1384k Telynegion Maes A Mor. Eifion Wyn (x1908). Tan y garreg lâs a'r blodau, / Cysga, berl dy fam; / Gwybod mae dy dad a minnau / Na dderbyni gam: / Gwn nad oes un beddrod  bychan / Heb ei angel gwyn; / Cwsg, fy mhlentyn, yma'th hunan - / Cwsg, Goronwy Wyn.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_051_eifion_wyn_maes_a_mor_1_1384k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Barthlen

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

TELYNEGION MAES A MOR.
Eifion Wyn (1908)

 

 

 



 


(delw 6513)

Adolygiadau diweddaraf:  02 07 2002

 


Ein sylwadau ni mewn teip oren

---------------------------------------------------------------------------
Eifion Wyn. Enw barddonol Eliseus Williams (1867-1926, bu farw yn ?58/59 oed). Ganwyd ef ym Mhorthmadog. Ni chafodd fawr o addysg ffurfiol. Serch hynny, a diolch i’r addysg a dderbyniwyd yn yr Ysgol Sul, bu wedyn yn athro yn ei dref enedigol, ac wedyn ym Mhentrefoelas. ‘Telynegion Maes a Mor’ (a gyhoeddwyd yn 1908 pan oedd yn 40/41 oed) yw ei waith mwyaf enwog. Mae’r arddull yn syml ac yn uniongyrchol. Bu llawer o’i gerddi yn boblogaidd fel darnau adrodd.

 

Y mae ym Mhorthmadog ysgol gynradd o’r enw Ysgol Eifion Wyn.

http://www.eifionwyn.gwynedd.sch.uk/

 

               http://www.penrhyndeudraeth.com/cymraeg/history.asp

Ar dudalen Penrhyndeudraeth Deudraeth Cyf y mae sôn am Borthmadog ac Eifion Wyn
---------------------------------------------------------------------------
TELYNEGION MAES A MOR.
Cyfrol wedi ei phrynu gennyf yn nhref Ynyswydryn (Glastonbury), Gwlad yr Haf, 21 Awst 2002.
Y mae ar y rhagddalen y cyflwyniad a ganlyn:


Rhodd Cymrodorion Aberdar Medi 25 1925 i Gwilym Edryd Davies am basio’n uchaf gydag anrhydedd yn arholiad Senior y Bwrdd Canol. Arwyddwyd Mariel Morgan – Llwydd, Annie Charles, David O. Roberts. Ysgrifennydd.


---------------------------------------------------------------------------

DECHRAU:

TELYNEGION MAES A MOR.
Eifion Wyn
Awdur “Ieuenctid y Dydd” ac “Awdl y Bugail”.
Caerdydd. The Educational Publishing Company.

I’m Cenedl er mwyn Men.



CYNHWYSIAD.

(x1) Rhagymadrodd.

1.- Telynegion Bywyd.
(x2) Hwiangerdd Sul y Blodau
(Cyfieithiad i'r Saesneg gan y Parch. J. W. Wynne-Jones, M.A., Caernarfon)
(x3) Flower Sunday Lullaby
(x4) Llawhaiarn Bendefig
(x5) Gwylan
(x6) Priodas Hun
(x7) Ora Pro Nobis
(x8) “Ora Pro Nobis”
(Cyfieithiad i'r Saesneg gan y Parch. J. W. Wynne-Jones, M.A., Caernarfon)
(x9) Mun ac Oenig
(x10) “Nadolig Llawen”
(x11) Gobaith
(x12) Credo
(x13) Gwên y Marw
(x14) Yn Erw Duw

II.- Telynegion Men.
(x15) Men
(x16) Hyd fin y maes, ym min yr hwyr
(x17) Bob nos oleu leuad
(x18) Cartre'r Haf yw Deffrobani
(x19) Pe bai gennyt serch
(x20) Hoffais di yn ieuanc, Men
(x21) Tan dy lewyrch, leuad ieuanc

III.- Telynegion Serch.
(x22) Y Blodyn Glâs
(x23) Blodau a Serch
(x24) Caru Hâf
(x25) Hollt y Fellten
(x26) Yr Afal Melyn
(x27) Serch
(x28) Cynnyg Calon
(x29) Hiraeth
(x30) Merch y Felin

IV.- Telynegion y Misoedd.
(x31) Ionawr
(x32) Chwefror
(x33) Mawrth
(x34) Ebrill
(x35) Mai
(x36) Mehefin
(x37) Gorffennaf
(x38) Awst
(x39) Medi
(x30) Hydref
(x41) Tachwedd
(x42) Rhagfyr

V.- Telynegion y Maes.
(x43) Trioedd y Mynydd
(x44) Y Sêr
(x45) Briallen Sul y Blodau
(x46) Bardd a Blodeuyn
(x47) Ystyriwch y Lili (Llyn y Garreg Wen)
(x48) Cyfarch y Llinos (I blant fy mro)
(x49) Mabinogi
(x50) Liw Dydd, liw Nos
(x51) Perthi Mai

VI.- Telynegion y Môr.
(x52) Y Llanw
(x53) Yr Afon

VII.-Telynegion Cymru.
(x54) Y Porth Prydferth
(x55) Os wyt Gymro
(x56) Gwyl a Gwaith..
(x57) Coelcerthi'r Bannau
(x58) Cadwn Uchelwyl
(x59) “Ochain y Clwyfawg”
(x60) O'r Deffroad
(x61) Cymru'r Diwygiad
(x62) “Paradwys y Bardd”


(x1) RHAGYMADRODD.

Gerllaw yr Eryri
   A Chantref y Lli,
Mi genais i Gymru
   O serch ati hi;
Cyweiriais fy nhannau
   A gwynfyd fy oes,
Ces fwynder o'm telyn -
   Ces lawryf, a loes.

Ond canaf i'm henfro
   Tra bo gennyf dant,
Am lys yn ei bywyd,
   A bedd hefo'i phlant;
Os sethrir fy nghalon
   Fel gwinwryf tan draed,
Caiff Cymru win newydd
   O redli fy ngwaed.

Ar deir-rhes fy nhelyn
   ’Rwy'n canu o hyd,
I drioedd fy hoffedd
   A thlysion y byd;
A rhowch imi groesaw,
   Neu rhowch imi sôn,
Caf fwynder o'm telyn,
   A chusan gan Men.

EIFION WYN.
Mai, 1908.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x2) Telynegion Bywyd. HWIANGERDD SUL Y BLODAU.

(I fy Mam.)

Tan y garreg lâs a'r blodau,
   Cysga, berl dy fam;
Gwybod mae dy dad a minnau
   Na dderbyni gam:
Gwn nad oes un beddrod bychan
   Heb ei angel gwyn;
Cwsg, fy mhlentyn, yma'th hunan -
   Cwsg, Goronwy Wyn.

Cofio'r wy, pan oeddit gartre'n
   Cysgu gyda ni,
Cadw fynnwn blant y pentre
   Rhag dy darfu di :
Ond boddlonwn iddynt heno,
   Gyda'u miri iach,
Pe bai obaith iddynt ddeffro
   Fy Ngoronwy bach.

Cwsg, fy mhlentyn, heb dy fami -
    Cwsg yn erw Duw;
Casglu blodau buom iti -
    Sul y Blodau yw:
Chwe briallen fach a ddywed
    Mai yr haf yw hi;
Cwsg o danynt heb eu gweled,
    Cwsg, fy rhosyn i.

Beth i serch yw mis a blwyddyn?
    Cwsg, fy nhlysaf un;
Onid ti yw’m hunig blentyn
    Nad yw’n mynd yn hŷn?
Mae y lleill yn symud, symud,
    Ac yn bryder im’;
Ond nid felly di, f’anwylyd -
    ’Chrwydra’r marw ddim!

Tan y garreg las, Goronwy, -
    Cysga beth yn hwy;
Rhaid yw dweyd “Nos da,” Goronwy,
    Mynd a’th ado’r wy:
Nid oes eisieu llaw i’th siglo
    Yn dy newydd grud;
Cwsg, nes gweld ein gilydd eto,
    Cwsg, a gwyn dy fyd.

-----------------------------------------------------------------------------------


(x3) Telynegion Bywyd. FLOWER SUNDAY LULLABY

WHERE the flow’rs and gray stone hide thee,
    Sleep, my pearl, below;
That no harm shall e’er betide thee,
    I and father know
Little graves are never lonely,
    Angels guard their kin
Sleep, my child, thyself there only -
    Sleep, Goronwy Wyn.

Well I mind, when thou wert sleeping
    In our home with me,
Village boys I’d fain be keeping
    From disturbing thee:
Would to-night our rest were shaken
    By their artless cheer,
If, ah I if they could awaken
    Thee, Goronwy dear.

Sleep, my child, without thy mother,
    In God’s acre rest;
We, this Flower Sunday, gather
    Posies for thy breast:
Six small primroses unfolding
    Tell of summer mild;
Sleep beneath them, none beholding,
    Sleep, my rose, my child.
 
What are months and years to mothers -
    Sleep, my darling, so;
Thou alone, unlike the others,
    Dost not older grow:
They are restless, restless ever,
    Causing me dismay;
Not so thou, my darling, never
    Does my dead one stray.

Slumber yet awhile, Goronwy,
    Under that gray stone;
I must say “ Good night,” Goronwy,
    Leaving thee alone:
Strange that cradle ! hand of mother
    Need not rock thee now:
Sleep until we meet each other, -
    Sleep, and blest be thou.

Cyfieithydd -
J. W. WYNNE-JONES, M.A.,
Ficer Caernarfon.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x4) Telynegion Bywyd. LLAWHAIARN BENDEFIG

GWRANDAWEM riddfaniad y deri,
    Gwrandawem ystori fy nhad -
“Boed melitith ar Gastell Llawhaiarn,
    A’r felltith yn f endith i’w had ! “
“Boed melltith,” griddfannai y deri,
    Ail-gofiai y nefoedd y cam;
Yn llygad fy nhad yr oedd mellten,
    Ond lleithio’r oedd llygad fy mam.

“Fy mhlant,” meddai, “dyma ystori
    Yr anghyfanedd-dra a wnaed;
Hyd heddyw mae cofio yr ormes
    A’r adfyd yn poethi fy ngwaed;
Os wyf yn oedrannus a musgrell,
    Nid wyf mor anghofus a hyn,
Nad wn i pa bryd y dechreuodd
    Fy marf a fy ngwallt droi yn wyn.

“Adwaenoch y goedwig helwriaeth
    Ymestyn i’r mynydd o’r cwm
Un waith yr oedd honno’n dyddyndir,
    A chernau y mynydd yn llwm:
Nid oedd y tyddynod ond bychain,
    A gwyrog gan oedran, ond O!
Yr oent yn dreftadaeth i rywrai,
    A cherid y brwyn ar eu tô.

Yn fore llafuriai’r tyddynwyr,
    Gan dyfu en gwenith a’u haidd;
A’u chwiban a glywid o’r mynydd,
    Fin nos, wrth gorlannu eu praidd;
Pan ganai y fwyalch ddyhuddgloch,
    Hwy aent i noswylio bob un;
A beth foddai segur bendefig
    Y castell am noson o’u hun?

“Chwareuai eu plant ar yr aelwyd,
    Eu chwarae, fel ŵyn ar y ffridd
Eu hoffter oedd torri eu henwau
    Ar wyneb y pantlawr o bridd;
A mynych, ar hirnos o aeaf,
    Y clywech eu canu fin hwyr
Ac yna tawelwch gweddïo
    Ar bopeth - y nefoedd a wyr.

“Cyfannedd, fy mhlant, oedd y mynydd
    Gan rywrai, cyn plannu y coed,
Hyd angladd hen Yswain y castell,
    A’r dydd daeth Llawhaiarn i’w oed
’Mhen mis ar ol hynny, daeth rhybudd
    Ymadael, ar wŷs ac ar fant
Aeth tadau a mamau i wylo,
    A safodd chwareuon y plant.

“Tan ergyd y gwae, y nos honno
    Bu eiriol wrth ddrysau y nef
A thrannoeth - wrth ddrysau Llawhaiarn,
    Ond byddar fel tynged oedd ef
Ni fynnai fod mwy mewn cyfiawnder
    Na gwneuthur a fynnai ei hun; -
Cyfiawnder yw chwalu cartrefi,
    Os gwell yw petrisen na dyn.


Mi gofiaf i ’medd yr ymadael -
    Ar nos Galangaeaf bu hyn;
Edrychai y lloer yn dosturiol
    A’r ddaear gan farrug yn wyn -
Edrychai ar gaethglud yr ormes
    Yn symud, fel angladd y byw
Heb do, ond y nef wrth eu pennau -
    Heb gyfaill yn unman, ond Duw.

Ymlaen elai’r wledd yn y castell,
    A gwinoedd Llawhaiarn yn waed
Ymlaen elai’r ddawns, a chalonnau’r
    Tyddynwyr yn ysig dan draed;
O Dduw! pam goddefir i fympwy
    A thrais gael diffeithio y byd?
Ai byth y bydd bywyd mor ddibris?
    Ai byth y bydd Rhyddid mor ddrud?

Yr ydych yn teimlo, fy mechgyn,
    Mi welaf eich dial yn fflam
Yn cynneu yn wyllt yn eich llygaid,
    Wrth wrando ystori y cam;
Mynegwch hi’r nos i fy ŵyrion,
    Gan ddweyd fel y dwedai eich tad -
Boed melltith ar gastell Llawhaiarn,
    A’r felltith yn fendith i’w had!”

-----------------------------------------------------------------------------------

(x5) Telynegion Bywyd. GWYLAN

YN ymyl y môr y mae caban,
    Un caban yn ymyl y môr
Ei gerrig yn llyfn ac yn wynion,
    A’r gwmon yn bêr wrth ei ddôr
Ac yno mae merch elwir Gwylan -
    Ieuengaf a thecaf ei thad;
Gwylanod y môr ei llateion,
    Ac erwau y môr ei hystâd.

Un lon fel chwerthiniad yw Gwylan,
    Chwareus, a pheryglus o ffraeth;
Nid dwyrudd liw’r ewyn sydd iddi,
    Ond dwyrudd liw tywod y traeth:
Chwiorydd yw’r awel a hithau -
    Hi’n felys, a’r awel yn hallt:
Mae glesni y môr yn ei llygad,
    A chrychni y môr yn ei gwallt.

Os serchus ei henw yw Gwylan,
    Mwy serchus yw Gwylan ei hun
Ni ellir ei gweld heb ei charu,
    Ond ni eill hi garu ond un:
Os Llion y cychwr y’m gelwir,
    ‘Waeth gennyf pa swynwr a ddaw -
Myfi bia gusan ei gwefus,
    Myfi bia’i chalon a’i llaw.
 
Ar ddistyll y trai, pan ollyngaf
    Fy nghwch o’i fordwyfa yn rhydd,
Bydd Gwylan yng nghysgod y caban
    Yn sefyll a’i llygad yn brudd
“Mae’r eigion yn ffals,” meddai wrthyf,
    “A llithiwr hudolus yw’r trai;
O Llion, ni fedraf ei garu,
    Heb garu fy Llion yn llai!”

Ond pan gyda’r llanw dychwelaf
    I’r gilfach, er gwell ac er gwaeth,
Bydd Gwylan, a’i llygad yn llonnach,
    Yn sefyll ar leithder y traeth:
Gwna gymod diwrnod a’r eigion,
    A geilw ei hofn yn beth ffol -
Mae Gwylan yn caru y llanw,
    Mae’n dyfod a Llion yn ol.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x6) Telynegion Bywyd. PRIODAS HUN

Ar fwsog lawr Mehefin
    Yng nghysgod onnen lâs,
Breuddwydiai rhiain ieuanc
    Freuddwyd am serch a châs.

Ai merch y lloergan ydoedd,
    Neu dylwyth têg y gwŷdd
Yn flin ar ol y nosddawns,
    Ac wedi cysgu i’r dydd?

’Roedd ganddi fysedd gwynion,
    Ac ar y gwynnaf un
’Roedd modrwy dyweddïad,
    Fel pleth o’i gwallt ei hun

Y gwallt ddisgynnai’n felyn
    Ddiofal, ar wahan
Dros lâs ei llygad caead,
    Yn fil pelydrau mân.

Breuddwydiai’r rhiain freuddwyd
    Hudolus dlws ac erch,
Yng ngofid llonnaf bywyd,
    Yng ngwynfyd chwerwaf serch.

Yng nghanol ei gwyryfon
    Yn wyryf gwelai’i hun;
Ei dydd priodas ydoedd,
    Ei dydd melysaf un.

Trwy’r dellt yr haul dywynnai
    Ar chwaer i’r lili wen
Trwy’r dellt, edrychai hithau
    Am nefoedd lâs uwchben.

Gwrandawai’r clychau’n canu,
    Fel gwnaethent lawer tro
A gwyddai fod ei henw
    Ar fin cariadau’r fro.

Ai’r cerbyd gwynfeirch heibio
    Yng nghanol llygaid syn;
Hi glywai sibrwd rhywbeth
    A’i gwnaeth yn wyn, yn wyn.

Arafai ger yr allor,
    Arafai yn ei braw -
Nid oedd priodfab yno
    Yn disgwyl am ei llaw.

”O Aled, Aled,” meddai
    Mewn syndod, trwy ei hun;
“Tydi, fy mhopeth puraf,
    Yn caru mwy nag un!

Breuddwydiai fod y galon
    Oedd ar ei modrwy’n ddwy;
A thoriad yn ei chalon
    Ei hunan oedd yn fwy.

Ni wybu ddim ond hynny -
    O’i hun deffrodd, o’i braw -
’Roedd modrwy serch yn gyfa’,
    A mab ei serch gerllaw.


-----------------------------------------------------------------------------------

(x7) Telynegion Bywyd. ORA PRO NOBIS

MAE’R curwlaw yn dallu
    Ffenestri fy nhŷ,
A thymestlwynt Tachwedd
    A gyfyd ei ru
Mae cedyrn y derlwyn
    Yn siglo i’w gwraidd,
A brefu am loches
    Wna ychen a phraidd -

     Ein Tad, cofiai’r adar
        Nad oes iddynt gell;
    Mae’r eira mor agos,
        A’th haf Di mor bell.


Mae’r gorlif yn ddisglair
    Hyd wyneb y fro
A gyrr y cymylau
    Fel gwersyll ar ffo
Gan ergyd y ddrycin
    Fy mwthyn a gryn
Gwell aelwyd na heol
    Ar noson fel hyn -

    Ein Tad, cofia’r arab
        A gwsg tan y lloer;
    Mae’i wisg ef mor deneu,
        A’th wynt Di mor oer.


Mae’r ewyn yn wyn
    Ar y mordraeth gerllaw -
Cyn wynned a dalen
    Y llyfr yn fy llaw -
A hed y gylfinhir
    Fel cri trwy y nef,
Gan ofn y rhyferthwy,
    A’i ddicter ef.

    Ein Tad, cofia’r morwy
        Rhwng cyfnos a gwawr;
    Mae’i long ef mor fechan,
        A’th fôr Di mor fawr.


-----------------------------------------------------------------------------------

(x8) Telynegion Bywyd. “ORA PRO NOBIS”



My windows are darkened
    By rain-storms without,
The gale of November
    Is raising its rout
The stalwarts of oak-forests
    Shake to their base,
The sheep and the oxen
    Crave sheltering place -

    Our Father, remember
        The birds in their woe
    So far is Thy summer,
        So near is Thy snow.


In flood o’er the valley
    The river gleams bright;
The clouds are swept onward,
    Like legions in flight
My cot feels the buffet
    Of squalls as they smite,
Yet, better the hearth - side
    Than street such a night -

    Our Father, remember
        The arab out there;
    So thin is his garment,
        So biting Thy air.


The white foam is fringing
    The edge of the sand,
As white as the leaflet
    I hold in my hand
The curlew above us
    Is whirled, like a cry,
In fear of God’s tempest
    And anger on high.

    Our Father, remember
        The sailor by night;
    So vast is Thy ocean,
        His vessel so slight.


Cyfieithydd -
J. W. WYNNE-JONES, M.A.,
Ficer Caernarfon.


-----------------------------------------------------------------------------------

(x9) Telynegion Bywyd. MUN AC OENIG

GWELAIS hi ar fin y traeth,
    Yn y mis blodeuai’r perthi;
Geneth fwyn â llygad ffraeth,
    A’r gwefusau cochaf ganddi.

Cawsai, pe fel llawer mun,
    Gymaint arall o fodrwyau
Ag oedd yn ei gwallt ei hun,
    Gan gynifer o gariadau.

Yn ei chanlyn fel peth hoff,
    Pleth o flodau am ei gwddw,
Yr oedd oenig fechan gloff,
    Elwid ganddi wrtlh ei henw.

Pethau ieuainc oedd y ddwy,
    A chwareuent mor ddiniwed,
Fel yr oedais beth yn hwy -
    Haws oedd oedi nag oedd myned.

Safai’r oenig fach yn gall,
    Rhedai, safai am gydymaith;
Brefai’r oenig, chwarddai’r llall -
    Yna rhedai’r ddwy ar unwaith.

Ni fu chwarae gwell erioed,
    Na dedwyddach, nes i’r oenig
Golli ei hanafus droed
    Ar y gwmon llyfn a llithrig.
 
Heibio’r greiglan, dacw hi
    Yn diflannu yn yr ewyn -
Clywais frêf, a chlywais gri,
    A bu’r don yn fwyfwy brigwyn.

Crynai’r eneth ar y lan,
    Yn y llif y crynwn innau
A rhyw fywyd ofnus, gwan -
    Hwnnw’n crynu yn fy mreichiau.

Gwnes beth difraw, gwnes beth ffol,
    Ond yr oedd y fun mor brydferth
A chyn mynd o’r traeth yn ol,
    Cefais fwy na gwerth y drafferth.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x10) Telynegion Bywyd. “NADOLIG LLAWEN”

          I.

BOED eich Nadolig
    Yn gân i gyd;
Eira neu beidio,
    Gwyn fo eich byd;
A byddwch yn blant
    I’r hên Ddraig Goch -
Yn Gymry pur
    Ble bynnag y b’och.

          
II.

Boed lon dy lys,
    Boed lawn dy wledd;
A chofia flys
    Yr hwn na fedd.

           III.

Cadw’th Nadolig, fy mrawd,
    O newydd i Fab y Dyn;
Câr dy gymydog, fy mrawd,
    A châr ef fel ti dy hun.

A phan wrth dy fwrdd, fy mrawd,
    Ai prin ai helaethwych fo -
Cadw dy friwsion, fy mrawd,
    I’r frongoch a llwyd y tô.


-----------------------------------------------------------------------------------

(x11) Telynegion Bywyd. GOBAITH

LLONNAF o’r engyl wyt ti,” medd Duw -
Dos i ddiddanu calonnau briw.”

Ac yntau Gobaith, mor wyn a’r wawr,
I seren Ofnau a ddaeth i lawr.

Efe sy’n canu goruwch y crud,
Holl hwian gerddi melys y byd.

Mwyn ei addewid yn nhrallod dyn -
Oni ddwg hanner bob croes ei hun?

Erys yn olaf gerllaw yr Yw
I sychu’r deigr uwch blodau gwyw.

Ni ddaw ymhellach na phorth y Nef -
Gweini’n y byd yw ei nefoedd ef.


-----------------------------------------------------------------------------------

(x12) Telynegion Bywyd. CREDO

YN Ei nef mae Duw -
    Yn y goleu cannaid,
    Pur, nad eill seraffiaid
Ddyfod ato a byw.

Yno’n wyn Ei fyd,
    Clyw berffeithgan engyl
    Rhwng y pyrth o beryl,
Clyw riddfannau’r byd.

Iê, i lygaid Duw
    Nid oes dim hy fychan -
    Gwel y cread cyfan,
Gwel fy meddwl briw.

Mwy na’i Orsedd fawr
    Yw Ei galon dyner;
    Trig y goruchelder,
Gwyr am lwch y llawr.

Yn Ei nef mae Duw,
    Eto ca y cydfyd
    Le yn Ei feddylfryd -
Onid cariad yw?

-----------------------------------------------------------------------------------

(x13) Telynegion Bywyd. GWÊN Y MARW

I’R ystafell aem yn ddistaw,
    Un ac un,
Heb ddywedyd dim i dorri
    Ar ei hun.
Yno llaw amddifad blentyn,
   Tan ei graith,
Dynnai’r caead a’r llieiniau’r
    Olaf waith.
Gwelem tanynt mewn tangnefedd
    Wyneb tad;
Syllem, synnem ar ei degwch,
    Heb nacad.
Wylai’r ieuainc gan y dwyster,
    Wylai’r hên;
Ar wynepryd un yn unig
    Yr oedd gwên.
Cannaid weddnewidiad angau
    Ydoedd hi
Gwên arhosai i oleuo’n
    Gofid ni.
Gwyn eu byd y llygaid hynny
    Oedd ynghau;
Tlws gan wawrddydd anfarwoldeb
    Oedd y ddau.
Fyrred, ac mor ddiflanedig
    Gwên y byw;
Gwên yr arch - gwên olaf, hwyaf,
    Bywyd yw.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x14) Telynegion Bywyd. YN ERW DUW

Cu oeddit gennyf fi, fy nhad,
Cu oeddwn innau gennyt ti -

O! boed fy moes fel moes fy nhad,
A boed ei Dduw yn Dduw i mi.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x15) Telynegion Men. MEN

YN yr allt ar lannau Dwyfor
    Y cyfarfum â fy Men,
Clychau’r gôg oedd yn ei dwylo,
    Gwallt fel heulwen ar ei phen;
Tecach oedd na neb a welswn
    Yn rhodianna yn y coed -
O! mi deimlais yn fy nghalon
    Beth na wnes erioed.

Yn yr allt ar lannau Dwyfor
    Ar foreau wedi hyn,
Bum yn un o ddau yn casglu
    Clychau glas i ddwylo gwyn;
Onid oedd yn drafferth felys,
    Hedfan fel rhyw loyn hâf? -
O! ni fum erioed cyn llonned,
    Nac erioed mor glâf.

Yn yr allt ar lannau Dwyfor
    Tyf y glaslwyn f el o’r blaen
A chwedleua’r don barablus
    Chwedlau serch wrth rô a maen;
Hoff gen’ innau’r eneth honno
    A gyfarfum yn yr allt
Gyda’r clychau yn ei dwylo,
    Gyda’r heulwen yn ei gwallt.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x16) Telynegion Men. HYD FIN Y MAES, YM MIN YR HWYR

HYD fin y maes, ym min yr hwyr,
    Rhodiannai dau yn wyn eu byd
Ac iddynt, caru ‘r oedd y sêr,
    A chartu’r oedd ysgubau’r ŷd:
Gwna serch erioed bob dau yn ffol,
    Gwna serch erioed bob dau yn ddall;
Pwy rodiai’r maes ym min yr hwvr?
    Myfi oedd un, a Men y llall.

Y mis pan oedd y berth yn lâs,
    A’r mis pan oedd gari eira’n wen,
Rhodiannai’r wenlloer gyda’r sêr,
    Rhodiannwn innau gyda Men:
Rhy fyr i serch yw hirddydd haf,
    Rhy hir yw’r disgwyl byrra’ erioed
Ac am y ddau pwy wyddai’n well
    Na’r llanc a’r eneth ddeunaw oed?

Cynhaeaf arall welais i -
    ’Roedd chwerthin yn y llwyni cnau -
Ond Men, a’i dwyrudd fel y lloer,
    Yn son am fedd a chartre’n cau
Hyd fin y maes, ym min yr hwyr,
    Rhodiannai dau yn fud, yn tud
Ac iddynt, wylo ‘r oedd y sêr,
    Ac wylo ‘r oedd ysgubau’r ŷd.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x17) Telynegion Men. BOB NOS OLEU LEUAD

BOB nos oleu leuad,
    Fel deuai’n ei thro,
Rhodianna i garu
    Wnai deuoedd y fro;
Mordwyo wnaem ninnau
    O gilfach y gro

Mordwyo, mordwyo,
    O gyrraedd, o glyw,
Myfi wrth y rhwyfau,
    A Men wirth y llyw.

’Roedd cariad yn ieuanc
    A ffol ar y pryd,
Y môr oedd ei degan,
    A’r cwch oedd ei grud,
A difyr oedd chwarae
    Hyd wyneb ei fyd;

Mordwyo, mordwyo,
    A’r galon yn llon;
A’r lloergan fel barrug
    Y môr ar y don.

Mwy hoff na chwedleua
    Ac eistedd tan bren,
Oedd gwrando chwerthiniad
    Y tonnau, gan Men,
Neu gri y gylfinhir
    A’r wylan uwchben;

    Mordwyo, mordwyo,
        O olwg y tir,
    A’r rhwyfau ar brydiau
        Yn sefyll yn hir.

Rhyw Ros oleu leuad
    A ddaeth yn ei thro,
Rhodianna i garu
    Wnai deuoedd y fro
Mordwyo wnaem ninnau
    O gilfach y gro;

    A gwnaethom cyn dychwel
        Y llw i gyd-fyw -
    Myfi wrth y rhwyfau,
        A Men wrth y llyw.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x18) Telynegion Men. CARTRE'R HAF YW DEFFROBANI

CARTRE’R haf yw Deffrobani,
    O na ddeuit, Men,
Gyda mi i chwilio am dani
    Yn fy rhwyflong wen:
Hwnt i fôr y mae yr ynys,
    Hwnt i lawer tir;
Ond gwnai serch y siwrnai’n felys,
    Er yn siwrnai hir.

Gardd y byd yw Deffrobani,
    Wennaf Ynys Wen;
Tyrr y wawr yn ei ffenestri,
    Cod dy angor, Men:
Oni hoffet fyw ar ddiliau
    Gwell na breuddwyd bardd?
Cysgu ar welyau blodau,
    Heb i neb wahardd?

Glâs yw daear Deffrobani,
    Glasach yw ei nen;
Glâs yw’r don sy’n curo arni -
    O! na ddeuit Men:
Caem fordwyo hyd y glannau
    Tan oleuach sêr
Gydag awel yn yr hwyliau
    Oddiar lysiau per.
 
Tŷf y palm yn Deffrobani,
    A phob prydferth bren;
Haf o hyd sydd yn ei llwyni -
   Gwna’r adduned, Men:
Pe na bai o fewn yr ynys
    Neb ond ni ein dau,
Byddet ti a minnau’n hapus,
    ’Fory - paid nacau.


-----------------------------------------------------------------------------------

(x19) Telynegion Men. PE BAI GENNYT SERCH

Pe bai gennyt serch at dy fardd, fy Menna,
    Ti ddaethet fel cynt;
Rhwng llwyni y brwyn a gwmon Gorffenna’,
    A’th wallt yn y gwynt;
Mae cleyn y môr yn holi am danat,
    Pan elwyf fy hun;
A phet a ddywedaf am nad wyt yn dyfod,
    Fy mun, fy mun?

Mordwywr, fel cynt, sydd ar lif yr afon -
    Yn ddeuoedd fel cynt;
A’u dwylo y’mhleth, fel y rhwyfau gwynion
    Y’mhleth yn y gwynt:
Mae cymar gan bawb - gan fordwywyr a gwylain - 
    A mi heb yr un!
Gwyn fyd na ddychwelit i’m cwch ac i’m calon,
    Fy mun, fy mun.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x20) Telynegion Men. HOFFAIS DI YN IEUANC, MEN


HOFFAIS di yn ieuanc, Men,
    Gŵyr fy nghalon a’th un dithau:
Cyn i’th Ebrill lithro, Men,
    Cyn i’th flagur dorri’n flodau;
Onid fi, tan gaead bren,
    Gafodd gynta’th gusan felys,
Cyn i’r gwenyn gwylltion, Men,
    Unwaith ddisgyn ar dy wefus?

Hoffais di yn hoffach, Men,
    Fore’r dydd y’th welais lonnaf
Yn dy wyn yr oeddit, Men,
    Yn dy flodau, fel Gorffennaf
Glasliw oedd y nef uwch ben,
    Fel dy lygaid llaith, teimladwy;
Ger yr allor gwridet, Men,
    Ond dy chwaer oedd bia’r fodrwy.

Hoffais di’n dynerach, Men,
    Pan oedd craith ar y dywarchen;
A phan safet tithau, Men,
    Yn y fynwent gyda’r ywen;
Gwelais yno’th wefus wen
    Oedd gynefin â thrallodion;
Wylet fel y gawod, Men -
    Wylwn innau yn fy nghalon.

Hoffais di yn ieuanc, Men
    Cyn i’th flagur dorri’n flodau;
Hoffais di drwy bopeth, Men,
    Drwy dy wên a thrwy dy ddagrau.
Doed a ddel o honot, Men,
    Ni eill neb dy garu eto
Fel y gwnaeth dy Alun, Men,
    Fel y gwna dy Alun heno.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x21) Telynegion Men. TAN DY LEWYRCH, LEUAD IEUANC

                I.
TAN dy lewyrch, leuad ieuanc,
    Yn nhawelwch min yr hwyr,
Y seliasom, Men a minnau,
    Lw’r cyfamod - Duw a wŷr:
”Ti a fydd fy mhriod bellach,”
    Meddwn wrthi, “doed a ddel;
Bydd y lloer yn dyst o’r amod,
    Dyma’r fodrwy - dyma’r sêl.”

                II.
Tan dy lewyrch, leuad ieuanc,
    Ar ol misoedd blin i Men,
Y siglasom law ddiweddaf,
    Fin wrth fin, dan frigog bren
Clywem chwerthin y medelwyr,
    Yn y maes cynhaeaf draw
Ond nid chwerthin oedd ar galon
    Dau mor hoff wrth siglo llaw.

                III.
Tan dy lewyrch, leuad ieuanc,
    Ydwyf heno hebddi hi,
Fel aderyn heb ei gymar -
    Menna a’m gadawodd i;
Nid i garu rhywun arall,
    Wrth y llyn, na than y pren
Ar y garreg - medraf ddarllen
    Tair llythyren enw Men.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x22) Telynegion Serch. Y BLODYN GLÂS


HOFFTER bardd a llatai’r galon,
    Tlws gan natur a chan Serch
Galwant ef yn Nad-fi’n-anghof -
    Enw taerni mwynaf merch.

Glasach yw na’r nefoedd lasaf,
    Glasach yw na’r môr ei hun:
Sut y medraf lai na’i garu?
    Llygad glâs sydd gan fy mun.

Pe bai’r ddaear heb friallu,
    Byddai’r haf yn haf i mi;
Byddai lliw y môr a’r nefoedd
    Yn ei lygad ef a hi.

O,  ni fedraf lai na’i garu,
    Flodyn glas yn anad un;
Oni wn am gymar iddo?
   
Llygad glâs sydd gan fy mun.

Digon yw o lythyr caru,
    Pan ar ddalen wen y daw,
Os bydd tano enw Rhywun
    Wyf yn adwaen wrth ei llaw.

Gall fod rhywrai’n beio arnaf -
    Ni waeth gennyf fi pa un;
Gwn nas gwnaent pe’n cofio unpeth -
    Llygad glâs sydd gan fy mun.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x23) Telynegion Serch. BLODAU A SERCH

GWYNNODD yr afallen,
    Lawer tro, fy merch,
Er pan safem dani
    Yn ieuenctid serch
Heno blodau ereill
    Welaf uwch fy mhen,
A chariadon ereill
     Chwarddant dan y pren.

Er ein cariad cyntaf
    Gwelsom ddeuddeng Mai,
Eto yn y galon
    Nid yw serch yn llai:
Er heneiddio’r blodau
    Ceidw’r pren yr un -
Gwreiddia serch yn ddyfnach
    Fel yr elo’n hŷn.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x24) Telynegion Serch. CARU HÂF

Ym mis briallu ac awel fwyn,
Mis glesni gwybr a glesni llwyn;

Canai yr adar, yng nghoed y fro -
Canent a chanent, drwodd a thro.

Canai mwyalchen yn llwyn y ty,
Un gylfin melyn ac aden ddu -
Arafai weithiau i drwsio’i phlu.

Mwyalchen unig, heb ganddi fun,
Canai am gymar heb gael yr un.

I’r llwyn, ryw fore yn llewyrch haul,
Daeth gwcw nwyfus i blith y dail -

Canodd ei deunod am hafaidd hin,
Llediaith y Dehau oedd ar ei min.

Hoffodd y fwyalch y gwcw gu,
Hoffodd y gwcw y fwyalch ddu,
A nythu wnaethant yn llwyn y ty.

Bore cawodog, a haul ar fryn,
Rywbryd yn Ebrill neu Fai oedd hyn.

Canai y gwcw, tan lâs y nen,
Canai, hedfanai o bren i bren.

A chanai’r fwyalch ei serch i’w mun -
Canai yn effro a thrwy ei hun.

Canol Mehefin ar fyr a ddaeth,
Canol Gorffennaf - a’r hafddydd aeth.

Yna bu helynt, a helynt flin -
Canfu y gwcw ddalen fach grin;
A’i chalon oerodd mor oer a’r hin.

“Dalen y gaeaf yw hon,” medd hi,
“Hafddydd - dim gaeaf, dim serch, i mi!”

Clywsai draddodiad yng ngwlad yr ha’
Am aea’r gog’ledd - gaeaf ac ia:

Trwsiodd ei haden ar fin y nyth -
Ni welodd y fwyalch mo’r gwcw byth.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x25) Telynegion Serch. HOLLT Y FELLTEN

                    I.
Mi wn am dderwen yn y ddôl,
    A hollt y fellten ynddi;
Mi wn am graith blynyddau’n ol
    Sydd dan y dail eleni
Mae’r gangen ddringwn gynt yn ddwy,
    A’r rhisgl wedi’i ddeifio;
Ac ni ddaw mesen ieuanc mwy
    O’r gainc ddolurus honno.

Fe saif y dderwen wrthi’i hun,
    A’i brig yn araf grymu,
A gwyr y plant na bydd yr un
    Aderyn ynddi’n nythu;
Tan awel fwyn a haul yr haf,
    A thyner wlith yr hwyrnos,
Dihoeni mae y dderwen glaf,
    A’r graith, a’r graith yn aros.

                   II.

Myfi yw’r pren a welais ti
    A’i gangen wedi dyllio;
Mae gofid yn fy mywyd i
    Na’ ŵyr y byd am dano
Mae’r blwyddi’n awr yn amlhau,
    A’r fellten wedi diffodd,
Ond dal yn hir, yn hir heb gau,
    Mae’r galon a anafodd.

Ni chaea mwy - dywedaf pam,
    O lygad fy anwylyd
Y daeth y fellten, wedi cam,
    O gwmwl ei hwynepryd.
Mae’r graith yn aros, am fy mai,
    Ond dim aderyn llawen,
A minnau sydd, o Fai i Fai,
    Yn marw gyda’r dderwen.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x26) Telynegion Serch. YR AFAL MELYN

                     I.
MAE pren afalau yng nghoed fy ngardd,
    Ac arno un afal, mor felyn, mor felys;
Mae’r adar fu’n nythu ym mherllan y bardd,
    Yn canu eu hoffedd i’r afal cariadus;
         Ond caned yr adar ar ben y brigyn,
         Myfi bia galon yr afal melyn.

Gwelais yr afal yn flagur glâs,
    Ac nid oedd yr adar yn canu bryd hynny;
Gofelais am dano drwy’r barrug a’r ias,
    Cyn iddo felynu, cyn iddo felysu
        A chaned yr adar ar ben y brigyn,
        Myfi bia galon yr afal melyn.

                     II.
Mae’r ferch a garaf yn dêg o bryd,
    Ac unig yw hithau ar frigyn y teulu;
Mae ’nghyfoed yn hoffi ei thegwch i gyd,
    A phawb yn ymryson am gael ei chusanu
        Ond caned a gano glod fy anwylyd,
        Myfi bia galon fy nghariad hefyd.

Cerais hi gyntaf yn rhiain fach,
    Yn nhlysni plentyndod, ym mlagur ieuengoed;
Bum iddi yn gysgod yn glaf ac yn iach -
    Ar ereill bryd hynny ’roedd llygaid fy nghyfoed
        A chaned a gano glod fy anwylyd,
        Myfi bia galon fy nghariad hefyd.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x27) Telynegion Serch. SERCH

HEDAI dau aderyn
    Hwyrol tros y ddaear;
Clywn y naill yn galw,
    Galw ar ei gymar -

O, mae serch ym mhopeth
    Trwy y cread llydan;
’Châr yr un adeiyn
    Hedfan wrtho’i hunan.

Hedai’r ddau aderyn
    Heibio mewn cymundeb;
Clywn y naill yn galw,
    Clywn y llall yn ateb -

O, mae serch ym mhopeth,
    Pe bai dyn yn deall
Unig pob aderyn,
    Heb aderyn arall.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x28) Telynegion Serch. CYNNYG CALON


CYMER hi’n drysor,
   A chadw hi
Ceisiaf wneud hebddi,
    Os boddiaf di.

Cymer hi’n galon
    Gyfan, fy mun;
Ni fynnwn hanner
    Calon fy hun.

Cymer hi’n degan -
    Ond, gwybydd hyn:
Gall chwarae ei thorri,
    Ond aur nis pryn.

Cymer hi’n unig,
     Na chais ddim mwy;
Ni chydfydd calon
    Yn un o ddwy.

Anfon dy hen un
    Ar ffair, da thi
Gwna’r galon honno
    Y tro i mi.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x29) Telynegion Serch. HIRAETH

GYDA’R tês eleni eto,
   Galw wnaethost, alltud fach;
Dyfod ar dy aden heibio,
    Cyfarch gwell a chanu’n iach.

Dyna wnei ar hyd y blwyddi,
    Fel aderyn glas yr haf
Trydar ennyd i fy llonni,
    Yna ’ngado’n fwyfwy claf.

Nid wy’n cofio dydd croesawu,
    Nac yn cofio dydd mwynhau,
Heb fod bore’r ymwahanu’n
    Taenu’i gysgod dros y ddau.

Oni fuom fwy na digon
    Yn dy ddanfon i dy daith?
Onid yw fy nghalon wirion
    Am bob tro yn dwyn ei chraith?

Dywed im’, pa bryd y deui
    Yma i aros, alltud fach?
Pryd y deui i orffwyso
    Cyfarch gwell heb ganu’n iach?

-----------------------------------------------------------------------------------

(x30) Telynegion Serch. MERCH Y FELIN

GERLLAW y bompren, ddoe,
   Mi sefais i enweirio;
Ac fel tywyniad haul
    Daeth merch y felin heibio.

Arafodd i fy ngweld,
   Gan bwyso ar y canllaw,
A swp o flodau maes
    A rhedyn rhwng ei dwylaw.

Ni welais ddim erioed
    Mor lâs a than ei haeliau;
Ni welais ddim erioed
    Mor felyn a’i llywethau..

Meddyliais am y môr,
    Ond nid oedd ton cyn lased -
A’r tywod ar y traeth,
    Ond nid oedd cyn felyned.

Wrth syllu ar ei llun,
    Yn nwr y llyn o tani,
Mi deimlwn fel pe bai
    Fy nghalon bron a boddi.

Ni wyddwn, gan fy serch,
    Lle’r oeddwn i yn sefyll;
Ac ni ofalwn ddim
    Am eog nac am frithyll.

Ergydio’r dwr wnai’r plyf,
    A glynu yn y cangau
Ergydio wnai fy ngwaed,
    A glynu wnelwn innau.

Eiriolwn fel pe bawn
    Yn eiriol am ymwared,
“Dos ymaith benyd hardd” -
    Ond ofnwn iddi fyned.

“Dos, ynte symud gam,
    Yn lle bod yn dy unfan,”
Ni syniwn ar y pryd
     Y medrwn fynd fy hunan.

A glywodd hi y gair?
    Ni wn i ddim am hynny,
Ond mynd wnaeth hi a’i llun,
    A minnau’n edifaru.

Ai tybed bu erioed
    Enweirio mor ysmala?
Y pysg yn chwareu’n rhydd,
    A minnau wedi ’nala!

-----------------------------------------------------------------------------------

(x31) Telynegion Misoedd. IONAWR

WYT Ionawr yn oer,
    A’th farrug yn wyn
A pha beth a wnaethost
    I ddwr y llyn?
Mae iâr fach yr hesg
    Yn cadw’n ei thŷ,
Heb le i fordwyo
    Na throchi ’i phlu.

Wyt Ionawr yn oer,
    A’th f arrug yn wyn
Ac nid oes uchedydd
    Na grug ar fryn;
O liaws y lawnt
    Ni welaf ond un,
O’r pridd wedi codi
    Fel pe drwy ‘i hun.

Wyt Ionawr yn oer,
    A’th farrug yn wyn
A sigli yr adar
    O frig yr ynn;
Ni cheir ar y coed
    Griafol fel bu -
Mae’r frongoch a’r fwyalch
    O dŷ i dŷ.
 
Wyt Ionawr yn oer,
    A’th farrug yn wyn
Ac ni fedd pawb aelwyd
    Ar hin fel hyn;
Mae rhywrai heb dŷ,
    A rhywrai heb dân,
A rhywrai heb fara,
    Na chwsg, na chân.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x32) Telynegion Misoedd. CHWEFROR

CHWYTH, aeafwynt, fel y mynnot, -
    Cryn fy ffenestr a fy nôr
Plyg y deri fel mieri -
    Dyro ddawns i longau’r môr;
Byr yw dydd a dyddiau Chwefror,
    Cynt y dâl yr hwyr na’r wawr;
Chwyth y crynddail hyd y cwmwl,
    Chwyth y ceinciau hyd y llawr.

Yn dy rwysg ac yn dy ryddid
    Tros y Cnicht a’r Moelwyn chwyth;
Cadw’r moethus yn ei gaban,
    Cadw’r neidr ar ei nyth;
Câr y wennol awel feddal,
    Car y gloyn glaear si,
Caraf finnau’th ruad dithau -
    Edn y ddrycin ydwyf fi.

Chwyth, aeafwynt, fel y mynnot, -
    Cladd y mynydd dan y lluwch,
Cladd y môr o dan yr ewin,
    Chwyth, aeafwynt, eto’n uwch;
Ond pe clywit ar ryw dalar
    Oenig cynnar yn rhoi brêf,
Tro oddiwrth y dalar honno,
    Paid a chwythu arno ef.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x33) Telynegion Misoedd. MAWRTH

BETH a welais ar y lawnt,
    Gyda wyneb gwyn, edifar?
Tlws yr eira, blodyn Mawrth,
    Wedi codi yn rhy gynnar.

Beth a welais ar y llyn,
    Rhwng y dwfr a brig yr onnen?
Lliw a modrwy brithyll Mawrth -
    Ple mae’r enwair, ple mae’r bluen?

Beth a welais ar y twyn?
    Wyneb oen, y cynta eleni:
Onid oen yw Mawrth ei hun
   Pan fo’r ŵyn yn cael eu geni?

Beth a welais yn y dref?
    Mynwent gyda’i phorth yn ddatglo;
Aed y claf o’i dŷ ym Mawrth,
    Ni ddaw’n ol i gysgu yno.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x34) Telynegion Misoedd. EBRILL

                I.
MEDD y bardd yn wyn ei fyd -
    “Wele Ebrill glas ei lygad”;
“Wele Ebrill,” medd y byd,
    Trwy ei flodau hanner-caead.

“Ti, freuddwydiwr, gwrando, saf,” -
    Medd aderyn yn y berllan;
Cana lawen garol haf,
    Wedi gŵyl o flwyddyn gyfan.

“Fardd y blodau, wele fi” -
    Medd briallen yn y cysgod;
Hoff gan bawb ei hwyneb hi,
    Blentyn llonnaf haul a chawod.

Yn y galon, yn y pridd,
    Nid yw bywyd fud na byddar;
Dywed cân a llygaid dydd
    Deimlad dyfnaf dyn a daear.


                   II.
Pwy fu neithiwr hyd y ddâl,
    Mewn sandalau aur ac arian?
Pwy fu’n galw’r dail yn ol,
    Ac yn llithio’r blodau allan?
 
Gyda’i dylwyth têg y daeth
    Heibio eleni fel y llynedd
Gwyn ei lwybr fel y llaeth -
    Mwyn ei dymer fel rhianedd.

Cân mwyalchen yn yr ardd,
    Rhwng y blagur ar y perthi;
Gydag Ebrill pwy na chwardd?
    Ber yw’r gawod - hwy yw’r glesni.

Gâd dy do, dy wyneb cul,
    Tro i wrando cainc mwyalchen
Onid gwell yw cân na chnul?
    Calon iach yw calon lawen.

Cyfod, heuwr, dôs i hau,
    Oni weli seithliw’r enfys?
Ni ddaw bendith o nacâu,
    Ni ddaw bara i esgeulus.

Gwr êl allan cyn y wawr,
    Pan fo’r briall yn eu tymor,
Fed ei faes ar decach awr -
    Gasgl ei wenith i’w ysgubor.

                    III.

Glâs yw wybyr Ebrill,
    Glâs fel llygad Men -
Mae enfys ar y cwmwl,
    A blagur ar y pren.

Croesaw fis diferion
    A phelydr bob yn ail;
Tyred gyda’th flagur,
    A thyred gyda’th ddail.

Gwyn yw wyneb Ebrill,
    Gwyn gan lygaid dydd;
A pha sawl llwyn briallu
    Ym min y ffordd ymgudd?
Croesaw fis y meillion,
    A mis yr oen a’r mynn;
Tyred yn dy felyn,
    A thyred yn dy wyn.

Gwin yw awel Ebrill -
    Pob aderyn ŵyr,
O’r hedydd gân y bore,
    I’r mwyalch gan yr hwyr;
Gwyn dy fyd, aderyn,
    A thithau bren a dardd
Gwyn fyd pawb a phopeth
    Ond calon brudd y bardd.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x35) Telynegion Misoedd. MAI

GWN ei ddyfod, fis y mêl,
    Gyda’i firi yn yr helyg,
    Gyda’i flodau fel y barrug -
Gwyn fy myd bob tro y dâl.

Eis yn fore tua’r waen,
    Er mwyn gweld y gwlith ar wasgar,
    Ond yr oedd y gwersyll cynnar
Wedi codi o fy mlaen.

Eistedd wnes tan brennau’r Glôg,
    Ar ddyfodiad y deheuwynt;
    Edn glâs ddisgynnodd arnynt
Gan barablu enw’r gôg.

Ni rois gam ar lawr y wig
    Heb fod clychau’r haf o tano,
    Fel diferion o ryw lasfro
Wedi disgyn rhwng y brig.

Gwn ei ddyfod, fis y mêl,
    Gyda’i firi, gyda’i flodau,
    Gyda dydd fy ngeni innau -
Gwyn fy myd bob tro y dêl.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x36) Telynegion Misoedd. MEHEFIN

MELYS rhodianna
    Hyd faes Mehefin,
Pan ddychwel rhegen
    Yr ŷd i’w chynhefin;
Melys lluestu
    Tan onn a bedwen,
Pan fo’r dail fel cwmwl
    Rhwng gallt ac wybren.

Melyn yw’r banadl
    Ar draeth y Laslyn,
Teced ag enfys
    Ar lawr y dyffryn;
Cyfyd y llinos
    Ei thŷn yr eithin;
A deffry uchedydd
    Ym mrwyn Mehefin.

Nwyfus gan fywyd
    Yw nant ac awel,
O wawr ar fynydd,
    Hyd hwyr yr orwel;
Gwrendy y weirglodd
    Am lais y bladur,
A phrennau y berllan
    Nid ydynt segur.

Eirin ar lwyni,
    A phlant yn chwerthin;
Pa fis ddifyrred
    A mis Mehefin?
Cynnes ei hirddydd,
    A mwyn ei lasdon;
Hoffus ei enw
    Ar fin cariadon.

                   II.
Onid yw’r caeau yn wyrdd, yn wyrdd,
    A melyn eithin
    Tan haul Mehefin
Hyd fin afonydd a min y ffyrdd?

Onid yw’r suon yn fwyn, yn fwyn, -
    A beth mor dirion
    A thrydar cywion
O bebyll adar yng nghoed y llwyn?

Onid yw’r wennol, fu c’yd ar ffo,
    Yn ei chynhefin
    Yn nhês Mehefin,
Wedi anghofio fod tecach bro?

Onid yw’r blodau yn hardd, yn hardd,
    Yn y gwelyau -
    Ar frig y prennau -
A’u harogl esmwyth yn llenwi’r ardd?

Onid yw’r ddaear i gyd, i gyd,
    Fel pe yn chwerthin
    Tan haul Mehefin, -
A phwy chwenychai ddifyrrach byd?

Mae’r fro’n llifeirio o gân a mêl,
    Y bardd mewn breuddwyd
    Am ardd a gollwyd,
A Duw ym mhopeth i’r sawl a wêl.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x37) Telynegion Misoedd. GORFFENNAF

UN ohonoch, adar cerdd,
   Yw fy nghalon innau,
Pan y cwsg y glaswyrdd lwyn
   Uwch ei fil cysgodau;
Pa fo wyneb môr a nef
    Fel pe am y glasaf -
Gwae aderyn gân cyn pryd,
    Gwae na chân Gorffennaf.

Oni wnaed y fro yn ardd
    Heb yr un diffaethwch?
A phob gardd o fewn y fro’n
   Wyllt-dir o brydferthwch?
Fel y gloyn, clâf o serch
    Yw fy nghalon innau;
Gwn pa beth yw cael fy nal
    Yn nyrysni’r blodau.

Chwa Gorffennaf ddaw i’m
    Yn y bore melys,
Gyda neithdar maes a môr
    Ar ei lleithiog wefus;
Onid merch y môr a’r maes
    Yw fy nghalon innau;
Câr fugeilio’r gwenith gwyn,
    Câr gyfeillach tonnau.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x38) Telynegion Misoedd. AWST

WYNNED oedd maenol Mai,
    Gyda’i chynhaeaf blodau;
Gwynnach yw ydfaes Awst,
    Gyda’i fil-mil tywysennau.

Chwilied y llaw fu’n hau
    Bellach am fenn a chryman -
Esmwyth yw tonnau’r twf
    Cyn llifo i fewn i’r ydlan.

Onid ysgrepan fach
    Gadwai y grawn yn Chwefror?
Casgler corsennau Awst,
    Ac onid rhy fach yr ysgubor?

Ceinciau o dan eu ffrwyth,
    Ffrwythau o dan y braenar -
Pwy a ddyfalai fod
    Bechadur ar wyneb daear?

Erchwch i wŷr a phlant
    Eistedd ar lawr y lasfro;
Bu Duw yn cyflawni’r wyrth
    O borthi y miloedd eto.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x39) Telynegion Misoedd. MEDI

CROESAW Medi, fis fy serch,
    Mis y porffor ar y ffriddoedd;
Pan y ceni’th glychau mêl
    Casgl y gwenyn o’r dyffrynnoedd:
Os yw blodau cyntaf hâf
    Wedi caead yn y dolydd,
Onid blodau ereill sydd
    Eto ’nghadw ar. y mynydd?

Croesaw Medi, fis fy serch,
    Pan fo’r mwyar ar y llwyni,
Pan fo’r cnau’n melynu’r cyll,
    Pan fo’n hwyr gan ddyddiau nosi:
Tlws yw’th loergan ar y môr,
    Yn ymsymud ar y tonnau
Tlws yw’th loergan ar y maes
    Ym mhriodas yr ysgubau.

Croesaw Medi, fis fy serch,
    Clir fel grisial yw’th foreau -
Clir fel grisial er fod Duw ‘n
    Arogldarthu ar y bryniau:
Nid oes gwmwl ar y grug,
    Nid oes gysgod ar y rhedyn;
Pan y ceni’th glychau mêl,
    Cyrchaf finnau gyda’r gwenyn.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x40) Telynegion Misoedd. HYDREF

“CADWAF fy ngwyl,” medd bywyd,
    “Galwaf fy ngwyrdd yn ol;
Casglaf fy mlodau adref
    O’r mynydd, yr ardd, a’r ddôl” -
Clybu y maes a’r prennau,
    A rhywbryd rhwng hwyr a gwawr
Cyfododd y gwersyll blodau -
    Mae’r pebyll yn llwyd hyd lawr.

Caea y dydd ei lygad
    Cysglyd yn gynt a chynt;
Clywir lle bu’r uchedydd
    Ryferthwy y glaw a’r gwynt:
Crin y binwydden ieuanc,
    Cydia’n y mynydd mawr -
Ni ellir goroesi gaeaf
    Heb wreiddio yn ddwfn i lawr.

Cyfyd y môr ei donnau,
    Cyfyd yn uwch ei ru;
Tybed ddaw’r llong i borthladd,
    A’r morwr yn ol i’w dŷ?
Diolch i Dduw am aelwyd,
   A diolch i Dduw am dân;
Mae rhywrai heb dân nac aelwyd,
    Na chalon i ganu cân.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x41) Telynegion Misoedd. TACHWEDD

Pwy sydd yn dyfod fin nos i lawr,
A chuwch ar ei ael, dros y Moelwyn Mawr?
Gwyntyll y corwynt sydd yn ei law,
A thrwy ei lawrdyrnu yfory y daw;
Caeaf fy nôr nes dywedo’r wawr
Pwy syfl dylathau y Moelwyn Mawr.

Chwardd yn ei afiaith fel cawr mewn gwin,
A’i fantell am dano fel enfys grin;
Casgl y crinddail wrth swn ei droed
I’r aelwyd aniddos ym murddyn y coed:
Pwy sydd yn crechwen yn droiog flin,
A’i fantell symudliw fel enfys grin?

Cwsg yn anesmwyth, a sang bob bryn,
Cyn diosg ohono ’i sandalau gwyn -
Rhiain ei serch yw’r gelynen werdd,
Ac adar y ddrycin ei adar cerdd:
Pwy sydd yn cerdded o fryn i fryn,
Cyn diosg ohono ’i sandalau gwyn?

-----------------------------------------------------------------------------------

(x42) Telynegion Misoedd. RHAGFYR  
(Bu Tachwedd, 1902, yn fis prudd i mi: torrodd fedd i fy nhad.)

CASGL y nifwl, chwâl y nifwl
    Ei lywethau uwch y dref;
Nid oes swn ym mrig y morwydd -
    Nid oes belydr yn y nef:
Acw ar ei gorsen ysig
    Gwelaf un blodeuyn clâf -
Bu fy nhad fel yntau’n edwi,
    Edwi’n dlws fel ffarwel hâf.

Cryn yr eira, syrth yr eira
    Ar yr heol, ar y coed,
Nes yw’r ddaear fel y Ddinas
    Na lychwinodd neb erioed:
Cudd y graith ar y dywarchen,
    Fel na welwyf mo’ni hi;
Ond ni chudd yr eira gwynna’r
    Graith sydd ar fy nghalon i.

Cân y clychau, chwardd y clychau
    Yn eu dawns yn nhŵr y dref -
Ai fel hyn y ceidw rhywrai
    Heddyw Ei Nadolig Ef?
Heddyw wedi gŵyl a defod
    Ugain canrif namyn un,
Os yw Duw yn caru dynion,
    Nid yw dyn yn caru dyn!

-----------------------------------------------------------------------------------

(x43) Telynegion y Maes.
TRIOEDD Y MYNYDD

UCHEDYDD.
CERI’R glâs a cheri’r twyn,
    Codi a disgynni eilchwyl;
Rhaid fod rhywun yn y brwyn
    Yn.dy garu, yn dy ddisgwyl;
Gyda’th gân gadewi hi,
    Gyda’th serch doi’n ol i’r ddaear -
Canwn innau, fel tydi,
    Pe bai gennyf finnau gymar.

LLYN.
Onid wyt, i mi, fel deigryn,
    Gyll y mynydd mawr?
Cwsg y byd, - defnynni dithau
    Ddydd a nos i lawr:
Wyr y mynydd unig yntau
    Am ryw ofid cudd?
Mae ei galon fel f’un innau’n
    Wylo nos a dydd..

GRUG.
Gwyn dy fyd di, rug y mynydd,
    Gwyn dy fyd o wydd y dref;
Er dy fwyn mae haul a chwmwl,
   Gwlith y wawr a sêr y nef;
Gwyn dy fyd di, rug y mynydd,
    Heb yn ymyl un o’th ryw:
Ni ofeli dros yfory, -
    Gwyddost y gofala Duw.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x44) Telynegion y Maes. Y SÊR

Eis neithiwr heibio’r llyn,
    Gan edrych dan y feisdon;
Ac yno gwelais fil a mwy
    O berlau gloewon, gloewon.

Eis heibio gyda’r wawr,
   Gan feddwl casglu’r perlau;
Ond nid oedd drannoeth berl ar ol,
    Nac ol neb ar y glannau.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x45) Telynegion y Maes. BRIALLEN SUL Y BLODAU

UN fechan, croesaw, croesaw, -
    Ai ti yw’r unig un
I gofio Sul y Blodau,
    A deffro o dy hun?
Ni welais i un arall
    Ar hyd y llwybr troed
Briallen Sul y Blodau
    Heb gymar yn y coed.

Un fechan, aros, aros
    Yn hwy heb droi yn wyw;
Yr wyt rhy dlws i farw,
    Os wyt rhy wan i fyw;
Eleni oer yw Ebrill -
    Dy Ebrill cynta ‘rioed,
Heb lesni yn yr awyr,
    Heb lesni ar y coed.

Un fechan, gwywaist, gwywaist,
    O hiraeth cyn y wawr
Dy galon dyner dorraist,
    A dyma’th ben ar lawr
Mi daenaf fwsog drosot,
    A gwyliaf ar fy nhroed
Briallen Sul y Blodau
    Yn farw yn y coed.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x46) Telynegion y Maes. BARDD A BLODEUYN

CANODD bardd o genedl arall
    Gân i ti;
Yn ei ysgol, llai na’r lleiaf
    Ydwyf fi.

Eto canaf finnau ganig,
    Fyrred fydd,
Gan dy alw wrth dy enw,
    Lygad Dydd.

Leied wn i o dy hanes,
    Fywyd tlws!
Tithau yn gymydog agos,
    Ger fy nrws.

Ym mhle gwelwyd dy wynepryd
    Gyntaf un?
Drowyd dithan o baradwys
   Gyda dyn?

Sut y gwyddost ddyfod gwanwyn
    Heibio’r ffridd?
Eilw rhywun, “Cyfod, bellach,”
    Yn y pridd?

Byddi’n cau dy lygad, meddir,
    Yn yr hwyr;
Ai i gysgu a breuddwydio -
    Pwy a ŵyr?

Ai wyt ti yn bod, un bychan,
    Fel myfi?
Ynte cysgod ar fy meddwl
    Ydwyt ti?

A oes deimlad gan flodeuyn,
    Fel gan fardd?
Lonnir ef gan haul a chawod
    Nes y chwardd?

Pe bai rhywun yn dy fathru -
    Mynn neu oen
Dwed, a feddi galon fechan
    Deimlai boen?

Gyrraedd ymson bardd hyd atat,
    Wyn wrandawr?
Wyddost ti ryw beth am enaid
    Yna i lawr?

A! nid ydwyf er dy holi
    Ddoethach ddim
Gweni arnaf, ond ni roddi
    Ateb im’.

Cadw i siglo ar dy gorsen,
    Lygad Dydd
Mae yn Fai - tydi yn llawen,
    Minnau’n brudd.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x47) Telynegion y Maes. YSTYRIWCH Y LILI (Llyn y Garreg Wen)
(Ymson haf ar fin llyn y Garreg Wen.)

O, LILI’R dyfroedd - eiry’r llyn -
    Bob haf, yn nwfr y gilfach hon,
Mor dlws yw’th bluen fechan, gryn
    Heb doddi yn yr haul na’r don.

Y lariaidd wawr i’th ddeffro ddaw
    I dreulio’r hirddydd ar ei hyd
Yn syllu ar lyn y sêr uwchlaw,
    Fel un yn gweld tawelach byd.

Cyn nos, dy lygad gaei’n dynn,
    Ac yn dy galon rhagddi hi
Y cedwi’r dydd mewn purdeb gwyn -
    Nid oes na lloer na sêr i ti.

O, lili fechan! mae yn syn -
    Yn syn dy weld, mewn byd mor ddu,
Yn dyfod allan yn dy wyn -
    Ai angel yn dy blannu fu?

Mae’r llyn yn dywyll ar ei hyd,
    Wyt tithau yn ei ganol ef,
Fel enaid sant wrth newid byd,
    I lif y dwr yn tynnu’r nef.

Ar frys daearol, pa sawl un
    Aeth heibio i ti er y wawr,
Heb gofio am na Duw na dyn,
    Heb feddwl ond meddyliau’r awr?
 
A! bu yn werth gan Fab y Dyn
    Arafu ar Ei ffordd i’r groes
Uwchben blodeuyn wnaeth Ei Hun
    I ddysgu gofal Duw i’w oes.

Mor flin yw ffrwd y Garreg Wen -
    Ai onid yw ei murmur hi,
Ac oerni’r llyn o dan dy ben,
    Yn torri dy freuddwydion di?

Mae ffenestr fechan gennyf fi,
    A’i llygad gloew tua’r de;
Mwyn yw yr awel arni hi, -
    Pe mynnet, gallet newid lle.

Na. yn fy nhŷ ni allet fyw
    Heb oerni’r llyn o dan dy ben
Hiraethet hyd nes troi yn wyw
    Am furmur ffrwd y Garreg Wen.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x48) Telynegion y Maes. CYFARCH Y LLINOS
(I blant fy mro.)

CANAI llinos benddu’r eithin
    Neithiwr, ar y Morfa Mawr;
Uwch ei haelwyd fach o fwsog,
    Gyda’i Chrewr yn wrandawr;
Beth mor bêr a chan aderyn,
    Pan fo’r haf yn glasu’r byd?
Beth mor bur a serch aderyn,
    Pan fo’r Morfa’n aur i gyd?

Ewch, fy mhlant, i wrando’r llinos,
    Ond na thorrwch ar ei chân;
Ac na thorrwch galon llinos -
     Na rowch dŷ y dlos ar dân:
O, fy mhlant, i pe baech yn gwybod
    Fel gall llinos garu’i nyth,
Gwn nad aech ag ŵy ohono,
    Gwn na thynnech m’ono byth.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x49) Telynegion y Maes. MABINOGI

AR blygain ym mis Ebrill
    Neu Fai, - ni wn pa un -
A mi drwy’r dellt yn syllu,
    Rhwng trwmgwsg a dihun,
Mi welwn Rywun cynnar, -
    Yn rhodio yn yr ardd, -
Mor dêg a duwies ieuanc,
    Neu riain serch y bardd.

Pwy oedd i fod mor gynnar
    A hynny, tan y coed,
Ni wyddwn, - pwy’n fwy gwisgi
    Nag Olwen ar ei throed
Am dani yr oedd mantell
    O bali gwyrdd hyd lawr;
Ei gwallt fel cwmwl gwlithog,
    A’i llygad fel y wawr.

Edrychais arni’n rhodio
    Y llwybr ol a blaen,
Gan fwrw’i thrysor disglaer,
    O’i chaead law ar daen:
O dan y prennau safai,
    Gan gyffwrdd yn ei brys
A’r gwiail, heb eu siglo, -
    Mor ysgafn oedd ei bys.
 
Mi fynnaf wybod,” meddwn,
    “Pwy yw y Rhywun hardd
Agorais ddrws fy mwthyn -
    Agorais ddrws yr ardd:
Bu yn edifar gennyf
    Fy myned gam o’r tŷ;
Ni welais ddim ond bronfraith,
    Cyn canu’n trwsio’i blu.

Ond euthum hyd y rhodf a,
    Lle cerddai ol a blaen,
Gan fwrw’i thrysor disglair
    O’i chaead law ar daen;
Ac yno gwelwn flagur
    O felyn, gwyn, a rhudd;
Dau wely rhos a briall,
    A dau o lygaid dydd.

A sefais lle y safai,
    Gan gyffwrdd yn ei brys
A’r gwiail, heb eu siglo
    O dan ei hysgafn fys;
Ac ar y prennau’r ydoedd,
    Lle cyffyrddasai’r Rhith,
Ryw ddwylaw bychain gwyrddion
    Yn dal y gawod wlith.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x50) Telynegion y Maes. LIW DYDD, LIW NOS

    Ai hoff gennyt fyned, liw dydd,
        I ddeffro’r ehedydd i ganu?
    Ai hoff gennyt gyffro, liw dydd,
        Y grug lle mae’i gymar yn nythu?
               
A welaist ti ef,
A’i aden yn wlithog yng nghanol y nef?
                A glywaist ti ’i gân,
Tra’r cwmwl oedd rhyngoch yn wyn fel gwlan?

    Ai hoff gennyt fyned, liw nos,
        I ddisgwyl y sêr i dywynnu?
    Ai hoff gennyt wrando, liw nos,
        Ar fydoedd soniarus yn canu?
                A welaist ti Dduw,
O’r sêr i’r ehedydd ym mhopeth byw?
                A glywaist ti lef
Gyfriniol yng nghân a distawrwydd y nef?

-----------------------------------------------------------------------------------

(x51) Telynegion y Maes. PERTHI MAI

WEDI mynd o blu yr eira,
    Ereill ar y perthi gryn;
Onid ydynt fel breuddwydion
    Maboed, gyda’u golud gwyn?

Tlws yw’r dail fel gwerdd phylacter,
    Eddi gwisg o liain main;
Tlws yw’r blodau yn eu gwynder,
    Fel o serch yn cuddio’r drain.

Hoff yw gennyf flodau’r perthi
    Onid oedd eu brodyr hŷn
Yn blodeuo fis fy ngeni?
   
Blodyn Mai wyf fi fy hun.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x52) Telynegion y Môr. Y LLANW

                  I.

BETH yw’r llanw? Swyn y lloer
    Ar y dyfnfor yn ymsymud;
Yntau’n caru’r Wen yn ol,
    Ac yn ceisio ei anwylyd:
Unwaith, dwywaith yn y dydd,
    Tyrr ei galon ar y morfin;
Oni ŵyr y gwmon crin?
    Oni ŵyr y gro a’r cregin?

Beth yw’r llanw i dydi,
    Pan fo’n torri ar ei dywyn?
Nid yr un i bob gwrandawr
    Yw’r gyfrinach yn yr ewyn:
Gwrendy un ar lais y llif -
    Clyw y tonnau’n chwerthin, chwerthin:
Gwrendy’r llall, a beth a glyw?
    Mabinogi nos y ddrycin!

               
II.

Chwery plentyn ger fy mron,
    Marchog bychan un diwrnod
Gerllaw eddi gwyn y don,
     Cyfyd Gastell yn y tywod.

Crug o dywod, mur a thŵr,
    Caer o dywod i’w amddiffyn;
Pyrth o wmon llyfn y dwr -
    O, gadernid Castell plentyn!

Casgl y cregin i’w decau -
    Oni chlyw y llanw’n dyfod?
Hêr i’w Gastell gael ei gau
    Gan y môr, fel Cantre’r Gwaelod.

Ofer fu’r saernio hir, -
    Newid bryd wna’r arglwydd bychan;
Myn i’r llanw ennill tir
    Ar y Castell wnaeth ei hunan.

Chwardd y marchog, cymer ffon,
    A thyrr gamlas yn y draethell,
Er mwyn gollwng llif y don,
    Fel Seithenyn, at ei Gastell.

Beth yw’r môr, y glasfor maith, -
    Beth yw llanw’r môr i blentyn?
Onid tegan - tegan llaith?
    Cymar chwarae rhwng dau gyntun!

                   III.

Nawnddydd arall, ger y môr,
    Eistedd brenin yn ei gadair;
Corsen teyrnas yn ei law,
    Uwch ei arlais dalaith ddisglair:
Chwardd y feisdon oddi draw,
     Chwardd yr haul ar emau’i goron;
Yntau gan ei ddoethed chwardd -
     Chwardd y brenin yn ei galon.

Saff sidanog wŷr ei lys
    Ar y traeth, gan sisial wrtho -
“Rhaid i’r llanw, pan y’th wêl,
    Gilio’n ol cyn hanner llifo:
Nid yw’r môr yn fwy na’th air,
    Nid yw Duw yn fwy na’n brenin,” -
Yntau gan ei ddoethed chwardd -
    Chwardd y llanw yn y cregin.

Uwch a nôs y dâl y llif,
    Tros y tywod, tros y gwmon
Ac ni chymer arno weld
    Corsen aur a gemau’r goron
Ebe’r brenin wrtho’i hun, -
    “Min y traeth a ddysg ddoethineb;
     Os mai ffals yw gwŷr fy llys,
Nid yw’r môr dderbyniwr wyneb.”

Pan y sisial ar y traeth,
    Ond ni phaid y tonnau lifo,
Hyd nes gylch y nawfed don
    Odre’r brenin, gan ei leithio:
“Gwelwch,” ebe yntau’n ddoeth,
    Gan ostegu’r mwynder seithug,
“ Nid yw’r Llanw ‘n ofni teyrn,
    Nid yw mawredd ond dychymyg.”

                   IV.

Geilw y llanw ym mhorth y môr,
    A chlywir ohoian ym mrig y dydd:
“Codwch yr angor i fwrdd y llong,
    Gollyngwch garcharor y trai yn rhydd;
Taenwch y lliain i gyd ar led,
    Mae’r awel, fy mechgyn, a’r llif o’n tu” -
A dring yr angor i fwrdd y llong,
     A dacw’r baneri’n cyhwfan fry.

Cenir y clychau ym mhorth y môr,
    A mwy yr ohoian a’r twrf na chynt
Gwthiwch, fy mechgyn, y llong i’r llif,
    Ni erys y llanw, a theg yw’r gwynt
Acw’n y golwg mae’r dyfnfor llaes,
    Gwrandewch arno’n gwahodd, er gwaeth neu well”:
Ac etyb yr hwyliau i dro y llyw; -
    Yfory, hwy fyddant y’mhell, y’mhell.

Geilw y llanw fel serch y môr,
    A’r llong â i’w ganlyn - briodferch hardd -
Gwynned ei delw yn nrych y dwfr,
    A chysgod yr alarch y’nghan y bardd:
Cenwch yn iach i bererin y llif,
    I long y marsiandwr, ei llwyth a’i da
Mordwyed yn esmwyth, a doed yn ol
    O Ynys y Trysor a Thir yr Ia.

                  V.

Y’ngolwg Ynys Enlli
    Mae caban mab y môr
Bob dydd y gylch y llanw
    Y gro o flaen ei ddôr;
Ac yn y caban hwnnw
    Mae Meinir ysgafn fron;
Fel un o’r morforwynion,
    Neu dylwyth têg y don.

Y gwylain yw ei cheraint,
    A’r draethell ei hystâd;
Ond goreu gan ei chalon
    Yw cwch pysgota’i thad;
Aml dro yn ei mabandod
     Y cwch fu iddi’n grud
Y tonnau yn ei siglo,
    A minnau’n wyn fy myd.

Liw nos pan fwy’ yn cychwyn
    I gynnull maes y don,
Bydd Meinir ger y caban,
    A’i grudd mor wen a’i bron:
Un ofnus yw ei Chalon,
    A châs yw ganddi’r trai
Nis gall, medd hi, - i garu,
    Heb garu’i thad yn llai.

Ond pan fo ’nghwch yn dychwel,
    Liw dydd, at Graig y Llam,
Bydd Meinir yn fy nisgwyl,
    A’i gwên fel gwên ei mam;
A beth mor fwyn a’i chroeso,
    Ar ol y cyfnos hir?
Mae ’mherl yn caru’r llanw,
    Mae’n dwyn ei thad i dir,
 

                  VI.

Cyffrous yw cri’r ystorm,
    Wrth geuddor fy ystafell;
A dyna dwrf y lluwch
    Yn dymchwel ar y draethell.

Mae llawer mam a mun
    Yn dweyd eu gweddi heno;
Ond byddar yw y môr,
    Ac nid yw’r gwynt yn gwrando.

Ni ddaeth y cwch yn ol,
    Cyn iddi godi’n awel;
Ac ni eill serch gael hun,
    Na phryder fod yn dawel.

Pwy ŵyr y ffordd i dir,
    Heb loer na sêr i’w dywys?
A dwfn yw gwely’r môr,
    A’i draethau yn fradwrus!

Bydd llawer mam a mun
    Yfory ar y tywod,
Yn holi llanw’r wawr
    Beth ddaeth o lanc a phriod?

Mae bara’n brin, yn brin,
    A rhaid i wŷr anturio;
Mae serch yn benyd oes,
    A rhaid i riain wylo.
A welir eto’r cwch,
    A’i astell gyda’i enw?
Ni ŵyr na mam na mun, -
Mae’r ateb gan y llanw.

                    VII.

“Aros, lanw, ar y draethell,
    Paid a gwrando ar y gwynt;
Galw i’m cof yr wyt o hirbell
     Lawer cyfoed gerais gynt:
Wele fi, a’r cychod segur,
    Eto’n sefyll ar dy fin;
Ond pa le mae ‘nghyd-fordwywyr?
   
Yn dy ddwfn, mewn mwynach hin!

Côf gan serch eu gweld yn cychwyn,
   Gan fy nghyfarch dros dy li:
Down yn ol ymhen y flwyddyn,” -
   Mordaith hir i’m golwg i;
Ond ni ddaethant o fordwyo,
   Er eu disgwyl lawer dydd;
Llanw arall sy’n eu suo,
   Yn eu pell welyau cudd!

Gorwedd maent o dan y tonnau,
    Yn Nhawelfor mawr y De;
Huno’n ddwfn ym mysg y perlau -
    Llygad Duw sydd ar y lle:
Na wahardder im’ eu cofio,
    Yn y ganig ysig hon,
Hyd nes delont adref eto,
    Gyda’r llanw, dros y don!


                VIII.

Gadewais wlad fy nhad a’m mam,
    O hiraeth pur yn wysg fy nghefn;
Edrychais ar ei glannau’n hir,
    Rhag ofn na welwn hi drachefn:
Pan aeth o’m golwg, yr oedd un
    Yn glâf o galon ar y bwrdd;
Ble mae y gŵr nas car ei wlad,
    Pan fo ei long yn mynd i ffwrdd?

O’m hol yr oedd fy Ynys Wen,
    A’r môr o’i chylch yn gân i gyd;
O ’mlaen yr oedd yr Eidal dêg,
    Lle mae yr haf yn hâf o hyd:
O’m hol yr oedd cyfandir byw -
    Cyfandir bywyd newydd dyn;
O ‘mlaen yr oedd yr Aifft, mor hên
    Nas gŴyr yn iawn ei hoed ei hun

Ond beth i imi, a’r galon glâf,
    Oedd tesni’r Aifft a’r Eidal dlos?
Nid arnynt hwy yr oedd fy mryd,
    Yng ngoleu dydd, na breuddwyd nos:
Fel Gwenffrwd a Goronwy Mon,
    Am Gymru yr hiraethwn i;
Tan awyr lâs a haul y de,
    Ni cheisiwn decach bro na hi.

Cyrhaeddais lannau Cymru’n ol,
    O’r tiroedd hud, tros erwau llaith;
Yn ol heb golli dim o’m serch
    Na cholli sill o’m hên, hên iaith:
Mae’n werth troi’n alltud ambell dro
    A mynd o Gymru fach ymhell,
Er mwyn cael dod i Gymru’n ol,
    A medru caru Cymru’n well.

                        IX.

              Goris y llanw
                  Mae dinas fud,
              Cantref y Gwaelod
                  A’i lledrith dud;
              Caerog brifddinas
                  Y dwfn yw hon,
              A brenin ei llys
                  Yw Dylan eil Don.

              Neuaddau saffir
                  Sydd iddi hi,
              A gerddi o rôs
                  A meillion y lli;
              Hyd ei heolydd
                  Y gwmon dardd,
              A iarllod y môr
                  A’u rhiannedd chwardd.

              Ambell fin nos,
                  Ar berlewyg byd,
              Clywir ei chlychau’n
                  Canu ynghyd;
              Clychau soniarus
                  Nas clybu dyn
              Eu mwynach erioed,
                  Mewn llesmair na hun.

              Glasnef y cwmwd
                  Yw’r môr uwch ben,
              Cysgod y llongau’n
                  Gymylau’i nen;
              Tlws yw yr ieuainc
                  A’r hên i gyd,
              Yng Nghantref y Gwaelod,
                  Y ddinas fud.

                   X.

Saif henuriad wrth y mor,
Neilltuedig broffwyd Iôr,
Gyda gwallt mor wyn a’r gwlân,
Gyda llygaid fel y tan -
Ei ddoethineb fel ei ddydd,
A’i welediad fel ei ffydd.

Gwêl y diluw dwfr ar daen,
Fel yn toi y môr o’i flaen;
Yntau ysgrifenna i lawr,
Megis un a wêl y wawr -
”Fel y llanw, yn ei bryd,
Taen Cyfiawnder tros y byd.”

Gwêl y traethau’n mynd n llai,
Ac yn darfod - blant y trai;
Yntau ysgrifenna i lawr,
Megis un a wêl y wawr -
Derfydd cyfundraethau dyn,
A Gwirionedd fydd yn un.”

Cudd dylifiad gwyn y don
Greithiau’r tywod ger ei fron;
Yntau ysgrifenna i lawr,
Megis un a wêl y wawr -
“Pan orffenno Duw Ei waith,
Ni bydd ar Ei ddaear graith.”

Gwêl y môr yn fôr o hedd,
Yn llonyddu yn ei wedd
Yntau ysgrifenna i lawr,
Megis un a wêl y wawr -
“Wedi i gamwedd fynd ar goll,
Erys Cariad oll yn oll.”

                    XI.

Beth yw’r môr, ei drai a’i lanw -
    Creadigaeth gyntaf Duw?
Onid dameg fawr yr oesau?
    Onid drych tragwyddol yw?
Fel ei lesni dwfn, nas dichon
    Fod yn llonydd yn ei grud,
Onid ydyw bywyd yntau,
    Yn dygyfor drwyddo i gyd?

Nid yw’r Ysbryd fu’n ymsymud
    Unwaith ar y dyfnder maith,
Wedi llaesu Ei adenydd,
    Na gorffwyso yn Ei waith.
 Nerth Ei fywyd annherfynol -
    Perffaith rym Ei Berffaith Fryd,
Sydd yn creii yr anniddigrwydd
    Deimlir ym mhob oes a byd.

Mae y Cread yn ymestyn
    At berffeithrwydd, at y wawr;
Ac yn nhrai a llanw’r oesau,
    Cwblheir Un Amcan mawr:
Creir nef a daear newydd,
    Ac fel mellten rhwng y ddwy
Ehed angel, gan ddywedyd
   Na bydd môr na llanw mwy.


-----------------------------------------------------------------------------------

(x53) Telynegion y Môr. YR AFON

CAETHES y glannau,
    A’i chri am ryddhid;
Dyna yw’r afon -
Merch fach yr eigion
    Gaethgludwyd o’i gwlad.

Hirnos a gwawrddydd,
    Ar dywod a gro -
Ceidw ym mhoblle
Ei hwyneb at adre,
    Fel rhiain o’i bro.

Nid eill y marian
    Arafu ei lli,
Na’r glasgoed ei llithio,
Ond i orffwyso -
    Y môr iddi hi.

Sia’n wylofus,
    Ar lechwedd a dôl
Hiraeth sydd arni,
Ac nid yw’n ei golli
    Nes cyrraedd yn ol. 

-----------------------------------------------------------------------------------

(x54) Telynegion Cymru. Y PORTH PRYDFERTH
(Ar ddechreu Canrif.)

GER y porth mae’th Fardd yn canu -
    “Byw, fy nghenedl, fo dy lên
Cenir it farddoniaeth newydd,
    Cystal a’th farddoniaeth hên;
Cyfod dithau’n swn y delyn,
    Fel y dydd pan wnaed dy frâd;
Ni ddaw eto Forfa Rhuddlan
    Ar dy ymdrechfeydd, fy ngwlad.

Ger y porth mae’th Athraw’n galw -
    “O fy nghenedl, canlyn fi;
Yng nghymanfa y cenhedloedd
    Cedwir heddyw le i ti;
Golch dy lygad a goleuni -
    Eiddot y meddylfryd mawr;
Bydd yn Roeg y ganrif newydd,
    Wlad marchogion Arthur Fawr.”

Ger y porth mae’th Broffwyd yntau,
    Gwrando, Gymru, ar ei lef -
“Croes y Crist fo yn dy galon,
    Cerdd, fy nghenedl, tua’r nef
Gwell yw Dysg na golud lawer,
    Gwell na’r ddau yw sanctaidd foes;
Glŷn, fy ngwlad, fel disgybl annwyl,
    Ganrif arall wrth y Groes.”

-----------------------------------------------------------------------------------

(x55) Telynegion Cymru. OS WYT GYMRO

Os wyt Gymro hoff o’th wiad,
    A hoff o’th dadau dewrion,
Cadw ŵyl er mwyn dy hâd -
    Ni waeth beth ddywed estron, -
Gwisg genhinen yn dy gap,
    A gwisg hi yn dy galon.

Os wyt Gymro hoff o’th iaith,
    A hoff o’i bardd a’i phroffwyd
Heddyw twng y filfed waith
    I’w chadw fel ei cadwyd:
Boed yn amlaf ar dy fin,
    Boed olaf ar dy aelwyd.

Os wyt Gymro hoff o’th Sant,
    A hoff o’r cysegredig;
Cadw ŵyl, er mwyn dy blant,
    I Ddewi,ŵyr Ceredig; -
Câs yw’r gwr nas câr ei wlad,
    Boed dlotyn neu bendefig.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x56) Telynegion Cymru. GWYL A GWAITH..

MAE’N ddydd uchelwyl o Went i Fon,
    Mae’r hên alawon ar fin a thant;
Ac is ei nennawr pob Cymro’n son
    Am liw’r genhinen, am Ddewi Sant;
Ond nid gwladgarwch yw cynnal dydd,
    Undydd mewn blwyddyn, i ganu cân -
Gwnewch Gymru heddyw’n lân ac yn rhydd,
    A gwnewch hi yfory yn rhydd ac yn Ian.

Mae’n ddydd uchelwyl, yn llawen ddydd,
    Mewn tre’ a  phentref, pentref a thre’
Ac er yn llawer, un enw sydd
    Ar fin y Gogledd, ar fin y De;
Ond nid gwladgarwch yw cynnal gwledd,
    A dweyd “Fy nghenedl, fy iaith, fy ngwlad,” -
Glanhewch y byrddau - o’r gwin a’r mêdd,
    Ac na foed wehelyth i Drioedd Brâd.

Mae’n ddydd uchelwyl, a phawb yn son
    Am liw’r genhinen, am Ddewi Sant;
Cenir alawon o Went i Fôn,
    Gan wŷr a mamau, mamau a phlant;
Ond gwell gwladgarwch yw bod yn un
    Mewn tref a phentre’, pentre’ a thref, -
Gwneud Cymru’n burach iddi ei hun,
    A’i gwneud yn ffyddlonach i’w Sant a’r Nef.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x57) Telynegion Cymru. COELCERTHI'R BANNAU
(Hwyr yn Ionawr; goddeithio ay y mynyddoedd; hynny’n awgrymu’r gân.)

DACW goelcerth ar Eryri,
    Gwenfflam lygad yn y gwyll!
Chwiliwch, dadau, am y gwayw,
    Chwiliwch, lanciau, am y cyll;
Doed a ddelo, rhaid yfory
    Gadw erwau’n bro a’i braint;
Hawl gwladgarwch fyth yw gofyn
    Gwaed y byw dros lwch y saint.

Dacw’r Moelwyn Mawr yn galw,
    Dacw fflam yn ateb fflam!
Mae pob mynydd yn deimladwy,
    Oni ddial Cymru’r cam?
Gaiff yr allfro ffordd yr elo
    Gwympo’n cestyll hyd y llawr?
Beth a wnewch chwi yn yr ogof
    Fintai segur Arthur Fawr?

Dacw goelcerth gwŷr Ardudwy
   Fel yn troi y môr yn waed!
Iorwerth - Harri - pwy yw’r brenin?
    Pa ddyhirwch ganddo wnaed?
A wnawn ni, a ni yn Gymry,
    Oddef hyn heb ei wahardd?
Drodd y delyn yn fradwrus,
    Neu a wywodd llaw y bardd?
 
Dacw dafod gwahanedig
    Eto ar yr Eifl yn Lleyn!

Rhaid i’n dwylaw fod yn llawer,
    Rhaid i’n hergyd fod yn un;
Na foed neb yfory’n fradwr,
    Rhag i’w blant felltithio’r dydd;
Gwell na byw yn ddynion arwerth,
    Fyddai syrthio’n ddynion rhydd.

Cynneu allan mae’r coelcerthi -
   Llosgi’n llwch o un i un;
Ond ni chlywaf heno gyffro
    Gwŷr rhyfelgar ar ddihun;
Ac ni ddilyn hirllais utgorn
    Neb i gasglu’r dewr ynghyd, -
Mae’n goleuo ar ein Hanes,
    Os yw’n nosi ar y byd.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x58) Telynegion Cymru. CADWN UCHELWYL

O CADWN uchelwyl
    A thelyn a thant;
Boed annerch a cherdd
    Yn nhafodiaeth y Sant;
Ond cadwn o’r ddefod
   Y cwpan a’r gwin,
A’r Cymro un diwrnod
    A ffug ar ei fin.


O hyd y mae Dewi
    Yn dyfod am dro,
I weled ei hil
    Ac i weled ei fro:
Mae’n dda ganddo genedl
    Yn gwisgo ei gwyrdd,
Ond gwell ganddo genedl
    Yn dilyn ei ffyrdd.


O cadwn uchelwyl,
    Mewn pentref a thref,
Gan anfon un weddi
    Gymraeg hyd y nef -
“Boed Cymru y tadau
    Yn Gymru y plant;
A Chymru gorwyrion
    Yn Gymru y Sant.”


-----------------------------------------------------------------------------------

(x59) Telynegion Cymru. “OCHAIN Y CLWYFAWG”

MOES ddafn o’r gostrel, gymrawd,
    Mi wn mai marw’r wyf,
Gan fel y syrth bargodion
    Fy nghalon o fy nghlwyf:
Mae ’ngwefus fel y marwor,
    Ond heno, dan y lloer,
Hi fydd mor wen a’r barrug,
    A’r lloergan arni’n oer.

Fy nghymrawd, fy hen gymrawd -
    Cydymaith llawer câd
O gas at fradwyr Cymru,
    O serch at lyw a gwlad -
Bydd un yn llai yfory
    Yn ymladd gyda thi;
Ac un yn llai dros Gymru -
    Beth ddaw ohoni hi?

Ond cyn dy ollwng, gymrawd,
    A chyn i’m ganu’n iach,
Am byth! - gofynnaf gennyt
    Ryw un gymnwynas fach;
A gwn na wnei warafun
    Cyn lleied peth - i un
Sy’n marw wrth ei ofyn,
    Ymhell o’i fro ei hun.

Fy nghymrawd, pan ei adref
    Ac adref hebof fi,
Dos, galw gyda’m Creirwy -
    Ti wyddost pwy yw hi;
A dywed iti glywed
    Ei henw ar fy min,
Ar ddwthwn ola’ ’mywyd,
    Gerllaw y farwol ffin.

A dos a ’nghleddyf iddi -
    Y bylchog hanner Hafn
Sy’n weddill - dos a hwnnw,
    Ond sych y gwaed bob dafn:
Bydd Creirwy’n falch ohono,
    A gŵyr, pan wel y darn,
Mai nid deheulaw llwfrddyn
    A gydia yn ei garn.

A dywed imi syrthio,
    A ’ngwaed Cymreig yn llif,
Lle’r oedd yr ornest boethaf,
    A’r meirw’n fwya’u rhif.
A syrthio fel gwnaeth Arthur,
    A gŵyr hên Ford Gron, -
Fy wyneb at y faner,
    A ’nghlwyfau ar fy mron.

-----------------------------------------------------------------------------------

(x60) Telynegion Cymru. O'R DEFFROAD
”Bu Tom Ellis farw yn Ffrainc: ni fydd byth farw yng Nghymru.”

ENNWCH imi o’r Deffroad
    Ei ladmerydd ef,
Hwnnw safodd buraf drosto,
    Safodd dros y nef;
Ennwch ddewin a thywysog,
    Ennwch lawer mwy -
Enwaf finnau’r marw ieuanc
    Oedd yn nôs na hwy.

Tua’r Cynlas, bore - deimlodd
    Enedigaeth-wawr
Cenedl burach Cymru fyddai
    Yn ei feddwl mawr;
Credodd yn y weledigaeth,
    Credodd yn ei Dduw;
Credodd Cymru’r ddau, a’i hunan,
    A dechreuodd fyw. -

Ysbryd tanllyd rhy angerddol
    Oedd i losgi’n hir;
Trwy’r Deffroad, cerdda allan
    Gan oddeithio’r tir:
Bydd yn ynni ar y bryniau,
    Rhyngddynt ym mhob cwm;
Bydd ei enw’n ysbrydoliaeth
    Mewn bythynnod llwm.

Y Deffroad, onid bywyd
    Goreu Cynlas yw,
Gan un galon genedlaethol
    Eto’n cael ei fyw?
Onid yw ei ysbryd trwyddo
    Gyda ni yn awr,
Yn y wlad yn ysgrifennu
    Ei farddoniaeth fawr?

Hawdd yw wylo ‘ngwydd ei aberth -
    Hawdd gan wlad a thref;
Hawddach gweithio wedi aros
    Ger ei allor ef;
Collodd Cymru ail Lywelyn,
    Bellach, hi a fedd
Ynnot ti, O Gefn y Ddwysarn,
    Hoffach Gefn y Bedd.


-----------------------------------------------------------------------------------

(x61) Telynegion Cymru. CYMRU'R DIWYGIAD

       Ardaloedd ar eu deulin! - beth yw hyn?
           Gobaith oes ddilychwin;
       Eneidiau’n troi: Duw yn trin
       Agoriad calon gwerin.


BEDYDD Duw fedyddiodd Gymru,
    Pentecost yr Ysbryd Glân;
Nid oes ardal heb ei hallor,
    Nid oes allor heb ei thân;
Cwmwl goleu gweddnewidiad
    A gysgododd dros y wlad -
Gwelwyd dyn i Dduw yn blentyn,
    Gwelwyd Duw i ddyn yn Dad.

Clybu cenedl farn a chariad
    Yn cyniwair trwy ei bro;
Ysodd tân o’r nef Gwm Rhondda,
    Oedd â’i galon fel y glo;
Mynwy ddu - Gomorra Cymru
    Gwyrth o ras ar honno wnaed;
Cadd gydwybod wedi’i channu’n
    Ddisglair yn y Dwyfol waed.”

Un yw Cymru ’nghwlwm gweddi,
    Un, er gwahaniaethau oes;
Gyda’r nef a chyda’i hunan
    Fe’i cymodwvd wrth y Groes;
Nid oes son am Wyddfa mwyach -
    Onid ydyw Calfari
Wedi mynd goruwch y bryniau
    Pennaf yn ei golwg hi?

Gwnaed o Gymru berth yn llosgi,
    Heb ei difa gan y tân;
Ac yn fflam ei phuredigaeth,
    Cafodd ddawn a gwefus lân:
Hên emynau’r “gwaed” a’r “diolch” -
    Maent i gyd ar lafar gwlad;
Rhai fu’n fudion sy’n clodfori
    Duw am iachawdwriaeth rad.”

Nid oes ardal heb ei hallor,
    Nid oes allor heb ei thân -
Gyda’i dysg y cafodd Cymru
    Bentecost yr Ysbryd Glan:
Os mai marw’i thywysogion,
    Byw ei Phentywysog hi -
Dyma gariad fel y moroedd,
    Tosturiaethau fel y lli.”


-----------------------------------------------------------------------------------

(x62) Telynegion Cymru. “PARADWYS Y BARDD”

    CYMRU fach i mi –

Bro y llys a’r llynoedd,

Corlan y mynyddoedd,

    Hawdd ei charu hi.

 

    Son am diroedd hud –

Tecach na’r rhai hynny

Ydyw erwau Cymru,

    Gwell na broydd byd.

 

    Yn ei hanes hên

Enwir mil o arwyr,

Llin marchogion Arthur,

    Cedyrn câd a llên.

 

    Mâg ereill mwy –

Gwŷr fo’n olud daear,

Na bu’n llys Gwenhwyfar

    Hafal iddynt hwy.

 

    Cymru fach i mi –

Cartre crwth a thelyn,

Cysegr salm ac emyn,

   Porth y nef yw hi.


-----------------------------------------------------------------------------------
DIWEDD

 

 



DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

1796k
Yr iaith Gymraeg
·····
0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan; o’r tudalen hwn gellir hefyd
chwilio’r gwefan hwn â’r archwiliwr mewnol
·····

0052c
Testunau Cymraeg â throsiad Catalaneg yn y gwefan hwn
(Textos en gal·lès amb traducció catalana en aquesta web)
·····
1051e

Testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn
(Texts in Welsh with an English translation in this website)
 

 

Adolygiadau diweddaraf:  02 07 2002

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ  Prif Ffeil: DOC_ sion_prys_051_eifion_wyn_maes_a_mor_1k

Ble’r wyf i?
Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA
 
  

 

 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats