0853ke
Gwefan Cymru-
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_037_y_gymraeg_ym_merthyrtudful_1908_0853ke.htm
..........1863k Y Fynedfa yn Gymraeg
....................0009k Y Gwegynllun
..............................0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn
Gymraeg) - Mynegai
........................................y
tudalen hwn
|
|
Gwefan Cymru-Catalonia
Hwnt ac Yma: “Anaml y clywid gair o Gymraeg
ar yr heol” [ym Merthyrtudful] |
(delwedd 7015) Diweddariad diwethaf |
0852k yn Gymraeg yn unig
1959k Ble mae Merthÿrtudful? Where is
Merthyrtudful?
1004e Ble y siaredir / siaredid y Wenhwyseg? Where is / was the Gwentian dialect spoken?
·····
An article about the use of Welsh in the town of
Merthyr in the year 1908 which appeared in "Tarian Y Gweithiwr" 24 12
1908 ("the shield of the worker")
(ORIGINAL SPELLING) Wythnos neu ddwy yn ôl, gwelais nodyn o eiddo Cynog
yn cwyno oherwydd y diystyrwch y mae y Gymraeg ynddo yn Merthyr. Hyderaf y daw
yr ywmared a ddymuna o rywle, ac y gwelir yr hen iaith eto mewn bri. Bûm yn y
dref yn ddiweddar, a theimlwn inau fod ei heinioes mewn perygl; anaml y clywid
gair o Gymraeg ar yr heol yno
(MODERN SPELLING) Wythnos neu ddwy yn ôl, gwelais
nodyn o eiddo Cynog yn cwyno oherwydd y diystyrwch y mae y Gymraeg ynddo yn
Merthyr. Hyderaf y daw yr ywmared a ddymuna o rywle, ac y gwelir yr hen iaith
eto mewn bri. Bûm yn y dref yn ddiweddar, a theimlwn innau fod ei heinioes mewn
perygl; anaml y clywid gair o Gymraeg ar yr heol yno
A week or two back, I saw an item by Cynog in which he
complained of the disregard for the Welsh language in Merthyr. I hope the
salvation that he desires comes from somewhere, and that the old language will
once again be in vogue. I was in the town lately, and I too felt that its
continued existence was threatened. I rarely heard a word of Welsh on the
street there.
·················
(ORIGINAL SPELLING) Nid felly yr oedd Merthyr bum mlynedd ar hugain yn
ôl. Gwyddelod a Saeson oedd yr adeg hono yn gorfod dysgu Cymraeg, ac adwaenwn
lawer o honynt, a siaradent Gymraeg cystal a minau. Oddiar hyny y mae tuedd
rhieni i siarad Saesneg â’u plant wedi cynyddu, a rhyw wendid wedi codi i benau
llawer o bobl ieuainc, a pheri iddynt feddwl bod rhywbeth diraddiol mewn siarad
Cymraeg. Y mae llawer o starch a Saesneg rywsut yn tynu at eu gilydd.
(MODERN SPELLING) Nid felly yr oedd Merthyr bum
mlynedd ar hugain yn ôl. Gwyddelod a Saeson oedd yr adeg honno yn gorfod dysgu
Cymraeg, ac adwaenwn lawer ohonynt, a siaradent Gymraeg cystal â minnau. Oddiar
hynny y mae tuedd rhieni i siarad Saesneg â’u plant wedi cynyddu, a rhyw wendid
wedi codi i bennau llawer o bobl ieuainc, a pheri iddynt feddwl bod rhywbeth
diraddiol mewn siarad Cymraeg. Y mae llawer o startsh a Saesneg rywsut
yn tynnu at eu gilydd.
Merthyr wasn’t like this twenty -five years ago {i.e. around 1883}. Irishmen and Englishmen
in those days were obliged to learn Welsh, and I knew many of them who spoke
Welsh as well as I do. Since then the tendency for parents to speak English
with their children has increased, and something has got into the heads of many
young people which makes them think that there is something demeaning about
speaking Welsh. Somehow ‘starch’ (pompousness) and the English language attract
each other.
·················
(ORIGINAL SPELLING) Oddiar brofiad a chyda gofid y dywedaf am lawer o
weinidogion yr Efengyl, mai hwy yw y gelynion creulonaf a welodd ein hiaith
erioed. Llawer o honynt ddywedais, cofier - nid yr oll o honynt. Y mae Dic Shon
Dafyddiaeth rhai o honynt yn anesboniadwy ac yn ffiaidd i mi.
(MODERN SPELLING) Oddiar brofiad a chyda gofid y
dywedaf am lawer o weinidogion yr Efengyl, mai hwy yw y gelynion creulonaf a
welodd ein hiaith erioed. Llawer ohonynt ddywedais, cofier - nid yr oll o
honynt. Y mae Dic Siôn Dafyddiaeth rhai ohonynt yn anesboniadwy ac yn ffiaidd i
mi.
From experience and with regret I say about many
ministers of the Gospel that they are the ones who are the cruellest enemies
that our language has ever seen. Many of them I said, mind you - not all of
them. The ‘Dic Siôn Dafydd’ mentality of some of them I find inexplicable and
repugnant.
(Dic Siôn Dafydd - Richard son of John son of David -
is the name given to a Welshman who despises his language and who imitates the
English. It was the name of a character in a poem by Jac Glanygors (John Jones,
1766-1821). Dic Siôn Dafydd left Wales and became a draper in London; his
pomposity led him to claim that he had forgotten how to speak Welsh, and on a
visit to his mother in Wales who spoke only Welsh he insisted on speaking
English).
·················
(ORIGINAL SPELLING) Meddylier am wladwr cyffredin o Gymro wedi myned i’r
weinidogaeth Gymreig, yn codi ei blant mewn anwybodaeth hollol o’r iaith y
pregetha efe ei hun ynddi ar hyd ei fywyd. Neu, os nad ydynt yn anwybodus o
honi, y maent yn rhy falch a ffroenuchel i’w harfer.
(MODERN SPELLING) Meddylier am wladwr cyffredin o
Gymro wedi myned i’r weinidogaeth Gymreig, yn codi ei blant mewn anwybodaeth
hollol o’r iaith y pregetha efe ei hun ynddi ar hyd ei fywyd. Neu, os nad ydynt
yn anwybodus ohoni, y maent yn rhy falch a ffroenuchel i’w harfer.
Think of an ordinary Welshman from the country who
becomes a Welsh (nonconformist) minister, bringing up his children in total
ignorance of the language he himself preaches in throughout his life. Or if
they are not ignorant of it, they’re too haughty and snooty to use it.
·················
(ORIGINAL SPELLING) Bum yn aros yn nhai y rhai hyn, a methais gael gair
o Gymraeg o’u geneuau tra fum yno. Gwn y meddylient hwy yn uchel o’u
Seisnigeiddiwch hyll, ond nis gallwn ond llai na dirmygu rhai ag yr oedd iaith
Islwyn a Cheiriog, iaith Lloyd George a Tom Ellis, mor ddigyfrif ganddynt.
(MODERN SPELLING) Bûm yn aros yn nhai y rhai hyn, a
methais gael gair o Gymraeg o’u geneuau tra fûm yno. Gwn y meddylient hwy yn
uchel o’u Seisnigeiddiwch hyll, ond
I’ve stayed in the houses of these people, and I
failed to get them to speak a word of Welsh {"failed to get a word of
Welsh from their mouths"} while I was there. I know they think highly of their
idiotic Englishness, but I can’t help feeling contempt for those who hold the
language of Islwyn and Ceiriog, the language of Lloyd George and Tom Ellis, in
such scant regard {Islwyn (William Thomas, 1832-1878) and Ceiriog (John Ceiriog Hughes,
1832-1887) were poets; David Lloyd George (1863-1945) and Tom Ellis (1855-99)
politicians}.
·················
(ORIGINAL SPELLING) Gallai y gweinidog Cymreig fod yn ffynonell o
ddylanwad ac o nerth i’r iaith; ac felly mae mewn rhai amgylchiadau; ond mewn
amgylchiadau ereill y mae yn angau i’n hiaith ac i bopeth sydd yn hardd o ran
hyny. Meddylia ambell un fwy o lawer am allu siarad tipyn o Saesneg bratiog nag
am achub eneidiau.
(MODERN SPELLING) Gallai y gweinidog Cymreig fod yn
ffynhonnell o ddylanwad ac o nerth i’r iaith; ac felly mae mewn rhai
amgylchiadau; ond mewn amgylchiadau eraill y mae yn angau i’n hiaith ac i
bopeth sydd yn hardd o ran hynny. Meddylia ambell un fwy o lawer am allu siarad
tipyn o Saesneg bratiog nag am achub eneidiau.
The Welsh minister could be a wellspring of influence
and strength for the language; and so he is in some circumstances. But in other
circumstances he is the death of our language and everything of beauty, as it
happens. Some of them think much more about the ability to speak a bit of
broken English than about saving souls.
·················
(ORIGINAL SPELLING) Nid wyf ond dyn tlawd, ond o gariad at fy ngwlad a’m
hiaith, yr wyf yn barod i roddi pymtheg swllt o wobr am y ddrama neu y stori
fer oreu, a lanwai golofn a haner neu ddwy golofn o’r Darian, yn gosod
allan ynfydrwydd ‘Y gweinidog Dic-Shon-Dafyddol’. Yr unig amodau a roddaf yw
fod y buddugol, a rhai ereill a fernir yn briodol - gyda chaniatad y Golygydd -
i’w gyhoeddi yn y Darian. Anfoner hwy i fewn erbyn Chwefror y 1af, i
ofal Golygydd y Darian. Efallai, erbyn hyny, y bydd y wobr wedi
ychwanegu, neu ail wobr i’w rhoddi.
(MODERN SPELLING) Nid wyf ond dyn tlawd, ond o gariad
at fy ngwlad a’m hiaith, yr wyf yn barod i roddi pymtheg swllt o wobr am y
ddrama neu y stori fer orau, a lanwai golofn a hanner neu ddwy golofn o’r Darian,
yn gosod allan ynfydrwydd ‘Y gweinidog Dic-Siôn-Dafyddol’. Yr unig amodau a
roddaf yw fod y buddugol, a rhai eraill a fernir yn briodol - gyda chaniatâd y
Golygydd - i’w gyhoeddi yn y Darian. Anfoner hwy i fewn erbyn Chwefror y
1af, i ofal Golygydd y Darian. Efallai, erbyn hynny, y bydd y wobr wedi
ychwanegu, neu ail wobr i’w rhoddi.
I am only a poor man, but out of love for my country
and my language, I am prepared to give a prize of fifteen shillings for the
best play or short story which would fill a column and a half or two columns of
the Darian {the
shield - the short name of the newspaper Tarian y Gweithiwr from which this
extract is taken, (the) shield (of) the worker}, exposing the stupidity of ‘the Dic
Siôn Dafydd minister’. The only conditions I stipulate are that the winning
piece, and others judged to be appropriate - are to be published, with the
permission of the editor, in the Darian. Send tem in by February the first to
the editior of the Darian. Maybe by then the prize will have increased, or
there’ll be a second prize on offer.
·················
(ORIGINAL SPELLING) Nid y pethau wedi mynd mor bell eto, hyd yn od yn
Merthyr a threfydd tebyg iddi, na ellid gydag ymdrech adenill i’n hiaith safle
o anrhydedd a dylanwad. Un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol i’r pwrpas hwn ydyw i’w
charedigion ei siarad ym mhob lle, a rhoddi’r cynyg cyntaf iddi gyda phawb. Gwn
am enghreifftiau o iaith yr aelwyd wedi newid o’r Saesneg i’r Gymraeg drwy
ddyfodiad Cymro nad oedd
(MODERN SPELLING) Nid y pethau wedi mynd mor bell eto,
hyd yn oed yn Merthyr a threfydd tebyg iddi, na ellid gydag ymdrech adenill i’n
hiaith safle o anrhydedd a dylanwad. Un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol i’r pwrpas
hwn ydyw i’w charedigion ei siarad ym mhob lle, a rhoddi’r cynnig cyntaf iddi
gyda phawb. Gw^n am enghreifftiau o iaith yr aelwyd wedi newid o’r Saesneg i’r
Gymraeg drwy ddyfodiad Cymro nad oedd
Things haven’t got to the point yet, even in Merthyr
and towns like it, where with a bit of effort a postion of honour and influence
can’t be regained for our language. One of the most effective ways with this
aim in mind is for its supporters to speak it everywhere, and to try speaking
it first with everybody. I know of examples where the language of the home has
changed from English to Welsh with the arrival of a Welshman who was not
ashamed of his mother tongue to stay with a family.
·················
(ORIGINAL SPELLING) Gallai llyfrwerthwyr a newyddiadurwyr hefyd wneud
llawer. Y mae rhai o honynt yn gwneud llawer. Gresyn yw gweled ereill yn hollol
esgeleusus o honi. Dipyn yn annyoddefol i Gymro gwladgar yw gweled yn aml, mewn
lle hollol Gymreig, hysbysleni am bob math o bapyrau Seisneig, glan ac aflan,
yn cael eu harddangos, tra nad oes na newyddiadur na llyfryn Cymreig o’r tufewn
i’r siop.
(MODERN SPELLING) Gallai llyfrwerthwyr a
newyddiadurwyr hefyd wneud llawer. Y mae rhai o honynt yn gwneud llawer. Gresyn
yw gweled ereill yn hollol esgeleusus ohoni. Dipyn yn annioddefol i Gymro
gwladgar yw gweled yn aml, mewn lle hollol Gymreig, hysbyslenni am bob math o
bapurau Seisneig, glan ac aflan, yn cael eu harddangos, tra nad oes na
newyddiadur na llyfryn Cymreig o’r tu fewn i’r siop.
Booksellers and newspaper sellers could also do a lot.
Some of them are doing a lot. It’s a shame to see others being quite neglectful
about it. It’s rather unbearable for a Welshman who loves his country to see
often, in a place which is completely Welsh, adverts for all kinds of English
papers, decent and indecent, on display, while there is not one newspaper or
Welsh book inside the shop.
·················
(ORIGINAL SPELLING) Yn nghyd a’r dosbarthiadau a’r gwahanol gymdeithasau
a gefnogant y Gymraeg, dylasai fod genym gymdeithas i gefnogi newyddiaduron a
llenyddiaeth Gymraeg ym mhob ffurf, ac i ddyfeisio pob moddion posibl i’w dwyn
i sylw. Tybed na thalai y ffordd i ni gael llyfrau ceiniog bychain, yn cynwys
detholion o weithiau ein beirdd a llenorion goreu. Rhoddai ceiniogwerth o
Ceiriog neu Daniel Owen flas i filoedd ar Lenyddiaeth Gymreig nas gwyddant
efallai am eu henwau yn bresenol, a cheid to newydd o ddarllenwyr yn mhlith
rhai na wariasant efallai geinog ar lyfr o’r blaen.
(MODERN SPELLING) Ynghyd a’r dosbarthiadau a’r
gwahanol gymdeithasau a gefnogant y Gymraeg, dylasai fod gennym gymdeithas i
gefnogi newyddiaduron a llenyddiaeth Gymraeg ym mhob ffurf, ac i ddyfeisio pob
moddion posibl i’w dwyn i sylw. Tybed na thalai y ffordd i ni gael llyfrau
ceiniog bychain, yn cynnwys detholion o weithiau ein beirdd a llenorion gorau.
Rhoddai ceiniogwerth o Ceiriog neu Daniel Owen flas i filoedd ar Lenyddiaeth
Gymreig nas gwyddant efallai am eu henwau yn bresenol, a cheid to newydd o ddarllenwyr
ymhlith rhai na wariasant efallai geinog ar lyfr o’r blaen.
As well as the classes and the various societies which
support the Welsh language, we ought to have a society to support
Welsh-language newspapers and literature in every way, and to devise all types
of means to bring them to the attention of people. I wonder whether it might be
worth it for us to have little books for the price of a penny, with selections
of the works of our best poets and prose writers. A pennyworth of Ceiriog or
Daniel Owen would give thousands of people a taste of Welsh literature, people
who perhaps don’t recognise these names at the present time, and there would be
a new generation of readers among those who maybe never spent a penny on a book
before {"who didn’t spend a penny on a book previously"}
·················
See also 0851k
(of Google kimkat0851k) Diarhebion Lleol
(‘local proverbs’). Merthyrtudful, 1895
·····
Cliciwch yma ar
gyfer - Click
here for -
Y newyddion dyddiol yn Gymraeg gyda’r BBC!
The
daily news in Welsh from the BBC!
Mae BBC Cymru Arlein yn darparu gwasanaeth cyflawn o
newyddion Cymraeg dros y rhyngrwyd
BBC Cymru Arlein (Wales Online) provides full news
coverage in Welsh via the Internet
Darllen y newyddion yn Gymraeg
(papur newydd arlein y BBC)
Gwrando ar y newyddion yn Gymraeg (ffeiliau sain)
Edrych ar y newyddion yn Gymraeg (ffeiliau fideo o’r teledu yn Gymraeg - S4C)
Read the
news in Welsh (the BBC online newspaper)
Listen to the news in Welsh (sound files)
Watch the news in Welsh (video files from S4C, the Welsh-language TV)
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web
“CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the
“CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
ffeil: merth01.doc
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu
les estadístiques / View My Stats