1227 Gwefan Cymru-Catalonia / la Web de Gal·les i Catalunya. Twynog.
Cyfrol Goffa y diweddar T. Twynog Jeffreys, Rhymni.
Dan Olygiaeth
Dyfed. Gwrecsam. Hughes a'i Fab. 1912
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_027_twynog_01_1227k.htm
0001z Y Tudalen Blaen
..........1863c Y Porth Cymraeg
....................0009k Y Gwegynllun
..............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
...................................0094k
tudalen mynegeiol “Twynog”
.....................................................................y tudalen
hwn / aquesta pàgina
0860k y llyfr
ymwelwyr |
Gwefan Cymru-Catalonia
|
|
Fersiwn destun sylfaenol / Basic Text
Version: 1227k_print
kimkat1227k_print
Mae gennym hefyd fersiwn PDF o’r tudalen hwn /
There is also a PDF version of this page:
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_027_twynog_1912.pdf
Twÿnog
Cyfrol Goffa y diweddar T. Twÿnog Jeffreys, Rhymni. Dan Olygiaeth Dyfed.
Gwrecsam: Argraffwÿd gan Hughes a'i Fab. 1912
(xvi)
(1) RHAGLITH Gan DYFED. |
x-iii |
|
(2) TWYNOG. EI HANES. |
|
|
|
PENNOD 1. EI BLWYF GENEDIGOL |
x1 |
|
PENNOD II. EI FEBYD |
x4 |
|
PENNOD III. TYMOR IEUENCTID |
x7 |
|
PENNOD
IV. YN SYMUD I ABERDAR, AC YN PRIODI |
x10 |
|
PENNOD
V. YN SYMUD I FERTHYR |
x13 |
|
PENNOD
VI. YN MYND I RYMNI |
x15 |
|
PENNOD VII. Y
DIWEDD |
x16 |
|
····· |
|
(3) TWYNOG FEL CRISTION |
x19 |
|
(4) TWYNOG FEL BLAENOR |
x35 |
|
(5) TWYNOG FEL BARDD |
x43 |
|
(6) TWYNOG FEL GWLEIDYDDWR |
x53 |
|
(7) TWYNOG FEL CYFAILL A CHYMYDOG |
x62 |
|
(8) EI
GYSTUDD A'I FARWOLAETH
Gan
Mr. D. D. W. Davies |
x68 |
·····
(xiii)
(1) RHAGLITH.
Nid oes angen ond ychydig eiriau o ragarweiniad i'r gyfrol hon. Yr
oedd Twÿnog yn gymeriad eithriadol mewn mwÿ nag un ystÿr, a gall trem ar ei
hanes fod o les mawr i werin gwlad, yn gystal ag yn foddhad i gÿlch eang o'i
hen gydnabod. Ceir yn yr erthyglau sÿdd yn dilÿn glowg gyflawn
Bu mor ddiwÿd a gwenynen haf.
Llenyddiaeth newyddiadurol, yn bennaf, fu ei faes, ond codai i fynÿ brif
bynciau'r dÿdd, gan eu dadleu'n effeithiol gyda meddwl clir, a chÿdwÿbod effro.
Yr oedd gogwÿdd ei feddwl (xiv) yn reddfol
at uniondeb, a glynai wrth wirionedd gyda gafael diollwng. Ystyriai egwÿddor yn
rhÿ ddwÿfol i gellwair â hi. Unwaith yr argyhoeddid Twÿnog o gywirdeb y mater
fyddai ganddo mewn llaw, ymladdai drosto pe cyfodai câd i'w erbÿn. Croesodd
gledd lawer tro âg enwogion o fri, a daeth allan yn fuddugoliaethus am fod gwirionedd
yn fin ar ei arf. Yr oedd gweld uniondeb dan draed yn gwneud troell ei
naturiaeth yn fflam. Bu yn ddarllennwr eang drwÿ'i oes, a dyma'r rheswm ei fod
yn ŵr mor beryglus mewn dadl. Glynai wrth ei bwnc, a gadawai i hwnnw
lorio'i elyn heb ymostwng i ymosodiadau personol anheilwng, sydd mor
nodweddiadol o lenorion Cymru.
Carai lenyddiaeth ei wlad gyda chariad angerddol, ac yr oedd yn dra chynefin
â'i gwahanol ganghennau. Anodd fyddai taro ar lyfr Cymraeg na wyddai Twynog
gryn lawer am dano. Talai barch.mawr i feirdd a llenorion o bob gradd, ac
edmygai bob ymgais am ragori. Llawenydd pennaf ei galon oedd gweld ereill yn
llwyddo.
Barddonodd lawer, yn bennaf i ddifyrru ei hun. Yn ychwanegol at y llyfr a
gyhoeddodd flynyddoedd yn ol dan yr enw “Tannau Twynog," gadawodd dorraeth
o gynhyrchion ar ei ol, yn y caeth a'r rhydd, heb eu cyhoeddi.
Bwriadwyd i'r gyfrol fod allan ddechreu'r flwyddyn hon, ond bu rhaid oedi yn
herwydd cyflwr ansefydlog masnach. Mae'r eglurhad hwn yn ddyledus i bawb a
gymerodd ran yn y gwaith. Bellach, wele'r gorchwyl wedi ei gyflawni. Derbynied
yr holl ysgrifennwyr ein diolchgarwch cywiraf am eu cynhorthwy parod
DYFED.
Llun y Pasg, 1912.
(2) TWYNOG. EI HANES
(x1)
PENNOD I.
EI BLWYF GENEDIGOL.
Plwyf
Llanddeusaint, yn sir Gaefyrddin, a gafodd yr anrhydedd o fod yn blwyf
genedigol Mr. Twynog Jeffreys. Saif y plwyf hwn yn y rhan ddwyreiniol o'r sir,
ar gyffiniau Brycheiniog, a bryniau y Mynydd Du. Fel y dywedai Twynog ei hun, -
"Ar ysgwyddau y plwyf hwn y gorffwys Bannau Caerfyrddin, y rhai sydd yn
cystadlu yn dynn âg eiddo Brycheiniog, am fod yn nesaf at ddrws y nefoedd, o
holl fynyddau Deheudir Cymru." Wrth droed yr uchaf o'r Bannau y mae llyn
nodedig, yn mynd wrth yr enw y “Llyn Fach," o gwmpas yr hwn yr ymbletha un
o'r chwedlau mwyaf rhamantus a swynol a fedd cenedl y Cymry. Wrth droed y
Bannau y tardd yr afon Wysg. Rhed yr afon hon am rai milltiroedd, gan ffurfio
ffin rhwng siroedd Caerfyrddin a Brycheiniog. O'r Llyn Fach y llifa yr afon
Sawdde, gan ymddolennu trwy ganol y plwyf, nes ymgolli yn Nhowi, yn agos i
Langadog. Ar lannau y Sawdde a'r Llechach y treuliodd Twynog lawer o oriau
euraidd bore ei oes, i ddal brithyllod, y rhai a ystyriai yn ddanteithion melus
y cyfnod hwnnw. Y mae yn (x2) anodd meddwl
am olygfeydd mwy amrywiol, gwyllt a rhamantus, na'r rhai y cafodd Twynog ei hun
gyntaf yn eu canol. Nid ydym yn rhyfeddu iddo ymddatblygu yn fardd, pan gofiwn
iddo gael ei ddwyn i fyny yn y fath gymdogaeth. Oddiar ddrws y tŷ y cafodd ei eni ynddo wrth edrych i un
cyfeiriad, gwelai greigiau ysgythrog, yn cael eu nodweddu gan arucheledd
anesgrifiadwy; os edrychai i gyfeiriad arall, yr oedd gwastadedd prydferth yr
iseldir yn ymagor o'i flaen. Pan gofiwn pa mor enwog yw plwyf Llanddeusant am
ei chwedlau rhamantus, a'i draddodiadau dyddorol a heb achos. Buont fyw yn
hapus am flynyddoedd, a chyffrous, nid ydym yn rhyfeddu i Dwynog Jeffreys
ymddatblygu yn henafiaethydd. Dywedai Twynog, pan oedd ef yn llanc ieuanc, nad
oedd teulu ym mhlwyf Llanddeusant nad oedd yn hollol gartrefol yn chwedlau a
thraddodiadau y plwyf. Y mae ystori Llyn y Fan wedi ei hadrodd ar bob aelwyd yn
y plwyf, o âch i âch, ac nid oedd neb yn fwy hyddysg ynddi na Thwynog ei hun.
Dyma yr ystori a alwai efe yn ystori y "Ladi Wen." Yn fyrr, rhêd fel
y canlyn, - "Yr oedd gŵr ieuanc ym mlaen plwyf Myddfai yn byw mewn
amaethdy o'r enw Esgairllaethdy. Tra yn bugeilio ei ŵyn ar y mynydd, yn
ymyl Llyn y Fan Fach, gwelai dair merch, anarferol o brydferth, ar wyneb y
llyn, yn agoshau tuag ato. Gwnaeth ymgais i'w dal, ond methodd. Bore drannoeth,
bu yr un fath. Pan yn diflannu o'i olwg yn y llyn, gwaeddent yn wawdus, -
“Cras dy fara,
Anhawdd ein dala."
Un bore, sylwodd y dyn ieuanc ar damaid o fara llaith yn nofio ar ymyl y llyn.
Bwytaodd ef gyda blâs, a bore drannoeth, bu yn llwyddiannus i ddal y merched
glandeg. Wedi ychydig o ymddiddan, cymerodd galon i ofyn am law un ohonynt, a
chydsyniodd hi â'i gais ar yr amod ei fod, ar y dydd canlynol, yn alluog i'w thynau
hi allan o blith y lleill. Yr oedd y tair chwaer mor (x3)
debyg i'w gilydd, fel mai gorchwyl anodd oedd gwahaniaethu rhyngddynt. Beth
bynnag, sylwodd fod ychydig o wahaniaeth rhwng ei ferch ddewisedig ef a'r
lleill, yn y modd y clymai garai ei sandalau. Wedi dyfod i fyny i'r amodau,
gadawodd y ferch ieuanc y llyn, a dilyna y bugail ffodus i Esgairllaethdy. Cyn
cychwyn, galwodd i fyny o'r llyn i'w chanlyn saith o wartheg, dau ych, ac un
tarw. Un o amodau y briodas oedd, fod y foneddiges yn ymfoddloni aros yn
Esgairllaethdy hyd nes y tarawai ei gŵr hi dair gwaith heb achos. Buont
fyw yn hapus am flynyddoedd, a dygasant i fyny dri o feibion, a'r tri hwn a
ddaethant i gael eu hadnabod fel yr enwog Feddygon Myddfai. Un diwrnod, pan
oedd y gŵr yn paratoi i fynd i ffair yn y gymdogaeth, dymunodd y gŵr
am i'w wraig fynd i'r cae am ei geffyl. Gan ei bod hi yn ymdroi cyn mynd,
collodd ef ei amynedd, a dywedodd, - "Dos, dos, dos," gan ei
chyffwrdd yn ysgafn a'i faneg dair gwaith. Yn awr, barnai y wraig fod yr amodau
a wnaeth wedi eu torri, ac yn y fan, y mae yn cychwyn yn ol tua'r llyn, gan alw
i'w chanlyn yr oll a ddaeth gyda hi yno. Yr oedd yr ychain ar y cae yn aredig
ar y pryd, er hynny, ufuddhasant i alwad eu meistres, gan dynnu yr aradr ar eu
hol hyd at y llyn. Y mae y gwys a wnaeth yr aradr ar y pryd yn cael ei dangos
ar y mynydd hyd y dydd hwn, fel clawdd bychan, yn cyrraedd o Esgairllaethdy i
Lyn y Fan. Gwelodd Twynog y gwys yma lawer gwaith, a gwelsom ninnau hi. Beth
bynnag sydd wedi rhoddi bod i'r clawdd bychan, a elwir y “Gwys," y mae yn
ffaith fod y fath beth i'w weld heddyw. Wedi ymadawiad y "Ladi" âg
Esgairllaethdy, daeth, ymhen tymor, o'r llyn, i gyfarfod i dau o’i meibion i
gwm ar y mynydd a elwir hyd y dydd heddyw "Cwm y Meddygon" a
chyflwynodd iddynt gôd, yn cynnwys, fel y tybir, ddarganfyddiadau mewn
meddyginiaeth.
Meddygon Myddfai oeddent Rhiwallon a'i feibion, - Cadwgan, Gruffydd, ac Einion.
Hwy oeddent y prif (x4) feddygon y drydedd
ganrif ar ddeg. Y Mae Dafydd ab Gwilym yn cyfeirio atynt yn y ddwy linell
ganlynol, -
"Meddyg nis gwnai, modd y gwnaeth
Myddfai, o chai ddyn meddfaeth.”
Nid oedd neb yn fwy hoff o fynd dros yr ystori na Thwynog; ac, yn wir, nis
gwyddom am neb a fedrai fynd drosti gyda'r fath flas a deheurwydd, - yr oedd
ynddi fwyn arbennig iddo. Yr oedd "Cwys yr Aradr” yn croesi y mynydd o
fewn i filltir i'r man lle y cafodd ei eni.
PENNOD II.
EI FEBYD.
Ganwyd Mr. Twynog
Jeffreys Chwefrol 25ain, 1844, yn Nhalsarn, ym mhen uchaf y plwyf. Y mae y tŷ lle y gwelodd oleu'r dydd gyntaf wedi ei
dynnu i lawr ers blynyddoedd. Yr oedd yn un o hanner dwsin o dai, a ffurfient,
y pryd hwnnw, bentref bychan, ond erbyn hyn, nid oes hyd yn oed olion ohonynt
yn aros. Er mai pentref bychan oedd, ceid ynddo efail y gof, swyddfa y crydd,
gweithdy saer coed, a gweithdy y dilledydd. Pan oedd Twynog yn hogyn, yr oedd
pob un o'r gweithdai hyn yn weddol o lawn bob nos, yn y gaeaf, o gryts a
bechgyn y gymdogaeth. Yn siop y saer y byddai, yn gyffredin, ysgol gân; yn
swyddfa y crydd, cwrdd i adrodd chwedlau y plwyf; yn efail y gof y byddai y
senedd, ac yng ngweithdy y teiliwr, rhyw fath o ysgol holwyddori. Yr oedd yn y
plwyf yr adeg honno tua mil o drigolion, a'r nifer fwyaf ohonynt yn bobl
ddeallus, ac yn bur hyddyag yn helyntion byd, ac eglwys. Yr oedd mam Twynog yn
enedigol o Landdeusant, a'i dad yn disgyn o deulu urddasol o sir Frycheiniog.
Yr oedd y Jeffreys, yn wreiddiol, o (x5)
Gwmdwr, rhwng Trecastell a Llanymddyfri. Yn nechreu yr eilfed ganrif ar
bymtheg, nid oedd etifeddiaeth y teulu ond bychan, ond daethant, cyn diwedd yr
un ganrif, yn un o'r teuluoedd mwyaf cyfoethog yn y sir. Aeth dau frawd o
Gwmdwr i fyny i Lundain, tua diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, a gwnaethant
gyfoeth mawr. Buont farw yn Llundain yn ddiblant, a daeth eu cyfoeth yn eiddo y
Jeffreysiaid o Gwmdwr. Trwy y cyfoeth hwn a gasglwyd gan yr oes nesaf, gosodwyd
i lawr sylfaen un o'r teuluoedd mwyaf urddasol a phendefigaidd yn y
dywysogaeth. Cawn fod un o'r teulu yn Uchel Sirydd Brycheiniog, mor bell yn ol
a'r flwyddyn 1631. Trwy i'r llinell, ar yr ochr wrywaidd, ballu, aeth y teulu,
yn ei phrif gangen, yn Pratt. Cynrychiolir y teulu yn awr gan Marquis of
Camden. Yr oedd cangen o'r teulu wedi ymsefydlu yn Llanddeusant am lawn can
mlynedd cyn geni Twynog. Ni fu cymaint o duedd crwydro yn y gangen o'r Jeffreys
oedd Twynog yn hanu o honi ag oedd yn nodweddu y gangen a ddaeth yn gyfoethog
yn Llundain. Bu Twynog, am amryw o flynyddoedd, pan yn llanc ieuanc, gyda ei
ewythr a'i fodryb yn Nhalsarn. Mewn llythyr atom yn 1904, dywed, - "Yr
oeddwn ni {sic; = oeddwn i} yn hogyn gyda fy ewythr a fy modryb, Thomas a
Nansi, yn Nhalsarn. Rhai di-blant oeddent hwy, a threuliais lawer o fy
machgendod gyda hwy, ac ym Mhwllygerwyn." Crydd oedd Thomas, ewythr
Twynog, a dywedir ei fod yn ddyn o gynheddfau cryfion, ac yn un tra llithrig ar
ei dafod. Byddai swyddfa St. Crispin weithiau yn llawn o fechgyn y gymdogaeth,
a Thomas yn gyffredin fyddai y prif siaradwr; dichon yr eid oddiyma i dŷ William Thomas y y saer i gael tôn nou ddwy,
neu, os y buasai yn oer, eid i efail y gôf. Yr oedd yn y gymdogaeth, ar y pryd,
Ysgol Sabothol gref, yn cael ei chynnal o dŷ i dŷ, a daeth Twynog yn
aelod o honi mor fuan ag y gallodd gerdded iddi. Yr oedd bron bob teulu yn y
gymdogaeth yn grefyddol, ac yn wir, holl deuluoedd y plwyf. Ychydig o ardaloedd
yng Nghymru a gafodd eu (x6) meddiannu yn
fwy llwyr gan Fethodistiaeth a phlwyf Llanddeusant. Dyma yr unig enwad o
Ymneilltuwyr sydd wedi gosod ei droed i lawr yn y plwyf. Ni fu yr Eglwys
Sefydledig, yng nghôf neb, yn meddu dim nerth a dylanwad yn y plwyf. Clywsom
Twynog ei hun yn dweud ei fod ef wedi bod yn ymddiddan â hen bobl yn y plwyf,
oeddent yn cofio yr offeiriad a'r clochydd yn y carchar ar yr un adeg, - yr
offeiriad am ddyled, a'r clochydd am ladrata defaid. Ymddengys mai plwyf
anuwiol iawn oedd Llanddeusant cyn y Diwygiad Methodistaidd, ac yr oedd
lladrata defaid yn un o bechodau amlwg y plwyf, fel y dengys darn o hen rigwm a
ddaeth i lawr o'r oesau gynt, -
“Gwŷ r Llanddeusant, Capau Crwyn,
Lladron defaid, mamau'r ŵyn."
Yn adeg y Diwygiad Methodistaidd, gweddnewidiwyd yr holl blwyf, a daeth yn un
o'r plwyfi mwyaf moesol a chrefyddol yn y Dywysogaeth. Wedi i'r Diwygiad dorri
allan, prynnodd y Parch. William Williams, Pantycelyn, dyddyn yn y plwyf; ac am
y rheswm hwn, a'i ddyddordeb yn y diwygiad, ymwelai yn aml â Llanddeusant.
Ymhen rhyw gymaint o amser, daeth ei ferch Ann, a'i gŵr, Phillip Thomas, i
fyw i'r tyddyn. Pregethodd y bardd lawer ar hyd y tai, cyn fod un capel wedi ei
godi yma. Bu farw merch y bardd yn y flwyddyn
Y mae yn wybyddus mal yn nhy Jeffrey Dafydd o'r Rhiwiau, yn y plwyf hwn, y
cynhaliwyd y Gymdeithasfa fisol gyntaf gan y Tadau Methodistaidd, a dyma y lle
a brynodd WilliamsPantycelyn. Cafodd Llanddeusant gawod drwm o’r Diwygiad a
dorrodd allan yn Neheudir Cymru yn y flwyddyn 1828. Fel ffrwyth y Diwygiad hwn,
ychwanegwyd yn agos i dri chant at nifer yr eglwys. Daeth bron yr holl blwyf i
arddel crefydd. Wedi y (x7) Diwygiad hwn, yr
oedd yn perthyn i'r Ysgol Sabothol bump o ganghennau cryfion, heblaw y gangen a
gyfarfyddai yn y capel. Dynion a argyhoeddwyd yn Niwygiad 1928 oedd y nifer
fwyaf o broffeswyr crefydd yn y plwyf pan oedd Twynog yn blentyn yn Nhalsarn.
Clywsom Twynog ei Cyfeiriai yn y “Tannau,” at yr “hen Ysgol Sul," ac at
“gynghorion y tadau.” Nid yn aml y ceid gwell Ysgol Sul na’r un a aeth Twynog
iddi gyntaf, pan Yn yn y carchar ar yr un adeg, - yr offeiriad am ddyled, a'r -
Yr oedd ei athrawon yn hogyn bychan yn Nhalsarn. Yr oedd ei athrawon yn ddynion
cryfion mewn gwybodaeth Ysgrythyrol, a’u meddyliau wedi eu trwytho yn
athrawiaethou gras.
PENNOD III.
TYMOR IEUENCTID.
NID pob plwyf oedd mor ffodus, ar yr adeg honno, mewn ysgol
ddyddiol, a phlwyf Llanddeusant. Deng mlynedd ar hugain, cyn dyddiau Twynog,
cedwid ysgol ddyddiol yn festri y capel gan y diweddar Barch. William Jones,
Bontynyswen, yr hwn a fu farw yn Abertawe yn y flwyddyn 1881. Yn y tymor oedd
Twynog yn tyfu i fyny, Mr. John Williams oedd yr ysgolfeistr. Yr oedd Mr.
Williams yn ysgolhaig uwchlaw y cyffredin yn y wlad, tua chanol y ganrif
ddiweddaf. Yr oedd yn nodedig am ei wybodaeth gyffredinol; yr oedd golwg
urddasol arno, ac yr oedd yn berffaith foneddwr. Dyma ysgolfeistr cyntaf Twynog
Jeffreys. Aethai o Dalsarn i Dwynllanau pan yn bur ieuanc. Nid oedd reol pryd
hwnnw i orfodi y plant i bresenoli eu hunain yn yr ysgol. Pe buasai, y mae yn
ddiau y buasai ein cyfaill ysgol. wedi dod yn ysgolhaig da, canys yr oedd yn
ddysgwr cyflym. Pan oedd tua pedair ar ddeg oed, aeth oddiwrth ei ewythr a'i
fodryb, fyw at ei rieni i Bwllygerwyn. Tyddyn oedd Pwllygerwyn ym mlaen (x8) plwyf Myddfai, oddeutu dwy filltir o Dalsarn,
ac yng ngolwg "Cwys yr Aradr,” yn chwedl Llyn y Fan. Er wedi croesi y ffin
i blwyf arall, cadwodd mewn cyffyrddiad agos â phlwyf Llanddeusant. Elai i
Dwynllanau at Mr. John Williams i'r ysgol, fel cynt, a lletyai yn Nhalsarn gyda
ei ewythr a'i fodryb. Rhoddodd Mr. Williams, yr ysgol i fyny cyn i Dwynog
gwblhau ei. addysg, ond gadawodd argraff ragorol ar feddwl a chymeriad ei
ddisgybl. Ymhen blynyddoedd wedi hyn, daeth Mr.Williams yn flaenor blaenllaw yn
eglwys Twynllanau. Merch iddo ef yw Mrs. Henry Morgan, The Laurels,
Abergavenny. Ni chafodd Twynog ychwaneg o addysg mewn ysgol ddyddiol nag a
gafodd yn ysgol Mr. Williams, ond ni roddodd i fyny efrydiaeth ar ol gadael yr
ysgol. Gwnaeth y goreu o bob manteision o fewn i’w gyrraedd i ddiwyllio ei
feddwl, a darllennai bob llyfr y gallai ddod o hyd iddo. Ei brif athrofa yn awr
oedd yr Ysgol Sabothol. Er fod ganddo gryn ffordd i gerdded o Bwllygerwyn i
Landdeusant, nid oedd neb yn fwy cyson yn yr Ysgol Sabothol na Thwynog.
Treuliai bob Saboth, tra y bu ym Mhwllygerwyn, yn Llanddeusant, ac felly cafodd
gyfleusdra i rwbio yn rhai o’r dynion goreu a fagodd sir Gaerfyrddin erioed.
Cafod lawer o gymdeithas y Parch. Owen Lewis, un o'i gymdogion agosaf. Yr oedd
Owen Lewis yn ddyn hynod, mewn rhagor nag un cyfeiriad. Gwnaed ef yn flaenor
pan yn ddwy ar hugain oed, a dechreuodd bregethu pan oedd yn ymyl trigain oed.
Dyma y gŵr a anfonodd Cyfarfod Misol sir Gaerfyrddin, gyda'r Parch. David
Charles (hynaf), Caerfyrddin, i holi y diweddar Dr. Phillips, Henffordd, pan yn
ymgeisydd am y weinidogaeth. Clywsom Dr. Phillips yn dywedyd i'r Cyfarfod Misol
anfon y gweinidog trymaf a’r blaenor trymaf a feddai i'w brofi ar ei fynediad
i'r pulpud. Hefyd, un o gynghorwyr Twynog ym more ei oes oedd Mr. David Thomas,
Pantygwin, blaenor o fri yn ei oes, a gŵr adnabyddus, trwy holl ddeheudir
Cymru. Yr oedd ef yn un o'r (x9) cenhadon a
anfonodd Cymdeithasfa y De i eglwys Pontmorlais, yn 1830, i ddadgorffori yr
eglwys yn adeg helynt ynglŷ n â'r Parch. David Williams. Gadawodd y dynion
da hyn, ac ereill, argraff ragorol yr arno, ac ni ddilewyd mohoni tra y bu byw.
Yr oedd y bobl oeddent yn byw ym mhen uchaf plwyf Llanddeusant gryn bellder o
ffordd i gerdded i lawr i Dwynllanau, a theinlid ers amryw o flynyddoedd y
byddai yn fantais i’r achos, ac i'r gymdogaeth, i gael capel ar ar Dalsarn.
Adeiladwyd y capel yn
Tra y bu ein cyfaill ym Mhwllygerwyn, gweithiai ar y tyddyn, a chyflawnai fân
oruchwylion, a ellid ddisgwyl gan un nad oedd wedi cael ond ychydig o brofiad
mewn trin tir ac anifeiliaid. Ei hoff waith oedd bugeilio defaid. Nid oedd yn
awr ymhell iawn o’r Bannau, a gellir dywedyd mai fel “Bugail y Bannau” y
treuliodd yn bennaf y blynyddoedd y bu ym Mhwllygerwyn. Yn ystod misoedd yr
haf, yr oedd llawer o ddieithriaid yn ymweld â Llyn y Fan, a byddai lliaws o'r
ymwelwyr a wnaent eu ffordd tua'r Bannau yn dyfod heibio i Bwllygerwyn, a
byddai yntau yn mynd gyda hwy i ddangos y ffordd, ac i adrodd y chwedl, oedd
wedi gwneud Bannau sir Gaer yn gyrchfa pobloedd am ugeiniau o flynyddoedd.
Buasai yn amhosibl cael arweinydd mwy diddan; medrai ddilyn “Cwys yr
Aradr," ac nid oedd neb a fedrai roddi mwy o flas ar y chwedl i
ddieithriaid. Dyma fel y dywed ef ei hun, mewn nodion sydd yn awr o'n blaen,
-"Daw pobl lawer, (x10) o bell ac agos,
i weld y Bannau a'r Llynnau yn yr haf, yn enwedig y cyntaf o Awst, pryd y
dywedir fod y "Ladi Wen "yn codi o ystafelloedd y dyfnderau i wyneb y
llyn. Pan yn hogyn, bum yno lawer gwaith, ond methais a chael golwg ar y
"Ladi Wen," er syllu yn fanol." Nid oedd gan Dwynog fawr o duedd
at fywyd amaethyddol. Gallasai fod wedi ymsefydlu yn y gymdogaeth fel amaethwr,
ond nid oedd hyn yn cydweddu a'i chwaeth. Yr oedd bywyd amaethyddol yn rhy
dawel ac unffurflol iddo ef. I un, fel efe, oedd yn llawn bywyd ac asbri, yr
oedd y cylch yn rhy gyfyng; awyddai am gylch eangach, er ei ymlyniad wrth
Landdeusant, a'r swyn, iddo ef, oedd yn ei chrefydd, el phobl a'i
thraddodiadau.
PENNOD IV.
YN SYMUD I ABERDAR, AC YN PRIODI.
Yn y flwyddyn 1864, pan yn ugain oed, cawn ef yn gadael Llanddeusant
am Aberdar. Y mae y penillion tyner o'i eiddo yn y "Tannau" yn dangos
mor anodd oedd ganddo i ymadael â'i hen ardal enedigol. Ar ei ddyfodiad i
Aberdar, bu mor ffodus a mynd i wasanaeth y masnachydd a'r blaenor adnabyddus,
Mr. David Davies, Canton House. Y mae yn awr yn cael ei hun mewn byd newydd.
Cân yr adar, brefiadau y defaid a chyfarthiad y ci, oedd y seiniau a ddisgynnai
fynychaf ar ei glustiau yn y wlad; y mae yn awr ynghanol dwndwr masuach, a
phrysurdeb bywyd, mewn tref, a honno yn un o'r trefydd mwyaf bywiog ei masnach,
y pryd hwnnw, ym Morganwg, ac feallai yn y cyfnod mwyaf euraidd yn hanes
Aberdar. Yr oedd amryw o brif fasnachwyr Aberdar, pan aeth Twynog yno, yn
enedigol o Landdeusant, ac yr oedd Mr. Davies, ei feistr, (x11) yn un o bobl Llanddeusant. Yr oedd hefyd, ar
y pryd, liaws mawr o fechgyn ieuainc yn masnachdai y dref o'r un plwyf. Yn
ystod yr hanner cyntaf o'r ganrif ddiweddaf, i Aberdar y byddai y nifer fwyaf o
fechgyn ieuainc Llanddeusant yn mynd, pan yn gadael cartref. Os buasai mab i
amaethwr yn troi allan i'r byd, byddai yn gyffredin yn mynd yn egwyddorwas at
un o fasnachwyr Hirwaun, neu Aberdar. Buasai yn anodd i Dwynog Jeffreys, wedi
gadael ei gartref, osod ei droed i lawr mewn un man lle y gallasai deimlo yn
fwy cartrefol nag yn Aberdar. Cafodd bob cynhorthwy gan Mr. Davies, ei feistr,
trwy gyngor ac esiampl, i rodio ar hyd llwybrau crefydd a rhinwedd. Daeth, yn
fuan, o dan ddylanwad dynion a'i arweiniodd i gylchoedd newydd. Daeth i
gysylltiad âg amryw o lenorion y dref, a bu hyn yn fantais ddirfawr iddo.
Cafodd ei arwain i ymuno â Chymdeithas y Cymrodorion yn y lle, a thrwy hyn
dyfnhawyd y duedd gref oedd ynddo at lenyddiaeth Gymreig, a choethwyd ei
chwaeth fel bardd a llenor. LIanwodd y blynyddoedd y bu yn Aberdar i gwaith.
Cymerai ddyddordeb neilltuol yn eglwys Nazareth; yr oedd yn un o'r dynion
ieuainc mwyaf defnyddiol a gweithgar a feddai yr eglwys yn ystod y tymor y bu
yn aelod o honi. Bu yn Aberdar am chwe blynedd; ac yn ystod y blynyddoedd
hvnny, gwnaeth lu o gyfeillion. Parhaodd i fod ar delerau cyfeillgar âg amryw
o'r dynion ieuainc y daeth i gysylltiad â hwy ar ei ddyfodiad i Aberdar, hyd
ddydd ei farwolaeth. Talodd rhai o'i hen gyfeilhon yn Aberdar ymweliad
blynyddol âg ef yn Rhymni hyd y flwyddyn olaf y bu byw. Wedi clywed am ei
farwolaeth, anfonodd Cymdeithas y Cymrodorion lythyr at y teulu yn amlygu eu
cydymdeimlad dyfnaf â hwy yn eu galar.
Cymerodd amgylchiad dyddorol, yngŷ n âg ef, le ar ddydd Llun Sulgwyn, Mai
21ain, 1869, sef ei briodas â Miss Ellen Evans, merch ieuengaf Mr. John Evans,
y "Cymro Du." Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y bardd-bregethwr,
Ebenezer Pugh, yng nghapel Bethania, (x12) Aberdar.
Yr oedd hyn yn agos i flwyddyn cyn i'r Parch. William James gael ei alw yn
fugail Bethania, a thua saith mlynedd wedi i'r Parch. Dr. Saunders ymadael am
Liverpool.
Bu Twynog yn eithriadol o ffodus yn ei ddewisiad o wraig. Pe buasai yn chwilio
yr holl dywysogaeth, nis gallasai gael gwell gwraig nag a gafodd.
Yr oedd Miss Ellen Evans yn ferch i ŵrr tra adnabyddus yn ei ddydd ym
Morganwg, yn arbennig yn Aberdar, Merthyr, a Dowlais. Y mae y “Cymro Du” yn
deilwng o fwy na chofnodiad byrr, a feallai mai yn y fan yma y byddai oreu i ni
roddi ychydig o'i hanes. Yr oedd John Evans yn ddyn ymhell uwchlaw y cyffredin
mewn rhagor nag un ystyr. Yr oedd ei dad, Evan Evans, yn fab i amaethwr
cyfoethog ym mhen isaf sir Aberteifi. Yr oedd tad John Evans wedi ei fwriadu i
fod yn fferyllydd ac addysgwyd ef at hynny, ond gan na lynnai a mynd i mewn am
yr arholiadau angenrheidiol aeth yn emmydd. Rhoddodd hynny eto i fyny. Yn awr,
gyrrodd ei dad ef i fyny i Rydychain, gan fwriadu gwneud offeiriad o honi; ond
nid hir y bu yno cyn rhedeg i ffwrdd, a daeth yn was ar dyddyn yn sir
Frycheiniog, ac aeth oddiyno i'r "Gweithiau." Ymsefydlodd fel
gweithiwr haeam ym Merthyr, lle y ganwyd John Evans yn 1807. Gwelodd John Evans
angladd Richard Crawshay, - y cyntaf o'r Crawshays a ddaeth i Gymru, - yn mynd
i Landaf i gael ei gladdu. Magwyd John Evans ym Merthyr a Dowlais. Aeth, yn
weddol ieuanc, yn rheolwr gwaith haeam Abernant. Yr oedd yn ddyn o dalentau
disglaer. Yr oedd yn un o sylfaenwyr Bethania, Aberdar, ac yn un o brif sylfaenwyr
eglwys Nazareth yn yr un dref; a'i briod osododd y garreg sylfaen gyntaf i
lawr. Teithiodd lawer ar hyd a lled Morganwg i areithio ar Ddirwest, a thrwy ei
areithiau tamllyd, bu o wasanaeth dirfawr i'r achos dirwestol yn y cylch. Bu am
dro yn America, yn Swydd Stafford, yn Llanelli, Brycheiniog. Yn 1870, aeth yn
rheolwr gweithiau Pendarren. Ysgrifennodd (x13)
lawer i'r gwahanol newyddiaduron. Yr oedd ei lithiau yn y "Fellten"
hyd yr wythnos olaf y bu byw, yn un o’r pethau mwyaf blasus gan y darllenwyr. Bu
farw yn sydyn yn 1877, yn 70 mlwydd oed.
Yr oedd Mrs. Evans, ei wraig, o'r un llinach, o un ochr, a'r diweddar Barch.
Thomas Willams, Myddfai, un o'r dynion mwyaf athrylithgar a gododd erioed yn
sir Gaerfyrddin. Mab i Mr. John Evans, a brawd i Mrs. Twynog Jeffreys, oedd y
diweddar Silas Evans, cerddor enwog, a fu farw yn gymharol ieuanc, ac ynghanol
ei boblogrwydd. Felly y gwelwn fod y ferch ieuanc a gymerodd Twynog yn wraig yn
disgyn o deuluoedd talentog o'r ddwy ochr.
PENNOD V.
YN SYMUD I FERTHYR.
Wedi priodi a byw tua wyth mis yn Aberdar, cawn Twynog yn symud gyda ei
dad yng nghyfraith i Ferthyr yn 1870, er mwyn mynd i agor gwaith Pendarren i
Mr. Fothergill. Yr oedd Mr. Evans wedi bod yn rheolwr gwaith Abrnant i Mr.
Fothergill; yn awr, y mae yn mynd i Bendarren yn yr un cymeriad, ac yn cymeryd
Twynog gydag ef. Nid ydym yn gwybod pa orchwyl a gyflawnai Twynog, ond diau yw
ei fod wedi cael rhyw swydd o ymddiried o dan dad ei wraig. Ymunodd âg eglwys
Pontmorlais. Yr oedd y prif, neu un o'r prif flaenoriaid, ym Mhontmorlais, sef
Mr. Morgan Davies, yn enedigol o Landdeusant.
Ym Merthyr, fel yn Aberdar, daeth yn fuan i'r golwg. Ymunodd âg amryw o
gymdeithasau yn y dref, a chymerodd ran amlwg yn y symudiad oedd, y pryd hwnnw,
yn newydd, sef Cymdeithas y Temlwyr Da. Gweithiodd ei oreu gyda'r Ysgol
Sabothol a'r Cyfarfod (x14) Dau Fisol, nes y
daeth i gael ei ystyried yn un o'r dynion ieuainc mwyaf anodd i'w hebgor yn yr
eglwys. Yr oedd ym Merthyr ar y pryd amryw o ddynion ieuainc, fel yntau, yn
cymeryd dyddordeb mewn cyfarfodydd cystadleuol. Enillodd, pan ym Merthyr, liaws
o wobrau am draethodau a darnau barddonol. Pan yr ymadawodd â Merthyr, yr oedd
wedi gwneud ei hun yn rhyw fath o angenrheidrwydd yn y dref, fel yr edrychid ar
ei ymadawiad yn golled nas gellid yn hawdd i'w gwneud i fyny. Pan ddaeth yr
adeg iddo ymadael, yr oedd yn rhaid cael cyfarfod ymadawol, er rhoddi
cyfleusdra i'w gyfeillion i ddatgan eu gwerthfawrogiad o'i wasanaeth mawr, yn
ystod y pum mlynedd y bu yn y dref, ynghyda dymuno ei lwyddiant yn y dyfodol.
Nid oedd neb yn gwerthfawrogi ei wasanaeth yn fwy na'r bugail, y Parch. Thomas
Rees, yr hwn a ddaeth i Bontmorlais, rai blynyddoedd ar ol Twynog. Yr oedd
blaenoriaid enwog ar y pryd ym Mhontmorlais, megis Samuel Parry, Rees Lewis,
Morgan Davies, a Williams, Pont Store- House, ac ereill. Yr oedd pob un o'r
dynion da hyn a golwg fawr ar Dwynog, tra y bu ym Merthyr. Y mae y pennill
canlynol, yr hwn sydd un o lawer a draddodwyd yn ei gyfarfod ymadawol, yn
dangos y syniad a goleddid am dano yn y dref.
“Mae colli Twynog Jeffreys,
Y gweithiwr diwyd iawn,
Y llenor doeth a theilwng,
A Bardd o uchel ddawn;
Gohebydd a 'sgrifennydd
I Gymdeithasau'r dref,
Yn galled nas gall undyn
Fynegu faint yw ef."
Yr ydym yn rhoddi y pennill yma, nid am ei deilyngdod fel barddoniaeth, ond am
y teimlad a ddaw i'r golwg ynddo tuag at Twynog. (x15)
PENNOD VI.
YN MYNED I RYMNI.
Gadawodd Ferthyr am Rymni yn 1875. Clywsom ef yn dweud mai yr hyn a barodd iddo
fynd i Rymni oedd, i Mr. Daniel Jones, Merthyr, ddymuno arno i fynd i Rymni i
agor siop esgidiau. Cydsyniodd i'r cais, ac yno y bu hyd ddiwedd ei oes. Nid
ydym yn gwybod pa cyhyd y bu yn cynrychioli Mr. Daniel Jones yn Rhymni, ond
masnachu drosto ei hun oedd pan y galwasom ni gyntaf yn ei dŷ, wedi iddo
symud o Ferthyr.
Yn Rhymni, daeth ar unwaith yn boblogaidd. Taflodd ei hun, mor fuan ag y daeth
yma, i fywyd crefyddol, cymdeithasol, a llenyddol y dref. Gwnaeth ei hun yn
ddarn hanfodol o bob sefydliad oedd a'i amcan i ddyrchafu ei gyd-ddynion.
Ymunodd ef a'i deulu âg eglwys Ebenezer, Twyn Camo, ac etholwyd ef yn flaenor,
ymhen tair blynedd, wedi iddo ymuno â'r eglwys. Tra y bu yn mwynhau iechyd
gweddol, teithiodd lawer ar hyd a lled Deheudir Cymru ynglŷ n â'i fasnach;
aethai, pan y gallai, i Gyfarfod Misol ei sir, ac ambell waith i'r
Gymdeithasfa. Cofus gennym ei fod yn un yn cynrychioli ei Gyfarfod Misol yn y
Gymanfa Gyffredinol ym Merthyr yn
Ni fu ond dwy flynedd ar bymtheg yn Rhymni cyn i'w iechyd dorri i lawr. Yn y
gwely, ac ar ei gadair, y treuliodd y ddwy flynedd ar bymtheg ereill. Tra y bu
ar ei draed, gwnaeth wasanaeth gwerthfawr i dref Rhymni, a hwnnw yn wasanaeth
dyrchafol ac amrywiol. Torrodd ei iechyd i lawr cyn ei fod yn hanner cant oed.
Oni bai ei fod mor llawn o fywyd ac ynni, yn ei wely y buasai flynyddoedd cyn
iddo roddi i fyny. Cofus (x16) gennym ei
weld yn gwneud ei ffordd tuag Aberdar, i angladd Dr. Saunders. Nis garasai
gerdded i’r orsaf, nac o'r orsaf. Wedi cyrraedd Aberdar, llogodd gerbyd i'w
gludo i Gapel Bethania, ac oddiyno i'r Gladdfa Gyhoeddus. Bu yn galed iawn arno
roddi i fyny mynd o gwmpas, ond gorfod iddo wneud hynny. Buasai dyn cyffredin,
yn y poenau oedd ef ynddynt, wedi rhoddi fyny mynd dros drothwy y drws
flynyddoedd cyn iddo ef wneud hyn. Gobeithiai y byddai ei glefyd (Rheumatism)
yn lliniaru, ac yn y gobaith hwn, cadwodd ar ei draed yn hwy nag y dylasai, ond
ymddanghosai ei glefyd fel am fynnu y llaw uchaf amo. Pan y rhoddodd i fyny, bu
yn garcharor am weddill ei ddyddiau, - ni fedrai hyd yn oed a mynd i'r capel,
ac y mae hyn yn profi mai gorfod fu arno roddi'r goreu i'w anhwyldeb blin.
Bellach, y mae yn rhaid i'w gyfeillion a ddymunent gael ymgom âg ef, fynd ato
i'r ty. Er ei fod yn awr mewn poenau dirfawr, yr oedd yn siriol ei ysbryd, a'i
wyneb yn llon, a'i chwerthiniad yn iachus. Yr oedd yn naturiol o dymmer siriol,
ac nid oedd dim erioed wedi ei gyfarfod i suro ei ysbryd. Ni chafodd ddim
gofidiau a blinderau i chwerwi ei gwpan, ond dedwyddwch, fel heulwen, yn
tywynnu ar ei babell, a chysuron fel blodau gwanwyn, yn britho ei lwybr, oddiar
yr adeg y gadawodd Landdeusant. Yr oedd ei chwerthiniad iachus yn profi mor
hapus oedd ynghanol ei gystudd.
PENNOD VII.
Y DIWEDD.
Tua phedwar diwrnod cyn ei farwolaeth, yr oedd yn brysur gyda chyfaill iddo yn
trefnu i gael Cyfarfod Gwyl Dewi yn ei fyfyrgell. Pan ddaeth y diwedd, ni
feddyliodd neb ei fod mor agos. Yr oedd wedi arfer dioddef ei boenau heb
achwyn. Pan ddaeth y meddyg, (x17) yr oedd
mewn poenau dirdynol, ond nid oedd yn grwgnach. Dywedai y meddyg fod y Pleurisy
wedi ymaflyd ynddo ers tridiau, ond nid oedd y claf wedi son dim wrth y
teulu am ei boenau mawr. Wedi i'r meddyg ddyfod, ni fynnai iddo weini arno ef
cyn rhoddi ei wasanaeth i ŵyr bychan iddo, oedd yn dioddef oddiwrth yr un
clefyd ag yntau. Drannoeth, ymddangosai arwyddion fod y pneumonia wedi ymaflyd
ynddo. Ar y dydd canlynol, Chwefrol 25ain, 1911, daeth y diwedd pan oedd, ar y
dydd blaenorol, wedi cyrraedd ei drigain a saith mlwydd oed. Gwellhaodd ei ŵyr
bychan, ond ehedodd ei ysbryd ef i'r wlad, -
”Lle mae'r awel byth yn dyner,
Lle mae'r wybren byth yn glir."
Dydd Iau canlynol, Mawrth 2il, cymerodd ei gladdedigaeth le. Gellid dywedyd, ar
yr olwg oedd ar y dref y diwmod hwnnw, fod rhywbeth mawr yn cymeryd lle. Ni
welwyd angladd mor lliosog yn y dref ers blynyddoedd lawer. Yr oedd, braidd,
bob sir yn Neheudir Cymru yn cael ei chynrychioli. Yn y ty, cyn cychwyn,
cynhaliwyd gwasanaeth byrr, yn cael ei arwain gan y bugail, y Parch. R. W.
Davies, M.A. Yna, ymffurfiwyd yn orymdaith drefnus, yr hon a symudodd yn araf i
fyny tua chapel Twyn Camo, lle y bu yr ymadawedig yn swyddog am lawer o
flynyddoedd. Yn y capel, cynhaliwyd gwasanaeth coffadwriaethol, yn yr hwn, y
cymerwyd rhan gan y bugail; Dyfed; D. Jenkins, Mus. Bac.; Parchn. W. Williams,
Hafod; R. E. Peregrine, B.D. (A.); Ceitho Davies, ac ereill. Aethpwyd o'r capel
tua'r gladdfa newydd gyhoeddus, ac yno, ym mhresenoldeb gruddiau gwlybion, ac
arwyddion ereill o hiraeth dwys, gosodwyd corff ein cyfaill i orffwys yn y
bedd. Gweinyddwyd wrth y bedd gan y Parch. B. Watkins, Femdale. Canwyd yr emyn
cyn ymadael, -
”Bydd myrdd o ryfeddodau."
(x18) Tebyg fod yno lawer ymhlith y dorf
fawr yn rhedeg ymlaen yn eu meddyliau, pan y byddai ein brawd yn dod "yn
iach o'r cystudd mawr," wedi bod yn ddioddefydd am gynifer o flynyddoedd.
Ychydig sydd yn gwybod pa mor dyledus oedd ein cyfaill am yr hyn ydoedd, a'r
hyn a wnaeth, i Mrs. Jeffreys. Gweinyddodd arno gyda thynerwch a chysondeb am
lawer o flynyddoedd, pan nad oedd ef yn alluog i wneud y nesaf peth i ddim drosto
ei hun. Y mae yn anodd cyfarfod âg engraifft o'r fath ymroddiad ac ymgysegriad.
Bu fel "angel
gwarcheidiol" yn gwylio drosto ddydd a nos. Ac yn ychwanegol at hyn, arni
hi y disgynnai y gofal am y fasnach ac addysg y plant. Yr oedd ei serch yntau
at ei briod yn ddiderfyn. Ni fu erioed ŵr mwy tyner ac ymroddedig i'w
briod. Dydd Llun, cyn ei farwolaeth, yr oedd wedi cyfansoddi darn o
farddoniaeth ar yr achlysur o gyflwyniad Tysteb i'w hen gyfaill, Mr. Evans,
arweinydd y canu yn Ebenezer. Mrs. Jeffreys oedd i gyflwyno un o'r anrhegion,
ac i ddarllen y darn o farddoniaeth a gyfansoddwyd gan ei gŵr. Oddeutu
wyth o'r gloch, edrychodd yn sydyn ar yr awrlais, a dywedodd wrth ei ferch, -
"Y mae y frenhines yn rhoi ei haraeth yn awr.”
Bu i Mr. a Mrs. Jeffreys chwech o blant, ac y mae pump o'r chwech heddyw yn
fyw, a'r oll wedi cael addys dda, ac yn dal safleoedd parchus. Bu ferch hynaf,
Rachel Ellen, farw flynyddoedd yn ol. Y mae Annie, yr ail ferch, yn byw yn
Llanishen, ac yn briod a Mr. Arthur Williams, yr hwn sydd ym mhrif swyddfa
Cwmni Cledrffordd Rhymni. Y mae Mary Elizabeth yn wraig i'r Parch. J. E. Rees, bugail Grove Place,
Port Talbot; gofala Margaret Gwenllian am y fasnach. Y mae John Evans yn
Awstralia, ac y mae Myfanwy yr ieuengaf, yn briod â Mr. David Jones,
Ysgolfeistr: ac yn byw yn Rhymni.
(x19)
(3) TWYNOG FEL CRISTION.
GAN Y PARCH. J. E. DAVIES, M.A. (Rhuddwawr).
Anodd meddwl am unrhyw ddyn a gafodd ei fagu yn ol traddodiadau manylaf plwyf
Llanddeusant, yng ngwlad Myrddin, na wna roddi cyfrif da am dano ei hun fel
Cristion. Yn nhraddodiadau cysegredig y cylch hwnnw y dygwyd i fyrny, ac yr
addysgwyd ein cyfall Twynog ym moreuddydd ei oes, a chariodd yntau gydag ef, i
raddau pell, nodweddion crefyddol yr hen blwyf tra y parhaodd ei ddyddiau yn y byd.
Mae'n debyg na ddaeth yr un rhan o Gymru yn fwy o dan ddylanwad y Diwygiad
Methodistaidd na phlwyf Llanddeusant. Profwyd yno bethau anhygoel o rymus y
pryd hwnnw, gweddnewidiwyd bywyd y trigolion, ac y mae holl awyrgylch y plwyf
yn parhau yn awyrgylch mwy crefyddol na'r cyffredin hyd y dydd hwn. Gan mai
dyma'r lle y gwelodd ein diweddar gyfaill oleuni dydd gyntaf, a chan iddo
dreulio y deunaw mlynedd cyntaf o'i oes yn y fath awyrgylch, nid yw yn rhyfedd
i nodweddion crefyddol mangre ei faboed ddyfod yn amlwg yn ei fywyd yntau.
Cychwynodd Twynog ei yrfa fel Cristion yng ngwres Diwygiad 1859. Llanc ieuanc
15 oed ydoedd ar y pryd. Cyn hynny, yn ol ei addefiad ei hun, bu agos iddo gael
ei arwain ar gyfeiliorn; ond gyda'r Diwygiad, cyffyrddwyd â,'i ysbryd gan ryw
nefol chwâ, a'i gwnaeth yn ddyn newydd o'r awr honno allan. Er nad oedd efe ar
y pryd ond ieuanc, teimlodd nerthoedd y byd a ddaw mor rymus, fel y
penderfynodd gysegru ei hun, gorff, meddwl, ac ysbryd, i wasanaethu crefydd am
ei oes. Yn ffodus, y mae efe ei hun wedi ysgrifennu hanes ei ddyfodiad at
grefydd, a da iawn gennym allu gosod yr (x20)
hanes i mewn yma fel y mae efe ei hun yn ei adrodd. Mae'r hyn a barodd i Dwynog
ysgrifennu yr hanes yn eglur. Yn niwedd y flwyddyn 1900, yr oedd Cymdeithas
Lenyddol Twyn Carno, Rhymni, yn cynnal cyfarfod i ymdrin tâ Hanes Diwygiad '59;
ond yr oedd ein cyfaill, oherwydd ei fod yn gaeth i'w ystafell, yn analluog i
fod yn bresennol yn y cyfarfod. Yr oedd ei ysbryd, fodd bynnag, yn llawn o'r
pwnc, - yr oedd tân '59 yn llosgi yn eirias yn ei galon, ac nis gallodd ymatal
heb anfon ysgrif yn gosod allan ei broflad ei hun ynglŷ n â’r Diwygiad i'w
darllen yn y cyfarfod, ac fel hyn y dywed, -
“DIWYGIAD MORGANS YSBYTY."
At Gymdeithas Lenyddol Carno, Rhagfyr 19eg, 1900.
ANWYL FRODYR A CHWIORYDD, -
Yr wyf yn dymuno i chwi orig felus gyda y testyn hyfryd hwn. Bydded i'r ysbryd
pur nefolaidd chwythai ar y cyfarfodydd hynny, ddeugain mlynedd yn ol, chwythu
arnoch chwithau heno. Buasai yn bleser mawr gennyf fod gyda chwi, am y rheswm
mawr mai un o blant y Diwygiad hwnnw ydwyf fi. Yr oeddwn y pryd hwnnw oddeutu
pymtheg oed. Cafodd fy enw ei roddi ar lyfr r eglwys, ac ni chafodd ei dynnu
allan o hynny hyd heddyw: ac yr wyf yn dra hyderus, nid yn unig ei fod ar lyfr
yr eglwys filwriaethus, ond hefyd ar “Lyfr y Bywyd." Nis gwn beth fuasai
wedi dyfod o honof oni bai am y Diwygiad rhyfedd hwnnw. Yr oeddwn yn dechreu
rhedeg yn wyllt ar hyd mynyddoedd fy ardal enedigol, yn dechreu torri Sabothau
Duw, ac yn dechreu arfer iaith nad oedd yn unol i gwefus bur. Ond cyn i mi yn
iawn ddysgu torri y Saboth, na dweyd gair anweddus yn daclus a graenus, dyma y
Diwygiad yn dyfod, ac yn fy nwyn o afael y diafol pan yn dechreu ar fy
mhrentisiseth, ac ni chafodd (x21) efe lyth
ail afael ynnof, i'm llithio ymhellach i'r cyfeiriadau hynny. Yr wyf oddiar yr
adeg honno yn ymgais
A llunio didwyll einioes
Bob dydd wrth grefydd y groes.
Y mae golygfeydd y Diwygiad hwnnw yn fyw ger fy mron o hyd, ac mor fyw heno ag
oeddynt ddeugain mlynedd yn ol. Llungwyn, 1859, cyfarfyddai holl Ysgolion
Sabothol Dosbarth Llanymddyfri yng nghapel mawr y dref honno. Yr oedd yno tua
dwsin o ysgohon, a'r gwaith oedd “dweyd pwnc," a chanu. Byddai pob ysgol
yn adrodd pennod o'r Hyfforddwr, neu bennod o'r Beibl, ac yna yn canu anthem
neu dôn. Yr oedd tair ysgol wedi mynd trwy eu gwaith yng nghyfarfod y bore, ac
heb fod dim yn neillduol wedi cymeryd lle. Holai y Parch. Jonah Phillips, -
brawd y Doctor Phillips a anfarwolodd y llinell
”Beibl i bawb o bobl y byd," -
a holwr iawn ydoedd hefyd. Yn oedfa y prydnawn, wele ysgol Rhandirmwyn yn
cymeryd ei lle i fynd trwy ei gwaith. Yr oedd Morgans Ysbyty wedi bod yn y lle
hwnnw ychydig o amser cyn hynny, ac wedi rhoddi y bobl ar dân, ac wedi tanio yr
holl gymdogaeth yn fflam. Felly, pan gymerodd yr ysgol hon ei lle i adrodd y
pwnc, dyma ffrwd o wres yn disgyn i'r gwasanaeth, a bywyd newydd yn dod i mewn
i waith y dydd. Codai fflamiau eirias oddiar allor y pwnc, ac i bob gofyniad o
eiddo yr holwr, codai cymylau gwynion o adnodau, emynau, a darnau o “Golwg ar
Deyrnas Crist," &c. Wedi adrodd y bennod, aed at y canu. Rhoed allan
yr hen bennill bendigedig sydd yn terfynu “Cân y Cyfamod Disigigl,” -
”Y Gŵr a fu gynt o dan hoelion
Dros ddyn pechadurus fel fi,
A yfodd y cwpan i’r gwaelod
Ei hunan, ar ben Calfari;
(x22)
Ffynhonnell y cariad tragwyddol -
Hen gartref meddyliau o hedd,
Dwg finnau i'r unrhyw Gyfamod
Na thorrir gan angau na’r bodd."
Ar hyn, dyna'r “Hen Ddarbi" hwyliog yn cael ei tharo, a'r gwres yn codi,
a'r mellt yn dechreu gwibio, a'r “amenau," yr “haleuwiah," a'r
“bendigedig," mewn sain can a moliant yn codi hyd y nefoedd, a'r holl dorf
yn oddaeth {sic; = oddaith}drwyddi, canys unwyd â chôr Rhandirmwyn gan yr holl
gynulleidfa. Wedi mynd dros y pennill unwaith, aeth rhai yn ol i'r dechreu, ac
ereill i’r canol, a dyna y discords yn torri ar drefn; ac yn agos i ddwy
fil o gynulleidfa, a phob un a'i ffordd ei hun, yn moliannu ar ei ben ei hun;
ond mi gredaf fod yr oll yn harmony perffaith ar glustiau y nefoedd. Yn
y man, gwelwn ddwy ddynes, o ganol côr Rhandirmwyn, yn ymaflyd yn eu hetiau, -
dwy sidell a chopâu mawrion fel dwy wyddfa, - ac yn eu taflu nes oeddynt yn flat
yn erbyn y mur, ac yna yn taflu dwy shawl fawr ar eu holau, i gadw
cwmni iddynt. Wedi ysgafnhau eu hunain, wele hwy yn ymaflyd ym mreichiau, eu
gilydd i ddawnsio a moliannu. Gwnaed yr un peth gan ereill, nes oedd y rhan
fwyaf o ysgol Rhandirmwyn, a llawer ereill, wedi colli eu golwg yn hollol ar y
dynol a'r daearol, ac ymgolli yn llwyr yn y dwyfol a'r ysbrydol. Ceisiai rhai
o'r gweinidogion adfer trefn, er cael yr ysgolion ereill at eu gwaith; ond
buasai yr un peth iddynt geisio troi afon Tywi, oedd gerllaw, yn ol tua
Rhandirmwyn, ac Ogof Twm Shôn Cati. Moliannu y buwyd trwy y prydnawn a'r nos,
yn y capel, ac ar hyd yr heolydd, a'r creigiau yn adsain moliant i Dduw am wyth
milldir o ffordd o gwmpas Llanymddyfri, - hen dref Williams Pantycelyn, a Ficer
Pritchard. Amser a balla i mi yn bresennol i ddilyn y Diwygiad yn ol i'm plwyf
fy hun, a phlwyfi ereill, digon yw dweyd ddarfod i'r gynulleidfa honno, fel
llwynogod Samson, wasgar y tân trwy yr holl wlad." 23
(x23) Dyna’r portread a rydd y gŵr ei
hun o'r Diwygiad Mawr trwy ddylanwad yr hwn y daeth efe yn Gristion, ac eglur
yw ei fod wedi profi pethau grymus yn 1859, - pethau na chollodd eu dylanwad
hyd ei fedd; canys ar wahan oddiwrth hynny, nis gallasai yr effeithiau fod mor
fyw ar ei feddwl ar adeg mor ddiweddar a'r flwyddyn 1900, sef ymhen 40 mlynedd
wedi i'r Diwygiad fynd heibio. Yng ngwres y Diwygiad hwnnw, aeth Twynog trwy y
"tro Mawr," gwnaed ef yn Israeliad yn wir, a chymerodd ato yr holl
arfogaeth fel milwr da i Iesu Grist. Mewn canlyniad, aeth i mewn i fyd newydd,
ac ymddangosai y mynyddoedd o gwmpas, y llynnoedd a'r afonydd, a holl olygfeydd
natur fel creadigaeth newydd iddo. Yr Ysgol Sul, cynulliadau y saint, a cheisio
byw crefydd, fu ei bethau pennaf ar ol hyn. Gwelir hynny yn amlwg oddiwrth y
llinellau sydd yn terfynnu y gân fach swynol a ysgrifennodd ar y testyn
“Ffarwel Llanddeusant," lle y dywed,-
“Ffarwel i Landdeusant a'r hen Ysgol Sul,
Lle ddysgais gynt ddarllen am Grist a'r Ffordd gul;
Cynghorion y tadau, mor fyw ag erioed,
Sydd heddyw mewn adgof yn llewyrch i'm troed."
Ymhen rhyw dair neu bedair blynedd wedi y Diwygiad, ymadawodd Twynog â'i hen
gynhefin, canodd yn iach i Landdeusant, ac ymsefydlodd yn Aberdar, Morgannwg,
lle gwahanol iawn ym mhob ystyr i'r hen blwyf lle y treuliodd ei febyd; ond
gofalodd am fynd â'i grefydd gydag ef, ni phallodd ei frwdfrydedd, a chawn ef
yn fuan yn ymroddi i waith nas gallasai dim ond gwir ysbryd cenhadol ei gymhell
i'w gyflawni. Cymerodd ei le fel aelod yn eglwys Nazareth, a deallwyd yn fuan
gan y frawdoliaeth yn y lle hwnnw fod gan y gŵr ieuanc o wlad Myrddin
galon i weithio. Un o'r pethau cyntaf a wnaeth oedd mynd allan i chwilio am
bobl ieuainc nad oedd yn mynychu unrhyw le o addoliad, a'u cael i ddyfod i'r
Ysgol Sul. Llwyddodd i gasglu dosbarth o ryw 20 ohonynt at eu gilydd, ac fe'n
hysbysir i'r rhai. hynny (x24) oll ddyfod yn
aelodau o'r eglwys, a bod dau ohonynt yn flaenoriaid yn Nazareth ar hyn o bryd.
Y fath esiampl ardderchog i bobl ieuainc crefyddol, a'r fath brawf hefyd fod
tân y Diwygiad yn parhau i losgi yn enaid y gŵr ieuanc oedd Yn cyflawni y
gwaith. Mor ymroddedig gyda chrefydd yr oedd Twynog, ac mor amlwg hefyd, fel y
bu cymhell mawr arno gan bobl dda Nazareth i ddechreu pregethu; ond oherwydd ei
briodas a rhesymau ereill, ni chafodd ar ei galon i fynd i fewn am y
weinidogaeth; eithr bu yn weithiwr llwyddiannus a difefl gyda'r achos, nid yn unig
tra y parhaodd ei gysylltiad â'r eglwys honno, ond ym mhob lle arall y bu ynddo
hyd ddiwedd ei oes.
Fel y gwelir oddiwrth adran arall, symudodd cyn hir o Aberdar i Ferthyr Tydfil,
ac yno drachefn dechreuodd ar waith cyffelyb, a daeth yr ysbryd cenhadol oedd
ynddo yn amlycach i'r golwg na chynt. Aelod yn hen gapel enwog Pontmorlais
ydoedd tra fu ym Merthyr, a chôf da gennym am dano yn y lle hwnnw, ac am ei sêl
danllyd gyda gwaith yr Arglwydd, yn enwedig gyda'r Ysgol Sul a Dirwest. Gwnaeth
ei hun yn ddefnyddiol iawn fel gweithiwr crefyddol ym Merthyr, ac ar gyfrif ei
fedr, ei ddeheurwydd, a'i ymroddiad, galwyd arno i lanw llawer swydd bwysig,
megis bod yn ysgrifennydd y Gymanfa Ganu, ysgrifennydd Cyfarfod Dosbarth
Merthyr; ac mor amlwg ydoedd gyda Themlyddiaeth Dda, fel yr edrychid arno yn un
o'r colofnau cadamaf yn y cylch hwnnw; a phan arweiniwyd ef gan Ragluniaeth i
ymadael, teimlid y golled yn fawr, a chanodd rhywun gan roi mynegiant i'r
teimlad hwnnw yn y geiriau canlynol,-
” Mae colli Twynog Jeffreys,
Y gweithiwr diwyd iawn,
Y llenor coeth a theilwng,
A'r bardd o uchel ddawn.
Gohebydd a ‘sgrifennydd
I gymdeithasau'r dref,
Yn golled nas gall undyn
Fynegi faint yw ef.
(x25)
Y Temlydd Da a gweithgar,
Mor ffyddlawn oedd efe,
Yn llenwi’r swyddi uchaf,
Urddasaf yn y lle, -
Prif Demlydd a Dirprwywr,
A llawer uchel swydd,
Nas gallwn ni eu rhifo
Na'u coflo heddyw'n rhwydd.
Beth bynnag fyddai'n wneuthur,
Ai mawr ai bach y bri,
A nerth ei law a'i galon,
'R oedd Jeffreys gyda ni;
Ni fyddai'n rhaid ei gymholl
Mewn unrhyw achos da,
Ni fedrai o gydwybod,
Byth, byth ddywedyd NA."
Er nad oes llawer o eneiniad yr awen yn y llinellau a ddyfynwyd, mae'n eglur
oddi wrthynt fod i'n cyfaill Twynog le mawr a chynnes ymysg pobl dda Merthyr ar
y pryd. Feallai mai'r gorchwyl pennaf a gyflawnodd yn ystod ei drigias yn y Ife
hwn ydoedd ei waith ef, mown undeb âg un Mr. Protheroe, yn sefydlu Ysgol Sul
gref ym Mhendarren. Yr oedd y gymdogaeth honno ar, y pryd yn isel ei moesau,
a'r trigolion gan mwyaf yn esgeuluswyr hollol o bob moddion o ras. Yr oedd Mr.
John Protheroe, yr hwn oedd fel Twynog yn aelod ym Mhontmorlais, yn byw yn y
gymdogaeth honno, a llwyddodd Twynog i gael ganddo roddi ei dŷ yn agored i gychwyn Ysgol Sul ynddo. Aed o
gwmpas i wahodd preswylyr y cylch i'r Ysogol, ac nid hir y bu'r anturiaeth heb
brofi yn llwyddiant mawr mewn gwirionedd. Nid yn unig fe ddaeth yr Ysgol yn
Ysgol flodeuog, ond hefyd fe ddarfu i gynifer a hanner cant o ddeiliaid yr
Ysgol ymuno i'r eglwys ym Mhontmorlais fel aelodau, a throi allan yn bobl
ddefnyddiol gyda'r achos. Prawf y ffaith hon, nid yn unig fod y Cristion yn fyw
yn ei galon, ond fod tân y Diwygiad yn parhau i losgi o'i fewn mor wresog ag
erioed; ac yn gymaint felly nes peri iddo fynd allan i'r prif ffyrdd a'r caeau,
a chymhell y (x26) bobl, yn ol gorchymyn ei
Feistr, i ddyfod i mewn fel ag i lanw'r tŷ . A phan y daeth yr adeg o'r
diwedd iddo gefnu ar Ferthyr, mynnodd ei gyfeillion gael cyflwyno iddo dysteb
werthfawr, yn y ffurf o lyfrau, fel arwydd o'r gwerth a osodid ganddynt ar ei
lafur a'i ffyddlondeb tra fu yn eu mysg.
Yr un mor amlwg hefyd oedd y Cristion yn ei gymeriad wedi iddo symud i Rymni i
fyw; ond ei fod yn fwy aeddfed a ffrwythlawn ar gyfrif y profiad ychwanegol
oedd yn eiddo iddo erbyn hyn. Gwelsom, rai gweithiau, bobl a arferent fod yn
ffyddlon a gweithgar gyda chrefydd mewn un lle, pan yn symud i le newydd, yn
colli eu sêl, yn methu cael eu hunain i ffordd gwaith, ac yn y diwedd yn marw i
bob defnyddioldeb. Nid un o'r rhai hyn oedd ein cyfaill Twynog. Iddo ef yr oedd
pob symudiad yn gyfleustra i ymroddiad newydd gyda gwaith y Deymas. Yr un oedd
y Deymas iddo ef ym mhob man, ac nid oedd cwmni newydd, a chylch newydd, ond yn
ei dynnu ef allan yn fwy. Adnabyddwyd ef ar unwaith ar ei ddyfodiad i Rymni fel
un gwresol, yn ysbryd y gwaith, fel un yn meddu ar galon i weithio, ac fel un
yn meddu ar gymhwysderau amlwg i fod o wasanaeth mawr. Eglwys Twyn Carno a
gafodd y fraint o'i groesawu i'w mynwes yn y cylch hwn, a llwyddodd yntau i
wneud lle cynnes iddo ei hun ar y Twyn ar fyrr o dro, ac nid hir bu heb ddyfod
yn ŵr o ddylanwad a defnyddioldeb mawr yn yr holl gylch. Ymhen tair
blynedd etholwyd ef yn Flaenor yn Eglwys Twyn Carno, ac ni chafodd neb le i
feddwl mewn canlyniad fod eglwys wedi gwneud cam yn y dewisiad. Hefyd, gwelwyd
a chydnabyddwyd ei werth nid yn unig gan Eglwys Twyn Carno, ond gan y dref a'r
dosbarth; a chawn iddo gael ei alw i lanw bron bob swydd o gyfrifoldeb o fewn
ei gyrraedd. Bu yn ysgrifennydd y Gymanfa Ganu, yn ysgrifennydd y Dosbarth, yn
ysgrifennydd lleol Cymdeithasfa a Chymanfa, a bu yn gynrychiolydd dros Gyfarfod
Misol ei sir yn y Gymanfa Gyffredinol ac yn cymeryd rhan amlwg yn ei (x27) gweithrediadau. Yr oedd efe yn ŵr o
ddawn neilltuol, yn gystal a bod yn Gristion egwyddorol o ran argyhoeddiad, ac
am hynny disgynnai llawer o waith i'w ran ym mhob cylch lle y troai; ac y mae
yn ddywediad am dano yn Rhymni hyd heddyw nad oedd yr un gwaith yn rhy fawr
na'r un yn rhy fach i dynnu allan oreu Twynog er ei gyflawni yn effeithiol ac i
bwrpas. Yr oedd efe yn gymeriad amlochrog iawn, ac yn amlwg mewn llawe cylch;
ond y Cristion ynddo oedd yn llywodraethu, - yr oedd delw’r Cristion ar ei holl
gyflawniadau.
Yn anffodus, fel y dangosir mewn pennod arall, bu Twynog am yn agos i hanner
amser ei drigias yn Rhymni yn ferthyr i’r gymalwst (rheumatism), ac yn gaeth
i'w ystafell. Rhoddodd hyn derfyn, i raddau mawr, ar ei waith cyhoeddus, gyda’r
eithriad o'r hyn a wnai drwy y wasg; ond ni roddodd derfyn ar gyfleustra i'r
Cristion ddangos ei hun. Am y ddwy flynedd ar bymtheg olaf o’i oes, ni bu allan
yn y capel ond chwech o weithiau o gwbl, a bu raid ei gario y troion hynny. Yr
achlysuron hyn oeddynt pan yr oedd ei ddewis-bregethwyr, - y Parch. E. Rees
(Dyfed), y Parch. J. T. Job, y Parch. J. J. Roberts (Iolo Caernarfon), y
Parch.. John Williams, Brynsiencyn, a’i weinidog ei hun, y Parch. R. W. Davies,
M.A., ynghyd ag un arall yn pregethu. Gyda'r eithriadau hyn, yn ei ystafell
neilltuedig bu efe ar hyd yr holl flynyddoedd a nodwyd, ac heb allu mynd gyda’r
gynulleidfa i Dŷ Dduw; ac o bob
man, dyma’r lle i brofi’r Cristion; a da gennym allu dweud, fe ddaliodd Twynog
y prawf yn ardderchog. Gwelsom, cyn hyn, ddynion oeddynt yn gwneud crefyddwyr
go lew ar dywydd teg, ond yn torri ilawr ar dywydd garw : yn ymddangos yn
bopeth ellid ddymuno mewn awyr dymherus, ond yn ymwylltio yng ngwres y ffwrnes;
ac yn dra chymeradwy pan yn mwynhau rhyddid, ond yn llawn o ysbryd grwgnach
wedi iddynt gael eu dal gan gaethiwed. Am Twynog, yr oedd ei grefydd ef yn fwy
amlwg, os dim, yn y tywydd garw nag yn y tywydd têg ; ac yn fwy gloew, os yn
bosibl, mewn (x28) rhwymau nag mewn rhyddid.
Pan ar dir nelltuaeth, ac yn fynych mewn poenau dirfawr, yr oedd efe fel yr aur
wedi ei buro seithwaith, a'i grefydd yn mynd yn loewach loewach hyd y diwedd.
Yr oedd ei oddefgarwch, ei sirioldeb diball, a'i ffydd ddiysgog, yn brofion
diymwad o'i gymundeb agos â Duw, ac yn arddangos yr angel yn ei berson. Y mae
amber] blanhigyn i'w gael sydd yn meddu ar bersawr o'r fath fwyaf hyfryd; ond y
mae yn rhaid gwasgu'r planhigyn cyn y ryhdd allan gyflawnder ei arogl
pereiddiaf. Gellir dweud am Twynog ei fod yn rhoddi allan arogl hyfryd iawn pan
yu mwynhau iechyd a rhyddid; ond gellir hefyd ychwanegu ei fod yn rhoddi allan
arogl hyfrytach wedi iddo gael ei wasgu i'w ystafell unig. Buasai llawer un
wedi torri ei galon yn amgylchiadau caethiwus ein cyfaill; ond yr oedd cymaint
o obaith yn ei galon, fel nad oedd ite ymneilltuaeth yn gwneud dim ond peri i'r
Cristion ynddo ymddangos yn fwy gogoneddus nag erioed o'r blaen. Gellir dweud
am dano yng ngeiriau Islwyn ar fater arall, -
“Nos yw'r dydd sy'n cuddio’r sêr o’r golwg,
Ond dydd yw'r nos syn gwneud y nef yn amlwg."
Ni wnaeth nos cystudd hirfaith yn ei hanes yntau ond gwasanaethu i ddwyn y
nefoedd yn ei galon i fwy o amlygrwydd.
Beth oeddynt y llinellau amlycaf yng nghymeriad Twynog fel Cristion?
1. Yr oedd Gristion calon-agored ac wyneb-agored. Nid oedd y duedd leiaf i
guddio arian ei Arglwydd; ond yr oedd yn hawdd darllen ar ei wyneb beth oedd yn
llywodraethu ei galon. Y tro cyntaf erioed i mi ei gyfarfod oedd ar orsaf
Llandeilo-fawr; ac er na chefais ond rhyw ddeng munud yn ei gymdeithas,
deallais ei fod yn un o feib yr awen, yn Gristion hawddgar a da, ac nad oedd
perygl iddo ddarnguddio dim o'r gynysgaeth (x32)
werthfawr yr oedd natur a gras wedi roddi iddo, ac ni chefais le byth wedi
hynny i newid fy mam gyda golwg arno. Mor siriol a chalon-agored ydoedd fel yr
oedd, nid yn unig y dyn, ond y Cristion hefyd i'w weld yn amlwg ar ei wynepryd.
Nid wyf yn awgrymu drwy hyn ei fod yn un a fynnai honni pethau mawrion, na
gwneud arddanghosiad o'i grefydd fodd yn y byd; ond yr hyn a olygwn ydyw y
gwyddai efe yn hollol naturiol y ffordd i dorri'r blwch, nes peri fod arogl
enaint crefydd yn llenwi y lle y byddai ynddo. Nid crefyddwr ar y Saboth, a
rhywbeth arall ar ddyddiau yr wythnos, ydoedd; nid crefyddwr yn y capel, a
rhywbeth arall yn y fasnach; ond un oedd efe ag oedd yn mynd i'i grefydd gydag
ef i bob man, a'r grefydd honno yu un nad oedd yn cael ei chuddio dan len. Nid
efe oedd yn llywodraethu ei grefydd; ond ei grefydd oedd yn ei lywodraethu ef.
Gallasai ddweud yn groew gyda'r Apostol, -
"Nid, oes arnaf gywilydd o efengyl Crist;"
ac am hynny yr oedd yn galon-agored ac yn wyneb-agored fel Cristion.
2. Brwdfrydedd calon ae ysbryd ydoedd nodwedd arall yn Twynog fel Cristion. Yr
oedd efe yn naturiol frwdfrydig gyda phopeth, ac felly hefyd gyda chrefydd. Nid
oedd hyn ond peth i'w ddisgwyl ynddo, gan ei fod yn un o "Blant y
Diwygiad;" oblegid y mae plant y Diwygiad, fel rheol, yn fwy gwresog gyda
chrefydd na chrefyddwyr yn gyffredin, ac felly yr oedd yntau. Dylid sylwi hefyd
mai nid brwdfrydedd teimlad arwynebol oedd yn ei nodweddu; ond brwdfrydedd
bywyd. Dilynwyd ef gan ysbryd a bywyd y Diwygiad i raddau pell ar hyd ei oes.
Hyn barodd iddo ymroddi at waith cenhadol gyda'r fath sêl yn Aberdar, ym
Merthyr, ac yn Rhymni. Mynnai yr ysbryd cenhadol ddangos ei hun ynddo ym mhob
man, ac edmygai yr Ysbryd cenhadol yn fwy na dim ym mhawb ereill. Yr oedd yn
edmygydd diddiwedd, er engraifft, o'r diweddar Dr. John Pugh, a gwaith y
symudiad ymosodol, yn gyatal a phob ymdrech arall i feddiannu tir newydd gyda (x30) Theyrnas y Gwaredwr. Wedi iddo gael ei
gyfyngu i’w ystafell, yr oedd yn byw mewn cyffyrddiad agos â symudiadau crefyddol
ei oes, yn darllen y cofnodolion crefyddol yn fanwl, ac yn teimlo yn fyw iawn i
bob arwydd o ddiwygiad a llwyddiant. Yr oedd wedi bod mewn caethiwed am lawer o
flynyddoedd cyn i Ddiwygiad 1904-5 dorri allan; a phan yr ymwelodd llanw y
Diwygiad hwnnw â Rhymni, yr oedd efe yn rhy analluog i fynd i'r cyfarfodydd;
ond clywsom weinidog a'i hadwaenai yn dda yn dweud i'r Diwygiad ddyfod ato i'w
ystafell, a rhoddi iddo orfoledd lawer ar dir neilltuaeth fel yr oedd. Mor
hawdd cynneu tân ar hen aelwyd!
3. Gweithgarwch ydoedd hefyd yn elfen amlwg yn Twynog fel Cristion. Mae'n rhaid
i wir fywyd gael dangos ei hun mewn gwaith; a chan mai brwdfrydedd bywyd oedd
brwdfrydedd ein cyfaill, yr oedd yn rhaid iddo gael amlygu ei hun mewn
gweithgarwch diball. Nis gallasai efe fod yn segur. Rhaid oedd iddo fod wrth
ryw waith bob amser. Fel y soniwyd, gwelwyd ef ar lawn gwaith gyda Dirwest,
fawr ei sêl gyda'r Ysgol Sul, yn gyson yng ngwaith yr Eglwys, - yn ei
chyfarfodyd cyhoeddus. yn ymweld â’r cleifion, yn gystal â phob gorchwyl a
ddisgynai i’w ran; gyda gwaith y Gymanfa Ganu, gwaith y Cyfarfod Misol, a
gwaith y Gymdeithasfa hefyd, profodd ei hun yn ŵr ymroddedig ac yn
weithiwr difefl tra y parhaodd i allu mynd oddiamgylch. Ac hyd yn oed wedi
fethu mynd o gwmpas, ni pheidiodd a gweithio o blaid crefydd; oblegid yn ei
ystafell yr oedd beunydd yn darllen, yn meddwl, yn cynllunio, yn ysgrifennu,
neu yn trarthu rhywbeth a Ysgrifennid gan ei ferch er budd ereill; a rhaid
sylwi fod delw'r Cristion i raddau mawr ar holl Ysgrifeniadau Twynog. Dywed y
rhai oedd yn gyd-swyddogion âg ef yn Nhwyn Carno nad oedd neb yn eu mysg yn fwy
ymroddedig i waith nag efe, tra y parhaodd ei nerth; ac ychwanegant fod ei
feddylgarwch a'i gynlluniau, yn ei ystafell unig, wedi profi yn arweiniad ac yn
gynhorthwy pwysig iddynt ar lawer amgylchiad. (x31)
Medrai feddwl yn glir, a siarad yn ddeallus, ac am hynny yr oedd ei waith, pa
un bynnag ai yng nghyfarfodydd yr eglwys neu yn ei ystafell neillduedig y
byddai, yn nodedig o dderbyniol a chymeradwy. 4. Yr oedd amynedd a gallu i i
ddioddef yn bethau amlwg yn Twynog fel Cristion. Dywedasom y nodweddid el gan
frwdfrydedd ; ac nid yn fynych y mae brwdfrydedd mawr ac amynedd mawr yn
cydgyfarfod yn yr un person; ond yr oedd hynny yn ffaith yn hanes ein cyfaill. Meddylier
am dano, ac yntau yn un mor fyw, am 17 o flynyddoedd yng nghrafangau y gymalwst
ar dir neilltuaeth, a hynny heb furmur na dweud gair yn ynfyd yn erbyn y drefn.
"Trwy lawer o orthrymderau," medd y gair, “y mae yn rhaid myned i
Deyrnas Dduw;" deallodd Twynog hynny, dysgodd amynedd fel plentyn yn llaw
ei Dad Nefol, a dysgodd ddioddef heb rwgnach, gan wybod fod "byr ysgafn
gystudd yn gweithredu tragwvddol bwya gogoniant." Credwn ei fod yn rhoddi
mynegiant i'w brofiad personol fel Cristion mewn rhannau helaeth o'i bryddest
ar y testyn, -
“A fynno gyrraedd wen goron -
Dwy ran ei helynt drain a heolion."
Cymerer y dyfyniadau canlynol allan o'r gerdd,-
”Deugain mlynedd yr Israeliaid gynt
Felysai yr orffwysfa wedi'r hynt;
Ac felly mae yn rhaid i'r sant o hyd,
Cyn gweled nef, weld troion chwerwon byd,
Fel ‘stad o brofiad a dysgyblaeth lem,
I'w naddu a'i lanhau yn nefol em.”
* * * * * * *
“Daw dyn mewn drain a hoelion at ddor gobaith,
A gobaith a'i harweinia at ddor perffaith
Amynedd, ac amynedd a'i dwg eilwaith
Yn ol yn syth at ddor y perffaith obaith, -
Y gobaith hwnnw yw na chywilydda –
Y gobaith dry’n fwynhad o fewn y Wynfa."
* * * * * * *
(x32) "Pan bo Rhagluniaeth nef yn cau
Ffyrdd dyn â drain, ac yntau yn tristau;
Llaw arall sydd yn agor rhai newyddion
A golygfeydd yn llawn o uwch prydferthion,
Ac yn ei dywys iddynt mewn tawelwch
I hedd-fyfyrio ar newyddach harddwch;
Ond ni fuasai byth yn gweld y rhain
Pe byddai'r hen heb gael eu cau â drain,”
* * * * * * *
"Cyn hir daw'r dydd caf finnau wisgo'r goron,
A gadael fyth ar ol y drain a'r hoelion;
Caf y pryd hwnnw sylweddoli'r dioddef
Yn y mwynhad o fy nhragwyddol gartref,
Y drain a'r hoelion, a'r peryglon fyrdd,
Yn nefol goron ac yn balmwydd gwyrdd
Mor bur, mor wresog, fydd fy niolchiadau,
'Rol colli deigryn ola'r ocheneidiau.
Y 'stad a'r tymor o ddisgyblaeth gref,
Yn barotoad bywyd uwch y nef,
A heibio’n fuan, pob cyfrinion ddaw
I'r golwg am yr oll yr ochor draw,
Lle y mae Duw yn rhannu y coronau
Yn rhoddion am ddioddef y cystuddiau.”
Dyna yn ddiddadl iaith profiad Twynog, ac y mae'r profiad hwnnw yn fyw gan
obaith yr efengyl. Nid yn unig fe welir yma amynedd dihafal, ond fe welir yma
obaith disglaer yn tywynnu, a chlywir seiniau clir o lawenydd a gorfoledd yn
torri trwy y cwbl. Y mae hyn yn ein harwain i olwg y plyg prydferthaf oll yng
nghymeriad yr anwyl Twynog.
5. Cristion ai fywyd yn llawn heulwen oedd ein Harwr. Cafodd gymaint o achos i
fod yn bradd, ac i ddigaloni a neb fu yn rhodio daear ei wlad; ond prin erioed
y gwelwyd cwmwl yn dyfod dros ei ael. Yr oedd efe bob amser yn yr haul, tra y
byddai ereill, gyda llawer llai o achos i hynny, yn ddigon parod i ymollwng. Yr
oedd ei sirioldeb, ei hawddgarwch, a'r heulwen oedd yn ei brofiad, ar hyd ei
flynyddoedd olaf, yn ymddangos fel gwyrth i'w gydnabod. Yr oedd ei grefydd fel
arogl myrr, aloes, a chasia, yn llenwi ei gartref tawel; a (x33) fwyaf y wasgfa amo, mwyaf i gyd y byddai
arogl yn llenwi yr ystafell lle r eisteddai. Bu llu mawr o gyfeillion yn galw
i'w weld ar hyd y blynyddoedd y cyfyngwyd arno; ond clywsom y sylw yn cael ei
wneud lawer gwaith, pwy bynnag fyddai'r cwmni, mai Twynog fyddai'r mwyaf
calonnog a llawen ohonynt oll. Prin y gwelwyd ef erioed heb wên ar ei wyneb, ac
y mae'n cldiddadl fod y sirioldeb hwn yn codi yn bennaf o'i ffydd a'i hyder fel
Cristion. Yr oedd efe o ran ei ddlynoliaeth naturiol yn siriol a hawddgar tu
hwnt i’r cyffredin; ond rhaid wrth ras mawr i gadw'r jeulwen i dywynnu mewn
amgylchiadau fel yr eiddo ef. Weithiau, pan alwai rhai o'i gyfeillion mewn digalondid,
mor llawn o heulwen oedd profiad Twynog fel y byddai yn gallu gwella'r
pruddglwyf ym mhrofiad y rhai hynny. Un bore, galwodd Mr. David Watkins, brawd
y cadeirfardd Ioan Gwent; a chan fod Ioan ar y pryd newydd farw, yr oedd Dafydd
yn hynod brudd ei galon y bore hwnnw. Pan ofynnodd Twynog iddo sut yr ydoedd,
dywedodd yntau, -
"Yr wyf yn teimlo yn wael iawn heddyw, nid wyf yn meddwl y byddaf byw yn
hir eto.”
“Tyr, tyt, Dafydd bach," medd Twynog, “chwi ddeuwch yn well eto'n
fuan."
"Na," meddai Mr. Watkins, “yr wyf yn ofni fod fy amser yn
agoshau."
“Wel, os felly y mae hi i fod," medd Twynog, "cofiwch fi yn fawr at
Ioan eich brawd."
"Nawr, Twynog," medd Watkins, “nid yw pethau cyn ddrwg a hynyna
hefyd,”
a daeth y gwˆr i'w le ar unwaith. Dengys yr hanesyn a roddwyd Twynog yn hollol
fel yr oedd, a dengys yn arbennig yr heulwen oedd ar ei brofiad fel Cristion.
Gallasai fod yn chwareus ei ysbryd yn yr hen gadair fraich pan heb fod yn
alluog i symud o honi, a phan yr oedd ereill, er mwynhau rhyddid ac iechyd, yn
ddigon cwynfannus. Byd gwyn oedd ei fyd ef yn ei gystudd maith yma. Beth am
dano, tybed, erbyn hyn? Gellir dweud yn sicr am dano ei fod wedi mynd i wynnach
byd, - byd nad oes berygl i'w haul fachludo byth.
(x34) Bu Twynog farw fel y bu fyw, a'i
bwys ar ei Anwylyd. Yn ei flynyddoedd olaf, treuliodd lawer o amser mewn
myfyrdod ar y Beibl a'r Llyfr Hymnau. Yr oedd beunydd yn darllen ac yn meddwl,
a byddai yr hen emynnau Cymreig, yn enwedig eiddo Pantycelyn ac Ann Griffiths,
yn dylifo fel neithdar dros ei fin. Gyda gair o emyn yn ei enau, mae’n
ymddangos, y cauodd ei lygaid ar y byd, ac yr agorodd hwynt yn y nef, oblegid y
frawddeg ddeaaladwy olaf a ddywedodd oedd, - ”Iesu anwyl cymer fi."
Ie, dyna ddeisyfiad olaf yr anwyl Twynog, a dilys yw iddo gael ei wrando, a
chael ei dderbyn gyda chroesaw teilwng i'r trigfannau dedwyydd hynny lle nad
oes neb o'r preswylwyr yn dywedyd "Claf ydwyf," lle nad oes na
chystudd na phoen byth, a lle nad oes neb yn marw. Ydyw, y mae ein hoff gyfaill
erbyn hyn yn rhydd o'i rwymau, yn mwynhau tragwyddol iechyd, a gwyn ei fyd byth
mwyach, gyda gwobr y "Gwas da a ffyddlawn” wedi dyfod yn rhan iddo.
(x35)
(4) TWYNOG FEL BLAENOR.
GAN Y PARCH. DAVID OLIVER, LLUNDAIN.
Ni fyddai raid bod yng nghymdeithas Mr. Twynog Jeffreys yn hir cyn cael eich
argyhoeddi o'r dyddordeb dwfn a deimlai nid yn unig mewn barddoniaeth a beirdd,
ond hefyd yng nghrefydd yr Arglwydd Iesu Grist a'i llwyddiant ymhell ac yn
agos. Yr oedd gwrando arno yn ei ddull diddan a doniol ei hun yn adrodd hanes
hen gymeriadau ac arweinwyr crefyddol Aberdar a Merthyr pan yr oedd ef yn byw
yn y lleoedd hynny yn amheuthyn i feddwl a chorff. Oedd, yr oedd Twynog yn
flaenor ac yn un lanwodd y swydd gydag anrhydedd ac effeithiolrwydd mawr yn
eglwys Ebenezer, Twyn Carno, am flynyddoedd lawer. Bu yn drysorydd y
weinidogaeth yno dros gyfnod maith, a dygai fawr sêl dros fod popeth a
berthynai i wedd anianol yr Achos yn cael ei ddwyn ymlaen mewn modd teilwng ac
urddasol. Pa mor fawr bynnag oedd yr anrhydedd deimlai fod wedi dyfod i’w ran
pan yr enillodd Gadair Farddol Corwen, yr oedd yn ystyried ei fod wedi cael
anrhydedd uwch a dyrchafiad llawer mwy pan y dewiswyd ef gan ei frodyr a'i
chwiorydd yn yr Arglwydd i eistedd fel blaenor yn un o gadeiriau Sêt Fawr y
Twyn. Ac er iddo gael ei analluogi gan afiechyd blin i fynd i mewn ac allan
ymhlith y frawdoliaeth i'r cysegr cyhoeddus y rhan olaf o’i oes, parhaodd i
goleddu syniadau uchel iawn am eglwys Carno hyd y diwedd. Y gwir yw, meddyliai
nad oedd ei hafal yn ddeallol ac ysbrydol yn y De na'r Gogledd. Ymffrostiai yn
sanctaidd yn ei gorffennol gwych, a llawenychai yn ffyddiog yn ei rhagolygon
disglaer. Wn i ddim faint ŵyr y saint yn y nef am helynt y saint ar y
ddaear, ond os ydynt yn gwybod (x36) rhyw gymaint,
yr wyf yn bur sicr fod angel gwarcheidiol Twynog yn cael gorchymyn mynych i
roddi tro am y ddiadell eglwysig ar y Twyn. Nid wyf yn meddwl y bydd ei
lawenydd ef yn gyflawn yn y gogoniant hyd nes y bydd wedi cael cwmni rhai o'r
brodyr garai mor angerddol yma, er fod rhai ohonynt wedi mynd yno o'i flaen.
Yn yr adeg yr ymgymerodd Mr. Jeffreys â swydd blaenor yn Nhwyn Carno, yr oedd
yr elfen leygol yn llanw lle pwysig yng Nghyfundeb y Methodistiaid, yn enwedig
yn llywodraethiad ac amaethiad yr eglwysi unigol. Yr oedd hyn yn ganlyiniad
anocheladwy cyfundrefn deithiol y weinidogaeth yn ein plith, - cyfundrefn a
ffynnai yn lled gyffredinol yn y Cyfundeb am y can mlynedd cyntaf o'i hanes. Er
fod Gair Duw trwy gyfrwng yr Ysgol Sul, wedi cynhyddu ac amlhau yn ddirfawr yn
y wlad, yr oedd gweinidogion y Gair yn gymharol brin. Pan o fewn cyfleusdra,
rhoddai y gweinidogion a'r pregethwyr eu presenoldeb yn y Cyfarfod Gweddi a'r
Seiat, a mawr werthfawrogid eu gwasanaeth ynddynt; ond arweinwyr cyson a
sefydlog yr eglwysi, gydag ychydig iawn o eithriadau, oedd y blaenoriaid. Hwy
oeddynt y gwylwyr cartrefol parhaus, a phorthwyr dyfal y praidd, ac adeiladwyr
y saint ar y sancteiddiaf ffydd. Effaith hyn oll oedd i ddylanwad yr elfen
leygol o'r swyddogaeth yn ein plith i fynd yn fawr iawn, ac erys eto trwy
dragaredd, er nad i'r un graddau, feallai, a chynt. Nid oes odid dreflan na
chwmwd yng Nghymru nad yw anerchiadau byw, gweddiau eneiniedig, a charitor
sancteiddlwys rhyw flaenor neu gilydd wedi gadael argraff annileadwy ar
feddyliau a chalonau y bechgyn a'r merched gafodd y fraint o gael eu magu a'u
meithrin wrth eu traed, a'r rhai sydd wedi eu dilyn yn fendithiol i bob cwrr
o'r byd. Nid yw lle a gwaith y blaenoriaid wedi cael y sylw a'r gydnabyddiaeth
ddyladwy gan haneswyr y Cyfundeb hyd yma. Yr ydym wedi arfer ymffrostio yn y
dynion hyawdl a thalentog gododd Duw i'r pulpud i ddeffro'r (x37) genedl o'i chysgadrwydd a'i difaterwch am yr
ysbrydol a'r tragwyddol, a'i hargyhoeddi o'i phechadurusrwydd a'i hannuwioldeb.
Gallwn yn llawn mor briodol hefyd ymfalchio, - heb bechu, mi gredaf, - yn y
dynion hirben a chydwybodol gododd Duw o bryd i bryd i'r Sêt Fawr. Paham y
mae'r Genedl Gymreig yn fwy crefyddol na'r genedl Seisnig? Nid am ei bod wedi cael rhagorach pregethwyr,
ond am fod y Cymry wedi cael gwell blaenoriaid. Blaenoriaid y Methodistiaid, -
hwy oedd bugeiliaid yr eglwysi ar y cyntaf, a bugeiliaid ardderchog oedd rhai
ohonynt. Myfyrient yn y Gair, paratoent en hysbryd ar gyfer y Seiat a'r
Cyfarfod Gweddi, ac ymwelent gyda ffyddlondeb mawr i'r cleiflon a'r rheidus,
a'r trallodedig a'r esgeulus. Esgobion neu arolygwyr yr eglwysi oedd y
gweinidogion hyd yn gymharol ddiweddar.
Pwy na chlywodd am Dafydd Jones, o'r Dolau Bach, bugail-flaenor Llangeitho, Job
Prosser dduwiolfrydig o Ddowlais, Sam. Parry, y dysgyblwr llym o Bontmorlais,
William Morris, y boneddwr-flaenor o Bant-tywyll, a lliaws ereill llai amlwg
ellid enwi. Ac yn ol ei maint a'i manteision, nid yw Mynwy wedi bod yn ail i'r
un sir arall yn nifer ei blaenoriaid gallog a doeth. Un o'i blaenoriaid hi oedd
yr enwog Owen Enos, yr hwn aeth i sir Aberteifi yn unig swydd i nol y Sassiwn i
Benycae. Yr amser hwnnw, yr oedd yr Achos yn y lle yn wan, ond nid yn
llwydaidd. Ofnai yr hen frodyr da oedd yn arwain i'r Gymdeithasfa golli graddau
o'i hurddas wrth fynd i le felly, a thueddent i droi clust fyddar i'r cais. Pan
welodd Owen Enos fod pethau yn mynd i'w erbyn, torrodd allan i wylo, a'i waith
yn ei thaergeisio trwy ddagrau a barodd iddo lwyddo yn ei amcan clodwiw. Ereill
o'r cedyrn-flaenoriaid gynt ym Mynwy oeddynt Edward Jones, y Rock, gŵr o
bwyll a doethineb mawr, ac un lanwodd y swydd bwysig o Ysgrifennydd y Cyfarfod
Misol am gyfnod maith; y cydwybodol a'r gwrol James Davies, Penycae; y craff
a'r ffyddlawn Evan Evans, Tredegar; ac onid yw Methodistiaid (x38) De a
Gogledd wedi clywed am, os nad wedi adwaen yr hybarch frawd Mr. William
Griffiths, y Rock, a'r hwn a dreuliodd ei flynyddoedd olaf yng Nghasnewydd, gŵr,
mi gredaf, a wariodd ffortiwn fach i wasanaethu y Cyfundeb a garai mor fawr.
Pan welai plant y capel bersonoliaeth urddasol Mr. Griffiths yn cyfeirio ei
gamrau yn arafaidd tuag yno o orsaf y rheilffordd, gwyddent fod y Cyfarfod
Misol ol a gyhoeddid y Saboth cynt yn ddiogel yn y fangre. Gŵr oedd ef nad
oedd byth yn ei afiaeth ond pan mewn rhyw bwyllgor neu gilydd, neu Gyfarfod
Misol, neu Gymanfa. Coffa parchus am ei enw! Y mae ei goffadwriaeth yn parhau
yn wyrdd! Yr Arglwydd a godo lawer eto o rai tebyg iddo mewn brwdfrydedd a sêl
hunan-aberthol dros fuddiannau uchaf teymas nefoedd. Ar Dwyn Carno hefyd yr
oedd nifer o ddynion da eu gair ac amlochrog eu defnyddioldeb yn y
ddiaconiaeth. Yma yr oedd yr hyfwyn Shaci Protheroe, neu, fel y crybwyllid ei
enw gyda pharch ac anwyldeb gan y rhieni ar yr aelwydydd, - yr “Hen Brotheroe"
Bu ef yn arweinydd diogel i’r eglwys am flynyddoedd lawer ac ar ei ol cymerwyd
yr awenau gan y galluog a'r ffraethlym John Lewis. Gwr oedd ef ddarllennodd y
“Gwyddoniadur” air am air fel y deuai allan y tro cyntaf o Ddinbych. Yr oedd yr
hen flaenoriaid, fel rheol, yn ddarllenwyr mawr, darllenent lyfrau, darllenent
ddynion.
I olyniaeth anrhydeddus y cewri a enwyd, ac yn gyd-weithiwr â rhai ohonynt,
y daeth Mr. Jeffreys, pan y dewiswyd ef yn swyddog eglwysig. Gellir edrych ar y
cyfnod hwnnw mewn modd arbennig fel cyfnod teyrnasiad y blaenoriaid, nid yn
unig ar y Twyn, ond hefyd drwy y sir. Yn eu perthynas â rhai mudiadau go bwysig
yn y Cyfundeb, tipyn yn araf a cheidwadol oedd ymddygiadau ym Mynwy wedi bod ym
hyd yn hyn. Dyna oedd eu tuedd, yn neilltuol felly tuag at y Fugeiliad
Eglwysig, ac yr oedd yn naturiol disgwyl i Rymni yn anad un lle fod ar ol, os
nad yn erbyn y mudiad hwn. Onid yma yr oedd, (x39) enwog
Edward Davies, "Pensator" Baner ae Anserau Cymru, a brawd y diweddar
Barch. Josua Davies yn byw? Yn awr, yr oedd Twynog nid yn unig yn Rhyddfrydwr
mewn gwleidyddiaeth, ond hefyd yn un oedd yn credu mewn cario allan ei
egwyddorion rhyddfrydol yn ei gysylltiadau crefyddol. Carai y Cyfundeb yn
angerddol, a chredai ynddo ac yn ei arweinwyr, - credai fod iddo ddyfodol gwych
ond iddo gyfaddasu ei hun i gyfarfod cyfnewidiadau yr amseroedd. Y canlyniad
oedd iddo daflu ei hun i mewn i'r ymdrech o blaid y fugeiliaeth gydag
aiddgarwch a brwdfrydedd eithriadol. Efe yn ddiamheu oedd un o pioneers y
mudiad hwn ym Mynwy, ac athrawiaethai arno gyda gwres ac argyhoeddiad pa le
bynnag yr elai.
Ond nid oedd eto fugail ar Dwyn Camo, a'r peth mawr cyntaf, gan hynny, oedd
ennill yr eglwys yno drosodd mewn modd ymarferol. Wedi nifer o frwydrau
pwyllgorawl poethion, llwyddwyd yn hyn. Y mae yn gôf byw gennyf yr awr hon am y
Saboth y daethum gyntaf i'r Twyn, yn efrydydd o'r Coleg ar brawf. Nid heb
deimlo gradd helaeth o bryder a dychryn dynol yr esgynnais i bulpud Ebenezer y
bore hwnnw. Ac wedi edrych o amgylch ar gylch cyfrin y Sêt Fawr, yn lle mynd yn
llai, cynhyddu wnai'r ofn. O danaf, mewn cadair fawr ar y chwith, ond heb fod
yn gwneud fawr sylw o honof fi, yr oedd gŵr yn gwisgo cap melfed du. Pan
welais ef, cofiais rai o'r traddodiadiau am yr Hybarch Thomas Richards, Abergwaun,
ac nid oedd hynny yn gwella dim ar bethau. Yr oedd ef yn gwrando fel Dr. Lewis
Edwards, - nid oedd yn bosibl i ddewin ddeall beth oedd yr argaff wneid amo. Ar
fy chwith eto, ar ben y cylch, yr oedd gŵr bychan, bywiog, a golwg ychydig
yn anesmwyth arno. Os caffai ef damaid a chamflas athrawiaethol amo, yr oedd yn
amlwg arno na phetrusai ei boeri yn ol gyda dirmyg sanctaidd i wyneb y
pregethwr, druan; ond, fel y deallais ar ol hyn, ni fu neb erioed yn medru
mwynhau y manna ysbrydol, ac yn blasu gwinoedd melus mynydd Duw yn fwy nag ef. (x40)
I'w chwith ef drachefn yng nghongl y sêt Fawr eisteddai gŵr tal, urddasol
ei osgo, a mwyn yr olwg amo. Rhoddai ef ambell fow cydsyniol, a rhyw
hanner gwên gymeradwyol yn awr ac yn y man, ond gofalai rhag rhoddi ei hun i
ffwrdd o blaid i pregethwr mewn unrhyw fodd. Yn y gadair o dan y pulpud ar y
dde i mi yr oedd hen ŵr penwyn, diniwed fel oenig, ond llawn o asbri
ysbrydol, ac ymddangosai yn prysur addfedu i ogoniant. Ar fy ne, ar ben y rhes
yr ochr honno, yr oedd gŵr o faintioli corff cyffelyb i'w frawd yn y pen
cyferbyniol. Gwrandawai ef yn dra astud. Gwylio yr oedd ef fel y gwybum yn ol
llaw ar fod yr athrawiaeth bregethid yn cynghaneddu gyda Chredo henafol a
pharchus yr Apostolion, ac yn gyson i dysgeidiaeth ddiwyro y Tadau. Y mae
eisieu rhagor o ddynion o'i fath ef yn y dyddiau hyn. Yn union o fy mlaen, yr
oedd tri ereill. Un yn y gongl; gŵr llawen a phwyllog, a phwysig ei fam,
ac nid yn fynych y newidiai hi. Yr ail oedd a golwg esmwyth, dawel, arno. O ran
ffurf ei ben a'i wyneb, ac yn enwedig ei dalcen, adgofiai ni o'r prif-fardd
Seisnig Shakespeare. Amlwg oedd ei fod ef yn meddu ar feddwl treiddgar ac
ysbryd tra dwys. Hwn oedd athronydd crefyddol y Twyn, ac efe hefyd yn
bendifaddeu oedd Nathanael y blaenoriaid. Y trydydd oedd ŵr, personoliaeth
allanol yr hwn a dynnai sylw mewn unrhyw gymdeithas. Meddai ar ben yn hytrach
yn fawr a chrwn, gyda gwyneb llawen a hawddgar. Gwisgau wydrau o fath neilltuol
ar ei lygaid, ond o’u gwaethaf, megis, tywynnai eu goleuni trwyddynt, a
chwareuent y tu ol iddynt fel sêr byw ar ael y ffurfafen. Yr oedd yn eglur fod
y blaenor hwn yn gwrandaw â’i holl enaid arc â’i holl gorff. Nid anfynych
symudai y gliniau ac hyd yn oed y traed, ac yr oedd ei wên foddhaus yn
symbyliad gwerthfawr i’r pregethwr ieuanc i gadw ‘mlaen. Y mae cael blaenoriaid
fyddo'n wrandawyr da o werth mawr i eglwys. Y mae gwrandawiad sâl ambell
flaenor wedi dinistrio llawer (x41) pregeth
ragorol. Yr oedd Mr. Twynog Jeffreys yn wrandawr ardderchog, oherwydd efe oedd
y blaenor hawddgar a serchus hwnnw a wisgai'r gwydrau, a dyna'r tro cyntaf i mi
ddyfod i gygffyrddiad agos âg ef. Ar ol hyn, ac ar ol ymsefydlu yn y lle,
daethum yn naturiol i gyfathrach agos iawn âg ef, a phob amser cefais ef yn
barod gyda'i gynghorion a'i gyfarwyddiadau er adeiladaeth y saint a llwyddiant
yr Achos. Y pryd hwnnw yr oedd yn bur ffyddlawn i yr gyfarfodydd yr wythnos, a
chymerai a chymerai ei ran yn rheolaidd ynddynt. Yr oedd ei weddiau goeth ac yn
afaelgar ar rai prydiau; ond nid yn ei gyflawniadau cyhoeddus yn yr eglwys yr
oedd ei ragoriaeth pennaf, yn gymaint ag yn ei ysbryd. Fel awelon mwynion Mai,
a heulwen ddisglaer Mehefin, yr oedd sirioldeb ei ysbryd a nwyfusrwydd ei dymer
yn gyrru ymaith bruddglwyfni meddyliol ac iselder ysbryd o bob math. o boi
math. Yr oedd Twynog wrth
natur a thrwy ras yn optimist. Ei waith yn mynnu edrych ar yr ochr oleu
i bethau, yn ychwanegol at ofal a thynerwch ei hoffus briod a'i blant anwyl,
a'i cadwodd yn fwy cyhyd. Ar ol cael ei luddias gan ei afiechyd blin a maith i
fynd i gysegr Ebenezer, trodd ei ystafell gystuddiol a’i dŷ ei hun yn
gysegr, ac yno y cyfarfyddai y saint barddol a chrefyddol ar hyd y blynyddau
gyda chysondeb diwall. Yr oedd ei garedigrwydd ef a'r teulu ar yr aelwyd heb ei
hafal hyd yn oed i ddieithriaid, ac nid anfynych y lletyasant angylion. Synnwn
i ddim nad o binaclau y cysegr bach yn y tŷ ar ol mynd i dir neilltuaeth y gwelodd y
gwelodd Twynog y y blaenor fel Ioan y Difeinydd, y nefoedd newydd, a'r ddaear
newydd, a'r ddinas sanctaidd, y Jerusalem newydd wedi dyfod i waered oddiwrth
Dduw, ac ymsefydlu ar y ddaear. Oherwydd paham, peth naturiol a pheth i'w
ddisgwyl oedd iddo ef gynhyddu mewn proflad ysbrydol hyd y diwedd, - a dyna’r
ffaith. Daeth Diwygiad mawr a bendigedig y flwyddyn 1904 ef i'r tŷ . Wrth
ddarllen ac ymddiddan am dano, teimlodd awelon balmaidd (x42) Calfaria yu cliro ei awyrgylch ysbrydol, ac yn
adfywio y Dwyfol rasusau oeddynt wedi eu plannu o'i fewn pan yu llanc yn sir
Gaerfyrddin. Ac o hynny i'r diwedd, parhaodd i gynhyddu mewn ysbrydolrwydd mewn
modd amlwg iawn. Sicr yw ei fod ef heddyw yn gwisgo'r goron, ac mewn gwlad lle
na ddywed neb o'i phreswylwyr "Claf ydwyf." "Meddyliwn am ein
blaenoriaid . . . . ffydd y rhai dilynwn, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwy.”
(x43)
(5) TWYNOG FEL BARDD.
GAN Y PARCH. J. T. JOB.
Cyfrifwn y diweddar frawd Twynog yn un o’n cyfeillion goreu. Cystal i ni nodi'r
ffaith yna i gychwyn rhag digwydd i hynny dywyllu tipyn ar ein llygad wrth
ysgrifennu amo fel bardd; er, hwyrach, y geill y ffaith, ar un olwg, fod
yn elfen o gymhwysder ynnom at y gorchwyl. Ond credwn nad ysgrif feirniadol yn
gymaint a ddisgwylir oddiwrthym, eithr yn hytrach fras-olwg ar deithi ei
farddoniaeth. Eto i gyd, teimlwn yr erys yr anhawster ar ein llwybr, sef yr
anhawsater o gadw at y pwnc, - y demtasiwn o lithro oddiwrth y bardd, i siarad
am y dyn a'r cyfaill; canys gan nad pa cymaint bardd oedd ein gwrthrych, credwn
fod y dyn a'r cyfaill yn disgleirio ynddo i raddau helaethach na hyd yn oed ei
allu fel bardd.
Dywedwn ar unwaith nad bardd cyffredin. mo Twynog. Yr oedd ei lond o awen, - a
mwy o awen, feallai, nag a ddaeth i'r golwg yn ei farddas ysgrifenedig; mewn
gair, yr oedd efe yn un o'r beirdd hynny sydd braidd yn ddiffygiol mewn
mynegiant. Y prawf goreu o'i awen fuasai treulio noson neu ddwy yn ei gwmni; yr
oedd iddo bersonoliaeth farddonol - nid o ran ffurf corff a olygwn, - canys
corff llegach ddigon oedd gauddo, ond yn hytrach ei bersonoliaeth o ran ei
hysbryd. Yr oedd ei ysbryd yn farddonol, ac felly yn dra atyniadol. Buasai
unrhyw fordd yn el arogl o bell; ac yntau yr un modd yn ei arogli yntau :
Dyma'r rheswm, y mae'n ddiau, fod ei gartref, -ei “Breswylfa” hoff, - yn
gymaint cyrchfan i'r llwythau barddol. Yr oedd lliw o fardd yn fwy
gwerthfawr yng ngolwg Twynog na dwsin o feidrolion cyffredin! Yn sicr, un
rhifedd yw'r bardd ym mhob oes."
(x44) Cyfansoddodd beth wmbreth o
farddoniaeth yn ei oes; a rhan fawr, - nad ellir sylwi arnynt yma, - yn y ffurf
o gyfarchiadau i hwn ac arall ar achlysuron o enedigaeth neu briodas, neu
fuddugoliaeth, neu ynte goffa, &c., &c. Ac y mae hyn, debyg gennyf, yn
rhan o waith pob bardd, i raddau mwy neu lai; a phwy a ŵyr faint o gysur a
ddug pethau felly, o dro i dro, i lawer calon ? Felly Twynog, bu ei
gyfarchiadau yntau yu sirioldeb mawr i lawer aelwyd yn yr ystyr hon. Ond
hwyrach mai yn y llyfr o ganiadau, a gyhoeddodd yn y flwyddyn 1904, sef
"Tannau Twynog," y ceir yr olwg decaf arno fel bardd; a'n bwriad syml
yn awr yw bwrw bras-olwg ar gynnwys y llyfr hwnnw.
Credwn y cytunir mai awen Delynegol oedd yr eiddo ef, gydag ar y mwyaf,
hwyrach, o'r elfen feddyliol (intellectual) a'r foes-wersol (didactic)
ynddi, i'w galluogi i gyrraedd tir uchel iawn yn y math hwnnw o farddoniaeth.
Mae'n wir fod ynddo hefyd gryn iâs o'r cyffyrddiad arwrol (epic), eto
amlwg mai'r delyneg oedd ”ei elfen." A chyda llaw, onid dyma oedd ei farn
ef ei hun ar hyn ? Onide, paham y galwodd ei lyfr yn "Tannau
Twynog?" Credwn, pe y buasai wedi troi ffrwd ei awen yn gyfangwbl i redle
y Delyneg, ac ymberffeithio ynddi, y buasai wedi llwyddo i ganu nifer o
ganiadau fyddai'n debyg o fyw'n hir.
Canai yn y Caeth a'r Rhydd-Fesurau yn bur ddisgloff. Eto, ymddengys i ni nad
oedd ganddo yr amynedd gofynnol "chwilio am air" yn y fath fodd ag i
”gael mwy;” yr oedd yn rhy barod, fel llawer ereill, i fabwysiadu’r gair
cyntaf.a gynhygiai ei wasanaeth iddo, yn hytrach nag aros i'r union-air
ddod. Dyma'r ”gwybed meirw” sydd yn amharu enaint y beirdd ym mhob oes; ac
ychydig yw nifer y beirdd sydd wedi llwyr ddianc rhag poenydfa'r "gwybed"
hyn. Eto, rhaid cydnabod fod barddoniaeth Twynog yn lanach oddiwrthynt nag
eiddo llawer bardd mwy honiadol nag efe.
(x45) Gadewch i ni sylwi amo fel bardd
Caeth. Ceir yn ”Nhannau Twynog" dair o awdlau, ynghyda nifer dda o
englynion, &c. Hwyrach mai'r un ar “Owain Glyn Dŵr," a enillodd
iddo gadair Corwen yn 1900, yw'r oreu o'r tair awdl, er nad ystyriwn ei
chynllun yn un ffodus. Ond caniataer dyfynion, -
"Darianog lyw yn deyrn glân, o lanaf
Lwynau Gruffydd Fychan;
O riniol gewri anian
Doi'r Glyn Dŵr a'i galon dân."
* * * * * * *
"Iolo Goch, anfarwol gu, - a'i linyn
A'i beraidd delyn, oedd bardd ei deulu;
A'r iach awenwr uchel - pur ei chwaeth,
Grëal ddewr afiaeth â’i gerddi rhyfel."
* * * * * * *
Grey o Ruthyn, -
“Dyn o ddig ar dân oedd hwn,
A'i enaid o liw anwn;
Ffals leidryn anhydyn oedd,
A di-wrid fradwr ydoedd;
Rhoddai floedd am harddaf lain
O ddewis diroedd Owain."
Eto, o'i awdl, “Paul o flaen Agrippa,"
“Derfydd pob aflonydd flŷs:
Yn nôr y Pur ni erys."
* * * * * * *
“Iôr yn nerth a'th gadarnha
Ar y môr a'r storm arwa;
Duw yn y berw dònau
A'i ddoniau sydd yn neshau."
Eto, o'i awdl, “Y Porth Cyfyng," -
”Ffordd lydan sydd i danau, -yn sŵn trais
Natur wyllt a'i chwantau;
(x46) Ond arall o’r dyfnderau, sy'n
Borth hedd
O weddus nodwedd i ddwys eneidiau;
I rai ffôl daw geiriau ffydd
I guro am agorydd."
Y ffordd lydan, aflan yw, -
Ffordd estron, a phrudd ystryw;
Ffordd angau, a'i deddfau'n dan,- yn ei llaid
Ni allodd enaid ond lladd ei hunan."
* * * * * * *
Chwiliaf, ymholaf am hwn
Rhag dinystr ergyd Anwn;
Ddiogelaf, fwynaf fan, - yn Borth hedd
I ddifyr anedd fy Iôr ei hunan."
"Cura â gweddi cariad,- wrth ddôr hwn,
A'r Porth rydd agoriad
A thrydan ei weithrodiad
Ddaw â stôr y newydd stâd."
* * * * * * *
"A mab y dydd ym mhob dawn
Anghofia'i ffordd anghyflawn."
Fe welir oddiwrth yr uchod y medrai Twynog ganu'n hwylus yn y Caeth-Fesurau. Pa
beth yn hapusach na'r llinell "I ddifyr anedd fy Iôr ei human ?" ac
na'r ymadrodd "mab y dydd" am y credadyn ? Ceir llawer o ddarnau
prydferth ereill yn y tair awdl hyn, yn gymysg â phethau ereill llai eu gwerth.
Hwyrach mai fel cyfanwaith, yn bennaf, y syrthiant yn fyrr o gyrraedd y nôd, er
eu bod yn awdlau canmoladwy, ar lawer cyfrif. O'r braidd y gellir dywedyd fod
Twynog yn gampwr ar Englyn sengl, er y ceir ganddo lawer un hapus ddigon, er
engraifft, ei Englyn i'r “Cymro Du," -
“Mawr yw dawn y Cymro Du, - i daro
Tant Dirwest yng Nghymru;
Llenor llawn yn lloni'r llu,
A gwerin yn ei garu." (tud. 94)
(x47) Er hynny, mentrwn ddywedyd mai yn y
Rhydd-Fesurau y camodd efe ei bethau goreu. Ceir rhyw naturioldeb mawr yn
anadlu drwy lawer ohonynt; a bradychant yn aml yr hen ardal y'i ganwyd ac y'i
magwyd ynddi. Teimlwn, wrth eu darllen, fel pe baem yn drachtio o awelon y
Mynydd Du a Llyn y Fan Fawr a Llyn y Fan Fach, - mewn gair, awelon
Llanddeusant, hen ardal Meddygon Myddfai a'u mham ryfeddol o dlos, sef Merch y
Llyn! Mae'n amlwg ddarfod i'r hen ardal anwyl honno adael argraff annileadwy ar
galon ac ysbryd Twynog; a charai efe sôn gydag afiaith am dani, yn arbennig yn
ei flynyddoedd olaf; mor wir y gair hwnnw, onide? –
"Ond dychwel wna'r wennol yn ol i'w hen nyth."
Gwrandewch ar nodyn y bore, -
"Dihunaf gyda'r boreu rhydd,
Dilynaf gamrau'r sanctaidd ddydd {Troednodyn: Ai “y Sul cyntaf o Awst,” tybed?}
A chrwydraf fel pelydryn gwyn,
Neu freuddwyd felus at y Llyn.
Pan fyddo tês y boreu'n gwau
Ei aur linynau gylch y bau,
Ar lwybr rhwng y dwfr a'r bryn,
Caf weld fy Hun yn nhonnau'r Llyn."
(tud. 87).
A dyma'r Mynydd Du, yn ei “Ffarwel i Fannau Caerfyrdldin,"-
“Ffarwel iti, deyrn y bryniau,
Mynydd fy moreuol oes;
Mynydd gerais pan yn chwareu,
Cyn im' deimlo awel groes;
Ha! mi gredais y pryd hwnnw
Nad oedd mynydd yn y byd
Mor urddasol ac mor loew
Pe y chwiliwn hwy i gyd."
Yn ei "Ffarwel i Landdeusant," sonia am y "talion glogwyni"
fel ei "hen athrofeydd," a chair teimlad nodedig o hiraethus drwy'r
gerdd hon, - ”Ffarwel i Landdeusant, y Bannau, &'r Llyn, A llawer
traddodiad sy'n aros yn wyn; -
(x48)
Y Llyn fu'n gartrefle i'r 'Ladi Wen' glaer,
A nofiai y tonnau mewn cwrwg o aur.
* * * * * * * *
”Ffarwel i Landdeusant, a'r hen Ysgol Sul,
Lle dysgais gynt ddarllen am Grist a'r Ffordd Gul;
Cynghorion y tadau, mor fyw ag erioed,
Sydd heddyw mewn adgof yn llewyrch i’m troed.”
(tud. 46-7).
A chystal fyddai i ni, yn y fan hon, gyfeirio at ei Riangerdd (neu Fugeilgerdd,
- beth i'w galw?) "Ifan Wyn," gan ei bod yn perthyn i ardal Llynnau.
Er nad yw'r gerdd hon yn gwbl-foddhaol parthed iaith a mynegiant, &c., eto,
teimlwn ei bod yn adroddiad pur ddyddorol o'r hen ystori am "Ladi Llyn y
Fan," - y mae'r awyrlgylch a'r dinc yn gywir iawn i swyn y rhamant
ddiddorol honno, a cheir naws wledig ar bob llinell o honi ymron, -
”Ar lan y llyn diwair eisteddai ryw hwyr,
Pan welodd olygfa a'i denodd yn llwyr, -
Fe welai forwynig yn codi o'r Llyn,
Mor swynol a phrydferth â'r boreu têg, gwyn
Ei thalcen fel ifor, neu garreg hardd, wen,
Ac euraidd linynnau o wallt ar ei phen
Yn cyrliog droellu'n gudynau di-ail,
Mor ddisglaer a'r perlau dan lewyrch yr haul;
A'i llygaid glas-loew, fel wybren y nos,
A'i gruddiau o liwiau y lili a'r rhos.
Ni welwyd un wyryf mor swynol ei gwên,
Rhy bur oedd ei thegwch i fyned yn hen.
Mae’n symud yn ysgafn ar wyneb y Llyn,
Gan daflu saeth cariad i fron Ifan Wyn," &c.
* * * * * * * *
”Ond y wyryf eilwaith gododd ar y Llyn ryw hyfryd nawn
Pan oedd ef yn chwareu cerddi Cymru ar ei delyn rawn;
Gwridodd ef; a gwenodd hithau. Galwodd arni i ddod i'w gôl;
Hithau gyda gwan ddisgleiriach suddodd yn y Llyn yn ol."
A chlywch ymbil cariad Ifan y Bugail wrth y brydferth, -
(x49)
“Er nad yw dy wehelyth yn byw mewn halog fyd,
Os magwyd di, y wyryf lon, mewn palas aur i gyd, -
Ymostwng; aros yma, ti otifeddes ffawd, -
'Does dim yn burach yng Ngwlad Hud na charisd bugail tlawd."
Y mae hithau'n ei ateb, yn nes ymlaen, -
”Gadawaf wlad fy nhadau, Gwlad Hud a chartref swyn,
Y wlad a'i cherrig oll yn aur, yn unig er dy fwyn
Tra goddef tynged, byddaf i ti yn ffyddlon wraig,
Mewn stormydd safaf wrth dy ochr yn gadam fel y graig."
Ac felly yn y blaen. Teimlir ar unwaith fod y llinellau uchod, - ar waethaf
ambell fefl, - yn taro'r nôd angen. Yr oedd gan ramant Cymru Fu, yn ei
Hystraeon a'i Hanes, lawer o afael ar galon ein cyfaill. Ac, yn y cysylltiad
hwn, gellir nodi ei fod yn fardd gwladgarol i'r bôn; gwel “Brenhinoedd
Cymru" (tud. 24); "Mynyddoedd Cymru" a "Môr o gân yw Cymru
gyd” (tud. 64-5); a "Dydd Gwyl Dewi" (tud. 68). Ond Dyn a Natur, a'r
cysylltiad rhyngddynt, a hwynt-hwy yng ngoleuni Datguddiad, yn neilltuol, a enillodd
ei galon. Darllenner ei gân i "Frenhines y Tylwyth Teg" ceir yn honno
engraifft dda o'r cyffyrddiad Celtaidd. Ond fe geir yn y llyfr hwn nifer o
ganau sydd yn dangos dwynder dynol, nid bychan. Dyma i chwi bennill sydd yn
dangos ei syniad ef am swyddogaeth Y Gwir Fardd," -
”Ei gân sydd yn syml a chlir,
A hawdd gan y plant yw ei chofio
Mor felus ei hodlau, mor bur,
Gwefusau y byd sy'n ei seinio
Fe'u clywir yn ymyl y tin
Yn torri ar hwyrnos y gaeaf
Ar lethrau'r mynyddau mae'r gân
Yn tanio'r mynyddwyr distadlaf," &c. (tud. 34).
Eto, ar tud. 63, -
“Beth ydyw cenadwri'r bardd?
Beth iw ei ddyledswyddau?
Ai gwau syniadau yn y niwl,
Neu chwareu gyda geiriau?”
(x50) Hwtia Twynog y synied, a dywed, -
“Mae cerddi y gwerinol fardd
Ar daen yn llosgi'r rhwymau.”
Yr oedd elfen ddynol-werinol gref yn ei farddoniaeth. Gwel tud. 90, -
"Dringo Bryniau Bywyd," a thud. 95, - “Gweithwyr ein Gwlid,”
“Mae rhai yn pasio heibion chwai
Heb wneuthur sylw o dy faich
Cyffyrddiad bychan â dy fraich
A fyddai yn ei ysgafnhau." (tud. 90).
Ceir yn ei farddomaeth hefyd ystôr o dynerwch, fel y dengys ei gân, "A
welsoch chwi fy machgen cu?" (tud. 49) ; hefyd, yn y cyfeiriad at "ei
eneth bum'lwydd oed" (a fu farw) yn ei gân; "Unigrwydd Castell
Morlais," ynghydag yn "Cân y Cryd" (tud. 118). A beth am ei gân
hapus i "Fyd y Plant" (tud. 121), -
'Rwy’n gweld y plant yn chwerthin -
Fel y bum innau gynt,
A llonder diniweidrwydd pur
Yn ysgafnhau fy hynt;
'Rwy'n cofio’r adeg ddedwydd,
Fel chwithau’n llon ac iach, -
Ac heddyw rho'wn y byd i gyd
Am fod yn blentyn bach.”
Ac wele gyfeiriad tyner arall, yn ei gân i'r “Ehedydd” (tud. 93)
“Nis gallwn i ei weled, (Troednodyn: sef yr ‘Hedydd yn glâs)
Er syllu'n daer i'r nef ;
Ond O! nis gallwn gerdded
Un cam a'i adael ef."
A dyma'r cyferbyniad rhwng bywyd yn y Wlad â bywyd yn y Dref, yn dilyn, -
“Ond buan llais masnachaeth
A glywais yn y dref,
(x51) A chododd llwch trafnidiaeth
Yn gwmwl tua'r nef, -
A chollais gân yr hedydd . . . .”
Ond fe geir yn y llyfr gryn swm o farddoniaoth a gododd o'i gysylltiadau,
ynghyd o’i brofiad yn ei faith gystudd. Engraifft nodedig o’r olaf ydyw ei
Bryddest,
- "A fynno gyrhaedd nef wen y goron,” &c. Ni chaniata
gofod i ni ddyfynu llawer o’r bryddest dda hon, -
"A gwn am lawer gweddi ysig galon
A anwyd yn y byd rhwng drain a hoelion."
* * * * * * *
"'Duw, cariad yw' pan ddeffry y gogleddwynt,
"'Duw, cariad yw' pan chwytha y dwyreinwynt
I wywo’r rhos ar rudd yr eneth dyner,
A thorri einioes brydferth ar ei hanner,
'Run fath a phan fo chwaon y gorllewin
Yn denu blodau'r ddôl i harddu Hefin."
* * * * * * *
“Cyn hir daw'r dydd caf finnau wisgo’r goron -
A gadael fyth ar ol y drain a'r hoelion.”
Y mae'n amheus a ddioddefodd Cristion erioed hirfaith gystudd yn fwy ddirwgnach
a siriol na Thwynog. Cawsom fwy o fendith ysbrydol drwy ychydig oriau o'i gwmni
ef nag a gawsom drwy hirfaith gydnabyddiaeth â rhai crefyddwyr angladdol a
adwaenom! Bendithiwyd ef i gwraig, - ei "anwyl Ellen,” - fu yn "angel
gwarcheidiol" iddo mewn gwirionedd yn ei gystudd ; ac nid yw wedi ei
haughofio, hi na'i blant hawddgar, yn ei lyfr hwn o ganiadau. Darllenner ei
Englynion i'w ferched tirion (tud. 27), a'i gân dyner, - "Ellen” (tud.
25), ac "Wyt ti'n cofio?" (tud. 37-8). Ni a orffennwn a dyfynuu gyda
phennill o'i "Gân yr Aderyn" (tud. 92), a gyfansoddodd ar ei wely
cystudd ryw fis Rhagfyr, -
“Fel y 'deryn bychan, swynol
Canaf finau dan fy nghroes,
Am hoenusrwydd haf tragwyddol,
Wedi fy nghystuddiol oes;
(x52) Pan yn gorwedd yn fy ngwely,
Methu symud llaw na throed,
Canaf yn fy ngaeaf chwerw
Am yr haf tragwyddol loew, -
Byddaf hoewach nag erioed."
Yr oedd cân mor naturiol iddo ag ydyw i aderyn. Hyhi oedd ei gysur pennaf ; ac
afraid dywed ei bod yn wastad yn chwaethus, heb y duedd leiaf ynddi i lygra
neb. A pha ryfedd, pan ystyriom ei bod yn codi o galon ac ysbryd oedd wedi'u
trwytho âg ysbryd yr Efengyl, yr ysbryd sydd yn dyrchafu dynoliaeth drwy ei
sancteiddio ar ddelw'r Gwaredwr ei Hun. Dyna'r galon, wedi'r cwbl, fedr ganu,
ie, dyna'r unig galon sydd a hawl i ganu ; a chanu a wna calon felly yn
oes-oesoedd ; ae fe erys y gân a edy hi o'i hol yn y byd, i buro a diddanu y
cenedlaethau a ddilyno.
Dilys ddarfod i Gymru godi llawer cryfach awenyddion a threch crefftwyr cân,
na'n hanwyl gyfaill, ond nemor rhadlonach canwr erioed. Y mae tinc y dyn da, siriol a diddanus, ym mhob
cân o'r eiddo.
Chwith odiaeth, - i ni, ei gyfeillion mwyaf mynwesol yn arbennig, - yw meddwl
ei fod wedi cilio o'n mysg. Ond y mae efe a'i gân byth yn gadwedig; ac y mae'r
adgof am dano yn berarogl aniflan yn ein calon. A chyda deigryn gloew o hiraeth
yn ei lygad y sych yr ysgrifennydd ei ysgrifbin y tro hwn.
(x53)
(6) TWYNOG FEL GWLEIDYDDWR.
GAN Y PARCH.. T. POWELL, CWMDAR.
Mewn ufudd-dod i gais golygydd enwog a pharchus y gyfrol goffa, ymgymerais âg
ysgrifennu ychydig ar Dwynog yn y cymeriad enwir uchod. Teimlaf fod byrder
tymor fy nghydnabyddiaeth âg ef yn anfantais fawr i mi wneuthur cyfiawnder i'r
testun. Ar yr un pryd, ni oddef fy serch at fy hen gyfaill anwyl i mi wrthod
gwneud a fedraf i geisio rhoddi i'r darllennydd rhyw syniad am dano fel
gwleidyddwr.
O'r braidd y gallasai fod yn Gymro trwyadl a goleuedig heb fod yn wleidyddwr. Y
mae crefydd a gwleidyddiaeth yng ngwaed y genedl Gymreig, ac ar y cyfan, cyfyd
ei gwleidyddiaeth o’i chrefydd. Hyn, yn ddiau, sydd yn cyfrif am fod Cymru,
oddiar pan gafodd gyfle i fynegu ei hargyhoeddiadau gwleidyddol, wedi datgan
mor gyffredinol ac mor gyson a disigl o blaid egwyddorion llydain a dyngarol
Rhyddfrydiaeth. Y mae y Cymro yn anhraethol ragorach gwleidyddwr na'r Sais.
Cymer ddyddordeb dyfnach mewn materion gwleidyddlol, ac ymegnia yn llawer mwy i
fynnu cydnabyddiaeth ddeallus i hwy. Clywsom yn gymharol ddiweddar dystiolaeth
bendant un o brif aelodau Plaid Llafur ar hyn. Dywedai fod y gwahaniaeth rhwng
y gwrandawiad rydd cynhuluad o weithwyr Cymru i araeth wleidyddol, a'r hyn geir
gan gynhulliad o weithwyr Lloegr, yn anhraethol.
Yr oedd ar y pryd newydd fod yn annerch cynulliadau o'r dosbarth gweithiol yn y
naill wlad a'r llall, yn ystod yr un wythnos, ac yr oedd ei syndod at y
gwahaniaeth rhyngddynt yn anhraethadwy. Gwahaniaethent yn (x54) fawr yn nestlusrwydd a pharchusrwydd eu
hymddangosiad allanol; ond o ran bywiogrwydd a chraffder eu dealltwriaeth, o
brif bynciau y dydd, preswylient ddau fyd gwahanol.
Yr oedd Twynog fel gwleidyddwr yn Gymro gwaed coch cyfan, - yn aiddgar i efrydu
pynciau mawr y dydd; yn meddu argyhoeddiadau dyfnion o berthynas iddynt,
wreiddient yn egwyddonon crefydd a moes; yn wresog yn ei sel dros y cyfryw, ac
yn ddiorffwys yn ei ymdrech i'w cael i weithrediad a gorachafiaeth.
Nis gall neb adwaenai Twynog yn ei flynyddoedd olaf lai nag edmygu ei ymdrech
arwrol, hunan-aberthol, i efrydu prif faterion y dydd. Ceisia ei ddychmygu,
ddarllennydd, ben bore ar ei wely, yn gorwedd yn gwbl analluog dan effeithiau
dirdynol y gymalwst i symud llaw na throed, ie, mor hollol ddiymadferth o ran
ei gorff, nes oedd yn rhaid i'w briod ffyddlon a hoff ei wisgo fel plentyn, a'i
droi allan o'i wely i'w glaf gadair, a'i gludo ar honno i'w fyfyrgell, ac yntau
yn gwbl gyfyngedig iddi ar hyd y dydd, nes y cludid ef arni drachefn, pan
ddeuai'r hwyr, yn ol i'w wely. Dyna fu tynged Twynog druan, o ddydd i ddydd, am
flynyddoedd meithion, oddieithr yr ychydig doriad gaffai ar yr unffurflaeth
poenus yn nhymor yr haf, trwy fod y gadair, pan ganiatai'r hin, yn cael ei
gyrra am ysbaid i'r llecyn glâs gerllaw'r tŷ yn lle i'r fyfyrgell.
Yn y cyflwr hwnnw, ac yn dioddef yn aml gan boen a gwendid llygaid, yn
ychwanegol at y dirdyniadau yn ei gorff, darllennai yn aiddgar a diorffwys.
Pan gychwynodd Chamberlain ei ymgyrch ddiffyndollol yn 1903, yr oedd mor awchus
a neb i gymeryd rhan o'r baich a'r ymdrech i'w wrthwynebu. Llafuriodd yn galed i
feistroli y pwnc eang a dyrus hwnnw, ac er fod ei law yn fwy na hanner
gwywedig, mynnodd roddi i weithwyr y wlad ffrwyth ei efrydiaeth mewn cyfres o
ysgrifau galluog yn y “Darian." Ar gychwyniad y gyfres honno, ceir ganddo
y dystiolaeth syml a ganlyn, - “Yr wyf wed! darllen gryn dipyn ar lenyddiaeth y
(x55) mater y dyddiau diweddaf hyn,
megis erthyglau galluog, y Quarterly Review, Edinburgh Review, World
Work, a llyfr Augustus Mongredien, &c."
Y mae rhywbeth arddunol yn yr ymdrech yms, ddygid ymlaen yn ddidor dan ddirwasgiad cystudd corfforol poenus a beunyddiol.
Yr oedd ei argyhoeddiadau ar wahanol bynciau a symudiadau gwleidyddol yn ddwfn ac yn angerddol iawn.
Yr oedd eu dyfnder a'u angerddolder i'w briodoli i'w bod yn gwreiddio mewn egwyddorion moesol tragwyddol. Teimlai yn ddwys, ac ysgrifennodd yn gryf yn erbyn rhyfel Deheudir Affrica. Yr oedd ef yn y De, a'r hybarch Eleazar Roberts yn y Gogledd, yn gwrthwynebu y rhyfel hwnnw â'u holl enaid, a hynny dan gymhelliad a symbyliad yr un egwyddorion. Ymysg y pennaf o'r rhai hynny, yr oedd cysegredigrwydd Heddwch rhwng eenedl a chenedl, a'r pwysigrwydd tragwyddol fod cyflawnder yn llywodraethu ymddygiad y naill at y llall. Heb gyfiawnder, bid sicr, amhosibl i heddwch deyrnasu, ac o anghyfiawnder a thrais y tarddodd y rhyfel hwnnw, fel pob rhyfel arall. Ceir tystiolaeth i'w gysylltiad maith â'r symudiad pwysig o blaid Heddwch yn niwedd ei lythyrau ar y rhyfel, -"Nid wyf yn cyfeirio y llythyr hwn at neb yn bersonol, ond fel un sydd wedi treulio tymor goreu fy oes yn aelod o Gymdeithas Heddwch, ac wedi yfed o ysbryd y diweddar Henry Richards, A.S., tra yn dal cymundeb âg ef lawer gwaith."
Gesyd ei brif wrthwynebiadau i'r rhyfel allan yn y crynhodeb a ganlyn, - "Tra yn gofidio uwchben ein colledion trymion, nis gallwn lai nag anghymeradwyo y rhyfel anfoesol hwn, - rhyfel ag y gallesid ei osgoi gydag ychydig mwy o ddoethineb, - rhyfel nad oedd ei angen, - rhyfel na ddwg elw cyfartal i'r bywydau gollir, - rhyfel edy elyniaeth rhwng cenhedloedd i'u gilydd yn Neheubarth Affrica am oes yn ysmotyn du ar gymeriad Prydain gerbron y byd.”
Yr oedd y gochl o grefydd daflwyd dros y rhyfel yn tanio ei enaid â digofaint cyfiawn. Ffieiddiai y fath (x56) ffûg, ac ar brydiau galwai hynny allan y watwareg finiog oedd ganddo at ei wasanaeth, os y buasai achlysur i'w defnyddio, fel y dengys y dyfyniad a ganlyn, - “Fel y dywedodd Mr. Stead, y mae y rhyfel presennol yn y Transvaal yn ein hadgofio o ddameg y 'Blaidd a'r Oen’ yn 'Chwedlau Aesop.' Y mae holl amgylchiadau y rhyfel hwn wedi cael eu desgrifio yn eithaf teg yn y chwedl honno. Y mae yn wir nad yw yr hen chwedlonydd wedi desgrifio y manylion; nid yw wedi dweud fod y blaidd wedi dweud ei bader cyn llarpio yr oen, ac wedi diolch am ei bryd, fel y mae John Bull wedi gwneud. Y rhan gyntaf yw y weddi newydd sydd wedi ei hychwanegu at wasanaeth yr Eglwys pwy ddydd; ac fe fydd yn sicr o roddi y diolch i mewn wedi gorffen ei bryd yn y Transvaal. Y mae John Bull wedi ofni yn ddiweddar y bydd i'r byd ei gymeryd y'n lle dafad. Ond ni raid iddo ofni hynny, oblegid y mae y byd, oddiar yr hen amser, wedi ei adnabod fel blaidd, a'i ddannedd o hyd yn llymion, a'i enau o hyd heb ei ddigoni, a'i safn yn agored o hyd i larpio rhyw ddarn newydd o'r belen ddaearol, a hynny o'r bedwerydd ganrif, pan y cafodd y fath flas ar y Welsh Mutton."
Dengys brawddeg olaf y dyfyniad uchod fod ei wrthwynebrwydd i'r rhyfel yn codi hefyd i fesur o'i wladgarwch.
Fel Cymro, cofiai am yr ormes a'r gamdriniaeth greulon gawsai ei genedl ei hun oddiar law y genedl oedd ar y pryd yn mathr'u y Boeriaid dan draed. Daw ei ysbryd gwladgarol i'r golwg yn y frawddeg a ganlyn hefyd, - “Mae Kruger a Joubert heddyw rhwng bryniau Deheudir Affrica yn gwneud yr un gwaith yn union a Llewelyn a Glyndwr rhwng bryniau Cymru ychydig o ganrifoedd yn ol."
Ystyriai fod ei wrthwynebiad i'r rhyfel fel Cymro gwladgarol yn hollol gyson â'i safle fel Prydeiniwr teyrngarol, fel y dengys ei eiriau ef ei hun, - "Mae yn bosibl i Gymro fod yn deyrngarol i goron Lloegr heb (x57) gymeradwyo ysbeilio cenhedloedd bychain Cristionogol o'u hanibyniaeth er mwyn eu haur; ond nis gall Cymro fod yn Gymro teilwng o'r enw tra yn pardduo y Boeriaid âg anwireddau noeth, a'u gwawdio mor ddirmygus am ddarllen y Beibl a chanu Salmau."
Gwelir yn y dyfyniadau hyn i gyd, ac ereill ellid ychwanegu atynt, brofion diymwad fod ei wrthwynebiad i'r rhyfel yn codi yn bennaf nid o ystyriaethau tymhorol, ond o egwyddorion moesol tragwyddol eu pwys. Gwelai hefyd i llygad clir mai yr un ysbryd ag a esgorasai ar y rhyfel dorrai allan mewn difrod a galanas ar sefydliadau ac achosion cysegredicaf ein gwlad ni ein hunain. Rhydd fynegiad i hynny yn ei ddull dihafal ei hun, - "Nid yn unig llwyddodd y Jingoaid i godi ysbryd llofruddiaeth yn y wlad i lofruddio y ddwy Weriniaeth fechan yn Ne Affrica, eithr, o'r un nerth, gartref llofruddia y Bwrdd Ysgol, addysg rydd, ac egwyddorion cysegredig, Anghydffurfiaeth ein gwlad, a chyhoedda .rhyfel yn erbyn y dorth râd."
Arweinia cymmal olaf y dyfyniad uchod ni at ei frwydr i Diffyndolliaeth Chamberlain a Balfour.
Yr oedd yr ymgyrch hwn nid yn unig yn dwyn ei svnwyr moesol dwfn i weithrediad, ond hefyd yn rhoddi cyfle i'w synwvr cyffredin cryf, ac i'r arabedd nwyfus, chwareus, wnai ei ddynoliaeth eang yn un mor ddyddorol i ddyfod i ymarferiad eglur. Nid yn aml y gellid cael y fath doraeth o synwyr cyffredin, yn cael ei ogoneddu gan ddyngarwch a chrefydd, ag a geir yn y dyfyniad nesaf. Ei bwynt yw fod amrywiaeth hinsawdd, ansawdd daear, a nodwedd trigolion y gwahanol wledydd yn eu cymhwyso i gynyrchu gwahanol nwyddau, a bod Masnach Rydd yn rhoddi y cyfle mwyaf manteisiol i gydgyfnewid y cyfryw, er budd a chysur yr oll. "Nid yw y greadigaeth yma wedi ei chreu yn y modd ag y gall pob gwlad fyw ar ei phen ei hun, mwy na phob talaeth ar ei phen ei hun. Mae gwahaniaeth mawr rhwng adnoddau ac ansawdd gynyrchiol y gwahanol wledydd. (x58) Nid yw Creawdwr y byd wedi bwriadu i'r un wlad i gynyrchu popeth sydd eisieu ar ddyn. Nid oes glo ym mhob gwlad, ac nis gall pob gwlad gyflenwi ei thrigolion ag ŷd, llin, a gwlan. Felly, rhaid fod y Crewr wedi bwriadu i'r gwledydd gyfnewid â'u gilydd; ac, wrth gwrs, gwneud hynny yn y modd rhwyddaf ag y gall y bobl eu meddiannu, - y tlawd yn gystal a’r cyfoethog. Masnach Rydd yw y ffordd honno, medd athroniaeth a synwyr cyffredin.
"Mae Masnach Rydd yn hyn yn rhoddi mantais fawr i ddynion i fyw yn gysurus o dan wahanol ac amrywiol hinsoddau ar wyneb y blaned ddaearol. Felly hefyd y dosrennir llafur, ac wrth hynny yr ychwanegir ac y perffeithir diwydiannau yr hil ddynol; ac wrth hyn y mae Masnach Rydd yn offeryn a gallu i gynyrchu pob math o nwyddau goreu, llesol, a dymunol at wasanaeth dyn."
Gwelir ei fod hefyd yn niwedd y dyfyniad uchod yn cyfeirio at y fantais ddyry Masnach Rydd i ddosraimu llafur, a pherffeithio medr dyn yng nghynyrchiad gwahanol nwyddau. Pa fodd y gallesid gosod y ddadl honno mewn ffurf mor gartrefol a difyrrol, ac eto mor drwyadl argyhoeddiadol ag a wneir yn y dyfyniad nesaf? - "Yn y rhannau gwledig, y mae y siopwr yn gwerthu popeth, yr un saer yn wneuthurwr tai, celfi, certi, coffinau, &c., a'r gôf yn y plwyf y cefais i fy magu oedd yn gwneud gwaith yr efail, glanhau clociau, a thynnu dannedd. Yn y rhannau poblog, dosrennir llafur mewn masanach a chelf, - caiff pob un ei waith neilltuol ei hun, a thrwy ymarferiad cyson, y mae yn dyfod i wneud y gwaith hwnnw yn gyflymach a pherffeithiach.
"Felly gyda gwahanol wledydd, mae y bobl a'r hinsawdd yn cyfateb rhai diwydiannau yn well na'u gilydd. Os ca y gwledydd Fasnach Rydd, gallant fanteisio ar ddosraniad llafur, a chyfnewid nwyddau rhatach a pherffeithiach i'u gilydd nag a allant wneud neu gynyrchu eu hunain."
(x59)
Dengys Twynog ei hun yn feistr ar y math o ddadl ddynoetha wrthuni egwyddor gau trwy ei dilyn i'w chanlyniadau eithaf.
Yn un o'i lythyrau, dadleua os yw yn iawn a doeth i amddiffyn diwydiannau un wlad trwy gau allan o honi ddiwydiannau gwledydd ereill, y gellir cymhwyso yr un egwyddor at wahanol rannau yr un wlad. Ar ol dangos yr hyn fyddai canlyniadau yr egwyddor pe gosodid hi mewn gweithrediad rhwng Cymru â Lloegr, ä rhag ei flaen fel hyn, - "Os byddai hynny yn fantais i Gymru, ar yr un tir dylem amddiffyn diwydiannau ein sir ni yma (Mynwy) yn erbyn cystadleuaeth siroedd gwledig Cymru, - cadw cig moch sir Aberteifi, a menyn sir Gaerfyrddin, allan o'n marchnadoedd, fel i'n gorfodi i beidio bwyta dim ond yr hyn gynyrchir yn ein sir ni. Pe byddai i ni barhau i gario ymlaen gynllun mor afresymol, gwelem yn eglur ein bod wedi mynd yn ol i gyfnod cyntaf bore byd, pan oedd pob teulu yn byw ar ei gynnyrch ei hun, heb adgludiad nae allgludiad, - no import or export." Y mae digon o'i ysgrifeniadau wedi eu dyfynu erbyn hyn i ddangos gwychder galluoedd gwleidyddol Twynog, a’r llafur gymerid ganddo i gyfleu i’w gydwladwyr y wybodaeth gasglai mewn cymaint gyfleu mewn cymaint cystudd a phoen.
Yr oedd y trylwyredd sydd yn codi o ysbrydoliaeth egwyddor, ac o ffyddlondeb iddi, nodweddu ei holl olygiadau gwleidyddol. Fel un gredai â’i holl enaid mewn purdeb a rhyddid crefyddol, pleidiai yn aiddgar a selog Ddatgysylltiad a Dadwaddoliad Eglwys Loegr Yng Nghymru. Ac yr oedd ei ffyddlondeb trwyadl i'r egwyddor uchod, yn wyneb fod ysgolion lleygol y wlad bellach yn llaw y llywodraeth, yn ei wneud yn wrthwynebydd cryf i addysg grefyddol fod yn rhan orfodol o’u gwaith. Yn ei sêl danbaid dros Ddirwest, pleidiai yn aiddgar bod deddf dueddai i gynorthwyo lledaeniad yr egwyddor, ac i gwtogi ar y fasnach feddwol. Pleidiai yn galonnog hefyd bob math o ddeddfwriaeth i wella sefyllfa gymdeithasol y werin, ac i'w galluogi (x60) i fyw bywyd teilwng o rai wedi eu creu ar ddelw Duw. Gallaf yn hawdd ddychmygu y llawenydd fuasai yn chwyddo ei fynwes, pe yn fyw yn awr i weld ail Ysgub gyfoethog cynhaeaf cyllideb orchestol ein cydwladwr bydenwog wedi ei dwyn i ddiddosrwydd, a chynifer o filiynau o weithwyr ein gwlad i gael eu hyswirio ar gyfer afiechyd, a chanlyniadau truenus diffyg gwaith.
Yr oedd ei frwdfrydedd gwleidyddol yn eithriadol angerddol. Cofiaf yn dda fy mod yn gweinidogaethu ym Mrynhyfryd ar y Sul dilynol i'r Sadwm nodedig hwnnw, lonawr 13eg, 1906, pryd y cafodd Rhyddfrydiaeth ei buddugoliaeth arweiniol hir-gofiadwy ym Manchester.
Yn ystod y dydd, nid oedd gennyf unrhyw wybodaeth am ganlyniadau etholiad y dydd o'r blaen, ac ni fynnwn holi dim ar neb yn eu cylch, eithr osgown yn ofalus bob cyfeiriad atynt, nes oedd gwaith y dydd drosodd. Pan ddaeth hynny i ben, aethum i fyny at Twynog. Gwyddwn y buasai yn rhy beryglus o lawer ar adeg fel honno i ymweld âg ef yn gynt. Pan gyrhaeddais yno, yr oedd holl ganlyniadau brwydr byd cynhyrfus y diwmod cynt yn ei feddiant, ac er fod ei hen gydymaith, y gymalwst, yn ei gadw wrth y gadair mor dynn ag erioed, eto, yr oedd mor llawn o fywyd a nwyf nes oedd ef a'r hen gadair yn llamu oddiar y ddaear. Ni welais erioed y fath rym o frwdaniaeth a thanbeidrwydd ysbryd yn ymweithio mewn corff mor ddirdynedig ag a welais y noson honno. Yr oedd ynddo ddigon o ager i gadw dwsin o wleidyddwyr cyffredin i fynd yn gysurus.
Effaith fy nyfodiad i gyffyrddiad â'i ysbryd byw, trydanol, y nos honno ydoedd i mi fethu cael cwsg hyd lawn bump o'r gloch bore drannoeth.
Nid oedd brwdaniaeth gwleidyddol Twynog yn cael rhedeg allan yn ofer. Fel y dangoswyd eisoes, yn ystod blynyddoedd ei gystudd, ysgrifennai yn ddibaid. (x61) Yn flaenorol i hynny, bu o wasanaeth mawr i Ryddfrydiaeth o fewn cylch sir Fynwy. Yr oedd yn aleod gweithgar ar o'r gymdeithas sirol. Bu yn llywydd y gangen leol o'r gymdeithas honno yn Rhymni, ac ar un adeg, efe lywyddai holl gyfarfodydd cyhoeddus lleol yr aelod seneddol, Mr. Warmington, K.C., ac anodd fuasai cael llywydd mor ddoniol ac effeithiol ag efe.
Hyderaf fod y darllennydd bellach wedi cael rhyw syniad gwan am Dwynog fel gwleidyddwr, ac y bydd i'r desgrifiad amherffaith hwn o hono ennyn yn llawer o ieuenctid Cymru awydd i'w efelychu yn ei ffyddlondeb diball i'w egwyddorion, yn ei sel danbaid drostynt, ac yn ei weithgarwch dibaid ar eu rhan.
(x62)
(7) TWYNOG FEL CYFAILL A CHYMYDOG
GAN Y PARCH. R. E. PEREGRINE, B.D., RHYMNI.
Teimlwn hi yn bleser i gael dweud ychydig am ein diweddar gyfaill hoff, Twynog, fel cymydog. Cefais yr hyfrydwch o ddal perthynas felly âg ef am dros chwarter canrif; ac y mae hynny yn gyfnod digonol i adnabod, i fesur helaeth, gymeriad mor agored a thryloew ag oedd ef. Nid oedd plygion o gwbl ynddo, ond cariai ei galon yn agored gerbron dynion, a pharhaodd felly ar hyd y blynyddoedd i ddwyn nodweddion swynol plentyn, heb fod cysgod plentynrwydd yn agos iddo.
Y mae ei hanes fel cymeriad lleol yn Rhymni yn nodedig o swynol ac anrhydeddus. Yr oedd yn hollol ddirodres, a diwenwyn, a charedig. Ni theimlais un amser yn fy hanes fod cymdogion da felly mor werthfawr, ac yn rhan mor bwysig o fwynhad bywyd dyn, hyd nes i mi golli nifer fechan ohonynt yn agos i'w gilydd. Yr oeddynt yn wahanol iawn eu nodweddion mewn llawer ystyr; ond yr oedd pob un ohonynt yn meddu ar elfennau oedd yn eu gwneud yn gymdogion tra gwerthfawr, a'r cylch yn fwy dymunol i fyw ynddo.
Y diweddaf ohonynt i “fynd ymhell,"- yn rhy bell i glywed ei lais may yma, a derbyn bendfth ei gymdeithas ddyddorol ac addysgiadol, - oedd Twynog. Yr oedd yn gymeriad cryf, ac yn meddu ar bersonoliaeth gyfoethog iawn. Yr oedd yn gyfoethog ei feddwl, a'i wybodaeth gyffredinol, ac yn gyfoethog iawn mewn sirioldeb ysbryd a thymmer dda. Y mae yn rhaid credu fod yna rai yn dod i'r byd yma yn gyfoethocach eu (x63) naturoedd nag ereill. Y maent yn wreiddiol yn meddu ar fwy o ddawn i feddwl, a chara a chrefydda, ac i ddyddori a sirioli eu cymdogion na'r cyffredin o honom. Cyfrifer am hynny fel y mynner, y mae natur wedi bod yn fwy hael i rai nag i ereir, fel y mae eu bywydau yn meddu ar fwy o werth posibl i gymdeithas.
Bendithiwyd ein cyfair Twynog fi, natur gyfoethog felly, a chyfoethogodd hi â phethau rhagorol, trwy fyw drwy'r blynyddoedd ym myd llên a barddoniaeth a chrefydd Gymreig, fel y daeth o werth dirfawr iddo ef ei hun ac hefyd i gymdeithas. Cyfranodd lawer o'i gyfoeth i ereill. Gwnaeth lawer o hynny yn yr ardal hon, yn enwedig i ddynion oedd.yn meddu ar cymhwysder i dderbyn a gwerthfawrogi y cyfoeth oedd ganddo i'w gyfrannu. Byddai llawer o rai felly yn tynnu ato, ac yr oedd yntau yn hoff iawn o’u cymdeithas. Bu yn ddiau yn foddion i osod llawer o bobl ieuanc y lle hwn ar ben y ffordd i fwynhau bywyd llenyddol. Yr oedd yn athraw caredig a pharod i rai felly ar hyd y blynyddoedd. Gwledd i'w galon oedd cael cwmni, yn enwedig eiddo dynion o gyffelyb anianawd a thueddfryd ag ef ei hun. Ar ddyddiau tesog yn yr haf, pan fyddo yn ymheulo yn ei gadair yn ymyl drws ei dŷ, yr hyn a wnai yn aml ar ddyddiau o’r fath, byddai nifer o gyffeillion bron yn ddieithriad yn gylch o’i gwmpas, ac yntau yn eu dyddori gysa hwyl a gwên. Ac ni allasai neb felly lai na theimlo fod ei gymdeithas yn werth ceisio am dani yn aml.
Ni chafodd un cartref arall
erioed yn Rhymni yn agos gynfnifer o ymwelwyr llengar a "Phreswylfa"
Twynog. Arferai cantorion a beirdd, ac erell o bobl ddarllengar yr ardal,
grynhoi i'w dy yn achlysurol fel rhyw fath o glwb llenyddol, a byddai pob un
ohonynt, fel rheol, yn cymeryd rhan mewn cân neu englyn, stori neu araeth, ac
yntau yn cyfrannu mwy na neb i wneud y cynulliad yn werthfawr a dyddorol. Yr
oedd ei wybodaeth eang ain Gymru, a'i chymeriadau cyhoeddus, a'i ddawn parod
a'i barabl deniadol, yn ei wneud yn gwmniwr
(x64) heb ei fath yn y cylch. Ni fyddai un
llenor Cymreig adnabyddus, fyddai yn dod ar ymweliad â Rhymni, heb droi i fewn
pe yn gyfleus, i gael ymgom gydag ef.
Byddwn weithiau yn mynd ag ymwelwyr pregethwrol, ddeuai i'n gwasanaethu yn ein gwyl bregethu flynyddol a gynhelir ar Sul a'r Llun y Pasg, i'w weld, yn enwedig y beirdd a ddeuai i'n gwasanaethu. Yr oedd ei enw yn adnabyddus iddynt oll, ond pur ychydig ohonynt wyddai ei fod yn rhwym drwy'r blynyddoedd gan gystudd, ac yn gymeriad mor gyfoethog a dengar, ac yn fath gwmniwr. Fel bardd a gohebydd galluog a llithrig Y Darian yr adnabyddid ef yn bennaf ganddynt hwy. Yr oedd ei weld a'i glywed ef ei hun yn gryn dipyn o ddatguddiad iddynt. Cawsai pawb felly y croesaw mwyaf llawen ganddo, ac yr oedd yn amlwg ei fod yn mwynhau yn wirioneddol ymweliadau o'r fath. Ac yr oedd ei briod hoff a deallgar yn eu croesawu gyda'r un parodrwydd a serchogrwydd, nid yn unig yn rhinwedd ei charedigrwydd a'i sirioldeb naturiol ei hun, ond hefyd ar gyfrif fod ymweliadau cyfeillion felly yn ffynhonnell cymaint o fwynhad i'w chymar cystuddiedig.
Fel y crybwyllwyd eisoes,
caethiwyd ef i'w dŷ gan rheumatism
am lawer o flynyddoedd, ond fel y byddid yn ei ddwyn allan yn ei gerbyd olwynog
ar ddyddiau heulog. Priodol iawn y desgrifiwyd ef yn yr englyn canlynol gan y
Parch. J. J. Williams, Pentre, yr hwn fu yn gymydog iddo yma am rai blynyddau,
-
”Awdwr mewn dirdyniadau, - llenor llawn,
A'r 'lleng' yn ei heglau;
Gwron a'i gur yn ei gau,
Gamaliel dan gymylau."
Yr oedd olion amlwg poenau dirfawr amo, ond dioddefodd y cwbl yn y fath fodd nes ennill edmygedd yr holl gymdogaeth fel dioddefydd tawel a dirwgnach. Yr oedd rhywbeth yn wronol yn ei ddioddefgarwch.
Ni ddarfu i mi erioed ei gyfarfod
mewn cyflwr meddwl oedd yn ymylu ar fod yn bruddglwyfus a grwgnachlyd. (x65) Synnwn ni ddim nad oedd un o'i dymmer fywiog
ef yn cael tymhorau felly. Y mae tymherau brwd fel yr eiddo ef yn bur agored i
eithaflon prudd-der a llawenydd, ond ni ddigwyddais ei gael un amser mewn cyflwr
pruddaidd, ond bob amser yn hynaws, a siriol, a pharod ei sylwadau ffraeth a
diwenwyn. Teimlwn yn bur sicr na welodd Rhymni erioed engraifft mwy nodedig o
brydferth o un “Dioddefgar mewn cystudd," a mwy cyson ei sirioldeb a'i
foddlonrwydd a'i ymostyngiad i'w gyflwr. Ac ni ellir cyfrif am hynny trwy
feddiant o dymmer oedd yn naturiol lawen ac iach, heb alw i'r cyfrif hefyd ei
fod yn ddyn oedd yn meddu ar fesur helaeth o ffydd, gobaith, a chariad, ac
elfennau ereill sydd yn gwneud cymeriad crefyddol cryf. Nid oedd amheuaeth am
ei dduwioldeb. Ond yr oedd honno yn un naturiol a deniadol. Nid oedd dim ynddi
yn ymylu ar fod yn hirwynebog, ac yn ei gaethiwo yn hollol i'r byd a ddaw.
Teimlai mai yma yr oedd yn byw, a gwnaeth ei oreu tra yma i wneud y byd hwn yn
well, ac yn fwy tebyg i hwnnw. Yr oedd yn amlwg er hynny i'w gyfeillion
crefyddol ei fod yn tynnu ei nerth cynhaliol, i ddioddef a llafurio, o'r
adnoddau hynny sydd yn gorwedd
"Rhwng bryniau clyd byd sydd bell."
Er holl anfanteision blynyddoedd o gystudd, bu o wasanaeth mawr i'r ardal hon.
Cafodd hi ynddo gefnogydd a noddwr brwdfrydig a pharod i bob mudiad lleol oedd
a’i duedd i wella'r cylch. Ac nid dylanwad bychan oedd ganddo o'i ystafell ar
symudiadau felly. Yr oedd yn ymneilltuwr ac yn Rhyddfrydwr, ac yn genedlgarwr
ac iaithgarwr o'i goryn i'w sawdl, a phob amser y byddai galwad am hynny,
dadleuai eu hawliau gyda gwres a medr llenor galluog.
Bu o wasanaeth amhrisiadwy i
Eisteddfod Flynyddol Gwent, a gynhelir yn Rhymni, ac sydd erbyn hyn wedi dod yn
sefydliad mor bwysig ac adnabyddus. Yr oedd yn un o'i chyfeillion a'i noddwyr
mwyaf (x66) effeithiol a brwdfrydig. Ac y
mae llawer iawn o’i llwyddiant a'i safle bresennol ymhlith Eisteddfodau
adnabyddus y wlad yn ddyledus iddo ef. Bu am flynyddoedd, os nid o'i
chychwyniad, yn gadeirydd pwyllgor yr adran lenyddol perthynol iddi. Ac yn ei dŷ ef y cyfarfyddai y pwyllgor hwnnw yn
rheolaidd i drefnu yr adran honno o’r rhaglen. Tra y newidid yn flynyddol gan
mwyaf o’r swyddogion ereill, yr oedd ef yn fixture fel cadeirydd
pwyllgor llenyddol. Ac nid oedd neb yn Rhymni yn gymhwysach i'r safle honno na
Daeth drwy ei serchogrwydd a'i gymeriad a'i wasanaeth yn un a hoffid yn fawr a
chyffredinol gan bob dosbarth yn yr ardal, fel yr oedd yr hyn ddywedodd ef am
un arall yn wirionedd cywir am dano ei hun, -
”Llenor llawn yn lloni'r llu,
A gwerin yn ei garu."
Tua dwy flynedd cyn ei farwolaeth, dangosodd yr ardal a chyfeillion o'r tu
allan, eu serch tuag ato, a'u gwerthfawrogiad o'i wasanaeth amrywiol, trwy
gyflwyno tysteb iddo, yn cynnwys Anerchiad hardd a Fountain Pen, a Cheque
gwerth amryw ugeiniau o bunnoedd.
Llawenydd mawr i'w gyfeillion, ar noson cyflwyniad y dysteb, oedd ei fod ef ei hun mewn ffordd i allu bod yn bresennol yn y cyfarfod. Cafwyd hwyl dda ar siarad gan ddoniau lleol, a darllen anerchiadau barddonol, rhai ohonynt wedi eu gyrru gan rai o brif feirdd Cymru, a'r oll yn dwyn y dystiolaeth oreu i Dwynog fel bardd a llenor galluog, ac fel cymeriad rhagorol a swynol. Y peth cyntaf a ddywedodd, oddiar ei gadair, pan alwyd arno i siarad, oedd y sylw ffraeth, nad oedd yn synnu dim eu bod yn siarad mor dda am fod ganddynt destyn da. A phe buasai ganddo yntau destyn cystal, y medrai ef hefyd siarad yn dda. Wedi siarad yn nodedig o dyner am ychydig o amser, diweddodd gyda dweud pe (x67) cawsai redeg ei yrfa eto, y byddai yn siwr o wneud dau beth yr oedd wedi bod yn euog ohonynt, sef priodi yr un ddynes, a dod i fyw i Rymni. Nid oeddym yn synnu at hynny, oblegid ni chafodd neb ym Mhrydain Fawr well cymar bywyd; ac nid ydym yn meddwl y cawsai yn unman gyfeillion a'i carai ac a'i parchai yn fwy na phobl Rhymni.
Gyda thristwch gwirioneddol y
deallodd yr ardalwyr fod Twynog wedi eu gadael yn ymyl Dydd Gwyl Dewi (1911), -
dydd yr arferai nifer o lenorion y lle ddod ynghyd yn yr hwyr i’w ystafell i
gael noson lenyddol lawen. Cafodd angladd oedd yn dystiolaeth gref ei fod yn
adnabyddus a pharchus ymhell yn ogystal ag agos. Yr oedd yn agos bob sir yn
Neheudir Cymru yn cael ei chynrychioli yn ei gynhebrwng gan ddynion o safle a
pharch. Yr oedd sŵn hiraeth ar ei ol yn ei angladd. Ond nid oedd yr
hiraeth yn fwy yn unman y tu allan i'w deulu nag ymhlith ei gymdogion.
(x68)
(8) EI GYSTUDD A'I FARWOLAETH.
GAN MR. D. D. W. DAVIES.
Adnabyddid Twynog gan laweroedd yn y wlad fel Bardd, Llenor, a Gohebydd. Er heb
ei weld erioed, eto teimlent eu bod, trwy gyfriniaeth ei ddoniau, yn meddu
adnabyddiaeth hollol o hono, yng nghynyrchion ei awen a'i ysgrifau. Yr oeddynt
mor gyfarwydd âg ef a phe bai yn byw y drws nesaf iddynt. Yr oedd hoenusrwydd
ei ysbryd, a'i arabedd chwareus, yn treiddio drwy yr oll a ysgrifennai, nes y
swynid y rhai a ddarllenent ei gynyrchion, i agosrwydd cyfeillgar a diollwng âg
ef; a phan y sychodd ei ysgrifell, diau i lawer deimlo gwagder ar ei ol; a
phery hiraeth mewn adgof am dano. Ond ychydig, mewn cymhariaeth, yn ddiau, a
wybu mai gŵr cystuddiedig a fu efe am flynyddoodd lawer, - yn enwedig am y
rhan honno o'i oeis wedi iddo ddod yn adnabyddus drwy y Wasg a'r Eisteddfod. Er
pan ddaeth i Rymni yn y flwyddyn 1875, blinid ef gan y gymalwst, i raddau mwy
neu lai, fel effaith twymyn a gafodd flwyddyn yn gynt tra yn byw ym Merthyr.
Bryd hwnnw, er wedi ei gloffi, medrai gerdded o gwmpas y gymdogaeth gyda chryn
hoenusrwydd, eto nid heb anhawsder, ac ar brydiau lawer o boen. Yn y
blynyddoedd cyntaf, gwnaeth lawer ymgais am wellhad; a threuliodd arian lawer
ar feddygon, ond heb nemawr leshad. Bu unwaith, ac fel y cynnyg olaf, yn
Llundain, yn ymgynghori â'r enwog Syr Morel Mackenzie; ond wedi y draul a'r
drafferth, dychwelodd yn ddiobaith am wellhad. Dywedodd y meddyg wrtho, os oedd
ganddo arian, am iddo beidio eu gwario ar feddygon, gan ei fod yn dioddef (x69) oddiwrth y math gwaethaf a
mwyaf.anfeddyginiaethol o Rheumatism. A'r unig gyngor a gafodd ganddo
ydoedd iddo fynd i ffynhonnau poethion Caerbaddon; y gallai, drwy hynny, gael
llawer o esmwythad, gan fod rhyw rinwedd ynddynt i liniaru poenau.
Bu yn ffyddlon i'r cyngor hwn. Canys bu yn ymweld â Bath bob blwyddyn am yn agos i ugain mlynedd. Weithiau, äi yno yn y gaeaf, a threuliai rai misoedd cyn dychwelyd.
Profodd yr ymweliadau hyn i raddau helaeth wirionedd cyngor y meddyg. Dychwelai yn aml yn ol, wedi colli y boen; a byddai am dymor yn rhydd oddiwrtho nes y deuai yn adeg i fynd eilwaith.
Cofia llawer iddo fod yn Commercial Traveller am tua phum mlynedd, ac iddo deithio llawer drwy dde a gogledd Cymru ar ei hyntoedd masnachol, a chyn rhoddi i fyny yr alwedigaeth honno, yr oedd yn rhaid iddo wrth faglau.
Pan ddychwelai o rai o'r teithiau hynny, byddai ganddo lawer o ystoriau difyr i'w hadrodd am a welodd ac a glywodd; a pha le bynnag yr äi, os byddai bardd yn y gymdogaeth, byddai yn rhaid iddo gael ei weld, a chael ymgom ig ef, os yn bosibl. Yn ystod y teithiau hynny, casglodd lawer o fanylion am feirdd a llenorion ei ddydd, ac ni thawai am y croesaw a'r caredigrwydd a dderbyniai oddiar law pobl yr ardaloedd yr ymwelai â hwynt.
Ymgymerodd â'r alwedigaeth honno ar y cyntaf yn y gobaith y buasai bod yn yr awyr agored yn hytrach na chyfyngu ei hun yn ormodol, yn dwyn cyfnewidiad er gwell, ond ar ol rhoddi prawf teg ar hynny, cafodd fod yr ymgais hon eto o'i eiddo am adferiad yn troi allan yn fethiant; a gwaeth na hynny, yr oedd wedi deall ei fod yn mynd yn waeth, tra yn ei dilyn. Bellach, yr oedd wedi mynd yn rhy analluog i fedru dringo i'r cerbyd, na disgyn o hono, heb gymorth ereill. Mwy, rhaid oedd ymneilltuo i'w ystafell, a threuliodd 17eg mlynedd, - gweddill ei oes, - yn ei gadair. Tynged flin a fu hyn (x70) iddo, - troi ei gartref yn garchar, a charreg.ei aelwyd yn arteithglwyd. Ond os bu ei siom yn fawr, ni fynegodd hynny i neb; ond fel gwron, boddlonodd i'w sefyllfa yn dawel a dirwgnach.
Drwy y blynyddoedd hyn. eisteddai mewn cadair olwynog (Bath Chair) ar hyd y dydd, nes yr olwynid ef i'w wely yn yr hwyr.
Ond os byddai yr hin yn caniatau, cludid ef o gwmpas am dro, er cael adfywiad yn yr awyr agored. Yn hyn bu ei briod anwyl o wasanaeth mawr iddo, ac aelodau ereill y teulu.
Ar adegau ereill, cludid ef gan gyfeillion, ac ystyrient mai braint oedd cael gwneud a allent iddo.
Byddai yn mwynhau y teithiau hyn yn fawr. Weithiau, os byddai yr hin yn braf, gosodid ef i aros ar lecyn agored am oriau, fel y gallai cyfeillion a chydnabod fyddai yn pasio gael cyfle i ymddiddan âg ef; ac ni fyddai byth yn unig ar adegau felly. Hefyd, treuliodd lawer o amser yn eistedd o flaen drws ei dŷ, yr hwn fyddai ar ochr y brif heol; a phob amser, gwelid cylch o rai a'i hadwaenent oreu yn aros gydag ef i ymddiddan a dadleu ar faterion y dydd, a phynciau dyddorol ereill, ac nid oedd neb yn fwy byw a gwresog nag efe yn y cynulliadau difyr hynny. Ni flinai byth ar gwmni; yn wir, yr oedd cwmni yn hanfodol iddo.
Yr oedd ystafell Twynog yn gyrchfan pawb bron. Ymwelid âg ef, heblaw gan bobl ei ardal ei hun, gan edmygwyr a charedigion o ardaloedd ereill, yn feirdd a llenorion, cerddorion a phregethwyr; a phwy ond a fu unwaith, ac ar ddamwain megis, a allasai anghofio yr ymweliad hwnnw? Er fod y corff lluniaidd a golygus, unwaith, bellach yn wreck, eto ym mhob cwmni, efe oedd y llonnaf; a byddai ei gyfarchiad siriol, a'i groesaw cynnes, yn ad-daliad cyflawn i bawb am bob trafferth gymerwyd i ymweld âg ef. Byddai yn holi pawb, a thrwy yr holiadau hynny, deuai o hyd i deithi eu meddwl, ac yna ymollyngai i ymgomio ar bethau barai i bawb deimlo yn ddifyr a chartrefol.
(x71) Fel ymgomiwr, yr oedd heb ei ail, nid oedd ball ar ei arabedd, ac yr oedd cronfa ddihysbydd o ystoriau ganddo at ei wasanaeth bob amser, i ateb unrhyw siarad a fyddai yn cymeryd lle; a phe cyfodai dadl rhwng y cyfeillion a ymwelent âg ef ynghylch rhyw ffaith o ddyddordeb, fel rheol gallai yn rhwydd ei phenderfynu.
Yr oedd cyfaredd ei gwmni hefyd yn feddyginiaeth anffaeledig i bruddglwyfni; a phe digwyddai peth felly fod yn blino neb, y ffordd sicraf i gael ymwared o'r clefyd fyddai treulio awr yng nghwmni Twynog; a chwestiwn pawb bron yn ddieithriad wrth ymadael â'i ystafell oedd, - "Sut yr oedd yn gallu bod mor siriol o dan y fath faich o anffodion?”
Ateb y cwestiwn yma yn foddhaol fyddai dyfod o hyd i'r allwedd a roddai agoriad i ni i fewn i ddirgelwch bywyd Twynog; a llawer gwaith y buom yn ceisio ei ateb i ni ein hunain, ac i ereill a ofynent ein barn ar y mater pan fyddem yn ymadael o'i ystafell. Credwn fod yma amryw bethau yn cyfrif am y dirgelwch, neu guddiad ei gryfder yn yr ystorm a ymosodai arno.
I ddechreu, yr oedd wedi etifeddu cyfoeth mawr o natur dda, yr oedd hefyd wedi etifeddu rhyw fonedd urddasol, os nad hefyd waedoliaeth uchel. Yr oedd rhyw foneddigeiddrwydd uwchraddol yn perthyn iddo. Yr oedd hefyd wedi derbyn cynysgaeth dda o gynheddfau cryfion, oeddynt yn bob cymmorth iddo i ymladd brwydr bywyd yn llwyddiannus; ac yr oedd wedi gosod y cyfan feddai o dan dreth drom, i'w gyfaddasu ar gyfer treulio rhan olaf ei oes yn ystafell y cystuddiedig; er nad yn ymwybodol o hynny. Gwnaeth yn fawr o'i amser cyn ei gaethiwo, fel y gwnaeth wedi hynny tra yn ei gaethiwed.
Yr oedd yn well prepared erbyn adeg y prawf. Yr oedd hefyd wedi manteisio ar bawb a phopeth o fewn ei gyrraedd. Fel y sylwyd yn barod, yr oedd o ysbryd mor ysgafn a’r awel, ac o duedd mor gymdeithasgar, fel y daeth yn ystod blynyddoedd cyntaf ei oes i gysylltiad â phob arwedd ar gymdeithas, yn (x72) grefyddol, yn ddyngarol, yn wleidyddol, cerddorol a barddonol, bid siwr. Chwiliai am gymdeithasau, fel y wenhynen am y blodau, i dynnu mel ohonynt; a phan ddaeth gaeaf cystudd i'w gau rhwng muriau ei ystafell, yr oedd wedi casglu digon o fel i allu byw ar ei adnoddau. Dichon y goddefir i ni grybwyll am un o'r cymdeithasau hyn, yr hon y daeth i gyffyrddiad â hi ar ei ddyfodiad gyntaf i Rymni, ynglŷn â'r hon hefyd y teimlai y dyddordeb dyfnaf, hyd ddydd ei farwolaeth. Yn anffodus, yr oedd Cymdeithas y Beirdd yn Rhymni wedi torri i fyny ychydig cyn ei ddyfodiad i'r lle, - tua 35 o flynyddoedd yn ol. Yr oeddynt wedi gwasgaru ar hyd y wlad, ac ar hyd y gwledydd o ran hynny; a rhai ohonynt wedi croesi gorwelion y byd hwn ac wedi cyrraedd "gloywach nen" yr ochr arall i linell amser. Yr oedd Dryw o'r Nant, Gwalchfryn, a Dewi o'r Nant, wedi meirw. Yr oedd Islwyn Hughes, Gwilym Ddu o Went, a Dafydd o Went, wedi mynd i America, fel nad oedd yn aros ond Osian Gwent, Ioan ap Dewi, Ioan Gwent, Dyfnwal Dyfed, T. Probert, ac Irfon Davies. Yr oedd eu cynulliadau nodedig wedi peidio a bod, a meithrinfa Beirdd yn Rhymni wedi ei chwalu. Nid oedd ond ychydig nifer yn aros; fel yn yr ystyr hwn ar bethau, yr oedd yn rhaid ail gychwyn; ac erbyn heddyw, hysbys digon yw y rhan flaenllaw gymerodd Twynog i ail-adeiladu Teml Barddas yn y lle. Efe oedd y Sorobabel i'r hwn yr ymddiriedwyd y gorchwyl hwn iddo.
Gan nad oedd yma Gymdeithas Beirdd fel y cyfryw, nid hir y bu yn dyfod o hyd i'r peth mwyaf tebyg iddi; a chafodd fod Cymdeithas yn y lle o'r enw y "Gynhadledd," a bu yn aelod o honi tra y bu byw wedi hynny mewn rhyw wedd arni.
Cymdeithas oedd honno fyddai yn cyfarfod yn rheolaidd bob pythefnos, ond yn neilltuedig iawn, i ymdrin â chwestiynau fyddent yn codi i wyneb cymdeithas, yn Ddiwinyddol, yn Wleidyddol, yn Athronyddol, a Chymdeithasol, ac wedi ymuniad (x73) Twynog, daeth y gangen farddonol hefyd i fri; ac er mwyn cael dirnadaeth weddol glir ar gwestiynau yn y gwahanol ganghennau uchod, deuid â hwy a theflid hwynt ar Fwrdd y Gynhadledd, i'w gwyntyllu; a chyn y darfyddid â hwynt, nid gormod yw dweud y byddaf gan yr holl aelodau weledigaeth eglurach arnynt.
Nid oedd nifer ei haelodau yn lliosog, - ni welsom hi erioed yn rhifo mwy na dwsin. Sefydlwyd hi hefyd ar linellau eang, nid oedd yn gyfyngedig i na phlaid na sect. Ceid rhai braidd o bob enwad yn perthyn iddi, ac ni waherddid aelodaeth i neb, os ceid ei fod o "feddwl Cynhadleddol." Dyna fyddai yr unig drwydded iddi, ac yr oedd ystyr gyfriniol i'r gair yna nas deallid gan neb ond gan Gynhadleddwr, ac ni neb yn gyflymach i ddeall yr ystyr gyfriniol hon na'r cyfaill Twynog.
Mawr oedd y gwahanol farnau, neu yn hytrach y rhagfarnau, a fodolai ynghylch y Gvnhadledd. Edrychai rhai arni fel yr edrychid ar gymdeithas y “Feniaid” neu yr "Anarchiaid," wedi ei sefydlu o bwrpas er dymchwelyd popeth oedd yn dda a rhinweddol; ac eto methent yn lân gysoni hynny â'r ffaith fod ei haelodau yn ddynion blaenllaw yn eglwysi yr ardal; ac yn arwain, wedi hynny, gyda phob mudiad er dyrchafu cymdeithas, a pharhaodd y Gynhadledd am flynyddau felly yn ddirgelwch ac yn allu yr un pryd yn y lle. Yr oedd iddi hefyd ei rheolau, er mai ychydig oedd eu nifer, -
1. Nid oedd ganddi, i ddechreu, gartref sefydlog, ond symudai ei chynlliadau i gartrefl y gwahanol aelodau bob yn ail gyfarfod, gyda manylwch deddf.
2. Newidid ei llywydd bob tro y cyfarfyddai.
3. Byddai ei thestynau yn cael eu hysbysu bythefnos ymlaen.
4. Disgwylid i aelod na allai fod yn bresennol roddi hysbysrwydd a rheswm digonol am hynny i'r llywydd mewn pryd (nid oedd iddi Ysgrifennydd na Thrysorydd).
(x74)
5. Ni chaniateid i neb fod yn "wrandawr yn unig" yn ei chyfarfodydd. Yr oedd pawb i wneud y rhan a ddisgynnai iddo, a byddai y gwaith yn cael ei rannu yn aml drwy y tugel (ballot).
6. Nid oedd neb i siarad ond oddiar lwyfan y Gynhadledd, sef y lle neilltuol a benodid wedi dyfod ynghyd.
7. Nid. oedd dim o waith y Gynhadledd i gael ymwneud âg ef (er iddynt gyfarfod â'u gilydd fel cwmni) ond yng nghyfarfodydd rheolaidd y gymdeithas.
Dyna'r cylch y syrthiodd Twynog iddo ar ei ddyfodiad i Rymni; a dyna'r cylch yr ymgynghorodd âg ef tra y bu yn byw yn Rhymni. Llwyddodd i ennill ymddiriedaeth y Cylch Cyfrin hwn ar unwaith, ar ei ddyfodiad i'r lle. Edrychai Twvnog ar gynulliadau Saint y Cylch hwn, fel y galwai i Gynhadledd yn fynych, fel yr orig fwyaf ddedwydd yn hanes ei fywyd, a phan amharodd ei iechyd, fel na allai fynd o gwmpas yn ol trefn y Cylch, gwahoddai y Gynhadledd i'w breswylfa ei hun, ar hyn y cydsyniai pawb ar unwaith, ac felly yno y gwnelai y Cylch ei gartref bellach ers blynyddoedd.
Er y byddai ei breswylfod yn gyrchfan pobloedd o bob parth o'r wlad, daliodd i edrych gyda rhyw gysegredigrwydd ar Aelodau y Gymdeithas, - y nifer oedd yn aros ohonynt, - fel ei gymwynaswyr pennaf. Fel yr ymadawai rhai o'r hen aelodau am "Ardal lonydd yr aur delynau," fel y byddai yn arfer dweud, tynnid ereill i'r Cylch. Cymerid i fewn ereill o'r tu allan i gymdogaeth Rhymni oeddynt mewn cydgordiad hollol i naws a thymmer y cylch. Yn ol yr hyn a fyddai yn arfer ddweud yn fynych, bu disgyblaeth y Gynhadledd hon o werth amhrisiadwy yn ei olwg, a soniai lawer am dani.
Er ei holl anffodion, yr oedd Twynog yn weithiwr diflino. Gweithiai mewn trefn; trefnai ei waith a threfnai ei amser, ac ni bu neb yn fwy diwyd ac effro nag ef, ac nid oedd neb a werthfawrogai amser yn (x75) fwy; teimlai fod ei amser yn brin, ac yn rhy brin lawer pryd i wneud ei waith. Ai at ei waith mor gydwybodol ag unrhyw weithiwr arall yn y gymdogaeth bob dydd; ac ni fyddai ganddo amser weithiau i dalu sylw i fân alwadau teuluaidd. Buasai y gwaith a gyflawnwyd ganddo yn fawr o dan yr amgylchiadau mwyaf ffafriol, ond wrth gymharu y gwaith âg anfanteision y gweithiwr, yr oedd yn synfawr.Yn ystod y gaeaf, teimlai lawer oddiwrth ei anhwyldeb. Yr oedd yr hin oer yn trywanu ei aelodau fel na chaffai yr esmwythyd lleiaf bron, gan y boen oedd yn ei gymalau; eto, mynnai godi bob dydd, os yn bosibl, rhywfodd, a chludid ef i'w ystafell neilltuol at ei waith. Ni ildiai weithio er dim; yr oedd ei benderfyniad yn ddidroi yn ol, i gyflawni pob bwriad a osodai iddo ei hun. Ysgrifennai yn gyson. Cyfansoddai a gohebai yn ddibaid; ac fel hyn y treuliodd Twynog flynyddoedd ei neilltuaeth i'r diwedd; ac hyd y gwyddom, ni threuliodd yr un diwrnod yn gwbl segur. Er pob methiant, parhaodd ei iechyd cyffredinol yn gryf o hyd; ac ni flinid ef gan anhwylderau ereill cyffredin, fel llawer. Mynnych y clywsom ef yn dweud, pan yn taro ato, ac yn gofyn ynghylch y teulu, - "Y maent i gyd yn sâl yma ond fy hunan, fi yw yr unig un sydd heb fod yn dost yma." Dichon y buasai aelodau ereill y teulu yn dioddef oddiwrth anwyd ar y pryd. Yr oedd yn mwynhau cysuron arferol y teulu cystal a neb; ni chollodd ei archwaeth at fwyd ond ar achlysuron neilltuol iawn. Cymerai ei luniaeth yn gyson, a byddai yn mwynhau popeth fyddai ar y bwrdd cystal a neb arall, a thra yn ei gadair, gallesid tybio wrth yr olwg iach a gwridog oedd ar ei wyneb, ei fod yn dringo llechweddau y mynyddoedd bob dydd; ac yr oedd wedi ei freintio â chorff nodedig o brydferth, lluniaidd a golygus, â'i holl rannau yn gymhesur. Ond, tua thair blynedd cyn ei farw, gwaethygodd ei iechyd yn fawr, a dringodd y gelyn oedd wedi llyffetheirio ei fferau, i (x76) fyny i'w ddwylaw. Cylymwyd y rhai hynny hefyd fel na fedrai weini arno ei hun wrth y bwrdd, tra yn cymeryd ei brydiau ymborth.
Bellach, yr oedd yn rhwym "draed a dwylaw," fel yr oedd yn rhaid iddo wrth gymmorth ereill i weini hyd yn oed ei damaid iddo. Gyda llaw, gwelid yn amlwg fod ei nerth yn cilio, a bod y corff cadwrus, oedd fel castell cadarn, oedd wedi bod yn nôd saethau am lawer o flynyddoedd, yn dechreu dadfeilio a rhoi ffordd. Nid oedd yn llanw ei ddillad fel cynt. Yn y cyfnod hwn, daeth anffawd flin arall i’w ran, a fu yn flinder mawr iawn iddo, - daeth amhariad ar ei olygon, yr hyn a'i trallododd yn ddirfawr. Sefyllfa resynol i'r eithaf. Wedi colli gwasanaeth ei ddwylaw a'i draed, wele ef, erbyn hyn, mewn perygl o fynd yn ddall. At hynny yr oedd y boen a gawsai yn ei ben bron a'i ddyrysu, fel na chaffai orffwysdra na dydd na nos; a chiliodd cwsg ymhell oddiwrtho. Y mae cofio am y brofedigaeth hon a'i goddiweddodd yn peri y loes fwyaf i bawb a'i gwelodd ynddi. Bu yn yr ystâd hon am tua tair wythnos. Credodd yn sicr ei hun y buasai yn colli ei synwyrau. Dyna hefyd oedd barn y teulu a'i gyfeillion. Wedi galw y meddyg lleol i’w weld, yr unig gyngor allasai roddi ydoedd glaw specialist ato, yr hyn a wnaed ar unwaith. Pan ddaeth, gwnaeth ymchwihad manwl mewn undeb â'r meddyg lleol, a daethant i’r penderfyniad fod yn ofynnol cael operation, ac y buasai hynny yn cymeryd lle wedi gwneud rhyw bethau angenrheidiol fel rhagarweiniad i hynny. Ond tra yn disgwyl adeg yr operation, galwyd i’w weld gan y prif feddyg lleol, yr hwn, bellach, oedd wedi ymneilltuo o’i wasanaeth arferol oherwydd henaint a methiant; ond y fath oedd ei barch i Twynog, fel pan y clywodd am ei brofedigaeth, y mynnod gael gweld drosto ei hun. Gofynnod rai cwestiynau iddo parthed ei lygaid. Gofynnod hefyd beth oedd y specialist wedi ei ddweud. Wedi dangos iddo amryw o'r cyffeiriau oedd y specialist wedi gorchymyn eu defnyddio hyd nes (x77) y deuai drachefn i gyflawni yr operation, dywedodd yr hen feddyg profiadol, - "Mr. Jeffreys, if I were you, I would have nothing to do with them. Of course, you may please yourself, but if I were you, I would leave them alone. I am of opinion that the seat of the trouble is not in the eyes, but elsewhere, and if you should like me to prescribe for you, and if you care to take it, I will send you something. To-morrow I shall call to see you again." Ac felly y bu, daeth y meddyglyn, a thrannoeth daeth yr hen feddyg gofalus yno i'w weld er cael gwybod yr effaith. Ac er dirfawr lawenydd, yr oedd y boen wedi dianc, ac er na chaniateid iddo edrych ar y goleu am rai dyddiau, eto adferwyd ei olygon iddo, a diangodd rhag y trychineb brawychus o fynd yn ddall. A llawenychodd Twynog â llawenydd mawr am hyn. Nid anyddorol ydyw crybwyll mai yn ystod y brofedigaeth hon yr esgorwyd ar y syniad o gael tysteb iddo, yr hon a gyflwynwyd iddo ychydig ar ol hyn. Fel y cyfaddefa pawb, nodwedd amlwg ynddo ydoedd ei sirioldeb, er pob adfyd; ond yn ystod y tair blynedd olaf o'i fywyd, er na chollodd hon yn llwyr, yr oedd yn llawer mwy sensitive. Nid ydoedd yn gallu dal gwrthwynebiad os anghytunid âg ef ar fater. Yr oedd y Cylch Cyfrin, chwedl yntau, wedi deall hyn, a bellach ni byddent yn taeru âg ef. I'r cyfarwydd, gwelid ei fod yn cyflym gyfnewid i ryw gyfeiriad, - fod haul ei oes ar fynd i lawr, a bod y nos yn dechreu duo ei ffurfafen, a chyn hir daeth ei gystudd olaf, gyda'i niwl oer; a diangodd y wên gynnes, y cyfarchiad siriol, calonog ac iach, fu yn diaspedain yr ystafell am flynyddoedd. Arafodd ei ysbryd bywiog, ac am y tro cyntaf, clywid ef yn cwyno.
Pan ar
un o'r ymweliadau arferol, ac heb glywed dim yn flaenorol ei fod yn teimlo yn
wahanol i arfer, wedi cyrraedd ei ystafell ni chafwyd y croesaw arferol.
Gofynwyd iddo sut yr oedd yn teimlo, ac atebodd yn wanaidd ei fod yn wael iawn.
Yr oedd swyn y llais wedi ei golli, a theimlem, er ein bod yn ei ymyl, ei fod (x78) ef ymhell oddiwrthym; ac y mae aceniad ei
atebiad i ni yn aros yn oer ar ein hysbryd hyd heddyw. Fflachiodd yr
ymwybyddiaeth drosom yn sydyn ein bod yn colli Twynog. Ymhen ychydig, galwodd
ar ei briod hoff. “Ellen,” meddai, "Rhoddwch y llythyr iddo," gan
gyfeirio at lythyr a ddaethai i law y diwrnod hwnnw, ac y gwyddai fod ei
gynnwys o ddyddordeb i ni, ond ni ofynnodd ein barn arno na dim arall yn ei
gylch, yr hyn eto oedd yn profi i ni ei fod yn pellhau.
Eisteddasom gydag ef am tuag awr, ond heb siarad dim âg ef, ond cyn ein myned,
soniodd rywbeth am Wyl Dewi, oedd yn ymyl, a dywedai y caem drefnu at hynny nos
Sadwrn. Yr oedd hyn nos Fercher. Gwyl Dewi, ie, dyna noson oedd honno bob
blwyddyn. Y brif noson iddo ef, pryd y crynhoai y beirdd a'r cerddorion lleol
o'i gwmpas yn yr ystafell, ac yr eisteddai yntau yn frenin yn eu plith. Ond
erbyn nes Wener, clywsom ei fod yn waeth, ac aethom ar ein cyfer i edrych am
dano. Ond yr oedd y meddyg wedi peri nad oedd neb i'w weld ond aelodau y teulu.
Yr oedd yn suddo yn gyflym. Cadwodd ei arabedd, - un o'i brif nodweddion, - hyd
y diwedd. Pan y gwaherddid ef gan y meddyg i siarad, atebodd y meddyg yn ol yn
hollol nodweddiadol o hono ef ei hun, - "I suppose Doctor, I can still
think?" Am saith o'r gloch nos Sadwrn, Chwefrol 25ain, yn 67 oed, diangodd
ei ysbryd uwchlaw cystuddiau a phoen i'r wlad y canodd ac yr hiraethodd cyhyd
am dani. Sylwch fel y canodd am dani, -
“Fel y 'deryn bychan, swynol,
Canaf finnau dan fy nghroes,
Am hoenusrwydd haf tragwyddol,
Wedi fy nghystuddiol oes;
Pan yn gorwedd yn fy ngwely,
Methu symud llaw na throed,
Canaf yn fy ngauaf chwerw
Am yr haf tragwyddol loew, -
Byddaf hoewach nag erioed."
Ac i ni, y rhai gawsom ein breintio â'i gwmni am 35 mlynedd tra y bu yn byw yn
Rhymni, mor wâg yw (x79) bywyd ar ei ol, fel
y gofidiwn yn ddiobaith fel cyfeillion Paul gynt, "am na chawn weled ei
wynob mwy." Tra yn cymysgu dagrau gyda'r teulu, wedi i'w anadliad olaf
ddianc ymaith, daeth galargân Dafydd am Jonathan yn brofiad i ninnau,
-"Gofid sydd arnaf am danat ti, fy mrawd ___________ cu iawn fuost gennyf
fi; rhyfeddol oedd dy gariad tuag ataf fi, tu hwnt i gariad gwragedd.”
Hir y cofir dydd ei gynhebrwng. Hawdd gweld y prydnawn hwnnw fod haen drwchus o
brudd-der yn gordoi yr holl ardal; a churai pob calon yn drwm wrth wrando sŵn
gorymdaith angladdol Twynog yn mynd drwy y lle. Gwelai'r ardal fod ei gohebydd
a chroniclydd ei hanes yn ei arch, a'i phrif-fardd yn ei elorgerbyd y diwrnod
hwnnw, - fod ei "Glyndwr," fu yn chwifio ei gledd tra yn ei harwain
ac yn ei hamddiffyn ym mrwydrau bywyd o blaid rhinwedd a moes, yn cael ei gludo
yn orchfygedig i dŷ ei hir gartref,
wedi syrthio o hono yntau o'r diwedd yn y frwydr olaf i’r archelyn. Aeth y
gladdfa gyhoeddus yn fwy cysegredig i lawer calon y prydnawn hwnnw. Yno, ar
lecyn prydferth a dymunol yr olwg, rhwng yr Elyrch a'r Garno, ac yn sŵn
murmuron y ddwy ffrwd, o dan yr Yw yng nghwrr uchaf y fynwent, y gosodwyd
gweddillion Twynog i orffwys, yn ei Breswylfa newydd, hyd ganiad udgorn Duw.
Heddwch i'w lwch!
”Huna, O! Dwynog anwyl, - fwyn awen,
O fewn newydd ‘Breswyl’;
Ar draeth hiraeth o'th arwyl,
Cawn hyawdl iaith cenedl wyl.”
YMLAEN AT RAN 2: 1228k
Sumbolau arbennig: ŷ ŵ
Edrychwch
ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats