0925ke
Gwefan Cymru-Catalonia. Testun o Darian y Gweithiwr 1897. Llythyra’ Newydd gan
Fachan Ifanc. English translation attached. “new Letters, by Bachan Ifanc”.
Llith V. Gwareiddiad y Rhondda. “Letter 5- Civilization in the
http://www.kimkat.org/amryw/sion_prys_032_bachan_ifanc_1_0925ke
Yr Hafan / Home Page
..........1864e Y Fynedfa yn Gatalaneg /
Gateway in English to this website
....................0010e Y Gwegynllun
yn Saesneg / Siteplan in English
..............................0977e Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai / Texts in Welsh
- Main Page
.........................................Y Tudalen Hwn / This Page
|
Gwefan Cymru-Catalonia |
|
0924k - Cymraeg yn unig
xxxx
STYLE:
Curious mixture of literary Welsh and south-eastern dialect.
SOURCE: From Tarian y Gweithiwr (in my copy the date is not mentioned; I
believe the year to be 1897).
NOTE: We have marked the ‘y eglur’ with an umlaut (y) - this does not occur in
the original text, of course.
LLYTHYRA’
NEWYDD gan FACHAN IFANC.
LLITH V
New Letters. By
Young Fellow / Lad / Guy. Letter / Article 5
…..
Dalwch y nghot i i fi gal
rhoi cwpwl o smacs i’r bachan yna sy’n galw’i hunan yn Gymro, fu’n sgriblo pwt
o lythyr yn y Darian ddwetha ar - WAREIDDIAD Y RHONDDA
Hold my coat so
that I can give a couple of smacks / punches to the the fellow who calls
himself a Welshman, who wrote a short letter to the last (issue of the) Darian
(= Tarian y Gweithiwr) on CIVILISATION IN THE RHONDDA
…..
Wn i ddim llawer am dano, na beth yw i seis a, na beth yw i bwysa fa, a dyw a
ddim gwahaniath gyta fi beth all a fod. W i yn folon sefyll rownd ne ddwy o’i
flan a, trw bo fa wedi insylto y martnars i, sef bechgyn Cwm Rhondda. Odd a’n
gweid fod e a rhw Sais wedi bod yn consylto sha’u gilydd yn y Fenni bothti
ignorans bechgyn y Cwm. Wn i ddim yn bwy bart o Fenni odd y ddau ar y pryd, os
nace yn y ty mawr sy yn ben draw’r dre, man lle ma’r rhai sy’n arfadd wilia’n
dwp yn lodjo.
I don’t know much
about him, what size he is, how much he weighs, and it makes no difference to
me what he might be. I’m ready to stand a round or two before him since he’s
insulted my buddies, the lads of Cwm Rhondda (the Rhondda Valley). He said that
he and some Englishman were talking together in Y Fenni (Abergafenni) about the
ignorance of Valley lads. I don’t know what part of Y Fenni the two were in at
the time, if they weren’t in the big house at the far end of the town, where
those who usually talk nonsense lodge.
…..
Odd y disgwrs odd rhynto fe a’r Sais yn
depig iawn i steil y rhai sy yno. Isha troi y Rhondda i gyd yn Sysnag odd ar y
Sais, medda fe, ond i ni yn gwpod yn weddol beth fyddai’r rysult o hyny, wath i
ni wedi gweld yr effath mwn mana erill o’n gwlad, lle ma’r dylanwad wedi dod i
befformans, a tysa dicyn bach o gymshan Cymrag yn y Cymro, fysa dim isha iddo
fynd ymhell o’r man lle o nhw yn wilia i gal ilystreshons o wareiddiad
Seisnigol fysa yn ddicon i gauad ceg lydan-agored ei gyfaill Hengistaidd.
The conversaton
between him and the Englishman was very similar to the style of those who are
there. The Englishman wanted to make the Rhondda all English-speaking, he said,
but we’ve good a fairly good idea what the result of that would be because
we’ve seen the result in other parts of the country, where the influence has
been put into effect, and if ‘Cymro’ had just a bit of Welsh gumption, there’d
be no need for him to go far from where they were talking to get illustrations
of English civilisation that would be enoughto shut the wide-open mouth of his
Hengistian friend. (NOTE: Used in the 1800s as a synonym of English - Hengist,
died 488 AD, a leader along with his brother Horsa, of the first Jutish
settlers in the island of Britain. It is thought that they conquered territory
of Kent from the British in the year 455).
…..
Ma cymodd glofaol a gweithfaol Mywy er’s
blynyddoedd bellach wedi syrthio llawar o ddegrees yn ish nag o nhw, yn achos
fod cymaint o fforinars wedi emigreto yno o Wlad yr Haf, Henffordd, Dyfnaint, a
phartha erill, ac mae eu hiaith ishel, a’u hanfoes, a’u dylanwadau anheilwng,
yn codi gwrid i wyneb yr hen drigianwyr Cymruaidd sydd wedi eu geni yno, ac
maent wedi effeithio yn niweidiol ar y brodorion ieuainc sy’n cal eu codi yno
yn bresenol.
The mining and
industrial valleys of Monmouthshire for years now have fallen many degrees
lower than what they were because so many foreigners have emigrated there from
Somerset, Herefordshire, Devon and other places, and their vulgar language, and
their immorality, and their unworthy influences make the faces blush of the old
Welsh residents who were born there, and they’ve adversely affected the young
natives who are being brought up there at present.
…..
Mae y Sais-ddyfodiad yn iwso y terma
mwyaf atgas yn eu leferydd y gall Belzebub ei hunan droi mas o’i ffactri
frwmstanaidd. Y mae pobpath y sonant amdano yn “bloody this” a “bloody
that”, a damniant eu llygaid i anwn am y peth lleiaf ne ddim; ie, galwant
Dduw yn dyst i bob trybini wnant mewn termau mor anystyriol a gwawdluniol na
feiddia un gwir Gymro ddychmygu am danynt, ac na chlywyd mo honynt yn
merwino clustiau bryniau a mynyddoedd Gwent cyn eu dyfod hwy yno ar eu
pererindod begeryddol ac yspeiliol.
The English
incomer uses in his speech the most repugnant expressions that Beelzebub could
produce in his brimstone factory (“that Beelzebub himself can turn out of his
brimstone factory”). Everything they talk about is “bloody this” and “bloody
that”, and they damn their eyes to hell for the least thing or for nothing;
yes, they call God as a witness for every misfortune they cause in terms so
thoughtless and mocking that a real Welshman wouldn’t dare imagine them, and which
were not heard grating on the ears of the hills and mountains of Gwent before
their arrival on their pilgrimage of begging and pillage.
…..
Hwynt-hwy sydd yn cyflawni mwyaf
troseddau yno, ac hwynt-hwy sydd yn difwyno cymeriad moesol cyntefig y tir, a
buasent yn waeth nac ydynt oni bai fod y Cymry yn aberthu eu capeli a’u hiaith
i draethu efengyl iddynt er mwyn eu gwareiddio a’u crefyddoli, gan nad oes yno
ond ychydig o engreifftiau o honynt hwy eu hunain yn myned i drafferth o godi
capel iddynt eu hunen; ond wedi iddynt gael gan y Cymry ganiatau pregethu yn
Seisnig, buan y byddant yn monopoleiso yr addoliad i gyd yn yr iaith fain, a
gwell gan y Cymry hyny, na gadel iddynt fyned ar ddysperod bythol yn eu rhyfyg
pendemonaidd.
They are the ones
who commit most offences there, and they are the ones who are ruining the
original moral character of the land, and they’d be worse than they are if the
Welsh people didn’t sacrifice their chapels and their language to read the
gospel to them in order to civilise them and bring them to religion, since
there are very few instances of themselves going to the trouble of building
their own chapels, but once they get permission from the Welsh people to preach
in English, they quickly monopolise all the worship in English (“in the shrill
language”), and the Welsh prefer this, to letting them go astray forever in
their reckless behaviour like demon kings.
…..
Pam na fuasai Cymro, ac ynta yn gwpod y
pethau hyn, gan ei fod yn trampo yn y cylchodd yna ys cetyn nawr, yn cauad ceg
y Sais am ddylanwad gwareiddiol y Saeson yn Nghymru? Ond ma Cymro i hunan yn
gweid fod isha gwareiddio, rhesymoli, a chrefyddoli y Rhondda. Fe wddoch chi a
fi, syr, fod isha gneid hyny yn mhob man. Ond pam Cwm Rhondda?
Why doesn’t
‘Cymro’, who knows these districts, because he’s been out and about there for
some time by now, shut the mouths of the English about the civilising influence
of the English in Wales? But ‘Cymro’ himself says that the Rhondda needs to be
civilised, brought to reason, and brought to religion. You know as well as I
do, sir, that this needs to be done everywhere. But why the Rhondda valley (in
particular)?
…..
W i wedi trampo munan dicyn bach yno, a w
i yn gwpod amcan lled dda ffordd ma pethach yn sefyll yno. Ma Cymro wedi bod
rhyw ddydd Llun Mabon, medda fe, a ma fa yn gweid yn i bwt llythyr fod bechgyn
Rhondda fel gwartheg a lloi. Ma’r ilystreshon yn deilwng o fe’i hunan, ac yn
brawf nag yw a’n gwpod llawar am y Cwm, ond beth welws a ar wincad llycad llo
yn Steshwn y Porth, a ffordd gwydda fe pwy nashonality odd y rhai ma fe yn sôn
am danynt.
I have been up
and down there a bit myself, and I have a fairly good idea of how things stand
there. ‘Cymro’ went there one Mabon’s day, he says, and he says in his short
letter that Rhondda lads are like cows and calves. The picture is fitting for
himself, and is proof that he doesn’t know much about the valley except what he
saw in the blink of an eye (literally: the wink of the eye of a calf) in Porth
station. And how does he know what nationality the people he’s talking about
were?
…..
Ma yn y Rhondda Fawr a Rhondda Fach agos
i gan’ mil o bob llwyth, iaith a chenedl bron, a’r Cymry yn cal y bai am u
pechodau nhw gyd, a nid y Cymro hwn yw’r cynta i bwynto bysadd yn y lein yma,
ond trw fod e yn esgus teimlo yn wladgarol, fe ddyla ddishgwl miwn i bethach
cyn joino a Sais penchwiban i dduo caritor ei gyd-genedl.
In the Rhondda
Fawr (the valley of the Greater Rhondda river) and the Rhondda Fach (the valley
of the Lesser Rhondda river) there are close to a hundred thousand of nearly
every race, language and nationality, and the Welsh get the blame for their
sins, and this ‘Cymro’ is not the first to point the finger in this direction,
but since he’s pretending to feel patriotic, he should look into things before
joining the feather-brained Englishman to blacken the good name of our fellow
countrymen.
…..
Os dim dowt nag os llawar o Gymry anywath
yn y cymydd hyn, fel mwn cymydd erill, ond w i yn cretu fod y rhai sy felna
wedi dysgu hyny gen y fforinars sy’n heidio i’r glofëydd o wahanol barthau o
Loegar, a gwletydd erill. Dim ond cymryd golwg deg ar fechgyn a merched Cwm
Rhondda, fe allwn gwnu u pena mor ychel a un part o Gymru ne Lloegar mwn
moesoldeb, rhesymoldeb, a chrefyddoldeb
There’s no doubt
that there are a lot of unruly Welsh people in these valleys, as in other
valleys, but I believe that the oneswho
like that have learnt it from the foreigners who are flocking to the
coal pits from different parts of England, and other countries. Just looking
fairly at the boys and girls of Cwm Rhondda, they can raise their heads as high
as any part of Wales or England in morality, rationality and religiousness.
…..
A yw Cymro wedi cal golwg ar ieuenctyd y
Cwm yn y capeli mawrion ardderchog sydd yn brithio’r ardaloedd o Pontypridd i
Flaenycwm? A wyr efe rhywbeth am y miloedd bechgyn a merched sydd yn mynychu y
rhai hyn yn wythnosol a Sabbothol? A glywodd yr oracl symudol hwn rwybeth eriod
am dalentau addysgol bechgyn Rhondda ym mhob galluoedd barddonol, cerddorol, a
llenyddol?
Has ‘Cymro’ seen
the young people of the valley in the splendid big chapels which dot the
districts from Pont-ty-pridd to Blaen-y-cwm? Does he know anything about the
thousands of boys and girls who attend them in the week and every Sabbath? Has
this mobile oracle erver heard of the educated talents of Rhondda boys in all
the poetic, musical and literary skills?
…..
Onid yw’r Cwm wedi dyrchafu ein cenedl yn
gyfan yng ngwydd y byd mewn ystyr gerddorol? Ai cyfiawn i farnwyr gwibiog
mursenaidd fel hyn i alw sylw y byd newyddiadurol Cymreig at anwareiddiad
dyffryn poblog, yn herwydd iddo ddigwydd gweld rhyw dwr o chwilgrots yn chwareu
rhompian ar ddydd Gwyl Mabon, pan oedd ei fawrhydi samwnaidd yn digwydd mynd
heibio? Ma gormod o ddweyd ie, ie, gyda syniadau fforinaidd am danom fel
cenedl.
Hasn’t the valley
altogether elevated our nation in the eyes of the world in the field of music?
Is it right for snobbish flighty critics like these to call the attention of
the Welsh newspaper sector to the barbariousness of a heavily-populated valley,
because he saw a crowd of young lads larking around on Mabon’s day, when his
salmon-like majesty happened to go by? There’s too much of saying ‘Yes, yes’ to
foreign ideas about us as a nation.
…..
Dyledswydd Cymro a’i fath
ddylai fod, i roddi amlygrwydd o’n rhagorion pan y crybwyllir am ein diffygion.
Fel y crybwylla awdwr yr ysgrif arweiniol yn y Darian ddiweddaf, y mae
ymddigiadau Cymry ein cymoedd yn fil mwy teilwng na’r dull a gymerir gan yr
estroniaid a dryfrithant ein gwlad ar ein gwyliau, ac nid yw Cwm Rhondda ar ôl
i un Cwm arall yn Nghymru yn y cyfeiriad moesol a gwaraidd, ond cymeryd y Cymry
fel safon, ac nid anwariaid estronol.
The duty of
‘Cymro’ and his sort should be to highlight our good points when our failings
are mentioned. As the writer of the leading article in the last ‘Tarian’
mentioned, the behaviour of the Welsh people of our valleys is a thousand times
more dignified than that shown by the foreigners who swarm over our country on
our feast days and Cwm Rhondda is not behind any other valley in Wales as
regards morality and civilisation, taking the Welsh as the standard, and not
foreign barbarians
…..
Fel gwetas i wthoch chi ar y dechra, syr,
dyma fi wedi rhoi cwpwl o glowts i’r Sais a’r Cymro, ac os bydd isha rhacor
arni nhw, ma dicon o stoc gen i wth law i scwaro dwsan o libellars digonshans
felna, a gwell i’r ddou bido dangos u trwyna yn y Rhondda yto, rhag ofan bydda
nhw yn bygynad fel “gwartheg,” a brefu fel “lloi,” ac yn fwy “true to nature”
ym mhob shâp o’r creaduriaid yma, na fel o nhw yn gweid wth u gilydd fod
bechgyn y Cwm.
As I said in the
beginning, sir, I’ve given the Englishman and the Welshman a couple of clouts,
and if they need any more, I’ve got enough in stock to settle a dozen of
unconscientious libellers like them, and it’d be better if the two of them
didn’t show their faces (“show their noses”) in the Rhondda again, in case they
bellow like “cows / cattle” and low like “calves”, since they are more true to
nature in every respect to these creatures, than what they say to each other
that the lads of the Valley are.
…..
Am drio towli lluwch
Ar garitor y Rhondda
Fe ddyla’r “llo” a’r “fuwch”
Gal bobo eitha gosfa.
Gwell yw i’r Cymro a’r Sais,
I aros yn y Fenni,
A pheidio codi llais
Byth mwy am ein moesoli.
For trying to
besmirch (“throw dust on”)
the good name (“the character”) of the Rhondda.
the “calf” and the “cow” {NOTE: llo = calf, and also = slow-minded person,
fool)
ought each to get a good hiding
It’d be better for the Welshman and the Englishman
to stay in Y Fenni
and not to opine (“raise a voice about”)
ever again on moralising us
…..
Ma yn y Fenni fan
Sy’n taro’r ddou i’r mymryn,
Gan fod eu penau’n wan
Rhaid clymu’r ddou a chordyn;
A’u cadw yno’n rhwym
Nes byddant wedi gwella,
Neu fe gant roesaw twym
Os deuant i Gwm Rhondda
There’s a place
in Y Fenni
which suits the two down to the ground
because they are weak-minded,
the two should be have a rope tied to them
and kept there tethered
until they’ve got better
or they’ll get a hot welcome
if they come to Cwm Rhondda
…..
XXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXX
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_032_bachan_ifanc_1_0925ke.htm
1004e
Y Wenhwyseg - iaith Gwent a Morgannwg
Gwentian - the dialect of Gwent and Morgannwg
·····
1051e
mynegai i destunau Cymraeg â chyfieithiadau Saesneg
index to Welsh texts with English translations
·····
0223e
yr iaith Gymraeg
the Welsh language
Adolygiad
diweddaraf / Darrera actualització 21 06 2000
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the
“CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu
les estadístiques / View My Stats