Isaac Lewis, y Crwydryn Digri gan W R
Jones (Pelidros), Merthyr Tydfil. Y llyfr Cyntaf. (Blwyddyn: ?1906) Cyhoeddedig
gan David Davies, Strand, Glynrhedynog. Gwefan Cymru-Catalonia . El Web de Gal·les i Catalunya.
Wales-Catalonia Website.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_015_isaac_lewis_01_1225k.htm
0001z Y Tudalen Blaen
..........1863c Y Porth Cymraeg
....................0009k Y Gwegynllun
..............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina
|
|
|
Gwefan Cymru-Catalonia
|
(delwedd
7324) |
Rŷn ni wedi cadw at yr orgraff wreiddiol - ar
wahân i ambell gambrintiad amlwg. Dynodir y tudalennau felly (x20), (x21),
ayyb.
Ein hychwanegiadau ni
mewn print oren.
·····
|
Y tudalennau mewn coch yw’r rhai sydd wedi eu hychwanegu
hyd yn hyn, a’r rhai mewn du heb eu gwneud eto; y mae’r rhai mewn lliw oren
ar goll gennyf
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42 43 44 45 46 47 48 49 50 51 52
53
|
1314k In English (“Isaac Lewis,
the Funny Tramp”)
Isaac Lewis, y
Crwydryn Digri
gan W R Jones (Pelidros), Merthyr Tydfil.
All Rights
Reserved.
Cyhoeddedig gan
David Davies, Strand, Ferndale.
Ferndale, W. T:
Maddock a’i Gyf., Argraffwyr &c.
LLYFR CYNTAF
ISAAC LEWIS Y CRWYDRYN DIGRI
|
{RHIF YR HANESYN} |
{PENNAWD} |
{TUDALEN
YN Y LLYFR GWREIDDIOL} |
|
|
Y cyflwyniad (tudalen
ar goll gennym) |
iii |
|
|
Rhagnodiad (tudalen
ar goll gennym) |
iv |
|
|
Cyfarchad yr Awdur (tudalen
ar goll gennym) |
v |
|
|
Cynwysiad |
vi |
|
|
1.
Ei Hanes (ANGHYFLAWN) |
x7 |
|
|
2.
Fel Gweithiwr |
|
|
Hanesyn
1 |
(2.01)
Dala’r Top |
x11 |
|
Hanesyn 2 |
(2.02) Canlyniad
y Ffrae |
x12 |
|
Hanesyn
3 |
(2.03) Y Bwcedaid Calch |
x13 |
|
Hanesyn
4 |
(2.04) Ystori’r Ysgybell |
x14 |
|
Hanesyn
5 |
(2.05)
Defnyddio’r Pylor |
x14 |
|
Hanesyn
6 |
(2.06)
Ei Broffwydoliaeth |
x18 |
|
Hanesyn 7 |
(2.07) Y
Canwyllau Corff |
x20 |
|
Hanesyn
8 |
(2.08)
“Cym, Razor” |
x21 |
|
Hanesyn
9 |
(2.09) Sefyll Cogyn |
x22 |
|
Hanesyn
10 |
(2.10) Effaith y Ffits |
x23 |
|
Hanesyn 11 |
(2.11) Y Pwll
Glo yn America |
x25 |
|
Hanesyn 12 |
(2.12) Y Ffordd
Daeth Isaac o America |
x26 |
|
|
3. Y Crwydryn
Digrif |
|
|
Hanesyn 13 |
(3.01) “How Long Were You Dher?” |
x28 |
|
Hanesyn 14 |
(3.02)
Tarfu’r Asyn |
x28 |
|
Hanesyn
15 |
(3.03)
Ystori’r Fagoten |
x30 |
|
Hanesyn
16 |
(3.04) “Asc Dhy Dreifar” |
x32 |
|
Hanesyn
17 |
(3.05) Pwy Ben i Ddechreu’r Dorth |
x33 |
|
Hanesyn
18 |
(3.06)
Râs am Sofryn |
x34 |
|
Hanesyn
19 |
(3.07)
Gwellhad Bysedd ei Draed |
x35 |
|
Hanesyn 20 |
(3.08) Y Tri Corff |
x35 |
|
Hanesyn
21 |
(3.09) Rhoi Wil i’r Gwr Drwg |
x36 |
|
Hanesyn
22 |
(3.10)
Punt am Newid Pwynt y Reilwai |
x37 |
|
Hanesyn
23 |
(3.11)
Isaac yn Frawd-yng-Nghyfraith |
x40 |
|
Hanesyn 24 |
(3.12) Y Lodgins
a Gwr y Tŷ |
x42 |
|
Hanesyn 25 |
(3.13) Sut ma
Nhw’n Tynu Cwmp |
x44 |
|
Hanesyn
26 |
(3.14) Prynu Ceiliog |
x46 |
|
Hanesyn
27 |
(3.15) Y Ddau
Ysgadenyn |
x47 |
|
Hanesyn 28 |
(3.16) Y Ci a’r
Lleidr Wyau |
x48 |
|
Hanesyn
29 |
(3.17) Myn’d o’r Lodjins ar eu Henill |
x48 |
|
Hanesyn
30 |
(3.18) “Dim Stymog Heddy” |
x50 |
|
Hanesyn
31 |
(3.19) Y Wraig a’r Fam-yng-Nghyfraith |
x51 |
|
Hanesyn
32 |
(3.20) Dishgwl am Haner Coron |
x52 |
·····
(xiii) (tudalen ar goll)
(xiv) (tudalen ar goll)
(xv) (tudalen ar goll)
(xvi) (tudalen ar goll)
(x7)
1.
Ei Hanes
Y mae gan bob dyn ryw gymaint o allu arbenig hunan-berthynol, sydd yn ei osod
ar ei ben ei hun mewn gyfeiriad neu gilydd. Dibyna mesur yr amlygrwydd
gyrhaedda dyn i’r cyfeiriad yma neu acw, yn fwyaf, ar fesur y gallu naturiol
cyfatebo sydd ynddo. Daw dyn yn arlunydd craffus, yn adeiladydd cywrain, neu yn
weithiwr tanddaearol medrus, am fod ynddo yn benaf alluoedd sydd yn naturiol
ddadblygu i’r cyfeiriadau hyny.
Dyn rhyfedd iawn oedd Isaac
Lewis. Yr oedd yn arlunydd ac yn adeiladydd, ond nid yn ystyr gyffredin y
geiriau, a chyda chywirdeb y gallwn ddywedyd fod ynddo gymhwysderau gweithiwr
tanddaearol medrus; ond ei neillduolrwydd penaf oedd yr elfen gref o ddigrifwch
lywodraethai ei holl feddwl.
Yn allanol, dyn main,
hytrach yn dàl, gyda gwyneb hir-gul, difarf, goleu o bryd, melyngoch ei wallt, ac
ar ei ruddiau ysmotiau o ôl y frech, oedd Isaac. Safai yn syth, a cherddai yn
lluniaidd. Gwisgai yn bur gryno; bob amser â chapan
(x8) (tudalen ar goll)
...........................................................
...........................................................
..........................................................
..........................................................
..........................................................
(x9) (tudalen ar goll)
...........................................................
...........................................................
..........................................................
..........................................................
..........................................................
(x10) (tudalen ar goll)
...........................................................
...........................................................
..........................................................
..........................................................
..........................................................
(x11)
2. Fel
Gweithiwr
Hanesyn 1. (2.01) Dala’r
Top (tudalen ar goll)
...........................................................
...........................................................
..........................................................
..........................................................
..........................................................
-------------------------------------------------
(x12)
Hanesyn 2. (2.02)
Canlyniad y Ffrae
Fel y cyfeiriwyd yn ei hanes
ar y dechreu, halier oedd Isaac wrth ei alwedigaeth; ond gallai dori glo yn
fedrus. Eto, pan fyddai yn gweithio ar y glo, achwynid yn fynych arno am ei ddibrisdod
yn peidio gwahanu y glo oddiwrth y rwbel cyn ei lanw i’r cerbyd. Parodd hyn i
ffrae arw gymeryd lle yn y gwaith rhyngddo â’i feistr. Yn nghwrs y ffrae,
dywedodd y dyn wrtho –
“Does dim rhagor o hyn i fod
yma, Isaac. Chei di ddim aros mwy yma; cer i b’le mynot ti o ngolwg i.”
Gwelodd Isaac ei bod ar ben;
dododd ei ddillad am dano, a’i offer ar ei gefn, ac i ffwrdd âg ef i gyfeiriad
gwaelod y pwll. Wrth waelod y pwll, dyma’r offer i lawr, ac Isaac yn dyosg
eilwaith. Ar ddwy ochr y brif-ffordd arweinia yn mlaen o’r pwll nid oes dim o’r
wythien yn cael ei gweithio am ryw gymaint o latheni, yr hyn sydd yn bwysig yn
ymyl y pwll er sicrhau y lle rhag cwympo. Ond dacw Isaac yn dechreu gweithio
fan hono, ac yn ergydio am ei fywyd ar y glo. Wedi cael peth yn barod i’w lanw,
aeth at y pwll i ymofyn am gerbyd, er syndod pawb o’i gylch. Pan oedd Isaac yn
agos a llanw’r cerbyd, dyma’r meistr yn d’od yn ol; ac wrth weled goleu
dyeithr, a chlywed yr ergydio gwaeddai yn syn –
(x13) “Pwy sydd yma? pwy sydd yma?”
“Fi sydd ’ma,” ebe Isaac,
gan godi i’w wyneb yn dawel.
“Y cynllwyn diolwg,” ebai’r
meistr, yn wyllt, “Beth wyt ti’n wneyd fan hyn?”
“Begio’ch pardwn, mishdir
bach, ond ta chi wetodd am fyn’d i le mynswn i, a cheso i ddim gwell lle na hwn
i’n atab i; ond ma’n ddrwg tost gen i os ôs rhaid i fi atal hwn y llonydd yto.”
Ond felly y bu. Ni fu Isaac
yn hir cyn cyrhaedd pen y pwll, er ei fawr lawenydd.
-------------------------------------------------
Hanesyn 3. (2.03) Y Bwcedaid
Calch
Un tro, cafodd ei gyhuddo o gadw ei le yn frwnt. Tranoeth wedi’r cyhuddiad,
aeth i’r gwaith yn foreu iawn, a chymerodd fwcedaid o galch a brwsh i mewn
gydag ef. Pan ddaeth y gweithwyr ereill, dyna lle’r oedd Isaac am ei fywyd yn
gwyngalchu ei le o un pen i’r llall. Chwarddai un, holai’r llall, gwawdiai un
arall; ond nid oedd dim yn tycio arno ef. Wedi gorphen ei oruchwyliaeth
lanhaol, eisteddodd i lawr i fwynhau ei hunain, fel gwr yn ei balas. Yn fuan,
wele’r meistr yn d’od heibio, ac er ei syndod yr oedd y lle yn w`yn i gyd. Wedi
aros ychydig, fel pe’n methu gwybod yn iawn beth i’w ddyweyd, gofynodd –
(x14) “ Isaac! i bwy
bwrpas y gwnest ti hyn, gwêd?”
“Begian ych pardwn,
mishtir; ond ta chi sydd yn achwyn fod y lle’n frwnt, iefa ddim? Dyma fe i chi
yn ddicon glân nawr, ta beth!”
-------------------------------------------------
Hanesyn 4. (2.04) Ystori’r
Ysgybell
Bryd arall, cyhuddid ef o lanw yn frwnt; ac aeth âg ysgubell i fewn gydag
ef. Pan ddaeth y goruchwyliwr heibio, cafodd Isaac yn ysgubo y cyfan blith
draphlith i fewn i’r cerbyd, gan ddyweyd –
“Wel, mishtir
bach, ’does dim posib llanw’n lanach na hyn, ta beth. Dishgwlwch, mae’r cyfan
yn câl myn’d; does dim specyn o faw ar ol, mi fentra mhen i chi.”
-------------------------------------------------
Hanesyn 5. (2.05)
Defnyddio’r Pylor
Dygwyddodd iddo un
tro, pan allan o waith, gael ei hala i le oedd dipyn yn stiff, lle yr oedd yn
rhaid defnyddio pylor i ryddhau y glo. Wedi cael caniatad, fel arfer, i weled y
lle yn gyntaf, aeth Isaac ym mlaen. Wedi cyrhaedd, a gweled (x15) y lle fel graig
o’i flaen, dechreuodd holi y bechgyn weithient ar bwys, gan ymddangos fel un
heb erioed weled lle o’r fath. Eb efe –
“Fechgyn glân
ffri, ro’wch chi wpod i fi shwd ma câl y gwr du ma o’i wely?”
“Yr unig ffordd i
gâl a,” ebe hwy, “yw doti gwr du arall, sef Mr. Pylor, i’w gico fo mâs o hono.”
“Ho!” ebe yntau,
gan gosi ei ên; “diolch i chwi, fechgyn; fe â i mâs i byrtoi petha erbyn fory.”
Ac i ffwrdd âg ef.
Boreu dranoeth, yn sydyn, wrth nesu at ei gwaith, clywai y bechgyn ergyd, tebyg
i swn dryll, o gyfieiriad y lle y tynent ato; a dyna un arall yn cyflym ddilyn.
“Wel, beth sydd
’na?” gofynai un yn syn.
Ond nid oedd neb
yn ateb: yr oedd pawb mewn dychryn. Wedi nesu ym mlaen yn wyliadwrus, pwy
welsant ond Isaac, ar enau yr heol, yn prysur lwytho ei ddryll; ac ar amrantiad
wele fwg a thân, a’r cenadon plwm yn chwyrnu’n gyffrous ar eu hurddiad gwyllt i
wyneb y glo, a’r hen Isaac yn gwaeddi allan, â’i lygaid fel mellten –
“Symud oddna, nei
di, ’r negro du!”
Erbyn hyn, o’r
braidd y gwyddai y bechgyn beth i’w wneyd. Ond wedi tawelu llanw y digrifwch,
ac adfer iaith, ebe un ohonynt –
“Ddyn ofnadwy, be
chi’n geisio neyd?”
“Neyd wir,” ebe
Isaac; “fe saetha i i fynidd (x16) a mas os na ddaw a
oddna’n rhwydd.”
A dacw fe’n anelu
drachefn.
TUDALEN 16 I’W YCHWANEGU
(x16)
TUDALEN 17 I’W YCHWANEGU
(x17)
TUDALEN 18 I’W YCHWANEGU
-------------------------------------------------
(x18)
Hanesyn 6. (2.06) Ei
Broffwydoliaeth
TUDALEN 19 I’W YCHWANEGU
(x19)
ddram bron yn llawn,
a digonedd o lo yn rhydd o’i flaen. Ni ddaeth un o’r ddau i wybod sut y gwnaeth
ef hyn, ond tyngodd ei gydweithiwr nad arosai fynyd yn hwy gydag ef. Felly,
daeth proffwydoliaeth Isaac i ben mewn un dydd, sef y caffai ef a’i hen bartner
y lle iddynt eu hunain ar fyr. Ac felly y bu.
-------------------------------------------------
(x20)
Hanesyn 7. (2.07) Y
Canwyllau Corff
Dro arall, aeth Isaac i lefel i weithio, lle’r oedd amryw o leoedd segur.
Ychydig oedd yn gweithio yn y lle o gwbl. Un boreu, tra’n eistedd yng nghwmni
un o’r bechgyn y tu allan i’r lefel, eb efe –
“Wel, dyna beth òd,
iefe ddim, fachan diarth, fod mor lleied yn gwitho yma, a chwmant o lefydd gwâg
yma.”
“Hy! dyw a ddim yn òd
yn y byd,” ebai hwnnw’n gwta.
“Wel, shwd i chi’n
gallu gweyd ’ny, fachan? ma ’ma lefydd bach splendid i unrhyw ddyn, allwn i
feddwl, ta beth.”
“Wel, ma’r lle, mor
bell ag ma ’ny’n mynd, yn ol reit, tw bi shiwar; ond, i ti’n gwel’d, Isaac,
ma’r son ar led fod y bechgyn yn gwel’d canwylla cyrff rhywrai neu gilydd yma o
hyd. Dyna’r rheswm fod mor lleied yn gweithio yma.”
“O, rw i’n gwel’d,”
ebai yntau yn syn. “Wel, (x21) os ta fforni mae, fachan
diarth, pan ä i oddma, os gwelwch chi nghanwll gorff i ma, diffotwch hi ar
unwaith, lle bod neb yto yn cael ofan, ta beth.”
-------------------------------------------------
Hanesyn 8. (2.08) “Cym,
Razor”
TUDALEN 21 I’W YCHWANEGU
-------------------------------------------------
(x22)
Hanesyn 9. (2.09) Sefyll Cogyn
Tra’n gweithio mewn rhyw
bwll, danfonwyd at Isaac fachgen ieuanc braf, newydd dd’od o’r wlad i fod yn
gydweithiwr. Wrth gwrs, yr oedd yr oruchwyliaeth danddaearol yn hollol ddyeithr
i hwnw. Aeth y dydd cyntaf heibio yn bur dda. Yr ail ddydd daeth angen am
sefyll cogyn, i sicrhau y nen. Gwneir cogyn trwy gasglu nifer o goed tu
allathen o hŷd yr un, a’u ffurfio’n ddau a dau ar ei gilydd hyd y nenfwd –
dau un ffordd, a dau yn groes ar eu penau, &c. Yna llenwir y canol, wrth ei
godi, â rwbel, er dal y coed yn eu lle, a’u cynorthwyo yn ogystal i ddal pwys y
nen. Modd bynag, dacw Isaac a’i bartner yn dechreu sefyll y cogyn. Wedi gwneud
rhyw chwech neu wyth o goed ar eu gilydd, heb ddim rwbel i’w dal, gofynodd y
bachgen –
“Isaac, ffordd i
ni’n my’nd i gael y côd ma i sefyll o hyn i fyny? Ma nhw’n dachra siglo eisos.”
“O diar mi! dyma’r
ffordd,” ebe Isaac; “cer di miwn i’r cogyn, a dal di’r côd, ac fe bilda i nhw
i’r làn.”
“Ol reit.”
Felly y bu. Aeth y
bachgen i’r cogyn, a dacw Isaac yn bildio am ei fywyd, nes o’r diwedd dyna’r
cogyn wedi ei sicrhau yn dy`n dan y nen.
“Wel,”ebe Isaac,
gydag anadliad rhydd, “dyna gogyn bach i’r làn yto, ta beth, a diolch am dano.”
(x23) “Ie,” ebe’r bachgen,
“ond sut dwa i mas o hono ’nawr?”
“Ho, ho, ho!” ebai
yntau, “`nawr i ti’n gwel’d hi, iefa? Fe ddylat ti feddwl yn nghynt, fachan. Ma
ngwaith i ar ben, i ti’n gwel’d. Mae’r cogyn làn. A ’nawr, dy waith di yw
ffindo dy ffordd mas o hono.”
-------------------------------------------------
Hanesyn 10. (2.10) Effaith
y Ffits
Ar ambell adeg, mewn rhai gwythienau, y mae yn well i ddyn, os gall,
gael gweithio wrtho ei hun. Gweithiai Isaac mewn lle felly ar gyfryw adeg, ond
anfonwyd ato ef gydweithiwr. Yr oedd yn flin iawn ganddo am hyn, ac ebai –
“W i’n ffeili
dyall pam odd rhaid iddi nhw hala partner i fi yn ots na pobun arall. Ond ôs
dim gwaniath yn y byd, wath fydd a ddim yn hir iawn gen i, fe ddala i ddima
bren â thwll ynddi.”
Aeth y dydd cyntaf
heibio yn bur dda, a’r bachgen yn dechreu dod i leicio Isaac, am ei fod mor
ysmala. Ond yr ail ddydd, ebai Isaac, wrtho ei hun wrth fyn’d i mewn i’w waith
-
“Heddy, mae i fod
yn sgwar tŵls yma – fydd hwna ddim gen i ar ol heddyw, w i’n siwr og e.”
Wedi dechreu
gweithio, wele floedd fawr yn myn’d trwy’r lle fod Isaac mewn ffit enbyd.
Ymgasglai pawb o bob cyfeiriad, gan gynorthwyo i’w (x24) gael ohoni oreu
medrent. Wedi haner awr o wau a throlio yma ac acw, nes llwyr frawychu y rhan
fwyaf ohonynt, daeth Isaac i’w le, ac wedi mynyd neu ddwy o spel, aeth pob un
yn ol i’w lle drachefn.
“Wel,” ebai’r
partner yn grynedig, “i chi’n well ’nawr, Isaac?”
“Otw, machan i,
w’i’n well, dipyn bach.”
Ebai’r partner
drachefn –
“Oti chi yn arfadd
câl ffits fel na o hyd, Isaac?”
“Na, ddim yn
amal,” ebai Isaac. “Ond gad i fi weyd un secrat wrtho ti nawr mewn pryd.”
“Wel, beth yw hi,
Isaac?”
“Dyma hi. Pan weli
di fi yn myn’d i ffit yto, gofala di i gwân hi am dy fywyd. Rw i’n arfadd ca’l
dwy ffit, un ar ol y nall, a ma’r ail un yn wath na’r un gynta o dipyn. Mae
rhyw ffashwn gen i pan bydda i yn hono i rytag ar ol yr un cynta wela i, a
falla ta’ i ladd a na i ar y spot, os na ddaw rhywun i achub a yn ddicon cynar.
Wetny, cofia di beth w i wedi weyd nawr.”
Erbyn hyn yr oedd
calon y bachgen yn ei wddf, a bu chwant arno fyned allan y fynyd hono; ond aros
wnaeth. Yn mhen awr, wele Isaac eilwaith yn dechreu swagro, a’r bachgen yn
cydio yn ei lamp, ac yn dechreu symud o’i ffordd. Yn sydyn, dyma Isaac yn
gwneud rhuthr dan floeddio, a’r bachgen yn brasgamu nerth ei draed o’i flaen.
Aeth Isaac ddim yn mhell; gwelodd fod ei bartner wedi cael ei (x25) ofn, yna aeth yn
ol i weithio. Wrth fyn’d gartre’r noson hono, clywyd fod y bachgen wedi rhedeg
yn syth heibio i bawb a phobpeth hyd waelod y pwll, gan daeru fod colled ar
Isaac Lewis, a dweyd na weithiai ef ergyd byth mwy gydag ef.
-------------------------------------------------
Hanesyn 11. (2.11) Y Pwll Glo
yn America
Daeth chwant ar Isaac,
eb efe, i gymeryd taith i’r America. Aeth; ac wedi cyrhaedd yno, wrth gwrs, ei
orchwyl cyntaf oedd myn’d i chwilio am waith i un o’r pyllau glo. Pan ddaeth at
ben un, gwelodd fod y rhaffau yn myn’d yn eu cwrs arferol, tra nad oedd dyn na
dynes i’w gweled yn unman. Yr oedd hyn, wrth reswm, yn beth dyeithr iawn iddo.
Safodd i wel’d a ddeuai rhywun perthynol i’r lle o rywfan, gan ddysgwyl hefyd
wel’d y carej ar fyr yn d’od i’r wyneb; ond wedi aros yn hir, ni welai neb; ac
nid oedd argoel am i un carej dd’od i’r golwg. Methai yn deg a deall hyn, gan
fod y rhaffau yn gweithio yn ddiatal. Yn ei syndod aeth i chwilio y peiriandy,
rhag ofn fod rhywbeth allan o le; ac yn union wele ef rhwng muriau adeilad
cadarn, yn sefyll yn ymyl y peiriant mawr oedd yn troelli a throelli yn
ddiorphwys, gan ddirwyn a dad-ddirwyn rhaffau y pwll. Ond ble mae’r peirianydd?
Fu’r fath ynfydrwydd erioed a gwel’d (x26) peiriant pwll yn
ysgogi heb beirianydd yn ei wylio? Wel! wel! beth sy’n bod? Ble ma’r dyn, wn i?
Dyna fel yr holai Isaac ei hunan, pan yn sydyn clywai chwythiad anadl rhywun yn
y gornel ger llaw. A dyna’r lle yr oedd y peirianydd yn cysgu’n dawel.
“Y dyn!” ebe
Isaac, gan ei ysgwyd yn wyllt, “beth i chi’n cysci fel hyn, a gwel’d yr injin yn
gwitho? Os dim ofan arnoch chi y digwyddiff rwpath?”
“Digwyddiff beth?”
ebai hwnw, ar haner dihun. “Ha! ha! Na naiff, paid a gofalu. Ond, ddyn diarth,
gwed wrtho i, pwy ddiwrnod yw hi heddy?”
“Pwy ddiwrnod? Ond
ta dydd Mercher,” ebai Isaac, heb wybod yn siwr beth i’w ddyweyd.
“O! wel, mae’n ol
reit ta,” ebe’r peirianydd, gan orphwys yn ol. “Wyt ti’n gwel’d, ddyn diarth,
ma’r pwll hyn yn hala wythnos i roi un tro; felny, os dim isha gwyllti, weli
di, wath ddaw y carej ddim lan cyn dydd Sadwrn, man lleia.”
-------------------------------------------------
Hanesyn 12. (2.12) Y
Ffordd Daeth Isaac o America
“Y metal cynta’,” meddai ef, “ddath i’n llaw i wedi mynd i Merica odd rhaw.”
(x27) Gan iddo fod mor anffodus, cododd
ei hiraeth am dd’od yn ol eilwaith i Forganwg. Ond sut y deuai? Nid oedd ganddo
arian. Un noson, tra heb fodd i dalu am lety, aeth ar ei union i goedwig ger y
môr, gan feddwl cysgu ar un o’r coed hyd y boreu. Ar y ffordd daeth o hyd i
lestr yn llawn glud (glue). Gwelodd mai da fuasai iddo ei ddefnyddio er
gludio ei goeden wely a’i bôn i’w brig, rhag iddo wrth gysgu syrthio i’r ddaear
a niweidio ei hun. Hyny a wnaeth, ac ymgollyngodd i freichiau cwsg yn ei
orweddle uchel. Yn foreu iawn, dihunwyd ef gan lawer o sisial a dalu o’i gylch;
ac er ei syndod yr oedd y goeden yn llawn o adar o bob math, a’u traed i gyd yn
sicr wrth y brigau. Ceisiodd godi ei hun, ond yr oedd yntau yn rhwym yn
nghyffion y glud.
“Wel, tyma i’n ddecha mawr,
ta beth,” ebai; “rw i wedi gwneyd ffwl o munan – tyma lle bydda i mwy yn swn y
tacla hyn y ca’l fy mhoeni hyd farw – beth na i?”
Yn ei bang cododd ei lais,
gan waeddi a’i holl nerth – “Ishw! ishw!”
“Ac os i chi yn y man na,”
ebai, “fe gâs y dernod i gyd shwd ofan, nes iddi nhw starto gyda’u gilydd, a
nghwni i a’r goeden gyta nhw, a hedfan dros y môr bob cam i Shir Forganwg.”
Nid oes eisieu dadleu yn
nghylch gwirionedd yr ystori uchod o eiddo Isaac.
-------------------------------------------------
(x28)
3. Y Crwydryn Digrif
Hanesyn 13. (3.01) “How
Long Were You Dher?”
Ar
ysgwar y Welsh Harp, Aber Dar, ar nos Sadwrn, y gwelwn ef nesaf. Yr oedd wedi bod yn America,
meddai ef, y pryd hyn. Gwelwn ef yn sefyll ar ganol y sgwar, a rhyw Sais
adnabyddus yn ei holi –
“Wel, diar mi, Isaac. Ei am
so glad tw mit iw!. Whêr hav iw bin ciping so long? Ei hyrd ddat iw had gon to
America!”
“So I had,” ebai
Isaac yn fostfawr.
“Wel! wel! and let me
shêc hands widd iw afftyr iwar sêff rityrn. Bin tw America! And how long were iw
dhêr, Isaac?”
“Ffeif ffît sics intshis and
e cwarter,” ebai Isaac, ac ymaith ag ef.
-------------------------------------------------
Hanesyn 14. (3.02) Tarfu’r
Asyn
Dacw ef yn awr ar daith i
fyny Heol-y-Felin, Aber Dar, i gardota. Wrth syllu, cenfydd hen wraig yn arwain
asyn a chart yn dyfod ato. Yn y cart y mae amryw fathau o lestri i’w gwerthu (x29) wrth yr hyn yr enilla yr hen wraig ei
bywoliaeth. Wedi d’od yn agos, gofynna iddi –
“Ga i weyd gair bach o
secret yn nghlust y donci ma?”
“O cewch, cewch,” meddai
hithau yn didaro, gan droi i fargeinio a nifer o wragedd sydd wedi ymgasglu tu
ol i’r cart.
Ar hyn tyn ddwy neu dair o
pys gleision o’i gôd, gan eu rhoi yn ei enau, ac yn ddistaw bach chwyth hwynt i
glust yr asyn. Ar unwaith, wele hwnw yn carlamu yn holl nerth ei goesau i lawr
yr heol, y llestri yn deilchion yma a thraw, a’r hen wraig, druan, mewn rhyw
haner llewyg, yn cael ei chynal gan ddwy neu dair o’r gwragedd gerfydd ei
dwylaw. Pan ddaeth ati ei hun, prysurodd yn union i godi gwarant ar Isaac am y
weithred ysgeler o darfu’r asyn. Dacw Isaac yn awr o flaen yr ynadon, i gael ei
farnu. Mae’r cyhuddiad wedi ei osod ger bron, a’r Prif Ynad ar ei draed, yr hwn
sydd wedi clywed am lawer o driciau y “Crwydryn Digrif.” Siaradai’n groeyw, gan
ddweud –
“Isaac Lewis, yr wyt ti wedi
clywed y cyhuddiad sydd yn cael ei ddwyn yn eich erbyn gan y wraig hon?”
“Os, gyta chaniatad eich
Anrhydedd,” ebe ef, gan foes-ymgrymu; “ma’n ddrwg iawn gen i mod i wedi ca’l fy
nwyn i’r fan hyn am beth mor (x30) ddi-ddrwg.
Netho i ddim i’r donci, ond gweyd yn i glust am iddo fynd sha thre, fod i fam
wedi ca’l i tharo’n dost iawn, a bron marw; ac os dyma’r tâl wy’n ga’l am
hynny, weta i air byth eto wrtho.”
Ar hyn gollyngodd ef yn
rhydd.
TUDALEN 30 I’W YCHWANEGU
TUDALEN 31 I’W YCHWANEGU
-------------------------------------------------
Hanesyn 15. (3.05)
Ystori’r Fagoten
(x31)
(x32) ”Diolch yn fawr,” ebe Isaac, fe gewch
ych talu’n dda, peth siwr yw a; ond alla i ddim dod miwn fel hyn, wir, mistras fach,
a mhartnar i mas mana bron starfo.
“Wel, bobl anwl,” ebai hi,
“galwch a miwn i ga’l shâr, ta, fel chitha, mae a’n bechod i unrhyw ddyn starfo
ar ochr y ffordd, a dicon o fwyd i gâl. Galwch chi a miwn yn ewn.”
Ac i fewn â hwy i gael eu
gwala a’u gweddill o gawl a chig, a thatws.
-------------------------------------------------
Hanesyn 16. (3.04) “Asc
Dhy Dreifar”
Wedi hyn, tra Isaac yn nesu at ryw dref, gwelai hen wraig yn arwain asyn a
chart tua’r dref. Wrth ei gweled yn edrych yn ofidus gofynodd iddi -
“Os rhywpath mas o le, ’rhen
wraig? Di chwi ddim yn dishgwl yn rhy dda. Be sy’n bod?”
“O, ma isha myn’d trwy’r
glwyd Tyrpic arna i, a does gen i ddim i dalu am fyn’d,” ebai hi.
“O diar, stopiwch chi,” eb
efe, “Fe ffinda i ffordd i fyn’d trwyddi nawr.”
Dacw fe’n diosg yr asyn o’r
shafft ac yn ei godi i’r cart.
“Beth i chi’n neyd, y dyn?”
ebe’r hen wraig.
“Gadwch chi’r petha i fi,”
ebai Isaac; “cerwch (x33) chi mlân – pidwch
dangos ych bo chi’n perthyn dim i fi na’r cart a’r donci.”
Felly y bu. Wedi gosod yr
asyn yn y cart, a rhoi y ffrwyn yn rhwym wrth ei droed blaen, gwisgodd ddilladd
yr asyn am ei hun, ac i ffwrdd âg ef yn y shafft ar garlam trwy y glwyd. Ar
hyn, wele geidwad y glwyd ar ei ol, yn gwaeddi –
“Whêrs ddy myni? Ddy tôl!
Ddy tôl!”
Tra’r unig ateb o enau Isaac
oedd –
“Asc ddy dreifar! asc ddy
dreifar!”
Cafodd yr hen wraig felly ei
chart a’i hasyn trwodd am ddim.
-------------------------------------------------
Hanesyn 17. (3.05) Pwy Ben
i Ddechreu’r Dorth
Dro arall, yr oedd
Isaac ar ei daith o Flaenllechau i Aber Dar. Teimlai yn newynog iawn, ac heb
ddim i brynu bwyd. O’r diwedd aeth i dŷ tafarn i ofyn am damaid i’w fwyta.
Yr oedd y wraig yn gwlychu toes yn brysur, a’r dorth olaf yn gyfan ar y bwrdd.
Dywedodd y wraig wrtho, gan gyfeirio â’i bŷs at y dorth a’r gyllell,
“Dewch miwn! Dewch
miwn! Cymerwch dymed o hona; iwswch y gyllath, trw fod y nwlo i yn y tôs.”
"Diolch yn
fawr," ebai yntau, a chymerodd y dorth a’r gyllell yn ei ddwylaw. Cyn ei thorri, eb efe
–
"Mistras, os
gwaniath da chi pwy ben tora i hon gynta?”
"O, dim yn y byd
mawr," ebai hithau.
"Thenciw fawr,
ta," eb efe, gan droi allan; "fe’i dechreua i ddi y pen arall i’r
cwm," ac i ffwrdd âg ef a’r dorth a’r gyllell.
TUDALEN 34 I’W YCHWANEGU
-------------------------------------------------
(x34)
Hanesyn 18. (3.06) Râs am
Sofryn
TUDALEN 35 I’W YCHWANEGU
-------------------------------------------------
(x35)
Hanesyn 19. (3.07)
Gwellhad Bysedd ei Draed
-------------------------------------------------
Hanesyn 20. (3.08) Y Tri
Corff
TUDALEN 36 I’W YCHWANEGU
-------------------------------------------------
(x36)
Hanesyn
21. (3.09) Rhoi Wil
i’r Gwr Drwg
Un tro aeth Isaac allan â’i ddryll i hela yn y nos. Yn ngoleu gwan y lloer,
gwelai o’i flaen ryw greadur esgyrnog, hyll. Yn sydyn daeth i’w ymyl, a
theimlai Isaac ar unwaith ei fod yn mhresenoldeb y Gwr Drwg.
(x37)
“Holo!” ebe’r Gwr Drwg, “pwy
wyt ti?”
“Isaac Lewis w i, syr.”
“Ble i ti’n myn’d yr amser
hyn o’r nos, Isaac?”
“Myn’d i hela w i, syr.”
“Beth yw hona sy gen ti?”
ebai, gan gyfeirio at y dryll.
“Pib yw hi, syr.”
“Ho!” ebai’r Gwr Drwg; “os
dim shawns i gâl whiff fach gyda thi cyn bo fi’n myn’d?”
“Os ôs,” ebai Isaac, gan
estyn ei blaen hi ato, a dyweyd –
“Dod hi yn dy ben i fi gâl
ei thanio hi.”
Cyn gynted ag y dododd y Gwr
Drwg hi yn ei enau, dyma Isaac yn tanio –
“Powns!” ebai’r dryll.
“Ych, tw! ma ona’n gryf, ta beth!”
ebai’r Gwr Drwg, gan droi at Isaac, a phoeri shots o’i ben.
Dyna engraifft o allu Isaac
i ddychymygu dygwyddion.
-------------------------------------------------
(x37)
Hanesyn
22. (3.10) Punt am
Newid Pwynt y Reilwai
Yr oedd Isaac a phartner iddo ar daith mewn rhan o’r wlad, ac yn agoshau at
bentref bychan. Nid oedd ganddynt ond chwecheiniog ar eu helw, ac yn newynog
iawn. Wedi d’od at yr unig dafarn goffi yn y pentref, ebai’r partner wrth Isaac
–
“Gad i ni fynd miwn fan hyn
nawr i gâl lwnshin bach, w i jest a starfo.”
TUDALEN 38 I’W YCHWANEGU
(x38)
TUDALEN 39 I’W YCHWANEGU
(x39)
(x40)
“Gwnaiff, y mechgyn i; a
thyma sofryn i chitha am i neyd a.”
“Diolch i chi am y sofryn,”
ebai Isaac, gan fyned ym mlaen â’r pego nes cael ei hun eilwaith yn ddyogel ar
y ffordd wrth gefn y ty. Wedi mynyd o seibiant, ebai wrth ei bartner –
“Tyna ti, fachan! Tyna beth
yw gneyd arian o gôd a thwein, i ti’n gweld; nawr fe allwn ni ffwrdo i gâl pryd
yn iawn o fwyd.”
-------------------------------------------------
Hanesyn
23. (3.11) Isaac
yn Frawd-yng-Nghyfraith
Pan yn aros mewn rhyw gwmwd, aeth Isaac â dryll allan i herwhela i dir y Plas
cyfagos. Wedi gollwng ergyd neu ddwy, cyfarfu y Ciper âg ef, yr hwn a ofynnodd
iddo yn union –
“Pa hawl sy genti i ddod i
hela i dir y Plas?”
“Hawl, yn wir! ebai yntau,
“ma gen i ddicon o hawl, elli di fentro.”
“Ho!” ebai’r Ciper yn syn.
“Wel, pwyn {sic; ?pwy un} i chi, ynte?”
“Y fi!” ebai Isaac, “ y fi yw
brawd-yng-nghyfraith Mishtir Jenkins y Plas, ac fe wetws wrtho i y gallwn gâl
dod ma.”
“Ho! O wel, sgusodwch chi
fi, ynte, am ych holi. Dydd da i chi,” ebai’r Ciper, ac i ffwrdd ag ef.
TUDALEN 41 I’W YCHWANEGU
(x41)
TUDALEN 42 I’W YCHWANEGU
-------------------------------------------------
(x42)
Hanesyn
24. (3.12) Y Lodgins
a Gwr y Tŷ
Pan oedd Isaac yn
myned i chwilio am waith i Gwm Saer Bren, sef Treherbert, ar y ffordd cwrddodd â
Sam Fain, ei bartner, ar y tramp. Wrth gwrs, rhaid oedd myned i alw bobo lasiad
iechyd da, a chael spel fach i holi helynt y naill a’r llall. ’Doedd dim arian
gydag Isaac, ond yr oedd triswllt gan y partner. Wedi yfed tipyn, ac i’r (x43) arian brinhau, cododd
Sam i fyned allan, ond {+ gair amhosibl i’w ddarllen}
Isaac iddo alw bobo lasiad
neu ddau arall. Ond ebai’r partner –
“Na, dim ragor. ma’n rhaid i
fi gatw beth sy gen i nawr, ne cha i ddim lodjins yn unman heno.”
“Faint sy gen ti yto?” ebai
Isaac.
“Wechinog,” ebai Sam.
“Twt, twt,” ebai yntau
drachefn, “gad i ni ifad hono nawr, fachan! Der mlân, der mlân; paid a bod yn
shimpil mewn cwmpni am dro mwn shawns, ta beth; fe ffinda i lodjins bach nêt i
ti am ddim gyta fi.”
Felly bu. Ond wrth yfed hono,
wele gwmni arall yn d’od i mewn, nes o dipyn i beth daeth adeg y stop tap.
erbyn hyn, methai partner Isaac yn deg a pheidio mesur lled yr heol, tra ef ei
hun yn para yn bur dda. Modd bynag, rhaid teithio’n awr i chwilio am lodjins.
Wedi myn’d a myn’d, nes oedd yr partner wedi hen flino ar y daith, y tai i gyd
wedi pasio, a haner nos yn toi y lle a mantell oer o wlith, gofynai’r partner
gydag arwyddion ei fod yn dechreu sobri –
“Ble ma’r lodjins, Isaac?”
“Der di mlân, der di mlân,”
ebai yntau, i ni jest ar bwys a nawr.”
Wedi d’od at gae pori rhyw
dy ^ fferm, agorodd Isaac y glwyd, ag i fewn ag ef i’r cae, a’r partner ar ei
ol.
(x44) “{gair ar goll}
nawr, ebai, tyma’n lodjins ni heno!” Wedi tarfu dwy fuwch o’u gorweddfanau,
ebai drachefn –
“Tyna dy weli di,
ac un bach cynas, nêt, i ti, a tyma ngweli ina; gorwedd di’n dawal, a chofio
ddino’n fora, nawr.”
Erbyn hyn, yr oedd
y partner yn ddigon sobr; ac yn ei anfodlonrwydd dechreua rwgnach a chadw swn.
Ond ebai Isaac –
“Tyna ddicon o
hwna! Gorwedd yn dawel sy ora i ti, ne falla cawn ni fynd mas o ma yto! Cofia
di,” ebai, gan arwain ei feddwl at y tarw ger llaw, “ma gwr y ty draw mana, i
ti’n gwel’d, a i ti’n gwpod shwd fachan ffein yw e.”
Gwelodd Sam, rhwng
popeth, mai gwell iddo mwy oedd ufuddhau i’r drefn, gan nad beth ddeuai. Yn
fuan deffrôdd y wawr, a chyda hyn dihunodd Isaac a’i bartner yn eu gwelyau
llaith. Codasant, gan ddechreu siarad; ond druan o’r partner, yr oedd erbyn hyn
yn rhy grug i roi swn. Ac eilwaith dyna lif ei rwgnachdod yn disgyn yn drwm ar
Isaac, yr hwn, wedi troi a sylwi ar y glwyd yn agored, a ddywedai, gan gyfeirio
ei fys ati –
“Hy! Pwy ryfadd dy
fod yn gryg! Dishgwl, y ffwl dwl! i ti wedi cysci a gatal y drws ar
acor trw’r nos!”
-------------------------------------------------
Hanesyn
25. (3.13) Sut ma
Nhw’n Tynu Cwmp
Un tro, tra Isaac a
hen fachgen rhyfedd arall, o’r enw Twm y Glomen, yn cydeistedd i ddifyru (x45) cwmni mewn tafarndy
yn Nghae Pant Tywyll, Merthyr, daeth ryw Ysgotyn cyhyrog o bacman i mewn atynt.
Wrth eu clywad yn siarad am waith dan y ddaear, &c, ebai’r Ysgotyn –
“Wel, how do iw
wyrc yundergriund? Ei shwd leic to no abowt it. Ddei sei ddat in sym plesis ddy
heit is feri, feri smol. How do iw manej to wyrc ddâr?”
“O, ffor hyn yn gymws,”
ebai Twm, yr hwn oedd fel pe am gael y blaen ar Isaac. Wedi cydio yn y brwsh
parth oedd gerllaw, a myned ar ei liniau i ben y ford yng nghanol yr ystafell,
dyma’r brwsh yn dechreu cael ei swagro’n ol a blaen – peint un, cwart y llall,
a gwydryn un arall yn cael eu bwrw yn ddeilchion i’r llawr, a’r cwmni erbyn hyn
wedi ei gyffroi drwyddo – “Tyna,” ebai Twm, “tyna’r ffordd ni’n gwitho mewn
wthian fach!”
Yn y cyfamser,
sylwai Isaac ar ystlys o gig moch yn hongian wrth gordyn uwch ben y ford, a
dringodd yn ddystaw bach i fyny wrth gefn Twm, gan dynu ei gyllell o’i boced.
Ar hyn, heb sylwi ar Isaac, wele Twm yn dechreu swagro yr eilwaith; ond ebe’r
Ysgotyn –
“Ddat’s it,
ddat’s it, mei gwd man. Ei can ynderstand ddat now. Byt ddis is what pysls mi
agen, how dw men in that smol heitth dro ffôls on ddemselfs and get hyrted?”
Gyda’r gair,
wele’r ystlys gig ar gefn Twm, ac Isaac yn gwaeddi yn nghanol bloeddiadau’r
cwmni,
“Ddats how men
get hyrted bei bigining to wyrc widhowt sownding ddy top to si iff it is seff
ffyrst.”
-------------------------------------------------
(x46)
Hanesyn
26. (3.14) Prynu
Ceiliog
Pan ar ei daith o Hirwaun i
Ferthyr, gwelodd Isaac geiliog hardd ar y ffordd, heb dŷ na neb yn agos
iddo. Gan fod arno, fel arfer, eisieu arian, cydiodd ynddo, gosododd ef dan ei
gesail ac ymaith ag ef. Wedi dyfod hyd at Dafarn y Post, yr ochr uchaf i’r lle
a adnabyddir wrth yr enw Gelli Deg, ger llaw Merthyr, aeth i mewn i gael spel.
Dygwyddai fod y lle yn llawn o fechgyn o wahanol fanau cylchynol, ac ebai un o
honynt wrth Isaac –
“Hylo! ble i ti’n meddwl i
bwrw i, Isaac?”
“Mynd tsha Merthyr w i,”
ebai yntau, “a rw i wedi prynu cilog ar y ffordd; ac os i chi’n y man na, w i
ddim yn gwpod beth w i’n mynd i neyd ag e yto, wath dyw a ddim ond lymbar i fi
ffor hyn. Fe ddath i mhen i nawr y galla i neyd raffl yn iawn ag e, os i chi’n
folon talu tair ciniog yr un am dreio, bois! I chi’n folon, fechgyn?”
“Otw i,” ebai un. “Otw ina,”
ebai un arall ac felly’n y blaen, nes rhoddodd pob un ei dair ceiniog i Isaac.
Erbyn hyn yr oedd ganddo swm fach go dda. Yn fuan, dybenodd y raffl, ac aeth y
ceiliog i ran bachgen o Hirwaun, a gadawodd Isaac y cwmni a’r arian ganddo. Y
prydnawn hwnw, wrth i’r bachgen fyn’d gartref a’r ceiliog, pwy ddeuai i’w gwrdd
ond y ffermwr, perchen y ceiliog, oedd erbyn hyn wedi gweled ei heisieu {sic,
ag anadliad ‘h’}; ac o’r braidd na thaerai mai y bachgen oedd wedi ceisio
chwareu tric ag ef ond wedi clywed yr helynt am Isaac, a’r raffl yn Nhafarn y
Post, rhoddodd y dair {sic, â threiglad} ceiniog i’r bachgen, a chafodd ei
eiddo yn ol yn llawen.
-------------------------------------------------
(x47)
Hanesyn
27. (3.15) Y Ddau
Ysgadenyn
Tra’n aros mewn rhyw dŷ, yr oedd Isaac beunydd yn colli rhan o’i fwyd. Nid
oedd un wythnos yn pasio na fyddai peth o’i fywioliaeth wedi ei ddwyn, a hyny,
ddigon tebyg, gan y wraig lle’r arosai. Yn ei anfodlonrwydd, aeth allan un
boreu i brynu dau ysgadenyn, a dododd hwy yn ddiogel ar un o estyll y pantri. Y
prydnawn hwnw, aeth Isaac i chwilio am yr ysgadan, ac fel y dysgwyliai, yr oedd
un o’r ddau wedi myn’d.
“Wel, ma shwd beth a hyn yn
dw bad, allwn i fedwl, ta beth, “ ebai ynddo ei hun, gan gosi ei ben. Ar hyn,
wele ef i’r ty, a’r ysgadenyn oedd ar ol yn ei law, gan ymaflyd yn y fforc gopr
i’w bobi o flaen y tan. Wedi ei ddal ai’i ddal nes ei haner losgi, ebai y wraig
–
“Isaac, i chi’n llosgi’r
ysgadenyn!”
“I losgi a wir,” ebai yntau,
“fe losga i fynidd a mas os na wetiff a ble ma’i bartnar a wedi myn’d!”
O hyn allan, ni chyffyrddodd neb
a bwyd Isaac.
-------------------------------------------------
(x48)
Hanesyn
28. (3.16) Y Ci a’r
Lleidr Wyau
Pan ar ei daith rhywle yn agos
i Bont y Pridd, sylwodd Isaac ar nyth iar yn y berth a’i llon’d o wyau. Gan fod
eisieu arian arno ar y pryd, meddyliodd y gallai gael rhywbeth am yr wyau, ac
aeth ar ei union i’r berth i’w hymofyn. Yr oedd ty yn agos, a chadwai y coed
crin cymaint o swn o dan draed Isaac, nes iddo ddihuno y ci oedd yn gorphwys ar
y beili o flaen y ty. Ar unwaith, wele’r cenaw yn gwneyd rhuthr arno, dan
gyfarth. Gyda hyn rhedodd y wraig allam, i wel’d beth oedd yn bod; ac wrth
weled Isaac yn rhyw haner rhedeg, gan gadw’i lygad yn ol ar y ci oed dyn ei
ddilyn, ebai hi –
“Os dim isha i chi ofni a o
gwbwl, wath chnoiws a neb ariod!”
“Fe all hyny fod,” ebai
Isaac yn ol wrthi – “ond wyddoch chi ddim llai na ta nawr y dechreuiff a gnoi,
run shwt.”
-------------------------------------------------
Hanesyn
29. (3.17) Myn’d
o’r Lodjins ar eu Henill
Pan ar grwydr mewn lle anghyfanedd, gwelwn Isaac a Sam Fain eto, a’r nos wedi
eu dal, ac heb arian i dalu am lety. Gwelant dy ar fin y ffordd, a neshant ato
am le i aros dros y (x49) nos. Wedi gwrando
eu hystori, cymhellir hwynt i fewn gan yr hen wraig sydd yn byw yno, yr hon a
ddywed –
“Does gen i ddim lle rhy
wych i chi, fechgyn bach! Mae gen i deiliwr ma yn gwneyd dillad i John y mab, a
dyw’r lle ddim yn deidi iawn fel ny, i chi’n gwel’d; ond fe gewch chi aros ma
dros y nos, ond shiffta gora gallwch chi gyda’r teiliwr ar y llofft.”
“O! reit!” ebai Isaac a Sam,
“a diolch yn fawr i chi.”
Tua haner nos cyfyd Isaac,
gan ddyweyd wrth Sam yn ddystaw bach –
“Nawr, i ni’n mynd i fynd o
ma ar ein henill fory!”
“Wel, beth i ti’n feddwl,
Isac?” ebai Sam.
“O, gad di ny i fi,” ebe
yntau.
Wedi dihuno’r teiliwr, a’i
fwgwth, dywed Isaac wrtho –
“I ti’n gwel’d y blancad na,
fachan?”
“Otw,” ebai’r teiliwr yn
grynedig.
“Nawr, ma isha tri drofars arno
i erbyn y bora, a ma’n rhaid i ti i gneyd nhw ar unwaith i fi o hwna.”
Yn swn bygythion Isaac, aeth y
teiliwr ati i weithio, er cael y tri drofars yn barod. Tua {sic – yn lle tuag}
amser brecwast, dyma Isaac a Sam i lawr o’r llofft, a’r hen wraig gyda gwên yn
eu croesawu at y bwrdd. Ond ebai Isaac –
“Fynwn i ddim bwyd, diolch i
chi, mistras (x50) fach, ma isha bod yn y
fan a’r fan arno ni mor gynted byth y gallwn i - ond ma gen i ddrofars blancad
dan y mraich; os leicwch chi roddi swllt am dano, fe cewch a gen i; wetny fe
allwn ni brynu bwyd o’r swllt ar y ffordd.
“Diolch!” ebai’r hen wraig, gan
estyn am y drafars.
“Diolch i chi!” ebe Isaac, gan
droi i ffwrdd yn llawen wedi cael y swllt, a Sam a’r ysbail gydag ef.
-------------------------------------------------
(x50)
Hanesyn
30. (3.18) “Dim
Stymog Heddy”
Adroddir yr ystori hyn fel ffaith. Yr oedd Isaac yn nghymydogaeth yr Hafod, ac
un noson wedi ei gadael i lithro yn rhy hwyr, yng nghwmi’r ddiod, i fyned i
chwilio am le i roddi ei ben i lawr. Daeth at dwlc mochyn; gyrodd y creadur sorllyd
hwnw allan, ac aeth i orwedd yn ei le. Boreu dranoeth, daeth gwraig y ty allan
i roi bwyd i’r mochyn, gan alw,
“Bics, bics!”
Estynodd yntau ei big allan,
gan ddyweyd –
“Dim stymog heddy, mistras
fach.”
Ond cafodd hithau ei dial arno
trwy ddyweyd wrtho na chafodd efe erioed le mwy cyfaddas i orwedd ynddo.
-------------------------------------------------
(x51)
Hanesyn
31. (3.19) Y Wraig
a’r Fam-yng-Nghyfraith
Un dydd, tra Isaac yn byw gyda’i fam, aeth nifer o eiriau croes rhyngddynt, yng
nghwrs pa rai dywedodd ei fam wrtho am fyn’d dros y drws, a pheidio d’od yn
agos iddi nes d’od a gwraig yn ol gydag ef. Aeth Isaac ymaith. Wedi blwyddyn o
grwydro, neshai eilwaith ar dy ei fam. Ar y tips cyfagos, tra yr oedd y wawr yn goreuro
eu hymylon, canfyddai asen, ac un fach gyda hi. Ar ol edrych am eiliad, dacw ef
arnynt, ac yn cipio yr un fechan ar ei ysgwydd, gan fyn’d i’w ffordd. Wedi d’od at y ty, a churo,
agorwyd y drws. Er syndod yr hen wraig, pwy welai yno ond Isaac, ei mab, a’r
asen fach ar ei ysgwydd.
“Wel, Isaac bach, i ti wedi
dod eto?”
“Otw, mam,” ebai, gan nesu
at yr aelwyd.
“Yn enw popeth, Isaac, beth
yw hwna sy gen ti – donci?”
“Hy! donci wir! Nace, mam, y
ngwraig i yw hon. A gwraig yn iawn yw i, ontefa, mam?”
Ar y gair, clywid yr hen
asen yn d’od ar garlam, gan leisio, at y ty.
“Wel, wel,” ebe’r hen wraig,
“beth yw hon sy’n dod yto? Fe gaua i’r drws nawr”
“Mindiwch chi, mam.na gauwch chi’r drws, waeth y mam-yng-ngyfraith i sy na, yn
dod i ddishgwl am i merch.”
-------------------------------------------------
(x52)
Hanesyn
32. (3.20) Dishgwl
am Haner Coron
Wele Isaac yn awr yn rhodio’n bendrwm gyda llogell wag, drwy un o ystrydoedd
Aber Dar. Yn ebrwydd saif, gan edrych o’i gylch ar y llawr, fel un yn chwilio am
rywbeth. Ar hyn, dyma ddyn yn d’od ato, ac yn gofyn –
“Am beth i chi’n chwilio?”
“Dishgwl am haner coron w i,
syr.”
Yn fuan, wele un arall ac un
arall, yna nifer o wragedd, a chwpwl o grots, yn d’od, nes ydynt yn dyrfa fawr o’i
gylch; a’r oll, wedi holi’r helynt, yn cyduno i chwilio am yr haner coron. Wedi
hir droi a thrafod yn ol a blaen, gofynodd un o’r gwyr,
“Yn ble collsoch chi a,
Isaac?”
“O!” ebai yntau, “nid wedi
colli un, ond dishgwl am un w i!”
Deallodd rhywun yr hynt;
estynwyd iddo arian. Ac yn y fan, wedi diolch, diflanodd o’u gwydd hwynt oll.
-------------------------------------------------
(x53)
I GYFEILLION LLENYDDOL
MERTHYR AR GYFRIF Y MWYNHAD A’R ADEILADAETH A GEFAIS YN EU CWMNI, I MEWN AC
ALLAN, YN OGYSTAL A’U CEFNOGAETH I YSGRIFENWYR IEUAINC, Y DYMUNIR CYFLWYNO
“ISAAC LEWIS, Y CRWYDRYN DIGRIF,” YN Y WEDD A’R DDIWYG NEWYDD HON, GAN YR
EIDDYNT YN OSTYNGEDIG, YR AWDWR.
Isaac Lewis, y Crwydryn Digri / W R Jones (Pelidros), Merthyr Tydfil /
(Blwyddyn: Anhysbys. 1910?)
Subolau arbennig: ŵ ŷ. Nodlyfr
â’r ffotogoïau:
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag
un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are
visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch
ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats
Adolygiadau diweddaraf:
2001-10-28