1268e Gwefan Cymru-
http://www.kimkat.org/amryw/sion_prys_025_dydd_marchnad_cadrawd_1268e.htm
Yr Hafan / Home Page
..........1864e Y Fynedfa yn Gatalaneg /
Gateway in English to this website
....................0010e Y Gwegynllun
yn Saesneg / Siteplan in English
...................................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) / Texts
in Welsh - Main Page
.............................................y tudalen hwn
|
Gwefan Cymru-Catalonia |
Adolygiad diweddaraf / Darrera
actualització 16 06 2000 |
xxxx Y tudalen hwn yn Gymraeg
·····
(1) Fersiwn
wreiddiol / original version
NODIAD: Mae Cadrawd wedi arfer ‘f’ yn lle ‘ff’ a’v’ yn lle ‘f’ / NOTE: Cadrawd
uses ‘f’ instead of ‘ff’ and ‘v’ instead o ‘f’
(2) Fersiwn yn yr orgraff fodern a throsiad Saesneg / Version
in modern spelling with an English translation
(3) Trosiad Saesneg/ English translation
______________________________________________________________
TAVODIAITH Y SIROEDD
RHIV II - TAVODIAITH MORGANWG.
1. YMGOM RHWNG DAU FARMWR YN NGHANOLBARTH
GAN CADRAWD.
Cymeriadau:- SHENCYN DOMOS. SHON MATHO.
(MODERN SPELLING) TAFODIAITH Y SIROEDD
RHIF II - TAFODIAITH MORGANNWG.
1. YMGOM RHWNG DAU FFARMWR YNG NGHANOLBARTH
GAN CADRAWD.
Cymeriadau:- SHENCYN DOMOS. SHON MATHO.
(OUR TRANSLATION) DIALECTS OF THE COUNTIES
NUMBER II - GLAMORGAN DIALECT.
1. CONVERSATION BETWEEN TWO FARMERS IN
_________________________________________
SHENCYN DOMOS: Py shwd i ch’i heddy’, Shon Matho? Mae’n dda digynyg
geny’ch gwelad
(MODERN SPELLING) Pa sut ych chi heddiw, Siôn
Matho? Mae’n dda digynnig gennyf eich gweled
(OUR TRANSLATION) How are you today, Siôn
Matho? It’s wonderful (extremely good) to see you
_________________________________________
SHON MATHO: Wy’n weddol iawn diolch i ch’i; shwd i ch’itha, Shencyn
Domos?
(MODERN SPELLING) Yr wyf fi yn weddol iawn,
diolch i chwi. Sut ych chwithau, Siencyn Domos?
(OUR TRANSLATION) Not so bad, thank you. How
are you, Siencyn Domos?
_________________________________________
A shwd mae’r teulu? Mae tipyn ‘dd’ar pan y gwelas ch’i o’r bla’n, - di
ch’itha ddim mor vynych ag y buoch yn dilyn y marchnatodd yma!
(MODERN SPELLING) A sut mae’r teulu? Mae tipyn
oddi ar pan y gwelais chwi o’r blaen, - nid ych chwithau ddim mor fynych ag y
buoch yn dilyn y marchnadoedd yma!
(OUR TRANSLATION) And how’s the family? It’s a
bit since I last saw you - you don’t come as often as you did (you aren’t as
frequent as you have been) in attending (following) these markets!
_________________________________________
SHENCYN DOMOS: Nag otw’n wir ysgwaethyrodd, mae’r petha o’dd yn
blesar ys blynyddo’dd yn ol yn dechra myn’d yn vaich, ac er vod yr anian yn
para, mae y gallu yn llai;
(MODERN SPELLING) Nac ydwyf yn wir ys gwaetha’r
modd, mae’r pethau a oedd yn bleser er ys blynyddoedd yn ôl yn dechrau myned yn
faich, ac er bod yr anian yn parháu, mae y gallu yn llai;
(OUR TRANSLATION) No I’m not unfortunately, the
things that were a pleasure years ago are becoming to be a burden, and though
the will is there (the disposition is there), the ability is less;
_________________________________________
Wel, pilid i gwala yw yr hen wraig oco ys tipyn, mae hitha’ yn mynad ar
‘i gwa’th vel vina’, a do’s genym ni ddim ond trio gnuthyr y gora’ o’r gwaetha’
bellach, a phar’toi ar gyvar myn’d odd’yma.
(MODERN SPELLING) Wel, pilaid ei gwala yw yr hen
wraig acw er ys tipyn, mae hithau yn myned ar ei gwaeth fel finnau, a nid oes
gennym ni ddim ond trio gneuthur y gorau o’r gwaethaf bellach, a pharatói ar
gyfer myned oddi yma.
(OUR TRANSLATION) Well, back home the wife has
been somewhat indisposed for some time; she’s getting worse like me, and all we
can do is make the most of it now (we have nothing but to try and make the
best of the worst now) and get ready for leving this world (for going
from here)
_________________________________________
SHON MATHO: I chi’n gwêd y gwir, mae amsar yn vishi o hyd, ac mae’n
g’neud ei ol arnom ni gyd. ‘Dw ina’ ddim vel y gwelas i vi, mae rhyw wynecon
dysbrad yn yng nghevan i, rwy’n faelu cysgu’r nos hanar da.
(MODERN SPELLING) Yr ych chwi yn dweud y gwir,
mae amser yn fisi (= yn brysur) o hyd, ac mae’n gwneud ei ôl arnom ni i gyd.
Nid wyf innau ddim fel y gwelais i fi, mae rhyw wynegon desbred yn fy nghefn i,
yr wyf yn ffaelu cysgu’r nos hanner da.
(OUR TRANSLATION) You’re right (you are
telling the truth), time stops for no man (time is always busy) and
it leaves its trace on all if us. I’m not like I saw myself (??}, I’ve got some
aful pains in my back, I can’t get a good night’s sleep at all (I fail to
sleep the night half (as) good)
_________________________________________
Py shwd mae’r plant? y rhai sy’ yn nhre’. Gadewch welad, mae dou wedi
priodi, ond ôs.
(MODERN SPELLING) Pa sut mae’r plant? y rhai
sydd yn nhref. Gadewch weled, mae dau wedi priodi, onid oes.
(OUR TRANSLATION) How are the children? The
one’s who are at home. Let me see, two of them have got married, haven’t they?
_________________________________________
SHENCYN DOMOS: Os yn siwr, mae Davydd yn byw nawr yn Llety Ngiarad, a
Chatws hitha’ yn briod a mab Tycanol, ac yn gnuthyr yn famws, ac yn dechra’
cwnu teulu o blant.
(MODERN SPELLING) Oes yn siwr, mae Dafydd yn byw
yn awr yn Lletyangharad, a Chatws hithau yn briod â mab Tycanol, ac yn
gwneuthur yn ffamws, ac yn dechrau cwnnu (cychwynnu) teulu o blant.
(OUR TRANSLATION) They have indeed, Dafydd
lives in Lletyangharad now, and as for Catws she’s married to the boy from
Tycanol farm, and they’re getting along fine, and beginning to raise a family (raise
a family of children).
_________________________________________
Mae y bachgan sy’n weddw, mae e’ yn weddol iach, ond i vod a’n gorvod
gwi’th’o’n rhy galad vel mae gwaetha’r modd, ac vel y gwyddoch ch’i, mae y rhai
sy’n enill ei b’oliaeth ar drin tir y tymor yma, yn rhwym o slavo, neu vod ar
ol
(MODERN SPELLING) Mae y bachgen sydd yn weddw,
mae ef yn weddol iach, ond ei fod ef yn gorfod gweithio yn rhy galed fel mae
gwaetha’r modd, ac fel y gwyddoch chwi, mae y rhai sydd yn ennill ei bywoliaeth
ar drin tir y tymor yma, yn rhwym o slafo, neu fod ar ôl.
(OUR TRANSLATION) The boy who’s a widower, he’s
pretty well, but he’s forced to work too hard unfortunately, and as you know,
the people who earn their living working the land (treating the land)
this season are obliged to work like slaves to keep up (‘or be behind’).
_________________________________________
SHON MATHO: I’ch ch’i’n gwedyd y gwir, Shencyn, mae yn vwy anodd
d’od ar ddou pen i gwrdd yn awr nag y gwela’s i ‘rio’od, ‘rw’ i a’r plant yn
trybaeddu yn hwyr ac yn vora, a fob un yn gnuthyr ‘i ora, ac wedi’r cwbwl yn
cial gwaith talu’n fordd.
(MODERN SPELLING) Yr ych chwi’n gwedyd y gwir, Siencyn, mae yn
fwy anodd dyfod â’r ddeupen i gwrdd yn awr nag y gwelais i erioed, yr wyf fi a’r
plant yn trybaeddu yn hwyr ac yn fore, a phob un yn gwneuthur ei orau, ac
wedi’r cwbl yn cael gwaith talu ein ffordd.
(OUR TRANSLATION) What you say is true, Siencyn, it’s harder to
make ends meet now (to bring the two ends to meet) than I’ve ever known
(than I saw it ever before), me and the children are hard at it
(literally: daubing) from first thing in the morning until last thing at
night, and each doing his best, and after all that still finding it hard (and
after the whole having work) to pay our way.
_________________________________________
SHENCYN DOMOS: Shwd mae Betty, y hi yw’r i’anga’, on’ te?
(MODERN SPELLING) Sut mae Betty, hyhí yw’r ieuangaf, onid e?
(OUR TRANSLATION) How’s Betty, she’s the youngest, isn’t she?
_________________________________________
SHON MATHO: Ia’n siwr, a chlwca i gwala yw hi o ran iechyd. ‘Dyw hi
ddim wedi bod yn sownd ‘iod, ond bod yspryd da yndi, a dyna sy’ yn i chiatw i
vynydd. Shwd mae nhw gyta ch’i? Vi wela’s y bachgan hena’ yn y Bont-vân, ‘do’s
dim llawar ‘ddar hyny.
(MODERN SPELLING) Ie yn siwr, a chlwca ei gwala yw hi o ran
iechyd. Nid yw hi ddim wedi bod yn sownd erioed, ond bod ysbryd da ynddi, a
dyna sydd yn ei chadw i fynydd (i fyny). Sut maent hwy gyda chwi? Fi a welais y
bachgen hynaf yn y Bont-faen, nid oes dim llawer oddi ar hynny.
(OUR TRANSLATION) Indeed she is, and she’s not so well
health-wise. She’s never had very good health (never been very sound),
but there’s a good spirit in her, and that’s what keeps her going (keeps her
up). How are they with youu? I saw the oldest boy in Bont-fân (Cowbridge),
so so long ago (it is not a lot since that time)
_________________________________________
SHENCYN DOMOS: Do’n siwr, ve vu, a chwpwl o vustechi yno ar gownt
i gwerthu; ond mawr cy’ lliad o alw sydd am beth velly y mishoedd yma.
(MODERN SPELLING) Do yn siwr, fe fu, a chwpwl o fustechi yno ar
gownt i’w gwerthu; ond mawr cynlleied o alw sydd am beth felly y misoedd yma.
(OUR TRANSLATION) Yes, ndeed, he was, and a couple of bollocks
(bought) on credit to sell, but there’s hardly any demand (greatly so little)
for anything of the sort (something so) these last few months.
_________________________________________
SHON MATHO: Ich ch’i’n gwed y gwir, ‘do’s dim shwd beth a chial
gwarad o un math o greadur, ‘dw’ i ddim yn covio gwelad amsar mor anodd i ‘neud
arian yriod, ac amsar pan y mae cymaint o isha arian hevyd.
(MODERN SPELLING) Yr ych chwi’n dweud / gweud y gwir, nid oes dim
sut beth a chael gwared o un math o greadur, nid wyf fi ddim yn cofio gweled
amser mor anodd i wneud arian erioed, ac amser pan y mae cymaint o isha arian
hefyd.
(OUR TRANSLATION) You’re right (you are telling the truth),
it’s impossible to (there’s no such thing as to) get rid of any sort of
beast, I don’t ever remember it being so difficult (I don’t remember seeing
a time so hard) to make, and a time when there’s so much of a need for
money.
_________________________________________
SHENCYN DOMOS: Wel, dyma wy’n glwad pawb yn i weud, ag ond bai
vod y plant a vina yn catsho gymynt a all yn c’lona’ ni, ni vysen wedi gorvod
rhoi’r lle i vynydd ys llawar dydd; ac wn i ddim fordd mae rheiny sydd yn
gorvod ciatw tylw’th yn d’od yn rownd yn y byd mawr waeth mae tylw’th yn govyn
mwy o amod yn awr na buo’n nhw ‘rio’d.
(MODERN SPELLING) Wel, dyma yr wyf yn clywed pawb yn ei ddweud,
ac onibai fod y plant a finnau yn catsho gymaint a all yn ein calonnau ni, ni
fuasem wedi gorfod rhoi’r lle i fynydd er ys llawer dydd; ac ni wn i ddim
ffordd mae y rhai hynny sydd yn gorfod cadw tylwyth yn dyfod yn rownd yn y byd
mawr o waith y mae tylwyth yn gofyn mwy o amod yn awr na buont hwy erioed.
(OUR TRANSLATION) Well, that’s what I hear everybody saying,
and if it weren’t for the plant and me hurrying as much as we can in our
hearts, we would have had to give up the place (farm) long ago; and I don’t
know those who have to maintain a family manage (come round) in the big
world because a family requires more salary now than they ever did before
_________________________________________
Vi wela’s Risiart o’r Morva yn gorvod promiso punt y mish, i grotan o
‘sgenas vitw vach, yn fair Merchamota diwetha, ac wn i ddim o b’le mae hi’n
myn’d i nuthyr i gwerth nhw, a thalu am i b’oliaeth hevyd, oblegid nid pob sort
o vwyd naif y tro i dylw’th yn awr vel y gwela’s i, a rhaid i ch’i vindo for
b’och ch’i’n wleua, ond te, nhw gwnan i cwt a’ch giadal,
(MODERN SPELLING) Fi a welais Rhisiart o’r Morfa yn gorfod addo
punt y mis, i groten o fachgennes fitw fach, yn ffair Merchamota diwethaf, ac
ni wn i ddim o ba le y mae hi yn myned i wneuthur eu gwerth hwy, a thalu am ei
bywoliaeth hefyd, oblegid nid pob sort o fwyd naiff y tro i dylwyth yn awr fel
y gwelais i, a rhaid i chwi feindio pa ffordd y byddwch chwi’n chwedleua (=
siarad), onid e, hwy a gwnnant (gychwynnant / godant) ei cwt (= cynffon) a’ch
gadael,
(OUR TRANSLATION) I saw that Rhisiart in Morfa farm had to
promise a pound a month, to a young lady who was a widow (a girl of a little
widow lass) at the last maid-hiring fair, and I don’t know how she’s going
to pay for herself (??) (from where she’s going to make her value}; and
pay for her upkeep too, because not nay old kind of food will do for a family
as I’ve seen, and you have to watch how you talk, if not, they’ll walk out on
you (raise their tail and leave you)
_________________________________________
a ch’i gaif y gair gwaetha’. Mae gwishon, wetyny, yn dishgwl cial o
ucian i ddeg punt ar ucian o amod yn y vlwyddyn, a giatal pan v’o’n nhw’n gweld
bod yn dda, a braidd y cewch ch’i gentyn nhw nuthyr un pwt ar ddydd Sul, ond
fwrdd a nhw i wylhersa, yn well i byd, ac yn well i trwshad o lawer na’r rhai
sy’n gorvod i ciatw, pryd y gwela’s i bedwar o’r bechgyn apla’n y plwyv yn
gwasanaethu yn y G-------, y pedwar am ucian punt yn y vlwyddyn.
(MODERN SPELLING) a chwi gaiff y gair gwaethaf. Mae gweision,
wedi hynny, yn disgwyl cael o ugain i ddeg punt ar ugain o amod yn y flwyddyn,
a gadael pan fyddont hwy yn gweld bod yn dda, a braidd y cewch chwi ganddynt
hwy wneuthur un pwt ar ddydd Sul, ond i ffwrdd â hwy i wilhersa, yn well eu
byd, ac yn well ei trwsiad o lawer na’r rhai sydd yn gorfod eu cadw, pryd y
gwelais i bedwar o’r bechgyn ablaf yn y plwyf yn gwasanaethu yn y G-------, y
pedwar am ugain punt yn y flwyddyn.
(OUR TRANSLATION) and you’ll get the blame for it (it’s you
who will get the worst word). And what’s more, farmhands expect to get from
twenty to thirty pounds a year, and leave when it pleases them, and you’re not
very likely to get them (and hardly you will get with them) to do a
stroke of work on a Sunday, but off they go to prance about, better off for
money, and dressed a lot better than the ones who must employ them, the time I
saw four of the ablest lads in the parish employed at G------ farm, each of the
four earning twenty poubsa a year.
_________________________________________
SHON MATHO: Ich ch’i’n gwêd calon y gwir, Shencyn, mae’r byd wedi
mynd rhagtho, ac os na ddaw rhyw dro ar betha’n sytan, ve vydd rhaid i’r fermwr
rhoi vynydd fermu, ta’ beth vydd ein trych wedyn. Y ni sy’n gorvod cario’r pen
tryma ym mhob amgylchiad, ac os bydd isha rhagor o arian i gario y’ mla’n y
llywodra’th, bydd yr hen fermwr yn siwr o gial i gofa.
(MODERN SPELLING) Yr ych chwi’n gweud / dweud calon y gwir,
Siencyn, mae’r byd wedi mynd rhagddo, ac os na ddaw rhyw dro ar bethau yn
sytan, fe fydd rhaid i’r ffermwr roi i fynydd ffermu, beth bynnag fydd ein
trych (??) wedyn. Nyní sydd yn gorfod cario’r pen trymaf ym mhob amgylchiad, ac
os bydd eisiau rhagor o arian i gario ymlaen y llywodraeth, bydd yr hen ffermwr
yn siwr o gael ei goffa.
(OUR TRANSLATION) You’re dead right, Siencyn, the world has
moved on, and if things don’t change soon (if there doens’t come some turn
on things instantly) the farmers will have to tgive up farming, whateve our
(??fate) is afterwards. We’re the ones who have to bear the brunt every time (carry
the heavy end in every circumstance), and if there’s need of more money i
keep the government going (to carry forward the government) the old
farmer is sure to be reminded
_________________________________________
Mae’r holl betha’ newydd yma sydd wedi dod i’r wlad, nad o’dd son am
denyn nhw yn ‘y nghov i, wedi distriwio’r wlad: yr holl vyrdda’ yma sy’ gentyn
nhw yn llywodraethu, a’r hai vawr sydd o hyd am ddysceidiaeth; y petha’ hyn
greda’ i sydd wedi tynu melltith arnon ni.
(MODERN SPELLING) Mae’r holl bethau newydd yma sydd wedi dod
i’r wlad, nad oedd sôn amdanynt hwy yn fy nghof i, wedi distriwio’r wlad: yr
holl fyrddau yma sydd ganddynt hwy yn llywodraethu, a’r hai fawr sydd o hyd am
ddysgeidiaeth; y pethau hyn fi gredaf fi i sydd wedi tynnu melltith arnom ni.
(OUR TRANSLATION) All these new things which have come to the
country, which were never talked of as far as I can remember (within my
memory) have ruined the country; all these boards they have to govern, and
the great cry for education that there is; these things I believe have been a
curse (have drawn a curse on us)
_________________________________________
SHENCYN DOMOS: Mae llawar o wir yn y peth i ch’i yn i ‘weyd, Shon Matho,
ond mae gwahania’th barn am betha’; vel i ch’i’n son, vi wn i gymynt a hyn, pan
o’wn i yn las grotyn, wy’n covio gweirwyr yn lladd dwy erw’r dydd, yn ddidraval,
ac yr oedd yn dda gian withwyrs y pryd hyny gial job o waith betingo,
neu ddyrnu, neu gloddio, a ch’i gelsych glwad y discwrs yn vynych yn yr evel,
a’r velin, pwy o’dd y cloddiwr gora’.
(MODERN SPELLING) Mae llawer o wir yn y peth yr ych chwi yn ei
ddweud, Siôn Matho, ond mae gwahaniaeth barn am bethau; fel yr ych chwi’n sôn,
fi a wn i gymaint a hyn, pan oeddwn i yn las-grotyn, yr wyf fi yn cofio
gweirwyr yn lladd dwy erw’r dydd, yn ddidrafael, ac yr oedd yn dda gan weithwyr
y pryd hynny gael job o waith betingo, neu ddyrnu, neu gloddio, a chwi
gallasoch glywed y disgwrs yn fynych yn yr efail, a’r felin, pwy oedd y
cloddiwr gorau.
(OUR TRANSLATION) There’s a lot of truth in what you say, Siôn
Matho, but people’s attitudes have chagnes (there is a difference of opinion
about things) like you say, when I was a young lad, I know this much, when
I was a lad, I remember the hay harvesters cutting two acrs in a day, with no
difficulty, and in those days workers were glad to get a job removing and burning
grass turves, or threshing, and you could hear the talk often in the smithy,
and the mill, who was the best hedger (hedge builder, maintainer of hedges)
_________________________________________
Ac yr o’dd dyn’on y pryd hyny yn balchio mw’n diwarnod o waith, ond yn
awr ‘do’s dim shwd beth a chial dyn a dim llun arno i ‘neud un gorchw’l, ond
ma’ nhw’n gwed, os bydd isha tipyn o glerc at rhyw swydd yn rhywla, ma’n nhw’n
rhytag ati am y cynta’ wrth y cano’dd, a meddwl i yw bod llawer gormodd o gwnu bechgynach
ar ryw swyddi secyr, a rhy vach o ddyscu gwitho.
(MODERN SPELLING) Ac yr oedd dynion y pryd hynny yn balchio
mewn diwrnod o waith, ond yn awr nid oes dim sut beth â chael dyn a dim llun
arno i wneud un gorchwyl, ond mae nhw yn dweud, os bydd eisiau tipyn o glerc at
ryw swydd yn rhywle, maent hwy yn rhedeg ati am y cyntaf wrth y canoedd, ac fy
meddwl i yw bod llawer gormod o gwnnu bechgynnach ar ryw swyddi segur, a rhy
fach o ddysgu gweithio.
(OUR TRANSLATION) And people in those days took pride in a day
of work and today it’s almost impossible to (there’s no such thing as)
hire anyone (get a man) and he’s not prepared to (and no shape on him
to) do any task, and they say, if they need some clerk to do some job somewhere,
they run for it as fast as they can by the hundreds, and my opnion is there’s
too much of bringing young lads up for some idle job or other, and not enough
learning to work
_________________________________________
SHON MATHO: I’ch ch’i’n wleua’n famws, wy’r un varn a ch’i’n gwmws, mae
rhyw gonach gian ddyn’on vod y rhento’dd yn rhy ychal, a chiant a mil o esgyson
eraill gyta golwg ar yr amsar drwg yma;
(MODERN SPELLING) Yr ych chwi yn chwedleua (= siarad) yn
ffamws, yr wyf fi yr un farn â chwi’n gwmwys, mae rhyw gonach gan ddynion fod y
rhentoedd yn rhy uchel, a chant a mil o esgusion eraill gyda golwg ar yr amser
drwg yma;
(OUR TRANSLATION) You’re speaking splendidly, I agree with you
completely (I am of the same opinion as you exactly), people are moaning
(there’s a kind of complaining by men) that the rents are too high, and
countless excuses (a hundred and a thousand excuses) as regards this bad
weather
_________________________________________
ond os nad wy’ i’n camsyniad, mae petha’ er’ill yn yn gwascu yn llawer
trymach, mae segyrdod, balchdar, a phenwandod yr o’s yn llethu mwy arnon ni vel
gwlad a th’yrnas, na’r un baich all y llywodra’th rhoi arnon ni, ac nis gall y
llywodra’th ‘chwaith ein gwaretu ni oddiwrtho, ac vel y dywed yr hen ddiarab: -
"Ni all Duw dda i ddirieid."
(MODERN SPELLING) ond os nad wyf fi yn camsynied, mae pethau
eraill yn ein gwasgu yn llawer trymach, mae segurdod, balchder, a phenwandod yr
oes yn llethu mwy arnon ni fel gwlad a theyrnas, na’r un baich a all y
llywodraeth roi arnom ni, ac ni all y llywodraeth chwaith ein gwaredu ni
oddiwrtho, ac fel y dywed yr hen ddihareb: -
"Ni all Duw dda i ddirieid."
(OUR TRANSLATION) and if I’m not mistaken, other things are a
lot more serious (pressing a lot heavier), the idleness, arrogance and
soft-headedness of the current times (of the age) weighs down on us (is
oppressing more on us) as a country and kingdom than any burden the
government can place upon us, and the government can’t rid us of it, and as the
old saying goes,
God can’t do good for what is evil (not + can’t + God + good + to + evil)
_________________________________________
Wel, forwelwch yn awr, a choviwch vi atyn’ nhw yn nhre’, Shencyn Domos.
(MODERN SPELLING) Wel, ffarwelwch yn awr, a chofiwch fi atynt
hwy yn nhref, Siencyn Domos.
(OUR TRANSLATION) Well, goodbye now (fare well now), and give
my regards to everyone at home, Siencyn Domos.
_________________________________________
SHENCYN DOMOS: Forwelwch chwithau, Siôn Matho; a gobeith’o y cewn
gwrddyd yto heb fod yn hir; coviwch vi at y wraig a’r plant.
(MODERN SPELLING) Ffarwelwch chwithau, Siôn Matho; a gobeithio
y cewn gwrddyd (< cwrdd) eto heb fod yn hir; cofiwch fi at y wraig a’r
plant.
(OUR TRANSLATION) You too fare well, Siôn Matho; and I hope
we’ll get to meet again before long; give my regards to the wife and children.
_________________________________________
DOLENNAU
AR GYFER RHANNAU ERAILL O’N GWEFAN
LINKS TO OTHER
PARTS OF THE WEBSITE
_________________________________________________
1004e
Y Wenhwyseg - iaith Gwent a Morgannwg
Gwentian - the dialect of Gwent and Morgannwg
·····
1051e
mynegai i destunau Cymraeg â chyfieithiadau Saesneg
index to Welsh texts with English translations
·····
0223e
yr iaith Gymraeg
the Welsh language
______________________________
Nodlÿfr 80
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the
“CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu
les estadístiques / View My Stats