1772k  Gwefan Cymru-Catalonia. COFIANT Y TRI BRAWD O LANBRYNMAIR A CONWY (1893). Nid yw Llanbrynmair, lle y ganwyd y “Tri Brawd,” ond gwlad oer, arw ac anghysbell, o ran safle ddaearyddol, y mae fel wedi ei chau i fynu rhwng mynyddoedd moelion Maldwyn, prif gyfoeth y rhai yw mawn, a’u haddurniadau penaf yw grug a brwyn. 

 

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_065_tribrawd_1893_2_1772k.htm

Yr Hafan kimkat0001

..........
2657k Y Fynedfa yn Gymraeg kimkat2657k

....................
2001k Yr Arweinlen kimkat0009k

..............................0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
kimkat0960k

........................................1760k Cyfeirddalen ar gyfer Y Tri Brawd
kimkat1760k

....................................................y tudalen hwn

 

 


______________________________________________________________________

 
Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
The Wales and Catalonia Website

______________________________________________________________________

COFIANT Y TRI BRAWD O LANBRYNMAIR A CONWY. 1893.

GAN E. PAN JONES, D.PH., M.A, MOSTYN. (1834-1922)

 

Rhan 2 - Tudalennau x9-x63

Pennod 1: Eu Haniad a’u Hymdaith yn Llanbrynmair...(x9)

Pennod 2: Y Tri yn troi o Llanbrynmair...(x37)
_________________________________________________________________________________

Adolygiad diweddaraf :: 2004-02-06

 

 

 

 

Ein hychwanegiadau ninnau fellÿ: (Nodÿn: .........)

 

..............

 

 

(x9)

COFIANT Y TRI BRAWD,

PENOD 1

EU HANIAD, A’U HYMDAITH O LANBRYNMAIR.

 

Nid yw Llanbrynmair, lle y ganwyd y “Tri Brawd,” ond gwlad oer, arw ac anghysbell, o ran safle ddaearyddol, y mae fel wedi ei chau i fynu rhwng mynyddoedd moelion Maldwyn, prif gyfoeth y rhai yw mawn, a’u haddurniadau penaf yw grug a brwyn. Rhuthra ei nentydd yn wylltion drwy welyau culion bron rhy gyfyng i’r brithyll gael llei i ymdroi, a thebyg na byddem yn mhell o’n lle pe dywedem nad oes yng Nghymru blwyf o’i faint lle y mae natur wedi bod yn brinach ar ei chyfoeth a’i cheinion; ond os esgeleuswyd y lle gan natur, bu gras a rhinwedd yn hael ar eu rhoddion. Bu y plwyf hwn am ganrifoedd yn fath o chwarel athrylith, cryd talent, a magwrfa Protestaniaeth. Yr hyn oedd y Piedmont i’r Waldensiaid yn y 12fed canrif, oedd llethri Llanbrynmair i Ymneillduaeth yn y 17eg canrif. . Mynych gysegrwyd yr ardal gan gan draed gwroniaid y ffydd, Walter Cradog, V. Powell, Morgan Llwyd, Ambrose Mostyn, Hugh Owen, Henri Williams, W. Jervice, R. Wilson, Lewis Rees, ac R. Tibbot. Codwyd yma dô ar ol tô o wyr cedyrn yn mhob canghen o ddefnyddioldeb, dylanwad y rhai sydd yn llifo dros y wlad o genhedlaeth i genhedlaeth, fel nad oes un enw y tu allan i wlad Canaan wedi bod mor fawr ei swyn i’r Cymro, am gyhyd o amser, drwy gylch mor eang, a’r enw Llanbrynmair. Yr oedd yno eglwys Anibynol, a phregethu rheolaidd mor fore a 1640; a chafwyd yno lawer yn nyddiau tywyllaf erledigaeth, yn ddigon gwrol i deimlo “yn llawen am gael dyoddef er mwyn ei enw Ef,” a chafodd y Crynwyr rai o’u gwyr ffyddlonaf o’r ardal hon.

 

 

(x10)    Dywed rhai mai y rheswm fod rhinwedd yn blodeuo yn well ar y mynyddoedd ac mewn lleoedd anhygyrch yw, y bydd y bobl dda, fel Abraham gynt, yn goddef eu herlid i’r mynyddoedd, gan adael y wlad fras i bobl fydol; ond myn eraill mai y rheswm am hyny yw, gan na fydd y pendefigion yn dyfod i fyw i’r mynyddoedd, na fydd eu dylanwad llygredig ac erlidgar yn cael ei deimlo agos mor fuan yno ag ar y gwastadeddau.

 

Bu y gynulleidfa yn hir heb le i roddi ei throed i lawr yn Llanbrynmair, oddigerth yn yr awyr agored o dan gysgod coedydd cauadfrig, yr hyn oedd yn beth cyffredin yn hanes eglwysi cyntaf yr Ymneillduwyr. O dan “hen Dderwen Pantgwyn” y cychwynwyd eglwys Horeb, ac eglwys Pencader yn hen ogof Cwmhwplin. Yn mhen tymor maith, cafodd yr arch dderbyniad i’r “Ty Mawr,” a bu yno yn cartrefu o’r flwyddyn 1675 hyd 1739, pryd y daeth Lewis Rees (1734) i’r lle, ac yr adeiladwyd addoldy “yr HEN GAPEL,” o’r hwn gellir dywedyd fod oddeutu deg o ganghenau wedi codi allan. Parhaodd cysylltiad Lewis Rees a’r lle yn ol a blaen hyd oddeutu 1759. Canlynwyd ef yno gan un S. Williams, ond ni fu yno yn faith, gan i Richard Tibbot gael ei urddo yno yn 1762. Ac ar y 25ain o Chwef., 1767, yn mhen pum mlynedd wedi ei urddiad ef, y ganwyd J. R. yr hynaf.

 

Yr oedd ei rieni, y rhai a breswylient yn Bronyllan, plwyf Mochdre, yn gyfiawn ger bron Duw, yn rhodio yn dra manwl yn holl orchymynion a deddfau yr Arglwydd yn lled ddiargyhoedd. Yr oeddynt yn aelodau o’r gangen eglwys o Lanbrynmair, a gyfarfyddai yn Aberhafesp: Efe oedd yr ieuengaf o ddeuddeg o blant. Dygwyd ef i fynu o’i febyd, fel y lleill, yn addysg ac ofn yr Arglwydd. Bu ei fam farw pan nad oedd efe ond ieuanc, eto arosodd dylanwad da ei gwersi, ei chynghorion; a’i gweddiau ar ei feddwl hyd ddiwedd ei oes; a bu dylanwad da ei chwaer hynaf, yr hon oedd ddynes odiaeth am ei synwyr a’i duwioldeb, o fendith fawr iddo ar gychwyniad ei yrfa grefyddol.

 

 

(x11) Derbyniwyd ef yn aelod yn Llanbrynmair yn 1786. Daeth yn fuan i deimlo ei hun gartref yn nhŷ Dduw, a mawr oedd ei awydd am fod o ryw wasanaeth yno, ond nid cynt yr oedd wedi dechreu meddwl am fod yn ddefnyddiol nad oedd llwybrau amrywiol o ddefnyddioldeb yn agor o’i flaen, a gwnai yntau ei oreu i rodio ynddynt.

 

Yr oedd ei galon ar y weinidogaeth, ond yr oedd yn rhy wylaidd i agor ei feddwl i neb. Ni chafodd, pa fodd bynag, ei adael yn faith yn y benbleth hono cyn i ddrws mawr a grymus gael ei agor iddo. Traddododd ei bregeth gyntaf yn y Tybrith, brydnawn Sabbath, Ion. 21, 1790. Ei destyn oedd, “A’m ceir ynddo Ef.” Ac yn yr hwyr pregethodd yn Penarth, oddiar y geiriau, “Wele Oen Duw.” Wedi deall o’r eglwys y gellid pregethwr o hono, anfonwyd ef i barotoi ar gyfer yr Athrofa, a derbyniwyd ef iddi Ion. 17, 1791. Yn y flwyddyn 1794, ychydig cyn gorphen ei efrydiaeth, derbyniodd alwad o’i fam-eglwys i fod yn gynorthwywr i’r hen weinidog. Cymerodd yr urddiad le Awst 25, 1796, ac ar y 18fed o Fawrth, 1798, bu farw yr hen weinidog yn 80 mlwydd oed. Yn yr haf canlynol rhoddodd yr eglwys alwad i “J. R.” i gymeryd y gofal i gyd, a’r hyn y cydsyniodd; a bu yno hyd derfyn ei oes, yr hyn a gymerodd le Gor. 21, 1834, pan oedd yn 67 mlwydd oed. Hebryngwyd ef at ei dadau i fynwent plwyf Llanbrynmair, gan dyrfa fawr o wŷr bucheddol, mewn teimladau drylliog; a phawb yn cyd-ddyweud fod “tywysog a gŵr mawr wedi cwympo yn Israel.”

 

Dywedir nad oedd yn bregethwr mawr, yn ol yr ystyr a rydd berniaid yr oes hon i’r term “pregethwr mawr;” ac os mai canu adnodau, adrodd ystoriau, a bloeddio wrth notes sydd yn gwneud pregethwr mawr, mae yn sicr nad oedd; ond os mai ymgyflwyniad hollol i waith yr Arglwydd, byw yn sanctaidd, ac ymdrechu gyda phob diwydrwydd i helaethu teyrnas y Gwaredwr, gwasanaethu ei genhedlaeth drwy fil o wahanol gyfryngau - yn bersonol a chymdeithasol, dysgu (x12) mwy o bobl i ddeall y gwirionedd, i awyddu byw yn ei ol, ac i’w garu, na neb yn ei oes, sydd yn gwneud pregethwr mawr, yr oedd J. R. mae’n sicr yn hawlio y lle blaenaf, ac erys ei ddylanwad da hyd y dydd hwn yn oblygedig yn yr enw Llanbrynmair.

 

Cymerai ran flaenllaw yn holl symudiadau daionus ei oes, yn wladol, cymdeithasol, a chrefyddol. Ni fu neb yn ffyddlonach yn ol ei allu i ryddhau y caethion, ond bu farw ddeng niwrnod cyn gweled dydd eu gollyngdod. Yr oedd yn cymeryd dyddordeb mawr yn yr ymdrech a wneid yn 1834 i dalu dyledion addoldai y Dywysogaeth, ac un o’r pethau diweddaf a wnaeth oedd gorphen talu ei £40 at yr ymdrech. Ond drwy y rhan flaenllaw a gymerodd yn nadleuon crefyddol ei oes, yn neillduol y ddadl Arminaidd, y “System Newydd,” y daeth i fwyaf o gyhoeddusrwydd. Efe oedd yr Anibynwr cyntaf yn Nghymru i gyhoeddi fod rhywbeth gan ddyn i’w wneud er sicrhau iechydwriaeth ei enaid. Edrychid arno fel dyn wedi gwyro yn mhell oddi wrth y gwirionedd, a bu arno gryn lawer o erlid. Trinid ef yn chwerw yn nghynadleddau yr enwad, a thrwy y wasg yn y cylchgronau, yn gystal ag mewn pamphletau. Cefnodd llawer o’i frodyr arno, a chauwyd rhai capeli yn ei erbyn. Goddefai y cwbl yn dawel, ac atebai ei wrthwynebwyr yn dirion a boneddigaidd; nid fel un am fuddugoliaeth, eithr fel un am gael allan y gwirionedd.

 

Yr oedd hefyd yn ddefnyddiol iawn fel cyfreithiwr cyffredinol, ysgrifenydd, ac ynad heddwch yr ardal. Byddai ei dy o fore ddydd Llun dan nos Sadwrn fel swyddfa gyhoeddus yn llawn o ddyeithriaid: un eisiau ysgrifenu llythyr i America neu i Lundain, un eisiau gwneud ewyllys, un eisiau gwneud gweithred briodas, un eisiau gwneud prydles, eisiau gwneud heddwch rhwng gwahanol bleidiau ymrysongar; ac ni byddai un o honynt yn cael myned ymaith ar ei gythlwng. Yr oedd ganddo bob amser ysgol ddyddiol yn yr Hen Gapel, prif ysgol y Sir yn yr oes hono. Byddai ganddo gyfarfod yn (x13) rhywle bob nos, ac ar ddydd Sadwrn yn gyffredin byddai ganddo ddau. Byddai yn ysgrifenu yn rheolaidd i’r misolion Seren Gomer a’r Dysgedydd. Yr oedd yn un o gychwynwyr y Dysgedydd, a’i eiddo ef yw yr ysgrif gyntaf yn y rhifyn cyntaf o hono, ac y mae ar ei ol faich cefn o bregethau, i gyd yn Saesonaeg, mewn llawysgrif ddestlus:- ysgrifenu y rhai, gellid meddwl, fuasai yn ddigon o waith blynyddoedd i ddyn heb wneud dim arall, ac addefa pawb fod yr eneiniad oddi wrth y Sanctaidd hwnw ar yr oll a wnai.

 

Yn y flwyddyn 1797, yn mhen dwy flynedd wedi ei urddiad, efe a gymerodd Mary Brees y Coed, yn ymgeledd cymwys iddo ei hun, yr hon yn ol iaith traddodiad a brofodd yn llon’d yr enw. Dywedir am dani na byddai byth yn gofyn iddo pa le y bu mor hwyr, na ddywedodd erioed ei bod wedi blino yn aros am dano, na cheisiodd erioed ei ddarbwyllo i beidio myned at ei gyhoeddiad o herwydd gerwinder yr hin,

- roddodd iddo erioed ddilledyn i’w wisgo a botwm yn eisiau arno, na adroddodd iddo erioed chwedl fyddai o duedd i ddolurio ei deimladau, ac na fu erioed yn euog o daenu chwedlau rhwng cymydogion fel y mae arfer rhai, er y byddai y cymydogion yn dyweud eu helbulon iddi fel plant yn siarad a’u mam. Yr oedd fel mur o gylch ei phriod i gadw pob gofid draw. Yr oedd yn enwog am ei phwyll, ei thynerwch, ei chydymdeimlad, a’i hymostyngiad tawel yn yr oll o dan law Duw, fel y mae hanes y ddynes dda hon yn aros yn fath o protest yn erbyn y syniad cableddus hwnw, “mai gwragedd gwael, didda, fydd pregethwyr yn gael i gyd.”

 

Aethant i fyw i dy’r Capel, “Manse” gweinidogion Llanbrynmair y dyddiau gynt. Gweithiai efe yn ddiwyd gyda’r weinidogaeth a’r ysgol, cymerai hithau lin a gwlan a gweithiai hwynt a’i dwylaw yn ewyllysgar, fel yr oeddynt yn mhen deng mlynedd, heblaw byw, wedi gallu gosod ychydig o’r neilldu ar gyfer tymor gwlawog. Wrth weled y teulu yn lluosogi, a thy’r Capel bron yn rhy gyfyng iddynt drigo ynddo, meddyliasant mai doeth iddynt fyddai gwneuthur (x14) rhyw symudiad i gyfarfod yr amgylchiadau, a rywbryd yn 1806 hwy a symudasant i’r Diosg, tyddyn bychan y tu arall i’r afon ar gyfer yr Hen Gapel, yr hwn fel holl dyddynod yr ardal, oedd yn perthyn i Syr Watcyn. Gadawn i S.R. ddarlunio y lle, ac adrodd amgylchiadau y symudiad:-

 

“Yr oedd yn dyddyn bychan, gwlyb, oer, creigiog, anial, yn nghefn haul, ar ochr ogleddol y llechwedd serth hwnw a elwir ‘Newydd Fynyddog.’ Yr oedd ar y pryd mewn llawer gwaeth cyflwr nag y gallasai fod yn ei gyflwr gwyllt gwreiddiol. Yr oedd yr hen dy a’r hen ysgubor yn adfeilion pydredig. Nid oedd y ffordd ato ond pantle dwfn, budr, tolciog, mor droellawg ag y gallesid ei gwneud. Yr oedd pob modfedd o dir ellid drin wedi ei ddigroeni, ei losgi, a’i weithio allan. Nid oeddid erioed wedi gwneud un ymgais at sychu y siglenydd a’r lleoedd corsiog. Gorchuddid copäau llydain, anwastad y bryniau anial gan garneddau o gerig oeddid wedi daflu yn nghyd yn ystod y canrifoedd, ac yr oedd adfeilion aflêr yr hen wrychoedd gŵyrgeimion yn hollol o’r un nodwedd a’r ffyrdd a’r adeiladau. Y gwir yw, nid oedd y cwbl ond diffaethwch gwyllt.

 

“Gwyddai cyfeillion y landlord fod John Roberts, y ‘Capel,’ yn ddigon difeddwl ddrwg, a hwy yn rasol a charedig dros ben, a awgrymasant iddo fod y Diosg yn ei daro i’r dim o ran maint a rhent, yn gyfleus iawn i’r capel a’r ysgol, ac os y medrai efe oddef ychydig anfanteision, ac aberthu rhai cysuron am dymor byr, y byddai i’r landlord, yr hwn oedd ŵr mawrfrydig a thyner galon, adael iddo gael llog dwbl am ei arian. Cyfeirient yn rasol at y cynydd oedd yn ei deulu, ac at ragoriaethau Mari ei wraig fel un oedd wedi cael ei threfnu i ofalu am flith tyddyn o’r fath. Dangosent ofal mawr am ei gysur a’i ddefnyddioldeb, ac am gysuron a dedwyddwch ei deulu, ac yn y diwedd, wedi hir betruso uwchben eu cymhellion a’u cynghorion, credodd John Roberts eu haddewidion, gan gymeryd yn ganiataol eu bod yn bobl garedig, anrhydeddus, a gonest, a chymerodd y Diosg.”

 

Wele eto ddarluniad o’r ty newydd a adeiladwyd yno yn lle yr hen dy adfeiliedig. Yr oedd J. R. yn gorfod talu am gludo yr holl ddefnyddiau, ac yn gorfod rhoddi bwyd a llety i’r adeiladwyr:-

 

(x15) “Yr oedd yn dŷ hirgul, yn cael ei ranu yn dair ystafell. Yr oedd un ystafell wely ar y llawr yn un pen, a’r llawr yn llaith iawn, ac yr oedd darn o’r lled yn cael ei gymeryd i fod yn llaethdŷ, ac yr oedd darn 4 troedfedd wrth 4 troedfedd yn cael ei gymeryd ymaith o’r llaethdŷ i fod yn cellar, lle y gallai J. R. gadw ei gwrw, ei borter, a’i winoedd. Nid oedd y llaethdŷ ond prin 7 troedfedd wrth 4 troedfedd, a rhaid oedd gwthio iddo y cwpwrdd bwyd, y gawswasg, y tybiau ymenyn, y pedyll llaeth, y crochanau hufen, y crochan llaethenwyn, y taclau llymru, cist arfau’r saer, a chist y farrier, a llawer o fân drysorau a gedwid i ateb galwad. Yr ystafell yn y pen arall ar y llawr, yr hon oedd yn ddwfn, (x16) ddwfn, yn y ddaear, oedd i fod yn ystafell wely ore, ac yn fyfyrgell i J. R.; ac yr oedd i fod yn ystafell wely, yn fyfyrgell, ac yn barlwr, pan fyddai ei frodyr - yr esgobion, yn galw i’w weled. Yr oedd llawr y fyfyrgell a’r ystafell wely danddaearol hon wedi ei wneud ar wyneb daear wlyb, lle yn fynych byddai llyn o ddwfr, a’r canlyniad fu i’r coed i gyd bydru mewn llai na phum mlynedd o amser. Yr oedd yr adeiladwyr wedi dangos eu medr fel adeiladwyr, a’u gwybodaeth wyddonol, wrth drefnu y pen nesaf i’r haul o’r tŷ i fod yn lle i J. R. gadw ei win, ei laeth, a’i ymenyn, a’r pen tanddaearol i fod yn fyfyrgell ac yn ystafell wely. Yn y canol yr oedd y gegin, a chegin ryfedd oedd hi, llawr pridd anwastad, rhes o risiau afler wrth wal y cefn, a bwrdd hir gyda’r front. Yn y canol yr oedd dwy droell nyddu; yn y naill gongl yr oedd pobty mawr, gyda golwg anghelfydd; yn y gongl arall yr oedd y twrneli, y crochanau, a’r mân lestri; yn y drydedd gongl yr oedd y fuddai gorddi, a’r llestri bwyd; a thrwy y bedwaredd gongl yr eid i’r parlwr tanddaearol. Fel yna yr oedd y gegin wedi ei dodrefnu.

 

“Dosrenid y llofft hefyd yn dair rhan; yn yr ystafell uwchben y llaethdy a’r ystafell wely y cedwid y gwlan a’r ŷd, ac yr oedd yno ddau wely i’r merched, uwchben y gegin y cedwid y cig moch, y blawd, a’r coffrau dillad, ac yr oedd yno ddau wely i’r bechgyn. Uwchben y parlwr yr oeddid yn cribo ac yn nyddu.

 

“Dyna fras-ddarluniad o faint, a ffurf, a threfn y tŷ newydd a adeiladwyd i John Roberts, am yr hwn y bu raid iddo dalu £65, ond cynghorid ef yn ddifrifol i beidio grwgnach yn erbyn treuliau o’r fath, gan y byddai y landlord caredig yn sicr o drefnu iddo gael llogau da am ei arian.

 

“Bu raid iddo roddi i’r hen denant dros £100 am ryw hen bethau hollol ddiwerth; ond gwasgai y stiward arno i beidio bod yn galed wrth y plant oeddynt heb eu magu, y byddai y landlord yn sicr o ofalu iddo ef gael y cwbl oedd yn wario yn ol gyda llog da.

 

“Gorfodwyd ef hefyd i dalu £25 am ryw hen fwthyn oedd ar y tir i ryw ddyn oedd yn dal meddiant ynddo. Anogid ef i wneud hyny, am y byddai yn fantais fawr iddo ef, a sicrheid ef y cai y cwbl yn ol yn fuan gyda llog.

 

(x17) “Adeiladwyd yno y flwyddyn ganlynol ysgubor, ystabl, a beudy, am yr hyn y bu raid i J. R. dalu £70; ond cynghorid ef i beidio cwyno am dreuliau o’r fath, y gofalai ei landlord rhyddfrydig iddo gael y cyfan yn ol gyda llog. Costiodd codi y gwrychoedd a chau y lle i fewn iddo lawn £45, ond gwesgid arno i beidio grwgnach yn erbyn gosod ei arian allan, y cai y cwbl yn ol gan ei landlord calon-dyner.

 

“Costiodd symud cerrig, glanhau darn o dir, ac uniawni y gwrychoedd iddo dros £90, ond anogid J. R. i beidio cwyno, fod y cwbl i ddyfod yn ol gyda llogau yn mhen ychydig amser. Costiodd glanhau a drenio darn arall o dir iddo £270, ond dymunid arno beidio grwgnach, y cai y cwbl yn ol yn fuan gan ei landlord tyner galon.

 

“Costiodd iddo dros £25 i wneud ffordd yn groes i’r tir, ond anogid ef er mwyn pob peth i beidio cwyno wrth osod allan arian ar y fath welliantau parhaus, y gofalai y landlord am iddo ef gael y cwbl yn ol.

 

“Pan aeth J. R. i fyw i’r Diosg, nid oedd gardd yn perthyn i’r tŷ, nac ŷdlan, na buarth wedi ei gau i fewn, a byddai ffrwd y pistyll ar lifogydd yn rhuthro i’r tŷ. Gwnaeth J. R. y gwelliantau hyn, a chostiasant iddo dros £15, ond addawai y stiward yn y dull mwyaf difrifol y cai y cwbl yn ol gyda llog gan y landlord.

 

“Ond cyn pen pum’ mlynedd wedi adeiladu, a phan oedd ar ganol gwneud gwelliantau ar y tir, cyn fod J. R. wedi cael un cynhauaf, ie, pan oedd yn gorfod prynu bwyd i’w deulu, a chorsdir y ‘Cae pella’ ar ganol cael ei drenio, yr hyn a gostiodd £50, wele yr ystiward oedd wedi arfer addaw mor deg iddo gael llog am ei arian yn ymweled a’r Diosg, ac heb ofyn dim i neb yn dyblu y rhent ar un t’rawiad. Nid oedd J. R. yn disgwyl peth felly. Gallasai mae’n wir droi allan, ond pe gwnaethai hyny, buasai yn gadael £700 o’i arian ar ei ol yn naear y Diosg.

 

“Gweddiodd J. R. lawer am i stiwardiaid gael calon dyner, ond yr oeddynt yn rhy galed i un oruchwyliaeth effeithio arnynt. Gweddiodd lawer am iddynt gael agoriad llygaid, ond yr oedd eu dallineb yn anfeddyginiaethol. Gweddiodd lawer am iddynt gael eu hail-eni, ond yr oeddynt yn rhy hen a dwfn mewn camwedd a phechod i hyny (x18) gymeryd lle, a bu farw heb weled ynddynt un gobaith cyfnewidiad er gwell. Os oedd y fath beth yn bod a hud-ladrata, yr oedd y dull y triniwyd John Roberts yn gyn-ddrwg hud-ladrata a fu yn y byd erioed. Ni welwyd erioed well engraifft o gymeryd arian drwy dwyll, ni welwyd erioed ladrad mwy beiddgar, budr, a chreulon; a chofnodir yr amgylchiadau yma fel y byddont yn warthnod ar enw, cymeriad, a choffawdwriaeth y pleidiau fu yn euog o’r fath ymddygiad, ie, fel yr arhoso yn brawf o’u hanonestrwydd neu o’u hanghymwysder i gyflawni eu dyledswyddau.”

 

Dyma ddalen ddu a digon digalon yn hanes bywyd amaethyddol yr oes hono; ond gallwn feddwl fod John Roberts, fel y rhan fwyaf o’i gydoeswyr, yn credu yn gryf yn nwyfol apwyntiad landlords, ac yn eu llywodraeth ben-arglwyddiaethol dros y ddaear, gan nad ymddengys iddo ddyweud na gwneud dim yn hyd ei oes yn erbyn y system orthrymus yn gyffredinol, nac yn erbyn teulu y Wynnstay yn neillduol, heblaw gweddio drostynt. Ni wyddai efe mae’n debyg, fod yn rhaid cael gweinidogaeth fwy effeithiol na gweddi ac ympryd cyn bwrw allan y rhywogaeth hon. Yr ydym yn cofnodi yr amgylchiadau hyn yn hanes y teulu gan yr ymddengys iddynt gael dylanwad mawr ar ddadblygiad neillduolion cymeriad y “Tri Brawd.”

 

Bu iddynt bump o blant, tri mab a dwy ferch. Maria oedd yr hynaf; ganwyd hi Rhagfyr 18, 1797. Yr oedd hi yn ddynes lawn o athrylith, ac yn enwog am ei duwioldeb. Edrychai y plant eraill i fynu ati hyd ddiwedd ei hoes, yn fwy fel mam nag fel chwaer. Priododd hi a G. Griffiths, Bodwilym, o ger yr Abermaw; a bu iddi saith o blant, un o’r rhai oedd y “Gohebydd,” ond nid oes yn awr ond dau o honynt yn fyw - Mr. R. Griffiths, yn Llangollen; a phriod y Parch. D. M. Jenkins, Park Road, Liverpool. Ganwyd Anna, Medi 13, 1801. Priododd hi â R. Jones, Tymawr, Llanbrynmair; a bu iddi ddau fab, y Mri. W. Jones, Amwythig, a J. R. Jones, Gomer, Ohio; am y rhai bydd genym ychwaneg i ddywedyd yn nes yn mlaen.

 

(x19) Ganwyd S.R., Mawrth 6, 1800. Yr oedd yn blentyn eiddil, a bu yn nychlyd iawn hyd nes wedi pasio ei flwydd oed. Tybiwyd fwy nag unwaith ei fod wedi “gadael yr anial yn lân;” ac un tro pan oeddid yn dyfod i barotoi ei gorph i’w gladdu, efe a agorodd ei lygaid a gwenodd yn eu wyneb, fel pe yn ceisio dyweud wrthynt iddynt ddyfod yn rhy fuan. Ganwyd John, Tachwedd 10, 1804, a Richard, Tachwedd 5, 1809. Ganwyd y pedwar hynaf yn nhŷ y Capel, yn yr un tŷ, ac yn yr un ystafell ag y ganwyd y gŵr enwog hwnw, Dr. Abraham Rees, yn y flwyddyn 1743. Dygwyd y plant i gyd i fynu yn ysgol yr Hen Gapel, o dan addysg eu tad, yr hwn oedd yn meddu cymhwysderau arbenig i egwyddori plant.

 

Yr oedd S.R. pan yn hogyn, yn ystwyth ac ysgafn ar ei droed: nid oedd neb o’i gyfoedion fedrai ei ddal. Yr oedd y fedrus iawn fel pysgotwr. Nid oedd pysgota yn bechod, cofia, yr amser hwnw. Digwyddodd iddo lawer tro digon trwstan yn nyddiau ei blentyndod. Bu mewn perygl am ei fywyd ar dir a dwfr, yn y môr ac yn yr afon, gyda dynion ac anifeiliaid, coedydd a cherbydau, pan yn chwareu ei hun yn gystal a phan yn cynorthwyo rhai eraill. Fel dysgwr, yr oedd bob amser ar y blaen yn ei ddosparth, a phan nad oedd ond prin deg oed, ystyrid ei fod wedi rhedeg drwy gwrs addysgol athrofa yr Hen Gapel, a symudwyd ef i ysgol uwchraddol yn yr Amwythig, yr hyn yn yr oes hono oedd yn rhywbeth lled anghyffredin. Ond ni throes pethau allan yn yr Amwythig mor ffafriol ag y disgwylid. Nid oedd yr athrawon ac yntau yn deall eu gilydd yn dda, ac nid oedd yr hen weinidog, Mr. Weaver, yn bob peth oedd efe yn ddymuno. Byddai yn pregethu dair gwaith bob Sul, pregethau go sychion gallwn feddwl. Byddai yn darllen swp o adnodau, wedi eu casglu o un pen i’r llall i’r Beibi, i egluro ei faterion, heb ganddo un sylw difyr, bywiog, a barddonol yn nghorph ei bregeth i oglais meddwl plentyn;

fel rhwng yr ysgol a’r capel, yr oedd “Sam bach” yn edrych (x20) yn ddigalon, ac yn graddol ddiflanu. Fel, er ei fod yn byw yn nghanol cyfeillion caredig, am y rhai yr oedd yn hoffi siarad hyd derfyn ei oes, yr oedd yn dra llawen wrth weled cenad yn dyfod i’w gyrchu adref i gael golwg ar ei fam, yr hon fel y tybid, oedd yn ymyl gadael y byd, ond cafodd hi ei harbed. Bu yr amgylchiad yn foddion i adfer iechyd a hoenusrwydd S.R. Yna efe a ymroddodd i gynorthwyo ei dad ar y tyddyn, “cynhauafu gwair ac ŷd, aredig a llyfnu, hela cnau a mwyar duon,” ac yn yr ysgol, er nad oedd ganddo fawr flas at hyny; gwell lawer oedd ganddo fyned i gyfarfodydd mawr yr ardal. Yn y cyfnod hwn ymroddodd i ddysgu llaw fer, yr hyn a fu yn hwylusdod mawr iddo drwy ei oes.

 

Pan yn 15 oed, derbyniwyd ef yn aelod o’r eglwys, a daeth i deimlo ar unwaith yn lled gartrefol yn mhlith hen bererinion Seion. Yn mhen blwyddyn wedi ei dderbyn yn aelod anogwyd ef i ddechreu pregethu, ond daliodd heb ufuddhau i’r anogaeth hyd nes oedd yn agos ugain oed. Yr oedd yn wylaidd iawn, ac yr oedd yn ofni gwneud dim yn gyhoeddus yn nghlywedigaeth ei dad.

 

Tua diwedd 1820, efe a aeth i’r Athrofa i Lanfyllin, yr hon oedd o dan ofal y Dr. George Lewis ar y pryd. Yn 1821, symudwyd hi i’r Drefnewydd, yr hyn oedd yn gysur mawr i S.R. Yr oedd yno eangach maes i’r myfyrwyr i bregethu, yr oedd yno fwy o Saesonaeg, ac yr oedd yn nes i Lanbrynmair. Yr oedd efe yn yr Athrofa, fel yn ysgol yr “Hen Gapel,” ddigon o flaen y dosparth, fel yr oedd ganddo gyflawnder o amser dros ben i gynorthwyo y neb fyddai mewn angen help, ac i ysgrifenu i’r newyddiaduron a’r cylchgronau. Ni byddai byth yn awyddus am fyned i bregethu, yn neillduol i leoedd mawrion, fel y bydd myfyrwyr yn gyffredin, ond elai yn llawen i’r lleoedd bychain fyddai y lleill wedi wrthod.

 

Yr oedd yn ffafryn cyffredinol yn mhlith ei gydfyfyrwyr, a byddai pawb yn foddion gwneud pob peth a fedrent dros ac (x21) i “Sam.” Yr oedd ei dad erbyn hyn wedi cyrhaedd safle o urddas ac enwogrwydd fel gweinidog yn y Dywysogaeth, a thrwy fod gogwydd ei deimlad mor Seisnig, yr oedd yn adnabyddus iawn yn Lloegr hefyd, a bu hyny yn gymorth i ddwyn S.R. i adnabyddiaeth eangach a’r wlad na’r rhan fwyaf o’i gydfyfyrwyr yn ystod tymor ei arosiad yn y Coleg, o ba herwydd cawn iddo gael gwahoddiadau i sefydlu yn Croesoswallt, Pwllheli, Chesterfield, Wern, Porthmadog, Casnewydd, Nottingham, Birmingham, West Bromwich, Greenfield, a Hwlffordd; ond yr oedd ei feddwl ar y pryd yn gogwydd at fyned i athrofa Seisnig, fel na bu un o’r cynygion yna yn demtasiwn iddo. Ond pan ddaeth galwad o Hen Gapel, Llanbrynmair, Ebrill 1, 1826, rhoddodd heibio bob meddwl am fyned i goleg arall, ac atebodd hi yn gadarnhaol, Ebrill 26. Wele yr alwad, yr atebiad, a’r urddiad, fel y cyhoeddwyd hwynt ganddo ef ei hun:-

 

YR ALWAD.

“Eglwys Crist a gyferfydd yn Hen Gapel, Llanbrynmair, at eu cyfaill ieuanc anwyl, Mr. Samuel Roberts”

 

“ANWYL SYR, - Gwyddoch fod eich parchedig dad wedi bod yn gweinidogaethu yma er ys mwy na deuddeg mlynedd ar hugain, ac na bu ei lafur yn ofer yn yr Arglwydd, ac felly mae ein hamgylchiadau fel eglwys yn gysurus ac addawol; ond gan fod dyledswyddau y weinidogaeth yn ein plith yn gofyn llafur mawr, a bod eich tad yn awr yn dri ugain oed, yr ydym yn gorfod barnu na fydd yn ei allu i gyflawni ei lafurwaith yn ein plith am hir amser eto, yn gysurus a llwyddianus, heb gynorthwy. Yr ydym yn credu fod yr Arglwydd wedi eich galw chwi i lafurio yn rhyw ran o’i winllan; ac yr ydym yn meddwl y byddai mor dda genych fod yn offerynol i adeiladu Seion yn ardal eich genedigaeth ag mewn unrhyw gylch arall. A gwyddom nad allai dim fod yn fwy hoff gan eich anwyl dad na’ch cael i’w gynorthwyo, ac y byddai yn fwy dewisol ganddo eich cael chwi na neb arall, gan y byddwch yn debyg o lafurio gydag ef yn yr efengyl fel mab gyda’i dad. Gan eich bod wedi eich dwyn i fynu yn (x22) ein mysg, yr ydych wedi cael mwy o gyfleusderau i nabod ein ffyrdd a’n teimladau na neb arall; a diameu genym yr ystyriech y byddai yn fantais werthfawr i chwi gael siampl eich parchedig dad, yr hwn sydd wedi bod mor ddiwyd a defnyddiol, ac mor gymeradwy ac anwyl yma, o’ch blaen ac yn eich golwg yn barhaus. Yr ydym ninau hefyd wedi cael cyfleusderau gwell i ymgydnabyddu â chwithau nag ag unrhyw efrydydd ieuanc arall, ac yr ydym yn credu y byddai eich ymarweddiad yn gariadlawn, a’ch gweinidogaeth yn gymeradwy yn ein mysg. Wedi difrifol ystyried y pethau hyn, ar ol llawer o gydymgynghori ac o gydweddio taer ar Dduw am ei rasol gyfarwyddyd, yr ydym yn unfrydig gyduno i anfon yr Alwad a’r gwahoddiad yma i chwi ddyfod i sefydlu yn ein mysg ar derfyniad eich efrydiaeth baratoawl yn yr athrofa, er llafurio yn ngweinidogaeth yr efengyl fel cyd-weinidog a’ch anwyl dad. Mae yn debyg y cewch wahoddiadau o fanau eraill, lle y byddai eich rhagolwg am enillion tymhorol yn fwy gobeithiol, ond os cydsyniwch a’n dymuniad unfrydig hwn, gan dderbyn ein gwahoddiad, yr ydym yn addaw gwneud yr hyn a allom er eich cynal yn gysurus. Yr ydym yn hyderu y bydd i chwi daer weddio am gyfarwyddiadau yr Arglwydd yn yr adeg a’r achos pwysig yma, a bydd yn dda genym gael eich atebiad, ar ol i chwi gael hamdden i ystyried ein cais, ac ymgynghori a’ch cyfeillion.

 

“Gan weddio ar i’r Arglwydd weled yn dda estyn eich oes, a chynal eich iechyd, a’ch gwnend yn lamp i losgi a goleuo er lles eich cenhedlaeth.

 

Ydym, anwyl Syr,

 

Dros ein cyfarfod eglwysig, eich brodyr caredig yn yr Arglwydd,

Richard Davies,

Josiah Jones,

Richard Jones,

Diaconiaid

Edward Evans,

David Evans,

Richard Thomas,

Robert Peate,

Thomas Jones,

Robert Jones,

Athelstan Owen,

Thomas Owen,

Evan Evans,

Henuriaid.

 

Hen Gapel, Ebrill 1, 1826.”

 

 

(x23) Rhoddwn yma ran o’r atebiad:-

 

At eglwys Crist sydd yn cyfarfod yn Hen Addoldy, Llanbryiimair, ac at y brodyr a’r chwiarydd yn Carno a Beulah.

 

“Gyfeillion caredig yn yr Efengyl - Ni fedraf ddarlunio y teimladau oedd yn llifo drwy fy mynwes pan dderbyniais anerch oddi wrthych fel un o eglwysi y Saint. O hyny hyd yn bresenol mae ei chynwysiad wedi cael lle agos iawn at fy meddwl, ac yr wyf yn gwbl deimladwy nad eisteddais erioed i ysgrifenu llythyr o gymaint pwys a’r llythyr hwn. Dylwn gydnabod fy mod bob amser yn teimlo anwyldeb mawr tuag at fy hen gyfeillion yn Llanbrynmair. Ar fronau eglwys Llanbrynmair y cefais fy magu, ac nid allaf lai na chofio gyda neillduol hyfrydwch yr hoffder oedd genyf pan yn blentyn i’ch dilyn chwi i foddion gras, yn nghyd a’r gofal dwys a gymerodd rhai o honoch - sydd yn awr yn gwisgo blodau’r bedd - i’m hyfforddi i ac eraill o blant yr eglwys yn egwyddorion cyntaf crefydd Crist. I’ch cymdeithas chwi y cefais fy nerbyn ar y cyntaf fel aelod eglwysig; ac yn eich mysg chwi y dechreuais ymarferyd a dyledswyddau crefyddol, a gallaf dystio i mi brofi teimladau mwy gwresog a melus yn eich cymdeithas chwi nag mewn un man arall. Ar eich anogaeth chwi yr ymroddais i waith pwysig y cysegr, a bu yn gysur genyf lawer tro gael lle i feddwl eich bod yn cofio am danaf ger bron gorsedd gras. Wrth edrych yn ol ac adgofio y pethau hyn, nid allaf lai na dwys ystyried eich llais caredigol yn yr anerch hon. Pe gallwn amlygu fy mhrofiad gyda golwg ar hyn, dylwn addef fy mod, wrth feddwl am fawr bwys y gwaith yn fynych bron a gwan-galoni, a byddai yn fwy dewisol genyf gael eistedd yn ddistaw wrth y drws yn y ty i dderbyn addysg, ac i gyfranogi o freintiau a chymdeithas y plant, na chymeryd gofal unrhyw Swydd yn eglwys Dduw. Ond ambell fynud wrth gofio fod digonedd yn Nuw, a bod ei ras ef yn ddigon i nerthu y gwan, ac wrth feddwl fy mod wedi cael fy anog at ei waith gan rai sydd yn ofni ei enw ac yn mwynhau o’i gyfrinach, byddaf yn teimlo penderfyniad gwan yn fy mynwes i lynu wrth yr Arglwydd a’i achos hyd fy medd.

 

“Gyda golwg ar eich gwahoddiad caredig, gallaf ddywedyd fy mod yn teimlo fy nghalon, er yn grynedig iawn, fel (x24) am ymroddi i wasanaeth, ac am ddewis cymdeithas fy anwyl gyfeillion yn Llanbrynmair.”

 

Yna rhydd bump o resymau dros ateb yr Alwad yn gadarnhaol. Wrth derfynu dywed:-

 

“Yr wyf wedi agor fy meddwl i chwi mewn modd diaddurn a diragrith. Erfyniaf arnoch fy nghofio pan yn plygu ger bron gorsedd gras. Yr wyf yn gwresog ddymuno eich llwyddiant tymhorol ac ysprydol, ac yn gobeithio y bydd i gariad yr efengyl barhaus deyrnasu yn eich mynwesau, yn eich teuluoedd, yn eich Ysgolion Sabbathol, ac yn yr eglwys,

 

Ydwyf, yr eiddoch yn rhwymau’r efengyl,

Drefnewydd, Ebrill 25, 1826. SAMUEL ROBERTS.”

 

COFNODIAD YR URDDIAD.

“Cafodd y Parch. Samuel Roberts ei urddo yn gyhoeddus i gyflawn waith gweinidogaeth yr efengyl, ddydd Mercher, Awst 15, 1827, fel cydweinidog a’i dad, y Parch John Roberts, i’r gynulleidfa o Ymneillduwyr Protestanaidd yn Llanbrynmair, yn mhresenoldeb a thrwy gydweinyddiad y gweinidogion canlynol: -

 

Breese, John, Liverpool,

Davies, Edward, Drefnewydd,

Davies, Evan, Llanrwst,

Davies, James, Llanfair,

Hughes, Hugh, Foel,

James, T., Minsterley,

Jones, Cadwaladr, Dolgellau,

Jones, Michael, Llanuwchllyn,

Jones, William, Rhydybont,

Lewis, David, Newport,

Lloyd, Hugh, Towyn,

Morgan, D., Machynlleth,

            Morris, W., Llanfyllin,

Ellis, Moses, Talybont,

Evans, Evan, Abermaw,

Griffiths, James, Tyddewi,

Griffiths, Thomas, Hawen,

Rees, B., Llanbadarn,

Rees, John, Sarney,

Ridge, John, Bala,

Roberts, D., Dinbych,

Roberts, J., Llanbrynmair,

Williams, D., Builth,

Williams, D., Llanwrtyd,

Williams, John, Ffestiniog,

Williams, W., Wern.”

 

Gafaelodd yn ei waith gyda brwdfrydedd, ac yn ysbryd y gorchymyn, elai allan i bregethu i bob lle y gallai, heb ofalu dim am derfynau plwyfi, esgobaethau, na Siroedd. Erlidiwyd llawer arno gan Olynwyr yr Apostolion am fyned i bregethu i gylchoedd Clawdd Offa a Sir Amwythig, pan oedd yn y (x25) Coleg. Teflid cerig a budreddi ato, a phan yno un tro yn pregethu mewn tŷ anedd, torwyd y drws, a thaflwyd rhan o’r tŷ i lawr, yr hyn a achosodd ddychryn i’r gynulleidfa, a derbyniodd rhai beth niwaid. Aeth i’r drws atynt i geisio ymresymu â hwynt, ond gwelodd yn fuan nad oedd hyny ond gwaith ofer. Ysgyrnygent ddanedd, a bloeddient yn ei wyneb, mewn dull mor fygythiol, fel y barnodd yn fuan mai oeth oedd cilio yn ol. Dan yr amgylchiadau hyn aeth at yr ynad, George Arthur Evans, i geisio trwydded i fyned allan i bregethu Efengyl Iesu, ond nid oedd hwnw yngwybod y ffordd i’w rhoddi, ac i weinyddu y llŵ, gan mai hòno oedd y drwydded gyntaf erioed iddo ef roddi i bregethwr Ymneillduol, o ba herwydd bu raid i S.R. ei gyfawyddo; ac wedi ei gorphen, rhoddodd hi iddo yn rhad ac am ddim, a dymunodd arno aros i gael ciniaw gydag ef, a chyn diwedd ciniaw yr oeddynt wedi myned yn gymaint o gyfeillion, fel y cynigiodd yr ynad arfer ei ddylanwad i balmantu y ffordd “i ŵr mor dalentog i fyned i un o fywiolaethau Eglwys Loegr.”

 

Wele y drwyyded: -

 

“I, George Arthur Evans, one of Her Majesty’s Justices of the Peace, in and for the County of Montgomery, do hereby certify, that Samuel Roberts did this day appear before me, and did make and take and subscribe the several oaths and declarations specified in an Act made in the fifty-second year of the Reign of King George the Third, entitled an Act to repeal certain Acts, and amend other Acts, relating to Religious Worship and Assemblies, and persons Teaching or Preaching therein. Given under my hand, March 7th, 1825. George Arthur Evans.”

 

Er nad oedd gan S.R. un golwg am alwad ar y pryd, dywed fod ganddo lawer mwy o ddiolch am y ciniaw nag am gynygion caredig yr hen ynad.

 

Blynyddoedd dedwydd i S.R. fu y saith mlynedd y bu yn cydlafurio a’i dad, a dywed fod ei galon ddydd ei angladd yn rhy lawn, nid yn unig i’w dafod lefaru, eithr yn rhy lawn (x26) i’w lygaid wylo. Dywed y byddai myned i’w fyfyrgell, agor ei Feibl, esgyn i’w bulpud, sefyll yn el le wrth fwrdd y cymundeb, a chlywed rhai o’r hen famau yn bendithio ei goffadwriaeth, yn ei lwyr orchfygu ar brydiau, ond mai yr achos o’i dristwch mwyaf oedd na buasai wedi yfed yn helaethach o’i yspryd.

 

Wedi marwolaeth ei dad, Gorphenaf 20, 1834, daeth gofal yr holl esgobaeth, yr hon a gynwysai naw capel a’r ysgol ddyddiol, ar S.R. Yr oedd y maes yn wasgarog, y lleoedd mor bell oddi wrth eu gilydd, y gwaith mor amrywiaethol, a’r galwadau mor lluosog, fel yr oedd yn gorfod bod ar gefn y “ferlen fach” yn barhaus, fel pan feddylir am y cyfeillachau a’r gwahanol gyfarfodydd, yr ysgol ddyddiol, y priodasau, y bedyddiadau, yr angladdau lle y gelwid am ei bresenoldeb, yr ewyllysiau oedd ganddo i wneud, y llythyrau ddysgwylid iddo ysgrifenu, mae yn edrych yn syndod i ni ei fod yn gallu gwneud dim byd arall.

 

Yr oedd J. R., fel y nodwyd, bedair blynedd yn ieuengach nag S.R., yn ddyn o gorph cryf, cydnerth. Cafodd ei addysg, fel holl blant yr ardal, yn ysgol yr Hen Gapel, ac nid oedd neb yn gweled arno pan yn llanc, un osgo myned yn bregethwr. Yr oedd yn ei elfen ar y tir, ar ol yr anifeiliaid, ac yn amaethu. Ymunodd a chrefydd yn fore, ond yr oedd yn llawn 25 oed cyn dechreu pregethu. A gellid meddwl mai yn 1831 yr aeth i’r athrofa, yr hon wedi marwolaeth y Dr. George Lewis, oedd o dan ofal y Parch. E. Davies, M.A., a chynorthwyid ef gan Mr. Samuel Bowen, yr hwn wedi hyny a adwaenid wrth yr enw Bowen, Macclesfield. Nid ymddengys ddarfod i J. R. a’r Coleg ddeall eu gilydd yn rhy dda, ac ni bu drwy ei oes yn rhyw bleidiol iawn i golegau, a chyhoeddai hyny yn fynych yn hollol ddiofn. Byddai llawer yn ei feio am hyny, gan awgrymu mai cenfigen at ei frodyr oedd yn ei fynwes; ond credwn y gwelir y rheswm am, neu yr achos o’r teimlad hwn, ond i ni ystyried yr amgylchiadau dan y rhai yr aeth i’r Coleg, yn gystal ag amgylchiadau y Coleg ei hun ar y pryd.

 

(x27) Yr oedd efe pan aeth i’r Coleg yn 26 oed, yn ymhyfrydu yn nghymdeithas natur, a holl deithi ei feddwl yn farddonol, fel mai digon prin y gellid dysgwyl iddo ef byth syrthio mewn cariad mawr a’r ieithoedd meirwon. Heblaw hyny, yr oedd wedi ei ddwyn i fynu o dan adain ei dad, un o’r dynion mwyaf difrifol a llednais yn ei oes - dyn heb gellwair nac ysgafnder yn ei natur, tra y mae yn ymddangos fod yr athraw yn ddyn hollol wahanol, yn ddyn cymharol ysgafn, ac i raddau yn gellweirus, ac yn chwarddwr mawr, yn fath o “Jolly food fellow,” a phawb yn hoff o hono fel cwmniwr. Yr oedd yr athraw hefyd mewn duwinyddiaeth yn Galfin o’r hen ysgol, ac mewn gwleidyddiaeth yn Dori eithafol, yr hyn o angenheidnrwydd oedd yn gosod J. R. a’r athraw yn erbyn ei gilydd.

 

Siaredir llawer am golegau y dyfodol, ac eglwys y dyfodol, ond byddwn yn teimlo bob amser nad oes dim daearol yn fwy pwysig i eglwys y dyfodol, na chael dynion cymwys yn athrawon yn ein colegau, dynion cryfion, dwfn eu hargyhoeddiadau, o feddwl clir, dynion y byddai yn bleser gweled tô o fyfyrwyr ar eu delw yn troi allan i’r byd: ac nis gall dim dynu yn fwy effeithiol o dan sylfeini eglwys y dyfodol, nag athrawon masw, claiar, oer, difater, rhy eiddil o ran ewyllys a phenderfyniad i osod eu hargraph ar y myfyrwyr fyddo o dan eu haddysg. Nid hawdd i ddyn ieuanc meddylgar, dyn o farn ac argyhoeddiad dwfn, yn rhyddfrydwr ar bob pwynt, edrych i fynu at, a derbyn addysg dduwinyddol gan athraw oedd yn Dori ar bob pwnc gwladol, ac yn dal ar bob cyfleustra i gefnogi ei Doriaeth.

 

Yr oedd y ddadl Arminaidd hefyd yr amser hwnw yn lled boeth, yn yr hon yr oedd J. R. yr hynaf yn cymeryd rhan flaenllaw, ïe, y mwyaf blaenllaw yn Nghymru, a thebyg y byddai coleddwyr yr athrawiaeth yn cael llawer cernod lawchwith yn y dosbarth, a’r bechgyn yn chwerthin ac yn estyn bys mae’n debyg at J. R. y mab. Gwyddom yn dda fod gwneud gwawd o fachgen o flaen y dosbarth wedi bod (x28) yn foddion i’chwerwi teimladau llawer un am ei oes, fel o dan yr ystyriaethau hyn nad yw yn un rhyfeddod os oedd J. R. wedi myned i edrych yn anffafriol ar y colegau.

 

Ychydig cyn gorphen ei amser yn yr Athrofa, derbyniodd alwad o Lanbrynmair i fod yn gyd-weinidog a’i frawd. Wele yr alwad a’r atebiad:-

 

“Llanbrynmair, Hydref 10, 1834.

 

“Anwyl Gyfaill, - Mewn cyfarfod eglwysig a gynhaliwyd yma heddyw, penderfynwyd yn unfrydig i ddymuno arnoch i ddyfod i gyd-weinidogaethu a’ch brawd yn Llanbrynmair a Charno a Beulah, ac yr ydym yn awr dros yr eglwysi yn erfyn arnoch ddyfod atom ar derfyniad eich amser yn yr Athrofa, a chan fynyched ag y galloch cyn hyny.

 

“Samuel Roberts,

Edward Thomas,

Edward Evans,

Josiah Jones,

Richard Jones,

Athelstan Owen,

John Hughes,

Hugh Owen,

Thomas Jones,

Thomas Jervis,

Robert Jones,

Richard Thomas,

William Jones,

John Davies,

John Brees,

Lewis Evans,

Joseph Thomas,

Richard Morgan,

David Jones,

Evan Humphreys,

Evan Lewis.”

 

Wele’r atebiad, yr hwn sydd yn ysgrifenedig ar gefn yr alwad:-

 

At eglwysi Llanbrynmair, Carno a Beulah.

 

“Anwyl Gyfeillion, - Diau nad oes ran o’r ddaear ag y mae cymaint o gysylltiad rhwng fy meddwl ag ef a Llanbrynmair a’r cymydogaethau. Yna y cefais fy magu ar fronau tyner eglwys Dduw, yna y preswylia fy nghyfeillion gore, yna y dedwydd ymdreuliodd fy anwyl dad ei oes yn ngwaith ei Arglwydd, ac yna y gorphwys ei lwch sydd gu genyf fi.

 

“Yr wyf yn cyfaddef fy mod wedi barnu yn ddiysgog hyd yn ddiweddar, nad oeddwn byth mwy i wneud fy nghartref yn eich plith, ond yn awr mae cymaint o bethau anisgwyliadwy i mi wedi ymgyfarfod, a rhagluniaeth fel pe byddai yn (x29) amlwg gyfeirio fy nghamrau tuag atoch, fel pe byddai i mi wrthod cydsynio a’ch deisyfiad, byddai arnaf ofn croesi ewyllys y Nef.

 

 

“O ganlyniad, wedi dwys weddio am gyfarwyddiadau yr Ysbryd Glan yn y cyflawniad o un o oruchwylion pwysicaf fy oes, yr wyf yn awr mewn modd gwylaidd a chrynedig, yn ysgrifenu a’m llaw fy mod yn penderfynu cydsynio a’ch deisyfiad, sef i ddyfod atoch ar derfyniad fy amser yn yr Athrofa, i wneuthur fy ngore yn eich plith. Nid yw yn debyg y byddaf yn gallu ymweled â chwi yn amlach nag eraill o’m cyd-fyfyrwyr cyn yr amser hyny, o herwydd fod ein holiad i gymeryd lle ar ddiwedd y tymor presenol.

 

“Gan obeithio fod yr hyn a benderfynwyd ar y ddaear wedi ei selio yn y Nef, y gorphwys eich gostyngedig gyfaill,

 

JOHN ROBERTS,

 

Drefnewydd, Hydref 20, 1834. Myfyriwr.”

 

Wrth gymharu y ddwy alwad, gwelir fod rhyngddynt gryn dipyn o wahaniaeth. Sonir yn ngalwad S.R. am “gynhaliaeth,” a phethau y byd hwn, ond ni nodir un cyflog penodol; ond ni cheir yn ngalwad J. R. gymaint a gair o son am dâl o gwbl. Llawnodwyd galwad S.R. gan “Ddiaconiaid” a “Henuriaid,” ond ni sonir gair am y naill na’r llall yn ngalwad J. R. Llawnododd S.R. alwad J. R., ond ni lawnododd ei dad mo’i alwad ef. Pa un ai o ddamwain ai o ragdrefniad y dygwyddodd y pethau hyn, mae yn anhawdd penderfynu; ond tybiwn fod yma awgrym fod osgo addysg S.R. yn erbyn aml swyddogaeth yn yr eglwys, ac yn erbynurddas a rhinwedd y swydd, ac yn erbyn hawl swyddogion i wneud dim ar wahan i’r eglwys, - ar wahan i’r bobl, - mai nid “Henuriaid” a “Diaconiaid” sydd i alw gweinidog; ac mewn trefn i ddangos iddynt nad oedd yn ystyried ei hun yn uwch neu yn wahanol i’r bobl, efe a lawnododd alwad ei frawd fel rhyw aelod arall. Yr oedd yn amlwg ei fod yr adeg hono yn amddiffyn y drefn a’r egwyddorion cynulleidfaol, am yr hyn wedi hyny y daeth yn enwog.

 

(x30) Cymerodd yr urddiad le Hydref 8, 1835, a chymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan

H. Lloyd, Towyn;

J. Griffiths, Tyddewi;

D. Morgan, Machynlleth;

E. Davies, Dref-newydd;

D. Williams, Llanwrtyd;

J, Breese, Caerfyrddin;

Hugh Pugh, Llandrillo,

Michael Jones, Llanuwchllyn;

J. Griffiths, Rhaiadr;

J. Roberts, Capel Garmon;

R. Rowlands, Henryd;

E. Price, Ruthin;

Thomas Lewis, Builth,

W. Jones, Amiwch;

W. Rees, Mostyn;

D. Price, Penybont;

T. Jones, Minsterley;

a W. Morris, Llanfyllin.

 

Y fath dorf o weinidogion o bell ac agos oedd yn yr urddiadau hyn, mewn lle mor anghysbell, pan oedd gweinidogion yn gymharol anamli, a chyfleusderau teithio yn brin rhagor ydynt yn bresenol. Tynid hwynt at eu gilydd ar y fath adegau gan gariad brawdol a chydymdeimlad, a pha ryfedd iddynt wedi dyfod gael cyfarfodydd da.

 

Mehefin 6ed, 1838, priododd J. R. ag Ann Jones, merch y Parch. T. Jones, hen weinidog Llansantsior a Moelfro. Cymerodd y briodas le yn Swyddfa y Cofrestrydd yn Llanelwy, gan nad oedd un addoldy Ymneillduol yn nes ato na Rhesycae, wedi cael ei drwyddedu i briodi, er fod y gyfraith mewn grym er 1836; ond araf iawn yw yr Ymneillduwyr i gymeryd gafael yn y ffafrau a gynygir iddynt, ac o ran y defnydd a wna yr Ymneillduwyr o’r addoldai trwyddedig, ni fuasai waeth iddynt mewn llawer ardal fod eto heb eu trwyddedu. Gwneid cwmni y briodas i fynu o

 

W. Rees, Dinbych;

W. Williams, Liverpool (Wern);

E. Hughes, Treffynon;

a Hugh Pugh, Mostyn;

 

a’r ddau olaf fel tystion a lawnododd y cofrestriad. Wedi priodi aethant yn eu hoi i gartref y wraig ieuanc, ac yn yr hwyr cynhaliwyd gwasanaeth yn y capel, yn yr hwn y cymerwyd rhan gan y gweinidogion uchod. Ffordd ragorol i gynal gwledd priodas, a hollol deilwng o J. R.

 

Yn nglyn a’r briodas efe a symudodd, neu yn hytrach efe a gafodd ganiatad gan eglwys Llanbrynmair, i ymdroi am flwyddyn yn nghartref y wraig, i orphen trefnu rhyw (x31) amgylchiadau, a gwasanaethai yn eglwysi esgobaeth ei dad-yn-nghyfraith - Llansantsior, Moelfro, ac Abergele. Yn 1839, efe a ddychwelodd i Lanbrynmair, a bu yno yn cydweithio a’i frawd yn ddiwyd hyd y flwyddyn 1848, pryd y symudodd i Ruthin.

 

Mae’n debyg fod llawer o ddylanwadau yn cyd-weithio i ddwyn oddi amgylch y symudiad hwn:- prin y gallai y wraig, yr hon oedd wedi ei dwyn i fynu mewn ardal baradwysaidd ar lan y môr, deimlo yn ddedwydd mewn lle mor anghysbell a Llanbrynmair. Arno ef yr oedd gofal yr ysgol ddyddiol, swydd, at yr hon nid oedd ganddo ef mwy nag S.R. un gronyn o dueddiad, ond nid oedd modd cael gwaredigaeth heb adael y lle. Heblaw hyny, mae’n debyg nad oedd y cyflog yn Llanbrynmair wedi cyfnewid i ateb y cyfnewidiad oedd wedi cymeryd lle yn ei amgylchiadau ef.

 

Bu iddynt ddau o blant, mab a merch. Ganwyd y mab, yr hwn a elwid John Thomas, yn ol enwau ei ddau daid, Tach. 29ain, 1841, a bu farw Mawrth 14eg, 1842. Canodd Hiraethog iddo ar ei enedigaeth fel hyn,-

 

..........................“Llanbrynmair gair dan goron,

...........................A llawenha llu yn hon;

...........................Byw anwyd hardd-fab yno,
...........................Llawenydd o’i herwydd o

...........................Deued i ei dad Ioan,

...........................A bri i’w deg briod Ann;

...........................Iddyn’ hwy yn wreiddyn hedd

...........................Da tyfed eu hetifedd.

 

...........................Enw a delw ’i ddau daid

...........................Da, teilwng, a’i dad telaid,

...........................A ddygo, ddalio yn ddilyth,

...........................Hyd y bedd, heb beidio byth;

...........................Caed rinwedd rhyfedd i’w ran,

...........................Da duwiol ei daid Ioan,

...........................Ei ŵyr mwyn gaffo ’i synwyr mad,

...........................A’i lenwi o’i ddylanwad.

 

...........................(x32) Da a dewr fu ’i daid arall,

...........................Penaf wr, poenai y fall;

...........................Tymer wrol-ddewr Tomas

...........................Yn yr ŵyr rhoed Ion o’i ras.

 

...........................Holl dalentau doniau ’i dad,

...........................A’i ystwyth barabl gwastad,

...........................A’i deg hyawdledd fo’n dod

...........................I dyfu ar ei dafod.

 

...........................Rhesymwr fel ’i ewythr Samuel - fyddo

......................................Gan feddu ‘i ddawn uchel,

................................Ei ras, a’i dymer isel,

................................Ei wên fwyn a’i awen fêl.

 

...........................Enwog weinidog hynodol - a fo

......................................Hir fywyd defnyddiol,

................................Bid i’w ran - boed ar ei ol

................................Fawredd a chlod anfarwol.

 

................................Pallais cyn myn’d dim pellach –

................................Bendith nen ar ei ben bach.”

Dinbych, Mawrth 16. ............................................G. HIRAETHOG.

 

Ond cyn i’r Cywydd gyrhaedd i Lanbrynmair, yr oedd “John Bach” wedi gadael yr anial, ac wrth gydnabod ei dderbyniad, ysgrifenodd S.R. y nodyn tyner canlynol,-

 

“AT G. HIRAETHOG.

Anwyl Gyfaill,-Atebwyd gweddi eich Cywydd yn gynt ac yn llawnach nag oeddych yn feddwl. Mae John Thomas bach o’r Faenol wedi myned at ei ‘ddau daid’ i fyw. Bore ddydd Llun diweddaf daeth cyfaill iddynt i alw am dano. Arwyddodd hwnw fod ganddo ddigon o fodd ac o fedr i’w fagu, a’i fod am ei gymeryd yn ddioed i’r Brifysgol. Estynodd ei ddeheulaw i godi y bach i’w fynwes. Gwenodd y ddau ar eu gilydd, ac aeth y cerbyd ymaith. Gan nad oedd arnynt eisiau y corphyn bach o glai, cafodd y rhieni yr hyfrydwch o fedyddio hwnw a dagrau wrth ei amdoi mewn arch dlos iawn i gysgu dan ofal angelion; a phan gân yr ‘udgorn,’ bydd John Thomas yn un o’r rhai cyntaf i godi.”

 

(x33) Ganwyd y ferch, yr hon a elwid Sarah Maria, Awst 29ain, 1843, a chroesawyd hi fel hyn gan Caledfryn,-

 

“Ni anfonwyd un fwynach - o law Duw,

..........Na blodeuyn tlysach;

.....Sarah gaffo oes hirach

Yn y byd, na’i brawd, ‘John bach.’”

 

Ac yn ol dymuniad yr englyn, hi a gafodd fyw yn hwy na’i “brawd bach.” Tyfodd i fynu yn eneth hoenus, foneddigaidd, dirion, unplyg, ddifalch, a hollol ddirodres - bob amser yn siriol a llawen, ei chalon yn orlawn o gydymdeimlad. Cafodd yr addysg ore, a medrai wneud ei hun mor gartrefol yn y bwthyn ag yn y palas, a gwnai bob peth yn ei gallu i wneud pawb yn ddedwydd o’i chylch. Pan oddeutu 22ain oed hi a briododd a Mr. J. Pritchard, Wrexham; a dywedai eu cydnabyddion na fu ieuad mwy cymharus. Fel hyn y canai Mynyddog iddynt ar ddydd eu priodas,-

 

“Wel, wel! mae’r ieuenctyd yn myn’d,

..........Beth bynag a ddaw o’r hen lanciau;

.....A neidio mae ffrynd ar ol ffrynd

..........I gylchoedd didori’r modrwyau.

 

 “Mae’n rhaid fod cyfandir mwynhad

..........Tudraw i gyhydedd priodi,
.....O ran mae’r rhai calla’n y wlad

..........O ddiwrnod i ddiwrnod yn croesi.

 

“Mae awel a elwir ‘trade wind,’

..........Yn rhywle oddeutu’r cyhydedd;

.....Ac yno mae llongau yn myn’d,

..........Heb ffwdan yn ol fel bo’u tuedd.

 

“Mae cariad ‘run fath a’r ‘trade wind,’

..........Oddeutu cyhydedd priodi,

.....Os codir yr hwyl, mae ‘n rhaid myn’d

.........Nes byddwn yn chwap wedi croesi.

 

(x34) “Mi glywais seryddwr ryw dro

..........Yn son am ryw ‘ddiffyg modrwyol,’

.....Mae hwnw, pan ddaw, meddai fo,

..........Yn ddiffyg heb oleu’n y canol.

 

“Mae’ch haul chwithau’n ddisglaer ei wedd

..........Wrth gychwyn eich hynt briodasol,

.....Gobeithio na ddaw hyd eich bedd,

..........I’ch modrwy’r un diffyg modrwyol.

 

“Erfyniau cyfeillion yn un,

..........Erfyniau a gweddiau’ch rhieni,

.....A bendith y nefoedd ei hun

Fo’n dilyn eich gwaith yn priodi.

 

“Hir, hir boed eich oes i gydfyw,

..........Heb ofid na thrallod i’ch lluddias;

.....A modrwy amddiffyn eich Duw

..........Fo’n fodrwy am fodrwy’ch priodas.”

 

Parhaodd eu bywyd priodasol heb arno un “diffyg” am dair blynedd ar ddeg, yn unig byddai ei hiechyd hi yn pallu ar brydiau. Bu farw Rhag. 3, 1878, yn 35ain mlwydd oed. Bu ei cholli yn ergyd drom i J. R., mor drom fel y bu agos iddo ymollwng dani. Pan fu farw ei briod, Ionawr 26, 1871, yr oedd yn teimlo fod ei ferch rhyngddo a’r gwaethaf yn nhymor henaint. Yr oedd yr anwyldeb rhyngddynt o nodwedd fwy tyner na’r cyffredin, ac yr oedd braidd yn awyddu myned yn hen er mwyn cael symud ati i fyw, fel y bu ei marwolaeth bron ei ddrysu ef. Ac o’r amser hwnw yn mlaen, gwelid ef ar adegau fel pe yn petruso pa un gwell oedd “myned” neu “aros.”

 

 

Enw priodol y brawd ieuengaf oedd Richard Roberts, ond efe a’i newidiodd yn fore, yn fwy, mae’n debyg, er mwyn perseinedd na dim arall, i Gruffydd Risiart; a chan mai wrth yr enw mabwysiedig hwn yr adwaenid ef drwy ei oes dyma’r enw a ddefnyddiwn ninau yn y Cofiant.

 

(x35) Yr oedd efe bum mlynedd yn ieuengach na J. R., ond nid oes ond ychydig iawn o’i hanes boreuol ar gael. Dygwyd ef i fynu fel ei gyfoedion yn holl addysg ysgol yr “Hen Gapel,” ymunodd â chrefydd yn fore, a dywed traddodiad ei fod yn hynod er yn blentyn am wneud ei hunan yn ddefnyddiol yn mhob lle, ac yn mhob cylch lle y byddai, a dangosodd yn fore fod ynddo athrylith gref, a synwyr cyffredin o’r radd uchaf. Mae’n wir mai yn amaethwr y dygwyd ef i fynu, ac mai amaethwr yr ystyrid ef, ond medrai droi ei law at bob galwedigaeth gyda’r fath ddeheurwydd fel nad allai neb ddyweud yn mha un yr oedd yn rhagori fwyaf. Nid oedd un gorchwyl eisiau ei wneud mewn tŷ nac ar dyddyn na fedrai G. R. ei wneud. Gwelsom gelfi o’i waith mor gaboledig â phe wedi eu troi allan o law-weithfaoedd ein prif ddinasoedd. Gwelsom ddarn o wlanen a wnaed ganddo ef ei hun: efe oedd wedi bod yn cneifio, yn cribo, yn nyddu, ac yn gwau, yr oedd yn gystal darn o wlanen â dim a droir allan o law-weithfaodd Velindre, Treffynon a’r Drefnewydd. Bydd pobl yn gyffredin pan yn ymweled â thŷ pregethwr eisiau gweled ei lyfrgell, ond awydd mawr ymwelwyr â’r Diosg fyddai cael golwg ar shop waith Gruffydd. Yr oedd ganddo y fath gyflawnder o’r arfau gore at bob galwedigaeth, a chadwai hwynt mor lân a threfnus, fel nad oedd raid iddo chwilio un winciad cyn gosod ei law ar bob un.

 

Wedi marw y tad, daeth S.R. yn denant, ond Gruffydd oedd yr amaethwr; efe oedd yn hau ac yn medi, yn cywain i’r ysgubor, ac yn dyrnu, yn prynu ac yn gwerthu, ond “Sam” oedd yn gofalu am y rhent. Heblaw nad oedd S.R. wedi cael profiad mewn amaethu a masnachu, yr oedd ynddo anghymwysder neillduol at y gwaith: nis gallai drin arian fyddai yn eiddo iddo ei hun. Os gwelai rywun yn tynu gwyneb mewn angen, ac yn achwyn ei bod yn galed arno, neu yn cynyg iddo amodau teg mewn masnach, ymadawai yn rhwydd a’r cwbl oedd ar ei helw; felly mae yn fwy na thebyg y buasai S.R. wedi ei rhedeg i’r pen er ys talm oni (x36) buasai fod Gruffydd yn rheoli y pwrs, at yr hyn meddai gymhwysder neillduol.

 

Priododd rywbryd yn 1853, ag Anne Jones, Castell Bach, Rhaiadr Gwy, a bu iddynt un plentyn, merch, yr hon a adwaenid gan bobl Llanbrynmair a’r cyhoedd yn lled gyffredin, wrth yr enw “Margaret Fach;” am mai dyna fel y byddai ei hewythr S.R. yn arfer ei galw, ac ysgrifenu am dani. Yn 1856, aeth efe a’i wraig a’i “Fargaret Fach,” yr hon oedd yn ddwy flwydd oed, allan i Tennessee, fel y mae helyntion bywyd G. R. o hyn yn mlaen yn gydblethedig a helyntion bywyd S.R.

 

(x37) PENOD II.

Y TRI YN TROI O LANBRYNMAIR.

 

J.R. I RUTHIN, G. R. AC S.R. I TENNESSEE.

 

Ni fu J.R. erioed yn hoff o gael neb i udganu o’i flaen, ond gweithredai a symudai bob amser yn ddystaw. Daeth felly yn ddystaw i Ruthin: ni wnawd yno gynhwrf o gwbl, ac ni fu yno gyfarfod sefydlu hyd ddiwedd Mehefin y flwyddyn ganlynol, pryd y cynhelid yno gyfarfod pregethu, yr hwn, meddai efe, a alwai rhai yn “gyfarfod sefydlu;” ond os mai cyfarfod sefydlu oedd, gwyddai efe yn dda na fu yno ofyn am, nac adrodd cyffes na chredo o fath yn y byd, gofyn am gydsyniad na chodi dwylaw. Ie, yn hytrach na chodi dwylaw barnwyd mai gostwng y dwylaw i waelod y llogellau a’u codi wedyn i lefel y plât fyddai y ffordd ore i ddangos sefydlu, ac felly y gwnawd, a chasglwyd yn y cyfarfod hwnw at ddyled y capel ₤65 17s. 2c. Nis gallai oddef y syniad o dalu llog yn flynyddol am fenthyg arian ar gapel. Gresynai fod cynifer o gyfarfodydd mawrion yn cael eu cynal mewn lleoedd y byddai y capel yn suddo dan faich o ddyled, heb neb yn meddwl dal ar y cyfleusderau i symud y baich. Credai y dylai y gweinidogion a’r bobl feddwl yn mlaen llaw am guro’i gilydd mewn cyfranu at y ddyled ar y cyfryw uchelwÿliau. Byddai iddynt gasglu yn arwydd dda eu bod yn caru yr achos, a byddai casglu am y mwyaf yn sicr o fod yn help iddynt garu eu gilydd yn well.

 

Ymddengys i eglwys Ruthin, wedi talu ychydig o’r ddyled, suddo i afael difrawder. Yr oedd y ddyled yr amser hwnw ar y lefel yr oeddynt yn gallu ymgodymu â hi heb fyned allan o’r ffordd gyffredin; ond yr oedd talu dros ugain punt y flwyddyn o logau yn blino ei yspryd ef. Yr oedd efe yn credu ond i ddyn ddychmygu haelioni y byddai yn sicr (x38) weled y ffordd i gario allan ei fwriad. Gwyn fyd nad ellid argraffu ei syniadau am ddyledion addoldai ar feddyliau arweinwyr yr eglwysi. Planhigyn, meddai, yw haelioni, y gellir ei fagu yn mhob eglwys, ond rhaid cael y doeth a’r hunanymwadol i wneud, tra y gall y cybydd anfoesgar ei fathru a’i ladd. Ni fu erioed yn credu fawr yn niwygiadau y “nadu a’r neidio.” Y diwygiadau a gymeradwyai efe oedd y gwneud a’r aberthu. Gwawdiai y syniad o adael i eglwys gael gorphwys ar ol gwneud un ymdrech; nid oedd hyny yn ei farn ef amgen gadael i’r clock sefyll am dymor ar ol iddo fod yn cerdded am flynyddoedd. Dywedai ei fod yn nabod personau yr oedd eu haelioni wedi bod yn llonydd drwy eu. hoes, a rhyw dro pan hudwyd hwynt i roddi chwecheiniog at ryw achos cyhoeddus, yr oeddynt mor anghelfydd yn ei roddi a phe gwelid glowr yn llywio llong allan o’r porthladd. Yr unig ofn oedd arno am eglwys ar ol iddi dalu ei dyled oedd, iddi ymollwng i fyw yn segur. Nid oedd erioed wedigweled dau ddyn dan eu beichiau yn ymryson, eithr bydd y ddau yn myned am y gore. Yr oedd eglwys ddeng mlynedd yn ol o dan gymaint o faich fel yr ofnid am y capel, ond cyn pen dau fis wedi talu y ddyled aeth dau o’r aelodau i ffraeo am yr hoel fwyaf cyfleus i ddal agoriad y capel. Aeth y ffrae mor boeth fel yr ymadawodd un o’r ddau a’i grefydd, ac a’r eglwys, am yr hoelen, a bu agos i’r eglwys gael ei chwalu. Rhybuddiai gynulleidfaoedd diddyled rhag myned i segura, ac i rywun ddyfod yn mlaen i ofyn iddynt benderfynu y pwnc pwysig ar ba hoel y dylid gosod agoriad y capel.

 

Yr oedd yr amser hwnw yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd y wlad, ac yr oedd yn neillduol felly gartref. Yr oedd y bobl o’i gylch fel byddin, bob amser yn barod at waith, ac nid oedd eisiau ond dyweud y gair nad oedd pawb yn symud, ac erbyn diwedd 1855, yr oeddid wedi talu dyledy tri chapel, Ruthin, Graigfechan, a Pwllglas, yr hyn yn nghyd oedd yn ₤550.

 

(x39) Ni bu erioed yn fawr gynhadleddwr, ac nid oes hanes iddo yn ystod ei arosiad yn Ruthin gymeryd rhan mewn cynhadledd oddigerth un waith, pryd y cynygiodd “fod i bob eglwÿs wneud casgliad chwarter i gynorthwyo eglwysi gweiniaid,” a chyn diwedd y cyfarfod ymgymerodd y gynhadledd â thalu ₤80 o ddyled capel Llansantffraid.

 

Yr oedd yn amlwg fod cyfeillgarwch lled gynes rhyngddo, er ys peth amser, ag eglwys Gymreig Aldersgate, Llundain – byddai yno yn fynych. Yr oedd llawer o’r aelodau yn hanu o gylchoedd Maldwyn a Meirion. Wedi bod yno yn Mehefin, 1856, dywedai fod yr achos yn Aldersgate yn iach ac yn llwyddo, fod y bobl yno yn anwyl iawn o’u gilydd, a bod yn hawddach pregethu yno nag arfer: nad oedd un anhawsder i gael arian pan fyddai galwad am danynt, ond fod dyled ar y capel, a bod llogau i’w talu, fod yno lawer o gynlluniau ger bron i gael arian, rhai am excursions, rhai am dê, rhai am drawing; ond ei gyngor ef oedd casglu bob Sul hyd nes talu y ddimai ddiweddaf. Ac yn gynar yn 1857, efe a symudodd atynt.

 

Pan ddeallodd y cyfeillion yn Ruthin ei fod yn myned i’w gadael, trefnasant i wneud iddo dysteb, a chael cyfarfod ymadawol cyhoeddus, ond ni fynai efe hyny, a dymunodd arnynt beidio, ac ni wnaed ond cyfarfod cyfrinachol. Cymerwyd y gadair gan M. Louis, Ysw., yr hwn a ddywedodd,-

 

“Ni adnabum erioed ddyn ffyddlonach i’w egwyddorion, ar yr un pryd yn dangos llai o ysbryd plaid, na Mr. Roberts. Ni wnaeth neb yn ystod ei arosiad yma fwy nag ef i gynorthwyo y tlodion, ac o blaid addysg a chrefydd. Os aeth neb erioed o Ruthin yn teilyngu gwir barch a chydnabyddiaeth, ein cyfaill parchedig yw hwnw. Arno ef y mae y bai na buasai yr anrheg yn ganoedd o bunau. Gosododd ni mewn rhwymau. Ni chaniatâi wneuthur y peth yn gyhoeddus. Yr ydym yn teimlo yn ddwys o herwydd ei ymadawiad, ac yn dymuno iddo dderbyn y rhodd fechan hon (₤22 17s. 6c.) o’n llaw.”

 

(x40) Wrth ddiolch dywedodd J. R., fod y misoedd hyny yn cael eu hynodi a thystebau i weinidogion, ac mai o herwydd hyny, ac yn neillduol o herwydd y dysteb oeddid newydd wneud i’w anwyl frawd, oedd yr achos iddo rwystro pobi Ruthin yn eu cynlluniau. Yna aeth yn mlaen,—


“Ychydig mewn cymhariaeth o’r cyfranwyr a berthynant i’r un enwad â mi. Pâr hyn i mi anwylo yr enwau yn fwy, a chadwaf y rhestr yn yr un gell a’m hewyllys ddiweddaf. Gwelaf mai Eglwyswyr yw y prif gyfranwyr, ond ni cheisiodd neb genyf aberthu egwyddor er mwyn y gymwynas hon. Yr wyf er pan yn Ruthin wedi gwrthwynebu y Dreth Eglwys, a gweithiais fy ngore yn erbyn rhai o’m cymwynaswyr yn yr etholiad diweddaf; ac os byddant hwy a minau byw, ac heb newid ein golygiadau, gwnaf fy ngore eto yn eu herbyn. Nid yw gwrthwynebu neb, ynddo ei hun, ar un cyfrif yn hyfrydwch i mi. Byddai yn dda genyf fod yn llyfrau fy arglwydd tir a’i stiward, a chael gwyneb siriol Eglwyswyr y gymydogaeth, ond y mae amgylchiadau, yn y rhai y dylai pob perchen rheswm a chydwybod, gymeryd ei lywodraethu gan bethau mwy pwysig a chysegredig nag awydd boddloni cyfeillion.

“Os gofynir paham yr wyf yn gadael Ruthin, nis medraf ateb, oddi eithr i mi ddyweud mai cydgyfarfyddiad llawer o bethau bychain. Nid wyf yn cael fy ymlid i ffwrdd. Mae yn llawenydd i mi edrych yn ol ar yr hyn a wnaed yma yn ystod yr wyth mlynedd diweddaf — adgyweirio addoldai ac ysgoldai, talu dyledion, cynorthwyo eraill i wneud daioni. Cefais bobl y dref yn garedig. Mae y serch rhyngwyf a’r bobl y cefais y fraint o’u gwasanaethu am yn agos naw mlynedd yn gryfach nag erioed. Ni chlywais air yn un o’r tri chapel i ddolurio fy nheimladau. Maent wedi cyflawni eu haddewidion i gyd â mi. Dylai eglwysi Cymru os yn galw gweinidogion i’w gwasanaethu, ofalu bod yn helaethach yn eu haddewidion, ac yn fanylach yn eu cyflawniadau. Nid oes un swydd yn cael ei thalu chwarter mor sâl a’r weinidogaeth, ac ar yr un pryd, dysgwylir i ddyn ymddangos yn barchus, a bod yn esiampl mewn haelioni cyffredinol. Rhaid i gynulleidfaoedd Cymru ddeffro ati, neu foddloni i’w pulpudau gael eu llenwi â gwehilion y bobl, yr hyn, yr wyf yn ofni a derfyna mewn gyru crefydd o’r wlad.

(x41) “Yr wyf yn myned i’r brif ddinas, gwn fod yno fanteision ac anfanteision. Mae symud yn y byd hwn yn debyg i glaf droi yn y gwely, gan feddwl ysgoi y boen. Efallai fod y gwaith a fwriedid i mi gan fy Nhad nefol yn Ruthin a’i chymydogaethau tlysion ar ben. Diolch i chwi am wneud hwn yn gyfarfod dirgelaidd. Medraf oddef dirmyg a dal ergydion, bydd hyny fel yn nerthu y gewynau, ond ni oddef fy nheimladau eiriau mwynion serch, a llaw dyner cymwynasgarwch. Gwyddai fy nghyfeillion hyn y dyddiau gynt, a mynych y bu iddynt fy ngorchfygu â hwy; ond er fod caredigwydd yn rhwygo y teimladau ar y pryd, bydd meddwl am dano yn ol llaw yn ddymunol iawn. Byddaf yn edrych yn ol at heno fel un o nosweithiau anwylaf fy mywyd. Wrth derfynu dywedaf am Ruthin,— “Heddwch fyddo o fewn dy furiau, a ffyniant yn dy balasau.”

Dywed Mr. John Hughes, hen aelod o eglwys Pendref, Rhuthin, am dano,—

“Bu yr eglwys yn daer mewn gweddi, cyn iddo ddechreu ei weinidogaeth yn ein plith, am gael arwyddion fod Duw yn foddlon iddo ddyfod atom, a chawsom ein gwrando. Yr oedd yn amlwg o’r dechreu mai dyn Duw yn ein plith oedd yr ANWYL J. R. Bu yn weithgar iawn yn y tair eglwys: ni fynai orphwys hyd nes cael y tri chapel yn ddiddyled ac yn llawn o bobl. Nid yn unig yr oedd yn weithgar ei hun, ond yr oedd ei ddylanwad mor fawr yn yr eglwysi, fel yr oedd yn codi pawb o’i gylch i gydweithio âg ef. Yr oedd perffaith undeb yn yr eglwys yr amser hwnw. Amser bendigedig Seion Duw oedd yr adeg hòno. Mae cofio yr adeg hòno yn melysu y teimladau. Yr oedd yr eglwys yn gref, yn unol, y capel yn fwy na llawn, cynulleidfa fawr yn mhob gwasanaeth, a dyma oedd yn ardderchog — J. R. fyddai yn cael y gynulledfa fwyaf. Llenwid y pulpud o dro i dro gan wŷr enwog, ond yr oedd dyn y bobl, a pharhaodd felly am yr wyth mlynedd a haner y bu yn ein plith. Gellid ysgrifenu cyfrol ar ei hanes yn Ruthin, ond ni atebai hyny un dyben. Dydd da i eglwys Pendref oedd y dydd y rhoddodd rybudd ei fod yn myned i’n gadael.
Gwnaethom bob ymdrech i gael ganddo aros, ond i ddim dyben. Ni chawsom byth wybod paham yr oedd yn ymadael. Daeth efe ei hun wedi hyny i deimlo iddo wneud camgymeriad, ac addefai hyny yn rhwydd yn mhen flynyddoedd ar ol hyny. Nid oedd eglwys mwy (x42) unol a llewyrchus yn y wlad nag eglwys Ruthin yn ei amser ef. Bydd hiraeth fel tônau yn golchi drosof wrth gofio yr amser dedwydd hwnw, a’m profiad yn awr yw:—

.....’Henffych i’r dydd cawn eto gwrdd
..........Yn Salem lân oddeutu’r bwrdd.’“

Cynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad yn Aldersgate, Mai 8fed, 1857, pryd y pregethwyd gan y Parchn. W. Rees, Liverpool; a D. Rees, Llanelli. Prin yr oedd y sefydliad drosodd nad oedd yn dechreu ymosod ar y ddyled, a chymerodd y pen trymaf o honi ar ei ysgwydd ei hun, ac ni orphwysodd nes tori o hono asgwrn ei chefn. Anrhegodd yr eglwys ef âg oriadur aur yn gydnabod am ei lafur. Dywed am dani:—

“Bydd yn anhawdd i neb wneud drwg rhyngwyf a’r watch hon. Dysgwyliaf iddi gydgerdded â’r haul, ac os bydd yn myned naill ai o flaen neu ar ol hwnw, edrychaf yn ddu arni, ac os bydd iddi ddyweud celwydd fel rhai o glociau Cymru, ceryddaf hi yn llym, ond ni ddigiaf wrthi yn anfaddeuol, ac ni thoraf fy nghyfamod â hi.”

Prin yr oedd asgwrn cefn y ddyled wedi ei dori nad oedd efe yn Conwy, ac ar amlen y “Cronicl,” cyn ei fod ond prin wedi gorphen cyhoeddi rhestr y casgliadau at ddyled Aldersgate, dywedir, “Llythyrau at J.R. i’w cyfeirio i Gonwy,” heb ddim mwy na llai o drwst.

Yr oedd ychydig o ddyled, oddeutu ₤170, yn aros ar gapel Conwy pan aeth J. R. yno. Yr oedd yn gresynu fod yr eglwys yn talu llogau am arian y gallent yn hawdd eu talu i fynu heb wneud un aberth, a gofynai — “tybed nad oedd rhai eglwysi cryfion yn aros dan ddyled o bwrpas er mwyn cael esgus i beidio cynorthwyo eglwysi gweiniaid?” Ni fu yno ddim heddwch hyd nes y talwyd y ffyrling eithaf, yr hyn a gymerodd le yn mhen ychydig gyda blwyddyn wedi iddo ymsefydlu yno. Dywed iddynt gasglu y cwbl mewn tri mis, ac iddynt gael llawer mwy o bleser nag o drafferth wrth eu casglu: ddarfod i’r ychydig haelioni hyny fod yn foddion i ddwyn allan lawer o rasusau eraill i’r eglwys. Byddai bob amser yn awyddus am i eglwysi gredu mai eu (x43) heiddo hwy yw eu dyledion, yr un fath ag y mae y capeli yn eiddo iddynt, ac y byddai i eglwys wneud ymdrech gartref i dalu ei dyled yn fwy o fendith iddi nag i neb arall ei thalu drosti.

Ymddengys ei fod wrth symud i Gonwy yn teimlo ei fod yn dyfod yno i ddiweddu ei oes. Adeiladodd iddo’i hun yno dy cyfleus dros ben ar y Morfa, lle yn flaenorol nid oedd un tŷ yn agos. Diolchai yn garedig i’r Corporation am bob hwylusdod oedd wedi gael gyda’r adeiladu, ac awgrymai iddynt symud y tollbyrth oedd o bob tu i’r dref, ac am iddynt drefnu rhyw ffordd i addurno y llanerchau o gylch y fynedfa i’r Morfa. Dywed :—

“Ni raid i Landudno o’i safle uchel, daflu llygad amheus ar y Morfa, canys bydd cyfodiad y naill yn ddyrchafiad i’r llall, ac un o brif hudoliaethau yr oes nesaf fydd cychod yn croesi yr afon er rhoddi mantais iddynt dalu ymweliadau a’u gilydd. Tra byddo gwenwyn yn awyr ein dinasoedd a gwastad-diroedd breision Lloegr; a thra y pery y Nef i gymysgu cyffuriau o awelon iachus tir, môr, a mynydd y cymdogaethau hyn, a’u cadw yn ei chostrelau ar estyll creigiau Llandudno, Conwÿ a’r Penmaenmawr, mae y Saeson a chenhedloedd eraill yn sicr o ddyfod yma i’w hyfed, a llenwi ein tai yn yr haf. Gyrir hwy yma gan eu meddygon i ddrachtio o’r costrelau hyn, am na fedrant hwy gymysgu eu cyffelyb.”

Yr oedd llawer yn rhyfeddu ei fod yn adeiladu tŷ mor fawr tra yr oedd ei deulu mor fychan, ac ni ddeallasom i neb gael gwybod byth beth oedd ei feddwl ar y pryd, ond ein cred oedd, ac yw, ei fod yn rhagweled dychweliad ei frodyr o America, a’i fod yn trefnu iddynt gael cartrefu yn nghyd am y y gweddill o’u hoes; ond gan nad pa un, felly y troes pethau allan, ac yr oedd y tŷ yn ateb yn rhagorol. Ond yr oedd y lluaws yn rhyfeddu llawer mwy ei fod yn adeiladu y fath balasdy “ar y Morfa,” allan o gyrhaedd cymdeithas. Proffwydid y byddai yno le llaith, ac y byddai yno beryglon fil, ond chwarddai efe am ben y daroganau hyny, a deallwyd cyn pen fawr amser mai efe oedd yn iawn, ac erbyn heddyw (x44) mae yno dreflan fechan o dai gwychion, am y rhai y gellir dywedyd nad oes un gwael yn eu plith, — y Morfa erbyn heddyw yw “WEST END” Conwy. Awgrymodd ei edmygwyr fwy nag unwaith y priodoldeb o wneud iddo dysteb gyhoeddus, ond nid oedd efe yn teimlo yn barod am dani, a dywedodd mewn atebiad i’r cynyg a wnaed yn 1864, ei fod yn ddiolchgar iawn i’w gyfeillion am eu teimladau da tuag ato, ond mai yr unig dysteb a ddymunai efe hyd ei fedd gan ei gyfeillion fyddai, iddynt roddi help llaw i ledaenu “YR YSGRIFEIN A’R DADLEUON,” yr hwn oedd newydd gyhoeddi, y byddai yn well ganddo dderbyn arian am y llyfr o lawer nag at y dysteb, gan awgrymu y gwnai y llyfr ddaioni i’w meddwl. Yn ystod y deng mlynedd dilynol yr oedd yn ymddangos fod Conwy a’r amgylchoedd i fyned drwy oruchwyliaeth nerthol o drawsffurfiad, a bod yno ddadblygiadau mawrion i gymeryd lle, yn benaf yn nglyn ag agoriad y ffordd haiarn i Ffestiniog. Os oedd y dref i eangu, a’r boblogaeth i gynyddu, barnai J. R. a’r eglwys nad oedd y capel Anibynol yn deilwng, nac yn ddigon, ar gyfer llawer o gynydd, a’r teimlad oedd, fod yno eisiau capel newydd. Soniodd rhywrai drachefn yn 1874 am wneud tysteb i J. R., daliodd yntau ar y cyfle, ac apeliodd at y cyhoedd am aros heb wneud dim am ychydig, fod eisiau capel newydd yn Conwy, ac os deuai’r eglwys allan yn lled unol i gydweithio, y byddai yn ddiolchgar iddynt am anfon y cyfraniadau a fwriedid at y dysteb i drysorfa y capel, am y byddai yn bleser ganddo gael capel newydd i fod yn goffadwriaeth o ewyllys da y cyhoedd iddo ef.

Yr oedd efe yn llawen fod Capel ac Ysgoldy diddyled ganddynt, ond arswydai rhag i hyny wneud i’r cyfeillion ymollwng i segurdod, a gobeithiai y byddai iddynt droi yr arian allasai fod yn myned i bwll diwaelod llogau i gynorthwyo rhyw gangen wan o’r fyddin, a chredai yn gryf, er mor (x45) ddiolchgar oeddynt oll am yr help oeddynt wedi dderbyn oddiwrth y cyhoedd, mai yr arian oedd pobl Conwy eu hunain wedi gyfranu fyddai fwyaf o fendith iddynt. Cafodd ei ddylanwad yn nghyfeiriad haelioni afael gref iawn ar yr eglwÿs. Ychydig o gynulleidfaoedd sydd yn Nghymru o rif eglwÿs Conwy ddaw i fynu â hi yn ei chyfraniadau at bob achos da. Bydded i’r rhieni ddysgu eu plant eto i ragori yn y gras hwn.

Ni bu gweinidog erioed yn ddyfnach yn serch yr eglwysi nag yr oedd efe yn serch pobl Llanbrynmair, Ruthin, ac Aldersgate, a chyn pen fawr amser yr oedd yn ffafryn y bobl yn Conwy; nid yn unig yr oedd yn ffafryn rhyw un blaid, neu un dosbarth, eithr yr oedd yn serch pawb, y tlodion fel y cyfoethogion, yr aelodau a’r gwrandawyr. Byddai llawer o honynt yn ddigon dibris a diofal o’u crefydd, ond yn ofalus o J.R

..............................S.R. A G.R. YN MYNED I AMERICA.
Wedi i S.R: gael ei adael fel hyn wrtho’i hun, rhoddodd i fynu ofal eglwÿs Carno, eto yr oedd maes ei weinidogaeth yn llawer rhy eang i un dyn, heblaw fod ganddo i ofalu am yr ysgol ddyddiol, heb son am y baich dyledswyddau cyffredinol ac enwadol oedd ar ei ysgwydd. Yr oedd Llanbrynmair yr amser hwnw yn lle mor anghysbell, fel yr oedd “myned oddicartref” yn golygu taith wythnos yn mron. Yr oedd y dref yn mhell, y llythyrdy yn mhell, a’r gwaith yn fawr, ac nid oedd y cyflog yn caniatau iddo dalu cynorthwr.


Drwy iddo ef ar farwolaeth ei dad, 1834, ddyfod yn denant y Diosg, dygodd hyny ef i gyfarfyddiad uniongyrchol â’r tirfeddianwr a’i stiwardiaid, a gwelir yn “Hanes Cil Haul Uchaf,” yr hwn a ysgrifenodd yn 1850, ac yn hanes y Diosg, yr hwn a ysgrifenodd yn 1853, beth oedd ei farn am danynt, a’i deimladau atynt. Mae yn amlwg oddi wrth holl gynyrchion (x46) ei ysgrifell y biynyddoedd hyny, ei fod yn credu fod ganddo rywbeth i wneud er gwella amgylchiadau amaethwyr y wlad. Ysgrifenai yn ddibaid ar y pwnc, weithiau apeliai at anrhydedd ac enw da y landlord, weithiau triniai y stiwardiaid yn herwydd eu creulonderau a’u gormes, ac weithiau anogai y tenantiaid i ymysgwyd. Dywed Gwr Cil Haul, —

“Amserau caled iawn gafodd y ffarmwyr bron o hyd o ddyddiau Boni hyd heddyw. Llai nag a feddyliech chwi o’r tenantiaid gore sydd wedi gallu cael dim cyflog am eu llafur, chwaethach llog am eu heiddo. Mae miloedd o honynt wedi rhoddi nerth eu dyddiau gore i’w meistriaid am flynyddoedd lawer, am ddim ond eu bwyd. Maent yn dlotach o lawer yn awr ar ol eu holl ofal, a’u holl lafur, nag oeddynt ddeng mlynedd ar hugain yn ol.
Mae yr arglwyddi tiroedd yn eu diraddio ac yn eu trin fel caethion. Maent yn meddwl ei bod yn fraint iddynt gael llafurio am ddim i’w cynal hwy. Gore i ni, yn wir, po gyntaf yr awn i America. Nid oes dim golwg am ddyddiau gwell yma. Yr wyf fi yn barnu, yn ol pob hanes, fod y Serfs yn Rwssia, er caethed ydynt, wedi enill mwy yn y deugain mlynedd diweddaf, nag a enillodd y rhan fwyaf o denantiaid ucheldiroedd Cymru. Maent yn trin tenantiaid y wlad hon yn awr, yr un modd ag y dywedir fod barwniaid Rwssia yn trin eu caeth-denantiaid. Mae yn drwm fod arglwyddi tiroedd mor ddi-wladgarwch, mor ddi-ddynoliaeth, ac mor gibddall i’w lles eu hunain. Cewch weled na bydd neb yn fuan i drin tir yn yr hen wlad lethedig hon, ond parsoniaid a begeriaid, mân ysweiniaid a demireps, uwch ac is stiwardiaid, clepgwn, turncoats, game- keepers, a beiliaid. Caiff arglwyddi tiroedd weled eu camgymeriad, a theimlo eu colled, ond bydd yn rhy ddiweddar iddynt edifarhau. Dichon y caiff y tô ar ol y nesaf weled dyddiau gwell yn hen wlad ‘wyllt Gwalia.’ Mae fy meibion yn teimlo ein bod wedi cael cam creulon, ac y maent yn benderfynol i fyned i America, ac y maent yn daer iawn am i’w rhieni fyned gyda hwy.”

Ond po fwyaf fyddai efe yn ddynoethi gorthrwm landlords a’u stiwardiaid, byddent hwy yn fwy milain wrtho, ac yn dal ar bob cyfle i ddial arno. Yr oedd y bobl hefyd, ar ol byw cyhyd mewn carlhn wedi myned (x47) yn wasaidd eu hyspryd; ni feddylient am ryddid uwch na gweithio yn galed, a thalu rhent fel y tadau. Yr oeddynt yn barod i wrando ar “Sam,” yn siarad am y nefoedd, a’r seddau aur, a’r telynau, a’r gwisgoedd gwynion, a’r gogoniant sydd fry, a thynasent eu llygaid i’w rhoddi iddo pe yn bosibl; ond pan y soniai am wasgu ar y landlord i ymddwyn yn fwy dynol at ei denantiaid, yr oedd yn eu golwg fel un yn cellwair, ac nid oedd yn cael yn eu plith ond ychydig iawn o gydymdeimlad, a dialid yn dost ar y rhai y tybid eu bod yn glynu wrtho ac yn ei gefnogi. Yr oedd hefyd lawer o’i frodyr yn y weinidogaeth yn barotach i wawdio ei ymdrechion nag i gydymdeimlo ag ef. Fel, rhwng pob peth, efe a ddaeth i’r penderfyniad i ymfudo. Gadawn iddo ddyweud yn ei ffordd ei hun yr achos iddo adael Llanbrynmair, -

“Yr oedd bron bob tyddyn o fewn cylch fy ngweinidogaeth yn perthyyn i un o’r teuluoedd mwyaf ei ddylanwad yng Nghymru. Yr oedd stiward y man hono o’r wlad yn ddyn traws, uchel eglwÿsig, yn ymhyfrydu mewn sarhau a llethu Ymneillduwyr. Yr oedd y ‘stiward anghyfiawn’ hwn, am resymau na atebai un dyben manylu arnynt, a thrwy lwybrau creulon, y rhai nad ellir yn awr eu desgrifio, wedi penderfynu tywallt ei lid ar S.R. Yr oedd S.R. wedi goddef ei gamymddygiadau yn amyneddgar am yn agos ugain mlynedd. Yr oedd drwy yr holl amser wedi bod yn ffyddlon i fuddianau y landlord, ac wedi dangos pob awydd am wella yr etifeddiaeth, ac eangu ei anrhydedd.

“Mae’n wir iddo, yn y diwedd, achwyn ar orthwm y stiward, ond aeth llaw y gorthrymwr yn drymach, canys cefnogwyd ef gan awdurdodau uwch, wrth benelin y rhai yn barhaus yr oedd y
‘Penboethion offeiriadol’ yn eu cymell i ymddwyn at rai Ymneillduwyr cydwybodol yn hollol anheilwng o’u safle urddasol; a chan fy mod yn teimlo fod dylanwad amryfal y teulu mawr hwn yn rhedeg yn fy erbyn yn mhob cyfeiriad bob amser, penderfynais ymgilio o’r maes. Wedi i mi wneud pob trefniadau at adael Cymru, mynai y stiward hwnw gael gan y wlad i gredu nad oedd ganddo ef ddim yn fy erbyn. Ond nid oedd hyny ond gwegi, canys yr oedd yn gâs ganddo fi, ac yr oedd y falais olaf o’r fath fwyaf diraddiol, - malais dwfn, dibaid, budr, (x48)
cyfrwys, dichellgar, o’r nodwedd fwyaf Jesuitaidd, fel yr oedd yn gallu gweithio allan ei gynlluniau dialgar drwy fil a mwy o ffyrdd, yn greulon a diffaith, - mor fawaidd, gwenwynig, a ffyrnig, fel y teimlais fy hun dan orfod i droi fy nghefn ar gysylltiadau anwylaf fy ieuenctyd, mewn trefn i ddianc rhag ei wenwyn.”

Ysgrifenodd yr eglurhad hwn yn 1861. Mae yn amlwg ei fod yn teimlo mai rhaid oedd iddo adael Llanbrynmair. Beth oedd i’w wneud? Gallasai yn hawdd gael ei ddewis o holl eglwysi gweigion Cymru a Lloegr, ond ni fuasai hyny yn ei olwg amgen tro llwfr-ddyn, - dianc i ryddid ei hun a gadael ei gyfeillion ar ol mewn caethiwed. Ai nid oedd modd dianc i wlad rydd, a chymeryd ei gyfeillion anwyl o Lanbrynmair gydag ef? - eithaf adlewyrchiad o ewyllys Iesu, “lle yr wyf fi, fod o honynt hwythau hefyd gyda myfi.” Yr unig ffordd am dani oedd cael sefydliad, - gwladfa neu daelaeth Gymreig,- yn America, digon mawr i bobl Llanbrynmair i gyd i symud yno.

Yr oedd iddo berthynasau yn America mewn amgylchiadau cysurus. Yr oedd brawd i’w dad, y Parch G. Roberts, yno er 1795; yr oedd hwnw nid yn unig yn barchus fel pregethwr, ond yr oedd yn farnwr gwladol o gryn urddas. Yr oedd S.R. mewn gohebiaeth ag ef ddiwedd 1849, ac amlwg yw oddi wrth y llythyr a dderbyniodd oddi wrtho yn dwyn y dyddiad Mawrth 1, 1850, yr hwn a gyhoeddwyd yn “Y Cronicl,” Gor. yr un flwyddyn — mae y llythyr ei hun yn awr ger fy mron — ei fod wedi holi ychydig o hanes a theimladau ei ewythr pan yn gadael ei wlad. Mae y llythyr hwnw yn ddyddorol ac yn darllen fel ffug-chwedl. Rhoddwn yma fraslun o’i gynwysiad:—

“Ezechiel Hughes yn myned o Lanbrynmair i Bristol, i gytuno am long i gymeryd mintai o 50 o Gymry i America. Yr oedd y llong i ddyfod i Gaerfyrddin i’w cyfarfod, ond methodd y Cadben gadw’i addewid, a bu raid i Ezechiel Hughes fyned yr ail waith i Bristol. Gadael Llanbrynmair, Gorphenaf i ieg, 1795: cerdded i Gaerfyrddin — y bechgyn a’r (x49) merched. Deall wedi cyrhaedd yno fod y llong yn rhy fawr i ddyfod i fynu i’r afon. Cytuno â llong fechan am eu cymeryd oll i Bristol. Pan ar yr afon daeth y Press Gang i’w cyfarfod, a buont yn ceisio dal rhai o honynt. Mewn trefn i ysgoi y “Gang,” aeth y bechgyn ar eu traed i Bristol, ac aeth y merched a’r clud yn y llong fach. Buont yn aros yn Llanstephan dair wythnos yn disgwyl gwynt teg. Awst 3ydd, cychwynodd y merched hwythau ar eu traed am Bristol, ond bore dranoeth trodd y gwynt, cychwynodd y llong o Llanstephan, trodd y merched i Abertawe, a chawsant yno long yn myned i Bristol. Yr oedd y dynion hwythau yn cychwyn am America wedi cael gwynt teg, gan feddwl cwrdd â llong Caerfyrddin ar y môr, a chael y clud a’r merched. Cwrddodd y ddwy long, ond er eu tristwch, nid oedd y merched yn llong Caerfyrddin, a gwrthododd y Cadben roddi i fynu y clud heb iddo fyned drwy y tolldy. Pan laniodd y merched yn Bristol, dywedwyd wrthynt fod y dynion wedi hwylio, ond drwy i long America orfod troi yn ol i geisio y clud, cafodd y dynion gyfle i redeg i’r lan a chawsant afael yn y merched. Cychwynasant o Bristol Awst y 6ed, a buont ar y mor 83 o ddyddiau, wedi bod o Lanbrynmair hyd Philadelphia lawn 109 o ddyddiau.”

Mewn nodiad ar ddiwedd y llythyr hwn, dywed S.R. y rhaid fod y fintai honno o yspryd cryf, cyn anturio gadael eu cyfeilllon ar amser mor enbyd. Yr oeddynt yn rhagweled y byddai i rwysg, a gormes, a gloddest, a gwastraff, a threthoedd anghyfiawn, a beichiau trais, a difrod rhyfeloedd Lloegr, yn sicr o wneud i lawer o’r deiliaid i ymfudo o’u gwlad yn fuan neu yn hwyr, ac felly ar ol pwyllog gydymgynghori, penderfynent y gallai rhai a ymfudent gyntaf i agor y ffordd drwy y peryglon a’r rhwystrau, fod yn gym-wynaswyr i’w teuluoedd, ac i’w gwlad. Yn “ Cronicl “ Mai, 1850, ceir gan G. R. lythyr ar ffurf cyfarwyddiadau i ymfudwyr, ac yn ei ail lythyr, yr hyn a ymddangosodd yn Tachwedd yr un flwyddyn, dywed fod ymfudo wedi dyfod yn “bwnc y dydd,” fod y “cylchgronau yn llawn ohono,” ac yr oedd y “Cronicl” felly. J. R. yn dadlu y cwestiwn; G. R. yn cyfarwyddo; rhywun yn holi, ac S.R. yn ateb; ac yn y (x50) “Cronicl” Gor., 1852, gwnaeth S.R. ddatganiad diamwys ar y pwnc. Rhag nad yw y “ Cronicl” hwnw wrth law gan y darllenydd gosodwn ef yma :—

“Mae y rhan fwyaf o ardaloedd amaethyddol y Dywysogaeth wedi dyoddef llawer iawn o ddirmyg, ac o gam. Mae arglwyddi tir a’u goruchwylwyr er ys blynyddau lawer yn dwys orthrymu eu tenantiaid ffyddlonaf; ac y mae yn anhawdd iawn eu deffroi i ystyriaeth a theimlad o anhegwch, ac anghallineb, a cholled eu hymddygiadau gormesol. Byddai yn dda iddynt astudio y benod fer a ganlyn o FFEITHIAU AR YMFUDIAETH :—

1. Darfu i dros ddeg-a-thriugain o bobl, gan mwyaf o ieuenctyd yn mlodau nerth eu bywyd, ymadael o Lanbrynmair bore heddyw i fyned i America (dywedir ar ddiwedd yr ysgrif eu bod yn gant ond un).

2. Yr oedd nifer o fwy na hyny newydd ymadael o ardal gymydogaethol.

3. Mae yna amryw deuluoedd eto yn crynhoi erf cyfrifon a’u hamgychiadau, er bod yn barod i ymadael yn yr Hydref neu y Gwanwyn.

4. Mae pump neu chwech o finteioedd mawrion fel hyn, heb son am rai llai, wedi ymfudo o’r ardal hon o fewn cylch ychydig iawn o flynyddoedd.

5. Mae minteioedd cyffelyb yn myned o ardaloedd eraill, ac y maent yn amlhau o hyd.

6. Nid elai hen deuluoedd Cymreig o wlad eu tadau pe gobaith iddynt allu enill eu bywioliaeth gartref.

7. Mae canoedd lawer o’r rhai aeth o’r ardal hon yn ddiweddar yn gwneud yn dda yn America, ac y maent o hyd, nid yn unig yn gwahodd eu cyfeillion i’w canlyn, ond yn barod i anfon cynorthwy i’w ceraint tlodion at draul y fordaith.

8. O gylch deufis yn ol derbyniodd yr ysgrifenydd dros ₤80 oddi wrth lafurwyr ieuainc yn America tuag at gynorthwyo rhai o’r teuluoedd oedd yn ymadael bore heddyw.

9. Mae y cymhellion i ymfudo yn cyflym luosogi ar bob llaw. Mae un papur pum’ punt yn awr bron yn ddigon i gludo dyn ieuanc cryf, neu ddynes ieuanc wridog, o lechweddi cras, diffrwyth, Plumlimon a Chader Idris, i ddyffrynoedd breision yr Ohio a’r Missouri.

(x51) 10. Mae lluosogiad y cyfleusderau hyn i deithio, yn nghyd a’r sicrwydd am gyflog uwch, a bwrdd llawnach, &c., yn ddeniadau cryfion iawn i bobl ieuainc fywiog a gweithgar, i ymfudo o’r wlad hon, o dlodi gormes, i’r wlad lle y mae iawnderau llafur a chrefydd yn cael gwell nodded a thegwch nag ydynt yn gael yma.

11. Mae’r amser wedi darfod i geisio perswadio llafurwyr diwyd, a chelfyddydwyr cywrain, i aros yn Nghymru i haner newynu, tra y mae y pethau hyn yn cael eu prisio mor uchel mewn marchnadoedd mor ddeniadol, rhyddion, a chyfleus.

12. Mae poblogaeth yr ardal hon llai yn ol y cyfrifiad diweddaf nag ydoedd yn ol y cyfrifiad blaenorol, a buasai yn llawer llai nag ydyw oni buasai i nifer o bobl yn ychwanegol gael eu cyflogi i wneud gwlaneni, ac i nifer o ddyeithriaid haelfrydig ddyfod yma i agor mwngloddiau.

13. Mae lleihad parhaus poblogaeth deneu ardal amaethyddol, lle y mae cymaint o angen gwelliantau, yn arwydd o’r fath sicraf fod yma ryw anhegwch echrydus o du arglwyddi tir a’u goruchwylwyr.

14. Mae y dosbarth gore o denantiaid yn cael eu gorfodi i gredu fod y dydd gerllaw pan y rhaid iddynt hwythau roddi i fynu eu ffermydd, a dilyn eu ceraint a’u cyfeillion i chwilio am ffermydd gwell a rhatach ar Gyfandir mawr y gorllewin, a bydd yn hawdd iddynt eu cael.

15. Nis gall arglwyddi tir yn awr ddychymygu y colledion a gânt hwy, a’u plant ar eu hol, oblegid alltudio y teuluoedd gweithgar, diwyd, a chynil hyn o’u ffermydd, a byddant pan fyddo yn rhy ddiweddar yn sicr o edifarhau, oblegid sathru mor greulon iawnderau anwylaf y bobl fu yn llafurio mor ffyddlon a hunanymwadol drwy lu o wasgfeuon i gasglu y rhenti iddynt hwy.

 

16. Ni chaiff arglwyddi tir a’u goruchwylwyr byth gyfle eto i orthrymu tenantiaid mor ufudd, gostyngedig, a distaw, a’r rhai y maent yn awr yn falu i ddinystr. Mae yr hen ddichellion o ddenu a rhwydo y dibrofiad wedi gweithio eu hun allan. Mae drws gobaith i ddiwydrwydd a llafur yn agored. Mae cyfandiroedd mawrion breision cyfoethog America ac Awstralia yn agored i dderbyn, gwobrwyo, ac anrhydeddu y celfyddydwr cywrain, y bugail gofalus, y llafurwr gweithgar, a’r tenant gorthrymedig.

(x52) O! na byddai i arglwyddi tir, er eu mwyn eu hunain ac er mwyn eu gwlad ymroddi ar unwaith, mewn yspryd teg a rhydd i ystyried rhwymedigaethau pwysfawr eu sefyllfa yn eu perthynas ag iawnderau llafur teuluoedd eu tenantiaid, oblegid gallent, efallai, ddyfeisio rhyw foddion i achub hen etifeddiaethau eu hynafiaid rhag effeithiau andwyol ymfudiaeth, mwy anghyfaneddol na dim a welodd Lloegr, Cymru, na’r Iwerddon erioed eto.”

Os na lwyddodd S.R. i godi pobl Llanbrynmair i ymladd am eu hawliau gartref, efe a lwyddodd i’w llanw hwy, a’r holl Dywysogaeth, âg ysbryd ymfudo, ac nid oedd dim a wnai y tro ond cael cymydogaeth, neu wladfa Gymreig, yn America. Ymddengys fod pobl America yn deall arwyddion yr amserau yn ardal Llanbrynmair, naill ai drwy lythyrau cyfrinachol, neu drwy y newyddiaduron; ac yn agos i ddiwedd 1855, pan oedd yr “haiarn yn boeth,” wele ddau foneddwr o’r America, W. Bebb, cyfreithiwr cyfrifol, cefnder i S.R., ac E. B. Jones, peirianydd a thirfesurydd nid anenwog, hen gyfaill i’r teulu, yn ymweled â Chymru, yn hollol ar ddamwain, fel pe tae (?). Yn ystod eu hymweliad a’u perthynasau yn Llanbrynmair, datganent eu syndod fod teuluoedd yr ardal yn goddef i’r landlords eu gorthrymu fel yr oeddynt, tra y gallent gael tyddynod iddynt eu hunain yn America yn rhad iawn. Ystyrid hwynt yn ddau ddyn cymwys dros ben i gyfarwyddo eu cydgenedl i ddewis lle i ymsefydlu. Yr oeddynt yn nabod y Cymry, ac yn nabod America, ac mewn dull cyfeillgar dangosasant i S.R. ac eraill y medrent hwy werthu iddynt randiroedd eang yn East Tennessee, yn agos 100,000 (canmil) o erwau o dir da; 40,100 (deugain mil a chant) o’r hwn oedd yn perthyn i un E. D. Saxton, o N. York, a’r gwedddill yn perthyn i fasnachwr a elwid De Cock, yr hwn ar y pryd oedd yn byw yn Belgium. Yr oedd eisiau arian, meddid, ar y naill i orphen rhyw ffordd haiarn, ac yr oedd y llall yn dymuno ymneillduo o’i fasnach. Sicrheid fod y tir yn gymwys at yr amcan. Gwyddai S.R. fod y lle yn ddaearyddol ar y (x53) dramwyfa naturiol rhwng llynoedd y gogledd, Cleveland a Chicago, a Mobile a Florida yn y De, fel y mae’r Amwythig ar y dramwyfa naturiol rhwng Liverpool a Deheudir Cymru. Gwyddai fod yr hinsawdd yn dymherus, y ddaear yn gynyrchiol, fod y mynyddoedd cribog yn goediog, llawn o fwnau a meini o’r fath ragoraf, a bod yno ddigon o ffynonau grisialaidd, halltaidd, a phob math o ddyfroedd meddygol, a’i fod y lle mwyaf gobeithiol yn y wlad am ffordd haiarn.

Prynwyd y tir ac arwyddwyd y cytundeb, gan y pleidiau yn Llundain, ac yn Brussels, Rhagfyr 1af, 1855, ac yr oedd S.R. i dalu am dano cyn pen dau fis, yr hyn hefyd a wnaeth.
Arwyddodd E. B. Jones a W. Bebb eu henwau fel tystion wrth y pryniad. Credai S.R. a phobl dda Llanbrynmair, fod y ddau Americanwr yn gweithredu oddiar gyfeillgarwch a chenedlgarwch, a rhoddasant iddynt ₤200 i dalu eu dreuliau, ond wedi hyny hwy a ddeallasant nad oedd y ddau ond goruchwylwyr (landsharks) i Saxton a D. Cock, a’u bod yn cael eu talu yn ol deg y cant ar drafodaeth arian y pryniad.

Enwau y prynwyr oeddynt Gwilym Williams, Pentremawr; William a J. R. Jones, Tymawr; Gruffydd Risiart, y Diosg; oll o Lanbrynmair; a daliai S.R. y tir iddynt, neu drostynt, mewn ymddiriedaeth. “Yr oeddynt yn awyddus am gael eraill i ymuno a hwy yn yr anturiaeth i gymeryd rhan o’r cyfrifoldeb, ond nid oedd neb yn barod ar y pryd, fel y gorfu iddynt fyned yn rnlaen eu hunain, neu buasent yn colli y cyfleusdra.” Yr oeddynt hwy wedi prynu y tir am haner dolar yr erw, 2/- o’n harian ni, ac yn trefnu ei werthu am 2/6 yr erw, yr hyn oedd yn profi nad oedd amcan i wneud arian wrth wraidd yr anturiaeth. Gwerthwyd o 30 i 40 o dyddynod o wahanol faintioli ar unwaith, ac yr oedd ugeiniau o deuluoedd yn trefnu myned ar eu hol.


Cychwynodd y fintai gyntaf allan Meh. 3ydd, 1856, mewn llong hwÿliau, yr hon a elwid “John Bright.” Yn y fintai (x54) hono yr oedd Gwilym Williams a’i deulu, Gruffydd Risiart a’i deulu, a John R. Jones, Tymawr, yn nghyd a nifer o gymydogion oedd yn bwriadu ymuno a hwy wedi cyrhaedd yno:— yr oedd S.R. a W. Jones yn gorfod aros gartref i orphen rhyw drefniadau. Yr oedd ar y llong 197 o deithwyr, o’r rhai yr oedd llawer yn Gymry.
Cawsant, ar y cyfan, fordaith ddymunol, a glaniasant yn N. York, Gorph. 4ydd. Cyflwynasant eu diolchgarwch unol i’r cadben am ei ofal am danynt, yn ystod y fordaith. Wedi ychydig ymdroi a dadluddedu, aethant yn eu blaen, a chyrhaeddasant Tennessee yn mis Awst.

Dyma fel y dywed Mr. W. Jones, Amwythig, Tymawr gynt, un o’r prynwyr,—

“Dyma i chwi ddarlun o Brynyffynon, cipylldy (loghouse), lle y bu S.R. a G. R. a’i deulu yn byw drwy flynyddoedd eu hymdaith yn Tennessee. Yr oedd wedi ei adeiladu ar gyfer G. R. a’i deulu cyn iddynt gyrhaedd yno. Dyma’r fath oedd tai cyntaf yr hen Sefydlwyr i gyd, yn nghoedwigoedd America yr oes o’r blaen, ac i’r rhai na chawsant gyfle i’w gweled, gall na fydd desgrifiad o loghouse yn anyddorol.
Gwneir y muriau o goed crynion, fel y maent yn tyfu, coed syth ac o’r un braffder os gellir. Gosodir y naill ar y llall nes cyrhaedd yr uchder gofynol; torir bwlch yn eu penau fel ag i goed y talcenau gael suddo ynddynt, yr hyn a wna yr adeilad yn gadarn. Yr unig arfau gofynol i adeiladu loghouse yw llif a bwyell, morthwyl a hoelion. Os digwydd fod gwagle rhwng y coed, llenwir hwnw gore y gellir a chlai o’r tu fewn, a thoir hwynt a choed wedi eu hollti, yr un fath ag yr holltir hwynt i wneud cylch-lestri; a gwneir y cwbl yn ddigon afrosgo ac anghelfydd.”

“Yr oedd Brynyffynon, fel y gwelir, yn dŷ cymharol hir, oddeutu 50 troedfedd o hyd, wrth 22 troedfedd o led, a 12 troedfedd o uchder, a phendist (veranda) yn rhedeg ar hyd un ochr iddo. Mae pendist felly, heblaw bod yn ffasiynol, yn ddefnyddiol iawn yn America; bydd y bobl yn treulio oriau danynt i fwynhau awelon iach yr hwyr. Gwaith Gruffydd Risiart ei hun oedd y rhan fwyaf o’r dodrefn. Yr oedd ganddo bob math o arfau, ac yr oedd yn medru eu

 

(x55) LLUN: Brynffynnon, Tennessee

 

(x56) trin yn ddeheuig. Yr oedd ei fedrusrwydd yn yr ystyr hyn wedi bod o wasanaeth mawr iddo yn y Diosg, ond yr oedd yn llawer mwy felly mewn gwlad newydd; efe hefyd wnaeth yr holl gêr hwsmonaeth, y llidiardau, a llawer o’r dillad a wisgid ganddynt. Bu hefyd wrthi yn brysur yn arloesi y tir o gylch y tŷ, fel yr oedd ganddo oddeutu 40 erw at dyfu defnyddiau cynhaliaeth y teulu. Planodd wrth dalcen y tŷ ger y simnau winwydden o rywogaeth ragorol, yr hon a dyfai dros y to, a byddai yn dwyn ffrwyth toreithiog bob blwyddyn, a’r hanes diweddaf a gafwyd oddiyno yw, ei bod yn parhau yn ffrwythlon o hyd.”


“Hwyliodd yr ail fintai, gyda’r hon yr aeth yr ysgrifenydd, ac S.R., o Liverpool, Mai 6ed, 1857, yn y ‘Circassian,’ un o agerlongau y North Atlantic Steam Co. Bydd llongau y Cwmni hwn yn rhedeg ganoedd o filldiroedd yn nes i’r gogledd, na’r llongau fydd yn rhedeg rhwng Liverpool a New York. Galwodd yn St. John ac yn Halifax, a Mai 20, glaniasom yn Portland Maine. Yr oedd 150 o Gymry ar y bwrdd, yn mhlith y rhai yr oedd y Parch D. Price, Dinbych, a’i deulu. Cychwynasom dranoeth gyda’r tren, a chroesasom yr afon fawr St. Lawrence, ger Montreal, ac yn mlaen at raiadr y Niagara, yr hwn, yr amser hwnw, a ystyrid yn un o ryfeddodau penaf y byd naturiol. Yma dechreuodd y fintai ymwasgaru, rhai am ymdroi, rhai ar ben eu taith, rhai yn myned i aros yn nhalaeth N. York, rhai yn myned i Pennsylfania, ond aeth y rhai oedd yn gwynebu ar Tennessee yn mlaen i Cincinnati ar lan yr afon fawr Ohio. Wedi aros yno ychydig ddyddiau, ni a aethom yn mlaen gyda’r tren yn groes i dalaeth Kentucky, hyd Lexington, yna gyda’r cerbyd cyffredin (Stage Coach) hyd Somerset, ac oddiyno yn mlaen mewn gwagen afrosgo ar hyd lleoedd geirwon hyd Brynyffynon.”

Cyrhaeddasant Brynyffynon ganol ddydd Sabbath, a cha S.R. ei hun dynu y darlun :—

“Cyfarfuasom a saith o wragedd pur gryno yn cyd-deithio tua’r odfa, yr oeddym yn barnu y buasent wedi colli y canu, y darllen, y weddi, a’r testyn, ac yr oeddym yn cofio wrth eu gweled am rai o ferched gwridog Cymru, y rhai fydd yn arfer bod dipin yn hir yn ymdrwsio cyn cychwyn i’r addoliad. Yr oedd pawb oeddym yn gyfarfod yn adwaen teulu Brynyffynon, (x57) ac yr oedd rhai o honynt yn gallu dyweud eu bod newydd eu gweled, a’u bod oll yn iach.

“Yr oedd ein calon yn cynhesu fwy fwy fel yr oeddym yn agoshau at y fan o fynud i fynud. Dechreuodd guro dipyn
yn gyflym pan y croesasom y llinell derfyn o Kentucky i Tennessee. Chwyddodd i guro braidd yn gyflymach pan ddeallasom ein bod ar ein tir ein hunain, ac ymwylltiodd i guro braidd yn gyflymach nag y dymunem iddi wneud pan y daethom i olwg Brynyffynon, ac yn enwedig pan y gwelsom “Margaret fach” a’i mam, a “Betsy fach” a’i mam yn rhedeg i’n cyfarfod tua’r gate, a G. R. a D. G. yn eu dilyn dipyn bach yn arafach, ond dan deimlad dwys. Ni theimlasom erioed yn fwy diolchgar na phan eisteddasom y tro hwnw wrth ford hir, mewn ystafell fawr, oleu, ysgafn, gysurus, i gydginiawa a’n brawd a’i deulu, a phan y cydblygasom ar oi hyny o gylch allor Brynyffynon i gydnabod tiriondeb amddiffyniad Rhagluniaeth drwy holl droion ein taith.”

 

Dywed Mr. W. Jones, eto,-

 

“Yr oedd yn ddiwrnod hafaidd, ac yr oedd yr olwg gyntaf a gawsom ar diroedd uchel y Cumberland mor ddymunol, fel yr oeddym yn teimlo yn hollol foddlon ar ein hardal fabwysiedig, er nad oedd un olwg felly yn ddigon i benderfynu ei rhagoriaethau na’i diffygion.

 

“Yr oeddym wedi cael ar ddeall cyn cychwyn fod rhyw amheuaeth am deitl y rhan lle yr oeddym ni yn bwriadu sefydlu gyntaf. Hawlid y llanerch gan ddyn a elwid Smith, yr hyn a fu yn achos i Gwilym Williams, un o brif gefnogwyr y symudiad, ddigaloni a throi ei gefn, a myned at ei gydnabyddion i Ohio, ac aeth amryw o bobl i’w ganlyn, gan addaw dychwelyd os gwelent yr amgylchiadau yn troi allan yn ffafriol. Wrth weled hyny digalonodd eraill nes eu taflu i amheuaeth pa beth oedd oreu - rhoddi i fynu neu fyned yn miaen; ond ni fynai S.R. son am roddi i fynu.

 

“Yn mhen tua dau fis wedi i’r ail fintai gyrhaedd yno, pan oeddym wrthi yn prysur arloesi darn o dir, gwasanaethwyd haner dwsin o honom â gwys gyfreithiol, am ‘droseddu ar dir oedd yn perthyn i ddyn arall.’ Digalonodd hyny ni yn enbyd, ac ymaith yr aethom i gyd i Ohio, i aros i gael gweled beth fyddai terfyn achos Smith yn ein herbyn, fel (x58) cyn pen fawr ddyddiau yr oedd pawb wedi myned ymaith ond S.R. a G. R. a’i deulu.”


Pan ddaeth y newydd allan fod S.R. wedi gwneud ei feddwl i fynu i ymfudo, ymdaenodd galar a phryder fel cwmwl tew dros wyneb yr holl Dywysogaeth. Gofynai cyfeillion Rhyddid, a Rhinwedd, a Heddwch, a Diwygiad, a Chynildeb, pwy fyddai yn arweinydd iddynt yn ei le, ac nid oedd Anibynia yn gweled neb yn y gwersyll fyddai yn debyg o wisgo ei fantell, nes y teimlai llawer awydd dywedyd fel y dysgyblion gynt, “awn ninau fel y byddom feirw gydag ef.” Datganid y teimladau pryderus hyn drwy wahanol ffyrdd — siarad, ysgrifenu, barddoni, a chyfranu arian. Cynygiwyd gwobr am gân ar ei ymadawiad. Daeth naw cyfansoddiad i law, a dywedai y Beirniad, Rhydderch o Fon, fod dyfodiad cynifer o ganeuon i’r gystadleuaeth, mewn amser mor fyr, yn ddigon o brawf fod teimlad dwys yn y wlad yn herwydd ei ymadawiad. Yr oedd yn wleidyddwr, yn fardd, yn gyfaill, yn weinidog, yn Gristion, a dymunai fyrdd o fendithion ar ei ymdrechion o blaid rhinwedd a chrefydd, i ba le bynag yr elai. Wele’r gân oreu,—


..........“Llawn o swyn yn nghlustiau Cymru

.............Ydyw enw Llanbrynmair,
..........Dug i’r meddwl lu o enwau
...............Gweinidogion pur y gair, —
..........Lewis Rees a Richard Tibbot,
...............A’r ‘hen Roberts’ fwyn a’i blant,
..........Enwau sydd yn gysegredig
...............Drwy holl Gymru ar bob mant.

..........“Yn marwolaeth yr ‘hen Roberts,’
...............Calon Cymru gafodd frath,
..........Collodd fwyn golomen nefol,

...............Doniol, hawddgar, heb ei fath;
.......... Ond fe godwyd i gysgodi

...............’R archoll ddofn ei feibion mâd,
..........Ar y rhai disgynodd yspryd
...............Addfwyn, doniol, hardd eu.tad.”

 

(x59) ..“Llanbrynmair a Samwel Roberts,
...............Sydd yn nghlustiau Cymru'n un;
..........Tybiai'n anghyfiawnder ysgar
...............Enwau oeddynt mor gytun;
..........Tra'n mwynhau ei lwydd ni thybiai
...............Y galwesid hi drachefn,


..........Byth i edrych drwy ei dagrau
...............Arno arni'n troi ei gefn.


..........“Fe gysegrodd ei alluoedd

...............Oll i wasanaethu'i wlad,

..........A gwae'r adyn a feddyliai
...............Droi a cheisio gwneud ei brad;
..........Pe cyfodid o'i flaen rwystrau
...............Megis moelydd Llanbrynmair,

..........Treiddiai'n ddistaw tan eu gwadnau
...............Gyda'i ysgrif-bin a'i air.

..........“Na fu ymdrech ein t'wysogion,
...............A chledd llym Llewelyn fawr,

..........Erioed haner mor llwyddianus
...............I gadw'r estron blin i lawr,-

..........Yn ein hardal rydd fynyddig,
...............Ag a fu'i ysgrif-bin ef;
..........Dyma gleddyf llym daufiniog
...............Hogwyd gyda bendith nef.


..........“Fflangell ysgorpionog ydoedd
...............Ef i ryw arglwyddi traws,

..........Ffrwynodd benau rhai ysweiniaid,

................Gwnaeth eu trin yn llawer haws;
..........Dysgu wnaeth i'r Cymry ddeall
...............Oll mai dynion ydynt hwy,

..........Ac i herio trawsymhonwyr
...............Byth i ddwyn eu hawliau mwy.


.......... “Fe fu'n ddyfal iawn i ddysgu
...............Egwyddorion teyrnas nef,

..........Ar hyd gymoedd anial Cymru, -
...............Molir Duw am dano ef;
..........Dysgu wnaeth i ddynion weled
...............Rhyfel yn ei liw ei hun,
..(x60) Ac mor groesed oedd cwerylon

...............I ddeddf teyrnas Mab y dyn.

..........“Os rhaid iddo gael ymadael,
...............Boed i fendith Duw ei dad,
..........A’i arddeliad ef ei ddilyn
...............Dros y môr i’r newydd wlad;
..........Aed ei lais i lys Amerig
...............Fel i lysoedd Prydain Fawr,
..........Pared agor drws i’r caethion,
...............I ryddid dynion ar y llawr.

..........“Anibynwyr! enwog Gymro —
...............Nid peth bychan genych gwn,
..........Ydyw colli ’nawr o’ch rhengau
..............Eich cadfridog enwog hwn,
..........A ymladdodd eich rhyfeloedd,
...............Ac a’ch dygodd i fwynhad
..........O’ch iawnderau, ac a’ch cododd
...............Chwi i sylw pena’r wlad.


..........“Chwi rai’r ysgafnhaed eich beichiau
...............Ac mae bywyd i chwi’n haws;
..........Chwithau hefyd a gaethiwir
...............O dan iau’r gorthrymwr traws,
..........Rhoddwch lef nes ei hadseinir
...............Drwy holl greigiau Tennesssee,
..........Baro iddo ef ddychwelyd
...............Eto’n fuan atom ni.”
..........................................H. J. HUGHES (Gethin).


Yr oedd cwynion yr awen ar ei ol yn aneirif, a thra amrywiaethol, a phe casglesid hwynt yn nghyd, hwy a wnaethant gyfrol lled fawr. Amrywient yn fawr yn eu teilyngdod, ond gallwn feddwl fod y llinellau mwyaf anghelfydd yn amlygu teimladau llawn mor gynes a didwyll a’r llinellau mwyaf cywrain. Fel hyn y cwynai “Un o’r Plant,”—

.........“Fy ngwlad, fy anwyl wlad, O mor alaethus yw ei chri,

..........Pan y mae ei hanwylaf feb ar fyned dros y lli;

..(x61) O mor ddrylliedig yw ei bron, mor llaith ei gwedd a syn,

..........Dan bwys ei gofid clywaf hi'n cwynfanu'n dost fel hyn: -


........“O Samuel, fy anwyl fab, fy anwyl Samuel,

..........O Samuel, fy anwyl fab, fy anwyl Samuel;
..........Nid oes un swyn na welaf yn dy enw, Samuel,

..........Pa fodd rhof yn ei ymyl air, - yr enbyd air Ffarwel.


........ “Mae llawer o’m lluosog blant yn anwyl iawn i mi,

..........Ond nid oes un o honynt a garaf fel tydi;
..........Ond O! ni ni wyddwn i mor fawr oedd serch y fynwes hon
..........Tuag atat ti, fy anwyl fab, nes daeth yr adeg hon.

 

.........“Paham, fy Samuel paham, yr ei di dros y lli? .
..........Paham gadewi’th anwyl fam i dori’i chalon hi ?
..........O! hawddach f’asai genyf fod yn dawel a disèn,
..........Pe’th welswn di yn myn’d i’r bedd, ’nol bwriad Brenin nen.

 

.........“Yn groes i’r lluaws aethost ti, a’th rymus danllyd ddawn,
..........’Nol barnu’n gydwybodol nad y lluaws oedd yn iawn; -
..........A sefaist o blaid heddwch, er pob dirmyg, gwawd a chri,
..........Ni fyddai’r byd ond nef, pe b’ai ei deulu fel tydi.


.........Ceir aml un o’m hanwyl blant yn fardd o uchel fri,

..........Ond nid oes un o honynt gan mor felus a thydi;
..........Bydd dy ganiadau hoff yn troi y galon graig yn llyn.
..........
A phwy all ddweud yr hyn a wnaeth y pêr ‘Ganiadau’ hyn.”

 

........“A Meistr Roberts gwnawn ffarwelio,
..........Dymunem lwydd a chysur iddo;
..........I’r America yr ewch mae’n debyg,
..........Mae yn eich aros leoedd hyfryd.

........“Bu Meistr Roberts yn pregethu
..........Pur efengyl rasol Iesu,
..........Dywedai ein dyledswyddau yma,
..........A’r Iawn a dalwyd ar Galfaria.


.........“Meistir Roberts tawel, tirion,
..........Llariaidd, mwyn, a thyner-galon,

..........Ysbryd addfwyn, boneddigaidd,
..........Ffrwythau da, a llawn trugaredd.”

 


(x62) Yr oedd ei ymadawiad o Lanbrymair yn fath o ddydd ymdaith fuddugoliaethus. Cyflwynodd cyfeillion Llanbrynmair iddo cyn cychwyn ₤50, heblaw llawer o fân roddion personol, ac yr oedd pobl yn rhesi, rhai wedi dyfod o bell, ar ochr y ffordd, oddi yno yn mron i’r Drefnewydd, yn awyddu am gael yr olwg olaf ar “Sam.” Ebrill 29ain, yn y Drefnewydd, cafwyd cyfarfod dyddorol yn y Neuadd Gyhoeddus — yr offeiriad yn y gadair, pryd y cyflwynwyd iddo ddesc ysgrifenu hardd, oriawr a chadwen ysplenydd, a ₤160.
Yr oedd yn bresenol yn y cyfarfod hwnw y Parchn. D. Evans, Penarth; J. Owen, W. H. Darby, J. Williams, Aberhosan; H. Morgans, Samah; E. Roberts, Carno; a C. R. Jones, Ysw., Llanfyllin. Nos Wener, Mai 1af, cynhaliwyd cyfarfod brwdfrydig yn Salem, Brownlow Hill, Liverpool, yn yr hwn y cymerwyd rhan gan y Parchn. W. Rees, H. Rees, H. Pugh, Mostyn , R. Jones, Manchester; Evan Evans, Stockport; A. Francis, Rhyl; H. Griffiths, Newington; J. Thomas, Tabernacl; W. Channing, Pedr Mostyn. Yr oedd y cyfarfodydd yn ddyddorol a difrifol. Sylwai un: “Ni fu y fath gyffro erioed o’r blaen yn Nghymru ar fynediad dyn i America.” Yr atebiad oedd, “Na ddo, canys nid aeth dyn o fath hwn erioed o’r blaen i America.”


Drwy nad oedd Caledfryn yn gallu bod yn y cyfarfod yn Salem, efe a anfonodd yno yr englynion canlynol, —

..........“Ah! Gyfaill mwyn, hir gofi, — am dy wlad,

....................Am dy le’n y llwythi;
...............Samwel na chaed ei siomi,
...............Yn ei serch, at Tennessee.

..........“O ganol serch ugeiniau, — o ganol
....................Mawr gwynion a dagrau,
...............A’n o bell,— a gwynebau
...............Praidd Ion i’w gweled yn pryddhau.


...........“Bwlch o’i ol, ond balch o hyn, — nid yw neb,
....................Adawa’n hir wedy’n;
...............Am Brynmair, sai’r wlad yn syn,
...............Yn ei galar dan golyn.

 

(x63) ..“Mil trymach, trymach fydd tramwy—Brynmair
....................Bryn mêl a phob arlwy;
...............Nid Brynmair fydd Brynmair mwy,
...............Am adeg, ond Bryn Meudwy.”


Rhoddwyd gwobr yn Eisteddfod Aberdare am yr englynion gore ar ei ymadawiad,— Wele hwynt,—

.......... “Draw symud mae’r dewr Samwel,—odiaethol,
....................A’i deithi aruchel;—
...............Ei rasau heirdd a’i wir sêl,
...............Wr Duw ! o Gymru dawel!

.......... “Gweinidog a iawn awdwr—o dalent,
....................A dilys ddiwygiwr;
...............Gorfiniog ysgrifenwr,
...............Ydyw ef,— i’r gwan mae’n dŵr.

.......... “Yn y ‘ Cronicl’ bu’n cryno—hau addysg,
....................A heddwch wnai bleidio;
...............Llafuriai ef i’w holl fro—
...............Cenedl o’i ol sy’n cwyno!


.......... “Yn Llanbrynmair, gair mawr i’r gwron — sydd,
....................Ac fe saif tra Brython;
...............Ei air da ’rol nofio’r don,
...............Enwog erys yn goron.

 
.......... “Ei alluoedd yn y gorllewin — pell
....................Deimlo pawb yn ddibrin;
...............A gyred dreiswyr gerwin
...............O uchaf le’r fasnach flin.


.......... “Yn deilwng Gymreig dalaeth, — drwy undeb
....................Caed randir ehelaeth;
...............Rhoed egni er codi’r caeth,
...............O’i druenus gamdriniaeth.

.......... “Ar ol y gwr mawr ei alwad — teimlir
....................Yn ein temlau’n wastad;
...............Mae adwy yn symudiad
...............Hwn o’i le yn ei ‘Hen wlad.’

 

.......... “Eto’n ei serch yn Tennessee - ei hoedl
....................Fo’n hir yn blaenori;
...............I ddwyn yn mlaen ddaioni, ,
...............A’i wobr uwch daear a’i bri.” ............IEUAN IONAWR.

 

 

Y Tudalen nesaf:

1773k RHAN 3

Pennod 3: Yr Helbulon yn Tennessee...64

Pennod 4: S.R. a Rhyfel America...74

Pennod 5: Eu Bywyd yn Brynyffynon...91

 

 

 

DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

0043c kimkat0043c
Yr iaith Gymraeg
·····
0005k kimkat0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan
·····
1343k kimkat1343k
Y Cymry yn América
·····
0052c kimkat0052c
Testunau Cymraeg â throsiad Catalaneg yn y gwefan hwn
(Textos en gal·lès amb traducció catalana en aquesta web)
·····
1051e kimkat1051e
Testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn
(Texts in Welsh with an English translation in this website)
 



COFIANT Y TRI BRAWD O LANBRYNMAIR A CONWY (1893). GAN E. PAN JONES, D.PH., M.A, MOSTYN. (1834-1922)
·····
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats