0975 Gwefan Cymru-Catalonia. Mari Lwyd. Na fel odd yr hen ddynon odd yn arfadd a hi yn i galw, "Fari Lwyd." Odd i yn arfadd bod mewn bri mawr yn amsar Nadolig slawar dydd, ond os fawr o son am deni nawr. Otw i ddim moin dangos y munan yn rhw scolar clyfar, ond fe glywas hen ewyrth i fi yn gweid am deni (a odd a yn glyfar, os dim dowt gen i), ta orwth enw'r Forwyn Fair, ne Mair Dda, odd yr enw wedi tarddu...

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_038_mari_lwyd_1897_0975k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Mari Lwyd
Bachan Ifanc

Tarian y Gweithiwr 1896? 1897?

 

Adolygiadau diweddaraf:
06 07 2000

 

  0976ke English translation

·····

(1) MARI LWYD
Llythyra newydd y Bachan Ifanc
Un o gyfres o ‘lythyrau’ yn newyddiadur Tarian y Gweithiwr (1896? 1897? yr ym ni wedi colli dyddiad y ffynhonnell)

Na fel odd yr hen ddynon odd yn arfadd a hi yn i galw, "Fari Lwyd." Odd i yn arfadd bod mewn bri mawr yn amsar Nadolig slawar dydd, ond os fawr o son am deni nawr. Otw i ddim moin dangos y munan yn rhw scolar clyfar, ond fe glywas hen ewyrth i fi yn gweid am deni (a odd a yn glyfar, os dim dowt gen i), ta orwth enw'r Forwyn Fair, ne Mair Dda, odd yr enw wedi tarddu, a bod y beirdds slawar dydd yn iwso y gair "lwyd" am dda, fel "Dwn Lwyd," &c. Ta beth am hyny, odd y Fari Lwyd odd yn arfadd dod bothti amsar y Gwila ddim yn depyg i fenyw, wath fe gwelas i ddi rai troion. Pishin o bren wedi cal i naddu run shap a pen ceffyl ne gaseg, os os rhw waniath yndi nhw, o bob lliw, a'i geg a wedi cal i neid mwn ffordd gallsa'r bachan odd yn i witho fa, i shiglo lan a lawr o gordyn fel sa fa'n fyw. Odd y bachan yn perfformio miwn o'r golwg dan sheet wen fawr yn i gwato fa'i gyd, a bachan arall yn i ledo fa wrth ffrwyn a rhipan coch ne las, fel ledo ceffyl.

Odd cwmpni yn myn'd â'r "Feri" rownd trw'r dre ne'r pentra, a chyn bysa nhw yn acto odd un part o'r cwmpni yn myn'd mewn i'r ty, a chauad y drws yn erbyn part arall. Wetin, fysa y rhai odd mas yn dechra "pwnc" trw dwll y clo, a'r rhai odd miwn yn "pwnco" yn u herbyn nhw. Odd amball un yn lled ddoniol wrth y gwaith, a os bysa rhwun clyfar tu fiwn, odd a'n catw y "Fari" mas nes odd y boys jest a sythu. Rhwpath fel hyn odd y pwnco,"-

Tufas,-
"Agorwch y drysa,
Gadewch i ni wara,
Mae'n ôr yn yr eira
Y Gwila."

Tufewn,-
"Cer odd na'r hen fwnci,
Ma d'anadl di'n drewi,
A phaid a baldorddi,
Y Gwila."

Tufas,-
"Ma'r gasag o'r perta,
Gadewch i ni wara,
Mae 'phen yn llawn cnota
Y Gwila."

Tufewn,-
"Yn lle bo chi'n sythu,
Wel, ledwch y "Feri",
I fiwn i'm difyru'r
Nos heno."

Wetin fe fysan yn martsho miwn dan ganu rhw hen lol fel hyn, -

"Ti dy lodl lidl,
Tym tidl odl idl,
Tym, tym, tym."

Os bydda merch ifanc yno rhwla, odd y "Feri" yn starto mwn wincad, a'i phen yn acor, a'r ferch yn screchan, fel gall merched screchan, yn uwch na hwtar Dowlash. Ar ol perfformio felni am spel, o nhw yn doti cap ne het yn ngheg y "Feri" i fyn'd rownd i gasglu at yr achos, ac o nhw yn llwyddo i neid coin piwr cyn cwpla'r "Gwila".

 Dyna fi wedi rhoi cownt lled acos i chi shwd odd y "Feri Lwyd" yn cario mlan; ond ma addysg a goleuni wedi'i hala hi mas o'r wlad erbyn hyn, ac anaml y ma son am deni, a dyw hyny ddim colled yn y byd am wn i. I ni yn lico cofio am hen bethach er hyny, a dyna rheswm mod i wedi gweid cymant am yr hen arferiad hyn, a w i yn cretu bydd llawar o hen ddarllenwrs y Darian yn mynd nol o ran u meddwl at yr hen amser gynt wrth gofio am rw Nadolig y gnetho nhw, fel gnaiff llawar y Nadolig hyn, sef mynd i "glwb y rhacs." A fe wetan yr atnod hyn ar yn ol i :-

"Dyw amsar ddim yn aros,
Ond wrth ei waith o hyd."




DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

 

2189k  Gweler hefyd - Mari Lwyd  - penillion o'r Bont-faen

......

0934k

Y Wenhwyseg - tafodiaith y De-ddwyrain
·····
1796k
Yr iaith Gymraeg
·····
2210k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan; o’r tudalen hwn gellir hefyd
chwilio’r gwefan hwn â’r archwiliwr mewnol

.....
1051e
testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn

º
 

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 

Ble’r wyf i?
Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

 


Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats