1780k
Gwefan Cymru-Catalonia.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_066_geirlyfraeth_moelddyn_1858_1780k.htm
0001z Y Tudalen
Blaen
..........1863c Y Porth Cymraeg
....................0009k Y Gwegynllun
..............................0960k Y
Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina
0860k y llyfr
ymwelwyr |
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
(delwedd
7375) Adolygiadau
diweddaraf: |
Y Brython.
Gorphenaf 2, 1858. Tudalennau 19-20.
IEITHYDDIAETH.
GEIRLYFRAETH GYMREIG.
Y mae llawer wedi ei wneuthur eisoes yng ngeirlyfraeth y Gymraeg, ac y mae
llawer yn aros eto heb ei wneuthur. Pan gyhoeddodd y dysgedig Ddr. Dafis ei
Eirlyfr Dyblyg – Cymraeg a Lladin, a Lladin a Chymraeg - yn y flwyddyn 1632,
ymddengys i lawer dybied fod geirlyfraeth ein hiaith wedi cyrhaedd ei
pherffeithrwydd eithaf, a chafodd cryn chwech ugain mlynedd fyned heibio heb i
un ymgais gwerth ei grybwyll gael ei wneuthur tuag at chwanegu dim at yr hyn a
wnaethai yr Athraw goleubwyll o Fallwyd, yn y gangen hon o lenoriaeth..
Fel y mae yn ddigon hysbys, nid Dafis oedd y cyntaf a amcanodd gynnysgaethu ei
gydwladwyr â geiriadur Cymraeg; ond efe oedd y cyntaf a fu alluog i argraffu
ffrwyth ei lafur. Bu i amryw o ddysgedigion penaf Cymru (ac yr oedd cawri o
ysgolheigion yng Nghymru yn y dyddiau hyny) ymosod ar y gorchwyl rhyglyddus o
gyfansoddi geirlyfr o’r Gymraeg yn nheyrnasiad y Frenines Elisabeth. Ym mhlith
y gwyr enwog a ymroddasant i wahanaethu eu cenedlaeth yn y llwybr hwn, enwir
Esgob Morgan, cyfieithydd hybarch y Beibl i’r Gymraeg; y Dr. Dafydd Powel,
Periglor Rhiwabon, ac un o’r hynafiaethwyr gododicaf yn ei oes; y Dr. Ioan
Dafydd Rhys, awdwr y Gramadeg Cymraeg pedwarplyg a gyhoeddwyd yn Llundain, yn y
flwyddyn 1592; Herri Perri, awdwr y llyfr cywrain hwnw, “Egluryn Ffraethineb,”
ac a elwir gan Dafis yn “Vir linguarum cognitione insginis;” a Henri
Salisburi, awdwr y “Grammatica Britannica,” a argraffwyd yn y flwyddyn
1593. Ond, fel y sylwa y geirlyfrwr hyglod o Fallwyd, ni ddaeth geirlyfrau neb
o’r awduron dysgedig hyn allan mewn argraff, ac nid yw debyg un o honynt gael
ei orphen, ond “Geirfa Tafod Cymraeg” Henri Salisburi yn unig.
Safodd geirlyfraeth Gymreig braidd yn hollol yn yr un man, o amser Dafis hyd
ymddangosiad Geirlyfr y Parch. Thomas Richard, o Langrallo, ym Morganwg, yn y
flwyddyn 1753. Cyfieithiad yw hwn o Eiriadur y Dr. Dafis, gydag ychydig o
chwanegion allan o Archaeologia Britannica Edward Llwyd, ac o’r
Egluriadur ar ddiwedd cyfieithiad Lladin y Dr. Wotton o Gyfreithiau Hywel Dda.
Awdwr yr Egluriadur hwn, yng nghyd â’r rhan fwyaf o’r cyfieithiad hefyd, oedd
yr hynafieithydd dysgedig hwnw, Moses Wiliams. O ran dim a wnaeth Richards ei
hun ar faes geirlyfraeth Gymreig, nid oes iddo ond safle pur isel yn mysg ein
geiriadurwyr; ond gwnaeth ei Eiriadur, er mor anghyflawn ydyw, ac er mor
ychydig o wreiddioldeb sydd yn perthyn iddo, les nid bychan yn.y Dywysogaeth;
canys yr oedd Geiriadur Dafis bellach wedi myned yn brin iawn; a chan mai
Cymraeg a Lladin, ac nid Cymraeg a Seisoneg, ydoedd, yr oedd yn gyfaddasach at
wasanaeth y dysgedigion, y rhai yr oedd lleiaf arnynt o angen am dano, nag at
wasanaeth y cyffredin bobl. Cafodd y gwaith hwn dderbyniad helaeth, a
chefnogaeth deilwng, gan bob gradd yng Nghymru; a hwn oedd y geirlyfr Cymraeg
ar arfer yn gyffredin ym mhlith ein cydwladwyr hyd ymddangosiad Geirlyfr mawr y
Dr. Owain Puw, yn y flwyddyn 1803.
Am waith y Dr. Dafis, yr oedd yn orchwyl rhagorol yn ei ddydd; ond y mae ei
ddydd wedi myned heibio bellach er ys blynyddoedd lawer iawn; ac y mae weithian
yn beth i edrych arno i gryn raddau, fel cywreinwaith llenyddol yn hytrach nag
fel geiriadur defnyddiol ac ymarferol. A rhan gyntaf yn unig, sef y dosbarth
Cymraeg a Lladin, sydd o gyfansoddiad y Doethor ei hun: talfyriad yw yr ail
ran, sef y dosbarth Lladin a Chymraeg, o waith llawer helaethach a ysgrifenwyd
gan Tomas ab Wiliam, y Meddyg o Drefriw. Y mae y gwaith gwreiddiol eto ar gael,
a dywedir gan rai sydd wedi ei weled, y byddai ei gyhoeddi yn chwanegiad o’r
pwysicaf at ein llenyddiaeth
ieithyddol. Ond â’r gyfran flaenaf yn unig o Eiriadur Dafis y mae a fynom ar
hyn o bryd; ac at y gyfran hòno gan hyny y rhaid i ni gyfynygu ein sylwadau.
Dechreundd
Dafis ar yr iawn lwybr; y mae ei waith yn waith ysgolheigaidd; ac y mae, cyn
belled ag y mae yn myned, yn awdurdod bur dda ar ystyron geiriau. Dywed Lewys
Morys, yn un o’i Lythyrau y Dr. Samuel Pegg, mai gwaith brys yw y Geiriadur
hwn, ac nad yw’n cynnwys hanner corff yr iaith. Buasai hynafiaethydd Mon yn nes
i’w le pe dywedasai nad yw yn cynnwys llawer mwy nag un o bob deg o eiriau
Cymreig a ddylent fod mewn geirlyfr Cymraeg gweddol cyflawn. Y mae lluaws o
eiriau o’i fewn na wyddai yr awdwr, er ei holl ddysg, pa beth yn y byd oedd eu
harwyddocad; ac y mae llawer ynddo hefyd, yn enwedig geiriau perthynol i
anianyddiaeth, wedi eu hegluro yn anghywir.
Nid ymddengys fod Dafis yn gynnefin iawn â’r Ddeheubartheg a’i llenoriaeth; er
mai yn y dafodiaith lyfndeg hòno y mae’r cyfan o’u rhyddiaith wedi ei ysgrifenu
hyd o ddeutu amser y Frenines Elisabeth. Yn wir, nid wyf yn cofio ddarfod i mi
weled nemawr o ddim wedi yi ysgrifenu yn y Wyndodeg, heb fod ar fesur cerdd,
tan y delom at Destament Gwilym Salisburi a’r Esgob Dafis, yn y flwyddyn 1567;
ac o bob Cymraeg a ddarllenais erioed, Cymraeg y Testament hwnw yw y fwyaf
anystwyth a chlogyrnog. Iaith Gwent a Dyfed a geir yng Nghyfreithiau Hywel Dda,
y Brutiau, y Mabinogion, Achau a Bucheddau y Saint, y Trioedd, ac, mewn gair, y
cyfan o’n hysgrifeniadau rhyddieithol, hyd tua chanol yr unfed canrif ar
bymtheg. Ymddengys mai cyfieithiad y Beibl i’r Gymraeg, trwy waith dysgedigion
o Wynedd, a roddodd safle llenyddol gyntaf i’r Wyndodeg mewn cyssylltiad â
rhyddiaith; er bod y cyfieithiad campus hwnw, o ran hyny, yn dwyn nodwedd
ddeheuol yn hytrach na gogleddol.
Ymddengys i
mi fod ein hen gyfansoddiadau rhyddieithol yn llawer gwerthfawrocach, ar y
cyfan, na’n cyfansoddiadau barddonol, ac y mae yn ddiau genyf eu bod yn fwy
defnyddiol i’r geirlyfrwr. Ond yn amser Dafis, y beirdd oedd i
benderfynu pob peth mewn geiriaduriaeth, ac mewn gramadegiaeth hefyd; ac os na
cheid gair yn eu gwaith hwy, prin y buasai neb yn rhyfygu ei gofnodi mewn
geiriadur o fath yn y byd; ac arnynt hwy yr oedd tynged yr iaith megys yn
ymddibynu. Dechreu geirlyfraeth Gymreig, mewn ystyr, oedd Geiriadur
Dafis; ac fel y cyfryw nis gellir rhoi iddo ormod o ganmoliaeth; a byddai yn
annheg ei feirniadu yn y pedwerydd canrif ar bymtheg mewn un golygiad arall.
Gyda golwg ar waith gorchestol y Dr. Puw, y mae yn cynnwys miloedd ar filoedd o
eiriau Cymraeg na chyfarfyddir â hwynt mewn un geiriadur arall, ac nid yw pob
llyfr o’r fath, a ymddangosodd ar ei ol ddim amgen na thalfyriadau lled
ddiwerth o hono. Cynnwysa dros gan mil o eiriau Cymraeg, ac yng nghylch
‘deuddeg mil o ddyfyniadau allan o waith gwahanol ysgrifenwyr, o’r
amseroedd boreuaf hyd ddiwedd y deunawfed canrif. Y mae iddo ragoriaethau
lawer; ond y mae iddo hefyd golliadau nid ychydig. Anhawdd canmawl gormod arno
mewn un golygiad; ac anhawdd beio gormod arno mewn golygiad arall. Am ragorion
y geiriadur llafurfawr hwn, y maent yn llawer rhy aml eu crybwyll. Nid oes
genym hyd yn hyn ddim cyffelyb iddo; ac ofer ymgais ag astudio’r Gymraeg, heb
ei gynnorthwy. Y mae, fel y sylwa Latham mewn perthynas i waith Grimm ar yr
ieithoedd Teutonig, yn beth am byth yn llenoriaeth Cymru.
Ond y mae iddo ei ddiffygion; ei ddiffygion dirfawr ydynt. Nid yw werth dim
gyda golwg ar dadogaeth geiriau. Y mae wedi ei gyfansoddi ar egwyddor
eirdarddol blentynaidd, na chydnabyddir mo honi gan unrhyw ieithydd cyfrifol,
hen na diweddar. Y mae yn creu geiriau, er er mwyn cael gwraidd, fel y
tybiai, i eiriau ereill; gwraidd na welwyd erioed mo honynt cyn iddynt
ymddangos yn y Geiriadur hwn. Y mae yn rhoi ystyr cyfrinol i eiriau.
Trinai y Gymraeg yn y golygiad hwn rywbeth yn debyg i’r hyn y trinai Hutchison
i’r Hebraeg.
Y mae ystyron i luaws o eiriau na roddir iddynt yn ei Eiriadur ef; ac yn y
gwrthwyneb, y mae efe yn rhoi i filoedd o eiriau ystyron nad ydynt mewn un modd
yn perthyn iddynt; a hyn, nid o anwybodaeth, ond o herwydd ei gyfundrefn
ddychymmygol o darddu geiriau. Tadogaeth geiriau oedd yn penderfynu eu hystyr
ganddo, ac nid oedd arfer gwlad o nemawr bwys yn ei olwg. A chan fod y
gwreiddeiriau yn fynych yn ddyledus am eu bodoliaeth i’w ddychymmyg ffrwythlawn
ef yn unig, rhaid fod yr ystyron a roddid i’r geiriau tarddedig o’r fath eiriau
yn sefyll yn fynych iawn ar sail ddim amgen na thywod.
Barna fod ystyr cyffredinol i eiriau cyn bod iddynt ystyr neillduol;
pryd y mae profiad cyffredinol dynolryw yn dangos yn ddigon eglur mai y
gwrthwyneb i hyn sydd wirionedd. Gellir barnu na wyddai nemawr am ieithyddiaeth
gymharol; ac o hervrydd hyny, ymddengys fod cyssylltiad y Gymraeg ag ieithoedd
ereill yn bwnc nad oedd yn ffurfio un ran o’i gredo. Yn ol ei Eiriadur ef,
iaith yw y Gymraeg yn sefyll yn hollol ar ei phen ei hun, ac yn ddyledus i’w
gwreiddiau cynnwynol ei hun am bob gair a gynnwysir ynddi. Ac y mae hyn o
benchwibandod wedi ei arwain i alltudo, megys dyeithriaid ac estroniaid, rai
cannoedd o eiriau Cymraeg pur, ac wedi achlesu ereill nad oes iddynt ond
ychydig os dim perthynas ag iaith y Cymry.
Gyda golwg ar ystlen neu genedl geiriau, y mae ym mhell iawn o
fod yn arweinydd y gellir ymddiried ynddo; ac am eu terfyniadau lluosog,
nid yw nemawr cywirach. Nid yw y pethau hyn ond pethau bychain mewn
cymhariaeth, eto er hyny y maent o gryn bwys mewn geiriadur Cymraeg, os amcenir
fod iddo yn ddefnyddiol. Mywpwy y Doethor oedd mai gwrywaidd yw yn agos
bob gair Cymraeg; er bod hyny yn groes i lafar gwlad ym mhob parth o Gymru, ac
yn groes i arfer ein hysgrifenwyr goreu ym mhob oes.
Anhawdd gwybod pa beth oedd yr achos o gasineb neu wrthnaws ein geirlyfrwr
llafurus at yr ystlen neu genedl fenywol. Gwyneddwr oedd efe; a chyfaddefir fod
yr iaith hytrach yn fwy gwrywaidd yn y Gogledd nag yn y Deheu: ond nid
yw yn un parth i’r Dywysogaeth hanner mor wrywaidd ag y ceir hi yn ei Eiriadur
ef. Yr oedd ei hoffder o’r terfyniad lluosog ion mor nodedig a’i
anhoffder o eiriau o’r ystlen fenywaidd: ac ym mysg pethau ereill, er mwyn
dilyn hyn o fympwy, y mae wedi ein hanrhegu â gweithredion, ym mhob man
yng Ngholl Gwynfa, yn lle gweithredoedd, yr hen ddull arferedig
er ys oesoedd cyn cof.
Er cymmaint ei serch ar henafion, nid llai oedd ei wyn ar newyddu a chyfnewid:
canys o’r deuddeg mil o ddyfyniadau a geir yn britho’r Geiriadur, y mae peth
afrifed o honynt wedi eu cyfnewid ganddo; ac nis gellir bod yn sicr gyda golwg
ar nemawr o honynt, eu bod wedi eu gosod i lawr megys yr ysgrifenwyd hwy ar y
cyntaf gan yr awduron y mae eu henwau wrthynt;.
Gyda galar, rhaid cyfaddef mai prin iawn y medrai adael i un enghraifft, yn
enwedig mewn iaith rydd, fyned trwy ei ddwylaw heb wneuthur rhyw gyfnewidiad
ynddi, heb law, bid sicr, ei throi i’w lythyraeth ei hun. Y mae’r beirdd, o wir
angen, gryn dipyn yn fwy anhyblyg na’r rhyddieithwyr, ac o herwydd hyny, y
maent ar y cyfan, wedi ymdaro yn llawer gwell.
Ond heb law bod y dyfyniadau yn cael eu cyfnewid, a’u “troi fel y dylent fod,”
pa bryd bynag y byddai hyny yn gyfleus i nwythas yr awdwr, y mae yr un a’r
unrhyw ddyfyniad yn aml wedi ei gyfieithu mewn dwy neu dair o wahanol ffyrdd o
dan wahanol eiriau; ac y mae amryw o’r cyfieithion hyn nid yn unig yn wahanol
i’w gilydd, ond hefyd yn groes y naill i’r llall. I ni, y Cymry, nid yw
hyn, hwyrach, o gymmaint pwys; ond y mae’r Seison wedi sylwi fwy nag unwaith ar
yr anghyssondeb hwn, ac yn dibrisio’r Geiriadur oll o’r herwydd.
Y colliadau hyn a darddant, gan mwyaf, o hynodrwydd syniadau ar ieithyddiaeth
yn gyffredinol: ond y mae weithian, heb law y rhai hyn, ddiffygion ereill yn y
gwaith dan sylw, y rhai y mae yn hen bryd bellach i ni amcanu eu cyflenwi. Y
mae dros hanner can mlynedd wedi myned heibio er pan gyhoeddwyd yr
argraffiad cyntaf o hono; ac yn ystod hyn o amser, a’r wasg Gymreig yn fwy
bywiog nag y bu erioed, y mae lluaws aneirif o eiriau o bob math wedi eu
chwanegu ar y Gymraeg, ac yn cael eu defnyddio yn lled gyffredin. Pan yr
ymddangosodd Geiriadur Puw, nid oedd cymmaint ag un Cyhoeddiad Cyfnodol yn yr
iaith, ac ni chododd un am rai blynyddoedd wedi hyny; ond weithian y mae genym
gryn fagad o honynt; a pha faint bynag a ddichon fod o duedd mewn llenoriaeth
gyfnodol i lygru iaith mewn rhai pethau, y mae yn sicr ddigon o luosogi ei
geiriau. Y mae yn helaethu iaith, os nad yw yn ei phuro. Y mae yn
chwyddu’r geiriadur, os nad yw yn coethi’r gramadeg.
Ond heb law geiriau o dyfiad diweddar, y mae yn eithaf amlwg i bob un cyfarwydd
â’n hen ysgrifeniadau, mewn barddoniaeth yn gystal ag mewn rhyddiaith, fod
ynddynt luaws mawr o eiriau na cheir mo honynt yng Ngeiriadur Puw, mae mewn un
geiriadur arall sy genym. Ac fel y mae yr hen ysgrifau hyn yn cael eu cyhoeddi
y mae’r diffyg hwn yn dyfod fwyfwy i’r golwg, a cyn cael ei deimlo yn ddwysach
ddwysach gan astudwyr Cymraeg. Gwnaeth Puw lawer, ond y mae llawer eto yn aros
heb ei gyfiawnu.
Y mae hefyd nifer nid bychan o eiriau ar lafar gwlad, geiriau Cymreig pur, a
geiriau mor briodol ym mhob ystyr ag unrhyw yn yr iaith: eto ni chofrestrwyd mo
honynt hyd yma yn neb o’r geirlyfrau, ac nid ymddengys fod ein hieithyddion yn
talu fawr o sylw iddynt. Clywais gannoedd o’r fath mewn gwahanol barthau o’r
Dywysogaeth; ond er hyny nid oes genym hyd yn hyn un casgliad o honynt, ac ni
chydnabyddir hwynt hyd y gwn i, megys yn perthyn i’r iaith Gymraeg.
Yr wyf bellach wedi nodi, i’m tyb i, y prif ddiffygion yng nghynnwysiad
Geiriadur y Dr. Puw; yng nghyd â’r prif adnoddau o’r sawl y gellid cael
defnyddiau i wneuthur geiriadur rhagorach. Yr wyf wedi gwneuthur hyn, nid er
mwyn bychanu y Doethor parchus, ond er mwyn diystyru y gwaith y bu wrtho am
ddeunaw mlynedd hirfaith. Nid dyna fy amcan mewn un modd: ond yr wyf yn
crybwyll y pethau hyn er dangos fod arnom y dydd heddyw ddirfawr angen am
eiriadur Cymraeg newydd, a llawer mwy cyflawn, cywir, ac athronyddol nag un
sydd yn ein meddiant. Gwnaeth Johnson orchestwaith yn y Seisoneg, a gwnaeth Puw
yntau orchestwaeth mwy yn y Gymraeg: ond nid yw gweithiau yr un o honynt yn
cyfateb i angenion yr oes hon. Peth a ddylid ei helaethu a’i ddiwygio yn fynych
ydyw geiriadur iaith lafaredig.
Y mae y Gymraeg yn tynu mwy o sylw y blynyddoedd hyn ym mhlith y dysgedigion
nag a dynodd erioed o’r blaen. Y mae wedi cymmeryd ei gorsaf yn rheolaidd ym
mhlith ieithoedd Ind ac Ewrop; ac ni chyfyngir mo’r dyddordeb sy’n perthyn iddi
mwyach rhwng mynyddoedd cribog Cymru. Y mae yr Ellmyn wrth y degau yn ei
myfyrio; y mae ieithyddion urddasolaf y Ffrancod yn meddwl yn fawr am dani; ac
y mae ambell un, hyd yn oed o’r Seison, yn ymwrthod â’u rhagfarn, ac yn
ymgyrchu i rai o gyrrau pellaf y wlad er mwyn ei dysgu. Ac y mae’r gwŷr
hyn oll yn canfod gwaelder ein geiriaduron, ac yn cwyno yn ddwys o’r herwydd.
Nis gallwn astudio ein hen dafodiaith hybarch
o eisieu geiriadur cyfaddas i’w llwybreiddio. Pa hyd y caiff y rhwystr yma fod
ar y ffordd? a pha hyd y caiff y diffyg y cwynir cymmaint o’i herwydd aros yn
ein llenoriaeth? A oes dim neb o ddysgedigion Cymru yn barod yn gystal ag yn
alluog i ymosod ar y gorchwyl? Nid neb ond gwŷr dysgedig ddylent ymaflyd
yn y fath waith; ac ymddengys i mi, o herwydd mwy o resymnu nag un, y byddai yn
ddymunol iawn, os nid yn wir angenrheidiol, i amryw o’n dysgedigion
gydweithredu yn hyn o beth; canys heb gydweithrediad amryw o’n gwŷr
galluocaf, byddai yn gryn anhawdd cyflawnu gwaith mor helaeth mewn dull
boddhaol. A oes dim modd i ni yn Nhywysogaeth Cymru gael math o Accademia
della Crusca, i gasglu a chyhoeddi i ni eiriadur y gellid ei alw yn National
Dictionary of the Welsh Language?
.
Gan fod fy ysgrif wedi myned eisioes yn lled faith, gadawaf y pwnc ar hyn o
bryd i sylw a than ystyriaeth darllenwyr gwladgarol y Brython.
MOELDDYN
-------------------------------------------------------------------------------------
DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN |
Sumbolau arbennig: ŷ ŵ
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n
ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page
from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch
ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats