0852k Gwefan Cymru-Catalonia. Anaml y clywid gair o Gymraeg ar yr heol ym Merthyr Tudful. Sylwadau gan "Llywelyn" yn "Nharian y Gweithiwr" (24 12 1908). Wythnos neu ddwy yn ôl, gwelais nodyn o eiddo Cynog yn cwyno oherwydd y diystyrwch y mae y Gymraeg ynddo yn Merthyr. Hyderaf y daw yr ywmared a ddymuna o rywle...

 

19-06-2020

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_037_y_gymraeg_ym_merthyr_tudful_1908_0852k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Barthlen

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Hwnt ac Yma:

“Anaml y clywid gair o Gymraeg ar yr heol” [ym Merthyrtudful]
Llywelyn

Tarian y Gweithiwr (1908)

 

 

(delwedd 7277)

 

  0853ke Click her for an English translation (with a version in updated Welsh orthography) - “Welsh is only heard infrequently on the street in Merthyrtudful” (year 1908)

 

 

 

 

A screenshot of a cell phone

Description automatically generated

(delwedd 9997)

Tarian Y Gweithiwr 24 12 1908
Hwnt ac Yma

Wythnos neu ddwy yn ôl, gwelais nodyn o eiddo Cynog yn cwyno oherwydd y diystyrwch y mae y Gymraeg ynddo yn Merthyr. Hyderaf y daw yr ywmared a ddymuna o rywle, ac y gwelir yr hen iaith eto mewn bri. Bum yn y dref yn ddiweddar, a theimlwn inau fod ei heinioes mewn perygl; anaml y clywid gair o Gymraeg ar yr heol yno.

Nid felly yr oedd Merthyr bum mlynedd ar hugain yn ôl. Gwyddelod a Saeson oedd yr adeg hono yn gorfod dysgu Cymraeg, ac adwaenwn lawer o honynt, a siaradent Gymraeg cystal a minau. Oddiar hyny y mae tuedd rhieni i siarad Saesneg â'u plant wedi cynyddu, a rhyw wendid wedi codi i benau llawer o bobl ieuainc, a pheri iddynt feddwl bod rhywbeth diraddiol mewn siarad Cymraeg. Y mae llawer o starch a Saesneg rywsut yn tynu at eu gilydd.

Oddiar brofiad a chyda gofid y dywedaf am lawer o weinidogion yr Efengyl, mai hwy yw y gelynion creulonaf a welodd ein hiaith erioed. Llawer o honynt ddywedais, cofier - nid yr oll o honynt. Y mae Dic Shon Dafyddiaeth rhai o honynt yn anesboniadwy ac yn ffiaidd i mi.

Meddylier am wladwr cyffredin o Gymro wedi myned i'r weinidogaeth Gymreig, yn codi ei blant mewn anwybodaeth hollol o'r iaith y pregetha efe ei hun ynddi ar hyd ei fywyd. Neu, os nad ydynt yn anwybodus o honi, y maent yn rhy falch a ffroenuchel i'w harfer.

Bum yn aros yn nhai y rhai hyn, a methais gael gair o Gymraeg o'u geneuau tra fum yno. Gwn y meddylient hwy yn uchel o'u Seisnigeiddiwch hyll, ond nis gallwn ond llai na dirmygu rhai ag yr oedd iaith Islwyn a Cheiriog, iaith Lloyd George a Tom Ellis, mor ddigyfrif ganddynt.

Gallai y gweinidog Cymreig fod yn ffynonell o ddylanwad ac o nerth i'r iaith; ac felly mae mewn rhai amgylchiadau; and mewn amgylchiadau ereill y mae yn angau i'n hiaith ac i bopeth sydd yn hardd o ran hyny. Meddylia ambell un fwy o lawer am allu siarad tipyn o Saesneg bratiog nag am achub eneidiau.

Nid wyf ond dyn tlawd, ond o gariad at fy ngwlad a'm hiaith, yr wyf yn barod i roddi pymtheg swllt o wobr am y ddrama neu y stori fer oreu, a lanwai golofn a haner neu ddwy golofn o'r Darian, yn gosod allan ynfydrwydd 'Y gweinidog Dic-Shon-Dafyddol'. Yr unig amodau a roddaf yw fod y buddugol, a rhai ereill a fernir yn briodol - gyda chaniatad y Golygydd - i'w gyhoeddi yn y Darian. Anfoner hwy i fewn erbyn Chwefror y 1af, i ofal Golygydd y Darian. Efallai, erbyn hyny, y bydd y wobr wedi ychwanegu, neu ail wobr i'w rhoddi.

 

 

A close up of a newspaper

Description automatically generated

(delwedd 9998)

Nid y pethau wedi mynd mor bell eto, hyd yn od yn Merthyr a threfydd tebyg iddi, na ellid gydag ymdrech adenill i'n hiaith safle o anrhydedd a dylanwad. Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol i'r pwrpas hwn ydyw i'w charedigion ei siarad ym mhob lle, a rhoddi'r cynyg cyntaf iddi gyda phawb. Gwn am enghreifftiau o iaith yr aelwyd wedi newid o'r Saesneg i'r Gymraeg drwy ddyfodiad Cymro nad oedd arno gywilydd o iaith ei fam i aros yn mhlith y teulu.

Gallai llyfrwerthwyr a newyddiadurwyr hefyd wneud llawer. Y mae rhai o honynt yn gwneud llawer. Gresyn yw gweled ereill yn hollol esgeleusus o honi. Dipyn yn annyoddefol i Gymro gwladgar yw gweled yn aml, mewn lle hollol Gymreig, hysbysleni am bob math o bapyrau Seisnig, glan ac aflan, yn cael eu harddangos, tra nad oes na newyddiadur na llyfryn Cymreig o'r tufewn i'r siop.

Yn nghyd a'r dosbarthiadau a'r gwahanol gymdeithasau a gefnogant y Gymraeg, dylasai fod genym gymdeithas i gefnogi newyddiaduron a llenyddiaeth Gymraeg ym mhob ffurf, ac i ddyfeisio pob moddion posibl i'w dwyn i sylw.
Tybed na thalai y ffordd i ni gael llyfrau ceiniog bychain, yn cynwys detholion o weithiau ein beirdd a llenorion goreu. Rhoddai ceiniogwerth o Ceiriog neu Daniel Owen flas i filoedd ar Lenyddiaeth Gymreig nas gwyddant efallai am eu henwau yn bresenol, a cheid to newydd o ddarllenwyr yn mhlith rhai na wariasant efallai geinog ar lyfr o'r blaen.


 ·····
Gweler hefyd 0851k Diarhebion Lleol (Merthyrtudful, 1895)
·····
 
http://news2.thls.bbc.co.uk/hi/english/newyddion/

 

Y newyddion dyddiol yn Gymraeg gyda'r BBC!
Mae BBC Cymru Arlein yn darparu gwasanaeth cyflawn o newyddion Cymraeg dros y rhyngrwyd
Darllen y newyddion yn Gymraeg (papur newydd arlein y BBC)
Gwrando ar y newyddion yn Gymraeg (ffeiliau sain)
Edrych ar y newyddion yn Gymraeg (ffeiliau fideo o'r teledu yn Gymraeg - S4C)


ffeil: merth01.doc

Adolygiadau diweddaraf: 19 06 2020 30 03 2000
 ·····
Ble’r wyf i?
Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA
 

 
 

hit counter script
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats