw yn croesi i’r mynydd, ac yn tynnu i fyny i Goetgae Llwynperdid.  Dacw Williams o’r Lan ar y blaen, er nad yw yn Lladd ei geffyi wrth yrru fel llawer eraill, ond mae ar Goetgae Bryn-mawr! Ie, dyna ei lais, -dyna ei wow felys ef.  Yr wyf 

 =========================== (x066)  

yn ei hadnabod yn dda. 
B’le ma eSiôn o Ben-rhiw?  O mae wedi tynnu pwynt ar ôl y cŵn, ac y mae yn agosach iddynt na Llawero’r@rceffylau. MaejohnLIetyTurner      1. , yn ei ymy Syndod fel y mae y ddau yn gallu croesi bryn a phant, o dan ddylanwad yr excitement.  ‘ Mi welais ddydd arno’ i,’ ebe rlhywun yn fy ymyl, ‘ y buaswn i gyda nhw, ac o’u blaen nhw hefyd.’ Wil Rosser oedd hwn yn ffraeo â’r asthma, neu rywbeth oedd yp ei atal i gerdded fel cynt; ond odid bydd yn agos i’r blaenaf yn y ddalfa.  Un taer yw Wil! Dioglyd iawn yw Wil, gyda phob peth ond hela; a phan fetha Wil â rhedeg ar ôl cŵn a chadno, gellir yn hawdd gredu fod naill ai rheumatism neu beth cyffelyb yn cadwyno ei aelodau.  Ond yrnlaen â ni dros Goetgae’r Hafod i fynydd Llwyncelyn, ac ebe llais yn yr ymyl, ‘ Tarren y Ddinbath amdani! ‘ Lodwic oedd y siaradwr.  Yr oedd ef yn deall tir a phwynt llwynogod yn dda. Yr ydym yn awr wrth yr Hafod Fach.  ‘Ffordd cwmpws y dyn?’ meddai Rhys pan gyraeddasom yno.  ‘Pwy?  ‘ ‘ Ond y dyn yna! ‘ ‘ O Twmi o’r Turnpike ie fa? ‘ ‘ O,’ meddai Ifan Richard, ‘ dyna ffordd Twmi yn hela.  Wrth gwympo mae e’n mynd ymlaen! ‘ Ymlaen i ni i Goed Nyth-brAn.  Mae pob peth wedi tawelu yno.  Y cŵn wedi peidio h lleisio, a’r dynion yn peidio i gweiddi, a Reynard wedi ei golli.  Dyma Rhys o’r Hafod eto.  ‘Gawsoch chwi ddolur, ddyn, wrth gwympo?’ meddai wrth Twmi.  ‘O, dim, dim.’ ‘ Ni chlywais i shwd beth erioed,’ meddai Rhys, ond nid oedd amser i siarad am beth mor gyffredin â chwymp Twmi-ond yn unig i Bili Rhydygwreiddyn ddywedyd-’Y boncath rhyfedd, -fe gwmpa hwna oddi wrth ras bob dydd os bydda hela yn bod! ‘ Mae Reynard ar ei draed eto.  Ffwrdd âg ef, a ffwrdd â’r dynion a’r cŵn a’r ceffylau, yn cael eu harwain gan Williams o’r Lan, drwy Gymer, a thros y mynydd, a Chraig y Ddinas, ac mewn ychydig amser yr oeddynt allan o’m golwg a’m clyw blinedig i. Nis gallwn symud cam ymhellach.  ‘ Dewch gyda fi i gael bara a chaws,’ ebe Rhys o’r Hafod.  Aethom yn 

 =========================== (x067)  

ôl, ddau neu dri ohonom,   i gael cnwff o fara a chaws; ac mewn gwirionedd dyna’r    pryd bwyd melysaf a fwyteais i erioed.  Yr wyf wedi eistedd wrth fyrddau Esgobion ac Arglwyddi, yr wyf wedi cyfranogi o bob math o ddarpariaethau ar fyrddau huliedig palastai gwychion wedi hynny, ond nid oes un ohonynt y gallaf ei gymharu â bara a chaws Rhys o’r Hafod.  Yr oeddwn bron newynu.  Y newynog a all fwyta gyda blas yn ddiau.  Dahwyd y cadno gyda’r nos, i lawr yn rhywle ym Mro Morgannwg.  Diau y bydd rhai wrth ddarllen y llith hon yn cael eu hatgofio am bethau a welsant ac a glywsant; a gallant dystiolaethu nad hclwriaeth ddychmygol yw hon.  Faint sydd yn fyw yn awr o’r rhai a fwytaodd ac a gafodd eu digoni â bara a chaws Rhys Jenkins, heblaw fy hun, nis gwn ddim. 

 =========================== (x068) 

dani hi mwyach! Paid ei holl gyffro! Distawa ei chrochni cynhyrfus. Ond Taf wrth fyth ymafael Yf nerth ei gwrthafon hael. 

Tebyg iawn yw taith a therfyn afon Rhondda i daith a diwedd bywyd dyn! le, tebyg iawn! Y mae yn cychwyn yn egwan a bychan, yn cynyddu, yn myned ym mlaen, yn ennill nerth; mae yn ymgynhyrfu, ac yn brochi, ac yn swagro fel Rhondda rhwng ei cheulennydd.  Gellid meddwl wrth ei gweled yn dod i lawr -trwy y cwm, nad oes dim a’i hetyl i fyned i’r cwbl o’i blaen hyd fôr Caerdydd; ond mae yng nghanol y cyffro a’r broch yn ei chael ei hun yn nhagfa marwolaeth, a’i hynt yn terfynu ar unwaith; ic, felly y terfyna taith y bywyd dynol, ar ôl y nwydau a’r cyffro, a’r holl ymddangosiadau o nerth a bywyd.  Y mae yn terfynu ar unwaith, distawa ei lais am byth, collir ei enw oddieithr ar garreg bedd.  Llyncir Rhondda gan Daf; â y byd ym mlaen fel cynt, er fod rhywun ynmarwohyd.  PandderfyddRhondda,llifaTaf;panbaid Taf, pery y môr, fel rhyw fath o dragwyddoldeb.  Wel, dyna dipyn o bregeth o ryw ffasiwn a wneuthum yn yr ysbryd ar grib y Graig-wen. Yn awr, dyma Bont-y-pridd islaw, a’r dyffryn yn estyn yn hardd i lawr o borth Ynysangharad, heibio i Drefforest a’r Rhydfelen, Nantgarw, Tongwynlais, a Chaerdydd.  Mae yr olwg yn hyfryd iawn.  Yr wyf fi yn awr o ran fy nghorff yn Nyffryn Clwyd, yr harddaf, meddant hwy, o ddyffrynnoedd Cymru; ond yn ddistaw bach, rhyngoch chwi a mnnau, yr wyf braidd yn eu hamau nhw, pwy bynnag ydynt.  Nid wyf yn meddwl fod harddach golygfa i’w chael yng Nghyrnru, ac yr wyf wedi gweled pob cwr ohoni, na’r olygfa a geir oddi ar ben y Graig-wen, ar fore teg, gloyw, grisialaidd o haf! Yr wyf yn teimlo awydd rhoddi challenge iddynt-y nhw-i ddangos un arall gyffelyb iddi yng Nghymru.  Oni bai fod 

=========================== (x069) 

newid fy nillad i bedoli march Tyfica   O wel, tipyn o waith sydd wedi effeithio ar dymer William y bore hwn.  Ni fydd ef fawr o dro yn rhoddi hen bedol dan y march. . ‘ Shwd ych chi heddi? ‘ ‘ Shwd ych chitha; Shwd ffair yw hi?      Slow, slow iawn, eto.’ Dafydd Rhys, Llwynperdid, a’r hen Ddafydd o’r Ynys-hir yw y siaradwyr; mae y ddau wedi gweled llawer ffair, ac wedi cadw peth stŵr ynddynt.  Mae y ddau yn cofio llawer ynghylch Guto Nyth-brAn, yr oedd eu tadau yn cydredeg a Guto ar hyd y mynydd; felly gellir dweud fod eu cof hwy yn myned yn ôl hyd y flwyddyn 1737 trwy gyfrwng eu mam a’u tad.  Dau hen ŵr tenau, yn gwisgo cotiau llwydion hirion hyd y llawr, a botymau mawrion fel darnau pumswllt arnynt o’r gwddf i lawr hyd y traed.  Maent yn ymddangos yn drymion iawn, ond ymffrostia Dafydd o’r Ynys-hir iddo neidio yn ei got fawr, a churo rhyw champion ar dwyn ffair y Waun.  ‘ Tro’r fuwch yna ‘n ôl bachgen- stopwch hi! ‘ O dyna lais anferthol. le, Bili Lys-nant ydyw, yn gweiddi ar ôl y fuwch sydd yn ceisio rhedeg adref o’r ffair, yn lle cael ei gwerthu.  Nid oes angen iddi wneud hynny; nid oes neb a’i pr@n hi.  Y mae ei chyrn yn dangos ei bod yn llo ryw bymtheng mlynedd yn ôl, ac mae wedi bod yn y ffair ar Ynys-y-bŵl lawer tro cyn hyn.  Mae Bili yn edrych yn fileinig, mewn het gron ddisglair.  Mae yr hen fuwch wedi ymddwyn mor ddrwg fel y mae tymherau Bili wedi cyffroi yn ddirfawr. 

 

‘Beth wyt ti’n mofyn am y fuwch, bachgan?’ebe Dafydd o’r Ynys-hir.  ‘Rhywbeth ga’i am yr hen gythraul!’ ebe Bili, braidd yn barod i’w rhoddi hi am ddim.  Wel, mae Dafydd yn rhoi ei law yn llaw Bili.  Mae’r hen fuwch wedi ei’ gwerthu, ac ni ŵyr neb am ba bris. Dyma hanner dwsin o feirch a’u canlynwyr.  Cedwir hwy ar ben draw y plaen p8l.  Rhedant, gweryrant, ciciant, nes bod y lle o’u cylch fel pandemonium.  Dyma ni yn awr ar y plaen pel, mae yn llawn o anifeiliaid.  Dyma ychen y Mynachdy wedi eu gwerthu i Bili Penllwyneinion-x8 o nifer.  Dyma 

=========================== (x070)  

PENNOD XX

FFAIR YNYS-Y-BWL 

UN o hen sefydliadau Llanwynno yw Ffair Ynys-y-bŵl. lqynhelid hi gynt ar yr i 6eg o Fawrth bob blwyddyn, ond yn awr ers rhai blynyddoedd, cynhelir hi ar yr ail Llun ym Mawrth. 
Yroeddynffairenwogiawn.  Yroeddynenwog am ei hanifeiliaid.  Iddi hi y dygid ychen gorau y cwmpasoedd. Yr oedd yn ffair ddechrau’r Gwanwyn.  Ar ôl gaeaf hir a chaled, yr oedd yn bath manteisiol cael ffair mewn lle fel Ynys-y-bŵl i ddwyn yr anifeiliaid i’w dangos er eu gwerthu. Tyblwch yn awr ein bod yn ein taflu ein hunain yn ôl am ryw ddeugain mlynedd o amser.  Yn awr ynteu, ymddihetrwch oddi wrth y presennol a’i amgylchiadau a’i gofion, ac yn ôl i ni am ddeugain neu hanner can mlynedd. le, hanner can mlynedd tuag yn ôl.  Wele ni ar y ffordd tuag Ynys-y-bkl ar fore yr unfed dydd ar bymtheg o fis Mawrth-y mae rhai yn y plwyf yn cofio yn dda am ffair Ynys-y-bŵl flynyddoedd cyn hynny, ond nid wyf fi; ond yr oedd ffeiriau hanner can mlynedd yn ôl yn gyffelyb i’r ffair gyntaf a welais ar Ynys-y-bŵl.  Dyma ni yn awr wrth efail William y Gof.  Mae yr hcol yn llawn o dda a cheffylau.  Nid oes tinc na sŵn morthwyl oddi ar eingion yr efail.  Mae y drws wedi ei gau, a William a Thomas wedi cyrnryd holiday, a rhedeg tua’r Ynys yn lleA fore.  Arhoswch funud, dyma Wil y Gof yn cerdded o gyfeiriad yr Ynys, yn gwneud gwar rhyfeddol, ac yn plethu ei goesau wrth gerdded fel pe byddent chwipiau a brynodd yn y ffair.  Mae yn edrych yn ddu ac anfoddog iawn ei wedd. Nid yw mewn hwyl siarad, ond y mae yn cerdded i’r penty. Beth sydd, Wil? ‘ Beth sy, yn siŵr! Ni waeth pa un ai dydd ffair neu ddydd @l fyddo yma, rhaid gweithio, gweithio o hyd; ni welais shwd le erioed 1 Na welais i, dyma fi yn gorfod 

 70        FFAIP YNYS-Y-BWL ychen Daerwynno- 14 ohonynt-bychain, byrgoesog, wedi eu gaeafu ar wair min-oll wedi eu gwerthu.  Deunaw o ychen Gelliwrgan, a Siencyn yn dal yn dyn am chweugain y pen yn fwy nag a gynigia y porthmon.  ‘ Yn awr amdani-now or never-Jones.’
‘ Never ar y telerau yna ta beth,’ ebe Siencyn. ‘Wel, rhannwch ynte,’ ebe’r porthmon.  ‘Na rannwn ddim -sha thre can ‘nhw fynd ‘-’ Dyna fachgan; starts, does dim argoel gwerthwn ni leni.’ Y da yn cael eu troi o’r ffair, a’r porthmon yn troi at Siencyn ac yn rhoi clap cryf ar ei law ef- ‘ Wel, dyma fwy na dalan nhw.  Y chi yw’r caletaf yn y plwy’.’ ‘ Rhaid peidio bod yn feddal i gwrdd i gwalch fel chi,’ ebe Siencyn.  Aeth yn fargen.  Maent yn awr yn y tŷ yn setlo pwnc yr arian yng nghysgod peint neu ddau o ddiod. Dyma Siencyn Buarthcapel, a’r hen geffyl Bowler.  ‘Beth yw ei oedran ef Siencyn? Morgan Tŷ-draw ŵyr orau,’ ebe Siencyn.  Yr oedd atebiad Siencyn yn osgoi y gofyniad, oblegid yr oedd ar Siencyn ofn dweud celwydd, a pheth cywilydd dweud oedran yr hen geffyl.  ‘ Ta beth yw ei oedran mae’n dda i wala,’ ebe Siencyn, wedi cyffroi tipyn wrth weled rhai yn chwerthin am ben yr hen Bowler.  ‘ Oty,’ ebe Lewis o’r Fforest,’ ‘ Cheap iawn i’w gadw, fyt e ddim llawer os na chaiff e bar newydd o ddannedd.’ Ha! ha! fawr gan bawb. ‘Y stwff diserch,’ ebe Siencyn, ‘chaiff neb na dim lonydd gentyn ‘nhw.  Mae fe’n iengach na hen geffyl broc Gilfach-rhyd, ta beth.’ ‘ Fe gaiff waith clywed y gwcw eleni,’ ebe Lewis o’r Fforest.  ‘Y Ceryns cas,’ ebe Siencyn.  Mae yn cychwyn yn ôl tua’r tŷ yn awr ar gefn yr hen geffyl, wedi methu sefyll o flaen tAn Lewis o’r Fforest.  Mae yr ychen gorau wedi eu gwerthu.  Nid oes yn awr ond ambell lot o’r rhai gwaelaf yn aros, ac ambell fuwch dan gysgod perth y cae heb ei gwerthu.  Mae y dorf yn awr yn ymrannu yn dair rhan.  Un rhan yn y cae gyda’r hit-my-legs.  Y rhan arall o amgylch y teganau, ac yn edrych ar foch Twm Jack wrth y 

 =========================== (x071)  

 FFAIR YNYS-Y-BWL     171 

Brewerdy ar fin yr afon; a’r rhan arall yn y tŷ gyda’r ddiod a’r delyn.  Pwy yw’r telynwr? Dic Siôn Siams ond odid! Mae Siams Llwynmelyn wedi prynu mochyn cwta gan Twm Jack.  Dyna’r mochyn y dywedodd Meudwy Glan Elii iddo ddyfod O Sir Benfro gyda’r trams
I blesio Sium Llwymnelyn.

Siôn y Tiler yn cymryd arno fod mewn gofid dwys iawn ynghylch mochyn cwta Siams. 
‘Mochyn heb un gynffon? Clywbachan!  Fefyddynffaelucryffanadim,rhaidifochyn gael cynffon i whipo’r cilion!’ Yr oedd gan Siams ddarn anferthol o dybaco yn ei saffi, poerodd, ac edrychodd ar Siôn y Tiler, gan ddywedyd, ‘ Sioni, gad dy swibs, ‘nai di, a gad di lonydd i gynffon y mochyn, ‘nai di? ‘ ‘ Llonydd iddi gynffon e? Mae honno yn llonydd i gwala, waith ‘does tamaid ohoni ar gael.  Beth ddaeth ohoni? ‘ Mae amryw o’r gweilch yn bwrw’u pennau ynghyd i geisio meddwl beth a ddaeth o gynffon y mochyn.  Meddylia un mai yn gwta y ganwyd ef; un arall yn meddwl fod un o Nqr Sir Benfro wedi ei chadw er cof amdano.  Ond cred Sioni’r Tiler mai Twm Jack oedd wedi ei thorri a’i bwyta i@ginio ar ei ffordd trwy Gwm-nedd i’r Ffair.  ‘ Y sef difaners, segurllyd a bychanus,’ ebe Siams, a chychwynna yn awr mewn gr@en chwerw. Caiff Catws wybod yr helynt yn fuan. Yn y tŷ y mae y miri mwyaf yn awr.  Mae yr hen ddw lo Y. yn cydgasglu i’r ‘ Hen Barth,’ ac mae’r skn yn dangos fod yma rywbeth heblaw llaeth yn cael ei yfed.  Dyma nhw-Lewis o’r Fforest, Siencyn Gelliwrgan, Siôn Ba7ch Tynygelli, Rhys o’r Glog, Lewis Llwynperdid, a llawer heblaw y Cryddion gyda nhw.  Dyn byr, crwn fel baril yw Lewis o’r Fforest.  Hir a bras ei dafod.  Rhywbeth drwg iw ddweud am ac wrth bawb. Nid yw yn gofalu am ddim ond cael llonaid bol o fwyd a diod., Nid oes neb yn y plwyf wedi bwyta nac yfed hanner cymaint 

=========================== (x072)  

ag ef-y goreuon yn wastad.  Dwy neu dair cinio ar ddiwrnod ffair, ac ni ŵyr neb ddim pa faint o gwrw.  Glwth yw Lewis o ran chwaeth, o ran ffurf ei gorff, ac o ran ei holl arferion. Arwyddair ei fywyd, ac y mae yn ei adrodd yn fynych-’ Byw yn llawen, a marw a bola llawn.’ Wel, y mae Lewis yn y cornel yn edrych yn debyg iawn i ddyn wedi ei wneud o lawer o wlan, ac wyneb gosod wedi ei beintio dipyti yn goch-ond yn fuan dengys Lewis nad dyn gwlân yw ef-os yw yfed cwrw, a siarad geiiiau pigog yn profi rhywbeth.  Cyrner Lewis arno fod yn dduwiol iawn, a rhybuddia y cwmni i fod yn ofalus am eu bywyd, mae’n edryrh mor sobr i sant, ac yn terfynu ei bregeth ddifrifol trwy ddweud, -

Cyn mynd o’r defaid allan
Mae caead drws y gorlan,
Cyn delo Barn mae dadlu,
Cyn henaint y mae gwellu,
Heddiw mae edifaru,
Rhag mai rhy hwyr yfory

Siôn Bach Tynygelli yw’r siaradwr nesaf.  Gelwir ef yn Siôn Patent Cord hefyd.  Dyn byr iawn yw ef, ond yr hwyaf ei freichiau yn ei bl,”,yf, a’r hwyaf ei dafod yn fynych. 
Mae ef asiencynjonesynffraeo.  ‘Siônbach,’meddSiencyn,’Llai na dim wyt ti.’ Ac medd Siôn, “Dwy’n prisio dim mwy amdanoch chi nag am afu lleuen.’ Ar ôl hyn rhaid oedd i Siôn ac Ifan Lathen yrnladd tipyn, yr oeddynt tua’r un hyd. Dau fychan iawn, ac yn cadw mwy o sŵn, ac yn creu mwy o derfysg na dau gawr.  Y mae Siencyn a Lewis yn myned yrnaith, a chyn hir mae y lle yn cael ei lanw gan fechgyn y lle, bechgyn cochion cryfion, -ac y mae ffair Ynys-y-bŵl yn terfynu mewn ysgarmes gyffredinol, y gallai dyn dieithr feddwl y lladdent ei gilydd ynddi, ac na fyddai neb ohonynt yn fyw i weled ffair eto.  Y mae yr Hwperiaid a’r Tileriaid a bechgyn y Felin, a bechgyn llawer lle arall, yn curo’i gilydd yn dost. 

 =========================== (x073)  

Y mae’r nos yn treulio ymaith, a’r bore yn dod, ac mae ffair Ynys-y-bŵl yin mhlith y digwyddiadau a fu, ond bod ei holion ar lawer wyneb, ar hyd a lled y plwyf.  Ym mhen blwyddyn eto bydd popeth yn cael ei wneud yn lled gyffelyb i’r hyn ydynt y diwrnod hwn. 
Wel, ar un llam, deuwn yn ôl i’r presennol. Y mae yr holl bersonau uchod wedi marw er ys blynyddoedd. Y mae ffair Ynys-y-bŵl yn fyw o hyd; ond nid mor flodeuog ag y bu.  Y mae llai o angenrheidrwydd amdani yn awr nag oedd gynt, cyn bod cyfleusterau teithio wedi dwyn lleoedd pellennig yn agos i’w gilydd. Yr oedd Pastai yr Ynys yn enwog hefyd.  Yr wyf yn meddwl mai tua dechrau Awst y cynhelid hi bob blwyddyn, a byddai Sioned Siôn Ifan yn myned o gwmpas i wahodd, ac wrth hynny byddai yn gwneud ceiniog go dda i’w helpu i fyw.  Yr oedd yn cael rhywbeth ym mhob tŷ.  Tipyn o gig moch, neu o flawd ceirch, a darn o gig eidion wedi ei halltu, a thipyn o wlan defaid mewn rhai lleoedd.  Deuai un hen wraig o gwmpas y plwyf fel hyn er ys llawer dydd, âg ystên bridd i gario y cwbl ynddi-y cig moch, Iblawd, gwlân, neu bob peth a gawsai-i’rjug âg ef.  Yr oedd yn anodd dirnad ar ddiwedd y dydd jugiaid o beth oedd gan hen wraig y gwlân, fel y gelwid hi.  Yr wyf yn meddwl ei bod yn cael ei hadnabod yn y plwyf yn gyffredinol wrth yr enw Niodryb Mari Mam-gu. Cynhelid Pastai yn eglwys Wynno bob blwyddyn, a gwahoddid i honno yr un modd gan ryw wraig o’r gymydogaeth.  Y mae y pasteiod wedi myned allari o’r ffasiwn erbyn hyn, ac nid yw y to ieuengaf o bobl Llanwynno yn gwybod dim am bastai, nag am Ann Moses-Nani Hendie Rhys, yr hon oedd yn enwog fel gwneuthuryddes bastai yr Ynys a’r Eglwys.  Y mae Nani wedi ei chladdu, a’r Bastai hefyd.  Bu adeg pan oedd ‘ Medd Gwadd ‘ yn enwog ac yn boblogaidd yn Llanwynno.  Medd jemima, yn y Clotch Isaf, oedd yn enwog gynt.  Darperid llestr o fedd.  Eid o gylch y plwyf i wahodd i’r Medd, ac i gyhoeddi pa noson yr oedd y. 

=========================== (x074)  

Medd i gael ei gynnal. 
Ar nos Sadwrn yn gyffredin y cynhelid ef.  Yr oedd sef o ddysglau te ar y disiau yno hefyd, a rhwng y cwbl, yr oedd disgwyliad mawr am noswaith y Medd. Byddai bechgyn a merched y wlad yn dyfod ynghyd i yfed medd a thorri cnau, a bwyta afalau a theisennod crynion. Byddai y bechgyn yn canu caneuon bob yn ail, a chaneuon d’oniol oeddynt!  ‘Mochyn Ton-du’ a’r ‘Ferch o Blwyf Penderyn,’   Hwmffre’r Clocswr, mawr ei fwstwr, dyma fe,’ ‘Y Gini melyn bach,’ a lluoedd o rai cyffelyb.  Yna deuid at y disiau, a mawr y pryder yn fynych ynghylch pwy fuasai yn debyg o ennill y cwpanau te neu y neisiad sidan.  Cafwyd Llawer o ddigrifwch diniwed ym Medd Gwawdd jemima. ‘ Cwrw bach’ Mari o’r Rhiw hefyd 4 fu unwaith yn gyrchfan Llawer o bobl.  Yr oedd Mari yn darpar rhywbeth cryfach na medd ar gyfer yr ymwelwyr, ac nid hawdd fyddai cael ganddynt ymadael cyn eu bod wedi cael sicrwydd fod y llestr cwrw wedi myned yn gwbl hesb.  Pan fyddai’r llestr yn tynnu tua’r terfyn, dywedai Emwnt wrth y cwmni, ‘ Nawr fechgyn, niae’r cwrw wedi darfod, ac mae’r bara wedi dyfod, cerwch, cyn bod dynion yn mynd sha’r cwrdd, mae’n bryd, -ody’n cretu.’ O dipyn i beth, ar ôl araith Emwnt, llithrai yr ymwelwyr allan i fyned i’w gwahanol gyfeiriadau, gan ddweud yn iaith Llanwynno, -’dyna noswaith o sbri biwr ddigynnig, ie, wir.’ Mae yn lled debygol pe buasai rhyw hanesydd wedi cofnodi digwyddiadau Ynys-y-bŵl am y ddau can mlynedd diwethaf, y gwelsid fod y lle yn enwog fel cyrchfan chwaraewyr a champwyr o bob math.  Yr oedd y chware bando a fu unwaith mor enwog ym Morgannwg yn cael sylw a diwylliant mawr yn Llanwynno.  Mae ar gael i’r Ynysybwliaid guro gwy^r yr Ystrad, a @r Margam unwaith neu ddwy mewn cystadleuaeth ar Waun Cwrt y Mynachdy, ac ar draeth y môr ger y Tai-bach, neu yn rhywle ar y draethell orllewinol yna. Ymladd ceiliogod hefyd a fu yn myned i bryd y lle bychan yn 

 =========================== (x075)  

fawr untro, ac hyd yn oed o fewn cof rhai ohonom yr oedd yr arferiad creulon hwn heb golli ei afael ar y trigolion.  Pitch andtossafuhefydynsulwaithylle.  Yroeddpityceiliogod,a phlaen y pitch and toss, i’w weled heb laswelltyn yn tyfu arno pan oeddwn i yn blentyn.  I lawr ar Ynysoedd Glannau Clydach, a godre tir y Tŷ-draw, y sefydlwyd ef, mewn man tawel, distaw, a chuddiedig.  Diau fod y march tanllyd yn gweryru drosto yn awr; ac nid yw y rhai sydd yn myned heibio yn meddwl dim eu bod yn pasio llecyn yr ymgyfarfyddai o’i amgylch ysbrydoedd hyaf a gwylltaf y lle i gynnal eu campau yn y ganrif ddiwethaf, ac yn yr hanner cyntaf o’r ganrif hon. Ond chware p@l oedd prif enwogrwydd Ynys-y-bŵl.  Mae y chwaraefan eto wrth dalcen tŷ Ynys-y-bŵl, lle y collwyd Llawer o chwys, ac yr enillwyd llawer o arian.  Y prif chwaraewyr ers 6o neu 8o mlynedd yn ôl oedd Evan Morris, Evan Phillips, Morgan Thomas, neu fel yr adwaenid hwy yn y lle, Iantws Hendre Rhys, Iantws o’r Felin, a Morgan Blaen-nant. Wedi hyn Ifan Richard.  Yr oedd Morgan Blaen-nant ac Ifan Richard yn gyfeillion, ac yn gyd-chwaraeyddion heb nemor o’u bath, a’r ddau Iantws, cyn hynny, yn ddiguro.  Mae ‘ Match bil’ plwyf Llanwynno a phlwyf AberdAr yn cael sôn amdani hyd heddiw.  Y ddau laiitws oedd yn cynrychioli Llanwynno yn erbyn Aberdir, a hwy a gafodd y clod a’r arian, wedi chware yn AberdAr ac yn Ynys-y-bŵl yng nghanol cyffro a bloeddiadau cynhyrfus @r y wlad a gnqr y gweithiau.  Ond yn ddiweddarach, William Evans, neu William-o’r Graig, oedd champion y plaen p@l.  Nid wyf yn meddwl fod neb i’w gael yn gyffelyb iddo i chware pôl ar ‘y coch’ fel y dywedir.  Yr oedd ei nerth i daro piel, a’i fedrusrwydd i’w thaflu allan, neu ei throi yn ôl, a’i ystwythder, ei fuandra, a’i nwyfusrwydd yn ei wneud yn ben-campwr, a llawer cynulliad mawr a brwd a fu o gylch plaen yr Ynys i weled William yn 

 =========================== (x076)  

chware makh     ac yn gyffredin terfynid yng nghanol bloeddiadau uchel.    O’r Ynys-y-bŵl am byth
âg e.’ . Yr oedd Daniel Thomas hefyd yn gampwr ar y bôl, ac yn boblogaidd iawn hefyd.  Yr oedd ei ddywediadau digrif, a’i ystumiau ynghyd i’i ystwythder a’i gyflymder yn ei wneud yn favourite y plaen p8l.  Yr wyf yn cofio pan oeddwn yn fachgen bychan ei weled ef yn chware â’i  law chwith â dau o’r Ystrad -yr wyf yn meddwl fy mod yn cofio y gelwid hwy yn Siencyn y Meiswn, ac Ifan Gelligaled fodd bynnag curwyd y ddau gan Daniel, a chafwyd difyrrwch nid bychan yn ystod y gystadleuaeth. Mae y difyrion hyn yn perthyn i’r amser a fu.  Nid yw yn debyg yr atgyfodir hwy i’w bri cyntaf.  Cawsant eu dydd; ac nid oedd niwed ynddynt, o ran hynny.  Gallasai gwaeth arferion fod wedi cymryd gafael ym mhobl ieuainc y lle.  Yr oeddynt hefyd yn dangos nerth, hoenusrwydd, a brwdfrydedd ieuenctid y lle, pan nad oedd cyfleustra iddynt i wneud nemor ddim heblaw chware.  Nid yw Ynys-y-bŵl wedi esgeuluso llenyddiaeth yn gwbl.  Yn ystafell fawr yr Hotel yn ymyl y plaen pôl yr enillais y wobr gyntaf erioed, am adrodd darn o awdl Cawrdaf ar ‘ Hiraeth y Cymro am ei wlad.’ Yr oedd leuan ap lago yn feirniad y farddoniaeth, ac Ap Myfyr yn ei gynorthwyo i farnu yr Adroddiadau.  Y diweddar Lewis James o Mountain Ash, a brawd awdwr ‘Hen Wlad fy Nhadau,’ oedd Llywydd yr Eisteddfod.  Yr oedd y diweddar Mr. Edwards, o’r Gilfach Glyd, yno.  Enillwyd y gwobrwyon barddol gan Meudwy Glan Elii, Hezekiah, Ieuan Wyn, &c. Yr oedd yng nghanol y cynhaeaf gwair a’r hin yn boeth pan gynhahwyd yr Eisteddfod hon, a Phan arwisgwyd finnau ag ysnoden, yn arwydd y fuddugoliaeth lenyddol gyntaf a gefais, nid wyf yn cofio pa flwyddyn ydoedd, i 859 neu i 86o feallai. 

=========================== (x077)  

 PENNOD X GELLI-LWCH 

Yr wyf yn awr yng nghanol oerfel mis Mai yn sefyll ar dir Gelli-lwch.  Dacw y Cefn a Chraig-yr-hesg o’m blaen tua’r dwyrain, a Phont-y-pridd yn ymguddio wrth draed y bryniau, ond nid wyf yn canfod dim ond mwg y dref yn esgyn heibio i gorun Craig-yr-hesg, a thros gopa Mount y Lan yn golofnau hirion, ac yna yn ymwasgaru yn awyr burach gwlad y twyni. Y mae simneiau Pont-y-pridd yn amlach lawer nag y buont, a’r colofnau mwg yn amlach ac yn drymach mewn canlyniad, ond pur er hynny yw awyr Pen Craig-yr-hesg, a diwenwyn yw awelon Mount y Lan. Y mae Taf wedi colli ei chyn-loywder, ac yn rhodio yn alarus trwy y dyffryn mewn gwisg ddu, a llawer o olion glo arni. Y mae Berw Taf wedi peidio â gwynnu, a morthwylion Rheilffordd Taf wedi distrywio harddach peth na’r bont fawr a gyfododd dros y Berw! O! tydi Gelfyddyd reibus! O! tydi Fasnach -waneus! Pa sawl darn hardd o natur a sarnasoch dan eich traed, neu a lyncasoch mewn anniwall wanc am olud, enw, a chlodforedd-Duw a wnaeth y Berw, a gwnaeth dyn Bont! Ow! ow! dima ddydd distryw wedi ein dal! Ond cadarn saif Craig-yr-hesg.  Gwatwara hi reilffordŷ a phob cyfnewidiad arall a ddaw gyda’r tr6n.  Ni fedr celfyddyd dynnu ei dannedd erchyll hi, er i’r fwyell syrthio ar wraidd ei choedydd prydferth, eto y mae y gwyrddni yn dechrau cripian dros lwydni ei tharennydd, a ieuencti  d anian yn ymdaenu dros y moelni ar ei chorun, ac y mae hi a Thwyn-y-lan yn taenu eu cysgodion dros Bont-y-pridd, ac yn bendithio y lle
âg awyr a dwfr pur fyth a hefyd.  Ond yr wyf yn awr ar ben y twyn, yn uwch hyd yn oed na Chraig-yr-hesg. Lleoedd enwog yw y Lan a Chelli-lwch.  Saif y Lan ar ben, y twyn sydd yn edrych i lawr ar Bont-y-pridd.  Craig-yr-h@sg 

=========================== (x078)  

ar un ochr i’r heol sydd yn arwain o Bont-y-pridd i Ynys-y-bŵl, a’r Lan yr ochr arall.  Y mae yr hen breswylfa hon-y Lan Isaf-yn edrych yn hardd ar gorun y bryn, yn wyn fel eira o do i sail, a’r gwyngalch yn cael ei adnev,7yddu cyn bod dirywiad yn digwydd ar wedd yr hen fangre, nes bod y lle ar ddiwrnod heulog yn disglcirio ac yn ariannu pen y Twyn, yn ddigon i beri i afon Taf ffoi o’r dyffryn mewn gwarth, a chywilydd oherwydd ei duwch.  Dyma Gelli-lwch hefyd, ychydig o gaeau yn uwch i fyny yn y plwyf, yn sefyll yn wyn yng nahanol y caeau gwyrddleision, wedi ei godi ar y graig. O, y mae natur bur, dawel, lonydd yma; yr awyr yn bur uwchben, y ddaear yn lAn o dan draed, y perthi a’r coedydd, y derw a’r ynn yn dechrau ymadnewyddu yng ngwisgoedd newydd y gwanwyn. Dacw dri neu bedwar ffesant yn dianc ar adain i gyfeiriad Craig-yr-hesg, a dacw gwmwl o ysguthanod yn hedeg o’r Dugoed dros Gadair Ysbryd, a dacw ddwy gigfran yn codi o ddannedd Craig-yr-hesg, ac yn crawcian uwchben nythod y cawciod sydd bob amser yn byw yn ysgithredd y graig.  Dacw ddwy ysgyfarnog yn gwyllt redeg dros waun y Lan-gadewch lonydd iddynt-i fyned i gyfeiriad y tew-ddrysni ar ymylau y coed ‘  Ust, dacw gaseg wanwyn (woodpecker) yn curo rhisgl derwen, ac yn rhoddi ei chlust ynghyd â’r pren i wrando symudiad y mAn bryfed, ac wele felynawc, a llwyd y berth, a btithyn y garn, a’r dingoch yn disgyn ar frig perth y ddwyer, ac yn myned bob un i’w fan-i’w nyth yn y coed, a’r fronfraith a’r f-wyalch yn canu yn y tewlwyni gerllaw; a’r ŵyn bychain yn mwynhau dyddiau icuenctid ar y lasddol, heb fawr feddwl am gyllell y cigydd, heb wybod am ddim ond glesni y maes a melyster llaeth eu mamau!
O! dyma le hyfiyd! Pwy a hi oddi yma i fyw i fwg y dref? Dyma fangre dawel uwchlaw y byd! Pe gallwn, gwnawn yrna babell i’r wraig a’r plant a minnau i dreulio gweddill ein hoes mewn cymundeb âg anian yn ei thawelwch, ei gloywder, a’i sancteiddrwydd; ond nis gallaf. 

 =========================== (x079)  

Ond tra gallaf gofio rhywbeth, bydd delw y cacau gleision hyn, a’r coedydd heirdd o ben Twyn-y-glog hyd Dyn-y-lan a Chraig-yr-hesg yn aros yn fy nghof, ie, os. gallaf, cadwaf eu darlun ar len fy nghof hyd nes bod y llygaid hyn yn cau i beidio
âg edrych mwy ar olygfeydd y byd hwn!  Bydd hynny cyn bo hir, efallai. Dacw y Ceffi yn codi i fyny o Glydach hyd odre tir Gelli-lwch-man prydferth yw y Cefn.  Llecyn tawel heddychlon i fyw ynddo.  Mr. Davies yw brenin y lle.  Trigo y mae ef mewn dinas gadarn, ar dir sydd yn eiddo ef ei hun.  Braidd na ddywedaf mai gofidus yw meddwl fod digonedd o lo ym mynwes y tir, ac y bydd yn rhaid ei gael allan.  Gobeithio pan ddigwydd hynny na therfysgir llawer ar heddwch y lle. Y mae terfysgwyr wedi dyfod yn beryglus o agos, ar dir Glynddwynant.  Y mae yr oes euraid wedi pasio, ond y mae oes y glo yn ei gogoniant yn awr! Wfft y fath ogoniant yw mwg a lludw, a digon o hen dips cyn ddued â Satan! Dywedais o’r blaen fod y Lan a’r Gelli-lwch yn lleoedd enwog.  Y mae hanesiaeth yn cysylltu y Glog, Pen-wal, Gelli-lwch, a’r Lan â’i  gilydd.  Yr un etifeddiaeth oeddynt, a’r un hiliogaeth a’u preswyliai er ys oesoedd-y Williamsiaid; y maent yma ers llawer cenhedlaeth.  Bu y Lan a’r Gelli-lwch ym meddiant y Williamsiaid arrr lawer o oesoedd, ond aeth rhai ohonynt yn feichiafon dros eraill, methodd y rhai hynny â thalu, rhaid oedd wedi hynny iddynt werthu y Lan a’r Gelli-lwch i gael talu dyled pobl eraill.  Felly, bu tynerwch y Williamsiaid a diofalwch neu gamdrefn eraill yn achos i’r Williamsiaid golli etifeddiaeth eu tadau, ond y maent wedi aros yn y lleoedd hyn genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth hyd y dydd heddiw.  Perchennog y tiroedd yw Arglwydd Tredegar.  Yn ddiweddarach y gwerthwyd Craig-yr-hesg gan y diweddar Richard a John Williams-Richard o’r Lan a jaci Gelli-lwch fel y gelwid hwy yn ôl arfer gwlad    Yr oedd Craig-yr-hesg wedi aros yn eu meddiant yn gydrannol. O’r diwedd, er 

 =========================== (x080) 

mwyn i bob un gael ei ran ei hun, gwerthwyd y lle am rai miloedd o bunnoedd i Mr. Crawshay, ac ym meddiant y Crawshays y mae yr hen graig ramantus hon hyd y dydd heddiw. Y mae Mr. Thomas Williams, yn awr o Gelli-lwch, yn fab i’r diweddar John Williams, neu jaci Gelli-lwch, a Mari, ei wraig, merch Siôn Daniel Siôn Domos Harri, Tynybedw. Mab ydoedd John Williams i John Williams a Margaret ei wraig, yr hon oedd ferch i’r Parch.  Thomas Davies (Offeiriad Coch), Ystradyfodwg, yr hwn a ddaeth i’w dd      iwedd trwy syrthio, ef a’i geffyt, dros Graigyffeirad, Cwmyrystrad. Bu ef farw Tachwedd I7eg, 1763- Mab ydoedd i Davies, Talyllychau, Sir Gaerfyrddin, a Mari ei wraig, merch Siencyn Llewelyn, Glyncorrwg Fechan, merch Gellifaelog ydoedd. Enw ei thad ydoedd Richard Richard ap Richard ap Evan-ap Richard, ail fab Richard Gibbon.  Y Richards hyn fu etifeddion y Collennau am oesoedd lawer.  Yr oedd Richard Gibbon yn dyfod o Drecastell, Llanhari, ac yn fab i Llewelyn Hir o Feisgyn; a mab oedd Ifor Hir i Howel ab Ifor Fychan ab Ifor Hen ap Cedrad ab Einon ap Collwyn, gwraig yr hwn oedd yn ferch Iestyn ap Gwrgant.  Priododd Richard, ail fab Richard Gibbon a merch William ap Howel ap Griffith ap Gronwy o’r Collennau.  Yr oedd Richard, y cyntaf o’r rhai hyn, wedi priodi Mari, merch Meredydd o Pengam, Roath, Caerdydd.  Yr ydys fel hyn yn dilyn yr achau i lawr hyd Richards o’r Gelli Isaf. Bu farw Richard jenkin, o’r Gelli Isaf, yn y flwyddyn 1753, yn 86 mlwydd oed, a Margaret Richard yn I 758, yn 62 oed, a Mari Richard a fu farw yn I 773, yn 68 oed.  Bu farw Evan Richard, Gelli Isaf, Hydref gfed, 1790, yn 82 oed.  Yr oedd ganddo ef brydles ar dir y Gelli Isaf, a chyn marw gwnaeth ei ewyllys, a gadawodd y tir i John Williams, o’r Lan Isaf, a daeth ar ei ôl i ddwylo Richard a John Williams, o’r Lan a 

=========================== (x081)  

Gelli-lwch, ac y mae rhai yn fyw yn awr sydd yn cofio y tir hwn yn nwylo y ddau frawd.  Un flwyddyn byddai Richard yn cael y gwair a jaci yr adladd, a’r flwyddyn nesaf cAi jaci y gwair a Richard yr adladd. O’r diwedd, terfynodd y lease, ac aeth y tir i ddwylo eraill.  Ei berchennog yn awr yw Arglwydd Windsor.  Yr oedd John Williams, tad Richard a jaci, yn briod â Catherine, merch y Gelli Isaf.  Bu ef farw Chwefror 7fed, 176 i, yn 74 oed, a’i wraig a fu farw Rhagfyr i 6, 1768, yn 57 oed.  Mab ydoedd ef i John Williams a Rachel Jones, o DdyffrynAberdAr.  YroeddyjohnWilliamshwnynfrawdi Robert Williams o’r Glog, yr hwn a fu farw Awst ‘7eg, 1762, yn 78 oed; ei wraig ydoedd Martha, etifeddes y Glog.  Yr oedd Mr. Thomas Williams o’r Glog yn fab iddynt; nid wyf yn cofio pwy oedd gwraig Thomas Williams o’r Glog.  Yr oedd ef yn cadw ceffyl a chaseg, yn unig er mwyn y boddhad o’u gosod i redeg â’i  gilydd, ac â chi buandroed oedd ganddo. Ac yr oedd yn rhedegfa dynn iawn rhyngddynt a’i gilydd ac a’r ci, ond yr oedd yr un a farchogai ef ei hun bob amser yn ennill. Dyn byr, bychan o gorffolaeth ydoedd.  Mab iddo ef oedd William Williams o’r Glog, yr hwn a fu farw Mehefin 17eg, 1820, yn 70 oed.  Merch Pendeulwyn oedd Ann Thomas ei wraig, yr hon a fu farw Hydref ‘4eg, i 799, yn 42 mlwydd oed. Mab iddynt hwy oedd William Williams o’r Glo, yr hen .9 yswain o’r plwy a adwaenid ym mhell ac yn agos.  Ei neilltuolion ydoedd cariad at y cŵn hela a threwlwch, yr hwn a gadwai ar lawr ei logell, ac yn ddiau dcfnyddiodd bunnau ohono.  Gŵr diniwed a llesiol a gofalus o’r tlodion yn ei blwyf ydoedd.  Bu farw Hydref 23ain, I 874, yn agos i 9 i mlwydd oed.  Merch y Dduallt ydoedd ei wraig, a gweddw Richard Williams o’r Lan.  Eu mab hwy yw Thomas Williams, Yswain presennol y Glog.  Y mae y teulu hwn a theulu Gelli Isaf yn gorwedd wrth Eglwys Wynno.  Gellir gweled coffadwriaeth teulu Gelli Isaf ar lawr yr Eglwys gyferbyn â’r drws, ac ni@, F 

 =========================== (x082)  

 gellir cerdded i mewn i’r Eglwys heb sangu ar uchaf eu llwch a llythrennau eu coffadwriaeth. Awn yn ôl i siarad gair yng nghylch yr Offeiriad Coch y soniais amdano cisoes.  Gŵr enwog yn ei ddydd.  Yr oedd yn dychwelyd o’i daith un noswaith ar gefn ei geffyl dros y mynydd, trwy niwl a thywyllwch y nos, daeth yn rhy agos i ymyl serth y darren, llithrodd yr anifail ac yntau i lawr i’r dyfnder, ond bu ef fyw i allu dweud mai ef a orfododd y ceffyl i gyfeiriad y darren, a bod y ceffyl yn ceisio myned ffordd arall, ond o herwydd y tywyllwch, drosodd yr aeth, a thros y darren yn fuan i.dragwyddoldeb. Y mae ger fy mron yn awr yn ei lawysgrif ei hun, y cofnodiad canlynol, -”Margaret the daughter of Thomas Davies clerke & Ann his wife was born on Fridayye I21h day of October, between one & two of the clock inye morning, and was baptised on Fiidayye 2oth of the same month i744.” Yr eneth hon ydoedd mam Richard Williams o’r Lan, a John Williams Uaci), Gelli-lwch. Aeth un o’i feibion i Antigua, yn fasnachydd siwgr.  Ei enw oedd Richard Davies.  Ymgyfoethogodd yno.  Y mae ei ewyllys ar y bwrdd ger fy mron yn awr.  Gadawodd ei eiddo rhwng ei frodyr a’i chwiorydd, a llawer iawn i’w rannu rhwng y Negroaid oedd yn llafurio yn ei blanhigfa yn Antigua. Ni gwn pa bryd y bu farw, ond dyddiad ei ewyllys ydoedd 1786, ac ynddi gedy i un o’i gyfeillion i8 crys ar ôl ei ddydd. Mab arall i’r Offeiriad Coch ydoedd y Parch.  William Davies, Periglor Wooton Bassett, swydd Wilts.  Y mae amryw o’i lythyrau ger fy mron yn awr, ac er eu bod wedi eu hysgrifennu er ys dros gan mlynedd, a’r papur yn llwydo ac yn treulio, mae y llawysgrifen yn hollol eglur, ac ni welais well na harddach llawysgrifen erioed.  Yr oeddynt oll wedi caci codiad anrhydeddus, ac yn ysgolheigion gwych; y mae cochni. teulu yr Offeiriad Coch yn aros, ac i’w weled yng ngolwg dda foneddigaidd Mr. Williams, o’r Glog, a thalent ac athrylith yr Offeiriad Coch a welir hyd eto ym mhlith teulu Gelli-lwch 

=========================== (x083)  

y maent oll, hil, epil ac ach yn feddiannol ar lawer o dalent a medrusrwydd mewn rhyw gyfeiriad neu’i gilydd. Bu farw John neu jaci Williams yn y flwyddyn i 864, yn 8 i mlwydd oed.  Dyn o gorff cadarn ydoedd ef Bu yn ddiwyd a llwyddiannus am flynyddoedd fel amaethwr, a pha beth bynnag yr ymgymerai
âg ef, yr oedd bob amser yn ei wneuthur yn drwyadl.  Yr oedd ei wedd yn olygus a boneddigaidd.  Ei ddau lygad llwyd ac erytaidd oedd dreiddgar a thryloyw, fel ei feddwl.  Ei drwyn Rhufeinig cryf a ddangosai allu ac annibyniaeth meddwl a chymeriad.  Yr oedd yn hoff o ddarllen, ac yn Gymro trwyadl-nid o’r ffasiwn riewydd sydd yn awr, ond o’r hen ddull da, sicr, a chadarn.  Yr oedd awdurdod i’w deimlo yn ei lais cryf, croyw, ac i’w weld yn nhroad ei lygad, ei ystum, a symudiad ei gorff.  Anodd fuasai cyfarfod â dyn mor ymarferol, mor ddeheuig a gwybodus âg ef gyda phopeth.  Yr oedd yn hynod fel cyrnwynasydd yn y plwyf, ac am ei onestrwydd.  Talai i bawb yn ddirwgnach, a disgwyliai gyda llymder am gael yr un peth oddi ar law eraill. Symudodd o Gelli-lwch cyn diwedd ei oes i fyw i Bont-y-pridd, a threuliodd flynyddoedd olaf ei fywyd yn dawel a heddychlon yn y Bont, gan fwynhau ffrwyth llafur ei oes led hir.  Ond tra yr oedd ei gyfoeth yn cynyddu, a’i fwynder yn myned Wwy, a’i blant yn byw o’i amgylch mewn sefyllfaoedd da, a llu o gyfeillion yn troi o’i amgylch; tra murmurai Taf heibio islaw ei breswylfa, wrth lifo tua’r môr, trwy geinion a chyfoeth y dyffryn, yr oedd afon ei fywyd yntau yn llifo tua’r terfyn, yn myned heibio i fryniau cyfoeth, a glas ddolydd anwyldeb a chymdeithasgarwch i’r Aber, i’r môr, i derfynu y rhawd ddaearol.  Rhedodd ei ysbryd i’w randir anfarwol o lannau Taf, 1 fyny yn uwch na chopa Craig-yr-hesg, yn uwch na Thwyn-y-lan, heibio i’r ser i fyd yr ysbrydion di-gyrff, a dygwyd ei gorff i huno ger Eglwys Wynno, hyd sŵn y corn mingorn mawr, pan ddaw yntau gyda’r dorf aneirif sydd yno gydag ef i fyny o gysgod eu beddau, pan gipir y Saint i fyny i’r  

=========================== (x084)  

awyr i gyfarfod i’r Arglwy . yna y pai     anes anwynno- ond hyd hynny, heddwch i lwch John Williams, o Gelli-lwch. Boed dawel yr hunell hon iddo, yn yr erw hon o dir Duw, ym mhlith hen breswylwyr miloedd o oesau Tir Gwynno.  Yn iach iddo! Y mae engyl lawer yn dyfod i’r fynwent hon! Y mae ysbryd barddoniaeth yn crwydro ar y twyni yna, ar Darrenyreglwys a Thwyn Brynbychan, a Choetgae’r Dduallt. Crwydra o gylch y fynwent, cAn ar ei mil-myrdd beddau; clywch ei’ lef yn dyfod ar awelon haf a gaeaf Mynydd Gwyngul  Cipiwch ddarn o’r gerdd

Chwi farwolion Mynwent Gwynno,
Crwydraf, canaf uwch eich pen
Gyda’r engyl sydd yn gwylio
Yma fel gweis lifrai’r nen;
O pa sawl cenhedlaeth huna
Yn dawel dan y Darren gref?
Atsain hefyd a ateba
“Ni @ yn unig ond y Nef.”

Mae y Pistyll Golau’n canu
Cerddi natur yn y Pant,
A’r awelon yn murinuru
“Atgyfodiad ddaw i’r plant;”
O orweddle sanctaidd lonydd,
Draw ym mhell o dwrf y byd,
Ac awelon iach y mynydd
Yn cusanu’i gwedd o hyd
Dyma h@d fan i huno
Wedi dydd o galed waith,
Hyfiyd fan i godi eto
I “ddydd anfarwoldeb maith 1”

=========================== (x085) 

PENNOD XI 0 BEN Y GRAIG-WEN 

Rhag ofn y dichon i rywrai gredu fy mod yn cadw yn ormodol yng nghanol y plwyf, ac yn cael fy nhueddu i fod yn ffafriol i un llecyn yn fwy na’r llall, mi a safaf yn awr ar ben y Graig-wen, ar ochr y plwyf sydd yn wynebu Rhondda, ac yn ysgwyd llaw i phlwyf Llantrisant ar ganol afon nwydwyllt Rhondda.  Yr wyf yn awr yn yr ysbryd yn sefyll ar y Graig-wen, yng ngolwg tŷ fy hen gyfaill, Dafydd Llewelyn, brawd Iforaidd, twymgalon, a Chymroaidd.  Yn yr ysbryd eto yn ysgwyd llaw i Dafydd siarad am yr hen amser, a’r pethau a ddigwyddodd pan oeddem yn y Llwyncelyn a’r Darren Ddu.  Y mae Dafydd yn hoff iawn o anian.  Mae yna le hyfryd i’w gwylied hi yn ymwisgo yn ei dillad Gwanwyn oddi ar ben y Graig. 
Bydded hyn yn well na moddion doctor i adfer y brawd caruaidd i’w iechyd fel yn y dyddiau gynt. O, ie, lle hyfryd yw y Graig-wen.  Dyma ddisgrifiad y bardd ohoni mewn englyn sydd ar fy nghof

Craig lethrog, goediog ydyw  -  y Graig-wen
A’i grug hir yn anu-yw;
Ochr o barch, eithr ei chrib yw
Ei haddurn pennaf heddyw

Yr ydwyf yn awr ar ei chrib yn edrych i lawr ar dai a. phreswyl gwastatir glannau Rhondda, ac ar Bont-y-pridd; ic, dacw’r ddwy afon-Taf a Rhondda yn cydgyfarfod y tu isaf i’r Butchers.  Rhondda wyllt-gynhyrfus wedi brochi, digio, gwynnu, cynhyrfu fel mewn llid o dro i dro, o bwll i bwll, nes cael ei galw, wedi llyneu Rhondda Fach, yn Rhondda Fawr. Ie, dacw hi yn cael ei llyneu ei hunan yn awr!
Derfydd am- 

 =========================== (x086)  

¿?

=========================== (x087)  

preswylwyr yr ardal yn ei gweled bob dydd, buasent yn llesmeirio gan faint ei gogoniant, ond ‘ too muchfamiliariy breeds contempt’-’ni bydd rhybarch rhy gynefin,’ ebe’r hen ddihareb.  Llawer gwaith yr wyf wedi sefyll ar y Graig-wen i edrych ar Ddyffryn Taf yn ei ogoniant, ac ni welais erioed well darlun o’r hyn a elwir perfect repose nag ymestyniad mawreddog y Dyffryn, a Thaf fel yn cysgu ar ei fynwes, a’r train yn teithio ar hyd y dyffryn, ac yn ymwneud am orsaf Pont-y-pridd gyda rhwyddineb annisgrifiadwy, fel pe buasai wedi llithro ar balmant o ia o borthladd Caerdydd hyd wydd-dir y Rhondda. Trowch eto gyda mi, er nad ydych yn gweled fy ysbryd, i edrych i lawr megis dan ein traed ar Bant y Graig-wen a’r Hollybush, a Thref Hopkin.  Mae y daeargryn wedi bod ym Mhant y Graig-Wen.  Saif yr hen graig a’i phig hir yn awr fel cyn dechrau gweithio’r glo, ond y tai odani a deimlasant gryndod ei gliniau hi, wedi i’r glowr, neu’r gweithiwr clai fynd a mwy na’i ran o wadnau ei hesgidiau hi; cyffr6dd hithau, a throdd a dychrynodd y tai, ac oddi ar hynny, offiir iddynt fyned yn garn! Ni ddychymygodd neb i hyn ddigwydd ar yr hen Graig-Wen a’i hochrau cedyrn.  Yn ddiau mae bai yn bod yn rhywle, ac y mae yn gywilydd i berchenogion tiroedd adael i weithwyr godi tai a gwario eu harian, er mwyn eu colli yn yr agennau y maent hwy fel perchenogion wedi ennill llawer ynddynt! Paham na ddeffroai y bobl yn y lle, ac nad ymunent yn unllaw i fynnu gweled y mater yn cael ei dreffiu.  Os na allant roddi sawdl y Graig-wen yn ôl yn ei le yn gadarn fel y bu, gallant gael cyfiawnder, ac yn hwnnw, ni ddylai fod na thwll nac ôl daeargryn Dacw yr Hafod, preswylfa y Morganiaid, boneddigion Cymreig.  Hen enw Cymreig siriol, ac wedi’bod yn enwog ac yn annwyl yn y plwyf am genedlaethau.  Ac ni pheidir hyd y dydd hwn i siarad Cymraeg yn yr Hafod.  Mae y lle o’r Great Western i fyny hyd y Porth ar waelod y Dyffryn wedi ei lanw i thai.  Braidd nad wyf fi yn cofio amser v 

 =========================== (x088)  

gellid sefyll ar y Graig-wen ac edrych i fyny y cwm, a chyfrif yr holl dai a’r preswylwyr; ond heddiw, ni fyddai waeth i chwi geisio cyfrif y sêr ar nos lwydrewog! Fodd bynnag, mae’r hen landmarks yn aros.  Dyma ffermdy y Graig-wen yn yr ymyl, ac yn fy myw nis gallaf feddwl amdano heb Siôn Llewelyn yngl@n
âg ef.  Siôn oedd yn byw ynddo pan welais i et gyntaf, ac am flynyddoedd wedi hynny, ac yn fy meddwl fyth mae Siôn yn ffurfio rhan o’r Graig-wen.  Dyn bychan, byr, difyr oedd Siôn, a thipyn o beswch byr sychlyd arno. Diniwed ei fryd a hoff o gyfarfod â phlant, a gofyn pethau doniol a diniwed iddynt, a’u canmol o chwith, tynnu ei law i fyny ar hyd eu hwynebau yn lle tuag i lawr.  Llawer stori fach ddoniol a adroddodd Siôn wrth ymyl y ffordd pan fydda’n gwylied gwy^r pen ucha’r plwyf yn myned yn ôl o’r Bont. Mae ef ac Ifan ei fab wedi ‘dirwyn y bellen’ ers blynyddoedd, ond y maent yn aros mewn coffadwriaeth barchus o gwinpas y Graig-wen.  Dacw Rhiwyrychen hefyd, cartref y diweddar Morgan Jones.  Gkr doniol oedd ef-ysgolor gwych o’r hen ffasiwn, a hanesydd di-ail.  Pan oedd tua 8o mlwydd oed, yr oedd yn cofio mwy na neb a welais yn y plwyf, ac yr wyf yn gofidio y funud hon iddo gael myned i’w fedd heb gofnodi y trysorau gwerthfawr oedd yn ei gof dwfn.  Os gadawodd ysgrifau ar ei ôl, byddai yn dda gennyf gael caniatad i edrych drostynt. 0, ie, dacw yr Hafod Gaiiol neu Hen D@ George Basset. Mae hwn yn lle pwysig.  Mae rhai yn fyw yn awr sydd yn cofio yr hen ŵr hynod George Basset.  Yr oedd y Bassets o deulu da, hynafol.  Daethant drosodd gyda William y Gorchfygwr, ac fel llawer o’r Normaniaid, P”riodasant A Chymraiisau, a daethant hwy a’u disgynyddion yn Gymry trwyadl mewn iaith ac arferion.  Maent yn llwyth go fawr, ac yn wasgaredig trwy fro fras Morgannwg, a mannau eraill o’r sir hyd heddiw.  Yr oedd Geor e yn un o’r llinach, ond pa 9 fodd y bu iddo fyned yn ŵr eccentric a hynod gybyddlyd, nis 

 =========================== (x089)  

gwn. Ond dyna’r    ffaith. Yr oedd yn hynod iawn yn ei ffordd o fyw.  Yn hynod iawn o gybyddlyd, ac yn ddiau yn lled hynod o gyfoethog, fel yr oedd pethau yn y dyddiau hynny. Yr oedd y lle yn eiddo ef ei hun, a gwerth arian mawr o goed ar y tir pan fu farw; ond hynod yw adrodd, aeth y cyfan rhwng y gigfran a’r cŵn.’ Wrth groestynnu ac ymgyfreithio A’i gilydd, aeth y plant heb ddim, ac aeth trigfan George eu tad i ddwylo dynion eraill, ac nid yw yn debyg y daw oddi yno. Adwaenwn lawer o ddisgynyddion George Basset, ac y mae gennyf barch iddynt, a buasai yn dda gennyf weled yr hen le wedi dod yn gartref yr hiliogaeth eto, ond cael hynny yn deg a theg, fel y dywedir.  Erys y lle yng nghof dynion ar enw George Basset fyth; ac y mae y fath le h Chwm George yn bod; dinas y tai gwellt; ond Cwm George ydyw.  Mor wir yw yr hen Feibl, onid e-’ Eu meddwl yw y pery eu tai hyd genhedlaeth a chenhedlaeth; enwant eu tiroedd ar eu henwau eu hunain.  Er hynny, dyn mewn anrhydedd, nid erys tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir.’ Ychydig bach yn uwch i fyny, mae yr Hafod Fach.  Yr ydys yn wastad yn cysylltu pob lle i rhyw berson neilltuol.  Felly, wrth edrych ar yr Hafod Fach, bydd Rhys Jenkins yn dod i’r meddwl.  Hen Gymro trwyadl oedd Rhys.  Hoff iawn fyddai o ganu hen ganiadau Cymreig, perthynol i sir Forgannwg.
Os caf fyw dipyn, mi a gasglaf ganiadau sir Forgannwg yn llyfryn cryno.  Mae llawer ohonynt ar gael, ac yn perthyn i Forgannwg yn unig, cyn sicred A’m bod innau fy hun yn real Morgannwg breed.  Yr oedd Rhys o’r Hafod yn hoff iawn o ganu amryw o’r hen gerddi hyn.  Peth rhyfedd yn Rhys oedd yr arferiad o ganu yn ei gwsg! Clywais ef fy hun fwy nag unwaith yn canu, ‘O ai di’r ceiliog mwyn o’r mynydd?’ drwyddi, bennill ar ôl pennill, o’r dechrau i’r diwedd, yn ei gwsg yng nghanol y nos.  Yr oedd yn arfer gwneud hynny. Clywais ef hefyd yn adrodd yn ei gwsg un noswaith wedi 

 =========================== (x090)  

dychwelyd o ffair Llantrisant, yr holl ymdriniaeth a fu rhyngddo a’r dyn a brynodd fuwch ganddo yn y ffair.  Yr oeddwn yn cysgu yn yr ystafell nesaf, ac erbyn y bore, yr oeddwn yn gallu adrodd wrtho ef ei hun, beth oedd wedi digwydd yn y ffair; pa faint o arian a gafodd am y fuwch, a pha faint o lwc y.r oedd yntau wedi ei daflu yn ôl i’r prynwr! Gellid edrych ar Rhys fel cynrychiolydd da o ffermwyr y mynydd-dir, yn sionc, a by-wiog, hoff o wneud arian a bargen dda, a sôn amdani ar ôl ei gwneud.  Er nad oedd Rhys yn enedigol o’r plwyf, eto, treuliodd ran helaeth o’i oes yn Llanwynno; a phan ddaw i fyny wrth floedd utgorn yr archangel, daw o’i fedd yng nghysgod Eglwys Wynno. Mae cryn dipyn o fynydd-dir yn perthyn i’r Hafod Fach, ac y mae yn rhaid i’r preswylwyr fod yn fugeiliaid. Ond dacw Benrhiw’r-gwynt hefyd ar y llethr, dan gysgod y mynydd uwchben y Porth.  Yr wyf yn ei weled yn hawdd oddi ar ben y Graig-wen. 
Cafodd y lle hwn yr enw iawn yn ddiau. Rhiw’r gwynt ydyw hwn, a rhiw serth ydyw o’r Porth i fyny i ben y Mynydd Gwyngul.  Y mae yr hen ŵr Bili Rees wedi ymadael er ys blynyddoedd, er mai ei enw a’i berson ef a fyddaf fi yn eu cysylltu h’r lle bob amser.  Yr oedd ef wedi priodi un o ferched Daerwynno, ac felly yr oedd canol y plwyf yn cael ei gysylltu â Phenrhiw’r-gwynt.  Arferem pan yn blant ystyried Penrhiw’r-gwynt yn lle pellennig iawn; o’r braidd y gallai ein dychymyg bychan feddwl am grwydro ymhellach.  Y mae rhyw swyn anarferol i mi yngl@n i’r ffermdai ar y llethrau, ac ar y mynyddoedd.  Ynddynt y mae hen iaith, hen arferion, a hen ddulliau arbennig Morgannwg yn cael eu cadw lawer yn fwy digymysg nag mewn mannau eraill.  Byddai yn dda gennyf roddi ymweliad â llawer ohonynt yn ystod yr haf dyfodol i gael casglu eu hanes, a hanes Llawer o bethau sydd mewn perygl o syrthio i angof bythol oddieithr i mi neu rywun arall eu crorticlo a’u rhoddi felly o fewn terfynau ‘ cof a chadw.’ 

 =========================== (x091)  

Drwg gennyf glywed fod Llwynperdid wedi myned ar din.  Yr oeddwn wedi ei ddisgrifio yr wythnos yr aeth ar dhn ‘Fcl yn gwyliaw yn yr oerni.’ 

Ond aeth yr hen le, meddir wrthyf, yn aberth i’r fflamau yr adeg honno-wrtho ei hun ar ben y mynydd.  Rhyfeddol iawn!  Ychydig ddyddiau cyn clywed am y digwyddiad, deffroais un bore, ac adroddais wrth fy ngwraig freuddwyd a gefais yn ystod y nos.  Yn fy mreuddwyd yr oeddwn yn rhywle yn Llanwynno, o gylch ardal fy ngenedigaeth, a chylch fy chwaraele, ac yn sydyn aeth y lle ar dAn; gwelwn y mwg yn ymddyrchafu, a’r fflamau yn cochi y nefoedd.  Gallwn feddwl mai y Fanhalog oedd ar dAn, ac yng ngolau y tanllwyth yr oeddwn yn gweled ochr Rhydygwreiddyn mor eglur â phe buaswn yn sefyll yn ymyl y lle.  Deffroais cyn diffodd y tAn, ac achosodd y freuddwyd i mi gryn flinder meddwl.  Pa gysylltiad, medd rhywun, sydd rhwng hyn a Llwynperdid? Nid wyf yn dywedyd fod yr un cysylltiad.  Dywedyd yr wyf fod rhywbeth lled ryfedd yn y ffaith fy mod wedi gweled tAn mawr yn y gymydogaeth ychydig cyn i’r olosg ddigwydd ar fynydd-dy Llwynperdid.  Cyfoded yr hen le ato fel Phoenix O’i ludw, a pharhaed i herio ystorm Mynydd Gwyngul hyd nes y daw Golosg Fawr y dydd olaf. 

 =========================== (x092)  

PENNOD XII AR BENRHIW-CEIBR 

YR wyf yn eich gwahodd yn awr i sefyll gyda mi ar Ben-rhi@-ceibr, uwchben Dyffryn Cynon, ac yng ngolwg Mountain Ash.  Dyma ni yn ymyl yr hen amaethdy yn edrych i lawr ar yr hen ffordd-’ hen heol y plwy”-o Lanwynno i Mountain Ash.  Yr wy fi yn ddigon hen i gofio hon mewn bri, cyn i’r ‘ heol newydd ‘ gael ei gwneud o dan Benrhiw Caradog, dros y Darren Las, i bentref Mountain Ash.  Yr oedd yr hen ffordd yn un hen ffasiwn iawn-yn gwau rhwng y coedydd, ac yn rhuthro ar ei phen i’r dyffryn allan i’r gwastadle yn ymyl Clungwyn, a cher gwaith glo y Meistriaid Nixon & Co.
Y mae yr hen heol yma eto; y mae yn serth iawn.  Yr ydym yn rhyfeddu yn awr pa fodd y gallodd yr hen bobl ei defnyddio am gyhyd o amser, a pha fodd y gallodd ceffylau y plwy’fyned drosti i lawr ac i fyny, gan dynnu certi ar eu holau, neu ddwyn pynnau ar eu cefnau.  Y mae derw mawrion cedyrn yn cysgodi y rhan uchaf ohoni, yn estyn eu breichiau o bob tu iddi nes ymgyfarfod uwch ei   phen i ffurfio gwyrfa gysgodol fel i guddio ffolineb y rhai a wnaeth ffordd trwy y fath dir anfanteisiol. I lawr dipyn ar y dde y mae yr hen le a elwir yn Cilhaul. Mor briodol yw yr enw-Cilhaul! Nid oes modd cael pvell disgrifiad o’r lle na’r enw hwn, -Cilhaul ydyw ym mhob ystyr.  Yr oedd y rhai a enwodd y lle hwn yn gallach dynion na’r rhai a luniodd ‘ hen hewl Benrhiw-ceibr.’ Y mae gwahanol farnau yng nghylch ystyr yr enw Pen-rhiw-ceibr.  Myn rai mai Rhiw-y-geifr ydyw.  Nid yw yn amhosibl ei bod yn ffordd geifr cyn hyn, ond fel yr ysgrifennir yr enw ar yr hen fapiau y swnir y gair gan dafod y wlad o genhedlaeth i genhedlaeth, a lled anodd yw meddwl fod Cymry glan gloyw y parthau hyn wedi gadael i’r ‘geifr’ 

 =========================== (x093)  

droi yn ‘ ceibr.’ Pan wnaethpwyd y ffordd hon gyntaf, nid oes lle i amau ei bod yn myned trwy ganol fforest fawr bob cam o Mountain Ash hyd ben tir y Lan Uchaf, hen dderw mawrion oedrannus, yn cario nodau canrifoedd ar eu cyrff ac ar eu canghennau, rhai ohonynt ar ochrau a cheulennydd y fforest, yn gwywo gan oedran, yn estyn eu breichiau noethion i gyfarfod yr awelon oedd wedi curo arnynt am ganrifoedd, ac yn edrych yn awr yn nyddiau henaint a gwywdra fel Ysbrydion Cwmcynon, rhesi mawrion o geubrennau neu geibr, y torrodd yr hen breswylwyr ffordd rhyngddynt i’w ceffylau bychain i deithio o ddyffryn Cynon i Ynys-y-bŵl. Digon naturiol oedd galw heol fel hon yng nghanol gwig fawr yn Rhiw-y-ceibr.  Yr oedd yr hen bobl yn fynych yn pvneud eu ffyrdd fel eu cloddiau a’u gwrychoedd, o bren i bren, yr hyn yw y rheswm am fod y cloddiau, y perthi, a’r heolydd fynychaf, mor gam ac anhrefnus braidd i phe buasent wedi eu gwneud gan ddeillion ymbalfalus y dyddiau gynt.  Fodd bynnag, galwaf ac ysgrifennaf enw yr hen dyddyn a’r ffordd fel y clywais yr hen bobl yn ei swnio, -Penrhiw-ceibr. Yr wyf yn cofio y tro y gwelais y ffermdy hwn gyntaf Yn blentyn bychan yn llaw fy mam, a Modryb jemima, a William Jones, yn cael, dybiem ni, y fraint fawr o fyned gyda hwy tua Phastai y Tafarn Isaf y-rn Mountain Ash, ac yn troi i Benrhiw-ceibr wrth fyned heibio.  Yr oedd Dafydd a Gwenni yn byw yno’r pryd hynny; y maent yn y byd arall er ys llawer blwyddyn bellach. 
Yr oedd y lle cyn loywed â’r ambr.  Cylch y tin fel yr arian.  Margaret, y ferch, yn fy nghusanu, ac yn dweud mai o’r ddau William, y fi oedd y pertaf o ddigon.  ‘ Ho,’ ebe modryb, ‘ os ef yw y glanaf, William ni yw y gora o ddigon.’ Nid oedd waeth gan William a minnau ar y pryd pa un oedd yr harddaf, na pha un oedd y gorau; y peth mawr oedd yn llanw ein meddyliau oedd Pastai y Tafarn Isaf 

 =========================== (x094)  

Ond rhaid dod yn ôl yn awr o’r hen amser gynt i edrych ar D@’r Arlwydd, i lawr o dan Benrhiw-ceibr, yn ymyl y ffordd, dipyn cyn cyrraedd y gwastatir.  Tŷ’r Arlwydd, neu dŷ Tomos Charles ac Ami.  Yr oeddynt yn byw ar eu tir eu hunain.  Yr oedd yn fferm, yn dafarn, ac ynjieehold, feddyliaf Cafodd Tomos Charles o bryd i’w gilydd lawer o arian, ond ymddengys fod tyllau ym mhocedau Tomos, oblegid nid oedd waeth pa faint o arian a ii i mewn, yr oeddynt yn myned allan yr un mor gyflym  Nid oedd Tomos nac Ami wedi eu gwneud i gadw arian      yr oedd cyn hawsed iddynt hwy gadw dŵr -mewn gogr, i chadw arian yn eu meddiant ar ôl eu cael.  Yr oedd ffrwd o ddwfr yn llifo heibio i’r tŷ, ac yn gyffelyb i honno y llifai ffrwd cyfoeth Tomos Charles, heibio, i lawr, i lawr, i ffwrdd o’i afacl, ac er iddi lawio nes peri i’r ffrwd lifo yn gryfach, y drwg oedd, llifai yn gyflymach, heibiq o hyd, nes o’r diwedd i’r arian lifo ymaith, a’r tŷ lifo i ffwrdd, a’r tir hefyd lifo ymaith gyda nhw! Felly y mae rhai pobl, nid oes dim yn aros gyda hwynt. 
Rhaid fod esgeulustra a diofalwch, annibendod ac anhrefn yn achosi hyn.  Yr oedd Tomos Charles yn dawel a diofal ddigon yn wastad. Yr oedd arni yn hoff iawn o gwpanaid o de, neu laeth fe ddichon, neu efallai rywbeth cryfach-pwy a ŵyr? Y cymdogion ond odid.  Ond y mae Tomos ac arni wedi myned lle nad oes eisiau na th@ na thyddyn, am hynny na ddyweder dim amharchus amdanynt-os drwg a wnaethant, iddynt eu hunain a’u plant y gwnaethant hynny.  Gwnaeth Tomos ddaioni hefyd, oblegid yr oedd yn garedig a chymwynasgar yn wastad.  Dyn byr, cadarn ei osgo a’i wedd oedd Tomos, ysmala ei olwg, un o’r rhai hynny nas gellwch yn eich byw beidio i gwenu wrth edrych arnynt.  Rhyw anhrefn, anghymesuredd yn y wisg, y wedd a’r osgo sy’n cyffwrdd A’ch teimladau, yn goglais eich peiriaunau chwerthin y man y gwelwch hwynt.  Un o’r rhai hyn oedd Tomos Charles. 

 =========================== (x095)  

Wyneb fflat lled gigog, a llygaid anodd iawn eu disgrifio, llygaid llonydd, cysglyd, lled fawr, ac yn lled anghytihn A’i gilydd, yn edrych bob un i’w gyfeiriad ei hun, heb fawr o’r hyn a elwir yn expression ynddynt.  Y cwbl a welid ynddynt ydoedd hoffter bywyd esmwyth, digon o fwyd da, a diod, a thip@n ormod, peth waggishness, a llawer o anifeileidd-dra, a thopyn anferthol o dybaco yn ei safn-dyna Tomos Charles. C6t lwyd am ei gefn, lled fer, gallasai ffitio rhyw un arall yn well, nid oedd o angenrheidrwydd yn g6t Tomos Charles, gallasai fod wedi ei thorri a’i phwytho i ryw gcfn arall o ran hynny.  Gwasgod plush goch a botynau gloywon, -y mae yn wasgod hir, drom, ond nid yw hynny yn peri un anhwylustod i Tomos, y mae yn wasgod, ac felly dyna ddigon am hynny. Nid oes dim gwahaniaeth ei bod yn lled laes amdano, a bod lle i un o’r plant ynddi gydag ef ei hun, -dim mymryn, gwasgod yw gwasgod gan Tomos’tai ynddi le i hanner dwsin. Y mae trousers Tomos wedi ei-hongian yn rhy uchel, a’i draed yntau wedi dyfod i lawr trwyddo gryn dipyn yn rhy bell, ac y mae hosan lwyd fawr yn dyfod i’r golwg ar bob coes, a lle braf i gael awyr i mewn at ei syrnau, dros ran uchaf y pAr esgidiau -Cossacks-sydd ar ei draed, ond gwell peidio â disgrifio ‘ y rhai hynny; y maent fel traed pob genius-yn rhai arbennig o hynod. Yr oedd trwch mawr o wallt ar ben Tomos Charles, yn tyfu i fyny yn syth ar ei gopa, ac yn tyfu i lawr yn union tua’r ddaear ar ei dalcen, ac yn yr amser y gwelais i ef gyntaf nid oedd barbwr yrn Mountain Ash.  Yr oedd Tomos yn tocio ei wallt ei hun â’i  gyllell boced, ac yn eillio ar fore Sul ar ben y peritan, mewn dŵr oer, a dyna yr oruchwyliaeth galetaf iddo ef o bob goruchwyliaeth oedd honno. 
Dyna, yn ôl barn rhai, oedd y gwaith caletaf a gyflawnodd Tomos crioed.  Yr oedd y dasg yn anferthol, a’r gweiddi a’r wbain wrth dynnu yr hen ellyn wedi ei awchu ar garreg y pentan dros ei wyneb, yn ofnadwy; nid torri, ond crafu mileinig oedd yno, diwreiddio blew mawrif)n 

 =========================== (x096)  

cryfion, nes oedd dŵr, gwaed, a sebon mewn cymysgedd hynod, yn ffrydio i bentanau Tŷ’r Arlwydd, cyn yr ystyriai Tomos Charles fod ei wyneb yn ffit i’w ddangos, a’i 6n a’i gernau wedi eu trwsio yn neis.  Yr oedd yn amheuthun i ddyn weled lliw coch wyneb Tomos wedi dod allan o’r driniaeth ellynyddol, bentanyddol hon. Dygwyd y newydd i Tomos unwaith fod y rheilffordd i basio trwy ei dir ef, ac y buasai yn rhaid iddo werthu y tir i’r Cwmni.  ‘Gwnaf,’ebeTomos,’gymaintagsyddyneisiaui wneud rheilffordd trwyddo.  ‘ ‘ Wel, am ba bris, Tomos? ‘ ‘ Yr un bris â rhyw dir arall, bid si@r,’ ebe yntau.  ‘ Na, na, Tomos, rhaid i chwi feddwl nad yw eich tir chwi gystal tir i rhai o’r tiroedd eraill-Abercwmboy er enghraifft.’ ‘ Ddim cystal tir? ‘ ebe Tomos, ‘ mae gystal tir railway i’r un ohonynt! ‘ Myn rhai mai dyma y peth gorau a ddywedodd Tomos Charles yn ei fywyd.  Fodd bynnag, prynwyd y tir, a daeth y rheilffordd, ond ni ddaeth i Tomos allu gwell i grafangu y pres-llithro trwy ei ddwylo a wnaethant trwy y cwbl, ac o’r diwedd llithrodd Tomos ac arni o dan len y bedd, i orffwys o sŵn rheilffordd ac arian, a gofalon y bywyd hwn! Saif Tŷ’r Arlwydd o hyd yn ymyl y nant fechan fel cynt, er fod cyfnewidiadau mawrion wedi bod yn yr ardal.  Mae y Clungwyn yna, feddyliaf, Gwernifor a’r Darren Las, wedi peidio â bod fel ffermdai, a’r lle y porai yr cidionau ac y pranciai yr kyn gynt, yno yn awr y gweryra y meirch tanllyd, wrth wibio ar eu teithiau masnachol trwy Ddyffryn Cynon. Ar ein cyfer, yr ochr arall i afon Cynon, mae hen dŷ Dafydd Siôn Rhys.  Yr oedd Dafydd, a’i dad o’i flaen, yn hoff iawn o ganu a chwareflute.  Ond mae y ddau er ys oes a hanner yn nhir distawrwydd, a’r hen dŷ yn edrych yn sypyn llwyd mwsoglyd, fel pe byddai wedi blino disgwyl awr ei ymddatodiad yntau fel ei hen breswylwyr a aeth ymaith ohono.  Yr wyf yn cofio gweled Rhys Darren Las ac eraill yn lladd gwair ar 

 =========================== (x097)  

y Waun fawnog yna, lle yn awr y saif Capel y Bedyddwyr, a’r llu tai sydd o’i amgylch hyd orsaf rheilffordd Taf. Rhaid i mi enwi, dim ond braidd enwi, rhai o’r hen breswylwyr, a welais gynt yn ymlwybro o amgylch Mountain Ash. Morgan o’r Dyffryn, bu ef a chryn law yng nghychwyniad Mountain Ash, rhaniad y Caegarw, &c.  Edward Thomas, yr hooper, bu yntau yn brysur am flynyddoedd yn meindio ei fusnes ei hun ac yn gwneud arian yn y shed naddu ar fin Cynon, ac o fewn terfynau ei ardd ei hun: O’i flaen ef yr ydym yn cofio Dafydd o Droed-y-rhiw a Gwenni, yn mynych gyrchu i’r pentret, pan oedd y lle yn dechrau, ac yn bygwth dyfod yn fawr.  Pa le y mae Siôn Morgan, y tiler? hen Gymro uniaith eithaf Llanwynno breed, llawn o ddoniolwch bob amser, ac mor fachgennaidd ei deimlad ar derfyn ei yrfa â phan gychwynnodd wrth Ynys-y-bŵl!
Pa le y mae Siôn? Y mae ef a jemima yrn mhlith y mwyafrif, ‘ y rhai,’ ys dywed job, ‘ a lawenychant mewn hyfrydwch, ac a orfoleddant pan gaffont y bedd.’ Meibion Clungwyn, Siôn ac Ambrose; a bechgyn y DarrenLas,RhysaWilliam;abechgynPen-y-banc?  Ymaent yn heneiddio, ac o un i un yn syrthio i’w cwsg hir a thrymllyd. Evan Evans o’r Allen’s; Thomas Williams, y cigydd, dear me, pe byddai gennyf nerth yr Atgyfodiad, gallwn yn awr alw torf i fyny o’r anghofus dir I Ond ‘ cysgwch bellach a gorffwyswch.’ Fe ddaw y bore! Llawer gwaith yr wyf wedi synnu fod lle mor Gymreigaidd ei gysylltiadau wedi cael enw Saesneg! Paham yn enw’r annwyl na wnaethai y trigolion dipyn o ymdrech i gael enw Cymraeg i’r lle? Yng nghanol y bryniau, ac yng Nghwm7cynon, lle mae pob peth yn siarad Cymraeg, y myiiyddoedd, y coedydd, a’r awaethdai yn Gymry glan gloyw, a’r lle hwn yn codi fel ysbrigyn o Sais ar enw un o’r coedydd Cymreig hefyd? Mountain Ash, yn wir I Oni fuasai yn harddach, yn naturiolach, ac yn esmwythach ei alw ‘ Y Gerddinen,’ neu ‘Y Griafol?’ Y mae Pantygerddinen yn swnio yn naturiol 

 =========================== (x098)  

iawn ar le adnabyddus yn uwch i fyny yn Nyffryn Cynon. Ond waeth heb siarad, yr hyn a ysgrifennwyd a ysgrifennwyd, a’r lle a adwaenir mwyach wrth ei enw Saesneg-Mountain Ash.  Yr oedd y ddau dŷ acw ar lethr y mynydd-y Fforest Uchaf ac Isaf-wedi ymseisnigeiddio o’i flaen, ond y maerdy wedi aros yn Gymro pur trwy’r oesau.  Ond rhaid i mi ysgwyd llaw i chwi, a dweud ffarwel yng nghysgod derw mawr hen hewl Penrhiw-ceibr.  Y mae pob peth yn Gymraeg yma, o wely yr afon yn y Glyn, heibio i frig y derw, i gorun mynydd Penrhiw Caradog a Chefn Gwyngul.  Mewn lleoedd fel hyn ceir Oes y byd i’r iaith Gymraeg.’ 

 =========================== (x099)  

PENNOD XII

TROED-RHIW-TRWYN

TROEDPHIW-TPWYN ydyw enw hen amaethdy y tu uchaf i’r Grai -wen, ac nid pell oddi wrth Waith Glo Cwmni y Great 9      a Western yng Nghwm Rhondda. 
Y mae y lle yn cynyddu yn gyflym.  Er ys blynyddoedd yn ôl, nid oedd ond Troed-rhiw-trwyn a’r hen Dypica yn y lle, wedi hynny daeth y Tŷ-mawr fel cymydog iddynt, ac yn raddol daeth y lle i’w adnabod wrth enw yr hen amaethdy, Troed-rhiw-trwyn.  Enw darluniadol a chywir, y mae yr heol o Bont-y-pridd heibio i balasty yr Hafod, a phreswyl yr hen George Basset, yr Hafod Fach, Nyth-brAn hyd Benrhiw’r-gwynt, uwchben y Cymer, yn cychwyn o’r cwm yn y lle hwn.  Estyn llethr yr Hafod i lawr yma fel pe yn gwan i’r dyffryn, ac i’r afon; daw y rhiw serth o Gwm Blaenhenwysg i’r Cwm i derfyniad sydyn yn y fan hon, a chyfyd y rhiw arall i fyny o dan y Ficerdy, ac ar war y Great Western, neu hen Lofa Calvert.  Ac fel y gwelir oddi wrth yr enw, terfyna rhiw y llethr serth yn y fan hon.  Amgylchir yr hen amaethdy yn awr gan amryw dai o wneuthuriad diweddarach a mwy ffasiynol, ond yno yr crys yntau o hyd fel hen Matriarch yn eistedd yn wargrwm ym mhlith ei ddisgynyddion.  Er ei fod yn edrych yn llesg a blinedig, eto y mae rhywbeth yn ei wedd sydd yn fwy mawreddog a barddonol na’r tai ieuengach, fel pe byddai ysbrydion yr hen oesau yn ymgyfeillachu âg ef, ac yntau yn lled ddisylw o bethau new)rddŷ y dyddiau hyn, yn cadw mewn golwg o hyd bethau h@n, gwreiddiolach, a Chymreiciach ‘yr hen amser gynt.’ Mor wahanol yw yr enw ‘ Y Great Western,’-’ Troed-rhiw-trwyn.’ Nid oes na barddoniaeth, na hynafiaeth, na Chymreigiaeth, na hanesiaeth yn yr enw ‘Great Westem,’-dim ond sŵn Seisnigyddiaeth a pheth Marsiandiaeth; ond 

=========================== (x100)  

Troed-rhiw-trwyn, mor wreiddiol, mor ddarluniadol, mor Gymreigaidd a gwlatgar, onid e? Y mae sw’n y gair yn ein cario yn ôl heibio i’r gwaith glo, a’r clai, a’r distillery, a’r Seisnigyddiaeth sydd wedi dyfod gyda hwynt i’r cyfnod hwnnw pan enwid lleoedd yn ôl natur, a safle, a pherthynas, ga.n hen athronwyr y twyni, a hen feirdd y llethrau a    9r mynyddoedd nad o--ldynt fyth yn gwneud camsyniad wrth enwi mynydd, dôl, afon, na th@. Ie, Tro6drhiw-trwyn yw yr hen amaethdy llwydwyn yna sydd yn gorffwys fel pererin perthynol i’r oesoedd gynt, ar odre llethr yr Hafod a-Blaenhenwysg.  Gallaswn aros yma yn awr i ddychmygu myrdd o bethau am yr hen adellad a’l gyn-breswylwyr, ac am gyn-dawelwch y fangre, pan nad oedd nemor o dramwy dros Heol Rhondda, ie, pan nad oedd yr un Heol Rhondda yn bod; pan nad oedd ond murmur dyddiol Rhondda, a chyffro bryd arall yn nyddiau y storm, pan lifai dros ei glannau, ac yr ymgynddeiriogai ym mhwll erchyll Berw Rhondda; pan ddeuai y gwyntoedd nerthol o gyfeiriad y Cymer, gan ysgubo trwy goed yr Hafod a thros wig y Graig-wen, gan floeddio yn heriol yn nannedd y Cwar Pica!  Pwy oedd preswylwyr y Cwm yn y dyddiau hynny? Atsain a etyb ‘ Pwy? ‘ Y mae eu henwau wedi eu colli, a’u beddau yr un modd wedi myned fel dail gwigoedd y dyddiau hynny ar ddifancoll, hyd nes y deuwn i lawr at amser Guto Nyth-br’an, George Basset yn ddiweddarach, a William Ready a’i gyfoedion digrif Ond waeth i mi heb ddychmygu, gan fod ychydig o ffeithiau wrth law sydd yn dal perthynas i Throedrhiw-trwyn, defnyddiaf y rhai hynny, a gadawaf i’r darllenwyr ddychmygu a fynnant am ddyddiau h@n y lle.  Rhyw ddeg neu ddeuddeg mlynedd a deugain yn ôl, yr oedd cnwd ardderchog o wenith yn tyfu ar y cae lle yn awr y saif y Ficerdy, preswyl y Parch. Moses Lewis, Ficer galluog a thalentog presennol plwyf 

 =========================== (x101)  

Llanwynno.  Gallaf oddi ar wybodaeth bersonol ac adnabyddiaeth o Mr. Lewis, ddweud na fu yn Llanwynno erioed Ficer galluocach, mwy gwlatgar, twymgalon, a chrefyddol nag ef.  Fodd bynnag, ar y cae lle y saif y Ficerdy, yr oedd cnwd arferol dda o wenith yn tyfu yn y flwyddyn y cyfeiriais ati eisoes.  Casglwyd y gwenith yn gnwd aeddfed i ddiddosrwydd, llanwyd ysgubor Troed-rhiw-trwyn
âg ysgubau melynion pwysig, ac ymfalchiai y perchennog yn aeddfedrwydd a gwerth y grawn oedd wedi ei gludo i ddiogelwch yr ysgubor.  Yr oedd y gofal am ei gasglu, a’r pryder yng nghylch ei ddiddosi wedi peidio.  Yr oedd ofn glawogydd ac ystormydd wedi darfod, oblegid yr oedd yr ysgubor fel dinas noddfa y pvenith rhyngddo a’r tywydd garw.  Ond fel yn fynych y digwydd, ‘po sicraf y teimlwn, agosa@ i ddistryw fyddwn,’ felly am y gwenith hwn yn Nhroed-rhiw-trwyn; ymwelwyd A’r lle gan fintai anferthol o lygod-llygod mawr Ffrengig, fel cathod mawrion.  Yr oedd pla y llygod yn y rhan hon o Gwm Rhondda mor drwm, fel y difodwyd neu y difrodwyd yr holl wenith a oedd yn yr ysgubor.  Pan aethpwyd i edrych yr ysgubau gwerthfawr, yr oeddynt oll wedi eu torri, eu malurio yn ddiwerth.  Cludwyd yr ychydig rawn oedd yn weddill oddi yno, ac yn fuan wedi hynny gadawodd y llygod yr ysgubor hymerasant feddiant o Droedrhi trwyn-daeth yr hen a c          W- amaethdy yn lletyfan byddin anhrugarog o lygod Ffrengig Yr oeddynt yn llanw y lle, pob congl yn llawn o lygod, pob cwpwrdd yn ymguddfan iddynt, a phob mur yn orchuddiedig i llygod.  Ni fu y fath bla er dyddiau llyffaint Pharaoh.  Yr oedd cŵn a chathod, a dynion a fferetiaid y wlad yn cynna;l pwyllgorau ar y mater, ond i ddim pwrpas.  Yr oedd y llygod yn amlhau, yn cryfhau, ac yn ymhyfhau, ac yn teimlo eu bod wedi dod yn fwy na choncwerwyr yn y lle.  Nid digon oedd ganddynt fyned â’r bwyd o’r llaethdy, ond carient beisiau y merched a dillad y plant i dyllau yn y gwelydd.  Nid oedd diogelwch, na llonyddwch, na chysur i’w gael i breswylwyr, 

 =========================== (x102)    

Troed-rhiw-trwyn.  Yr oedd yn dyfod yn bwnc sobr iawn. Yr oedd yn amlwg fod yn rhaid clirio y lle o’r llygod neu o’r dynion. 
Ond pa fodd y ceid y llygod allan? Nid oedd cŵn a chathod y plwyf ond gwawd ganddynt.  Yr oedd rhai o’r hen blwyfolion wedi clywed gan rai eraill h@n, os byddai iddynt ddal un o’r llygod a’i golosg, rhoi ei blew ar dAn’    y byddai y fyddin fawr yn sicr o gymryd rhybudd, a ffoi o’r lle ar unwaith.  Trefnwyd i ddal un ohonynt. Pan oedd Daniel yn myned i fyny i’r grisiau un diwrnod, cafodd afael ar un o’r llygod mwyaf yn y lle; yr oedd cyn dewed â phorchell, aQ wedi cael bywyd mor dda, a byd mor helaethwych yn ysgubor Troed-rhiw-trwyn, fel yr oedd ‘ blew yn disgleirio, a’i gwedd fel march porthiannus.  Fodd bynnag, daeth i’r ddalfa, a gosodwyd hi ar dAn, neu dAn arni hi, ac yna gollyngwyd hi i ffoi ymaith yn cael ei chylchynu gan fflamau.  Ni chlywyd erioed y fath ysgrechiadau, ac ni ddaeth i feddwl neb y gallasai llygoden fyth wneuthur ysgrechiadau mor erchyll ac mor flin.  Yr oedd yn waeth ac yn fwy mileinig ei llef na mochyn ar fainc y cigydd pan fyddo hwnnw yn chwilio am wythien fawr ei wddf.  Ond dihangodd hi a’i fflamau i fyny y grisiau fel ellyll yn anadlu tAn a brwmstan, ac i mewn a hi i’r twll cyntaf a welodd yn y mur.  Ni wyddys pa beth a ddaeth ohoni, ond gwyddys na chymerodd y llygod eraill rybudd, ac nid effeithiodd arnynt yn y mesur lleiaf Yr oedd y pla yn aros er golosg unohonynt, ac yn ymddangos yn hyach nag erioed. Un noswaith aeth    gŵr y tŷ i’r gwely yn lled gynnar, a chymerodd ei lawddryll llwythog gydag ef, gan benderfynu dechrau rhyfel â’r llygod yn y modd hwn.  Rhywbryd yn ystod y nos, clywodd gyffro y fyddin lygod yn yr ystafell, cyfododd ar ben-ei-elin, cydiodd yn y llawddryll, a saethodd atynt, a lladdodd ddwy ohonynt a’r un ergyd hwnnw.  Cafodd y fyddin lygod y fath fraw, fel yr ymadawsant ar unwaith      ‘ Gwacawyd y gwersyll, ac ni welwyd hwynt mwyach yn 

 =========================== (x103)       

Nhroedrhiw-trwyn.     Y mae yn debyg iddynt ruthro ar eu pennau i Afon Rhondda, a nofio cyn gynted
âg y gallent i blith liongau Caerdydd.    Fodd bynnag, iach fu Troed-rhiw-trwyn pla hynod hwn.     Ond yr hyn oedd yn hynod iawn, pan o’r saethodd William Thomas o’r gwely i ganol y llygod, yr oedd Mari ei wraig yn cysgu wrth ei ochr yn y gwely, ac nid aflonyddwyd ar ei chwsg mewn modd yn y byd; er i’r ergyd fyned allan fel sŵn taran, a’r mwg lanw’r ystafell, ni theimlodd Mari ddim, ac ni symudodd law na throed er mawr syndod i’w gŵr, yr hwn a fyddai yn arferol o ddweud, -’Yr w’i yn ffaelu dyall ffordd gallws y goblen gysgu mor sound.’ Claddwyd yr hen ŵr hwn yn ddiweddar, yn 86 mlwydd oed-nid o Droed-rhiw-trwyn, ond o Abercwmboy, ger Mountain Ash. Ychydig yn uwch i fyny ar yr un llethr, rhyw filltir neu ddwy oddi wrth Droedrhiw-trwyn, y saif hen amaethdy arall o’r enw Nyth-brAn.  Nid oes dim hynod yn perthyn i’r lle-hen dŷ a muriau gwyngalchog, a tho o gerrig llwydion, ydyw Nyth-brAn, yn sefyll i fyny y caeau gryn dipyn oddi wrth yr afon.  Paham y galwyd ef yn Nyth-brhn, wys? Yn ddiau nis gellir cael atebiad i hyn.  Ond mwy na thebyg iddo gael ei enwi oddi wrth ei safle yn y coed, neu oddi wrth ryw goeden neilltuol lle y nythai bran bob blwyddyn, neu oddi wrth ddyn o’r enw Brin a breswyliai ynddo, ac -yn naturiol a alwyd yn Nyth-brAn.  Nid oes ond dychymyg yn hyn oll, heb yr un gronyn o hanes.  Ond y mae gennyf hanes un o breswylwyr Nyth-brAn, ac ef sydd wedi gwneud y lle yn criwog, ac yn adnabyddus ym mhob man, hyd yn oed yng Ngogledd Cymru. Nid oes dim yn safle y tŷ, na dim yn ansawdd y tir, i wahaniaethu Nyth-brAn oddi wrth amaethdai bychain eraill yn y plwyf.  Ond y mae yr hen dŷ wedi cael ei anfarwoli mewn cysylltiad âg enw y rhedegwr buanaf yn y wlad hon, efallai a fu yn y byd erioed-Guto Nyth-brAn.  Y mae y traddodiad am Guto Nyth-brAn, neu Gruffydd Morgan, yn gryf ac unffurf iawn yn yr holl blwyf.  Bfim yn siarad i hen bobl yr. 

 =========================== (x104)      

oedd eu tadau yn ei adnabod, ac un yn enwedig-Dafydd Rhys, Llwynperdid, yr oedd ei dad wedi cydredeg h Guto lawer gwaith, a’i gynorthwyo i ymarfer ei hun i redeg ar Fynydd Gwyngul.  Yn Llwyncelyn y ganwyd Gruffydd, ond’ symudodd ei dad a’i fam i Nyth-brhn pan oedd ef yn blentyn, ,lc yno y codwyd ef.  Ganwyd ef yn y flwyddyn 1700.  Tyfodd i fyny yn hogyn ysgafndroed, ac nid oedd neb yn yr ardaloedd a allasai redeg ochr yn ochr
âg ef ar wastad y Cwm, ar hyd y llethrau serth, neu gopa y mynyddoedd gwylltion.  Yr oedd mor ysgafn ei droed fel y medrai ddal llwdn dafad ar y mynydd pan fynnai. Y mae eraill wedi gwneud gorchestion cyffelyb, ond cyflawnodd Guto bethau nad oes hanes am eu bath oddi ar ddyddiau y brenin Dafydd.  Yr oedd ei fam yn ei anfon i ôl burum weithiau i Lantrisant, bryd arall i Aberdhr.  Dywedir y byddai ei fam yn gosod y tegell ar y thn i ferwi er paratoi brecwast.  Croesai yntau afon Rhondda wrth y Pyllauduon, ger Britannia, a dringai ochr y mynydd, a chroesai hwnnw mewn llinell unionsyth, heb ddilyn na rhiw na heol, ac heb gael ei atal gan wal, perth, na chlawdd, ac er fod dros ddeuddeg milltir o ffordd yn ôl a blaen, cyrhaeddai Guto yn ôl i Nyth-brhn h’r burum i wneud bara erbyn bod brecwast yn barod gan ei fam. Dywedodd ei fam wrtho un bore am fyned i Aberdhr ar neges tra elai hithau ar neges arall, ac i gael ystori a phinsiaid o drewlwch yn yr Hafod Fach.  Ffwrdd yr aeth Guto dros Gefngwyngul i Gwmaman ac i AberdAr, a chyflawnoad ei neges.  Gwelodd ei fam fod yn bryd iddi gychwyn o’r Hafod i fyned i baratoi cinio erbyn y deuai Guto yn ôl, ond pan ddaeth hi i’r tŷ yr oedd Guto wedi dychwelyd dipyn o’i blaen hi, ac ni fynnai gredu iddo fyned a dychwelyd hyd nes i gyflawniad y neges ei hargyhoeddi. Erys mewn hanes ac mewn traddodiad iddo ar gais ei dad fyned i’r mynydd i gasglu ynghyd y defaid a’u dwyn i lawr i 

 =========================== (x105) 

fuarth y Nyth-brAn.  ‘Dos,’ ebe ei dad, ‘ a chymer y cŵn gyda thi, a chasgla y defaid gynted fyth fyddo modd i ti.’ Cadwch y cŵn yn y tŷ, mi wnaf yn well hebddynt,’ ebe Guto. Clyw, bachgan, cymer y cŵn sy orau i ti, neu ffordd cei di’r defaid i lawr? ‘ ebe’r hen ŵr.  Ond heb y cŵn yr aeth Guto ac ym mhen tipyn o amser wele y defaid wedi eu dwyn i’r buarth gan Guto heb gymorth gan ddyn na chi.  ‘ Shwd daeth y defaid, gest di drafael fawr gyda nhw, Guto? ‘ meddai yr hen ddyn.  ‘Naddo, ddim ond gyda’r un fach gochlwyd yna y cefais drafferth fawr, ond mi a’i deliais hi ac a graciais, ei choes.’ ‘ Clyw bachgan,’ ebe ei dad, ‘sgyfarnog yw honno. Clyw, bachgan, beth yw dy feddwl di? P’le cest ti hi? Hi gwnnws o’r rhedyn ar fynydd Llwyncelyn, a chyn i bod hi allan ar dir yr Hafod, daliais hi, a chafodd hepian ym mhlith y defaid wedyn,’ ebe Guto.  ‘ Clyw, bachgan; clyw, bachgan clwbyn,’ ebe’r tad. Clywais lawer o’r trigolion hynaf yn adrodd am ei wrhydri mawr pan aeth ar ôl cadno gyda chŵn hela Llanwynno bob cam daear i ryw gwr o Sir Aberteifi.  Yr oedd ym mrig yr hwyr pan gyrhaeddodd y cadno, dau gi, a Guto, i ymyl tŷ rhyw ŵr bonheddig yn y parth hwnnw o’r wlad.  Yr oedd y cŵn a Guto yn rhy wan i ddal y cadno.  Cafodd Gruffydd roeso mawr yno, a bu yn rhedeg â cheffyl y g-kr bonheddig, yr hwn oedd wedi colli cryn arian wrth redeg â cheffyl g@r bonheddig arall, a’r canlyniad fu gwneud rhedegfa rhwng Guto a’r ceffyl hwnnw, a churodd Guto ef yn dek ac enillodd y gŵr bonheddig ei arian yn ôl, a llawer gyda hwynt, a dychwelodd i Gwm Rhondda heb ddim ond gwynt crvf Myiiydd Gwyngul, yn canu ‘See the conquering hero comes.’ Cofus gennyf glywed rhai hen drigolion-rhai ohonynt dros 8o mlwydd oed-sydd erbyn hyn yn eu beddau er ys llawer o flynyddoedd, yn adrodd am deithiau a gyrfaoedd Guto gyda blas mawr.  Er ei fod yn cyflawni ei bererindodau hirion mewn amser sydd yn ymddangos i ni yn anghredadwy o fyr, 

=========================== (x106)      

eto nid oedd yn eu meddyliau hwy yr amheuaeth leiaf yn ei gylch.  Adroddent hefyd am ei ddull a’i drefn yn paratoi i redeg; cysgai yn y domen dail frwd o flaen yr ystabl, yr oedd ei gwres naturiol yn effeithio er ei ystwytho, nes bod ei gyhyrau fel ffrewyllau, a’i aelodau fel whalebones hyblyg; ac er fod Bawer o rai buandroed i’w cael ar hyd y mynydd-dir yn y cymydogaethau bugeiliol hyn, nid oedd neb a allasai ei ddilyn na dod yn plgos iddo am ddeuddeng milltir.  Ail ydoedd i Azahel, efallai yn gyflymach na hwnnw.  Tebycach ydoedd i un o’r iyrchod y soniai Solomon amdanynt ar fryniau jwdea. Y mae ar gael ei fod yii rhedeg fel y soniais o’r blaen gyda’r cŵn hela yn fynych fel y gnvnaeth pan arweiniwyd ef a’r ckn hela i Sir Aberteifi, a’i fod yn cadw yn agos i’r cŵn bob amser, dros dwyn a phant, trwy ddrysni y cymoedd ac unigedd y bryndir, dros ros a gwaun, ochr yn ochr ôl’r bytheiaid, ac yn fynych yn dal y llwynog gerfydd ei gynffon. SiAn o’r Siop oedd cyfeilles orau Guto.  Yr oedd yn anturio Llawer o arian ar ei wadnau, a dywedir fod dynion cyfoethog yn y wlad yn awr yn cael eu hadnabod fel boneddigion, naill ai yn ddisgynyddion SiAn neu yn byw ar ei chyfoeth mawr hi. Yr oedd dau dŷ bychan yn ymyl Troedrhiwycymer, dichon fod rhai yn fyw yn awr sydd yn cofio y ddau hen dŷ â thoeon gwellt a adnabyddid fel y Siop, neu breswyl yr hen SiAn o’r Siop, sydd â’i  henw yn wastad yn gysylltiedig â Guto.  Yn y fangre honno, ger Troed-rhiw, neu yn ymyl gwaith glo Troedrhiwycymer y preswyliai SiAn.  Gwnaeth hi ffortiwn dda pan drefnwyd i Guto redeg gyrfa â chapten o Gaerfyrddin- Sais oedd yn y lle gyda’r milwyr.  Gyrfa bedair milltir am 50OP- ydoedd hon.  Ar Hirwaun y rhedwyd yr yrfa, ac enillodd Guto gyda’r hawster mwyaf.  Cafodd yn fuan wedi hynny her oddi wrth Sais o’r enw Prince, i redeg deuddeg milltir am swm mawr o arian.  Derbyniodd ef a’i gymdeithion o Lanwynno yr her gyda llawenydd, ac aethpwyd i Gael.  ‘ I drefnu telerau a chytundeb y rhedegfa.  Trefnwyd fod y 

 =========================== (x107)         

rhedegfa i fod ar ddydd penodedig, a’u bod i gyfarfod A’i gilydd yng Nghasnewydd, Sir Fynwy, a chychwyn yno a therfynu wrth Eglwys y Bedwas y tu draw i Gaerffili.  Yr oedd cannoedd lawer o bunnoedd wedi cael eu betio ar y rhedegfa, a phawb o wŷr cyfoethog y plwyf wedi myned yno a’u harian gyda hwynt i’w cynnig ar draed Guto, ac yn enwedig SiAn o’r Siop, yr hon oedd yn berchen ar lawer iawn o gyfoeth. Dywedir iddi ddal llond ei harffedog o aur ar draed Guto. Yr oedd hi bob amser yn frwd gyda Guto, ac yn anturio Llawer o arian o’i blaid, ond y tro hwn yr oedd yn anturio ei @oll feddiant.  Cychwynnodd y rhedegwyr, a gadawsant Gasnewydd ar ôl-Prince yn arwain, ac yn ymddangos yn ennill tir ar Guto yn barhaus.’ Arhosodd ef ar ôl, safodd i siarad â rhywrai ar y ffordd, hyd nes bod Prince wedi rhedeg ym mhell o ffordd ac allan o’i olwg ef.  â phan welodd Guto fod yn bryd iddo fyned, dywedodd, ‘ Y mae yn rhaid i mi gofio am SiAn o’r Siop,’ a ffwrdd
âg ef, fel yr hydd dros ddôl, ac fel y gwelid ei fod yn ennill tir, cynddeiriogai ei wrthwynebwyr, a thaflent wydr ar hyd y ffordd i dreio torri ei draed a pheri iddo lithro, ond neidiai yntau dros lathenni o dir a dihangai fel yr ewig, a phan oedd yn myned i fyny i riw led serth tuag Eglwys y Bedwas goddiweddodd Guto Prince, ac aeth heibio wedi gofyn iddo a fedrai ef ddim dyfod dipyn yn gynt.  Y mae yn debyg fod Guto yn rhedeg amser yn gystal ag â Prince, oblegid dywedodd wrth Prince y buasai yn aros i redeg wrth ei ochr am dipyn oni buasai SiAn o’r Siop, fod yn rhaid iddo ei adael a myned rhagddo, ac ymaith âg qf fel awel y mynydd, a chyrhaeddodd ben y deuddeg milltir, saith munud o dan yr awr, -rhedodd y deuddeg milltir mewn 53 munud, a chymaint oedd llawenydd SiAn o’r Siop, fel y rhedodd at Guto i guro ei gefn ac i weiddi, ‘ Guto Nyth-bran am byth.  Well done, Guto! ‘ a chlap cryf ar ei gefn, heb ystyried ei fod wedi rhedeg yn galed, a bod ei galon yn curo yn gyflym mewn canlyniad i’w ymdrech.  Yr oedd y clap yn rhy’  

 =========================== (x108)  

drwm, neidiodd ei galon o’i lle, a therfynodd Guto nid yn unig redegfa o ddeuddeg milltir, ond rhedegfa ei fywyd yn y byd hwn; a phan oedd SiAn o’r Siop yn derbyn dau lonaid ei harffcdog o aur, yr oedd Guto yn cau ei lygaid ar yr holl ofid a mwynderau, a golud a thlodi y byd hwn, yn 37 mlwydd oed.
Bu gofid a galar trwm yn Llanwynno.  Rhoddwyd gweddillion y dyn hynod hwn i orwedd dan fur deheuol Eglwys Wynno, a rhoddwyd carreg ar wyneb ei fedd a choffadwriaeth barchus arni, a cherfiwyd gyda hynny lun calon yn arwydd o ba fath angau y bu y rhedegwr mawr farw.  Er ys mwy nag 2o mlynedd yn ôl rhoddodd trigolion y plwyf feddfaen mawr a choffadwriaeth newydd ar fedd Guto, a’r ddau englyn canlynol o waith Meudwy Glan Elii a Glanffrwd arni.

Rhedegwr gor-heinif a gwrawl,@awr
Yn curo’n wastadawl,
Oedd Gruffydd; e fydd ei fawl,
Wr iesin, yn ar@osawl.

Y garreg hon a’r geiriad-a roddwyd
I arwyddo cariad
Ar ei lwch gan %qr ei wlad
I gyfiawn ddal ei goflad.

Nid wyf wedi gorliwio hanes y dyn hwn, ond yn hytrach wedi lliniaru rhai o’r lliwiau tanbeitiaf a fynnodd gwrychell traddodiad ei roddi yn y darlun. 

 =========================== (x109)         

PENNOD XIV

PONT-Y-PRIDD 

Yp, ydym yn awr yn sefyll wrth yr Hen Bont Fawr ar Daf, ym Mhont-y-pridd-myfi a thwr o gyfeillion yr ardal.  Syllwn ar y bwa hardd yn codi dros yr afon, ac yn edrych mor odidog a chadarn, a Thaf yn llifo dani, yn cael ei llyneu megis, yn agen anferthol y bont, nes ein bod wrth edrych arni yn cofio am linell Gwilym Morgannwg iddi, -’Edrychwn ar ein gilydd, gwenwn oll, a chwaraea digrifwch ar wyneb Moesen.’ Gellir gweled fod yna ryw syniad yn goglais y lleill, ac y mae y w6n o hyd yn llercian o amgylch geneuau a llygaid y beirdd.
Trown i siarad am yr adelladwaith, oedran y bont, a William Edwards, yr adelladydd.  Cododd William Edwards bont cyn hon-un dri bwa-yn y fan hon.  Yr wyf yn meddwl iddo ddechrau ar y gwaith o’i chodi yn y flwyddyn I 756, ond wedi iddi sefyll a bod yn dramwyfa ddefnyddiol, ac yn wrthrych edmygedd pawp a’i gwelai, cododd tymestl yng Nghwm Taf. Yr oedd y gwynt yn greulon ofnadwy-yn diwreiddio coed y glynnoedd a’r mynydd-dir.  Cododd afon Taf yn fwy gwrthryfelgar nag arferol.  Dygodd ar gefn ei llif goedydd mawrion, a phentyrrodd hwynt ynghyd â phentanau pont dri bwa William Edwards, nes ffurfio argae mawr ar draws yr afon; aeth y pwysau yn ormod, ac ysgubwyd yr holl adellad ymaith fel tŷ unnos. Nid oedd dim i’w wneud ond ymroddi i godi pont newydd yn ei lle, gadarnach a diogelach, os oedd modd.  Penderfynodd William Edwards beidio â rhoddi pentanau i’r bont newydd, o herwydd mai y rhai hynny a achosodd ddinistr y bont dri bwa.  Gwnaeth Edwards ei gyfrifiad a’i gynllun.  Yr oedd y bont newydd i fod yn bont un bwa, a hwnnw yn mesur 140 

 =========================== (x110)

 

troedfedd, ac yr oedd i fod yn 35 troedfedd o uchder. Erbyn y flwyddyn 1751 yr oedd y bont newydd yn barod oddieithr y canllawiau.  Yr oedd siomedigaeth yn aros Edwards a thrigolion Llanwynno ac Eglwysllan eto.  Gan bwysau anferthol yr adail, symudodd y rnaen clo o’i le, a syrthiodd y bont hon eto bendramwnwgl.  Ond nid dyn i lwfrhau oherwydd aflwyddiant ydoedd William Edwards; aeth ati y drydedd waith, ac i ysgafnhau pwysau y bont, gwnaeth dri o dyllau crynion agor&d ym mhob talcen iddi, ar yr un pryd yr oedd yn ychwanegu at harddwch yr adellad.  Gorffennodd y bont-y bont fawr un bwa breserinol yn I 755, ym mhen naw mlynedd o’r amser y dechreuwyd y bont gyntaf.  Y mae yn sefyll hyd heddiw yn gofgolofn i athrylith a dewrder William Edwards o’r Groes-wen. Hyd y flwyddyn 183o hyhi oedd y fwyaf ei rhychwant yn y byd.  Codwyd pont yng Nghaerlleon oedd yn lletach dipyn na hi. Bu cyrchu mawr i’w gweled am flynyddoedd.  Deuai pobl y Cyfandir yn lluoedd i Bont-y-pridd i edrych arni, ac i edmygu gwaith yr hunan-ddysgydd enwog o Groes-wen.  Mae hi yn awr wedi gwneud ei diwrnod gwaith.  Mae yn gorffwys, ond yn edrych i lawr ar y bont newydd sydd yn ei hymyl, gyda golwg hynafol a thywysogaidd.  Ei bai oedd ei bod yn ymgodi yn rhy uchel, ac oherwydd hynny yn peri anhawstra i fyned h llwyth trwm i fyny un ochr ac i lawr yr ochr arall i’r bwa.  ‘,Cyn ymado adroddwch englynion i’r hen Bont,’ meddai un o’r cyfeillion-’Dewch yn awr, Glanffrwd, adroddwch bennill neu rywbeth.’ ‘ Wel, mi a adroddaf englynion Iago Emlyn os gallaf eu cqfio; rhowch i mi weled- 0, ie, dyma nhw’:

Bwa gaf yma’n gyfamod, -aelgerth
Ar y weilgi isod;
Enfys dros hun ‘chair canfod
Dilyw fyth tra deil i fod.

===========================(x111)       

Crogedig grug o adwy,@lai a maen,
Clo ym mhorth rhyferthwy;
Rhychwant dwfn-bant ‘n uno dwy
Geulan drom, i gl@n dramwy.

Gafeiliaid ynys Gyfbilion-(ochr hesg)
A chraig Ifor Lleision;
Clawr cribawg ar gawg eigion
Uwchlaw Taf i och’lyd hon.

Pentwr garegog, pont ar greigiau@erth,
Ansyrthiol bentanau,
‘N dal ei harch, sy fel dôl iau,
Eang, tyn ar fwng tonnau.

Megis safn mae’n ymagor-i lyneu’n
Ail i wanc gagendor;
Lli’r afon uwch llawr Ifor
A gwg min at geg y môr!

Tra Thaf, O! Bont, saf ar dy sail-yn glod
I’n Gwladwr heb adfail,
A gyfododd gofadail,
Iddo’n hun@ifudd yw ail.

Clywch     clywch! 1 Diolch yn fawr i chwi, Glanffrwd,’ ebe lliaws o’r lleisiau oedd yno; ond clywir un o’r critics yn carthu ei geg, ac yn paratoi i siarad-’ â oes- rhyddid i feirniadu yr englynion a’r adroddiad? Yr oedd yr adroddiad yn dda, ond-.’ ‘ Dim beirniadu, os gwelwch yn dda, maent wedi eu beirniadu o’r blaen, ac nid er mwyn eu beirniadu yr adroddais h@nt yn awr, ond fel y byddir weithiau yn gwneud er cofio rhyw achlysur, ac er mwyn cwmniaeth dda yn rhoddi cAn.’ ‘ O wel, wel, dyna fe ta.’ Terfynodd y feirniadaeth, ac ni fu ymryson ynghylch teilyngdod yr englynion na’r adroddiad. O! ie, dyma ni yn awr yn ymyl hen breswyl Gwilym Morgannwg-bardd da, Cymreigiwr gwych, a gwladgarwr cywir. 
Nid oes dim wedi ei wneud gan Bont-y-pridd i gadw, 

 =========================== (x112)   

ei goffadwriaeth yn fyw.  Galwodd Iago Emlyn yn nh@ Gwilym Morgannwg unwaith, ac wrth weled ei Lyfrgell hardd gwnaeth yr englyn canlynol iddi

Cilfach trysorfa’r celfydd-@ Awen
Lle lletyodd Prydydd;,
Gem meiniog o gwm ‘mennytld,
Tfin dawn yn tŷnu dydd

Mae Pont-y-pridd wedi bod yn enwog iawn.  Nid lleiaf YM mhlith miloedd Gwalia ydyw hi wedi bod mewn ystyr lenyddol.  Edrychwch af yr enwau disglair sydd yn gysegredig- gysylltiedig â’r lle fel beirdd a llenorion yn fy amser i, ac nid yw hwnnw ond cyfnod byr.  Yngl@n â’r ardal, os nad y dref, yr ydym i gysylltu enw Ieuan Ddu-tad cerddoriaeth adnewyddol Cymru, a golygydd y Cambrian Minstrel.  Ef oedd y ddolen oedd yn cysylltu Pont-y-pridd AL llenyddiaeth a cherddoriaeth ein gwlad, ac
âg eisteddfodau mawrion y Fenni -cyfnod diwygiadol ein llenyddiaeth.  Cariai ef yn ei fynwes dAn oddi ar yr allorau hynny.  Taniodd beth ar Bont-y-pridd. Yma hefyd yr adwaenem ac y parchem Ieuan ap Iago. Gosododd ef nod anfarwoldeb ar y lle pan gyfansoddodd ei gAn nad anghofir pan fyddo Craig-yr-hesg wedi ymddryllio, ‘Hen Wlad fy Nhadau.’ ; Yma hefyd y mae Myfyr Morgannwg, fel bardd a hynafiaethydd, a dysgawdwr Cymreig, nad oes neb ar dir y byw yn gyffelyb iddo.  Ymdrwsio y mae ef yn mantell daenfawr Iolo Morganwg.  Y mae ymhlith trigolion y Bont fel un o’r Patriarchiaid gynt, a phrofiad, dysg, a blynyddoedd yn llwythi trymion ar ei ysgwyddau.  Poed tangnefeddus ei hwyrddydd. Yma hefyd y mae Dewi Wyn o Esyllt, yr hwn a ystyrir y mwyaf athronyddol o feirdd y wlad.  Bydd awdwr Ceinion .Esyllt fyw fyth yn ei enwogrwydd, ac ni fydd nifer ei edmygwyr yn llai pan ddaw milflwyddiant llenyddiaeth Cymru i mewn. 

 =========================== (x113)         

Perchen awen uwchraddol a gwybodaeth ydyw ef.  Yma y mae Carnelian, yr hwn a ystyriaf yr englynwr cryfaf yn y wlad. Y mae wedi ennill llonaid tŷ o gadeiriau, er hynny yn cadw cornel gwag i un arall eto. Gerllaw, i fyny ar y bryniau, y mae Brynfab yn edrych i lawr ar Bont-y-pridd o ochr Eglwysllan.  Perchen awen gref iawn, ac athrylith a gallu meddyliol cryf ydyw ef.  Pe na buasai da a defaid yn y byd, buasai ef yn fath o Hiraethog ar y blaen ym marddwyddor ei wlad.  Er y da a’r defaid, a thrafferthion amaethyddol, y mae yn lled bell ar ei daith i wlad y s6r.  Gerllaw yma y preswyliai Merfyn, bardd naturiol, Llawn o brydferthwch, ond gallasai ei awen fod yn fwy gweithgar.  Un o wŷr Llanwytino ydyw ef o du ei fam, ac yn y plwyf y treuliodd ei dad fwyaf o’i oes, ac y gorffennodd hi mewn tangnefedd.  Cafodd Merfyn afael ar ei awen yng nghwm cysegredig Ynys-y-bŵl, ar Ian Clydach.  Dygodd fi ar ei gefn gan*aith tua’r ysgol yn hogyn, a chred rhai mai dyna’r rheswm fy mod i yn dipyn bach o fardd, i mi gatchio y dolur oddi wrtho ef.  Ef ydyw awdwr y gAn brydferth’ Y bwthyn yng nghanol y wlad.’ Yma y mae yr englynwr pert, Moesen, yn llawn wit ac arabedd, ond rhwng gweiddi ‘ mynd, mynd, myned,’ a phrofi ewyllysiau a chasglu cyfoeth, er caru yr awen, y mae wedi gorfod ei hesgeuluso.  Gerllaw y mae y ffraeth, y doniol, a’r gwlatgar Morien, Cymro o flaeh bawd ei droed hyd ei gorun, ac ysgrifennwr bywiocaf y dydd.  Claddwyd un o feirdd gorau y wlad pan gladdwyd Ap Myfyr ym Mhont-y-pridd.  Am englyn yr o@dd braidd yn ddiguro.  Nid oedd ei athrylith o range eang, ond yr oedd yn loyw a nwyfus iawn; os nad oedd yn afon lydanwedd yr oedd yn un o’r goferau gloywaf yng nghoedwigoedd barddoniaeth.  Nid diffyg gallu hwyrach oedd y rheswm nad enillodd gadair, ond diffyg amser.  Y mae llawer awen fel ei eiddo yntau wedi eu cadwyno gan amgylchiadau cyfyng, a’u lluddias i ddringo yn uchel. 

H 

 =========================== (x114)   

Yma y triga Ieuan Wyn. 
Nid yw ei awen yntau wedi parhau i ddringo.  Addawai pan yn ieuanc ddringo yr ysgol tua gwlad y s8r.  Aeth i fyny am dipyn yn llwyddiannus ac yn lled uchel, ond blinodd, a neidiodd i lawr, a thorrodd ei migwrn, ac nid yw hi yn myn6d allan i ymrodio llawer yn awr. Gallasai fod yn lled uchel erbyn hyn pe na throesai yn ôl i’r dyfnderoedd. Bu leuan Glyn Cothi yma, a dichon ei fod eto; ond nid oes ganddo lawer o hamdden i farddoni.  Gwas ei Mawrhydi yw ef, ac ni chaiff ei dalu am freuddwydio.  Yma y preswyliodd Dewi Haran am flynyddoedd, ac y terfynodd ei rawd er ys dwy neu dair blynedd yn ôl.  Carodd lawer ar yr awen.  Bu drwy fywyd lled hir.yn ffyddlon i’w wlad, ei heisteddfod, a’i llenyddiaeth.  Y mae ef a’i hen gyfaill Ap Myfyr yn gorwedd heb fod ym mhell oddi wrth ei gilydd, yng Nghladdfa Glyn Taf a’r adar ar hyd llethr Eglwysllan yn canu Cymraeg, a Thaf yn lleddf ganu wrth basio heibio, a hwythau-y ddau fardd hoff- yn fud, a’u telynau yn hongian ar helyg marwolaeth; ond y mae eu canigau a’u henglynion yn llefaru wedi tewi ohonynt hwy. Awn i fyny i Heol y Felin.  Digon cul a chyfyng yw hi, fel pe buasai wedi ei bwriadu i gadw @r Llanwynno a Chwm Rhondda rhag rhuthro i’r dref ond bob yn un neu ddau.  Bu yn ddigon llydan i John Griffiths ac Aaron Cule wneud ffortiwn ynddi, ac nid yw y fasnach yn lleihau arni wedi i boblogaeth y Cwm gynyddu.  Yr ydym yn awr yn myned heibio i dŷ Mathonwy, gŵr o alluoedd mor ddisglair i neb yn y dref.  Yr wyf wedi darllen gweithiau Cyrnraeg a Saesneg o’i eiddo ef o deilyngdod uchel iawn.  Gallasai a dylasai Mathonwy fod yn nes i sedd yr anfarwolion nag ydyw.  Ond y mae wedi cyfansoddi amryw bethau nas gallant farw.  Gwladgarwr brwd a chwmniaethwr digymar ydyw ef, ond ei gael yn yr hwyl briodol.  Dyma ni yn myned drwy Hopkinstown.  Paham, yn enw’r annwyl, na ddywedwyd Tref Hopkin? Yma y mae 

 =========================== (x115)         

William Howel, yr Ifor brwd, yn byw.  Dylaswn ddweud ein bod wrth droi islaw Carmel oddi ar heol y Graig-wen, yn pas,io tŷ Gwyngull, Ifor brwd arall, a bardd a llenor wedi yinddeheuo erbyn hyn, er fod ei awen wedi codi o’r Pwll mawr yn Sir F6n, a adwacnir fel Llanfair-pwll-Gwyngyll-Llanmathafarn-eithaf-ger-Llandysilio-Llandygogo-goch! Un o feirdd Pont-y-pridd ydyw ef mewn gwirionedd. Wel, rhaid pasio trwy y Gyfeillion.  Yr ydym o hyd ym mhlwyf Llanwynno.  Hen bentref yw y Gyfeillion, ond yn awr wedi ei uno i’r Hollybush islaw a’r Hafod uwchlaw.  Y mae y lleoedd hyn wedi cyfnewid a chynyddu yn ddirfawr yng nghorff y blynyddoedd diwethaf.  Bu tua’r Hollybush a Phantygraig-wen feirdd lled dda yn preswylio pan oeddwn i yn dechrau fy ngyrfa lenyddol. 
Pa le y mae John Davies? A pha le y mae Tomos Davies, ei frawd? Beirdd pert oeddynt hwy.  Y ddau Forgan Morgan wedi cyd-dewi, ac yn cydorwedd yng ngro mynwent Gwynno. O’r Gyfeilliori collwyd Llais Rhystyn.  Y mae Tawenog eto yn fyw, a’i awen yn ymbyncio weithiau, ac yn dyfod allan yn smart iawn.  Eos Hafod yntau ar y maes yn rhywle, ym mhlith miloedd y Rhondda.  Penwyn, pa le y mae ef? Alawfwyn, sef Richard Evans, yn ddistaw er ys rhai blynyddoedd.  Llafuriodd lawer gyda’r canu, ond treuliodd ei nerth_allan, a machludodd ei haul, a ni eto yn meddwl nad oedd wedi cyrraedd awr anterth.  Siôn Llanharan wedi rhoddi y ddiaconiaeth i fyny, ac wedi peidio â chysgu yn y cwrdd; a’r diniwed William Rosser wedi myned i’r bedd, a’r hen gapel lle yr eisteddodd i fwynhau gwleddoedd yr efengyl wedi ei ddryllio gan ddaear-’ gryn neu rywbeth cyffelyb, a chapel arall wedi ei godi yn agos i’r un lle.  Ond ‘waeth heb siarad, y mae Ynysyrhafod wedi ei gorchuddio â thai, ac edrych yn awr yn dref harddwych, lawn o ystrydoedd rheolaidd; ac wrth basio drwy y lle yn ddiweddar teirnlwn awydd galw enwau rhai o’r hen breswylwyr.

=========================== (x116)    

Phylip William, atebwch i’ch enw  Na nid atebodd neb.   Mari Phylip William, pa le y mae hi? ‘ Yn ddistaw am byth.  ‘ Mari Scott, deuwch i’r drws.’ Na ddaw, ‘ ei lle nid edwyn mohoni mwy.’ ‘ Siôn Siencyn! ‘ Y mae yntau yn bwrw ei flinder ar arffed y dyffryn! Wel, wel, y mae y lle yn ddicithr hollol i mi! Nid oes ond ychydig o’r hen gyfeillion yn aros, a nesau y maent hwythau i dir machlud haul. le, darn enwog o Gwm Rhondda yw hwn.  Bu Cadwgan y Fwyell yn byw yma’.  Pan fyddai angen am i’r Cymry gynt ruthro i’r gad, teithiai Cadwgan trwy y Cwm gan hogi ei fwyell, ac felly daeth Cadwgan, hoga dy-fwyell,’ yn rhyfelgri Morgannwg. Wel, dyma ni yn awr yn sefyll wrth Darrenypistyll, yn ymyl y tŷ bychan lle bu farw George Basset, canys symudodd y dyn rhyfedd hwnnw o’r Hafod Ganol i un o’r tai gwynion bychain wrth droed Tarrenypistyll, ac yno dirwynodd ei bellen i’r terfyn. 
Yr oedd y Pistyll yma yn amser Cadwgan y Fwyell.  Tybed nad yw yr olygfa brydferth hon yn goglais calonnau meibion y Rhondda pan fyddont yn myned at eu gwaith yn y bore? Y mae yn sych ar y gwres yma.  Ond arhoswch dipyn hyd nes disgyn y glaw ar y bryniau, a chwi gewch weled yr hen bistyll yn ei nerth yn llamu dros y dibyn, yn berwi, yn gwreichioni, ac weithiau ambell enfys fel halo fendigedig yn amgylchu ei ddisgyniad. O! y mae yn hardd. Y mae yn ardderchog pan fyddo ei ffrwd yn gref-y mae y dyfroedd yn ysboncio o graig i graig, trwy gulagen Cwm George, ac fel pe byddai calon y nant fach yn curo yn gyflymach wrth nesiu i ben y dibyn, i fin y darren, ond yn cryfhau, ac ar un naid fawr, yn ffurfio hanner cylch gwyn i’r llif pur; ac mor wyn ydyw yn ei ddisgyniad, fel yr edrych o bell fel gwallt claerwyn un o angylion y bryniau, yn llaes hongian dros y llethr! Diolch amdano, dyma yr unig ddarn o’r amser gynt sydd yn, aros yma 1 Y mae y pyllau glo wedi cyfnewid gwedd y Cwm.  Dyma waith yr Hafod a gwaith y Coetgae yn yr ymyl, 

 =========================== (x117)        

fel pechod wedi anurddo Eden, a thaflu dfiwch ar bob peth. Ond megis yr oedd yn y dechreuad, y mae yr awr hon, gyda gwynlif y Pistyll hwn yn adeg y glaw.  Rhuthro y mae ef fel yn y dyddiau gynt.  Rhuo y mae ef fel yr oedd ganrifoedd yn ôl! Gwynnu, gwreichioni, a neidio fel ysbryd gwyllt y llethrau oddi ar frig y darren a wna efe heddiw mor Gymreigaidd ei wedd a’i ruad, â chyn i’r Norman droedio y tir gyntaf erioed. 

 =========================== (x118)      

PENNOD XV CWMCLYDACH 

PFD elcch chwi am dro o AberdAr trwy Mountain Ash tua chymydogaeth Ynys-y-bŵl neu Eglwys Wynno, byddai yn rhaid i chwi ddringo yn araf y Rhiw Ceibr newydd, gan adael yr hen D arren Las ar yr aswy, a gwneud eich ffor d i    an gysgod craig Penrhiw Caradog, &c., hyd nes cyrraedd trum y Lan, lle gellwch edrych i lawr ar Ddyffryn Cynon, a gweled Mountain Ash yn gorwedd ar y gwastad islaw, ac yn ymestyn i fyny ar bob ochr i’r dyffryn, fel aderyn yn lledu ei ddwy adain cyn codi i ehedeg.  Wedi hynny yr ydych yn symud ymlaen, yn croesi trum y Lan Uchaf, ac yn prysur deithio a’ch pen i lawr i oriwaered mawr hewl y Lan a Thynygelli, nes cyrraedd pont yr afon Clydach.  Dyna, yn awr sefwch, edrychwch i lawr ar yr hen dŷ yna sydd yn llechu yng nghysgod y bont, a’i draod yn nwfr Clydach megis, a rhes o furddunau o’i flacn, gweddillion hen bentref, sydd wedi malurio fel ei gyn-breswylwyr. 
Dyna hen Gwmclydach.  Preswyliodd Morgan Jones a Rachel dros 6o mlynedd yn y tŷ hwn.  Codasant deulu lluosog yna.  Bu Morganjones a Rachel yn briod ac yn byw yn heddychlon yn y lle llonydd yna am ran helaeth o’r ganrif hon, a phan oedd Morgan yn 86 mlwydd oed, daeth angau heibio i’r fangre lonydd, a chyrchodd ef i orffwys yn ymyl mur Eglwys Wynno er ys tuag wyth mlynedd yn ôl; ac ym mhen dwy neu dair blynedd ar ôl hynny drachcfn daeth heibio i ddwyn Rachel at Morgan i’r orffwysfa briddlyd dan darren yr Eglwys. Pedwar ugain mlynedd ar fin ac yn skn treigliad yr afonig fechan, loyw Clydach, heb ddim ond s@n caniadau neu ruadau ystormydd natur yn torri ar ddistawrwydd y lle! Wel, wel, gallasai y dychymyg pe gollyngwn ef yn awr fyned ar ôl 

 =========================== (x119)     

iig myrdd o bethau a fuasai i mi yn dra diddorol, ond i’r darllenydd, hwyrach, a fuasai yn lled feichus! Wel, galwn ar y dychymyg yn ôl-eistedd, gorffwys, bydd lonydd hyd nes y cei ryw hynt arall cyn hir.
Ond dyna’r hen Gwmclydach; trowch i mewn iddo am funud.  Y mae yna hen wraig yn byw, rhaid i mi gael y pleser o’ch introducio iddi fel y dywedant.  Ie, dyna hi-Mrs.  Phillips, neu yn Gymraeg, SiAn Phylip.  ‘ Shwd ych chi heddi’? ‘ ‘ Shwd ych chitha? digon stiff yw’r hen goesa yma,’ medd hithau-’ dewch ym nllaen, eisteddwch i lawr.’ Yr ydych yn ufuddhau ac yn llygadu ar yr hen wraig.  Y mae golwg led hynod arni.  Pwy ydyw? Wel, fel y dywedais eisoes, i n Phylip ydyw? Edrychwch ar ei golwg gadarn, er ei bod yn hen, y mae yn gryf a chron fel derwen.  Golwg benderfynol iawn arni, llygad llyrn serennog, braidd yn llidiog ei gwedd, os wedi cael ei aflonyddu.  Ond yr ydych yn teimlo fod rhinwedd, gwirionedd, a gonestrwydd yn byw yn y galon hona.  Nid oes dim mymryn o dwyll ynddi, ac ni letyodd ragrith erioed; y mae mor onest, geirwir, ac unplyg, fel na fyddai rhaid iddi ofni rhoddi ei chalon i’w darllen gerbron Duw a dyn.  Na, na, nid oes yna ddim twyll, beth bynnag.  Y mae natur wedi argraffu ar draws ei hwyneb mewn llythyrennau breision eglur y geiriau:-’ Cywir, gonest, unptyg.’ Gellwch ymddiried ynddi. Y mae fel y dywed pobl plwyf Llanwynno, ‘ Mor onest â’r geirchen.’ Dyna SiAn Phylip-y ddiacones fel y gelwir hi yn yr Ystrad, oblegid ar Heol-fach, Ystradyfodwg, y mae wedi treulio cyfran helaeth o’i bywyd hir. Bu gofal achos crefyddol y Methodistiaid yn y lle hwnnw yn gorffwys bron yn gwbl ar ei hysgwyddau hi.  Do, do, bu yn fwy gweithgar a ffyddlon na llawer o flaenoriaid yn cynnal yr achos gynt yn ei wendid, ac wedi hynny yn ei lwyddiant.  Ni phallodd ei ffydd, ac ni wanhaodd ei hamynedd, ac nid atahwyd ei haelioni yn amser hen gapel bychan yr Heol-fach; ac wedi hynny, wedi cael y capel newydd, yr oedd hi o hyd yet 

 =========================== (x120)     

parhau yn ffyddlon, ac yn ôl ei henw yn parhau ‘ y ddiacones.’ Ond yr ydym yn ei chofio cyn hy4py.  Yr oedd yn aelod yn hen gapel Llanwynno, ac yn byw ar Heol-fach yr Ystrad, ac am flynyddoedd lawer bu yn cyrchu o’r Ystrad dros y mynydd ddwy waith yn yr wythnos yn gyson a di-ffael i’r moddion icrefyddol yng nghapel Llanwynno. Yr oedd yr hen ŵr o’r Pen-rhys yn cyd-deithio â hi.  Yr wyf wedi ei ddisgrifio o’r blaen.  Dyn bychan, llydan-gefn, cryf, fel y dywedir yn iaith ddisgrifiadol y plwyf, -’ bwryn byr,’ ydoedd; ei wallt yn wyn fel eira, ac yn cael ei dorri yn fyr, wrth y croen, oherwydd rhe-symau neilltuol.  Nid yw yn debyg iddo erioed rannu ei wallt yn yr ochr nac yn y canol, ond byddai yn tynnu ei law drosto tuag i lawr i gyfeiriad ei dalcen, a gwnai hynny y tro yn lle brwsh a chrib, ond yr oedd bob amser yn drefnus a thrwsiadus ei olwg.  Wel, am flynyddoedd lawer bu SiAn Phylip ac yntau yn cyd-deithio o’r Ystrad i Lanwynno, i addoli Duw eu tadau.  Yr oedd ganddynt bob un ei anifail i farchogaeth arno, a da oedd hynny, oblegid nidjoke oedd croesi Cefn Pen-rhys a Chefn Gwyngul ar bob tywydd.  Yr oedd Evan Davies yn marchogaeth ar geffyl du lled fawr a thrwm, a’i gefn mor llydan fel yr oeddem ni yn blant yn synnu na fuasai Evan Ben-rhys wedi lledu a hollti ar lydan-gefn yr hen geffyl trwsgl, ond yr oedd Evan yn gwneud yn burion, gellid meddwl, oblegid yr oedd yn edrych fel darn o dderwen gadarn wedi ymsefydlu ar gefn ei geffyl du.  Byddai weithiau yn rh.oddi y ceffyl yn y crofft wrth gefn y tŷ cwrdd hyd nes y byddai yr oedfa drosodd, ac nid oedd yr hen geffyl bob amser mewn hwyl grefyddol, oblegid cofus gennyf unwaith i John tŷ cwrdd fyned ar gefn y ceffyl yn y crofft, a’r gath dros ei sgil ar grwmp yr hen geffyl du, a rhywfodd oblegid y gath, gwylltodd yntau, a gwnaeth dro annheilwng iawn o gae yr hen gapel; taflodd y gath a John oddi ar ei gefn, a thorrodd goes John yn y fargen, a thrawodd ymennydd y gath gyda hynny â’i  droed ôl! Ond nid oedd yr hen ŵr, er syndod y plant, yn gweled bai yn y byd 

 =========================== (x121) 

ar y ceffyl.  ‘ Clyw, bachan, clwbyn)’ meddai I beth nythot ti iddo? Di boenaist y ceffyl, -di nythot rwbath iddo, y fi fentra’ y fi fentra’, cyn gnelsa fe waith shwd yna; O! hawyr bach, rog y plant cythrilig.’ Fodd bynnag, gwellhaodd John, a pharhaodd yr hen geffyl i fyned a dyfod ar ei deithiau crefyddol rai blynyddoedd wedi hynny. Yr oedd gan SiAn Phylip gaseg ddu.  Yr oedd yn llai o lawer na cheffyl yr hen ŵr o Ben-rhys; ond caseg ddefnyddiol iawn ydoedd.  Cariodd ei meistres yn ddirwgnach am flynyddoedd o’r Ystrad i Lanwynno, dros Graig Pen-rhys a’r Cynllwyndy, i fyny ac i lawr i Graig Pen-rhewl, a thros Fynydd Gwyngul, ar lawer math o hin yn ystod y pererindodau crefyddol a wnaeth Sihn Phylip rhwng yr Ystrad a Llanwynno. Yr wyf fi yn meddwl weithiau yr atgyfodir yr anifeiliaid yn y dydd olaf, yn enwedig y rhai ffyddlon fel y gaseg hon o eiddo SiAn Phylip; ac yr oedd ganddi, heblaw y gaseg, gi bychan, yr hwn ni chollai un o’r teithiau crefyddol hyn er dim; ochr yn ochr â SiAn a’r gaseg y teithiai dros fynydd a chwm, drwy ddwfr a llaid, a’i s@l mor gryf
âg eiddo ei feistres.  Byddem ni blant yn gwybod fod y sociey drosodd, a bod y gŵr o Ben-rhys a SiAn Phylip yn paratoi i fyned adref, oblegid yr oedd y ci bach yn cyfarth, ac yn cadw’r stŷr anferthaf yn wastad wrth ddechrau ei daith yn ôl tua’r Ystrad.Mor hawdd ydyw i mi gofio hyn oll, ac mor anodd yw meddwl am SiAn Phylip yn yr atgyfodiad heb y gaseg a’r ci, a fu’n gymdeithion hir iddi pan am flynyddoedd y dangosodd hi ei sôl, ei ffyddlondeb, a’i duwioldeb, wrth deithio i’r moddion crefyddol, heb adael i ddim ei lluddias.  Yr oedd Ivn sia@pi i bawb yn y ddau blwyf.  Pwy bynnag oedd yn absennol yr oedd SiAn Phylip yn sicr o fod yn ei lle yn gwrando, yn mwynhau yr efengyl, ac yn derbyn y cysuron sydd yngl@n A mynychu’r addoliad yn gyson.  Methodd gerwinder y ffordd rhwng y Rhondda a Ffrwd leihau ei theimlad crefyddol. Methodd ystormydd ac oerni Mynydd Gwyngul ddwyn tra,, 

=========================== (x122)   

na chyfnewidiad yn ei s8l, ei ffyddlondeb, a’i hymlyniad crefyddol.  Un o’r hen stamp ydyw hi, sydd yn credu yngl@n A phob peth mai yr hwn a ‘ barhao hyd y diwedd a fydd cadwedig.’ Y mae wedi gwneud mil mwy o les i’r achos crefyddol yn ei hoes hir na llawer sydd â’u henwau yn gerfiedig mewn mynor neu yn argraffedig ar ddalennau o bres.  Un o’r rhai hynny ydyw hi sydd wedi gweithio heb un cymhelliad ond cariad at Iesu Grist, -un o’r rhai sydd yn gwneud llawer mewn distawrwydd heb utganu yn eu cylch, na galw sylw atynt.  Pan fyddo Mynydd Gwyngul wedi malurio yn ddim, a phan f@ddo scintiau L-lanwynno a’r Ystrad yn ateb y roll call, ar ôl ymddatodiad pob peth, fe welir yng ngoleuni y tragwyddol fyd lawer o weithredoedd da a haelionus a wnaeth Siin Phylip na chadwodd neb goffadwriaeth ohonynt ond yr angel -recorder gnveithredoedd da y saint ar y ddaear! O! bydd ystori fach cariad SiAn Phylip yn cael bod ochr yn ochr ag ystori fawr cariad y Gwaredwr.  ‘Hyn a allodd hon hi a’i gwnaeth.’ Bydded diwedd oes yr hen wraig hon yn dangnefeddus ar lannau Clydach, ger y fan lle preswyliodd Catws William Evan, Barbara Hughes, Morgan Jones a Rachel, a Llawer eraill o hen bererinion fy mhlwyf a bro dawel fy ngenedigaeth. 

 =========================== (x123)     

PENNOD XVI YSBRYDION 

NID oes sôn yn awr fod neb ym mhlwyf Llanwynno yn cael ei flino gan ysbryd, na neb yn gweled drychiolaeth, nac yn clywed ysgrechfeydd oerllyd cyhiraeth yn oriau y nos, na neb yn cyfarfod â chladdedigaeth ar y ffordd yn y tywyllwch, fel pe buasai ysbrydion yn teithio drosti ac yn cario y corff ar eu hysgwyddau, ychydig o nosweithiau, er mwyn treio’r ffordd, cyn yr angladd. Bu llawer o drwst a siarad yn y plwyf am y pethau hyn oll. Cefais dystiolaeth dynion da, geirwir, a duwiol, eu bod wedi gwybod drwy brofiad am y naill neu y llall, neu’r cwbl ohonynt, flynyddoedd yn ôl.  Peth cyffredin iawn, yn fy nghof i, oedd clywed neu weled angladd yn pasio yn y nos heibio i Gwmclydach, nett gannwyll gorff yn dyfod i lawr dros heol y Lan, ac yn teithio yn araf i fyny i ben Coed-y-cwm tuag Eglwys Wynno, ac ambell waith clywed ysgrech cyhiraeth ar y bont uwchben y tŷ.  Ond erbyn hyn nid oes neb yn gwybod amdanynt, nac yn meddwl llawer amdanynt, ychwaith.  Y maent oll wedi diflannu fel ‘ Bendith y mamau.’ Llawer gwaith y cerddais o Gwmclydach i Ynys-y-bŵl yn offius a chynhyrfus, trwy dywyllwch y nos, ac yn disgwyl ar bob cam weled ysbryd, neu ryw fod annaearol arall, yn ymddangos ger fy mron.  Ac er i mi weled rhai pethau, a chlywed lleisiau hefyd nas gallaf eu hesbonio, ni welais’ar     fy mhererindodau nosawl yn y plwyf, erioed ddim cyffelyb i ysbryd.  Credid yn gryf ys llawer dydd fod Satan i’w weled yn rnarchogaeth pob camfa ar nos Galan Gaeaf! Ac yr wyf yn cofio i mi basio llawer camfa ar nos Galan Gaeaf a’m llygaid yng nghau, fel os oedd yr ‘ hen fachgen ‘ yn cact ride arnynt, yr oeddwn yn penderfynu peidio
âg edrych arno, na rhoddi cyfle 

 =========================== (x124)  

iddo i’w ddangos ei hun i mi, oddicithr iddo ddyfod oddi ar y Gamed. Gwelodd Emwnt o’r Rhiw ef lawer gwaith yng Nghoetgae Siasber, ar lun ebol bach yn wastad; ond yr oedd cynifer o ebolion yn pori yno fel yr oedd yn anodd gwybod pa un ai y diafol ar lun ebol neu ebol gwirioneddol a welodd Emwnt fwy nag unwaith.  Pe buasai yn marchogaeth un o’r ebolion buasai yn haws credu mai ei Fawrhydi Satanaidd oedd allan am ei evening ride, ond peth lled ddwl a didalent i un fel ef oedd ymddangos i neb ar lun ebolyn! Gwelodd Wil Rhys ef fwy nag unwaith ar lun ei mawt, a’i lygaid yn fflamiau yn ei ben, ond yr oedd William wedi yfed cryn lawer o frandi y noson honno, fel nad ydyw ei dystiolaeth ef yn derfynol ar y pwnc. Clywais fy mam-gu yn adrodd pa fodd yr oedd fy nhad-cu o Flaen-nant ar un noson yn dychwelyd o’r Dduallt, o garu un o’r merched, a phan oedd yn pasio trwy’r Hen Wern, i Satan fyned heibio iddo fel ei anferthol o fawr, a’i lygaid yn dAn gwyllt, ac iddo, wrth gamfa yr Hen Wern, droi yn dAn i gyd, a llosgi allan a diflannu, nes y credodd fy nhad-cu fod coed y Wern yn n-lyned yn greginion ar unwaith! Ond yr oedd fy nhad-cu yn berchen dychymyg cryf iawn, ac efallai i un o gŵn y Dduallt neu y Mynachdy fyned heibio iddo, a’i lygaid yn serennu yn ei ben, yn y tywyllwch dan gysgod coed y Wern, a phan neidiodd y ei i’r berth, iddo wneud skn mawr a barodd i ddychymyg gwyllt gredu ei fod fel taran, a gweled tAn ar ei lygaid.  Gwna dychymyg cryf ac ofn mawr hafoc yn y cyfeiriad hwn.  Fodd bynnag, nid yw tystiolaeth fy nhad-cu yn ddigon cadarn, er fod llawer o sôn fod y ‘g@r drwg’ yn hoff iawn o lercian yn yr Hen Wern.  Ond paham yn enw pob peth @r ii Satan i drigo i ryw gongl dywell, unig, wleb, lle na chaffai fantais i boeni nemor un, oblegid anaml iawn oedd y teithwyr trwy goed yr Hen Wern. Gwelodd Siams Llwynmelyn y gŵr drwg wrth y Gelli Isaf wedi cymryd arno ei hun ffurf asyn, a chafodd Siams gymaint 

 =========================== (x125)        

o fraw fel y ffodd nerth ei draed, ond gan fod asyn wedi cael ei weled fore trannoeth yn pori ym mhlith asgell tir y Gelli Isaf, yr ydwyf yn credu nad yw y dystiolaeth yn ddigon cryf i brofi fod Satan yn ddigon dwl i ymddangos mewn croen mwlsyn. Ychydig yn nes i Ynys-y-bŵl na Phen Craig-yr-hesg, y mae man a elwir Cadair Ysbryd.  Math o sedd yn y graig yn ymyl y ffordd fawr ydyw, o ran ei ffurf yn debyg ddigon i gadair wedi ei ffurfio yn y graig.  llawdd iawn yw rhoddi cyfrif am ei ffurfiad.  Y mae slips, fel y dywed y glowyr, yn rhedeg trwy y graig; llithrodd darn o’r graig allan, lle y digwyddodd fod amryw o’r slaps yna yn cydgyfarfod, ac felly yr oedd y gwacter yn ymddangos fel cadair ddwyfraich.  Yr wyf yn cofio i rai o bobl y plwyf er ys mwy nag ugain mlynedd yn ôl gael eu dychrynu yn ddirfawr wrth weled ysbryd yn eistedd yn y gadair, a’i wedd mor loyw fel y goleuid y ffordd drosti; ond gan fy mod yn gallu cyffesu i mi fy hun, fel hogyn drwg, oleuo cannwyll y noson honno a’i rhoddi mewn darn o glai yn y gadair, nid yw yn deg i ni ddyfod i’r penderfyniad fod ysbryd wedi bod cyn ffoled â threulio oriau i eistedd ar galedwch y gadair garreg hon.  Onid tebycach mai goleuni fy nghannwyll i a welwyd gan y bobl a ddychrynwyd mor ddirfawr? Fel hyn y mae braidd holl ystoriau’r ysbrydion a’r ofnau, a man gwan ynddynt, ond yr wyf yn cyfaddef fod rhai ohonynt yn rhy debyg i wirionedd i mi allu siarad yn ysgafn ac yn wawdus yn eu cylch. Er ys amryw flynyddoedd yn ôl clywid trwst troed ceffyl yn trotian yn gyflym lawer noswaith ar heol Pen-wal a Gelli-lwch. Yr oedd Williams Gelli-lwch yn adnabod ei skn o. bell. Byddai yn trotian wrtho’i hun heibio i lawty Pwllhywel, i gyfeiriad y Graig-wen, ac yn fynych cyfarfyddai y teithwyr hwyrol â’r sŵn, ond nid i’r ceffyl; pasiai ar drot heibio iddynt, ond nid oedd un amser yn weledig.  Clywais ddynion geirwir yn adrodd hyn droeon,dynion na fuont erioed o dan ddylanwad ofn nac ofergoeledd; tystient eu bod wedi clyweo 

 =========================== (x126)  

y nos-geffyl hwn yn trotian heibio iddynt lawer gwaith, ac er iddynt wylied yn fanwl, methasant â gweled dim, er fod ceffyl yn myned heibio iddynt ar y pryd! Nid wyf fi yn cynnig eglurhad ar hyn, dim ond adrodd y ffaith yn unig.  Y mae dynion yn fyw yn y plwyf a all dystiolaethu i wirionedd yr hyn yr,,vyf yn awr yn ei adrodd.  Gellid yn ddiau esbonio’r peth yn ôl deddfau natur a gwyddoniaeth.  Yr wyf yn fodlon cydnabod fod dynion o natur a thymer neilltuol r@vfodd yn nes i natur, neu ynteu i’r ysbrydol mewn natur, fod mwy o gydymdeimlad rhwng eu meddyliau a’r dicithrwch hwn, neu eu bod yn byw yn agosar-h i’r borderland rhwng y materol a’r ysbrydol, a’u bod hwy weithiau yn gweled arvzyddion, ac yn clywed rhybuddion, nad yw yn ddichonadwy i bawb eu gweled a’u clywed.  Ond rhai i mi beidio
âg athronyddu’r pwnc, onid e mi a ddeuaf i drafferth yn ddiachos. Un o’r hen ddywediadau cyntaf a glywais yn blentyn oedd fod ‘ rhywbeth yn cadw dan y Glwyd Drom.’ Yr oedd yr hen bobl yn arfer adrodd hyn., Yr oedd y plant yn gwybod y peth yn dda, a phan basiem heibio yn y nos, ni feiddiem edrych i lawr tua’r hen geulan uwchben Ffrwd, y safai yr hen dderwen dewfrig ar ei hymyl, yn orchuddiedig gan iorwg, ac y mae yno hyd heddiw.  Yr oedd yn edrych yn ddu a phruddaidd iawn, feddyliem ni, yn y nos; ond os digwyddai i ni orfod myned dros gaeau y Mynachdy, Cae’r Banwen, Cae Cwm-ffrwd-bach, a’r Geulan wedi machludiad baul, cadwem ein golygon oddi wrth y lle tywyll o dan y Glwyd Drom! Credem yn ddiysgog fod yr hen ddywediad yn wirionedd, a bod ‘ rhywbeth yn cadw o dan y Glwyd Drom! ‘ Mi a brofais wedi hynny fod y peth yn ffaith Do, do, mi a welais yr ysbryd yn cadw dan y Glwyd Drom Clywais ef yn siarad yno. Bfim wyneb yn wyneb âg ef o dan y Geulan serth, a’r dderwen a’r iorwg uwch fy mhen.  Ac yr wyf yn tystiolaethu yn ddiffuant, ac yn gyhoeddus, mai gwir oedd y gair fod ‘ rhywbeth yn cadw o dan y Glwyd Drom 

 =========================== (x127)         

Yn awr adroddaf yr hanes i chwi. O dan yr hen dderWCn yna a’i chochl gwyrdd o eiddew y dechreuais farddoni tipyn. Yno yr oedd fy myfyrgell. O dan y darren ddanheddog, ar Ian Ffrwd, yr oedd gennyf fath o gadair wiail o’m gwneuthuriad fy hun.  Wrth fy nhraed yr oedd hen geubren na wyddai neb o ba oedran oedd, wedi tyfu yn rhywle ar Ian farddonol Ffrwd, ac wedi gwywo a syrthio, a chael math o fe,dd yn nhywod yr afon; ac am nad oedd y bedd yn ddigon dwfn, yr oedd cryn dipyn ohoni yn y golwg, yn aros fel darn o’r hen amser gynt i gadw’ cwmni i’r dderwen oedd fyth yn aros ar ben y geulan, i chware’i breichiau uwchben y dwfr, ac i guro tabwrdd Rhys o’r Mynydd! Wel, yno yr oeddwn yn myfyrio, yn darllen, yn gweddio, yn pregethu, yn barddoni, yn yr unigrwydd, neu yng nghwmni’r coed a’r afon donnog, a’r adar yn y brig uwchben, a’r pysgod yn y dwfr islaw, a minnau yn y gell feudwyol hon yn meddwl na wyddai neb ond Duw fy mod yno; ond y mae yn debyg, fel y cefais allan wedi hynny, fod fy mam yn gwybod yn eithaf da pa le yr oeddwn, a bod gennyf gell gysegredig ar lannau Ffrwd i arfer fy nawn, &c., heb yn wybod i’r byd.  Llawer darn o farddoniaeth fachgennaidd a ysgrifennais yno.  Y maent ar gael o hyd; yr ydys yn eu cadw nid am fod anfarwoldeb yngl@n i hwynt, ond am mai cynhyrchion awen oedd wedi gweled fod rhywbeth yn cadw o dan y Glwyd Drom’ydynt. Y maey darren wedi syrthio yn garnedd ar fy nghadair wiail, ond edrych yr hen dderwen i lawr o hyd ar y fan,’a phruddglwyfus rua y gwynt yn ei thewfrigau fyth yn adrodd y geiriau ‘, ‘ Y mae rhywbeth yn cadwo dan y Glwyd Drom.’ Cly’wals y geiriau fwy nag ugain mlynedd yn ôl, yn dyfod allan o frigau y dderwen a thewddail y iorwg, gydag awel b8r y cyfnod, a phenderfynais fynnu gweled pa beth oedd yn cadw yn y lle, ac O! mi a welais yr ysbryd.  Galwodd arnaf ato.  Anerchodd fi, rhoddodd i mi enw, a pharodd i mi edrych yn ei wyneb, a dywedodd ei fod ef yn ymgadw yno, ei fod wedi bod yno er ys 

 =========================== (x128) 

miloedd o flynyddoedd  Ie,’ meddai ‘ mi a welais yr hen geubren sydd wrth dy draed yn lasbren ieuanc, a bronfraith yn canu rhwng ei gwyrdd-ddail, a gwelais hi yn cael ei diwreiddio gan ystorm offiadwy a chwythai dros y Mynydd Gwyngul fel hyrddwynt yr Euroclydon.  Yr wyf yma o hydedrych arnaf.  Clyw fy llais.  Cais ddeall fy lleferydd, a by:dd fyw i ddweud yr hanes.’ Treiddiodd ei lais trwy goed y geulan; daeth ei atsain dracheffi â thrachefn o galon yr hen dderwen.  Clywais ef yn darfod yn y pellter fel skn neu oslef emyn a genid gan g6r o seraffiaid.  Edrychais-i fyny, a gwelais ef yn sefyll yn fy ymyl rhwng y coed, a’i frechiau ar led; ei wyneb yn disgleirio fel y wawr, a’i lygaid fel harddwch ei hun, a’i wallt yn hofran ar yr awel, yn llaes hofian dros frigau y coed, a thros wyrddlesni y caeau o’m cylch; yr oedd pob prydferthwch wedi cydgyfarfod yn ei wedd, prydferthwch yr haul a’r lleuad, a’r s6r disglair; prydferthwch seiriau yr wybren las-dyner, gogoniant ac ardderchogrwydd y dydd, a mawredd a gorffwyster y nos, tegwch y nefoedd, a harddwch y ddaear a dywynnai yn ei wyneb, a pheroriaeth a swyn yr holl fydoedd a gydgrynhowyd i’w lais, pan gyda chyffro tyner yr hwyr-awel, a sigliad araf canghennau y gw-kdd, a suad murmurol yr afon, y dywedodd, ‘Myfi yw yr ysbryd sydd yn cadw dan y Glwyd Drom.  Ti a’m gwelaist, a’m clywaist, a’m hofnaist, ac wedi hynny a’m hedmygaist.  Ti a sefaist, ac a fuost wyneb yn wyneb i’r ysbryd sydd yn crwydro trwy Gwm-ffrwd, a thros wylltedd Mynydd Gwyngul, a thrwy goedwigoedd Llanwynno, i fendithio ei dolydd, i harddu glannau Clydach, i anfarwoli bryniau a moelydd dy blwyf genedigol.  Myfi yw-myfi yw YSBRYD BAPDDONIAETH!! Do, do, euthum adref wedi profi fod ‘rhywbeth yn cadw dan y Glwyd Drom,’ ond nis gwn a wyddai fy mam ar y pryd fy mod wedi siarad
âg ysbryd. 

=========================== (x129)      

PENNOD XVII
YSBRYDION ETO 

YSBRYD y Lan Uchaf hefyd a ddistawyd o’r diwedd.  Ysbryd cethin iawn oedd ef.  Gwelid ef yn fynych, a chlywid ef braidd bob dydd a nos.  Yn fynych ymddangosai fel ceiliog g,kydd, gan sefyll ar glwyd y cae, neu wrth borth yr ysgubor, &c. Byddai yn rhaid cael pobl i wylio yn y tŷ tra fyddai eraill yn cysgu yn y nos.  Bu’r hen William Morgan, y tiler, a Morganjones,CwmClydach,yngwyliedynodroeon.  Cofus gennyf glywed yr hen bobl yn adrodd fel y siaradai William Morgan ynghylch yr ysbryd, -’Dyma fe wedi dod eto bachgan, choll e ddim chwarter heno.’ Bryd arall dywedai William am yr ysbryd, -’ Ma fe ar ôl ei amser heno fechgyn; i’r gwely â ni, fe ddaw cyn y bora.’ Ac i’r gwely yr aent, a chyn hir deuai’r ysbryd at ei waith.  Cadwai sŵn mawr, treiglai yr holl gawstelli dros y grisiau i lawr, a symudai y celfi ar hyd y tŷ, a chreai gynnwrf drwy y tŷ i gyd; ond erbyn codi i edrych am y cawstelli, ac i osod y dodrefn yn ôl yn eu lle, yr oedd pob peth yn dawel a threfnus, a’r cawstelli fel arfer heb fod neb wedi cyffwrdd â hwynt; ond y man y troai y gwylwyr yn ôl, yr oedd y stŵr yn dechrau drachefn, a’r holl dŷ mewn stad o gyffro.  Fel hyn y parhaodd pethau ar y Lan Uchaf am flynyddoedd lawer, ac y mae rhai hwyrach yn fyw yn awr, ond pur ychydig, sydd yn cofio am yniweliadaii blinderus yr ysbryd hwn, a’r modd o’r diwedd y rhoddwyd terfyn ar ei derfysgedd.  Y grediniaeth gyffredinol yn ei gylch trwy yr holl blwyf ydoedd fod rhyw gamwri neu’i gilydd wedi ei wneud mewn perthynas i ryw ewyllys yn dal cysylltiad â’r Lan.  Yr oedd trefniadau yr ewyllys heb gael eu cario allan yn iawn, a rhyw eiddo neu’i gilydd heb fyned i’r iawn gyfeiriad, ac felly y daeth ysbryd awdwr yr ewyflys i flino’r lle.  Bu 

 =========================== (x130)     

Llawer iawn o ddynion o nod yn cyrchu tua’r Lan Uchaf i dreio gorfodi yr ysbryd i ymadael, a rhoddi llonyddwch i’r lle.  Ond er cael Offeiriaid a dynion hysbys a dysgawdwyr, a chyda hynny lawer o weithwyr a dynion hy, gwrol, a di-ofn i dreio dyfod i gyffyrddiad â’r hysbryd, a chael ganddo siarad a dweud ei neges, eto parhau i aflonyddu y lle yr ydoedd hyd nes yr oedd byw yn y Lan wedi myned yn beth beichus a thruenus iawn. 0’r diwedd, penderfynodd perchennog y lle gysgu noswaith yno ei hun.  Pa beth a basiwyd rhwng y gŵr bonheddig a’r ysbryd ni chafodd neb wybod.  Ond terfynwyd pob ymryson. Oddi ar y noson honno, nid ymwelwyd â’r lle byth gan yr ysbryd.  Cafodd pob peth lonydd.  Bu tawelwch mawr yn y Lan.  Nid oes yno ond ysbryd Rhys o’r Mynydd yn crwydro trwy y lle pan fyddo’r hin yn flwng a thymhestlog.  Nid oes neb ag ofn yr ysbryd hwn.  Mae yn debyg i’r ysbryd a fu yn blino y lle am gynifer o flynyddoedd gael sicrwydd gan y gŵr bonheddig a gysgodd noson ei hun yn y Lan, y buasid o hynny allan yn gwneuthur cyfiawnder â’r eiddo, ac y cyflewnid o hynny allan holl drefniadau yr ewyllys heb wneud cam i’r byw na’r marw.  Mater cydwybod ydoedd gyda’r ysbryd hwn fel holl ysbrydion Llanwynno. Yr oedd ysbryd yn arfer cadw ar Dwyn y Cefnbychan, uwchlaw y Fforest, flynyddoedd yn ôl.  Gellid meddwl wrth sŵn y traddodiad yng nghylch yr ysbryd hwn, ei fod yn dwyn ei benyd, a’i fod wedi bod ar y cefndir noethlwm am lawer o oesau yn disgwyl dyfodiad rhyw berson neilltuol heibio, oblegid yn awr a phryd arall yn ystod yr oesau, torrai’r ysbryd allan i riddfan yn ystod y nos mewn llais erchyll, oer a phruddglwyfus, Hir yw’r dydd, a hir yw’r nos, A hir yw aros Noah. Nis gallai’r ysbryd hwn adrodd ei neges nac ymadael â’r lle cyn cael ymddiddan â’r Noah hwn.  Yr oedd am gynifer o 

 =========================== (x131)       

oesoedd wedi bod yn dwyn ei benyd wrth hir ddisgwyl am ei ddyfodiad heibio. O’r diwedd, daeth yr adeg i ben, ac wrth ryw ddigwyddiad pasiodd Noah heibio yn nhrymder y nos, a bu raid iddo siarad i’r ysbryd, a dywedodd yr ysbryd ei gyfrinach wrtho yntau.  Trefnwyd y mater, a gollyngwyd yr ysbryd yn rhydd.  Yr oedd yn dda iawn ganddo weled Noah yn dyfod heibio, ond dichon nad rhyw lawen iawn oedd Noah, wrth orfod siarad ar ganol nos
âg ysbryd oedd wedi gweiddi am oesoedd nes yr oedd wedi myned yn gryglyd ar ben y mynydd.  Ond daeth Noah, ac aeth yr ysbryd, ac ni ddychwelodd mwyach i flino dim na neb yn y plwyf. Ond yr ysbryd cynddeiriocaf a fu yn y plwyf oedd yr ysbryd a fu yn erlid Dafydd Fyddar a’i wraig Rachel, er ys tua 6o mlynedd yn ôl.  Yr wyf yn meddwl nad ysbryd perthynol i’r plwyf ydoedd hwn, ond un wedi dyfod i’r lle ar ôl Dafydd o ryw barth o sir Fynwy.  Yr oedd Dafydd wedi bod yn byw tua Chendl am- dyrnor o amser, ac yr wyf yn meddwl mai yno y penderfynodd yr ysbryd flino Dafydd, druan, hed nes peri iddo siarad âg ef.  Cafodd gryn drafferth i wneud hynny. Yr oedd Dafydd yn fyr ei glybod; mor ddrwg oedd ei glyw fel y gelwid ef yn Dafydd Fyddar, ac nid gwaith hawdd oedd i’r ysbryd aflonyddu Dafydd, heb fod bob amser yn ei olwg ef. Symudodd Dafydd o le i le i geisio dianc rhag yr ysbryd, ond nid hir oedd yr ysbryd heb ddytod ar ôl Dafydd i’w drigfan newydd o hyd. O’r diwedd symudodd Dafydd i Dai’r Plwyf Isaf, ac oddi yno i dai Craig-yr-hesg, a elwid Bwlch-y-wig, -y maent erbyn hyn wedi syrthio.  Ond pan oedd Dafydd yn ystyried fod yr ysbryd wedi el golli, a bod arwyddion y cawsai bellach lonyddwch gan ei erlidydd, yn sydyn un noson wele yr ysbryd yn cerdded ar ben to’r tŷ, ar lun ebol bach, ac ebe Ditfydd wrth Rachel, -’Doco fe, y garan diffaith, wedi diod eto; y mae yn trotio ar grib y to yn awr fel cniw caseg; gwac finna na chwmpa fe a thorri ei wddwg, trimmings diserch.’ 

 =========================== (x132)  

Aeth Dafydd a Rachel i’r tŷ i gynnal pwyllgor ar y mater, a daethant i’r penderfyniad i ofyn i’r ysbryd beth a fynnai A hwynt, a phaham yr oedd yn dilyn pobl diniwed fel hwy o le i le am flynyddoedd? Dygwyd y mater i ben felly.  Cafodd Dafydd a Rachel eu dwyn gan yr ysbryd bob cam daear i le ger Ce-ndl, a-c yno o dan garreg aelwyd rhyw dŷ y cafwyd blwch a chyllell wedi eu claddu.  Cododd Dafydd y blwch, ac ar gais yr ysbryd taflodd ef i’r afon, a chafodd Dafydd a Rachel waredigaeth dda a llonyddwch hyd nes i angau eu cipio ymaith.  Ond dywedir fod olion erledigaeth yr ysbryd i’w ganfod ar Dafydd Fyddar hyd ei fedd. Bu ysbryd yn cadw er ys llawer dydd yng Nghoed y Gelynnog. Cafodd llawer un lond ei facsau o fraw wrth fyned trwy y Gelynnog yn oriau tywyll y nos.  Yr oedd y coed derw mawrion yn estyn eu canghennau tewfrig i gyfarfod â’i  gilydd, nes ffurfio to mawr dros y lle, a phan ddeuai y nos, yr oedd yn fagdduol ofnadwy yn y Gelynnog.  Gwyddys am un neu ychwaneg o’r trigolion a gafodd fraw hynod wrth basio dan ganghennau brigog y coedydd hyn.  Un yn enwedig wrth ddyfod i mewn i’r coed yn y cwr pellaf tua hanner nos, ar ei ffordd adref o Bont-y-pridd, a gafodd y fath ddychryn fel y bu yn sobr iawn arno.  Rhoddodd ysbryd y Gelynnog y fath ysgr6ch oerllyd fel y syrthiodd y dyn i’r llawr, ac y bu trafferth mawr yno. Cyrhaeddodd adref rywfodd ond bu rhaid iddo newid ei ddillad.  Canodd un o’r hen brydyddion ychydig dribannau ar yr achlysur, y deallwn oddi wrthynt mai tylluan oedd yr ysbryd a gadwai s@ yng Nghoed y Gelynnog.  Meddai yr hen rigymwr:-

Yr oedd y nos yn dywyll,
A’r ysbryd cas yn sefyu
Ar gangen hen ffawydden gref,
A gwaeddodd ef ‘ wow ‘ erchyr 1

===========================(x133)    YSBRYDION ETO      133

Fe grynodd coed y Glynnog,
A’r pryfed mfin asgellog
Syrthiasant gyda’r dyn yn awr
I’r llawr yn analluog.

Gwiwerod chwim y coedydd
Darfasant dros y gweunydd
A’r ‘sgyfarnogod o bob tu
Aent i’r cladd-dŷ am fedydd

Aeth llawer gwyll weningen
Cyn ocred 5, thywarchen
Heb ffoi o’r fan, ond syrthio’n wacl
I afael Mopsy’r Lechwen

Pa sut y bu ar josi
Wrth basio dan y Bwd?
Wel, peidiwch
âg anurddo’r gin,
Cadd drousers glin gan Ami

O! ffei! fod dyn crefyddol
Mor wan ac anysbrydol;
Yn ffoi’n ddi-ffydd mi wnaffy llw
Rhag Gwdihŵ ddaearol

Nid wyf am awgrymu fod holl ysbxydion Llanwynno yn gyffelyb i ysbryd y Gelynnog, na bod pawb a welodd ysbrydion yn gorfod cael dillad glan; ond yn ddiau pe cymerasid tipyn O bwyll i chwilio i hanes rhai o’r ysbrydion fu yn itadw yma a thraw, megis ysbryd Coetgae Siasber, ac ysbryd Hen Wern y Dduallt, buasent wedi troi yn dylluanod neu bethau cyffely]5. Dichon fod sôn am ysbrydion, ac offi ysbrydion wedi bod o wasanaeth mawr yn yr amser gynt, ac wedi cadw llawer un heb gyflawni drygioni lawer pryd.  Gallu cryf iawn ydyw offi, pa un a fydd iddo sail neu beidio.  Ni chlywais Peter Hughes yn dweud iddo weled ysbryd erioed, oddieithr ysbryd yn y 

=========================== (x134)  

botel, ond mae Peter Hughes yn ddyn o alluoedd mor gryfion, fel nad peth bychan a’i troesai ef allan o’r ffordd.  Un o gewri yr hen amser, yn aros fel specimen o’r hen ddefnyddiau, ydyw ef. Caed fyw’n hir eto    caiff beth o hanes y Pandy cyn bo hir. 

 =========================== (x135)         
PENNOD XVIII
YSBRYDION ERAILL
 

Wrth ysgrifennu ynghylch ysbrydion crwydredig Plwyf Lianwynno, nid wyf am wneud llawer mwy na chofnodi’r hanesamdanynt.  NidoesafynnwyffiA’r pwncfel pethi’w esbonio.  Nid oes a fynnwyf hefyd â phrofi gwirionedd neu anwiredd yr hanesion.  Cofnodi yw fy ngwaith i, yr hyn a glywais yn cael ei adrodd gan hen drigolion y plwyf.  Yr oedd yr hen bobl yn credu ym modolaeth ysbrydion.  Credent eu bod yn crwydro trwy wahanol leoedd, eu bod yn cadw yn y fan hon a’r fan arall; yn blino y tŷ hwn a’r tŷ arall yn y plwyf, a’u bod i’w gweled ar adegau neilltuol; a bod rhai personau wedi gorfod siarad
âg ysbrydion o dan amgylchiadau neilltuol. Paham yr oedd ysbrydion yn ymddangos yr amseroedd hynny, a phaham nad ydynt i’w gweled yn awr? Ni pherthyn i mi ateb; ond o ran hynny, dichon eu bod yn ymweled â’r lleoedd o’n hamgylch yn awr megys cynt, ond nad ydym ni oherwydd rhesymau neilltuol yn eu gweled.  Dichon nad ofergoeliaeth i gyd oedd hanes hen ysbrydion dyddiau ein tadau.  Mae Gwyddoneg yn tueddu i gadarnhau eu bodolaeth er efallai nad yn y ffurf y credai yr hen bobl ynddynt. Fodd bynnag, credai yr hen ddynion fod rhai ysb     ‘rydion drwg a blinderus wedi ymweled â phlwyf Llanwynno am ysbaid o amser er ys blynyddoedd lawer yn ôl.  Un peth neilltuol yngl@n âg ymddangosiad ysbrydion ydoedd crediniaeth yr hen bobl mewn cydwybod.  Yr oedd pob ysbryd yn ymddangos oherwydd mater cydwybod.  Yr oedd yn blino y byw er mwyn cael llonyddwch i’w feddwl yn y byd tu draw i’r llen. Yr oedd ysbrydion yn blino gwahanol bersonau, ac yn ymddangos am flynyddoedd mewn ffermdai neu balastai, a’r rheswm a roddid am hynny oedd fod cam wedi ei wneud wrth, 

 =========================== (x136)  

beidio â rhannu yr eiddo yn deg yn ôl ewyllys rhywun oedd wedi marw, ac wedi bwriadu i’w eiddo fyned i ddwylo nad aeth wedi iddo ef fyned trwy angau i fyd yr ysbrydion.  Ond mae cymaint o beth fel hyn wedi ei wneud, fel y mae yn beth rhyfedd na fuasai yr holl ysbrydion wedi dyfod yn eu holau i Rino dynion yn meddiannu eiddo annheg ac anghyfreithlon. Ond rhaid i mi beidio
âg athronyddu. Bu ysbry4 blin iawn yn cadw ym Mhont-y-pridd, yn y White Horse, neu yn y maltsters wedi hynny.  Mae rhai yn fyw yn awr sydd yn cofio y cyfnewidiad hwn yn digwydd pan drowydy’CeffylGwyn’yn’Maltsters.’ Yrwyfyntybied i’r enw gael ei gyfnewid pan ddaeth Mr. Eliezer Williams, tad Capten Williams, o Bont-y-pridd, i fyw i’r lle.  Ond yn hir cyn hynny yr oedd ysbryd wedi bod yn blino y tŷ a rhai o’r personau oedd yn byw ynddo.  Mae ymweliad yr ysbryd hwn â’r hen dafarndy yn cael ei gadw yn fyw yn nhraddodiadau y lle hyd heddiw.  Yr oedd mwy nag un wedi gweled a chlywed yr ysbryd hwn. Un peth lled neilltuol yn perthyn iddo ydoedd ei hoffter o’r seler.  Ac hefyd, am a wn i, mae seler yn gystal lle i ysbryd i rhyw ystafell arall yn y tŷ, ond fod rhyw dipyn o ddirgelwch yngl@n i’i ddewisiad o’r lle.  Paham y seler ac nid yr ystafell ginio neu y parlwr? Bid siŵr, yr oedd yr ysbryd yn ddigon call i beidio i myned i’r attic, neu i le na fynychid gan bobl y tŷ, ond gallasai aros yn y porch neu eistedd ar un o’r hen bentanau mawrion oedd yno, neu fyned am dro i’r ystafell wely, neu droi weithiau i’r pantri, ond chwaeth hynod iawn oedd gan yr ysbryd hwn.  Ysbryd y seler ydoe@d ef, ac yn y seler y mynnai fod.  Nid wyf am awgrymu fod dim byd yn suspicious yn hyn; o ran hynny, y mae ysbrydion yn y seleri hyd y dydd hwn. Efallai mai arwydd o gallineb yr ysbryd ydoedd ei ddewisiad o’r seler, oblegid os oedd modd cael nerth i’w wynebu, yn y seler y ceid hynny.  Gellid cael cornaid o gwrw neu borter. Dichon na fuasai yn deg i neb gymryd cwpanaid o ddiod fain 

 =========================== (x137)          

cyn myned i siarad
âg ysbryd.  Ond yn y seler yr oedd yr ysbryd hwn yn cadw yn y maltsters. Buasai ambell un yn barod i led awgrymu fod ei ddewisiad o’r seler fel lle i gadw, yn fath o arddangosiad o’i arferion cyn iddo fyned yn ysbryd! Ond ni ddywedaf yr un gair yn y cyfeiriad yna.  Ond hyn a ddywedaf, os yw llawer a adnabfim i yn y cnawd, mor sychedig wedi iddynt fyned yn ysbrydion ag oeddynt cyn hynny, yr wyf yn lled sicr na chawsent well nefoedd i’w boddio na chael caniatad i fyned yn ôl am dro 1 ryw seler ym Mhont-y-pridd Ond yr oedd yr ysbryd hwn wedi cael caniatad, neu wedi mynnu caniatid neu rywbeth i fyned i seler y White Horse. Yr oedd yno eneth writgoch, hoy,v, yn forwyn, ac fel arfer un noson pan aeth hi i’r seler i lanw y jwg chwart, yr oedd yr ysbryd yn lled gopa-ystinc, yn sefyll ym mhlith y barllau. Ni ddywedir fod argoelion yfed arno; yn hytrach fel arall, yr oedd yr ysbryd a’r forwyn yn sobr ofnadwy! Ni ddywedodd air amdano wrth neb y pryd hwnnw.  Aeth yn ei hofn i’r seler drachefn, ac yno yr oedd yr ysbryd wedi eistedd ar un o’r barllau, ac yn edrych arni yn fileinig iawn.  Yr oedd yn amlwg ei fod yn llidus wrth yr eneth am beidio i dweud cnos da ‘ wrtho. O’r diwedd aeth yr eneth mor ofnus fel na cheid ganddi fyned i’r seler fwy-na bwch i’r odyn.  Ai ei meistres a hithau i mewn gyda’i gilydd, y naill yn dal y gannwyll ac yn cadw gwyliadwriaeth, a’r llall yn crynu ac yn tynnu cwrw.  Un noswaith wedi iddynt ddyfod’allan a chau drws y seler, yna gofynnodd y forwyn i’w meistres, ‘ a welsoch chwi ef, meistres? I ‘ Na, welais i yn sicr, ddim.’ ‘ We’l, ‘yr oedd yn sefyll yn ei@h ymyl, ac yn ysgyrnygu ei ddannedd yn ddychrynllyd,’ ebe’r forwyn. Felly y bu pethau; am gryn dymor ni ddeuai’r ysbryd o’r seler, ac nid ii y forwyn i mewn er dim.  Ond rhyw noswaith hi a benderfynodd fyned i’i channwyll yn ei llaw, a’r peint yn Y llaw arall; agorodd y drws yn ddistaw bach, ac aeth i mewri, 

 =========================== (x138)      

 

mor ddistaw âg oedd modd, a chyda’i bod yn nesau at y faril ddiod, diffoddodd yr ysbryd y gannwyll, a gwaeddodd hithau, I O’r annwyl, beth sydd yma? ‘ ‘ le,’ ebe’r ysbryd, ‘ da gennyf i ti ofyn y cwestiwn, yr oedd yn llawn bryd i ti ei ofyn ef. Y fi sydd yma, ac mae arnaf eisiau cael dy gwmni i fyned oddi yma i Gwmpistyll Golau, o dan Eglwys Wynno.  Nos yfory am ddeg o’r gloch ni a gychwynnwn ein dau.  Felly y bu; daeth yr ysbryd i’w chyfarfod nos trannoeth, a ffwrdd A hwynt dros afon Taf, trwy Graig-yr-hesg, i gyfeiriad y Glog, dros y Mynachdy a’r Dduallt, i gwm coediog tywyll y Pistyll, ac yno y cafwyd pAr neu ddau o ysbardunau a ddefnyddid i ymladd ceiliogod.  Yr oedd yr ysbryd wedi bod yn hen wag lled ddrwg yn y cyfeiriad hwnnw; yr oedd wedi gwisgo llawer ceiliog, ac wedi rhoddi llawer ceiliog i ladd un arall, ond y drwg mawr a wnaeth, ac a aflonyddai ei gydwybod ydoedd cuddio gaffies y ceiliogod rnewn dirgel fan o dan darren y pistyll. Bu raid i’r forwyn eu ffeindio, a’u dwyn oddi yno a’u taflu i afon Taf yli ymyl Pont-y-pridd, ac mae yn debyg i hynny lonyddu meddwl yr hen garnbler, oblegid ni ddaeth yn agos i’r lle fyth wedi hynny.  Cafodd y seler a’r for-,vyn, a’r hen White Horse lonyddwch; ni fu yno ysbryd mwyach, ond ysbrydion yr ystorm, ac ysbrydion y poteli, y maent hwy yn ymddangos ac yn cadw twrw yno o hyd, yn awr a phryd arall.  Felly y terfyna hanes ysbryd y maltsters. Ysbryd blin a gerwin ydoedd ysbryd yr Hen Bannwr.  Yr oedd Pandy yn arfer bod gynt wrth Gwmclydach; ac yr oedd llawer o wchyddion yn byw yno.  Yr oedd yno yn fy nghof i bentref bychan yn cynnwys amryw dai.  Ond yr oedd yr Hen Bandy wedi ei symud cyn fy mod yn cofio dim am y lle.  Y mae cae bychan islaw Cwmclydach a elwir Twynyddeintir, ac ar dwyn y cae hwn y sychid gwlanen y Pandy gan y gwchyddion gynt.  Bu ysbryd yr Hen Bannwr yn cadw yma am oesoedd lawer, ac nid ymadawodd â’r lle hyd o fewn cof rhai sydd yn fyw yn awr.  Nid oes sôn fod yr ysbryd hwn yn 

 =========================== (x139)      

 

ymddangos i neb; nid ysbryd i’w weled ond i’w glywed ydoedd hwn. Yr oedd yn pannu yn anferthol cyn dyfodiad ystorm a thywydd garwach na chyffredin.  Yr oedd yn eistedd ar Dwynyddeintir i weithio, ac i gadw stkr erchyll am hyd o’r nos yn fynych, a gwyddai’r hen drigolion yn dda os byddai y Pann-A,r wrthi fod tywydd creulon wrth y drws.  Byddai weithiau yn dod oddi ar y Ddeintir i fyny at y Cwm, a’r Tycanol, a’r Tŷ-draw, ac yn curo’r ddacar, neu yn lachio’r coedydd, neu yn gwneud skn annaearol iawn, nes bod y trigolion yn chwysu gan ddychryn.  Aeth llawer cenhedlaeth o drigolion y plwyf i’w beddau ac arnynt gymaint o ofn yr Hen Bannwr âg angau ei hun. Ni chlywais iddo wneud niwed i neb ond unwaith i Dafydd Cadwgan.  Ymddygodd yr Hen Bannwr yn lled ddirmygus ac annheg tuag ato ef, oblegid dywedai Dafydd iddo ddyfod ato ar ben Coed-y-cwm, a neidio ar ei gefn, a rhoddi ei draed am ei wddf, a hongian a’i ben i lawr ar ei gefn, a chwipio Dafydd druan bob cam o’r ffordd o Goed-y-cwm hyd Glwyd Cae’r Defaid.  Gwchydd oedd Dafydd Ca wgan, ac mae’n debyg fod y Pannwr yn dial ei lid arno yn herwydd hynny.  Y mae hen dai Cwmclydach wedi syrthio yn garneddau.  Y mae murddun yr hen D@-draw yn aros, yr hen Dycanol wedi ei ddileu, a’r rhes tai lle y preswyliai y gwehyddion gynt, ac ar eu holau Catws William Ifan a Barbara Hughes, yn awr yn hen garnedd INvyd-nid oes ond y Tŷ-coch yn aros. Y mae yntau, yr Hen Bannwr, wedi gorffen ei waith, ac y mae perffaith ddistawrwydd ar Dwynyddeintir, ond fod y rheilffordd wedi dod heibio, ac wedi torri ar furmur Clydach a thawelwch pruddglwyfus y lle.  Y mae ysbryd y Pannwr mor ddistaw â Dafydd Cadwgan, a Dafydd Cadwgan mor ddistaw A chleidir Mynwent Eglwys Wynno, lle y mae ef a Nani ya noswylio mewn tawelwch er ys llawer blwyddyn.  Caffed hun y cyfiawn, 

 =========================== (x140)    

PENNOD XIX 
Y TAI ADFEILIEDIG 

MAF, liawer o ddiddordeb yngl@n â hen dai, hyd yn oed wedi iddynt syrthio yn garneddau llwydion. 
Mae iddynt eu hanes. Cynifer o bethau sydd wedi digwydd ynddynt, ac o amgylch iddynt, pe gallem wybod amdanynt oll! Maent yn fath o ganolbwyntiau, o’u hamgylch y cyferfydd llu o atgofion am hen bobl, hen arferion, a @en ddull o fyw, sydd erbyn hyn wedi myned heibio am byth.  Maent hefyd yn ein hanvain yn ôl at agweddau cynnar ar wareiddiad a gwladwriaitth; rhywfodd yr hen dai, yr hen furiau llwydion, yw y cwbl a feddwn yn fynych o’r gymdogaeth hon, a’r gyrndogaeth arall, fel yr oedd yn arfer bod yn nyddiau disyml ein tadau. Mae Llanwynno yn dryfrith o’r hen adelladau hyn, a byddai yn ddiddorol iawn i ni fyned at bob murddun, a sefyll uwchben gweddillion yr hen dai, a myfyrio yno ar helyntion yr hen ardal, yn yr amser a aeth heibio.  Gollwng allan y dychymyg i redeg yn ôl at hen ddefodau, hen enwau, hen bersonau fu ynddynt yn torri figures, oesau cyn ein geni ni; a chyn bod arferiadau Seisnigaidd wedi llygru y wlad, a dwyn y ddelw Gymraeg o dŷ, o deml, o wisg, ac o wedd y Cymro! Gadewch inni fyned am dro i edrych ar hen dai syrthiedig Llanwynno. Dechreuwn yr ymweliad wrth Bont-y-pridd.  Pa le mae .rnysgafaelon? Nid oes ond darn o’r hen dŷ i’w ganfod yn ymyl un o dai newyddach y dref Y tŷ a arferem ei alw yn D@ y Superintendent Thomas, -yn y man hwnnw gellir gweled gweddillion hen dŷ Ynysgafaelon, neu fel y galwai yr hen bobl ef, r Sgy .filon.’ Bu yn hen le enwog, a chyrchu mawr iddo ac ohono.  Mae enw Bili’r Teiliwr, neu ‘Bili Ysgifelon’ ar gof a llafar gwlad hyd yn awr.  Ef oedd tad Catws gwraig 

 =========================== (x141)        

job Morgan, yr hwn a adelladodd Brynffynnon Inn, ger Eglwys Wynno.  Mae Catws wedi marw ers 44 mlynedd, a job ers yn agos i hynny.  William Morgan eu mab wedi myned yn hen @r, ac wedi myned ar ôl ei dad a’i fam i fwrw ei ludded yng nghwys y dyffryn tawel.  Edward y mab arall wedi croesi’r môr terfysglyd, ac wedi cael bedd mewn gwlad ddieithr.  Mari ei chwaer-hithau yn huno yn naear America, a’r rhai hyn oll, a llawer iawn heblaw hwy, wedi bod yn dwyn cysylltiad agos 1’r hen dŷ sydd â rhan o’i fur i’w weled fel y nodais fel monument o’r hen Ynysgafaelon, neu yn ôl rhai ‘ Ynys-y-gof-hoelion ‘-tŷ rhyw Nailer fu yn adnabyddus yn y lle yn y dyddiau gynt. Yn uwch i fyny ar Ian Taf, yn agos i Ferw, wrth droed Craig-yr-hesg, y gwelir murddun y ‘ Gellidawel,’ hen enw Cymraeg, llawn o feddwl, a llawn o farddoniaeth hefyd; ic, y Gellidawel. Lle tawel ydoedd, yn cael ei noddi gan Graig-yr-hesg.  Yr wyf yn cofio’r tŷ yn cael ei breswylio gan Moses Roderick a’i deulu; ond rhywfodd gadawyd i’r tŷ syrthio, a phob amser pan elwyf heibio, yr wyf yn teimlo hiraeth ar ôl y Gellidawel. Gallasai hyd eto fod yn lle da i ryw weithwyr godi ei deulu ynddo. Ar ben Craig-yr-hesg y mae gweddillion Tŷ’r Bush.  Hen le enwog, ac yn cael ei gysylltu mewn traddodiad â’r Cefn, ac hefyd i Christiana Pitch, y mae ar    ei bedd y goffadwriaeth hynaf ym mynwent Eglwys Wynno:-’Christiana Pitts, wife of J. Pitts, June 4tb, iô67.’ Mae yr hen furiau yn aros ar Graig-yr-hesg, a dyna’r cwbl sydd gennym i goffa bywyd a phreswyliad J. Pitts yn y rhan hon o’r plwyfi Mae gweddillion tŷ bychan i’w ganfod yn ystabl Gelli-lwch. Nid wyf yn meddwl fod neb yn fyw yn awr sydd yn cofio dynion yn byw ynddo.  Ond gwyddys enwau rhai a fu yno, ac mae ar gof gwlad fod yno un hen ŵr duwiol yn byw, a bod bechgyn dircidus yr ardil yn arfer gwylio yr hen ŵr yn cynnal dyletswydd deuluaidd, ac yn myned at y ffenestr pan fyddŷ 

 =========================== (x142) 

yr hen ŵr ar ei ddeulin, ac yn cymryd ei wig oddi ar ei ben a ffwrdd â hi gyda bloedd a barai i’r hen @r anghofio el: fod ar weddi!
Ni fyddai enwi neb o un diddordeb.  Yno yn awr y mae ceffylau Gelli-lwch yn bwyta ac yn cysgu    ac ychydig a feddylia neb fod yno hen dŷ wedi bod ac’ynddo     allor i Dd uw Jacob.’ . I @lawr yn y pant heb fod ymhell o’r fan lle yr arllwysa Cynin i Glydach, y gwelir gweddillion Llwynmelyn.  Yr oedd yr hen dŷ yn enwog gynt fel tafarndy, a math o halfway house rhwng Pont-y-pridd ac Eglwys Wynno, a heibio iddo yr oedd ffordd y plwyf yn myned, fel y caf sylwi eto yn hanes y plwyf. Mae llawer ohonom yn cofio Siams a Chatws, a’r asyn Siarper, yn byw yn Llwynmelyn, a rhai yn cofio Siôn tad Siams a’r ci Dragon cyn hynny.  Nid oes gwybodaeth fed Siôn yn enwog am ddim ond bwyta teisen dda, ac oni fyddai yn dda, cAi Dragon y rhan orau ohoni.  Treuliodd Siams a Chatws a Siarper oes hir yn Llwynmelyn.  Yr oeddynt bob amser yn ddedwydd, yn enwedig os byddai yr ymenyn yn dda, a digonedd ohono; byddai Siams a Chatws yn dechrau hanner pwys o ymenyn un ym mhob talcen iddo, ac yn bwyta cyn gorffwyso’ hyd nes y deuai’r cyllyll i gyffyrddiad â’i  gilydd.  Lle enwog iawn am nadroedd oedd Llwymnelyn.  Yr oedd Catws yn yr haf yn gorfod brwydro llawer â seirff y lle.  Deuent i mewn i’r Llaethdy, i’r llofft, a’r gwely, a llawer man yn y tŷ.  Yr wyf yn cofio gweled Catws yn cymryd yr efail oddi wrth y tAn i gydio mewn neidr fawr a’i llusgo allan o’r llaethdy.  Y rheswm fod y lle mor llawn o seirff ydoedd ei fod yn gynnes a chysgodol, a’r hen furiau yn drwchus a’r to yn hen ac vn dew iawn, ac wedi iddynt unwaith yrnnythu ynddo, anodd oedd cael gwared ohonynt.  Ond erbyn hyn mae yr hen Lwynmelyn wedi myned yn garneddau, gall fod yn gartref ystlumod a seirff, heb fod o fawr niwed i neb mwyach. Yn uwch i fyny ryw filltir neu ddwy gyda glan Clydach, y safai y Graig-ddu, neu fel yr adnabyddid ef yn ddiweddar 

 =========================== (x143)        

Black Rock.  Diau fod y lle wedi bod yn dafarndy rywbryd, ac mai dyna’r rheswm iddo gael ei alw yn Black Rock. 
Y mae gennym hanes llawer o leoedd yn cael eu Seisnigo yn y modd hwn.  Pan ddeuai angen tafarndy mewn lle anghysbell y wlad, yr oedd, bid sicr, eisiau arwydd (sign) uwchben y yn drws, ac yn fynych rhoddid yr enw yn Saesneg, oblegid bu amser pan nad ysgrifennid dim yn gyhoeddus yn yr iaith Gymraeg.  Diau mai yn y modd hwn y daeth y Graig-ddu i fod yn Black Rock, ac mae yr enw yn glynu wrth y lle fyth, er fod y tŷ wedi ei dynnu i lawr, ac nad oes yno faen ar faen wedi ei adael. Heb fod ym mhell, ond dipyn yn uwch i fyny ar afon Clydach, y safai y Pandy.  Bu yn enwog fel cartref gwchyddion yr Ynys oesoedd yn ôl.  Gwelais yn registers y plwyf i Peter Hughes briodi Gwenllian jenkin ar Y 3oain o fis Rhagfyr yn y flwyddyn 1769.  Ac i’r Pandy yr aethant i fynv, ac o’r Pandy y claddwyd hi yn weddw led hen.  Priododd Griffith Hughes ag Ann Lewis ar y 14eg o Awst yn y flwyddyn i8o6, Mab i Peter a Gwenllian ydoedd Griffith, yr wyf yn ei gofio ef yn lled dda.  Ef, feddyliaf, oedd y diwethaf a fu yn byw yn y Pandy.  Ei fab ef yw Peter Hughes, o Ynys-y-bkI.  Y mae ef yn hen ŵr o ran oedran, ond o ran ysbryd, ynni, a bywiogrwydd, mae fel bachgen deunaw oed.  Mae dwy neu dair cenhedlaeth o’r Hughesiaid sydd yn ieuengach nag ef.  Mae ei brofiad ef yn myned yn ôl i’r amser y preswylid y Pandy, bu ef ei hun yn byw yno gyda’i nain, Gwenllian o’r Pandy, yr hon fel y gwelir uchod a briododd â Pheter Hughes yn Eglwys Wynno, gant a deunaw o flynyddoedd yn ôl.  Hyd yn ddiweddar yr oedd muriau y Pandy i’w gweled ar lannau Clydach, o dan gysgod y darren fawr sydd wedi ei dryllio yn awr gan bobl y rheilffordd. Yr oedd yno yn ymyl hen furddun y Pandy bren llawryf hardd, bob amser yn fythwyrdd, fel pe buasai wedi pen-, derfynu glynu yno i gadw coffadwriaeth o’r hen dŷ a’r hen 

 =========================== (x144)   

bobl!  Pwy h’i plannodd, wys?  Dichon mae ‘llaw Gwenllian’a’igosododdynyddaearidyfu!  Ondow!maeyntau wedi gorfod rhoddi ffordd o flaen y cyfnewidiadau diweddar. Ni welais ef yno pan cuthum heibio yno pwy ddydd.  Diau ei fod wedi ei ddiwreiddio o’r tir, a bod un o hen nodau y plwyf wedi ei symud i ebargofiant tragwyddol. .@r oedd hen dŷ arall yn yr ymyl a elwid ‘Y Perllannau.’ Gwelais restr o dai newyddion wedi eu codi ar y fan y safai yr hen dŷ hwn.  Mae ei enw yn farddonol a phrydferth, ac yn awgrymu llawer o bethau i’r meddwl ynghylch y lle pan oedd y gwastad yna o amgylch hotel Mr. Beith, yn llawn o goed afalau, ac mor aml oedd y coed ac mor ffrwythlon y lle, fel y gelwid ef ‘ Y Perllannau.’ Y mae llawer yn cofio y Rhiw, neu yr hen dŷ a safai ar ymyl y ffordd o Bont-y-pridd i Ynys-y-bŵl, yn agos i’r fan lle mae yr eglwys newydd wedi ei chodi yn ddiweddar.  Nid oes yno ddim o’i olion yn awr ond rhesi mawrion o dai wedi eu codi ar draws y waun lle y safai y Rhiw gynt wrtho’i hun fel hen bererin, wedi cael ei guro gan y tywydd nes myned i edrych yn llwyd a diolwg.  Hen dŷ a tho gwellt ydoedd, a hwnnw yn do digon gwael, gellid rhifo’r s6r drwyddo yn fynych; dim gwydr ar y ffenestri, hanner dwsin o bennau plant trwy ffenestr y llofft, fel pe buasent ar werth yno yn enwedig pan fuasai dieithriaid yn pasio.  Emwnt a Mari a llawer o’r plant yn eu beddau er ys blynyddoedd, a’r hen Riw fel eira y blynyddoedd gynt wedi ei lwyr ddifodi. Yr oedd ys llawer dydd dŷ bychan yn arfer bod wrth Aber-ffrwd, ger Ynys-y-bŵl.  Ond yr oedd hwnnw wedi ei symud er cyn fy amser i. Llyncwyd ef gan dŷ newydd Aber-ffrwd, mae’n debyg.  Rhyw dŷ bychan lle y preswyliai un o wrageddos y plwyf ydoedd, ac y mae traddodiad yn dywedyd fod yr hen wraig a fu yn byw olaf ynddo yn arfer eistedd allan gyda’i gweill a’i hosanau ar garreg oedd yn arfer bod ar gyfer 

 =========================== (x145)        

Mount Aber-ffrwd.
Dichon fod y garreg fel yr hen wraig, wedi cael el symud yn awr. Dyna’r Creunant hefyd wedi ei dynnu i lawr.  Lle bychan tawel ar Ian Clydach, ychydig yn uwch i fyny nag Ynys-y-bŵl, a gardd daclus yn perthyn i’r hen dŷ, yn rhedeg ochr yn ochr A’r afon, a ffynnon fechan loyw yn pistyllu yng ngwaelod yr ardd.  Gallesid meddwl ei fod yn lle bychan hapus i godi plant ynddo.  Yma yr oedd Peter Hughes yn byw ys Itawer dydd.  Cadwai y tŷ yn daclus, a’r ardd yn drefnus, ac meddai Meudwy Glan Elii amdano, 

Petet Hughes sy’n maeddu’r pant Mewn tato o ardd y Creunant. 

‘Does yma neb fel Peter Hughes, Yn gwybod tuo winwin, Na neb i’w gael mewn gwiad a thre’ Sydd fel efe am gennin. 

Ond mae’r Creunant, a’r ardd, a’r ffynnon wedi eu colli. Buasem yn hoffi sefyll i ofyn pa sawl cenhedlaeth a welodd y Creunant yn pasio yrnaith, fel y llifa’r afon i lawr heibio iddo? Yn ddiau, gwelodd lawer oes’     ond daeth yr ofwy arno yntau Nid oes yno neb mwy i glywed murmur peraidd Glydach wrth olchi talcen tŷ, ac ymsiglo rhwng -cculan a pherth! Nid oes yno lais gwraig a phlant, yn trotian gyda pherth yr afon i fyned i’r piser i’w roddi dan Bistyll yr Ardd! Na! na Syrthiodd yr hen dŷ ond crys y nant, -y Groywnant, daw hi i lawr o dir y Dduallt trwy gwm y Cae Drysiog, ac i -mewn i Glydach yn llawen fel arfer y tu cefn i furiau yr hen dŷ syrthiedig.
O! trueni fod yr hen leoedd yn cael eu colli yn y modd hwn. Tyn-y-coed yw y murddun nesaf.  Y tu uchaf i’r Lechwaun, ar lethr cae yn ymyl y coed, o hyd clyw i furmur hyftyd Clydach y safai Tyn-y-coed.  Llecyn hyfryd i fyw YnOdo. x 

 =========================== (x146) 

Nid oedd yno na chyffro na dig, oddieithr cyffro ystormydd hydrefol a gaeafol.  Cysgodid y lle gan ochr uchel Ffynnon-dwym, ac ni chai gwyntoedd y gorllewin ymosod arno gan Foelydduallt.  Yr oedd y coedydd o gylch yn amddiffyn iddo hefyd, ac yn gysgodle i liaws o adar. 
Yr oedd Tyn-y-coed gynt yn lle dymunol i fyw.  Ond murddun yw yntau ers Llawer blwyddyn. Yr ydym yn awr wrth Gwmclydach.  Mae yma bentref cyfan mewn adeiliau.  Yr hen dai o flaen y Tŷ-coch, Tŷ-draw a’r Tycanol.  Yr oedd yma bandy hefyd yn yr hen amser. Bu Cwm Clydach unwaith yn lled enwog, yn enwocach nag Ynys-y-bwˆl, ac yn fwy poblog, hyd nes i Dai’r Plwyf gael eu codi ar dir y Mynachdy; yna deuai yr hen wŷr a’r hen wragedd i dreulio diwedd eu hoes i’r Ynys, ac nid i’r Cwm.  Yr wyf yn cofio Catws William Ifan yn byw yn hen Dai Cwmclydach, a Llawcr storm a gododd Catws yno.  Nid oedd Catws bob amser yn ‘ ben llathen; ‘ a phan ddeuai’r ffit arni, yr oedd yn fynych yn lled ddrwg ar y cymdogion.  Ai i ffwrdd yn fynych, a byddai y cymdogion yn gorfod myned ddyfnder y nos i chwilio amdano.  Yn y tŷ nesaf ati, yr oedd Barbara Hughes yn byw.  Hen wraig fawr a golwg gdthin iawn arni oedd Barbara.  Yr oedd ei hofn ar blant y gymydogaeth.  Buasai yn dda gennyf gael cyfle yn awr i dynnu llun Barbara.  Trueni na fuasai rhywun wedi gwneud, pan oedd yn fyw, er mwyn cadw rhai o’r hen gymeriadau hynod gerbron yr oesoedd a ddeuai.  Buasai yn dda gennyf gael darlun o Barbara Hughes yn ei bonet enfawr-yn ffurfio math o dwnel mawr dros ei hwyneb-yr oedd gryn lathen o hyd o’i gwegil i’w phig; ac yn y twnel yr oedd trwyn mawr, cryf, a dau lygad du treiddgar, yn gwreichioni yn y twriel gan lid a digofaint, oherwydd fod Catws William Ifan wedi siarad yn isel amdani, neu Siôn fab Morgan wedi cnocio’r drws a hithau yn yfed te.  Yr oedd ei gwedd afrywiog yn peri ichwi feddwl am gwmwl du, trwm, gwgus, bron tor-ri a thywallt ei gynhwysiad fel cenllif 

=========================== (x147)         

ar draws pawb yn ddiwahaniaeth.  Yr oedd ei chnawd melynddu, ei golwg chwerw a llidiog, a’i bonet fawr dros y cwbl yn taflu dieithrwch gerwinol arni, nes ymddangos yn fynych fel Asiatic mewn pais gota.  Yr oedd yn ddynes fawr, yn gorblygu nes edrych fel camel mewn becwn gwlanen, a’i thraed fel boncyffion derw, yn anferthol.  Nid wyf yn cofio i mi weled un fenyw erioed a’i thraed yn hanner cymaint eu hyd, lled, a’u trwch â rhai Barbara Hughes.  Yr oedd hefyd yn farfog fel bwch, ac yn hen ferch yn y fargen.  Nid oedd neb o lanciau y plwyf yn ei dydd hi wedi magu digon o galon i wneud Barbara yn wraig; rhwng meddwl am draul eillio, a thraul esgidiau gymaint allan o’r cyffredin, ac efallai meddwl am nerth a sarugrwydd Barbara, digalonnodd y bechgyn; aeth llawn amser heibio, a thrigodd Barbara fel llong fawr’ar y tywod, yn hen ferch erwin ei thymer, hyll ei gwedd, ac yn ddychryn i blant y wlad, heblaw fod yn sbort i gryddion yr Ynys.  Nid oedd dim a foddiai rai ohonynt yn fwy na gyrru Barbara a Chatws ben ynghyd, a’u cael allan i ymladd ffrwgwd dda. Ond yr oedd yr hen wragedd yn dod i’w lle priodol yn fuan, ac er eu golwg chwith, a’u tymherau drwg, yr oedd llawer o dynerwch yn trigo dan y gerwinder allanol hwnnw.  Yr wyf yn cofio yn awr fel y blaswn y brechdanau siwgr a gawn ganddynt pan yn blentyn.  Ond nid oes erbyn hyn ond darnau o hen furiau eu tai yn aros.  Y rhod nyddu wedi peidio, a sŵn gwau a chordeddu weai distewi, a’r hen bentref yn prysur falurio yn llwch o dan gysgod coed afalau mawnon sydd yn taenu eu canghennau uwchben gweddillion yr hen dai. Mae y Tŷ-draw yn yr ymyl, yn hen sypyn llwyd,’maluriedig, mewn sefyllfa glyd a thawel, a chae, neu ynys, a gardd ddel yn perthyn iddo.  Yma y preswyliai yr hen Ifan Morgan, hen daid Miss Annie Williams, y gantores o Lundain.  Hen ŵr tal, garw ei wedd, syml ei arferion a hogiau drwg y wlad yn ei boeni yn fynych.  Byddai yntau yn wastad yn meddwl nad oedd un llanc yn y wlad yn gyffelyb mewn gwybodaeth, 

 =========================== (x148)   

geirwiredd, a gonestrwydd i’r hwn a alwai ef yn ‘ Siôn fab Morcan.’ Byddai Siôn yn myned allan gydag ef ar hyd y ffyrdd a’r’caeau, ac yn ei lanw â llawer o newyddion heb rith o wirionedd yn sail iddynt, ac ii yntau adref, ac i fannau eraill i adrodd hynny drachefn, a phan welai fod y bobl yn hwyrfrydig i gredu y pethau, ac yn edrych yn amheus, byddai bob amser yn dywedyd wrthynt, ‘Mae’r peth yn wir i wala Si 6n fab Morgan wedws wrtho i, ac ni wedws e’ gelwdd erioed, yn siwr.’ ‘Ac yr oedd Siôn yn llunio anwireddau wrth y llath er mwyn cael difyrrwch gyda’r hen @r.  Bu ef a’i wraig Magws yn byw am flynyddoedd yn y Tŷ-draw.  Yr oedd gan fy nhad-cu bioden wedi dysgu siarad, ac wedi dysgu llawer o driciau drwg hefyd.  Dic y gelwid Fe Yr oedd yn myned yn fore iawn i alw ar Ifan Morgan, Tŷ-draw, ac Ifan Morgan, Tycanol. Un     bore aeth i mewn i’r Tŷ-draw, a chydiodd yn y seigen ymenyn oedd ar y bwrdd, ac ehedodd i ben crib y tŷ ag ef i’w bwyta.  Rhedodd Ifan Morgan allan i dreio ei ddal, ond yr oedd Dic allan o’i gyrraedd yn bwyta’r ymenyn ar nen y tŷ.  Gwaeddai Ifan yn erchyll-’Dere lawr, Dic.  Dere lawr, gwell iti, y lleidir br-wnt.  Dere lawr, Dic, gwell iti.’ Ond daeth Siôn ap Morgan ato, a dywedodd-’Mae Dic yn sicit o ddod â’r menyn i lawr eto, Ifan Morgan.’ ‘ O’r gore, Siôn,’ ebe’r hen ŵr, gan fyned i’r tŷ i weiddi ar yr hen wraig- ‘Magws, mae Siôn yn gwed daw Dic â’r saig ymenyn i lawr eto; daw fi grynta’, wedws Siôn gel@dd erioed!’ Y mae’n debyg i Dic ddisgyn pan welodd ei bryd ei hun, a’r ymenyn yn ei grombil.  Torrodd Magws adenydd yr aderyn hwn, wedi hynny syrthiodd Dic, druan, yn aberth i’r gath.  Yr oeddem ni, yn blant, yr arfer meddwl mai hon oedd y gath y sonnid amdani yn y rhigwm- 

Pwsi miaw, B’le llosgaist dy flew? Yn y Tŷ-draw Wrth grasu teisen dew. 

 
=========================== (x149)      

Y mae y ddau Dycanol wedi eu dileu oddi ar wyneb y ddaear.  Nid oes ond y Tŷ-coch yn aros yn y Cw-m-y tŷ lle cydoesodd Morgan a Rachel Jones yn hapus am fwy na thrigain mlynedd.  Yr wyf yn tybied fy mod yn teimlo cusanau hen ffynnon y Tŷ-draw ar fy min, a’m bod yn clywed distylliad cerddorol ond distaw Ffynnon y Caban o dan y glaswydd yng ngoed y Cwm. 
A’m helpo i!! Dychymyg yw’r cwbl.  Dyma fi ymhell o’r fan, ar lannu Clwyd ac Elwy, enwocach afonydd na Chlydach, ond nid mor annwyl, nac ychwaith mor hardd i fardd a dderbyniodd ysbrydoliaeth gyntaf ei hawen heb fod ymhell o’i glannau hi-hen Glydach hoff Blaennantyfedw hefyd sydd wedi adfeilio, er iddo unwaith fod yn ffermdy enwog.  Nid yw yn awr ond cysgodle anifeiliaid direswm.  Y mae yr hen dŷ wedi ei droi yn llety ychen a lloi.  Yr ardd, a’r coed, a’r blodau wedi eu difetha; ac yn hen gartref Bili Domos Howel, a Siened ei wraig, nid oes yn awr ond 

Rhedyn ar lwch anrhydedd Y gwyrdd lawr a gardd y wledd. 

Safai yr hen dŷ ar y dde dipyn o’r ffordd sydd yn arwain o’r Basin heibio i Gilfach-rhyd.  Yr oedd yn lle prydferth, yn sefyll ar ael y bryn uwchben Cwmcynon.  Y mae yr hen Ywen a dyfai yn ymyl y tŷ yn aros yno o hyd, ac yn edrych fel gweddw bruddglwyfus, yn galaru am gymdeithion bore oes na ddychwelant fyth eto i lonni’r lle.  Rhed Nantyfedw heibio i’r tŷ, weithiau yn dawel a lled ddi-ddwfr, bryd aiall yn’lled arw a chynhyrfus, a chlywir weithiau o bell 

Sŵn y rhyeidr sy’n rhuo

Dros y graig ar draws y gro 

a phryd arall, 

 =========================== (x150)  

Yn groyw ar hyd y graean,

Tonnau ugeirliau a gan. 

Rhaid canu’n iach i’r hen dai adfeiliedig.  Nid wyf wedi eu henwi i gyd; ond yr wyf yn troi ymaith oddi wrth eu hen furiau maluriedig gydag hiraeth a thrymder.  Chwi hen fythynnod fy mhlwyf, na ddifoder chwi! Arhoswch yn eich llwydni fel darnau o’r amser a fu.  Nythed yr adar rhwng eich adfeilion; caned awelon haf a gaeaf rhwng eich gweddillion; tyfed mwswgl gwyrddaf a@an ar eich muriau; dringed iorwg a drysni oesoedd fel caerau amddiffyn o’ch cylch; sefwch yn eich llwyd-ni hyd nes y cydsyrthioch i phalasau y wlad yn nydd dymchweliad a difodiad pob peth gweledig. 

 =========================== (x151)    

PENNOD XX
HEN DDYWEDIADAU
 

DIDDOROL iawn fuasai cael casgliad o hen ddywediadau, brawddegau, diarhebion, a darnau prydyddol perthynol i bob plwyf, a phriodol i’r plwyf, os yn bosibl.  Yn fynych ceir dywediadau mewn un plwyf sydd yn anadnabyddus yn y plwyf agosaf ato. i. Un o ddywediadau plwyf Llanwynno ydyw, ‘ Ar Jarvis mae’r gofid.’ Defnyddir y frawddeg yn fynych pan fyddo drwgdybiaeth ynghylch rhyw berson a fyddo yn cymryd gormod o drafferth i glirio’i gymeriad.  Ymhlith y plwyfolion ers llawer dydd, sut bynnag y mae yn awr, yr oedd cryn lawer o ladrata defaid yn bod ar y mynyddoedd, a phan fyddai un o’r amaethwyr yn llawn fuss, ac yn cymryd trafferth fawr i ddangos ei gydymdeimlad h’i gymydogion a oedd wedi colli rhai o’u defaid, y dull o fynegi eu drwgdybiaeth o hwnnw fyddai dywedyd, ‘Ar Jarvis mae’r gofid.’ Dywedir i’r dywediad ddyfod yn acan yn y plwyf yn y modd hwn.  Yr oedd, ers llawer dydd, was yn Daerwynno o’r enw Jarvis. Un diwrnod collodd ei feistr ei gyllell o logell ei siaced, ar y cae gwair.  Gwyddai y meistr pa le y tynnodd ei siaced, ac y taflodd hi ar y gwair, tra fuasai yn gweithio tipyn gyda’r gweision, a gwyddai nad oedd neb ond Jarvis wedi bod yn agos i’r lle a’r siaced.  Ond wrth chwilio am y gyllell nid oedd neb yn cadw cymaint o stŵr â Jarvis.  Yr oedd yn llawn sôl yn chwilio, ac yn llawn cydymdeimlad â’i  feistr, ac yn teimlo’r golled yn fwy nag ef-yr oedd eifuss yn ormod i fod yn onest- ac felly awgrymodd ei feistr mewn dull tawel, ‘ Ar Jarvis mae’r gofid,’ a chafwyd allan wedi hynny mai gan Jarvis yr oedd y gy1lell 

 =========================== (x152)   

Mae yn aros yn y plwyf hefyd amryw hen ddywediadau ffigurol a chyfeiriadol, dichon fod rhai ohonynt yn perthyn yn wreiddiol i’r plwyf, a bod eraill yn ymadroddion cyffredinol, yn perthyn i blwyfydd eraill yn gystal
âg i Lanwynno. O-nd yn Llanwynno y clywais hwynt gyntaf, ac yno y clywais hwynt amlaf, ac felly gosodaf hwynt i lawr fel dywediadau gwreiddiol, neu os mynnir, fel dywediadau diarhebol y plwyf, pa un ai gwreiddiol ai peidio nid oes wahaniaeth. 2. ‘ Gormod o ddŷr ar y felin ‘ yw un ohonynt.  Diau fod hwn yn hen ddywediad, wedi ei ddefnyddio cyn bod skn na pheiriaut dyrnu nac engine o fath yn y byd yn y wlad.  Pan fydd rhywun yn siarad gormod fel y bydd dynion yn gyffredin, ac yn siarad heb feddwl pa beth y maent yn ei siarad, ac yn siarad fel na byddo lle i neb arall roddi gair ar ei ochr, nac angen gwneud hynny, gan fod sŵn a dadwrdd y rhai hyn yn gorchfygu pob peth, y dywediad cyffredinol amdanynt, y disgrifiad cellweir-gnoawl ohonynt ydyw, ‘ Gormod o ddŵr ar y felin.’ Hynny yw, gormod o sŵn gwag, gormod o wastraff amser a gallu.  Troai y rhod neu’r olwyn yn rhy ffyrnig, ac nid oedd yr hyn a ddeuai allan o bin y felin yn ddigon o ad-daliad am y fath wastraff ar y ffrwd ddwfr.  Yr oedd y sylwedd yn llai o lawer na’r sŵn.  Y felin falu, a’r rhod ddwfr, a chwyrndroid gan ffrydlifoedd y mynydd-dir oedd y peth mwyaf ei sŵn yn y wlad pan luniwyd y dywediad hwn.  Un o hen ddywediadau y wlad ydyw, a lefarwyd gan ryw un, cyn bod march yn dechrau chwydu mwg na phoeri tAn rhwng bryniau ein gwlad. 3- ‘ Dim ond ei lun.’ Defnyddir y frawddeg hon i ddynodi cyflymdra.  Pan fyddo rhywun yn ffoi nerth traed a choesau, y mae yn myned fcl nad oes i’w weled ‘ond ei lun.’ Pan darfai ceffyl ac y rhedai ymaith ar garlam dychrynllyd, uchafn6d y disgrifiad fyddai-’Nid oedd dim i’w weled ond ci lun.’ Pan ddilynai yr heliwr y c@n gan groesi gwledydd a gwrychoedd, cloddiau a pherthi, yn sŵn ‘wow’ fawr yr 

 =========================== (x153)        

c-drychwyr-dim ond ei lun oedd i’w weled.  Mae ar un olwg lawer o ormodiaith yn y frawddeg, ond mae ynddi hefyd lawer o athroniaeth, ac ni fynnwn er dim ei chondemnio.  Yr ydŷ wedi gweled dynion a chreaduriaid yn carlamu heibio, fel nad oedd ond eu cysgod yn ganfyddadwy; ac yng ngherbyd y rheilffordd onid ydym weithiau yn cael ein dwyn ymaith gyda’r fath gyflymder, nes yn llythrennol y gwirir y dywediad hwn? Nid oes ond ysgafn-lun neu ffurf y gwrthrychau ar y meysydd yr awn heibio iddynt i’w gweled.  Mae llawer ysgyfarnog wedi rhedeg dros gaeau Llanwynno heb ddim ond el llun-ei chysgod ar ddydd heulog i’w ganfod.  â llawer llwynog wedi croesi o Darren-y-foel dros ochr Tyle’r Fedw a Chefffydduallt, heb ddim ond ei lun i’w weled hyd nes i fytheugwn Llanwynno wrth hir ddilyn ar ei ôl wneud ei anadl yn fyrrach a’i gamre yn arafach, hyd nes y terfynodd yr helfa yn ‘ Wow-wb ‘ yr helwyr-fe ddichon wedi iddi fyned yn rhy hwyr i neb allu gweled hyd yn oed lun y cŵn na’r cadno. 4. ‘ Breuddwydio am haf sych a marw yn dy sefyll.’- Dyma eto hen frawddeg a glywais lawer gwaith yng ngeneuau yr hen drigolion.  Pan fyddai rhywun dipyn yn araf, a hwyrach yn bengam, neu yn dra hurt, pan fyddai rhywun wedi gadael i’r adeg briodol fyned heibio cyn cyflawni yr hyn a ddylasai, neu, efallai rywun yn disgwyl i Ragluniaeth wneud iddo ef yr hyn a allasai ac a ddylasai wneud ei hun, dywedid ei fod yn ‘breuddwydio am haf sych ac yn marw o’i sefyll.’ Pa beth a allasai fod yn sail y ffigur hwn ar y cy’ntaf nis gwn. Yn sicr, mae yn dynodi gormod arafwch, diogi, a rhyfygus ddisgwyliad am i Ragluniaeth wneud pvaith y dyn ei hu’n.

Mae’r dŵr fel gwin o dan y dail,
O Galan gaeaf hyd Wyl Fair.
Ni chlywais y dywediad hwn yn un man ond yn Llanwynno. Un O’r hen ddywediadau a glywodd Mari, gwraig Siencyn Gelliwrgan-gwraig gall iawn-ydyw hwn.  Mae yn wirion,@@ 

 =========================== (x154)  

edd prydferth, ac yn dangos yr hen bobl yn farddonol ac yn athronyddol.  Mae yn ffaith fod y dwfr yn burach, yn oerach, ac yn loywach yn y cyfnod hwn, o syrthiad y dail hyd adeg adfywiad natur yn nechrau y gwanwyn, nag yn ystod un o dymhorau y flwyddyn.  Pan guddir y llawr gan garped o ddail, ac efallai y syrth trwch mawr o eira ar hwnnw, todda yr eira a hidlir ef yn gystal â dwfr glaw yng ngogr dail llawr y coedydd,a daw allan o’r ffynhonnau a’r tarddiadau yn y coedydd, a’r llethrau yn burach a gloywach nag un tymor arall o’r flwyddyn. 6. ‘Naw hewl a chae bach.’-Nid wyf yn gwybod a ddefnyddir y dywediad hwn mewn lleoedd eraill, ond gwn mai dyma’r frawddeg a ddefnyddid gynt yn y plwyf i ddangos fod cisiau glanhau y cwterydd, neu symud drewdod rhyw lecyn neilltuol.  Os byddai dyn, neu ddynes, neu dŷ yn yr ardal heb fod yn lanwaith a threfnus, a gloyw ei wedd, yn lle dweud ei fod yn nuisance, dywedid ei fod yn drewi ‘ naw hewl a cha bach.’
Ymadrodd barddonol a disgrifiadol ddigon ydyw. 7 - ‘ Ni chred y gŵr moel nes y gwelo ‘i gyrnau.’-Clywais hyn yn cael ei ddywedyd am ddyn nad o@dd modd ei berswadio i gredu dim ond a welai ef ei hun.  Rhywun, fe ddichon, oedd yn tueddu i gredu mwy yn ei berffeithrwydd ei hun nag yn neb arall, a fflangellid i’r dywediad hwn.  Mae y frawddeg yn un wawdus iawn, ac yn tueddu i ddangos ei bod yn amhosibl newid barn ac opiniwn y dyn mewn un modd, oblegid pa fodd y gallai y moel weled ei gyrn? 8. ‘Wal fry neu wal obry’ a ddywedir am ddyn na all gadw’r cydbwysedd priodol rhwng llawenydd a thristwch. Weithiau ceir y dyn yn or-lawen yn byw ar big-dyrrau heulog gorfoledd, a phryd arall wedi disgyn i lawr i bruddbyllau gofid a syrthni, a dywedid amdano, ‘ naill ai wal fry neu wal obry’ ydyw ef o hyd. 9. ‘ Wimwth-di-wamwth, sopyn o gramwth.’-Yn ddiau ni chlywais hyn ond yn Llanwynno.  Lle mawr yw neu oedd 

 =========================== (x155)        

Llanwynno am gramwyth a thriagl.  Yr oedd y gwragedd gynt yn enwog am eu medrusrwydd i wneuthur cramwyth; ac yn wir, gyda dysglaid o de da y mae cramwythau a thriagl yn amheuthun.  Yn y ffermdai gynt gwneud sopynnau anferthol o’r bwyd hyn er digoni y tylwyth, ac o hynny y daeth y dywediad hwn, heb ynddo fawr o feddwl.  ‘Wimwth-diwamwth, sopyn o gramwth.’ Bodlonodd rhywun ei duedd i rigyrnu wrth wneud y dywediad hwn. i o. ‘ Y garan gas.’-Yng ngenau dynion cynhenllyd y ceir y frawddeg hon.  Pan fyddai y meistri yn rhoi trinfa i’r gwas, y fam mewn t6n gwerylus yn beio ei bachgen, a’r naill ddyn yn fewnol yn galw enwau drwg ar y llall, ond yn allanol yn ei alw ‘ y garan gas.’
Yr un yw y garan a’r crychydd.  Aderyn digon tenau a di-gig ydyw, a chyffelybir y gelyn i’r aderyn tenau, ysglyfaethus, efallai budr hwn. i i. ‘ Giach wrth ei drwyn.’-Weithiau cyfarfyddwch ddyn ar y ffordd fawr, neu wrth ei alwedigaeth ar hin oer, a’i ddannedd yn curo ynghyd, a’i wyneb glas a’i ddwylo yn dangos arwyddion fferdod, a diferyn gloyw yn hongian wrth ben ei drwyn.  Wel, ‘mae giach wrth ei drwyn.’ Nid oes eisiau un icsboniad ar hyn. i2.  ‘Digon yw digon o gawl cig eidion, nid oes digon i’w gael o gawl cig iAr.’-Diau fod y dywediad hwn yn perthyn i’r ffermwyr, ac wedi ei lefaru ar adeg pan nad oedd nemor o brydiau bwyd amheuthun i’w cael.  Cawl i frecwast, i ginio, ac i swper hefyd, a hwnnw yn gawl cig eidion M’awr, wedi ei ladd, a’i halltu, a’i sychu yn y lle; ac er mor flasus ydoedd, wrth ei yfed ddydd ar ôl dydd, gwrs y flwyddyn, yr oedd yr hoffaf o gawl yn blino, ac yn dymuno am gael lladd iAr a’i rhoddi yn y crochan, er mwyn newid, ond nid oedd fawr o obaith cael y cawl hwnnw yn aml; a hefyd, dichon, er ei gael, ei fod yn wan ei flas, nad oedd yn digoni nac yn cyffierthu fel cawg cig yr eidion.  Fodd bynnag, pan fuasai rhyw ddyn yn y Plwyf yn ystyfnig, y gwas yn gyndyn, efallai, a’r meistr yet, 

 =========================== (x156)  

gorfod dwcud yr un peth drosodd a throsodd, hyd nes y pallai yr amynedd ac y dywedid y cwbl yn y frawddeg hon, ‘ Digon ywdigonogawlcigeidion,’&c.  Gallaswnymhelaethuarhyn, chwedl y pregethwyr; ond hw rach fod yr hyn a roddais I Y eisoes o’r hen ddywediadau yn ddigon i ddangos fod llawer o ystyr barddoniaeth ac athroniaeth yn gorwedd ynddynt. Y mae hefyd amryw hen rigymau yn sefyll ar lafar y plwyf. Nid oes neb. a kyr pa mor hen ydynt, na phwy oedd eu hawdwyr.  Maent yn aros yn y plwyf fel rhai o hen drysorau llenyddol oesoedd llai eu diwylliant na’r un bresennol. Llifant i lawr mewn ffoidd draddodiadol o oes i oes fel meddiant cyffredinol y plwyf, efallai y plwyfydd. Dyma hen rigwm amaethyddol.  Pwy all ddweud pwy a’i gwnaeth?
Ar ba achlysur y llefarwyd ef? â pha bryd? Nid wyf erioed wedi ei weled yn argraffedig nac wedi ei glywed ond yn Llanwynno.  CAn y gwartheg ydyw.  Diau fod rhyw ferch neu wraig yn ei chanu wrth yrru’r gwartheg i’r buarth i gael eu godro, -

Prw me, prw me,
Prw ‘ngwartheg i dre’
Prw Melen a Ioco,
Tegwen a Rhuddo,
Rhuddfrech a Moelfrech,
Pedair Llieinfrech
Llieinfrech ac Eli,
A phedair Wenladi,
Ladi a Chornwen,
A phedair Wynebwen;
Nepwen a Rhwynog,
Tali Liciniog;
Brech yn y Glyn
Dal yn dynn;
Tair lygeityn,
Tair gyffredin,
Tair Caseg ddu, draw yn yr eithin,
Dcuwch i gyd i lys y Brenin;

===========================(x157)     

Bwlal bwla,
Saif yn flaena’,
Saf yn ôl y wraig o’r Tŷ-fry,
Fyth nis godri ‘ngwartheg i!

Diau fod y geiriau olaf yn cael eu bwriadu fel her i’r wraig o’r Tŷ-fry.  Pwy oedd honno? Mae y gair Llicinfrech yn digwydd droeon, yr   hyn sydd yn awgrymu fod y geiriau wedi eu llefaru yn amser Mynachaeth, neu pan oedd dylanwad Mynachaeth heb ei lwyr anghofio yn y plwyf.  Llian yw y gair Cymraeg am Nun, a Llieindy am Nunnery; dengys y gair eu bod yn gwisgo lliain am eu pennau, ac efallai am eu cyrff . Felly yr oedd buwch lieinfrech y gAn yn cyfateb i fuwch fraith ein dyddiau ni.

(Mewn gwirionedd: lleian, lleiandy)


Wele rigwm arall yn cyfeirio at amser pan oedd yr hur yn Llai am ddiwrnod o waith nag ydyw yn bresennol

Llifio, llifio, llifio’n dynn,
Grôt yw’r hur y flwyddyn hyn
Os byddwn byw y flwyddyn nesa’
Ni godwn yr hur i bedair a dima.

Ac un arall yn awgrymu tipyn o frys ac efallai ormod o waith yn efel y go’ yn y wlad, -

Pedoli, pedoli
Pedolwch ynghynt,
Mi fynnaf bedoli
Tai’n costio imi bunt;
Pedol a ho’l dan y droed ôl,
Pedol yn eisiau
O dan y droed asau.

Yr oedd gynt mewn ffermdy yn y plwyf wraig yn byw, yr hon oedd bob amser yn cwyno am nas gallai hi fwyta bwyd fel 

  

 =========================== (x158)  

eraill.  Deuai’r gŵr a’r gweision i’w cinio ddydd ar ôl dydd, ond yr un oedd ei chin a’i chwyn hi bob amser, - 

Dyn helpo’r corpws hyn,
Ffaelu byta, yfed na dim. 

Wedi hir wrando ar ei chŵyn, a gweled ei bod yn byw er nad oedd yn bwyta, penderfynodd y gŵr osod gwyliadwriaeth arni. Aeth ef neu un o’r tylwyth tua’r tŷ dipyn cyn pryd cinio un diwrnod, edrychodd trwy dwll yn y mur, ac yno yr oedd hi a’i chinio ei hun yn barod yn cistedd yn daclus, ac yn mwynhau ei hun wrth y bwrdd. 
Aeth y gkr yn ôl i’r caeau at ei waith hyd amser cinio.  Daeth y ginio, a’r bobl i fwyta, a phan oeddynt hwy yn bwyta, dechreuodd y wraig ochneidio a gruddfan, ac adrodd ei thrueni ei hun, - 

Dyn helpo’r corpwa hyn,

Ffaelu byta, yfed na dim. 

Yna atebodd y gŵr gan ddywedyd pa beth a welodd dipyn cyn hynny, -

Dau ŵy gwyn,

Cnepyn o fenyn a chocs myn 

Felly, yr oedd hi er y cwbl wedi cael cinio go dda ar ei phen ei hun.  Nid yw enw y tŷ wedi ei gadw, a dichon mai da yw fod enw y wraig wedi ei golli hefyd. Hyd yn ddiweddar ni ddefnyddid y gair pudding yn Llanwynno, ond poten.  Cedwir y gair hyd heddiw mewn cysylltiad i berwi pys melynion, oblegid ‘ poten pys ‘ y gelwir pys berwedig.  â phan fyddo gwraig y tŷ yn gwneud pudding o flawd a llaeth, neu ddwfr, heb ddim currants na raisins, &c., gelwir hwnnw yn ‘ Pwdingen.’ Dyma hen rigwm oddi ar lafar y plwyf, - 

===========================(x159)  

Hei, diri diri,
Poten yn bcrwi
Shini a Sioni
Yn hela tftn dani
Eu mam yn ei phupro â phubur a fflwˆr,
Ychydig o laeth a llawer o ddŵr.

Un o hen brydyddion y tribanau a ddywedodd, -

Mae’r tyle hwn yn ddyfal,
A minnau’n wan fy anal,
Ym mhob o gam mi ddof i’r Ian
A ‘nghariad dan fy nghesa’l.

Pa un o’r rhigymwyr ydoedd, wys? Yr wyf wedi clywed ond wedi ei ollwng dros gof Dyma bennill o waith Ifan Moses y cyntaf, tad y diweddar Ifan Moses o Hendre Rhys, yr hwn a gladdwyd yn ddiweddar dros 8o mlwydd oed, felly rhaid fod y pennill hwn o eiddo ei dad wedi cael ei wneud ers llawer iawn o flynyddoedd.  Yr wyf yn meddwl i’r prydydd anfon ei bennill i ŵr cyntaf yr hen wraig, Mari o Gelliwrgan, i alw ei sylw at gyfeiriad codiad yr haul ar ddydd byrraf y flwyddyn, sef Dydd Gŵyl Domos-

Y gŵr o Gelliwrgan, -
Os byddi byw a iach,
Dos fore y dydd byrraf
I ddrws y Beili bach
Os clir a fydd yr wybrr,
Heb gwmwl yn un man
Rhwng dau gwar Coetgae’r Gelli,
Duw’r heulwen bur i’r Ian.

Bu yr hen ŵr hyn, sef Ifan Moses y cyntaf, yn ysgolfeistr y PlwYf arn dymor, a chlywais rai o’r hen bobl fu yn ddisgyblion iddo yn dywedyd y byddai yn arferiad ganddo roddi geiriau i’r plant wrth fyned allan o’r ysgol i’w cofio a’u hadrodd fore, 

=========================== (x160)

trannoeth yng Nghymraeg a Saesneg, ac mai un ohonynt ydoedd, -

 

Hwyad a marlad a neidir y dŵr.

Duck and drake and water snake. 

.Yn,iach i chwi, hen rigymwyr diniwed, llawer ohonoch na wyddom eich enwau, na pha fan y gorweddwch hyd ganiad yr utgorn; rhai ohonoch a adwaenom o ran eu henwau, ond nis gallwn blannu blodeuyn ar eich beddau, am eu bod fel Moses yn guddiedig yn y tir.  Cysgwch, gorffwyswch, a chodwch pan ddaw y wawrddydd a gwres y dydd olaf 

=========================== (x1ô61)

PENNOD XXI 
HEN GYMERIADAU 

1. JENKIN JONES, neu Siencyn Gelliwrgan, oedd ŵr tra adnabyddus yn ei ddydd.  Mab William Jones o Ben-twyn Isaf ydoedd ef, ei fam, sef y wraig o Ben-twyn, ydoedd ferch y Fronwydd, tu draw i Ystradfellte, sir Frycheiniog.  Dyn o gorff mawr, tal, lluniaidd, ac ymddangosiad cawraidd oedd Siencyn.  Yn nyddiau ei ieuenctid, yr oedd yn nerthol iawn, ac nid hawdd ydoedd gweled neb yn ddiaon cryf i gyfarfod
âg ef mewn braich gwymp, neu frwydr ddwrn.  Bu brwydr ddwrn erchyll rhyngddo ac Ifan Gelligaled unwaith.  Yr oeddynt yn ddau ddyn cryf a chyffrous eu natur, a thriniasant ei gilydd yn arw anghyffredin.  Yr oedd Siencyn yn ffarmwr da, yn ŵr cynnil a chryno, diwyd a gonest yn ei holl ymwneud, a llwyddodd i gasglu tipyn o dda’r byd hAn.  Yr oedd yn hoff o gwmni llawen a diferyn o ddiod.  Cwrw yn gyffredin a yfai ef, a gallai gymryd cryn lawer o ffrwyth y brag a’r hops cyn yr effeithiai arno.  Gallasai ef unwaith ganu fel y prydydd, - 

Bachgen ofer wyf, medd rhai, ‘D allai’m hunan ddwedyd llai, O eisiau bawn yn gwella ‘mai A gadael tai tafarnau. 

Yr wyf yn cofio i mi ei glywed ef yn gweddio tipyn, pan oedd o dan effeithiau’r ddioden, ac fel hyn y dywedai, ‘ O Arglwydd maddau’meiau mawr! Ond dyna, dyna, gwna fel y fynnot Ti, mae gennyf ddigon o fodd i fyw tra fo’ i,’ gan ysgwyd ei arian ar lawr ei boced. 
Yr oedd yn hoff iawn o dribannau neu bennill difyr a doniol.  Ar ddyddiau cneifio yng Ngelliwrgan a Nantyrhysfa ef a fyddai yn wastad yn gofalu am roddi min ar y gwelleifiau.  Cymydog caruaidd, amaethwr da, cyfaill cywir, a@ 

=========================== (x162)  

dyn gonest yr ystyrid ef yn y plwyf.  Ganwyd ef yn y flwyddyn 1783, a bu farw yn y flwyddyn I 859. 2. Thomas Griffiths, neu Twmi Ffynnon-dwym, sydd enw digon adnabyddus yn y plwyf, ac fe ddichon nad oes modd taro ar well cynrychiolydd o bobl Llanwynno na Thomas Griffiths o Ffynnon-dwym, neu Feisgyn, ger Llantrisant, wedi hynny. Bu yn byw yn hir yn Ffynnon-dwym.  Yn Llanwynno y ganwyd ac y magwyd ef, yma y treuliodd,y rhan fwyaf o’i fywyd. 
Yr oedd ei deulu-ei dad a’i fam, yn hanu o hen deulu yn y plwyf.  Bu farw ei dad, Thomas Griffiths, Nantyrhysfa, Mehefin iofed, i8io. -Bu ei fam farw Chwefror 23ain, i837. Mae teulu y Griffisiaid yn enwog a pharchus iawn yn Llanwynno ac AberdAr, a rhai ohonynt yn adnabyddus drwy y wlad.  Pwy ym mhlith y Methodistiaid nad adwaenai Lewis Griffiths, un o flaenoriaid ffyddlon Bethania, Aberdir, a’i dad Ifan Griffiths, cyn hynny.  Y mae’r ddau yn eu beddau, a’u henwau yn beraroglus o’u holau.  Nid oes neb cerddorol nad yw yr. adnabod Mr. Daniel Griffiths, o Aberdhr, nid oes gwell beirniad cerddorol nag ef yng Nghyinru; ac ym mhlith amaethwyr Bro a Blacnau Morgannwg, mae ei frawd Mr. Griffith Griffiths, Gelli-wen, yn adnabyddus a pharchus iawn. Ewythr iddynt hwy, brawd eu tad, oedd Tomos Griffiths, neu Dwmi Ffynnon-dwym, fel y gelwid ef yn unol âg arferiad gwlad, a dull Cymreigaidd Llanwynno. Mae’r teulu hwn gan mwyaf yn enwog fel cantorion.  Y neb a glywodd Tomos Griffiths yn banu bass, nid anghofiodd cf. Yr oedd ar ei ben ei hun yn hollol.  Er ei fod yn canu bass cryf, eto yr oedd ei lais yn hynod beraidd, fel offeryn cerdd swynol.  Llawer gwaith y clywais ef, yn hen Gapel Llanwynno, yn canu mewn hwyl fawr, ac yn tynnu sylw pawb.  Nid oedd yn gwneud yr ymdrech leiaf, ond mor ddiymhongar i baban, yn canu am ei fod yn teimlo, yn canu heb awydd i’w ddangos ei hun, yn canu am fod ei ysbryd yn llawn o deimlad y d6n a’r geiriau, y rhai oedd wedi cymryd meddiant ohono, ac fel 

 =========================== (x163)       

offeryn cerdd dan fysedd ysbrydoliaeth yn tywallt allan lif ei deimlad mor naturiol â’r fwyalchen ym mrig y ddraenen wen ar fin hwyrddydd haf Ysgydwai ei ben wrth ganu, yn fwy wrth gynhyrfiad ysbrydol y d6n nag er mwyn cadw amser y gerddoriaeth, er ei fod yn gwneud hynny, ond yr oedd yn cael ei drydanu gan fiwsig y d6n, a chynnwys y geinau, nes y byddai ei ben yn yggwyd fel colfen a esmwyth siglid gan chwa ogleisiol Mehefin.
Heblaw yr emynau a ganai, canai hen ganeuon Cymreig yn effeithiol iawn.  Y mae sŵn un ohonynt fyth yn fy nghlustiau, er pan oeddwn yn fachgen bychan.  Clywais ef yn ei chanu ar aelwyd Ffynnon-dwym, yn ei gadair fawr, un noson, -’Yn y @dd, yn y g@dd,’ oedd teitl y gAn, nid wyf yn cofio dim ohoni, er fod ei swyn yn awr yn goglais fy mynwes.  Byddai yn dda gennyf gael gafael ar yr hen gAn hon.  Ond ofer fyddai i mi ddymuno clywed ei chanu gan neb yn gyffelyb i’r modd y cenid hi gan Thomas Griffiths. Yr oedd ef yn hynod am ei arafwch a’i bwyll.  Ni welais ef erioed yn gwylltio, ac yn ymgolli mewn nwydau drwg, ond byddai bob amser yn dawel a digyffro.  Yr oedd yn meddiannu ei hun gyda phob arafwch hyd yn oed pan fuasai Boxer wrth ei driciau drwg.  Ceffyl direidus ydoedd Boxer, yr oedd yn Llawn goglais drosto, a chredai pan gyfeirid bys ato ei fod yn cael ei gyffwrdd mewn man delicate, gwichiai, taflai, cnoai,a rhedai ymaith os gallai a’r car a’r gwair ar ei ôl -, llawer gwaith y bfim mewn helbul gydag ef.  Ef a’r hen geffyl Twm, Daerwynno, oedd y ddau geffyl gwaethaf am gicio, a mwyaf anwaraidd a fu erioed yn y plwyf Ond y mae’r ddau er ys’tro yn y lle y mae ceffylau da a drwg yn myned ar ôl marw.  Na ddyweder drwg am y marw er mai ceffyl ydyw.  Ond nid oedd drygioni Boxer yn peri i Thomas Griffiths golli ei dymer. Ond ei ddewis geffyl ef ydoedd Dragon, yr hen geffyl gwyn, neu fel y galwai ef yn wastad ‘ y ceffyl glas.’ Nid wyf yn meddwl fod y math o geffylau a gedwir yn awr agos cystal ft’r 

 =========================== (x164) 

ceffylau a gedwid yr amser hwnnw, yn enwedig Dragon.  I’w farchogaeth, i dynnu car neu drol, ac i gario pwn, ni waeth pa un, yr oedd Dragon yn addas i’r naill fel y llall; ac yn y dyddiau hynny yr oedd y ffermwyr yn gwneud arian, ac yn ymgyfoethogi cryn dipyn. Yr oedd Thomas Griffiths yn enwog am ei dawedogrwydd. Ni chlywid ef fyth yn siarad gormod.  Eisteddai yn y gongl yn ddistaw, heb yngan gair, ond yr hyn oedd yn addas.  Er hynny yr 6edd yn gymdeithaswr da, ac yn gyfaill cywir a gwir ddiogel.  Ni chlywyd ef yn enllibio neb crioed, a’r ychydig a ddywedai am eraill oedd bob amser yn ffafriol.  Yr oedd yn gyrnydog cymwynasgar iawn.  Yn adeg cynhaeaf pan fyddai ef wedi cael y gwair i ddiddosrwydd, gyrral y gweision i gynorthwyo eraill i ddyfod i’r un sefyllfa.  Yr oedd yn arferiad yr amser hwnnw i wragedd y gweithwyr fyned i chnau i Ferthyr ac Aberdir, i’w gwerthu i wneud ceiniog i gynorthwyo i dalu’r rhent, &c:, ac nid oedd neb mor barod i Thomos Griffiths i roddi benthyg un o’r ceffylau i’r pwrpas hwn. Llawer helynt fu gyda Boxer wrth i’r gwragedd dreio myned yn sgil y pwn dros Gefnpennar tua Merthyr.  Ac yn fynych byddai mwy nag un o geffylau Ffynnon-dwym yn dwyn pynnau o gnau yr un dydd Sadwrn bob cam i Ferthyr Tydfil. Ychydig o’r arferiad hwn sydd yn bod yn awr, yn amser cnau. Fodd bynnag, gwnaeth Thomos Griffiths ei ran yn y cyfeiriad hwn, yn llawn cystal os nad gwell na neb yn y plwyf.  Cynorthwyodd lawer gwannwr yn ei ddydd, a gobeithaf nad anesmwythach fydd ei hun, ac nad llai fydd gwobr Thomos Griffiths oherwydd hynny yn ‘ atgyfodiad y rhai cyfiawn.’ Symudodd o Lanwynno cyn diwedd ei oes i Feisgyn a’r Gelli-wen, ac yno y caeodd ei lygaid am byth ar olygfeydd y byd hwn. 3- Un o’r cymeriadau hynotaf yn y plwyf ydoedd Evan Thomas, o Flaenllechau.  Y mae yn debyg gennyf ei fod wedi marw er ys tipyn dros ddeugain mlynedd, ond erys ei ystracon, 

 =========================== (x165)         

ei ddywediadau, a’i drocon hynod yn lled fyw yng nghof y wlad.  Yr oedd yn ddyn o ddychymyg gwyllt, ac o dymherau lled hynod.  Yr oedd yn hynod o wreiddiol ac annibynnol yn ei holl ffyrdd.  Nid oedd yn gyffelyb i neb, ac nid peth hawdd fuasai i neb fod yn debyg iddo yntau.  Yn ei frawddegau cryfion, ei lwon a’i regfeydd, yn ei feddyliau gwylltion a dilywodraeth, ac yn ei ddull ofwyhau pob peth, yr oedd ar ei ben ei hun, hyd yn oed ym mhlith teulu Blaenllechau. Dywedir ei fod ar amser cynhaeaf gwair lled wlyb, yn ymddiddan â’r hinwydr a oedd yn rhoddi arwyddion tywydd teg o hyd, ond dim ond glaw i’w gael bob dydd. 
‘ Wel dera maes y d-1, dyiaa, credi di ‘nawr! ‘ gan hongian y gwydr tu allan i’r drws.  Dro arall, yr oedd ef a’r gweision yn prysur baratoi gwair yn un o’r caeau er ei gael i ddiddosrwydd. Yr oedd y gwair yn ymddangos yn sych a chynaeafus, pan daenodd cymylau dros yr awyr ac arwyddion o ystorm fawr o fellt a tharanau.  Yn fuan dechreuodd y mellt ymwau a’r taranau ruo, a chlywid sŵn y glaw yn dyfod dros lethr y mynydd, a thros y cwm.  Yna neidiodd Evan Thomas a chydiodd mewn coflaid o’r gwair sych gan herio Awdwr a Llywydd Rhagluniaeth, a dywedyd, ‘Er dy waetha di fi fynna hwn yn sych ta beth,’ a ffwrdd âg ef, ac i’r bont bren oedd yn croesi ffrwd o ddwfr rhwng y cae a’r tŷ,    ond rhywfodd llithrodd ei draed, a thros y bont i lawr aeth ef a’r gwair i ganol y dwfr, ac yno y gwaeddai yntau â’i  holl nerth, -’ Iwo, Iwo, ar f’enid i-wyt ti’n rhy galed i fi.’ Gellid coffa llawer o gyfryw bethau a ymddangosai yn bethau lled rhyfygus, ond rhywfodd, o enau Evan Blaenllechali, nid oeddynt yn swnio felly yn gymaint, ond eto nis gellir cyfiawnhau arfer brawddegau cryfion rhyfygus fel hyn, ond rhywfodd maddeuid i Evan Thomas, a phriodolid hwynt i hynodrwydd ei gymeriad, a thuedd wyllt annibynnol ac aflywodraethus ei ddychymyg.  Nid oedd yn ddyn drwg mewn modd yn y byd, ac nid oedd yn fwy anghrefyddol na, 

 =========================== (x166)  

Llawer a oedd yn defnyddio iaith fwy diwylliedig nag ef. Yr oedd yn ddyn tyner, caruaidd, ac o dan y gorwylltedd aflanol, yr oedd yst6r fawr o deimlad da, a dyfnder o gydymdeimlad nad oedd pawb yii feddiannol arno.  Un o hen Gymry annibynnol, dychmygol, unplyg y mynydd-dir ydoedd, ac yn teimlo awydd i watwar balchder y trefydd, a chyfodiad ffasiynau newyddion, gwareiddiad a chynnydd cymdeithas. Dichon ei. fod yn agosach i’w le na llawer. Yr oedd yn digwydd bod mewn tŷ unwaith pan anwyd plentyn-merch fechan; gwisgwyd y plentyn, a rhoddwyd hi ym mreichiau cryfion-Evan Thomas, yr hwn oedd fab gweddw, ac ebe yntau, ‘ Mi a arhosaf i hon dyfu, a chyrneraf hi yn wraig,’ ac felly bu. 
Yr eneth hon oedd arni Thomas-gwraig Evan Blaenllechau.  Claddwyd hi yn ddiweddar mewn gwth mawr o oedran, a chyda hi ymadawodd darn mawr o’r amser @gynt, a’i gofion, a’i arferion Cymreigaidd yn y rhan hon o’r plwyf.  Evan Thomos oedd perchennog tir Blaenllechau, lle enwog yn awr am lo, am danchwaoedd, ac am boblogaeth luosog.  Ond yn amser Evan nid oedd yno ond dau neu dri o dai, a defaid a gwylltedd ar y graig ac ar y mynydd.  Pa un ai gwella ai gwaethygu y mae y byd wedi ei wneud yn y parth hwn oddi ar amser Evan Blaenllechau? Nis gallaf ateb, ond braidd na ddywedaf y buasai yn well gennyf gael byw gyda defaid, gwylltedd y bryniau yn amser Evan, na chyda glo, a thanchwaoedd, a llwch, a dlawch, a stŵr y dyddiau presennol. 4- Yr oedd Robert Evans, o’r Mynachdy, yn frawd i Evan Thomas, ond fod un wedi dewis mynd ar enw ei dad a’r llall ar ei gyfenw.  Yr oedd llawer o bethau yn Robert a oedd yn debyg iawn i’w frawd Evan, ond fod efallai ryw ychydig bach fwy o polish ar Robert, oherwydd efallai ei fod yn byw dipyn mwy yn y byd, ac yn lianw cylch lled anrhydeddus yn y Mynachdy fel prif ffarmwr y plwyf.  Ond lled arw oedd yntau ar brydiau, ac yn fynych yn meddwl yn uchel, fel y dywedodd yr Ysgotwr.  Yr oedd cyfarfod yn cael ei gynnal ar Ynys-y-bŵl 

 =========================== (x167)  

er ys llawer o amser yn ôl, ar noson yn yr wythnos. 
Disgwylid Jordan, un o bregethwyr y Bedyddwyr, i lefaru tipyn yno. Yr oedd yn lled hwyr cyn i’r cyfarfod ddechrau, ac nid oedd Jordan wedi ymddangos pan ddechreuwyd; ond pan oedd y cyfarfod ar derfynu dyma Jordan yn dyfod i mewn, ac meddai Siencyn Buarthcapel, wrth gyhoeddi y moddion am y Sul canlynol a phethau eraill, ‘Dichon yn awr y gwnaiff Jordan siarad tipyn,’ a Robert Evans yn y pen arall i’r tŷ a ddywedodd -’Na wnaiff, Duw yn y blaen,’ gan feddwl mae yn debyg, ddweud y peth yn ddistaw; ond bu y slip yn foddion i derfynu y cyfarfod, ac i ollwng y bobl i’w cartrefleoedd mewn pryd, yn, lle eu cadw hyd amhryd o’r nos. Robert Evans oedd perchennog y Mynachdy.  Hen ŵr plaen, gwledig oedd yntau, a thuedd fel ei frawd i fod yn wreiddiol ei ffordd, ac annibynnol ei feddwl.  Daeth tir y Mynachdy ar ei ôl i feddiant ei fab hynaf, Thomas Evans. Gwerthodd yntau y lle wedi hynny i’r diweddar D. Williams (Alaw Goch). 5. Dyn tal, lluniaidd, oedd Thomas Evans, o ymddangosiad allanol hardd a golygus.  Yr oedd yn ddigon prydweddol a golygus ei wedd i fod yn un o ddisgynyddion y tywysogion Cymreig.  Gŵr haelionus iawn ydoedd hefyd.  Rhedai tlodion y plwyf a’u cwynion i’r Mynachdy, ac os oedd modd eu cynorthwyo byddai Thomas Evans yn debyg o wneud hynny.  Y mae yntau wedi gorffen ei rawd, ac wedi myned i orffwys i feddrod ei dadau ger Eglwys Wynno er ys rhai blynyddoedd. 6. EvanWilliams,oAber-ffrwd,oeddddynlledenwog.yn-ei ddydd.  Yroeddynysgolhaiglledwych.  Buamflynyddoedd yn un o agents Mr. T. Powell, y glo fasnachydd.  Yr oedd gan ybodaeth am lo a mwynau, a Evan Williams gryn lawer o w cheisid ei gyngor gan lawer o foneddigion mewn perthynas i suddo pwll, neu agor lefel, yma a thraw ar hyd y wlad.  Yr oedd Mr. Williams yn dipyn o Surveyor.  Cododd dŷ rhwng 

 =========================== (x168) 

Clydach a Ffrwd, ac yn y tŷ hwnnw, Aber-ffrwd, y treuliodd lawer o’i ddyddiau yn pysgota, ac yn mwynhau ei hun yn nhawelwch y wlad lonydd hon y pryd hwnnw, hyd nes i angau orchymyn iddo roddi heibio ei bibell a’i faco, ei rwyd a’i wialen bysgota, a myned o Aber-ffrwd 

I orwedd mewn bedd oer bant

Yng nghyfyng dir anghofiant. 

Y Mae llawer yn cofio am Margaret Williams, neu Magws Tŷ-cwrdd fel y gelwid hi fynychaf.  Bu flynyddoedd meithion yn Nh@ Capel Llanwynno.  Gweddw Richard Williams ydoedd hi; bu Richard farw o’r colera flynyddoedd lawer o’i blaen hi.  Yr oedd holl bregethwyr y Methodistiaid yn ei hadnabod.  Bu yn aelod crefyddol am fwy na 6o mlynedd. Yr oedd yn berchen ar alluoedd meddyliol cryfach na chyffredin, ac yr oedd ei chof yn gryf iawn. 
Bu hi yn gweini ar y Parch.  D. Rees, Llanfynydd, pan drawyd ef yn glaf hyd angau ar ei daith, YM Mhont-y-pridd.  Gallwn adrodd llawer amdani hi a’r hen gapel ar ben twyn Cae’r Tŷ-cwrdd.  Yno yr oeddem ni yn ei chofio fel plant.  Yr oedd hi a’r capel a’r ysgol megys yn un yn ein golwg ieuanc ni.  Byddai yn fynych yn torri allan i weiddi mewn hwyl yn y cyfarfodydd o dan bregeth effeithiol. Cefais y fraint o bregethu yn ei hangladd ar ddydd Gwener, Gorffennaf 2 2 ain, yn y flwyddyn i 8 70.  Yr oedd yn hen wraig dduwiol; bu yn ofalus o’r achos ac o dŷ’r capel yn Llanwynno pan nad oedd ond golwg lwyd ac isel arno.  Dim ond hi ,George Davies ac Ann, a’r hen ŵr Titus Jones a’m mam, a mam-gu oedd yn gwneud i fyny yr Eglwys yn y lle am lawer o flynyddoedd.  Cadw tŷ yn y nos yr oeddynt hwy.  Daeth toriad gwawr ar yr achos wedi hyn, a phan fu farw Magws yr oedd ei wedd yn llewyrchus. Y mae’r hen gapel lle y clywyd sain cAn a chlodforedd yr hen bobl am y ganrif a aeth heibio, lle y bu Joseph Davies ac Evan Rhys, a George Davies a Titus Jones, Evan Davies a Benjamin 

=========================== (x169) 

Hughes, a chyn hynny Rhys Phylip, a’r hen ŵr o Ddaerwynno yn trydar wrth Orsedd Gras, lle yr achubwyd llawer o eneidiau, lle a gysegrwyd gan bregethau, gan weddiau, gan ddagrau ac ocheneidiau llu o bererinion sydd erbyn hyn wedi gorffen dringo’r creigiau, y mae’r hen gapel wedi ei droi yn ddau dŷ annedd; a lle clywid gynt s@n cAn gysegredig, a goslef emyn sanctaidd, yno yn awr y clywir trwst rhe@iad plant, a skn chwibaniad a chwerthiniad bechgyn a merched nad @nt eto yn gwybod dim am gyn-gysegredigrwydd y fangre. Yn yr ymyl ar glais y ffordd codwyd capel arall; cafodd George Davies fyw i osod y garreg sylfaen, ac yno yn awr y mae Methodistiaid Llanwynno yn addoli Arglwydd Dduw eu tadau.  Yn yr hen gapel y cedwid yr ysgol ddyddiol gynt.
Bu Joseph Davies yn addysgu plant y plwyf ynddi am flynyddoedd.  Un o ysgolfeistri yr hen ffasiwn oedd Joseph.  Gŵr cloff ydoedd, âg un law fechan, yn gystal â throed fechan, a gelwid ef gynt yn ‘Joseff, gkr Ami’r gwaydd.’ Llawer tro drwg a chwaraewyd â Joseph gan hogiau direidus y lle, o amser Si,5n y Tiler hyd fy amser innau.  Collid Siôn yn fynych o’r ysgol, a phan fuasai Joseph yn cerdded o gwmpas yr ysgol yn edrych am Siôn, neu yn eistedd wrth y tAn yn ysmocio wermod sych, ac yn galw, ‘,7ohn Morgan, where are you.p I Atebai Siôn o’r pulpud, lle yr oedd yn ymguddio, trwy chwistyllu dwfr am ben yr hen athro, er mawr ddifyrrwch y lleill o’r ysgolheigion.  ‘ Who did it?’ meddai Joseph.  ‘Don’t know, sir!’ meddai Siôn, a splash arall dros ym@l y pulpud i wyneb yr hen ŵr, nes ei ddallu gan ddkr a chynddaredd. Rhwymwyd Siôn ar gefn un arall i gael ei chwipio ganjoseoh. ‘ Willyou do it again? ‘ ebe’r hen ŵr dicllon.  ‘ Not to-day, sir I ‘ ebe Siôn.  ‘ Willyou do it again, sir.P ‘ lash, lash, lash.  ‘ Yes, if you wish, sir,’ ebe Siôn; lash, lash, eto.  ‘ Will you? will You?    Fi weda wrth fy nhad, myn d-I i,’ ebe Siôn, a therfynodd y ffrwg-,vd an fod Joseph wedi blino a Siôn yn 9 dechrau rhegu.  Bu farw yr hen Joseph druan yn nhlotiv 

=========================== (x170)  

Merthyr Tydfil.  Gwnaeth lawer o ddaioni yn ei ddydd yn Llanwynno; aeth oddi yno dan gwmwl yn herwydd rhyw ewyllys a ysgrifennodd.  Camsynied a wnaeth yn ddiau, a chostiodd yn ddrud iddo.  Ond pe buasai Joseph yn fyw yn awr, cawsai fwy o barch yn Llanwynno nag a gafodd, ac nid yw yn debyg y cawsai yn y dyddiau hyn fyned o faes ei hir iafur i derfynu ei’ddyddiau yn y tloty. 
Er y cwbl credaf fod Joseph yn un o bendefigion y nef.  Yr oedd cryn ddadlau yng nghylch Joseph a’i gyflwr.  Dywedai un amdano- 

Joseph-Davies hewl y cawl,

A gwas y dlawl yn ffyddlon, 

Ond arall gyda mwy o wirionedd a phriodoldeb a ddywedai- 

Joseph Davies, gwas y nef

Oedd ef er pob ffaeleddau

Ni anwyd un dyn heb ei fai,

Waith pridd a chlai yw’r gorau. 

Cafodd Joseph gladdedigaeth barchus ym Mhontmorlais, er ei fod yn un o dlodion y Tŷ-mawr.  Yr oedd amryw o bobl barchus Merthyr Tydfil yn ei angladd, ond nid wyf yn meddwl fod un o’r nifer a addysgodd yn Llanwynno yno i dalu y gymwynas olaf iddo, nac i oliwng deigryn ar ei fedd; ond yn ddiau yr oedd angylion y nef yno, a Gabriel yn eu harwain, efallai, ac ni theimla ef ei fod yn ddianrhydedd arno hofran uwch argel wely yr hen Joseph! Gadewch i ni wneuthur cyfiawnder â’i  goffadwriaeth yn awr, ym mhen hir flynyddoedd wedi iddo ymadael â’r fuchedd hon.  Huna yn dawel, hen was I6n; nid oeddit heb dy feiau! Ond pwy a fedrai daflu carreg atat am hynny? Ie, huna yn esmwyth, yng ngofal angylion Mynwent Pontmorlais. 

Caiff Joseph rodio’n ddisgloff byth,

A’r fendith ar ei ben. 

=========================== (x171)  

PENNOD XXIL
Y TRIBANWYR
 

Bu cyfnod yn hanes barddoniaeth y dylid ei alw yn ‘ Gyfnod y Tribannau.’ Mesur dewisedig a phoblogaidd Morgannwg yw Mesur Triban.  Mesur naturiol, prydferth, llithrig, a barddonol ydyw, ac yn ddiau nid yrnddangosodd gwell beirdd ym Morgannwg na Beirdd y Tribannau. O ddyddiau Siams Twrbil hyd amser Siams o Gefntylchau, yr oedd yn arferiad canu eu teimladau, hanes eu digwyddiadau, helyntion personol a chymdeithasol mewn tribannau. 
Yr oedd y mesur yn un priodol i deimladau a chwaeth y bobl.  Yr oeddynt yn ei ddeall ac yn ei deimlo.  Yr oedd iddynt hwy yn fwy na chelf-fesur barddonol-yr oedd yn fesur anianawd a greddf, ac felly ymddangosai yn y mesur hwn mor naturiol âg anadl, eu dyinuniadau, neu eu disgrifiadau o arferion gwlad yn gystal â defodau cymdeithas. Yr oedd Llanwynno yn enwog am ei Dribanwyr.  Yn ystod y can mlynedd diwethaf brithid y plwyf gan Feirdd y Tribannau, rhai ohonynt yn rhagori in y digrif, rhai yn y disgrifiadol, eraill yn hynod am sv,7yn a melyster ymadrodd, ac ychydig yn enwog am farddoniaeth nwydus, -gyffrous, Cymreigaidd a gwladgarol. Yr oedd Job Morgan, neu job y teiliwr, yn dribannwr glew. Yr oedd triban mor hawdded i job âg anadlu.  Yr oedd job yn peri i mi bob amser feddwl am yr hen Dderwyddon gynt, pan edrychwn arno yn hogyn bychan, oblegid bychan oeddwn, canys y mae awen job wedi tewi, ac yntau wedi myned i fwrw ei flinder ar arffed y bedd wrth Eglwys Wynno er ys blynyddoedd.  Yr wyf yn ei gofio yn dda-yn hen ŵr, a’i wallt fel gwlin y ddafad wen, yn hongian yn gudynnau hirion O gwmpas

 =========================== (x172)  

ei aeliau, ac yn disgyn ar ei war gydag arwyddion, os wyf yn cofio yn iawn, ei fod wedi bod yn wallt cyrliog unwaith. Yr oedd yn odiaeth o wyn, fodd bynnag.  Yr oedd ei wedd oll yn hynod o batriarchaidd, ac yn cyfateb yn hollol i’r syniad sydd gennyf am yr hen Dderwyddon, llawn o wybodaeth a dawn, blacnoriaid y byd gwyddonol, barddonol, a cherddorol, ac yn ddiau oddi wrthynt hwy y cafwyd Mesur Triban Morgannwg.  GwnAi darlun o job Morgan y tro yn iawn yn lle Derwy@d, ond rhoddi hen delyn Gymreig yn ei ddwylo, a chael awel dyner y gallasai ei wallt gwynlaes nofio arni yn ysgafn. 
Yr oedd -ei wyneb yn un da.  Tymer dda a chraffter oedd prif linellau ei wyneb.  Tipyn o waggishness hefyd fel y dywedir, a phan droai ei lygad gwelid ei fod yn hoff iawn o joke, ond iddi beidio â bod yn un arw ac annaturiol.  Natur oedd ei reol ef gyda phob peth.  Yr oedd tynerwch a chydymdeimlad i’w gweled yn amlwg yn ei wynepryd.  Nid oedd ffynnon y dagrau ymhell iawn.  Gogleisiad tyner awen cyfaill, adroddiad bywiog a disgrifiadol o ofid neu lawenydd cAr neu gymydog, ergyd deheuig mewn cAn neu gydymddiddan a dynnai ffi-wd o ddagrau i ruddiau heirdd job Morgan.  Ac yr oedd yn ei natur lawer o grefyddolder, er, fe ddichon, nad crefyddolder fel y meddylir amdano yn gyffredin ydoedd.  Gwelir hyn yn ei atebiad hollol ddifyfyr i Meudwy Glan Elii ar fore dydd Nadolig, pan drodd y Meudwy i Frynffynnon wrth fyned heibio, ac efallai i gael gwydryn o home-brewed Eglwys Wynno.  Meddai y Meudwy:

Yr addas Gymro diddig,
Gwych odiaeth a charedig,
Pa fyd sydd arnoch, medd y crydd,
A’ch teulu ddydd Nadolig?

Ac ar drawiad atebodd yr hen brydydd:

===========================(x173)

Y TRIBAN@R    I73

‘R wyf fi’n cael bwyd a iechyd,
A holl gysuron bywyd;
Yr hyn o beth wyf fwya’ nôl,
Sef am anfarwol fywyd.

Yr oedd job yn dyfod ar ei daith un tro trwy Mountain Ash. Lle bychan, dinod, oedd Mountain Ash y pryd hwnnw      ond yno cyfarfu
âg un o’i hen gymdogion-Morgan William, neu fel yr adnabyddid ef orau, Morgan Gelliwrgan.  ‘ Wel, job Morgan, a ydych ar eich siwrne tuag Eglwys Wynno?’ ebe MorganWilliam.  ‘Ydw’nsikr,’ebejob,’ondfelpererin,yn ddigon blin a llesg, wel’di.’ ‘ Wel, cymerwch y ffon yma yn rhodd gen i, i’ch helpu ar y daith, ac wrth basio Gelliwrgan, gwedwch ‘mod i yn fyw a iach, ‘newch chwi? ‘ ‘ Diolch i ti, Morgan, fi wna’-fi alwa’, ac fi weta’wrth dy fam i fi dy welct di yn iach a thena fel arfer.  Y rest o’r dydd yn dda i ti, Morgan.’ Felly chwithau, job.’ Aeth job i’w daith, a Morgan yntau at ei waith.  Dringodd job lethr y mynydd yn araf, a chyrhaeddodd Gelliwrgan, a gwelodd yno, yn ymyl y tŷ, Mari, y wraig, mam Morgan.  ‘Fi welas Morgan, ac fi wedas y gwedswn wrthoch chi ei fod yn iach a thena.

Fi geso lawffon gollan
Gan Morgan Gelliwrg@n,
Hi rodd help i’r hen ŵr g-wan,
I deithio Ian trwy’r darran.’

a ffwrdd yr aeth trwy Waun-y-coed, tua Brytiffynnon.  Yn y gadair fawr, ar aelwyd loyw a chynnes Brynffynnon, a phibell yn ei safn, dywedai un tro ei deimlad ar y pryd yn syml
a di-lol, -

Tri pheth wy’ yn eu leicio,
Sef pibell hir i smoco,
A chyfaill sound AL stori 14n,
A thin i ni ymdwymo.

Yr ydwyf yn meddwl fod job yn un o’r cystadleuwyr yng nghystadleuaeth hynod Triban yr’ Iwb-wb.’ Nid wyf yn cofio

===========================(x174)

ym mha le y cyfarfyddai y prydyddion yn y gystadleuaeth
honno, ond bu mawr sôn amdani am hir amser.  Yr oedd Siams
Gefntylcha, Llewelyn Bili Siôn, Tomos Hywel Llewelyn, a
job Morgan yn cydymgeisio, ac eraill nad ydwyf ar hyn o bryd
yn gallu galw eu henwau i g6f.  Meddai Siams Gefntylcha, -

Mi welais farch mewn ffrwyn-grwb;
Mi welais lew mewn gwael gwb,
A dyn disynnwyr gyda’r rhain,
Gallaswn lefain lwb-wb.

Ac meddai job Morgan, -

Fe gwympodd Mari Rhydwb
Dros geulan serth Cwm Wb-wb,
Wrth fynd i lawr nis gallai hi
Wneud dim ond gweiddi Iwb-wb

Yr wyf yn meddwl mai yr un a farnwyd yn orau ydoedd yr un canlynol:-

Cant o deirw comdwb
Aeth i ymladd dwp-dwb,
A minnau’n sefyll rhwng y rhain
Fi allswn lefain Iwb-wb!

Nis gwn pwy oedd awdwr y triban buddugol os nad Llewelyn Bili Siôn o blwyf Ystradyfodwg ydoedd.  Nid oes gennyf amcan ychwaith am y lle y cynhahwyd y gydymdrech dribannol hon, ond ym mhlwyf Llanwynno yn rhywle, feddyliae (Blaenllechau, fel y clywais yn ddiweddar). Yr oedd llawer o brif amaethwyr y plwyf yn hoff o wneud tribannau, megis Siencyn Gelliwrgan a Thomas Jones ei fab, yn awr o Ffynnon-dwym, ac yr oedd Morgan William hefyd yn dribannwr da.  Yr oedd eu dull er ys llawer dydd o dreulio hirnos gaeaf yn fanteisiol i ryw farddoni diniwed fel hyn.  Gallent dribannu a gwneud ysgubelli, neu naddu llwyau coed, a gwneud pasgedi, fel y byddent arferol o wneud 

 =========================== (x175)  

ar yr aelwydydd yn y tai ffermydd.  Un noswaith yr oeddynt yng Ngelliwrgan, naill ai yn naddu ysgolpiau, neu yn codi dellt, neu yn gwneud ysgubelli, pan ddaeth cricedyn allan o’r simnai i’r llawr, ac a gyfarfu â’i  ddiwedd mewn dull lled ddiseremoni, fel y dengys triban Thomas Jones

Tomos Siôn ap Shincin
Wnaeth weithred anghyffredin,
Gosod pren a’i flaen yn grin
I gracio tin hen gricin

Dro arall yr  oeddynt ar frecwast ar fore dydd Llun yng Ngelliwrgan, pan gerddodd Llewelyn Bili Siôn at y drws, gan edryqh fel eryr ar Morgan Gelliwrgan, a dywedyd yn frysiog a chyflym, -

Mae Morgan William hawddgar
Yn caru ar Gefnpennar,
Ond er cymaint yw ei serch,
Fe gyll y ferch o’r hannar.

Yr oedd hyn yn fwy nag y gallai Morgan ei ddal, ac yn ei ddull araf ei hun atebodd, -

Llewelyn Siôn y Cymro,
Rhyfeddol wyt yn gwawdio i
A’r ferch yn dwedyd wrtho’i fod
Well ganddi ddod na pheido.

Yr oedd hyn oll yn naturiol a diymdrech, a diniwed ddigon. Tipyn o fun, fel y dywedir, mewn dull fine a didramgwydd, A thrueni na fuasid wedi cadw mwy o’r cynhyrchion rhag myned ar ddifancoll.  Yr oedd Evan Cule, tad Moesen, o Bont-y-pridd, yn un o frenhinoedd y Tribannau, fel y dywedodd un o’r rhigymwyr, - 

Nid oes ar Cule, fi fentra’ ddweud,
Fawr trwbwl i wneud triban. 

=========================== (x176)  

Yr oedd Evan yn meddu ar dalent loyw, a llawer awr hapus a dreuliodd ef a Gwilym Morgannwg, Twm Gilfynydd, Eustace Tŷ-draw, ac eraill, yn y New Inn, Pont-y-pridd, i ymosod ar ei gilydd ac ar eraill mewn tribannau.  Yr oedd pedwar Tomos yn arfer cyfarfod â’i  gilydd i gael ymgom a gwydryn a thriban yn nh@ Gwilym Morgannwg, ac meddai Cule amdanynt, ac wrthynt ryw dro, -

Mae pedwar Twm o’r tynna’
Yn eistedd mewn cornela,
Mae’n abal dyrysu meddwl dyn
0’r pedwar p’un yw’r pydra’.

Yr oedd Edward Morgan wedi digio wrth ei gi, ac wedi ei ladd mewn pangau drwg.  Claddwyd y ei yn y fan lle saif y London and Provincial Bank yn awr, ac wedi claddu, gofynnwyd i Gwilym Morgannwg am feddargraff.  Dywedodd yntau,

Dyma lle gorwedd yr hen gi Prince,
Os ffraeodd a’i feistr, maent ‘nawr yn ffrins.

Yr oedd Eustace Tŷ-draw yn cael ei gyfrif yn dribannwr gwych.  Digwyddodd unwaith i’w dad ymladd â rhyw saer, ac er mwyn poeni Eustace, dywedai Cule, -

Fe fu rhyw ymladd calad,
Mi glywais hyn gan fagad
mae’n eitha’ gwir, fe gadd y sa’r
Ryw lwgwr ar ei lygad.

Eustace yn fud, ni ddywedai yr un gair.  Ebe Cule ym mhellach, -

Y saer sydd eto’n fodlon
I dreio’r gŵr yn union,
Ar yr erw hir ar goedd y wlad,
Y gorau wAd am goron.

===========================(x177)

Teimlodd Eustace awydd ateb, a dywedodd wrth Cule, -

Evan Cule y prydydd,
Mae ‘nhad o citha’ deunydd,
Fi ddala’ gini megis bollt
Mewn munud hollt ei’mennydd.

Yr oedd rhai o’r prydyddion ym Mhont-y-pridd wedi sefydlu math o ysgol ramadegol, -Cule, Cilfynydd, Gwilym Morgannwg, ac eraill.  Daeth Cilfynydd un noson at Cule gan ddywedyd wrtho, -

Evan Cule, fab hawddgar,
Fi weda’r gwir yn gyrmar,
Ni fyddaf heno ddim yn iach
Heb grymaid bach o’r Grammar.

Meddai Cule mewn atebiad, -

‘Pe ceit o’r Grammar grymaid,
Fe lanwai fwy na’th lonaid
‘Fu yn dy gylla ‘rioed fath gwt,
Fe wna iti hwtu hetaid.

Yr oedd Siams Gefntylcha yn dyfod yn fynych i blwyf Llanwynno, er mai brodor o Lantrisant ydoedd ef.  Clywais rai yn dweud mai yn Llanwynno yr ydoedd pan atebodd ei fab Terri ar driban.  Yr oedd rh@,v un wedi rhoddi curfa i Terri, ac yntau wedi achwyn wrth ei dad am hynny, ac meddai Siams yn ôl, -

O Terri, gad e’n llonydd,
Mae pledren ar ei ‘mennydd
Fe ddaw’r byd a’r gwalch i lawr,
Coch ebol mawr y mynydd.

Yr ydwyf wedi rhoddi un triban o c,iddo Meudwy Glan El;ii i mewn, nid am ei fod ef i’w resu ym mhlith beirdd y Tribannau mewn modd yn y byd, ond oherwydd ei fod wedi troi,
 

 =========================== (x178)  

yn eu plith, a’u cydnabod a’u cyfarch mewn tribannau yn awr ac cilwaith.  Yr oedd Meudwy yn fardd gwych, ac yn gynganeddwr campus. 
Trueni mawr na chyhoeddid ei weithiau.  Gadawodd lawer o gyfansoddiadau ar ei ôl, ac nid yw yn iawn fod y rhai hynny yn cael eu cadw heb weled gol.euni dydd.

Llantrisant oedd ei blwyf genedigol ef, ond treuliodd ran helaeth o’i’oes yn Llanwynno, ac wrth Eglwys Wynno yr huna ei hun faith.  Gosodwyd cofgolofn brydferth ar ei fedd, i ddal ei goffadwriaeth ef ac Ann ei wraig, merch Rhys Phylip, neu Rhys o’r Felin fel y’i gelwid yn gyffredin.  Yr oedd Evan Richard, neu wrth ei enw barddonol Meudwy Glan Elii, yn ddyn o gorff glan a golygus, yn gystal
âg o feddwl cryf a chyflym. Dyn tal, cryf, a gewynnog, lled gadarn a hynod o wisgi ydoedd. Nid oedd harddach a gwell cerddwr yn y wlad, fel y gwelwyd lawer gwaith pan gerddai gyda bytheugwn y Glog ar ôl y gwta, neu y llwynog o Darren-y-foel, dros lawr bryn a chwm nes myned ymhell o olwg tir Llanwynno.  Yr oedd yn hoff o helwriaeth.  Canodd lawer cAn felys i gŵn hela’r Glog, neu i helwriaethau neilltuol a oedd wedi digwydd yn y plwyf. Ef oedd brenin a phrifardd yr helwyr.  Nid oes gwybodaeth fod yr hen Squire o’r Glog fyth yn wylo ond pan genid can Evan Richard i’r fytheuast ‘ Beauty’r Lan.’

Y mae chn ‘Ffynnon Bryn Hendre Rhys,’ hefyd yn adnabyddus iawn yn y plwyf, ac edrychir arni fel cyfansoddiad gwych iawn.  Cin fagorol ydyw.  Nid oes ei phrydferthach yn yr iaith.  Yr oedd y Meudwy yn arfer cerdded nos a bore heibio i’r ffynnon hon, ac eisteddai ar ei min ar ben uchaf Coetgae Llys-nant, o dan gornel y mynydd, lle y byrlyma hi allan yn ffrydlif loyw, beraidd, ac oer; ac anfarwolwyd y lle yn y gAn hon gan y Meudwy.

Yr oedd yn llawn arabedd a digrifwch diniwed.  Y mae amryw o’i ganiadau digrif yn chwareus, bywiog, a llawn 

 =========================== (x179)  

cellweiredd nad yw fyth yn troseddu rheolau chwaeth dda. Yr oedd ei lygad yn dangos gallu a threiddgarwch rneddyliol. Gallesid ei gyrnryd wrth ei wedd a’i wynepryd yn barrister o’r radd flaenaf, a phe buasai wedi ei addysgu yn y cyfeiriad hwnnw, nid oes amheuaeth na fuasai yrnhlith y blaenaf ohonynt.  Yr wyf yn cofio gweled flynyddoedd yn ôl ddisgrifiad ohono yn dychwelyd yn fuddugoliaethus o Eisteddfod y Wig. Yr wyf yn meddwl mai Rhydderch ap Morgan oedd yn ei ddisgrifio.  Yr oedd wedi ennill cadair-cadair wellt ardderchog.  Pan welodd Rhydderch ef, yr oedd yn ei gadair mewn cerbyd, a chenhinen werdd yn blanedig uwch ei ben. Ow! ow! aeth o’r gadair i’r bedd.  Yr oedd yn fawr ei barch ymhlith y beirdd a’i gyd-wladwyr; a phan fu farw, hongiwyd telyn beraidd ar helyg y fonwent.  Distawodd awen bur.  Ond yr oedd ei awen eto mewn acenion anfarwol yn y gweithiau a adawodd o’i ôl.  Dylid ailgyhoeddi ei lyfr Perllan Gwyno, gyda’i weithiau eraill.  Dichon os caf hanner awr yn fuan gyda Mr. Moses Cule, i glywed tribannau ei dad a job Morgan, y caf eto ddychwelyd at Feirdd y Tribannau, i roddi pennod fechan ar eu helyntion ymhellach. Yr wyf yn dechrau ofni eich bod yn blino ar fy nisgrifiadau o bersonau a digwyddiadau yn yr hen blwyf; ond mae ysgrifennu arnynt yn waith hawdd, naturiol, a phleserus i mi. Y rnae fy ysbryd fyth yn crwydro ar hyd y twyni yna, a thrwy y pantau a’r pylloedd ar hyd wyneb Plwyf Llanwynno.  Yr wyf yna yn yinyl yr hen gyfeillion, pan na welant fi, pan na chlywant gerddediad ysgafn fy ysbryd heibio iddynt o fare i f@n, O fryn i fryn, o lannerch i lannerch, o dŷ i dŷ, er nad ydynt balasau, yr wyf yn eu hoffi yn fwy am hynny. O dwyni sanctaidd - Moel y Gelli, Twyn y Glog, Twyn y Fanhalog, Mynydd Gwyngul, Moel y Dduallt, Twyn Ffynnon-dwym, a’r cymoedd wrth eu traed, ie, i mi, sanctaidd ydych oll, a chysegredig eich coed, eich glaswellt, a’ch gwlith.  Pur, iach, e. 

=========================== (x180)  

barddonol ydych chwi, a’ch cofion, a’ch atgofion.  Nid ydyw pellter ffordd yn atal fy ysbryd rhag disgyn ar eich pennau a rhodio arnoch yn nyfnder nos, ar doriad gwawr, ac yng ngoleuni canol ddydd, i syllu oddi arnoch ar olygfeydd y plwyfydd cylchynol. 

 =========================== (x181)  

PENNOD XXIII
CYMERIADAU PONT-Y-PRIDD 

Y MAE Pont-y-pridd yn ffurfio rhan bwysig o blwyf Llanwynno, ac annhegwch fyddai peidio â chronicle enwau a’r hyn a allaf ei gofio ynghylch rhai o gymeriadau hynod y dref hon.  Buasai yn dda gennyf allu fforddio amser i ysgrifennu amryw benodau ar hen gymeriadau Pont-y-pridd-yn feirdd, yn fasnachwyr, yn bregethwyr, ac yn weithwyr, hen a diweddar; ond nis gallaf ond myned heibio yn lled frysiog, a thynnu bras-linell o un yrna a thraw, megis ar antur.   an    MO cisoes we sylwi ar rai o’r beirdd, gwell fyddai peidio â chyffwrdd i hwynt drachefn.  Ond Mae llu o enwau yn rhuthro i’m cof, a phersonoliaeth llawer o hen bererinion y Bont yn yrngodi o flaen fy meddwl, nes gwneud i mi awyddu rhoddi darlun o bob un, a phennod o bob darlun.  Dyma rai ohonynt, Thomas Morris, Thomas Evans neu Twmi’r Gof, Noah Morgan, Gelliwastad; Thomas Bengarreg, Roger Jones, Bili Groes-faen, Ifan o’r Lawn, Daniel y Gof ac Edmund y Gof, Siôn Llewelyn a Tomos Llewelyn, Rosser Richard, Thomas Williams, mab-yng-nghyfraith Siôn Llewelyn.  Oll yn hynod mewn rhywbeth neu’i gilydd.

Hynodrwydd Rosser ydoedd ei deimladau brwd a’i dymherau gwyllt, a’i weddiau pybyr.  Bu yn gweddio match am bunt unwaith, ac ef a enillodd hefyd; ond yr wyf yn med,dwl Mai eraill oedd wedi gwneud y gystadleuaeth, ac na wyddal ef ddim am y peth hyd nes yy oedd y cwbl drosodd, a’i weddi ef wedi ei barnu yn orau.  Yr oedd Rachel, ei wraig, yn arfer torri allan i orfoleddu yn y cyfarfodydd.  Gwelwyd hi yn llamu fel geneth lawer gwaith o dan ddylanwad pregethiad y Gair, a chlywid hi yn dyrchafu ei llef, ac yn torri allan weithiau i ganu bryd arall i wylo, nes tynnu’r gynulicidfa i ganu ac i wylo gyda 

=========================== (x182)  

hi. Pan oeddem ni yn blant, yr oedd gweled Rosser yn dyfod am dro o’r Bont i Ynys-y-bŵl, ac i eistedd i gadair fawr fy nhad, hanner awr cyn pryd y cyfarfod gweddi, yn beth cyffredin ddigon; a mawr yr edrych a fyddai geniiym ar yr hen gap du a wisgai ar ei ben bob amser.  Teithiodd lawer i weddio ar hyd y wlad.  Byddai yn niwedd ei oes yn hoff iawn o fyned i’r -Grbes-wen, lle y croesawid efgan Caledfryn, ac y cii ond odid rywbeth am ei drafferth, heblaw carnnoliaeth am ei weddi.
Un o aelodau Penuel ydoedd ef.

Un arall o aelodau ffyddlon Penuel ydoedd Thomas Bengarreg. 
Hen ŵr -lled dal.  Yr oedd yn hen iawn pan welais ef gyntaf, ond yn llawn o fywiogrywdd.  Yr oedd yn nyddiau ei henaint mor ifanc ei ysbryd â bachgen deunaw oed. Yr wyf yn meddwl ei fod dros go gryn dipyn pan derfynodd ei yrfa ddaearol.  Yr oedd Thomas Morris yn blodeuo dipyn o’i flaen ef, hynny yw cyn yr amser yr wyffi yn cofio yr hen ŵr o Bengarreg, ond yn ddiau yr oedd ef wedi bod yn dal pen yr achos yr un adeg â Thwmi Morris.  Yr oedd ef yn ŵr call iawn, yn fasnachwr medrus, yn grefyddwr hardd, ac yn flaenor yn Penuel.  Ystyrid ef yn ŵr lled gadarn yn yr Ysgrythurau. Priododd â gweddw Griffiths Glyn-coch, un o hen deuluoedd parchusaf Llanwynno.  Merch iddynt hwy ydyw Mrs. Thomas, gynt o’r Lan Uchaf, yn a-,vr o’r Glog, a’u mab ydyw Mr. John Morris, gynt o’r Glyn-coch, yn awr o Gaerdydd. Thomas Evans, neu Twmi’r Gof, oedd gynt yn adnabyddus iawn ym Mhont-y-pridd.  Yr oedd yn bregethwr, yn fasnachwr llwyddiannus, ac yn ŵr o ymddangosiad cryf a chadarn iawn. Teithiodd gryn dipyn drwy sir Forgannwg, fel pregethwr. Nid oedd yn hynod yn y pulpud.  Cyffredin oedd a lled sychlyd ei ddawn, ond yr oedd yn berchen barn a synnwyr cyffredin lled dda; ond ar gefn ei farch yr edrychai orau o bob iman.  Pan fyddai’n myned ar ei daith bregethwrol ar gefn ei geffyl du, yr oedd yn edrych yn dywysogaidd; ei ysgwyddau llydain, nerthol, ei wyneb coch, llyfndeg a hardd, a’i gwna yn 

 =========================== (x183)  

wrthrych sylw, yn enwedig wrth farchogaeth ei geffyl du porthiannus.  Er ei fod wedi pregethu f lynyddoedd lawer nid, yw yn debyg iddo ymroi i astudiaeth galed, er iddo lwyddo yn fawr yn ei fasnach.  Dywedai ei wraig amdano unwaith, ei bod hi wedi ffeindio ffordd i wneud i Thomas gysgu yn ddidrafferth-’ dim ond i mi,’ meddai, ‘ roddi llyfr yn ei law, fe syrth i gwsg yn union.’ Bu yn ffyddlon yn ei gylch, nid oedd y cylch hwnnw ond cyfyng, ac er nad oedd yn seren o’r maintioli mwyaf, eto credir ei fod yn ôl ei faintioli, yn adlewyrchu goleuni Haul y Cyfiawnder.  Pe buasai llawer ohonom wedi gorfod gweithio gyda’r morthwyl a’r eingion mor galed
âg y gweithiodd ef, nid yw yn debyg y buasai cysta graen arnom yn gorfforol ac ysbrydol, âg oedd ar Thomas Evans a’i geffyl du! Gorffwysed- 

Hyd fore ei-adferiad
I’w urdd deg, ar dde ei Dad 

William Morgan, Groes-faen, a adnabyddid yn well fel Bili Groes-faen.  Yr oedd yn enwog fel adelladydd; ef a adelladodd Eglwys Ystradmynach, ac yr wyf yn meddwl mai ef a adelladodd Penuel, Pont-y-pridd, ac ef hefyd a adelladodd Eglwys Pont-y-pridd, er na chafodd fyw i’w gorffen, gwnaed hynny gan ei fab William; y mae y ddau William-y tad a’r mab-yn cydhuno yng ngro y fonwent erbyn hyn, a’u gwaith yn aros o’u holau fel cynifer o gofgolofnau yma a thraw ar ffurf eglwysi a chapelau. Yr oedd yr hen ŵr yn   un lled witty, byddai ei ddywediadau yn fynych yn fywiog a chyrhaeddg@r. Yr wyf yn cofio fod Dewi Haran a minnau yn myred heibio i ddrws y Banc un tro, pan oedd Bili yn dyfod allan, a phan welodd ddau fardd yn pasio, dywedodd yn lled gregwrus- 

Dyma hen lanc
Yn fawr ei wanc
Yn troi maes trwy ddrws y Banc 1 

 =========================== (x184)  

A ffwrdd yr aeth heb wneuthur mwy o sylw ohonom.  Yr oedd Bili yn lled geidwadol yn ei olygiadau crefyddol, yn enwedig yn y gyfeillach; a’i hoff adnod, ac un a adroddai yn fynych ydoedd-’Na symudwch y terfyn a osododd y tadau.’ Peth arall hynod iawn ynghylch Bili Groes-faen ydoedd y ffaith na fu erioed un dant yn ei enau, er y gallasai gnoi gystal A iieb a feddai y dannedd cryfaf.  Ni chafodd ddannedd crioed, neu o’r hyn lleiaf ni ddaethant allan trwy’r cig sydd yn safnau dyhion yn gyffredin yn amgylchu’r dannedd.  Cododd deulu lluosog, ac y mae llawer ohonynt hwy a’u plant yn barchus iawn ym Mhont-y-pridd a’r amgylchoedd yn bresennol.

Yr oedd Siôn Llewelyn a Thomas Llcwelyn yn ddau frawd ac yn aelodau ffyddlon yn Penuel.  Y cof cyntaf sydd gennyf am Tomos Llewelyn oedd ei weled yn llwytho glo o Bwllhywel i’r Bont mewn trol a dynnid gan Fanny, hen gaseg denau fawr, esgyrnog, a farchogid unwaith gan Daniel Jones, Cloth llall, ar ôl y cŵn a’r cadno a’r geinach.  Yr oedd dyddiau hela Fanny wedi myned hei,bio pan gafodd Tomos Llewelyn hi, ac nid oedd tynnu cart dros ben rhiw y Graig-wen yn llawn mor fywiog gwaith â charlamu dros gaeau plwyf Llanwynno, Llanfabon, ac Eglwysllan.  Yr oedd Tomos Llewelyn yn cadw Tŷ’r Capel, yn yinyl hen Gapel Penuel, yn hir cyn codi’r Penuel presennol.  Yr oedd Nannah ei wraig yn hen wraig led wybodus, yn enwedig mewn achyddiaeth a hanes teuluoedd y plwyfydd cylchynol; ond yr hyn a’n synnai ni yn blant yn fawr oedd maint anferthol ei thrwyn; yr oedd natur wedi bod yn hael iawn ar ddefnyddiau yr ermig hwn o eiddo Nannah Llewelyn.  Bu hi fyw amryw flynyddoedd ar ôl ei gŵr. Cododd Siôn Llewelyn deulu lluosog; y mae rhai ohonynt a’u plant yn preswylio ym Mhont-y-pridd, ac yn rhai parchus yirnysg trigolion aml y dref hon.

Dichon y dylwn goffa enw Bili y Tiler.  Un o @r Llanwynno erioed oedd ef; treuliodd y rhan fwyaf o’i fywyd yn y 

=========================== (x185)  

Bont.  Un hynod oedd Bili; gwariodd fwy o arian am gwrw na llawer dwsin o ddynion    yr oedd yn codi yn y bore gyda’r amcan o fyned allan i yfed  dychwelai adref i gael ei wa anol brydiau o fwyd yn y dydd, fel dyn yn dil n ei alwedigaeth, a thalai’r bil am y cwrw bob hanner blwyddyn, ac nid bil bychan a chyffredin ydoedd chwaith! Buasai dyn dieithr, pe clywsai Bili yn adrodd stori gyda’i beint, yn credu yn sicr ei fod yn foreigner, neu ei fod yn siarad tafod dieithr, gan hynoted oedd ei ddull a’i barabl.  Yr oedd pob gair a ddywedai yn cael ei flacnori gan y frawddeg ‘ ebe fi, ebe fe,’ nes bod stori fer yn myned yn anferthol o hir, ac yn rhyw gawl cymysglyd heb fawr o synnwyr na sylwedd ynddi.  Clywais ef yn adrodd ei hanes yn cysgu mewn gwely dieithr, lle poenwyd ef yn fawr gan chwain-cymerodd yn agos hanner diwrnod i adrodd yr helynt, ynghyda phennill ar y pwnc.  Yr oedd ei adroddiad O r pennill yn debyg i hyn-(‘ Ebe fi, ebe fe,’) 

Wel, o bob lle anniddig

 (Ebe fi, ebe fe),

I orwedd ynddo ‘n unig,

 (Ebe fi, ebe fe, ebe fi)

Hwn yw’r gwaclaf-mwya’i chwain,

 (Ebe fi, ebe fe),

Mae’n llawn o ddrairi-cythreulig,

 (Ie, ebe fi, ebe fe, ebe fi). 

Un peth lled hynod ynddo oedd ei barch i’r Saboth.  Nid oedd fyth yn myned allan i ddiota ar y Sul, ond eisteddai gartref, neu Ai yn drefnus ei ddiwyg i’r addoliad cyhoeddus. Nid wyf yn cofio y ddau doddaid a wnaed yn feddargraff iddo gan Gwilym Elian a Brynfab; yr oedd y ddau yn gydfuddugol mewn Eisteddfod a gynhahwyd ym Mhont-y-pridd yn y flwyddyn i871.  Buasai yn dda gennyf allu rhoddi braslun o gymeriadau eraill sydd wedi eu symud gan angau o Bont-y-pridd.  Rhywbryd eto, hwyrach. 

 =========================== (x186)  

Ni ddigir wrthyf am sôn am rai o fasnachwyr llwyddiannus ydref.  DynajohnGriffiths,oHeolyFelin;dechreuoddyn fychan, fychan, fel afon Hafren mewn llygedyn, ond aeth rhagddo fel yr afon honno, nes dyfod yn un o brif fasnachwyr y lle, ac ymneilltuodd yn hir cyn diwedd ei oes wedi gwneud ffortiwn dda.  Ei feibion ef yw George Griffiths, Ysw., perperchennog gwaith y Gelli, a William Griffiths, Ysw.  Nodweddid John gan ddiwydrwydd, ymroddiad diflino, craffter, ac arferion rheolaidd, a gofal am ei fusnes.  Ac yn y diwydrwydd distaw, ac yn y llafur cyson hwn, am flynyddoedd ar odre Heol y Felin, gwiiaeth John Griffiths bwrs hir, enw da, a sefyllfa iddo ei hun, a lle ar ben rhes masnachwyr Pont-y-pridd.  Perthynai ef i enwad y Bedyddwyr; bu yn ffyddlon yn yr hen Garmel yn hir, ac wedi hynny yn y Tabernacl, ac erbyn hyn y mae ‘wedi rhoddi ei dabernacl hwn heibio,’ ac wedi cael ‘ tŷ, nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd,’ ni a obeithiwn.

Ym mhen uchaf Heol y Felin yr oedd masnachwr arall lled gyffelyb i John Griffiths, a pherthynas iddo hefyd, ac yn Fedyddiwr selog fel yntau-sef Mr. Aaron Cule.  Dechreuodd yntau ar y llawr, a thyfodd yn dderwen fawr! Nid oedd ei fasnach ar y cyntaf ond bychan, na’i fasnachdy ond cul a chyfyng, ond ar sail y tŷ bach adelladwyd masnachdy eang a hardd, cyffelyb i un o siopau mawrion Llundain, a thyfodd y fasnach fechan yn ddigon mawr i’w symud i lanw y tŷ eang hwn. 
Y mae y Cules yn deulu talentog a pharchus; yr oedd Evan Cule, tad Aaron a Moses, yn ŵr o ddoniau da ac arabedd mawr.  Y mae Moses, fel y soniais cyn hyn, yn awenyddu pan gaiff hamdden, ond ni chlywais fod Aaron erioed wedi caru’r awen-ei farddoniaeth ef yw masnach; ei englynion ef yw sypynnau o aur, ac felly y mae wedi englyna llawer; y mae yntau wedi ymryddhau oddi wrth y fasnach a’i throsglwyddo i’w feibion, ac y mae yn treulio prynhawn ei ddydd mewn tawelwch, ac yn awr yn mwynhau ffrwyth ei ddiwydrwydd a’i 

 =========================== (x187)  

lafur, ac yn gwneud lles i’w gyd-drefwyr drwy gymryd rhan flaenllaw yng ngweithrediadau y gwahanol Fyrddau, fel gwarcheidwad a swyddog ffyddlon.  Un o @r y Tabernacl ydyw yntau fel ei frawd-yng-nghyfraith John Griffiths. Y mae y Tabernacl yn cysgodi amryw wŷr cyfoethog y dref, y rhai sydd wedi bod yn mwynhau gweinidogaeth dda y dysgedig Ddoctor Roberts; eraill ohonynt a ddewisasant fyned yn ôl i Gapel Carmel, sydd wedi ei alladelladu yn lle gorwych iawn yn ymyl Heol y Graig-wen, rhwng dwy fynwent lle y gorwedd torf fawr o feirwon, ac yn eu plith Siencyn o Fuarth-capel, Catws o’r Graig, &c.

Yr wyf yn meddwl fod Mr. John Crockett yn dal ei fusncs yn ei law o hyd, gyferbyn i Phont Rhondda; y mae ef yn fasnachwr craffus iawn; dyn bychan, shrewd ei olwg a bywiog ei ysgogiadau ydyw ef.  Y mae yntau wedi codi masnachdy newydd er ys cryn dipyn o amser; ac y mae hefyd yn fasnachwr glo lled eang, a rhwng pob peth mae ei ddwylo ef yn llawn o waith bob amser; ac yn wir, a barnu oddi wrth droad ei lygad a chyflymder ei symudiadau, nid yw yn un o’r rhai hynny a fedr fod yn llonydd a di-waith.  Y mae wedi ei lyneu a’i feddiannu gan fusnes, ac y mae yn hoff ohoni, ac nid yw ddrwg ganddo yr aur a’r arian a ennill wrth fasnachu.  Un o’r Bedyddwyr ydyw yntau, llawn o s@l bedydd a chred a chyffes y Trochwyr.  Y mae ei enw mor Seisnigaidd
âg y dichon i o fod-Crockett-ond y mae ef ei hun yn Gymro, llawn aidd a gwladgarwch.

Yn ei ymyl ar dro Heol y Felin, ac yn cyruryd tipyn o’r ddwy heol-Heol y Felin a Heol Taf-y saif masnachdy Mr. Griffith Evans.  Y mae yntau yn fasnachwr hynod o lwyddiannus, ac yn un wedi hanu o un o hen deuluoedd Llanwynno-nai ydyw ef i Walter o Nantyrhysfa gynt.  Wrth edrych yn ei wyneb nid ydych yn hir cyn dyfod i’r penderfyniad ei fod yn ŵr diwyd, hoff o’i fasnach, hoff o stori ert, hoff o wit ym mhob cyfeiriad, ac mor hoff o bunt 5, neb yn Y’ 

 =========================== (x188)  

wlad, ac wedi llwyddo i gasglu llawer ohonynt.  Y mae ef a’i fab yn y fasnach gyda’i gilydd, ac y mae sefyllfa y siop yn dda iawn-ar y gongl yn wynebu Rhondda, Taf, a’r Tumble. Un o’r Methodistiaid yw ef, ac un o flaenoriaid Penuel, er i mi ofni ei fod wedi troi yn Sais-Cymro ydyw fyth!

Y mae pawb yn y lle yn gwybod am y ‘Silver Teapot,’ ac am ei pherchennog-Mr.  Richard Rogers.  G@r cadarn ei olwg, serchog ei w6n, a llawn o ysbryd gwaith ydyw ef; y mae ei faeifa o ran safle yn lle da iawn, ac y mae llawer o wragedd y Cwm yn credu nad oes y fath de i’w gael yn unman ag yn y Tepot Arian- yn ymyl y marchnaty.  Y mae Mr. Rogers wedi treulio llawer o flynyddoedd yn nhref Pont-y-pridd, ond yn sir Faesyfed y gwelodd olau dydd gyntaf, ac y mae ei fochau cochion, ei ysgwyddau llydain, a’i freichiau preiffion, yn profi fod awelon Maesyfed yn bur, a’i fod ef wedi cael stoc iawn o iechyd a chryfder rhwng bryniau canol-sir Cymru.

Y mae Twmi Lewis wedi cefnu ar ei siop esgidiau yn Heol Taf; gwnaeth fasnach helaeth yno am lawer o flynyddoedd, a gwnaeth lawer o englynion hefyd.  Gŵr caruaidd a hawddgar ydoedd Mr. Lewis, ond huno y mae nes 

Bolltiau d6r farxnor ei fedd Agora flaw trugaredd. 

=========================== (x189)  

PENNOD XXIV
PWLLHYWEL â MORMONIAETH
 

YR oeddwn wedi bwriadau fod y bennod hon i gynnwys tipyn o hanes bywyd, a sylw ar weithiau barddonol un a adnabyddid yn dda ym mhlwyf Llanwynno, ers blynyddoedd yn ôl.  Tua deugain mlynedd yn ôl ystyrid Twmi Ben-wal, neu Gwilym Llanwynno, yn fardd da, yn ffraethebwr hylym, ac yn gwmniaethwr braidd heb ei fath.  Y mae gennyf ychydig o’i weithiau yn awr ar y bwrdd o’m blacn, ond yr wyf newyd ddychwelyd o’r De, lle y treuliais fis o amser megis un dydd, ac felly nid oes gennyf hamdden heddiw i chwilio dim yng nghylch hanes y bardd hwn; ond mi a ysgrifennaf yn fuan bennod ar ei gartref, ei hanes, a’i wa-ith barddonol. Mi gyffyrddais
âg enw Pwllhywel yn fy llith ddiwethae Saif yr hen dŷ ar ymyl Henwysg Fechan, dipyn oddi wrth ei glan, o dan gysgod twyn Blaenhenwysg, yn cael ei amgylchu gan goed afalau ac eirin, a’i wedd yn wyn a gwyngalchog, a’i do o gerrig llwydion Cymreig, a’i wyneb braidd yn gywir i’r de, a thwyn Coetgae’r Hafod yn torri min gwyntoedd y gorllewin, ac yn ei rwystro i edrych dros ei ysgwyddau i fyny trwy Gwm Rhondda tua’r Cymer, &c.  Yr wyf yn cofio Pwllhywel yn edrych yn lle bychan prydferth a thawel ddigon; Henwysg Fechan yn llifo heibio, a cherdd y rriynyda ar ei thonnau, a’r awelon yn croesi drosto o gyfeiriad Coetgae’r Hafod weithiau, dros Gelli-lwch bryd arall, ac o fwlch y Cwm, ac o gŵiriad Penycoetgae weithiau, ac ar dywydd dicllon y gaeaf o gyfeiriad traed y meirw, a thipyn yn is i lawr o’r de-ddwyrain, gan chwythu yn falmaidd, neu chwiban yn oernadol, neu garlamu yn ddicllon, neu ddwyn cenadwri y rhew a’r eira ar ei hadenydd, yn ôl yr adeg o’r flwyddyn a’r cyfeiriad y chwythant. 

 =========================== (x190)  

Ond llechu yn dawel yr oedd Pwllhywel, fel pe yn ymguddio rhwng y twyni i chwerthin wrth sŵn peraidd y dde-awel, neu floedd ddicllon y gogleddwynt; ond gwthiodd masnach i fyny gyda glannau Henwysg, a gwnaeth i’w chenhadon dyllu y ddaear, a distrywio gwedd hawddgar a thawel glas-dwyni a pbantau Pwllhywel, ac yn fuan rhoddodd lysenw i’r lle. Daeth yr hen fangre dawel a elwid yn Pwllhywel yn fuan yn lle cynhyrfus, llawn o lo, ysbwrial, a hagrwch, teilwng o’i lysenw, cwm-sgwt!,

Agorwyd drifft rhwng tŷ Pwllhywel a Blaenhenwysg, a gweithiwyd gwythien 10- y Darren Ddu allan yn lled lwyr o gyfeiriad Pwllhywel, Blaenhenwysg, ac i fyny tua’r Carnau. Gweithiwyd a gweithiwyd yn y lle, hyd nes i fasnach, fel ceffyl wedi torri ei wynt, orfod rhoddi i fyny, a gadael y lle yn wacach nag y bu, ac yn hacrach o lawer; dylasai fyned i’r tip erchyll ysbwrial gyda hi, yn lle ei adael o flaen yr hen Bwllhywel, yn garnedd ddu fel pyg, ac yn libel ar harddwch y Cwm llonydd hwn!

Yn uwch i fyny, ac ychydig yn fwy i gyfeiriad y dwyrain ar dir Pwllhywel, y saif Bryngolau, preswyl hardd Mr. W. Phillips, perchennog tir Pwllhywel.  Y mae ef wedi cymryd Llawer o drafferth, ac wedi myned i dipyn o draul i wneud lle prydferth ohono.  Nid yw Pwllhywel erbyn hyn ond is fan -bwthyn mewn cyferbyniad i’r lle newydd yn ei ymyl sydd yn dwyn yr enw arwyddocaol Bryngolau.  Ond nid yw y Bryngolau mor gyfoethog mewn hanes, hynafiaeth, a chofion
âg yw y lle h@n Pwllhywel.  Saif y tŷ newydd hwn dipyn draw oddi wrth y tŷ h@n, a’i olwg yn falch, yn lled debyg i lawer dyn ieuanc a’i logell yn lled lawn, a’i ben yn lled wag, a’i brofiad yn fychan, yn edrych gyda dirmyg ar yr hynaf o bercrinion y pentref, heb fawr barch yn ei galon i wybodaeth aeddfetach a phrofiad helaethach yr hen ŵr.  Wrth edrych yn ddiweddar ar y ddau le hyn-Bryngolau a Phwllhywel, braidd nad oeddwn yn credu fod yr hen Bwllhywel yn sisial y ddihareb, 

 =========================== (x191)  

Yr ifanc a dybia, a’r hen a    fodd bynnag yr oedd ei wedd yn awgrymu y frawddeg i’m meddwl i ar y pryd. Gallaswn bregethu pregeth ar Formoniaeth, neu Seintiau y Dyddiau Diwethaf, oddi wrth Bwllhywel.  Y mae pobl Llanwynno yn arfer cysylltu Mormoniaeth â Phwllhywel oherwydd i deulu l@ed fawr a elwid yn deulu Pwllhywel ymuno â’r blaid grefyddol hynod hon, a symud i’r Llyn Halen i fyw. Yr oeddynt yn deulu cryf, yn fechgyn lled alluog, ac ni fuasid yn disgwyl i grefydd y Saint gymryd gafael sydyn a llwyr ynddynt; ond daeth Siôn Morgan, Edmwnt, a Mari a’i theulu, o dan ddylanwad y grefydd hon; ac hefyd yr hen wraig Si@an-eu mam-a phan oedd yn ymylu ar bedwar ugain mlwydd oed, cychwynnodd gyda’i phlant tua Seion, mewn hyder cryf cyfarfod â’i  gŵr-Dafydd Pwllhywel, yn Nvffryn yr Halen, er ei fod wedi marw oddi ar flwyddyn yinweliad y colera
âg ardal Llanwynno.  Y mae tua 40 mlynedd er pan aethant ymaith.  Y mae llawer ohonynt yn fyw yn awr ymysg y Seintiau, ond nid ydynt fyth yn anfon gair yn I i neb o’u hen gyfeillion a’u cyfoedion yn Llanwynno 6

Crefydd wael yw honno sydd yn peri i ddyn lwyr anghofio ei wlad, a chyfeillion bore oes! Nis gall fod yn grefydd, honno sydd yn lladd gwladgarwch, yn dileu yr awydd sydd yn peri i’r galon deimlo yn fynych mai ‘ Teg edrych tuag adref’ Ond nid oes siw na miw yn dyfod oddi wrth fechgyn Pwllhywel o wlad y seintiau, er iddynt cyn cychwyn yno addo ysgrifennu. Bid sicr, nis gellir disgwyl i’r hen Si*an anfon gair, oblegid aeth hi gryn dipyn ym mhellach na’r Dyffryn Halen   hi a groesodd y llinell sy’n gwahanu rhwng amser a’r diderfyn, o’r lle nad oes na llef na neb yn ateb gofyniadau hiraethlon cyfeillion, nac ychwaith gwestiynau yr ymholgar a’r cywrain Ond paham na fuasai Morgan a Siôn, ac Edmwnt yn anfon atom i ddisgrifio’rjerwsalem newydd, a llywodraeth Brigham Young a’i ganlynydd, a chartref amlwreiciaeth a bro sefyd1igtd Y SrWthiaid a’u breuddwydion a’u gwcledigaethau? 

 =========================== (x192)  

Yr ydwyf fi yn arfer meddwl y dylai’r Cymro, ym mha wlad bynnag y byddo ei goelbren wedi syrthio a’i babell wedi ei chodi, ddweud fel y bardd-broffwyd Iddewig am ei ddinas gynt,  Os anghofiaf di jerwsalem, anghofied fy neheulaw ganu    ond wele Seintiolaeth ac amlwreiciaeth wedi pylu min gwladgarwch, wedi lladd cyfeillgarwch, a pheri i’r btyniau a’r twyni, a glaslwyni a choedydd y fro enedigol, ymadael or cof fel brei4ddwyd y mynnai dyn ei llwyr anghofio! Heblaw meibion Pwllhywel, cymerodd Seintiolaeth afael yn William Davies, o Ben-wal; aeth yntau gyda’r fintai drosodd i’r jerwsalem newydd.  Nid oedd dim yn ei natur, gellid meddwl, a fuasai yn peri i neb dybied y buasai yn cymryd ei droi gan y Mormoniaid.  Yr oedd yn ddyn araf, meddylgar, bnd penderfynol iawn; yr oedd yr hyn a eilw pobl Llanwynno yn ‘ bentan o ddyn,’ ac wedi i rywbeth fyned i’w ben, nid gorchwyl hawdd oedd ei gael oddi yno; ac felly aeth y gŵr cyndyn o Ben-wal dan ddylanwad Mormoniaeth, yn benboethyn, i gredu fod dinistr y wlad hon wrth y drws, ac mai’r unig le o ddiogelwch oedd gwlad y Seintiau.  Mae ef wedi marw yn lled ddiweddar, ac wedi cael bedd ymhell o wlad ei dadau, yn naear ei wlad ddewisedig, a gysegrwyd gan draed yr Indiaid, a chableddus honiadau blacnoriaid Seintiau y Dyddiau Diwethaf.

Yr wyf yn cofio dadl boeth rhwng Ann o Fuarthcapel a William o Ben-wal, wrth y bwrdd te.  Yr oedd Ann yn aelod selog gyda’r Bedyddwyr ym Mhont-y-pridd, ac yn credu fod yn rhaid i bawb fod yn aelodau yn Carmel a chael eu bedyddio gan y Parch.  James Richards, o barchus goffadwriaeth, cyn myned i’r nef.  Ond wrth yfed te yn y Clotch Uchaf, aeth yn ddadl rhwng William o Ben-wal ac Ann, Buarthcapel, ynghylch y Saint, ac ynghylch Bedydd; er fod llawer o ddwfr yn y ddadl, aeth mor boeth rhyngddynt fel y collodd Ann ei thymer; yr oedd William yn dadlau yn lled gryf, ac arguments a 

 =========================== (x193)  

geiriau Ann yn myned yn lled brinion, a’i thymer yn prinhau hefyd.  Ond fel yr oedd y gŵr o Ben-wal yn ymwroli ac yn amlhau ei ddadleuon, yr oedd Ann yn ymwylltio yn ei theimlad ac yn gwanhau yn ei dadleuon, a phan oedd William Ben-wal, yn meddwl ei fod wedi cael goruchafiaeth, a bod y wraig o Fuarthcapel wedi distewi, dyna hithau yn codi ei chwpanaid o de brwd, ac yn lle ei yfed yn ei daflu gyda nerth i wyneb y gŵr o Ben-wal, ac yn peri iddo ddistewi a mynd yn fud!

Yr wyf yn meddwl mai wedi digwydd cyfarfod yr oeddynt yn y Clotch Uchaf, pan oedd y gwragedd yn unol
âg arferiad y plwyfwedidodi’Gyflwyno.’ Yroeddynarferiadersllawer dydd, ar ôl i wraig wella o’i gwelyfod, i wragedd y plwyf ddyfod ynghyd i yfed te a chyflwyno rhoddion i’r wraig a oedd wedi bod mor dda â chyflwyno i’w g@vr fab neu ferch ncwydd. Te ar achlysur o’r fath ydoedd hwnnw pan gafodd William Ben-wal gwpanaid o De Cyflwyno yn ei wyneb, yn lle y man arall y dylasai fyned iddo.  Terfynodd y ddadl, ac aethpwyd YmIaen gyda’r deisen a’r te, ac i ganmol y babi am ei fod mor brydferth ac mor debyg i’w dad

Yr wyf yn cofio fod William o Ben-wal yn ymadael y noswaith honno o’r Clotch, a scroll hir o enwau ei berthynasau wedi eu darparu ar gyfer myned i ffwrdd tua Dyffryn yr Halen; dyna’r olwg ddiwethaf a gefais i arno, ac nid oeddwn ond bachgen bychan iawn y pryd hwnnw.

Achosodd y Mormoniaid gryn gyffro yn y pl@yf yr adeg honno; yn y lle cyntaf, oherwydd fod pob peth newydd yn tynnu sylw y bobl, hefyd yr oedd pobl y capel yn teimlo fod eu lliadau bychain yn myned yn llai, ac hefyd yr oedd y cynu

Mormoniaid yn cadw cryn lawer o stŵr wrth geisio argyhoeddi pobl i ffoi rhag y llid a fydd, ar ymyl y ffordd Ac hefyd yr oedd rhai o’r bechgyn direidus yn dangos arwyddion o awydd troi i gofleidio y grefydd newydd hon, ac yn eu plith, yr oedd Ifan Cadwgan, brawd i Cadwgan Fardd. 

N 

=========================== (x194)  

Yr wyf yn cofio i mi ddianc o’r tŷ i fyned i wrando Ifan Cadwgan yn pregethu ar Donyrynys, yng nghysgod gwrych y plaen pôl.  Cefais faethgen iawn wedi myned adref, ac ni fu dda gennyf am y seintiau fyth ar ôl hynny! Yr wyf yn cofio fod Ifan yn pregethu o flaen ei gyfaill, o dan berth Cae yr Ynys, ar ben tomen o bridd a godwyd gan ryw un o glawdd y cae.  Nid wyf yn cofio yn iawn ym mha le yr oedd testun Ifan Cadwgan y pryd hwnnw, ond yn sicr yr wyf yn meddwl mai yn rhywle yn Llyfr y Datguddiad y cododd ei destun.  Yr oedd yn sôn llawer am wyrthiau y dyddiau diwethaf hyn, ac yn haeru ei fod ef yn dyst o wyrth a gyflawnwyd ar Sikan Bwllhywel, iddo weled saith cythraul yn cael eu bwrw allan ohoni yr un pryd.  Pa fath ddynes -a allai Si*an fod pan oedd yn rhoddi llety i saith o gythreuliaid, nis gallaf ddyfalu, ond diau ei bod hi a’i theulu yn teimlo ei bod wedi cael gwaredigaeth dda, ac nid rhyfedd i Si*an ddilyn y Saint i’w cartref newydd, yn Nyffryn yr Halen.  Yr oedd Ifan, heblaw hynny, yn sôn am ddawn y tafod dieithr a oedd yn cael ei rhoddi iddynt hwy fel Seintiau, 

Hwffi pwffi carai mwffi,
Rhaid i’r Seintiau gael teyrnasu, 

meddai Ifan.     Ac meddai’r llall mewn atebiad, - 

Piden hirit, Padan Aram,
Ni y Saint yw meibion Abram. 

Ie, ie,’ meddai Ifan, - 

We will go to California,
Rhaid yw gadael y wlad yma. 

Ac meddai’r cyfaill, - 

Ni fydd yma ond trueni,
Pan ddaw dydd yr higl-di-pigldi 

=========================== (x195)  

Yr oedd tri pheth yn peri i Cadwgan a’i gyfaill gredu y distrywid y wlad hon yn fuan:-i.  Oherwydd anwybodaeth y bobl. 2. Yr oedd y Seintiau wedi proffwydo hynny- 3- Yr oedd Si@an Bwllhywel wedi breuddwydio dair gwaith am y peth, ac oherwydd hynny, meddai cyfaill Ifan Cadwgan, yn ei ymyl,

Rat a tat a riti titi,

Brysiwch oll i adael Cymru;

Rili fandem rato tinder,

Wales will burn down to a cinder;

Horam poram rampidaron,

Ciliwch oll i fryniau Seion. 

Amen,’ ebe Ifan Cadwgan. ‘ Ha! ha ha ebe William, Llwynperdid; ac ebe Charles o Hendre Rhys, - 

Y sawl a iwsio gacamwci

Fe fydd e’n siŵar o ‘difaru 

Ac yna terfynodd y cyfarfod, yng nghanol m-iri a gwawd y bechgyn; ond yr oedd Ifan Cadwgan a’i gyfaill yn edrych mor sobr â barnwyr, a gofynnodd Ifan i Twm y Gof a gAi ef ei fedyddio yn yr afon. 
‘Wn i ddim siŵar,’ ebe Twm, ‘He! he he    Ifan fab Dafydd Cadwgan isa-moddi i yn afon Glydach Ha  ha!! ha  Na ‘na’i siŵar,’ a ffwrdd âg ef i ddweud yr helynt wrth Kitty o’r Ynys.  Mae amryw yn fyw yn Llanwynno yn cofio ond odid am y cyfarfod seintyddol hwn ar Donyrynys.  Aeth Williams, Rhydygwreiddyn, a minnau i chware bedyddio, a syrthiasom i’r afon, a chefais chwipsi-am wlychu yn gystal âg am ffoi i gyfarfod y Seintiau. 

=========================== (x196)  

PENNOD XXV
TWMI BEN-WAL
 

YCHYDIG yw nifer y beirdd a’r llenorion sydd wedi codi yn Llanwynno heblaw y tribanwyr a’r rhigymwyr sydd eisioes wedi cael tipyn o sylw yn y penodau hyn.  Ystyrid Thomas Williams, neu Twmi o Ben-wal, neu Gwilym Llanwynno fel y’i gelwid ef weithiau, yn fardd a llenor lled dda,
âg ystyried ei ddydd a’i fanteision. 

Mab ydoedd Twmi i Evan William, fab Thomas William Thomas Llewelyn o’r Glyn-coch; ei fam oedd Mari, merch Edward Miles o Flaenhenwysg, a Bess ei wraig.  Bu Twmi yn byw yn y Graig-wen am tua deng mlynedd, wedi iddo symud gyda’i rieni o Benrhewl Llecha.  Wedi hynny symudasant i Ben-wal, ac wrth enw y lle olaf hwn y cafodd ei alw a’i adnabod tra fu byw.  Bu ei dad yn berchennog gwaith glo y Darren Ddu am flynyddoedd.  Gŵyr y rhai sydd wedi arfer dringo, neu lithro i lawr dros heol Craig-yr-hesg, fod yn y coed, dipyn oddi ar y ffordd ac ar gyfer heol y Darren Ddu, dŷ lled dwt, yn edrych fel nyth yn ystlys y graig, a’r darren ddanheddog y tu cefn iddo, a’r coed yn cau amdano ac yn ei gysgodi rhag y gwyntoedd, a Thwyn-y-lan o’i flaen yn atal gwyntoedd y de-orllewin rhag ei guro yn ormodol. Rhyw nyth bronfraith yn y gwrychoedd ydyw. 
Tŷ yn y coed, dan y darren, unig a meudwyol ydyw.  Yn y nos lleddf suad yr awelon yw y gerddoriaeth sydd o’i amgylch, ac yn torri ar y beroriaeth ceir ysgr6ch y dylluan, ac weithiau grawciad y gigfran o dannedd y graig.  I lawr yn y dyffryn llifa Taf yn lled araf a mawreddog, wedi dyfod allan o ddyryswch Berw.  Y mae goleuni tref Pont-y-pridd, Trefforest, a Dyffryn Taf, yn edrych yn brydferth iawn rhwng brigau y coed; a sŵn a murmur y dref yn dyfod i fyny gyda’r nos 

 =========================== (x197)  

chwaon dros lethrau Craig-yr-hesg, fel pell furmur ysbrydion yn myned heibio a thros y tŷ unig hwn, yng nghanol y graig ramantus hon ar Ian Taf.

Enw y tŷ hwn yw Bwlchydefaid.  Codwyd ef gan dad Twmi Ben-wal-yma y bu farw y tad, ac o’r tŷ hwn y priododd Twmi wraig, merch ydoedd hi i Mr. Jacob, Llantrisant, a chwaer i Mrs. Cook, gweddw y diweddar Dr. Cook, o Bont-y-pridd; y mae hi eto yn fyw ac yn briod yr ail waith, ond wedi codi ei thabernacl ym mhell o’i gwlad enedigol-ar dir Awstralia.

Er mai Williams y gelwid y teulu hwn, eto yr ydym yn meddwl yn sicr mai Llewelyn oedd y cyfenw priodol iddynt, ond ei fod fel llawer o’r enwau Cymreig wedi ei golli trwy ryw gamsynied yn nhreigliad yr enwau o dad i fab, a thrwy dilyn yr arferiad o roddi enw cyntaf y tad yn gyfenw y mab. d

Yr oedd Twmi yn fachgen lled dalentog, llawn o ysbryd chwarcus, hoff o ddarllen, hoff iawn o ystoriau diniwed, parod ei atebiad a lled arabus, hwyrach dipyn yn barod i droi at wawdiaith-profedigaeth aml a phechod parod tipyn mwy na chyffredin o dalent.  Yr oedd Twmi yn cael tipyn o ddifyrrwch gyda hen bobl anwybodus y wlad, ac weithiau cymerai dipyn ormod o hyfdra a mantais ar anwybodaeth a diniweidrwydd yr hen drigolion, fel-y dywedir iddo berswadio yr hen Ifan Morgan fod y lleuad wedi sefyll un noswaith a methu myned ymhellach nag Eglwysllan, a thro arall iddi syrthio i bwll Berw, ac os deuai Ifan gydag ef ar noson olau leuad y cAi ei gweled yn edrych fel un o gaws Caerffili ar waelod y llyn. ‘ Cato ni, ‘chlywais i fath beth oddi    ar fy ngeni,’ meddai Ifan, gan lyneu’r cwbl fel ysgrythur yn niniweidrwydd ei galon.  Heblaw hyn hefyd, lled anwadal ei fryd a’i fywyd ydoedd Twmi.  Yr oedd ei anwadalwch yn ddiau yn codi oddi ar ei natur gynhyrfus weithiau, a’i deimladau ysgafn a phruddaidd, bob yn ail; nid oedd fyth yn hapus yn un man, yr oedd rhyw fan gwyn yn cyfodi dr     iw 

 =========================== (x198)  

o’i flaen ac yn ei aflonyddu.  Rhyw anesmwythder fel hyn oedd yn nodweddu ei arhosiad ym mh6b lle, ond nid oedd hynny yn peri iddo fod yn sur a chas ei natur, oblegid yr oedd yn hoffi bod yn llawen; ac ystyrid Twmi Ben-wal yn gwmniaethwr heb ei fath.

Ond yr oedd yn greadur lled fywiog ei ddychymyg efallai, -net bod y dyfodol i gyd yn fendigedig iddo ef, ac yr oedd yr adar bychain a welai yn ehedeg awyr ei ddyfodol oll iddo ef yn eryrod, ac aur ar eu hesgyll! Dichon na allasai ddweud paham, ac na allasai ateb fel yr atebodd Morgan Moses, Hendre Rhys, ei fanx, wedi iddo ei hysbysu ei fod ar fedr myned ymaith i’r America-’ Rhedeg ym mhell at y Mynydd Gwyn,’ rqeddai Catws; ‘Nage, mam,’ ebe Morgan, ‘rhedeg i ffwrdd rhag y Mynydd Du.’ Yr oedd Twmi mor ddiniwed a chystal cymydog â neb yn y plwyf, a phe cawsai addysg dda gwnelsai ddyn a bardd iawn; am ddoniolwc@ ac ateb parod yr oedd Twmi yn enwog yn ei ddydd-yr oedd fel Gwyddel a’i ateb yn barod bob amser.  Digwyddodd ei fod wedi cerdded adref gyda rhyw eneth yn y plwyf nad oedd, yn ôl tyb ei fam, o gymeriad gwych, ac felly rhoddodd yr hen wraig drinfa dda iddo-’Rhag dy gwiddil, Twmi, dy fod di o neb yn cerdded gydag un o’i bath hi! ‘ ‘ Pwy gwiddil sy o gerdded gyda merch fach bert, mam? ‘ ‘ Merch bert, yn wir! ym mh’Ic mae ei phertrwydd hi, Twmi? 

‘O wadan ei throed hyd ei chorun, -ti phen Mor wynned i’r IiIi, meddai bechgyn Graig-wen Twmi, paid i’m hela i ma’s o ‘nghof     Wel, dyna beth wnaeth Ianto Grambo unwaith! ‘ ‘ Beth? ‘ ‘ Myn’d ma’s o’i gof; ac fe ddaeth yn ôl wedi hynny ar yr un gost-wedi iddo fynd i ma’s a ffaelu mynd i mewn i unlle gwell! ‘ ‘ Twmi, oddi ar wyt ti’n grotyn bach, dy hoff bleser di yw poeni dynion. 
‘ ‘ Ia fa, mam? Wel, fi af i boeni y ferch yna-i chi âg erill yn i galw “Y Bwtwn bach”.’ (Dyna lysenw yr 

 =========================== (x199)  

eneth y cerddodd Twmi gyda hi adref). ‘ Bi phocni      hi,’ ebe’r hen wraig.  ‘Ic,’ ebe Twmi, ‘neu 

Ni garwn y Bwtwn Bach.’ Dro arall daeth Twmi     adref o’r Bont yn lled lawen. Wedi dyfod i’r tŷ dywedodd, ‘ Mam, yr oedd Ianto Williams wedi meddwl, ac wedi cysgu ar ben y Graig-wen heno, a phan dd’etho’ i heibio, yr oedd hwch y Graig-wen yn llyo’i wyneb, a Ianto yn mwmian wrtho’i hunan, “ Gwelwch chi shwd beth YW bod yn ffrind i’r merched-cusan eto, ‘merch i,” meddai Ianto.’

Cydiodd Twmi unwaith dan fraich un o brif gyfreithwyr ac un o brif feddygon Pont-y-pridd, gan fygwth eu rhoddi yn Llaw y gyfraith.  ‘Pam? ‘ meddent.  ‘Am eich bod yn gyffelyb i un lleidr pen ffordd,’ ebe Twmi     eich arian neu’ch bywyd! ‘

Priododd un o gyfeillion Twmi, ac yr oedd yn fawr ei awydd am gael priodasgerdd gan y bardd o Ben-wal.  Yn fuan trodd y briodas allan yn anhapus iawn, a daeth y cyfaill yn ôl i fyw ar aelwyd ei dad a’i fam, gan addunedu nad ymadawai drachefn, gan ei fod yn teimlo ei fod wedi aberthu ei hun a’i hapusrwydd wrth w-neud cartref newydd.  Gosododd Twmi bapur ar ddrws y tŷ un noswaith a’r geiriau hyn arno, - 

O when I think of what I ar

And what I used to was,

I find I’ve flung myself away

Without sufficient cos. 

Meddai mewn digrifwch wrth ryw un oedd wedi galw am arian dyledus iddo, 

Tri pheth anodd yn Llanwynno

Anodd iawn i neb eu dal,

Canddo’r Hafod heb fytheuaid,

Aur a meddwl Twm Ben-wal 

 =========================== (x200)  

Dywedir iddo unwaith dynnu amryw ddynion ynghyd at y Darren Ddu, ac yn eu plith Siôn Llwynmelyn a Rachel Rhys, i weled panasen (parsnip) oedd yn pwyso tua chan pwys, ac wedi i’r dorf ddyfod ynghyd at enau hen lefel y Darren, cafw d mai pwn asen o lo ydoedd.  Y mae yn debyg  fod ganddo ef neu ryw un o’i gydnabod asen yn cario glo i’w ,Werthu yn y Bont, &c.  Bu TWmi yn gweithio yn Ffrainc; y;r wyf yn meddwl iddo dreulio ysbaid Q amser ym mhlith y Ffrancod.  Y mae ar gael lythyrau a ysgrifennodd at hen gyfeillion yn y wlad hon yn ystod ei arhosiad yn Ffrainc.  Yr wyf yn adysgrifennu ac-yn cyfnewid tipyn ar un ohonynt, ac yn ei osod yma, am ei fod yn lled ddoniol ac yn nodweddiadol iawn o Twmi:- 

L GYFAILL   ‘-Caret wybod pa fath wlad yw Ffrainc. Wel, gwlad yn llifeirio-nid o laeth a mel, ond o ddwfr y cwteri mwyafdrewllyd a redodd dros biswal crioed.  Digon o bob peth i’w gael yma, yn enwedig o chwain.  Y maent yn hynod am eu maintioli. 
Y mient yn lladd llawer o honynt yn yr hotels, ac yn eu taflu aran nes llanw y cwteri a’u hysgerbyd. au! Yr oeddwn i yn arfer meddwl Twyn y Glog yn gnepyn o beth, nes y gwelais un o chwain Ffrainc!

Bolgwn cythreulig ydynt yma, hynny yw, y dynion wyf yn feddwl yn awr, nid y chwain. 
Ni wna bwyta hanner tynell o falwod ond awchu eu blas i lyneu tynell o ffrogod bob dydd i frecwast! Y mae yma amryw o fechgyn o Gymru, ac yn eu plith un o sir Aberteifi, ac y mae yn un o’r creaduriaid rhyfeddaf a welais erioed, -am gnoi dybaco, am gael yr hunllef (nightnzare), ac am absenoldeb meddwl.  Y mae yn lletya yn yr un tŷ a fi. Y mae bron tynnu fy stymog pan yn rhoi swinp torth chwech Dafydd Miles o dybaco yn ei safn bob nos wrth fyned i’r gwely 1 Y mae yn cael yr hunllef bob nos, ac yn gwaeddi fod Pontygwrdrwg wedi syrthio ar fys ei droed a’i Ianafu yn enbeidus iawn.’ Y mae mor absent-minded feI yr aeth rhyw fore i ferwi wy, a gosododd ei watch i ferwi a chadwodd yr wy yn ei law am haner awr 1 Ac wrth fyned i gysgu rhyw noson, yn lle tynu ei ddiliad oddiam dano, a’u gosod ar gefn y gader, gosododd hwynt yn y gwely a thaflodd ei hun dros gefn y gadair i hongian. O! ni welais y fath feddal-wy o ddyn er pan wrthodais laeth fy mam!

Pa bryd y deuaf yn ôl i Gyrnru nis gwn, ond ni fyddaf yma yn hir iawn y mae y chwain, y malwod, iaith y wlad, y bechgyn sir Aberteifi, bron tynu 

 =========================== (x201)  

‘nghalon i o nghorff!  Cofia fi at yr hen Graig Wen, a gwed wrth Dafydd BwllhyweI am ddysgu Ffrench i Shwan os yw am gadw gwaith i’w thafod.
Cofion o wlad y ffrogod, PENWAL. 

O.Y.-Mae bachgen sir Aberteifi wedi caci anhap; yn lle rhoi sprag yn wheel y truck rhoddodd ei fraich.  Y mae yn awr yn yr hospital a’i fraich yn Llaprau mfin, ac yn swrddanu yn nghylch Pontygwrdrwg.  Rhaid i ofalu am dano-Duw dalo am y fath lipraneiddiwch      P., 

Y mae o’m blaen yn awr yn ei lawysgrifen ei hun, feddyliaf, amryw ganeuon a gyfansoddodd ar wahanol achlysuron, megis ‘ CAn i’r gledrffordd fawr rhwng Havre a Paris yn Ffrainc,’ yn Gymraeg a Saesneg; ‘Cin o glod i Daniel Lewis am agoryd gwaith glo yng nghymydogaeth Gelligaer er llesoli yr ardal’     May’; ‘Yn y byd gorthrymder a gewch ‘; ‘ Y Wawr,’ cAn fuddugol yn un o Eisteddfodau y Groes-wen, I 844     Y Boreu      Anerchiad i Gymreigyddion y Maen Chwyf, pan ddychwelais yn ôl o’r America.’
Y mae y gan olaf hon yn dangos ymglymiad ei enaid wrth ei hen gartref, a chyfeillion, a golygfeydd bore oes.  Er ei anwadalwch i gyd, yr oedd ei enaid fel nodwydd y cwmpawd yn cyfeirio i’r un pwynt; yr oedd yn wlatgar ei fron; hoffai iaith ei wlad, a thelyn y bryniau, a beirdd ac awen Cymru. Dyma fel y dywed yn ei annerch i Gymreigyddion y maen Chwyf:- 

‘Gadewais estroniaid @r llon ym nihob lle,

Fel gwnaeth yr afradlon dychwelais i dre’,

Mae tiroedd Columbia yn uchel eu bri,

Ond Cymru fynyddig sydd annwyl gen’ i.

Gwlad enwog fy nheidiau, gwlad enaid y gfin,

A gwlad y prydyddion yn fawr ac yn fin;

Rhai gwych a’u meddyliau a’u doniau ar din;

Mi ddeuthum dros foroedd ar aden y gwynt,

Gan feddwl eich annerch a gofyn eich hynt,

A chadw rhyw gofion o’r hen amser gynt 

=========================== (x202)  

Mae’n hoff gan bob Cymro weld tiroedd ei wlad,

A gwenau cyfeiffion heb un rhith o frad;

Ond telyn y bryniau mor beraidd ei thant,

A wneiff y gŵr gweddus mor hapus 1 sant

A glin Gymreigyddion @r llon ym mhob He,

A cheinion aeg siriol beirdd campus y De,

Wna lonni’r pererin wrth ddod tua thre’,

 ‘Nol teithio dros foroedd ar aden y gwynt,

O dir y Gorllewin i ofyn eich hynt,

A chadw rhyw gofion o’r hen amser gynt.’ 

Y mae hyn oll yn dlws, tyner, a naturiol ddigon.  Diau fod y llinellau yn a-dlewyrchiad o’i deimladau wedi iddo gyrraedd yn ôl i Bont-y-pridd, neu efallai ar y ffordd yn ôl o dir pell y Gorllewin.  Nid oes ynddynt y nerth a’r miri, a’r doniolwch a allesid ddisgwyl yng ngwaith Twmi, ond dichon eu bod yn gydweddol â’r amser a’r amgylchiadau y cyfansoddwyd hwynt.  Yr oedd y pruddder sydd yn cyfodi oddi ar hen atgofion wedi llanw ei fynwes, ac wedi mygu am dro y tueddfryd llawen, ysgafn, a chrechwenus a oedd yn fynych yn nodweddiadol o Twmi; ond y mae pennill wedi ei ysgrifennu o dan y gAn uchod yn debyg iawn i Twmi.  Dyma fe:- 

Myfi ddymunais lawer gwaith
Pan oeddwn bell o dre’,
Ac yn flinedig ar fy nhaith,
Am gael fy newis le;
A chael mwyniant cusan llap
Gan feinir hardd ei llun,
A phrofi blas y cosyn cnap
Yn fy enwog wlad fy hun. 

Y mae y brawddegau ‘ cusan llap,’ a ‘ chosyn cnap,’ yn adnabyddus i bawb yn Llanwynno.  Ac ymhellach dywed ar y pen hwn

Mae moethau da mewn gwledydd peU,
A gwin ar ambell dro,
Ond y mae pethau llawer gwell
Yn fy ngenedigol fro; 

=========================== (x203)  

Dewisol fyddai dracht o faidd
Ar ddamwain-ambeu un,
Neu yntc glamp o fara haidd
Yn fy enwog wlad fy hun. 

Gellid meddwl ei fod yn teimlo parch i’r diweddar Thomas Richards (Cydidwg) o’r Felin Fach, a’i fod wedi dechrau gwneud chn iddo, ond iddo fethu cael amser i gario y cyfarchiad ymhellach nag un pennill, fel hyn:- 

Gorlifed eich awen fel ffrydiau grisialaidd,

Arferwch yn Uonber helaethder eich dawn,

A gweuwch yn gymen erddygan nefolaidd,

Doed ffrwyth eich m@dod i’r golwg yn llawn

Sylfaenwch gofadail ar fryniau Llanwynno,

Fo’n wir awenol i ddatgan eich clod,

Boed sôn am eich enw yn barchus gan Gymro,

A’ch gwaith yn blodcuo mewn oesoedd i ddod. 

Rhaid ymatal ar hyn, er y gallaswn ddyfynnu llawer pennill toddedig o waith Twmi, ond y mae hyn yn ddigon i roddi cipolwg i’r darllenydd ar ei awen sydd erbyn hyn wedi tewi er ys mwy na 35 mlynedd. 
Treuliodd ddiwedd ei oes yn Llantrisant.  Ai o gylch y wlad a bwndel o ‘de du da’ ar ei gefn i’w werthu.  Cyfansoddodd gAn i’r te; bu yn enwog, a chenid ac adroddid hi ar hyd a lled y wlad ys Llawer dydd-methais â’i  chael yn un man.  Er i Twmi dreulio blynyddoedd olaf ei fywyd a’i ddibennu hefyd yn Llantrisant, claddwyd ef yn ôl ei orchymyh ym mynwent Eglwys Wynno.  Nid oedd, meddai ryw dro, yn gweled sicrwydd yn un man y ceid gorffwys yn dawel otid wrth Eglwys Wynno; yno ni ddaw na gwaith glo na march tanllyd i aflonyddu neb, ac nid yw yn debyg y codir yno dref na dinas i yrru’r trigolion i sathru’r beddau nac i halogi llwch y preswylwyr.  Ni fydd yno tra fyddo amser yn parhau ond emyn-gerddi gwynt Cefn Gwyngul, yn suo pe gallent farw-genedlaethau y plwyf i gwsg dyfnach, yn ymyl yr hen Eglwys. 

=========================== (x204)  

Wel, huned Twmi yn esmwyth, ac fel y dywedodd yn ei, gin, ‘Yn y byd gorthrymder a gewch,’ bydded iddo, - 

Gorthrymder sy’n y byd,
A gofid ar bob llaw;
Doed diwedd arno i gyd
Mewn gwlad heb boen na braw

Pan ddelo terfyn oes
Duw I6r rho inni’r fraint
I fyw heb boen na loes
Mewn gwynfyd gyda’r saint. 

Ni all neb derfynu- taith yr anialwch hwn gyda pvell dymuniadau na’r rhai hyn o eiddo Twmi Ben-wal.  Lle iawn yw monwent Gwynno i orffwys yn dawel, lle na ddaw skn dyn na dwndwr y byd i flino neb.  Yr wyf finnau, weithiau, yn hiraethu am fod yn ei thywyllwch a’i thawelwch cysegredig, wedi gorffen y gwaith a’r daith. 

=========================== (x205)  

PENNOD XXVI
HELWYR Y GLOG
 

Y PENNAF o’r helwyr yn ddiamau ydyw y Sgwier o’r Glog. Y mae bob amser ar y blaen.  Er ei fod yn awr dipyn dros 70 mlwydd oed, mae yn edrych yn writgoch a chryf, ac mor Llawn o fywyd a hwyl helwriaethus
âg erioed.  Mor iach yw ei wedd, ac mor ieuanc yw ei ysbryd, mor fachgennaidd yw ei deimlad, pan fydd yn canlyn cŵn ar ôl y cadno, neu yn gwrando ystori yng nghylch helfa a ddigwyddodd ers llawer dydd.  Yn ddiau mae bod allan yn yr awyr agored, weithiau yn croesi twyni a phantau ar draed, bryd arall yn marchogaeth ei geffyl dros fynyddoedd, a chaeau y gwahanol blwyfydd lle y dilynir y llwynog kan Helgwn y Glog, wedi bod yn gyfrwng iechyd a nerth iddo ef.  Llawer ysgyfarnog a ddilynodd ef yn ei chylchoedd dyrys ar hyd meysydd Llanwynno yn ei fywyd.  Llawer cadno a godwyd ganddo ef a’i wŷr o’i genel yn nyrysgoed y Parc a Tharren-y-foel a mannau eraill, ac a ddilynwyd ganddo bant a thwyn o fore hyd hwyr, nes y clywid ei ‘wow-wb’ felys fel cloch marwolaeth y cadno a wnaeth ginio ar lawer g@ydd yn y plwyf. Byddai cael y brushes a dorrodd ef erioed gyda’i gilydd yn arddangosfa a fyddai yn sicr o wneud i’r helwyr ymgolli m ewn hwyliau helwriaethol.  Nid oes gyffelyb iddo ef am farn a gwybodaeth ar y maes gyda’r helgwn.  Gŵyr yn lled agos y cyfeiriad a gymer y cadno iddo’i hun, a pha f6dd i groesi ac adgroesi fel âg i fod yn agos i’r cŵn pan fyddo awr marwolaeth y cadno wedi ei oddiweddyd.  â phan fyddo ceffylau y rhan fwyaf o’r helwyr wedi blino, nid yw ei geffyl yntau nemor gwaeth; bydd ef wedi gofalu peidio 5, myned i dir drwg, na gyrru yn rhy chwyrn yn y mannau hynny sydd yn gyffredin yn difa nerth ceffylau a dynion nad oes ganddyrrl’ 

 =========================== (x206)  

far’n a gwybodaeth pa fodd i fyned.  Yr wyf yn cofio er yn blentyn am ei waedd nerthol, ei floedd orfoleddus, ei ‘wow’ gynhyrfus, ogleisiol i g@n a dynion.  Cydnabyddir yn gyffredinol nad oes neb yn fwy medrus nag ef i lonni y cŵn, ac annog dynion, cŵn, a cheffylau i fyned rhagddynt, gan lawenychu. yn wyneb rhwystrau, ac i ddilyn ymlaen hyd nes y gwobrwyir llafur yr helwyr gan gri orfoleddus yr helgwn; a dyweded dy@ion a fynnont, mae rhywbeth dylanwadol hynod yn y sŵn a ddaw oddi wrth agoriad cenel gyfan o gkn, pan fyddir mewn llawn hyder fod y cadno wedi gadael ei wAl, ac wedi prysuro i ffwrdd gan feddwl dianc a gadael pellter ffordd rhyngddo a’i elynion buan-draed.

I glust heliwr, nid oes na thelyn nac organ a all lanw a llwytho’r awelon â chystal miwsig, a phan fyddo’r heliwr yn adnabod llais pob ci, mae yn teimlo ei galon yn llamu fel wrth sŵn nodau gwahanol gerddoriaeth y genel, ac yna daw bloedd yr heliwr fel math o Amen gwresog, llesmeiriol i ddatgan ei gamnoliaeth i waith y cŵn, ac i godi calonnau y dilynwyr, i roddi vent i’w deimladau ei hun, ac i rybuddio y ‘ pryfyn garw’ fod perygl mewn bwyta ŵyn a gwyddau y plwyfolion.

Mae Tarren-y-foel wedi ateb ganwaith i floedd y Sgwier o’r Glog; ac o ran hynny, y mae holl fryniau a chreigydd Llanwynno wedi atseinio ei floeddiadau am lawer blwyddyn, ac ni thybiodd neb eu bod yn angherddorol.  Pan ddistawa ei floedd ef, nid oes llais yn Llanwynno a all ddeffro yr echoes yn gyffelyb iddo ef; ond gobeithiwn na ddistawa am dro eto. Yr wyf yn cofio llawer heliwr cadarn yn y Glog-y cyntaf oedd Rhys Edwards.  Dyn lled dal, tenau, a chyhyrog ydoedd ef; a bu am flynyddoedd yn brif heliwr y Glog; yr oedd y cŵn a Rhys yn hoff iawn o’i gilydd, ac am wn i nad oedd holl bryfed y wlad yn adnabod skn traed y Nimrod hwn.  Gwyddai hanes y cŵn ach ar ôl ach, a’u henwau a’u neilltuolion; yr oedd Rhys yn berchen opiniwn cryf o’r eiddo’i 

 =========================== (x207)  

hun ar bob peth, ac nid gwiw i neb ei groesi, yn enwedig os buasai unwaith yn poeri cryn ddysglaid o ffrwyth tybaco o’i safn, a sychu ei fin â’i  dri bys.  Yr oedd hynny yn arwydd sicr fod Rhys we i cyrrae d yr argument olaf, a bod yn well i’r rthwynebwr dewi.  Ys dywedai Ann ei wraig, ‘ Mae’r tri i 9w fyny-y mae ar ben.’ Pwy ŵyr pa faint a gerddodd Rhys yr heliwr? Pa sawl taith a wnaeth Rhys ar hyd ac ar draws plwyf Llanwynno? Buasai cael map o deithiau Rhys yn ddigon i ddyrysu ymennydd un daearyddwr; ond nid oedd y teithiau hirion trwy bob math o dywydd i Rhys, yn sŵn miwsig yr helgwn, ond math o holiday ysgafn, er yn ddiau iddo ddwyn llwyth o rheumatism arno’i hun, a ddrylliodd ei aelodau heinif ac a’i gwnaeth yn hen cyn pryd.  Ond ychydig a gafodd gymaint o fwynhad â Rhys er hynny; ac er iddo orfod rhoddi heibio ddilyn y ckn, eto parhaodd Rhys i hela hyd ddiwedd ei oes.  Os cAi ef gyfaill yn ymyl y pentan, mynnai helfa iawn yno, ac Ai dros ei helyntion helwriaethol gydag asbri a hwyl neilltuol; hyd yn oed ar ei gefn yn y gwely, mynnai bwten o helfa yn awr ac yn y man, hyd nes yn angau iddo golli golwg ar gŵn y Glog a thir ei hen Lanwynno annwyl, ond cafodd ddarn ohono yn wely i orffwys, lle na thorrir ar ei hun gan sŵn un helfa, na sangiad un heliwr, na chan ruad creulon gwyntoedd y Mynydd Gwyngul wrth garlamu heibio i9r hen Eglwys Wynno.

Y nesaf ar ôl Rhys ydoedd William Dafy4d, neii fel y gelwid ef gan rai, Bili D@ Huw.  Dyn tal, gwrol, a chadarn, hoff o hela, bid sicr, ond tawel ei ffordd ac araf ei ysgogiad’au. Nid oedd digon o’r tAn helwrol yn Bili i fod yn eithaf Nimrod yr oedd yn rhy sych ei deimlad, ac yn rhy ddifrifol ei wedd i fod yn heliwr.  Gellid meddwl ei fod yn cyflawni llofruddiaeth wrth ladd cadno, ac yn cyflawni trosedd yn erbyn y Goron wrth fyned ar ôl y geinach; ond ei ddull o ymddangos ydoedd hynnyynunig;nidoeddynddigonysgafn.  Yroeddyrarian byw yn lled brin yng nghyfansoddiad Bili.  Dichon ei fod 

=========================== (x208)  

rhy dal, ac yn rhy drwm ei aclodau i allu rhedeg yn llwyddiannus ar ôl y cadno weithiau, a’r gwta bryd arall.  Eto ystyrid Bili yn ddyn ffyddlon i’w ymrwymiadau, ac yn ofalus o eiddo ei feistriaid; ond credaf ei fod yn ateb yn well i lawer o bethau nag i swydd heliwr.  Gadawodd ef y gwaith o hela yn gymharol ieuanc, ond terfynodd ei oes o flaen Rhys.  Brodor o Donyrefail oedd Bili, ond fod Rhagluniaeth wedi ei arwain i wneud ei  ‘drigfan am dro rhwng bryniau Llanwynno. Ar ei ôl daeth Thomas Morgan, -Twmi, gwas y Glog. Heliwr hwylus oedd Twmi, yr oedd ganddo lais lled dda, a nerth i ddilyn y c@n; a hoffter at y gwaith.  Yr oedd tipyn o awen gan Twmi; gwnaeth lawer rhigwm lled ddoniol ar bynciau ysgafn a chellweirus yn y plwyf.  Bu yn heliwr y Glog am lawer o flynyddoedd; ac yn ei amser ef yr wyf yn cofio rhai o’r helfeydd gorau a gafwyd yn y plwyf, a rhai ohonynt erbyn hyn yn rhai hanesyddol.  Yr oedd Twmi yn hynod am faint ei droed.  Yr oedd ei droed yn hir anferthol, ac yr wyf yn cofio ei glywed yn adrodd unwaith ei fod yn teimlo yn falch fod ganddo y fath droed hir.  Yr oedd ckn a chathod lle neilltuol yn y plwyf wedi cael eu gwenwyno y naill ar ôl y llall, a meddylid mai Twmi oedd yn rhoddi’r gwenwyn i’r cŵn.  Un bore cafwyd ei lled werthfawr wedi marw ar y ffordd, ac yr oedd trwch o eira ar y ddaear, ac yn yr eira yr oedd llun traed dyn gerllaw y ci, ac yn ddiau perchen y traed hynny oedd wedi rhoddi gwenwyn i’r ci.  Dywedid mai Twmi ydoedd y dyn.  Aeth yntau ar ei union tua’r lle i fesur ei droed yn yr eira, a chafwyd prawf ar unwaith nad ef oedd perchen yr esgid a oedd wedi gadael ei hargraff yn yr eira yn ymyl corff marw y ci, oblegid erbyn mesur yr oedd troed Twmi agos mor hir ddwywaith i honno, ac meddai Twmi, ‘ Yr oeddwn yn teimlo yn ddiolchgar iawn am fy hanner llath o droed.’ Priododd Twmi â Siened, merch Siôn William, o’r Cribyn-du, yn 

 =========================== (x209)  

gyntaf; ac yn ail i Margaret o’r Graig, buont yn byw am dro yn Llys-nant; ond huno y mae Twmi yn ddigon tawel ymhlith hen breswylwyr Llanwynno, yn y fynwent lle y mae llawer o’i gyndadau yn gorffwys, oblegid un o wŷr Llanwynno ydoedd ef a’i deulu oll.

Ar ôl Twmi daeth John John, neu Siôii Ben-rhiNv, yn Heliwr i’r Glog.  Yr wyf yn cofio yn well am ‘wow hela’ Siôn nag am un o’r lleill.  Llawer brig noson y clywais lais Siôn yn dyfod gyda’r awel, yn ‘ crynhoi’r cŵn y nos yn y blaen,’ chwedl pobl y plwyf.  Yr oeddem ni yn blant yn meddwl nad oedd ail i’w gael i Siôn.  Bryd arall yn y bore gyda thoriad y wawr, clywid llais Siôn yn cyffro’r awelon, wrth alw ar Tru@ y Felin, Tapster yr Ynys, Frolic y Mynachdy, Windsor Nantyrhysfa, Childer Ffynnon-dwym, a Lovely Buarthcapel, i ddyfod allan gydag ef i’r frwydr.  Yr oedd ei wow’ gerddorol a s@n yr helgwn perleisiol yn treiddio trwy ganol y plwyf, ac yn deffro’r gweision a’r morynion trwy r lle, ac yn difyrru’r plant nes, yn eu golwg hwy, yr oedd Siôn yn arwr mawr, ac yr oedd hwyl ar hela pan fuasai y ddau John gyda’i gilydd, -John o Lety Turner oedd y llall.  Mae ef yn ei fedd, ond y mae John John yn fyw ac yn iach eto, yn dilyn ei ddefaid ac yn gwylied natur yn ei phrydferthwch ar ochr Llanfabon ac Eglwysllan, ar lethrau prydferth Cwmael-deg.

Edward Nicholas oedd ei ddilynydd ef yn y swydd.  Nid oedd Edward yn enedigol o’r plwyf, ond daeth i’r lle yn lle ieuanc o’r Fro.  Bachgen cryf, heinif, oedd Edward.  Nid oedd taith diwrnod gyda’r cŵn yn effeithio nemor arno ef. Gallai redeg a ‘ eiddi, a brasgarhu dros berthi a chloddiau 9w

O fore hyd nos, heb fod ddim gwaeth.  Yr oedd ei iechyd mor dda, ei hoffter o’r gwaith mor fawr, a’i ymroddiad i gyflawni swydd heliwr yn deilwng, yn gyfryw
âg a wnhi i Edward fod yn barod i gychwyn i’r helfa hanner nos fel hanner dydd; ac nid oedd wahania       d pa un ai ar eth gan Edwar 0 

=========================== (x210)  

Dwyn-y-glog neu ar Darren-y-foel gyda’r cŵn, neu yn y Colliers’ gyda’i beint yr oedd, byddai y ‘wow’ fawr yn rhwym o ddod allan i ddangos ei frwdanrwydd a’i sôl fel olynydd teilwng i Nimrod.  Yr wyf bron yn sicr pe cawn gyfarfod
âg Edward yn awr, ac adrodd hanes rhai o’r helwriaethau a fu yn Llanwynno iddo, y byddai cyn pen pum munud ar ei draed fel bachgen, yn gweiddi y’ wow’ helwrol honno a glywais gannoedd o droeon.  Am frwdanrwydd natur, am hoffter at y gwaith o ddilyn y c@n, a dal cadno, -am gael cwmni llawen, a gweiddi ‘gwarc’ y ei hwn a’r ei arall, nid oes neb cyffelyb i Edward Nicholas.  Mae nefoedd bore ei oes wedi ei threulio gyda helgwn Llanwynno, ac nid yw yn debyg y bydd Paradwys iddo ef i’w chael oddieithr fod yno genel o gwn a lleisiau melysion, a digon o le i weiddi gyda nhw fel na chysgo calonnau y creigiau am filitiroedd o gwmpas.  Y mae Edward yn mwynhau y cerdded caled, a gweiddi mawr, a’r ddalfa yn y diwedd, y naill fel y llall. Ond nid yw ef yn llanw swydd heliwr yn awr; gwneir hynny gan Lloyd Jones.  Mae yntau yn hoff o’r gwaith, wedi ei eni yn heliwr, ac yn dra llwyddiannus gyda’r gwaith, a phan ddaw yr amser i ysgrifennu ei hanes fel Heliwr y Glog, diau y gellir dywedyd na fu yn ôl i’r un ohonynt mewn gallu, ffyddlondeb, a sôl.

Heblaw yr helwyr cyflogedig hyn, yr oedd amryw eraill yn dilyn y cŵn bob wythnos oddi ar eu hoffter ohonynt a’r sbort o hela.  Un ohonynt oedd William Rosser, mab hen Rosser y gweddiwr; dyn bychan, sarrug, a lled hyll ei olwg ydoedd ef, hoff iawn o helfa, a chinio a pheint.  Nid yw yn debyg i William wneuthur gorchwyl o waith erioed o fodd ei galon; ond cerddai dros y byd gyda’r helgwn, ac yn eu cwmni ni fuasai croesi’r pegynau ond gwaith hyfryd i William.  Yr oedd yn gerddwr da iawn; byddai bob amser yn cerdded ar ôl y cŵn yn ei ddeublyg, yn crynhoi ei hun fel pelen i le mor fychan
âg y byddai modd, fel na byddai 

=========================== (x211)  

gan yr awyr lawer o afael arno i’w atal i fyned ymlaen yn y modd cyflymaf; ac wrth fod yn lled agos i’r ddaear yr oedd yn clywed s@n lleisiau yr helgwn pan fyddai wedi colli ei olwg arnynt.  Gwelais ef yn gorwedd ac yn rhoddi ei glust wrth y llawr, ac felly yn cael allan gyfeiriad y cŵn pan na fuasai gan eraill amcan yn y byd ym mha gyfeiriad yr oeddynt. Pa fodd y dysgodd William philosophi y pethau hyn, nis gwn; Natur, ond odid, fu ei athrawes ef; yr oedd yn heliwr o groth ei fam, ac er na enillodd ef erioed lawer o arian, diau iddo ennill cwsg melys lawer tro, a phrofiad o hyfrydwch y meysydd a golygfeydd anian, yr hyn sydd yn fwy na llonaid tŷ o aur heb allu i werthfawrogi prydferthwch y by4 anianyddol.

Ni fu William fyw yn hen, druan, er ei holl ymarferiadau yn yr awyr agored; er mor beraidd yn ei glustiau oedd melys- helgwn ar ôl y cadno, ni chafodd fyw i’w dilyn gwedi gri yr dyddiau canol oes.  Pe buasai rhywbeth i’w gael i ddiddanu William yn ei drallodau, gwaedd helgi fuasai hwnnw, y beroriaeth dyneraf a glywodd erioed! Ond hunodd Wil Rosser, a chollodd bob sŵn- 

Pan gollodd y caeau a phersain y cŵn

Rhowch garreg i’w goffa, a hyn arni i,

 ‘Dyma elyn pob cadno, a chyfaiu pob ci.’ 

Anfynych y gwelid helfa fawr na fyddai Lodwig ynddi. Yr oedd ef yn ddyn mawr, nerthol, llawn o -anianawd yr heliwr; ei hoff waith oedd casglu helgwn Pont-y-pridd a’u dwyn tua’r Glog yn barod i’r gwaith.  Brawd oedd Lodwig i Richard Evans, o Bont Rhondda, plwyf Ystradyfodwg, ond treuliodd ran fawr o’i fywyd ym Mhont-y-pridd; ac mewn Llawer o ganiadau o glod i Helgwn Llanwynno gwelid enw Lodwig ymysg prif helwyr y plwyf. Dichon na fu erioed ddyn mwy hoff o ddiwrnod o hela na’r diweddar fardd Meudwy Glan Elii.  Yr oedd ef mor llawn 

=========================== (x212)  

o natur, ac mor hoff o rodio ar hyd y glas-dwyni a’r dyffrynnoedd i fwynhau yr awyr agored, ac i syllu ar harddwch anian, fel yn ddiau nad oedd cri yr helgi a bloedd yr heliwr ond fel clychau yn ei alw allan i deml fawr natur i offrymu ac i addoli yn wyneb haul llygad goleuni.  Dywedir fod y Meudwy mewn Eisteddfod unwaith, pan oedd y diweddar loan Emlyn yn darllen ei feirniadaeth ar ryw destun, ac yn cyhoeddi Meudwy Glan Elii yn orau; wedi cael ei alw aeth yntau i’r esgynlawr, ond cyn iddo dderbyn yr ysnoden a’r arian, dyna’r helgwn a’r helwyr yn myned heibio, a phob arwyddion oddi wrth gri y cŵn a bloeddiadau yr helwyr fod Reynard ar ei draed, ac yn ffoi am ei einioes heb fawr o flaen ar y cŵn; anghofiodd y Meudwy ei wobr, cydiodd yn ei het, a ffwrdd
âg ef nerth ei draed ar ôl y cŵn, a hela y bu tan y noswaith honno, pan drodd yn ôl i edrych am ysnoden Eisteddfod y Betws a’r wobr oedd gyda hi.

Llawer cAn hwylus a wnaeth ef i orchestion helgwn Llanwynno, a llawer cyfarfod gwlithog a gafwyd wrth eu canu, a gwelais lawer o goili dagrau pan ganai ei gAn dyner i Beauty’r Lan.  Cyhoeddodd ef gyfrol fechan o farddoniaeth lawer o flynyddoedd yn ôl, dan yr enw Pertlan Gu)yno.  Un o feibion anian ydoedd ef.

Yn ddiau, yr oedd y rhai hyn oll yn ddilynwyr natur. Yr,oeddynt yn helwyr, nid oddi ar deimlad cas, cigyddlyd, neu anifellaidd, ond oddi ar hoffter o anian. Nis gallai neb gerdded dros fryniau Llanwynno, a rhodio ymhlith ei hamrywiaethau, heb yfed yn helaeth o ysbryd Barddoniaeth; er nad oedd yr ysbryd hwnnw yn torri allan mewn llinellau a rhigymau, eto mynnai ddangos ei hun yn yr awydd i fyned dros y twyni uchel i’r pantau isel i weled golygfeydd y wlad, ac i weled yr helgwn yn dolennu ac ymddolennu ar ôl y pryfed yn ôl y reddf gref a roddes Awdwr bodolaeth yn eu natur hwynt. 

 =========================== (x213)  

PENNOD XXVII
EGLWYS WYNNO
 

NID oes odid un o’r penodau hyn heb ryw gyfeiriad neu’i gilydd at Eglwys Wynno ynddi.  Nis gellid ysgrifennu hanes y plwyf heb wneud cyfeiriadau mynych at yr hen Lan a’i monwent fawr a’i thorf aruthrol o feirwon.  Yma mae y plwyfolion yn cydgyfarfod ar ddiwedd eu taith trwy’r byd yma y gorweddant yn dawel a diymryson, a phob gwahaniaeth a fu rhyngddynt yn eu bywyd wedi ei lwyr ddileu; yma y mae perthynasau ac anwyliaid y plwyfolion yn gorwedd, ‘ lle ni chlywir dim o s@n gofidiau’r byd ‘; yma y cyrcha’r byw i ofalu am wely marw, i addurno y maen coffa â llythrennau teg, a r bedd â blodau a thaclusrwydd; yma y deuant yn awr a phryd arall i’r Gwasanaeth Dwyfol, ac i rodio ym mhlith y beddau, ar lwch marwolion yr oesau yn y plwyf, ac i feddwl rhyw ychydig am yr adeg sydd yn prysur ddyfod, pan fyddant hwythau yn cael eu dwyn at eu tadau i huno yn ddigyffro, wedi peidio â gofalu am helyntion y bywyd hwn, ac i ddisgwyl am gwblhad prynedigaeth y corff.

Soniais o’r blaen am Brynffynnon,_neu dafarndy Eglwys Wynno, ac iddo gael ei adelladu gan job Morgan.  Nid oedd er ys tro yn ôl ond y tŷ hwn a th@ Tomos Morgan yn agos i’r Eglwys.  Anodd iawn fuasai cael lle mwy- unig nag Eglwys Wynno.  Nid oedd ond tŷ bychan Nani wrth yr Eglwys, wedi hynny a alwyd yn D@ Tomos Morgan, a Bryn.;. ffynnon o fewn milltir i’r Llan.  Lle unig, pruddglwyfus’ ydoedd; byw ymhlith y meirw yr oedd yr ychydig breswylwyr oedd yno.  Sŵn marwolaeth oedd gan bob peth o gylch. Adfywiodd dipyn pan gododd job dafarndy Brynffynnon. Wedi hynny, codwyd yno dafarndy arall o’r enw Brynsychnant, ac felly o’r tri th@ gerllaw yr Eglwys, yr oedd dau yn., 

 =========================== (x214)  

dafarndai; ac yn fynych ar ddydd angladd, pan fyddai yr hin yn wlyb ac ystormus, yr oedd yn dda ddigon cael lle i fyned i Brynffynnon a Brynsychnant i ymdwymo.  Erbyn hyn mae Brynsychnant wedi ei droi yn coffee tavern, a gall y rhai sy’n dewis te neu goffi yn hytrach na chwrw a gwirod poethion, droi yno a chael yr hyn a hoffant. Y mae hen dŷ Tomos Morgan wedi ei dynnu i lawr; yr oedd yn 4digon agos i’r llawr erioed o ran hynny, a chariodd ar ei gefn lwyth anferth o wellt i gadw cynhesrwydd a diddosrwydd i’r hen breswylwyr.  Y mae Tomos Morgan a Mari wedi cael eu ‘tŷ o hir gartref’ yn y fonwent gerllaw; ond barnodd Mr. Williams, o’r Glog, fod yn bryd rhyddhau yr hen dŷ o’i faich trwm o goed a chlai, a gwellt, ac felly tynnwyd ef i lawr, a chodwyd yn ei le dŷ newydd, cryno, a thaclus, ac yno y preswylia Tomos Morgan, ieuengaf. Y mae yntau, yr hen Brynffynnon, wedi cael ei ysgubo ymaith: y mae pob peth yn newydd yma ond yr Eglwys. Yn lle y tŷ bychan, a’i furiau gwynion yn ymgysgodi dan Darrenyreglwys, a’i arwydd ar ei dalcen, heb fod lawer yn rhy uchel i un ei gyrraedd oddi ar y llawr, mae yno yn awr hotel newydd, deilwng o un o ystrydoedd Caerdydd.  Y mae Mr. Jenkins, fel olynydd teilwng i’w dad, wedi gwneud gwelliannau mawrion yn y lle; nid anturiaeth fechan oedd codi tŷ mawr yn y fath le, ac y mae y tŷ wedi ei adelladu yn odidog. Cododd Edward, y meiswn, gofadail dda iddo ei hun wrth adelladu y tŷ hwn, a chedwir enw Thomas Hughes yn fyw yn hir gan y gwaith saer ardderchog sydd yn yr adellad.  Y mae yn dŷ helaeth, yr ystafelloedd eang wedi eu dodrefnu yn wych, a byddai yn dreat i ddynion o’r cymoedd a’r trefydd fyned i aros wythnos yn yr hotel wech hon; caent fwynhau awyr bur Gwyngul, a gweled golygfeydd prydferth y cefndir hwn, a byddai lawer yn fwy o amheuthun na myned i Lan. wrtyd neu Landrindod. 

=========================== (x215)  

Byddai hwn yn lle da i gynnal Eisteddfod.  Yr wyf yn cofio Eisteddfod iawn yn cael ei chynnal yn yr ystafell fawr a godwyd wrth yr hen Brynffynnon.  Nid wyf yn sicr ym mha flwyddyn y cynhahwyd hi, ond yr oedd naill ai yn niwedd y flwyddyn i868 neu ddechrau y flwyddyn i869.  Y diweddar David Edwards, Ysw., o Gilfach-glyd, ydoedd y cadeirydd, a’r diweddar dalentog fardd Meudwy Glan Elii oedd beirniad y farddoniaeth; yr wyf yn meddwl yn sicr mai Mr. Mills, o Bont-y-pridd, oedd beirniad y canu.  Yn yr Eisteddfod hon yr enillodd Dafydd Morgannwg ar englyn-Y Gloch, ac yr wyf braidd yn meddwl ei bod fyth yn aros ar fy nghof, oblegid myfi a’i darllenodd yn yr Eisteddfod, am fy mod yn cynrychioli Dafydd yno.  Rhoddwch weled yn awr pa sut y mae, - 

Offeryn sciniol a pharod-yw’r gloch
I’r glust traetha’i phennod;
Ding, ding, dewch, mae’n amser dod,
Yw iaith ddifyr ei thafod. 

Dafydd Morgannwg a enillodd y wobr am yr englynion gorau i Eglwys Wynno, yn yr un Eisteddfod.  Minnau a enillodd y wobr a gynigiwyd yno am y traethawd gorau ar ‘Ddosbarthiad athronyddol o wah@nol enwau Plwyf Llanwyno.’
Dyna y tro cyntaf i mi gael fy nghadeirio.  Hysbysodd y cadeirydd mai hon ydoedd y brif wobr, ac y cAi enillydd y wobr yr anrhydedd o eistedd yng- nghadair y llywydd hyd ddiwedd yr Eisteddfod.  Cafwyd yno Eisteddfod lewyrchus.

Cynhahwyd Eisteddfodau yno yn hir cyn hon, yn amser Job Morgan; ac ymhlith y beirdd a fynychai’r lle yr a honno, yr oedd y diweddar Alaw Goch.  Yn awr, wedi adeiladu hotel mor eang a chyfleus ger Ffynnon a Llan Gwynno, dylid cael Eisteddfod anrhydeddus yno cyn bo hir.  Bydd yn dda gennyf ddyfod i gymryd rhan ynddi. 

 =========================== (x216)  

Yn awr, rhaid i mi gymryd y darllenydd yn ôl am gryn lawer o flynyddoedd,  at amgylchiad lled hynod yngl@n ag )Eglwys Wynno.  Pa faint o flynyddoedd sydd yn rhaid inni deithio nid anturiaf ddy-wedyd-cant a hanner, neu fe ddichon ddau gant o flynyddoedd: nid oes neb wedi cofnodi hanes y plwyf yn fanwl.  Traddodiad unffurf y plwyf sydd wedi cadw yn fyw lawer o bethau yr wyf fi yn ymgymryd A’u gosod ar ffurf hanesiaeth.  Buasai yn dda gennyf pe buasai yr offeiriad, neu rai o’r trigolion, wedi gwneud nodiant yn rhai o lyfrau yr Eglwys am yr amgylchiad yr wyf yn myned i sôn amdano, ynghyd
âg amgylchiadau eraill a ddigwyddodd yn y plwyf, ond nid wyf wedi dyfod ar draws na nod nad chofeb yn llyfrau y plwyf mewn perthynas i’r peth hwn. Y mae traddodiad yn dywedyd i gloch yr Eglwys, a llestri y Cymun Bendigaid, a lliain bwrdd yr allor, a chlustog y pulpud gael eu lladrata.  Bfim yn siarad a llawer o’r hen drigolion, ac yr oeddynt oll yn adrodd pethau lled gyffelyb ynghylch lladrad cloch Eglwys Wynno.  Tynnwyd y gloch i lawr ryw noson, a chuddiwyd hi ar y mynydd yn agos i Flaen Ffrwd, ac hyd heddiw Ffos-y-gloch y gelwir yr ysmotyn hwnnw.  Nid oedd yn gyfleus i’r lladron gymryd y gloch ymaith y noson honno, ac felly claddwyd hi ym mawndir Blaen Ffrwd, hyd nes y caffent amser cyfaddas i’w dwyn hi ymaith. Ym mhen rhyw ysbaid o amser, daeth y lladron i gyrchu hen gloch y Llan, a’i chyfodi o’i bedd mawnog.  Gosodwyd hi ar y car oedd ganddynt at y pwrpas, a chychwynnwyd i ffwrdd o dan fantell y tywyllwch.  Pan oeddynt yn rhydio afon’Clydach wrth y lle a elwid Cwmclydach, siglwyd y car yn lled drwsgl, a symudodd tafod y gloch, a thrawodd donc yng nghanol yr afon.  Bu hynny yn foddion i ddwyn y lladron i’r ddalfa.  Yn fore drannoeth taenwyd y sôn am donc y gloch yn rhyd yr afon, a chyfododd cwnstebli y plwyf ac ymaith A hwy trwy y Cwm, i Mountain Ash, ac heibio i Gefnpennar, dros fynydd Merthyr i Gwmcannaid, ac yno daethant ar 

 =========================== (x217)  

warthaf y lladron a’r gloch ar y car.  Rhyd-y-car y gelwir y lie hwnnw fyth, a Rhyd-y-gloch y gelwir Rhyd Cwm Clydach oddi ar donciad y gloch ynddi yn nhywyllwch y nos honno, pan ddygid hi ymaith ar gar bychan y lladron. Y mae yn amlwg fod yr amgylchiad hwn wedi gadael argraff ddofn ar feddyliau pobl y plwy, oblegid adroddai yr hen bobl yr helynt gyda bywiogrwydd mawr, ac mae y traddodiad wedi dyfod i lawr o genhedlaeth i genhedlaeth, ac wedi cael ei gadw gyda ffyddlondeb mawr; ac er nad oedd neb o’r hen bobl wedi ei ysgrifennu mewn llyfrau, eto ysgrifennwyd ef ar ddalennau llyfr natur, oblegid y mae y traddodiad yn cael ei wirio gan enwau tri o leoedd, -Ffos-y-gloch, Rhyd-y-gloch, a Rhyd-y-car.  Y mae dwy gloch yng nghlochdy Eglwys Wynno, ond pa un ai wedi neu cyn yr amgylchiad hwn y gosodwyd y gloch arall nid wyf yn gwybod. Un gloch a ladratwyd, ac nid oes sôn am gloch arall yngl@n A’r helynt.  Nid yw y traddodiad yn sôn dim fod llestri y cymun, a lliain bwrdd yr allor, a’r glustog wedi eu cael yn ôl. Nid yw yn debyg fod dim ond y gloch wedi dyfod yn ôl o grafangau y lladron. 
Y mae yr hanes yn un lled hynod. Nid wyf yn cofio yn awr i mi glywed sôn yn un man fod neb wedi lladrata cloch Eglwys yn y modd hwn.  Yn yr hen amser ystyrid y gloch yn beth cysegredig iawn, ac hefyd meddylid ei bod yn offeryn buddiol a gwasanaethgar i gadw Satan draw, a’i luddias i ymosod ar yr Eglwys a’i haelodau. Yr oedd Merthyr Tydfil yn lled enwog am ddrygioni tua r adeg hon, oblegid yr oedd y lle hwnnw yn dechrau cynyddu mewn cyfoeth a phoblogaeth yr amser hwnnw, ac yr oeddyiit yn ddigon hy i beidio âg ofni y gloch a yrrai ddychlryn trwy galon y diafol ei hun.  Ond goddiweddwyd hwythau gan ddychryn pan gydiodd bechgyn Llanwynno yn eu gwarrau celyd wrth Ryd-y-car 1 Yr oedd sefyllfa unig yr Eglwys yn y mynydd-dir anghysbell hwn, neb na th@ na thwlc gerllaw

=========================== (x218)  

 ond tŷ bychan y clochydd, yn fanteisiol i weithred fel hon gael ei chario allan yn oriau y nos. Diau fod llawer o feddau wedi eu hagor a’u chwilio, a’u hysbeilio hefyd yn yr hen amseroedd.  Ac nid rhyfedd hynny ychwaith, oblegid yr oedd yr arferiad o gladdu y meirw mewn gwisgoedd drudion a modrwyau gwerthfawr ar eu bysedd, yn biofedigaeth i lawer.  Ymddengys i mi yn rhyfyg ac ynfydrwydd addurno corff marw â modrwyau a gemau, a chlustdlysau with ei roddi heibio i falurio yng ngro y fynwent. Mae yr arferiad wedi peri fod llwch y marw yn cael ei aflonyddu yn fynych, a’r cartref hwnnw na ddylid torri ei ddistawrwydd wedi ei halogi gan ddwylo a thraed ysbeilwyr beddau. Ymddengys fod y ffermdy agosaf i’r Eglwys yn hen iawn, ac yn dwyn perthynas agos i’r Llan.  Daer Wynno y gelwid y lle. 
Paham Daerwynno, ‘wys? Ai yma’r oedd Gwynno yn byw mewn math o ymneilltuedd? Ac a adawodd ef y lle ar ei ôl i gynorthwyo’r Eglwys a thlodion y plwyf? Rhaid mai anaml iawn oedd trigolion y plwyf yn yr amser y codwyd Llanwynno, a Daerwynno hefyd, ac am flynyddoedd lawer wedi hynny.  Nid oedd Pont-y-pridd wedi dechrau ymrithio.  Nid oedd un brudiwr wedi darogan cyfodiad Mountain Ash, nid oedd ond tŷ neu ddau ar Ynysfeurig neu ar Aberdare junction.  Nid oedd ond ychydig o drigolion yng Nghwm Rhondda o’r Aber hyd Flaenllechau.  Er fod y plwyf yn eang, nis gallai fod ynddo ond poblogaeth denau iawn hyd y ganrif ddiwethaf hon.  Nid oes yn fy meddiant yn awr yr un map cynnar o’r plwyf, na chyfrif o fath yn y byd amdano cyn y flwyddyn 1838- Mesurai y plwyf y pryd hwnnw mewn erwau 13,013- Y mae yn hynod fod ffyrdd cyhoeddus y plwyf y flwyddyn uchod yn cuddio 84 erw o dir, ac afonydd y plwyf yn cuddio 123 erw o dir.  Y mae poblogaeth bresennol y plwyf yn rhifo i8,653-wedi cynyddu 7,230 mewn deng mlynedd. 

 =========================== (x219)  

Ar fy ymweliad diwethaf A’m hen gartref mi a edrychais dros register y plwyf, ac olrheiniais enwau amryw o’r teuluoe hynaf a mwyaf adnabyddus ynddo.  Ym mhlith yr hynaf y mae teulu yr Howeliaid, a gellais ddilyn yr enwau o’r amser presennol hyd ddiwedd y I5fed ganrif.  Pe buasai y llyfrau yn estyn at ddyddiad pellach, diau y gallaswn ddilyn y teulu ymhellach.  Dyma rai a godais o’r register 

73I.  Evanius filius Richard Howel, baptized.

1732.   jennet filius Evan David Howel, bapt.

1739.   Ann, daughter of Morgan Howel, bapt.

1737.   David, son of Evan David Howel.

1742.   Evan David Howel was buried.

1797.   William Thomas Howel and jennet John were married in the Parish Church on the ‘7th day of June, in the presence of Water Herbert and Evan Howel.

Y rhai olaf hyn oedd fy nhad-cu a’m mam-gu, neu fel y dywedwn     yn y gogledd, fy nhaid a’m nain, tad a mam fy nhad; priodasant, ac aethant i fy-w i’r Cwtch, ac yno, fel dengys y registers y bedyddiwyd amryw o’r plant.  Cawsant ddeuddeg o blant i fendithio’r uniad.  Claddwyd yr hynaf, Tomos Howel, er ys llawer o flynyddoedd, a’i ail fab, William Thomas, er ys ychydig fisoedd yn ôl o Abercwmboy, ger Mountain Ash, yn 86 mlwydd oed. O’r deuddeg nid oes yn fyw ond tri, sef John Thomas, fy nhad; Evan Thomas, a Jane Evans eu chwaer, o Felin Gaeach, plwyf Llanfabon. Er fod y plant wedi eu geni o undad, unfam, dewisodd rhai ohonynt alw eu hunain yn Howel a’r lleill yn T omas. Howel mewn gwirionedd yw yr enw priodol a chywir.. - Nid wyf wedi dyfod ar draws enw un bardd yn y plwyf oddieithr beirdd enwog y tribannau; rhoddaf eu hanes cyn gorffen y llithiau hyn.  Ond rhaid fod englynwyr yn byw yn y plwyf, oblegid yma a thraw ar furiau yr Eglwys ac ar y cerrig beddau cawn englynion lled dda, rhai ohonynt wedi eu cyfansoddi er ys mwy na chan mlynedd.  Dyma goffadwriaeth

 =========================== (x220)  

a godais oddi ar faen glas ar fur gogleddol yr Eglwys oddi mewn:- 

Thomas, son of Morgan Thomas, who died 7th of March, 1759, aged 17,

Mary, daughter of the said Morgan Thomas, I 759, aged i 5.

Gwel i’cnctyd hyfiyd dan hon-yn gorwedd

Mewn gerwin lwch eigion;

Dod law trwy fraw ar dy fron,

Ystyria mewn naws dirion.

Dyma ddrych, edrych pob oedran-ryw ddydd

A ddaw i’r un gyfran;

Rhag ing nid oes angor gyngan

Dwys rhoid ond Duw Iesu’n rhan.

Mae’r byd a’r bywyd ar baII, -bron darfod

Ar derfyn tra diball;

Dewis dy ran gyfran gall

Dirion mewn bywyd arall.

Pwy oedd y bardd? Nid yw yr englynion yn annhebyg i waith Edward Evan, neu ei fab Rhys Evans, o’r Ton-coch, Ceffipennar; ond nis gallasai Rhys fod yn awdwr iddynt, yr oedd yn rhy ieuanc, os oedd wedi ei eni yn yr amser hwnnw. Dichon mai ei dad a’u gwnaeth, ac yr wyf yn tueddu i feddwl mai un o wŷr y Fforest oedd Morgan Thomas, tad y plant y canodd y bardd dienw hwn ar eu hôl.  Fodd bynnag, ysgrifennwyd hwynt yn nheyrnasiad George yr Ail; ac yn y flwyddyn yr agorwyd yr Amgueddfa Brydeinig.  Saith mlynedd yn flaenorol i hyn y pasiwyd y bil gan y Llywodraeth yn gorchymyn rheoli y calendr yn ôl cyfrifiad Gregoraidd yn lle un Julian.

Un flynedd ar ddeg cyn i’r bardd cistedd i ysgrifennu’r englynion hyn, dioddefodd Prydain Fawr newyn trwm.  Pa wedd yr ymdrawodd Llanwynno a’r cymydogaethau yn y newyn hwn? Dichon y caf sylwi ar hyn o dan bennawd arall. 
Yr oedd Edward Evan, bardd Ton-coch, yn ei flodau yr amser hwnnw, ‘feddyliaf.  Bu y brenin Siôr yr Ail farw 

=========================== (x221)  

 ym mhen blwyddyn wedi i’r bardd hwn englynu ar ôl plant Morgan Thomas.  Yr oedd y frenhines, priod y brenin Siôr, wedi marw yn yr un flwyddyn
âg y bu farw Guto Nyth-brAn. Ychydig o ddiddordeb a gymerai trigolion plwyf Llanwynno mewn dim y tu allan i’r plwyf yr amser hwnnw. Ychydig a wyddent am Pitt a’i Weinyddiaeth, ac iddo ef yn yr amser hwn gael ei wneud yn Arglwydd Chatham; ac nid oes sôn fod un o feirdd Llanwynno wedi canu triban nac englyn ar farwolaeth y Cadfridog Wolfe, yr hwn a laddwyd wrth ennill brwydr Quebec, yn yr un flwyddyn âg y tynnwyd allan awen y bardd hwn i ganu tri englyn beddargraff plant Morgan Thomas-’ 759.  Er i mi ddweud na ddeuthum ar draws enw un bardd yn y plwyf, eto teg yw coffa fod llawer yn meddwl fod mynachod y plwyf wedi arfer cryn dipyn ar eu hawen.  Yr oedd y mynachod yn fynych yn feirdd; yn wir, hwy oedd brif ddysgawdwyr y wlad.  Yr oeddynt yn wyddonwyr, yn athronwyr, yn ddiwinyddion, ac yn feirdd.  Yr oedd Tudur Aled yn brifardd ei ddydd-mynac ydoedd ef; yr oedd Guto’r Glyn hefyd yn perthyn i’r urdd fynachaidd, ac yr oedd Llawdden yn offeiriad Pabaidd. Ac yr oedd y plwyfydd lle yr oedd y mynachdai wedi eu sefydlu, yn gyffredin yn y blaen mewn gwybodaeth.  Meddylid fod pob plwyf yr oedd myffachdy ynddo yn enwog am awenyddiaeth, am ddysgeidiaeth, ac am ofergoeliaeth -, y mae ysbrydion y wlad, a bwciod y cymoedd a’r unig-leoedd, yma oddi ar adeg y mynachod; yr oedd      y pethau hyn yn gymorth iddynt i lywodraethu y werin bobl: meistr lled effeithiol yw ofn, ac o bob ofn, ofn ysbryd a chythraul yw y mwyaf gormesol a chaethwasiol ei effeithiau.  Ond y mae wedi cael ei ddal a’i gredu trwy yr oesoedd fod yr awen wedi byw yn Llanwynno er amser y mynachod, a’u bod hwy wedi rhoddi cefnogaeth a meithriniad da iddi.  Dyna ydyw Rais traddodiad, ac yn gyffredin, y mae gwirionedd yn sylfaen i draddodiadau y wlad; y mae llawer o linellau barddon’bl ar 

=========================== (x222)  

lafar y plwyf hwn nad oes modd cyfrif amdanynt oddieithr i ni eu priodoli i fynachod y plwyf; y maent yn rhy glasurol i fod yn ciddo i ddynion cyffredin, ac yn rhy leol eu cyfeiriadau i fod yn eiddo neb ond preswylwyr y plwyf.  Diau fod llawer o drio@dd, diarhebion, cynganeddion, a rhigymau ar gof a chadw, sydd wedi aros mewn traddodiad a llafar gwlad oddi ar y dyddiau y preswyliai mynachod ym mynachdy Llanwynno.  Wele ychydig ohonynt 

Tin a glaw, pen Twyn-y-glog,

Rof yn ôl i’r Fanhalog. 

Gyda chyfeiriad at storm o fellt a tharanau yn dyfod i gyfeiriad y Glog o’r Fanhalog a’r Mynydd Gwyngul 

Dacw’r @ a dacw’r to,

A dacw efail Wil y go’,

Dacw rod y Felin Fawr

Yn nialu @d y plwyf yn awr. 

Mil puin cant a saith-deg-saith

Gwisgasom gynta’r gwcwh fraith,

A chedwir mwy ddydd Duw yn lin,

Tra @ y plwy’ mewn capiau gwlân. 

Yr oedd yr hen ŵr a adroddodd y llinellau hyn wrthyf yn agos go oed, ac nid oeddwn ond hogyn ar y pryd.  Y mae dau beth lled hynod yn perthyn iddynt: y maent yn cyfeirio at ddeddf a basiwyd yn nheyrnasiad y Frenhines Elizabeth yn gorfodi pawb i wisgo capiau gwlân ar y Saboth-pasiwyd y ddeddf hon yn y flwyddyn I577; hefyd, defnyddir y gair cwcwll-rhaid fod y gair yn adnabyddus yn y plwyf oddi ar amser y mynachod, canys penwisg mynach ydyw cwcwll. Nid wyf yn gwybod paham y gorfodid dynion i wisgo hetiau gwlin ar y Sul.  Yr wyf wedi trwsio tipyn ar y pennill, ac ystwytho ar ei gymalau, ond y mae yn lled agos yn ei ffurf wreiddiol. 

 =========================== (x223)  

PENNOD XXVIII
FFWRNEISIAU â GLOFEYDD
 

Y MAE plwyf Llanwynno wedi bod yn lled hynod am ei weithfeydd er yn fore.  Bu gan y Rhufeiniaid ffwrneisiau toddi ger Pont-y-gwaith, yng Nghwm Rhondda Fach, neu y lle a elwir yn Tylorstown yn y dyddiau dirywiedig hyn! Pwy a fedyddiodd y lle hwn, ‘wys?  Yr wyf yn ei gofio yn lle tawel, pur, heb ddim ond ystormydd y gaeaf a’r gwanwyn yn aflonyddu arno; yr oedd Rhondda Fach mor loyw - i’r grisial, a’r pysgod yn aml a chryf.  Bu y pysgotwr enwog hwnnw gynt-Isaac Walton-yn ymweled i’r lle, ac yn mawr f-wynhau yr ardal lonydd, y dyfroedd pur, a’r brithyllod breision, rhwng ceulennydd Rhondda Fach.

Yr oedd y ffordd fawr o Lanwynno i Ystradyfodwg yn croesi Rhondda Fach wrth Bont-y-gwaith.  Codwyd tafarndy yno, a galwyd ef yn Pont-y-gwaith Inn.  Daeth y rheilffordd heibio, codwyd rhai tai taclus a llawer o huts yn y lle; dechreuwyd terfysgu heddwch y Cwm, a dwfr yr afon, a mwynhad brithyllod heirdd gloyw-byllau Rhondda Fach.  Erbyn hyn y mae yr afon wedi colli ei lliw gloyw, naturiol, ac wedi ymdrwsio yn ei du, a glo erbyn hyn yw ei graean hi, a pha le y mae ei physg nis gwn i.

Y mae yr hen Bont-y-gwaith wedi tyfu yn aw r yn dref, o’r hyn lleiaf honnir hynny yn yr enw sydd ar y lle-Tylorstown. Gallesid yn hawdd ffeindio enw Cymraeg yn!le yr enw dieithr hwn i’r dref newydd hon.  Pa ysfa sydd ar ddynion yng nghanol prydferthion Cymreig, yng nghymoedd ac ar fryndir y parthau llwyr Gymreigaidd hyn, am roddi enwau Saesneg ar bob lle newydd? â fynnant hwy newid enwau yr hen glogwyni a’r ceulennydd, y coedydd a’r caeau, y creigydd a’r nentydd ar hyd ymylau gwylltion Rhondda? â fynnan’t 

 =========================== (x224) 

hwy orfodi anian i siarad iaith yr alltud ar hyd llechweddau y Cwm hwn, o doriad ton Rhondda hyd odl fawr Storm y Mynydd Gwyngul?  â gaiff ffynhonnau a gloyw-nentydd y Cwm, o’r Ynys-hir hyd y Glynrhedynog, eu gorfodi i barablu Saesneg, a throi fel y pentrefi sydd wedi gwadu iaith eu gwlad, ac ymddiosg o fod yn Flaenllechau i fod yn Ferndale, ac o fod yn Bont-y-gwaith i fod yn Tylorstown? Dyn deisyfo pawb! Dichon fod rhyw ystyr i Tylorstown; nid oes nemor farddoniaeth ynddo, nac un math o swyn, os oes ynddo synnwyr; ond am yr hen enw, Pont-y-gwaith, mae yn eich llonni 5.’i sain Gymreig, ac yn eich synnu i’i ystyr hanesiol ac hynafiaethol.

Yma yr oedd gwaith mawr gan y Rhufeiniaid; toddent eu haearn yn ffwrneisiau Pont-y-gwaith; er hynny, er fod y Rhufeiniaid a’u hiaith Ladin wedi cloddio a chloddio, ac adelladu, a thoddi am gwrs o amsei yn y lle, cadwodd y Cwm ei iaith ei hun.  Aeth y Rhufeiniaid yn ôl i’w gwlad, aeth y Lladin yn iaith farw, syrthiodd y ffwrneisiau tawdd yn garneddau, a chollwyd pob peth ond olion llafur a medrusrwydd y Lladinwyr. 
Naddo; cadwyd y Iaith Gymraeg. Methodd iaith a gwaith y Rhufeiniaid â rhoddi enw newydd i’r lle; cadwyd coffadwriaeth amdanynt ac am eu gwaith haearn yn y gair Cymraeg sydd wedi bod yn enw i’r lle hyd yn ddiweddar-Pont-y-gwaith.

Bu Saeson a Chymry yn gweithio yn y lle ganrifoedd wedi i’t Rhufeiniaid ei adael; codwyd ffwrneisiau tawdd yna, a gweithiwyd hwynt am gryn amser, a dygid yr haearn ar gefnau mulod i Gaerdydd ac i Bont-y-pŵl, a lleoedd ereill, am flynyddoedd, medd yr hen draddodiadau, ond ni newidiodd hynny enw y lle-Pont-y-gwaith ydoedd o hyd.  Pan gerddodd yr hen Isaac Walton i fyny gyda glanna7u rhamantus Rhondda, Pont-y-gwaith oedd enw y lle. 
Pan godwyd gwesty fel halfway house rhwng Llanwynno a’r Ystrad, Pont-y-gwaith y 

=========================== (x225)  

galwyd ef.  Pan dorrwyd Coed Craig Cynllwyndy a Chraig Pen-rhewl a Llechau, am y pum gwaith diwethaf, ni chlywodd y trychwyr enw ar y lle ond Pont-y-gwaith.  Daeth rhyw estron heibio yn ddiweddar, ac yn ei hurtrwydd a’i farbareiddiwch, newidiodd enw y lle, gan ddileu ar unwaith holl farddoniaeth hanesiaeth a hynafiaeth cannoedd o oesau.  Nid digon oedd ganddo roddi ei draed yng ngro yr afon a rhymysgu ei dwfr grisial hi, rhaid oedd iddo hefyd roddi sen i iaith fy ngwlad drwy roddi enw dwl ac ail fedydd o’r lle a oedd wedi ei gysegru gan barabliad Cymr’aeg mwy na myrdd o oesau.  Tylorstown!  Ow! ow!  Dyina uchafnod rhyfyg a chabledd.  Yr wyf yn gwrthdystio yn erbyn yr enw, ac yn addo, os gallaf, na symud fy nhafod mwyach i seinio yr enw dieithr hwn.  Chwi feirdd, gwladgarwyr, a Chymreigwyr cywir, gwadwch yr enw, poerwch arno, ond peidiwch byth A’i gynanu.  Nid TT-, ond Pont-y-gwaith ydyw enw priodol y lle.  Paham y mae yn rhaid i Saeson a Chymry gwan eu gliniau lysenwi ein tai a’n tiroe .

Trown ein hwyneb yn ôl, ac awn gyda glannau Rhondda Fach heb aros yn un man nes cyrraedd yr Ynys-hir. 
Ni a safwn o hyd a’n traed ar dir Llanwynno.  Y Mae yr Ynys-hir yr ochr draw i’r afon, ac ym mhlwyf yr Ystrad; ond er fod yr afon rhyngom, yr ydym yn clywed llediaith Saesneg yma eto.  Yn enw’r annwyl, beth sydd ar y dynion?  Gellid rneddwl ei bod yn amhosibl gwneud camsynied ynghylch enw yr Ynys-hir, ond y mae yn ffasiwn yn awr i swnio yr enw Saesneg, a’i alw yn rnys-hire, neu rnys-higher; a glywodd rhywun fwy o ffolineb? Y Mae cisiau sefydlu cyrndeithas yn y cymydogaethau hyn i ofalu am gadwraeth yr enwau cymreig ac i ddysgu dynion i’w parablu yn berseiniol fel Cymry. Yn yr ymyl y mae hen le lled enwog a elwid gynt, ac a adnabyddid ymhell ac agos wrth yr enw Cymreig Maendy, ond Mae tafodau yr oes hon fel pe wedi meinhau, ac nis gallantonddywedydminedy.  Agorwcheichsafnau!  Trowch’ p 

=========================== (x226)  

eich tafodau! Mynnwch dipyn bach o uchelgais Gymraeg, a siaradwch yn groyw lond saffi o air-Y MAENDY. Dyma ni yn y Porth, nage, nid y Porth, medd iaith fursennaidd y dyddiau diwethaf hyn, ond dylid ei swnio yn Porthe; rhaid ei swnio yn hir, yn Seisnigaidd, ac a siarad yn eglur, yn anghywir.  Ond gan fod y rheilffordd wedi gwneud y Dinas yn Dineas, nis gall y Porth ddisgwyl cael ei enw priodol ei hun. O, ysbrydion y Dafisiaid-Henry Davies, Samuel Davies, Henry Davies yr ail, ac Ifan Davies, y meddyg, a ydych o’ch ysbrydol gartrefi yn canfod y camwri sydd yn cael ei wneud â iaith a gwlad eich cyn-breswylwyr? Gresyn na allai Twm Ifan Prys gyfodi o gysgod ei fedd a rhedeg yng ngwisgoedd ei farwol hun ar hyd heolydd Cwm Rhondda, ddydd a nos, a gweiddi am fis nes diasbcdain o’r mynyddoedd leferydd yr hen fardd-broffwyd am y Iaith Gymraeg, - 

,Mae’n iaith dda,  mae’n iaith i ddod v1’r nefoedd ar fy nhafod. 

Wel, wel, safwn eto am funud wrth breswyl y meddyg enwog Henry Naunton Davies, Ysw. _Cymro glen, hoff iawn o’r iaith a’i llenyddiaeth; yr helaethaf ei brofiad fel meddyg yn y wlad hon.  Y mae ei enwogrwydd wedi lledaenu dros y wlad; pe digwyddai, fod eisiau consultation mewn perthynas i mi mewn cystudd, a bod i mi gennad i fynegi fy nheimlad, mi a sisialwn enw Dr. Davies, o’r Cymer, o flaen holl feddygon y deyrnas.  Mae ei breswyl ef ar gyfer Pontycymer, heb fod nepell oddi wrth y lle y preswyliai y diweddar fardd enwog a galluog Meudwy Glan ElAi.  Yr oedd Dr. Davies yn hoff iawn o gyfeillach y bardd hwn; llawer gwaith y mwynhaodd englyn, cAn, neu ystori bert o eiddo y Meudwy, ac nid oes neb yn fwy awyddus am weled ei weithiau yn argraffedig nag yw y Dr. Davies.  Yr wyf yn gobeithio y 

=========================== (x227)  

gallaf cyn bo hir ymgymryd â’r gorchwyl o ysgrifennu bywgraffiad y Meudwy, a chyhoeddi ei brif weithiau. Awn allan o’r Porth, ac i lawr heibio i waith Llwyncelyn, dros Waun Nyth-brin at waith yr Hafod, yn ymyl Tarren y Pistyll.  Ychydig a feddylia -reswylwyr heddychol Owm p George, Gwaith yr Hafod, a Tharrenypistyll, mai yn y fan hon y gweithiwyd picellau miniog y Chartists pan gyfodasant yng Nghasnewydd yn y flwyddyn i836. Yr oedd lefel lo yn rhywle o dan Darrenypistyll, ac yn yr efail berthynol i’r lefel honno y gweithiwyd llawer o’r offerynnau rhyfel a fwriadwyd gan y Chartists i fod yn ddychryn ac yn ddinistr i’w gwrthwynebwyr.  Math o ffyrch tri dant oedd yr offerynnau a wnaethpwyd wrth Bwll yr Hafod.  Lled anaddas i’r pwrpas mewn golwg oedd y picffyrch hyn. Ynysyrhafod wedi cadw ei Chymraeg.  Yr ydych chwi, v,lr yr Ha, yn ac u canmo iaet am eich od yn gallu dianc heb lediaith Saesneg ar wastad y Cwm yna.  Ond mae Pulpud Twm Ifan Prys heb fod ymhell oddi wrthych, ond i chwi godi eich golygon tua chopa y Werfa Ddu, i fyny tua chyfeiriad mynydd Gelliwion yng nghoed y Coetgae, chwi a welwch y pulpud y cyhoeddodd Twm Ifan Prys rai o’i broffwydoliaethau hynod.  Wedi myned trwy y Gyfeillion rhaid i mi sefyll i edrych i lawr ar Ferw Rhondda.  Yr oedd gynt yn bwll o ddwfr.enwog yn y Rhondda.  Syrthiai y dwfr iddo o graig, ac yn y dyfnder, brwydrai y tonnau A’i gilydd yn eu brys i ddianc o’r carcharle cyfyng, ond yno y cedwid hwynt i droi ac ymdroi, i chwerwi a llidio, a chorddi r  Yn y maenbwll dwfn cyn wynned â llaeth. Yr oedd’gwedd farddonol iawn ar Bwll Berw Rhondda er ys llawer dydd. Yn yr arnser hwnnw yr oedd eogiaid yn dyfod i fyny i’r Rhondda, a chlywais fod perchenogion y tir, Morgans o’r Hafod, yn gosod pasgedi yn y Berw i ddal yr eogiaid. Nid gorchwyl hawdd i cog oedd pasio i fyny drwy y Berw) ac wynebu llid ei raeadr, a gwthio i fyny rhwng y creigiau, 

=========================== (x228)  

ond gwnelent hyn yn fynych.  Gosodid y basgedi mewn modd i ddal yr eog pan syrthiai yn ôl dros ymyl y graig, ac yn y basged y cedwid ef nes y deuai rhywun i’w godi allan; a dywedir fod llawer un yn digwydd pasio yn lled fore cyn fod perchenogion y basgedi wedi troi yn eu gwelyau, ac yn pymryd trueni wrth yr eog, ac yn ei godi o’r basged, ac yn ei gymryd adref i’w roddi yn y crochan-’waeth iddo ferwi ar y tAn na bod mewn basged mewn Berw.  Ond mae yr eogiaid wedi tarfu erbyn hyn; ni welwyd eog yn y Berw er ys blynyddoedd, ac nid yw yn debyg y gwelir un hyd nes y chwelir y gweithiau glo, ac y difodir y melinau rhwng y Rhondda a’r môr.

Y mae Pwll y Berw yn llai nag y bu.  Glo sydd yn awr yn Llanw gwely yr eogiaid, ac yn tagu bloedd y tonnau ar lawr y Berw.  Sathrwyd barddoniaeth y Berw gan droed faterol masnach.  Distawyd cerdd y Berw, a ganwyd ganddo er pan ymollyngodd dorau ceg y Rhondda, ac y rhuthrodd y dwfr a orchuddiai y llethrau tua Chaerdydd.  Eisteddodd duwies y fasnach lo ar geulan y Berw i olchi ei thraed yn nwfr y Berw, a halogodd ef, duodd ei olwg, ac nid yw hyd eto wedi ymloywi.

Mae glofa y Great Western yn y fan hon.  Gelwid y lle gynt yn waith Calvert, ond pasiodd o’i feddiant ef i ddwylo cwmni y Great Western.  Y mae yn waith eang a phwysig iawn.  Gweithir y Steam Coal yma yn awr, a hyfryd iawn yw clywed fod y gwaith pwysig hwn yn dyfod yn un o’r gweithfeydd mwyaf llwyddiannus yn y wlad, a bod arwyddion y caiff y perchenogion ad-daliad iawn am bob llafur a thraul. Dywedir fod y shares yn myned i fyny yn gyflym.  Y mae y gwaith hwn o dan ofal un sydd wedi gweithio ei hun i fyny o res y gweithwyr i safle anrhydeddus.  Nid oes dim yn rhoddi mwy o fwynhad i mi na gweled dyn yn yinddyrchafu, yn dringo yn uchel trwy ei deilyngdod gwirioneddol ei hun. Gellir bod yn sicr, pan welir dyn yn ymadael â’r mandrel, ac 

=========================== (x229)  

yn ymgymryd i swydd bwysig, ac yn ei llanw er boddhad y c      perchenogion, lles y gweithwyr, a’i glod ei hun, fod rhywbeth mwy nag enw, mwy nag ymddangosiad, mwy na chleber, ffrost, a hunan-dyb wrth wraidd dyrchafiad y dyn hwnnw. YM

Y mae Mr. Thomas Williams arolygydd gwaith y Great Western, yn ŵr galluog iawn,   wedi ymddyrchafu yn raddol dros ffyn ysgol profiad, hyd   nes dod i safle uchel a gwir ddefnyddiol.  Mae dyn fel hwn yn urd’das i’r gweithiwr, yn r      drysor i’r meistr, yn anrhydedd i’r gymdogaeth, ac yn y      goron llawenydd i’w berthynasau a’i geraint. Nodweddir y      Mr. Williams gan allu meddwl sound, shrewdness, deheurwydd, a barn dda, a synnwyr cyffredin cryf, cryf; pan ychwanegir at n      hyn oll wybodaeth helaeth a profiad eang, nid ydym yn y      rhyfeddu at ei lwyddiant fel goruchwyliwr y Great Western. I  Yr ydym yn troi i fyny heibio i Droedrhiw-trwyn, i Gwm n      Pwllhywel, neu fel y gelwid ef rai blynyddoedd yn ôl, ‘Cwm-sgwt.’
Agorwyd y lle gan y galluog Eos Rhondda.  Gweithlwyd y glo allan yn llwyr, mae yn debyg, ac y mae y ddrifft y      yn segur, a’r lefel yn wag. Yr oedd yn ymyl y gwaith hwn gynt hen dŷ a elwid Tyn-y-graig.  Yma y bu Morgan O Flaenhenwysg a’i deulu yn byw, neu a dechrau.yn iawn, e      yma yr oedd Modryb Bess, Blaenhenwysg, ac Edward ei gŵr a’u plant, Morgan Miles o Gellifyftaches, Dafydd Miles, ac 9      Edward Miles, un o ysgolfeistriaid cyntaf Pont-y-pridd, a n      Chatws, gwraig gyntaf Siôn Llewelyn, a Mari a Sioned eu r      chwiorydd. Maent oll wedi eu claddu er ys llawer blwyddyn, n      ac y mae ffynnon nerthol Tyn-y-graig wedi ei chladdu o dan 1.     grug anferth o ysbwriel (tip) gwaith Pwllhywel; ond er y      wedi ei chladdu, nid yw wedi ei difodi; er fod mynydd o ysbwriel yn gorwedd arni, hi a ymwthia allan yn rhywle n      gan furmur cerdd ei hatgyfodiad wrth ymuno â dwfr Henwysg, ac fel Y ffynnon hon daw eto Modryb Bess a’i theulu yn iach ac anfarwol gyda theulu glhn yr atgyfodiad. c  Dyrna Flaenhenwysgi hen gartref Siôn William, a Nann’a, 

=========================== (x230)  

ei wraig.  Yr wyf yn cofio fy mod yn cael fy nwyn yn llaw Dafydd, eu mab, bob cam o gapel y Fanhalog ar ddydd Sul, i gael cinio pan nad oeddwn ond bychan iawn, ac heb crioed o’r blaen fyned yn ddigon pell i golli golwg ar fwg simdde fy nghartref Dyna y visit gyntaf i mi oedd honno yn llaw Dafydd Blaenhenwysg.  Y mae Dafydd wedi bwrw ei ludded ar bell-diroedd Awstralia, ac wedi cael bedd ym mhlith dieithriaid er ys amryw o flynyddoedd.  Ond cynrychiolir teulu Siôn a Nanna gan Edward Williams a’i deulu lluosog a pharchus, yn awr yn y Cribyn-du.  Ni wn i am well specimen O Gymro gwladaidd nag Edward, yn llawn ysmaldod, a chellweiriwch bob amser, ac os bydd rhai o’i ystoriau ef dipyn yn blaen a brastafodus, nid ydynt fyth heb fin a phwynt lled dda.  Nid yw ef yn adrodd ei ystori yn y ffordd ffeinaf, nac yn dewis y geiriau harddaf a thyneraf, ond nid yw hynny ond yn dangos ei natur a’i ddull Cymreigyddol a gwladol yn f-wy nodweddiadol a phendant, heb fod fel neb ond ef ei hun.  Byddai llond plwyf o ddynion fel Edward William yn flinderus iawn, ond y mae gweled a chlywed un fel ef yn amheuthun ac yn f-wynhad.  Yr wyf yn cofio clywed Benjamin Hughes yn sylwi unwaith am hen Hywel o’r Bwllfa, y gallesid bod yn sicr na feddyliodd y Creawdwr Mawr am wneuthur mwy nag un o’i fath ef erioed.  Ac wrth edrych ar ei fwng anniben, a’i olwg afl6r, wrth y naill lygad, a thro lled sownd yn y llall, a math o frock wen drosto, a chi defaid hirflewog yn ei ganlyn, yr oeddem yn dyfod i gydweled â Ben Hughes, fod un Hwlyn o’r Bwllfa yn ddigon.  Nid wyf yn dweud fod un Edward Cribyn-du yn ddigon, ond byddai cael Llawer ohonynt yn gwneud cymeriad hynod yn rhy gyffredin. Y mae Benjamin Hughes yn gorwedd ym meddrod ei dadau wrth Eglwys Wynno.  Daeth yr Huwsiaid i’r plwyf ers rhai cannoedd o flynyddoedd yn ôl o Iwerddon, ac y maent yn aros yn y plwyf yn deulu llewyrchus a pharchus.  Turners oeddynt ar y dechrau, a gelwir eu cartref cyntaf yn Llety 

=========================== (x231)  

Turner, hyd y dydd hwn. 
Seiri ydynt ers oesoedd, y naill ar ôl y llall.  Gweithiodd Gruffudd Huws lawer ar hyd a lled y plwyf, a’i fab Benni ar ôl hynny.  Yr oedd Benni yn un o blant y Diwygiad crefyddol a fu yn y plwyf ers tua deng mlynedd ar hugain yn ôl.  Yr oedd aelodau capel y Fanhalog yn ychydig iawn o nifer, ac yn rhy wan braidd i ddal pen yr achos i fyny, pan dorrodd y diwygiad allan, a’r cyntaf i droi i mewn fel aelod newydd oedd Benni Huws, ac ysgub blaenffrwyth doreithiog ydoedd. bad oedd ef a chlywid trwst llu yn ei ganlyn.  Parhaodd yn aelod ffyddlon hyd ei farwolaeth ychydig flynyddoedd yn ôl.  Yr oedd yn enwog fel gweddiwr. Yr oedd ei ddawn yn fawr a neilltuol, a phe buasai wedi cael diwylliad bore, buasai yn kr hynod iawn.  Fel yr oedd, dangosodd lawer o allu a gwreiddiolder.  Ef oedd saer y plwyf, a syrthiodd ei fantell ar ysgwyddau ei fab Tomos, a chafodd fwy na deuparth o’i ysbryd saerniol; ond aeth y fantell Fethodistaidd i ryw un arall, oblegid dychwelodd Tomos yn ôl i Lan y plwy’-hen Eglwys fendigedig ei dadau. 

=========================== (x232) 

PENNOD XXIX 
FFYNHONNAU
 

LLAWER. gwaith y clywais yr hen bobl yn ymffrostio fod plwyf Llanwynno wedi ei fendithio yn helaethach nag odid i blwyf ym Morgannwg â dwfr pur a rhinweddol, a chyflleusterau 1 ddyn ac anifail i fwynhau 

Yr elfen denau ysblennydd,

Lyfndeg, sy’n rhedeg yn rhydd. 

Yr oedd y ffynhonnau mor aml a chryf, a’r ffrydiau mor loyw a nerthol yrn mhob rhan o’r plwyf, fel nas gallasai yr hen bobl lai nag ymffrostio ynddynt.  Ond mor wahanol ydyw erbyn heddiw!  Y mae amryw o’r ffynhonnau gloywon, a welwyd yn byrlymu ar bennau y twyni ac yng nghysgod y bryniau, neu o dan arleisiau y creigiau, a nodded y gwigoedd a’r gwyrfaoedd a hynodai y plwyf, erbyn hyn wedi sychu a myned yn hesb fel nant Cedron yn sychwres yr haf!  Ffynhonnau Llanwynno yn sychu? le, yn wir, yn cyflym sychu o gwr bwy gilydd i’r plwyf! Yr oeddwn un brig noson yn rhodio, yn yr ysbryd, o fan i fan, trwy y plwyf-yn croesi o fryncyn i fryncyn, ac o bantle i bantle, dim ond fy hun, yr oedd yr haul wedi rhoddi ei gusan olaf i ben Twyn-y-glog, a Moelydduallt, a Thwynyddisgwylfa, ac wedi ymsuddo dros y Gor-wel- 

Ymwyra cysgodau mawrion-yr hwyr
Dros yr Haul wyneblon;
Yr awel deg a’r loyw don, -obry
Gyweiria’i wely yn y gorwelion. 

Ac wedyn i gwsg hudol-A yr haul
Drwy ei fawr-wres dyddiol,
A sodda drwy y nos huddol, -heb ddig
Yn farweiddedig i’w hun freuddwydiol. 

=========================== (x233)  

Yr oedd awel yr hwyr yn ysgwyd yn faldodus frigau y coed yw, yn ymyl Eglwys Wynno, a chanai Clydach ei hen hwyrgerdd ogleisiol yn y pant, mor Gymreigaidd! mor dyner! mor ddylanwadol! mor nefolaidd hefyd, i lawr yn y cwm tywyll, islaw llety tawei y meirw, ie, byth-gana y Pistyll Golau yn y fro islaw ei hen gerdd Cymreig.
O 1 a ddistewir hi tybed, pan leibir y dwfr gan wres y dydd olaf? Ond yr oeddwn yn mwynhau tawelwch yr hwyrddydd hwn-a phan oedd y nos yn prysur dynnu ei lenni am fy mhen ac am ben y rhan hon o’r ddaearen, tybiais fy mod yn clywed sŵn siarad, yr oedd heb fod ymhell oddi wrthyf lawer o ‘ w’lya,’ ys dywed pobl Llanwynno.  Beth allasai fod yno? Yr oeddwn yn tybied fy mod yn adnabod y lleisiau.  Ond hawyr annwyl, yr oedd y lleisiau yn perthyn i wŷr a gwragedd a oedd wedi marw ers blynyddoedd lawer

Ond, fodd bynnag, dyna a glywais i y nos honno, pan rodiwn yn yr ysbryd trwy blwyf Llanwynno, ydoedd cydymddiddan ysbrydion yr hen blwyfolion.  Meddai Guto Nyth-brAn- ‘Pan wibiwn ar ôl y defaid ar hyd y llethrau o ben Mynydd Gwyngul i lawr hyd yr Hafod a’r Graig-wen, yr oedd y ffynhonnau mor aml â’r s6r, ac mor loyw, nid oedd pall ar lawer ohonynt ddyddiau gwres ac oerni, haf a gaeaf- prinder dŵr yn wir, fe red dkr ochr yx Hafod tra bo gwlith a glaw i’w cael.’ ‘ Ho,’ ebe Ifan o Flaenllechau, ‘Eisiau dkr, yng nghanol y ffynhonnau a’r brwyn, pwy ddwedws shwd beth? Beth yw y rheswm fod Blaenllechau a Daerwynno a Llawer lle yn y plwyf yn gorfod gaeafu’r da ar wair mAn. 0, gormod o ddŵr! gormod o ddŵr! tir mawn a dŵr, @au’n ar ôl gwaun, a’r dŵr hyd fy syrnau.  Pw, pw! ‘does dim shwd beth yn bod
âg eisiau dŵr, lle mae traed y gweision wedibodamflynyddoeddynsiwcsiac!’ ‘Na,’ebeWilliams o’r Glog, ‘ddim tra bo Twyn-y-glog a’r pistyll dan y tŷ, rnae oco ddigon o ddŷr i’r wlad-y dŷr oera’, gora yn y byd hefyd.’ I Twt, twt,’ ebe Walter Nantrhysfa, ‘mae 

 =========================== (x234)  

digon o ddŵr yng nghloddiau’r Waun fawr i foddi holl ddefaid Daerwynno, a ‘phallws rhai o ffynhonnau’r Mynydd-bach crioed.  Ddim ond cronni dkr Nantrhysfa gellir hwylio llong ar hyd y lle-twt-digon o ddŵr, tai pob peth mor ddigonol i’r dŵr, fe fyddai rhai o’ni yn lled gyfoethog.’

 ‘. Ond,? meddai Morgan Tŷ-draw, ‘dyna’r gŵyn, medden’ nhw.  Mae’n anodd gen i gredu, fod ffynhonnau yr hen blwyf yn sychu; fi welais ffynnon y Lan yn tarddu mor rhefus â dyn am ei ganol, ac mae ffynnon yr Hafod yn ddigon cryf i droi melin.’ ‘ Oty, oty,’ ebe Ifan Moses, ‘a beth am ffynnon Coetgae Hendre Rhys; mae hi wedi tarddu er dyddiau Adda, ac wedi disychedu anifeiliaid Coetgae’r Hafod oes ar ôl oes heb fyn’d ddim yn llai- 

Ac unrhyw un ddywedo lai
Fe fydd ar fai echrydus! 

Beth wetwch chwi, Rhys ac Als? ‘Digon o ddŵr welais i,’ ebe Rhys, ‘a gormod lawer gwaith; pan oedd Ffrwd yn torri dros ei glennydd, ac yn dod i’r Siop i ddifetha petha! ‘ ‘Ie,’ meddai Als, ‘a mynd â mochyn yr Ynys gyda’r llif, a divy wyad i finnau, i lawr hyd bwll y ceffyla, yno y ceso i afael amyn’ nhw yn ymnofio ar wyneb y dŵr, er fod y ddwy wedi marw, yr oedd y dŵr wedi taro ymennydd y ddwy, mae digon o ddŵr yn Ffrwd ar y glaw.’      Gormod o ddŵr welais i yn wastad,’ ebe Lewis o’r Fforest.    Petase’r llaeth, a’r hufen, a’r cwrw, mor ddigonol yn Llanwynno â’r dkr, buasai yn dda gennyf; mae y rhai sy’n sôn am ddiffyg dŵr yn Llanwynno yn debyg i rai sydd i gormod o ddŵr ar eu ‘mennydd. 
Oes, oes, digon o ddŵr, gwareder ni! ‘ 

‘Y boncath gwirion,’ ebe Bili Rhydygwreiddyn, ‘wyddot ti ddim fod pethau yn newid yn y plwyf? Wyddot ti ddim fod y glo yn cael ei weithio, a bod y ffynhonnau yn cael eu tynnu i lawr i’r gwacter yn y ddaear? ‘

 ‘ Gwn i, yn enw dyn,’ ebe jaci Gelli-lwch, ‘es llawer 

=========================== (x235)  

dydd; mae’r Darren Ddu wedi agos sychu tir Gelli-lwch es blynyddoedd, a’r un modd gwnaiff y gweithiau glo newydd i’r tiroedd eraill; bydd y plwyf cyn hir yn sychlyd a diwerth o ran y ffynhonnau sydd wedi byrlymu ar ei wyneb am filoedd o oesoedd-a bydd yn rhaid disychedu y plwyf â waterworks yn fuan iawn.’

Yn y fan hon, cododd awel led gref o wynt, siglodd canghennau’r coed yn f-wy trystiog, ac ymddangosai’r hen ywen fel pe byddai arni awydd ymsymud fel elor-gerbyd trwy’r fynwent. Rhuai’r Pistyll Golau yn f-wy trystiog nag o’r blaen, wrth ysgrechodd tylluan o’i hymguddneidio dros ymyl ei darren fan ei ‘ hw-hw ‘ annaearol    cyfarthodd cŵn Daerwynno, ac atebodd cŵn Nantrhysfa, a threiddiodd y s@n i lawr drwy’r cwm fel dychryn-sain o fyd dieithr, a cherddais innau wrthyf fy hun i edrych hynt ffynhonnau y plwyf Ffynnon y Lan a Phenrhiw-ceibr, yr oedd yn arfer tarddu rhwng y ddau amaethdy, am oesoedd lawer bu yn byrlymu yn bur ac yn beraidd, yn edrych mor siriol ei wedd i haelioni ei hun; yn rhoddi yn rhad i bwy bynnag a ddeuai ati, ond ow! erbyn hyn y mae wedi syrthio i dlodi, fel boneddiges a fu yn fawr ei chyfoeth a’i hurddas, yn awr yn y llwch heb ddim mor dlawd fel nas gall wylo deigryn er cof am yr amser gynt, na’r cyfnewidiad mawr sydd wedi dyfod drosti.
Dyna Ffynnon Pen-twyn Isaf, eto.  Yr wyf yn cofio ei gweled, haf a gaeaf, yn distyllu yn gryf ac yn loyw, nid oedd na phroffwyd na phrydydd a fuasai yn meddwl darogan ei thrai, ond y mae ei nerth wedi pallu, mae wedi ymsuddo i’w grol ac fel pererin wedi blino dod i fyny, yn tt--’mlo ei bod yn haws myned i lawr, ac yn fuan bydd y gwely a wlychwyd A’i dyfroedd gwerthfawr am f-wy o oesoedd nag y g@ neb, wedi sychu, -a Ffynnon Pen-twyn-yn Ffynnon-dan-y-Twyn-yn ymguddio byth o olwg dyn ac anifail

Mae Ffynnon-efallai y gryfaf yn y plwyf-yn tarddu ar ael tir y Ffynnon-dwym; mae y fferm wedi derbyn ei litnw 

 =========================== (x236)  

oddi wrth y ffynnon.  Tardda uwchben y Seither a’r Nawer; yn ymyl y glawty newydd, rhuthra allan yn llif i lawr tua’r glyn yn fendith i ddyn ac anifail.  Yr wyf yn awr, yn fy nychymyg, yn plygu ac yn codi A’m llaw ei dyfroedd oerion pur at fy min! Tybed a sychir hon? â ddaw trai arnat ti, yr hen.forwynig ffyddlon, sydd wedi rhoddi dy wasanaeth yn rhad a didwrw i 4loedd o oesau? Ofnaf fod y pwll glo yn ddigon gwaneus i’th lyneu dithau ar un traflwnc, y glwth du gormesol

Mae Ffynnon y march yn ymyl y ffordd sydd yn arwain o Ynys-y-b,kl i Ffynnon-dwym.  Tardd allan mewn llwyn bychan o goed, o dan ael yr Hendre Ganol, y mae ei dyfroedd yng ngwres yr haf cyn oered i’r iA, ac yn oerni y gaeaf mor dymherus fel nad yw fyth yn rhewi.  Y mae hen draddodiad yn ei chylch, fod ceffyl perthynol i Ffynnon-dwym, nad yfai ddwfr o un ffynnon arall; pan elid â’r ceffyl hwnnw i ffwrdd tua ffair neu farchnad, nid yfai ddafn o ddwfr hyd nes y dychwelai, ac yna Ai ar ei union i’r llwyn coed yn ymyl y tŷ, a thorrai ei syched â dyfroedd y ffynnon a alwyd er ei fwyn ef yn Ffynnon y march.

Ffynnon enwog iawn yw Ffynnon llltud.  Yng nghysgod Craig Buarthcapel, mewn llwyn o goed gwern, a’r lle yn wlyb a mawnog o amgylch, y rhuthra hi allan, heb fethu haf a gaeaf.  Yr wyf yn cofio fod fy nhad yn fy nwyn ar ei gefn pan oeddwn tua thair blwydd oed, i ddal fy nhroed dan ei phistyll oer oherwydd ysigo fy swrn; a dyna’r cof cyntaf sydd gennyf am boen.  Yr oedd ei dwfr mor oer, a minnau yn gorfod dal fy nhroed dano, nes y daeth Ffynnon llltud a phoen i mi yn bethau cyfystyr.  Ond llonnwyd fy natur ganddi hi filwaith wedi hynny, pan deimlwn lawer tro yn flinedig, yr oedd dracht o ddwfr Ffynnon llltud gan fy mam, yn rhoddi bywyd ac adnewyddiad i mi drachefn.  I’r ffynnon hon y ceisiais gyfansoddi barddoniaeth am y tro cyntaf erioed. Eithaf testun oedd Ffynnon llltud a’i phistyll gloyw yn y 

 =========================== (x237)         

ilwyn gwern, yn neidio allan o ganol Craig Buarthcapel, ac yn llifo ar ei phen i’r afonig a elwir Ffrwd. leuanc iawn oeddwn i a’m hawen y pryd hwnnw, -a dyma fel y cenais 

Dwfr pur yn y ddalfa,

Dwfr pur yn y rhedfa,

Ond ar ôl iddi gyrraedd Ffrwd

Aiff yn gythraul o gymysgfa 

Yr wyf wedi canu cryn dipyn oddi ar hynny, ac wedi canu yn well na’r uchod, ond yr wyf wedi anghofio lla@wer ohonynt, eithr y mae’r llinellau cyntaf a wneuthum erioed yng nghysgod yr hen Gollen fawr, yng ngwern Ffynnon llltud, yn aros ar fy nghof, ac yr wyf yn eu rhoddi nid fel arwyddlun na dangoseg o genius cynnar ond fel pethau sydd wedi glynu yn fy nghof oddi ar amser fy ymgais farddonol gyntaf, ac efallai ddeffroad fy uchelgais llenyddol.  Tydi hen Ffynnon llltud annwyl, paid A sychu byth! Na fydded i waith na gwythienni glo effeithio arnat. O! parha di i lifo hyd nes y daw fflam fawr y dydd diwethaf i’th yfed yn dragwyddol hesb!

Yn uwch i fyny yng Nghwm-ffrwd, y mae Ffynnon y Fanhalog, yn llifo i Ffrwd eto.  Mae gryn dipyn o bellter oddi wrth y ffermdy, ond mae ei dwfr fel y gwin gorau, yn treiglo allan o fynwes y Coetgae, ac yn rhedeg dros bistyll lled hir wedi ei wneud o bren, ac yn ilisgyn yn loyw ar wely o wlydd y dwfr yn gymysg â Berw Ffynhonnau, a ffwrdd drostynt drwy y coed i’r afonig.
O mor dawel yw. y lle! Mor ddidwrw y daw y dwfr allan o galon Coetgae y Fanhalog! nid oes na thrwst na bloedd, dim ond barddonol furmur, a ogleisiai galon angel, o dan gysgod drain a chyll ochr y Coetgae. Ychydig o waith dyn a welir yma.  Gwaith Duw yw’r cwbl, natur lAn, ddigymysg.  Trueni fod yn rhaid i ddyn derfysgu ar heddwch lle fel hwn.  Ond yr wyf yn ofni clywed bob dydd fod dwfr Ffynnon y Fanhalog yn prinhau, a bod llais o’r 

=========================== (x238) 

dyfnderoedd wedi ei galw i ymddangos yng ngwlad nos y glo, yn lle ymloywi yn awyr las Mynydd Gwyngul. Yn uwch i fyny eto, ac ar ben y mynydd mae Llwynperdid, y tŷ a losgwyd gan y fflamau erchyll ddechrau’r haf diwethaf. Yn ei ymyl y mae ffynnon gref, yn dod i fyny o’r mynydd, oble id saif y tŷ, y ffynnon, a’r cwbl ar uchaf y mynydd. .9

Ffrwd led gref o ddwfr ydyw, a rhed i lawr dros y Coetgae i Gynin.  Nid oes eto arwydd fod y glo-byllau yn sugno nerth Ffynnon Llwynperdid.

Yr ydym yn camu dros y cwm i ymyl hen blasty y Glog, ac awn yn syth at y ffynnon sydd yn rhuthro allan o ochr ddwyreiniol y Twyn.  Hon yw ffynnon y ffynhonnau yn Llanwynno.  Duw allan o dan asennau y bryn gyda nerth rhaeadrol, ymferwa yn wyn, a llifa drwy ei chafn carreg gan wreichioni a serennu yn ddigon i ddenu blodau purach na ni, blant y llawr, i yfed ohoni.  Pan oeddwn mewn twymyn drom rai blynyddoedd yn ôl, mi a flysiais ei dyfroedd fel y blysiodd Dafydd gynt ddyfroedd Ffynnon Bethlehem; a dygwyd ef i dorri fy syched mawr, ac mae ei bereiddflas yn aros yn fy ngenau hyd y dydd hwn. O byddai yn bechod arswydus atal llif y ffynnon sanctaidd hon! Byddai yn golled ofnadwy pe peidiai hi i dawnsio i fodolaeth trwy agennau yr hen Dwyn! Collid dwfr Seraffiaid! ie, collid darn o farddoniaeth nas gallai neb ei ysgrifennu ond Duw ei hun.  Ac eto y mae lle i ofni y bydd i hyn ddigwydd.

Mae y glo yn cael ei weithio yn y dyffryn islaw, ac o dan y tiroedd o amgylch, ac nis gellir disgwyl i wyrth gael ei chyflawni hyd yn oed er cadw Ffynnon y Glog rhag myned yn aberth i Nqr y glo.  Ond yn wir byddai yn well colli Llawer o ynysoedd cyfain, na cholli’r ffynnon hon.  Nid wyf am felltithio masnach, rhaid ei chael a’i chadw.  Nid wyf am ddywedyd gair yn erbyn y rhai sydd yn anturio eu haur er chwilio am lo a distrywio harddwch y wlad, -yr wyf yn 

 =========================== (x239)      

dymuno eu llwydd, -a llwydd y dynion dewr, -y glowyr sydd yn anturio i lawr i ddyfnderau mawrion ar ôl y glo, ond O! wrth wneud hynny, distrygwlânt wedd fy ngwlad hoff! vTerfysgant y lleoedd llonydd, y cyrrau unigol a barddonol; a sychant ffynhonnau bendithfawr tir fy maboed, -ac felly, rhai i mi wylo a galaru 

 =========================== (x240)  

PENNOD XXX
FFYNHONNAU ETO
 

Ni ddarfu i mi enwi ond ychydig o’r ffynhonnau sydd yn adnabyddus yn y plwyf.  Yr oeddynt gynt fel y s6r, -yn loyw, yn enwog, ac yn hardd a defffyddiol; yn byrlymu, ac yn tryloywi, arwynebedd eang y plwyf; ac wrth eu henwau gwahanol mor adnabyddus â’r bryniau, ie, braidd yn cael eu personoli, nes dyfod  yn enwog ac adnabyddus fel trigolion y wlad.

Dyma rai ohonynt eto:-Ffynnon Ca-Cwar, Gelli-lwch, yn ymguddio rhwng y glaswellt ar fin y coed, mor wylaidd A morwynig, a’i dŵr mor oer â’r iA ar gopa’r Alp. ‘ Ffynnon y Buttry,’ yn nh@ Gelli-lwch; bu am flynyddoedd yn tarddu yno mewn distawrwydd dwys, neb yn ei chlywed yn byrlymu o’r ddaear, ac eto dcuai i fyny yn lled gryf, a disychedodd y preswylwyr am lawer o flynyddoedd; ond wedi rhoddi ei gwasanaeth yn rhad am lawer o amser, hi a orfodwyd i ffoi o’i hen gartref, a pheidio â dangos ei hwyneb gwylaidd yn nhywyllwch y Buttry byth mwy.  Cafodd ei halltudio er ys tro yn ôl, ond fel pob peth da, nid yw yn bosibl iddi fyned ar ddifancoll.

Pa le y mae ffynnon lygaid y Gellidawel ger Berw Taf? Yr oedd yr hen bobl yn credu yn ei rhinweddau.  Yr wyf yn cofio pan yn ifanc glywed yr hen Rosser a’r hen Sali yn ymddiddan yn ei chylch; rhywbeth fel hyn oedd y siarad .-- ‘Wel, Rosser, b’le mae’r daith heddi’?  ‘ ‘ I Ffynnon Gellidawel i olchi’r llygaid, os oes rhaid i fi ‘wed fy musnes.’ ‘Nag oes ddim rhaid, ond nid oes ar ddyn onest ofn gwed ei fusnes.’ ‘ Wn i ddim oes ar ddyn onest eisiau gwybod busnes pawb,’ ebe Rosser, a ffwrdd âg ef ar damp lled ffromus i olchi ei lygaid.  Wrth fyned yn ôl aeth yn siarad eto rhwng 

=========================== (x241)  

yr hen ŵr a’r hen wraig.  ‘Wyt ti’n credu fod rhinwedd yn y dŵr yna fwy na dkr rhyw ffynnon arall, Rosser?’      Nid credu, ond gwybod trwy brofiad fod, a phwy bynnag a wedo na, fe ddywed gelwydd,’ ebe Rosser. 
Yr oedd y tAn yn cynnau eto! ‘ Ho, wel,’ ebe Sali, beth yw’r achos, meddi di, fod y dŵr hwn yn well na rhyw ddŵr arall?     O, wedi’i n       fendithio yn helaethach, bid siŵr   neu feallai fod rhyw angel u       yn rhoddi effaith dda ynddo fel yn y llyn hwnnw yn Bethesda u       gynt, beth wyddot ti a finnau? ‘ ‘ Pw, pw, ni chreda’ i ddim 

y       fod Duw wedi gwneud rhagor rhwng dŵr a dŵr,’ ebe Sali. ‘Efallai na chredi di ddim; ni chredi ddim efallai fod Duw wedi gwneud gwahaniaeth rhwng dyn a dyn, er dy fod di yn torri cerrig wrth y llath, a finnau yn awr yn ŵrbonheddig, a’r a plwyf tu cefn i mi? ‘ Ffwrdd i Rosser tua’r Bont.  ‘ Cnoc, d       cnoc,’ ar y cerrig, meddai morthwyl Sali. Ond pa le y mae y d       ffynnon honno? â ydyw hi hyd eto yn tyrfu yn ei dull a       cyntefig rhwng glaswellt a brwyn, ac yn ymgolli yn Nhaf fel y i       cyll amser ei hun yn y Tragwyddol pell? Dyna Ffynnon y Cefn, hefyd; byddai hi yn arfer tarddu yn nerthol, fel pe b       buasai un o ysbrydion tanddaearol Craig-yr-hesg wedi cael ei i       ddedfrydu i weithio y pump i ddwyn digonedd o hylif pur yr I       hen graig i ddisychedu dynion ac anifeiliaid yn y Cefn. Yr wyf yn cofio un o forynion y Cefn yn cael dychryn mawr iawn wrth y ffynnon; rhedodd yn 6f i’r tŷ, a galwodd ar ei n       meistr-Mr. Walters oedd y meistr y pryd hwnnw-Twmi o’r Cefn, adnabyddus i bawb.  Ebe’r forwyn,’ ‘ Dewch waff, waff, at y ffynnon, y mae yno neidr fawr a dau gom ar @i phen, dewch gynta’ gallwch chi! ‘ ‘ Beth sydd arna:t ti, ferch; wyt ti wedi ffoli? Pwy welws neidr a chyrn ganddi? ‘ Aeth Twmi at y ffynnon, ac yno yr oedd neidr fawr, ac ar yr olwg gyntaf ymddangosai fel un a dau gorn ganddi      ond  wedi edrych arni, cafwyd ei bod wedi llyneu llyffant mawr, a hwnnw wedi aros yn ei gwddf a’i ddau troed allan o’i safn, yn lled debyg i ddau gorn du, mawr.  Yr oedd y neidr witdi 

 =========================== (x242)  

gormod o damaid.  Nis gwn ai oddi wrth beth fel hyn y codwyd y ddihareb a glywais yn fynych yn y plwyf, ac a ddefnyddid yn wastad gan y Tincer Bach ers llawer dydd, Gwell ti paid i llyneu llyffant.’

Ffynnon iawn yw ‘ Ffynnon Nicholas,’ yng nghoed y Parc .tarddiadŷ cryf iawn, ac yr wyf yn credu mai dwfr y ffynnon hon a welir yn dyfod allan wrth D@-ar-twyn y Basin i ddisychedu eigines y Taff Vale.  Gŵyr y rhai sydd yn myned allan i hela ac i saethu, am y ffynnon hon, ac os bydd cyffylog yn rhywle, bydd i’w gael wrth Ffynnon Nicholas-gelwid hi gynt gan rai o’r hen bobl yn ‘ Llygad y Cyffylogiaid.’ Dyna hefyd ‘Ffynnon y Tŷ-draw,’ wrth Gwmclydach. Yma y torrai Evan Morcan a Magws eu syched, ac ni chredent fod y fath ddwfr pur yn dyfod trwy grystyn y ddaear; ond erbyn hyn y mae hithau wedi ei cholli: bu y Bont Newydd yn farwolaeth iddi hi-ei lle nid edwyn ddim ohoni mwy. Ond y mae ‘Ffynnon y Caban’ yn distyllu yng nghoed cyll y Cwm heddiw fel cynt-yn wan, ond yn bur, ffyddlon, a chyson fel natur ei hun.  Llawer o bererinion Cwmclydach a ddiodwyd ganddi hi er nad yw ond ffynnon y diferynnau. ‘Ffynnon Dyllgoed’ sydd yn adnabyddus iawn i wŷr y mynyddoedd.  Y mae yn tarddu wrth lidiart Pen-rhiw, y tu isaf i’r ffordd sydd yn arwain o’r Ynys-hir i Fynydd Gwyngul tuag Eglwys Wynno.  Cyn i chwi ddyfod allan o’r heol i’r mynydd, yr ydych yn pasio’r ffynnon gref hon. 
Rhuthra allan o grombil y ddaear-o reservoir tanddaearol y Mynydd Gwyngul, a llifa trwy y caeau tua Rhondda Fach.  Nid yn aml y gwelir y fath darddiad cryf o ddwfr croyw, gloyw, yn dyfod allan o dwll crwn yn y ddaear.  Nid oes na th@ na thwlc gerllaw iddi, dim ond Pen-rhiw yn ymlochesu yn y coed dipyn yn is i lawr ar ymyl yr heol sydd yn cael ei henw oddi wrth y ffynnon-Rhiw Ffynnon Dyllgoed.  Nid oes i’w weled ond y llwyni ar ei min, a’r glaswellt a’r brwyn yn ymgrymu iddi, a’r adar o goed Pen-rhiw, a chornicylliaid 

=========================== (x243)  

mynydd Gwyngul yn ymweled â hi, oddi eithr fod ambeu bererin wrth deithio’r rhiw yn croesi’r berth, ac yn eisiedd ar ei min i dorri ei syched, ac i fwrw ei flinder.  Llifo, llifo y mae yr hen ffynnon; myned, myned, rhwng glaswcllt, brwyn, a micri, fel amser, heb aros dim. 
Llifed byth, ynteu! O! mor annwyl, mor hardd, mor farddonol!  Pa bryddest, neu pa awdl erioed a luniwyd gan neb yn gyffelyb i hon? Dyina un o bryddestau Duw ei hun! Eistedded y beirdd i’w darllen a’i hastudio, ac i gydnabod eu bychandra! Ow 1 y rhai bychain! Gwnewch ffynnon os medrwch, ac yna bydd gennych rywbeth i ymffrostio ynddo!

Anodd iawn yw pasio’r ffynnon hon heb sôn am Twmi Pen-rhiw.  Yr oedd pawb yn y plwyf yn ei adnabod ef a’r hen gaseg a arweinid ganddo bob amser mewn cebystr.  Ni welais i ffrwyn crioed yn ei law, dim ond y rhaff honno am ben yr hen gaseg, ac yntau yn tynnu wrth ben y coler, a’r hen gaseg yn hytrach yn tynnu yn ôl, nes yr oedd yr olwg ar y ddau yn teithio yn chwerthinus iawn.  Nid wyf yn cofio i rni weled Twmi ar geffi y gaseg crioed ond dwywaith, ac un o’r troeon hynny llithrodd yr hen gaseg i’r clawdd ar ben mynydd Buarthcapel, a syrthiodd Twmi i bwll o ddwfr mawn, a bu yno dipyn o helynt.  Yr oedd ar geffi Twmi siaced round fustian hyd ei ganol, a llodrau o rib golau, n’ewydd gael eu golchi; yn y cwymp torrodd braces Twmi, ac yr oedd golwg ryfedd arno yn myned tua’r efail, yn dal ei drousers i fyny ag un law ac yn tynnu yr hen gaseg ar el o’l wrth y cordyn A’r llaw arall, a chetyn o bibell fer, ddu, rhwng ei ddannedd, heb nemor dybaco a dim tAn, hyd nes iddo gyrraedd @at ei hoff gyfaill-William y Gof, i gael cymorth i adgyweirio y llodrau, y bibell, yn gystal â thraed yr hen gaseg. Am lower o flynyddoedd preswyliodd Twmi ym Mhen-rhiw, a hwyrach nad oedd dim byd a hoffai yn fwy na myned gyda’r hen gaseg tuag efail Ynys-y-bkI, i gael ymgom a chydgyfeillach 5, William y Gof.  Ni wn i ddim a feddyliodd 

=========================== (x244) 

Twmi crioed fod barddoniaeth yn y Ffynnon Dyllgoed! Na, nid yw yn debyg iddo weled ynddi ddim mwy o brydferthwch na rhywbeth arall.  Nid yw yn debyg i sŵn a murmur ei llif gloyw ogleisio ei fynwes ef erioed, er iddo fyw yn ei hymyl am lawer o flynyddoedd yn ddigon tawel a diniwed.  Ie, ie, llifo y mae y ffynnon o hyd, ond gorwedd y mae Twmi yn ninas y meirw, a gobeithiaf ei fod wedi adnabod rhinwedd ffynnon well na’r Dyllgoed-y ffynnon sydd yn golchi tŷ Dafydd yn lAn a phreswylwyrjerwsalem o’u beiau brwnt, yn wyn fel yr eira yn Salmon

Peth rhyfedd iawn -na fuasai sôn yn y plwyf am Ffynnon Santaidd oblegid yn wastad lle byddai mynachdy a mynachod byddai hefyd Ffynnon Santaidd, Ffynnon Fair, neu Ffynnon y Forwyn.  Dyna Ffynnon Fair yn aros hyd heddiw ar lechwedd Pen-rhys, yn wynebu Cwm yr Ystrad, er fod y fynachlog wedi ei cholli fel beddau y mynachod.  Y mae Ffynnon Gwenffrewi, yn Nhreffynnon, yn ei bri o hyd; ac yn ymyl Llanelwy, nid pell o’r fan yr wyf yn ysgrifennu y llith hon, y mae hen Eglwys a elwid gynt yn Gapel Eglwys Mair, wedi syrthio yn furddun erbyn hyn, ond y mae ei ffynnon gref-Ffynnon Fair-yn adnabyddus iawn o hyd.

Ond y mae yn syndod nad oes yr un ffynnon o’r fath wedi cael sôn amdani yn Llanwynno.  Yr oedd y mynachod yn gyffredin iawn yn ddynion call, gwybodus, ac yr oeddynt yn deall natur, a llawer o’i chyfrinion.  Darganfyddent ddwfr iachus yma a thraw ar hyd a lled y wlad.  Gwyddent yn dda fod mwynoedd yn effeithio ar y dwfr, ac ar y dynion a’i hyfai, ac yna priodolent effeithiau iachusol y dwfr i fendith neilltuol a nodded y Forwyn Santaidd.  Yna galwent y ffynnon ar ei henw, a byddai pob Ffynnon Fair yn santaidd. Ond pa le y mae Ffynnon Fair Llanwynno? Onid oedd ganddynt eu Ffynnon Santaidd yn y plwyf? Yr wyf yn credu fod, ond rhywfodd fod yr enw wedi ei golli, a’r traddodiad yn ei chylch wedi myned ar ddifancoll, fel y digwydd 

=========================== (x245)  

ambell bryd.  Dichon fod teimlad cryf a gwrth-Babyddol wedi codi yn y plwyf, a bod ymgais lwyddiannus wedi ei gwneud i ddifodi pob peth a oedd â thuedd i gadw yn fyw y grefydd Babyddol, ac felly i Ffynnon Fair golli ei henw, ac ym mhen ychydig amser-treigliad cenhedlaeth neu ddwy- yr oedd y ffynnon a’i henw a’i lle wedi eu colli, hyd yn oed ar dafod traddodiad.

Y mae ffynnon gref iawn wrth y Mynachdy hyd y dydd heddiw.  Tardd i fyny tua chwr y cae a elwir y Fanheulog, a rhed ar war y Cwm i bistyll lled fawr yn ymyl pellaf yr ardd.  Y mae yn ffrwd loyw, gref; weithiau, yr ydym yn tueddu i feddwl mai hon oedd y Ffynnon Santaidd, ac mai yna yr ymolchai y mynachod yn nyddiau eu gwynfyd yn y plwyf; ond wedi edrych, meddwl, a dyfalu, yr wyf yn dyfod i’r penderfyniad nad hon oedd y Ffynnon, er fod y dwfr hwn yn ddiau yn gysegredig gan y mynachod.  Mwy na thebygol mai ‘ Ffynnon Gwynno,’ ger Eglwys y plwyf, pedd y Ffynnon Santaidd.  Y mae yn tarddu o dan darren yr Eglwys, ac yn fy nghof i priodolid rhinwedd mawr iddi.  Yn ymyl yr Eglwys, os byddai modd, yr oedd y Ffynnon Santaidd gan y Pabyddion, neu yn hytrach codent eu Llannau yn ymyl ffynhonnau a ddeuai wedi hynny yn rhai santaidd.  Dichon na alwyd y ffynnon hon ar enw Mair, ond cysegrwyd hi i noddwr y plwyf-Sant Gwynno-a Ffynnon Gwynno y gelwir hi fyth.  Y mae yn tarddu yn ddi-stŵr o dan darren yr Eglwys, ac y mae mor loyw ac mor bur ei dwfr,’ag un dwfr yn y wlad; dylai Cwrw Eglwys Wynno fod yn bur, os yw yn cael ei wneud o ddwfr ffynnon yr hen Sant Gwynno! -Nid am ei fod ef, druan, wedi ei rinweddu, ond am fod y ffynnon, fel y dywedodd y bardd, yn waith Duw ei hun.

Gwin a groywyd gan Grewr-yw’r Ffynnon,

A gorffennol wlybwr;

Bron haf, ddi-brin i yfwr,

Yst6n Duw i estyn dkr. 

 =========================== (x246)  

 PENNOD XXXI
Y CAPEL 

Y MAF y ddau dŷ sydd ar y twyn    ychydig uwchlaw caper newydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Llanwynno yn cadw 4 o’u hamgylch lawer o gysegredigrwydd.  Y ddau dŷ yna ydoedd Capel Llanwynno gynt-addolfan llawer cenhedlaeth yn y plwyf, teml a th@ gweddi, na chysegrwyd gan un esgob, nad addurnwyd gan -un adelladydd enwog, yn wir, nad addurnwyd gan neb â dim uwchlaw tipyn o wyngalch ar ei furiau unwaith yn y flwyddyn, a thipyn o liw dulas ar ei gonglau, a thipyn o fortar ar ei do meini llwydion, yn awr a phryd arall, er ei wneud yn ddiddos.  Yr oedd ei furiau o fewn yn foelion, heb ddim ond cloc o flaen y pulpud, a rhes o hoelion hirion o gongl i gongl, ystlyswal a thalcen, fel lle i’r gwrywod hongian eu hetiau. 
Yr oedd y muriau tu mewn fel tu allan yn cael eu gwyngalchu.  Yr oedd rhes o seti gyda mur y cefn, o dalcen i dalcen, yn wynebu y pulpud, a rhes gyda’r talcen dwyreiniol, ac oddi wrth y drws dwyreiniol, hyd at risiau’r pulpud, ac o’r ochr arall i’r pulpud hyd y drws yn y pen arall, a hyd ymyl y tAn.  Mewn gair, yr oedd y seti wedi eu gosod yn gadarn a’u cefnau ar furiau y tŷ, a’r Set Fawr yn y canol, a dwy fechan, un o bob ochr y sef Fawr. Adnabyddid y seti, nid wrth y rhif, ond yn ôl enwau teuluoedd y plwyf.  S@t y Mynachdy, s6t y Glog, y Fanhalog, &c. Yr oedd hefyd fainc a breichiau a chefn iddi, fel y gellid eistedd yn ddwbl arni, cefn yng ngheffi, yn y pen dwyreiniol ar gyfer y drws, a mainc arall, lled hir, ar ganol y llawr ar gyfer y s6t fawr, a dwy arall wyneb yn wyneb a’u pennau yn ymyl y pentan.  Yr oedd hefyd fainc ansymudol yngl@n i’r s@t fawr, o amgylch iddi, o’r tu allan, fel y byddai y rhai a eisteddai yno yn gorfod bod i’u cefnau ar y s6t fawr ac ar y pulpud. 

=========================== (x247)  

Yr oedd hwn yn lle purion i’r rhai nad oeddynt yn teimlo awydd gweled wyneb y pregethwr. 
Ond i’r rhai oedd am wrando a bod yn gymfforddus, yr oedd yn fath o burdan poenus.

Yr oedd tair ffenestr yn un ochr i’r tŷ, a’r pulpud yn union ar gyfer yr un ganol; yn wir, arffed y ffenestr ydoedd sedd y pulpud.  Yr oedd y pulpud felly yn union yng nghanol honno fel y soniais eisioes, a’r cloc, yr hwn a roddwyd yno yn fy nghof i, yn hollol ar gyfer y pulpud, ar y mur diaddurn a gwyngalchog.  Yng nghefn y capel, a’r tai yn awr, gwelid maen yn y mur, yn hysbysu i’r capel gael ei adelladu yn y flwyddyn 1786.  Codwyd ef ar draul yr aelodau a’r cymydogion, ac er nad oedd yn hardd ei olwg, cafwyd arwyddion fod ysbryd Duw wedi ymweled h’i bobl yno, ac wedi eu bendithio
âg addurn uwch nag addurn adellad a phrydferthwch muriau, sef sancteiddrwydd encidiau.  Bu llawer hwyl fawr ar grefydd yma.  Cafwyd llawer oedfa âg ‘ysbryd y pethbyw’ynymsymudynddi.  ClywidllaiscAnagorfoledd gannoedd o weithiau rhwng muriau hen gapel y Fanhalog. Bu amryw o gewri y weinidogaeth ym mhulpud bychan yr hen gapel, yn cyhoeddi maddeuant pechodau yn rhinwedd gwaed Iesu Grist, a Duw gyda hwynt yn eu nerthu, yn eu harddel, yn gwneud y lle yn ‘ d’ i Dduw ac yn borth i’r  y nefoedd.’ Achubwyd llawer enaid yma! Y mae yn y Baradwys heno lawer o bererinion wedi cyrraedd yn ddiogel a ddechreuodd eu gyrfa ysbrydol yn hen gapel diaddurn Llanwynno.  Y mae enwau llawer ohonynt wedi eu -colli yma, ond yn ddiogel ar lyfr y Bywyd O! chwi, hen bererinion crefyddol Llanwynno, a argyhoeddwyd yn yr hen gapel, a feithrinwyd, a nerthwyd, nes dyfod yn gryfion i ddilyn ôl traed eich Gwaredwr, a brofasoch I fod yr Arglwydd yn dirion,’ a deimlasoch wlith a glaw ysbrydol yn disgyn ar eich eneidiau yn yr hen gapel bychani a lawenychasoch ynddo fel rhai wedi cael ysbail lawer, a 

 =========================== (x248)  

ganasoch yn eich dull gwladaidd ond brwd, a ddyrchafasoch eich lleisiau heb wybod llawer am reolau cerddoriaeth a barddoniaeth, ond rheolau llawer uwch a ddilynech, pan doddai eich ysbrydoedd dan ddylanwad Ysbryd y Gwirionedd pan ganech, yr ail ganech, y trydydd ganech, ie, y cant ganech’ weithiau, nes gwneud i furiau a tho yr hen gapel ar y twyn siglo gan atsain rymus yr hen emyn-

Mi gana’ am waed yr Oen,
Er maint fy mhoen a’m pIa;
 ‘Does genny’ n wyneb calon ddu,
Ond Iesu’r Meddyg da;
Fy inlino ges gan hon
A’i throeon chwerwon chwith,
Fy unig sail i am y wlad
Yw’r cariad bery byth I 

Do 1 do   canasoch lawer, a braidd y mae’r echo wedi distewi yng nghraig Cae Tŷ Cwrdd! hoffaswn gael list o’ch henwau i’w rhoddi lawr yma; gyda mwynhad y croniclaswn hwynt, bob un, o’r amser y codwyd y Capel hyd amser ymddatodiad ac ymadawiad y diwethaf o bererinion Capel Llanwynno; ond nid yw y list gennyf er fy ngofid.  Never mind.  Mae yr enwau oll yn llyfr yr Oen! Ac os byth y glaniaf i’r wlad yna, mi a ddeuaf atoch i ysgwyd dwylo, o sôn am yr hen fwynderau, ac i ddysgu enwau pererinion fy hen blwyf a fu ar ‘ eu traed ac ar eu dwylo yn ceisio dringo i fyny fry.’ Ond mae yr hen gapel wedi ei droi yn ddau dŷ annedd erbyn hyn!  Rhywfodd nis gallaf yn hawdd feddwl amdano, ond fel capel.  Trueni na allesid ei gadw fel yr oedd, a rhoddi yr hen Gadair-Bulpud yn ôl ynddo fel yr oedd pan godwyd ef gant ac un o flynyddoedd yn ôl, ac am flynyddoedd lawer wedi hynny.  Ond ‘waeth heb siarad. 
Trowyd y deml yn dŷ byw.  Gobeithio na chollwyd y Shecina wrth wneud hynny.  Mae y capel newydd yn sefyll ar ddarn o dir a berthynai i’r hen.  Lle yr oedd gardd Richard Williams a 

 =========================== (x249)  

Magws y saif y Tynewydd.  Bydded iddo yn ysbrydol fod mor ffrwythlon
âg oedd yr ardd honno yn naturiol, pan gasglai Magws ei chnwd amrywiol, gwrs hir, flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Bu Hywel Harris yn pregethu yn Llanwynno cyn codi’r Hen Gapel.  Cynhelid y moddion yn Rhydygwreiddyn, Pwllhelyg, a Th@-tan-wal, ger y Mynachdy, ac yn un o’r lleoedd hyn yn ddiau y pregethodd Hywel Harris gyda nerth Mawr, a’r anfarwol Jones o Lan-gan gydag arddeliad neilltuol. Yn ôl Methodistiaeth Cymru, yr oedd yr aelodau crefyddol yn y flwyddyn 1774 yn ymgyfarfod mewn tŷ a elwid Tŷ-tan-wal, ac yn cael arwyddion amlwg o bresenoldeb Duw yn eu mysg, ‘pryd y torent allan ar rai achlysuron i folianu -y-cwm,

Duw a llef uchel.  Mae ar gael fod John Evans, o Gil yn pregethu yno unwaith, a’i destun ydoedd, Esra iii., 13, Canys y bobl oedd yn bloeddio â bloedd fawr, a’r sŵn a lywid ymhell.’ Yn yr oedfa hon yr oedd rhai o’r bobl yn 9 llewygu gan ofn, a rhai yn wylo, a rhai yn moliannu.  Dywedir fod yr eglwys pan ymgyfarfyddai yn Tŷ-dan-wal yn rhifo 0 30 hyd 45- Mae yn amlwg fod pobl Llanwynno y pryd hwnnw fel arferol, yn rhai brwd eu teimladau; buasai yn ddiddorol gwybod pwy oedd y gwahanol rai a oedd yn llewygu, wylo, a moliannu, ond nid yw yr hanesydd wedi coffa enw neb ohonynt.  Ac fel y soniais o’r blacn, nid yw rhes enwau pererinion Llanwynno gennyf i’w chronicle yma.  Ond yr wyf yn cofio, ac y mae llawer heblaw fi yn’cofio am rai ohonynt.

Siened Domos Howel, Mae hi wed i ymadael ers mwy’na deg-ar-hugain o flynyddoedd, ond cofir am ei ffyddlondeb a’i sel grefyddol.  Yr oedd yn hen wraig o synnwyr cyffredin cryf; yn un o’r rhai hynny nad oedd yn cael eu cario ymaith gan eu teimladau; ond yr oedd hithau yn gallu codi i hwyl ac i foliannu ar brydiau.  Ond yn ei th@, ac ar ei haelwyd ei.hun yr oedd ei hysbryd crefyddol hi fwyaf tanbaid.  Yn narllenia,d 

=========================== (x250)

y bennod ganddi hi ei hun, a’r weddi a offrymai bob hwyr a bore. 
Un o seintiau Llanwynno oedd Siened Tomos. Yr oedd Griffiths, Glyn-coch, ac Evans, Daerwynno, yn enwog am eu duwioldeb a’u s&l grefyddol, ond yr oeddynt wedi croesi’r afon cyn fy amser i. Yr oeddynt ym mhlith y Methodistiaid na chymerasant y Cymun erioed ond y n EglWys y Plwy’; ac am flynyddoedd wedi codi’r capel, Ai yr aelodau i Eglwys Wynno bob mis i dderbyn y cymun o law yr offeiriad. Yr ydym yn cofio hefyd am Ifan Rhys, a’i weddi fwyn, a’i lais swynol, a’i ddywectiadau tyner; yr oedd yn ganwr melys iawn, a mynych ialwn y rhoddai allan i ganu yr emyn hwn 

Chwythed yr awel denau, lcm,

Dros fryn Caersalem newydd.

A boed fy nghaion i mewn hwyl

I gadw gŵyl i’r Arglwydd. 

Yr oedd weithiau yn myned dros yr eglwys i gyfarfod misol y Pil; cyfarfod cyntaf y flwyddyn, yr hwn a gedwid yno oddi ar pan sefydlwyd ef gan Jones, Llan-gan, o barch i’r hen William Thomas o’r Pil.  Yr wyf yn cofio clywed am Ifan Rhys yn myned i gyfarfod misol y Pil un tro fel cynrychiolydd yr Eglwys yn Llanwynno.  Pwyswyd arno i siarad yn y cyfarfod misol; cafodd anogaeth daer i siarad, ond yr oedd Ifan yn tybied fod digon o siarad wedi bod yno cisioes, a hwnnw yn siarad da, ac nid oedd yn teimlo awydd siarad ychwaneg; ond mynnai y cadeirydd iddo siarad rhywbeth. ‘Dewch, dewch,’ meddai, ‘frawd o Lanwynno, gwedwch rywbeth, tai fe ddim ond un gair-gwedwch.’ Cododd Ifan ar ei draed a dywedodd ‘Amen,’ gydag eneiniad mawr; ac yr oedd yn bleser ganddo feddwl nad oedd neb wedi blino ar araith y brawd o Lanwynno yng Nghwrdd Misol y Pil.  Ond mae Ifan Rhys wedi myned i ‘ gymanfa y rhai cyntaf-anedig’ ers llawer o flynyddoedd. 

=========================== (x251)

Un arall a gofir yn dda yngl@n â’r hen gapel oedd Joseph Davies, hen ysgolfeistr y lle.  Gweddiwr nerthol, darllenwr da iawn; dichon ei fod ef dipyn o flaen ei oes yn y plwyf, ac iddo oherwydd hynny fethu â chael y gwerthfawrogiad a ddylasai gael.  Yr wyf yn ei gofio yn eistedd o dan y pulpud, yno yr oedd ei sedd bob amser.  â phan fyddai llefarwr nerthol uwch ei ben, ac arddeliad neilltuol ar y genadwri, byddai dwy ffrwd fawr o ddagrau yn cyson lifo dros ei ruddiau; ac fel y buasai hwyl y siaradwr yn cynyddu, ac ysbryd y gwrandawyr yn cynhesu, yr oedd Joseph hefyd yn cael ei ddirdynnu yn ôl a blacn, ac fel pe buasai ei ysbryd ar ymddryllio.  Yr wyf yn c6fio fy mod yn blentyn lled fychan, yn edrych ar Joseph yn wylo dan bregeth Edward Matthews, ac vr oeddwn yn meddwl nad oedd neb o’r blaen wedi wylo dagrau mor rhyfeddol o fawr, megis pys mawrion.  Yr oedd Mr. Matthews yn ofnadwy o afaelgar yn y bregeth honno, feddyliaf, wrth yr hyn wyf yn gofio am agwedd y gwrandawyr. Yr oedd Joseph ers tipyn yn ysgwyd fel glasbren yn y gwynt, ac wedi codi ar ei draed i edrych i fyny dros ystyllen y pulpu i lygad y pregethwr, arwydd sicr fod y lle yn boeth iawn. Llifai y dagrau o’i lygaid yn ddwy ffrwd ddiymatal. O’r diwedd mae’r pregethwr yn cyrraedd climax ei ddisgrifiad; y rlunio deufor-gyfarfod, a llong yn digwydd mae yn awr yn da nesiu i’r fan ryfeddol lle y mae y ddauT6r, neu y ddau lif yn y môr, yn chwyrn-gyfarfod.  Dacw’r tonnau anferthol fel mynyddoedd enfawr yn rholio i gyfarfod â’i  gilycld, a’r tarth a’r tasgon yn codi o’r agennau erchyll, a’r sŵn fel drylliad bydoedd; ie, dacw’r dyffider ofnadwy yn lledu fel tragwyddol, deb, a’r llong yn disgyn oddi ar frigau cynhyrfus un o’r tonnau tymhestlog i’w waelodion rhyferthwyol, allan o olwg, allan o gyrraedd pob cymorth, allan o olwg hyd yn oed gobaith ei hun. Nage! Mae yna ryw allu dirgelaidd yn taflu’r llong allan o ferw digofus y ddeugor-gyfarfod nes y disgyn ar ei gwaclod yn dawel a diogel mewn dwfr llonydd, lle nad oes na dylanwad 

=========================== (x252)

storm na rhyferthwy! Yr enaid yn cael ei dynnu o’r corff ydyw, y marw yn cael ei yrru gan ryferthwyon marwolaeth- mae yn y ddeufor-gyfarfod! Mae yn suddo! Aeth i lawr!       I Naddo! Bendigedig!  ‘Oddi tanat mae y breichiau tragwyddol Codwyd y llong dros erchyll agennau y cyfarfyddfan!  Mae y dyfroedd wedi llonyddu.  Mae yr hafan ddymunol wedi ei chyrraedd! Nid oes gennyf gof am ddim mwy a ddywedwyd, ond yr wyf yn cofio bloedd Joseph      O ‘r nefoedd annwyl, dyna floedd! â dyna ddagrau       Pan ddaeth y llong allan i’r lle tawel, tybiais fod Joseph wedi ei godi hefyd o’r lle y safai.  Teimlai yntau ei enaid yn codi uwch ton, a storm, a pherygl, a theimlai ei hun ar y funud yn sefyll ar y graig na syflid gan ystormydd y dydd olaf; a rhywfodd cafodd Joseph afael ar linell o emyn wrth floeddio, ‘Haleliwia Haleliwia! Diolch 

Dyna’r graig sydd yn y moroedd,

Craig gadarnaf fu crioed,

Ceidw hon rhag pob ton

Ofnau ffwrdd o dan fy rnron. 

Cafodd Magws Williams afael yn yr un emyn, a dyrchafodd hithau ei llais yn fuddugoliaethus, a chyn ei bod hi wedi distewi yr oedd Mrs. Davies, Tynewydd, wedi dechrau gorfoleddu yn y pen arall i’r s6t, ac yna fflamiodd ysbryd George Davies, a rhoddodd un floedd-yr uchaf a glywais ganddo erioed-DIOLcH BYTH! a thybiais fod y Chwarel, a Choed y Glynnog o’r tu allan yn ateb y floedd ac yn cadw yr atsain Y mae, fodd bynnag, fyth yn fy nghlustiau. Un -arall yn rhes y pererinion oedd Evan Davies o Ben-rhys. Byr ei ddawn, a ber oedd ei weddi hefyd, ond yr oedd fel talp o aur pur, yn llawn o onestrwydd.  Er na fedrai dywallt ei galon gerbron gorsedd gras mewn ffrwd o huodledd nes cyffroi y rhai oedd yn gwrando, eto yr oedd yn argyhoeddi pawb ei 

=========================== (x253)

fod yn siarad h’i Dad, ac nad oedd yn cyffesu yr un gair, nac yn gofyn dim ond yr hyn oedd yn ei wirioneddol deimlo. Cyrchodd am flynyddoedd mcithion dros   ydd Gwyngul o Ben-rhys, gerllaw Ystradyfodwg, ddwywaith yr wythnos i gapel Llanwynno.  Ond symudwyd yntau bellach er ys tua I 7 o flynyddoedd.  Wedi hir gystudd, hyfryd oedd ei laniad i’r wlad ddi-haint.

Titus Jones, er hynoted ydoedd, rhaid ei enwi yntau gyda’r teulu hwn.  Bu yn byw yn Llanwynno am flynyddoedd, yn cadw ysgol yn ei dŷ ardrethol ei hun.  Yr wyf yn cofio yn dda iddo osod y tŷ yn fflamau drwy roddi sypyn o wellt a  ‘choed ar dAn er mwyn ceisio rhoddi darluniad o uffern i’r plant oedd dan ei ofal.  Yr oedd yn bregethwr, ond un o’r rhai rhyfeddaf a esgynnodd erioed i bulpud.  Yr oedd yn arfer dweud pethau digrif iawn, nes gyrru dynion i ysgafnder.  Clywais ef yn dwcud ar ei bregeth, pregeth neilltuol ar y pechod o ysmocio dybaco, ‘Pe buasai Duw wedi bwriadu i ti fod yn ysmociwr, buasai wedi gosod flue yn dy gorun di.’ â thro arall dywedai ‘Y mae y diafol yn debyg iawn i geiliacwydd y Felin-os ffowch chwi rhagddo, fe’ch dilyn ac fe’ch cura, ond os trowch yn ôl tuag ato, fe ffy yn ddigon llipyn, yr hen furgyn llwfr Dyrchafai ei lais yn y frawddeg olaf, ac ni fu llais mwy aflafar gan neb erioed.  Math o denor gwichlyd ydoedd, a ph!an waeddai, ac yr oedd wastad yn gweiddi, yr oedd yr effeithiau yn annymunol tu hwnt i ddisgrifiad. vBu yn ddigon ffôl i gymryd gwraig yn ei hen.oedran, yr hyn a fu yn anffawd fawr iddo.  Mynegodd yn y Cyfarfod Misol ei fod ar fedr priodi yn fuan, yng nghanol gwenau a chwerthiniad y rhai oedd yn bresennol.  Ceisiodd y cadeirydd, y Parch. David Roberts, Bont-facn, ei berswadio i ymbwyllo, ac aros fel yr oedd, gan roddi rhesymau cryfion dros hynny.  Atebodd yr hen Ditus gan apelio at y Cyfarfod a chyfodi chwerthin mawr, A welwch chwi! â welwch chwi! Mae ef wedi cael pedair 

=========================== (x254)

gwraig, ac yn awr, y mae yn anfodlon i mi gacl un 1 ‘ Yr oedd hyn yn ffaith, yr oedd Mr. Roberts yn briod i’i bedwaredd wraig ar y pryd, yr hon sydd yn awr yn briod â’r hen Batriarch enwog, Mr. Evans o Donyrefail, sydd yn nesiu yn gyflym i ben ei gant oed! Ond yr oedd Titus er y cwbl yn ŵr Duw.  Er el holl aflerwch a’i hynodrwydd, teimlid ei fod yn ofni Duw: Catwyd arwyddion lawer gwaith fod y Nef yn bendithio el bregethau anhrefnus ef i fod yn foddion i achub pechaduriaid. Casglodd Air.  Matthews beth arian tuag at ei gynhaliaeth yn niwedd ei oes, oblegid yr oedd rhai dynion diegwyddor wedi benthyca llawer o arian ganddo heb roddi dangosiad amdanynt, a thrwy hynny, collodd bron y cwbl a oedd ganddo, a therfynodd ei oes yn Nhloty’r Undeb!

Yr wyf eisoes wedi crybwyll enwau Rachel Jones, o’r Cwm, George Davies ac Ann.  I’awel, ffyddlon a duwiol fu holl fywyd Rachel o’r Cwm, merch yr hen Rhys Phylip ydoedd hi.  Yr oedd ef yn hen daid i mi.  Yr oedd wedi uno yng nghin y saint yr ‘ochr draw’ cyn fy ngeni, ond mae ei enw, a’i ddywediadau, a’i sôl, a’i dduwioldeb yn enwog yn y plwyf hyd heddiw.  Bu George Davies a’i wraig yn brif golofnau yr achos am flynyddoedd lawer.  Yr oedd ganddynt lawer o dda y byd hwn, a gwnaethant ddefnydd ohono i gynnal achos y 6@aredwr yn y plwyf.  Bu Mr. Davies farw yn hen ac yn llawn o ddyddiau.  Yr oedd ymadael â’r hen gapel yn waith anodd iddo ef, a oedd wedi treulio ei fywyd ynddo i addoli Duw.  Ond cyfrannodd yn dda tuag at y capel newydd, gwelodd ef wedi ei orffen; yna tynnodd ei draed i’r gwely, ac ymadawodd mewn tangnefedd. Yr ydym yn terfynu yr hanes ac yn gorfod ymadael i chwmniaeth ddifyr ysbrydion y plwyf yn y fan hon.  Gallesid yn hawdd ysgrifennu cyfrol arall ar Blwyf Llanwynno-mae gennym ddigon o ddefnyddiau-ond rhaid yw dyfod i’r pen yn rhywle, ac y mae hwn yn fan cyfleus i roddi pen ar y bellen. Bwriadasom roddi Ffug-chwedl Morgan Lam Morgan yn y llyfr 

=========================== (x255)

hwn, ond chwyddasai hynny y llyfr i ormod o faintioli. Dichon y cyhoeddir y chwedl eto, gydag ychwanegiadau. Nid oes gennym yn awr ond cyflwyno y llyfr i’r darllcnydd, gan obeithio y caiff beth mwynhad a lles wrth ei ddarllen. Yr wyf yn troi o’r neilltu, ac yn tynnu fy het oddi am fy mhen, i blygu yn wylaidd er dangos fy serch, fy mharch a’m hymlyniad, wrth hen dir cysegredig Gwynno, plwyf fy ngenedigaeth, daear hoff a chwaraele maboed, a thir cwsg llu o geraint a pherthynasau. 


·····

 



DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y WEFAN HON

0934k
tudalen mynegeiol y Wenhwyseg
Gwentian - the Welsh dialect of South-east Wales
·····
1929e
Enwau

Names
····

0223e
Yr iaith Gymraeg

The Welsh Language
·····
0550e

Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan; o’r tudalen hwn gellir hefyd
chwilio’r gwefan hwn â’r archwiliwr mewnol

Index of contents of the website
·····
1051e
Testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn

Welsh texts with English translations
 



Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 


Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats