http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_074_john_morris_jones_y_gymraeg_1891_2186k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

YR IAITH GYMRAEG

John Morris Jones (1864-1929)  

(Erthygl yn y Gwyddoniadur Cymreig, 1891)

 

 

 

 

Ceir rhan o’r erthygl ar ffurf HTML isod

 

(Ar y gweill gennym: tudalennau 53 - 78 heb eu gwneud eto)

 

Ein sylwadau ni mewn teip llwyd

 

(Rŷn ni wedi cadw at yr orgraff wreiddiol - ar wahân i ambell gambrintiad amlwg. Dynodir y tudalennau felly (x20), (x21), ayyb, Mae ŵ, ŷ, **’ i’w gweld yn y fersiwn hon - mae’n haws i’w teipio felly. Byddwn yn eu cywiro unwaith y bydd y cwbl wedi ei deipio gennym. Ar ôl sganio’r testun, bu’n rhaid mynd ar hynt y llwyth o fân wallau - rŷn ni’n meddwl i ni gael hyd iddynt i gyd, ond efallai bod ambell un heb ei weld gennym)


_____________________________________

 (x48) CYMRAEG [YR IAITH]

Dosberthir ieithoedd y byd yn dylwythau a theuluoedd. Wrth dylwyth y golygir nifer o ieithoedd sydd yn perthyn oll i’w gilydd, ac yn tarddu oll o un fam-iaith gyntefig. Weithiau, y mae un o aelodau’r tylwyth yn myned yn fam-iaith ei hun; a’r pryd hyny, gelwir yr ieithoedd a dardd o honi yn deulu. Fel hyn, ymrana yr holl ieithoedd yn dylwythau, y tylwyth yn deuluoedd, y teulu yn ieithoedd, ac yna, drachefn, yr iaith yn gangen-ieithoedd. Ond nis gellir olrhain cangen ieithoedd unrhyw iaith yn ol i gyd i un ffurf gynnarach ar yr iaith hono. Dylid cofio fod cangen-ieithoedd, mewn rhyw wedd arnynt, gyn hyned a’r iaith ei hun. Ac wrth sôn am fam-iaith gyntefig i deulu neu dylwyth, iaith yn ei hystyr ëangaf a olygir; sef, nifer o gangen-ieithoedd nas gellir etto eu galw yn ieithoedd gwahanol, o blegid, cyn belled byth ag y gall ieithegwyr olrhain ieithoedd yn ol i’w ffynnonellau cyntefig, y mae cangen ieithoedd yn bod, ac yn wir, nid ydyw hyny ond yr hyn a ellid ei ddisgwyl. Y mae “mamiaith” yn derm cyfleus; ond i ni gofio mai rhywbeth tebycach oedd hi i Gymraeg llafar sydd yn amrywio o ardal i ardal, nag i Gymraeg neu Saesneg llenyddol sydd, i raddau, yn un ac yn anghyfnewidiol. Geilw’r Saeson y tylwyth yn family, a’r teulu yn group, ond tybiwn fod y termau a arferir genym ni yma yn hwylusach yn Gymraeg, heb law en bod yn dangos perthynas y dosraniadau a’u gilydd yn llawn gwell.

I ddangos fod rhyw nifer o ieithoedd yn perthyn i’w gilydd, neu yn aelodau o’r un tylwyth, rhaid profi fod ganddynt wreidd-eiriau cyffredin; a’u bod yn llunio eu brawddegau a’u

 

Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 48)

_____________________________________

(x49) a geiriau ar yr un egwyddor. Os bydd iaith yn anghyttuno ag ieithoedd unrhyw dylwyth yn y pethau hyn, rhaid ei chau allan o’r tylwyth hwnw, a chwilio am le iddi mewn un arall; rhaid cael cyttundeb gwreidd-eiriau a grammadeg i brofi perthynas. A chylch y berthynas ydyw’r tylwyth;, ac ofer ydyw ceisio profi perthynas rhwng aelod o un tylwyth âg aelod o dylwyth arall. Saif pob tylwyth ar ei ben ei hun — ei fam-iaith wedi ei llunio o ddefnyddiau gwahanol, ac ar gynllun gwahanol i fam-iaith yr un tylwyth arall. Y mae pob tylwyth yn cynnrychioli ymdrech feddyliol wahanol ar y cychwyn, a dull gwahanol o edrych ar y byd. O’r tylwythau hyn fe dybia’r Proffeswr Freidrich Müller fod tua chant ym mhlith ieithoedd llafar y byd. Ceir rhestr o 76 o honynt yn yr “Introduction to the Science of Language,” gan y Proffeswr Sayce. Perthyna’r iaith Gymraeg i’r teulu Celtaidd, a’r teulu Celtaidd i’r tylwyth mawr Indo-Ewropaidd, neu Ariaidd.

 

Rhenir y tylwythau ieithoedd yn wahanol ddosbarthiadau, yn ol natur cynllun sylfaenol ein hieithoedd; megys, y dosbarth treigliadol (inflectional), gludiol (agglutinative), didolair (isolating), crynhoadol (polysynthetic), ac eraill; ond y tri cyntaf yw’r dosbarthiadau pwysicaf. Yn y dosbarth treigliadol, dangosir swydd gair, a’i berthynas â geiriau eraill yn y frawddeg, trwy dreigliadau, neu gyfnewidiadau yn y gair; megys, caraf, ceri, câr; pen, penau; trwm, trom, trymion. Yn y dosbarth gludiol, dangosir swydd y gair, a’i berthynas, nid trwy ei gyfnewid, neu chwanegu ato derfyniad sydd ynddo ei hun yn ddiystyr, ond drwy ludio wrtho air âg ystyr llawn iddo. Er enghraifft, y mae godlike yn esampl o ludiad; o blegid fod like yn air âg ystyr iddo. Y mae praying yn esampl o dreigliad; o blegid nid oes ystyr, yn Saesneg, i ing ar ei ben ei hun. Yn y dosbarth didolair, ni chyfnewidir dim ar yr un gair i ddangos na rhyw na rhif, na pherson nac amser. Saif pob gair yn ddidoledig yn y frawddeg; a dangosir ei berthynas â geiriau eraill y frawddeg drwy ei safle ynddi, neu drwy gyfrwng geiriau didol eraill. I’r doabarth hwn y perthyn iaith Catai. Yn yr ieithoedd crynhoadol, fe grynhoir yr holl eiriau mewn brawddeg megys i un gair cyfansawdd mawr. I’r dosbarth hwn y perthyn llawer o ieithoedd brodorol yr America. Nid ydyw yn hawdd tynu llinell derfyn bob amser rhwng y gwahanol ddosbarthiadau; o blegid y mae enghreifftiau o ludio i’w cael mewn ieithoedd treigliadol, ac o dreiglo mewn ieithoedd gludiol; a cheir rhywbeth tebyg i ludio, os nad treiglo, yn iaith ddidolair Catai; er hyny, y mae’r cynllun sylfaenol yn gyffredin yn ddigon hawdd i’w benderfynu.

 

Fe dybiodd ieithegvyr yn hir fod yr ieith­oedd treigliadol wedi dadblygu o ieithoedd gludiol, a’r rhai hyny drachefn o ieithoedd didolair; ac mai yr ieithoedd treigliadol a adlewyrchai uchafbwynt gwareiddiad, a’r ieithoedd didolair ddyfnder anwariaeth. Daliodd yr Almaenwyr yn lled dỳn at y ddamcaniaeth hon - i raddau, fe allai, o herwydd fod yr Almaeneg yn un o’r rhai mwyaf treigliadol o ieithoedd diweddar Ewrop. Yr oedd hi yn ddamcaniaeth ddigon naturiol: — yn yr ieithoedd didolair, y mae pob gair ar ei ben ei hun. Y cam cyntaf oedd gludio wrth ferfau ac enwau y geiriau oedd yn dangos eu perthynas â’u gilydd; ac yna, fe gafwyd ieithoedd gludiol. Yr ail gam oedd i’r geiriau bychain gludiedig golli eu grym fel geirau, a myned yn derfyniadau yn unig, heb ddim ystyr iddynt ond fel terfyniadau. Ond er mor resymol yr edrych y ddamcaniaeth ar yr olwg gyntaf, nis gallodd sefyll y profion a roddwyd arni. Yn y lle cyntaf, nid ydyw yn hanesyddol wir; o blegid yr oedd pobi Catai yn wareiddiedig, ac yn llefaru iaith ddldolair, pan oedd ein hynafiaid ni yn anwar, ac yn siarad iaith dreigliadol — mwy treigliadol nag ydyw yr un o’i disgynyddion hi heddyw. Heb law hyny, y mae’r ieithoedd didolair wedi tyfu a dadblygu, yn gystal â’r ieithoedd treigliadol; ond y maent wedi dadblygu o fewn cylch y cynllun didolair. Y mae iaith Catai wedi dadblygu a chyfnewid, a cholli sillau trwy adfeiliad seiniol, nes y mae pob gair ynddi yn awr yn unsill; etto cadwodd at y cynllun gwreiddiol, a gweithiodd allan bob defnydd a ellid o hono.* (TROEDNODYN: * “Introduction to the Science of Language,” tudal 376.) Ac yn wir, y mae’r cynllun treigliadol yn adlewyrchu gwanach gallu rhesymegol nd, r cynllun gludiol; o blegid i weithio’r cynllun treigliadol yn iawn, fe ddylid cael treigliad i ddangos pob eiliw o feddwl; ac y mae hyny yn ammhossibl. Yn Gymraeg, gellir gosod allan I will love you â ffurf dreigliadol “caraf.” Ond nis gellir hyny âg I must love. Rhaid dyweyd “rhaid i mi garu” — arfer geirau annibynol i ddangos yr hyn y dylid ei ddangos, yn ol yr egwyddor dreigliadol, â threigliad. Yn wir, yn yr ieithoedd mwyaf treigliadol, rhaid yn aml ddangos perthynas gair â geiriau eraill drwy help geiriau annibynol felly, yn union fel y gwneir yn y Gateieg, yn ol ei hegwyddor sylfaenol hi. Ac y mae gwareiddiad Ewrop wedi teimlo methiant y cynllun treigliadol; a thrwy help adfeiliad seiniol, wedi taflu ymaith y rhan fwyaf o hen dreigliadau’r ieithoedd, a mabwysiadu cynllun newydd dadansoddol (analytic), i raddau helaeth, yn eu lle; neu yn hytrach, fe allai, ddadblygu yr egwydd­or ddadansoddol oedd ynddynt eisoes, o blegid yr oedd culni’r gallu treigliadol yn peri ei fod.

 

Nid ydyw’r tylwythau treigliadol yn lliosog, ond y mae dau o honynt yn bwysicach na’r un arall; sef, y tylwyth Semitig (yn cynnwys Hebraeg, Aramaeg, Arabeg, &c.), a’n tylwyth Ariaidd ni. Pe byddai modd profi fod y tylwyth Ariaidd yn perthyn i unrhyw dylwyth arall, y tylwyth Semitig fyddai hwnw; ond y mae pob ymgais i brofi’r gyfryw beithynas wedi methu. Y mae egwyddor dreigliadol y ddau dylwyth yn wahanol. Yn y tylwyth Semitig, tair cydsain, megys k-dh-l ydyw y gwreidd-air; a dang­osir y gwahanol dreigliadau trwy roddi gwahanol lafariaid rhyngddynt. Er enghraitft, kadhala ydyw “lladdodd,” kudhila ydyw “lladdwyd,” kadhl ydyw “lleiddiad,” kidhl ydyw “gelyn,” kudhl ydyw “lladdiad,” kôdhêl ydyw “lladd.” Er hyny, fe dreiglir weithiau trwy arfer terfyniadau; ond terfyniadau ydyw hanfod y treigliad Ariaidd. Ac er y gwelir, weithiau, gyfnewid llafariad yn yr ieithoedd Ariaidd, megys trwm, trom, nid ydyw hyny ond effaith yr hen derfyniadau sydd yn awr wedi colli, fel y ceisiwn ddangos maes o law. Gwrthbrofwyd hefyd bob ymgais a wnaed i gyssylltu geiriau Ariaidd a geiriau Semitig, megys y geiriau Sanscrit shash a saptan (“chwech” a “saith”) a’r geiriau Hebraeg shêsh a, shebà. Y mae’r tylwyth Ariaidd yn dylwyth mawr o ieithoedd, heb yr un berthynas rhyngddo a’r  


 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 49)

_____________________________________

(x50) un tylwyth arall er pan barablwyd y fam-iaith Ariaidd gyntaf.

 

A ganlyn ydyw’r tabl o’r ieithoedd Ariaidd, fel y rhoddir ef yn y rhestr a grybwyllwyd uchod. Yr ydym yn rhanu’r ieithoedd Celt­aidd yn ol dosbarthiad diweddaraf y Proffeswr Rhys, fel y rhoddir ef gan y Proffeswr Sayce yn y rhagymadrodd i’r ail argraphiad o’i lyfr. Dengys y marc hwn † wrth enw iaith fod hono wedi marw.—

 

(α) Y TEULU INDIAIDD — †Sanscrit; †Pra­krit; †Pali, Sigalese, neu Elu; tafodieithoedd diweddar (Bengalese, Assamese, Oriya, Nepaulese, Kashminan, Scindhi, Punjâbi, Brahni, Gujarati, Marâthi, Hindi, Hindustani); Siyâh-pôsh-Kafir; Dard; a Romany (Gipsy) a’i 13 o gangen ieithoedd Ewropaidd.

 

(α) Y TEULU INDIAIDD — †Sanscrit; †Pra­krit; †Pali, Sigalese, neu Elu; tafodieithoedd diweddar (Bengalese, Assamese, Oriya, Nepaulese, Kashminan, Scindhi, Punjâbi, Brahni, Gujarati, Marâthi, Hindi, Hindustani); Siyâh-pôsh-Kafir; Dard; a Romany (Gipsy) a’i 13 o gangen ieithoedd Ewropaidd.

 

(β) Y TEULU IRANAIDD: — †Hên Bersian (Achaemenian); †Pahlavi; Parsi; Neo-Persian; Kurdish; Beluchi; †Zend (Hên Factrian); Pukhtu (Afghan); Ossetian. Cynnwysir Armenian yn gyffredin yn y teulu hwn.

 

(γ) Y TEULU KELTAIDD - Kymric (Cymraeg, †Cernyweg, Llydaweg, †Gaulish); Gaelic (Gwyddeleg, Manx, Gaeleg yr Alban).

 

(δ) Y TEULU ITALAIDD — †Umbrian; †Oscan; †Lladin; Neo-Latin, neu Romanic (Eidaleg, Sardinian, Gallo-italic, Ffrangeg, Provençal, Catalan, Hispaeneg, Portuguese, Rumansh, Friulian, Rumanian); †Messapian (Japygian)

 

(ε) Y TEULU THRAKO-ILLYRIAIDD: — †Thrakian, Albanian.

 

(ζ) Y TEULU HELLENAIDD: — †Phrygian; †Groeg; Groeg Diweddar.

 

(η) Y TEULU LETTO-SLAVOVAIDD: —

(1) Sla­vic; †Hen Slavonic (Church Slavonic); Bulgarian; Rwsiaeg; Serviaeg; Slovene; Slovak; Polish, Polabic (Cassubian); †Wend.

(2) Lettic; †Hen Brwsiaeg; Lithuanian; Lett.

 

(θ) Y TEULU TEUTONAIDD: —

(1) †Gothic; Low German (Old, Middle, and New);

†Anglo-Saxon; Saesneg; Frisian; Dutch;

 

(2) High German (Old, Middle, and New);

 

(3) †Hen Norse; Icelandic; Swedish; Danish; Norwegian.

 

Y mae Brugmann, yn ei “Grundriss der verglezthenden Grammatik der indo-germanischen Sprachen” (Elements of the Comparative Gram­mar of the Indo-Germamc Languages), yn cyfrif y teulu Indiaidd a’r teulu Iranaidd yn un teulu; yr hwn a eilw efe y teulu Ariaidd, gan arfer yr enw Indo-Germanaidd am y tylwyth cyfan — ein tylwyth Ariaidd ni. Dyry efe hefyd yr iaith Armenian yn deulu ar ei phen ei hun.

 

Fe roddwyd ar y tylwyth hwn amryw enwau. Y mae ysgolheigion yr Almaen yn hoff o r enw “Indo-Germanaidd,’ a hyny heb un rheswm arall na’i fod, fel y dywed y Proffeswr Whitney, “yn cynnwys yr enw tramor a roddwyd ar eu cangen hwy gan eu congcwerwyr, y Rhufeiniaid.” Gelwir ef yn aml lawn “y tylwyth Indo-Ewropaidd “ Y bai mwyaf ar yr enw hwn ydyw ei fod yn rhy hir. Galwyd ef “y tylwyth Caucasaidd,” ond nid ydyw’r llwythau Caucasaidd yn Ariaid, oddigerth yr un llwyth bychan a elwir Iron. Nid ydyw Iron ond ffurf arall ar “Aryan” — yr enw a roddwyd ar y tylwyth Indo-Ewropaidd gan y Proffeswr Max Müller, a’r enw sydd wedi ei dderbyn erbyn hyn, gan y rhan fwyaf o ieithegwyr Lloegr. Dywed Max Müller fod ârya yn digwydd yn aml yn y “Rig Veda” (sef, casgliad o hymnau Sanscrit, yr ysgrifeniadau hynaf sydd ar gael mewn iaith Ariaidd), fel enw cenedlaethol ac enw anrhydeddus Tardda o’r gair arya, sef “aradrwr,” neu “amaeth,” o’r un gwreiddyn ag âr yn Gymraeg. Gellir Cymreigio Aryan yn Ariaidd, ac arferir ef yma o herwydd ei fod yn gyfleus ac yn fyr, ac yn fwy arferedig, fe allai, na’r un arall ym mhlith ein cymmydogion y Saeson.

 

Y mae dau o’r teuluoedd Ariaidd â’u cartref yn Asia; sef, y teulu Indiaidd a’r teulu Iran­aidd; y chwech arall yn Ewrop. Nid oes berthynas agos iawn rhwng y teuluoedd Asiaidd a’r un o’r teuluoedd Ewropaidd; ond tybir fod teuluoedd eraill wedi marw rhyngddynt, ac yn ddolenau coll. Am y teuluoedd Ewropaidd, perthynasau agosaf pob teulu yw y teuluoedd a orweddai yn agosaf ato, ar bob llaw iddo, gynt. Lleferid yr iaith Geltaidd yn Ffraingc a Phrydain; a’i pherthynasau agosaf ydyw y Deutonig ar un llaw, a leferid yn yr Almaen a Scandinavia, a’r Italig ar y llaw arall. Y mae’r teulu Celtaidd yn perthyn yn agosach i’r teulu Teutonaidd nag i’r teulu Letto Slavonaidd, ac i’r teulu Italaidd nag i’r teulu Hellenaidd; a’i berthynas agosaf un ydyw’r teulu Italaidd — ac y mae rhwng y ddau deulu hyn berthynas agos iawn.

 

 

Teutonaidd / Lettaidd / Slavonaidd / Scythaidd / Persiaidd / Indiaidd / Daciaidd / Celtaidd / Italaidd / Illyriaidd / Groegaidd / Thraciaidd / Phrrygaidd / Armeniaidd / Sarmattaidd

_____________________________________

 

Dangosir perthynas tybiedig y teuluoedd byw a meirw â’u gilydd gan Dr. Isaac Taylor, yn ei “Origin of the Aryans” (tudal. 269), yn y darlun uchod. Fe welir ei fod ef yn cyfnf y teulu Letto-Slavonaidd yn ddau deulu.
 




 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 50)

_____________________________________


  

(x51) Wrth hen safleoedd daearegol y teuluoedd, a’n perthynas â’u gilydd, fe gesglir mai yn Ewrop, ac nid yn Asia, fel y tybid gynt, y trigai’r Ariaid cyntefig; sef, y genedl a lefarai’r fam-iaith Ariaidd. Ond ni pherthyn i ni yma ddadleu y cwestiwn hwnw, o blegid â chenedl y Cymry, yn hytrach nag â’u hiaith, y mae a wnelo hyny fwyaf. Gan hyny, ni a gyfeiriwn y darllenydd at ein herthygl ar y Cymry am drafodaeth ar y pwngc. Am yr iaith Ariaidd gyntefig, fe’i holrheinir trwy gymmharu ieithoedd y gwahanol deuluoedd Ariaidd â’u gilydd. Er enghraifft, lle y ceir c yn Gymraeg (megys cant), fe geir h yn Saesneg (hundred), sz yn Lithuanian (szimta), c yn Lladin (centum), s’ yn Sanscrit (s’ata); a’r unig sain a all fod yn fam i’r rhai hyn oll ydyw k. Etto, lle y ceir p yn Gymraeg (pump), fe geir f neu wh yn Saesneg (five, Almaeneg fünf) p neu k yn Lithuanian (penki), qu yn Lladin (quinque), k, ch, neu p, yn Sanscrit (panchan); a’r unig sain a all fod yn fam i’r rhai hyn oll ydyw kw. Yn y dull yna fe olrheinir holl seiniau yr hen iaith gyntefig. Nid trwy gymmharu un gair, neu ddau, y penderfynir pa seiniau sydd yn cyfatteb i’w gilydd yn yr ieithoedd diweddar. Gallesid dyfynu enghreifftiau lawer o’r cyfattebiaethau uchod, megys ci — lliosog, cŵn; Saesneg, hound; Lladin, canis: craidd — Saesneg, heart; Lladin, cord-; pedwar — Saesneg, four; Lladin, quattuor; Li­thuanian, keturi: pa — Saesneg, who; Lladin, quod; Sanscrit, kas, ac felly ymlaen. Ac nid trwy fympwy y penderfynir y fam-sain a gynnrychiolant; ond trwy archwilio natur aeiniau, a chanfod pa sain wreiddiol a allasai gyfnewid i’r holl seiniau diweddar, yn ol gweithrediad naturiol y peiriannau llafar. Y cyntaf i osod i lawr ddeddf cyfattebiaeth seiniau yn yr ieith­oedd Ariaidd oedd yr ieithegydd Almaeneg enwog Grimm; a gelwir hi ar ol ei enw ef yn “Ddeddf Grimm.” Yn canlyn wele dabl o’r cydseiniaid cyfattebol o Ddarlithiau Cymreig (Welsh Lectures y Proffeswr Rhys, fel eu dyfynir gan y Proffeswr Sayce:—

 

 

1 O flaen v

2 Yn nghanol gair e.e. ruber (eruthros)

 

3 Nid oedd p yn bod yn yr ieithoedd Celtaidd boreuol; felly, rhaid ystyried enwau priodol fel Menapia yn an-Ariaidd, neu, o leiaf, yn ang-Ngheltaidd.

 

Y mae’r Proffeswr Sayce yn chwanegu atynt restr o lafariaid; ond y mae’r rhestr yn anghyflawn: ac er pan gyhoeddwyd yr ail argraphiad o’r “Introduction to the Science of Language” yn

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 51)

_____________________________________


 (x52) 1883, y mae Brugmann, Hübschmann, ac eraill, wedi cyhoeddi ffrwyth llawer o ymchwiliad i berthynasau’r llafariaid. Dywed Brugmann fod yn y fam-iaith Ariaidd y llafariaid hyn — i, î, u, û, e, ê, o, ô, a, â, . Seinid u fel yr w Gymreig. Seinid e ac o, y mae yn debyg, yn agored. Nis gellir penderfynu yn hollol beth oedd sain a — rhywbeth rhwng a ac e, fe allai. Dyma dabl Brugmann o’r llafariaid cyfattebol: —

 

 

Y mae llawer o’r cyfnewidiadau uchod yn cyrhaedd yn ol, fe allai, i gangen-ieithoedd y fam-iaith gyntefig; ac y mae llawer o’r seiniau sydd yn y tablau wedi newid yn y gwahanol ieithoedd i seiniau newyddion, yn ol y deddfau sydd wedi gweithredu ar bob iaith ar wahan: er enghraifft, aeth mf y gair Teutonig fimf (Cymr. pump, Llad. quinque) yn f yn Saesneg, ac wedi hyny aeth yr f yn v; o blegid fif yw y gair mewn hen Saesneg, five ydyw yn awr; ond ni cheir v yn y tabl gyferbyn a’r p Gymreig, o blegid cyfnewidiad cymmharol ddiweddar yn Saesneg oedd newid yr f yn v. Fe welir weithiau hefyd yn y tablau ddwy sain neu dair yn yr un iaith yn cyfatteb i un sain wreiddiol.

 

Y pryd hyny, yr acen, a safle’r sain wreiddiol yn y gair, sydd i benderfynu rhwng y gwahanol seiniau diweddar. Fe ddylid crybwyll fod yn y fam-iaith wreiddiol, heb law y seiniau a geir yn y tablau uchod, y seiniau m, n, ng, l, r fel llafariaid (megys y seinir yr l yn y gair cathl, neu yr n yn ndw, sef ydwyf llafar gwlad). Y mae seiniau diweddar y llafariaid hyn braidd yn ddyrys. Ond fel enghraifft o’r ffurfiau a gymmerant yn y gwahanol deuluoedd, cymmerwch y gwreidd-air Ariaidd kd, lle y mae yr  yn llafariad — yn Gymraeg try yn craidd, yn Lladin cord-, Groeg , Saesneg heart. Gwelir fod llafariad newydd yn tyfu yn y gair; weithiau o flaen yr r, weithiau ar ei hol. Wedi cymmhwyso at y tablau hyn, a’r seiniau eraill na chynnwysir ynddynt, y deddfau sydd yn gweithredu ar y seiniau yn y gwahanol ieith­oedd, rhaid profi fod pob llythyren yn cyfatteb i’w llythyren cyn y gellir dyweyd fod dan air o wahanol ieithoedd yn perthyn i’w gilydd. Y mae ieitheg, fel y gwelir, wedi tyfu allan o’r cyfnod cymmysglyd, pryd y gellid, trwy debygrwydd arwynebol yn y sain, brofi pob peth heb fod dim yn safadwy; pryd y delid fod perthynas rhwng Cymro a Gomer, ac y cymmherid enwau Assyriaidd â geiriau Cymraeg. Y mae tebygrwydd arwynebol rhwng y gair Saesneg call a’r gair Groeg , ond cipolwg ar dabl y cyd­seiniaid a ddengys nas gall fod dim perthynas rhyngddynt. O’r ochr arall, nid oes fawr o debygrwydd rhwng benyw a queen; ac etto, edrychwch dan yr gw Ariaidd, a chwi welwch qu yn Saesneg, b yn Gymraeg; ac o’r un gwreiddyn Ariaidd gwn (lle y mae yr  yn llafariad) y tardd  y Groeg, **’zena y Church Slafonic — dau air etto am “wraig,” yr enw Lladin Venus hefyd, a’r gair Groeg  “ceisio’n wraig,” yr hwn a dardd drwy ffurf hynach . Y mae ieithoedd, fel pob peth arall mewn natur, yn tyfu ac yn cyfnewid yn ol deddfau; a thrwy gael hyd i’r deddfau hyny y profwyd perthynas yr ieithoedd hyn, ac yr olrheiniwyd yr hen fam-iaith Ariaidd.

 

Wedi ei holrhain yn y dull hwn, fe geir mai iaith drwyadl dreigliadol oedd y fam-iaith Ar­iaidd; a pho bellaf yn ol yr olrheinir pob un o ieithoedd y tylwyth, mwyaf treigliadol yr â. Yr oedd yn yr hen Geltig saith neu wyth o wahanol gyflyrau i enw unigol, a therfyniaid gwahanol i bob un. Y mae mewn Lladin clasurol chwech o’r cyflyrau hyny. I ddangos natur y treigliadau hyn, cymmerer y gair Lladin am “frenin,” sef rex. Dyma’r cyflyrau:—

 

GWEITHREDOL — rex, brenin.

CYFARCHEDIG — rex (O) frenin.

GWRTHDDRYCHOL — regem, brenin.

MEDDIANNOL — regis (perthyn) i frenin.

DERBYNIOL — regi (rhoddi) i frenin.

ABLATIVUS — rege (o, gyda, &c.) brenin.

 

Wrth gyfarch brenin, dywedir wrtho Rex! (x53)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 52)

_____________________________________

(x53) TESTUN AR FFURF HTML I’W WNEUD ETO

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 53)

_____________________________________

(x54)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 54)

_____________________________________

(x55)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 55)

_____________________________________

(x56)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 56)

_____________________________________

(x57)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 57)

_____________________________________

(x58)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 58)

_____________________________________

(x59)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 59)

_____________________________________

(x160)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 60)

_____________________________________

(x61)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 61)

_____________________________________

(x62)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 62)

_____________________________________

(x63)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 63)

_____________________________________

(x64)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 64)

_____________________________________

(x65)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 65)

_____________________________________

(x66)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 66)

_____________________________________

(x67)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 67)

_____________________________________

(x68)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 68)

_____________________________________

(x69)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 69)

_____________________________________

(x70)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 70)

_____________________________________

(x71)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 71)

_____________________________________

(x72)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 72)

_____________________________________

(x73)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 73)

_____________________________________

(x74)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 74)

_____________________________________

(x75)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 75)

_____________________________________

(x76)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 76)

_____________________________________

(x77)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 77)

_____________________________________

(x78)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 78)

_____________________________________

(x79)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 79)

_____________________________________

(x80)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us (tudalen 80)

 

 

 

 

...................................

 

 

DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

1796k
Yr iaith Gymraeg
·····
2210k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan; o’r tudalen hwn gellir hefyd
chwilio’r gwefan hwn â’r archwiliwr mewnol
·····

0052c
Testunau Cymraeg â throsiad Catalaneg yn y gwefan hwn
(Textos en gal·lès amb traducció catalana en aquesta web)
·····
1051e
Testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn
(Texts in Welsh with an English translation in this website)
 

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 

Nodlyfr 396

Fformat: 100 chwith, 150 de

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

Adolygiadau diweddaraf:  2005-09-02, 2006-06-15

 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats