Y Cyfaill o’r Hen Wlad yn
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_081_cyfaill_or_hen_wlad_ebrill_1840_1381k.htm
0001z Yr Hafan / Home Page
..........1864k
Y Fynedfa yn Gymraeg
.....................0009k Y Barthlen
...............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
...............................................2477k Y
Gyfeirddalen i’r Cyfaill o’r Hen Wlad yn America
...............................................................y dudalen hon
|
Gwefan Cymru-Catalonia |
(delwedd
0329) |
(1)
Cofiant Mr. Thomas Jefferson
(2) Sylwedd Pregeth
(3) Adgofion o Daith Trwy
(2) Hanesiaeth Bellenig. Prydain Fawr
&c. DYGWYDDIADAU, &c.
(x97) Y Cyfaill
Rhif. XXVIII. EBRILL 1840.
Buchdrathodaeth.
COFIANT MR. THOS. JEFFERSON
Cynlluniwr Datganiad Annibynawl y
Taleithau Unawl; un o arwyddwyr yr unrhyw; ail Is-lywydd a thrydydd Llywydd y
Gyffrediniaeth (Republic) Americanaidd.
EFALLAI yr ystyrir rhyw ymesgusodiad yn anghenreidiol wrth osod Buchdraelh y gŵr
uchod o flaen enwogion eraill, brodorion Cymreig, gan nad ydym yn hòni iddo ef
yr hawl o fod yn Gymro cyflawn-waed. Y rheswm yw, am mai efe a gyrhaeddodd y
radd wladwriaethol uchelaf ac nad ydyw ond yn ail i GEORGE WASHINGTON ei hun
mewn enwogrwydd yn America; ac y mae clod ei gynneddfau uchel-ryw yn daenedig
drwy yr holl fyd adnabyddus. Nid oes nemawr ag a glywsant son am
O barthed ei haniad Cymreig, y mae genym y sicrwydd goreu, sef ei dystiolaeth
ef ei hun; a chan mai at hyny y tynnir sylw darllenwyr y Cyfaill, efallai, yn
benaf, rhagflaenaf ei gofiant a phrawf o hyny, wedi ei dynu allan o’i
‘Ddyddlyfr,’ yr hwn a ysgrifenwyd ganddo Ion. 6fed, 1821, pryd yr oedd Mr.
Jefferson yn 77 mlwydd oed:
‘Mae y traddodiad yn nheulu fy nhad idd eu hynafiad ddyfod i’r wlad yma o
Gymru, ac
o ardal yr Wyddfa, y mynydd uchaf yn Mhrydain Fawr. Gwelais unwaith mewn achos
o Gymru, yn yr adroddion brawdlysawl, ein henw ni ar un o’r personau, naill ai
yr erlynydd neu y diffynydd; ac yr oedd un o’r enw yn ysgrifenydd i
Gydfasgnachyddion Virginia. Y rhai hyn oeddent yr unig engrheifftiau a
gyfarfyddais o’r enw yn y wlad hono.’
Rhaid cyfaddef nad yw y dystiolaeth hon ond bèr, ond y mae yn ddigonol i brofi
hawl y Cymry yn ngwrthddrych y cofiant hwn; a chan nad oedd y gwr ei hun yn
cywilyddiaw arddel ein cenedl, oni ddylem ninau ei arddel ef yn frwdfrydig ac
yn eofn?
Ganwyd
Thomas Jefferson ar yr 2il dydd o Ebrill, 1743, mewn lle a elwir Shadwell, yn
swydd
Nid oes ar glawr nemawr o hysbysiaeth am dymhor boreuawl Mr. J., ond yr ydwyf
yn deall iddo gael ei dderbyn i Ysgoldy Gwilym a Mari, yn
Galwyd ef i ymarferu yn y brawdlysoedd, ond nid hir y bu yno cyn i’r
wladwriaeth alw am ei ddoniau; a phan yn yr oedran ieuangc o 25, anfonwyd ef i
Dŷ Bwrdeisiawl Virginia; ac yno yr ardystiodd ei hun gyntaf o blaid
iawnderau y trefedigaethau. Rhoddir ganddo mewn ychydig eiriau ei resymau dros
ymuno ag eraill o wladgarwyr Americanaidd yn erbyn Llywodraeth Prydain Fawr:
‘Yr oedd y trefedigaethau,’ meddai, ‘wedi eu trethu yn dufewnol ac yn allanol:
eu breinniau hanfodol wedi eu haberthu i unigolion yn Mhrydain Fawr; eu
llygoedd deddfïawl wedi eu dirymu; eu breinnleni wedi eu dileu; eu personau yn
ddarostyngedig i gael eu trawsfudo dros y Mo^r Werydd i’w profi mewn llysoedd
pellenig; eu herfyniadau am esmwythad yn cael eu hystyried islaw ateb iddynt;
hwy eu hunain yn cael eu cyhoeddi megys llwfr-gŵn yn nghynghorfâau eu
mam-wlad, a llysoedd Ewrop; byddinoedd arfogion yn cael eu gyrru i’w mysg er
gorfodi ymostyngiad i’r creulonderau hyn; a rhyfel weithredol wedi dechreu yn
eu herbyn. Nid oedd dim i’w wneyd ond naill ai gwrthwynebu neu ymostwng yn
ddiammodol. Rhwng y ddau beth hyn
Ysgrifenodd hefyd lyfr o’r un natur, yn cael ei gyfeirio at Frenhin Lloegr, am
yr hyn y’i bygythiwyd a chŵyn am deyrn-fradwriaeth.
tudalen 97
_________________________________________________________
(x98) Yn y flwyddyn 1775, cymerodd ei Ie yn yr Eisteddfod Gyfandirawl, (Continental Congress,) fel Cenhadwr
dros Virginia. Yn y cynnulliad hwn daeth yn fuan yn arnlwg yn mhlith y rhai
mwyaf hynod am eu cynneddfau a’u gwladgarwch. Yr oedd rhyddid
Wedi penderfynu nad oedd un gobaith am gymmod boddlonawl i’r Hen Wlad, galwyd
sylw yr Eisteddfod at y peth trwy gynhygiad o eiddo Mr. Richard Henry Lee,
Cymro arall, i gyhoeddi
Gan mai gwrthddrych ein cofiant a osodwyd yn Gadeirydd y Gyteisteddfod,
gorphwysai
Nid tasg bychan oedd ffurfio ysgrif i ateb i holl amgylchiadau yr achos — yr
hon a osodai allan seiliau yr achwynion, yn ol y gwirionedd — yr hon a ddaliai
fanwl-chwiliad gelynion cartrefol a thramoraidd — yr hon a safai brawf amser —
yn enwedig mewn amser dyfodol pryd y byddai cynhyrfiad yr amser hwnw wedi myned
heibio. Ac yn wir nid oedd ond ychydig o’r gwroniaid a arwyddent y Dadganiad a
allent ymdeimlo yn ddigonol i ymaflyd yn y gorchwyl.
O’i lyfr-ystafell, yn mhen ennyd, Mr. J. a gyflwynodd i’w gydswyddogion y
cynllun gwreiddiawl. Cymhellwyd ychydig o gyfnewidiadau yn yr ysgrifen yn unig
gan ddau o honynt, y Dr. Ffranklin a Mr. Adams. Yr oedd yr holl anrhydedd o’r
cynllun yn perthynu i wrthddrych ein cofiant. Wedi ei ddangos i’r Eisteddfod
gwnawd ychydig o gyfnewiadau bychain eraill ynddo; pa fodd bynag ni wnawd o’r
dechreu unrhyw gyfnewidiadau a newidient yspryd, ffurf a threfn neu nodweddiad
cyffredinol yr ysgrif-brawf. Gwelais ad-ysgrif o’r llaw-ysgrifen, (fac simile), yn nghyda’r holl
gyfnewidiadau a wnawd ynddo.
Yn 1779, dewiswyd ef yn Llywiawdwr ei dalaith frodorawl,
Pan ddychwelodd i’w wlad gynnwynol yr oedd WASHINGTON yn Llywydd y Taleithau,
yr hwn yn ddioed a gyflwynodd iddo y swydd uchaf yn ei feddiant ef, ac ar
ymadawiad yr anfarwol hwnw o’r Llywodraeth cynhygiwyd ef i’r swydd uchaf yn y
wladwriaeth. Ond erbyn hyn yr oedd yr Eisteddfod wedi ymranu o ran eu
golygiadau yn ddwy blaid; a’r blaid wrthwynebol i Mr. Jefferson a ennillodd yr
oruchafiaeth yn yr etholiad, o ganlyniad Mr. Adams a gafodd ei ddyrchafu y tro
hwn i’r Llywyddiaeth, a Mr. Jefferson i’r Is-lywyddiaeth. Wedi i’w gydymgeisydd
wasanaethu un tymhor, dewiswyd Mr.
Wedi ymneillduo o lafur a phryder bywyd cyhoeddus, aeth i fyw i
Ysgrifenodd lawer o lyfrau, a bu yn brif-offeryn i sefydlu y rhan fwyaf o
drefniadau y Llywodraeth, yn nghyda sylfaenu Prif-Ysgol, a llawer o bethau
eraill nas gellir eu henwi yma. O’r diwedd, daeth y dydd ar ba un yr oedd y gŵr
hyglod hwn i derfynu ei yrfa faith a llafurus. Y dydd hwnw, trwy drefniad y
Nefoedd, oedd GORPHENAF Y 4YDD, 1826, yn mhen 50 mlynedd i’r diwrnod a’r pryd
yr arwyddodd ei law wrth Ddadganiad yr Annibyniaeth. Ei oed pan y bu farw oedd
83 ml. dau fis ac un-diwrnod-ar-hugain. Yr oedd yn ddyn o gorpholaeth hardd, yn
chwe’ troedfedd a dwy fodfedd o uchder, yn o deneu, a llygaid goleu ond
dysglaer.
Nid ydwyf yn bwriadu desgrifio gweddnodion Mr. Jefferson yn fanylaidd. Gellir
sylwi bod ei ddull, tra yn eithaf dirodres, yn meddu gradd fawr o
urddasolrwydd. O ran
tudalen 98
_________________________________________________________
(x99) ei ysbryd yr oedd yn hynod o rydd ac haelionus. Mewn amgylchiadau
dyryslyd a pheryglus amlygai gryfder meddwl a gwroldeb nid cyffredin. Ffurfiai
ei farn ar wahanol bethau yn araf a phwyllog, ond wedi ei ffurfio unwaith ni
chyfnewidiai yn hawdd. Yr oedd yn fwy hynod am ddyfnder ei ymresymiadau a
threiddgarwch deall, nag am hyawdledd a ffraethineb ymadrodd. Anfantais neillduol
iddo wrth areithio oedd, pan y byddai ei ysbryd yn gwresogi byddai ei lais yn
gwanhau nes bod agos yn annealladwy.
O barthed ei farn ar byngciau crefyddol nid ydwyf yn dewis dywedyd dim; y mae
ei gyfeillion agosaf ac anwylaf yn annghytuno mewn perthynas i hyn.
Mewn coflyfr o’i eiddo, cafwyd ar ol ei farwolaeth sylw yn crybwyll, os dewisai
neb wneuthur Cofadail iddo, am iddynt roddi yr argraff ganlynol arni:
...................’YMA Y CLADDWYD
..................THOMAS JEFFERSON,
.....Awdwr y DADGANIAD O ANNIBYNIAETH,
.......Deddfau Virginia, er Rhyddid Crefyddol, a
............Thad y Brif-Ysgol yn Virginia.’
C. N. ...............................................................D. L.
JONES.
Duwinyddiaeth
SYLWEDD PREGETH.
Gan y Parch. EDWARD JONES,
ZECH. XIII. 7. — ‘ Deffro, gleddyf, yn erbyn fy mugail, ac yn erbyn y gwr sydd
gyfaill i mi, medd ARGLWYDD y Iluoedd: taro y bugail, a’r praidd a wasgerir; a
dychwelaf fy llaw ar y rhai bychain.’
RHYFEDDOD mawr oedd i Dduw greu dyn ar ei ddelw, a rhyfeddod mawr iawn oedd i
ddyn wrthryfela yn erbyn Duw mor dda, ond y rhyfeddod mwyaf o gwbl — ïe,
rhyfeddod y rhyfeddodau, i Dduw garu dyn wedi iddo fyned yn elyn, a gosod ei
feddwl arno er ei achub, a datguddio hyny i’r dyn trwy yr ymadroddion hawddaf
eu deall yn ei Air Sanctaidd.
Wrth y gŵr oedd yn myned dan yr ergyd, yn y testun, y deallir, nid y pab o
Rufain, ond yn llythyrenol, blaenor y genedl Iuddewig, ac yn brophwydoliaethol
ein Harglwydd Iesu Grist.
Nid oes i ni feddwl wrth y geiriau hyn fod un annghydfod neu annghariad wedi
nac i gymeryd lle rhwng y Tad a’r Mab, ond trwy drefniad doethineb dwyfol, y
Mab yn sefyll yn neddfle pechaduriaid, a’r Tad yn gweinyddu
Oddiwrth y geiriau hyn sylwaf ar y pethau canlynol:
I. Y PERSON RHYFEDDOL A NODIR I’R CLEDDYF — ‘Fy
mugail — y gwr sydd gyfaill i mi.’
1. CYFAILL, (Saes. my fellow.) Y mae
Iesu Grist yn gyfaill addas i’r Tad — o blegid
(1.) Ei fod yn ogyfuwch ag ef mewn natur a bod, (loan i. 1; Deut. vi. 4 ,) o
blegid hyny gorchymynodd ei addoli. Heb. i. 6.
(2.)
Yn meddu yr un priodoliaethau a’i Dad a’r Ysbryd Glan — Tragywyddoldeb, Esa. ix. 6. Hefyd Mica v. 2; Heb. i. 8, &c. — Anghyfnewidioldeb, Heb. xiii. 8. — Hollalluawgrwydd, Dat. i. 8. — Hollwybodaeth, loan xxi. 17. — Hollbresennoldeb, Jer. xxiii. 24; Math.
xviii.
(3.) Yn cyflawni yr un gweithredoedd dwyfol — Creu, loan i. 3. — Cynnal,
Heb. i. 3. — Gwyrthiau, Luc iv. 36. — 44:
Marc iv. 39. — Gwaith yr lechydwriaeth,
Act. iv. 12. — Cyfodi y meirw a barnu y byd, Math. xxv. 31 — 46.
2.’ Gẁn.’ — Arwydda y gair hyn dynoliaeth ŵrol, hardd, a sanctaidd y
Cyfryngwr, Heb. ii. 16; Luc i. 37; loan i. 14. — ‘Ac yn ddiddadl mawr yw
dirgelwch duwioldeb; Duw a ymddangosodd yn y cnawd, a gyfiawnhawyd yn yr
Ysbryd, a welwyd gan angylion, a bregethwyd i’r cenedloedd, a gredwyd iddo yn y
byd, a gymerwyd i fyny mewn gogoniant.’ 1 Tim. iii. 16.
Ofer ymdaeru mai Duw yn ymddangos yn nghnawd pob dyn a olygir yn y geiriau, o
blegid, Pa bryd y cyfiawnhawyd cnawd pob dyn yn yr Ysbryd? Pa bryd, ac i ba
ddyben, y’i pregethwyd i’r cenedloedd? &c. Yr oedd y gŵr a nodir yn y
testun yn wir a pherffaith Dduw, ac yn wir a pherffaith ddyn. Pa buasai ond Duw
yn unig, nis gallesid ei wisgo mewn cadachau — ei hoelio ar groes — ei ddodi
mewn bedd — ac nis gallasai wylo — chwysu —
dyoddef — marw, &c.; a phe na buasai ond dyn yn unig ni ddaethai
angylion i’w addoli, ac nis gallasai iachau pob clefyd — codi y meirw — rhodio
ar y môr — tawelu y dymhestl a gair — dal dan yr holl ddyoddefiadau, ac
adgyfodi o’r bedd.
Pe na buasai ond Duw, buasai yn rhy uchel i gyfathrach dynion — a phe na buasai
ond lyn, buasai yn rhy isel i gyfrinach Duw; ond gan ei fod yn Dduw ac yn ddyn,
geill osod ei law arnom ein dau — gwneyd ammodau a’i Dad, a chydymdeimlo a’i
holl frodyr gweiniaid.
tudalen 99
_______________________________________________________
(x100) 3.
‘
BUGAIL.’ — Dangosir ef yn aml yn yr Ysgrythyrau yn nrych yr enwad yma — Bugail
Israel, Salm lxxx. 1, Bugail eneidiau, 1 Pedr ii. 35; Bugail mawr, Heb. xiii.
20; Pen-bugail, 1 Pedr v. 4. Rhoddir yr enwad yna arno mewn cyfeiriad at ei
holl swyddau cyfryngol. Fel Prophwyd y mae yn fugail i arwain a dysgu ei
braidd. Fel
Offeiriad y mae yn ‘fugail da i roddi ei einioes dros y defaid.’ Ac fel Brenhin
y mae yn fugail i borthi ei braidd, gofalu am danynt, a’u hamddiffyn rhag bleiddiaid
uffern. — Mae lluaws o enwadau ar Grist, eithr nid oes un nad ydyw efe yn ei
lanw, ac nad oes ar ei bobl ef ei eisiau.
4. ‘Fy mugail.’ — I ddangos cariad y Tad ato — ‘anwyl Fab;’ perthynas, ‘Priod Fab;’ neilltuad, Mic. v. 2; etholiad, Salm lxxxix. 3; eneinniad, Diar. viii. 23, &c.
II. Y GALWAD RHYFEDDOL AR Y CLEDDYF YN
ERBYN Y PERSON A NODIR — ‘Deffro gleddyf
— taro y Bugail,’ &c. Ni bu erioed y fath daro a’r fath ddyoddef ag
oedd yma, a’r cwbl yn tarddu oddiar yr un cymhelliad, sef cariad at anrhydedd y
priodoliaethau, ac at bechaduriaid. Hyn wnaeth i’r Tad waeddi, ‘Deffro,
gleddyf, yn erbyn fy mugail:’ &c., a hyn a wnaeth i’r Mab ateb, ‘Y cwpan a
roddes y Tad i mi, onid yfaf ef.’ — Gwelir yma
1. Cospedigaeth — cleddyf — offeryn cosbedigaethawl.
2. Yr alwad — Deffro — Dinystriodd yr hen
fyd, dinasoedd y gwastadedd, brenhin a byddinoedd yr Aipht, &c., a’r
cleddyf megys yn y wain, ac mewn cwsg; ond pan aeth i gosbi pechod — pechod ar
ei anwyl Fab yn neddfle yr euog, rhaid oedd galw y cleddyf i ddeffro nes
cyffroi llu y nefoedd, ac ysbrydoedd damniedig yr uffernolion.
3. Y gweinyddwr — Medd ARGLWYDD y
lluoedd. Yr oedd digon o lid ato yn yr Iuddewon ac yn uffern; ond ni allasai
neb ei gyffwrdd, oni buasai i’r ‘Arglwydd fynu ei ddryllio,’ a hyny o herwydd
iddo osod ei enaid yn aberth dros bechod.
4. Y tarawedig — Y bugail, fel bugail, ac nid fel cyfaill,
yr oedd yn cael ei daro.
5. Y tarawiad — Taro y bugail. O, pwy all ddirnad trymder yr ergid gan na ŵyr
neb fawredd drwg pechodau y praidd a wnawd i gyd-gyfarfod arno ef, na nerth y
fraich oedd yn ymaflyd yn y cleddyf ac yn gweinyddu y gosp. Llai ergyd fuasai
yn ddigon i daro holl greadigaeth Duw i ddyddimdra mewn mynydyn. Nis gwnaeth
ond cyffwrdd a’r hen fyd, boddodd yn y fan. Rhyfedd gariad a nerth y Bugail i
ddàl dano! Y dyben oedd i offrymu aberth difai i Dduw, (Heb. ix. 14 yn lle a
thros bechaduriaid, (Rhuf. v. 19,) ‘fe y dygai hwynt at Dduw,’ (1 Pedr iii.
18,) fy diogelai ei holl wir braidd, Col. iii. 3, 4.
6. Effaith y tarawiad — y praidd a wasgerir — yr Iuddewon fel
cenedl a olygir yn yr ystyr helaethaf — ei ddysgyblion yn yr ystyr gyfyngaf.
III. Y CANLYNIADAU GOGONEDDUS A DDAETH O’R TARAWIAD RHYFEDDOL. — ‘A dychwelaf
fy llais ar y rhai bychain’
Er llid Iuddewon, uffern, a holl allu y tywyllwch, Efe a oruch-lywodraetha y
cwbl i gadw yn fyw bobl lawer.
1. Y personau — y rhai
bychain, sef ei braidd neillduedig Ef, Luc xii. 32.
2. Yr
addewid — Dychwelaf, 1 Cor. xv. 3, 4.
Er eu gwasgaru yn awr cyfyngder ei enaid ef, eto cyfododd yn foreu y trydydd
dydd i’w dychwelyd ato ei hun ac at eu gilydd. Dychwelyd ei law arnynt er eu
hamddiffyn,
3. Y
dull — a’i law — Fy llaw. Wrth y llaw y mae i ni
ddeall ei allu yn ngorochwyliaethau ei Ysbryd Sanctaidd.
Sylwn. Llaw heb un cleddyf ynddi sydd yn dychwelyd y rhai bychain, ond llaw â
chleddyf, a braich anfeidrol, a darawodd ei Bugail anwyl. Gyda llaw gadarn y
symud ef ei bobl o farwolaeth i fywyd. Yn ei law y mae ei holl saint ef, ac yno
y maent yn ddiogel byth.
CASGLIADAU
1. Gwelwn mai mawr yw dirgelwch duwioldeb
— Duw yn y cnawd!
2. Gwelwn fawr gariad Duw — Y Tad yn
rhoddi ei Fab, a’r Mab yn offrymu ei hun. Pan ddisgynodd y cleddyf ar Hwn, yr
oedd yr holl grëadigaeth fel yn galaru — yr haul heb dywynu — y ddaear yn crynu
— creigiau yn hollti — y meirw yn methu cysgu yn eu beddau, Esay, xiv, O!
galedrwydd calon pechadur yn gallael gwawdio er hyn oll a’r cordyn damniol am ei wddf!
3. Gwelwn mai y peth sydd o wir werth yw
bod yn llaw achubol Duw. Ni fyddai bod yn Ddemosthenes yn y Seneddr, yn Alexander
ar faes y frwydr, yn Newton mewn Seryddiaeth, yn Aristotle mewn anianyddiaeth
neu yn Filton mewn barddoniaeth, ac heb fod yn Gristion mewn gwirionedd, ond
bod yn adyn tiawd wedi y cwbl, ‘Gwell fuasai i’r dyn hwnw pe nas ganesid ef.’
O! am fod yn ei law anwyl ef. Amen.
tudalen 100
___________________________________________________________
(x101) LLEWYRCH DWYREINIOL
(llun) IEUO ANNGHYMARUS
ARDDWRIAETH AIPHTAIDD
Es fod rhanau mawrion o’r Alpht yn amaldir diffrwyth, eto y mae parthau ar
lenydd yr afon Nilus (yr hon yn y Beibl a elwir afon yr Alpht) môr ffrythlawn
ag unrhyw wlad yn y byd. Y mae gorlifiant blynyddol glenydd yr afon hon, a
achosir gan y gwlawogydd trymion, yn nghyda dadleithiad yr iâ ar Fynyddoedd y
Lloer o ba rai y tardda, yn dwyn i’r tir lawer lawn o wrtaith bras, yr hyn a’o
gwna yn ffrwythlawn i’r graddau uchaf. Tua diwedd Mai a dechreu Mehefin, pan beidio
y llifeiriant, y trigolion a ddechreuant eu gorchwylion amaethyddawl, y rhai
nid ydynt, mewn un modd, yn galed. O herwydd brasder naturiol y tir, nid oes
eisiau ond ychydig ddarpariaeth arno er derbyn yr had. Mae y ddaear mor feddal
fel nad yw aredig ond gwaith ysgafn iawn, a’r offeryn a ddefnyddir i’r diben
nid yw ond annghelfydd ac ysgafn, fel y gellir gweled oddiwrth y darlun uchod. Ychain
ac asynod ydynt yr unig anifeiliaid a ddefnyddir at y gorchwyl hwn, gan fod
ceffylau yn cael eu cadw i farchogaeth a rhyfela. Weithiau yn mhlith y graddau
tlottaf o arddwyr gwelir ŷch ac asyn wedi eu hïuo yn nghyd er llusgo yr
aradr, ond nid yw y fath gyssylltiad annghydradd i’w weled yn aml, oblegid y
mae y gwahaniaetlh mawr sydd rhwng y creaduriaid hyn o ran eu maintioli, yn
gystal a thueddiadau, yn ei gwneuthur yn boenus lawn iddynt gydlafurio dan y un
iau, fel y gwelir uchod. Bod y cyfryw arferiad yn mhlith yr Iuddewon boreuol,
sydd amlwg oddiar fod deddf wedi ei phasio i’w wahardd ‘Nac ardd âg ych ag âg asyn.’ Deut. xxii. 10.
Yr oedd y gwaharddiad yma, meddai yr enwog Poole, “Naill ai, yn laf, o blegid
fod y naill yn greadur glan a’r Hall yn aflan (dan y ddeddf gysgodawl,) trwy yr
hyn y mynai Duw addysgu dynion i ochelyd halogi eu hunain, trwy gyffwrdd a phersonau
neu bethau aflan, ‘Na iauer chwi yn annghymarus gyda’r rhai digred: canys pa
gyfeillach sydd rhwng cyfiawnder ac annghyfiawnder? a pha gymmundeb rhwng
goleuni a thywyllwch? &c 2 Cor. vi. 14, neu, yn 2il, o blegid y gwahaniaeth
mawr oedd rhyngddynt mewn grym, trwy yr hyn y byddai i’r gwanaf, sef yr asyn,
gael ei orthrymu neu ei weithio yn ormodol
— neu, yn 3ydd, oddiar resymau
dirgeledig, fel yn yr adnod flaenorol,’ — yn yr hon y dywedir ‘Na haua dy
winllan ag amryw had,’ &c., lle y’n rhybuddir rhag cymysgu gosodiadau Duw
a’n dyfeisiad ein hunain mewn athrawiaeth neu addoliad.
ADDYSG
Meddyliem mai darlun addas iawn fyddai yr un uchod i’w roddi yn llaw darllenwyr
ieuaingc y Cyfaill, ag sydd yn bwriadu myned i’r ystad briodasol. Edrychwch
arno yn fanwl. A welwch chwi fel y mae yr ŷch yn
tudalen 101
___________________________________________________________
(x102) tynu yn mlaen, tra mae yr
asyn yn tynu yn ol? Onid yw yn rhaid fod yr iau yn eu briwio ill dau? Ni fedr y
naill gyd-gamu a’r llall, eto rhaid cyd-fyned; onid yw hyn yn annghysurus i’r
eithaf? Oni welir yn mwyneidd-dra ymddangosiadol yr ŷch ac ystyfnigrwydd
yr asyn ddarlun cywir o lawer pâr yn y byd. Ymofynwch am gymharon o’r un
egwyddorion, tueddiadau ac arferion a chwi eich hunain, onide, nid yn unig ni
ellwch dynu y gŵys wrth fodd y Prif Arddwr Goruchel, eithr hefyd bydd yr
iau yn boen, trallod, a gofid i chwi hyd y dalar, sef angeu, i’r naill neu y
llall.
---
GAU-OBAITH Y RHAGRITHIWR.
---
O! Ragrithiwr! O! dy obaith gau ! A ai di
i mewn i’r nefoedd? A esgyni di i’w fynydd sanctaidd ef? A etifeddi di wlad yr
addewid! A ai di drwy byrth Paradwys? yr hwn wyt annghyfiawn — yr hwn y mae
natur yr Aifft ynot — yr hwn wyt yn blysio ei garlleg a’i wynwyn — yr hwn nad
yw dy ddwylaw yn lân; yr hwn wyt ddyeithr i fywyd Duw; yr hwn wyt yn ymdrochi
yn dy chwantau; yr hwn wyt o’r groth yn ymddyeithro; yr hwn a ddywedi wrth
Dduw, ‘Cilia oddiwrthyf!’ yr hwn y mae dy syniad yn elyniaeth yn erbyn Duw; yr
hwn na luniwyd di iddo ef ei hun; yr hwn ni wnaethpwyd yn gymhwys trwy gyfiawnhad,
ailenedigaeth a sancteiddhad! Pa fodd yr ai di yno? Dos, cais baradwys Mahomet,
nid yw Cristionogaeth yn addaw nefoedd i ti fel yr wyt; bydd trigfanau pur
gogoniant yn dragywyddol gauedig rhagot. O feibion daear! ni fuoch erioed ond
dyeithriaid yma. Cofleidiaist y domen fel dy ran, pa fodd na fydd yn gywilydd
gan Dduw alw ei hun yn Dduw i ti? Pa fodd y gwnaiff ef i ti ‘lynu wrtho fel
gwregys wrth lwynau gŵr?’ Pa fodd y bydd ei galon atat ti? A elli di
gymodi goleuni a thywyllwch? A elli di heddychu tân a dwfr? Os gelli, yna ti a
elli gael cyfiawnder ac annghyfiawnder i gymdeithas. Pa beth! a wna Arglwydd y
wlad newid ei gynghor — a wna efe ei hun yn anwir? a dynn efe ei fygythiad yn
ol? a egyr efe byrth paradwys i ti? Pe gwnai efe y peth anmhosibl hyn, pa le y
ffoit oddiwrth dy gydwybod a rhag cnawdolrwydd dy galon? oddiwrth euogrwydd dy
gydwybod, meddaf, — ai i’r nefoedd? Bydd hithau yno, yr un fath a phe cyweirit dy
wely yn uffern. Pa fodd y gelli sefyll yn ngwyneb y Tân Ysol? Saetha fellt
trwot mor gynted ag y cyffyrddi â’i Fynydd Sanctaidd ef, a phe b’ai dy gydwybod
yn dawel yno fel y mae yma, eto byddi yn mhell oddiwrth ddedwyddwch. Pwy all
gymmodi cnawdolrwydd dy galon ag ysbrydolrwydd y y nef? O hyfryd drigfanau! —
O! fel y derfydd dy lawenydd yno — yr hwn y mae dy enaid yn llawn pechod. Pa
ddedwyddwch elli di gael yn mhlith y preswylwyr yno? Yno y mae ysbrydoedd y
cyfiawn y rhai a berffeithiwyd, wedi diangc ar y byd pechadurus hwn. Yno y mae
cynnulleidfa y rhai cyntafanedig, y rhai ni cheraist di erioed. Yr oedd eu
sancteiddrwydd anmherffaith yn wrthddrych dy elyniaeth di, pa fodd y gelli fod
yn ddedwydd yn eu plith wedi eu perffeithio.
Gwaith y Nef ni chwanega un iot at dy ddedwyddwch di. O! enaid ansanctaidd, pa
hyfrydwch elli di gael i edrych yn ngwyneb Duw, yr hwn na bu yn dy holl
feddyliau? Pa hyfrydwch fydd i ti weled y Duw-dyn, yr hwn a wrthodaist ac a
ddiystyraist yma? Pa hyfrydwch elli di gael wrth edrych ar holl briodoliaethau
y Duwdod yn dysgleirio gyda digyffelyb ogoniant, yn ngwyneb cyfryngdod y
Meichiau, na lewyrchasant i’th galon yma er dy gyfnewid. Pa fodd y gelli
ganu yno — na chlywodd y Nefoedd un gân yn dy babell, na mawl dros dy wefusau
yma.
Chwilia
yn fanwl seiliau dy obaith, cyn y delo angeu a’i ysgubell i ddryllio dy holl
sylfaeni, a Duw o’i râs a’m gwnelo i a thithau yn gymhwys i gael rhan o
etifeddiaeth y saint yn y goleuni.
---
Briw-fwyd.
“Cesglwch y briwfwyd gweddill, fel na
choller dim.”
IESU GRIST.
---
GWIRIONEDD — ydyw yr unig had oddiwrth ba un y tŷf gwir sancteiddrwydd neu
ddedwydwch; ac oddieithr hau had,
---
CREFYDD. — Ymrysona dynion dros grefydd; ysgrifenant drosti; ymladdant drosti;
byddant feirw drosti, gwnant bob peth ond — byw
drosti. — Lacon.
---
HUNAN-GAIS. — Dyn hunan-geisiawl yw y gelyn mwyaf iddo ei hun. Y mae yn poeni
ei
---
HEDDWCH EGLWYSIG. — Pan y mae heddwch a chyfiawnder yn ymgusanu mae yr Eglwys
tudalen 102
_____________________________________________________________
(x103) yn fwyaf
cysurus; ac yn fwyaf truenus pan na chyfarfyddont, neu er cyfarfod, nad
ymgusanant. Y mae yn dda genyf heddwch, ond gwell genyf gyfiawnder; eto byddai
yn well genyf beidio ymryson am wirionedd dibwys, na therfysgu yr heddwch
cyffredin. —
Yr un.
---
HAU MEWN DEIGRAU. — Y mae y duwiol yn hau mewn deigrau ac yn medi mewn
gorfoledd. Mae tymhor hau yn gyffredin yn wlyb a thywyll; ond ymfoddlonaf ar
Wanwyn gwlyb os gallaf fedi mewn tymhor gorfoleddus. — Yr un.
---
GOBAITH DA. — Rhaid i ni sylfaenu ein gobaith am nefoedd ar ddignolrwydd
haeddiant Crist er maddeuant pechod, gallu ei Ysbryder sancteiddio ein natur, a
llwyddiant ei eiriolaeth er cael i ni bob da. — Matthew Henry.
---
YMDDIBYNIAD AR RAS. — Y mae ymddibyniad parhaus ar râs y Cyfryngwr er byw yn
dduwiol, mor anghenreidiol ag ydyw ymddibyniad ar ei ragluniaeth er byw yn
naturiol. — Yr un.
---
CALON OER. — Os yw y galon yn oer gweddïwch nes y cynheso. Esgeuluso gweddi am
fod y galon yn anaddas, yw gochelyd y tân am eich bod yn oer. — Hervey.
---
DYFAL BARHAD. — Pan ddeisyfwyd ar John Calvin roddi heibio ei lafur
gweinidogaethol — ‘Beth!’ eb efe, ‘a ddymunech chwi i’m Meistr fy nghael
yn segur?’
---
SIOMEDIGAETHAU. — ‘Bendigedig fyddo Duw,’ ebe Whitefield, ‘am yr holl
siomedigaethau a gefais. Da i mi yw im’ gael fy nisodli, fy nirmygu, fy
ngwaradwyddo, fy enllibio, fy marnu gan a’m hysgaru oddiwrth fy nghyfeillion
agosaf ac anwylaf. Trwy hyny y profais ei ffyddlondeb Ef yr hwn yw y goreu o
gyfeillion.’
---
Amrywiaeth
---
ADGOFION
O DAITH TRWY
(1) (Rhif 28, Cyfrol 3, Ebrill 1840,
tudalennau 103-105)
BARCH. OLYGYDD, - Ar gais llawer o’m cyfeillion mewn amrywiol fanau,
anfonais atoch yr ychydig linellau canlynol, pa rai a gynnwysant ychydig o
hanes fy nhaith yr haf diweddaf trwy Ohio, Pennsylvania,.&c., yn
nghwmnïaeth y Parchedigion Henry Rees a Moses Parry; ac er nad oes unrhyw beth
hynodawl yn yr hanes, eto gwn yn sicr fod ugeiniau o dderbynwyr a phleidwyr
gwresocaf y Cyfaill a garant eu gweled fel y maent; ac os cydwelwch chwithau,
wele hwynt at eich gwasanaeth.
CYCHWYNAIS o Remsen Mehefin y 9fed, am 9 yn yr hwyr; a daethum i Utica erbyn 3
yn y boreu. Pan oleuodd y dydd, cefais afael ar fy nghyfeillion yn nhŷ Mr.
Evan Roberts. Brysiwyd i wneyd pob peth yn barod. Priodwyd dau yno y boreu
hwnw, gan y Parch. M. Parry. Cymerwyd boreufwyd, a chadwyd dyledswydd; yna
ffarweliwyd â chyfeillion Utica ar lân y gamlas, a phrysurwyd i’r cŵch; ac
ymaith a ni yn ddioed am hanner awr wedi saith boreu ddydd Llun, y 10fed o
Fehefin. Cawsom ddiwrnod hynod gysurus o ran yr hin, a’r cwch yn teithio yn
gyflym er ei fod yn dra llawn o deithwyr. Yn eu mysg yr oedd llawer math o
ymddyddanion gwag a choeg-ddigrifwch. Er fod pob peth yn hollol foneddigaidd,
eto meddyliyn fod arnom angen am ymddidoli, a dyfod allan o’u canol hwynt; a
chawsom y fraint o dreulio y diwrnod mewn modd difyr a buddiol trwy adrodd ein
profiadau wrth ein gilydd, a’n golygiadau ar amrywiol ranau o’r gwirionedd. Y
gair cyntaf a fu dan sylw oedd, ‘Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef.’ Gwnaeth Mr.
Rees amryw sylwadau dyddan a elus oddiwrth y geiriau. Dangosodd yr
anghenreidrwydd oedd arnom i’w gydnabod yn ffordd ei ragluniaeth, ac yn ffordd
ei râs, &c. Yna gofynwyd pa fodd y gall dyn wybod fod yr Arglwydd yn ei
anfon i wneyd dim gyda’i waith, yn enwedig pregethu yr Efengyl? Ar hyn
adroddodd y brodyr yr ymrysoniadau a’r cymhelliadau a fu ar eu meddyliau o
barthed dyfod i’r America. Palla amgylchiadau y lle hwn i mi adrodd eu
dywediadau yn gyflawn. Addefent fod ein hachos wedi bod môr bwysig ar eu
meddwl, fel y bu yn brif fater gweddi ganddynt, ‘Os nad oedd yr Arglwydd yn
foddlon iddynt ddyfod, am iddo ddangos hyny trwy ryw foddion; ond ni welsant un
arwydd o’i anfoddlonrwydd, ond pob peth i’r gwrthwyneb.’ Adroddasom hefyd amryw
bennillion crefyddol wrth ein gilydd, un o ba rai a gyfansoddodd Mr. Rees i’w
ferch fechan, ac un arall pan syrthiodd ei wraig i blith lladron Llynlleifiad,
pryd yr yspeiliwyd hi o 30p. Yr oedd ei
tudalen
103
__________________________________________________________
(x104) brydyddiaeth fel ei
bregethau yn hynod o ysgrythyrol, plethedig, manylaidd, a medrus; ond yng
nghanol y difyrwch hwn wele ni mewn profedigaeth fechan – dychwelodd y Cadben fil
pum’ dolar yn ol i mi gan ddywedyd mai un drwg ydoedd. Yr addysg a dynnwyd
oddiwrth hyn oedd, mai gwell oedd fod gennym $5 drwg na chrefydd ddrwg. Daethom
i Chittiningo erbyn 5 y prydnhawn, Syracuse erbyn 9, Clyde erbyn 5 boreu ddydd
Mawrth, a Lyons erbyn 9, lle hynod o ddymunol, i’r olwg. Penderfynai y brodyr,
pan aent adref i annog pawb a glywai ar ei galon ddyfod i’r wlad hon i fyw,
ddyfod â phregethwyr gyda hwynt, na phreswylio yn agos at eu gilydd er mwyn
cymydeithasu â’u gilydd mewn modd crefyddol.
Rhyfeddent lawer weled cymmaint o waith wedi ei wneyd yn America, a hithau yn
wlad mór newydd. Dywedodd Mr. Parry ei fod yn ofni fod ein gweddïau yn cael eu
cyfyngu i gylch rhy fychan. Addefem fod yr Arglwydd yn hyn, fel mewn pethau
eraill, yn gwneuthur yn dra rhagorol, y tu hwnt i ddim yr ydym ni yn ei feddwl
na’i ddymuno. Gwelem ein hunain hefyd yn rhy fyr yn ein hymddyddanion
crefydddol a’n cyd-deithyddion. Ar hyn daeth y gair hwnw dan sylw ‘Na roddwch y
peth sydd sanctaidd i’r cŵn, ac na theflwch eich gemau o flaen y moch.’ -
Dywed Mr. Rees y byddai Mr. Whitefield yn ymhysbysu ei hun yn mhob lle, ac yn
dyweyd gair am Iesu Grist hyd yn od yn mysg y mòrwyr, a’r bobl fwyaf annuwiol;
a chyda’r gair, wele ŵr bonheddig yn gofyn i ni ai yn achos yr Efengyl yr
oeddem yn trafeilio, i’r hyn yr atebwyd yn gadarnhaol. Gofynodd o ba le yr
oeddym, ac am ein gwahanol swyddau gyda’r gwaith – pa mor belled yr oeddem am
fyned, a pha beth oedd dyben ein mynediad, i’r hyn y rhoddasom atebiad llawn a
boddhaol. Ar hyn cynhesodd ei galon yntau atom, a dywedai nas gallai ymattal yn
hwy heb hysbysu i ni mai yn achos yr Efengyl yr oedd yntau yn teithio, a’i fod
wedi ymweled â gwahanol ganhenau o eglwysi yn mhlith y Saeson. Taer ddymunai ar
y brodyr, Rees a Parry, pan aent adref, anfon gweinidogion o Gymru i’w
cynnorthwyo y y wlad hon. Anrhegodd ni am amryw draethodau. Erbyn hyn meddyliai
y brodyr y byddai teithio cyffredinol ar y gamlas yn achos yr Efengyl yn dda,
ac yr atebai trwy hyny radd fawr o ddyben ei wneuthuriad. Daethom i Palmyra
erbyn 1, (ond nid Palmyra, Ohio.) Y prydnhawn hwn bu genym sylwadau dyddan
oddiwrth waith Mr. Charles, yn ysgrifenu ar ddefnyddioldeb llygad wedi ei oleuo
gan yr Ysbryd Glan; ond cael hyny bydd yr holl ddybenion wedi eu hunioni ar
unwaith. Yna aeth yn ymholi yn ein plith pa bath oedd ein dyben ninau wrth
fyned i Ohio. Meddyliwm yn gydwybodol fod ein dyben yn onest, ac annogem ein
gilydd i ymddiried yn addewidion yr Arglwydd i’w bobl, megys y geiriau hyny,
‘Wele yr wyf fi gyda chwi bob anser hyd ddiwedd y byd.’ Pa cyn lleied y mae y
gorau o honom yn ei ymddiried i addewid noeth yr Arglwydd, os na welwn ryw
arwydd o’i chyflawniad. Ac os na ddaw hyny i ben yn fuan byddwn yn amheu na
ddaw byth. Mae arnom eisiau, fel Adda, fod megys Duwiau yn gwybod da a drwg; ac
fel mab afradlon - eisiau arnom gael y rhan a ddygwydd o’r da yn ein llaw ein
hunain, ac oni chawn hyny, byddwn yn barnu fod ei cysuron wedi eu colli; ond
nid ydym wedi ein gadael i ddarpau drosom ein hunain; ac ni fynem iddi fod
felly er y byd! na - O Arglwydd, cadw y cwbl yn dy law dy hunan, a chynnorthwya
ninau fel begeriaid tlodion i fyw arnat ti. Nis gallwn lai na meddwl am
eiriau yr hen Jacob, ‘Os Duw fydd gyda myfi, ac a’m ceidw yn y ffordd yma, yr
hon yr wyf yn ei cherdded,’ &c. Bydded gyda ninau yn yr anturiaeth hon. O!
pa fath drugaredd - pa fath ragorfraint! Duw i fod gyda ni - nid angel, nid
seraph: nage, ond y Duw Tragywyddol ei hunan’: nid trosom yn unig, ond gyda ni,
yn gydymaith ac yn gyfaill. Gyda phwy! ai gydag angylion neu ysbrydoedd y
cyfiawn a berffeithiwyd? Byddai hyny yn rhyfedd yn wir: ond pa beth a ddywedwn
pan glywom fod Duw gyda phechadur, gyda gwrthryfelwyr a drwgweithredwyr.
Erbyn 4, daethom i le o fewn wyth milltir i Rochester, trwy groesi y wlad; ond
yr oedd yn un-ar-bymtheg gyda’r gamlas. Talodd cadben y cwch am gerbyd i ni ac
eraill, er mwyn cyrhaedd y lle a enwyd cyn yr ymadawai cwch Buffalo oddiyno.
Daethom yno erbyn 6 y prydnhawn ddydd Mawrth. Mae Rochester yn ddinas fawr a
hardd, ac ynddi lawer o felinau ŷd yn cael eu troi gan yr afon Genessee,
yr hon sydd yn rhedeg drwy ganol y dref. Gwelsom yma dy yn llosgi, ond
diffoddwyd ef yn fuan.
Cychwynasom drachefn mewn cwch arall â’n hwynebau tua Buffalo, (95 milltir.) Pan
oleuodd y dydd dranoeth yr oeddem yn Middle Point, a rhwng
tudalen 104
____________________________________________________________
(x105) New-York i
Ohio a Phennsylvania. O! Pa mòr analluog ydym ni i’w chyflawni mewn modd
dyledus a theilwng; ond efallai y gwrandewir ein gweddiau gwael, a gweddïau ein
brodyr gartref, fel y rhoddir i ni ymadrodd ag y gallom agoryd ein genau yn hŷ.
Wrth ystyried peryglon y daith, daeth y gair hwnw dan sylw, ‘A’i asgell y
cysgoda efe drosot,’ a chan ei.fod Ef ‘drosom pwy a all fod i’n herbyn.’ –
‘Arbedaf hwynt hefyd fel yr arbeda gŵr ei fab sydd yn ei wasanaethu.’ Mae
wedi ein harbed ninau yn rhyfedd, greaduriaid gwael ac annheilwng. Aeth i
daranu yn y prydnhawn. Digalonodd hyn beth arnom: Ymddangosai yr afon fawr St.
Lawrence yn ei dylifiad araf, yr hon oedd yn gwahanu rhyngom a Chanada Uchaf,
yn hynod o hyfryd a dymunol i’r olwg. Daethom i Buffalo yn gynar brydnhawn
ddydd Mercher. Mae hon hefyd yn ddinas fawr, a llawer o fasgnach ynddi, o
herwydd ei bod ar lan Llyn Erie.
Cychwynasom am 3 y prydnhawn yn yr agerddlong Cleveland, yr hon ydoedd yn hynod
hardd i’r olwg a chostus ei gwneuthuriad. Clywais ein bod dros 150 o deithwyr
yn y caban, a phob un yn talu chwech dolar, heblaw llawer yn y steeirage, a
nwyfau eraill. Cawsom daith hynod o hwylus. Aethom 90 milltir mewn saith awr.
Cyfododd gwynt - attaliodd gyflymdra y llong i bedair milltir yn yr awr; ond
daethom i Cleveland erbyn 3 prydnhawn ddydd lau. Fel yr oeddem yn neshau at dir
Ohio, yr oedd gwres mawr Gorphenaf yn ei meddyliau ni yn dyfod i’n cyfarfod a
phedwar cant o wyr; ond dyddanem ein gilydd a’r ymadroddion canlynol: ‘Ni’th
dery yr haul y dydd, na’r lleuad y nos - ac ni ddygwydd i ti niweid. ‘Erbyn hyn
yr oeddem bron yn credu y caem daith lwyddiannus, a’n cadw yn ddiogel, o
herwydd ‘pwy a ddywed y bydd dim heb i’r Arglwydd ei orchymyn.’ Ac os efe sydd
yn gorchymyn i ninau fyned i’r daith diau y rhydd orchymyn i’w angylion ein
cadw - ac os gwel efe yn dda ein cadw a’n diogelu i ddyfod yn ol at ein
teuluoedd a’n cyfeillion bydded i ninau addunedu, fel Jacob, y caiff Arglwydd
fod yn Dduw i ni byth. Nid ein diogelu yn unig sydd arnom eisiau, ond hefyd
cynnorthwyon neillduol i iawn draddodi gair y gwirionedd. ‘Nac arwain ni
oddiyma, onid â dy wyneb gyda ni.’ Ond cael hyny bydd yn ddigon. Trwy ffydd yr
ymdeithiodd Abraham yn nhir yr addewid; ac os ydym ninau yn blant iddo, nyni a
deithiwn trwy ffydd yn nhiroedd helaeoth Ohio a Phennsylvania, fel rhai yn
gweled yr anweledig. Ei weled yn ngogoniant ei ragluniaeth a’i ras, yn
neillduol yn bywhau y meirw, yn deffro cysgaduriaid, yn dwyn y pell yn agos,
a’r afradloniaid adref; yn cryfhau grasau ei bobl, ac yn ail-ennyn ei ddawn
ynddynt ac ynom ninau hefyd, ‘Gweler dy waith tuag at dy weision a’th ogoniant
tuag at eu plant hwy.’
Soniai y brodyr yn aml ddydd Mercher a Iau am Sosasiwn y Bala, yr hon a
gynhelid y dyddiau hyn yn ol eu barn hwy. Sicrhaent eu bod yn gweddïo llawer
drostynt hwy yno.
Gadawsom Cleveland, ac yn ddioed aethom rnewn cwch ar y gamlas, a’n gwynebau
tuag Akron, (38 o filltiroedd.) Daethom yno erbyn 4 foreu ddydd Gwener; ac
oddiyno mewn cerbyd i Palmyra erbyn 2 yr un dydd - 25 militir o ffordd.
Derbyniwyd ni yn roesawgar gan drigolion y lle. Cadwyd society yno ddydd
Sadwrn am 2: treuliwyd hono yn benaf mewn ymddyddan â’r blaen- oriaid, ac mewn
ymofyniad am ansawdd yr achos crefyddol yn y lle hwn. Yr oedd yma rai pethau yn
dra dymunol a siriol, eto gwelsom rai arwyddion bod amrai bechodau yn rhy
flagurog, megys diotta, &c. Rhif yr Eglwys yn y lle hwn yw 56, pregethwr, y
Parch. H. Powel; swyddogion, 4; plant, 50. Maintioli eu capel yw 35 troedfedd
wrth 30. - Mae yma ddau gapel eraill, un yn perthyn i’r Bedyddwyr, a’r llall
i’r Annibynwyr. Barnent fod o 200 i 300 o deuluoedd Cymreig yn byw yn Palmyra
a’i chyffiniau. Dull gwyneb y wlad sydd led wastad - ansawdd y tir yn glaiog, a
llawer o hono heb ei arloesi. Y prif bethau a werthir at wneud taliadau ydyw
ychain ac anifeiliaid hesbion. Ymddangosai y trigolion yn lled iach. Pregethodd
y brodyr dyeithr yno y Sabboth am 10,
(I’w barhau) Gweler 2474k
---
BUDDIOLDEB YR YSGOL SABBATHOL
MR. GOLYGYDD,- Trwy gymhelliad Cymdeithas Gymreigyddawl Lonaconing, wele hyn o
linellau at eich gwasanaeth, ac os bernwch y bydany o ddefnydd i godi swydd
tudalen
105
_______________________________________________________
(x106)
mewn rhyw un i’w phleidio, neu roi adnewyddiad i rywun o’i phleidwyr presennol,
ymdrechwch hebgor lle iddynt yn y Cyfaill, ac onide, rhoddwch hwynt yn
boeth-aberth.
---
WRTH ddarllen hanes ein cydgenedl yn yr amseroedd gynt, mewn eu bod yn dra
dysgedig hyd pan y’u goresgynwyd, ac y llosgwyd eu llyfrau. Cawn hefyd eu bod
yn dra eilun-addolgar, nes cael adnibyddiaeth o’r unig wir a’r bywiol Dduw. Ond
Duw o’i ras a ymwelodd yn foreu ag Ynys Prydain, trwy anfon i’w theithio
Bendefiges ardderchog, sef yr Efengyl, meddylia rhai, mór foreu ag amser Paul:
eithr daeth y gelyn yn foreu yno hefyd, ac a hauodd efrau Pabyddiaeth; a chan
mai prif osodiad yr eglwys hono yw, ‘Mai mammaeth Duwioldeb yw anwybodaeth,’
onid oedd yn yno le iddi ann dderbynfa? Ond cofiodd Duw genedl y Cymry
drachefn, ac a drefnodd foddion i’w chyfodi o’i hiselradd.— Argraffwyd yno lyfr
yn y flwyddyn
Yn y flwyddyn 1567, argraffwyd y Testament Newydd i gyd yn Gymraeg; gan mwyaf
o gyfieithiad Gwilym Salisbury o’r Cae Du, yn mhlwyf Llansannan, swydd
Ddinbych. Efe oedd y cyntaf a ymroddodd at y gorchwyl pwysfawr, dros ogoniant
ei Dduw, a lles ei gydgenedl. Gwedi hyny, yn y flwyddyn 1588, argraffwyd y
Beibl yn gyflawn trwy lafur y Parch. Wm. Morgan, yn benaf, Esgob Llanelwy, gŵr
a anwyd yn Wybr-nant, plwyf Dolwyddelen, sir Gaernarfon. Yr oedd amrai, mal
Aaron a Hur, yn cynnal ei freichiau, o ba rai dylem goffau y bardd godidog a
gyfansoddodd y Salmau cân, sef y Parch. E. Prys, archdïacon Meirionydd. Yn y
flwyddyn 1620, cyhoeddodd y Dr. Richard Parry, yr hwn a wnaed yn Esgob
Llanelwy ar ol y Dr. Morgan, gyfieithiad diwygiedig o’r Beibi, a hwn yw y
cyfieithiad argraffiedig hyd y dydd heddyw. Ond yr oedd y Beiblau hyn wedi eu
hargraffa mewn llythyrenau breision, ac yn rhy uchel eu pris i’r tlodion, fel
na wyddai y cyffredin ddim amdanynt ond yr hyn a glywent yn yr eglwysi ar y
Sabbothau, nes y cynhyrfwyd calonau dau ŵr enwog, sef Syr Thomas
Middleton, o Gastell-y-waun, a Mr. Rowland Heylin, i argraffu Beiblau: ac yn
ganlynol Mr. Stephen Hughes, Mr. Vavasor Powell, Mr. Walter Cradoc, Mr. David
Jones, a Mr. Moses Williams, ac eraill, y rhai olaf yn cael eu cynnorthwyo gan
Gymdeithas Anrhydeddus yn Llundain, yr hon a sefydlwyd tua 350 o flynyddoedd yn
ol, er taenu gwybodaeth Gristionogol.’ Anrhegodd y Gymdeithas hon y Cymry â
thros driugain mil o Feiblau yn yspaid 51 mlynedd, sef o’r flwyddyn 1718 hyd
1769. Yr ydys yn anmharchu gormod ar yr hen fam eglwys — gwelwch pa faint o
ddaioni a wnaeth pryd nad oedd son am wyrthiau yr enwadau eraill, er nad wyf yn
amheu bod beiau ynddi.
Eithr er cael Beiblau, yr
oeddynt fel ffynhonau seliedig i lawer — ni fedrent ddarllen. Ar hyn ymroddodd
y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, at y gwaith o gael ysgolion rhad i’r
Cymry, ac a lwyddodd yn rhagorol trwy gymhorth y foneddiges dduwiol Madam
Bevan, yr hon hefyd a adawodd tuag atynt 10,000
o bunnau yn ei hewyllys. Ffurfiwyd yr ysgolion hyn tua’r flwdddyn 1750; a
chanlynwyd hwynt ag ysgolion nos tua’r flwyddyn 1767. Mae yn ddiamheu i lawer
gael lles mawr yn yr ysgolion uchod, pa rai fu ag y sydd, fel yr oedd ‘ Moses
ac Aaron yn mhlith ei offeiriad Ef, a Samuel yn mhlith y rhai a alwant ar ei
enw,’ yn mhlith pa rai y mae yr enwog Barch. John Elias sydd mòr rhagorol a
ffyddlon yn ei lafur dros enw yr Arglwydd.
Eto, er ysgolion rhad ac ysgolion nos, yr oedd diffyg mawr yn parhau. Er cael
Beiblau i’w hiaith, a’r Efengyl yn cael ei phregethu yn helaeth gan wahanol
enwadau, yr oedd teyrnas y tywyllwch yn parhau yn gadarn, a’i banierau yn
chwifio yn uchel, yn enwedig ar ddydd yr Arglwydd. Trown ein golwg yn ol at y
dull y byddai y Sabboth yn cael ei halogi. Ymdyrrent yn nghyd o bob gradd ac oedran,
i ryw wasanaeth cythreulig a alwent yn dwmpath chwareu, y gweinidog dros y
cythraul fyddai crwthwr, yn swn yr hwn y diiwnsiai rhai, tra y byddai y lleill
yn ymddyfyru mewn castiau eraill, megys cicio y bêl droed, ymaflyd codymau,
ymladd ceiliogod, &c.; ie, gresynus yw meddwl, cyn y buasai y gwasanaeth
braidd drosodd, byddai y bêl yn cael ei tharo yn erbyn mur yr eglwys. Ond rhy
faith fyddai enwi eu holl gampiau annuwiol. Wrth daflu golwg ar agwedd Cymry yn
y dyddiau hyny,
Wele wawr yn codi! Yn y flwyddyn 1803, cyfododd gŵr duwiol, o’r enw Robert
Raikes, Ysw., o dref Caerloyw, ei olwg ar y dyffryn, ac wrth sylwi ar blant yn
chwareu ar y Sabboth, meddyliodd mai gwell fuasai eu bod mewn rhyw ysgol.
Cyflogodd bedair o ferched i addysgu cynnifer ag a allai ddanfon atynt. Ond nid
hir y bu gorfod talu. Ymledanodd yr un yspryd trwy Loegr, a neidiodd y diweddar
Barch. Thos. Charles, o’r Bala, i ymofyn yr un fraint i genedl y Cymry.
_______________________________________________________
(x107)
Bendithiodd Duw eu llafur, nes y gwelwyd yr esgyrn yn dod at eu gilydd, y giau
a’r cig yn cyfodi, croen am danynt, ac anadl o fewn llu mawr iawn, y rhai a
safent ar eu traed, ac yn gwaeddi, 'Wele ni, anfon ni' i gyhoeddi maddeuant
rhad i'r penaf o bechaduriaid, a ‘dywedant, Ein hesgyrn a wywasant, a'n gobaith
a gollodd; torwyd ni ymaith o'n rhan ni!'
O gyfeillion! wrth geisio dywedyd am ei gwerth,
pwy all lai na gwaeddi, 'O ddyfnder i golud doethineb a gwybodaeth Duw!’ Mae hon mal tân y toddydd a sebon y
golchyddion. Mae yr hen arferion gynt wedi diflanu o flaen ei goleuni, ac mal
Dagon yn cwympo o flaen yr arch yn ddrylliedig, fel nad oes yr un grym ynddynt
mwy. Ni fu un cynllun a ddyfeisiwyd erioed i falurio teyrnas y tywyllwch, mor
fendithiol a'r Ysgolion Sabbothol. Y mae hon wedi siglo sylfaeni y deyrnas. Er
pregethu yr Efengyl yn ei phurdeb — er taranu melldithion y ddeddf a'r gwaeau
tragywyddol — er cyhoeddi marwolaeth yr hwn aeth yn neddfle pechaduriaid yn
iawn — er dyweyd am wynfyd y gwaredigion ar feusydd anfarwoldeb, nid oedd y
llwydd ond bychan, a llabyddio yr oeddent y rhai a ddanfonwyd atynt. Ond cafwyd
peiriant effeithiol o'r diwedd i wynebu ar gaerau hen Iericho y fagddu fawr, ac
er cynnifer o léni caddugawl oeddent yn toi meddyliau y Cymry - er mòr dywylled
oedd nos du anwybodaeth, ac er fod calonau meibion farw dynion wedi eu hamwisgo
â rhyfyg triphlyg, gorchfygodd y peiriant rhyfeddol yma.
Dywedai rhyw beiriannydd y medrai ddyfeisio peiriant digon nerthol i symud y
ddaear o’i lle, ond i ryw un gael allan fan i’w osod i lawr: beth bynag am
hyny, dyma beiriant digon nerthol, trwy fendith Iôr, i symud teyrnas y
tywyllwch, a’i thafla megys maen melin i eigion dystryw.
Ydwyf un o blant Ysgol Sabbothol
Capel Llanrhyddlad, Môn.
Lonaconing. D. W. JONES.
--------------
Y LLYWYDD WASHINGTON.
------
Yn y flwyddyn 1777, pan oedd y fyddin Americanaidd yn gwersyllu yn Valley Forge, fel yr oedd hen Grynwr
duwiol o’r enw Potts, yn myned ar ryw achlysur trwy goedwig dew oedd yn agos
i’r gwersyll, efe a glywai lais dynol yn rhywle yn y wig, ac fel yr oedd efe yn
dynesu atto, efe a’i clywai yn amlycach, a deallai mai llais gweddi wresog oedd
yno yn y goedwig annghyfannedd; efe a gyfeiriai yn ddystaw a gochelgar tu a’r
fan lle yr oedd y gweddïwr; a phwy a ganfyddai dan gysgodwydd cauad-frig, fel
pe y’i gwnaethid i’r perwyl hyny, ond Maes lywydd byddinoedd yr Unol
Daleithlau, ar ei liniau, yn tywallt ei galon mewn gweddi, o flaen Llywydd Mawr
y bydoedd, a’r fynyd y daeth Potts yn agos atto, yr hwn a ymguddiai yn mysg y
prenau, oedd Washington yn eiriol dros ei anwyl wlad, gyda gwresogrwydd
anarferol; ac yn diolch am y daioni a amlygasai y Goruchaf tuag atynt yn y
cyfryw ddull a ddangosai yn amlwg fod ei feddwl yn rhy or-lawn i gael iaith i’w
draethu; efe a fawrygai y daioni di-eilfydd a’i dyrchafasai ef o ddyfnder
annghyhoeddusrwydd, i fod yn ben cenedl fawr, yr hon y pryd hwn oedd mewn
cyfyngder. Cyffesai ei holl anaddasrwydd ei hun i’r fath orchwyl pwysig, ac
wylai dan yr ystyriaeth o’r dystryw a allai camgymeriad o’i eiddo ef ei ddwyn
ar ei wlad; a chan daenu achos a llesion mil-filoedd oeddynt y pryd hyny heb eu
geni o flaen yr Uchel Iôr, yr hwn y mae ei drugaredd yn parhau yn dragywydd,
efe a daer atolygai am gymhorth yr Anfeidrol. Can gynted ag y darfu i’r
Cadfridog weddïo, aeth Potts ymaith, dychwelodd i’w dŷ, ac ymollyngodd i
eistedd ar gadair, wrth ystlys ei wraig, lle y bu dros amser yn methu dweyd
gair, gan rym y teimiladau a orienwai ei feddwl.
Pa ryfedd i Washington fod mor lwyddiannus, a buddugoliaethus, gan ei fod mor
gyfarwydd ar y gelfyddyd nefol o gyfeillachu a’r Hollalluog mewn gweddi? - Dyddanion, &c., IORWERTH GLAN ALED.
-------------
DYDD GWYL DDEWI A’R GENHINEN.
-------------
DROS yr arferiad o wisgo y genhinen ar y dydd uchod, rhoddir amrai resymau. Ond
y y mae y rhan fwyaf a chwillasant y pwngc yn barnu i'r ddefod gyfodi oddiar ac
mewn canlyniad i'r fuddygoliaeth a ennillwyd ar y Saxoniaid, gan y Brenhin Prydeinig
Cadwaladr, wrth Hethfield Chase, yn
swydd Gaerefrog, Lloegr, yn y flwyddyn 633, pryd y cyfarwyddodd Dewi Sant, y
Brythoniaid i wahaniaethu eu hunain oddiwrth eu gelynion trwy wisgo y genhinen,
yr hon gyfarwyddyd, yn nghyda'i weddïau yntau, a'u galluogodd i orchfygu eu
gwrthwynebwyr.
Yr oedd yn arferiad ynfyd a gwael gynt yn Llundain, gan y werin, ar ddydd Gwyl
Ddewi i sarhau y Cymry, trwy wisgo llun dyn wedi ei wneyd o wellt, yn arddangos
gwron Cymreig, yr hwn a ddygid mewn gorymdaith, ac yna a grogid mewn rhyw le
amlwg. Ond y
_______________________________________________________
(x108)
_______________________________________________________
(x109)
_______________________________________________________
Y Cyfaill, Cyfrol 3, Rhif 28, Ebrill 1840, tudalennau
127-8
Hanesiaeth
Bellenig. Prydain Fawr &c.
DYGWYDDIADAU, &c.
Angeu disyfyd. – Boreu, y 3ydd (= trydydd) o
Ionawr (=1840) fel yr oedd Margaret Evans,
Clwt-y-bont, Llanddeiniolen, sir Gaernarfon, gweddw 66 oed, yn paratoi
boreufwyd i lettywyr, syrthiodd i lawr yn disymmwth, a bu farw yn ddioed.
Damwain echrys. Bore ddydd, yr 20fed (= yr
ugeinfed) o’r un mis (= Ionawr 1840),
yn nghloddfeydd llechi Dinorwic, fel yr oedd llangc ieuangc, 27 oed, o’r enw
Richard Hughes, o blwyf Gwalchmai, Môn, yn dilyn ei alwedigaeth, syrthiodd
carreg fawr, dunelli o bwysau yn union ar ei gefn, a llethwyd ef i farwolaeth
ar darawiad amrant.
Celain-ymchwiliad. – Rhagfyr 18fed (= y
deunawfed) (= 1839), cynnaliwyd
cyfarfod Rheith-chwiliad yn Nhreffynnon ar gorph John Jones, mwnwr, yr hwn a
laddwyd yn mhwll glô Greenfield. Achoswyd ei farwolaeth trwy i blangc tew
syrthio arno, yr hwn a lithrodd o’r gadwyn wrth gael ei godi o’r pwll, ac a
gwympodd ar ben y dyn anffodus.
Amrafael â herw-helwr. – Tua un o’r gloch foreu yr 16eg (= yr unfed a bymtheg) o Ragfyr (= 1839), clywodd W. Jones, gwas T. Downard, Ysw.,
Plas Mathafarn, ger Rhuthni (sic), ergyd o
ddryll. Aeth tua’r fan lle y safai tri o ddynion, herw-helwyr (poachers).
– Saethodd un o honynt, ac a glwyfodd gî y ceidwad. Saethodd un arall, ac a
glwyfodd y gwas yn ei fraich a’i fron aswy, yr hwn, wedi hir ymdrech, a
ddaliwyd ac a garcharwyd, ond dihangodd y ddau arall. – Enw y llofrudd yw John
Jones, o’r Bryn, plwyf Llanfair, Dyffryn Clwyd.
Llangorwen. – Rhagfyr 3ydd (= y trydydd), (=
1839) syrthiodd Morris Rees, un o’r dynion oedd ar waith wrth Eglwys
newydd Llangorwen, ger llaw Aberystwyth, oddiar yr esgynglwyd, ac a gyfodwyd
mewn cyflwr o ddideimladrwydd. Cariwyd ef i dy cymydog, ac er medr meddygon, bu
farw y noswaith hono.
Caernarfon. – Yr un dydd cadwyd celain-ymchwiliad ar gorph hen wraig o’r
enw Margt. Williams, o dref Caernarfon, marwolaeth yr hon a achoswyd trwy i’w
dillad gymeryd tân, pan oedd neb yn y ty, a hithau yn rhy fethedig i ddiogelu
ei hun.
______________________________________
DOLENNAU AR
GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN
0043c
Yr iaith Gymraeg
·····
0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan; o’r tudalen hwn gellir
hefyd chwilio’r
gwefan hwn â’r archwiliwr mewnol
·····
0052c
Testunau Cymraeg â throsiad Catalaneg yn y gwefan hwn
(Textos en gal·lès amb traducció catalana en aquesta
web)
·····
1051e
Testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn
(Texts in Welsh with an English translation in this
website)
______________________________________
Sumbolau arbennig: ŷ ŵ
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n
ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (=
Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Adolygiadau
diweddaraf: 12 09 2002, 2006-05-19
Edrychwch
ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats