‘Tros
y Tonau’, pigion o’r Drych am y Cymry yn America,
1896, 1897 wedi eu cyhoeddi yng nghylchgrawn ‘Y Teulu’. Yn Glouster, Athens
Co., Ohio, bu farw Mr. Thomas
James, tua 74 mlwydd oed. Ganwyd ef yn Merthyr Tydfil.
Priododd Betsi, merch Evan William, fferm Pen yr Heol, Merthyr, tua 47 mlynedd
yn ôl. Bu yn daniwr yn y Werfa, Aberdar, am lawer o flynyddoedd; wedi hyny yn
Sgubor Wen, Aberdar, a thrachefn yn Blaenllechau, Rhondda Fach. 0950k Gwefan
Cymru-Catalonia.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_026_tros_y_tonnau_0950k.htm 0001z Y Tudalen Blaen
Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les Dyma ran o Adran 11 yn y wefan hon, sef Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
TROS Y TONNAU- newyddion am Gymry América, 1896, 1897
(delw 7309)
Adolygiadau diweddaraf: 19 06 2000
0990keThis page in English (“Over the
sea” - news of the Welsh in America,
1896, 1897)
(Y Teulu - Rhagfyr 12 1896)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Mae y Parch. D. Baran Jones wedu dychwelyd gartref i Thurman, O., ar ôl treulio
deng wythnos yn ardal Rhyd-y-fro, Pontardawe
(Y Teulu - Rhagfyr 12 1896)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Mae Pwyllgor y “Cymreigyddion” yn Utica i drefnu program Eisteddfod y Calan
wedi cwblhau eu gwaith. Yn ôl y rhagolygon presennol bydd gwell cystadleuaeth
gerddorol nag a gafwyd er’s blynyddau.
(Y Teulu - Rhagfyr 12 1896)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Ergyd drom i Mrs. Apmadoc, Chicago, oedd derbyn bryseb o Gymru yn hysbysu am
farwolaeth ei thad, Morris Jones, Ebenezer, Arfon. Yr oedd hi a’i merch
Olwen i gychwyn yno yn y “Majestic”.
(Y Teulu - Rhagfyr 12 1896)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Yn Columbus, bu farw Mr. O. Edward Jones, yn 75 oed. Ganwyd ef yn Llangollen,
Sir Ddinbych. Ychydig cyn gadael Cymru yn 1848 ymunodd mewn priodas â Miss Catherine
Davies, yr hon a fu yn ymgeledd gymhwys iddo yn holl ystyr y gair. Treuliodd 48
o flynyddoedd yn Columbus, a
dilynai yr alwedigaeth o blastrwr. Yr oedd yn gwmnïwr diddan. Ymhyfrydai mewn
llenyddiaeth Gymreig.
.
(Y Teulu - Rhagfyr 12 1896)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Da iawn fydd gan gannoedd cyfeillion Mr. David Rosser, gynt o Aberdâr a
Phontypridd, ddeall ei fod wedi ei ddewis allan o liaws o ymgeiswyr yn
arweinydd côr eglwys Immanual, ar heol Michigan,
yn agos i 24th Street, Chicago.
Rhifa y côr dros gant o bobl yr
eglwys. Gwyddai y rhai sydd yn adwaen Mr. David Rosser am ei allu corawl
arweiniol. Pan yr ymaflodd Dafydd yn yr awenau cafodd y côr adgyfodiad
cerddorol, ac y mae newydd wedd y canu yn dra boddhaol i’r eglwys a’r
gynnulleidfa {sic}
(Y Teulu - Rhagfyr 12 1896)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Mae ysgrifenydd yn y Drych yn dweyd fel hyn: Gallaf ddyweyd yn ddibetrus y gall
dynion da wneud bywoliaeth gysurus yn California ond iddynt gadw o ddyled.
Anfona amryw i ymofyn am ddeuheudir California.
Atebaf y rhai hyn - fel yr ysgrifenais o’r blaen - fod y tiroedd yn rhatach yng
nghanolbarth California, a bod y
ffrwythau yn tyfu yn well yno. Yr unig ffrwythau a hawlir genym yn fwy rhagorol
ydyw yr oranges a’r lemons. Ond tybia llawer yn awr y gellir tyfu y ffrwythau yn gystal yn y San
Joaquin a’r Sacramento Valleys ag a ellir yma.
.
(Y Teulu - Rhagfyr 12 1896)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Yn Glouster, Athens Co., Ohio, bu farw Mr. Thomas James, tua 74 mlwydd oed.
Ganwyd ef yn Merthyr Tydfil. Priododd Betsi, merch Evan
William, fferm Pen yr Heol, Merthyr, tua 47 mlynedd yn ôl. Bu yn daniwr yn y
Werfa, Aberdar, am lawer o flynyddoedd; wedi hyny yn Sgubor Wen, Aberdar, a
thrachefn yn Blaenllechau, Rhondda Fach. Yr oedd yn daniwr yno yn ystod y ddwy
danchwa anffodus, pryd y collodd ddau fachgen. Dangosodd lawr iawn o wroldeb yn
y danchwa gyntaf, am yr hyn yr anrhegodd y gweithwyr ef âg oriawr a chadwen
aur, a rhoddodd Mr. Davies, Blaengwawr, hefyd bumpunt iddo. Symudodd i Gwmaman,
Aberdar, tua 1870, lle y collodd ei briod trwy farwolaeth yn fuan wedi symud
yno. Aeth i Clydach Vale tua 1885, lle bu yn arolygydd. Daeth i’r wlad hon dair
blynedd yn ôl, gan ymsefydlu yn Zaleski, Vinton Co., Ohio, gyda’i blant a’i fab
yn nhgyfraith, sef Wm. H. Williams, priod ei ferch henaf, yr hon fu farw tua
blwyddyn cyn dyfodiad ei thad i’r wlad hon. Daeth i Glouster tua dwy flynedd yn
ôl.
.
(Y Teulu - Ionawr 30 1897)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Bu farw yr Hybarch John R. Williams, Scranton, Pa.,
mewn canlyniad i gael ergyd o’r parlys ychydig yn ôl. Gwnaeth laer o waith da
yn ei dydd. Yr oedd yn frawd i’r Parch. S. Williams (Gwentydd Fardd).
(Y Teulu - Ionawr 30 1897)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Mae eglwys y Bedyddwyr yn Youngstown,
O., yn parhau i lwyddo dan weinidogaeth y Parch. R. C. Morgan. Derbyniwyd 15 o
aelodau ar y 15fed o Ragfyr, a daeth 12 i’r gyfeillach ar ol hyny, oll yn Gymry
“glân gloew.” Mae y capel hardd yn
orlawn bob nos Sul.
(Y Teulu - Ionawr 30 1897)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Bu farw yn Reading, Cal., Mr. Edward W. Jones, o San Francisco, yn 66 oed. Genedigol
oedd o Dreffynnon. Ymfudodd ef a’i deulu o Llundain 23 mlynedd yn ol. Gadawodd
briod, Mrs. Jemima Jones, a thri o blant, Mrs. T. Longworth, Robert W. Jones, a
J. Price Jones, ar ol i hiraethu am dano, oll o San
Francisco.
(Y Teulu - Ionawr 30 1897)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Yn St. Mary’s Chapel, East Boston, y cafwyd y bregeth
Gymraeg ddiweddaraf. Daeth cynulliad da o’r Cymry ynghyd, a phregethodd Mr. J.
Chris Williams yn effeithiol fel arferol. Mae yn hyfrydwch gweled yr Ysgol Sul
Gymreig yn parhau i ddal ei thir yn East Boston, o dan
arolygaeth y brawd Mr. Hugh Jones, Cottage Street.
(Y Teulu - Ionawr 30 1897)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Dau feddyg Cymreig sydd yn dringo i enwogrwydd yn eu gwaith yn Chicago
ydyw Dr. T. J. Watkins, un o Watkinsiaid Steuben,
N.Y., a’r Dr. J. T. Lave, neu Levi - cefnder
y Parch. Thomas Levi, Aberystwyth. Mae y blaenaf yn un o law-feddygon pwysicaf
rhai o’r hospitals; a’r olaf yn enwog gyda rhyfeddodau darganfyddol yr X
Rays. Edrycha yn aml trwy ddynion; ond nid yw efe wedi darganfod pechod-fan yr
un o honynt.
(Y Teulu - Ionawr 30 1897)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Bu y canwr nodedig, Mr. B. Ffrancgon Davies, yn ninas
St. Louis Dydd Diolchgarwch, a rhoddai y
newyddiaduron glod uchel iddo. Gydag ef yr oedd Miss Helen Buckley yn canu nes
“tynu y ty^ i lawr.” Y darn a ddatgenid oedd yr “Elijah,” dan nawdd y Choral
Symphony Society. Nos Sadwrn drachefn canodd Mr. Davies yn y “Messiah.” Mae
Cymraes o’r enw Miss Sarah J. Jones, merch Mr. E. C. Jones, yn aleod o’r
Gymdeithas, ac fe allai ragor o Gymry. Yr arweinydd yw Mr. Alfred Ernst. Bydd
Mr. Ben Davies yma yn Ebrill, a Mr. H. Evan Williams yn Chwefror.
(Y Teulu - Ionawr 30 1897)
TROS Y TONAU (O’R DRYCH)
Bu farw yn Spanish Forks, Utah, y cerddor galluog Mr. William H. Davies, yr hwn
a anwyd yn Merthyr Tydfil, Gorph. 4, 1842; ac yr oedd ei angladd yn un
anrhydeddus iawn, llawer wedi dyfod o bellder mawr. Yr oedd Mr. Davies yn ddyn
gonest, ac yn zelog dros bob peth da. Gwnaeth wasanaeth mawr fel athraw, mewn
dysgu corau a seindyrf, a theimlir colled ar ei ol. Pan oedd Apmadoc yma bu y
ddau yn cydganu, ac nis gellir
gor-brisio ei wasanaeth gyda cherddoriaeth. Ennillodd fuddugoliaeth mewn
Eisteddfod fu yma, a bydd ei ddylanwad yn hir ar gantorion. Bu am flwyddyn yn
gofnodydd i’r Young Men’s Co-operative Store yma, ac mewn masnachdai eraill yn
yr ardal; ac yr oedd iddo air uchel gan ei holl gwsmeriaid. Ond methodd ei
iechyd, a bu yn gweithio fel saer celfydd. Efe oedd un a gododd y pafilion yma,
sef ty i’r bobl gynnal eu cyfarfodydd, yr hwn gostiodd o $3000 i $4000 ac efe
oedd cofnodydd y Cambrian Society. Pregethwyd yn ei angladd ar y 27ain gan yr
enwog W. Crier, cyfreithiwr, a John Moore; ac yn Gymraeg gan yr enwog W. B.
Jones, gynt o Scranton, Pa. Hefyd canodd y côr mawr yr oedd yr ymadawedig yn
aelod o hono o dan arweiniad W. T. James, yr hwn a gollodd lawer o ddagrau ar
ôl ei anwyl frawd, yr hwn adawodd ar ei ôl weddw a merch gariadus, yn gystal a
brodyr a chwiorydd.
DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN
HWN / LINKS TO THE REST OF THE WEBSITE 1343k
Gogledd
América ····
0043c
Yr iaith Gymraeg
····· 0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan; o’r tudalen hwn gellir
hefyd chwilio’r
gwefan hwn â’r archwiliwr mewnol
····· 1051e
Testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn
Sumbolau arbennig: ŷ
ŵ
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n
ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant
una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya) Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (=
Wales-Catalonia) Website