1390k Gwefan Cymru-Catalonia. Cerddi yn y Wenhwÿseg. Leicech chi i mi ’weyd yr hanes? / Ma fa’n jobin go anodd i neyd.
/ Ma ngwad i’n twyrno fel ffwrnes / A ’nyrne i’n cau wrth ’i weyd.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_052_magdalen_1910_jjwilliams_1390k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Barthlen

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

 

MAGDALEN

J.J. WILLIAMS

Y Geninen, 1910 



 


(delw 6514)

 

 

  

 (1) MAGDALEN
(YN NHAFODIATH CWM RHONDDA)

Fechgyn, peidiwch â werthin,
    Cynnwch hi ar ’i thrâd,
Cofiwch i bwy ma hi’n perthyn,
    Sychwch y dafna gwâd.

Otw, rwy’n gwpod ’i hanes,
    Rown i’n napod ’i mam a’i thad -
Hen gwpwl yn cretu’n gynnes
    Taw hon odd y berta’n y wlad.

Rwy’n cofio pan gethon nhw’u claddu
    Fod cwmwl ar gopa Pen Pŷch, (= Pen Pych)
A phan o’n nhw’n cwpla canu
    ’Dodd ’no neb a’i lycad yn sych.

’Rodd ’na shew yn wilia pryt hynny
    Taw hi odd achos y peth;
Ond wn i’n y byd beth i’w gretu, -
    ’Dodd hi ddim yn yr anglodd, ta beth.

Cariwch hi miwn i’r cysgod,
    Citshwch o dani’n dyn;
’Licwn i i neb sy’n i napod
    ’I gweld miwn shwd bicil a hyn.

Cwnnwch hi’n esmwth, fechgyn,
    Un  wannedd odd hi ariod;
Ond ’welas i neb er ys cetyn
    Yn llawar mwy smart ar i’ throd.

Rwy’n cofio’n y cyrdda canu
    (Rhyw dicyn o alto ôn i),
Rodd pawb yn wilia am dani,
    ’Dodd ’no neb yr un ca â hi.

’I charu hi? wel, falla ’mod i,
    ’Dw’ i ddim siwr, ’mod i’n napod y peth;
Ond mi bicwn i sŵn ’i throd ’i
    Yn gynt na neb arall, ta beth!

Leicech chi i mi ’weyd yr hanes?
    Ma fa’n jobin go anodd i neyd.
Ma ngwad i’n twyrno fel ffwrnes
    A ’nyrne i’n cau wrth ’i weyd.

Rhyw glercyn o bant ddath hibo
    Yn goler a chyffs i gyd,
Fe’i twyllws hi dan i dwylo,
    Fe’i twyllws hi, dyna i gyd.

Pan welws e beth, ddigwyddodd,
    Fe ddotws ’i drad yn y tir,
Ac fe all e ddiolch i’r nefoedd
    Fod ’i goesa fa dicyn yn hir.

Ma’n rhaid i chi fadde, fechgyn,
    Os gwetas i air o’i le;
Ond mi setlwn i gownt y scempyn
    Mor wir a bod Duw yn y ne.

Ma rhwpath o le yn rhiwle, -
    (Fechgyn, citshwch yn dyn) -
Efe’n gallu mynd ble myn e,
    A hithe’n ’i gwarth ’man hyn!

Beth wedse ’i hen fam hi, druan?
    Wel, diolch am fedd miwn pryd,
Ond haist! ma hi’n dod iddi’i hunan,
    Nos da i chi, fechgyn, i gyd.

J. J. WILLIAMS
(1928)

 

DIWEDD

____________________________________________

DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

1796k
Yr iaith Gymraeg
·····

0934k

Y Wenhwyseg - tafodiaith y De-ddwyrain
·····
0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan; o’r tudalen hwn gellir hefyd
chwilio’r gwefan hwn â’r archwiliwr mewnol
·····
0052c
Testunau Cymraeg â throsiad Catalaneg yn y gwefan hwn
(Textos en gal·lès amb traducció catalana en aquesta web)
·····
1051e
Testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn
(Texts in Welsh with an English translation in this website)

 

_______________________________
 

 

Adolygiadau diweddaraf:  15 09 2002

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 
Enw’r parth: kimkat

Ble’r wyf i?
Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA
 
  

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats