0951 Gwefan Cymru-
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_023_tafodieithoedd_morgannwg_1911_0951k.htm
0001z Y Tudalen Blaen
..........1863c Y Porth Cymraeg
....................0009k Y Gwegynllun
..............................0960k Y Gyfeirddalen
i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina
0860k y llyfr ymwelwyr |
Gwefan Cymru-Catalonia
|
Adolygiadau diweddaraf: |
1270e This page in English (Dialects of Glamorgan)
The Grail /
Cyfrol 4, No. 13 (1911)
Tafodieithoedd Morgannwg
Gan T. Jones, Ysgol y Cyngor, Dunraven, Treherbert
Edrychid yn bur aml gan yr anwybodus a’r anghyfarwydd gyda gradd o ddirmyg ar
dafodieithoedd yn gyffredin fel rhywbeth y dylid eu hesgymuno o’r tir.
Cynhwysant, meddent hwy, y fath nifer o eiriau sathredig fel mai y peth goreu i
wneud ohonynt ydyw eu diarddel, a mabwysiadu iaith safonol yn eu lle. Yn
ffortunus fedrwn ni y Cymry ddim gwneud hyn oblegid ein tafodieithoedd ydyw
prif sylfaen ein holl ymddiddanion a’n llenyddiaeth. Mae gennym nifer o
dafodieithoedd, a mwy fyth o is-dafodieithoedd, ond hyn sydd ryfedd, fel mynn rhai
gredu yn rhagoriaeth y naill dafodiaith ar y llall. Ac nis gwn am un iaith
gwerin o holl dafodieithoedd Cymru ag y dirmygid cymaint arni ag iaith gwyr
Morgannwg. Peth digon cyffredin yw clywed pobl Dyfed a Gwynedd yn difrïo iaith
Morgannwg a chyhoeddi ei hanghyfiawnderau a’i diffygion fel petae eu hiaith hwy
yn safon llên y genedl.
Na, y mae gan y Wenhwyseg rai llenorion y medr ymffrostio ynddynt, pe enwid yn
unig Dafydd Benwyn, a beirdd Tir Iarll; pwy hyotlach ei bin na Ewart James,
awdwr yr Homiliau (1606), neu bwy ysgrifennodd cyn hardded Cymraeg a Thomas ap
Iefan o Drebryn, Morgannwg, neu bwy mwy llithrig a dyddorol na’r hynod Matthews
o’r Ewenni - prif nofelydd y Wenhwyseg fel y gwêl y neb a ddarlleno “Nyth y
Dryw” neu “Siencyn Penhydd.”
Bu hefyd mewn bri nid
yn unig lenorion ein gwlad, ond hefyd gan bregethwyr Morgannwg. Ysgwaethiroedd,
maent hwy bellach yn ei gwadu ac yn ymarfer y Ddyfedaeg, neu yn dynwared y
Wyndodeg gan dybio eu bod yn fwy yn y ffasiwn, ac mai sarhâd ar eu dychymyg
fyddai seinio yr a fain a’r cydseiniau celyd. Nid oes, bellach, olynwyr i’r
diweddar William Ifan o Donyrefail, nac i William John o Benybont. Llefarai
rhain a nifer o’u cydoeswyr yn iaith gynhefin Morgannwg, a dyma un rheswm dros
eu llwyddiant gyda’r lluoedd. Da fyddai pe bae iaith y pwlpud yn fwy cydweddol
â’r iaith lafaredig.
Ond, er graddol farw o’r Wenhwyseg, ni chaiff ei geiriaduriaeth na’i
neulltuolion ieithyddol fynd ar ddifancoll. Yn hyd y blynyddoedd diwethaf yma
bu llawer o hel ar eiriau Morgannwg, a mawr y blas a gafwyd yn y gwaith. Heblaw
cael helfa dda o eiriau, cafwyd i’r ystên bopeth sydd yn anwyl gan bobl y
broydd a’r bryniau a garant swyn swn hen benhillion {sic} telyn, hen
ddiarhebion, ofergoelion, ystoriau pentan, chwedlau a llên gwlad. Os am ystên lawn,
ewch i’r encilion lle trig hen bobl a lle mae’r nwyd Gymreig yn bur ei naws ac
yn loyw fel y grisial.
Yno, y clywch hwynt yn “wlîa” - nid ydynt yn “siarad” neu barablu “jargon,” ond
yn chwedleua yn ôl arfer yr hen Gymry. Ond o hir graffu, gwelir ddefnyddio
ganddynt eiriau a brawddegau cyn anhybyced i ardaloedd ereill o Gymru fel yr
edrychid arni fel iaith arall hollol. Ac felly y mae mewn gwirionedd, mae
treigliad amser wedi gwneud gwisg ei geiriau yn fwy syml, ac wedi dwyn i fewn
gyfnewidiadau tarawiadol iawn. Hefyd, mae graddau y dirywiad yn mwyhau fel yr
ewch o orllewin Morgannwg i’r dwyrain.
I’r neb sydd erioed wedi talu rhith o sylw i’r Wenhwyseg, tarewir ef ar unwaith
â symlrwydd a phertrwydd ei hymadroddion. Nodweddir hi gan ryw urddas cartrefol,
mae iddi osgo chwimwth sydd yn cyd-fyned â meddwl cyflym y deheuwr. Er amlyced
yw hyn i’r rhai sydd yn gyfarwydd â’r iaith, ofnwn rhag eu cyhuddo o bartiaeth
yn canu ei chlodydd a dyfynnwn farn arall. Nid ydys yn traethu ond gwirionedd
hen, a chaiff Wyndodwr ddatgan ei farn am ei symlrwydd. Meddai y Dr. Pughe,
mewn llythyr o’i eiddo i Mr. Cox, a ddyfynnir yn “History of Monmouthshire,”
“The general character of this dialect (i.e. the Gwentian) is a majestic
simplicity, the expressions being always full and free from contractions.” Mae
y dyb yma yn hollol gywir oddigerth y frawddeg “free from contractions.” Nid yw
yn rhydd o’r anffawd yma mwy nag unrhyw dafodiaith arall. Eto, mae symudiadau
ei brawddegau yn lled gyflym, mor gyflym na fedr mo’r Gogleddwr eu deall hwy, a
chwyna yn enbyd weithiau. “Cwyna yr olaf (sef y Gogleddwr) eu bod yn methu
deall gwyr y De, gan fuaned eu parabl; a phrin y mae gan y Deheuwr ddigon o
amynedd i wrandaw ar wyr y Gogledd, gan mor hirllaes ac araf y torant eu
geiriau” (“Llythyraeth yr Iaith Gymraeg,” tud. 34, Silvan Evans, 1861).
Gorffwys parhad a defnyddioldeb unrhyw dafodiaith ar dri o alluoedd; sef, gallu
i hwyluso seiniau geiriau, gallu i fabwysiadu a chydweddu geiriau newyddion ac
estronol, a gallu i gadw geiriau oesoedd cynt yn ei meddiant. Wedi ymchwil
manwl gellir dweyd fod pobl Morgannwg wedi llwyddo i wneud hyn tu hwnt i fesur.
Mae yn eu meddiant ddigon o eiriau - rhai miloedd mewn gwirionedd. Mae eu
hiaith yn gyfoethog o eiriau tlysion, swynfawr; mae yn doreithiog o eiriau
sarrug a thaiog; mae ganddi chwedleuon parod ac atebion parotach fyth, a stôr o
cyffelybiaethau a geiriau deublyg; ie, mae ynddi ddigon o ynni a rhamant i fod
eto o ddefnydd parhaol. Pan gofir safle ddaearyddol Morgannwg, natur arwynebedd
y fro, - cyn agosed ydoedd i ymosodiadau y gelyn ac i’r llanw Seisnig, - y
syndod yw pa fodd y galluogwyd hi i wrthsefyll yn erbyn cefnllif y Sacson, y
Norman, a’r Sais, heblaw sôn am oresgyniad masnachol ein dyddiau ni.
Cyn dechreu o’r Goresgyniad Masnachol tua 1760-1795, cawn taw Cymraeg bur oedd
i’w chlywed hyd a llêd y sir. Dyma’r gwrthwynebedd a’r difrodydd mwyaf andwyol
ar yr Wenhwyseg. Newidiodd y dull o fyw, cymerodd masnach lofaol le yr
amaethyddol, a chafodd hyn, felly, effaith ddistrywgar ar fywyd ac iaith
amaethyddol y sir. Ond hyd yn oed pe canieteid hyn, mae ynddi eto ddigon o
undeb corfforol i’w gwneud yn allu nerthol yn y tir.
Hwyrach cawn fwrw golwg agosach ar ffiniau tafodieithoedd Morgannwg a’u
neilltuolion ieithyddol. Byddai unrhyw ymdrech ar hyn o bryd i nodi yn gywir y
ffiniau yn anfoddhaol o herwydd prinder defnyddiau at y gwaith. Ond cyn belled
ag yr â sylwadaeth ac ymchwiliad mae yma dair tafodiaith amlwg, sef, y
Wenhwyseg Bur, neu dafodiaith Blaena a Bro Morgannwg, tafodiaith Cwm Nedd, a thafodiaith
Cwm Tawe. Penderfynnir pob ffin yn ôl rhyw arwyddion ieithyddol, a cheisiwn eu
nodi.
Mae sain y llafariad a yn penderfynnu un ffin. Cofier fod dwy a ym Morgannwg, y
naill yn hir a’r llall yn fain. Ceir y cyntaf i’r gorllewin o’r Cefn Mawr a’r
Foel Fynyddau, a’r a fain (nodir hi yn yr ysgrif fel ä) i’r dwyrain o’r
un ffin. Perthyn y cyntaf i’r Ddyfedaeg, ond mae’r a fain yn briodoledd
neilltuol o’r Wenhwyseg Bur.
Cyfetyb hefyd i “â” y Gernywaeg a thebyg ydyw i frefiad dafad, yr un ag a geir
yn y Seisnig baa. Dywed Mr. Jenner yn ei lawlyfr ar y Gernywaeg am yr
“ä” yma fel hyn,
“â long, the lengthened sound of a short, not as the English broad a i
father, or long a in name... Thus bâ would have something
between the sound of the English bare in the mouth of a correct speaker
and the actual sound of the bleat of a sheep (Handbook of the Cornish Language,
by H. Jenner, p. 56).
Petae Mr. Jenner yn un o wyr y Gloran, neu o wyr y Fro, nis gallai roi gwell
disgrifiad o’r hyn
ydyw a
fain y Wenhwyseg. Mynn rhai mai deusain ydyw, yn tebygu i “eä” neu “iä,” megys teäd (tâd), neace (nage). Na, un sain
ydyw, ond fod tuedd gan rai i’w ffugio a’i chulhau yn fwy er boddio rhyw goegni
o’u heiddo.
Mae trigiant yr a fain, fel y dywedwyd eisoes, i’r dwyrain o’r Cefn Mawr sydd
rhwng Cwm Nedd a Chwm yr Afan {sic; = Cwm Afan}. Cynnwys y ffin yma sy’n rhedeg
o’r Kenffig {sic: = Cynffig}, ar hyd drum y Cefn Mawr, hyd at Aberdâr a
Merthyr, gymoedd poblog Morgannwg, sef yr Afan, Corrwg, y Garw, Ocwr, Lai,
Rhondda, Cynon, Taf, a Rhymi, a bro Morgannwg. Adnabyddir y mynyddoedd
ym mhen uchaf y sir fel y “Bleinia” (Blaenau). Bu llawer ymgyrch rhwng “Gwyr y
Bleinia” a “Gwyr y Fro” nes aeth yn “wetiad” gan yr olaf, “Myswynoch rhog Gwyr
y Bleinia,” neu “Myswynoch rhog Gwyr y Fro,” neu “Myswynoch rhog Gwyr y
Gloran,” - trigolion Cwm y Rhondda yr rhai [sic = y
rhai] oedd yn nodedig am wneud difrod ar feusydd ffrwythlon y Fro, a
dwyn eu gwartheg blithion.
I’r gorllewin o’r ffin yma y mae gwyr Castell Nedd, neu fel yr adwaenid hwy ar
lafar gwlad “Gwyr y Mera.” Ni fynnai gwyr y Fro gael un cyfathrach â hwynt,
oblegid
“Yr Abbey Jacs a’r Mera breed
‘Dos dim o’u bäth nhw yn y byd.”
Penderfynnir y ffin nesaf yn ôl y modd y defnyddir “a” neu “e” yn sill olaf geiriau. Mae sylwi ar ynghaniad y
gair bach “ia” neu “ie” yn ddigon i’n dwyn i gasgliad lled gywir. Ac er
ychwanegu y prawf sylwer ymhellach sut yr ynghaner y geiriau ac “a” yn y sill
olaf - pa un ai “petha”
ynte “pethe”; “llawan”
ynte “llawen,” ac yn y blaen. Fe’n cynhorthwyir yma gan ffeithiau ereill, sef
arwynebedd y tir, a phwysigrwydd trefydd Abertawe a Chwm Nedd. Mae cors wlyb
Crymlin yn un pen o’r ffin rhwng tafodiaith Cwm Nedd a thafodiaith Cwm Tawe, ac
y mae pwysigrwydd marchnataol Abertawe a Chwm Nedd yn penderfynnu i raddau,
rhediad y ffin o’r gors ymlaen, rhwng Llansamlet a Sciwen. Mae yn ymrannu yn
agos i Cwmdu {sic}, ac oddiyno â i’r Hirfynydd, gan ddilyn Sarn Helen hyd at
Bont Nedd Fechan.
I’r dwyrain o’r ffin yma yr “a” sydd gyffredin, megys “ia,” “llawan,” “patall”
(padell), “catar” (cadair).
“Tri pheth sy’n llonni’r bachan,
Gweld gwraig y ty’n llawan,” etc
I’r gorllewin o’r un ffin yma “e” sydd gyffredin.
Nodwedd neilltuol iawn o eiddo holl dafodieithoedd Morgannwg ydyw caledu’r
seiniau meddal - g, b, d - i fod yn rhai celyd - c, p, t - megys “maci” (magu),
“popi” (pobi), “catw” (cadw). Ceir y seiniau yn niwedd geiriau deusill. Clywir
yr acen galed yma o Afon Lliw hyd Sir Fynwy.
Ni ddaw tafodiaith Gwyr o fewn ein hystyriaethau, oblegid ychydig iawn o
Gymraeg sydd is law “Penclôdd,”
ys dywed gwragedd Gwyr.
Gwelir oddiwrth y sylwadau uchod fod yna dair tafodiaith yn ffynnu ym
Morgannwg; sef y Wenhwyseg, yr hon a gynnwys yr a fain, y ddiweddeb a, a’r a yn
y goben; tafodiaith Cwm Nedd, yr hon sydd debyg i’r Wenhwyseg oddigerth nad oes
ganddi mo’r a fain; a thafodiaith Cwm Tawe, lle ffynna dim ond un
nodwedd neilltuol o’r Wenhwyseg, sef y cydseiniau celyd.
Y mae yn orchwyl dyrys ddigon i chwilio allan nodweddion gramadegol unrhyw
dafodiaith fyw, ond ceisiwn er hynny enwi rhai o bwyntiau amlycaf seiniau y
llafariad
a’r cydseiniau, ac y diweddwn hyn o lith trwy roddi rhai geiriau henafol y
Wenhwyseg.
Pareblir a, e ac i yn amlwg a chlir; mae yr a cyn amlyced fel
nad amhriodol fyddai galw’r Wenhwyseg yr a dafodiaith;
y mae e y goben yn hir, e.g., mêlîn ac nid mêlin fel yn Ddyfedaeg;
nid oes un gwahaniaeth rhwng i, u, ac y - seinir hwynt fel i;
mae’r o yn debyg i’r o yn y geiriau Seisnig note, vote,
megys gôfin, ôfan (ofn), ond y mae o o flaen n ac r yn fyrr, megys
llonni, torri. Y mae’r o yn hollol annhebyg i o y Ddyfedaeg.
Y mae llafariad o flaen llt, sc, sp ac st yn fyrion, megys mêllt,
Pâsc, llîsc (llusg), clîst. “Ymddengys,” meddai Silvan Evans, “fod y dull hwn
yn fwy cysson â theithi y Gymraeg, ac â chyfaledd ieithoedd yn gyffredin”
(“Llythyraeth yr Iaith Gymraeg,” tud. 33).
Try a, e ac i i’r llefariad {sic} dywyll (obscure vowel) yn aml
iawn, ond gan nad oes ond yn unig gofod i’w grybwyll awn heibio iddi.
Eto, gair ar y cydseiniau. Mae d yn cael ei dilyn gan i yn troi yn “ji”,
megys jiofadd (dioddef); jiocal (diogel);
aiff f ar goll yn lled aml,
ac y mae h bron darfod a bod yn llythyren fyw os na fydd angen am
bwyslais neilltuol, e.g. y nhw yn (“nhw”), dihîna, a phan yn dilyn y rhagenw ym
dodir h i fewn, e.g. ym harian i, ym hallwath i; ond mae wedi ei
llwyr golli mewn rhai geiriau, megis ar wa’än, gwaniath (gwahaniaeth),a dîno
(dihuno).
Try s yn sh pan
(1) yn gyfartal â si, neu ji neu ja yn Seisnig;
(2) mewn geiriau unsill, megys mish (mis), prish (pris),
(3) ynghanol geiriau - mishol, tishan (teisen) shishwrn (scissors); ac
(4) pan bo d neu t yn cael eu dilyn gan i, neu u,
megys, scitsha (esgidiau), tsha (tua). Mae rhai geiriau, serch hyny, wedi arbed
y dirywiad yma, megys siwr (sywr, ac nid shiwr na shwr), plêsar, swgir, crîs
(crys), cros (croes), tros.
Nodwn, cyn tynnu i’r terfyn, rai geiriau glywir bob dydd, rhai am eu
hynodrwydd, ereill am eu henaint, ac ereill am eu dyddordeb cyffredinol. Hyd yn
oed yn eu cyfarchiadau beunyddiol tynnant ein sylw. Wele atebion i’r cyfarchiad
syml, “Shwd ych chi heddy?” - “Iownda” neu “Iownda dä” neu “Ionwda drwg” neu
“Piwr diginnig” neu “Tlawd a Bälch” [sic; ond yn
sicr ddigon “balch”, nid “bälch”].
Ereill a’n hatgoffa ni pan oedd addoli Mair a Phabyddiaeth yn nerthol yn ein
gwlad, megys “ma’n gorwadd dan i grwys,” “Mäb Mair i’th ran,” “Arîa!” (Ave Mair neu Ave Maria), a’r “Fari
Lwyd” neu y “Feri Lwyd” fel y gelwid hi yn y Fro.
Wele frawddegau eto sy’n dwyn ein meddyliau yn ôl i’r Canoloesoedd: “Dir dalo
iti” (Duw a dalo itt Mabinogion). “Rhäd Duw ar y gwaith,” “Bendith Duw
ar y gwaith,” ac feallai “Dir di shefoni’n brudd.”
I’r sawl a garai’r gwaith o’u casglu mae toraeth dda o hen eiriau y Mabinogion
yma, ond rhoddwn ychydig o honynt, megys - ys, y rhagenw “i” ac nid ei,
y diweddeb ws o wys y Mabinogion, gwaith yn golygu effaith,
rhog (rhag), i miwn (i mywn, Mabinogion),
i mäs (i maes, Mabinogion),
diwetidd (diwedd dydd, Mabinogion),
i fynidd (i vynydd, Mabinogion),
siwr (Med. W. sywr) {= Medieval Welsh},
whech,
whär (whaer),
cymrid (cymryd, Mabinogion),
gwilad (gwylat, Mabinogion)
cwplo cwpla (cwplaf, P.K. , Mabinogion),
hoil (O.W. houl) {= Old Welsh},
pilgin (pylgein),
pwysig (weighty, Lat., pensum) {Latin},
briwo (to pound small) (Lludd a Llefelys),
digoni (“or druc digonit,” BBC),
cyflwyna (to take presents, M.W. cyflwyn),
gorod (gorfod, “gorfod cymod â thi.” Myf. Arch., tud 58),
diwarnod (diwarnawd, Mabinogion),
yma lle, yna lle (Ac ene lle y Kerdus enteu ar wyr powys.” Hanes G. ap Cynan),
rhacod (“Gwaith teg yw marchogaeth ton / I ragod pysg o’r eigion.”) (D. ap
Gwilym) {= Dafydd ap Gwilym},
ys llawer didd a llwffan (Med W lloppaneu) {=
medieval Welsh}.
Gwelir, oddiwrth hyn o lith gymaint ddyddordeb sydd yn y Wenhwyseg i’r
ieithyddwr, ac hyd yn oed, i’r darllennydd cyffredin.
_________________________________________
DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL
EIN GWEFAN
0934k
tudalen mynegeiol y Wenhwyseg
·····
0960k
llên Cymraeg ar y We - “tudalen Siôn Prys Aberhonddu”.
·····
0223e
yr iaith Gymráeg
·····
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r
Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina of the
Web "CYMRU-CATALONIA" (= Galles-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (=
Wales-Catalonia) Website
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) víziting ø peij
fròm dhø "CYMRU-CATALONIA" (=
Weilz-Katølóuniø) Wébsait