http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_072_hanes_y_bibl_cymraeg_2176k.htm
0001z Y Tudalen
Blaen
..........1863c Y Porth Cymraeg
....................0009k Y Gwegynllun
..............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina
0860k y llyfr
ymwelwyr |
Gwefan Cymru-Catalonia
|
(delwedd 7282) Adolygiadau
diweddaraf: |
Ein sylwadau ni mewn teip oren
Rŷn ni wedi cadw at yr
orgraff wreiddiol - ar wahân i ambell gambrintiad amlwg. (Mae’r anghysondebau
yn yr ysgrif, megis ‘hen / hên’ yn ddiwahân)
Dynodir y tudalennau felly
(x20), (x21),
ayyb
Ar ôl sganio’r testun, bu’n
rhaid mynd ar hynt y llwyth o fân wallau - rŷn ni’n meddwl i ni gael hyd
iddynt i gyd, ond efallai bod ambell un heb ei weld gennym eto.
_______________________________________________________________________________________
Hanes
y Bibl Cymraeg. Cyhoeddwyd yn y flwyddyn 1876
LEVI, THOMAS
(1825-1916), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.
Ganwyd 12 Hydref 1825, ym Mhen-rhos ar bwys
Ystradgynlais
_______________________________________________________________________________________
(x - v) RHAGYMADRODD.
Diammheu y bydd yn dda gan y darllenydd Cymreig gael
crynodeb byr o hanes y BIBL CYMRAEG, a’r ymdrechion clodfawr a wnaed gan ein
tadau i’w gyfieithu, ei argraphu, a’i ledaenu. Yr ydym yn ddyledus am ein
hyfforddiant yn hanes y Bibl, a hanes bywyd ei gyfieithwyr a’i ledaenwyr, i
amryw awduron, megys “Llyfryddiaeth y Cymry” - “Cymru,” - “Gwyddoniadur”
&c.; ond yn benaf am y cyfieithiadau i “Welsh Versions and Editions of
the Bible,” gan Dr. Thos. Llewelyn, 1768. Buom yn y British Museum
yn darllen ac yn cydmaru yr argraphiadau cyntaf o Destament Salesbury, a Biblau
Dr. Morgan a Dr. Parry ac eraill; ac yr oedd yn llawen iawn genym gael yno y
fath gronfa ragorol o hênlyfrau Cymraeg, (x - vi)
mewn llawysgrifau yn gystal ag mewn print. Mae yno faes ardderchog yn aros
Hanesydd Cymreig i ddyfod i’w chwilio, a chasglu ei ffrwythau.
Yn y gyfrol fechan hon, yr oeddem dan
orfod i fod yn fyr. Ond gwnaethom ein goreu i roddi hanes mor gywir ac mor
gyflawn ag oedd yn bosibl. Hyderwn y bydd darlleniad y llyfr, a’r olwg a rydd
ar ofal Rhagluniaeth ddwyfol am genedl y Cymry, yn darparu dynion cymhwys i
drosglwyddo y gyfrol werthfawr - Gair y Bywyd - i’w dwylaw, yn adgoffa i ni ein
rhwymedigaethau i’r Arglwydd. Dymunem hefyd iddo gadarnhau ein ffydd yn y Bibl,
ac ail enyn ein cariad ato; fel y byddo i werin ein gwlad ei dderbyn fel gair
Duw, pwyso ar ei dystiolaethau cedyrn, ac ymdrechu fwyfwy i weithio allan ei
egwyddorion gogoneddus mewn bywyd ac ymarweddiad sanctaidd.
ABERTAWY.
(x - vii) CYNWYSIAD.
|
|
TUDALEN |
PENNOD
I. |
LLYFR DUW |
x1 |
PENNOD II. |
CASGLIAD LLYFRAU Y BIBL |
x4 |
PENNOD
III. |
CYMRU CYN CAEL BIBL ARGRAPHEDIG |
x7
|
PENNOD
IV. |
Y TESTAMENT CYMRAEG PRINTIEDIG CYNTAF – TESTAMENT
SALESBURY |
x16 |
PENNOD
V. |
BIBL DR. MORGAN |
x22 |
PENNOD
VI. |
Y BIBL CYMRAEG PRESENOL |
x30 |
PENNOD
VII. |
YMDRECHION I GYFLEWNI CYMRU A BIBLAU |
x34 |
PENNOD VIII. |
HANES PRIF GYFIEITHWYR Y BIBL |
x52 |
PENNOD
IX. |
LLEDANEWYD Y BIBL YN MYSG Y CYMRY |
x82 |
PENNOD
X. |
GWERTH A DYLANWAD Y BIBL |
x111 |
(x1) HANES Y BIBL CYMRAEG.
PENNOD
1.
LLYFR
DUW.
Llyfr Duw yw y Bibl. Datguddiad ydyw o
feddwl Duw i ddyn; dyna deallir wrth ei alw yn Ddatguddiad Dwyfol. Cymhwyswyd
dynion duwiol, trwy ddylanwad yr Ysbryd Glân, i dderbyn, a throsglwyddo, y
Datguddiad hwn, trwy air, neu ysgrifen; dyna ddeallir wrth Ysprydoliaeth
Ddwyfol.
Am hyn gelwir y llyfr hwn yn Ysgrythyrau, neu Ysgrifeniadau
Sanctaidd. Gelwir ef yn Hên Destament a Thestament Newydd, oddiwrth fod yr
Arglwydd yn arfer galw y berthynas rhyngddo ef a’i bobl ar yr enw Testament,
sef Gyfamod. Gelwid yr enw ar y cyntaf ar y berthynas hono; ac wedi hyny ar y
llyfr yn mha un yr oedd y berthynas, y Testament, (x2)
neu y Cyfamod hwnw yn ysgrifenedig. Gelwir ef Bibl, neu Lyfr, oddiwrth y gair Groeg,
Biblos, ac y mae ei bwysigrwydd yn teilyngu iddo yr anrhydedd o’i alw, Y LLYFR.
Moses, “gwas yr Arglwydd,” oedd awdwr
ysprydoledig y llyfr cyntaf yn y Bibl; ac Ioan, apostol Iesu Grist, oedd awdwr
ysprydoledig y llyfr diweddaf, geiriau olaf yr hwn sydd yn glo ar Lyfr Duw. Ac
er fod mwy na phumtheg cant o flynyddoedd rhwng amser Moses ac Ioan, a bod
degau o awdwyr gwahanol, mewn gwahanol wledydd, oesau, ac amgylchiadau, wedi
bod yn ysgrifenu rhannau o’r Llyfr yn y cyfwng hwn, eto y mae perffaith unoliaeth,
mewn athrawiaeth ac amcan, yn rhedeg trwy yr oll.
Mae y Bibl yn lyfr y byd. Nid llyfr cenedl, nac oes, na
gwlad, ond llyfr dynoliaeth. Mae yn wir ei fod, ar un olwg, yn lyfr
cenedlaethol; yn llawn o nodweddion Iuddewig. Ond, ar yr un pryd, y mae yn lyfr
cyffredinol - yn lyfr yr holl fyd, yn fwy felly na’r un llyfr a ysgrifenwyd
erioed. Nid yw amgylchiadau gwledydd na threigliad amser yn effeithio dim ar
gymhwysder ei wirioneddau. Y mae mor gymhwys i Gymry y bedwaredd - ganrif - ar
- bumtheg ag ydoedd i Iuddewon Palestina filoedd o flynyddoedd yn ol.
(x3) Nodwedd arbenig arall yn Llyfr yr Arglwydd ydyw, ei fod
mor gyfieithadwy.
Er mai llyfr wedi ei gyfieithu ydyw y Bibl Cymraeg (fel
Bibl pob cenedl heddyw), eto mae ei Gymraeg yn safon yr iaith. Deallwn hefyd ei
fod felly yn mysg cenedloedd yn gyffredin. Pa lyfr mor Gymreigaidd a’r Bibl
Cymraeg? Ac am ba gyfieithiad arall y gellid dywedyd hyn?
Llyfr y llyfrau yw y Bibl. Duw yw ei Awdwr; gwirionedd yw
ei gynwys; ac iachawdwriaeth yw ei amcan. “Rhoddwch i mi y Llyfr,” meddai Syr Walter
Scott, ar ei wely angau. “Pa lyfr?” gofynai ei was, heb ddeall am ba gyfrol yr
oedd yn galw. “Paham y gofynwch hyny?” ebe yntau, “nid oes ond un!”
Nis gellir hysbysu amcan y Bibl yn well na
dyweyd mai datguddiad ydyw o’r Duw mawr yn Nghrist Iesu, yn cymodi y byd ag ef
ei hun. Dyma amcan yr holl Fibl, yr Hên Destament yn gystal a’r Newydd. Mae yr
Hên Destament yn dechreu gyda hanes dyfodiad pechod i’r byd, ac addewid am
Grist i waredu oddiwrtho; a’r Newydd yn dechreu gyda hanes genedigaeth y Grist
hwnw. Cysgod o hono Ef ydoedd Moses; gwelodd Abraham ei dydd; canodd Dafydd am
dano; a hysbyswyd Ef gan yr holl brophwydi. “Duw, wedi iddo (x4) lefaru lawer gwaith a llawer model, gynt wrth
y tadau trwy y prophwydi, yn y dyddiau diweddaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei
Fab.”
PENNOD II.
CASGLIAD
LLYFRAU Y BIBL.
I’R Iuddewon yr “ymddiriedwyd am ymadroddion Duw.” Ond yr
oedd gofal uwch na gofal dynion yn gwylio dros eu cadwraeth. Gofalodd
rhagluniaeth y nefoedd yn rhyfedd am danynt trwy holl chwyldroadau y genedl
Iuddewig; ac o’u dwylaw hwynt y derbyniwyd y trysor gwerthfawr gan yr holl
genedloedd.
Wedi i Moses orphen ei ysgrifeniadau rhoddodd hwynt i’r
oneiriaid, meibion Lefi, i’w gosod mewn cadwraeth ar ystlys arch y cyfamod
(Deut. xxxi. 9, 26). Yn niwedd Llyfr Josua dywedir iddo yntau “ysgrifenu y
geiriau hyn yn llyfr cyfraith Duw” (Jos. xxiv. 26). Yn mhellach yn mlaen
eilwaith, cawn Samuel yn ysgrifenu mewn llyfr, “ac yn ei osod gerbron yr
Arglwydd” (1 Sam. x. 25). Yn hir ar ol hyn, dywedir i Hilciah, yr
archoffeiriad, “gael llyfr y gyfraith yn nhŷ yr Arglwydd” (2 Bren. xxii. 8).
Dywed Esaiah, “Ceisiwch allan o lyfr yr Arglwydd, a darllenwch” (Esai. xxxiv. 16). (x5)
A dywed Daniel mai wrth y llyfrau y deallai amser caethiwed y genedl.
Mae traddodiad yr Iuddewon yn dywedyd i
lyfrau yr Hên Destament gael eu gorphen a’u casglu yn nghyd gan Ezra, “yr hwn a
barotoisai ei galon i geisio cyfraith yr Arglwydd, ac i’w gwneuthur, ac i
ddysgu yn Israel ddeddfau a barnedigaethau; ac efe oedd ysgrifenydd cyflym yn
nghyfraith Moses, ac yr ydoedd llaw yr Arglwydd ei Dduw arno ef” (Ezra vii.
6,10). Cynorthwyid ef yn y gorchwy] pwysig hwn gan Haggai, Zechariah, Nehemiah,
a Malachi. Fel hyn y cadwyd ac y casglwyd yn nghyd ganon, neu lyfrau
ysprydoledig yr Hên Destament. Cydnabyddai yr Eglwys Iuddewig hwy fel y cyfryw;
a rhoddodd Iesu Grist ei hun sêl awdurdod ddwyfol arnynt - “Y Gyfraith, a’r
Prophwydi, a’r Salmau” - trwy eu cydnabod, yn wir, yn Air Duw.
Mae genym fwy o sicrwydd am awdwyr llyfrau
y TESTAMENT NEWYDD, ond llai o hysbysrwydd am y rhai a’u casglodd yn nghyd yn
un llyfr.
Ymddengys mai y gyfran gyntaf o’r
Testament Newydd a ysgrifenwyd ydoedd llythyr yr Eglwys yn
Nid oes sail i dybied fod unrhyw fwriad i gasglu yr
ysgrifeniadau hyn yn nghyd ar yr amser yr ysgrifenwyd hwynt, gan eu hawdwyr na
neb arall. Am beth amser buont yn aros yn berchenogaeth i’r rhai yr ysgrifenwyd
hwynt atynt. Nid oedd yr un eglwys yn meddu ar fwy na dau o’r llyfrau hyn, a’r
rhan fwyaf heb yr un. Am y pedair Efengyl, tebygol fod un o honynt yn Rhufain;
un yn Neheudir Itali; un arall yn Palestina; a’r llall yn Asia Leiaf. Yr oedd
yr unig gopi o Lyfr yr Actau, gydag Efengyl Luc, yn meddiant y Theophilus hwnw.
O’r un epistol ar ugain, yr oedd pump yn Groeg a Macedonia; pump yn Asia Leiaf;
un yn Rhufain; a’r lleill yn nwylaw personau unigol. Ni anfonwyd y Datguddiad,
mae’n debygol, ond i eglwysi Asia.
Yr oedd yr holl lyfrau hyn, os nad wedi eu hysgrifenu gan
yr Apostolion, wedi derbyn eu (x7) hawdurdod
uniongyrchol. Ac fel yr oedd yr Apostolion yn marw, teimlid anghen am ychwaneg
o gopiau o’u hysgrifeniadau. Gyn hir casglwydyr Efengylau yn nghyd. Ca?’glwyd
hcfyd yn raddol yr Epistolau. Detholwyd yn ofalus y llyfrau awdurdodedig
oddiwrth lawer o efengylau ac epistolau diawdurdod oeddent wedi eu hysgrifenu. Ac
erbyn oddeutu diwedd y bedwaredd ganrif yr oedd yr oll o’r Testament Newydd,
fel y mae yn awr genym ni, wedi ei gasglu yn un llyfr, a’i dderbyn gan yr holl Eglwysi
yn ysgrythyrau dwyfol, fel yr Hên Destament.
PENNOD
III.
CYMRU
CYN CAEL BIBL ARGRAPHEDIG.
Cafodd Cymru ei breintio â’r Efengyl yn
fore. Tybia llawer i Joseph o Arimathea fod yn y wlad hon yn pregethu. Dywedir
hefyd mai Lucius (Lles ap Coel), Brenin y Brytaniaid, oedd y brenin
Cristionogol cyntaf yn yr holl fyd; ac iddo anfon at Eleutherius, Esgob
Rhufain, i ddymuno arno anfon dysgawdwyr Cristionogol i Brydain, fel y gallai
ei ddeiliaid (x8) glywed y newyddion da o
lawenydd mawr am y Ceidwad - Crist yr Arglwydd.
Mewn atebiad i’r cais, anfonwyd Dyfan a
Ffagan yma, yn y flwyddyn 180. Tua dau gant a haner o flynyddau wedi hyn (430)
daeth Garmon a Lupus yma, o Ffrainc, i wrthwynebu cyfeiliornadau Pelagius. Yn
540 daeth Awstin Fynach drosodd i Loegr. Daliodd yr Efengyl ei thir yn
rhyfeddol o dda yn Nghymru hyd y ddeuddegfed ganrif, pan osodwyd iau haiarn
Pabyddiaeth arni, ac yr amddifadwyd hi o’i llyfrau. Gwnaed cyfraith yn y
flwyddyn 1400, gan Harri IV., i atal i un Cymro ddysgu ar lyfr, a chadwyd hi mewn
grym am ddigon o amser i’r wlad golli ei chwaeth at ddarllen, fel y bu argraphu
yn y byd yn hir heb i’r Cymry fod yn well o hyny.
Mae profion diammheuol fod rhanau o’r
Bibl, os nad yr holl Fibl, gan y Cymry, mewn ysgriflyfrau yn ystod y cyfnod
hwn. Cyfieithodd TALIESIN, bardd enwog o ymyl Llanrwst, yr hwn oedd yn ei
flodau yn 540, pan ddaeth Awstin Fynach i Brydain, ranau o’r Bibl. Math o
arall-eiriad barddonol ydoedd o “Ddeg pla poeni yr Aipht,” “Llath Foesen,” neu
wialen Moses, ac ychydig am Dduw a Christ.
Cyfieithwyd rhanau o’r Bibl hefyd gan
DAFYDD DDU o Hiraddug, bardd cyfrifol arall (x9)
oedd yn ei flodau oddeutu 1349. Mae ei waith ef yn cynwys rhan fawr o’r Salmau,
rhan o’r bennod gyntaf o Efengyl Luc, can Zacharias, cyfarchiad i Mair gan yr
angel, cân y tri llanc, o chan Simeon. Arall-eiriad barddonol, neu ar
gynghanedd, yw ei waith yntau. Dyma siampl o’r cyfieithiad, o gyfarchiad yr
angel Gabriel i Mair:
“Gabriel a anfoned yn gennad y gan Dduw i
ddinas yn Galilea, yr hwn a elwir Nassareth, i briodi morwyn â gwr a elwid
Joseph, o lwyth Dafydd. Ac enw y forwyn oedd Mair. A phan ddaeth yr angel i
mewyn attai y dywawd ef, Hanffych gwell Fair gyflawn o rad Duw gyda thi
bendigaid yngyfrwng y gwragedd. A phan erglw Fair hyny, cynhyrfu a wnaeth, a
meddyliaw pa ryw gyfarch oedd honna.
“A dywedyd a oryg yr angel wrthi nac
ofnha. Fair, canys ti a gefaist rad y gan Dduw, ti a ymddygu feichiogi i’th
groth ac essgory ar fab, a elwy ei enw Iesu, a hwnw a fydd gwr mawr, a Mab y
gelwir i’r Goruchaf, ac efe a rydd yr Arglwydd Dduw iddaw esteddfa Dafydd ei
Dad.”
Nid oedd yr ysgrifau hyn i’w cael ond yn
llyfrgelloedd y cywrain a’r dysgedig hyd y flwyddyn 1801, pryd y casglwyd ac y
cyhoeddwyd y cyfan yn yr Archeology of
Wales, (x10) trwy lafur Owen Jones
(Owain Myfyr), Dr. Owain Pughe, ac Edward Williams (Iolo Morganwg).
Mae yn ddiau fod rhanau eraill o’r Bibl yn
Gymraeg yn ystod y cyfnod a nodwyd. Gwelodd Dr. Richard Davies, Esgob Tyddewi,
pan yn llanc, Bum’ Llyfr Moses yn Gymraeg, mewn ysgrifen, yn nhŷ ewythr iddo,
yr hwn oedd ŵr dysgedig. Yr oedd hyny tua chanol teyrnasiad Harri VIII.
(oddeutu 1527). Barna rhai y gallai hwnw fod wedi ei gyfieithu gan William
Tyndal, yr hwn oedd frodor o Gymru, a’r Protestant a gyfieithodd y Bibl gyntaf
i’r iaith Saesneg, ac a ddyoddefodd ferthyrdod yn wobr am y gorchwyl. Dywed
Esgob Davies, yn ei lythyr argraphedig gyda Thestament William Salesbury: -
“Yn
lle gwir, ni ffynodd genifi erioet gael gwelet y Bibl yn Gymraeg: eithr pan
oeddwn fachcen, cof yw cenyf welet Pump Lyfr Moysen yn Gymraeg, o fewn tu
yewythr ym’ oedd wr dysgedig; ond nid doedd neb yn ystyr y llyfr nac yn prisio
Mae penill cyfarwydd Taliesin fel hyn: -
................ “Gwae’r offeiriad byd,
.................Nys anghreifftia* (TROEDNODYN: *Cherydda)
gwyd †, (TROEDNODYN: †bai)
.....................Ac ny phregetha;
.................Gwae ny cheidw ei gail,
.................Ac ef yn fugail,
.....................Ac ny areilla;
.................Gwae ny cheidw ei
ddefaid,
.................Rhag bleiddiau’r
Rhufeiniaid,
.....................A’i ffon gnwpa.”
Mae y tystiolaethau hyn yn brofion eglur
fod y Bibl, neu ranau helaeth o hono, mewn ysgriflyfrau, yn meddiant ein
hynafiaid ni y Cymry yn fore iawn. Y tebygolrwydd yw iddynt eu colli trwy
erledigaethau a rhyfeloedd gymerodd le yn y cyfnod rhwng y chweched a’r
bumthegfed ganrif.
Y darnau cyntaf o’r Bibl a argraphwyd
erioed yn Gymraeg ydoedd mewn llyfr bychan Cymraeg, pedwar-plyg, a gyhoeddwyd
yn Llundain yn y flwyddyn 1546. Hwn yn wir oedd y llyfr cyntaf a argraphwyd
erioed yn yr (x13) iaith Gymraeg, oddigerth
mai Cymraeg ydoedd “Prymer” Salesbury,
a argraphwyd yn 1531. Ond nid oes sicrwydd yn mha iaith oedd hwn. Teitl y llyfr
Cymraeg a nodwyd ydoedd, -
“BEIBL.
Yn y Llyvyr hwn y Traethyr Gwyddor Kymraeg. Kalendyr. Y Gredo, neu bynkey yr
ffydd Catholig. Y Pader neu Weddi yr Arglwydd. Y deng air Deddyf. Saith rinwedd
yr Eglwys. Y Kampay arveradwy, a’r Gweddiau Gocheladwy a Keingen.”
Nid oedd ond math o almanac, a bernir fod
gan Syr John Price, o’r Priordy, Aberhonddu, law yn ei awduriaeth. Gosodwyd y
“Beibl” mewn llythyrenau mawrion ar ben y ddalen gyntaf, er mwyn galw sylw, am
fod y Bibl y pryd hwnw yn ddyeithr iawn yn Nghymru, a bod y rhanau o’r Bibl a
nodir yn y teitl uchod ynddo.
Tystiai Iolo Morganwg wrth Dr. Malkin fod
un Thomas Llewelyn, Glyn Eithinog, o’r Rhigos, gerllaw Glyn Nedd, Morganwg, yr
hwn oedd fardd enwog a Phrotestant o ddysg a duwioldeb neillduol, ac yn byw yn
amser Edward VI. a Mari ac Elisabeth - fod y gwr hwn, wedi cyfieithu y Bibl i
Gymraeg da, o gyfieithiad Seisonig William Tyndal, odddeutu y flwyddyn 1540.
Myn rhai fod (x14) cyfieithwyr y Bibl
presenol wedi gwneyd defnydd o gyfieithiad Llewelyn; ond y imae eraill yn
gwrthddywedyd.
Dywed Ioan Tegid, yn ei ddarlith ar “Fedd
Gwr Duw,” i hên gyfieithiad o’r pedair Efengyl, yn un llyfr, fod yn llyfrgell
Eglwys Gadeiriol Llanelwy am oesoedd. Cyfrifid ef yn gyfieithiad hên yn y
flwyddyn 1282, fel y gellir gweled oddiwrth lythyr nodded a braint Archesgob
Caergaint y flwyddyn hono, yn caniatau i offeiriaid yn perthyn i eglwys
Llanelwy y rhyddid i gario y darn hwnw o’r Testament Newydd o amgylch y wlad,
er mwyn ei ddangos i’r neb a chwenychai ei weled. Yr oedd y llythyr hwnw wedi
ei ysgrifenu yn Lladin; wedi ei Gymreigio darllena fel hyn: -
...... “Cylch - lythyr Ioan, Archesgob Canterbury, yn caniatau i Ganonwyr
Llanelwy, yn Nghymru, i gariaw oddiamgylch yr Ysgrythyrau.
...... “Y Brawd Ioan, &c., i’r holl
offeiriaid, yn gystal ag i’r gwyr lleyg, yn Esgobaethau Coventry, Lichfield,
Henffordd, a’r holl Esgobaethau Cymreig, iechyd, a thangnefedd tragywyddawl yn
yr Arglwydd. Y llyfr neu eiriau yr
Efengylau yn perthyn i Eglwys (x15) Llanelwy, a elwir yn gyffredin wrth yr enw ENEGLTHEN,
yr hwn sydd, fel y deallasom, mewn cyfrif mawr a pharch gan drigolion o bob
gradd yn mharthau Cymru a’r cyffiniau; ac am fwy o resymau nag un, a gludir ar
droion yn barchus o amgylch y wlad, fel yn beth sanctaidd, gan offeiriaid yn
perthyn i’r eglwys a enwyd uchod. Nyni, gan hyny, yn cael ein tueddu i
gymeradwyo y cyfryw arferiad a ddymunem i chwi dalu pob anrhydedd i’r llyfr ac
i’r personau, y rhai a ddarlunir yma, sydd yn ei ddwyn ef oddi amgylch, gan
ddeisyfu arnoch, er mwyn y parch sydd genych i Grist, yr Hwn yw Awdwr yr
Efengylau, i ganiatau i’r offeiriaid y soniwn am danynt, ymdaith yn eich plith,
gyda’r llyfr dywededig, ac iddynt allu llawenhau oblegyd ddarfod iddynt hwy
gael diogelwch a llonyddwch yn eu mynediad, eu hansawdd, ac yn eu dychweliad yn
ol.
...... “Rhoddwyd o dan ein llaw, yn
Lambeth,
Gorphenaf 14eg, o flwyddyn ein Harglwydd
Yr oedd y cyfieithiad uchod yn Llanelwy
hyd amser yr Esgob Goldwell, rhagflaenydd Richard Davies. Collodd Goldwell yr
esgobaeth ar esgyniad Elisabeth i’r orsedd, am (x16)
na throai yn Brotestant. Aeth i Rufain, lle y bu farw. Bernir iddo gymeryd hên
ysgriflyfr yr Efengylau yno gydag ef, ac y gallai ei fod yn aros eto yn mysg
trysorau y
PENNOD
IV.
Y
TESTAMENT CYMRAEG PEINTIEDIG CYNTAF. - TESTAMENT SALESBURY.
Dygodd y diwygiad oddiwrth Babyddiaeth, yn
yr unfed ganrif ar bumtheg, lawer o fendithion i Brydain Fawr, ac nid y lleiaf
o honynt oedd lledaeniad yr Ysgrythyrau Sanctaidd dros y wlad yn iaith y bobl.
Yr ydoedd hyn yn ddechreuad cyfnod newydd a bendigedig.
Dyma y pryd y cafodd y Saeson eu Bibl. Yr
oedd Wickliff wedi cyfieithu y Bibl i’r iaith Saesneg mor fore a’r flwyddyn
1380; ond y cyfieithiad printiedig cyntaf ydoedd un William Tyndal. Argraphwyd
y Testament Newydd yn 1526, a’r Hen Destament yn 1532. Cafodd ef ei ddienyddio,
yn wobr am ei (x17) wasanaeth. Diwygiwyd ei
gyfieithiad gan Coverdale a’r Archesgob Cranmer. Yn 1603 apwyntiodd y Brenin
Iago 54ain o ddynion dysgedig i arolygu a diwygio y cyfieithiad. Bu 47ain o
honynt wrthi am flynyddoedd; ac yn y flwyddyn 1611 y cyhoeddwyd y Bibl Seisnig
“Awdurdodedig.”
Yn y flwyddyn 1562 neu 1563 penderfynwyd,
trwy weithred Seneddol, -
“Fod y Bibl, yn cynwys yr Hên Destament
a’r Newydd, yn nghyd a Llyfr Gweddi Gyffredin, a Gweinyddiad y Sacramentau, i
gael eu cyfieithu i iaith y Brython, neu y Gymraeg, a bod y gwaith i gael ei
arolygu, ei ddefnyddio, a’i gydnabod gan Esgobion Llanelwy, Bangor, Tyddewi,
Llandaf, a Henffordd, a’i arferyd yn yr eglwysi erbyn y laf o Fawrth 1566, dan
ddirwy, os na chyflawnid, o ddeugain punt yr un ar yr esgobion.
“Fod un copi printiedig o leiaf o’r cyfieithiad hwn i fod ar gyfer ac yn mhob
eglwys yn Nghymru, i gael ei ddarllen gan yr offeiriaid yn amser yr addoliad
dwyfol, ac ar brydiau eraill, er lles ac arferiad y neb a hoffai fyned i’r
eglwys i’r perwyl hwnw.
“Hyd oni byddo i’r cyfieithiad hwn o’r
Bibl a’r Llyfr Gweddi Gyffredin gael ei orphen a’i gyhoeddi, fod yr offeiriaid
yn Nghymru i (x18) ddarllen, yn amser yr
addoliad cyhoeddus, yr Epistolau, a’r Efengylwyr, Gweddi yr Arglwydd, Erthyglau
y Ffydd Gristionogol, y Litani, a’r cyfryw ranau eraill o’r Llyfr Gweddi
Gyffredin, yn yr iaith Gymraeg, ag a gymeradwyid gan yr esgobion a nodwyd
uchod.
“Fod, nid yn unig yn ystod y cyfwng hwn, ond dros byth wedi hyny, Biblau a
Llyfr Gweddi Gyffredin Seisnig i fod yn mhob eglwys a chapel eglwysig yn y wlad
hono.”
Ond er rhoddi awdurdod Seneddol wrth y
gorchymyn, ymddengys mai ychydig o sylw dalodd yr esgobion i’r ddeddf hon, beth
bynag oedd yr achos. Mae yn sicr nad oedd y ddirwy mor fawr ag i beri eu
dychrynu at eu dyledswydd, er fod deugain punt yr amser hwnw yn llawer mwy nag
ydyw heddyw. Ac y mae yn ddigon posibl y buasai cadw y gyfraith hono yn costio
mwy o arian i bob dim o’r esgobion na swm ei ddirwy. Ceisia rhai eu hamddiffyn
trwy ddyweyd fod yr amser yn rhy fyr, - dim ond tair neu bedair blynedd, - ac
nad oedd y ddeddf yn pennodi ar ddynion i gyflawni y gwaith, nac ar gyflog
iddynt am hyny.
Beth bynag, yn ganlyniad i’r ddeddf uchod,
yn y flwyddyn 1567 - blwyddyn yn hwy na’r amser a ordeiniwyd gan y Senedd - (x19) cyhoeddodd William Salesbury ei gyfieithiad
o’r Testament Newydd, mewn llyfr pedwar-plyg, yn cynwys 399 o dudalenau - neu,
yn hytrach, o ddalenau, gan nad oedd ond un tu i’r ddalen yn cael ei rhifnodi.
Yr oedd wedi ei argraphu mewn llythyren ddu (flewog, fel y gelwir hi), ac wedi
ei ddosbarthu yn llyfrau a phennodau, fel y mae genym ni yn bresenol. Yr oedd
cynwysiad hefyd o flaen pob llyfr a phennod, ac eglurhâd geiriau tywyll ar ymyl
y dail; ond nid oedd cyfeiriadau at adnodau eraill, am nad oedd ond ychydig o’r
llyfrau olaf wedi eu rhanu yn adnodau. Yr oedd amryw wŷr dysgedig wedi
cynorthwyo yn y cyfieithiad hwn. Cafodd Llyfr y Datguddiad ei gyfieithu gan “T.
H. C. M.,” fel y dengys ymyl y ddalen, sef Thomas Huet, Canghellwr Mynyw, neu
Tyddewi. Cyfieithwyd yr Ail Epistol at Timotheus, yr Epistol at yr Hebreaid,
Epistol Iago, a dau Epistol Pedr, gan “D. R. D. M.,” sef Dr. Richard Davies,
Menevensis, neu Esgob Tyddewi. Yr oedd y cwbl, heblaw hyn, wedi ei gyfieithu
gan William Salesbury. Ar ymyl y ddalen yn niwedd ail Thessaloniaid y mae y
geiriau canlynol: -
“O Lyver Cenedleth oll yd
y van hyn, W. S.; ar Epistol iso D. R. D. M. ei (x20)
translatodd.”
Gyferbyn a dechreu 2il Timotheus dywedir, “W. S., yr vn hwn a ddau iso.”
Gyferbyn a dechreu Hebreaid dywedir, “D. R. D. M., yr vn hwn at yr
Ebreiat, ac y ddau i Petr ac vn i Iaco.”
Gyferbyn ag epistol cyntaf Pedr y mae “D. R. D. M.”
Gyferbyn a 1 Ioan y mae, “W. S., tri Ioan ac vn Judas.”
A gyferbyn a dechreu y Datguddiad y mae, “T. H. C. M., a translatodd oll
text yr Apocalypsis yn iaith i wlat.”
Argraphwyd ef yn Llundain yn y flwyddyn
1567, gan Henry Denham, ar draul Humphrey Toy. Yr oedd y teitl-ddalen fel hyn,
-
“Testament
Newydd ein Arglwydd Iesu Christ. Gwedi ei dynnu yd y gadei ŷr anghyfiaeth
’air yn ei gylydd o’r Groec a’r Llatin, gan newidio ffyrf llythyren
gairiaedodi. Eb law hyny y mae pop gair a dybiwyt y vot yn andeallus, ai o ran
llediaeth y’ wlat, ai o ran ancynefindery deunydd, wedi ei noti ai eglurhâu ar’
ledymyl y tudalen gydrychiol.”
Yn niwedd y llyfr mae y geiriau hyn, -
“Imprinted
at
(x21) Mae y Calendar hefyd wedi ei osod i mewn
ar ei ddechreu, a chyflwyniad yn Saesneg, “I’r dra Rinweddol ac Ardderchog
Dywysoges Elisabeth,” &c., gan y prif gyfieithydd, ac epistol Cymraeg maith
at ei gydwladwyr gan Dr. Davies, Esgob Tyddewi. Mae y copi o’r argraphiad hwn
sydd yn y British Museum mewn cyflwr
rhagorol. Ar ei ddiwedd, heblaw y pethau a nodwyd, ceir “TABUL Y GAHEL yr
Epistole a’r Euangelon y ddarllenir yn yr Eglwys trwy’r blwyddyn [sic], &c. Mae cerflun, cyffredin iawn o ran
gwaith celfyddyd, yn egluro “Mat. 13, i.” (ad. 44, debygem). Darlun o ddynion
yn bargeinio ydyw, ac odditano, mewn llythyrenau cochion,
........ “Gwerthwch a vedrwch o vudd
.........(Llyma’r man lle mae’r modd
..........Ac mewn ban angen ni bydd)
..........I gael y peri goel hap wedd.”
Mae rhai adnodau yma a thraw yn darllen yn
drwsgl a chlogyrnaidd, a llawer o eiriau anneallus ac annghymreigaidd yn cael
eu defnyddio. Mae eraill yn darllen yn llithrig a naturiol. Dyma yr adnod
gyntaf yn mhennod olaf y Testament: - “Ac ef y ddangosodd i mi afon pur o dwr y
bywyd yn dysclaero mal y crystal, yn dyfod allau o eisteddle Dyw a’r (x22) Oen.” Hysbysir fod y cyfieithiad wedi ei
wneyd gyda gofal a ffyddlondeb o’r Groeg a’r Lladin, a bod arolygiad yr oil, ac
yn enwedig ei gyhoeddiad, yn cael ei wneyd gan William Salesbury, “trwy
bennodiad,” meddai ef, “ein tra gwyliadwrus Fugeiliaid, Esgobion Cymru.”
PENNOD
V.
Ni chafwyd argraphiad o’r holl Fibl Cymraeg,
er gwaethaf gorchymynion a dirwyon Seneddol, am fwy nag ugain mlynedd ar ol
cyhoeddi y Testament Newydd. Ac nid yw yn debyg fod un cysylltiad rhwng y
gorchymyn Seneddol a aeth allan, a chwblhâd y gwaith gan Dr. Morgan. Beth
bynag, yn y flwyddyn gofiadwy, 1588, cyhoeddwyd yn Llundain, yn gyfrol fawr
unplyg, “Y Bibl Cysegrlân, sef yr Hên Destament a’r Newydd,” a chafodd Cymru y
trysor penaf ddaeth erioed i’w rhan, sef y Datguddiad Dwyfol yn ei hiaith ei
Cyfieithodd y gŵr da hwn, neu bu
ganddo y llaw flaenaf mewn cyfieithu, yr oll o’r Hên Destament, a’r Apocrypha, o’r
iaith wreiddiol i’r iaith Gymraeg, diwygiodd y cyfieithiad blaenorol o’r
Testament Newydd, a dygodd allan argraphiad cyflawn a destlus o’r holl Fibl,
wedi ei argraphu yn Llundain gan Christopher a Robert Barker, yn y flwyddyn
1588.
Yr oedd y ddau Barker yn byw dan arwydd
“Pen-y-Teigr,” yn Paternoster Bow, ac yn cadw maelfa yn Mynwent St. Paul, dan
arwydd y “Ceiliog Rhedyn.” Yr oeddent yn deilliaw o deulu cyfrifol, ac wedi
cael yr hawlfraint i argraphu yr ysgrythyrau gan y Frenines Elisabeth. Adnewyddodd
y Brenin Iago yr hawlfraint i Christopher, mab Robert Barker. Dywedir fod
Robert Barker wedi talu tair mil o bunau am ddiwygio y cyfieithiad Seisnig o’r
Bibl. Ond er hyny yr oedd mor wallus fel y cafodd ef, a’i gydymaith, Martin
Lucas, eu dirwyo i dair mil o bunau, oherwydd y gwallau.
Pan orphenwyd y Bibl Cymraeg,(x24) anrhegwyd Deon a Glwysgor Westminster â
chopi o’r gwaith, am y caredigrwydd a’r cymhorth a dderbyniodd y cyfieithydd
oddiar ddwylaw y clerigwyr dysgedig, ac yn enwedig y Deon, Dr. Gabriel Goodman.
Mae y copi hwnw hyd heddyw yn eu llyfrgell. Mae wedi ei argraphu yn yr hên
lythyren ddu Frytanaidd. Mae ynddo gynwysiad o flaen pob pennod, a’r pennodau
wedi eu rhanu yn adnodau. Mae peth cyfeiriadau ar ymyl y dail, llythyr Lladin o
gyflwyniad i’r Frenines Elisabeth ar ei ddechreu, a’r Calendar ynddo; ac y mae
wedi ei rifnodi wrth y dalenau, ac nid y tudalenau. Nifer y dalenau ynddo ydyw
555.
Nid oes gwybodaeth beth gymhellodd Dr.
Morgan i ymgymeryd â’r gorchwyl pwysig o gyfieithu yr Ysgrythyrau. Nid yw yn
son ei hun, ac nid yw yn debygol ychwaith iddo gael ei anog gan na brenines nac
esgob. Y tebygolrwydd yw iddo ymgymeryd a’r gorchwyl o hono ei hun, oddiar
deimlad o’r anghen mawr, a’r galw oedd am dano. Oblegyd yr oedd galw mawr am y
Bibl, er fod yr yspryd Pabyddol yn gryf, ac yn groes iawn i roddi y Bibl yn
nwylaw y bobl gyffredin. Yr yspryd Pabyddol hwn, yn ddiau, (x25) gynhyrfodd bobl Llanrhaiadr - ei blwyfolion
ei hun - yn erbyn y ficer dysgedig, i daenu celwyddau am dano, a chyhoeddi nad
oedd yn alluog i wneyd y cyfieithiad. Nid yn unig anfonwyd hyn at ei esgob, ond
hefyd at Archesgob Caergaint er mwyn gosod rhwystrau ar ei ffordd i fyned yn
mlaen. Gorfu iddo ymddangos o flaen yr archesgob, yn bryderus iawn, mewn
canlyniad. Ond, fel y bydd yn dygwydd yn fynych, trodd gelyniaeth ei
wrthwynebwyr yn fantais o’r mwyaf iddo. Wrth ei holi gwelodd yr Archesgob
Whitgift yn fuan ei fod yn ysgolor o radd uchel, ac yn feistrolgar yn yr
Hebraeg a’r Groeg, a gwelodd yr un mor amlwg ddichellion drygionus ei gyhuddwyr.
Gofynodd yr archesgob iddo, “A fedrwch chwi y Gymraeg yn gystal a’r Hebraeg? “
Atebodd y ficer yn ostyngedig, “Gobeithio, fy arglwydd, y goddefwch chwi i mi
eich sicrhau y medraf iaith fy mam yn well nag un iaith arall.” Wedi hyn cafodd
bob cefnogaeth a chynorthwy oddi ar law yr Archesgob.
Gwelwn nad oedd amgylchiadau y ficer
Morgan yn gyfryw ag y gallasai fyned dan draul argraphu y Bibl oni bai iddo
dderbyn cymhorth oddiar ddwylaw eraill. Cyfaddefa (x26)
hyn ei hun yn ei lythyr cyflwynol i’r Frenines Elisabeth. “Ac wedi ei
ddechreu,” meddai yn hwnw, “diffygiaswn o ran anhawsder y gwaith a mawredd y
gost, a dygaswn bum llyfr Moses yn unig at yr argraphwasg, oni buasai i’r
Parch. John Whitgift, Archesgob Caergaint, achleswr dysgeidiaeth, amddiffynwr
gwirionedd, a thirion wrth ein cenedl ni, fy nghynorthwyo, fy nghymhorth â’i
haelioni, a’i awdurdod, ac a’i gynghor, i fyned yn mlaen. Yn ol ei esiampi ef,
daeth gwŷr da eraill yn gynorthwyol i mi, sef Esgobion Llanelwy a Bangor
(Dr. Hughes a Dr. Bellot, mae’n debyg), Dr. Dafydd Powell, Mr. Gabriel Goodman,
Deon Westminster, Mr. Edmund Prys, Archddiacon Meirionydd, Mr. Richard Vaughan,
Periglor Lutterworth, wedi hyny Esgob Bangor, Caerlleon, a Llundain.”
Mae Wood yn dyweyd iddo gael ei gynorthwyo
gan Dr. Richard Parry, wedi hyny, Esgob Llanelwy; ond barna Dr. Llewelyn mai
camsyniad ydyw hyn, wedi codi oddiwrth y rhan gymerodd Parry ddeng mlynedd ar
ugain ar ol hyn, mewn dwyn allan ail argraphiad o’r Bibl, gan nad yw Morgan ei
hun yn coffa ei enw yn mysg ei gynorthwywyr. Ceisiodd Syr John Wynne, o Wydyr,
ger (x27) Llanrwst, ddifrio yr Esgob Morgan
o’r anrhydedd o gyfieithu y Bibl, trwy “edliw ei fod yn ei gyfieithiad wedi
cael mantais a chynorthwy gweithiau Esgob Davies a W. Salesbury, y rhai a
wnaethent ran fawr o hono, ond fod Morgan yn cymeryd yr enw iddo ei hun am y
cwbl.” Ond nid oes sail i’r dystiolaeth hon. Mae y cyfieithiad ei hun yn ddigon
o wrthdystiad iddi. Os defnyddiodd Morgan weithiau y gwŷr enwog a nodwyd,
yr oedd ei ddiwygiad arnynt yn cynwys llawn cymaint o lafur, os nid mwy, na phe
buasai wedi gwneyd cyfieithiad hollol annybynol arnynt. Yr oedd gwraidd yr
edliwiad yma mewn teimlad drwg fu yn ffynu rhwng yr esgob a Syr John yn nghylch
y degwm. Mae yn debygol fod Salesbury wedi marw cyn hyn, a bod Dr. Richard
Davies wedi marw hefyd. Mae yn sicr fod gan Dr. John Davies law yn Mibl Dr.
Morgan, a gallasai fod gan bersonau eraill hefyd, y rhai, oddiar resymau
anhysbys i ni, y cadwyd en henwau allan.
Ond am y gwŷr a nodwyd, dywed Morgan
iddynt ei gefnogi a’i gynorthwyo. Cafodd fynedfa rydd i’w llyfrgelloedd, ac
edrychasant dros ei gyfieithiad, gan ei gywiro a’i ddiwygio. A thra yn Llundain
yn arolygu argraphiad (x28) y Bibl, yn nhŷ
Dr. Goodman, Deon Westminster, y gwnelai ei arosiad.
O’r diwedd cafwyd y Bibl yn gyflawn yn
argraphedig yn yr iaith Gymraeg; ond yr oedd y cyflenwad o hono yn brin, mor
brin fel nad oedd mwy nag un Bibl yn mhob plwyf, a hwnw mewn man nad oedd y
bobl yn prisio fawr am fyned ato. Yr oedd y ddeddf a basiwyd agos ddeng mlynedd
ar ugain cyn hyn, yn gofyn am Fibl i bob eglwys. Ond fel y methwyd cadw y
gyfraith mewn dwyn allan Fibl Cymraeg o gwbl, mae’n bosibl ddigon iddynt fethu
mewn nifer digonol, pan ddaeth allan, ar gyfer yr eglwysi. Dywed Walker fod
nifer yr eglwysi y pryd hwnw tuag wyth cant; ac os ychwanegir at hyny yr
eglwysi cadeiriol, a’r capeli esmwythid (chapels
of ease),
cyflenwi yr eglwysi, heb son dim am
anghenion yr Anghydffurfwyr, a theuluoedd y wlad yn gyffredin. Ymgymeriad
ardderchog oedd eiddo Dr. Morgan; dangosodd wroldeb penderfynol i gwblhau y
gorchwyl; cyflwynodd drysor anmhrisiadwy ei werth i’n cenedl geidw ei enw mewn
coffadwriaeth anfarwol; eto, wedi iddo ef orphen ei waith pwysig, yr oedd newyn
angeuol am Air y bywyd yn llenwi y wlad o gwr bwy gilydd.
Yr oedd y Testament Newydd fel y
cyhoeddwyd yn Mibl Dr. Morgan wedi ei gyfieithu, fel yr hysbyswyd, a’i gyhoeddi
gan Salesbury a Davies, ac ni wnaeth Morgan ond ei ddiwygio. Yr oedd Morgan
wedi ei ddiwygio eilwaith, ac yr oedd yn barod ganddo i’r wasg pan fu farw yn y
flwyddyn 1604. Pa un a oedd yn bwriadu cael argraphiad arall allan o’r holl
Fibl, ac os felly, ei gael i gyflenwi anghenion yr eglwysi, neu ei gael at
wasanaeth mwy cyffredinol y wlad, nid yw yn hysbys. Nid yw yn hysbys ychwaith
pa un a gyhoeddwyd ei gopi diwygiedig ef o’r Testament Newydd ai peidio.
(x30)
PENNOD
VI.
Y BIBL
CYMRAEG PRESENOL.
YN y flwyddyn 1620, yn mhen 32ain o
flynyddau ar ol cyhoeddiad Bibl Dr. Morgan, dygodd Dr. Richard Parry, olynydd
Morgan yn Esgobaeth Llanelwy, argraphiad diwygiedig o’r Bibl Cymraeg allan.
Gwnaeth hyn oddiar anogaeth ei galon ei hun, wrth weled anghen dirfawr y wlad
am Air Duw. Yr oedd erbyn hyn, nid yn unig ddiffyg Biblau yn nheuluoedd y wlad,
ond dywed Parry fod y rhan fwyaf o’r eglwysi heb y Bibl, a lle yr ydoedd, ei
fod yn dreuliedig ac wedi ei ddarnio, a neb yn meddwl am ddwyn allan argraphiad
newydd. Yr oedd argraphiad diwygiedig o’r Bibl Saesneg newydd ei gyhoeddi, dan
awdurdod y Brenin, a bu hyn yn foddion i’w gynhyrfu yntau i gael argraphiad
diwygiedig o’r un llyfr gwerthfawr i’w gydgenedl, y Cymry. Yr oedd yn glod mawr
i feddwl a chalon Esgob Parry iddo ymgymeryd â’r fath orchwyl pwysig oddiar y
fath gymhelliadau.
Yr oedd y diwygiadau a wnaed gan Dr. Parry
mor bwysig fel y gellid ei alw yn (x31)
gyfieithiad newydd. Argraphwyd ef yn Llundain, gan Norton a Bill, yn y flwyddyn
1620. Anfonwyd copi o hono yn anrheg i’r Brenin Iago, yr hwn sydd i’w weled yn
awr mewn cloriau ardderchog yn y British
Museum. Bibl mawr unplyg ydyw, mewn llythyren ddu, wedi ei ranu fel y Bibl
blaenorol, a chyfeiriadau Bibl y Brenin Iago ar ymyl y dail. Mae y calendar
ynddo, a chyflwyniad Lladin i’r brenin, yn yr hwn y mae yr esgob yn nodi yr hyn
a’i cymhellodd i ymgymeryd â’r gwaith. Mae hefyd ar ei ddechreu lawer o
addurniadau cerfluniol, a ddefnyddid ar y Bibl Saesneg yn gystal a’r un Cymraeg
yn y dyddiau hyny.
Efallai y byddai yn dda gan y darllenydd i
gael ychydig o siamplau o’r tri chyfieithiad, er mwyn cael cipolwg ar y
cyfnewidiad a wnaeth Dr. Morgan ar gyfieithiad Salesbury, a’r cyfnewidiad
wnaeth Dr. Parry ar gyfieithiad Dr. Morgan.
|
SALESBURY. |
DR. MORGAN. |
DR. PARRY |
Matt. xxiv. 16. |
Ffieidd-dra y difaethwch. |
Ffieidd-dra annhraithiol. |
Ffieidd-dra anghyfanedd. |
Luc. xix. 4. |
Ffigis bren gwyllt. |
Ffigyswydd gwylltion. |
Sycamorwydden. |
(x32) Act iii. 21. |
Yr un vydd i’r |
Yr adnewyddir pob peth. |
Yr hwn sydd raid i’r nef ei dderbyn hyd amseroedd
adferiad pob peth. |
Act xxvii. 9. |
“Wedi cerdded llawer amser. |
Yn ol hir amser |
Ac wedi i dalm o amser fyned heibio. |
Rhuf. xii. 3. |
Na bo i neb ddyall nwchlaw y dyler dyall. |
(Yr un
modd.) |
Na byddo
i neb uchel-synied yn amgen nag y dyled synied. |
Rhuf.
xiii. 6,7. |
Ys
synwyr y cnawt, angeu yw. |
Canys y
mae synwyr y cnawd yn farwolaeth. |
Syniad y cnawd, marwolaeth yw. |
Col. i. 10. |
Fal y rotioch yn deilwng gan yr Arglwydd, a’i
voddhau ev yn pop dim. |
Gan ryglyddu bod yn mhob dim. |
Gan ddwyn ffrwyth yn mhob gweithred dda. |
Phil. i. 21. |
Canys yr Christ ys ydd un ym bywyth, ac yn angeu yn
enilliath. |
Canys byw i
mi (yw) Crist, ac elw yw marw. |
Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw. |
2 Pedr. ii. 13. |
Brychay yntynt, a thriselynay. |
Brychau ydynt a tharyselynau. |
Brychau a meflau ydynt. |
Iawn hysbysu fod y dysgedig Dr. John. Davies, person
Mallwyd, ac awdwr y Gramadeg Cymraeg yn yr iaith Ladinaidd, a’r Geirlyfr, wedi
bod yn gymhorth mawr i’r esgob i ddwyn ei Fibl allan. Cyhoeddodd ei Ramadeg yn
y flwyddyn
Y cyfieithiad hwn, galwer ef yn wreiddiol neu ddiwygiedig, o eiddo Dr. Richard
Parry, Esgob Llanelwy, ydyw y Bibl sydd genym ni yn awr, a’r hwn sydd wedi bod
gan y Cymry am fwy na dau gant a haner o flynyddoedd. Nid oes dim cyfnewidiadau
o bwys wedi eu gwneyd ynddo byth oddiar hyny. Dim ond cyfnewidiadau bychain,
megys gosod prif lythyrenau yn lle rhai bychain, newid y dull o sillebu rhai
geiriau, a phethau dibwys cyffelyb. Gogleddwyr gan mwyaf, os nid yr oil, oedd y
cyfieithwyr. Yr oeddent oll yn ysgoleigion o radd uchel, ac mor ddysgedig yn yr
Hebraeg a’r Groeg, fel y dywedir nad oes gan un genedl ar y ddaiar well (x34) cyfieithiad o’r llyfr Dwyfol nag sydd gan y
Cymro. Ystyrir ei iaith hefyd yn safon i’r Gymraeg y dydd heddyw, er ei fod yn
ganoedd o flynyddoedd o oedran, fel mae Bibl y Brenin Iago yn ei gysylltiad â’r
iaith Seisnig.
PENNOD VII.
YMDRECHION I GYFLENWI CYMRU A BIBLAU.
Cyhoedwyd argraphiad unplyg o’r Bibl yn Rhydychain yn
Am agos can’ mlynedd ar ol i Brydain dori ei chysylltiad â Phabyddiaeth, bu
Cymru heb (x85) yr un Bibl oddigerth yn ei
heglwysi plwyfol, a’i chapeli eglwysig, a’r eglwysi cadeiriol. Nid oedd unrhyw
ddarpariad wedi ei wneyd ar gyfer y werin, mwy na phe buasai dim a fynai y bobl
a gair yr Arglwydd, o’r hyn lleiaf, dim mwy na myned unwaith yr wythnos i’r
eglwys i wrando darllen ryw ychydig o hono. Yr oedd plyg mawr yr argraphiadau
blaenorol hefyd yn eu gwneyd yn rhy drwm a chostus i’r bobl yn gyffredin i’w
defnyddio. Buasai plyg llai yn fwy manteisiol yn mhob ystyr.
Daeth yr anrhydedd o barotoi y cyflenwad cyntaf o’r Bibl i’r werin Gymreig i
ran dau o henuriaid dinas Llundain, y rhai oeddent Gymry, ac yn teimlo y
dyddordeb mwyaf yn lleshàd eu cydgenedl. Dywed Mr. Strype, yn ei “Survey of
London,” ddarfod i Mr. Rowland Heylin, Henuriad yn Llundain, hanedig o Gymru,
yn garedig ac anrhydeddus, ar ei draul ei hun, yn nechreuad teyrnasiad Charles
y Cyntaf, ddwyn allan argraphiad llai o faint, a mwy hwylus at wasanaeth y
bobl. Argraphiad wyth-plyg ydoedd hwn, a ddygwyd allan yn 1630. Dywed Dr.
Llewelyn fod Mr. Strype yn camsynied wrth ddyweyd i Mr. Heylin ei ddwyn allan
yn hollol ar ei draul ei hun. Yr oedd Syr Thomas Middelton, brodor o (x36) Gymru, yr hwn oedd hefyd yn ynad, ac yn
henuriad yn Llundain, yn gydweithiwr ag ef, ac yn gyfranwr haelionus at yr
amcan rhagorol. Dywed rhai fod eraill wedi cynorthwyo yn y gorchwyl hwn, ond na
wnaed eu henwau yn hysbys. Beth bynag, i’r ddau foneddwr haelionus hyn, a’n
cynorthwywyr, mae Cymru yn ddyledus am y Bibl cyntaf o blyg hylaw, at wasanaeth
y werin.
Yn y flwyddyn 1654, daeth ail argraphiad o’r Bibl wyth-plyg hwn, yn cael ei
brintio gan Flesher, a’i werthu gan S. Brewster dan lun y “Tri Bibl,” yn ymyl
St. Paul, yn Llundain. Yr oedd argraphiad 1630 wedi myned yn llwyr, ac
argraphiad o’r Testament Newydd, yn ddeuddeg-plyg, a gyhoeddwyd yn 1647. Yn
awr, yn mlwyddyn gyntaf Oliver Cromwell, yr oedd agwedd foesol y wlad wedi
newid llawer, a galw mawr am argraphiad arall o’r Bibl bychan. Argraphwyd chwe
mil o hono; a dyma y tro cyntaf y ceir y nifer a wnaed mewn unrhyw argraphiad
yn cael ei nodi. Yr oedd pregethwyr teithiol yn awr yn dechreu tramwy ar hyd
Gymru, yn dyfod i wybod agwedd y wlad, a syched y bobl am Air Duw. Dywedir mai
i Charles Edwards, awdwr “Hanes y Ffydd,” yn nghyd a dau o’r pregethwyr (x37) teithiol, Vavasor Powell a Walter Cradoc, yr
oedd Cymru yn ddyledus am yr argraphiad hwn o’r Bibl. Bu pregethwyr teithiol yn
Nghymru, am flynyddau lawer, yn cael eu galw yn “Gradocs,” oddiwrth Walter
Cradoc. Nid oes gwybodaeth pwy aeth dan draul yr argraphiad lliosog hwn. Yr
oedd y Bibl wedi codi i fri uwch nag erioed yn Mrydain y dyddiau hyn. Yr oedd
gwybodaeth Ysgrythyrol wedi dyfod yn bwnc y dydd, a dyfyniadau o’r Ysgrythyrau
ar bob achlysur yn beth cyffredin a phoblogaidd. Yr oedd Cymru hefyd yn destyn
mwy o sylw nag arfer. Yr oedd yr Amddiffynwr, Cromwell ei hun, o haniad
Cymreig. Cynyrchodd yspryd y dyddiau hyny gyfraith er lledaeniad yr Efengyl yn
Nghymru, ac nid rhyfedd i’r unrhyw yspryd gynyrchu argraphiad newydd o’r Bibl
Cymraeg.
Er lliosoced oedd yr argraphiad a nodwyd uchod, nid hir y bu cyn ei fod wedi ei
werthu yn llwyr. Pan wnaed ymchwiliad yn 1674, nid oedd dros ugain copi o hono
i’w gael ar werth yn ninas Llundain, na mwy na rhyw ddeg ar ugain trwy holl
Gymru. Parodd hyn ddwyn argraphiad arall o wyth mil o gopiau, yn 1678 - yr
argraphiad lliosocaf o’r Bibl a (x38) wnaed
hyd yn hyn. Gwasgarwyd mil o gopiau o hono yn rhad yn mysg tlodion, a gwerthwyd
y lleill am y pris isel o bedwar swllt yr un wedi eu rhwymo. Yr oedd hwn yn
cynwys yr Apocrypha, Llyfr y Weddi Gyffredin, a’r Salmau Cân: Dygwyd yr
Argraphiad hwn allan trwy ymdrechion y Parch. Stephen Hughes, Abertawy, a Mr. Thomas
Gouge,
Argraphiad 1690 oedd yr olaf yn y 17eg ganrif. Hwn oedd y pedwerydd argraphiad
wyth-plyg o’r Bibl, a’r seithfed argraphiad o gwbl hyd y pryd hwn.
Cyhoeddwyd amryw argraphiadau o’r Bibl yn ystod y 18fed ganrif, nad yw yn perthyn
i amcan y llyfr hwn i roddi hanes fanwl am danynt. Eto, nid anmhriodol fyddai
rhoddi crybwylliad byr.
Yn y flwyddyn 1718 cyhoeddodd y “Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth
Gristionogol,” argraphiad wyth-plyg o’r Bibl Cymraeg, printiedig yn Llundain,
gan brintwyr y brenin, Ioan Basged, &c. Amcan y Gymdeithas hon ydoedd anfon
allan Fiblau a Llyfr y Weddi Gyffredin i ddeiliaid Prydain. Hyd yma, yr oedd
pob argraphiad o’r Bibl Cymraeg wedi ei ddwyn allan trwy ymdrechion personol. Y
Bibl hwn oedd y cyntaf a argraphwyd gan y Gymdeithas hon yn Gymraeg. Adnabyddir
(x40) ef wrth yr enw, “Bibl Moses Williams,”
am mai y Parch. Moses Williams, ficer Defynog, Sir Frycheiniog, oedd yn arolygu
yr argraphwaith. Yr oedd yn hwn welliadau ar argraphiadau blaenorol. Rhoddodd
oes y byd ar ben uchaf y dail; rhoddodd yr Apocrypha, yn nghyd a gweddiau a
chanonau yr Eglwys Sefydledig, yn gysylltiedig â’r Bibl. Ac er mwyn cyfarfod â
theimladau Ymneillduwyr, bu mor haelfrydig a gadael i nifer o’r argraphiad
ddyfod allan heb y Gweddiau Cyffredin, &c. Daeth y rhai hyn allan o flaen y
lleill ac y mae y dyddiad arnynt flwyddyn yn gynt, sef 1717.
Dygwyd argraphiad arall allan gan y Gymdeithas a nodwyd, a than arolygiad yr un
gŵr, sef y Parch. M. Williams, yn 1727. Yr oedd hwn yn cynwys taflen o
arwyddocâd geiriau anghyfiaith; ond yr oedd heb gynwysiad y pennodau, na
chyfeiriadau ymyl y dail, ac yr oedd cwyno mawr
Dygwyd argraphiad arall eto allan yn Nghaergrawnt, printiedig gan Joseph
Bentham, printiwr i’r brif-ysgol, yn y flwyddyn 1746. Gelwir hwn yn Fibl Morys,
am mai dan arolygiad “Risiart Morys o Fôn” y daeth allan. Cyhoeddwyd hwn eto
gan y Gymdeithas er (x41) Lledaenu
Gwybodaeth Gristionogol. Yr oedd yn ol trefn Bibl Moses Williams, ond fod amryw
bethau wedi eu hychwanegu ato, megys mapiau teithiau
Dygwyd argraphiad arall allan o’r Bibl hwn dan olygiad yr un gŵr, sef
Risiart Morys, wedi ei argraphu yn Llundain eto, gan y Gymdeithas a nodwyd, yn
1752; ac yr oedd nifer y ddau argraphiad yma yn ddeng mil ar ugain. Y Parch. G.
Jones, Llanddowror, fu yn offerynol i gael yr argraphiad hwn hefyd allan.
Cawn argraphiad arall yn cael ei gyhoeddi gan yr un Gymdeithas yn 1769, wedi ei
argraphu yn Llundain gan Mark Basket. Cafodd Dr. T. Llewelyn, i’r hwn yr ydym
yn ddyledus am y rhan fwyaf o hanes y cyfieithiadau o’r Bibl i’r Gymraeg, gan y
Gymdeithas i (x43) argraphu rhai miloedd yn
fwy na’i bwriad, er mwyn cyflawni diffygion yr Ymneillduwyr. Yr oedd yr
argraphiad hwn yn rhifo oddeutu ugain mil. Mae y Parch. E. Evans (Ieuan Brydydd
Hir), yn ei “Rybudd i’r Darllenydd,” yn nglyn â’i “Gasgliad o Bregethau,” yn
adolygu yr argraphiad hwn, ac yn beio yn llym, amryw gyfnewidiadau a gwallau
oeddent yn codi oddiar anghymhwysder y rhai a edrychent ar ei ol, fel golygwyr.
Y mae yn terfynu yn y geiriau hyn: -
“Ond da i gwnaethent hwy yn y peth hwn, yn fy marn i, ag i bawb a ddelo ar eu
hol hwynt, i olygu argraphiad yr Yscrythur Lân, ddilyn argraph neu ddull
yscrifenniad y dyscedig a’r parchedig Escob Rissiart Parry, a’r Doctor Davies o
Fallwyd, yn argraphiadau y Bibl Cyssegrlân, a ddaethant allan yn y flwyddyn
Yn y flwyddyn 1770 y cyhoeddodd y Parch. Peter Williams, o Sir Gaerfyrddin “Y
Beibl Sanctaidd; sef yr Hên Destament a’r Newydd, gyda Nodau a Sylwadau ar bob
Pennod. Caerfyrddin: argraphwyd dros y Parch. Peter Williams.
Yr oedd yn ofynol wrth ddewrder a phenderfyniad meddwl digyffelyb i un dyn
gychwyn ar y fath lafur i ysgrifenu sylwadau ar bob pennod o’r Bibl, a’r
drafferth a’r draul o argraphu y cyfryw lyfr, mewn argraph-wasg Gymreig. Mae ef
yn adrodd y cymhelliadau barodd iddo ymaflyd yn yr ymgymeriad pwysig: -
“Mae mor anghenrhaid, tebygaf, i’r Cymry wrth agoriadau ar y Bibl ag i’r
Saeson. Mae ein hanwybodaeth cymaint a’r eiddynt hwythau, a’n heneidiau yn gwbl
mor werthfawr. A phaham na buasai rhywrai yn dodi esboniad byr ar y Bibl, nis
gwn i, oddieithr am fod gormod gelyniaeth at rym duwioldeb yn para eto yn ein
mysg, a’r un yspryd Pabaidd am gadw y bobl mewn anwybodaeth, fel y gwelir wrth
gymaint o halogi y Sabboth y sydd, trwy chwareyddiaeth, dawnsiau, &c., neu
wag ddymuniad eraill i ddiwreiddio a dileu yr iaith Gymraeg yn llwyr o’r byd;
neu o eisiau calon i ymosod yn nghylch y fath orchwyl maith a phwysfawr? Yn
wir, yr oedd, hyd (x46) yn ddiweddar,
brinder o Fiblau yn gystal a diffyg esboniadau, Cymraeg; canys er cynifer
argraphiadau fu o hono, ac er mor fynych y dosbarthwyd, eto, trwy ryw
esgeulusdra neu wall drefn, yr oedd amryw deuluoedd heb un Bibl ganddynt, ie,
rhai a fawr ewyllysient ei gael, yr hyn a gododd ynof ddirfawr hiraeth am weled
rhyw wŷr addas i’r gwaith yn ei gymeryd mewn llaw. Eithr wedi dysgwyl dros
flynyddau, heb weled dim argoelion, ond yn y gwrthwyneb yn clywed fod
llaweroedd, a gwŷr Eglwysig rai, yn chwenych dwyn Biblau Saesneg i’r Cymry
yn lle Cymraeg, ni fedrwn ymatal yn hwy, eithr cychwynais i fyned yn nghylch y
gwaith. A chan nad oedd nemawr yn credu y dygid y fath orchwy] pwysig i ben,
nid oeddynt awyddus i gryfhau fy mreichiau yn y dechreuad; eithr calonau
llaweroedd a agorwyd o bryd i bryd pan y’m gwelsant yn trafaelio, a rhoisant eu
dwylaw yn garedig i’m cynorthwyo i’w ddwyn i’i byd, fel yr wyf yn rhwymedig,
bellach, i ddiolch i Dduw a dynion, am gymhorth cyfamserol nes gorphen yn
gysurus.
“Nid yw yr esboniad ond byr ac anmherffaith; pa fodd bynag, ddarllenydd Cristionogol,
o ddiffyg gwell, gwna ddefnydd o hwn. (x47)
Nid wyf yn cymeryd arnaf ddeongli y cwbl, nac i ganfod eithaf y dirgelwch a
gynwysir yn yr Ysgrythyr Lân, er fod genyf ysgwyddau llawer o ddysgawdwyr enwog
i sefyll arnynt, megys Ostervald, Lightfoot, Ainsworth, Hall, Babington, Trap,
Henry, Pool, Hammond, Burkitt, &c. Ond gallaf yn hyf ddyweyd mai cariad at
fy nghenedl, y Cymry, a gwir ddymuniad am eu hiachawdwriaeth, a’m cymhellodd i
ysgrifenu yr hyn a ysgrifenais; ac y mae yn dda genyf gael cyfle fel hyn i fwrw
fy hatling i’r drysorfa, ac i fod o ryw ddefnydd dros yr Efengyl yn fy nydd a’m
cenedlaeth.”
Cyflawnodd ei orchwyl yn dda. Ac mor bell ag y mae ei esboniad yn myned, y mae
yn rhagorol; a gosododd ei genedl dan rwymedigaeth fythol iddo. Fel y canodd ei
farwnadydd iddo: -
......... “Os yw Cymru’n chwe’ chan’ milldir,
..............Wedi mesur fel mae’n awr,
..........Ac o’i mhewn dri chant o filoedd
..............O drigolion gwerin fawr,
..........Gwn pe chwilit ei mhaith gonglau,
..............Braidd ceit ardal, plwy’, na thŷ,
..........Heb ‘u haddurno’n awr â Biblau,
...............Ffrwyth dy lafur dirfawr di.”
Dygwyd un argraphiad arall o Fibl bychan (x48)
allan yn Nhrefeca, yn y flwyddyn 1790, gan y Parchedigion Peter Williams a D.
Jones, gyda nodau ysgrythyrol ar ymyl y ddalen. Gelwir hwn yn Fibl John Cann.
Dywedir mai gweinidog perthynol i’r Bedyddwyr, yn Holand oedd y John Cann hwn.
Dyma yr oll o’r argraphiadau o’r Bibl a ddygwyd allan hyd ddechreu y ganrif
bresenol. Mae yr argraphiadau yn y ganrif hon yn rhy aml i ni i’w dilyn gyda
manylwch, ac mae yr ymdrechion llwyddianus i gael cyflenwad o Fiblau iselbris,
ac esboniadau buddiol, i Gymru wedi bod yn dra rhagorol. Yr oedd sefydliad
Cymdeithas y Bibl yn nechreu y ganrif hon, trwy offerynoliaeth un o’r meibion
goreu a fagodd Cymru - y Parch. Thomas Charles, Bala, - yn foddion mwy
effeithiol na dim o’r blaen, nid yn unig i gyflenwi Cymru â Biblau, ond i
gyflenwi anghenion pob gwlad, a rhoddi
“Bibl i bawb o bobl y byd.”
Bydd y daflen ganlynol, wedi ei chymeryd o’r “Gwyddoniadur,” yn rhoddi golwg ar
un drem, yn fanylach na’r hanes flaenorol, ar y gwahanol argraphiadau o’r Bibl,
neu ranau o hono, o’r dechreu hyd ddechreuad y ganrif bon.
(x49)
1551. Argraphwyd yr Efengylau a’r
Epistolau, o gyfieithiad W. Salesbury. Tua’r un amser cyhoeddwyd y Credo.
Gweddi yr Arglwydd, a’r Deg Gorchymyn, gan Syr
John Price.
1567. Y Testament Newydd.
Cyfieithiad W. Salesbury.
1588. Yr holl Fibl a’r Apocrypha,
gan Dr. W. Morgan.
1603. Y Salmau ar Gân, gan y Cadben
Gwilym Ganoldref.
1620. Yr holl Fibl a’r Apocrypha,
gan Dr. Parry, - sef y
cyfieithiad awdurdodedig.
1630. Yr holl Fibl, a’r Apocrypha,
Llyfr Gweddi Gyffredin, a’r Salmau Gân, &c, mewn wyth-plyg. Dyma y plyg
bychan cyntaf at wasanaeth y werin.
1647. Y Testament Newydd,
deuddeg-plyg, heb gynwysiad i’r pennodau. Mil o gopiau.
1648. Ail argraphiad o’r Salmau Gân,
gan yr Archddiacon
Edmund Prys.
1654. Yr holl Fibl, wyth-plyg. Chwe’
mil o gopiau. “Bibl
Cromwell.”
1654. Y Testament Newydd, mewn
llythyren frasach. Mil
o gopiau.
1672. Y Testament Newydd, gyda’r
Salmau mewn rhyddiaith ac ar gân. Dwy fil o gopiau, wyth-plyg.
1678. Yr holl Fibl, yn nghyda Llyfr
Gweddi Gyffredin.
Wyth mil o gopiau; wyth-plyg.
1690. Yr holl Fibl. Deng mil o gopiau;
wyth-plyg.
1690. Yr holl Fibl; wyth-plyg; yn
Rhydychain; at wasanaeth yr eglwysi. Mil o gopiau. “Bibl yr Esgob Llwyd.”
1718. Y Bibl, mewn wyth-plyg; deng
mil o gopiau. Bibl M. Williams, dan nawdd y Gymdeithaa er Lledaenu Gwybodaeth
Gristionogol.
1727. Y Bibl, mewn wyth-plyg; pum’
mil o gopiau, dan nawdd yr un Gymdeithas.
1746. Y Bibl mewn wyth-plyg;
Caergrawnt. Pumtheg mil o gopiau; dan nawdd yr un Gymdeithas.
1752. Y Bibl, mewn wyth-plyg;
pumtheg mil o gopiau.
Llundain; dan nawdd y Gymdeithas uchod.
(x50) 1752.
Y Testament Newydd, gyda’r Salmau; wyth-plyg; dwy fil o gopïau.
1769. Y Bibl mewn wyth-plyg, gan yr
un Gymdeithas. Ugain mil o gopiau.
1770. Y Bibl, mewn pedwar-plyg; gyda
sylwadau ar bob pennod, gan Peter Williams. Caerfyrddin. Mae hwn wedi myned
trwy nifer mawr o argraphiadau.
1779. Y Testament Newydd.
1789. Y Bibl, mewn unplyg; Llundain.
At wasanaeth yr eglwysi; gan y Gymdeithas a nodwyd.
1790. Y Bibl, mewn deuddeg-plyg, gyda chyfeiriadau John Canne; Trefeca, dan
arolygiad y Parch. P. Williams. Cyhoeddwyd argraphiad arall o hono yn
Nghaerfyrddin.
1799. Y Bibl, mewn wyth-plyg. Deng mil o gopïau, yn nghyd a dwy fil o’r
Testament Newydd ar wahan. Rhydychain, gan yr un Gymdeithas, a than arolygiad y
Parch. J. Roberts.
1800. Y Testament Newydd, wyth-plyg.
Rhydychain.
“Yr Argraphiadau hyn, oddigerth 10,000 o gopïau o’r Testament Newydd mewn
gwahanol blygiadau, a argraphwyd yn yr Amwythig, yn y flwyddyn 1800, oedd yr
oll a wnaed cyn ffurfiad y Fibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor. Gwerthwyd
argraphiad 1799 mor fuan ag y cyhoeddwyd ef; ac nid oedd y bedwaredd ran o’r
wlad wedi ei diwallu. Fel mai prinder Biblau yn Nghymru arweiniodd i sefydliad
y Gymdeithas; felly un o’i gweithredoedd cyntaf, wedi cael ei sefydlu, oedd
cais i gyfarfod â’r anghen hwn oedd ar y Cymry am Fibl. Penderfynodd y
Gymdeithas, yn 1804, (x51) wneyd argraphiad
o’r Bibl a’r Testament Cymraeg. Y nifer a orchymynwyd ydoedd 20,000 o Fiblau,
gyda 5,000 o Destamentau yn ychwanegol mewn llythyren frasach. Ac un o brif sylfaenwyr y Gymdeithas - y
Parch. T. Charles, o’r Bala - fu yn parotoi y copi i’r wasg. O’r flwyddyn 1806,
hyd 1855, mae y Fibl Gymdeithas wedi gwasgar y nifer canlynol o Fiblau a
Thestamentau: -
Biblau |
417,489 |
Testamentau |
479,567 |
Dwyieithawg, Cymraeg a Saesneg |
.86,166 |
Y cyfan |
933,222* |
TROEDNODYN:
* “Gwyddionadur,” dan y gair “Beibl.”
Mae y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol, yn yr un cyfnod wedi
gwasgar nifer mawr, heblaw amryw argraphiadau o Fiblau teuluaidd, &c.,
eraill sydd wedi eu cyhoeddi gan wahanol argraphwyr. Wrth roddi y cwbl at eu
gilydd, y mae yr oll a argraphwyd o’r Ysgrythyrau Sanctaidd, yn yr iaith
Gymtaeg, mewn gwahanol fanau, ac ar wahanol amserau, yn fwy na miliwn o gopiau!
“Nid oes un genedl arall ar wyneb y ddaiar wedi cael y fath gyflenwad o’r
Ysgrythyrau yn eu hiaith eu hunain.”
(x52)
PENNOD VIII.
HANES PRIF GYFIEITHWYR Y BIBL.
I. William Salesbury.
Mae esgeulusdra nodedig wedi bod i gadw hanes fanol o fywyd y boneddwr a’r
ysgoloi enwog hwn. Mae yn hysbys ei fod yn deilliaw o un o hen deuluoedd mwyaf
cyfrifo] y Dywysogaeth. Ail fab ydoedd i Ffoulk Salesbury, Ysw., Plas Isaf,
Llanrwst, yn Sir Ddinbych. Enw ei daid ydoedd Robert Salesbury, yr hwn ydoedd
bedwerydd mab i Thomas Salesbury Hên, o Lleweni, ger Dinbych. Daethai i
feddiant o etifeddiaeth y Plâs Isaf trwy briodas â Gwenhwyfar, unig ferch ac
etifeddes Rhys ab Einion Fychan, o’r lle hwnw.
Am eu haniad dywed y Parch. Walter Davies, “Y Salsbriaid oeddynt o âch
Normanaidd, a dywedir mai gyda Gwilym y Goresgynydd y daeth y cyntaf o’r enw
i’r ynys hon, yn y flwyddyn 1066. . . . . Trwy fynych ymbriodi ac ymgyfathrachu
ag etifeddesau Cymreig, daeth y Salsbriaid, fel rhai (x53)
Normaniaid gwiwgof eraill, o enwau Herbert, Stradling, Basset, Turberville,
&c., yn Gymry gwladgar, o barth gwaed, ac iaith, a serchiadau.”
Ganed William Salesbury yn gynar yn yr unfed-ganrif-ar-bumtheg. Derbyniodd
egwyddorion cyntaf ei addysg yn Nghymru. Yna symudodd at brif ffynonell addysg
y wlad Rhydychain, lle yr enwogodd ei hun fel ysgolor. Aeth i Thavies Inn,
Llundain, i astudio y gyfraith, a bernir iddo symud oddi yno i Lincoln’s Inn.
Yr oedd erbyn hyn yn medru naw o ieithoedd gwahanol, heblaw y Gymraeg a’r
Saesneg, sef yr Hebraeg, y Galdaeg, y Syriaeg, yr Arabaeg, y Roeg, y Lladin, y
Ffrengaeg, yr Eidalaeg, ar Hisbaenaeg. Yr oedd felly, fel ieithydd, wedi curo
ei nai fab cyfyrder - yr hybarch Edmund Prys, Mydrydd y Salmau Cân.
Pan basiwyd y gyfraith Seneddol i gyfieithu y Bibl i’r iaith Gymraeg, yn y
flwyddyn 1563, ymddengys i’r esgobion oeddynt wedi eu gosod dan gyfrifoldeb y
gwaith, droi eu golwg ar unwaith at William Salesbury, ysgolor o’r radd
flaenaf, a Phrotestant o’r mwyaf zelog, fel y mwyaf cymhwys i ymgymeryd â’r
gorchwyl o gyfieithu yr Ysgrythyrau, aC (x54)
anogasant ef i ymaflyd yn y gwaith. Yr oedd yn byw y pryd hwn yn Cae Du, yn
mhlwyf Llansanan, yn Sir Ddinbych, lle mynyddig, anghysbell, ac allan o’r byd,
megys. Yr oedd yr hên ystafell ddiaddurn y bu yn dwyn yn mlaen ei lafur pwysig,
yn cael ei dangos hyd ychydig o flynyddau yn ol, ac yr oedd yn neillduol o
ddirgel, er mwyn ysgoi llid yr erlidwyr. Yn ystod teyrnasiad Mari Waedlyd, yr
oedd ei zel Brotestanaidd wedi ei wneyd yn wrthrych dygasedd y frenines a’r
Pabyddion. Felly gwnaeth ei ystafell mor ddirgel fel nad oedd yr un fynedfa
iddi ond trwy dwll o’r simdde. Bu Salesbury yn aros yn Llundain i arolygu
argraphiad ei Destament. A’r Testament hwn, wedi ei ddiwygio yn gyntaf gan Dr.
Morgan, ac wedi hyny gan Dr. Parry, yw y Testament Newydd Cymraeg a ddarllenir
gan y werin heddyw.
Dywedir, yn “Nghofiant Syr John Wynn, o Wydir,” fod Salesbury wedi ymgymeryd
â’r gorchwyl o gyfieithu yr Hên Destament hefyd i’r Gymraeg, a’i fod wedi
cyfaneddu gyda Dr. Richard Davies am oddeutu dwy flynedd i’r amcan hwnw; ei fod
wedi myned yn mlaen yn mhell gyda’r gorchwyl, ond yn anffodus i ddadl godi
rhyngddynt am ystyr a gwreiddyn (x55) gair,
yr hwn y mynai yr esgob ei fod fel hyn, ac y mynai Salesbury ei fod fel arall,
ac i’r ymryson hwn derfysgu ac atal y gwaith. Dywed hefyd, iddynt, tra fuont
gyda’u gilydd, gyfansoddi homiliau, a llyfrau, a nifer mawr o draethodau yn yr
iaith Gymraeg. Parodd yr anghydwelediad â’r Esgob, neu rywbeth arall, iddo
roddi ei ysgrifell heibio, yr hyn a drodd allan yn golled fawr i’r Cymry, gan
ei fod yn llenor mor enwog, ac yn Hebrewr di-ail.
Ar farwolaeth Robert ei frawd, yr hwn oedd heb un mab, dim ond dwy ferch, daeth
yn berchen llawer o feddianau, yn nghyd a llys y Plas Isaf; ond preswyliodd am
gryn dymhor wedi hyny yn Cae Du.
Cyhoeddodd amryw lyfrau heblaw y Testament. Efe gyhoeddodd y llyfr cyntaf a
argraphwyd yn yr iaith Gymraeg, yn y flwyddyn 1546, sef math o almanac. (Gwel
tudal. 13) Yn y nwyddyn ganlynol, cyhoeddodd Eirlyfr Saesneg a Chymraeg,
cyflwynedig trwy genad i’r brenin Harri VIII. “Imprinted at London, in Foster
Lane, by me John Waley,
(x56) “Y boneddwr hwn (Salesbury) o gariad
at ei iaith enedigol, a gyfansoddodd Eirlyfr Saesneg a Chymraeg byr; yr hwn yn
gyntaf, mewn modd anghyhoedd a gyflwynid i, ac a gymeradwywyd gan, y brenin,
Harri VIII. (Tudyr, o ochr ei dad, o waed Cymreig), ac yna a argraphwyd yn
gyhoeddus yn y flwyddyn 1547. Rhai dynion ymrysongar a ddadleuant yn erbyn
defnyddioldeb y gwaith hwn, gan nad oedd ar y Cymry ddim anghen, nac ar y Saeson ddim awydd
am lyfr o’r fath. Ond gwybydded y cyfryw ei fod yn fuddiol i’r ddwy genedl; i’r
Saeson er mwyn cyrhaedd, i’r Cymry er
mwyn cadw, yr iaith hono. Cyrhaedd; -
oblegyd, gan ei bod yn iaith gyntefig, nid yw yr hynafiaethydd ond cloff hebddi
(yr hyn a wn trwy fy niffyg fy hun) i ddeall yr ychydig allan o lawer o
weddillion y genedl hono sydd eto ar gael. Cadw;
- gan fod yr iaith hono, fel eraill, trwy ddiffyg arfer yn agored nid yn unig i
lygriad, ond ebargofiad, yn ol cyfaddefiad y brodorion eu hunain. Yn wir, y mae
pob geirlyfrau yn dra buddiol, gan fod geiriau yn dwyn pethau i’r tafod; ac fel
y dywed Plato, mai enw, neu air, yw offeryn addysgiant, ac y mae yn arwain
gwybodaeth i mewn i’r deall. Pa fodd bynag, (x57)
gan nas gellir dechreu a diweddu dim ar unwaith, llyfr Salesbury (fel y cyntaf
o’r fath) a gynygiodd ar, ond ni chwblhaodd, y gorchwyl; ac wedi hyny, fe’i
gorphenwyd gan eraill.” *
TROEDNODYN: *
Fuller’s “Worthies”.
Mae Strype, yn ei “Annals,” yn galw yr awdwr yn
“Wyllyam Salesbury of Llanrwst, gent,” ac yn dyweyd ei fod yn “bartner” â uJohn
Waley, y prenter,” yn y patent am saith mlynedd i argraphu y Bibl
Cymraeg.
Llyfrau eraill a ysgrifenwyd gan William Salesbury oeddynt, “Dymchweliad Allor
uchel y Pab;” “Arweiniad hawdd ac eglur i’r Iaith Gymraeg,” yn nghyd â’r olaf
yn Saesneg hefyd, a’r oll yn y flwyddyn 1550. Yn 1551, cyhoeddod “Kynifer Llyth
a Ban o’r Ysgrythur ac a Ddarllenir yr Eccleis pryd Comun, Sulieu, a’r Gwilieu
trwy’r Vlwyddyn. O Gamhereicat William Salesbury, Llundain.” Yr oedd hwn yn cynwys
cyfieithiad o’r rhanau o’r Efengylau a’r Epistolau ag a arferid yn ngwasanaeth
yr Eglwys. Yn yr un flwyddyn hefyd yr ysgrifenwyd “Rhetoreg, neu Egluryn
Ffraethineb,” gan yr un awdur dysgedig. Gadawyd y gwaith hwn mewn ysgrifen gan
Salesbury ar ei ol; ac ar ddymuniad ei gâr, (x58)
John Salesbury, o Leweni, adolygwyd ef, ac ychwanegwyd ato, gan y Parch. H.
Perri, B.D. yr oedd hwn yn draethawd godidog iawn, yr hwn a gyhoeddwyd yn
pedwar-plyg yn Llundain. Yr oedd y llyfrau hyn oll wedi eu hysgrifenu gan Salesbury
cyn cyfieithu y Testament Newydd, lle y gwelir ei fod wrthi yn ddyfal am ugain
mlynedd cyn ymddangosiad ei Destament yn cyfoethogi ei genedl a llyfrau o’r
mwyaf buddiol. Nid yw amser marwolaeth Salesbury, mwy nag amser ei enedigaeth,
yn hysbys. Dywed Syr John Wynn iddo farw yn 1599; ond barna eraill ei fod wedi
marw cyn y flwyddyn 1596, os nad cyn 1593, pan gyhoeddwyd “Egluryn Ffraethineb”
gan Perri.
Mae Cymru yn rhwymedig iawn i lafur y gŵr enwog hwn, nid yn unig am y
rhodd anmhrisiadwy o gael Testament Newydd ein Harglwydd yn brintiedig yn yr
iaith Gymraeg, ond hefyd am y dôn neu yr yspryd uchel a chrefyddol a roddodd
i’r wasg Gymreig yn y
cychwyniad. Cychwynodd y wasg Saesneg gyda llyfrau ysgafn ac anfuddiol, ac y
mae ei llenyddiaeth wedi ei llygru gan ffrydiau parhaus o’r cyfryw gymeriad hyd
heddyw. Ond yr oedd y llyfrau cyntaf a argraphwyd (x59)
yn yr iaith Gymraeg, yn llyfrau buddiol, crefyddol, ac anghenrheidiol.
Cynrychwyd blâs at y cyfryw yn ein cenedl, sydd wedi ei gadw hyd heddyw, fel
nad oes nemawr lyfr o ddim pris yn ein plith heb fod arogl crefyddol arno.
II. Richard Davies, D.D.
Mab ydoedd Richard Davies i Dafydd ab Gronw, offeiriad
Cyffin, ger Conwy, yn Sir Gaernarfon. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1501, mewn lle a elwir
Plâs y Person, a derbyniodd ei addysg golegawl yn Rhydychain. Yn y flwyddyn
1550, anrhegwyd ef gan y Brenin Edward VI., a ficeriaeth Burnham, ac â
phersoniaeth Maidsmorton, yn Swydd Buckingham. Ond ar esgyniad y Frenines Mari
i’r orsedd collodd y cyfan, a gorfu iddo ddianc allan o’r deyrnas, i Geneva.
Aeth a’i wraig drosodd gydag ef, a dyoddefodd lawer yno, gan ei fod yn dybynu
ar elusen ei gyd-ffoedigion cyfoethocach.
Wedi bod yno yn nhir alltudiaeth am dair blynedd, dysgodd y Ffrangaeg mor dda
fel y gallai bregethu ynddi, a chafodd eglwys yno i weinidogaethu ynddi, yr hyn
a roddodd iddo gynaliaeth gysurus. Yn Geneva, y ganed (x60) tri
o’i feibion, sef Thomas, Peregrine, a Jerson. Ar farwolaeth y Frenines Mari, ac
esgyniad Elisabeth ei chwaer, dychwelodd i’w wlad, a chafodd y bywioliaethau a
gollodd yn ol. Yn lonawr 1560, dyrchafwyd ef i Esgobaeth Llanelwy. Ni fu ond
oddeutu pumtheg mis yn Esgobaeth Llanelwy, oblegyd ar yr 21ain o Fai, 1561,
trosglwyddwyd ef i Esgobaeth Tyddewi, yn yr hon esgobaeth y parhaodd am fwy nag
ugain mlynedd. Yr oedd wedi ei raddio yn D.D. yn y flwyddyn
Yr oedd Dr. Richard Davies, nid yn unig yn ddyn dysgedig, ond yn Brotestant
zelog, ac yn Gristion diledryw ac ymroddedig. Fel y dangoswyd eisoes, yr ydym
yn rhwymedig i’w lafur ef, mewn cysylltiad â’i gydymaith Salesbury, am y
Testament Newydd cyntaf yn brintiedig yn y Gymraeg. Efe, yn nghyd â Salesbury,
gyhoeddodd hefyd, yn yr un flwyddyn a’r Testament, “Y Llyfr Gweddi Gyffredin,”
at wasanaeth yr eglwysi. Cyhoeddodd bregeth Saesneg hefyd ar farwolaeth Iarll
Essex, yr hon a draddodwyd ganddo yn Nghaerfyrddin, yn 1577.
Yn y cyfieithiad newydd o’r Bibl
Saesneg, a wnaed trwy orchymyn y Frenines (x61)
Elisabeth, yr hwn a adwaenir yn gyffredin wrth yr enw “Bibl Parker,” a
gyhoeddwyd yn 1568, rhoddwyd gofal llyfrau Joshua, Ruth, a’r ddau Samuel i’w
hadolygu a’u cydmaru â’r gwreiddiol i Dr. Davies.
Mae y llythyr maith a rhagorol a gyhoeddodd yn nglŷn a Thestament
Salesbury, yn ddigon o brawf ei fod yn Brotestant cadarn yn dduwinydd da, yn
wladgarwr calonog, yn hanesydd craffus, ac yn efengylaidd ei olygiadau. Geilw y
Cymry yn serchog a difrifol i ddeffroi o’u cwsg, ac i dderbyn a gwerthfawrogi y
rhodd ardderchog oedd yn awr yn cael ei chynyg iddynt. Dwg ar gof iddynt y modd
y cadwodd yr hen Gymry yr Efengyl yn ddilwgr yn eu gwlad, dros amryw
oesoedd, a’r erledigaethau a ddyoddefasant o’r herwydd. Dengys pa fodd y
cawsant o’r diwedd eu llygru gan Babyddiaeth, a’r modd y cafodd eu llyfrau eu
dinystrio, nes i’w holl lenyddiaeth, o’r braidd, gael ei dyfetha. Mae yn
mawrygu y fendith oedd wedi dyfod gyda’r gelfyddyd newydd o argraphu, ond yn
cwyno fod y Cymry wedi elwa mor lleied aml; ond yn awr, yr oedd y Testament
Newydd yn dyfod allan iddynt yn eu hiaith eu hunain, a hyderai na fyddent yn
hir cyn cael yr holl Fibl yn gyflawn i’w dwylaw.
(x62) Dylasem hysbysu fod yr Esgob Davies yn
fardd o radd uchel hefyd, a bod amryw o’i gyfansoddiadau ar gof a chadw.
Pan symudwyd yr Esgob o Lanelwy i Dyddewi, dywed Syr John Wynn, “iddo lywyddu
yno yn deilwng o hono ei hunan, ac er anrhydedd i’n cenedl, gan amlygu ei
hoffder trwyadl o’r Gogleddwyr, y rhai a gyfleai efe yn lliosog mewn
bywioliaethau Eglwysig yn ei esgobaeth, a’i hoff ddywediad canlynol yn wastad
yn ei enau, — “Myn y firi faglog, myfi a’ch planaf chwi, y Gogleddwyr,
tyfwch os mynwch.” Efe a gadwai dŷ rhagorol, gan gadw yn ei wasanaeth y
brodyr ieuangaf o’r tai goreu yn y wlad hono, i’r rhai y rhoddai gynhaliaeth ac
addysg dda, gyda’i blant ei hun.” Achwynir arno iddo dlodi yr esgobaeth yn
fawr, tuagat arlwyo i’w deulu lliosog, trwy brydlesu y tiroedd, a gadael y tai
i fyned yn adfeilion.
Bu farw Tachwedd 7fed, 1581, yn y llys esgobol yn Abergwili, yn 80ain mlwydd
oed, a chladdwyd ef yn yr eglwys. Wrth ailadeiladu eglwys Abergwili yn 1850,
daethpwyd ar draws bedd yr esgob. Nid oedd ar ei feddrod ond llechfaen
gyffredin y wlad, a’i enw ef arni, a dim ond ei enw, yn nghyd â’r flwyddyn y bu (x63) farw, 1581. Canfyddwyd
arch yn y beddrod, ac ysgrifen yn rhedeg ar hyd ei hymylau; a darllenwyd enw yr
esgob ar yr arch. Rhoddodd Dr. Thirlwall, Esgob Tyddewi, wyddfaen mynor, ar ei
draul ei hun, ar fûr y ganghell uwch ben ei fedd, ac ar y mynor y mae a ganlyn
yn argraphedig:—
Er
Coffadwriaeth am
Y GWIR BARCHEDIG DAD YN NUW,
YR ESGOB RICHARD DAVIES, D.D.
Ganwyd ef yn mhlwyf Gyffin, ger Aber Conwy, yn
Ngwynedd;
DYGWYD EF I FYNY YN NEW INN HALL, RHYDYCHAIN;
Codwyd ef i ESGOBAETH LLANELWY, Ionawr 21ain, 1559,
AC I’R ESGOBAETH HON (TY DDEWI) MAI 29AIN 1561.
BU FARW TACHWEDD 7FED, YN y FL. 1581,
Oddeutu LXXX. oed;
AC A GLADDWYD YN YR EGLWYS HON.
Efe a gyfieithodd JOSHUA, BARNWYR, RUH, 1 SAMUEL, a’r
2 SAMUEL yn y BIBL SAESONEG,
Pan ddiwygiwyd yr hen gyfieithiadau o dan arolygiad
Yr ARCHESGOB PARKER yn y fl. 1668;
Ac efe hefyd a gyfieithodd
1 TIMOTHEUS, YR HEBREAID, IAGO, 1 PETR, A’R 2 PETR,
YN Y TESTAMENT NEWYDD CYMRAEG,
A gyhoeddwyd a chan mwyaf a gyfieithwyd
gan WILLIAM SALESBURY, o’r Plâs Isaf,
ger Llanrwst,
yn y fl. 1567.
---------
ESGOB oedd ef o ddysg bur — a duwiol
A diwyd mewn llafur;
Gwelir byth tra’r Ysgrythur,
Ol gwir o’i ofal a’i gur. — Tegid.
(x64) III. Thomas Huet.
Nid
oes genym nemawr o hanes y gŵr da hwn, ond bydd ei enw mewn coffadwriaeth
felus gan y Cymry fel cyfieithydd llyfr y Datguddiad yn Nhestament Cymraeg
William Salesbury. Mae llythyrenau cyntaf ei enw wrth y cyfieithiad, sef “T.
H.; C. M.” Hyny yw, Thomas Huet, Cantor Mynyw, neu Cantor Menivæ. Yr oedd yn brif gantor Tyddewi o’r
flwyddyn 1562 hyd
IV.
Dr.
William Morgan.
Dyma y gŵr da ag y mae Cymru yn ddyledus iddo am ddwyn yr holl FibL allan yn
yr iaith Gymraeg. Cyfieithodd ef a’i gynorthwywyr yr oll o’r Hen Destament a’r Apocrypha, a diwygiodd Destament
Newydd William Salesbury; a chymerodd y gorchwyl iddo lawn deng mlynedd o
amser.
Mab ydoedd i William, neu John, Morgan, o Ewybrnant, plwyf Penmachno, Sir
Gaernarfon; a’i fam oedd Lowri, ferch William ab Ifan (x65)
ab Madog ab Ifan Tegin, o’r Betws. Nid oes dim o’i hanes boreuol ar
gael. Cafodd ei ddysgeidiaeth yn ngholeg St. Ioan, yn Mhrifysgol Caergrawnt. Yr
oedd yn dysgu yn gyflym, a chymerodd bedwar o deitlau yn olynol yn y Brifysgol;
sef B.A. yn 1568; A.M. yn 1571; B.D. yn 1578; a D.D. yn 1583. Gafodd Ficeriaeth Trallwng, Sir Drefaldwyn, yn Awst
Wedi gorphen ar y gwaith, bu am tua blwyddyn yn Llundain yn arolygu ei
argraphiad, ac yn y cyfamser, yn cael llety croesawgar gan Dr. Gabriel Goodman,
Doeon Westminster, yr hwn y mae yn ei gydnabod yn gynhes yn nghyflwyniad y
gwaith. Yn y flwyddyn y gorphenodd ei Fibl, gwobrwywyd ef â phersoniaethau
Llanfyllin, a Pennant-Melangell; ac yn 1594, ychwanegwyd iddo bersoniaeth
Dinbych. Yn 1595, yn dra haeddianol, ac ar orchymyn pennodol y Frenines
Elisabeth, rhoddwyd iddo gadair esgobol Llandaf; ac yn 1601, cafodd Esgobaeth
Llanelwy, lle bu farw Medi 10fed,
..... “Cei glod o fyfyrdod fawr,
...... A da dylych hyd elawr,
...... Tra gwnair tai, tra caner tant,
...... Tra fo Cymro’n cau amrant.”
V. Dr. Richard Parry.
Mab hynaf oedd ef, ac etifedd, John Parry, o Bwllhaulog, yn Rhuthin, Sir
Ddinbych, a ganed ef yno, yn ol “Cymru,” gan y Parch. O. Jones, yn
1560. Dywed “Llyfryddiaeth y (x67)
Cymry” mai oddeutu y flwyddyn 1578 — deunaw mlynedd yn ddiweddarach — y ganed
ef, ac iddo farw yn 1623, yn 45ain oed. Ofnwn fod yr olaf yn gamsyniol, oblegyd
felly buasai wedi ei wneyd yn esgob pan nad oedd ond 26ain oed.
Bu am dymor dan addysg yn ysgol Westminster, o dan yr enwog W. Camden, un o
ysgoleigion penaf ei oes, ac awdwr hanesiaeth Brydeinig a elwir “Britannia.”
Oddiyno aeth yn o ieuanc i Rhydychain. Dywed amryw o’r haneswyr iddo fod am
dymhor yn brif-athraw yn ysgol Rhuthin; mae eraill yn barnu mai is-athraw a fu
yno.
Yn y flwyddyn 1592, gwnaed ef yn Ganghellydd Bangor, a derbyniodd, yn yr un
flwyddyn, ficeriaeth Gresford. Yn 1598 cafodd ei D.D., a’r flwyddyn ganlynol
cafodd Ddeoniaeth Bangor. Ar esgyniad y Brenin Iago I. i orsedd Lloegr, yr oedd
ganddo feddwl mor uchel o’i ddysgeidiaeth, fel y dyrchafodd ef i Esgobaeth
Bangor, yn Rhagfyr 1604.
Ymgymerodd â’r gorchwyl o ddiwygio cyfieithiad yr holl Fibl, oddiar ei
awyddfryd personol i wneyd y cyfryw wasanaeth i’w genedl, heb unrhyw gymhelliad
at hyny gan neb oddiallan. Mae rhai yn groes i’w osod ef yn mysg cyfieithwyr yr
Ysgrythyrau, gan na (x68) wnaeth ond diwygio
cyfieithiadau oeddent o’r blaen
wedi eu gorpheun. Tybia eraill fod yr hyn a wnaeth mor
fawr a phwysig, fel y gellid ei alw yn gyfieithiad newydd. Mae yn amlwg fod
anghen diwygiad ar y Bibl, fel y gadawyd ef gan Dr. Morgan; ac y mae mor sicr a
hyny fod Dr. Parry yn gwbl gyfaddas at y gorchwyl. Yr oedd orgraph Salesbury yn
ddrwg, yr iaith yn anystwyth, a phur anneallus. Gwellhaodd Dr. Morgan lawer
iawn ar yr iaith; ond rhoddodd Dr. Parry ef i ni mewn iaith ag sydd yn safon y
Gymraeg hyd y dydd hwn. Gwnaeth wasanaeth i genedl y Cymry, fydd yn glod
anfarwol i’w enw.
Yr oedd yn dal bywioliaeth Diserth yn Sir Fflint, gyda’i esgobaeth, a byddai yn
treulio peth amser yno ar adegau. Mae yno faes o’r enw “Cae yr Esgob;” ac yn y
persondy hwnw y bu farw yn 1623, — yn mhen oddeutu dwy flynedd ar ol cyhoeddi y
Bibl, a dwy flynedd o flaen y brenin.
VI. Dr. John Davies.
Adwaenir y gŵr da hwn wrth yr enw Dr. Davies o
Fallwyd. Mab ydoedd i Dafydd ab Sion ab Rhys, gwehydd wrth ei alwedigaeth (x69) yn mhlwyf Llanferras, yn Sir Ddinbych. Nid yw ei fod yn yr
alwedigaeth hono yn brawf fod ei amgylchiadau yn isel, am fod gwehyddiaeth y
pryd hwnw mewn bri uwch nag ydyw yn bresenol. Ganed ef tua’r flwyddyn 1570.
Dywed y “Cambrian Plutarch” iddo dderbyn ei addysg foreuol yn
ysgol Rhuthin, oedd wedi ei sefydlu ychydig flynyddoedd cyn hyny gan Dr.
Gabriel Goodman, ac mai ei athraw yno oedd Dr. Richard Parry, a ddaeth wedi
hyny yn Esgob Llanelwy. Ond dywed “Enwogion Cymru,” nas gallasai fod
yno yn yr ysgol Ramadegol enwog a sefydlwyd gan Deon Goodman, gan na sefydlwyd
hono hyd 1595, tra yr oedd Dr. Davies wedi derbyn ei raddau yn Rhydychain, a
dychwelyd yn ol i’w wlad yn 1592; ac mai camsyniad yw dyweyd mai Dr. Parry oedd
athraw Davies yn yr ysgol hono. Tybia y gallasai fod Parry wedi gosod i fyny ysgol
anghyhoedd yn ei dref enedigol, ac mai yn hono y bu Dr. Davies dan ei addysg.
Beth bynag, y mae yn sicr fod cyfeillgarwch calon wedi ei enyn rhwng Parry a
Davies yn yr adeg hon, na ddiffoddodd tra parhaodd y ddwy galon i guro.
Yn y flwyddyn 1589 y dechreuodd Dr. Davies ar ei fywyd athrofaol, yn Ngholeg yr
(x70) Iesu, Rhydychain. Wedi bod yno bedair
blynedd, ac ennill clod fel ysgolaig, a chael ei raddio yn B.A., yn 1593,
dychwelodd i Gymru, ac ymroddodd i astudio iaith, duwinyddiaeth, a hynafiaethau
ei wlad. Y flwyddyn ganlynol, derbyniodd ei urddau eglwysig, ond ni chafodd
unrhyw ddyrchafiad swyddol am ddeng mlynedd. Yn 1604, ychydig cyn dyrchafiad
Parry i Esgobaeth Llanelwy, cafodd Davies Bersoniaeth Mallwyd, yn Sir
Feirionydd, gan y Goron.
Yn y flwyddyn 1608 dychwelodd i Goleg Lincoln, yn Rhydychain, ond nis gellir
dyweyd pa faint fu ei arosiad yno y tro hwn. Ar ol hyn, cafodd amryw ffafrau
oddiar law yr Esgob. Gwnaed ef yn Ganon Llanelwy yn y flwyddyn 1612, a’r
blynyddau dilynol cafodd fywioliaethau Llanymawddwy, a Darowain, Llanfair a
Llanefydd, yr hyn a wnaeth ei amgylchiadau yn bur gysurus. Felly y dengys
cywydd Robert ab Heilyn iddo: —
...... “Mae iti renti drwy râs,
........Mab dewrddoeth, mwy bo d’urddas,
........Mallwyd sydd am wellhâd sant,
........A Mowddwy yn eich meddiant,
........A Llanfair blaenfaur heb ludd,
........Llawn afael, a Llan-Nefydd.”
Cafodd ei D.D. o Goleg Lincoln yn 1616, (x71)
neu S.T.D., fel y byddid yn ei roddi y pryd hwnw. Y mae yn sicr iddo fod yn
gynorthwy pwysig iawn i’r Esgob Parry i ddwyn y Bibl allan. Heblaw y llafur
hwn, cyfoethogwyd llenyddiaeth Gymreig â llawer o lyfrau gwerthfawr o eiddo Dr.
Davies. Yn 1621 cyhoeddodd Ramadeg o’r iaith Gymraeg yn Lladin. Yn 1632,
cyhoeddodd ei “Eiriadur” enwog, yr hwn, yn ddiau, a fu yn brif orchest ei
fywyd. Yr oedd un Thomas ab William, neu Syr Thomas William, o Drefriw, wedi
gadael ar ei ol, mewn llaw-ysgrifen, Eirlyfr Lladin a Chymraeg. Ymgymerodd Dr. Davies a gwella a helaethu hwnw, a chyfansoddi Geirlyfr
Cymraeg a Lladin ato. A dyma y Geirlyfr y treuliodd Dr. Davies oriau hamddenol
deugain mlynedd o’i fywyd i’w gwblhau
Heblaw amryw lyfrau eraill a gyhoeddodd, cyfieithodd i’r Gymraeg y
“Namyn-un-deugain Erthyglau,” gyda “Phenderfyniadau Cristionogol”
Parsons. Casglodd drysorau lawer hefyd mewn barddoniaeth a hanesiaeth Gymraeg.
Gadawodd ar ei ol gyfrol drwchus o tuag 800 o dudalenau mewn ysgrifen fân
brydferth, yn cynwys Awdlau, Cywyddau, Caniadau, Pryddestau, &c., y rhan
fwyaf wedi eu copi’o o’r “Llyfr Ooch o Hergest,” a rhai (x72) o’r “ Llyfr Du,” a llyfrau eraill. Wrth
ddarllen llyfrau, byddai yn gwneyd nodiadau ar ymyl y dail. Ar ol ei
farwolaeth, casglodd James Davies (Iago ab Dewi) o Bencadair, y nodiadau hyn, a
chyhoeddodd hwynt yn llyfr.
Yr oedd yn ddyn dymunol
a chariadus iawn yn mysg ei gymydogion. Cododd bont gerllaw Pont-y-Cleifion, ar
ei draul ei hun. Ail adeiladodd hefyd y clochdy a changhell yr eglwys, a’r
periglordy, ar ei draul ei hun; a gadawodd ardreth lle a elwir “Dol-ddyfi,”
i dlodion y plwyf tra fyddo dwfr yn rhedeg.
Yr oedd wedi priodi merch Rhys Wynn, Ysw, o Llwynon, chwaer gwraig yr Esgob
Parry; a chan nad oedd plant ganddo, gadawodd ei feddianau i’w neiaint. Bu
farw yn Mallwyd ar y 15fed o Fai, 1644, yn 74ain mlwydd oed, a chladdwyd ef yn
nghangell Eglwys Mallwyd. Cerfiwyd yr argraph canlynol yn Lladin ar ei gareg
fedd, ond y mae erbyn hyn wedi treulio ymaith.
“John Davies, Dysgawdwr Duwinyddiaeth Cysegredig, Periglor Eglwys blwyfol
Mallwyd, a fu farw y 15fed dydd o Fai, ac a gladdwyd ar y 19eg, B.A. 1644. Mwy
er coffa ei rinwedd na’i enw.”
Yr oedd Dr. Davies, nid yn unig yn rhês (x73) flaenaf
ysgoleigion ei oes, ond yr oedd yn un
o’r rhai mwyaf diflino a dihunangar yn
ei lafur, a gadawodd ar ei ol drysorau anmhrisiadwy at wasanaeth y
genedl.
VII. Edmund Prys.
Mae Dr. Morgan yn coffau amryw gynorthwywyr
eraill iddo yn nghyfieithiad y Bibl; megys, Dr. Dafydd Powell, Ficer Rhiwabon,
Richard Fychan, o Lutterworth, ac Edmund Prys, Archddiacon Meirionydd.
dafydd powell, mab ydoedd ef i Hywel ab Dafydd ab Gruffydd ab Ithel.
Ganed ef yn 1552. Addysgwyd ef yn Rhydychain. Cafodd ei B.A. yn 1572, ei M.A.
yn 1576, ei B.D. yn 1582, a’i D.D. yn 1583. Yr oedd ganddo amryw swyddogaethau
heblaw Ficeriaeth Rhiwabon. Yr oedd yn ddyn dysgedig iawn, ac yn llenor galluog
a diwyd. Dygodd lawer o lyfrau pwysig allan, a gadawodd lawer o ysgrifau
gwerthfawr ar ei ol, y rhai, yn anffodus a aethant ar ddifancoll. RICHARD VAUGHAN
neu FYCHAN D.D., oedd enedigol o Nyffryn, lle rhwng Tydweiliog ac Edeyrn, yn
Lleyn, Sir Gaemarfon. Oafodd ef ei addysgu yn Nghaergrawnt. Yr oedd yn berson Lutterworth (x74)
ar yr adeg y bu yn cynorthwyo Dr. Morgan yn nghyfieithiad y Bibl. Yr
oedd hefyd yn Archddiacon Middlesex, a chanddo ganoniaeth yn eglwys gadeiriol
Wells. Gwnaed ef yn esgob Bangor yn 1595; yn mhen dwy flynedd symudodd i
Gaerlleon, ac oddiyno i Lundain, lle y bu farw yn y flwyddyn l607.
Ond y mae EDMUND PRYS yn haeddu coffâd, nid yn unig am iddo gynorthwyo Dr.
Morgan gyda chyfieithu, ond yn benaf fel awdwr y “Salmau Cân.” Yr oedd y Cadben
W. Middleton (Gwilym Ganoldref) tua’r un amser a’r Archddiacon yn troi Salmau
Dafydd i fesurau caethion y Gymraeg, ond dan amgylchiadau pur wahanol. Yr oedd
y Cadben allan ar gefn y Weilgi, neu mewn gwledydd tramor, yn ngwasanaeth ei
frenines, yn nghanol bloddest y fyddin, a mwg a thân brwydrau poethion a’r
Spaeniaid; a rhyfedd iawn oedd gweled dyn yn yr amgylchiadau hyny yn astudio
Salmau peraidd ganiedydd Israel, ac yn cyflawni y gorchwyl tra anhawdd o’u troi
i linellau cynghaneddol y pedwar mesur ar ugain. Yr oedd y ffaith yn ddiau yn
un o ryfeddodau yr oes. Pa bryd bynag y dechreuodd ar y gorchwyl, tystia a’i
ysgrifen ei hun yn nglyn â’r Salm
(x75) olaf iddo ei orphen y 24ain o Ionawr
1595, mewn ynys yn India y Gorllewin.
Ond yr oedd amgylchiadau yr Archddiacon yn wahanol iawn yn ardal dawel
guddiedig Maentwrog, y mesur a gymerodd yn fwy hawdd a syml, a’r amcan yn
rhagorach. Ganed ef yn Maentwrog oddeutu 1541. Cafodd ei addysgiad yn
Nghaergrawnt, lle y cafodd ei raddio yn A. O. Wedi derbyn ei urddau Eglwysig
ymsefydlodd yn Ffestiniog, ac yn y flwyddyn 1576, pennodwyd ef yn Archddiacon
Meirionydd. Yr oedd yn ieithwr enwog, ac yn feistrolgar mewn wyth o ieithoedd. Yr
oedd hefyd yn fardd o fri uchel, ac y mae ugeiniau o’i gywyddau yn awr ar gael.
Ond ei brif waith oedd troi llyfr y Salmau ar fesur mydryddol, at wasanaeth yr
Addoliad Dwyfol. Mae wedi glynu wrth yr un mesur, bron yn gwbl, yr hwn a adnabyddir
oddiwrth waith Prys wrth yr enw “Mesur Salm.” Mae nifer mawr o’i
benillion yn fedrus a llithrig, ac yn profi ei fod yn gyfarwydd â hwy yn yr
iaith wreiddiol; ond y mae llawer eraill yn glogyrnaidd, gan ei ymdrech i gadw
yn rhy lythyrenol at y testyn. Dywedir iddo eu cyfieithu fel hyn o wythnos i
wythnos, at wasanaeth ei eglwys ei hun, ac iddynt gael eu (x76) canu oll yno cyn eu cyhoeddi. Ond ystyried
yr amser yr ysgrifenwyd hwynt, y mae yr iaith, a’r mydr, yn sicr, yn deilwng o
ganmoliaeth uchel. Yr oedd yr archddiacon yn hanu, o ran ei dad a’i fam a’i
wraig, o waedoliaeth Cymreig anrhydeddus. Mae y rhan fwyaf o’i gywyddau yn rhyw
ymgom gecrus rhyngddo ef a bardd arall o’r enw William Cynwal, ac yn annheilwng
o ŵr dysgedig, a swyddog mor uchel yn yr Eglwys. Cododd deulu mawr; bu
farw yn 1624, yn dair blwydd a phedwar ugain oed, a chladdwyd ef yn mynwent
Maentwrog; ond
VIII. Rees Pritchard.
Yr ydym wedi beiddio rhoddi enw y Parch. Rees Pritchard, “Hen Ficer
duwiol Llanddyfri,” yn mysg cyfieithwyr y Bibl, er na chyfieithodd ef, yn ystyr
gyffredin y gair, yr un gyfran o hono. Yr oedd, er hyny, yn cydoesi, mwy neu
lai, â’r oll o’r cyfieithwyr, gan iddo gael ei eni tua’r flwyddyn 1579, ei
ordeinio yn
............Am wel’d dwfn-waith enwog Salsbury,
.............Gan y diddysg heb ei hoffi,
.............Cym’rais fesur byrr cyn blaened,
.............Hawdd i’w ddysgu, hawdd i’w ’styried.”
Mae ei lyfr yn cynwys crynodeb gwerthfawr o athrawiaeth y Gair Dwyfol, mewn
ffurf gyml a sathredig i daro meddwl y werin yn yr oes yr oedd yn byw ynddi; ac
hefyd yn ddesgrifiad byw a gonest o gyflwr anwybodus a llygredig y wlad, yn
gystal offeiriad a phobl. Dyfynwn yma ychydig o benillion allan o’i “Gynghor i
Wrando a Darllain (x78) Gair Duw,” yr hwn sydd yn cynwys 87 o benillion
cyffelyb. Mae yn beth tebygol i’r “Cynghor” gael ei gyfansoddi ar ol cyhoeddiad
y Bibl wyth-plyg rhad yn 1630, gan ei fod
yn cyfeirio fwy nag unwaith at ei bris, sef “coron arian.”
......... “Bwyd i’r enaid, bara’r bywyd,
............Gras i’r corph, a maeth i’r yspryd,
............Lamp i’r droed, a ffrwyn i’r genau,
............Yw Gair Duw, a’r holl ’Sgrythyrau.
......... “Gwerth dy dir, a gwerth dy ddodrefn,
............Gwerth dy grys oddiam dy gefn,
............Gwerth y cwbl oll sydd genyd,
............Cyn b’ech byw heb Air y bywyd.
......... “Tost yw aros mewn cornelyn,
............Lle na oleuo’r haul trwy’r flwyddyn;
............Tostach trigo yn y cwarter
............Lle na oleuo’r Gair un amser.
......... “Gad y wlad, y plwyf a’r pentre’,
............Gad dy dad a’th fam a’th drase’,
............Gad y tai a’r tir yn ebrwydd,
............Lle na byddo Gair yr Arglwydd.
........... “Mae’r Bibl bach yn awr yn gyson,
............Yn iaith dy fain i’w gael er coron;
............Gwerth dy gry^s cyn bod heb hwnw,
............Mae’n well na thref dy dad i’th gadw.
......... “Gwell nag aw, a gwell nag arian,
............Gwell na’r badell fawr a’r crochan,
............Gwell dodrefnyn yn dy lety
............Yw’r Bibl bach na
dim a feddi. (x79)
......... “Ni chyst Bibl i ni weithian
............Ddim tu hwnt i goron arian;
............Gwerth Hên ddafad a fydd farw
............Yn y clawdd ar noswaith arw.
......... “O medr un o’r tylwyth ddarllain
............Llyfyr Duw yn ddigon cywrain,
............Fe all hwnw’n ddigon esmwyth
............Ddysgu’r cwbwl o’r holl dylwyth.
......... “Ni fydd Cymro’n dysgu darllain
............Pob Cymraeg yn ddigon cywrain
............Ond un mis-gwaith (beta yw hyny?)
............Os bydd ewyllys ganddo i ddysgu.
......... “Gwradwydd tost sydd i’r Brutaniaid
............Fod mewn crefydd mor ddieithriaid,
............Ac na wyr eu canfed ddarllen
............Llyfyr Duw’n eu hiaith eu hunain.”
Fel yr awgrymwyd eisoes, Gogleddwyr gan mwyaf, os nid yr oll, oedd cyfieithwyr
y Bibl, ac y mae yn hynod fod y prif rai yn dal cysylltiad â glanau afon Conwy
neu Cynwy. Tarawodd y syniad hwn y bardd Gwalchmai, fel y mae wedi cylymu cân
ar “GLANAU CYNWY A’R BIBL
CYMRAEG,”yr hon y
cymerwn ein rhyddid i’w gosod yma. Credwn na byddwn yn troseddu yn erbyn ei
hawdwr caredig wrth wneyd; ac y mae yn bur bwrpasol i bwnc y gyfrol fechan hon.
(x80)
........ “Draw yn nharddiad
bychan cyntaf
..........Afon Gynwy’n ael y bryn,
..........Lle gadawai lethrau Meirion,
..........Ac y treiglai tua’r glyn :
......... “Rhedai’r enwog DOCTOR
MORGAN
...............At ei dyfroedd gloywon hi,
..........O Ewybrnant, a’i ysgrifell
...............Er ei gwlychu yn y lli.
....... “Wrth gyfieithu’r Ysgrythyrau
...............O drysorau’r iaith Hebraeg,
..........Er cyflwyno i’w gydwladwyr
...............Fibl cyflawn yn Gymraeg,
..........Yna’n mlaen trwy’r nentydd llifai’n
...............Dawel heb na thòn na thrwst,
..........Neu ymchwyddo’n afon nerthol
...............Ar y dyffryn hyd Lanrwst.
........ “Yma rhedai WILLIAM SALSBRI,
...............O’r Plas-isaf, gyda’i
bin,
..........Am ei dwfr i ysgrifenu
...............Y gwirionedd, lin ar lin,
..........Pan y rhoddai’r anrheg gyntaf
...............O Efengyl nef i ni,
..........Ac y gwnai â gwaed ei galon
...............Inc o’i dyfroedd dysglaer
hi.
........ “Yna’r DOCTOR RICHARD DAVIES,
...............Cyn ei harllwys draw i’r môr,
..........O’r Plas Person yn y Gyffin,
...............Redai dan arweiniad Ior,
..........Gyda’i bin-sgrifenu buan
...............At ei ffrydiau, droent eu lliw,
..........Ar ei amnaid, er darlunio,
...............Ar ddalenau, eiriau Duw. (x81)
........ “Ah!’r hen afon - ’r wyf yn ammheu
...............P’un a gawsit lifo ’rioed,
..........Dros y mynydd yn rhaiadrau
...............Hyd y ceunant, wrth ei
droedy
..........Oni buasai iti’n barod
...............Droi yn inc o’r dua’i
liw,
..........I roi ar y memrwn oesol
...............Yn ein hiaith oraclau Duw.
........ “Rhyfedd, fel mae pob cym’dogaeth
...............Yn ymffrostio o’u gwŷr
mawr,
..........Nid oes odid ardal ddinod
...............Ar na fagodd enwog gawr;
..........Clywch Philistia, gyda Thyrus,
...............Ethiopia hefyd, gwn,
..........Oll yn d’wedyd am eu campwr -
...............Cofiwch, “Yno ganed hwn!”
........ “Os eir heibio tref y Bala,
...............Clywir yno cyn bo hir
..........Am gymdeithas fawr y Biblau,
...............Anwyd ar ei breiniol dir;
..........Ac os holir am ei hanes,
...............Yna etyb pawb o’r bron,
..........Am yr hyn sy’n ei hynodi -
...............Cofiwch, “Yno ganed hon!”
........ “Ah!’r hen afon - pan ofynir
...............Eto ar dy lanau llaith,
..........P’le y ganwyd y cyfieithydd
...............Roes y Bibl yn ein hiaith,
..........Ninau a’th ddyrchafwn dithau
...............Uwch afonydd hyd yn grwn,
..........Ac wrth enwi glanau Conwy
...............Dwedwn, “YNO GANED HWN!” (x82)
PENNOD IX.
LLEDAENWYR Y BIBL YN MYSG Y CYMRY.
Heblaw yr hyn a ddywedwyd eisoes am ymdrechion y cymwynaswyr rhagorol hyn i
gyflenwi anghenion Cymru ‘r Ysgrythyrau Sanctaidd, yr ydym yn rhoddi y bennod
hon i gofnodi eu henwau. Nis gallwn ond rhoddi nodiad byr iawn ar bob un o
honynt, ac y mae yn bosibl ein bod yn gadael rhai allan ddylasai gael eu rhifo
yn eu mysg.
I. Rowland Heilyn.
Brodor ydoedd y gŵr hwn o Sir Drefaldwyn, ac un o’r teulu o’r un enw o
Bentreheilyn, yn mhlwyf Llandysilio. Ymsefydlodd yn Llundain, a daeth yn
henadur a sirydd yn y ddinas. Yr oedd yn Gymro cenedlgarol, ac yn llenor
galluog. Gosododd ei genedl dan rwymedigaeth arbenig iddo, yr hyn a geidw ei
enw yn anwyl yn nheimlad pob Cymro, trwy fod yn brif offeryn i ddwyn argraphiad
o’r Bibl allan, mewn plyg llai, ac ar bris isel, at wasanaeth y werin, yn y
flwyddyn 1630. Er y cynorthwyid ef gan (x83)
eraill, dygai y rhan fwyaf o’r baich ei hun; a diammheu nad baich bychan oedd
hwnw. Efe hefyd a gyhoeddodd yr “Arferiad o Dduwioldeb,” yn Gymraeg, yn nghyd a
Geiriadur at wasanaeth ei gydwiadwyr. Bu farw yn 1634, heb adael etifedd ar ei
ol, ac aeth ei eiddo, trwy briodas merch iddo, i deulu o’r enw Congreve. Yr
oedd yn ewythr i Dr. Peter Heylin yr hanesydd.
II. Thomas Middleton.
Un o deulu enwog Gwaenynog, Sir Ddinbych, ydoedd Syr Thomas Middleton; mab
Richard Middleton, llywodraethwr Castell Dinbych o dan deyrnasiad Edward VI.,
Mari, ac Elisabeth. Normaniaid oeddent o wreiddyn, ond trwy briodasau olynol,
daethant yn Gymry o waed, ac o yspryd. Brodyr i Syr Thomas oedd William
Middleton (Gwilym Ganoldref), awdwr y “Salmau Cân,” Ffowc Middleton, a Syr Hugh
Middleton. Aeth Syr Thomas i Lundain yn ieuanc, a daeth yno yn farsiandwr
cyfoethog. Daeth yn henuriad, yn ynad, ac, yn 1614, yn Arglwydd Faer Llundain.
Prynodd etifeddiaeth Castell y Waun, Sir Ddinbych, ac efe oedd cyff teulu
Middleton y lle hwnw. Efe (x84) gyda Rowland
Heylin, aeth dan faich yr argraphiad o’r Bibl Cymraeg yn 1630, at wasanaeth y
werin Gymreig. Dywedir fod ganddo ef law hefyd mewn dau argraphiad dilynol. Am
y gwasanaeth hwn i gyflenwi Cymru a Gair yr Arglwydd y dymunai y Parch. Stephen
Hughes fendith y genedl arno. Yn ei ragymadrodd i “Lyfr y Ficer,” dywed,
“Yr wyf yn dymuno o’m calon ar Dduw, ar fod i bob bendith ysprydol a thymhorol
ddisgyn ar bob un o hiliogaeth Syr Thomas Middleton, yn Ngwynedd, neu un lle
arall: Rhodded Duw iddynt fendithion aneirif, fel tywod y mor, fel glaswellt y
ddaiar, ac fel sêr y nefoedd. A bydded i bob un sydd yn Nghymru yn caru Duw, ac
yn hiraethu am iachawdwriaeth eneidiau anfarwol, gyduno i gyhoeddi o’u calon,
Amen, ac Amen boed felly. O Arglwydd grasol, bendithia epil Syr Thomas
Middleton, a bydded ei enw dros fyth yn anrhydeddus.”
Methodd i ni gael dyddiad ei enedigaeth na’i farwolaeth. Ei frawd, Syr Hugh Middleton
wnaeth yr Afon Newydd i gyflenwi Llundain â
dwfr. (x85)
III. Cradoc, Powell, ac
Edwards.
Dywed
“Llyfryddiaeth y Cymry” mai Walter Cradoc a Vavasor Powell fu yn offerynol i
gael argraphiad 1654 o’r Bibl Cymraeg allan. Ond dywed Dr. Llewelyn, “Yr ydym
yn ddyledus am yr argraphiad hwn i Mr. Charles Edwards, awdwr y llyfr Cymraeg a
elwir ‘Hanes y Ffydd.’ Mae yn bosibl fod y tri hyn yn cydweithio yn y gorchwyl
anrhydeddus o gael chwe’ mil o gopiau o Air Duw i’w cydgenedl, yn awr pan oedd
Cymru i raddau wedi deffro, ac yn estyn ei dwylaw am dano.
Walter Cradoc ydoedd un o Anghydffurfwyr boreuol Cymru. Ganed ef yn Nhrefeca,
Llangwm Uchaf, Sir Fynwy, tua’r flwyddyn 1600. Derbyniodd ei addysg yn
Rhydychain, a bu yn gurad yn Llanbedr y Fro a Chaerdydd; ond ataliwyd ef i
bregethu am na fuasai yn darllen “Llyfr y Chwareuon” yn yr eglwys ar y Sabboth.
Cafodd ei droi allan yn 1633. Bu wedi hyn yn gurad yn Wrexham. Ond cododd ei
weinidogaeth danllyd erledigaeth yn ei erbyn, a gorfu iddo ymadael. Teithiodd ar
hyd Gymru gan bregethu yn mhob ardal, a dychwelyd llawer at yr Arglwydd. Parodd
(x86) terfysgoedd y wlad iddo ef a’i
gydweithwyr adael Cymru. Buont yn Bristol am dro, ac wedi hyny yn Llundain. Bu
ef am rai blynyddau yn gweinidogaethu yn All Hallows, yn Llundain. Yn 1646
dychwelodd i Gymru, a threuliodd weddill ei oes yn ei ardal enedigol, yn
Nhrefeca, lle y bu farw Rhagfyr 24, 1659. Bu yn pregethu ddwy waith o flaen y
Senedd. Cyhoeddwyd cyfrol o’i bregethau yn ystod ei fywyd; ac ail gyhoeddwyd
hwynt gan Charles o’r Bala, ac Oliver o Gaerlleon, gyda hanes bywyd yr awdwr,
yn 1800.
Ganed Vavasor Powell yn Cnwc Glas, Sir Faesyfed, yn 1617, o deulu parchus.
Gorphenodd ei addysg yn Rhydychain. Gafodd ei arwain i ffordd iachawdwriaeth yn
benaf trwy weinidogaeth Gradoc, a daeth yn gydymaith iddo yn ei lafur a’i
ddyoddefiadau fel pregethwr teithiol. Yr oedd yn bregethwr selog a thanllyd
iawn, yn meddu ar ddoniau anarferol, a’i lafur yn ddiball. Ar doriad allan y rhyfel cartrefol ffodd yntau o’i wlad. Bu yn Llundain, a lleoedd eraill yn Lloegr, am bedair neu bum’ mlynedd.
Dychwelodd eilwaith i Gymru, mor selog ag erioed. Bu am yspaid yn gaplan yn
myddin y Brenin. Yn 1649, bu yn pregethu o flaen Arglwydd Faer Llundain, a’r
flwyddyn (x87) ganlynol o flaen y Senedd. Ar
esgyniad Charles II. daeth ei erlidwyr arno, cymerasant ef i fyny, a bwriasant
ef yn ngharchar. Mor gynted ag y cai ei draed yn rhyddion, pregethai eilwaith,
a gwrthodai gydymffurfio a chymeryd y llwon. Bu yn garcharor yn Nhrefaldwyn fwy
nag unwaith, ac yn ngharchar Amwythig. Wedi hyny am ddwy flynedd yn ngharchar
Fleet Street, Llundain; ac wedi hyny yn ngharchar Portsmouth am bum’ mlynedd.
Byddai yn pregethu yn muarth y carchar, ac amryw yn myned i’w wrando. O’r
diwedd, gwanychodd ei gaethiwed iechyd ei gorph. Bu farw yn y carchar Hydref
27ain, 1670, yn yr 11eg flwyddyn o’i garchariad, y 33ain o’i weinidogaeth, a’r
53ain o’i oedran. Yr oedd yn un o’r dynion mwyaf unplyg, gonest, caredig, a
haelionus yn ei oes. Arferai ddyweyd fod ganddo le mewn gwelyau i ddeuddeg yn
ei dŷ, i gant yn ei ysgubor, ac i fil yn ei galon. Cyhoeddodd nifer mawr o
lyfrau.
Nid oes nemawr ddim o hanes Charles Edwards ar gael; ond y mae ei lyfr rhagorol
ar “Hanes y Ffydd” yn golofn arosol o goffadwriaeth iddo. Mae y Parch. Walter
Davies yn dyweyd iddo gael ei eni yn (x88)
Rhydycroesau, yn mhlwyf Llansilin, Sir Dinbych. Dywed John Edwards, Ysw., o
Great Ness, yr hwn a honai fod yn berthynas iddo, nad oedd ond un Charles yn y
teulu, ac i hwnw gael ei eni yn Cynlleth, yn yr un sir, ac mai mab ydoedd i
Robert Edwards. Beth bynag, y mae yn sicr ei fod yn ysgolor Cymreig uchel, yn
Gristion dysglaer, ac yn wasanaethwr selog i’w genedl, mewn pethau ysprydol.
IV. Stephen Hughes
Ganed y Parch. S. Hughes yn nhref Caerfyrddin oddeutu y flwyddyn 1622. Mae
hanes boreuol hwn hefyd dan len. Dywedir iddo ddyfod i bersoniaeth Meidrym, yn
Sir Gaerfyrddin, yn
Cyhoeddodd ef, a’i gyfaill, Mr. Gouge, lawer o lyfrau Cymraeg gwerthfawr, a
gwasgarent hwy yn helaeth, gan eu rhoddi yn fynych am ddim, os byddai y bobl yn
rhy dlawd i’w prynu. Gosodasant i fyny amryw ysgolion, yn nhrefi y Dywysogaeth,
i ddysgu darllen y Bibl ac elfenau cyntaf gwybodaeth. Dywedir fod o dri i
bedwar cant o honynt wedi eu sefydlu yn Nghymru yn
yn cynwys wyth mil o gopi’au. Dywedir
mai trwy ddylanwad Hughes a Gouge y sefydlwyd y Gymdeithas er Lledaenu
Gwybodaeth Gristionogol gyntaf yn Llundain. Cyhoeddodd Hughes argraphiad o
“Lyfr y Ficer,” gyda rhagymadrodd o’i flaen. Yr oedd yn ddyn hael a diragfarn,
ac yn cael (x90) ei garu yn fawr. Gelwid ef yn “Apostol Sir
Gaerfyrddin.” Ond yr oedd ganddo elynion, a thaflwyd ef unwaith i garchar
Caerfyrddin. Bu farw mewn tangnefedd yn Abertawy, yn 1688, pan oddeutu 65
mlwydd oed, a chladdwyd ef yn Eglwys Ifan ; ond ni osodwyd gwyddfaen i gadw y
llanerch mewn coffadwriaeth.
V. Thomas Gouge.
Nid Cymro oedd Gouge; ond y mae yr hyn a wnaeth i Gymru yn haeddu parch ac
edmygiad y genedl. Ganwyd ef yn ninas Llundain, Medi 19eg,
Nid oes gwybodaeth beth drodd sylw Gouge at Gymru; ond tebygol ydyw iddo ddyfod
i gyffyrddiad â Stephen Hughes — neu Charles Edwards, neu rai o’r Cymru oedd yn
mynychu Llundain i’r diben o gael Biblau a llyfrau at wasanaeth y Dywysogaeth.
Dechreuodd ei lafur cariadus at Gymru tua’r flwyddyn
VI. Griffith Jones.
Ganed y Parch. Griffith Jones, o Landdowror, yn mhlwyf Cilrhedyn, Sir
Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1683. Addysgwyd ef yn ysgol Ramadegol Caerfyrddin.
Cafodd ei ordeinio i urdd diacon gan Esgob Bull yn
Bu Mr. Jones ar fwriad i fyned allan yn genadwr i India, dan y Gymdeithas er
Lledaeniad yr Efengyl mewn Gwledydd Tramor; ond, yr oedd Rhagluniaeth wedi
darparu maes eang iddo ef i’w weithio yn ei wlad ei hun, ac ymroddodd yntau at
y gwaith pwysig gydag yspryd teilwng o’i Arglwydd.
Heblaw ei lafur dirfawr gyda’i bregethu poblogaidd a llwyddianus ar hyd a lled
y wlad, yn 1730 cychwynodd ei Ysgolion Cylchynol enwog, y rhai a fuont o
gymaint bendith i Gymru. Ei arferiad o gasglu ei gynulleidfa yn nghyd o flaen
Sabboth y Cymundeb, i’w holi, a’u hegwyddori yn Ngair (x94)
Duw, arweiniodd ei feddwl at yr anghenrheidrwydd o foddion cyffelyb i ddysgu y
werin i ddarllen. Byddai yr ysgolfeistri cyflogedig yn myned ar gylch, o
bentref i bentref, er rhoddi mantais addysg i’r neb oedd yn sychedig am dano.
Cafodd gynorthwy pwysig gan gefnogwyr cyfoethog, fel yn mhen deng mlynedd, yr
oedd ei ysgolion yn rhifo
....”Dacw’r Biblau teg a hyfryd,
........Ddeg-ar-ugain filoedd llawn,
.....Wedi’u trefnu i ddod allan
........Trwy ei ddwylaw’n rhyfedd iawn;
........Dau argraphiad glan ddiwygiad,
...........Llawn, ac isel bris i’r gwan;
........Mewn cabanau fe geir Biblau
.......... ’N awr gan diodion yn y man.
........Hi Ragluniaeth ddyrus helaeth,
...........Wna bob peth yn gydsain lawn;
........D’wed nad gwiw argraphu Biblau
...........Heb eu darllen bwy yn iawn;
........Daeth yn union ag ysgolion
...........O Werddon for i Hafren draw;
........Rhwng y defaid mae’r bugeiliaid
.......... ’Nawr a’r ’Sgrythyr yn eu llaw.”
Wedi gwasanaethu ei genedl yn ol ewyllys Duw, gyda ffyddlondeb a llwyddiant
mawr, efe a hunodd yn yr Arglwydd, yn nhŷ ei ffrynd, Madam Bevan, yn
Llacharn, Ebrill 8fed, 1761, yn 77ain mlwydd oed, a chladdwyd ef yn
Llanddowror. (x97)
VII. Peter Williams.
Nid
oes un enw yn fwy hysbys yn y Dywysogaeth nag enw Peter Williams; oblegid y mae
“Bibl Peter Williams” yn llyfr a brawddeg gartrefol i ni oll. Ganwyd ef gerllaw
Llacharn, yn Sir Gaerfyrddin,Ionawr 7fed, 1722. Yr oedd ei rieni yn gyfrifol,
a’i fam o nodweddiad tra chrefyddol, dan weinidogaeth y Parch. Griffith Jones,
Llanddowror. Bu ei dad a’i fam farw pan oedd Peter oddeutu 12 oed; ond gadawodd
addysg grefyddol ei fam argraff annileadwy ar feddwl y plentyn. Dygwyd ef i
fyny gan ewythr iddo o du ei fam. Yr oedd ynddo awydd er yn blentyn at y
weinidogaeth, a throai ei holl fryd at lyfrau.
Pan yn 17 oed, gosodwyd ef mewn ysgol eglwysig yn Nghaerfyrddin, yr hon oedd ar
y pryd dan lywyddiad y Parch. T. Einion, lle y parhaodd am dair blynedd. Yn y
cyfamser, daeth Whitfield i Gaerfyrddin i bregethu; ac er i’r athraw rybuddio
yr efrydwyr nad elent i’w wrando, aeth Peter a thri ereill yn llechwraidd i
wrando y gwr dyeithr. Y bregeth hono fu yn foddion troedigaeth iddo. Aeth i’w
lety y noson hono yn ddyn arall. Daeth y peth yn hysbys trwy yr holl ysgol, a
thrôdd ei (x98) gyd-efrydwyr o hyny allan
i’w ddirmygu. “Yr oeddwn bellach,” meddai, “ yn Fethodist; ac yn eu cyfrif hwy, digon oedd hyny i roddi anfri
tragywyddol arnaf.”
Symudodd o Gaerfyrddin, pan oddeutu 21 oed, i gadw ysgol yn Cynwil. Yn 1745
cafodd ei urddo gan yr esgob i swydd diacon, a chafodd guradiaeth Eglwys Gymun,
gerllaw Llacharn. Ond aeth yn rhy weithgar ei fywyd, ac efengylaidd ei
athrawiaeth, i gael ei oddef yno yn hir. Yr oedd yntau, fel y Methodistiaid
eraill, “yn pregethu y pechod gwreiddiol, cyfiawnhâd trwy ffydd, ac ail
enedigaeth.” Cyhuddid ef hefyd o bregethu mewn plwyfi eraill; ac am ei holl
bechodau, gwaharddodd yr esgob iddo bregethu am dair biynedd.
Wedi hyn daeth i Abertawy, i wasanaethu dwy eglwys — un Gymreig ac un Seisonig.
Ond ni fynai boneddigion Abertawy ychwaith mo hono ef, a’i athrawiaeth, a’i
ddiwygiadau. Aeth oddiyno i Langranog yn Sir Aberteifi; ond oblegid yr
un achos eto, ni bu yno ond deufis. Wrth weled fod y drws yn cael ei gau yn
erbyn ei weinidogaeth yn yr Eglwys Sefydledig, yn y flwyddyn 1746 ymunodd â’r
Methodistiaid, pan nad oedd ond 24 mlwydd oed, a bu yn llafurio yn eu mysg
gydag (x99) egni a llwyddiant mawr am agos
hanner can’ mlynedd. Fel pregethwr yr oedd mewn un peth yn rhagori ar y rhan
fwyaf o’i gydoeswyr — sef mewn llafur i gyfansoddi ei bregethau yn gyflawn cyn
eu traddodi. Os byddai eraill yn rhagori mewn doniau, ac mewn hwyl, byddai
ganddo ef bregeth dda bob amser. Yr oedd hefyd yn gweithio yn galed — yn
teithio yn barhaus, yn cymeryd y fantais ar bob cyfleusdra i bregethu yr
efengyl i’r bobl, ac yn barod i feiddio pob peryglon a ddelai yn ei ffordd. Ni ddyoddefodd
neb yn ei oes fwy o erlidiau a blinderau. Aml y gadawai y fan y pregethai wedi
ei daenellu â’i waed fel â gwlaw. Nid gormod fyddai dyweyd iddo wynebu mwy o
beryglon, dyoddef mwy o galedi, ac arloesi mwy ar Gymru, na neb o’i frodyr
urddedig.” Yn ei gysylltiad â’r wasg, gwnaeth fwy er diwyllio llênyddiaeth
grefyddol Gymreig na neb yn y ddeunawfed ganrif. Cyhoeddodd ei “Fibl
Teuluaidd,” gyda sylwadau ar bob pennod, a chyfeiriadau ar ymyl y ddalen, yn y
flwyddyn
Cododd dadl rhyngddo a’i frodyr ar bwnc o athrawiaeth cysylltiedig â Pherson
Crist, barodd lawer o flinder, ac iddynt dori eu cysylliad â’n gilydd. Yr oedd capel Heol y Dŵr,
Gaerfyrddin, wedi ei godi ar dir Peter Williams; cadwodd feddiant o’r capel
hwnw, i fod yn faes llafur hyd ddydd ei farwolaeth. Bu farw Awst 8fed, 1796, yn
ei 75am mlwydd o’i oedran, a chladdwyd ef yn Llandyfeiliog. Yr ydym wedi rhoddi
yma yn fyr, brif ddygwyddiadau un o’r dynion mwyaf defnyddiol i Gymru o’r holl
feibion a fagodd. Gwir ddywedodd ei Farwnadydd: —
.....”Tra fo Cymru yn medru darllen,
..........Am dy enw fe fydd son,
......A thra argraph-wasg a phapyr,
..........Nid anghofir am dy bo’n, (x101)
(x102) GWAG
(x103)
......Pan bo enwau rhei’ny’n pydru,
..........Heddyw sydd o enwau mawr,
......Fe fydd d’ enw oesoedd eto
..........Yn dysgleirio fel y wawr.”
VIII. Thomas
Charles.
Mab ydoedd Thomas Charles i Rice Charles, Pant Dwfn, Llanfiangel, gerllaw
pentref St. Clears, tua deng milldir o dref Caerfyrddin. Ganwyd ef Hydref 14eg,
1755. Amaethwr oedd ei dad, a bwriadai godi Thomas i’r weinidogaeth. Dechreuodd
ei addysgiad mewn ysgol yn ymyl cartref, yn Llanddowror. Yno y daeth i
gyfeillach ag un Rhys Hugh, un o ddysgyblion Griffith Jones, ac ymddyddanion y
dyn duwiol hwn wnaeth yr argraphiadau crefyddol cyntaf ar ei feddwi. Yr oedd yr argraphiadau hyn mor ddwys,
fel yr ymunodd yn blentyn â’r Methodistiaid, a bu yn foddion i ddwyn crefydd i
mewn i’w deulu.
Yn 14eg oed symudodd i’r ysgol Ymneillduol yn Nghaerfyrddin. lonawr 20fed,
1773, pan yn 17eg oed aeth i wrando Rowlands Llangeitho, a dywedai i’r bregeth
hono wneyd nefoedd a daiar yn
bethau newydd iddo o hyny allan byth.
Pan yn 20 oed (1775) symudodd i (x104) Rydychain. Trwy ymdrech galed y gallodd
gynal ei hun yno. Buasai wedi
gorfod gadael y lle, oni bai i Ragluniaeth agor calonau ychydig o gyfeillion
i’w gynorthwyo. Derbyniodd urdd diacon i bregethu yn Rhydychain, yn
Wedi gorphen y daith hon aeth at y guradiaeth a nodwyd, ac yn mhen rhai misoedd
enillodd ei B.A. yn Rhydychain. Ar ei ymweliad â’r Bala, daeth i gydnabyddiaeth
â boneddiges ieuanc o’r enw Miss Jones, yr hon oedd gyda’i mham yn cadw prif
siop y dref; ac yn Awst 1783,
ymunodd â hi mewn “glân briodas,” a dyna fu yn achlysur symudiad Mr. Charles
i’r Bala i fyw.
Bu am ddwy flynedd wedi ymsefydlu yn y Bala yn gwasanaethu fel curad yn Llanymowddwy
a Shawbury, ond yr oeddent yn mhell iawn, a’r ffyrdd yn anhygyrch. Daeth
achwyniadau hefyd yn ei erbyn, ei fod yn holi plant yn yr eglwysi, ac yn myned
ar draws y (x105) ffurfiau cyffredin, a
gwaharddwyd yr eglwysi iddo. Bu yn hir yn dysgwyl am ddrws agored o rywle, a’i
galon yn llosgi mewn awydd am waith, gymaint fel y cynygiai wasanaethu yn rhad.
Wedi hir aros, heb obaith, penderfynodd ymuno â’r Methodistiaid. Yr oedd hyn yn 1785, pan yn 30am oed. Bellach
cafoddd ei fywyd gyfleusdra i ymddadblygu, a buan y daeth gwerth y dyn yn
hysbys i’r wlad. Pan bregethodd gyntaf yn Llangeitho, dywedodd Rowlands, “Rhodd
yr Arglwydd i’r Gogledd yw Charles.” Profodd ei eiriau yn wirionedd tu hwnt i
ddysgwyliad neb. Mae ei ddylanwad yn fyw heddyw, nid yn unig yn y Gogledd ond
trwy Gymru oll, ac yn mhell tu hwnt i’w therfynau.
Cymerodd Mr. Charles gyflwr ysprydol y wlad at ei galon, ac ymroddodd fel dyn
Duw i gyflenwi ei diffygion. Dyn anarferol ydoedd, nad oes gan y wlad nemawr
o’i fath i ymffrostio ynddynt. Dyn llawn o yspryd gwir apostolaidd. Anhawdd
enwi neb arall roddodd gychwyniad, neu ysgogiad effeithiol yn mlaen, i gynifer
o sefydliadau mor bwysig ac anfarwol. Hauwr sefydliadau ydoedd, fyddant byw hyd
ddiwedd y hyd. (x106)
Heblaw ei lafur diball i bregethu yr efengyl yn Nghymru a Lloegr, cymerodd
achos yr ysgol Sabbothol yn achos iddo ei hun; rhoddodd ffurf newydd iddi,
rhagor y peth ydoedd yn Lloegr, trwy ei gwneyd yn foddion addysg grefyddol i
ddynion mewn oed, yn gystal a moddion i ddysgu darllen i blant ac eraill. Efe
ddechreuodd gasglu gwahanol ysgolion yn nghyd, a’u harholi yn gyhoeddus. Nid
oes dim tu yma i ddatguddiad y dydd mawr a ddengys y llafur a gymerodd, a’r
rhwystrau a gafodd, cyn gosod yr ysgol Sabbothol yn Nghymru ar y sane dymunol y
gwelodd hi cyn iddo farw.
Heblaw yr ysgol Sul, sefydlodd lawer o ysgolion dyddiol cylchynol, i symud o
ardal i ardal, er cynorthwyo i ddysgu darllen, a byddai eu gofal a’u
cyfrifoldeb ar ei ysgwydd ef. Bu yn foddion i sefydlu ysgolion ar ffurf y rhai
Cymreig hefyd yn ynysoedd ac ucheldiroedd Ysgotland. Bu gyda thri eraill, ar
gais y Gymdeithas Wyddelig, ar daith trwy’r Iwerddon, er sefydlu moddion
cenadol i’r wlad hono. Bu yn brif offeryn cychwyniad y Fibl Gymdeithas, yn y
flwyddyn 1804. Arolygodd
a diwygiodd argraphiadau o’r Bibl a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas hono. Cynaliai (x107) ohebiaethau cyson yn mlaen a phrif
weinidogion a llafurwyr Cristionogol yn Lloegr, Ysgotland, ac Iwerddon. Ac yn
nghanol yr holl orchwylion hyn, a lliaws nad ydym wedi eu henwi, mynodd amser i
ysgrifenu ei “ Drysorfa Ysprydol,” ei “Eiriadur Ysgrythyrol” a’r “Hyfforddwr,” &c., y rhai
fu o gymaint gwasanaeth i Gymru, ag ydynt, i fesur mawr, yn cadw y gŵr
enwog yn fendith arosol yn mysg ein cenedl.
Mae yn draddodiad cyffredin mai dagrau geneth yn wylo am Fibl gynhyrfodd Mr.
Charles i ddyfeisio ffordd i gael Biblau at wasanaeth y werin. Cawsom hanesyn
ychydig flynyddoedd yn ol, trwy law ein cyfaill, Mr. B. O. Rees, Dolgellau,
sydd yn un tebyg iawn i’r un a ardroddir fel y tarddiad cyntaf chwyddodd yn y
diwedd i sefydliad y Bibl Gymdeithas. Ychydig amser yn ol bu farw hên ŵr
o’r enw Lewis William, Llanfachreth, ger Dolgellau, yr hwn a fu, yn ei ddyddiau
boreuol, yn cadw ysgol dan Mr. Charles. Yn mysg y plant a fynychai ei ysgol yr
oedd un Mari Jones, Cwrt, Aberganolwyn, yn ngodrau Sir Feirionydd, yr hon oedd
ar y pryd hwnw o 14eg i 15eg oed. Dysgodd ddarllen yn fuan, a dechreuodd ei
mheddwl anesmwytho yn nghylch achubiaeth ei henaid. Nid oedd (x108) ganddi yr un Bibl, ond yr oedd un mewn tŷ perthynas iddi, o fewn
dwy filldir i’w chartref, ac elai yno yn fynych i’w ddarllen. Cynyddodd ei
syched am Air Duw mor fawr, fel y penderfynodd ddyfeisio i gael Bibl iddi ei
hun. Dechreuodd ystorio pob ceiniog ddelai i’w llaw. Wedi casglu swm,
cynghorwyd hi i geisio cael Bibl trwy Mr. Charles o’r Bala. Un diwrnod,
cychwynodd tua’r Bala, yr holl ffordd, lawn 28ain milldir, ar ei thraed; ond
erbyn cyrhaedd yno, yr oedd Mr. Charles wedi myned i’w wely. Cafodd lety noson
gydag un Dafydd Edward, diacon gyda’r Methodistiaid, ac aeth gyda hi bore
dranoeth at Mr. Charles. Wedi adrodd y neges, dywedodd Mr. Charles : “Mae yn
flin iawn genyf weled y ferch yn gorfod dyfod yr holl bellder hwn, ond yr wyf
yn ofni, yn wir, nas gallaf gael Bibl iddi, oblegyd mae Biblau yn brinion
iawn.”
Disgynodd ei eiriau fel taran ar yr eneth, a thorodd allan i wylo yn hidl.
Tynodd dagrau Mari ddagrau i ruddiau y gweinidog tyner galon; ac wedi mynyd o
ystyriaeth, dywedodd, “Chwi gewch Fibl!” Cyrhaeddodd Fibl iddi, talodd
hithau yr arian iddo, a throdd ei dagrau galar ar unwaith yn ddagrau gorfoledd,
a gwnaeth i Mr. Charles a’r diacon (x109)
gydwylo â hi mewn gorfoledd. Dywedodd Mr. Charles, gan droi at y diacon:—
“Wel, Dafydd Edward, onid yw yn beth blin iawn, fod y fath brinder Biblau yn y
wlad, a bod geneth fel hon yn gorfod cerdded wyth neu ddeg milldir ar ugain i
geisio cael Bibl? Os oes rhywbeth i’w wneyd tuag at lenwi y diffyg hwn, ni
orphwysaf nes ei gyflawni.”
Mae y Bibl hwnw yn awr ar gael, wedi ei anfon erbyn hyn, debygem, i lyfrgell
Coleg Newydd y Bala. Bibl wythplyg tew ydoedd, wedi ei argraphu yn Rhydychain,
Yn Rhagfyr, 1802, aeth Mr. Charles i Lundain, a chafodd gyfleusdra i ddodi
anghen Cymru am Fiblau o flaen Pwyllgor Cymdeithas y Traethodau Crefyddol;
gwnaeth ei ardroddiad argraph ddwys iawn ar feddyliau y pwyllgor hwnw, ac yn
enwedig ar feddwl y Parch. Joseph Hughes, gweinidog y Bedyddwyr, ac un o
ysgrifenyddion y Gymdeithas hono, yr hwn a atebodd, “Os gellid ffurfio
Cymdeithas i gyflenwi Cymru â’r Bibl, paham nad ellid i ddiwallu y deyrnas yn
gyffredmol, a’r byd? “ Cymerwyd y pwnc i fyny, ac ar y (x110)
7fed o Fawrth, 1804, ymgyfarfu tua thri chant o ddynion difrifol perthynol i’r
gwahanol enwadau crefyddol yn y “London Tavern,” ac yno y ffurnwyd y FIBL
GYMDEITHAS FRYTANAIDD A THRAMOR, yr
hon sydd wedi cyflawni amcan ei sefydliad uwchlaw clod.
Yn y flwyddyn 1799, wrth deithio dros fynydd Mignaint, ymaflodd oerfel yn mawd
llaw aswy Mr. Charles, yr hwn a waethygodd gymaint fel y bu ei fywyd yn y
perygl mwyaf, a gorfu i’r meddygon dori y bawd ymaith. Cynaliwyd cyfarfod
gweddi i erfyn am i’r Arglwydd arbed ei fywyd. Yn y cyfarfod hwnw, gweddiai un
Richard Owen, gan gyfeirio at Hezeciah, am i’r Arglwydd estyn pumtheg mlynedd
yn ychwanegol i Charles: “Oni roddi di bumtheg mlynedd, o ein Duw,
er mwyn dy eglwys a’th achos!” Bu son mawr am y weddi hono. Dywedodd Mr.
Charles wrth y gŵr ei hun, tua blwyddyn cyn ei farwolaeth, “Wel, Richard
Owen, mae y pumtheg mlynedd agos i fyny!” A dim ond wythnos oedd yn fyr o’r
pumtheg mlynedd, pan fu farw, Hydref 5ed, 1814, wythnos cyn ei fod yn 59 mlwydd
oed. Claddwyd ef yn mynwent fechan eglwys Beuno, yn Llanycil, yn ymyl Llyn
Tegid, filldir o’r Bala. Mae cofgolofn ardderchog yn (x111)
awr yn barod i’w gosod i fyny yn y Bala, er coffadwriaeth am dano.
PENNOD X.
GWAITH A DYLANWAD Y BIBL.
Goddefed y darllenydd i ni, cyn rhoddi y pin heibio, ei adgoffa o werth
dirfawr y Bibl i’r byd,
ac o’i ddylanwad iachusol a phur ar
feddwl ei efrydydd yn bersonol, ac ar gymdeithas yn gyffredinol. Gormod
gorchwyl ydyw rhoddi hanes y Bibl Cymraeg o ran ei ddylanwad i wareiddio y genedl,
i ymlid ymaith ofergoeliaeth ac arferion annuwiol, i buro moesau, i sancteiddio
y galon, i sefydlu heddwch a thangnefedd, ac i gynal eneidiau dan feichiau
trallod a gorthrymder y bywyd hwn.
Llyfr y bywyd yw y Bibl, wedi ei ysgrifenu i addysgu a hyfforddi pob oes a
chenedl. Nid oes neb ag sydd wedi canfod ei ogoniant, a theimlo ei nerth a’i
ddylanwad, a gyfnewidiai y gyfrol hon am holl lyfrau a llenyddiaeth y byd. Nid
oes ond y byd tragywyddol ei (x112) hunan
all egluro holl nerth a dylanwad y Bibl i buro, gwareiddio, a bendithio.
Wrth edrych arno yn unig fel cyfansoddiad dynol, mae y Bibl yn llyfr rhyfeddol
— yn llyfr ar ben ei hun; ïe, yn llyfr y llyfrau. Nis gallai holl lyfrgelloedd y
hyd, mewn duwinyddiaeth, athroniaeth, hanesiaeth a barddoniaeth, fforddio
defnyddiau ddigon i wneyd y fath drysor cyfoethog o hufen athrylith, doethineb,
a phrofiad dynol. Mae yn cynwys gweithiau oddeutu deugain o awduron, a’r rhai
hyny yn perthyn i bob cylch o gymdeithas, o orsedd y brenin hyd gwch y
pysgotwr; ysgrifenwyd ef yn ngwahanol oesau cyfnod hir o un cant ar bumtheg o
flynyddau, ar lanau y Nilus yn yr Aipht, yn anialwch Arabia, yn ngwlad yr
Addewid, yn Asia Leiaf, yn Groeg goethedig, ac yn Rhufain ymerodrol; mae yn
dechreu gyda’r greadigaeth, ac yn gorphen gyda’r gogoneddiad yn y diwedd, wedi
desgrifio yn y cyfwng rhyngddynt, holl gamrau datguddiad dwyfol, a dadblygiad
ysprydol dyn. Defnyddia bob ffurf o gyfansoddiad llenyddol; cwyd i fyny i uchder
eithaf, a disgyn i ddyfnder dyfnaf dynoliaeth; mesura holl gyflyrau bywyd; mae
yn gynefin a phob trallod a gwae; cyffyrdda a phob llinyn o gydymdeimlad; (x113) cynwysa fywgraphiad ysprydol pob calon
ddynol; mae yn gyfaddas i bob dosbarth o gymdeithas, fel y gellid ei ddarllen
gyda’r un dyddordeb gan y brenin a’r cardotyn, gan yr athronydd a chan y
plentyn. Mae mor gyffredinol a dynoliaeth ei hun, ac yn ymestyn y tu hwnt i
derfynau amser i diriogaethau diderfyn tragywyddoldeb. Mae y cyfuniad
digyffelyb yma o ragoriaethau dynol, ar unwaith yn awgrymu ei nodwedd a’i
darddiad dwyfol, fel y mae oll-berffeithrwydd dynoliaeth Crist yn brawf o’i
Dduwdod.
Ond dylid cadw mewn côf o hyd mai llyfr crefydd yw y Bibl. Efe sydd yn dysgu yr
unig grefydd wirioneddol, gyffredinol, yr hon sydd i lyncu i fyny iddi ei hun
yn y diwedd holl grefyddau y hyd. Llefara wrthym ar y pynciau uchaf,
ardderchocaf, a phwysicaf a all byth gael ein sylw, a hyny gydag awdurdod
orchfygol ac anwrthwynebol. Mae yn medru dysgu, adeiladu, rhybuddio, dychrynu,
tawelu, a chalonogi, mewn modd na fedr yr un llyfr arall ei ddynwared. Gafaela
yn nyfnderoedd mwyaf dirgelaidd cyfansoddiad rhesymol a moesol dyn; treiddia
fel cleddyf llym daufiniog hyd wahaniad yr enaid a’r yspryd, a barna feddyliau
a bwriadau y galon. (x114) Dylanwada fel
lefain sanctaidd ar bob
gallu yn y meddwl, ac ar
bob teimlad yn y galon. Cyfoethoga y côf; dyrchafa y rheswm; bywioga y
dychymyg; cyfarwydda y farn; cynhyrfa y serchiadau; llywodraetha y nwydau;
adfywia y gydwybod; nertha yr ewyllys; enyna fflam sanctaidd ffydd, gobaith, a
chariad; pura, dyrchafa, a sancteiddia yr noil ddyn, a chyfyd ef i undeb bywiol
â Duw. Mae ganddo oleuni i’r dall, nerth i’r diffygiol, bwyd i’r newynog, a
diod i’r sychedig; mae ganddo gynghor mewn gorchymyn neu siampl i bob sefyllfa
mewn bywyd, cysur yn mhob trallod, a balm i bob clwyf. O holl lyfrau y hyd y
Bibl yw yr unig un nad ydym byth yn blino arno, ond yn dyfod i’w edmygu a’i
garu fwyfwy po fwyaf yr ymarferwn ag ef. Fel yr adamant, tafla ei lewyrch i bob
cyfeiriad; fel y ffagl, po mwyaf yr ysgydwir hi, mwyaf y mae yn goleuo; fel y
llysieuyn, po mwyaf y gwesgir ef, hyfrytaf yw y perarogl.* TROEDNODYN: *Dr. Schaff. Dyma
ddiwygiwr mawr y byd, yr hwn sydd i uniawnu gwyrni pechod, ac i ddwyn oddiamgylch
adferiad pob peth.
Nid oes dim yn abl cynyrchu cymeriad mor nerthol, cymhelliadau mor bur, a bywyd
mor (x115) oruchel a gwirionedd y Bibl. Beth
bynag fyn dynion ddyweyd am dano; o ba le bynag y daeth; pwy bynag ydyw ei
awdwr; mae yn ffaith mai y dynion fu byw agosaf at y Bibl arweiniodd y bywyd
goreu welodd y byd erioed. Edrychwch ar dduwiolion y Bibl; ar apostolion lesu
Grist; ar Hên dadau yr Eglwys Gristionogol; ac ar ddiwygwyr mawr y gwahanol
oesau; dynion wedi eu gwneyd gan y Bibl oeddent. Nid yw yn debyg y buasai enw
Luther yn hysbys i’r byd, oni bai iddo daro wrth y Bibl hwnw ar astell lychlyd
y mynachdy. Y Bibl hwnw gwnaeth ef yn Luther. Edrycher ar fywyd
ddiwygwyr Cymru, fu yn arloesi ein
gwlad o’n blaen ni, a’r rhai yr ydym ni wedi myned i mewn i’w llafur hwynt.
Dynion yn credu y Bibl oeddent. Dynion wedi eu gwneyd — nid gan addysg, na
llyfrau, na manteision cymdeithas, ond gan y Bibl. Dynion a Gair Duw wedi suddo
i’w calon. Biblau byw oeddent yn cyniwair trwy y wlad, a’n dylanwad yn trydanu
calonau difater, yn goleuo tywyllwch y bobloedd, ac yn gwasgar perarogl bywyd
sanctaidd y ffordd y rhodient, sydd yn byw ac yn parhau yn dragywydd.
Mae hanes pob cenedl a gradd yn llawn (x116)
esiamplau er dangos ei ddylanwad rhyfeddol i oleuo y meddwl, a sancteiddio y
galon. Cafwyd yn diweddar gan ddyn oedd wedi arfer byw yn ddyeithr i’r Bibl
addaw eistedd am awr bob hwyr gyda’i wraig ar yr aelwyd i ddarllen cyfran o
hono. Yn mhen rhai dyddiau, safodd ar ganol y darllen, trodd at ei wraig, a
dywedodd, “Wraig, os yw y llyfr hwn yn wir, yr ydym ni yn mhell
o’n lle”
Rhyw noswaith, ychydig ar ol hyn, dywedodd eilwaith, “ Wraig, os
yw y llyfr hwn yn wir, yr ydym ni yn golledig.” Yr oedd wedi ei lyncu i
fyny erbyn hyn, gan gynwysiad y llyfr dwyfol; ac un noswaith, codedd ei ben o’r
llyfr, a dywedodd wrth ei wraig gyda threm a thôn obeithiol, “Wraig,
os yw y llyfr hwn yn wir, gallwn gael ein hachub!” Bu y darlleniad yma dan
fendith yr Arglwydd yn foddion dychweliad y gŵr a’r wraig, a gwnaeth fywyd
oedd o’r blaen yn hunanol a diffrwyth, yn sanctaidd a defnyddiol. A’r peth a
wnaeth ar y ddau hyn, y mae wedi ei wneyd ar filoedd, ac yn ei wneyd yn
barhaus.
Treuliodd y meddyliwr galluog, a’r athronydd enwog, John Locke, y pedair
blynedd ar ddeg olaf o’i fywyd i astudio y Bibll teimlai y fath fawredd yn y
datguddiad o ddoethineb a (x117) daioni Duw
yn nhrefn iachawdwriaeth, fel nas gallai ymatal rhag torri allan i waeddi, “Oh,
ddyfnder golud daioni a gwybodaeth Duw!” Pan ofynodd perthynas iddo beth
oedd y ffordd feraf a sicraf i gyrhaedd gwybodaeth wirioneddol o’r grefydd
Gristionogol, ei ateb ydoedd, “Astudied yr Ysgrythyrau Sanctaidd, yn
enwedig yn y Testament Newydd. Mae hwn yn cynwys geiriau bywyd tragywyddol. Y
mae ganddo Dduw yn awdwr, iachawdwriaeth yn amcan, a gwirionedd heb ddim
cymysgedd o gyfeiliornad yn foddion.”
Mae y Bibl yn cyfranu rhyw fath o nerth i gymdeithas, neu wladwriaeth, cyffelyb
i’r hyn y mae yn roddi i berson unigol. Mae yn aileni gwledydd, ac yn rhoddi
math o fywyd tragywyddol iddynt. Mae ei fywioldeb a’i nerth yn treiddio i’w
sefydliadau a’u harferion, yn eu puro o’r gwraidd ac yn rhoddi sefydlogrwydd
iddynt. Y Bibl sydd wedi codi Prydain i’w sefyllfa uchel yn mysg teyrnasoedd y
ddaiar.
Pan dalodd pennaeth o Affrica ymweliad â’r wlad hon amryw flynyddoedd yn ol,
synwyd ef yn fawr, a gofynodd i’r Frenines. “Beth oedd y dirgelwch am lwyddiant
ei theyrnas ?” Estynodd Victoria Fibl iddo, ac atebodd, “Y lle y mae hwn wedi
gael yn (x118) fy nheyrnas, dyna y
dirgelwch.” Mae nerth Prydain, nid yn ei chleddyf, ei mhagnel, a’i
hamddiffynfeydd, ond yn ei Llyfr. Hâd anllygredig yw, yn byw ac yn parhau yn
dragywydd. Cleddyf yr Yspryd yw gair Duw. Trwy ei nerth ef y dymchwelir teyrnas
y diafol, ac yr adsefydlir cyfiawnder a heddwch ar y ddaiar. Mae dynion drwg
wedi arfer ei gasâu, ei gablu, a’i losgi, ond mae y Bibl yn byw i weled ei holl
elynion yn trengu. Bywiol a nerthol ydyw.
Cawn gan’ mil o galonau Cymreig heddyw i ddyweyd gyda ni, Hen Fibl anwyl, bydd
fyw byth. Trysor penaf ein gwlad ; ein coron, ein gogoniant, a dyrchafydd ein
pen. Perl gwerthfawrocach na mynyddoedd Cymru, a’u holl drysorau. Tydi sydd
wedi goleuo ein tywyllwch, wedi tynu ein beichiau oddiar ein hysgwyddau, wedi
tori y llyfetheiriau oddiam ein traed, wedi agor dorau ein hên garcharau, a
chyhoeddi i ni y rhyddid gogoneddus a’r hwn y rhyddhaodd Grist ni. Tydi sydd
wedi dyrchafu ein gwlad goruwch holl wledydd y ddaiar; wedi melusu pob bendith
dymhorol i ni, ac wedi dwyn mil myrdd o fendithion tragywyddol i’n meddiant.
Tydi sydd wedi datguddio i ni y golud anchwiliadwy, yr (x119)
etifeddiaeth anllygredig, y goron anniflanedig, a’r deyrnas dragywyddol. Tydi
sydd wedi crogi lampau tanllyd i ni yn nhynel tywyll cysgod angau, a’i droi yn
oleu ddydd. Tydi gynaliodd ein tadau wrth y stanc a’r ffagodau, ac a barodd i’w
cân esgyn gyda’r main i’r nefoedd. Tydi fu yn gosod dy adnodau gwerthfawr yn
glustog dan benau ein mamau i’w dal uwchlaw y dòn wrth groesi yr hên Iorddonen.
Wrth nerth dwyfol yr hon adnod y buont yn hongian pan oedd y hyd yn colli dan
eu gwadnau, a châr a chyfaill yn cael eu gyru yn mhell. Ië, dywedwn eto. Hen
Fibl anwyl, bydd fyw byth, yn yr enaid o fewn, ac yn y hyd oddiallan; bydded dy
law yn ngwar dy holl elynion; darostwng hwynt â dymchweliad tragywyddol!
Llywodraetha o for i for, ac na fydded diwedd ar dy freniniaeth mwy.
_______________
penillion.
.......O Arglwydd da, argrapha
...........Dy wirioneddau gwiw,
.......Yn rymus ar fy meddwl
...........I aros tra f’wyf byw;
.......Mwy parchus boed dy ddeddfau,
...........Mwy anwyl nag erioed;
.......Yn gysur i fy nghalon,
...........Yn llusern i fy nhroed. (x120)
_______________
.......Mae dy Air yn abl f’arwain
...........Trwy’r anialwch mawr yn mlaen,
.......Mae yn golofn oleu, eglur,
...........Weithiau o niwl ac weithiau o dân;
.......Mae’n ddiblê, ynddo fe,
...........Fwy na’r ddaiar, fwy na’r ne.’
_______________
.......O fewn i gloriau hwn
...........Mae dwfn feddwl Duw;
.......Pob iot o hono bery’n hwy
...........Na’r nef, gwirionedd yw;
.......Y llwon yw ei sail,
...........Gwaed Adda’r Ail yw’r sêl;
.......Mwy gwerthfawr yw nag aur Peru,
...........Llawn yw o laeth a mê1.
_______________
.......Dyma Fibl anwyl Iesu,
...........Dyma rodd deheulaw Duw;
.......Dengys hwn y ffordd i farw,
...........Dengys hwn y ffordd i fyw,
.......Dengys hwn y codwm erchyll
...........Gafwyd draw yn Eden drist;
.......Dengys hwn y ffordd i fywyd
...........Trwy adnabod Iesu Grist.
_______________
DOLEN GYSWLLT ALLANOL:
Ar y dudalen hon yng ngwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru y
mae bywgraffiad Thomas Levi
http://yba.llgc.org.uk/AnaServer?ybawbo+582956+aview.anv+v=av&l=c
DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN
|
Edrychwch
ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats