0936k Saif y Winllan yng nghwmwd
Geneu’r Glyn, rhwng y Geulan a’r Leri, a thua hanner y ffordd rhwng Cors Fochno
a Phumlumon, ac yn sir Aberteifi.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_069_hela_hen_eiriau_1898_0936k.htm
0001z Y Tudalen
Blaen
..........1863c Y Porth Cymraeg
....................0009k Y Gwegynllun
..............................0960k Y
Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina
0860k y llyfr
ymwelwyr |
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
(delwedd
6664) Adolygiadau
diweddaraf: |
Rŷn ni wedi cadw at yr orgraff
wreiddiol. Rhoir x o flaen rhif pob tudalen yn y testun gwreiddiol (x238) ayyb
·····
(x237)
Hela Hen Eiriau
GAN SPINTHER.
Seren Gomer 1898, tudalennau 238-245
Af am dro, yn fy adgofion, i hen amaethdŷ a elwir y Winllan, lle y treuliais ddwy flynedd o foreu fy oes yn was bach neu hogyn cadw. Saif y Winllan yng nghwmwd Geneu’r Glyn, rhwng y Geulan a’r Leri, a thua hanner y ffordd rhwng Cors Fochno a Phumlumon, ac yn sir Aberteifi. Gwlad fynyddig a bugeiliol yw hon; a thua hanner can mlynedd yn ol yr oedd mor Gymreig, h.y. mor amddifad o Saesneg ag unrhyw barth o Gymru.
(x238)
A oes rhai o'ch gohebwyr a ymunant â mi chwilio allan yr hen eiriau a arferai y
Cymry gynt am yr amrywiol bethau a berthynant i ddyn, ei dŷ, a'i dyddyn?
Afraid dweyd mai geiriau estronol a arferir am lawer o'r pethau hyn yn awr
braidd ymhob parth o'r wlad; ond tybir mai nid am nad oes geiriau Cymraeg y
gwneir hynny, eithr o ddiffyg eu gwybod. Y mae yng Ngeiriadur Cynddelw tua
deugain mil o eiriau arweiniol; ond nid yw eu traian yn cael eu harfer, na’u
hystyr yn adnabyddus, tra mae toraeth anferth o eiriau estronol ar flaen tafod
pawb. Noda Stephens, o Ferthyr, fod yn y Gymraeg naw o wahanol eiriau am
frwydr, as efe a gasgla o weithiau yr hen feirdd bedwar ugain a phymtheg o
eiriau cyfansawdd wedi tyfu allan o un o'r naw hynny, sef aer, megys
aerawd, aerawg, aereswr, &c. Ond nid oes Gymro heddyw a fedr ddefnyddio ond
pur ychydig o’r pedwar ugain a phymtheg hynny mewn unrhyw frawddegau trefnus.
Prawf hyn ddau beth: cyfoeth y Gymraeg, ac anfedrusrwydd Cymry yr oes hon i
drin eu hiaith eu hunain.
Diau fod gan yr hen Gymry, fel pobl ereill, eu henwau arbennig arnynt eu
hunain, eu hafonydd, a'u mynydoedd, ynghyda holl bethau cyffredin bywyd, megys
bwyd, dillad, tai, llestri, celfi, offer, arfau, &c.; ac fod yr enwau hynny
yn Gymraeg. Pan mae cenedl yn derbyn rhywbeth oddiwrth genedl arall, y mae yn
gyffredin yn derbyn ei enw gydag ef; ac yna yn ailfoldio ac ystwytho yr enw
hwnnw i ateb ei chynhaniad greddfol ei hun.
Anfantais i ni yw mai yn y Lladin, a chan estroniaid, yr ysgrifennwyd braidd
bopeth am y Cymry a'u gwlad yn yr hen amseroedd. Beth oedd yr enwau brodorol ar
yr amrywiol lwythau a boblogent y wlad a elwir yn awr Cymru, pan gyfyd i olwg
hanesiaeth, nid oes wybodaeth. Enwau y byd dysgedig arnynt oedd Silures,
Dimetiae, Cangiani, &c. Enwau eu prif afonydd oedd Sabrina, Seteia,
Deva, Toisobius, Stucia, Tucrobus, Ostia, Isca, a Ratostadivbius.
Enwau y byd dysgedig oedd y rhai yna, ac mewn llyfrau yn unig y ceir hwynt;
enwau ereill a arferid gan y brodorion y pryd hwnnw, ac mae'r enwau hynny yn
aros hyd heddyw. Ond y mae dosbarth o enwau ar bethau cyffredin bywyd wedi
gweithio (x239) eu ffordd i dafodiaith Cymru yn
yr amseroedd diweddaf hÿn, y rhai ydynt yn gweithio allan yr hen enwau Gymraeg
gyda chyflymder brawychus. Gallai Cymro ieuanc, wrth gweled mai enw estronol a
arferir braidd ar popeth yn y tŷ ac allan, redeg i’r casgliad nad oedd ei
hynafaiaid ond anwariaid gwylltion, ac mai oddiwrth estroniaid y derbyniwyd pob
cynhyrchion gwareiddiad, a'u henwau gyda hwynt.
Carwn pe bai rhyw dri neu bedwar o gyfeillion, sydd yn awr o flaen fy llygad,
yn dyfod gyda mi am bleserdaith hynafiaethol trwÿ rai o barthau mwyaf Cymraeg
Cymru, i hela hen eiriau llafar gwlad. Diau y caem lawer o ddifyrwch buddiol, a
gallem, trwy ganiatad y Golygydd, gynnal ymgom ddiddan mewn rhyw adran o’r
SEREN GOMER am rai misoedd, yr hyn, feallai, a barai agoriad llygaid i lawer.
Dyma fi yn cychwyn, gan ddisgwyl ereill i ddilyn.
Af am dro, yn fy adgofion, i hn amaethdŷ a elwir y Winllan, lle y
treuliais ddwy flynedd o foreu fy oes yn was bach neu hogyn cadw. Saif y
Winllan yng nghwmwd Geneu’r Glyn, rhwng y Geulan a’r Leri, a thua hanner y
ffordd rhwng Cors Fochno a Phumlumon, ac yn sir Aberteifi. Gwlad fynyddig a
bugeiliol yw hon; a thua hanner can mlynedd yn ol yr oedd mor Gymreig, h.y. mor
amddifad o Saesneg ag unrhyw barth o Gymru. Yr oedd y Winllan yn godro tuag
ugain o wartheg, a rhyw gant a hanner o ddefaid; yn cadw dwy wêdd, tri gwas, a
dwy forwyn; yn llosgi mawn; yn codi oddiar y tir bob defnyddiau ymborth a
dillad, ac yn trefnu pob rhyw luniaeth yn yr hen ddull; yn talu’r cyflogau a'r
rhent âg arian yr enllyn, y defaid pedeiriau, a’r gwlan; ac enw y preswÿlÿdd
oedd Sion Ifan, a’i wraig oedd Pali – hen gwpwl diwyd a diniwed, anwybodus ac
hygoelus, fel pawb o'u cyfoedion; wedi magu pump o blant, ac wedi dysgu byw yn
galed a thrin y byd, heb ofalu braidd am ddim ond am gau pob llidiart ar eu hol
- dyna'u gair bob amser; coffa da am danynt.
Mae llu o adgofion am y Winllan, a’r parthau cyffiniol, ar ol gorwedd yng
nghwsg yn fy nghof am fwy na deugain mlynedd, yn ymwthio i fyny yn awr yn bur
fywiog. Yr oedd y Winllan yn meddu amryw o dai – y tŷ byw, a’r tai allan.
Yr enw ar le fel hwn yn yr hen amser oedd tref, a chant o'r fath oedd yn
gwneyd y gantref. Yr oedd “bileiniaid” y brenin i wneyd iddo ymhob
cartref; neuadd, ystafell, bwytŷ, ystabal, cynordŷ (tŷ’r cwn),
ysgubor, odyn, trefyn bychan (geudy), a cherner (lle i roi'r gern i lawr, lle i
gysgu). Ond ffarm yw enw lle fel hwn yng Ngheredion, a fferm yn y
Gogledd, lle y dywed y Seison “Ferm Farm”. Dichon mai o’r (x240) Lladin firmus, y daw fferm neu ffarm,
a'i fod yn golgu lle cadarn (firm), wedi ei gau â muriau ynte le wedi ei
ddiogelu i'w breswlyddydd trwy amod neu weithred. Tyddyn yw y gair am
ffarm yng Nghyfreithiau Hywel Dda. Tŷ a thyddyn. Gair llyfrawl afrosgo yw amaethdy.
Math arall o dŷ yng Ngheredigion yw lluest - bwth bugeiliol. Y tŷ,
mewn modd arbennig, yw preswyl y teulu. Gelwir tŷ uwchraddol, neuadd (beth
yw gwehelyth neuadd?) a'r fath uchaf yw plas neu palas, o Paletium,
un o saith fryn Rhufain, preswyl Augustus. Diogelir y tŷ yn gyffredin
gan amddiffynfa driphlyg - clawdd bychan o amgylch y drws, clawdd mwy o amgylch
y tai allan perthynol iddo, a chlawdd bwy {sic} o amgylch y cae lle saif y
cwbl. Mae amryw enwau ar yr amddiffynfeydd hyn, a thri o honynt o leiaf wedi
dod o'r LIadin – clawdd (claudo), mûr (murus), a gwàl (vallum).
Gelwir y lle cauedig cyntaf cae, lle wedi ei gau, neu gloddio o’i
amgylch. Oddiyma y daw caer, caeth a cafn hefyd feallai. O gerryg
y gwneir y mûr a’r wàl, ond o bridd a thywyrch y gwneir y clawdd, clais.
Clywais wr o Forgannwg wrth bregethu yn y Gogledd, yn dweyd, “Codi dyn o'r
clais;” ond ni oedd neb yn ei ddeall. O’r pridd a’r tywyrch a godir o’r ddwy
ffos y gwneir y clawdd, ac yn y clawdd y tyf drain, yr hyn yw shuttin Ceredigion,
perth Morgannwg, a gwrych y Gogledd. A oes enwau ereill arni?
Gelwir yr ail le cauedig, buarth a buches, lle’r buchod neu’r
gwartheg, ac weithiau ffald, ac yard hefyd. A gelwir y trydydd lawnt,
beili, clos, cwrt; a hewl yn y Gogledd. Ymddengys
fod llawnt, llan, lôn, a land, o'r un welygordd.
Ar y fynedfa i'r cae ac i'r buarth hefyd y mae llidiart yr hwn hynt a droai ar
ei gorddyn wrth aerwy bren neu wden, ond a grogir yn awr yn gyffredin wrth
fachau haiarn. Math arall o gauad yw clwyd, ac o'r un welygordd a
clawdd. Curir pennau dau bost y glwyd i'r ddaear. A chlwydi y gwneir
corlan y defaid, ac y rhennir cae i amcanion amaethyddol. Ar y fynedfa i'r
lawnt y mae drws neu lidiart bychan a elwir cyn ddor, cyn ddrws, eat (gate)
catch eat, ac weithiau wicet. Pa enwau ereill sydd arno? Drwy'r
llawnt yr eir at y drws neu’r ddôr. Gwneir gwahaniaeth rhwng drws a dôr
yn Genesis xix. 6, lle y dywedir i Lot fyned allan i'r drws, a chau y ddôr ar
ei ol. Ymddengys mai agorfa yn y mûr er myned i mewn ac allan yw drws neu
ddor. Gelwir yr agorfa i ddinas neu gastell porth, Llad. porta,
a'r cauad ar y porth yw cwlis, Llad. caalare – “porth cwlis.”
Byddai y cwlis, neu fel y gelwid ef porth, yn codi a gostwng wrth bwysau, ac nid
yn agor fel drws ar ei gorddyn. Yng ngoleu hyn y gellir deall, “O byrth!
dyrchefwch eich pennau,” Ond y drws (x241) porth
y ty. Mae'r drws yn gweithio mewn ystram, yr hon a ffurfir gan y trothwy, y
ddau ystlysbost, a'r gwarddrws. Neu yn iaith y Beibl, y rhiniog, y gorsinau, a
chapan y drws. Yr oedd i'r drws gynt ddau gorddyn, un yn cael ei forteisio i'r
trothwy, a'r llall i'r gwarddrws; ac ar yr ystlys arall yr oedd cliced bren, a
thwll bŷs o dani i'w chodi a'i gostwng oddiallan; a diogelid y drws dros y
nos trwy ei brenio, h.y., gwthid cŷn, gaing, neu letem bren (nad wyf yn
cofio yr enw, os nad gwrthoel), ar wàr y gliced, neu dodid pren praffus ar
draws y drws gyda'i bennau yn ddiogel yn y ddau ystlysbost. Dyna oedd prenio'r
drws. Sonir yn y Cyfreithiau am glo haiarn. Pris clo haiarn, ceiniog; clo pren,
dimai. Parthid y ty gan bared i gegin a siamber. Cegin, Llad. coquina -
ystafell goginio, lle i ddarparu i'r geg. Oddiyma y tardd cogydd (cook),
a côg (cuckoo). Siamber, Llad. camara - lle pen-geuad, cromen. Yr
enw parchusaf yw ystafell, Llad. stabulum. O'r un gair y daw ystabal,
ystafell y march. Yng Ngheredigion, ystafell y gelwir gwaddol gwraig, yr hyn
mewn llyfrau a elwir argyfreu, agweddi, cynysgaeth, cowyll, &c.
Y gwahanfur rhwng y gegin a'r siamber yw’r pared, Llad. parietes. Mûr o
bolion a gwiail ydyw pared, wedi ei blastero â morter blew, a'i olchi â dwfr
calch. “Bared wedi ei wyngalchu,” y galwai Paul y rhagrithiwr Ananias. Enw
arall ar y pared yw palis, Llad. palus, , ac oddiyna y daw palisade.
Gollyngir goleuni i'r ty drwy ffenestr, Llad. fenestra. Nid yw window
y Seison yn golygu ond llygad gwynt. Cloer, sef twll yn y mûr, cul
oddiallan a llydan oddimewn, oedd y ffenestr yn yr hen dai, fel yn yr hen
gestyll, a chauid genau y gloer gyda rhwydwaith dellt a elwir cledrwy.
Mae’r gloer i’w gweled eto mewn llawer beudy ac ysgubor yng Ngheredigion; ond lownsed,
neu ryw air tebyg, y gelwir hi yno.
Enw llawr y gegin yw aelwyd; y barth {sic} ym Morgannwg. Aelwyd
yw lle'r tân, ond ni wn ei ystyr, os nad yw yn tarddu o'r ffaith y byddai y
garreg aelwyd yn codi yn uwch na'r llawr, er i'r gwynt dreiddio rhwng y marwor.
Tu cefn i'r garreg aelwyd, yr oedd carreg arall ar ei chyllell a elwid pentan.
Uwch y tân, ac ynglŷn a mûr y talcen, yr oedd y fantell simnai, yr hon
sydd yn cymeryd y mŵg a'i ollwng i'r corn. Dyfais gymharol ddiweddar yn y
wlad hon yw simnai; Ffr. cheminee, Llad. caminus. Mae'r
Geiriadurwyr wedi ceisio bathu geiriau mwy Cymraeg, megys ffumer, sawell,
&c., (x242) ond nid yw y bobl yn eu cymeryd.
Mewn hen dai, yr oedd y corn simnai a'r fantell yn ddigon agored fel y gwelid y
sêr o'r aelwyd, ond nid mantais i gyd oedd hynny, oblegyd byddai y gwlaw a'r
cenllysg yn dyfod trwodd weithiau, ac yn diffodd y tân.
Yn y simnai, uwch y tân, yr oedd y pren du, ac wden am dano, wrth
yr hon y crogai y linc, ac wrth y linc y bachau i ddal y
crochan. Y taclau tân oedd yr efail, y malcyn, y rhaw ludw,
a'r fegin. Mae y Geiriadurwyr, o ddiffyg gwybod am y malcyn, wedi ceisio
llunio gair Cymraeg am poker, a'i alw yn “pwtiedydd,” “tanffon,” &c.
Darn o bren oedd y malcyn, â'r hwn y cynhyrfid y tân yn y ffwrn neu'r pobty,
a'r hwn hefyd a gyneuai beth ei hun wrth wneyd ei waith. Twymbren y
gelwir ef yn y Gogledd. Y mae “cyn ddued a'r malcyn,” yn hen air. Mae megin hefyd
yn hen air rhagorol.
Mae o anadl mwy ynof
Nag ynghau meginau gof.
DAFYDD AP GWILYM
Dodrefn gegin oedd bwrdd, dresel, ystolion, meinciau, setl, a chadeir; llawn
mor syml a’r ystafell fechan honna wnaeth y Sunamees i Eliseus, yn y mûr, lle
yr oedd gwely, a bwrdd, ac ystôl, a chanwyllbren. Nid yw bwrdd, yr hwn yn
Ngwent a elwir bord, ond dodrefnyn diweddar yn y wlad hon. Ni cheir ef
yng Nghyfreithiau Hywel Dda; ond enwir tawlfwrdd yno yn fynych. Nid yw “Bord
Gron” Arthur yn hynach na'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Dodrefnyn dôd, a diweddar
hefyd, yw y dresel, Ffr. dressoir. Math o gwpwrdd, gyda chefn uchel a
selfoedd i ddal llestri, yw y dresel. Dyma bedwar math o ddodrefn i eistedd
arnynt: - ystôl, mainc, setl, a chadeir. Bwrdd bychan crwn a moel, gyda thair
troed iddo, yw ystôl. Deillia Webster y gair o'r Germanaeg stellen.Ei
ffurf yng Nghyfreithiau Hywel Dda yw estaul. Arfer y Gymraeg wrth fabwysiadu
gair sydd yn dechreu gydag s. ac yn cael ei dilyn gan gydsain, yw rhoi e
neu y o flaen yr s – estaul, ystôl. Gair Celtaidd yw mainc,
fel banc, ac yn golygu lle uchel, llwyfan. Binse yw el ffurf Wyddelig,
ac o hwnnw y cafodd y Saeson eu bench. Eisteddle foel a hir yw mainc, ar
yr hon y gall amryw gydeistedd. Ar y fainc yr eistedd y barnwr; ac ar yr
orseddfainc yr eistedd y brenin. Ymddengys mai sedd yw sylfon y gair eistedd;
ac oddiyma y tardd seat a setl. Rhyfedd fel y myn pobl y capeli,
trwy Dde a Gogledd, lynu wrth y gair setl, gan gyhoeddi “amser talu arian y
seti” bob tri mis. Mainc, gyda chefn uchel, a'r gwaelod yn gist neu gwpwrdd, yw
y setl. Gelwir hi ar amrywiol enwau, yn ol y defnydd a wneir o honi, megys perging,
spens, lowns, screen, &c.
Y brif sedd yw y gadeir, yr hon a fedda bedair troed, cefn a breichiau. Dywedir
mai o cathedra y Lladinwyr y deilliodd cadeir y (x243) Cymry, ond tueddir fi i ameu hynny, ac mai y
sylfon yw câd, cadw, cadarn. Sedd swyddol, yn hytrach na theuluaidd, yw cadeir.
Nid ymddengys yn y Cyfreithiau ymhlith y dodrefn, ond sonir yno am “Ymryson
Cadeir,” a “dodi y gobenydd o danaw yn y gadeir;” a “ phedwar cadeiriawl ar
ddeg y sydd yn y llys,” &c. Yng Ngheredigion cadeir y gelwir cryd magu, a
phwrs y fuwch hefyd; ac y mae yno “wenith cadeiriog,” a “chnau cadeiriog.” Pa
ystyr a roddir i'r gair mewn parthau ereill?
Yr oedd pedwar pryd bwyd yn y Winllan; brecwast, ciniaw, bwyd ambor, a swper.
Meal yw gair y Seison am fwyd, yr hyn a arwydda mai blawd oedd prif
elfen eu lluniaeth. Nid yw pryd bwyd yn golygu ond amser bwyd. Pa
enwau Cymreig a arferir ar y prydiau uchod mewn parthau ereill? Bastarddair yw brecwast
o breakfast. O caena y Lladinwyr y daw ciniaw. Cwynos a
geir yn y Cyfreithiau, ac ancwyn oedd y mesur: “Ancwyn a gaiff nid amgen
saig.” Ond beth yw ystyr bwyd ambor? Gwaith peryglus yw dyfalu ystyr
geiriau. Ond gellir nodi mai o lestr hir, dwyglust, a elwid amphora, y
byddai y Rhufeiniaid yn tywallt diod i gwpanau wrth y bwrdd. Yng Ngheredigion, ambor
y gelwid y tray a ddodid ar y bwrdd o dan y llestri tê prydnawn. Ai
oddiyma y tarddodd yr enw bwyd ambor? Yr enw am fwyd ambor yn y
Gogledd yw crynsfwyd, cynwysfwyd, a tamaid. Ymddengys mai o'r
Ffrancaeg super y daw soup a swper, ac mai ei ystyr yw
sipfwyd, llymeitfwyd. Yr oedd cwynos yr hen Gymry yn cael ei arfer yn ddiwahaniaeth
am y ciniaw a'r swper fel eu gilydd.
Dyddorol yw cofio enwau y llestri bwyd. Y llestri coginio oedd y crochan,
y sospan, y badell ffrio, a'r gradell. Yr oedd amryw
fathau o grochanau – y crochan mawr, callor, pair – y crochan
gwaelodwastad hefyd a elwid ffwrn, yn yr hon y pobid y dorth wen, ac y
crasid yr asen frâu ar ol ladd mochyn. Dodid y ffwrn ar drybedd, cant haiarn
gyda thair troed iddi, yng nghanol y tân, gan ei chladdu mewn marwor; a gwnelai
ei gwaith yn rhagorol. Y llestri bwyta oedd y picyn - math o stwc neu
sten o goed masarn, gyda dau gylch gloyw am dano, a chordyn i ymaflyd ynddo,
a'r llwy-bren at fwyta potes (cawl), uwd, llymru, maidd, mwdran, ynghyda phob
gwlybwr o'r fath; a thrensiwr pren hefyd at fwyta cig a thatw. Ymddengys
mai Cymro yw y picyn, ond mai o'r Ffrancaeg, tranchoir, y daeth y
trensiwr. Gair arall yn yr iaith honno am yr un peth yw tailoir, ac o
ffurf arall ar hwnnw - tailleur, y daeth teiliwr. O bren masarn gwyn a
glân y gwnelid y y trensiwr, fel na byddai dim o'i flas ar bwyd; ond mae Sion
Tudur, wrth ofyn am lwyth o yslatus o Chwarel y Caehir (Bethesda) yn 1570, (x244)er dangos rhagoriaeth yr yslatus hynny, yn son
am “drensiwrau cerig:” -
I'w siambrau ais am y brig,.
Siwr y cair trensiwrau cerig.
Yr oedd ar y dresel yn y Winllan resi o blats pewter, a disglau pewter a
phridd, a llwyau pewter hefyd; ond llestri coed fyddai yn wastad ar y bwrdd
mawr.
Y llestri llaeth, hyd wyf yn cofio, oedd y sten i odro, yr hidl i
hidlo'r llaeth i'r badell, y scimyn (skimmer) i godi'r hufen i'r
gunog, y fuddai i gorddi, y noe i gyweirio'r 'menyn, y twba i
falu'r sopen, a'r caulsyllt i dderbyn y cosyn a'i dalaith am dano i'w
ddal o dan y press (caws-wasg). Yr oedd amryw fathau o laeth - llefrith,
hufen, llaeth scim, llaeth enwyn, llaeth syml, llaeth maidd, a llaeth glas. Yr
oedd amryw o gig hefyd, a'r cwbl yn hallt: cig moch, cig eidion, cig manllwyn,
cig gogor, a choch yr wden. .
Mae yn bryd bellach meddwl am y gwely. Celfyn cymharol ddiweddar ymhlith y
Cymry a’r Saeson hefyd yw y pren gwely. Nid oes son am dano yng Nghyfreithiau
Hywel Dda. Yn ol disgrifiad Giraldus o Gymru yn 1188, yr oedd y tân ar ganol y
llawr, a phan ddelai’r nos, taenid trwch o frwyn neu wellt ar y llawr o amgylch
y tân, a gwrthban garw a elwid brycan (rug) dros y cwbl; ac ar hwnnw,
a'u traed at y tân, gorweddai y teulu, bawb yn eu dillad, blith draphlith a’u
gilydd, i gysgu. A rhywbeth tebyg oedd y gwely ym mhlith y Saeson hefyd?
Oddiyma y tardd y gair gwelygordd - cylch gwely – i osod allan deulu neu dylwyth.
Ond erbyn canol y ganrif hon yr oedd gwareiddiad a moethau wedi darparu pren
gwely, yr hwn, gyda'i ben a'i draed cauedig, a'i erchwynion uchel, a
ymddangosai fel coffor neu gist, ac yn llawn o wellt neu beiswyn, a hwnnw
weithiau mewn ticyn, ond y rhan fynychaf yn rhydd. Edrychai tri neu bedwar o
blant mewn gwely yr un ffunud a pherchyll mewn gwellt. Gwelliant mawr yn y pren
gwely oedd dyfeisio'r ffordd i ddodi cortyn ynddo, yr hwn a weithid drwy'r coed
yn groes ungroes. Ar y cortyn, dodid pleiden wellt, gwaith cartref pur
gelfydd, ac ar y bleiden drwch o wlân neu bluf mewn ticyn golygus. O dan y pen
dodid gobennydd a chlustog. Sylwer fel mae gobennydd a chlustog yn cyfateb i’r
enw cerner, lle i ddodi'r gern i lawr, am ystafell wely. Y gweddill o'r dillad gwely
a elwid gwrthbanau, blancedi, Ffr. blanchet, a'r brycan neu brychan (rug,
quilt). Yr oedd cryn bellder rhwng y gwely goreu gaid yng nghantref
Penwedig {sic}hanner can mlynedd yn ol, a'r brass bedstead, gyda'i spring
mattress, hair mattress, ei eider down, a'i lenni teg, a geir
yn y wlad honno erbyn heddyw. Pethau fel hyn yw'r cerryg millltir sydd yn nodi
cynnydd yr oes.
(x245)Ar ol i ddyn godi o'i wely, rhaid iddo
wisgo am dano. Ond pa Gymro a fedr wisgo am dano yn Gymraeg heddyw? Rhaid iddo
gael ei grys o'r Ffrancaeg creseau, ei sanau o'r Lladin hosa,
ei drawers a’i drousers, ei wasgod a'i got, ei het
a'i esgidiau o iaith plant Alis, fel nad oes ganddo yr un pilyn
Cymraeg namyn ei addurn gwddf, ac mae y Ceredigion yn mynnu anurddo hwnnw â'r
enw macyn (napcyn), a’r Gwyneddwyr â'r enw cadach. Mae gair y
Gwentwyson, neisied, yn enw rhywogaethol, a llawer mwy lledneis. Dyma
bòs niewn cenedloneg, ieitheg, ac hanesiaeth Sut yr aeth pob pilyn sydd gan y
Cymro am ei gefn, o'i gorryn i'w sawdl, i wisgo enwau estronol?
Beth pe bae ni eto yn gwisgo am y ceffyl, i gael amcan faint o’i daclau ef sydd
yn meddu enwau Cymraeg? Cymerwn y ceffyl marchogaeth. Mae ef yn hynach na’r
ceffyl gwedd. Ei harnais ef yw y cyfrwy a’r ffrwyn. Mae yn debyg
fod cyfrwy yn air Cymraeg, ac y mae iddo ei genglau. - Llad. cingula, cruper
- Gael. crup, a gwrtholion. Dichon fod ffrwyn wedi
dyfod o'r Lladin, froenum; mae iddi ei genfa, ei thalaeth,
a'i hawen, y rhai ydynt Gymraeg. I'r ceffyl pwn - pynfarch, yn lle
cyfrwy, mae panel. A ydyw panel yn air Cymraeg? Beth arall y gelwir ef?
I’r ceffyl gwêdd, yn lle panel y mae ystrodur, a thros y strodur, er dal i fyny
freichiau’r gert (cart, trol), y mae cadwen a elwir yn Ngheredigion backchain.
Y gweddill o'r harnais yw y breechband; y goler (collar), a'r
homs. Gwelir mai enwau pur Seisnigaidd sydd ar holl gêr y ceffyl gwaith.
Yn y Gogledd mae'r enwau yn fwy Cymreig. Yn lle backchain ceir
“carwden,” yn lle breechband y “dindres,” neu'r “fondres;” yn lle'r goler,
y “mwnci;” ac yn lle'r homs, y “mwnci pren.” Llygriad o'r gair Ysgotaidd
haims, hammys neu hems yw yr “homs” a dichon mai ei
wreiddyn yw y gair Cymraeg cam, yr hwn a olygir ei ffurf. Rhyfedd fel
mae enwau pethau fel hyn wedi cael eu trosi; ond y mae i'r enwau eu hanes. Pe
ysgrifennwyd. hanes yr homs, buasai yn bennod ryfedd yn hanes Cymru. Pwy
ai hysgrifenna? Dichon mai ychydig sydd yn gwybod mai wrth gynffon y ceffyl y
byddid yn cysylltu yr aradr yn yr Iwerddon; hyd oni osodwyd yr arferiad i lawr
yno trwy nerth cyfraith yn yr ail ganrif ar bymtheg!
Onid yw yn ffaith hynod mai Sais yw pob ceffyl yng Nghymru? Ceir clywed gwesion
ffermydd, na wyddant frawddeg o Saesneg, yn siarad â'r ceffylau: Gee-up,
way, heit, commother, gently, &c. Beth sydd yn cyfrif am hyn? Ond dyma
fi yn tynnu'r gwys hon i'r dalar, gan fod yn sicr, os bydd i amryw ddilyn y
ceir grawn cynhyrchiol mewn lle nad oedd neb yn meddwl.
DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN
HWN |
Sumbolau arbennig: ŷ ŵ
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n
ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page
from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch
ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats