1771k
Gwefan Cymru-Catalonia. COFIANT Y TRI BRAWD O LANBRYNMAIR A CONWY (1893). Nid yw Llanbrynmair, lle
y ganwyd y “Tri Brawd,” ond gwlad oer, arw ac anghysbell, o ran safle
ddaearyddol, y mae fel wedi ei chau i fynu rhwng mynyddoedd moelion Maldwyn,
prif gyfoeth y rhai yw mawn, a’u haddurniadau penaf yw grug a brwyn.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_065_tribrawd_1893_1_1771k.htm
Yr Hafan
..........1863k Y Fynedfa yn Gymraeg
....................0009k Y Gwegynllun
..............................0960k
Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
........................................1760k Cyfeirddalen ar
gyfer Y Tri Brawd
....................................................y tudalen hwn
GAN E. PAN JONES, D.PH., M.A, MOSTYN. (1834-1922)
Rhan 1 - Tudalennau x1-x8 Tudalennau Teitl At y Darllenydd...x4 Cynwysiad...x8 Adolygiad diweddaraf ::
2004-02-06 |
|
Ein hychwanegiadau ninnau fellÿ: (Nodÿn:
.........)
__________________________________________________________________
(x1) COFIANT
Y TRI BRAWD O LANBRYNMAIR A CONWY.
GAN E. PAN JONES*, D.PH.,
M.A, MOSTYN. (Nodÿn: *1834-1922)
HEFYD,
Y PRYDDEST
GOFFADWRIAETHOL
GAN ONLLWYN BRACE.
BALA: CYHOEDDEDIG
GAN H EVANS.
(x2) (tudalen weili)
(x3) YN DEYRNGED O
DDIOLCHGARWCH CALON
AM GEFNOGAETH
GYSON
A CHYDYMDEIMLAD
SYLWEDDOL YN YR AMSER
A AETH HEIBIO Y
CYFLWYNIR I’R
“WERIN A’R MILOEDD”
Y GYFROL FECHAN HON O
ADGOFION
AM Y TRI BRAWD
O LLANBRYNMAIR A
CONWY
GAN YR AWDWR.
(x4) AT Y DARLLENYDD.
Wele Gofiant Y Tri Brawd o Llanbrynmair a
Conwy, o’r diwedd yn llaw y darllenydd. Yr wyf yn dyweud “o’r diwedd,” o
herwydd fod cymaint o gwyno yn y wlad eisiau ei gael yn gynt. Mae’n wir fod
blynyddoedd wedi myned heibio er pan noswyliodd yr olaf o’r teulu, a rhesymol
fuasai dysgwyl y codasid iddynt garnedd fechan cyn hyn, ond pan ddywedaf nad
oes ond pymtheg mis er pan ddaeth y defnyddiau i’m llaw i, gwn na ddelir fi yn
gyfrifol am yr oediad.
Nid oeddwn erioed wedi breuddwydio y daethai
y pleser pruddaidd o ysgrifenu y COFIANT i’m rhan i, pe amgen buaswn wedi cadw
cofnodion manylach o honynt, ac o’m cymdeithas a hwynt. Ber, mewn cymhariaeth,
fu fy adnabyddiaeth bersonol o honynt, ond yr oeddwn yn nabod enwau “Riaid y Cronicl”
a “Bechgyn Llanbrynmair,” er yn blentyn. Yr oedd eu henwau yn gysegredig gan fy
anwyl Fam, a siaredid yn barchus am danynt ar aelwyd fy hen weinidog, y Parch.
S. Griffiths, o Horeb, fel yr aethum i’w caru a’u hedmygu heb yn wybod i mi fy
hun, ac ni fu ganddynt ffyddlonach dysgybl yn y wlad. Yr oeddwn yn eu hedmygu
am eu hunplygrwydd a’u cysondeb yn sefyll o blaid yr hyn a ystyrient yn
wirionedd, gan nad pa un a fyddai hyny yn boblogaidd ai peidio. Drwy ein bod yn
cydymdeimlo ar wahanol amgylchiadau, ac yn rhwyfo yn yr un cwch, deuem yn
fynych i gyfarfyddiad a’n gilydd, fel o’r flwyddyn 1870, pryd y daeth S.R. a
G.R. i fyw i Conwy, bu ein cydnabyddiaeth bersonol yn gyson, tyner, a difwlch,
hyd y diwedd; a than deimlad nad teg i goffadwriaeth y TRI WYR HYN, y rhai a
garwn mor fawr, rhai a ysgrifenodd gymaint, gael eu gadael heb i neb ddyweud
gair am danynt, yr ymgymerais a’r gorchwyl.
Nid wyf yn dysgwyl fy mod wedi llwyddo i
foddloni pawb, ni wnaed hyny erioed eto. Gwn y dywedir fod ar y COFIANT dri bai
mawr, gan nad faint yn ychwaneg:
-1. Mae llawer o bethau ynddo ddylasai fod
allan;
-2. Mae llawer o bethau allan ddylasai fod
ynddo;
-3. Dylasid dyweud y peth sydd ynddo yn
wahanol ac yn well.
Yr oedd genyf dri nod o’m blaen wrth
ysgrifenu:
-1. Taflu goleuni ar amgylchiadau y gwyddwn
oddiar ymgom bersonol a hwynt, a thrwy ysgrifau a adawsant ar eu hol, oedd yn
bwysig yn eu golwg;
-2. Dyweud y cwbl (x5)
mor onest a didderbyn wyneb ag yr arferent hwy wneud pan yn fyw;
-3. Cadw y Tri Brawd yn y golwg drwy yr oll,
ac nid cymeryd mantais arnynt i fachu hanes neb arall wrthynt, fel y gwna rhai;
ac os wyf wedi llwyddo yn y pethau hyn, dibwys genyf gael fy meio am y lleill.
Bu rhaid i mi ddwyn iddo mewn gwahanol
gysylltiadau enwau rhai personau y buasai yn dda genyf eu gadael allan, ond ni
ddywedais air am neb, ond mor bell ag yr oedd yn angenrheidiol mewn trefn i
daflu goleuni ar helyntion y Tri Brawd.
Awgrymai llawer, drwy fod y Tri wedi croesi
yr afon er ys cymaint o amser, a llu o’u cyfeillion wedi eu canlyn, nad oedd
ond gobaith gwan y byddai i’r anturiaeth dalu drosti ei hun. Ond diolch i’r
“werin a’r miloedd,” mae y gefnogaeth wyf wedi gael eisoes yn ddigon o sicrwydd
ar y pen hwn.
Dymunaf ddiolch yn garedig i’r cyfeillion fu
mor barod i’m cynorthwyo, drwy roddi i mi fenthyg llyfrau, llythyrau, a
chofnodion. Estynodd cyfeillion Llanbrynmair a’r cylch gymorth i dalu am
ddarlun yr Hen Gapel a’r Diosg. Cynorthwyodd cyfeillion Conwy i dalu am
ddarluniau Capel y Dysteb a’r Gofgolofn; a dygodd y perthynasau, Mr. W. Jones,
Amwythig, a Mrs. Williams, Conwy, dreuliau y darluniau eraill. Diolch hefyd yn
garedig i Mr. O. Evans, Conwy, am dynu darluniau y Capel a’r Gofgolofn yn rhad
ac am ddim, a gall y neb fyddo yn ewyllysio eu cael ganddo ar gardiau am swllt
yr un. Yr wyf dan rwymau hefyd i gydnabod Mrs. Jones (gynt Miss Breese, o
Cerrigydruidion), a rhyw wraig garedig o Lanbrynmair, y naill am gael darlun y
Diosg, a’r llall am ddarlun o’r Hen Gapel. Cefais hefyd lawer o gymwynasau o
wahanol gyfeiriadau, y rhai nas gallaf enwi bob yn un. Derbynied pawb fy niolch
am a wnaeth.
Yr oeddwn wedi clywed fod amryw ysgrifau mewn
llaw a’r gyfer y COFIANT, ond yr oll a welais i oedd eiddo Mr. William Jones ac
eiddo y Parch. R. Mawddwy Jones, pa le yr aeth y lleill nis gwn.
Gwelir ynddo ychydig o wallau orgraffyddol,
ond gan y gellir yn hawdd ddeall beth ddylent fod, nid oedd yn werth genym eu
cywiro.
Diolch i’r
Dosbarthwyr am eu ffyddlondeb. Hyderaf y cewch yn y COFIANT rywbeth i sirioli,
i gryfhau, ac i oleuo eich meddwi. Yr Eiddoch yn ffyddlon,
Mostyn, Rhagfyr
28, 1892.
E. PAN JONES.
(x6) LLUN: HEN GAPEL,
LLANBRYNMAIR
(x7) LLUN: Y DIOSG;
LLANBRYNMAIR
(x8) CYNWYSIAD.
Eu Haniad a’u
Hymdaith yn Llanbrynmair...x9
Y Tri yn troi o
Llanbrynmair...x37
Yr Helbulon yn
S.R. a Rhyfel
America...x74
Eu Bywyd yn
Brynyffynon...x91
Tysteb S.R. a’r
Gwrthwynebiadau...x117
Dychweliad S.R.
...x158
Y
Dadleuon...x188
Y Dadleuon
Diweddar...x218
Y Tri yn
Brynmair...x286
Adgofion a
chwynion am y Tri Brawd...x324
Eu Cofion a’u
Carnedd yn Llanbrynmair...x335
Rhestr o’r
Derbynwyr...x349
Y DARLUNIAU.
Hen Gapel
Llanbrynmair...x6
Y Diosg: hen
Gartref yr Riaid...x7
J. R. yr
Hynaf...x15
Brynyffynon,
Tennessee...x55
Brynmair,
Conwy...x187
S.R. yn ddyn
ieuanc...x243
J. R. yn ddyn ieuanc...x259
Y Tri Brawd yn eu
henaint...x287
Capel y Dysteb,
Conwy...x323
Y Gofgolofn yn
Conwy...x334
Y Tudalen
Nesaf |
DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN
HWN |
COFIANT Y TRI BRAWD O LANBRYNMAIR A CONWY (1893). GAN
E. PAN JONES, D.PH., M.A, MOSTYN. (1834-1922)
·····
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan
“CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page
from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch
ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats