1773k Gwefan Cymru-Catalonia. COFIANT Y TRI BRAWD O LANBRYNMAIR A CONWY (1893). Nid yw Llanbrynmair, lle y ganwyd y “Tri Brawd,” ond gwlad oer, arw ac anghysbell, o ran safle ddaearyddol, y mae fel wedi ei chau i fynu rhwng mynyddoedd moelion Maldwyn, prif gyfoeth y rhai yw mawn, a’u haddurniadau penaf yw grug a brwyn.

 

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_065_tribrawd_1893_3_1773k.htm

Yr Hafan kimkat0001

..........
2657k Y Fynedfa yn Gymraeg kimkat2657k

....................
2001k Yr Arweinlen kimkat0009k

..............................0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
kimkat0960k

........................................1760k Cyfeirddalen ar gyfer Y Tri Brawd
kimkat1760k

....................................................y tudalen hwn

 

 


______________________________________________________________________

 
Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
The Wales and Catalonia Website

______________________________________________________________________

COFIANT Y TRI BRAWD O LANBRYNMAIR A CONWY. 1893.

GAN E. PAN JONES, D.PH., M.A, MOSTYN. (1834-1922)

 

Rhan 3 - Tudalennau x64-x116
Pennod 3: Yr Helbulon yn Tennessee...(x64)

Pennod 4: S.R. a Rhyfel America...(x74)

Pennod 5: Eu Bywyd yn Brynyffynon...(x91)
_________________________________________________________________________________

Adolygiad diweddaraf :: 2004-02-06 - 2004-02-21

 

..............

 

(x64) PENOD III.
YR HELBULON YN TENNESSEE.
YR ACHOSION O HONYNT.


Cawsom yn mysg papyrau S.R. ysgrif yn rhoddi eglurhad cyflawn ar holl helyntion East Tennessee. Ymddengys ei bod yn barod ganddo i’r wasg; cynwysa ddeg neu ddeuddeg o’i lythyrau ef at Saxton, a rhai o lythyrau Saxton ato yntau. Mae wedi ei dyddio 1861 a 1862: mae yn 160 o dudalenau, a gwnelai lyfryn o 50 tudalen o blyg y llyfr hwn. Ni wnawn ond dyfynu o honi: fel hyn y dywed S.R. ei hun,—

“Wrth ymgymeryd ag egluro y rhwystr fu ar ffordd llwyddiant yr anturiaeth i sefydlu cymydogaeth Gymreig yn East Tennessee, teg fyddai dyweud nad oedd dim yn anffafriol yn yr hinsawdd, nid oes gwell hinsawdd yn America, nid oedd dim yn y dwfr, nid oes gwell ffynonau yn y wlad, nac yn y gweryd, mae yn llawer gwell tir na thiroedd New England; nid oedd yno brinder defnyddiau adeiladu, defnyddiau amgau ac angenrheidiau amaethu, nac yn y lleoliad; y mae yn lle canolog dros ben, ac y mae erbyn hyn wedi dyfod yn lle cyfleus i farchnadoedd da, ac y mae yn gwella yn barhaus; ac nid oedd ball ar adnoddau mwnawl y wlad; mae yno y glo gore, yr haiarn gore, a’r marmor gore yn y byd, mae yno ffynonau grisialaidd, ffynonau olew, a ffynonau halenaidd; ac ni chafwyd rhwystr o gwbl yn ymddygiad yr hen sefydlwyr, canys yr oeddynt hwy bob amser yn dangos y parodrwydd mwyaf i dderbyn y sefydlwyr newyddion, ac nis gellir dyweud i ragfarn y gogleddwyr yn erbyn y ‘talaethau canolog’ fod yn un rhwystr, gan ei fod yn graddol ddiflanu. Beth gan hyny fu ar ffordd llwyddiant yr anturiaeth?

“ Yr achos o’r aflwyddiant oedd gwaith yr hwn a werthodd y tir i S.R. yn tori ei ymrwymiad yn y dull mwyaf twyllodrus a chreulon, a hyny a wneir yn amlwg yn y nodiadau a ganlyn.”

 

(x65) Cyfeiriwyd eisoes at y pryniad, yr amodau, a’r taliad, a’r goruchwylwyr, fel nad oes eisiau ail ddyweud yr hanes. Anfonodd S.R. yr arian i New York, a thalwyd hwynt i Saxton pan gafwyd y gweithredoedd. Dymunodd Saxton arno i brynu rhandir arall o 5,000 o erwau, yr hon a nodid â’r rhif 736. Cydsyniodd S.R. ac anfonodd iddo ₤200 am dani. Yn fuan wedi hyn daeth gair oddi wrth oruchwyliwr Saxton yn peri i S.R. beidio anfon ychwaneg o arian, nad oedd y tir yn ateb i’r mesuriad, a bod un randir (lot) gyfan yn swydd Anderson yn eisiau (gwyddai Saxton pan yn ceisio gan S.R. i brynu rhandir 736 ei fod yn gwerthu 5,000 o erwau yn fwy nag oedd ganddo yn swydd Anderson) a bod amryw o’r rhandiroedd eraill lawer yn llai na’r mesuriad oedd ar eu cyfer, ac nad oedd y rhandiroedd yn swydd Campbell, fawr mwy nag un ran o dair o’r mesuriad oeddid wedi eu gwerthu, a gwyddai hefyd fod amheuaeth am y y teitl i amryw ddarnau o honynt ond cymerwyd gofal i gadw y pethau hyn i gyd oddi wrth S R.


“Pan gyrhaeddodd y fintai gyntaf yno, cyfarwyddwyd hwynt gan oruchwylwyr Saxton i sefydlu ar y rhandiroedd a nodid 1,009 a 1,010, a chydsyniasant â’r cyfarwyddyd, ond wrth eu cyfarwyddo felly yr oeddynt yn eu camarwain mewn tri phwynt pwysig, —

“1. Dywedent fod y ddwy randir hyny yn ffinio a’u gilydd, ond cafwyd allan wedi hyny fod rhandir 1,008 rhyngddynt, yr hon nad oedd wedi ei gwerthu i S.R.o gwbl.

“2. Dywedid wrthynt fod rhandiroedd 1,009 a 1,010, yn cyrhaedd hyd linell ‘derfyn Kentucky,’ ond gwyddai Saxton yn eithaf da nad oedd ganddo hawl o gwbl yn mhellach na ‘llinell y lledred,’ fel nad oedd y rhandiroedd hyny oedd efe wedi werthu yn lle 10,000 (deng mil) o erwau yn fwy na 4,000 (pedair mil) o erwau.

“ 3. Sicrheid hwynt nad oedd dadl am deitl y rhandiroedd hyny, ond erbyn edrych yr oedd yno gymydogion yn eu hawlio bron i gyd.

 

(x66) “Er cymaint cyfrwystra Saxton a’i oruchwylwyr deallodd bechgyn y fintai gyntaf, fod yno ddadl am y teitl, ac nad oedd y mesuriad yn gywir, ac anfonodd G. R. air i’r perwyl hwnw i Gymru. Ond mewn trefn i dawelu yr amheuon a’r pryder hyn, dywedodd y goruchwylwyr eu bod hwy mewn trefn i wneud pob peth yn foddhaol, wedi sicrhau i’r Cwmni Cymreig randiroedd llydain yn nghesail yr afon. Pan ddeallodd S.R. yr amgylchiadau aeth i Lundain i weled S. E. Low, cynrychiolydd Mr. Saxton yn y wlad hon. Sicrhaodd hwnw ef yn y modd mwyaf penderfynol nad oedd achos iddo anesmwytho, fod Saxton yn foneddwr o’r safle fwyaf urddasol, ac os oedd rhyw gangymeriad [sic] yn bod y byddai yn sicr o sefyll at ei ymrwymiad. Pan oedd S.R. yn Mehefin, 1857, yn Cincinnati ar ei daith i Tennessee, daeth Saxton i’w gyfarfod, a chan y gwyddai nad ellid cuddio yn hwy y diffyg yn y mesuriad efe a addefodd ei fod wedi rhoddi gweithredoedd i S.R. am dir nad oedd ganddo hawl gyfreithiol ynddo, er fod ganddo hawl gyfiawn ynddo, a chynygiodd yn felfedaidd iawn roddi i’r Cymry yr holl dir ellid gael drwy gyfreithio, ond iddynt fyned yn mlaen, yr hyn, yn ei farn ef, fyddai dros 20,000 o erwau. Atebodd S.R. gan nad oeddynt hwy ond dyeithriaid yn y wlad, ac yn anmharod i fyned i ymgyfreithio, mai yr oll a geisient hwy oedd y tir am yr hwn yr oeddynt wedi talu, ac y gallai Mr. Saxton, os oedd yn dewis, fyned a’r achos yn mlaen ar ei gyfrifoldeb ei hun ac y gallai gadw cymaint o dir fyddai ganddo dros ben yr hyn oedd ddyledus i’r Cymry. Addawodd Saxton yn foneddigaidd y gwnai hyny, ac y gwnai yn fuan i fynu y diffyg yn y mesuriad, ac y byddai iddo gyflogi talentau gore y dalaeth i amddiffyn hawliau y Cymry, ac efe a adnewyddodd yr addewid hono drachefn pan alwodd S.R. i’w weled yn N. York mis Medi canlynol. Gwnaeth yr adduneddau yna wedi hyny lawer gwaith drosodd yn y geiriau mwyaf pendant yn ystod y pedair blynedd diweddaf, ond hyd yma nid yw wedi cyflawni’r un o honynt, a thebyg yw ei fod yn awr yn mhellach nag erioed o wneud hyny.

“Beiwyd llawer ar S.R. gan ei gyfeillion am beidio gorfodi Saxton drwy gyfraith i sefyll at ei gytundeb. Ei ateb i hyny yw,

“1. Ei fod wedi gosod ei arian allan mor llwyr fel nad oedd ganddo fodd i ddechreu ymgyfreithio a thwyllwr o’r fath, gan yr hwn, fel eraill o’r un dosbarth, bydd digon o (x67) arian yn wastad wrth law i amddiffyn eu hystrywiau, ond byth geiniog i dalu eu dyledion.

“2. Cynghorid ef gan lawer o’i gyfeillion mwyaf deallus i fod yn amyneddgar, rhag y gallai gwasgu arno ar amser drwg fel 1857, a’r amser caled ar ol hyny, ei yru yn fethdalwr, tra gyda llwyddiant y gallai yn mhen tymor byr gyflawni ei addewidion, ac y byddai cael cyfiawnder drwy deg lawer yn well, a mwy dymunol, na thrwy nerth cyfraith.

“3. Pe aethai i ymgyfreithio â Saxton buasai raid iddo wneud hyny ar ei gyfrifoldeb ei hun, gan ei fod wedi ei adael yn unig.

“4. Gwnaeth yr oll a fedrai hyd at fyned i gyfraith i geisio gan Saxton i sefyll at ei gytundeb, fel y gwelir oddi wrth y gohebiaethau canlynol.”

Ni oddef ein gofod i ni osod yma ond un o’r llythyrau, yr hwn sydd yn fath o adolygiad ar yr holl helynt. Hwn yw’y nawfed llythyr at Saxton.

....................................................................................”Huntsville, Rhagfyr 15, 1860.

“Anwyl Syr. — Gwyddoch fel yr wyf wedi crefu arnoch lawer gwaith i wneud i fynu y diffyg yn y rhandiroedd a werthasoch i mi bum mlynedd yn ol, a rhoddi i mi ryw iawn am y golled fawr ydych wedi wneud i mi drwy flynyddoedd o oediad fel hyn. Dymunaf unwaith eto alw eich sylw at yr hyn wyf yn hawlio genych. Dechreuaf

“1. Gyda’r rhandiroedd a brynasom yn swydd Scott. Bu raid i mi barhau i ymgyfreithio am dair blynedd cyn cael teitl diogel i’r un erw o honynt. Mae llog yn 5,000 dolar, yn llai a dalasom am y 10,000 erwau, yn ol 5 y cant yn dyfod mewn tair blynedd a haner yn 875 dolar. Yn niwedd y tair blynedd a haner cawsom feddiant o yn agos 4,000 o erwau o’r 10,000 oeddym wedi brynu, ac nid oes un arwydd yn awr ein bod yn debyg o gael dim o’r 6,000 erwau eraill. Mae y llog ar y rhai hyn yn dyfod mewn blwyddyn a haner yn llawn 225 dolars

.....Saif cyfrif y tiroedd yn swydd Scott fel hyn :—
.....Llog ar 5,000 dolar yn ol 5 y cant am 3½ bl. .......875 dolar

.....Arian dyledus ar gyfrif y 6,000 erwau diffyg ....3,000 dolar
.....Llog ar y 3,000 dolar am flwyddyn a haner ..........225 dolar
..................................................................................-------------

..................................................................................4,100 dolar
.................................................................................--------------


(x68) “Nid wyf yn gosod pris ar yr anfanteision a gawsom drwy eich anrhefn yn ein gosod ar dir nad oedd yn perthyn i chwi, yr hyn a allasai droi allan yn ddifrifol iawn pe buasem wedi dibynu ar eich addewidion parhaus chwi y buasech yn ei brynu i ni, ac wedi adeiladu arno felin a gwneud gwelliantau eraill fel yr oeddym yn bwriadu. Nid wyf chwaith yn gosod pris ar y tair blynedd a haner ydym wedi aros yma i gael terfyn ar y gyfraith, nac ar y draul a’r drafferth oedd i ymddangos wyth waith mewn llys gwladol, yn gystal a theithiau eraill, y rhai a gostiodd i mi ganoedd o ddoleri. Nid wyf yn gosod pris ar y drafferth i wneud trefniadau â 40 o deuluoedd y rhai a fuasent wedi dyfod yma atom pe buasem wedi cael y tir genych chwi. Nid wyf yn dyweud gair am eich gwaith yn rhoddi i ni weithred ar y tir hyd linell derfyn Kentucky, pan y gwyddech nad oedd genych hawl yn mhellach na llinell y lledred. Pe buasem ni wedi aros 6 mis yn hwy cyn dechreu ymsefydlu yma buasech wedi colli y 4,000 erwau a achubasom i chwi. Gallasech unwaith adael i ni gael rhandir Dillon ar ein terfynau deheuol i wneud i fynu yr hyn oedd yn golled yn y mesuriad, ond drwy ei gwerthu i arall pan y gwyddech ei bod yn ddyledus i ni, dangosasoch yr egwyddor sydd yn eich llywodraethu. Gallasech fod wedi rhoddi i ni y rhandir ganol ar yr ochr orllewinol, ond ni wnaethoch ddim. Dyma bum mlynedd wedi myned, a’r golled yn y mesuriad heb ei gwneud i fynu eto. Buont yn bum’ mlynedd o brofiad tanllyd i ni, o herwydd i chwi ein hanalluogi i gyflawni ein hymrwymiadau. Dylem gael cydnabyddiaeth fawr am y colledion hyn. Byddaf yn foddlon ar rywbeth rhesymol, ond y mae 4,100 dolar yn ddyledus i mi ar gyfrif y diffyg yn Swydd Scott.

“II. Gwerthwyd y tir yn Swydd Morgan i mi yn 5,500 o erwau, a thelais inau arian parod am danynt. Buoch yn cyfreithio am ranau o’r tiroedd hyny ac aeth yr achos yn eich erbyn, a dywed tirfesurydd y sir nad oes genych yno fwy na 2,000 o erwau. Mae felly 3,500 o erwau yn fyr.

..........Mae yn ddyledus i mi o herwydd y diffyg hwn .....1,750 dolar

..........Llogau ar y swm yna am bum’ mlynedd ... ..............437 dolar
...........................................................................................--------------
...........................................................................................2,187 dolar
...........................................................................................--------------

 

 

(x69) “III. Am y rhandir 736, yr hon nad oedd yn gynwysedig yn y 40,100, yr hon meddech oedd yn 50,000 o erwau, ac am yr hon y telais i chwi 880 dolar, a phan yn barod i anfon y gweddill, cefais air yn fy hysbysu eich bod chwi wedi gwerthu un randir i mi nad oedd i gael, a bod y rhandiroedd eraill yn rhedeg yn mhell y naill i'r llall, a bod eich teitl iddynt yn amheus, ac wedi i chwi gael gwybod hyn oll, chwi a wasgasoch arnaf am yr hyn oedd ddyledus pe buasent yn llawn mesuriad, a chwithau yn gwybod fod diffyg o 9,000 o erwau yn y tiroedd oeddych wedi werthu i ni yn y swydd hono (Anderson). Yr ydych yn fasnachwr ac yn deall rheolau masnach, a rhaid eich bod yn deall beth alwai dynion gonest a deallus yn gyfrinachol a chyhoeddus y fath ymddygiad.

 

..............Mae yn ddyledus i mi y swm a dalwyd ..........880 dolar

..............Llogau am bum' mlynedd................................220 dolar

......................................................................................------------

.............Gwna y symiau hyn gyda'u gilydd ............... 1,100 dolar

 

 

“IV. Gwerthasoch i mi 5,000 yn swydd Campbell a thelais inau am y 5,000, ond yn ol adroddiad eich tirfesurwyr eich hun, y mae ar y rhandir hono wyth neu naw o hen sefydlwyr, ond ni ddywedir faint y mae pob un o honynt yn hawlio, ond yn ol pob tebyg nid yw yr haner yn perthyn i chwi, a sicr yw mai y rhan waelaf ydyw. ,

 

“V. Yr oedd y rhandiroedd eraill yn swydd Anderson yn cael eu gwerthu yn 19,600 o erwau yn fyr, ac y mae y naill yn rhedeg i'r llall mor bell fel y mae yn ymddangos nad ellir cael hyd i'r haner.

 

“Nid wyf yn gosod dim ar gyfer y diffyg yn y rhandiroedd yn swyddi Anderson a Campbell, y rhai a werthwyd i ni yn 24,600 o erwau, ac am y rhai y telais, ond gan fod y naill yn rhedeg i'r llall a bod yr hen sefydlwyr yn ymyryd a ni, dylech ar unwaith ddychwelyd yr arian i ni gyda llog, neu dylech fyny gwybod, nid meddwl, faint o dir ellwch roddi i ni, ac yna talu yn ol am yr hyn fyddo yn. fyr. Yr wyf yn gwneud i fynu y cyfrif yn y modd mwyaf rhesymol, yr wyf yn nodi yllog isaf am y symiau sydd arnoch i mi. Cawsoch wasanaeth ein harian pan oedd arian yn uchel yn y farchnad, ond ni chawsom ni byth mo'r tir. Nid wyf yn gosod pris ar y 5 (x70) mlynedd wyf wedi dreulio i ohebu a theithio ac ymddangos yn y llysoedd gwladol, a thalu am fwyd a llety y teuluoedd oedd wedi prynu tir genym, ac yn bwriadu sefydlu yma pe cawsem y tir genych. Yr wyf yn foddlon gadael y pethau hyn i gyd i’w penderfynu gan wyr canolog.


“Yr wyf wedi cael fy nghadw yma fel carcharor i wylio yr achos cyfreithiol ac i ddisgwyl i chwithau gyflawni eich addewidion mawrion, pan y gallaswn fod mewn lleoedd eraill yn wasanaethgar a defnyddiol. Gwn fod eich barn yn tystio fy mod yn uniawn wrth hawlio y pethau hyn. Yr wyf yn apelio at eich calon, a’ch anrhydedd fel boneddwr, i dalu i mi yr arian dyledus ar unwaith. Nis gall dim arall fy nghadw i a rhai o’m perthynasau anwylaf rhag dinystr. Beiir fi gan bobl dda a charedig am fod mor ymarhous, ond chwi a wyddoch pa mor awyddus wyf i ysgoi ymgyfreithio ac arbed dynoethi eich ymddygiadau gwarthus tuag ataf yn yr holl drafodaeth o’r dechreu hyd yr awr hon.

“Yr oedd eich cynyg diweddar i roddi i ni y llanerchau diwerth ar y bryniau gorllewinol y tu deheu i’r afon yn hollol gydweddol a’ch ymddygiad yn gomedd i ni gael rhandir Dillon ar ein terfyn deheuol, ac yn gwrthod sicrhau i ni y rhandir ganol ar y tu gorllewinol, yn gystal a phob rhandir ar y tu gogleddol, pan allesid eu sicrhau ar amodau manteisiol. Dywed eich goruchwylwyr eich hun, na byddai y clogwyni a gynygiwch o un gwerth i ni, ond y gallent fod o werth i ryw gwmni a ymgymerai âg agor ochr ddeheuol yr afon.

“Mae yn llawn bryd i mi gael fy arbed i wneuthur y fath apeliadau. Rhaid i mi yn ddiymdroi gyflwyno yr holl achos i farn eraill, ac nis gall lai na therfynu yn andwyol i’ch cymeriad a’ch cysur chwi. Mae gwerthu 10,000 o erwau am arian parod i ddyn dyeithr, difeddwl-ddrwg, pan oedd y gwerthwr yn gwybod nad oedd ganddo mor [sic] haner yn dwyll, — yn dwyll o’r fath fwyaf creulon. Mae cymeryd tâl am 19,000 o erwau pan yn gwybod nad ellid cael hyd i’w haner yn godi arian drwy dwyll-honiadau. Byddai yn dda genyf gael peidio dadlenu yr hanes budr mewn llys barn, ond yr wyf bron wedi cael fy llethu o ran fy meddwl, fy andwyo o ran fy enw da — o ran fy nefnyddioldeb, ac yn fy amgylchiadau, drwy eich camymddygiadau creulon chwi tuag ataf. Rhaid i’r achos gael ei benderfynu ar unwaith, naill ai (x71)
genych chwi eich hun neu gan y gyfraith. Os wedi ymchwiliad cyfreithiol y penderfynir eich bod wedi ymddwyn yn deg, mi a blygaf yn dawel i'r ddedfryd, ond byddaf yn plygu fel dyn wedi ei ddinystrio yn ei amgylchiadau, ac wedi tori ei galon.

Dymunaf arnoch fy ateb ar unwaith, a bydded yn ddealledig nad allwn benderfynu yr achos heb i chwi yn gyntaf dalu yn ol i mi yr arian dyledus ar gyfrif y diffygion yn y mesur, a chydnabyddiaeth resymol am y golled a'r draul a achoswyd i mi yn herwydd y diffyg oedd yn y rhandiroedd. Bu y diffyg o 6,000 o erwau yn Swydd Scott, a'r gyfraith am y rhelyw, yn atalfa hollol ar ein holl drefniadau i gychwyn ein sefydliad yn y lle.

“Yr wyf yn gwybod yr achos, a, medraf fyned .drwyddo yn fanwl, canys yr wyf yn goddef pwys y cam.

“Yr eiddoch yn awyddus am gael terfyn teg a buan i'r holl drafodaeth.

SAMUEL ROBERTS.”

Mewn ffordd o ddiweddglo i'r llythyrau a'r eglurhadau hyn, dywed,-

“Mae'n wir nas gellir ysgrifenu hanes methiant ein sefydliad yn East Tennessee heb gysylltu enwau Bebb a Jones ag enw Saxton, ond ni fynai S.R. ar yr un pryd edrych arnynt fel yn gydradd euog.

“Yr oedd Saxton yn lleidr a thwyllwr yn yr ystyr waethaf, yr oedd Jones yn yr ail radd, a rhoddodd Bebb ei ddylanwad i gefnogi yr hyn y gwyddai oedd yn dwyll. Yr oedd E. B. Jones wedi bod yno am wythnosau yn mesur y tir, gwyddai mai rhandiroedd gwasgaredig oeddynt, ac nad oedd teitl clir i'r rhan fwyaf o honynt; yr oedd amryw o'r hen sefydlwyr wedi ei rybuddio i beidio dwyn ei gyfeillion i ymsefydlu yno, neu y byddai yn sicr o'u tynu i helbul. Ni fuasai yr un dau ddyn yn y byd yn gallu ein denu i brynu tir a thalu am dano yn mlaen fel y gwnaethom, ond Bebb a Jones, perthynasau. Edrychai y prynwyr arnynt fel cyfeillion anmhleidiol, a gosodasant bob ymddiried ynddynt fel dynion geirwir a gonest. Yr oeddynt yn rhwym yn ol cyfiawnder ac anrhydedd, ac yr oeddynt wedi addaw gwneud pob peth yn eu gallu i osod y prynwyr mewn meddiant (x72)
ond wele bum’ mlynedd wedi myned heibio heb i un o honynt gynyg gwneud dim i gael gan Saxton i gyflawni ei ymrwymiad. Paham na fuasent yn cynghori y prynwyr i fyned i weled drostynt eu hunain, ac yn eu cyfarwyddo i gadw yr arian nes gweled beth oeddynt yn gael? Daliodd Bebb a Jones drwy ystod y pum’ mlynedd i addaw cynorthwyo S.R., i gael gan Saxton wastadhau y drafodaeth, ac i ddwyn pethau i derfyniad, pe amgen buasai wedi gallu gwneud rhywbeth o honi ei hun, a chysur gofidus iddo ef yn awr yw cael clywed y naill yn melldithio y llall fel dynion twyllodrus a drwg.”

Dyna i’r darllenydd ryw syniad am y landsharks Americanaidd. Rhaid fod y ddau wedi colli pob teimlad o anrhydedd moesol a chymdeithasol, cyn y buasent yn bradychu mor eithafol bob ymddiried, cyfeillgarwch, dynoliaeth, gonestrwydd, a chyfiawnder, yn gwerthu eu perthynasau am 10 y cant!!

Dyfynwn eto o ysgrif Mr. W. Jones,—

“Yr oedd S.R., yn 1856, yr amser y prynwyd y tir, yn credu yn gryf fod East Tennessee yn lle gwir fanteisiol i’r Cymry i ymsefydlu arno, ac er mor fawr a lluosog fu ei siomedigaethau yno, daliodd i gredu yr un peth am y tir. Gwyddai pawb oedd yn ei ’nabod, na fu neb yn ei oes yn fwy llygadgraff nag ef i ganfod manteision a chyfleusderau, ac i drefnu gwelliantau cartrefol a chymdeithasol. Yr oedd wedi gweled y dadblygiadau sydd yn awr yn cael eu gwneud yn East Tennessee: mae bron yr oll yn cael ei wneud yno fel yr oedd efe wedi rhagweled 35 mlynedd yn ol. Mae y ffordd haiarn yn rhedeg am filldiroedd wrth ochr ei diroedd ef, a hyny o fewn llai na thair milldir i dy Brynyffynon, a digon tebyg pe buasid wedi ei gwneud y ffordd hono pan oedd y teulu yno, mai yn naear Tennessee y cawsent le beddrod. Mae’r oll a gyhoeddodd S.R. yn y Cronicl a phapyrau eraill yn aros yn ffeithiau, — mae’r hinsawdd yn iach, mae’r glo yn ardderchog, mae’r gweithiau haiarn yn ymddadblygu yn gyflym, llaw-weithfaoedd yn cael eu codi yma ac acw, pob math o ffrwythau yn tyfu, a’r tiroedd yn gwerthu yn gyflym am bris uchel, fel y mae y lle yn addaw dyfod yn ail Merthyr Tydvil, er nad yw yn gystal ty gwenith ag y tybid.


(x73) “Drwy ystod eu hymdaith yn America, bu eu Tad nefol yn dyner iawn wrthynt. Cawsant iechyd rhagorol, gwell o lawer nag iechyd pobl y dyffrynoedd. Yn fuan wedi i ni gyrhaedd yno, gwnaethom ymgais i benodi ar ‘le beddrod,’ canys gwyddem os byddem yno yn hir y delid ni gan angau. Ond methasom yn lân a dyfod i benderfyniad, a thrwy diriondeb yr Arglwydd ni bu farw yno neb tra fuom yn y wlad ond un gwr ieuanc, Ellis R. Jones, Cymro o Dinas Mawddwy, yn angladd yr hwn, yn absenoldeb S.R., gweinyddwyd gan G. R. Bu nawdd Duw drostynt nes eu dwyn yn ol yn ddiangol i fynwes eu cyfeillion.

“Yr ydym yn teimlo na fu ffawd erioed yn gwenu ar berthynas S.R. a thiroedd Tennessee, pan oedd yno nac wedi iddo ddychwelyd. Pan yn gadael y wlad penododd gyfreithiwr yn y lle yn ddirprwywr i werthu y tir drosto, ond ymddengys na wnaeth hwnw ddim; yna efe a benododd un arall, ond troes hwnw allan yn ‘oruchwyliwr anghyfiawn,’ a’r tro diweddaf y bu S.R. oddi cartref oedd yn Liverpool o flaen y Consul Americanaidd yn penodi y trydydd goruchwyliwr, ac y mae hwn yn ymddangos fel pe yn ffyddlon i’r ymddiriedaeth a osodwyd ynddo, a’r tro diweddaf i S.R. afael mewn ysgrifbin, yn wan a llesg, oedd i arwyddo taleb (receipt) am arian oedd wedi dderbyn am ddarn o’r tir, fel ernes cyn iddo adael y byd; a phan y mae S.R. yn ei fedd, mae y tir yn gwerthu yn gyflym am bris rhagorol.

“Gwyddom nad yw y manylion hyn yn perthyn i Gofiant S.R., yn unig rhoddir hwynt yma am fod llawer o gyfeillion S.R. yn awyddus am wybod pa le yr oedd pethau yn sefyll pan fu efe farw, a hefyd er dangos fod yr anturiaeth yn cynwys elfenau llwyddiant, pe cawsai efe chwarae teg. Yr oedd efe yno lawn 40 mlynedd o flaen ei oes.”

(x74)

PENOD IV.
S.R. A RHYFEL AMERICA;

Nis gall y neb a ddarlleno yr helyntion hyn yn bwyllog lai na gweled fod achosion heblaw anonestrwydd Saxton a’i oruchwylwyr wedi chwarae eu rhan yn aflwyddiant y wladfa yn Tennessee.

1. Yr oedd cyd-anturwyr S.R. mewn amgylchiadau rhy gysurus i wneud sefydlwyr da mewn gwlad newydd, wyllt, yn ei chyflwr naturiol, fel oedd Tennessee yr amser hwnw; yr oeddynt, mae’n wir, wedi arfer byw yn gynil a gweithio yn galed, ond nid oeddynt erioed wedi deall beth oedd byw mewn anialwch ac anghyfaneddle, heb le i roddi pwys eu pen, oddigerth o dan yr awyr las, coginio eu hymborth a’i fwyta o dan gysgod rhyw bren deiliog. Yr oeddynt hefyd wrth fyned yno wedi galw heibio i weled eu cyfeillion yn hen sefydliadau Ohio, ac wedi gweled y fath gyflawnder o gysuron oedd yno, a chyfleusderau rhagor yn Tennessee; felly pan ddaeth y rhwystr lleiaf ar eu ffordd, rhedasant yn ol at eu cyfeillion i Ohio. Pe buasent hwy yn dlotach, ac Ohio yn mhellach, mae yn ddiau y dyoddefasent ymdrech galed o helbulon cyn rhedeg ymaith. Nis gallai methiant yr anturiaeth fod iddynt hwy yn ddim ond colled arianol, tra mai uchel-gyrch (climax) cwyn S. R, oedd, “it will ruin my reputation.” Dirgelwch llwyddiant y wladfa yn Patagonia oedd tlodi y sefydlwyr cyntaf, a’r anhawsderau i redeg oddi yno.

2. Dylasai fod un o’r Cwmni yn cadw swyddfa yn Huntsville, prif dref y sir, heb ganddo ddim i’w wneud ond gwylio buddianau yr anturiaeth yn gymdeithasol a chyfreithiol, yna ni fuasai berygl i’w gwrthwynebwyr barhau i ymgyfreithio â.hwynt; ond yn lle gwerthu y tir am bris fuasai (x75) yn galluogi y cwmni i wneud hyny, yr oedd S.R. yn 1857 yn ei werthu cyn myned allan (ni werthodd erw o hono ar ol myned allan, a deall fod yno anhawsderau) am ond prin ddigon i dalu treuliau y pryniant. Pan feddylir i’r holl faich gael ei daflu ar ysgwyddau S.R., mae yn syndod iddo allu gwneud gystal.

3. Os na fu rhagfarn y Talaethau Gogleddol yn erbyn y Talaethau Deheuol neu Ganol, yn un rhwystr i’r anturiaeth fel y dywed S.R., mae yn sicr i ragfarn y Cymry yn erbyn sefydliadau y De, “byw yn nghanol caethion, pobl dduon,” fyned yn mhell i’w digaloni, a pheri iddynt redeg ymaith.

4. Cyn i S.R.. gael ei hun, nac amgylchiadau y wladfa i ddim trefn, torodd y rhyfel allan, a llyncodd holl ofidiau llai y cyfandir iddo’i hun, fel nad oedd gan neb amser na hwyl i dalu sylw i faterion bychain personau unigol, pan yr oedd tynged y cyfandir i gyd mewn perygl. Parhaodd y rhyfel mewn rhyw ystyr am bum’ mlynedd, [Troednodÿn: Tachwedd, 1860, cymeradwyodd Senedd South Carolina Fesur i godi ac arfogi 10,000 o wirfoddolwyr at y rhyfel, a Rhagfyr, 1865, y
cyhoeddodd Seward Ryddid y Caethion.] effeithiodd fel daeargryn ar yr holl wlad, diangodd llawer yn ol i Gymru, collodd rhai eu bywydau ar faes y gwaed, dringodd eraill drwy y rhyfel i amgylchiadau cysurus, fel nad oedd ar gael ar ddiwedd y rhyfel 1866, ond nifer fechan o gefnogwyr cyntaf y wladfa yn Tennessee. Arweinia hyn ni i gymeryd golwg ar berthynas S.R. â’r rhyfel: gosodwn yr amgylchiadau mor deg ag y gallwn ger bron y darllenydd, a hyderwn allu chwalu y cymylau ddichon ambell un fod yn weled o gylch y cyfnod hwn o hanes ei fywyd.

Nid ymddengys fod y wasg Gymreig wedi edrych yn ffafriol ar Tennessee o’r dechreu, a phrin yr oedd y symudiad ar droed nad oedd yn bwrw allan ei llysnafedd arni, - yr Herald a’r Faner yn Nghymru, a’r Drych a’r Gwyliedydd yn America. Dylasai S.R. mae’n debyg fod wedi eu (x76)
cyflogi i wasanaethu yr anturiaeth, neu wedi eu gwneud yn gydgyfranogion yn y symudiad. Cyhoeddodd S.R. lythyr o'i eiddo yn y Cronicl Medi, 1856, oedd yr Herald wedi wrthod. Yn hwnw dywed,—

“Yn eich sylw ar y ddadl yn yr Herald diweddaf, yr ydych yn dyweud, 1. Mat myfi, os nad ydych yn camsynio, wnaeth y ‘cyfeiriad personol cyntaf.’ Yr ydych, Syr, yn camsynio, ac y mae y camsyniad yn un o bwys; oblegid y mae yn gamsyniad ysgrifenedig, yn gamsyniad cyhoeddedig, yn gamsyniad golygyddol, a dylid ei symud, oblegid y mae yn gamsyniad o anhegwch i mi, ac yn gamsyniad o niwed i chwithau, — y mae yn arwain i gamsyniadau eraill, ac y mae pob camsyniad o’r fath yn magu camdeimlad. Ni raid i chwi ond taflu cipolwg dros ysgrifau Gol. y Drych, a Lewis Evan Jones o St. Louis, a Lewis Evan Jones ei dad, a Hugh Williams, a Will Pwllceris, a bydd yn hawdd i chwi weled eich camsyniad. Darfu iddynt hwy yn myrbwylldra eu hanwybodaeth, ac yn anfoneddigeiddrwydd eu cenfigen, ymhyllu i gamddarlunio ein hanturiaeth,—camddarlunio a chroesddarlunio ei hyd, a’i lled, a’i huchder, a’i hansawdd, a’i hamcan, a’i hanes a’i hamod, a darfu iddynt ein hyfgyhuddo ni o geisio twyllo ein cyd-ddynion. Dichon fod gan rai o honynt ryw fudiad Patagonaidd i gael ei gryfhau drwy ein camddarlunio ni, a bod gan eraill o honynt ryw Landlordiaeth Cymreig i gael ei foddhau drwy ein camliwio ni; ond beth bynag am hyny, ein camliwio a wnaethant drwy Gymru ac America.”— “Rhydd ydyw i mi son ac ysgrifenu hefyd am eiriau bryntion eich gohebwyr pan yn ymroi i gynyg ein duo ni fel ‘speculators’ hudoliaethus, yn ceisio gwneud ‘dupes’ o’n cydwladwyr, oblegid y mae eu hawgrymiadau bryntion hwy i’w gweled hyd heddyw ar ddu a gwyn yn eu llythyrau cyhoeddedig. Ac eto, wedi y cyfan, yr ydych chwi, Syr, o’ch cadair olygyddol, yn cyhoeddi mai myfi a wnaeth y cyfeiriadau personol cyntaf atynt hwy. Yr ydych yn dywedyd i mi wneud hyny mewn dull tra anfoneddigaidd. Cyhoeddwch ein bod ni wedi gwneud defnydd tra helaeth o’r wasg i argymell ein hanturiaeth i sylw ein cydgenedl. Na, yn wir, Syr, i’ch gohebwyr chwi y perthyn clod y gwasanaeth o advertisio ein hanturiaeth ni drwy y wasg. Cyhoeddwyd. ein cylchlythyr yn y Drych yn New (x77)
York, mewn llythyrenau breision, yr ail o Chwefror, fis union cyn i ni ei gyhoeddi yn y Cronicl yn Nghymru. Eich gwasg chwi, Syr, awgrymodd ein bod ni yn gwerthu am dri ugain dimau y tir oeddym wedi brynu am un ddimau. Mae eich gohebwyr efngylaidd o America yn tỳn resymu y rhaid i ni fod yn gyfranog o ddrygau caethiwed Tennessee os awn yno i fyw, ac yr ydych chwithau yn cyhoeddi eich bod wedi gwneud ‘dirfawr wasanaeth’ wrth gyhoeddi eu rhesymiadau. Os yw eu logic hwy yn iawn, yr wyf fi yn gyfranog o lygredigaeth pob gormes sydd yn Nghymru, oblegid yr wyf yn byw yn Nghymru, ac yn ddarostyngedig i gyfreithiau Cymru. Mae mwy o brynu a gwerthu dynion yn Turkey nag sydd yn Tennessee, eto y mae boneddigion o Loegr yn byw yn Turkey, ond nid oes neb yn awgrymu haner gair eu bod yn gyfranog o lygredigaethau caethiwed Turkey.”


Yn y Cronicl Ebrill, 1859, ceir y geiriau canlynol:-

“Gellid meddwl wrth y Faner, fod cyhoeddiadau Cymru yn cefnogi caethwasanaeth America. Nid wyf yn gwybod pa rai ydynt. Os yw y Faner yn gwybod am un cyhoeddiad yn Nghymru ‘braidd yn peryglu yr ymofynydd pryderus,’ am olygiadau ysgrythyrol, am ffurflywodraeth gwlad, dylai ei nodi allan.”

Yn mhen oddeutu deng mlynedd ar ol hyn, pan oedd mintai yn barod i gychwyn i Patagonia, rhuthrodd yr Herald iddynt, fel ci gwyllt i ganol defaid, a chwalodd hwynt i bob cyfeiriad. Gwnaeth hyny mae yn debyg am yr un rheswm ag y gwnaeth â mintai Tennessee. Yr ydym yn nodi y pethau hyn, nid i agor hen glwyfau, eithr i daflu goleuni ar yr hyn sydd yn canlyn.

Yr oedd S.R. wedi ei ddwyn i fynu o’r cryd i gasau holl sefydliadau gormes a thrais yn wladol a chrefyddol. Llafuriodd ei dad yn ffyddlon drwy ei oes i hyrwyddo rhyddhad y caethion Prydeinig, ac yr oedd yn ei gystudd diweddaf yn edrych yn mlaen yn bryderus at ddydd eu gollyngdod; ond bu farw Gorph. 28,. 1834, heb dderbyn yr addewid: Awst 1 y cawsant hwy eu gollyngdod. Yr oedd S.R. (x78) hun wedi bod yn gwneud ei ran yn yr un cyfeiriad: yr oedd wedi bod yn ysgrifenu, yn areithio, yn pregethu, yn gweddio, yn dadlu ac yn barddoni o blaid rhyddhad y caethion. Aeth llawer calon i guro, a llanwyd llawer llygad â dagrau wrth ddarllen “Cwynion Yamba, y Gaethes Ddu.” A sicr yw fod S.R. wrth drefhu gosod i fynu sefydliad Cymreig yn nghanol y caethion, yn bwriadu iddo ddylanwadu. i frysio adeg eu rhyddhad.

Drachefn, yr oedd S.R. wedi ei ddwyn i fynu yn egwyddorion manylaf Cymdeithas Heddwch, yn un o’i haelodau cyntaf, wedi gweithio gyda hi a’i holl egni drwy ei oes, wedi bod yn gyfaill mynwesol i’w phrif gefnogwyr, ïe, wedi gwneud mwy i ledaenu “heddwch” na holl weinidogion Cymru i gyd yn ei oes. Ei brif gŵyn yn erbyn y wlad hon, y nesaf i ormes ei landlords, oedd ei rhyfeloedd parhaus. Bu ar y cwestiwn hwn, fel ar lawer o gwestiynau eraill, wrtho’i hun yn hollol. Edrychai ar gaethiwed a, rhyfel fel dau gythraul o efeilliaid, a chredai na fyddai cyflogi y naill i fwrw y llall allan, ddim amgen cyflogi Beelzebub i fwrw allan Satan - y ddau efaill a gefnogai efe oedd Heddwch a .Rhyddid. Credai gan fod caethiwed wedi dyfod i mewn drwy ddrws y front, wedi cael cydsyniad y De a’r Gogledd, y dylasid ei droi allan drwy gydsyniad cyffredinol, ac i’r Gogledd fel y De i fod yn gyd-gyfrifol am y golled. Nid oedd yn credu mwy mewn rhyfel i wella’r wlad, nag y credai mewn gwneud drwg fel y del daioni. Yr oedd wedi dadlu llawer dros ryddhau y caethion yn y Talaethau Deheuol, a thros eu rhyddfreinio yn y Talaethau Gogleddol; ond dirmygai y Gogleddwyr ef am awgrymu fod i’r Negro gael ei gydnabod yn gydradd â’r dyn gwyn; a synent fod dyn o’i synwyr ef yn sôn am i’r dyn du gael cyd-deithio â’r dyn gwyn, cyd-fwyta yn y gwesty, myned i’r un ysgol, i’r un athrofa, i’r un addoldy, i ddal yr un swyddi masnachol, cymdeithasol a gwladol a’r dyn gwyn. Dadleuai S.R., os oedd y dyn du yn talu trethi fel y dyn gwyn, y dylai gael yr (x79) un manteision. Yr oedd pobl bwyllog, gall y Gogledd, yn addef mai hen drefn felldithiol oedd caethwasiaeth, ei bod yn bla tost ar y Talaethau, ac yn warth ar eu cymeriad, ond prin y ceid un yn mhlith mil o honynt a ddaliai heb wylltio pan sonid am iddynt gael eu cydnabod yn gydradd â dynion gwynion: a’r gred gyffredin yn mhlith y dosbarthiadau hyn yn y Gogledd oedd, os rhyddheid y caethion, y byddai raid cael rhyw drefn i’w hanfon yn ol i’w gwlad eu hunain. Nis gallai S.R. oddef i’r Gogleddwyr felldithio y Deheuwyr am gadw caethion, heb ddyweud wrthynt y dylasent hwy, gan eu bod yn gweled erchylldra y drwg, fod wedi gwneud rhywbeth i balmantu y ffordd i’w rhyddhau - os nad ellid eu rhyddhau drwy egwyddor fawr yr efengyl, y dylesid fod wedi eu rhyddhau drwy dalu pridwerth am danynt. Yr oedd yn credu yn gryf ac yn drwyadl yn y drefn a ddefnyddiodd Brydain i ryddhau ei chaethion (yr ydym ninau yn credu yr un fath, ond yn unig i arian y pridwerth gael eu codi oddi ar y bobl oedd wedi cael budd ac enill o’r gaethfasnach.) Ei ddadl ef oedd, fod i’r llywodraeth gyffredinol eu gollwng yn rhydd, a thalu am danynt o gyllid y llywodraeth, gan fod yr enillion oddi wrth y fasnach wedi rhedeg drwy y blynyddoedd i bwrs y Gogledd yn gystal a’r De. Yr. oedd A. Lincoln ei hun yn cydnabod mai dyna fuasai y drefn deg gyfiawn. Yr oedd caethiwed y Talaethau Deheuol yn mawr flino y Gogleddwyr er ys blynyddoedd, ac arferai llawer o’u gwyr blaenaf gyhoeddi yn yr iaith fwyaf diamwys, “nad oedd dim i’w wneud a Thalaethau caeth y De ond eu tori ymaith fel cynifer o aelodau pwdr, rhag iddynt nychu y cyfansoddiad, - eu bod yn faich arnynt, ac yn warth iddynt.” Arwyddeiriau cyffredin gwyr da y Gogledd oedd, “No union with the South.” Dyna oedd swm areithiau pleidwyr mwyaf brwdfrydig rhyddhad y caethion drwy y Gogledd, a mawr gymeradwyid hwy am ddangos y fath yspryd penderfynol. Dyna oedd syniadau W. Lloyd Garrison, Wendell Phillips, Underwood, Channing, a Quincy (x80)
Adams; nid yn unig dyna oedd eu syniadau flynyddoedd yn ol, ond dyna oedd eu syniadau yn 1859, pan oedd y storm ar dori allan. Ac fel prawf o hyn, wele y penderfyniad y cytunasant arno yn eu cynhadledd fawr yn Albany, N. Y., Chwefror 2, 1859.

 

Rhoddwn ef yma yn Saesnaeg, rhag ei dorfynyglu wrth ei gyfieithu: -

.....”Resolved, that in advocating the dissolution of the Union, the Abolitionists are justified by every precept of the Gospel, by every principle of morality, every claim of humanity; that such a union is a 'Covenant with death,' which ought to be annulled, and an 'Agreement with hell,' which a just God could not permit to stand; and that it is imperative and paramount duty of all who would keep their souls from bloodguiltiness, to deliver the oppressed out of the hand of the spoiler, and usher in the day of Jubilee to seek its immediate overthrow by all righteous instrumentalities.

 

.....“That no matter how sincerely, or zealousy, any political party may be struggling with side issues in relation to slavery to prevent its extension or otherwise cripple its power while standing within the Union, and sanctioning its proslavery compromises, and refusing to attack the institution itself, its position is morally indefensible, it rests upon a sandy foundation, its testimonies are powerless, and its example fatal to the cause of liberty, hence we cannot give it any support.”

Yr oedd S.R. yn crynu rhag y "No Union," gan yr ofnai y byddai hyny yn ddinystr i'w amgylchiadau ef a'i gyfeillion yn Tennessee; eto fel pleidiwr Heddwch, credai mai gwell, yn mhob ystyr, fyddai i'r De encilio na tharo, gan nad beth fyddai y canlyniadau i'w amgylchiadau personol ef; ac yr oedd gweled y fath lu o wŷr blaenaf y Gogledd yn cerdded y ffordd hòno yn galondid iddo draethu ei farn, ac yn cryfhau ei obeithion y llwyddid i benderfynu yr ymrafael heb dywallt gwaed.

(x81) Ond pan welodd yr arweinwyr yn y Gogledd fod y Deheuwyr yn myned i encilio mewn gwirionedd, hwy a newidiasant eu barn, canys gwyr plaid oeddynt. Gwelent y byddai terfynau teyrnasiad eu plaid yn cael eu cyfyngu, y byddai y brasder yn deneuach, y swyddi yn anamlach, yr urddas a'r cyfoeth yn brinach; do, pan welsant fod gobaith eu helw yn pallu, hwy a newidiasant eu barn, a rhaid oedd myned i ryfel mewn trefn i ddyogelu yr Undeb. Hawdd i bobl fydd yn troi o gylch personau ac amgylchiadau newid eu barn, ond i ddyn fel S.R. nad oedd yn perthyn i un blaid, dyn nad oedd yn disgwyl am swydd na ffafr oddi wrth y naill blaid yn fwy na'r llall, dyn a'i gredo yn seiliedig ar egwyddorion, ac nid ar amgylchiadau; nid gwaith hawdd oedd iddo ef newid ei farn.


Nid oes dadl nad awydd am swydd a dyrchafiadau oedd yn peri i'r Deheuwyr drefnu encilio, fel y bydd plaid mewn eglwys pan yn methu cael ei dewisddyn yn ddiacon neu yn weinidog, yn troi allan; ac addefir hefyd yn rhwydd fod y Gogleddwyr yu cyhoeddi rhyfel yn fwy er eu lles eu hunain nag er mwyn rhyddhau y 4,000,000 caethion oedd yn y De.

Teithiwyd y wlad gan areithwyr taledig yn enw y "blaid fawr oedd am ryddhau y caethion" ac "am gadw yr Undeb." Paentient y trueni oedd yn myned i lanw y wlad os caniateid i'r Deheuwyr gael eu ffordd, a sicrhaent, ond i'r bobl godi allan yn llu mawr, y byddai y cwbl drosodd yn mhen tri mis. Fel hyn, chwythwyd yn fflam y rhagfarn oedd wedi bod drwy y blynyddoedd yn llosgi yn farw yn mynwesau y Gogleddwyr yn erbyn y Deheuwyr. Codai y bobl ieuainc allan wrth y miloedd, a llawer o honynt yn myned i'r gad mor gydwybodol a phe yn myned i wneud gwasananaeth i Dduw.
Codai un gwmni o hyn a hyn o fechgyn, a chai ei wneud yn gadben arnynt. Codai un arall hyn a hyn, a chai ei wneud yn rhyw swyddog arall; ac unwaith wedi i nifer o fechgyn fyned o un pentref, yr oedd (x82) yr holl bentrefwyr fel ar flaenau eu traed yn edrych am fuddugoliaeth, a chyn hir yr oedd bechgyn agos o bob pentref yn y fyddin, a’r holl wlad yn teimlo dyddordeb pruddaidd yn y rhyfel. Yn fuan, nid oedd odid bentref yn y wlad nad oedd rhywun neu rywrai o hono wedi syrthio ar faes y gwaed, nes oedd y bobl wedi cael eu llyncu i fynu yn llwyr gan yspryd rhyfel ac am ddial, naill ai o herwydd eu colledion eu hunain neu mewn cydymdeimlad a’u cymydogion. Nid oedd nodau mwy llon yn disgyn ar glustiau y Gogleddwyr na, “llawer o’r Deheuwyr wedi eu lladd, a’u heiddo wedi eu llosgi” a theimlai y Deheuwyr yn debyg wrth glywed am anffodion y Gogleddwyr. Ond yn yr adeg wyllt, fflamllyd hon, pan oedd swn cleddyfau yn tincian a’r magnelau yn rhuo, yr oedd S.R. yn ddigon gwrol i ddadlu o blaid Heddwch, nid Heddwch tywydd teg, ond Heddwch yn nghanol rhyfel; ei gynllun ef oedd dyweud “rho dy gleddyf yn y wain,” a diwedd 1860 a 1861, efe a gyhoeddodd gyfres o lythyrau yn y Drych, i ddadlu dros y gallu moesol, fod yr arfau nad ydynt gnawdol yn ddigon i fwrw cestyll caethiwed i’r llawr, ac os nad oedd y Gogleddwyr yn credu yn y gallu moesol, apeliai atynt fel pwnc o gyfiawnder masnachol am iddynt dalu pridwerth am y caethion, neu os na wnaent y naill na’r llall, am iddynt adael i’r De encilio.

Clywsom ganoedd o bobl yn America, 1870, yn cwyno yn dorcalonus yn achos y galanastra oedd y rhyfel wedi wneud. Dywedai un hen bererin wrthym fod ei fab 32ain mlwydd oed, wedi cwympo yn y naill frwydr, a’i fab-yn-nghyfraith wedi cwympo yn y llall, a chan afael yn ei ŵyr bach, dywedai, “Dyma ni wedi’n gadael.” Soniasom am S.R. a’i resymau yn erbyn rhyfel ac o blaid Heddwch;
atebodd yntau gyda grudd wleb, “Gwyn fyd na fuasid yn gwrando arno mewn pryd: ond y gwir yw, yr oeddwn i wedi fy nallu gymaint fel nas gallwn weled nac adnod na rheswm, tra yr oedd fy nau fab ar faes y gwaed, a minau yn dysgwyl clywed bob mynud eu bod yn gelanedd o dan haul (x83) crasboeth y South.” Diau fod profiad yr hen ŵr hwnw — rhy ddall i weled nac adnod na rheswm — yn adlewyrchiad lled gywir o deimladau mwy na phedwar ugain a deg o bob cant o’r Americaniaid.

Ymosododd y Drych ar S.R. yn y dull mwyaf didrugaredd. Cyhuddid ef o fod yn bleidiwr caethiwed o’r fath fwyaf penboeth, ei fod am rwygo’r Undeb, a galwent ef yn bob peth ond boneddwr a Christion. Bu am ryw hyd yn ateb ei gamgyhuddwyr, ond cauwyd y Drych yn ei erbyn, ond caniateid i lythyrau ei ymosodwyr ymddangos.

Gosodwn yma ddyfyniadau o lythyrau personau na feddyliodd neb erioed, mae’n debyg, eu cyhuddo o fod yn bleidwyr caethiwed nac am “Rwygo yr Undeb,”—

...........................Pittsburg, Pa., Chwef. J, 1866.

“Darllenais eich Traethawd ar y “Gwrthryfel Mawr.” Unaf â chwi yn yr oll a ddywedwch am ragoroldeb heddwch ac ar ddrygedd rhyfel. Nid oes dim yn y Traethawd yn fy arwain i dybio eich bod yn bleidiol i Gaethwasiaeth, ond i’r gwrthwyneb, eich bod yn wrthwynebwr anghymodlawn i’r sefydliad, ac yn dra awyddus am ei lwyr ddilead. Nid wyf ychwaith yn gallu gweled eich bod yn Secessionist oddiar yr un egwyddor a diweddar gaethfeistri y De, ond eich bod yn golygu encilio i’w ddewis, neu i’w ganiatau, yn hytrach na rhyfel. Nid wyf fi fy hun o’r gred fod holl gaethdalaethau y De yn werth y rhyfel ofnadwy a fu rhwng ein llywodraeth a’r gwrthryfelwyr Caethbleidiol, ond nis gallaf weled mai hyny oedd y pwnc. Nid Caethiwed neu Ryddid pedair miliwn o’n cyd-ddynion, er mor dda i’w ddymuno oedd hyny, ond y ddadl ydoedd, A fedrai ac a wnelai Gweriniaeth alluog Gogledd America amddiffyn a dyogelu ei hun rhag ymosodiadau mewnol yn gystal a rhai allanol, &b., &c.
............................................................................Yr eiddoch yn ddidwyll,
....................................................................................................R. R. WILLIAMS.”
......................................................................................Fairheaven, Vt., Ion., 1866.


“Mae yma lawer o frodyr wedi rhoddi y Drych i fynu, oblegid ei greulondeb at S.R. Ysgrifenais inau lythyr (x84) cyfrinachol at y Golygwyr i ddanod iddynt eu tro brwnt a bawaidd, a chefais air yn ol yn cyfaddef iddynt fod yn rhy giaidd wrthych mewn un peth. Fy meddwl i am y ddadl yw, ei bod wedi myned yn gecrus, a gormod o ddifrio personol ynddi, nes oedd darllenwyr y Drych yn blino arni. Bu ‘Undebwr’ yn fudr a chas dros ben, ac yr oedd S.R. wedi cythruddo gormod hefyd. Gwyr holl Gymry yr oes am dalentau, cymeriad, a safle ‘S.R.’ erbyn hyn, fel nad oes eisieu’r un traethodyn i’w amddiffyn. Amser, a phwyll, a chynydd, a goleuni yr oes yn unig a’ch amddiffyna chwi ore, ac nid unrhyw draethodyn a ellwch ysgrifenu ar hyn o bryd. Os nad yw eich ysgrifau eisoes yn ddigon i bob dyn call ddeall eich meddwl, ni wna mil o draethodau amddiffynol y peth yn eglurach. Gwyr pawb yma pwy a pha fath ddyn yw S.R., a lluaws mawr yn hollol sicr ei fod yn onest iawn yn ei farn, a da yn ei amcan, ond y mae agos bawb yn meddwl nad doeth oedd cyhoeddi yr hyn a ysgrifenodd ar y rhyfel ar y pryd.
....................................................................
Yr eiddoch yn ffyddlon,
.................................................................................................R. L. HERBERT.”
..............................................................................Chelsea, Mass., Ion. 15, 1866.

“Byddai yn wir dda genyf allu gwneud rhywbeth i’ch amddiffyn yn wyneb yr ymosodiadau bawaidd a wneir arnoch. Beth amser yn ol gyrais lythyr i swyddfa y Drych. Cyhuddais y Gol. mewn iaith gref o fod wedi ymddwyn yn lled gas tuag atoch, yna cefais lythyr maith oddiwrth J. Mather Jones a T. B Morris, a dywedai eu bod wedi penderfynu cau y ddadl allan o’r Drych yn hollol. Gwyddoch yn dda nad oeddych yn cael chwareu teg ar ddwylaw teulu y Drych.
................................................................................................JOHN THOMAS.”
.............................................................Knoxville, Tennessee, Mawrth 23, 1883.

 

“Hoffwn weled eich ‘HUNANAMDDIFFYNIAD.’ Gwnaethoch waith mawr yn eich hoes er dirfawr les i’ch cenedl, ond am eich bod yn bleidiwr cryf a gwresog i HEDDWCH ac ANIBYNIAETH yr EGLWYSI, cawsoch eich dirmygu a’ch erlid yn greulon, ond llawenychaf eich bod wedi cael bywyd a nerth i amddiffyn eich hunan. Mae ad-daliad (retribution} i bob erledigaeth. Nid oeddwn, ac nid wyf.eto, yn gallu cymeradwyo pob syniad o’ch eiddo ar Ryfel Cartrefol (x85) America, ond er hyny credwyf fod y rhan fwyaf o’ch syniadau yn sylfaenedig ar gadarn graig Cristionogaeth, ac y bydd enw S.R. yn enwog ac anwyl gan filoedd, a’i weithiau llenyddol coeth yn cael eu darllen a’u gwerthfawrogi gan Gymry y byd yn yr oesau a ddaw. Mae un oes fer yn llawn digon i rai dynion hunanol ac erlidgar, ond buasai yn ddymunol genyf fi a chan luoedd pe buasai dynion egwyddorol yn yr ysgrythyrau, a llawnion, talentog a choeth fel S.R. a J. R. yn cael DWY OES HIRFAITH ar y ddaear er llesoli eu cydgenedl, ac amddiffyn egwyddorion y Testament Newydd ac iawnderau yr eglwysi Cristionogol a’u gweinidogion, ond nis gall hyny fod. Er fod S.R. yn awr yn 83 mlwydd oed, a J. R. yn 78, da genyf ddeall eich bod yn ‘lled iach.’ Mae oes dragywyddol, a defnyddioldeb gogoneddus yn eich aros yn y ‘Byd a Ddaw.’ Os na chawn gyfarfod a’n gilydd byth eto ar y ddaear, credwyf y cawn gyfarfod llawen yn y nef. O! wynfydedig obaith! Os ewch chwi yno o’m blaen, dywedwch wrth fy hen gyfeillion lluosog ac anwyl, ac yn enwedig wrth ‘Sarah Maldwyn,’ fy mod inau, wael bererin, ar y ffordd, ac yn ‘home sick’— hiraethu am fy nghartref nefol, a bod gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydyw. Ei weled ef fel ag y mae, a bod yn debyg iddo! Yr wyf yn llawenychu mewn gorthrymderau, dan obaith gogoniant Duw!

Drwg genyf ddeall am afiechyd fy hen gyfaill anwyl G. R. Cofiwch fi ato ef a’i briod a’u merch. Gobeithio ei fod yn well.*
..........................................................IORTHRYN GWYNEDD.”

 

(*Troednodyn) Bu G. R. farw yn mhen pedwar mis a dau ddiwrnod wedi ysgrifeniad y llythyr uchod.)

Anfonodd Iorthryn ysgrif faith drachefn ar gyfer y Cofiant, ond gan nad yw namyn ailadroddiad o’r hyn a ddywedwyd yn barod, ni wnawn yma ond dyfynu o honi: —

“Cyhoeddoedd ei lythyrau yn y Drych ar y Gogledd a’r De yn fuan wedi etholiad Abraham Lincoln, ac ar ol i rai o Dalaethau caeth y De encilio o’r Undeb, pan oedd yr holl wlad wedi ei chynhyrfu drwyddi, ac yn llawn o yspryd rhyfelgar. Pobl y De wedi penderfynu encilio a dryllio yr Undeb, a sefydlu Gweriniaeth iddynt eu hunain o’r (x86) Talaethau caeth, ac ymladd dros hyny, os byddai raid, er sefydlu caethwasiaeth dros byth yn eu talaethau; a phan oedd pobl y Gogledd yn benderfynol i amddiffyn y llywodraeth, a chadw yr Undeb, ïe, drwy ryfel os byddai reidrwydd am hyny. Yr oedd y Deheuwyr a’r Gogleddwyr wedi eu cynhyrfu i ymarfogi gan dybied ei fod yn ddyledswydd arnynt i ymladd am eu hiawnderau. Rhaid i mi addef fy mod fy hun, fel eraill o’r Undebwyr, y pryd hwnw wedi teimlo rhyw radd o’r fath yspryd rhyfelgar, gan dybied ei fod yn deimlad teyrngarol a dyngarol hefyd. Ar y fath adeg gynhyrfus ar y wlad fawr hon y dechreuodd S.R. gyhoeddi ei lythyrau ar y Gogledd a’r De. Tybiwn ei fod wedi dewis y lle a’r adeg fwyaf anfanteisiol i gyhoeddi ei syniadau ar y fath bwnc, er ateb ei amcanion daionus ef, sef ceisio creu mwy o yspryd heddychol yn y bobl, a rhagflaenu neu atal y rhyfel gwaedlyd. O! na buasai yn llwyddianus, ond ni bu, ac nid oedd ganddo un sail i obeithio am hyny ar y fath amser cynhyrfus. Dichon y buasai yn ddoeth iddo oedi eu cyhoeddi nes cael adeg fwy manteisiol. Ond yr oedd efe yn barnu yn wahanol, a gwnaeth ei ore dros heddwch, ac yn erbyn rhyfel. Ymresymodd rhai gwŷr enwog, teyrngarwyr gonest a ffyddlon, fel yntau, yn gryf dros heddwch, ac yn erbyn rhyfel, ond ni erlidiwyd hwy am hyny. Diau fod gan S.R. gystal hawl a hwythau i gyhoeddi ei syniadau, ac yr oedd hawl gan y neb a fynai i’w ateb, i adolygu ei lythyrau, ac i ddymchwel ei resymau a’i syniadau. Dyna yw rhyddid y wasg. Ond nid oedd hawl gan neb i’w gashau, ei erlid, ei enllibio, ei ddrygu, a’i gamddarlunio fel cefnogwr caethwasiaeth a gwrthryfel, gan na bu erioed yn euog o wneud hyny; a hollol anheg, anfrawdol, a chreulon oedd i rai o’i frodyr gau drysau eu capeli, a cheisio ei atal i bregethu ynddynt, pan nad oedd yn ei erbyn un camwedd, ond ei fod wedi ysgrifenu yn erbyn rhyfel, ac o blaid heddwch a rhyddid. Cafodd ei erlid yn greulon yn y Drych o dan olygiaeth y diweddar J. W. Jones, a theg fuasai iddo gael ychwaneg o le ynddo i amddiffyn ei syniadau a’i gymeriad.

“Mae caethwasiaeth wedi cael ei lwyr ddiddymu, mae y rhyfel drosodd, mae heddwch ac undeb wedi cael eu hadfer, mae S.R. a’r rhan fwyaf o’i wrthwynebwyr yn eu beddau, a’m barn i ar y ddadl yw, — .

(x87) 1. “Iddo gyhoeddi ei ysgrifau ar y pwnc yn anamserol.

2. “Iddo ysgrifenu yn rhy gryf ar feiau y Gogledd.

3. “Y dylasai ddyweud yn fwy eglur a chryf ar feiau y De. Pe buasai wedi ysgrifenu mwy yn Saesnaeg buasai yn well.

“Fel hyn, wrth ystyried yr holl ffeithiau a nodwyd, teimlaf mai DIFFYGION ei ysgrifau, ac nid eu hymosodiadau, dynodd y frawdoliaeth yn ei erbyn; ond o’r ochr arall, credwyf fod teimlad a barn y miloedd o blaid ysgrifau S.R. Yn fuan ar ol darfod y rhyfel, ac yn enwedig mewn adolygiad pwyllus arnynt am yspaid ugain mlynedd ar ol hyny, a chredwyf hefyd y darllenir hwynt yn ddiragfarn gan ei gydgenedl yn yr oesau dyfodol, y coleddir ei syniadau ac y bendithir ei enw a’i goffadwriaeth gan fil o filoedd drwy’r byd, fel efengylwr heddwch, ac fel dewr wrthwynebwr trais, caethwasiaeth, a rhyfeloedd. Bydd ei enw yn anrhydeddus, a’i weithiau llenyddol yn fyw, ac mewn parch a bri, pan na fyddo gorthrwm, a thrais, a rhyfeloedd mwyach.
................................................................................................IORTHRYN GWYNEDD.”


Dyna syniadau personau hollol anmhlieidiol am safle a chymeriad S.R. yn ystod blynyddoedd ei ymdeithiad yn America, tystiolaeth personau oedd yn methu cydweled ag ef ar gwestiynau mawrion rhyddid a rhyfel, am, fel yr addefant, “yr oeddynt wedi eu dallu gan yspryd ymladd,” ar yr un pryd teimlent nad oedd S.R. yn cael chwareu teg gan deulu y Drych.

Prin yr oedd y Drych wedi dechreu yr ymosodiad, nad oedd papyrau Cymru yn udo yn yr un cyweirsain, fel parhad o’r ymosodiadau yn 1856 a 1859, am y rhai y soniwyd yn barod. Uchelgyrch yr ymosodiadau yn Nghymru, mae’n debyg, oedd, naill ai y rhigwm cân fasw, isel, ddichwaeth hono o eiddo Ceiriog, yr hon a elwid y “Ddau Sam,” yn gystal a chwedlau gwrachïaidd “Gefail” y Faner, y :rhai a fuasent yn gweddu yn well i gwmni o ynfydion yn mhorth marchnad y pysgod, nag i golofnau papyr a fynai gael ei alw yn organ y genedl, dan olygiaeth un o arweinwyr y “Gorph Methodistaidd,” neu yr ymgais erthylaidd hono o eiddo y J.W. Jones hwnw, Gol. y Drych, yn ceisio adgyfodi hen (x88)
ymosodiadau y Drych 1861, yn yr Herald 1879; ond yr oedd y cyhoedd erbyn hyny yn deall perthynas J. W. Jones a’r Drych a Kansas yn rhy dda i wneud fawr sylw o’i ebychiadau.

 

Cyhoeddwyd can Ceiriog, “Y Ddau Sam,” i ddechreu yn y Faner, ac wedi hyny yn un o lyfrau Ceiriog, y rhai a gyhoeddid gan Hughes a’i Fab, Wrexham. Pan ddychwelodd S.R. o’r America, 1867, ysgrifenodd at Ceiriog a’r cyhoeddwyr i ofyn iddynt ai nid oeddynt yn barnu y byddai yn ddoeth iddynt gymeryd rhyw lwybr i ddadwneud dylanwad y gân ddiraddiol hono, y gwyddent nad oedd ynddi yr un gair o wirionedd, am iddynt gymeryd eu ffordd eu hunain i wneud hyny. Addawodd Ceiriog gydseinio a’i gais, a thybiai S.R. fod Hughes a’i Fab wedi atal gwerthiant y llyfr, ac y tynid hi allan os byddid yn cyhoeddi ail argraffiad a hono. Ond yn 1870 deallodd nad oedd dim wedi cael ei wneud gan y naill na’r llall. Ysgrifenodd at Ceiriog fel hyn: -

 

“ANWYL SYR,

...Ysgrifenais yn garedig atoch i ofyn i chwi wneud rhyw ymddiheurawd i alw yn ol enllibiau eich hen gân enwog ar y “ Ddau Sam,” ond nid atebasoch fy llythyr. Gwnaethum yr un cais atoch ddwy flynedd yn ol, pan welais chwi yn Station Llanidloes, ond ni chydsyniasoch, er teced oedd fy nghais. Yr wyf fel cymydog a chydwladwr yn rhoddi i chwi eto un cynyg i wneud yr hyn sydd deg a’ch hen gyfaill S.R., , ac os na wnewch yn ddioed, bydd raid i mi apelio at lys cyfraith, &c.

..............................................................................SAMUEL ROBERTS.

..........................Swyddfa’r Dydd,

...................................Dolgellau, Chwef. 21, 1870.”

 

Ysgrifenodd Ceiriog mewn atebiad, -

 

....................................................................................“Llanidloes Station,

Feb. 22, 1870. REV. S.R., DEAR SIR,-

...The second edition of ‘Cant o Ganeuon’ will soon be out, and that is the proper place and proper time to deal (x89) with the matter you refer to. You know that little folk, especially ourselves, can ape Dr. Temple in some things. I have finished my fifth little book this very day, and the copy is sent to Wrexham; it is called ‘Oriau’r Haf,’ and contains about 4000 lines. The publishers were pressing me for the M.S.S., hence the reason I did not manage to reply to your first letter more promptly.

 

...If you refer your complaint to Cesar, wel, ‘at Cesar y cewch fyned.’ I am quite prepared to meet at Philipi if invited. But as our animosities have been purely political, and confined to the last days of the exploded slaveocracy, and never for a moment personal, no doubt we shall be able to wash this bit of linen at home.

 

Believe me, dear S.R., to be truly yours, and you shall not be disappointed in next edition.

.........................................................................................................J. C. HUGHES.”

 

Gofynodd S.R. i Ceiriog ei gyfarfod yn swyddfa y cyhoeddwyr yn Wrexham i gael dwyn y peth i derfyniad, ond ni ddaeth; a dadleuodd y cyhoeddwr na wyddai efe ddim am natur athrodgar y gân, ac yn hytrach na gofidio ei fod wedi lledaenu yr hyn nad oedd wirionedd, a chydsynio i beidio gwneud rhagllaw, fel yr oedd S.R. yn tybio y dylasai gwr oedd yn cael edrych arno fel un o arweinwyr y Methodistiaid Calfinaidd wneud, efe a addawodd ymgynghori a’i gyfreithiwr, ac ni wnaeth Ceiriog na Hughes ddim i uniawni y camwri, er yn gwybod ac yn addef nad oedd yn y gân yr un gair o wirionedd. Golwg isel braidd ar fasnach yw gweled cyhoeddwr o safle Hughes, Wrexham, yn ymhyfrydu mewn gwneud arian drwy daenu anwireddau am hen gymydog. Erbyn hyn mae y tri wedi croesi yr afon, a digon tebyg na chafodd yr awdwr na’r cyhoeddwr fawr o gysur oddi wrth y gân yr ochr draw.

 

Yr oedd y Faner, chwarae teg iddi, wedi bod drwy y blynyddoedd a’i gwyneb yn erbyn S.R. a Tennessee, ac ymddengys iddi yn “Ymddyddanion yr Efail” fyned allan o’r ffordd i ymosod arno. Gwyddai awdurdodau y Faner (x90) o’r dechreu nad oedd un gair o wirionedd yn rhigwm cân Ceiriog, a gallesid tybio iddi gael ei chyhoeddi yn y Faner yn fwy er difyrwch na dim arall; ond yr oedd gwaith Gol. y Faner yn adnewyddu yr ymosodiadau wythnos ar ol wythnos mewn cyfres o ysgrifau rheolaidd, yn dangos fod yno amcan i beri i’r wlad golli pob ymddiried yn S.R. Dywedid fod Syr Watkin, drwy roddi ₤10 at ei dysteb, wedi ei brynu, ei fod yn troi i ganmol landlords er mwyn elw, fel yr oedd, meddid, wedi troi yn Tennessee i bleidio caethiwed er mwyn elw, a sicrheid ei fod yn gefnogwr i’r ymgeisydd Toriaidd dros Sir Feirionydd, o herwydd ddarfod i hwnw gyhoeddi ei anerchiad yn y Dydd. Gwyddai awdurdodau y Faner yn dda nad oedd gair o wirionedd yn un o’r ymosodiadau a’r awgrymiadau hyn, eto pan ofynodd S.R. am iddynt gael eu cywirio, ni fynai y Gol. son am y fath beth. Fel rheswm dros gyhoeddi yr ymosodiadau, dywedai y Gol. fod S.R. wedi ei sarhau ef rywbryd, tra nad oedd efe wedi dyweud un gair am y Faner na’r Gol. hyd ar ol ymddangosiad cân Ceiriog. Nid oedd wedi dyweud gair am y Faner cyn iddi gael ei hagor yn erbyn ei dysteb ef. Mae’n wir nad oedd S.R. yn cydweled a Gol. y Faner ar drefn y “Datgysylltiad,” a chyhoeddodd nifer o lythyrau yn y Dydd yn ei erbyn. Yn wir nid oedd ond ychydig yn cydweled à threfn Mr. Gee yr adeg hono, mwy nag y maent yn cydweled a’i gynlluniau presenol; ond S.R., mae yn debyg, oedd y cyntaf i ddyweud yn ei erbyn, ac efe, efallai, ddywedodd gryfaf; ond nid oedd S.R. wedi tybio y buasai i Olygydd unrhyw bapyr, llawer llai y Faner, roddi benthyg ei golofnau i sarhau ei wrthwynebydd yn bersonol am wahaniaethu oddi wrtho ar faterion cyhoeddus. Bu gohebiaeth faith rhyngddynt ar y pwnc, a diffoddodd y tân drwy i’r Faner beidio gosod arno ychwaneg o danwydd.

 

Trefn digon anheilwng o wareiddiad, heb son am Gristionogaeth, yw, wedi methu atal rhesymau dyn, troi i ymosod ar ei berson.

 

 

(x91) PENOD V.

EU BYWYD YN BRYNYFFYNON.

 

Cymerwn yn awr hamdden i edrych pa fodd y buont byw yn Tennessee. Ymddengys i G. R. a’i deulu, y rhai oeddynt yno flwyddyn yn agos o flaen S.R., ymroddi i amaethu ar eu gore, a dywedir fod gan Gruffydd can daclused tyddyn a dim ellid ddymuno, wedi ei gau i fewn, ei arloesi a’i drin yn dda, fel yr oedd yn dwyn cnydau rhagorol. Ysgrifenai Gruffydd, Hyd. 15, 1856, -

 

“O ran arwynebedd, mae y tir yn debyg i Dregynon a’r Byrwydd, ychydig yn wastatach. Ac y mae yn ddiamau fod yma wlad iachus - yr ydym eisoes yn teimlo hyny. Mae y fflwr yn uchel yma, gan nad oes yma yn mron ddim gwenith yn cael ei godi. Mae rhyw fai yn rhywle fod y bara mor uchel yma, naill ai ar y soil, ar y climate, neu ar y bobl. Byddai yn anhygoel i chwi pe adroddem eu dull o ffarmio. Mae yn ddiarheb yn eu plith, ‘This is a mighty country for sprouting.’ Ond pa ryfedd fod y coedydd yn sproutio, pan nad oes neb yn aredig yn ddyfnach nag o gylch dwy fodfedd. Darfu i ni geibio darn bach yma, megis lle gardd, tuag wyth modfedd o ddyfnder; a chlywais rai o honynt yn dyweud ein bod wedi dyfetha y patch hwnw wrth fyned yn rhy ddwfn. Nid oes yma neb yn gwybod beth yw gwair. Gofynais i un o’r prif ffarmwyr a oedd erioed wedi treio clover. Atebodd iddo wneud unwaith, ac i’r clover ddarfod yn mhen dwy flynedd. Gwelais ddigon o lo mewn amryw fanau. Pan fyddo ar y gofaint eisiau tipyn, cymerant wagen i ryw gwm fyddo fwyaf cyfleus. Mae yn debyg y rhaid ceisio tipyn o galch i’r tir, gan y barna y doethion fod ar y soil yma eisiau calch. Mae y perllanau yma yn ardderchog. Ni welsoch eu cyffelyb erioed. Maent wrth y tai tlotaf, os bydd y tai hyny yn dipyn o oed. Maent yn llawn afalau a peaches. Mae y peaches yn gymwys yr un fath, ac o’r un natur a’r ‘plwmws’ ond fod cymaint o wahaniaeth rhyngddynt ag sydd rhwng llew a chath. Mae ein tŷ yn cynwys dwy ystafell, a phob un yn chwech llath bob ffordd, ac y mae passage llydan rhwng y ddwy. Mae (x92) llofft isel uwchben y tŷ. Mae ein gwely, a lle tân, a’r rhan fwyaf o’n dillad yn un o’r ystafelloedd mawr hyny; ac y mae ein cooking-stove, y dinner table a’n cwpwrdd bwyd, &c., yn yr ystafell arall. Yn yr ardal hon, mae yr holl ystafelloedd yn fawrion. Anaml y ceir tŷ a mwy nag un ystafell yn y lled, felly gellir agor y ffenestri o bob tu i ollwng y gwynt drwodd. Yr wyf yn meddwl na wnai ystafelloedd bychain clos Cymru mo’r tro yma. Pur rough ydyw ein pethau yma eto. Cawsom ein derbyn gyda sirioldeb mawr gan y cymydogion oddeutu yma. Y maent yn ymddangos yn awyddus i wneud a ni garedigrwydd.

..................................................................................................GRUFFYDD RISIART.”

 

Yn niwedd 1857, ysgrifena S.R. fel y canlyn:-

 

“Mae teulu Brynyffynon wedi cael iechyd anarferol o dda er pan ddaethant yma yn nechreu Medi, ac y mae G.R. a D. Griffith,* (Troednodyn: Hen was ffyddlon aeth gyda hwynt o Lanbrynmair.) er cymaint a ddywedwyd, a ysgrifenwyd, ac a weithredwyd er eu digaloni, wedi gorphen y tŷ yn un pur hwylus, ac wedi gwneud llaethdy rhagorol, a chafn llydan yn ochr bellaf ei waelod i’r dwfr o’r ffynon lifo drwyddo, ac wedi gwneud cae o bedwar cyfair o gylch y tŷ, ac y mae ganddynt yn y cae hwnw glwt o geirch sal teneu, oddigerth ar ambell ddarn oedd wedi cael cymesur o ludw, ac ychydig o gorn byr a gwanaidd, pompiwnau da yn gymysg ag ef, a dau fath o gloron go dda, a grwn o faip, a gardd gryno o bys, wynwyn, cabbage, tomatoes, cucumerau, lettuce, radishes, a parsnips, &c. Go eiddil a nychlyd y rhan fwyaf o honynt. Ac y mae ganddynt lawer o blanhigion coed peaches ac afalau, a llawer o ffrwythydd eraill gobeithiol. Ac y mae ganddynt gae arall pedwar cyfair o du’r dwyrain i’r tŷ ar ganol ei glirio, lle y maent yn parotoi at godi ystabl a beudy, ac y maent wedi cau oddeutu pymtheg cyfair o’r coed i fod yn gae porfa o du’r gorllewin i’r tŷ; ac y maent wedi clirio dernyn go helaeth o’r ochr agosaf i’r ty o’r cae hwnw, a bwriadant gau llain newydd ato yn y gwanwyn er helaethu y borfa; ac y maent yn trefnu at gae lled fawr arall oddiar y tŷ i’r gogledd, i’w glirio at ŷd, a bydd yno le ardderchog am gae o ugain cyfer, ar gefn sych gwastad digerig. Mae ganddynt gaseg wyth oed go ddefnyddiol, lonydd at dynu ac esmwyth at farchogaeth, (x93) a thair buwch odro go fychain, y rhai ydynt yn rhoddi cryn doraeth o’r llaeth a’r ymenyn gore; ac y mae ganddynt hen fuwch yn y coed a chloch am ei gwddf, nid yn gyflo fel yr oeddynt yn dysgwyl, ond yn pesgi bob dydd, er iddi fod allan drwy y gauaf, a hwnw y gauaf caletaf yma ar a welodd neb sydd yn fyw; ac y mae ganddynt chwech o foch go fychain yn porfäu ar hyd y coedydd, y rhai a fyddant yn dewion erbyn adeg lladd; ac y mae ganddynt chwech o ddefaid at gael stew y gauaf, &c. Wrth daflu golwg fel hyn dros lafurwaith a gofalon teulu bychan Brynyffynon, dylid cofio nad oes ond deng mis er pan ddaethant i’r ardal, a bod bywyd a gwaith Tennesseaidd yn beth hollol newydd. Pan gofir y pethau hyn, yr ydym yn credu y cydnabyddir eu bod wedi gweithio yn dda, ac yr ydym yn credu y gweithiant yn well yn y deng mis nesaf, os cânt fywyd ac iechyd.”

 

Ni ddaeth gair o hanes pellach am G.R. am dymor maith ar ol hyn, ac yn y Cronicl Mai, 1861, ceir dau englyn “Sen i G.R. am beidio ysgrifenu yn amlach,” gan “Edwin, Pencader.”

 

........................“Gair garw, gair o gerydd, - yn ddibryder,

................................Argraffer i Gruffydd;

..........................Wele, bu yn ohebydd, -

..........................Ffoes, ac Ow! gwades y ffydd!

 

........................Geiriau hoff ydoedd gan Gruffydd, - medrai

................................Ar ymadrodd celfydd;

..........................Ai heb air mwyach y bydd

..........................Mal maen y’ mol mynydd?”

 

Ond ni pharhaodd y distawrwydd hwn o du G.R. yn faith, canys ceir y llythyr hwn o’i eiddo yn y Cronicl am Awst, 1861: -

 

“ANWYL FRAWD, -

Y mae Cadwgan Fardd, gwr golygus, uwchlaw dau gant o bwysau, brodor o Forganwg, hanesydd, llenor, a bardd, wedi prynu tir, ac yn gwneud cartref iddo’i hun a’i deulu, o fewn chwarter milldir i Brynyffynon. Mae yn ychwanegiad dymunol i’n settlement ni. Gobeithio na fyddwn yn ormod (x94) o lenorion yma i wneud ffarmwyr. Mae rhai felly i’w cael yn y byd.

 

“Daeth Cadwgan i’r ty boreu heddyw, a gofynodd i mi paham na bawn yn gwneud ambell benill y dyddiau hyn? Atebais nad allwn, ac y betiwn ‘Fip’ (y dernyn lleiaf o arian yr Unol Dalaethau) nad allai yntau wneud na phenill nac englyn ar ol dechreu ffarmio yn y coed. ‘Agreed,’ ebe yntau, ac enillodd y Fip, oblegid ar y winc, rhedai yr englynion canlynol o’i ben fel ‘gofer hydardd,’ chwedl Pedr Fardd. Ni bu genyf ffansi erioed yn y gair ‘difyfyr’ ond ni bu gan englynion erioed fwy o hawl i’r gair na’r rhai hyn. Mae’n debyg fod cyfeillion Cadwgan yn gwybod ei helynt, ond os dygwydd fod rhai heb wybod, nid drwg fyddai eu hysbysu y deuai llythyr neu newyddiadur iddo ond ei gyfeirio, Cadwgan Fardd, Huntsville, Scott Co., Ten.

 

................................................FFENESTR BRYNYFFYNON.

 

........................................“Yn ffenestr Brynyffynon, - hen awdwr

................................................Y ‘Caniadau Byrion’

.............................................Eistedda i lawr yr awr hon,

.............................................Yn ferw o fyfyrion. .

 

........................................A Gruffydd hoff, graft ei ddawn, - hen araul

................................................Lenorydd uchelddawn,

.............................................Eilwaith gaf yn wlithog iawn

.............................................Yn ffenestr Brynyffynawn.

 

........................................Ann addfwyn, hyfwyn hefyd, - a wylia

................................................’N ofalus bob enyd,

.............................................Yn ei thŷ, a hyny o hyd,

.............................................Yn dawel iawn a diwyd.

 

........................................Marged, yn wir wna’n dirion, - ranu bwyd

................................................I’r wyn bach a’r cywion,

.............................................Fore a hwyr saif ar hon

.............................................Filoedd o ryw ofalon.

 

........................................O ffenestr Brynyffynon, - gwelir

................................................Teg olwg hyfrydlon;

.............................................Coed ’falau, a bryniau bron

.............................................Ymollwng tan y meillion.

 

........................................(x95) O ffenestr Brynyffynon, - yn foddus

................................................Canfyddaf goed mawrion,

.............................................Uwch oll y’nt, - ac ar arch Ion

.............................................Fry gwyliant frig awelon.

 

........................................ “Ac O! doraeth o goed eirin - a welir

................................................Ar ael yr uchelfryn;

.............................................A gwena pob eginyn

.............................................Yn ddidwyll er noddi dyn.

 

........................................Gwelir y blodau gwiwion - yn hwylus

................................................Yn nwylaw’r awelon,

.............................................Yn gwenu megis llu llon

.............................................O ffenestr Brynyffynon.”

 

Yn fuan wedi ysgrifenu y llythyr uchod, cauwyd hwynt i fewn gan y rhyfel, ac yn y llythyr nesaf a dderbyniwyd oddi wrthynt dywed S.R.,-

 

“ Treuliasom yr haner blwyddyn diweddaf mewn cyflwr o bryder, wedi ein cau yn hollol, nid yn unig o gyrhaedd helynt y byd, ond o gyrhaedd pob swn a hanes am dano. Yr ydym wedi methu cael llythyrau na newyddiaduron drwy yr holl amser, am fod y byddinoedd gelynol ar hyd y llinell rhyngom a’r Gogledd, ac nid allai neb fyned heibio iddynt heb beryglu ei fywyd. Yr ydym yn clywed fod y ffordd yn rhydd yn awr i Monticello a Somerset yn Kentucky, ac yr wyf yn bwriadu cychwyn yno foru i edrych a fedraf gael rhai o’r llythyrau a’r papyrau ydys wedi ‘gadw’ neu wedi ‘ ‘golli,’ ond nid wyf prin yn gallu meddwl fod dim o honynt ar gael, oblegid nid oes na threfn na rheol gyda dim drwy yr holl gylchoedd canoldirol yma. Mae llawer iawn o ladrata, yn enwedig lladrata ceffylau, wedi bod oddeutu yma drwy yr wythnosau diweddaf. Collodd amryw o’n cymydogion eu ceffylau a phethau eraill, ond ni ddaeth neb eto ar ein traws ni, er ein bod wedi treulio wythnosau mewn pryder. Bu y ddwy blaid fwy nag unwaith yn lled-ofyn am ein gwn adar, ein hateb oedd, os oeddynt am ei gymeryd na cheisiem eu rhwystro. Yr ydym wedi cael pob siomedigaeth ag oedd yn bosibl i ni gael.

 

(x96) “Bydd Cadwgan Fardd wedi gwneud iddo’i hun ffarm bur gysurus yn fuan. Y maent yn bobl ddiwyd, gryno, weithgar. Gresyn na byddai mwy o’u bath oddeutu yma. Mae eu tŷ o fewn chwarter milldir i ni.

 

“Ydwyf, dy anwyl frawd S. R,, yn lled debyg yr un farn am bethau yn awr ag oedd cyn gadael Cymru, ond fod ei wedd yn heneiddio.

........Monticello, Wayne Co., Kentucky,

..................Mawrth 31, 1862.”

 

Dywed S.R. mewn llythyr o Brynyffynon, Meh. 10, 1862,-

 

“ Mae y sir hon wedi bod yn bur ffyddlon i achos yr Undeb o ddechreuad y gwrthryfel, a hyny pan oedd deniadau a bygythion y gwrthryfelwyr yn gryfion a lluosog ar bob llaw. Darfu i bron holl ddynion y sir daflu pob gwaith a gofal o’r neilldu, ac ymrestru fel ‘home guard’ gwirfoddol, a chyhoeddi eu penderfyniad i sefyll dros yr Undeb, ac i amddiffyn eu cartrefi, a hyny mewn yspryd mor hyf, ac mewn iaith mor gref, fel yr oeddym mewn dychryn drwy y misoedd, rhag y buasai yr holl sir yn cael ei gwneud yn faes celanedd a difrod. Yr oeddym yn disgwyl y gallesid hebgor un fintai o’r fyddin o dros saith can’ mil o arfogion i noddi y darn canoldirol hwn oedd wedi bod mor ffyddlon i’r Llywodraeth, ond ni ddaeth neb yn agos, er cael o honynt lawer o ‘Volunteers’ o’r sir. Yr oeddwn i am i’r ddwyblaid yn y parthau hyn aros yn llonydd, a chadw yr heddwch at eu gilydd, gan adael i’r ddadl gael ei phenderfynu gan yr awdurdodau, neu gan y byddinoedd mawrion rheolaidd, yn lle ymffurfio yn fân finteioedd yn y cwm hwn ac ar y bryn arall i anrheithio a llofruddio eu gilydd, gan adael rhyddid i’r rhai fyddai yn boeth am gymeryd rhan yn y rhyfel i droi allan i’r fyddin reolaidd i ymladd o dan eu banerau priodol. Ond yr oedd y ddwyblaid yn rhy boethwyllt i feddwl am ryw gynllun ‘Merozaidd’ felly - yr oedd y ddwyblaid am godi i fod yn ‘gynorthwy i’r Arglwydd yn erbyn y cedyrn’ (Nodÿn: Barnwÿr 5:23) yn y manau lle yr oeddynt; ac y maent wedi bod yn gwylio am gyfleusdra i ddrygu eu gilydd drwy yr amser er dechreuad y rhyfel. Lladdwyd yn ddiweddar gymydog boneddigaidd i ni pan (x97) oedd yn aredig yn ei faes. Yr oedd ei dad a’i deulu dros yr Undeb, ac yr oedd yntau felly ar y cyntaf, ond hudwyd ef gan ei deulu yn nghyfraith i finteioedd y gwrthryfel, a dywedir ei fod gyda chwmni o honynt mewn dwy ysgarmes a fu gerllaw yma ddeng wythnos yn ol, ond yr oedd wedi gadael yr encilwyr, ac wedi dychwelyd i drin ei faes. Saethwyd o’r goedwig ato gan dri neu bedwar pan oedd ei ddwylaw ar yr aradr, a syrthiodd yn ngolwg ei deulu.

 

“Hyspyswyd ni ddoe gan ddwy fintai oedd yn ffoi heibio yma o ardal Kingston, ddeugain milldir islaw i ni, fod oddeutu yno lawer iawn o drais wedi cael ei gyflawni yn ddiweddar, mewn lladrata, difrodi meddianau, dychrynu teuluoedd, ac anmharchu gwragedd. Ond y mae cymaint o newyddion yn cael eu gwneud er mwyn i’r sawl fydd yn eu cario gael digon o faich i nerthu eu doniau, a digon dros ben i dalu am eu llety, fel y mae yn fynych yn anhawdd gwybod beth sydd wirionedd. Eithr y mae yn ddigon eglur fod y dihirwyr diog, meddw, lladronig sydd yn cymeryd mantais ar derfysgoedd rhyfel i borthi chwantau a nwydau eu cydwybod, a’u dialgarwch, a’u trythyllwch, yn llawer creulonach na milwyr maes y frwydr. Mae rhai o’n cymydogion wedi bod yn ceisio planu corn y dyddiau diweddaf, ond y maent yn barod i droi eu harfau braenaru heibio ar y rhybudd lleiaf, er gwisgo eu harfau rhyfel yn eu lle.

 

“Cawsom sypyn o lythyrau yma wythnos yn ol oddi wrth wahanol gyfeillion yn y Gogledd. Yr wyf yn cael lle i gasglu fod yno ambell un yma ac acw yr un deimlad a mi gyda golwg ar y rhyfel anaturiol rhwng wyrion yr hen Washington a’u gilydd ond yr wyf hefyd yn cael digon o seiliau i gredu ac i wybod fod cymaint o drin wedi bod arnaf yn mysg llawer o’r Cymry ag a fu o drin ar Jeff. Davies ei hun, ac y buasai ambell Gymro yn ngwres ei ddyngarwch yn hoffi cael cyfle i’m saethu, er gwasanaeth i achos Rhyddid ac Undeb.

 

“ Mae rhai yn meddwl gan fod y rhyfel yn troi allan yn llwyddianus, fy mod i fel rhai eraill yn newid fy marn am dano. Nid oes dim newid wedi bod yn fy marn i am dano, oddi eithr fod fy nheimlad yn myned yn fwy yn ei erbyn bob dydd y meddyliaf am dano, ei draul, ei ddifrod, ei (x98) alanas, a’i ddylanwad ar foesau a masnach a holl gysylltiadau y wlad. Mae wedi troi allan eisoes yn llawer meithach a drutach nag y meddyliais. Fy nghamgymeriad i oedd meddwl y buasai yn waith llawer byrach ac ysgafnach i gyraedd y llwyddiant. Yr oeddwn yn camgymeryd drwy feddwl rhy fach o ddrygau rhyfel.

 

“Mae y Llywydd yn cynyg tal yn awr ar yr unfed-awr-ar ddeg i’r rhai a foddlonant ryddhau eu caethion. Cyhoeddir o’r gadair uchaf ac o enau un o gyfreithwyr penaf yr oes, ei bod yn deg i’r llywodraeth gyffredinol gymeryd ei rhan o’r golled a ddygwyd ar y wlad drwy ‘Compromise’ melldithiol y tadau i gyfreithloni Caethiwed o dan ddeddfau cyfansoddiad yr Undeb. Pe gwnaethid cynyg o’r fath ddeng mlynedd ar hugain yn ol, ie, ddeng mlynedd yn ol, mae’n debyg y buasai melldith ‘Compromise’ y tadau wedi cael ei dileu cyn hyn. Ond y mae cynygiad y Llywydd yn gyffes o’r fath gyhoeddusaf o’i farn ef a’i gynghorwyr fod un peth pwysig heb gael ei wneud a ddylesid wneud i dori iau y tadau, a chael y wlad yn wlad rydd. Yr wyf yn parhau i feddwl y buasai cyfeillion Rhyddid yn y wlad fawr ole gynyddfawr hon yn medru gweithio Caethiwed allan o wynt heb gymhorth cleddyf, pe buasent yn milwrio yn yspryd Cristionogaeth. Pe gallwn feddwl fod Tywysog y tangnefedd, yr hwn sydd yn adwaen y ddwy ochr, ac yn gwybod hefyd am yr holl helynt, yn cyfiawnhau y rhyfel, ceisiwn ymostwng ac edifarhau am i mi erioed ysgrifenu gair yn ei erbyn.”

 

Cwyna S.R. yn dost yn y llythyr uchod fod y rhyfel wedi parhau yn hwy nag oeddid yn meddwl, tra nad oedd ond prin ddeunaw mis er toriad allan y gwrthryfel, mae y darluniadau yn dorcalonus, ond pan gofir i’r rhyfel barhau llawn tair blynedd a haner ar ol hyny, beth raid fod y galanastra a achosodd, a beth oedd teimladau teulu bach Brynyffynon yn nghanol y peryglon. Ymladdwyd wedi y dyddiad uchod yn Tennessee neu yn Kentucky ar derfyn Tennessee, wyth o frwydrau gwaedlyd, heblaw llu o fân ysgarmesoedd. Gelwir hwynt Brwydr Memphis, oddeutu yr adeg yr oedd S.R. yn ysgrifenu y llythyr uchod; Fort Denelson, Awst 5; Briton Lane, Medi 1; Lexington, Hydref (x99) 15; Cottage Grove, Mawrth 21, 1863; Sommerville, Mawrth 28; Chattannooga, Tach. 24; Nashville, Rhag. 15; a gormod gwaith i mi heddyw fyddai darlunio y galanastra oedd yn cydfyned a phob un ohonynt.

 

Wedi gweled y llythyr uchod, cyflwynodd Eryr Mon y llinellau tyner canlynol i S.R. a G.R., ond nid oedd y syniad am iddynt ddychwelyd yr amser hwnw yn un lle ond yn nghalonau y bobl:-

 

..................................“Ar lawer pryd, yn welw ei phryd,

....................................Fe welwyd mam yn wylo,

................................ Yn fawr ei serch am unig ferch

....................................Nis gallai ei hanghofio;

................................ A Chymru fad, heb ddig na brad,

....................................A welais yn galaru,

................................ Dros bant a bryn, ei chri oedd hyn,

....................................‘O! dewch yn ol i Gymru.’

 

..................................“Cewch fyw mewn hedd o swn y cledd,

....................................Yn mhlith eich hoff gyfeillion,

................................ O olwg trais a swn y Sais,

....................................Ac arfau eich gelynion,

................................ A byw fel bardd mewn bwthyn hardd

....................................Yn awyr iach Eryri;

................................ Hyd atoch chwi, O! doed ein cri,

.................................... ‘O! dewch yn ol i Gymru.’

 

.................................. “Yr awen sydd, y nos a’r dydd,

....................................A deigryn ar ei gruddiau,

................................ Yn fawr ei chri, ‘ pa le,’ medd hi,

.................................... ‘Mae awdwr y ‘CANIADAU?’ ’

................................ ‘Pa le, pa le, medd gwlad a thre’,

....................................Mae ROBERTS? dan gwynfanu,

................................ Os yw yn fyw, ein teiinlad yw,

.................................... ‘O! dewch yn ol i Gymru.’”

 

Ysgrifenodd S.R. drachefn Nadolig 1862, y llythyr torcalonus canlynol:-

 

“Mae y rhyfel wedi achosi i deulu bach Brynyffynon nid ychydig o golledion ac o drallodion. Peth cyfyng oedd bod (x100) mewn ofn parhaus am bron ddwy flynedd rhag i’r anrheithwyr oeddynt yn gwibio ar bob llaw ddyfod heibio i ni. Peth cyfyng oedd bod bron fel carcharorion rhyfel drwy yr holl amser, na feiddiem symud oddi cartref heb fyned i ddanedd rhyw beryglon. Peth cyfyng oedd anturio cychwyn dair gwaith i ymweled a chyfeillion yn y Gogledd ar eu dymuniad, a gorfod troi yn ol pan oeddym mewn awydd ac angen myned. Peth cyfyng wrth gychwyn y wedd i’r maes i fraenaru, neu hau, neu gynhauafu ŷd neu danwydd, fyddai clywed fod mintai o’r encilwyr yn anrheithio ac yn llosgi o fewn taith dwy awr i ni, a chael ein gorfodi felly i ollwng y ceffylau, a’u hymlid ymaith i’r coedydd o’r cyrhaedd. Peth cyfyng oedd gorfod cuddio y tri mochyn tew mewn cut yn nghwm y dyrus goed allan o gyraedd y Secesh, ond yn nghyraedd lladron creulawn y goedwig. Peth cyfyng oedd gorfod goddef i ddau leidr diog gymeryd y tewaf o’r moch, a hyny ganol dydd, i gael pork rhad i’w teuluoedd carpiog. Peth cyfyng oedd gorfod cymeryd y ddau arall yn ol i’w cut wrth y ty o gyraedd lladron y coed i gyrhaedd gwibiaid y Secesh. Peth cyfyng oedd gorfod claddu yn y ddaear dro ar ol tro bethau fel priddenaid o ymenyn, a chafnaid o gig, a chelyrnaid o flawd, ac ystenaid o lard, a chistiaid o bapyrau, a barilaid o lestri, a stwcaid o fân arfau, a cheisio cuddio o dan y dail a’r gwrysc yn y coed ein dillad gore, a dillad gwelyau ein mamau, a’u gadael allan mewn perygl o gael eu niweidio gan y tywydd, neu eu rhwygo gan foch, neu eu lladrata gan y crwydriaid fyddent yn llechu o amgylch i wylio er ceisio dyfod o hyd i bob cuddfeydd. Caled oedd meddwl colli y pethau nad ellid eu cuddio. Peth cyfyng oedd gweled fy mrawd a’r Bardd Cadwgan ar frys gwyllt yn taflu ychydig luniaeth a chorn a chelfi i’r wagen, ac yn gyru ymaith dros ugain milldir o ffordd arw i gadw allan o’r golwg am amryw ddyddiau pan oedd mintai gref o’r anrheithwyr o fewn pedair milldir yn cymeryd y dynion fedrent ddal yn gystal a’r eiddo; a pheth cyfyng i mi oedd aros yn y tŷ i ddisgwyl i’r gelynion ddyfod i’m cymeryd ymaith i’m nychu drwy newyn a lludded. Yr oeddwn mewn pryder rhwng gobaith ac ofn, - gobiethio weithiau ei bod yn dda i ni ein bod yn Brydeinwyr, ac ofni bryd arall y byddai yn waeth arnom o herwydd hyny. Yr oedd ein dychryn yn fawr unwaith wrth glywed fod yr yspeilwyr yn holi un o’u carcharorion (x101) a oedd gan y Cymry arian ac eiddo gwerth eu cyrchu. Peth cyfyng iawn oedd clywed adroddiad fod y gelyn wedi cynal cyngor yn eu gwersyllfa a’u bod wedi cytuno ar y penderfyniad canlynol, - ‘Gan fod ein gelynion drwy y Gogledd yn ymdynghedu y mynant ein plygu neu y mynant wneud ein holl dir yn anghyfanedd ac anrheithiedig, yr ydym ninau yn ymgyfamodi y mynwn wneud Scott Co. yn anrheithiedig ac anghyfanedd;’ a chyflawnasant eu penderfyniad bron i’r llythyren - chwalwyd ymaith dri o bob pedwar o holl deuluoedd y sir. Yr oeddym ni cyn y rhwygiad wedi gwneud cymwynasau i un teulu a drodd allan gyda’r encilwyr, a chawsom le i feddwl i’r teulu hwnw roddi eu llais yn erbyn ein hanrheithio ni. Peth cyfyng oedd bod drwy holl fisoedd y rhyfel allan o gyraedd llythyrgludiaeth. Croes fach i hen bererinion o Gymru, ond y leiaf o’r croesau, oedd byw am dros flwyddyn yn nghanol America fawr heb brofi blas te na choffi na siwgr. Peth cyfyng oedd lletya a rhanu bwyd, a hyny yn bur fynych, i ymdeithwyr oeddynt yn dyweud eu bod yn ffoi o gyrhaedd cyfreithiau milwraidd y De. Yr oedd yn rhy anhawdd i ni omedd lluniaeth a llety i rai yr oedd eu gwedd a’u tafod yn dyweud eu bod yn lluddedig ac yn newynog; ond yr oedd yn gryn hunanymwadiad i ni roddi i fynu ein gwelyau ambell dro i rai oeddynt wedi bod yn rhy ddiog neu mewn gormod o helbul i olchi eu crwyn na’u crysau er ys llawer o wythnosau. Peth cyfyng yw fod mintai o encilwyr yn awr, er ys deng niwrnod, yn cael perffaith lonyddwch i anrheithio a chwalu teuluoedd y sir hon, pan y mae catrodau o feirchfilwyr yr Undeb o fewn taith diwrnod iddynt. Nis gallaf ddirnad pa reswm sydd i’w roddi am adael i gylch o dros gan’ milldir ysgwar o ddwyreinbarth Tennessee, a fu mor ffyddlon i’r Undeb drwy lu o brofedigaethau, fod drwy yr yr holl derfysg mor ddiamddiffyn, yn enwedig gan fod goreuon bechgyn y cylch wedi ymrestru yn y fyddin.

 

“Ond y peth cyfyngaf o gwbl i ni oedd ein bod wedi rhoddi holl enillion ein hoes, a mwy na hyny, am dir yn y parth iachus hwn o’r Unol Dalaethau, a bod cynhenau a therfysgoedd gwladol a chamreolaeth yn gwneud y tir hwnw hyd yma yn ddiwerth, a gwaeth na diwerth i ni.

......................Nadolig, 1862. .................................................S.R.”

 

(x102) Dywed S.R. mewn llythyr o’i eiddo Ion. 1, 1864, ei fod wedi gorphen taith o yn agos pum’ mis drwy Dalaethau y Gogledd, a chawsom y llythyr canlynol o eiddo Cadwgan ato wedi ei ddyddio Cincinnati, Medi 28, 1863; felly mae, yn amlwg i’r ddau ddianc o Tennessee rywbryd yn mis Awst.

 

Dywed,-

“Da genyf eich bod yn cael croesaw yn Jackson Co., Newark, Granville, &c., drwy ddyddiau y gymanfa, ac nid wyf yn amau na fydd i chwi gael yr un croesaw yn y lleoedd eraill yr ymwelwch â hwynt. Clywais o enau Mr. James Griffiths fod Cymry o Ohio wedi bod i lawr yn Tennessee, ac wedi dychwelyd yn eu holau, eu bod yn dyweud iddynt weled eich brawd wedi bod a llwyth o ymenyn yn cyfarfod milwyr Burnside, pan ar eu taith tua Knoxville, a’i fod wedi ei werthu iddynt am 33 cent y pwys. Dyna’r oll glywais i o Tennessee. Yr oedd yn ddrwg iawn genyf glywed y newydd fod byddin Rosecrans wedi cael ei gwasgaru mor drwm. Mae rhyw golliadau ofnadwy yn swyddogion y Gogledd. Paham na alwesid byddin y gogledd yn nghyd i gynorthwyo Rosecrans, fel yr oedd y gelyn yn galw ei fyddinoedd yn nghyd i’w gwrthwynebu? Onid oedd yr un mor hawdd i’r Gogledd gael eu byddinoedd yn nghyd ag oedd i’r gelyn eu cael? Gwelais yn y Cincinnati Enquirer am Medi 27, fod Burnside yn hwyrfrydig i anfon cynorthwy i Rosecrans. Anfonodd y llywodraeth ato ddwy waith cyn iddo gychwyn, ond cymerodd ofal rhag bod yno mewn pryd.

 

Dywed yr un papyr fod Rosecrans yn cyhuddo McCock o anufudd-dod, ac mai dyna yr achos o golli y frwydr. Y gwir am dani, os rhaid rhyfela, rhaid cael un pen i lywodraethu, a’r lleill yn aelodau ufudd, cyn y gellir disgwyl bod yn llwyddianus.

 

Aeth llawer iawn o filwyr drwy y dref hon yr wythnos ddiweddaf, i lawr tua Tennessee meddent yr oeddynt yn myned, ar garlam gwyllt, fel

 

“ Meirch a chwn a moch anwn,”

...................................................Twm o’r Nant.

 

a diau eu bod yno cyn hyn. Yr wyf fi yn gweithio yn yr un gwaith, ac nid wyf yn meddwl y byddai yn ddoeth i mi fyned i chwilio am waith gwell ar hyn o bryd, o herwydd (x103) fod teithio mor ddrud. Gwelais Mr. Edwards wedi iddo ddychwelyd o’r gymanfa. Yr oedd yn dyweud fod eich gweinidogaeth chwi yn gymeradwy iawn yno, ac yr oedd hyny mor ddymunol genyf a phe yn cael hwyl fy hunan i wneud englyn. Ond nid yw o un dyben son am benill nac englyn mewn lle fel hyn. Mae rhai yma yn dyweud fod y llywodraeth wedi ail-sefydlu y llythyrdy yn East Tennessee; ni welais air am hyny yn y papyrau, a diau y cewch chwi hyny allan gynted a neb. Byddai yn dda genyf gael cyfleustra i anfon llythyr atynt, ond ofnwyf na ddaw yr un hyd nes y byddo heddwch wedi ei sefydlu. Peidiwch bod yn hir cyn ysgrifenu ataf.

 

.....................................Ydwyf, yr eiddoch hyd byth anorphen.

Cincinnati, Medi 28, 1863.”

 

Dyfynwn eto o lythyr S.R. Medi 1, 1863. Yr oedd wedi bod am oddeutu tair wythnos yn Ohio. Dywed,-

 

“Er anodded genyf blygu i grybwyll am hiraeth, gwesgir fi i gydnabod fod hiraeth am Gymru a’i phobl a’u breintiau, wedi bod yn rhwygo drwy fy mynwes, yn enwedig y ddwy flynedd ddiweddaf, y rhai a dreuliais yn nghanol y dosbarth gwaethaf o ddychrynfeydd rhyfel. Mae yr adgofion am y galanas a’r difrod fu drwy yr holl gylch o’m deutu yn llethu fy ysprydoedd. Yr oedd y rhan amlaf o’m cymydogion yn dỳn iawn dros yr Undeb, ac ymladdasant ar y cyntaf er ceisio amddiffyn eu haneddau a’u heiddo; ond ni chawsant gyfnerthion yn ol eu disgwyliadau, a thrymhaodd llaw y gelyn yn eu herbyn. Aberthwyd canoedd o fywydau, ac andwywyd canoedd o deuluoedd, - bron yr holl deuluoedd drwy gylch mawr llydan East Tennessee. Ciliodd y gwyr a’r meibion o lawer o deuluoedd, gan adael y gwragedd, y merched, a’r plant ar ol yn nghyraedd pob dychryn ac angen. Treuliodd teuluoedd eraill eu misoedd meithion, dan bob tywydd, yn ogofeydd y creigiau. Rhanwyd teuluoedd eraill. Cymerodd rhai o’u haelodau un ochr, a chymerodd y lleill yr ochr arall, ac aethant yn mhoethder cynddaredd eu dadleuon yn elynion marwol i’w gilydd. Trodd rhai allan i ladrata oddiar eu cymydogion. Diangodd teuluoedd eraill yn mhell o’u cartrefleoedd i chwilio am loches a lluniaeth yn rhywle y gallent eu cael. Pe buasai y corph yn gallu dilyn y meddwl, buaswn inau wedi (x104) dianc er ys llawer dydd. Cawsid fy ngweled yn ymdeithio yn nghymdeithas fy hen ferlen fach gyda godre yr hen Newydd Fynyddog, Cader Idris, yr Arenig, y Wyddfa, y Foel Famau, Banau Brycheiniog, a mynyddoedd cribog eraill Gwalia Hen; neu os byddai brys arnaf gallwn gael benthyg y cerbyd tân drwy bron bob cwr o Gymru. Mae y ddwy flynedd ddiweddaf wedi bod i mi yn dymor o brofedigaethau chwerwach ac o golledion trymach nag y byddai yn hawdd darlunio. Bu fy mhregethau am fisoedd lawer mewn cuddfa dan geubren, yn llwyn tew y goedwig, - weithiau dan dywyniad haul, weithiau yn y gwlaw. Bu yr anrheithwyr lawer gwaith yn ein hymyl, ond trodd Rhagluniaeth eu camrau heibio bob tro ar hyd ffyrdd eraill. Darfu i lif yr afon eu hatal atom deirgwaith o leiaf. Bu bron i mi syrthio i ddwylaw y rebels y bore y cychwynais oddi cartref. Llwyddais i ddianc i’r goedwig, a bum yno yn ymguddio ddiwrnod a noswaith nes iddynt fyned heibio.

 

“Yr oedd cyfeillion ffyddlon i’r llywodraeth yn gohebu â ni ar ddechreuad y gwrthryfel, ac aeth amryw o’n llythyrau i feddiant y gwrthryfelwyr. Yr oedd rhai o’r dynion mwyaf brwdfrydig yn erbyn y gwrthryfel yn mynych letya yn ein tŷ ni, ac yr oeddwn mewn dychryn rhag i’r gwrthryfelwyr ddyfod yno a’u dal. Bum yn cysgu lawer noswaith gyda chyfaill oedd yn cadw ei rifle wrth ochr ei wely, a’i revolver a’i gleddyf o dan ein gobenydd. Nid oedd dim cysgu i mi a revolver o dan fy mhen. Lladdwyd dau o’n cyfeillion yn agos i’n tŷ ni, cymerwyd y trydydd yn garcharor i Monticello, lle y cafodd ei rwymo yn nod i ddeg ar hugain i saethu ato.”

 

Drwy fod trefniadau llythyr-gludiad rhwng De a Gogledd wedi drysu, fel y sylwa Cadwgan, nid oedd S.R. wedi cael fawr o hanes G.R. a’i deulu yn ystod misoedd ei ymdaith yn y Gogledd. Yr oedd mewn pryder mawr yn ei gylch. Ofnai fod G.R. wedi ei ladd, neu wedi cael ei gymeryd i’r fyddin, a bod ei chwaer yn nghyfraith yn weddw, a’i “geneth fach yn amddifad;” ond un noswaith yn Cambria, Wisconsin, pan yn myned i ddechreu areithi, estynwyd iddo y llythyr canlynol; gan gymaint ei ofn fod ynddo newydd drwg, cadwodd ef dan bore dranoeth heb ei agor. Caiff G.R. lefaru drosto ei hun: -

 

(x105) “Yr ydym yn fyw ac yn iach. Nid oes yma fawr o newydd wedi digwydd, ond yn unig fod yr Union Army, o’r diwedd, wedi dyfod heibio i ni. Gwersyllodd yn ein parth ni o Scott Co. yn niwedd Awst: nid llond y ffordd, ond llond y wlad. Dyma y lle cyntaf iddynt wersyllu i aros eu gilydd wedi cychwyn o Kentucky, a bwytasant bron y cyfan o’u blaen - y gwair, a’r rhyg, a’r gwenith, a’r green corn. Cymerasant wair Brynyffynon bob tamaid. Yr oeddym wedi cael llafur mawr i’w gyweirio. Yr oedd haner y weirglodd fach allan yn ei fodylau pan ddaethant yma. Ni chymerasant ddim arall oddi yma oddi eithr rhyw fân betheuach a ladratawyd gan rai o’r bechgyn. Cefais 17 dolar yn dâl am ryw un ran o dair o’r gwair, ond cafodd y fintai oedd yn cyrchu y gweddill o’r gwair ‘order to march,’ cyn i mi allu cael dim tâl; ond ysgrifenais at y Colonel statement o’r facts, gan ofyn tri ugain dolar. Ni chefais ateb eto, ond ni ildiaf nes eu cael. Cymerodd Ann werth pymtheg dolar o ymenyn i’r Head Quarters, a thalodd General Burnside iddi am dano a’i law ei hun. Gwerthodd Ann hefyd ryw ychydig o fân bethau i’r dynion fu yma yn ceisio y gwair. Ni thalodd y fyddin ddim am haner y pethau a gawsant yn Scott Co. Naill ai nid oeddynt yn foddlon talu, neu nid oedd ganddynt drefn at dalu. Yr oedd yn ofid genyf weled fy nghymydogion gweiniaid yn rhedeg oddi wrth y naill swyddog at y llall i geisio tâl am eu gwenith a roddasant o’u hangen i borthi ceffylau y fyddin.

 

“Erbyn bore yr 20fed o Fedi, yr oedd yma rew na welwyd ei gyffelyb mor gynar, er pan wyf fi yma beth bynag. Lladdodd bob peth allai rhew ladd, ac andwyodd ugeiniau o fwseli o gorn; ac i goroni y cyfan, daeth yma eleni fyddin o wiwerod nas gwelwyd ei bath er amser Amos. A gellir dyweud, yr hyn a weddillodd y rebels a fwytaodd yr Union Army, a’r hyn a weddillodd yr Union Army a ddifaodd y rhew, a’r hyn a weddillodd y rhew a fwytaodd y squirrels. Bernir y bydd yma ugeiniau o anifeiliaid wedi marw eisiau bwyd cyn gwyneb blwyddyn. Cawsom ddigon o gig squirrels drwy y ‘fall,’ ond nid allwn gael ychwaneg am fod yr ‘ammunition’ wedi darfod. Cofiwch am brynu i ni ychydig o ‘powder a shots.’ Nis gwyddom ddim am helynt y rhyfel, nac am ddim arall. Clywsom fod y Government Army wedi cael y gwaethaf mewn brwydr ofnadwy yn agos (x106) i Chattanooga, ond nis gallwn fod yn sicr o ddim ydym yn glywed. G.R.” .

 

“O.Y.-Tach. 26. Mae y llinellau blaenorol yn barod er ys bron fis, ac er holi llawer, yr ydym hyd yma wedi methu cael cyfle i’w hanfon. Mae ein cymydog Blevin ar gychwyn i Kentucky i brynu bwyd i’w deulu; anfonwn y llythyr gydag ef. Mae yn debyg o fod yn auaf o brinder heb ei gyffelyb drwy yr holl gylchoedd yma. G.R.”

 

Ond ni wnaeth y Colonel fawr sylw o apeliadau G.R. Yna cymerodd S.R. yr achos i fynu, gosododd y ffeithiau ger bron swyddogion y llywodraeth yn ei ffordd eglur ei hun, a thaer ddymunodd gael cydnabyddiaeth am y pethau oedd y fyddin wedi gymeryd oddiar deulu bach Brynyffynon dan enw prynu. Bu y claim yn cael ei anfon o swyddfa i swyddfa am flynyddoedd dan enw “edrych i fewn i’w gywirdeb,” a thybiai weithiau ei fod yn myned i gael tâl, ond codai rhyw anhawsder drachefn, a bu S.R. farw heb dderbyn dimau, ac ni dderbyniodd neb o’r teulu ddimau hyd y dydd hwn.

 

Dychwelodd S.R. o’r daith hon Ion. 20, 1864, wedi bod yn absenol o Brynyffynon ychydig gyda phum’ mis. Cafodd y teulu yn iach, ond mewn penbleth dros eu penau – “y wraig a’r ferch fach” yn wylo yn hidl ar ol “ Joe,” yr hen geffyl oedd wedi bod iddynt yn wasanaethgar iawn drwy ystod blynyddoedd eu hymdaith yn Tennessee; ac i wneud y peth yn waeth, yr oedd ei gydymaith ffyddlon a’i gyd-weithiwr “Dic,” yn glaf iawn, a bu farw bore dranoeth. Digwyddodd yn union fel yr oedd G.R. wedi rhagddyweud yn y llythyr uchod.

 

Aeth ei gymydog Cadwgan o Cincinnati adref gydag ef, ac y mae yr hanes a rydd efe am y daith hon yn ddyddorol: -

 

“Er cryfed cerddwr oedd Cadwgan Fardd, yr oedd bron methu cael ei draed yn rhydd o’r pridd tew a’r clai tomlyd. (x107)

Pan gai ddaear galed dan ei draed, cerddai mor unionsyth a Richard Tibbot neu Iolo Morganwg, ond yr oedd yn grwgnach yn arswydus pan yn glynu yn y ‘mwd.’ Yr oeddym yn dylin ffordd clud-feni y llywodraeth ar draws Kentucky tua Knoxville, a dwys archollid ein hysbryd wrth edrych ar lafur y meirch a’r mulod yn llusgo y gwageni trwmlwythog drwy y llaid, ac yr oedd yn drymach fyth i ni weled ugeiniau o honynt yn gorwedd yn farw heb eu claddu ar ochrau y ffyrdd. Nid oedd hanes am ddim i’w glywed wrth fyned ond son am y galanastra oedd y milwyr wedi gyflawni. Yr oeddynt wedi bwyta y cyfan yn mron, ac ofnem fod ein teuluoedd mewn newyn. Yr oedd cwynion rhai teuluoedd yn bur drymion yn erbyn rhai o filwyr yr Undeb. Gobeithio y gwneir iawn yn rhyw ddull am y creulonderau a’r camwri a gyflawnwyd. Gorfu i’r holl deuluoedd oedd yn byw yn nghylch ymdaith y byddinoedd, naill ai troi allan i gyrchu eu lluniaeth o bell, drwy draul a llafur dirfawr, neu grwydro i ofyn am ymborth gan ddyeithriaid. Gwelodd teuluoedd bychain Cadwgan ac S.R. braidd lai o ormes na rhai o’u cymydogion, oblegid yr oeddynt ychydig yn mhellach o gyrhaedd llwybr yr anrheithwyr; ond pa fodd y bydd arnom cyn cael y cynhauaf, nis gwyddom, oblegid y mae rhyw drueiniaid anghenog yn galw heibio i erfyn am luniaeth a llety bron yn feunyddiol, ac yr ydym yn clywed fod mân finteioedd o filwyr yn tori iddynt eu hunain fel y gwelont yn dda yn nhai rhai o’n cymydogion. Yr oedd y Cadfridog Burnside a’i brif swyddogion yn.ymddwyn yn foneddigaidd ac anrhydeddus yn mhob man, ond yr oedd ol diffyg dysgyblaeth ar rai’o’u canlynwyr, ac yr oedd rhai o’r Quarter Masters yn fwngleraidd neu yn anonest.”

 

Treuliodd S.R. y chwe’ mis nesaf yn Brynyffynon, ond nid oes gair o’i hanes ef na G.R. ar gael cyn Awst 21, 1864, pryd yr oedd yn pregethu yn Cincinnati ar ei ffordd i ymweled a’r Talaethau Gogleddol. Ond gan fod ei Ddyddiadur mor llawn o fanylion y chwe’ mis hyn, nis gallant lai na bod yn ddyddorol, ond ni chaniatâ lle i ni i’w gosod yn llawn. Rhoddwn y cofnodion yma fel yr ysgrifenwyd hwynt ganddo ef, - yn fyr, cymysg Cymraeg a Saesnaeg, a chymaint fedrom wneud allan o’r llaw fer, -

 

 

(x108)

THERMOMETER FROM 28 to 34 night – 55 to 68 day

IONAWR

 

20 S.R. and Cadwgan came home from their visit to the North.

 

21. Dick the partner of "Joe" died. They were pleasant and lovely in their lives, and in their death they were not divided.

23. Three men dined with us. S. R. and Margaret to the mill.

24. Two boys lodged with us. Sent letters by them to Bebb, J. R. Jones, J. Griffiths, D. Howells, J. Davies.

25. S. R. and Margaret to Isaac Thomas for Deer Ham.
Llo gan fuwch Carson.

 

THERMOMETER FROM 35 to 68

26. S. R. to Stephens, to Rosser's Mill. Carson came to cut fuel.

27. Cael ychain Stephens i gario tanwydd a mwdwi. Geo. Pemberton and Smidie lodged. Carson returned home.

28. Young Cotton called. S.R. took Stephens' oxen home, Carson called for hay seed.

29. Dyrnu gwenith. Letters to J.R., Cronicl, Fowler. Had to keep seven men and six horses to supper and breakfast.

30. One of the men pocketed our compasses, but had to give it back. Gorphen llythyrau, nithio.

31. Davies, Radnor; Thomas, Mineral Ridge; D. S. Jones, Youngstown.

 

THERMOMETER FROM 24 to 62

CHWEFROR.

1. "Cymysgu yr Achau."

2. "Cymysgu yr Achau."

3. Oen bach. Un iaith eto.

4. Oen eto.
Mrs. a Miss Stephens dined with us. S. R. to mill. Dwy wagen.

5. Cadwgan twice to mill. Soldiers passed i'r felin.

6. Oen eto. Cenedlgarwch. Nid yw rhaniadau y ddaear na gwahanol hinsoddau yn rhwystr i'r byd ddyfod yn un genedl.

7. Cael y byd yn un genedl. Ateb gwrthddadleuon. Notes to Ebensburgh, &c.

8. To Anderson Llewelyn for meal, to Andrew Smith for molasses.


9. Arrange for journey to Monticello, &c. Dyrnu.

 

(x109) THERMOMETER FROM 10 to 45

10. To W.W. Williams, J.R.Jones, R. G. & J G. Started for Monticello. Slept at A. Smith.

11. Smith shoed old mare. Via Rock Creek to Preston Rice. Met 2 men from Mr. Clinton.

12. To Monticello P.0. Mailed letters. Bought salt, nails. Returned to James Ingram to sleep. Bought 2 bacon hams.

13. Back to Llewelyn to dinner, to Mrs. Hatfield to sleep yn nghanol y plant.

14. Colli'r ddwy ham ar y rhiw. Troi yn ol o ymyl hen dŷ Hatfield. Cael yr hams yn Sugar Camp Mrs. Millican. Sleep at Anderson Smith.


15 Cadwgan yn dyfod i chwilio am danaf. Gartref erbyn te.

16. Hamly and son lodged, ac aethant ymaith heb dalu.

17. Tri milwr meddw yn erchi ciniaw. Blackguards. 50 Michigan Cavalry camped with officers and sick in the house.

THERMOMETER FROM 4 to 50

18. Talodd yr officers yn shabby 50 cent (2/1) am swper a breakfast, a dewis eu gwely. Llosgasant 120 rails, a dinystriasant y fodder.

19. Taith ofer am corn hadyd at A. a Jac Blevins. Hambry and son dined.

20. Cael haidd yn lle corn. Gorphen Cymysgu yr Achau. Coed tân. Trin y gwartheg.

21. Ail-ysgrifenu Cymysgu yr Achau. Clywed am yspeilio Mrs. Buttram.

 

22 Ail-wneud y fence losgwyd gan y Michigan Cavalry.

23. To mill twice. Fuel. Copying Cymysgu y Cenhedloedd. The Davies' boys called.

24. S. R. and Margaret to mill. Symud fence yr ardd. Letter to Capt. Standish Ad-ysgrifenu Cymysgu yr Achau.

 

THERMOMETER FROM 30 to 67

25 "Bod o flaen yr oes." Cario tanwydd, a fence. Adysgrifenu "Y Cymysgu"

 

26. B. Keyton, Hamby, D. C. to Mrs. Staples. Found the map. Dr. Macauley’s Dict. had been lost.

27. Back by Hamby's & home. Road much blocked up. Had a little barley in the bed of an old broken down wagon. Came home late

28. Lytton dined and spent the day with us, Read a. little Bible and his two men dined with us.
Wet cold day. Wrote to Bebb. Brownlow Quarter Master.



(x110) Mae ei Ddyddiaduron o'r flwyddyn 1837 i lawr, yr un mor llawn, gyda'r eithriad o'r amser y bu yn glaf, a mawr mor hapus y mae yn gallu cyfuno y bychan a'r mawr, - yn casglu mwyar duon gyda "Marged Fach," saith oed, yr awr nesaf yn ysgrifenu at lywodraethwr y dalaeth, yn cynllunio rheilffordd newydd, yn tynu allan ddeiseb i'r Senedd, yn egluro pynciau dyrus trafnidedd gwladol a chymdeithasol, yn hanesyddu Ewrop, yn hanesyddu y Beibl, yn dyddanu y claf a'r trallodedig, yn ysgrifenu traethawd ar Amaethyddiaeth neu ar leitheg, ac nis gallech pe ar eich llw ddyweud gyda pha un yr oedd yn fwyaf cartrefol. Gwnai y cwbl yn hollol ddidrafferth.

Yr oedd yn Gomer, Awst 26. Ysgrifenodd oddiyno,-

"Yr wyf newydd gyrhaedd i Gomer, mewn bwriad i ymweled unwaith eto a'm cyfeillion yn y Gogledd. Bûm yn bur agos i fintai o anrheithwyr wrth groesi Ky. Mae yn alarus meddwl fod yr holl wlad yn llawn o anrheithwyr. Cawsom amryw brofedigaethau oddi wrthynt yn y chwe' mis diweddaf. Yr oedd mintai o gant o Rebel Raiders gwylltion John Morgan* yn cylchynu ein tŷ erbyn i ni godi un boreu yn niwedd Mehefin.

 

*Ymddangosodd y cyfeiriad at John Morgan a'i fintai yn y Cronicl Hydref, 1864. Yn y Drych am Mehefin 15, 1865, ceir pwt o lythyr oddi wrth Cadwgan yn gwadu yr oll am John Morgan a'i fintai, na fuont erioed yn Scott Co., fod y lle yn rhy dlawd iddynt. Pan welodd S.R. lythyr Cadwgan a sylwadau y Gol. arno, llanwyd ef a syndod. Dywed ei fod wrth benelin Cadwgan pan oedd yn ysgrifenu y llythyr hwnw i'r Drych, iddo fod yn ymgomio ag ef lawer gwaith am yr helynt, ond na ddarfu i Cadwgan erioed amau stori Morgan yn ei wyneb, ac ail adrodda yr hanes gyda mwy o fanylrwydd. Gwyddai fod Cadwgan yn wr gwyllt ei dymer, ond na wyddai y medrai frathu un yn y cefn, a hyny pan yn gymydogion y drws nesaf, ond priodola y cwbl i'w dymer wyllt wedi cynhyrfu mae'n debyg o herwydd y rhyfel yn parhau cyhyd. Pan welsom Cadwgan yn Johnstown yn 1885, holai yn barchus am yr Riaid, yn neillduol S. R., ac mewn ymadroddion nad oes eu tynerach yn Gymraeg, bwrlymai allan ei gofion am danynt, ac oddi wrth ryw eiriau a ddywedodd credwn i'r camddealldwriaeth gael ei achosi drwy fod S.R. yn credu mai Morgan a'i fintai fu yno, tra y credai efe mai yspeilwyr eraill fu yno. Ni ddarfu iddo ef amau na fu yno rywrai, ond ni atebodd byth air i her S. R.

 

Bu eu ceffylau yn pori ac yn ymdreiglo yn ein cae gwair am bedair o oriau, a ninau yn garcharorion yn ein tŷ ein hunain, yn gorfod rhanu corn a bara ymenyn iddynt. Cymerasant ymaith ein dau ddryll a (x111) llawer o bethau eraill oeddynt o werth i ni, on'd buont yn dynerach na'n disgwyliad. Aeth at fy nghalon weled "Margaret fach" a'i mam yn wylo wrth eu gweled yn rhuthro i'r gaseg, ac yn ei chyfrwyo, ac yn ei charlamu ymaith i'w gwersyllfa, ond nid oedd fy ngwroldeb wedi darfod yn hollol, rhedais i'w canol, a dywedais nad oeddwn i erioed wedi cael un ddinasfraint yn America, nac wedi gwneud dim i gynhyrfu y rhyfel, ac y byddai yn well genyf farw na chymeryd unrhyw ran ynddo, fod eu rhyfel erchyll wedi achosi i ni bryder dwys a llawer o golled, a'm bod yn gobeithio na chymerent ymaith yr unig gaseg oedd genym, ein bod wedi colli dau geffyl da yn barod a rhai o'n buchod, drwy i fyddinoedd anrheithgar gymeryd eu porthiant. Wrth weled fel yr oedd y cadben yn gwrando dyblais fy nghais am y gaseg, ac o'r diwedd neidiodd oddiar ei chefn, a gollyngodd hi ymaith gan ddyweud, "You shall have your mare." Cynygiasant geffyl da i'm brawd a'm chwaer yn nghyfraith os arlwyent iddynt frecwest da, ond yr oeddym yn credu mai ceffyl lladrad oedd ganddynt, a dywedasom nad oeddym am gael ceffyl gan neb a nod rhyfel ar ei ystlys. Yr hyn oeddwn yn ofni fwyaf oedd iddynt fy nghymeryd gyda hwynt am 40 milldir i fod yn arweinydd iddynt, ac i sefyll yn mlaenaf yn y perygl os saethid atynt o'r goedwig, ond rhoddais ar ddeall iddynt nad oeddwn yn gyfarwydd a chroes-lwybrau y coedydd. Yr oedd anrhegion ymadawol fy hen gyfeillion, sef y ddesc a'r oriadur, ar y bwrdd pan ddaethant i'r tŷ, ond cefais gyfle i'w cuddio tra yr oeddynt yn ymwthio ar draws eu gilydd am y coffi. Ymddygodd mân finteioedd o fyddin y llywodraeth lawn mor anheg atom ar lawer amgylchiad. Cychwynais lythyr o'n hanes i chwi ddeufis yn ol, ond yr wyf yn deall i'r llythyr hwnw fel llawer eraill fyned ar goll."

Aeth o Gomer yn ei flaen i Gymanfa y Dalaeth, lle y mae yn debyg y cafodd fwy o waith nag oedd yn gweddu i'w gyfansoddiad.
Aeth rhagddo i gyfarfodydd eraill, a daliodd i bregethu yn ddibaid am yn agos i dair wythnos. Yr oedd yn Newburgh, Medi 18fed, yn llesg iawn, ac aeth yn waeth waeth bob dydd, a thrwy lawer o drafferth a helbul y llwyddodd i ddychwelyd i Gomer; a dyna lle y bu yn gorwedd o Medi 23 hyd Tach. 27, heb symud o'i wely, ac (x112) heb wybod fawr am dano’i hun, na chan neb ond ychydig obaith am ei adferiad. Ond nis gallasai fod yn glaf mewn lle mwy dymunol yn America, nac yn Nghymru ychwaith. Yr oedd yn nghanol ei gyfeillion. Nid oedd yno yr amser hwnw odid ddyn na dynes yn yr holl sefydliad nad oedd efe neu ei dad wedi eu bedyddio a’u derbyn yn aelodau yn Llanbrynmair, ac nid oedd dim yn ormod ganddynt i wneud iddo a throsto. Heblaw hyny, cafodd loches yn “Tawelan,” carfref yr hen sant W. Jones, gwr digon adnabyddus i bawb a ymwelsant ag America Gymreig yn ei ddyddiau ef, mab yr hwn yw un o feddygon mwyaf medrus ei oes; fel hyn yr oedd Rhagluniaeth, er yn ei gystuddio, eto yn trefnu iddo ffordd o wellhad. Rhoddwn yma ddyfyniadau o’i lythyr cyntaf wedi i’r cystudd ei adael:-

 “Dyma y tro cyntaf i mi geisio ysgrifenu. Yr wyf eto yn hynod wan o ran corph a meddwl, ac felly nis gellwch ddysgwyl llythyr hir na chryno. Gadewais G. R., Ann, a Marged fach yn iach, ond braidd yn ddigalon, yn benaf am fod y wlad o’u deutu mor dlawd.
Mae ganddynt hwy ddigon o fwyd yn y tŷ a digon o borthiant allan os gallant eu cadw. Mae y teuluoedd o’n deutu yn dlodion, yn segur, ac yn beggio llawer o fwyd er ein gwaethaf, ac y mae lladron mewn dilladach milwraidd, rhai dan faner y Gogledd a rhai dan faner y De, yn dyfod heibio yn fynych iawn, ac weithiau yn bur ddigywilydd, ac nid oes un o’r ddwy lywodraeth yn ceisio atal na chosbi.”

Wedi darlunio ei drallodion a’i gystudd, a’r gofal a’r caredigrwydd oedd teulu Tawelan wedi ddangos iddo, dywed,-

“Yr oeddwn yn teimlo mor ddedwydd heddyw, fel yr oeddwn yn dywedyd y gallwn gychwyn i’m taith yn mhen deuddydd neu dri, ond dywedai y Dr. y cawn feddwl am hyny yn mhen pythefnos. Fy meddwl hyd yn awr oedd troi tuag adref, am y gwn fod teulu bach Brynyffynon yn ddigalon iawn. Yr oeddwn wedi meddwl unwaith na chawswn byth mwy weled gwlad hoff fy ngenedigaeth, ond y mae genyf yn awr obaith gwan y caf wella, a dichon (x113) ddyfod eto i roddi tro drwy yr hen ardaloedd anwyl. Byddai yn dda iawn genyf gael gweled Lerpwl a’r cyfeillion caredig yno, a’r cyfeillion yn Croesoswallt, a’r Trallwm, a’r Drefnewydd, a byddai y golygfeydd drwy ffenestri y tren, heibio i gapel y Creigfryn, a Glanhanog, ac ysgoldy Talerddig, a rhwng yr Hen Gapel a’r Diosg, yn effeithiol iawn i mi.

“Byddai raid troi yn ol ar ol cael un haf yna, oblegid yr wyf yn lled hyderus, er cymaint y siomedigaethau a gawsom, y ceir gwawr a gwerth eto ar diroedd, a choedydd, a marmor, a mwnau Dwyreinbarth Tennessee. Yr wyf yn gobeithio y glyn Tenn. trwy bob peth wrth y North, yna cawn reilffordd yn ddioed oddi yma i Knoxville yn East Tennessee. Efallai fy mod yn ysgrifenu y llinellau hyn dan obeithion rhy uchel am ymweled â gwlad anwyl fy ngenedigaeth. Yr oedd fy hiraeth am hyny yn fawr ar y pryd, dichon o dan radd o effeithiau fy nghlefyd.
Fy serch atoch fel teulu, ac at fy chwaer a’i phlant, a’m holl hen gyfeillion a glywch yn gofyn am danaf. Mae fy llaw, a’m llygad, a’m cefn, a’m meddwl yn wan eto i ysgrifenu. S. R.”

Ond yn mlaen yr aeth tua’r Dwyrain, Pennsylvania, N. York, Vermont, a Washington, a dychwelodd adref i Brynyffynon ddiwedd Ebrill. Ysgrifenodd Cadwgan Fardd y llythyr canlynol ato Rhag. 16, 1864. Gosodwn ef yma fel y gwelo y darllenydd ar dermau mor gyfeillgar yr oeddynt yn byw:-

“ANWYL SYR,-
Yr wyf yn anfon y llythyr hwn atoch drwy ddwylaw fy mab sydd yn Johnstown, fel yr addawais wrthych pan ymadawsom a’n gilydd wrth dŷ Ingram. Buaswn wedi anfon atoch yn gynt pe cawswn gyfle. Yr oeddym yma oll yn teimlo yn ddwys pan glywsom eich bod wedi eich taro yn sal ar eich taith. Ofnem eich bod mewn perygl, ond pan gawsom ar ddeall eich bod ar wellhad, yr oeddym oll yn gorlawenhau, ac yn cyd-ddymuno cael eich gweled unwaith eto yn eistedd wrth ffenestr Brynyffynon, a gobeithio mai felly y bydd hi yn fuan.

 

(x114) “Ond och!!! Mr. Roberts anwyl! mae ‘Tom’ wedi trigo, ydyw, y mae wedi trigo; un o’r ceffylau addfwynaf tan y nef. Yr oedd genyf fwy o olwg arno na chred yr un dyn byw. Ni theimlais haner cymaint ar ol yr un creadur erioed o’r blaen, ac y mae yn golled ofnadwy i mi, fel nas gwn yn y byd mawr beth a wnaf ar ei ol. Nid oes yma neb yn gwybod beth oedd yr achos iddo drigo. Bum i ag ef yn y felin dydd Iau, 8fed o’r mis hwn, ac yr oedd mor fywiog ag y gwelsoch ef erioed. Nos Wener, y 9fed, aethum i’w weled fel arfer cyn myned i’r gwely, ond gomeddodd fwyta y corn a roddais iddo. Gelwais Beca i’w weled, a phan oeddym yn myned i’r ystabl, yr oedd yn gweryru fel pe yn ceisio dymuno arnom i leddfu ei boen; ond druan o Tom, efe a fu farw mewn ychydig fynudau. Yr wyf byth er hyny fel dyn wedi haner hurtio, heb wybod beth i’w wneud. Mi godais ystabl dda i Tom fel y gwyddoch, ac yr oedd Tom yn ei llanw yn iawn, ond yn awr nid yw hi ond ystabl wag. Ond yr ydym ni oll yn iach, mae hyny yn fraint fawr. Mae pob peth yma yn myned yn mlaen fel y gadawsoch ni. Mae y rhan fwyaf wedi cael cropiau da o gorn, ond daeth “Mr. Frost” yn gynar i dalu ymweliad â ni. Mae’r hin wedi bod yn oer ofnadwy yma am rai dyddiau Mae ‘Margaret fach’ yn cadw yn ddigon pell oddi wrth y ceffylau, fel nad oes un perygl. Dichon y cewch lythyr oddi wrth G. R. cyn y cewch hwn, ond os na,
mae teulu Brynyffynon oll yn iach, felly hefyd teulu Ty’nygelli.

Byddwch wych.

Ydwyf, yr eiddoch hyd byth anorphen,

DAFYDD CADWGAN.

Huntsville, Scott Co., East Tennessee,
.... Rhag. 16, 1864.” .

Cychwynodd drachefn o Brynyffynon ddechreu Awst, 1865. Yr oedd yn pregethu yn Cincinnati y 13eg, ac aeth yn ei flaen drwy Ohio, Pa., a N. York; a pharhaodd i deithio felly hyd ganol Rhagfyr, pryd y dychwelodd i Tennessee. Yn ystod y daith hon, Rhagfyr 22, y gomeddodd y Parch. M. Roberts iddo gael pregethu yn ei gapel ef yn Remsen, o herwydd ei fod yn gwahaniaethu oddi wrtho (x115) yn ei syniadau am y rhyfel, yr hyn a arweiniodd i gryn dipyn o oerfelgarwch rhwng pobl dda o bob tu i’r môr. Nid ymddengys i S. R. dramgwyddo o gwbl, o’r hyn lleiaf, ni cheir awgrym ar y pen yn ei Ddyddiadur. Yr oll a ddywedir yw, “Llythyr at M. Roberts.” Ac nid yw yn debyg y gwnaethid sylw o’r peth y tu allan i Swydd Oneida, pe na buasai i ymyrwyr osod eu bysedd yn y brywes. Pan glywodd ei erlidwyr fod drws capel Remsen wedi ei gau yn ei erbyn, bu lawen ganddynt; a chyhoeddodd J. W. Jones, Gol. y Drych, yr hwn oedd hefyd yn ohebydd rheolaidd i’r Herald Cymraeg, fod. y Parch. M. Roberts wedi gomedd i S. R. gael pregethu yn ei gapel, ac ystyriai fod hyny yn ddigon o brawf fod S. R. yn pleidio caethiwed. Yr oedd y Parch. M. Roberts ei hun wedi myned i America yn 1831, oblegid fod y Trefnyddion Calfinaidd yn cau eu capeli yn ei erbyn am wahaniaethu o hono oddi wrth ei frodyr yn ei syniadau am drefn a gwaith Duw. Cauodd yntau ei gapel yn erbyn S. R. am wahaniaethu o hono oddi wrtho ef am drefn a gwaith dynion. Rhedodd y chwedl fel trydan drwy y byd Cymreig. “Cau y capel yn erbyn S.R.!!” A thaflwyd ei gyfeillion i benbleth a syndod, ac amlwg oedd fod daeargryn ar gymeryd lle yn mynwesau “ y werin a’r miloedd.”

Talodd y “ Gohebydd,” C.R. Jones,’ Ysw., a’r Parch. J. Thomas (Dr. John Thomas), Liverpool, ymweliad ag America yn 1865; ac ymddengys iddynt, yn gydnabyddiaeth am y caredigrwydd oeddynt wedi gael. yn America, wahodd y Parch. M. Roberts, Remsen, a’r Parch. Edward Davies, Waterville, dau o’r gweinidogion mwyaf parchus, defnyddiol, a charedig yn y Talaethau, i dalu ymweliad â’r wlad hon y flwyddyn ganlynol, yr hyn hefyd a wnaethant. Derbyniwyd hwynt yn garedig gan weinidogion Liverpool ar eu glaniad, a chymeradwywyd hwynt i sylw’r eglwysi a’r cymanfaoedd gan y Dr. Thomas, ac ystyrid hwynt gan lawer fel ei anfonedigion ef. Nid oedd arnynt hwy, mae’n wir, (x116) angen llythyrau cymeradwyaeth o fath yn y byd, a bu eu cael yn llawn mwy o anfantais nag o les iddynt dan yr amgylchiadau yr oedd eglwysi Cymru ynddynt ar y pryd; ond yn ol eu tystiolaeth hwy eu hunain, nis gallasent ddymuno derbyniad gwell.



Y Tudalen nesaf:

1774k kimkat1774k RHAN 4

Pennod 6: Tysteb S.R. a’r Gwrthwynebiadau...117

 

_____________________________________________________________

 

 

DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

0043c kimkat0043c
Yr iaith Gymraeg
·····
0005k kimkat0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan
·····
1343k kimkat1343k
Y Cymry yn América
·····
0052c kimkat0052c
Testunau Cymraeg â throsiad Catalaneg yn y gwefan hwn
(Textos en gal·lès amb traducció catalana en aquesta web)
·····
1051e kimkat1051e
Testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn
(Texts in Welsh with an English translation in this website)
 



COFIANT Y TRI BRAWD O LANBRYNMAIR A CONWY (1893). GAN E. PAN JONES, D.PH., M.A, MOSTYN. (1834-1922)
·····
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats