1797k Gwefan Cymru-Catalonia. Os na ddihuna’r Gymraeg, neu ynte gael bywyd newydd, fe dderfydd
Ynghymru fel iaith y werin tua’r flwyddyn 1950, neu dyweder 1978, fel ag y
darfyddodd Ynghernyw tua’r flwyddyn 1778.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_067_gogwydd_1797k.htm
0001z Y Tudalen
Blaen
..........1863c Y Porth Cymraeg
....................0009k Y Gwegynllun
..............................0960k Y
Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
........................................y tudalen hwn
0860k y llyfr
ymwelwyr |
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
(delwedd
7419) Adolygiadau
diweddaraf: |
Y Geninen (1915) 33
GOGWYDD YR IAITH
GYMRAEG.
Myn rhai mai gair Cymraeg oedd yr un cyntaf a glywodd
y byd yma erioed, “Bydded goleuni;” a bod y gair “owr” yn y Beibl
Hebraeg am “goleuni” i’w gael hyd heddyw yn wreiddyn yn y gair Cymraeg
“llewyrch.” I’r ysgolheigion yma yr iaith Gymraeg siaredid Yngardd Eden, a gwelant
Gymraeg glan gloew yn enwau Cain (Ca-un), ac Abel (Ab-ail). Cymraeg siaredid yn
yr Arch: ac os gofynwch chwi beth ddaeth o honi wrth Dŵr Babel, atebant yn
ddigon rhesymol na fu i bawb weithio wrth Dŵr Babel mwy nag y bu i bawb
orfod gweithio wrth Dŵr Llundain. Os collai y bricklayer ei Gymraeg
pan yn gweithio wrth y tŵr, ni byddai fawr o dro yn ei dysgu eilwaith pan
elai adref at ei wraig a’i blant. Fel hyn nid aeth fawr o’r iaith Gymraeg ar
goll yngwastadedd Sinar. Yr oedd yma, o leiaf, ddigon o le i’r hen iaith i
osgoi ebargofiant; a dianc a wnaeth hi, meddynt hwy1
Darllenwn am y Cymry yn Asia Leiaf dan yr enw Galatiaid;
ac, yn wir, yn mhell cyn hyny y mae Alexander Fawr yn cyfarfod â llwyth o
honynt ar y
Y mae, fel y gwyddys, gyfrifiad o’r boblogaeth
yn cael ei chymeryd bob deng mlynedd. Yn 1891 yr oedd Ynghymru 30 o bob 100 na
fedrent yr un iaith ond Cymraeg. Yn 1901 nid oedd ond 15 o bob cant; ac yn 1911
yr oedd y Cymry unieithog yn rhifo llai nag 8 o bob cant. Y mae yn amlwg
oddiwrth hyn fod y Cymro uniaith yn myned o’r golwg, ac y bydd ef mor brin
tua’r flwyddyn 1950 ag ydyw merched yn gwisgo’r het sidan Gymreig heddyw. Os na
ddihuna’r Gymraeg, neu ynte gael bywyd newydd, fe dderfydd Ynghymru fel iaith y
werin tua’r flwyddyn 1950, neu dyweder 1978, fel ag y darfyddodd Ynghernyw
tua’r flwyddyn 1778. Dywedai yr hynod Kilsby mai y gair olaf o Gymraeg a gai ei
siarad fyddai gan hen wraig 99 mlwydd oed yn ardal Tregaron. Ocheneidia
“Ych-i-fi” gyda’i bod yn marw; a bydd yr iaith Gymraeg farw gyda hi!
Yn awr, beth ydyw arwyddion yr amseroedd? Y
mae’r plant yn dysgu Saesoneg yn yr ysgolion: a pan ddelo pawb i wybod
Saesoneg, a rhai yn gwybod dim ond Saesoneg, y llwybr rhwyddaf fydd siarad
Saesoneg ac anghofio’r Gymraeg. Y mae dyn, fel pob peth mewn Natur, hyd yn nod
y fellten, yn dueddol bob amser i ddewis y llwybr rhwyddaf. Dywedir mai y ddwy
sir sydd yn cadw yn fyw yr iaith Gymraeg oreu ydyw Aberteifi a Meirionydd; a
dyma enghraifft o Gymraeg Sir Aberteifi fel y clywyd hi yn Neuadd y Dref yn
Llanbedr yn cael ei siarad gan aelod o’r Cynghor Sirol;—
“Yr wyf fi yn proposo fod y Surveyor yn
gwneyd plan. Y mae’r Main Road Committee yn approvo’r scheme;
ac yr wyf finau yn eu supporto nhw, waith rym ni’n bound o brotecto
interest y ratepayers.” Y mae iaith o’r fath yna yn dyfod yn fwyfwy
cyffredin bob dydd: ac nid oes un o bob deg o’r rhai a gyfarfyddwn ni ynghwrs y
dydd a all ddweyd y gair Cymraeg am yr un o’r geiriau canlynol, er y gwyr o’r
goreu beth olygant:—
Steel-pens, envelopes, note-paper, lawn tennis,
motor cars, bicycle, iron-clads, screw steamer, electric telegraph, sleeping cars,
electric light, telephone, lifts, tramways, fountain pens, photograph, post
cards, perambulators, spring mattresses, torpedoes, breech-loaders, revolvers,
competitive examinations, cramming, illustrated magazines, hypnotism,
millionaires, volunteers, typhoid, diphtheria, airships, goloshes, suffagettes,
sewing machines, Venetian blinds, spiritualism, weather forecasts, moustachios,
parcels post, appendicitis.
Y mae y geiriau yna i gyd yn dyfod yn fwy-fwy
cyfarwydd; a byddai yn anhawdd dychmygu am ergyd fwy creulawn i’r iaith Gymraeg
na chyfansoddi traethawd yn cynwys y cwbl o honynt wedi eu Cymraegeiddio. Y mae
Sir Aberteifi a Sir Feirionydd yn galw yr iaith siaradant hwy yn Gymraeg; ond y
mae gwawd yn dyfod i wyneb y Gogleddwr os gofyn y Cardi iddo,
“Shwt rych chi heddi?”
A phan elo’r Cardi dros Afon Dyfi a gofyn y
ffordd i’r pentref a’r pentref, cyfeirir ef, fe allai,
“Ewch efo’r gwrych, heibio’r ligir-lagar, a
thrwy’r hwdrath, ac ar eich trwyn.”
Fe ddichon fod hynyna yn Gymraeg diledryw; ond
Groeg ydyw i’r Hwntw, a gwaeth na hyny.Y mae hyn yn adgoffa i mi dyb yr hen
Archddiacon Williams, Ceredigion, yr hen ysgolhaig enwog, am ddechreuad yr
iaith Gymraeg. Myntumiai ef mai o’r Roeg y tarddodd, ac nad oes ryw wahaniaeth
nawr rhyngddynt hyd heddyw. Dywedai iddo ef, pan yn brif athraw Ysgol
Llanymddyfri, fod allan yn y wlad gyda’i nai, ar ddydd marchnad, yn
Llanymddyfri. Dychwelent i’r dref, ac fel arferol siaradent Roeg.
Cyfarfyddasant â benyw yn myned adref o’r farchnad, yr hon oedd yn methu cerdded
yn hollol gywir. Gyda’i bod yn eu pasio dywedodd ei nai, yn Groeg —
Hi guni metheuei.
Trodd y fenyw yn ol a dywedodd yn sarug,
“Nag ydw i ddim wedi meddwi.”
Dywedodd y nai yn Groeg fod y fenyw wedi
meddwi, ac atebodd hithau yn Gymraeg nad oedd hi ddim wedi meddwi.
“Y mae’r ddwy iaith,” meddai yr Archddiacon,
“mor debyg a hyna i’w gilydd.”
Er mai prin triugain mlynedd sydd er dyddiau’r
hen Archddiacon, y mae ymchwiliadau i darddiad ieithoedd wedi malurio ei
syniadau ef a syniadau yr oesoedd o’i flaen ef ar y testun. Y dyb gyffredin yn
awr yw nad oedd gan y dyn ar y dechreu fawr o eiriau ag y gallai wneyd defnydd
o honynt. Prin 200 o eiriau sydd heddyw gan y Cymro neu’r
“Y mae yn ddiwrnod braf,” meddai’r dyn ieuanc,
un tro, wrth y Dr. Silvan Evans.
“Beth?” meddai’r Doctor.
“Y mae yn ddiwrnod braf,” meddai’r dyn ieuanc
eilwaith.
“Ni ddeallais i ddim o honoch chwi,” meddai’r Doctor;
“nid wyf fi ddim yn clywed yn dda iawn.”
Yn awr, rhoddodd y dyn ieuanc ei lais allan:
“Y mae yn ddiwrnod braf.”
“O ydyw, ydyw y mae hi,” meddai’r Doctor. “Wedi’r cyfan nid yw dyn yn colli
nemawr trwy fod yn methu clywed:”
a gallasai chwanegu,
Na thrwy fod yn methu siarad chwaith.
Ond pa fodd y daeth cynnifer o ieithoedd i fodolaeth? Wrth Dŵr Babel,
yw yr ateb mwyaf sionc; ond y mae yn llawer rhy sionc i roi cyfrif am y
gwahanol ieithoedd fel y maent o’n blaen ni i’w hastudio heddyw. Nid yw hanes Tŵr
Babel wedi dyfod i lawr i ni yn ddigon cyflawn ini sefydlu dim arno a rydd
gyfrif am ddechreuad ieithoedd.
Y mae yn rhaid i’r hil ddynol fod un amser yn un bobl gyda’u gilydd —
dyweder ar Fynydd Ararat. Cynnyddasant gydag amser, ac ymwasgarasant ar wahanol
adegau i wahanol barthau o’r ddaear. Pan y cyferfydd hiliogaeth dwy adran o’r
rhai hyn â’u gilydd ymhen rhai miloedd o flynyddoedd, ond odid na fydd eto yn
gyffredin i’r ddwy adran rai o’r geiriau ag oedd ganddynt cyn iddynt ymadael;
er engrhaifft; yr enwau oedd ganddynt ar yr haul, y lleuad, y dwfr. O leiaf,
gallwn ddisgwyl y bydd rhwy debygrwydd yn aros byth yn rhai o’r enwau yma: ond
ni bydd yr un tebygrwydd rhwng yr enwau a roddasant ar ddarganfyddiadau
diweddarach. Ac fel hyn yr ydym yn ei chael hi. Y mae iaith yr Indiaid a
dynasant yn foreu tua’r dwyrain, ac iaith y Cymry a dramwyasant tua’r
gorllewin, yn wahanol iawn heddyw; ac eto y mae ambell i air byth yn aros yr un
fath yn y ddwy iaith.
Y mae y Gymraeg yn llawer tebycach i’r Roeg nag ydyw i iaith yr Hindwaid. Pam?
Am fod yr Hindwaid wedi ymadael â’r drigfa gyntefig gannoedd os nad miloedd o
flynyddoedd cyn i’r rhai a boblogasant wlad Groeg ymadael â’r rhai a
boblogasant Brydain Fawr. Y mae rhyw ieithoedd ymhellach fyth oddiwrth y Gymraeg
nag iaith yr Hindwaid. Dyna iaith yr Awstraliaid ac iaith trigolion cyntefig yr
India Orllewinol; prin y gallwn ni gasglu i’n henafiaid erioed fod mewn
cyffyrddiad â hwy. Fodd bynag, y mae un gair yr un peth ymhob iaith dros y byd;
ac mor belled ag y mae hwnw yn myned gellir gwneyd defnydd o hono yn mhob
gwlad. Whishshw, neu shw, yw’r gair—i ddanfon yr ieir oddiwrthym,
gan bob cenedl wareiddiedig ac anwareiddiedig. Os Cymraeg oedd yr iaith
wreiddiol y mae yn debyg iawn mai dyna yr unig air sydd wedi aros o honi hyd
heddyw. Nid rhyw drysor wedi ei roddi ini i’w gadw yw yr iaith Gymraeg, ond
adeilad yw a gododd ein henafiaid trwy lawer o drafferth a hir lafur: ac fel
pob adeilad arall, y mae yn ddarostyngedig i ystormydd amser guro arno. Y mae
wedi dal yn dda. Pan gurodd yr ystorm Rufeinig ar ieithoedd Cyfandir Ewrop nes
eu gwneyd mor wastad a’r llawr, fe ddaliodd yr hen Gymraeg Brydeinig yn “iaith
beirdd a chantorion, enwogion o fri”; a gellid meddwl ei bod un amser yn ddigon
cyflawn i ateb pob galwad arni ar ran gwareiddiad yr oes. Ond erbyn heddyw y
mae yn rhy amlwg fod gwareiddiad yr ugeinfed ganrif yn gofyn cwestiynau iddi
bob dydd nad yw hi yn gallu eu hateb. Nid yn unig nid yw hi yr gallu diwallu
angenrheidiau aelodau seneddol Cymru, ond y mae y Cymro uniaith mewn anfantais
o flaen y Cynghor Sirol, y llysoedd gwladol, ac hyd yn nod ar farchnad
Tregaron.
Y mae gan yr iaith Gymraeg heddyw ei phleidwyr selog. Mawr dda iddynt! Y
maent yn ymladd drosti fel dynion. Ond fe ymddengys y nerthoedd sydd yn ei
herbyn yn anrhaethol ry gryf iddi; a cholli tir y mae, fel y gallwn weled yn
ddigon amlwg, o flwyddyn i flwyddyn.
Penderfyned pob un drosto ei hunan, pa un yw y gwladgarwr goreu — ai yr hwn
a fyn gadw yn fyw yr iaith Gymraeg, costied a gostio; ai ynte yr hwn a fynai
weled y Cymry yn blaenori yng nghylchoedd cymdeithasol y byd gwareiddiedig. Meddai Arglwydd Brougham unwaith —
“Fe fynwn i weled pob gweithiwr yn darllen
Bacon.”
Atebodd Cobbet —
“Gwae fi na welwn i bob gweithiwr yn bwyta bacon.”
Dyna yn gywir fel y mae hi gyda’r Cymry y
dyddiau yma: y mae un dyn am weled pawb yn darllen gweithiau barddonol Llywarch
Brydydd y Moch, a’rllall am weled pob Cymro yn galhi cael slice o’r
mochyn gyda ‘i frecwast. Nid oes dim achos ini ddiystyru y naill na’r llall;
ond os edrychwn ni ar y byd yn ddiragfarn y mae yn rhwydd gweled.mai’r duedd
gyffredin yw — gwellau’r bwrdd ac esgeuluso’r bardd.
I symio i fyny yr hyn fûm yn geisio egluro:
“Dechreuodd yr iaith Gymraeg cyn bod neb wedi dysgu ysgrifenu i gofnodi y
digwyddiad; ac os derfydd hi yn 1978 gadewch ini wneyd y goreu o honi hyd hyny.
Os “Whishoo” oedd y gair cyntaf, ac “Ych-i-fi” sydd i fod y gair
diweddaf iddi, rhwng y ddau gyfnod yna bu yn hen iaith rymus ac ardderchog; a
bu y Cymro wrth ei siarad, ar y cyfan, yn bur hapus ac yn llwyddianus. Os bydd
raid iddo ei rhoddi i fyny a mabwysiadu yr iaith Saesoneg yn ei lle, ond odid
na fydd ef yn llawn mor hapus a rhywfaint yn fwy llwyddianus.
............Crynfryn.
...................................................................D. EDWARDES.
DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN |
Sumbolau
arbennig: ŷ ŵ
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n
ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page
from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch
ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats