1774k Gwefan Cymru-Catalonia. COFIANT Y TRI BRAWD O LANBRYNMAIR A CONWY (1893). Nid yw Llanbrynmair, lle y ganwyd y “Tri Brawd,” ond gwlad oer, arw ac anghysbell, o ran safle ddaearyddol, y mae fel wedi ei chau i fynu rhwng mynyddoedd moelion Maldwyn, prif gyfoeth y rhai yw mawn, a’u haddurniadau penaf yw grug a brwyn.

 

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_065_tribrawd_1893_4_1774k.htm

Yr Hafan kimkat0001

..........
2657k Y Fynedfa yn Gymraeg kimkat2657k

....................
2001k Yr Arweinlen kimkat0009k

..............................0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
kimkat0960k

........................................1760k Cyfeirddalen ar gyfer Y Tri Brawd
kimkat1760k

....................................................y tudalen hwn

 

 


______________________________________________________________________

 
Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
The Wales and Catalonia Website

______________________________________________________________________

COFIANT Y TRI BRAWD O LANBRYNMAIR A CONWY. 1893.

GAN E. PAN JONES, D.PH., M.A, MOSTYN. (1834-1922)

 

Rhan 4 - Tudalennau x117-x157
Pennod 6: Tysteb S.R. a’r Gwrthwynebiadau...(x117)

_________________________________________________________________________________

Adolygiad diweddaraf :: 2004-02-06 - 2004-02-21

 

 

 

Ein hychwanegiadau ninnau fellÿ: (Nodÿn: .........)

 

..............

(x117)

PENOD VI.
TYSTEB S.R. A’R GWRTHWYNEBIADAU.


Pan ddeallodd S.R. fod chwedl “cau y capel” wedi ei thaenu yng Nghymru, ysgrifenodd lythyr Mawrth 6, 1866, yr hwn a ymddangosodd yn y Cronicl am Mai, i egluro yr amgylchiadau.
Rhoddwn yma ddyfyniadau o hono:-

..................................................”Morris Roberts a Samuel Roberts”

“Mae genyf ‘beniad’ braidd od i bwt o lythyr. Ni buaswn yn ysgrifenu haner gair ar y fath destyn, oni buasai fy mod yn gwresog ddymuno na byddo i neb o’m cyfeillion yn Nghymru ddangos unrhyw anfrawdgarwch tuag at y Parch. Morris Roberts, am ei fod wedi dysgyblu mymryn bach arnaf fi am fy mod yn methu cydolygu ag ef a’i ddiaconiaid gyda golwg ar y rhyfel yn America. Anhawdd ein cael oll yn y byd cynhyrfus hwn i weled lygad yn llygad am bob peth. Mae llawer o bobl yn America yn barnu fod y rhyfel mawr diweddar yn divine institution cymeradwy yn ngolwg y nefoedd, ac ni oddefant i neb, ond o’u hanfodd, i resymu yn erbyn hyny. Mae Morris Roberts yn un o’r llawer hyny, ac y mae yn selog dros hyny. Yr oeddwn yn Nhalaeth N. York, ac yr oedd yn fy mryd gael treulio Sabbath yn ol fy nefod gyda’r hen frodyr Dr. Everett a Morris Roberts, yn Steuben a Remsen. Ysgrifenais atynt i arwyddo fy mwriad. Daeth llythyr oddiwrth Mr. Roberts yn hysbysu ei fod wedi dangos fy nghyhoeddiad i’w ddiaconiaid, a’i fod efe a hwythau yn barnu na fyddai un cysondeb i ni gydaddoli yno, gan nad oeddym yr un farn am y rhyfel. Cefais Sabbath dedwydd gyda Dr. Everett, a daeth nifer mawr o gynulleidfa Morris Roberts i’n hoedfa y bore a’r hwyr. Mae y Parch Morris Roberts wedi bod yn llafurus a defnyddiol fel gweinidog am dros ddeugain mlynedd. Mae yn efengylwr gwresog o hwyliau hen ddyddiau y diwygiadau. Hyderaf y bydd ei weinidogaeth tra ar ymweliad â Chymru yn adfywiad i’r eglwysi. Mae (x118) yn un tyn iawn am geisio dysgyblu y sawl nad all fod o’r un farn ag ef. Mae ‘pab bychan’ yn mynwes ‘hen ddyn’ pob dyn byw, ond y mae yn lled ddystaw a llonydd yn mynwesau y rhai llawnaf o gariad yr efengyl. Mae pab bach go fawr yn mynwes y Parch. Morris Roberts; mae yn un go gryf, ac o yspryd go chwerw, a gwnai lawer o ddrwg mewn lle ac ar adeg fanteisiol iddo gael ei rwysg. Cefais ef yn gydymaith cynes ar lawer amgylchiad. Ond yr oedd troi o’r neilldu hen frawd oedd wedi bod yn y weinidogaeth gyhyd ag yntau, yn unig am fethu cydolygu â hwy ar rai o gysylltiadau y rhyfel, yn ddysgyblaeth babaidd, benllwyd, an-Nghymreigaidd, an-Americanaidd, ac an-efengylaidd. Mae dyddiau gweinyddiad y fath ddysgyblaeth wedi myned heibio, a byddai yn well i Morris Roberts ganu yn iach iddynt, a lledu ei hwyliau gyda’r awel i symud yn mlaen gyda’r oes. Mae genyf hawl i gasglu a sail i gasglu y buasai M. Roberts yn cario ei ddysgyblaeth i’m herbyn yn mhellach o lawer pe buasai yn gallu, - y buasai yn dymuno i weinidogion a diaconiaid eraill ddylin ei esiampl ef a’i ddiaconiaid, ac y buasai yn caru cael brawdlys ‘cymanfa’ i eistedd mewn barn ar bolitics ei hen gyfaill S.R., ac i gadarnhau ei ddedfryd ef o ysgymundod. Yr oedd hyd yn nod ei gymydogion o wahanol enwadau, oeddynt mor selog ag yntau dros y rhyfel, yn selog hefyd. yn erbyn cau genau S.R. am farnu yn wahanol iddynt. Ond yr wyf fi yn maddeu o’m calon i’r hen ddysgyblwr gwresog ac enwog o Remsen.”

Mewn ffordd o atebiad i’r eglurhad uchod ar “gau y capel yn erbyn S.R.,” ceir y sylwadau canlynol gan y Parch. John Thomas, Liverpool, yn y Cenhadwr am Mehefin:— .

“Yr oedd J.R. wedi rhoddi nodiad byr yn y Cronicl am Ebrill, er dwyn ar gof i’w ddarllenwyr fod Morris Roberts a’i bobl wedi cau drws y capel yn Remsen yn erbyn S.R., ac yn rhifyn Mai y mae llythyr oddi wrth S.R. ei hun i’r un perwyl. Ni buasem yn dysgwyl i S.R. anfon y fath lythyr angharedig i ymddangos yn y Cronicl ar diriad ei hen gyfaill Morris Roberts yn y wlad hon. Nis gall yr un darllenydd diragfarn lai na chasglu ei fod wedi ei amcanu o bwrpas i wenwyno meddyliau Cymru yn erbyn Morris (x119) Roberts, er fod S.R. yn dyweud ei fod am i ni roddi iddo dderbyniad brawdol a serchog. Drwg iawn genyf am helbulon yr hen gyfaill S.R. yn America, a buasai yn dda genyf fi a phawb yr ochr yma pe buasai efe a’i frodyr yn deall eu gilydd yn well; ond yn wir nid wyf yn meddwl y bydd y llythyr yn y Cronicl diweddaf yn un help i neb yma i feddwl yn uwch am dano. Ni wna ei lythyr un niwed i Morris Roberts, yn hytrach crea gydymdeimlad ag ef. Mae yma deimlad byw o blaid y Gogledd, ac yn erbyn y caethiwed, a rhywfodd mae y bobl sydd yn beio y Gogledd ac yn achwyn ar y rhyfel, yn cael eu drwgdybio o fod yn pleidio y gwrthryfel, ac yn cydymdeimlo â chaethiwed.” .

Er fod S.R. yn sicrhau ar ddechreu ei lythyr, ac mewn ol-nodiad ar y diwedd, na fuasai yn ysgrifenu gair ar “gau y capel,” oni buasai fod ei wrthwynebwyr wedi taenu y chwedl drwy Gymru gyda’r bwriad o’i niweidio ef, ei fod yn dymuno egluro yr amgylchiadau, ac yn hyderu na adawai neb o’i gyfeillion i hyny eu rhwystro i roddi i M. Roberts dderbyniad caredig. Ond sicrha Dr. Thomas ni, wedi’r cwbl, mai gwenwyno meddyliau Cymru yn erbyn Morris Roberts oedd yr amcan. Nid oes genym, gan hyny, ond cymeryd gair S. K. oedd yn gwybod, yn erbyn gair Dr. Thomas oedd yn dychmygu. Ond gwyddom oll mai dyn ffol fyddai hwnw elai i ymladd, ac a foddlonai aros heb daro hyd nes y byddai ei wrthwynebydd yn barod; ac os oedd amgylchiadau y “cau” i gael eu hegluro o gwbl, ffolineb fuasai i S.R. aros heb wneud hyny hyd nes y byddai ei wrthwynebydd Morris Roberts yn gwaeddi “fire.”

Wedi ymddangosiad ysgrif J. Thomas yn y Cenhadwr, ysgrifenodd J.R. atebiad byr iddo yn Cronicl Awst. Wele ychydig ddyfyniadau o hono:-

.....................................“At y Parch J. Thomas, Lerpwl.”

“SYR, - Ymddengys mai chwi sydd yn llefaru dros Gymru yn y Cenhadwr Americanaidd. Dylech ofalu am gywirdeb, am eich bod yn ysgrifenu yn nghefn y genedl: ychydig yma mewn cymhariaeth wel yr hyn a ysgrifenwch. (x120) Yr ydych yn rhifyn Mehefin yn beio y Cronicl ac S.R. am roddi esponiad ar gau y drws. Yr oedd cwmni y Drych yn taeru fod S.R. yn erbyn y rhyfel. ac yn pleidio caethiwed. Ac i brofi hyny, ysgrifenodd Gol. y Drych i’r Herald i ymffrostio fod y Parch. Morris Roberts o Remsen wedi cloi ei addoldy yn erbyn S.R. * * * Ond buasai peidio cyhoeddi llythyr S.R. yn gam ag ef, yn gam a’i gyfeillion, ac yn gam a’i fradychwyr; canys rhaid y gwyddoch fod gan un sydd wedi ysgrifenu cymaint yn erbyn gorthrymderau yr hen wlad, lawer a ewyllysient ei osod allan yn ddyn anghyson ag ef ei hun. * * * Maddeuwch i mi am ysgrifenu eich bod chwithau yn y dull mwyaf llechwraidd yn chwarae ar yr un hen dant drwy awgrymu fod gwrthwynebwyr rhyfel yn bleidwyr caethiwed. Dywedwch, ‘rywfodd fod y bobl sydd yn achwyn ar y rhyfel yn cael eu drwgdybio o fod yn pleidio gwrthryfel ac yn cydymdeimlo â chaethiwed.’ Ni fuasai y penbradychwr, yr hwn oedd un o’r deuddeg, yn medru cael brawddeg fwy teilwng o hono ei hun. Yr ydych yn ysgrifenu yn enw y ni, ac nid y ni Olygyddol a dybiwch, ond yr ydych yn ysgrifenu yn enw ni y genedl. Y ddau Gymro sydd wedi llefaru fwyaf yn erbyn rhyfel America a phob rhyfel arall yw Henry Richard ac S.R., a hwy hefyd sydd wedi ysgrifenu ac aberthu fwyaf o blaid rhyddid y caethion. Chwilied y genedl o bob tu i’r môr holl eiriau, holl ysgrifeniadau, a holl symudiadau y Parchn. Morris Roberts a John Thomas, boed iddynt wneud yr un peth a Henry Richard ac S.R., a chymerwn eu dedfryd hwy, pwy sydd wedi bod y cyfeillion puraf i bob math o ryddid.”

Pan oedd J.R. ar ganol ysgrifenu, daeth y llythyr canlynol i law oddiwrth S.R., a chaiff lefaru drosto ei hun,—

“Ad-gyhoedda Mr. Thomas hen athrod y Drych, a hen athrod Morris Roberts, fy mod i yn ‘pleidio y gwrthryfel, ac yn cydymdeimlo â chaethiwed,’ ac arwydda fod ‘pawb rywfodd yn fy nrwgdybio o hyny.’ Yr wyf yn un o’r bobl ddarfu ‘achwyn ar y rhyfel,’ a gwaeth na hyny, yr wyf yn un o’r bobl ddarfu feiddio rhoddi ‘rhan o’r bai ar y Gogledd.’ Mae John Thomas fel Morris Roberts yn cyhoeddi fod hyny yn ddigon o brawf fy mod yn pleidio gwrthryfel ac yn cydymdeimlo â chaethiwed, neu o leiaf y maent ‘rywfodd (x121) yn drwgdybio hyny.’ Yr wyf wedi bod drwy fy holl oes yn fwy o wrthwynebydd i bob caethiwed ac yn fwy o gyfaill i bob rhyddid nag y bu yr un o honynt hwy. Yr wyf wedi bod yn hwy, yn gysonach, yn llawnach gelyn i gaethiwed a chyfaill i ryddid nag y bu yr un o honynt hwy; a gwyr eu cydwybod hefyd eu bod hwy yn ngwylltineb eu zel bleidiol, ac yn uchder eu hyspryd esgobol, wedi tystio ar gam fod eu hen gyfaill S.R. yn cydymdeimlo â chaethiwed, ac yn pleidio gwrthryfel. Gwyddant fod yn fy llyfr diweddaf, y llyfr y maent hwy mewn dull mor gyfrwys ac yspryd mor wenwynig yn gondemnio, bethau cryfach yn erbyn caethiwed na dim a ysgrifenasant hwy erioed. Mae y ddau frawd wedi bod yn gweithio yn enwog er gwneud argraff drwy America a thrwy Gymru fy mod i yn cydymdeimlo â chaethiwed, ac yn pleidio y gwrthryfel. Nid af i haeru yn eu hwynebau eu bod hwy yn elynion i Heddwch ac Undeb, rhag bod yn debyg iddynt, a rhag gwneud cam â hwynt, fel y maent hwy wedi gwneud cam â mi; ond dywedaf yn ddifrifol ac yn bwyllog, y rhaid cael dynion tecach ac addfwynach, rhai llawer iawn llai Phariseaidd a mwy boneddigaidd na hwy yn llysoedd gwladol ac yn nghynadleddau crefyddol America cyn byth y ceir undeb yn y wlad.

“Dywed Mr. Thomas y buasai yn dda ganddo pe buaswn i a’m brodyr yn America yn deall ein gilydd yn well. Yr oedd fy mrodyr yma yn deall yn dda nad oeddwn yn ‘cydymdeimlo â chaethiwed,’ nac yn ‘pleidio y gwrthryfel,’ ac yr wyf yn meddwl fod John Thomas a Morris Roberts yn deall hyny yn dda yn awr, ond y maent yn gwneud yr oll yn eu gallu i roddi argraff ar Gymru ac ar America fy mod yn ‘cydymdeimlo â chaethiwed,’ ac yn ‘ pleidio y gwrthryfel.’ Darfu i gyfaill penaf John Thomas gynyg cynhyrfu dialeddau y milwyr yn fy erbyn. Yr oeddynt yn cydweithio. Yr oedd trowyntoedd cynddaredd y rhyfel yn chwythu yn rhuadwyllt o’u tu, ond erbyn heddyw mae erledigaeth y Drych wedi gweithio ei nerth allan; mae y llif ar ol chwyddo i’w lawn nerth yn dechreu troi yn ol, ac y mae rhuthrau tymhestloedd yr erledigaeth eglwysig yn gomedd chwythu fel y mynai Morris Roberts iddynt, ac y maent yn troi yn ol gyda nerth cynyddol o rai conglau. Mae mynwes dyner wylaidd John Thomas yn tanio o eiddigedd sanctaidd am fod S.R., medd efe, yn amcanu o (x122) bwrpas i wenwyno meddyliau Cymru. yn erbyn Morris Roberts; ond nid oedd dim o’r eiddigedd sanctaidd hwnw yn llosgi yn ei enaid ise1, addfwyn, pan yr oedd ei gyfeillion, Morris Roberts a Griffith Griffiths, yn amcanu o bwrpas i wenwyno meddyliau Cymru ac America yn erbyn S.R. Pe buasai ei zel yn erbyn ‘y gwenwyno’ yn enyn flwyddyn a haner yn ol, gallasai wneud lles, ond bu ganddo ef gryn law y pryd hwnw yn nghymysgiad y gwenwyn.

“Mymryn bach o stretch ddiniwaid gan John Thomas oedd cyhoeddi fod Morris Roberts ‘a’i bobl’ wedi cau drws eu capel yn erbyn S.R. Ni bu gan y bobl ddim llaw na llais yn y peth. Mae John Thomas hefyd yn eithaf anheg yn ei awgrym mai y Cronicl gododd y peth i’r gwynt yn Nghymru, pan yr oedd Morris Roberts a’i gyfeillion wedi gwneud yr oll a’r a allent i godi y peth i’r gwynt yn America i ddechreu, ac yn Nghymru ar ol hyny, cyn i’r Cronicl yngan haner gair yn ei gylch. Hwy gododd y peth i’r gwynt, ac os yw y gwynt yn gomedd chwythu fel y maent hwy am iddo chwythu, nis gallaf ddim oddiwrth hyny. Mae y gwynt mawr wedi bod yn ffafriol iddynt yn bur hir. Maent yn awr braidd yn digio wrth y gwynt. Nid ydynt am iddo chwythu dim, os na chwytha o hyd o’u tu hwy. Y mae awel y Cronicl bach i’w herbyn bron wedi dwyn eu hanadl.

“Mae ganddo dafbd mêl i gamnolwyr y rhyfel, ond y mae ganddo gynffon scorpion i saethu colyn ei wenwyn at ei hen gyfaill S.R., am ei fod yn achwyn ar y rhyfel; ac y mae gallu yn ei gynffon golynog i ddrygu am ‘bum mis.’ Gwnaeth ei lawn ran pan ar ei hynt yn America i gynhyrfu erledigaeth y Drych a dysgyblaeth Remsen yn erbyn ei hen gyfaill S.R., ac y mae yn gwneuthur ei ore yn awr i gael gan ei gyfeillion yn Nghymru ac yn America i ‘ddrwgdybio rywfodd’ fod S.R. yn ‘pleidio y gwrthryfel, ac yn cydymdeimlo â chaethiwed.’

“Mae logic John Thomas a Morris Roberts er profi fod S.R. yn ‘cydymdeimlo â chaethiwed, ac yn pleidio y gwrthryfel,’ mor fyr ac mor eglur, mor lawn ac mor loew, fel nas medraf beidio gwenu wrth ei darllen. Y mae yn darllen yn rhwydd ac yn ystwyth, a gellir ei darllen y ddwy ffordd, o’r ddau pen, yn ol ac yn mlaen. Maent weithiau (x123) yn gwthio ei ben blaen yn fy erbyn, bryd arall troant ei ben arall yn mlaen, ac y mae mor rymus y naill ffordd a’r llall. Dywedant weithiau, ‘Mae S.R. wedi achwyn ar y rhyfel, a rhaid ei fod ‘rywfodd yn pleidio’ y gwrthryfel.’ Bryd arall dechreuant yn y pen arall, a dywedant, ‘Yr ydym rywfodd yn drwgdybio fod llaw gan S.R. yn y ‘gwrthryfel,’ oblegid y mae yn achwyn ar y rhyfel.’ Mae ganddynt hefyd ddwy ffordd i adrodd y gangen arall o’u hathrod. Dywedant, ‘Mae S.R. wedi beio y Gogledd, ac felly rhaid ei fod yn cydymdeimlo â chaethiwed; neu dywedant, ‘Ymollyngodd S.R. i gydymdeimlo â chaethiwed, a dyna’r pam y mae yn beio y Gogledd.’ Ni wyddant yn iawn ‘rywfodd’ pa ben i’w hathrod ddylent roddi yn mlaen, ac felly y maent yn cynyg pob pen yn ei dro ‘rywfodd,’ yn ol eu hwyl a’u cyfleustra. Yr wyf wedi ac yn achwyn ar y rhyfel, oblegid yr wyf yn ei ystyried fel un o’r rhyfeloedd mwyaf chaotic ei achosion, a mwyaf daearol, anianol, cythreulig ei yspryd a’i ddylanwad o holl ryfeloedd barbaraidd a choeldduwiolaf y ddaear; ac y mae ei anghyfiawnderau, ei lygredigaethau, a’i greulonderau, a’i ddifrod, a’i ddryswch, yn dyfod dduach dduach i’m golwg bob dydd.

“Yr wyf hefyd wedi ‘beio y Gogledd,’ oblegid yr wyf yn barnu fod gan y Gogledd law drom, drom iawn yn enyniad y fath ryfel uffernol; ac yr wyf yn meddwl mai pobl ore y Gogledd, ar rai ystyriaethau, oeddynt a’r llaw drymaf yn y drwg llofruddiog, a’u bod wedi hir droseddu deddfau tegwch cymdeithasol, a merthyru yspryd Cristionogaeth, drwy eu hiaith, a’u hyspryd, a’u hymddygiad tuag at eu cyd-ddeiliaid cyndyn uchelfrydig yn y De. Mae yn debyg iddynt gyhoeddi fy mod wedi achwyn ar y rhyfel, ac wedi beio y Gogledd; ond pan y maent yn cyhoeddi fy mod yn ‘cydymdeimlo â chaethiwed,’ ac wedi ‘pleidio y gwrthryfel,’ y maent yn tystiolaethu ac yn cyhoeddi anwiredd; ac nid oes dim ond angau a all fy lluddias i dreiglo eu hanwireddau yn ol i’w hwynebau, ac os hunaf yn fuan bydd digon i fedru ei dreiglo yn ol yn well a mwy effeithiol na mi ar ol dydd fy angladd.

...............................................................................................................S.R.
................Brynyffynon P.O., .....................................................Mehefin 15, 1866.
.......................Scott Co., East Tennessee
..................................U. S. America.

(x124) Atebwyd y llythyrau uchod gan y Parch. John Thomas yn y Faner, a rhag y gallai fod rhywun wedi gweled y Cronicl na fyddai yn gweled y Faner, efe a’u cyhoeddodd drachefn yn y Dysgedydd, Hydref, 1866; ond y mae mor faith fel nas gellir gosod yma ond y rhagymadrodd yn unig, a bydd hyny, mae yn ddiau, yn ddigon i ddangos,

..............................................“O ba radd y bo ei wreiddyn.”

Wedi arweiniad i mewn, a rhoddi ail-adroddiad o’r ysgrif ymosodol yn y Cenhadwr, dywed,—

“Yn y Gronicl am Awst, mae J.R. yn ei ffordd briodol ei hun, yn ymosod arnaf fi, ac yn gwyrdroi ystyr ac yspryd yr hyn a ysgrifenais. Nid wyf ar hyn o bryd yn bwriadu gwneud un sylw o J.R. na dim a ddywed efe. Nid yw efe ond ymyrwr yn y mater. Pan gaffwyf ‘amser cyfaddas,’ y mae genyf gyfrif go hir a go drwm i’w setlo ag ef, ond rhaid i mi gael dybenu ag S.R. yn gyntaf. Drwg iawn genyf fod dan yr angenrheidrwydd o ysgrifenu gair a dybir yn angharedig am S.R., ond y mae ei ddull hyf, haerllug, ac anochelgar ef o ysgrifenu ei lythyr diweddaf, yn fy ngorfodi i ddyweud pethau, genyf fi yn wir sydd flin, ac iddo yntau nis gallant fod yn gysurus.

“Nid wyf yn ddigon ffol i dybied y gallaf drwy ddim a ysgrifenaf argyhoeddi S.R., na neb o’i amddiffynwyr dallbleidiol, y rhai sydd fel pe byddai ‘amryfusedd cadarn fel y credont gelwydd’ wedi ei ddanfon arnynt; ond yr wyf yn meddwl y gallaf ddangos yn eglur i bob dyn syml, diragfarn, ac awyddus am wybod y gwirionedd ar y mater, fod yr holl bentwr enllibus a deifl arnaf yn gwbl anwireddus.

“Mae S.R. yn y Gronicl am Medi, yn ysgrifenu yn gryf ac yn groch, yn fostfawr ac yn hunanol, yn wawdus ac yn sarhaus, yn chwyddedig ac yn fawreddog, yn drystfawr ac yn fombastaidd; ac nid wyf yn ei feio am hyny, canys dyna y ddawn a rodded iddo, ond prin y buaswn yn dysgwyl oddi wrtho y camddarlunio, y camgyhuddo, a’r camesbonio sydd yn rhedeg drwy ei lythyr. Ond rhaid i mi wylio rhag dylin ei esiampl, oblegid ni oddefir ynof fi yr hyn, ‘rywfodd,’ a ganiateir iddo ef. Yr wyf fi yn aelod o eglwys barchus, ac os gwel na byddaf yn ‘iawn droedio at wirioneddau yr efengyl,’ mae ganddi hawl i’m galw i gyfrif. Yr wyf hefyd yn ymdroi yn nghanol fy mrodyr gweinidogaethol, ac os gwelant fi wedi colli pob gofal am degwch a geirwiredd, mae perygl iddynt ‘dynu ymaith oddi wrth yr hwn a rodia yn afreolus.’ Erbyn dydd ymladd a rhyfel, hapus, onide, yw y dyn hwnw sydd wedi myned y tu allan i gylch yr holl rwymau hyn, ac yn rhydd i ddyweud y peth y myno am y neb y myno, heb un eglwys na chynhadledd i’w alw i gyfrif. Ond at lythyr S.R. Mae ganddo o leiaf naw o gyhuddiadau yn fy erbyn, a rhai o honynt yn rhai go ddifrifol hefyd. Ond yr oeddwn wedi eu darllen oll yn teimlo fel y teimlai Richard Jones, Llwyngwril, ar ol i rywun o ddrygioni gyhoeddi rywbryd ei fod ef wedi marw. Gofynai cyfaill iddo, ‘pa fodd y teimlasoch, Richard Jones, pan glywsoch eich bod wedi marw ?’ ‘O, mi wybum mewn mynud wel’ di, mai celwydd oedd o,’ ebe yntau. Dichon na byddai yn foneddigaidd i mi ddyweud mai celwyddau ydynt yr haeriadau a wneir, er yn wir y mae S.R. wedi arfer y gair hyll hwnw, a’i osod mewn llythyrenau Italaidd, ond serch hyny y mae ganddo ef ryddid i ddyweud geiriau cryfach a chaletach na mi. Wel, er mwyn bod mor dyner ag y gallaf, ni ddywedaf ond eu bod oll yn anwireddau hollol. Nis gallaf gredu i S.R. eu dyfeisio ychwaith; na, nid yw yn bosibl i un ‘a anwyd ac a ddygwyd i fynu yn awyr bur grefyddol Cymru, ac a fu yn cyfeillachu â phleidwyr rhyddid a thangnefedd drwy y pymtheg mlynedd a deugain cyntaf o’i fywyd, nes i egwyddorion mawrion rhyddid weithio yn o ddwfn yn ei galon.’ Ai tybed fod yn bosibl i’r fath un ddychymygu y fath gamgyhuddiadau disail ? ac eto, wedi i ddyn ymddeol o’r weinidogaeth, ac ymollwng i speculation bydol, ac ymneillduo i gongl anghysbell o dalaeth gaeth, o blith cydnabyddion, ac o gyrhaedd cyfleusderau crefyddol a chael tipyn o siomiant yn ei anturiaethau nes myned yn chwerw ac aniddig ei ysbryd, a moni wrth y byd am fod pob peth yn myned yn groes i’w ragfynegiadau: wedi i ddyn fyned felly, yn wir y mae tipyn o brofedigaeth iddo i wneud a dyweud llawer o bethau na wnaethai dan amgylchiadau gwahanol. Ac eto nis gallaf gredu yn fy myw i’r hen S.R. ddyfeisio yr un o honynt. Rhyw weilch ddywedodd bethau wrtho a barodd iddo ef yn ei wylltineb siomedig dybio eu bod yn ddigonol seiliau i’r holl heiriadau. Ond (x126) yr wyf yn ei ddal ef yn gyfrifol am danynt. Ni fynaf i neb arall ymhel a ni. Safed pob ymyrwr draw. Mae S.R. does bosibl yn llawn ddigon i mi. Nid wyf fi ond llencyn dibrofiad mewn rhyfel fel Dafydd, ac y mae yntau yn Goliath ei oes, yn rhyfelwr o’i febyd, ond y mae genyf yn nghod gwirionedd bump o gerrig y caiff ei dalcen deimlo eu pwysau.”

Dosrana lythyr S.R. i naw o gyhuddiadau, a gwada hwynt bob un yn arddull y rhagymadrodd uchod, a’r unig eglurhad mae efe yn gynyg roddi yw, nad oedd efe wedi darllen 200 llinell o waith S.R. yn ystod y “deng mlynedd diweddaf.” Wrth gau ei lythyr i fynu, dywed,—

“Nis gallaf derfynu heb ddiolch i S.R. am fy nheitlo yn ‘esgob’ mor fynych yn ei lythyr, a phan y gwelaf ei fod yntau wedi llwyddo i gasglu eglwys dan ei ofal yn Tennessee, bydd yn dda genyf dalu y compliment yn ol.”

Mae yn amlwg ar unwaith, gan nad beth oedd amcan ysgrif y Parch. J. Thomas yn y Cenhadwr, mai baich yr uchod yw diraddio S.R. Edrychwn beth yw nerth ei arguments, a chymerwn hwynt bob yn un:—

1. Nad oedd S.R. yn aelod o un eglwys.

Ond atolwg, aelod o ba eglwys yw ein cenhadon, y rhai fydd yn myned i wylltach gwledydd na Tennessee? Aelodau o.ba eglwysi oedd John Williams yn Ynysoedd Mor y De, Livingstone yn Affrica, a Paul yn Athen ?

2. Ei fod wedi ymollwng i speculations bydol, ac wedi myned y tu allan i gyrhaedd cyfleusderau crefyddol.

Gwir iddo, fel y dangoswyd yn barod, gynyg sefydlu gwladfa Gymreig yn Tennessee, a phe llwyddasai, buasid yn ei foli. Rhywbeth tebyg wnaeth y Tadau Pererinol yn New England, ac aeth y Parch. J. Thomas i America i ddathlu eu glaniad hwy ar y “Plymouth Rock.” Dyna beth oedd myned y tu allan i gyfleusderau crefyddol. Mae pob lle newydd y tu allan i gyfleusderau crefyddol mewn un ystyr, ond mewn ystyr arall y mae yn gyfleus yn mhob lle (x127) ddyn i fyw yn grefyddol, os bydd hi yn ei galon; ond, a chymeryd cyfleusderau crefyddol yn yr ystyr o gynal gwasanaeth crefyddol a chael cymdeithasu a’r saint, yr oedd S.R. yn wir o dan anfantais i raddau yn Tennessee, ond yr oedd yn nghyd bob Sabbath yn Brynyffynon fwy na “dau neu dri,” ac nid ydym yn petruso dyweud i S.R. yn ystod y deng mlynedd y bu yn America bregethu mwy ar gyfartaledd na’r un deunaw o bob ugain o weinidogion Cymreig y wlad hon yn yr un amser. Bydd croesaw i’r neb fyddo yn amau hyn i weled ei Ddyddiaduron.

3. Ei fod yn dyweud;y peth a fynai am y neb a fynai, am nad oedd ganddo eglwys na Chyfarfod Chwarter i’w alw i gyfrif.

Prin y buasem yn dysgwyl i’r Parch. J. Thomas ddefnyddio yr argument hwn, — nid rhy hen adgofion haner canrif, — ond gan iddo ei ddefnyddio, ni a’i cymerwn, a dywedwn fod holl eglwysi Cymru yr adeg hono, er nad yn gweled S.R., eto yn ei garu yn fwy na llawer o’r rhai oedd yn eu plith, ac yn edrych arno fel dyn o egwyddor, ac nid un yr oedd eisiau cadw gwyliadwriaeth fanwl drosto. Yr oedd ganddynt fwy o ymddiried ynddo pan yn Tennessee nag oedd ganddynt mewn eraill nes atynt.

4. Addawai y Parch. J. Thomas alw S, R. yn esgob pan welai ef wedi casglu eglwys yn Tennessee.

Blin genym orfod ateb y penawd hwn drwy ddyweud, pe arosasai S.R. heb ei alw ef yn esgob hyd nes iddo gasglu eglwys newydd, y buasai wedi gorfod aros hyd y pryd hwn, canys hyd yma nid yw J. Thomas wedi llwyddo i gasglu eglwys, eithr myned i fewn y bydd efe i lafur rhai eraill.

Pan welodd J.R. y llythyr uchod, yn yr hwn y dywed y Parch. J. Thomas nad oedd efe yn meddwl dim am S.R. wrth ysgrifenu i’r Cenhadwr, ac yn gwadu y cwbl, apeliodd J.R. ato i alw cyfarfod cyhoeddus lle y mynai, o’i bobl ei hun gartref, os oedd yn dewis, ac y boddlonai efe i farn y cyfarfod hwnw am bwy yr oedd llythyr y Cenhadwr yn son, Stc os dywedai y cyfarfod nad am S.R., yr oedd yn barod i roddi y ddadl i fynu ar unwaith; ond sicrhai fod y wlad o Gaergybi i Gaerdydd yn barod i ddyweud fod y Parch. J. Thomas wedi dwyn camdystiolaeth yn erbyn S.R., ac ychwanegai nad oedd efe nac S.R. yn credu fod y Parch. J. Thomas yn meddwl yr hyn a geisiai gan eraill gredu. Rhoddwn yma ddarn o’i lythyr : —

“Yr ydych yn eglur feio J.R. i ddechreu, ac S.R. yn ail, am godi ymddygiad y Parch. Morris Roberts i’r gwynt. Mynech i’r Drych gau ei ddrws yn erbyn S. R,, a chyhoeddi yr hyn a welai yn dda am dano am bum’ mis. Mynech i Morris Roberts gau drws ei gapel yn ei erbyn. Mynech i Ol. y Drych ysgrifenu i’r Herald i ymffrostio yn hyny, a’i ddefnyddio fel rheswm i brofi ‘fod S.R. yn pleidio gwrthryfel, ac yn cydymdeimlo â chaethiwed.’ A mynech i Morris Roberts a’i gyfaill a chwithau fyned drwy Gymru i roddi yr esponiad a welech yn dda ar hyny; ond beiwch J.R. ac S.R. am ysgrifenu ychydig linellau i addef fod drysau y Drych a’r capel wedi eu cloi, a rhoddi gair o eglurhad pa fodd y bu. Mae pob rhyfel yn cael ymffrostio ynddo yn ei ddydd, ond ar ol ei ddiwedd cyll ei barch, a daw y rhai fu yn ei ganmol i’w gondemnio. Hyn fu rhan rhyfel y Crimea. Ac ar ddiwedd rhyfel America, pan oedd y rhan fwya a’u gwaed yn berwi, gallwn ddyfod o hyd i ryw fath o esgusodion dros y Drych a Morris Roberts am gau eu drysau; ond y mae John Thomas wrth feio ar y Cronicl bach am agor ei ddrws i roddi ychydig o esboniad ar y dull y bu, yn amddiffyn eu holl ymddygiadau hwy, pan o gyrhaedd pob profedigaeth.
Ac y mae cariad ei hunan, er crwydro yn ol a blaen, yn methu cael esgusawd drosto.”

Yr oedd yn amlwg er ys misoedd i bob sylwedydd fod llanw mawr barn y cyhoedd o bob tu i’r môr yn troi yn gyflym o blaid S.R., ac yr oedd yntau ei hun yn deall hyny yn eithaf ac yn ymgalonogi. Dywed Mai 31, ei fod wedi cael tri llythyr cynes o Gymru yn ei wahodd i ddychwelyd, ond nad oedd yn gweled ei ffordd i gydsynio a’u cais cyn y flwyddyn ganlynol, a’i fod, er yn heneiddio, yn penderfynu (x129) ymarfogi yn hytrach nag ymollwng. Yr oedd nifer o amgylchiadau fel wedi cydgyfarfod, ac yn gweithio yn ei ffafr:—

1. Yr oedd y rhyfel wedi parhau lawer yn hwy nag oeddid yn meddwl ar y dechreu, ac wedi gwneud llawer mwy o alanastra ar y wlad nag oeddid wedi freuddwydio. Yr oedd ugeiniau, ie, canoedd o deuluoedd oeddynt ar eu huchelfanau yn frwdfrydig dros ymladd yn 1862 a 1863, dros eu penau mewn galar yn 1869, am eu hanwyliaid oedd wedi cwympo ar faes y gwaed.

2. yr oedd ei gystudd diweddar wedi creu, neu ddwyn allan gydymdeimlad mawr ag ef.

3. Yr oedd yr ymosodiadau anheg a wneid arno yn barhaus gan ei wrthwynebwyr yn Nghymru ac yn America, yn fwy nas gallai teimlad o anrhydedd y BOBL oddef heb ddangos eu hanghymeradwyaeth.

4. Cau y capel yn ei erbyn ddygodd y peth i brawf, — pwy oedd y dyn oedd y wlad yn ewyllysio anrhydeddu? Yr oedd y cyhoedd fel mewn gwewyr. Teimlid fod yno ddigon o ager i symud mynyddoedd, yn unig nad oedd yno un Watt i’w gyfarwyddo. Clywid rhywbeth am S.R. ar ben pob heol, a byddai llawer yn breuddwydio yn ei gylch.

Ond nos Fawrth, Hydref 2, yn mhen ychydig ddyddiau wedi ymddangosiad gwadiad y Parch. J. Thomas yn y Faner, ac oddeutu yr amser yr oedd yr ysgrif yn ymddangos yn y Dysgedydd, cyfarfu cyfeillion S.R. yn nghapel Salem, Liverpool, i ystyried y cwestiwn, a chytunasant yn unfrydol ar y pethau canlynol, y very argument oedd J.R. wedi apelio ato:

1. “Fod gwasanaeth ffyddlon a diflino y Parch. Samuel Roberts, gynt o Lanbrynmair, gyda phethau gwladol a chrefyddol, yn galw am ein cydymdeimlad gwresocaf tuag ato yn y profedigaethau chwerwon a’i cyfarfyddodd yn America.

(x130) 2. “ Fod y cyfarfod hwn, er dangos ei barch a’i gydymdeimlad mewn modd sylweddol ag ef, yn penderfynu casglu swm o arian er gwneud anrheg iddo, ac yn galw ar gyfeillion S.R. yn y dref hon i gydweithio â hwy er cyrhaedd yr amcan.

3. “Fod David Davies, Ysw., Wavertree Gas Works, i fod yn Drysorydd, a Mr. Samuel Parry Jones, 3 Page St., a Mr. Thomas Hughes, 34 Greta St., High Park St., yn Ysgrifenyddion.

“ Mae yma deimlad cryf o blaid S.R., a dymuniad mawr am iddo wneud brys i ddyfod yn ol i’r hen wlad. Tystiai un o frodyr y Tabernacl fod deg o bob dwsin o’r gynulleidfa yno yn gyfeillion calon i S.R.”

Cerddodd y newydd am y symudiad fel tân drwy y wlad, ac er sicrhau o’r Parch. John Thomas yn Mehefin, “na fyddai i lythyr S.R. yn Cronicl Mai, yn un help i neb feddwl yn uwch am dano yma,” yr oedd cyn diwedd Hydref bwyllgor wedi ei ffurfio yn mhob pentref bron drwy Gymru i wneud iddo dysteb. Yr oedd y beirdd yn canu iddo, a’r gohebwyr yn ysgrifenu, a phob un fel yn awyddu cael gwneud rhywbeth “i ddwyn y brenin adref.” Wele un enghraifft -—

.........“Am Samuel anwyl heb waniaeth
...........Mae hiraeth ar filoedd yn wir,
........Dy gyfarch mae Arfon a Meirion,
..........A Maldwyn, a miloedd ein tir, &c
........Agorir pob cyntedd a chapel,
..........I Samuel dawel os daw,
........A pharch i’n hen athraw ardderchog
..........Ddangosa pob calon a llaw,” &c.

Ond deallwyd yn fuan nad oedd y dysteb yn myned i gael walk over, fod yno breakers ahead, a chyn pen fawr amser, yr oedd yn eu canol.

Cymerodd eglwys y Tabernacl, Caergybi, yr achos i fynu, a dywedir yn adroddiad y cyfarfod a alwyd i ffurfio pwyllgor—

“ Mae yr eglwys wedi cymeryd yr achos hwn i fynu, ac nid oes amheuaeth na weithia yn anrhydeddus a theilwng o honi ei hun a’r gwrthrych. Mae yn llawen genym weled (x131) fod edmygwyr talentau a chymeriad dysglaer S.R. yn Nghaergybi, am ddangos eu parch a’u teimlad tuag ato, nid ar dafod yn unig, ond yn weithredol. Llywyddwyd gan y Parch. W. Griffith. Pasiwyd y penderfyniadau canlynol yn unfrydol :—

1. “Fod diolchgarwch gwresocaf y cyfarfod i gael ei gyflwyno i’r brodyr yn Salem, Liverpool, am gychwyn y symudiad.

2. “Fod y personau oedd yn bresenol i ymffurfio yn bwyllgor.

3. “Fod Mri. H.R. Thomas, T.R. Jones, ac S. J. Griffiths, i fod yn Ysgrifenyddion; a phenodwyd Mr. R. Jones, Currier, Market St., Holyhead, yn Drysorydd.

4. “Fod penderfyniadau y cyfarfod i gael eu hanfon i’r cyhoeddiadau wythnosol a misol.

“Amlygwyd teimlad byw o blaid S.R. a’i egwyddorion yn y cyfarfod, a rhoddwyd taer anogaeth i holl eglwysi Môn i gydweithredu, ac anfon am lyfrau casglu yn ddioed, neu anfon eu cyfraniadau i Gaergybi.
Llwyddiant a gorono lafur yr holl gasglyddion.

S.J. GRIFFITHS, Anglesea House.”

Prin yr oedd yr adroddiad uchod allan, nad ymddangosodd y nodyn canlynol yn y Faner:—

“Tysteb S.R.”

“FONEDDIGION, — ‘Toll i’r hwn y mae toll yn ddyledus.’ Talodd y cyfeillion yn eglwys y Tabernacl, Caergybi, doll an-nyledus i eglwys Salem, Liverpool, drwy gyflwyno diolchgarwch iddi am roddi cychwyniad i’r mudiad am dysteb i’r hen gyfaill S.R., canys nid oedd gan eglwys Salem, fel y cyfryw, ddim mwy a wnelai a’r peth nag oedd gan eglwys y Tabernacl, Caergybi, ei hun. Ni ddodwyd y mater erioed o flaen yr eglwys, ac ni bu un gair am dano mewn un cyfarfod eglwysig; a phe buasai ein cyfeillion yn Nghaergybi yn dal sylw ar yr hysbysiad a ymddangosodd yn y Faner oddiwrth y pwyllgor, ni syrthiasent i’r amryfusedd hwn, canys dywedir yn eglur nad mudiad eglwysig ydyw, ond mai (x132) gwaith personau perthynol i’r eglwysi Cynulleidfaol yn y Tabernacl, Bethel, Salem, a Seion, Birkenhead. Nid wyf yn gwybod am neb personau yn yr eglwysi hyn nad ewyllysient ddangos cydymdeimlad yn y ffordd hon ag S.R., ond y dymunasent oedi y peth ar hyn o bryd, rhag bod lliw ymyriad pleidiol arno, sef amgylchiadau y ddadleuaeth anymunol sydd newydd ddigwydd rhwng y cyfeillion S.R. ac M.R. a J. T.

........................................................................................................................W. REES, Salem.”

Gwelid yn amlwg yn ngoleuni y nodyn yna o ba gyfeiriad yr oedd y gwyntoedd croesion yn chwythu, ac o ba le yr oedd y breakers yn codi. Cymerasant afael yn y wasg mor llwyr byth ag y medrent, a bu agos iawn iddynt gael y Faner at eu gwasanaeth. Dywed Gol. y Faner, Rhagfyr 19, 1866, ei fod yn derbyn llythyrau yn ymosod ar dysteb S.R., ac ymddangosai mewn penbleth beth i wneud a hwynt — eu cyhoeddi neu beidio. Yn y Faner ganlynol, Rhag. 26, cyhoeddodd pwyllgor y dysteb yn Liverpool y protest canlynol yn erbyn pob ymyriad a hwynt. Nis gall neb ei ddarllen heb deimlo fod “cewri ar y ddaear yr amser hwnw.”

........................................................... “Tysteb S. R”

“Synwyd ni yn fawr gan yr awgrymiadau a gyhoeddwyd yn y Faner am ddydd Mercher diweddaf, eich bod yn derbyn llythyrau ymosodol ar gychwyniad tysteb S.R. Derbyniodd y pwyllgor lawer o lythyrau o wahanol fanau yn Nghymru yn diolch yn wresog iddynt am gychwyn y dysteb, ac yn datgan eu dymuniad ar i gyfeillion S.R. yn Nghymru i gydweithredu a’i gyfeillion yn Liverpool i godi tysteb iddo, a pheth hollol newydd i ni yw clywed fod rhyw rai yn ymosod arnom, ac nis gallwn ddirnad pa reswm sydd gan neb o’r rhai nad yw yn cydolygu â ni i ymyraeth â ni o gwbl. Onid oes genym berffaith hawl i wneud fel y mynom a’n harian ein hunain, a’u cyfranu at unrhyw amcan a welwn yn dda, heb ofyn caniatad ysgrifenwyr y llythyrau y cyfeiriwch atynt na neb arall? Nis gall y pwyllgor edrych ar ymyriad o’r natur hwn ond fel impertinent interference ar hawliau dinasyddion mewn gwlad rydd.

(x133) “Nid ydym, ac ni ddarfu i ni ymosod ar neb. Cymerasom bob gofal rhag dolurio teimladau neb allai fod yn meddwl yn wahanol i ni. Cadwasom ein hunain yn glir rhag ymyraeth â’r ddadl anghysurus rhwng J.T., M.R., ac S.R., gan nad oes dim a wnelom â hi.

“Y cwbl a wnaethom oedd dangos ein parch, yn ein ffordd ein hunain, i wir foneddwr, Cristion didwyll, a gweinidog ffyddlawn i Iesu Grist (yr ydym yn dyweud gweinidog ffyddlawn, er ‘nad oes ganddo eglwys na chynulleidfa i’w alw i gyfrif,’* (Troednodÿn: Cyfeiriad at awgrym sarhaus y Parch. J. Thomas, nad oedd eglwys gan S.R.) eto nid yw yn llai haeddianol o barch am ei fod yn gweithio heb gyflog.)

“Cawsom ein dysgu lawer gwaith o’r pwlpudau, fod pob peth sydd yn codi o genfigen, malais, a chasineb, yn ddrwg ac yn waharddedig; ond y mae genym eto i ddysgu fod drwg mewn caru, parchu, a chydymdeimlo, a dwyn beichiau ein gilydd, ac nid oes eisiau gohirio am fynud weithred sydd yn codi o deimladau rhinweddol o’r fath hyny.

“Gyda golwg ar yr awgrym a roddwyd i ohirio y dysteb, dymunem yn barchus, ond yn y modd mwyaf eglur, amlygu ein penderfyniad cryf i ddal yn egniol, gwresog, a zelog gyda’r gwaith hwn nes ei orphen; ac ni thycia i’r ysgrifenwyr pe sychent fôr o inc i ysgrifenu yn ein herbyn. Nid ydym am ei ohirio dros un wythnos: gwnaiff ein cydymdeimlad a’n dangosiad o barch fwy o les i wrthrych y dysteb yn awr nag unrhyw amser arall. Ar yr un pryd, yr ydym yn derbyn eich awgrymiad caredig chwi yn yr un yspryd ag y mae yn cael ei roddi. Gwrandawsom ar amryw yn nghylch gohirio y symudiad cyn ei gychwyn, ond ni chlywsom unrhyw reswm dros wneud felly, nad allai fod hefyd dros beidio ei wneud o gwbl.

“Meddai rhai, ‘aroswch i’r teimladau cynhyrfus sydd yn bodoli yn mynwesau rhai gwyr cyhoeddus i gael amser i ymdawelu.’ Atolwg, beth sydd a wnelom ni â’r gwyr hyn na’u teimladau cynhyrfus ? Nid ydym yn ymyraeth â hwy mewn modd yn y byd, ac nis gallwn gredu fod y dynion sydd yn pregethu i ni, ‘ Na fachluded yr haul ar eich digofaint,’ yn coleddu teimladau drwg am fisoedd a blynyddoedd. Onid oes digon o ysgrifenu pethau cas wedi bod? ac onid yw hi bellach yn amser heddychu?

(x134) “Heblaw hyny, y mae rhyw rai wedi bod yn gwneud yr haeriad fod ein hen gyfaill, y Parch. Samuel Roberts, wedi suddo i lawr rai canoedd o raddau yn mharch (estimation) y wlad. Gadawer ynte i’r wlad gael perffaith chwarae teg i ateb drosti ei hun, ac yna ceir gweled. Os nad ydynt, tegwch a chyfiawnder a’r wlad, ac âg S.R., ydyw cael cyfleustra i brofi yr haeriadau hyny yn anwireddus a disail.

“Rhoddodd un ysgrifenydd her i gyfeillion S.R., drwy ddyweud rhywbeth tebyg i hyn, ‘Os oes gan yr addfwyn S.R. gyfeillion, paham na ddeuent allan i’w amddiffyn?’ Nid ydym yn credu ei fod mewn angen am neb i’w amddiffyn: y mae yn ddigon galluog i amddiffyn ei hun; ond gellir yn hawdd brofi nad yw yn fyr o gyfeillion, drwy y derbyniad gwresog y mae y cynygiad i wneud tysteb iddo yn gael yn mhob man. Mae pwyllgorau wedi eu sefydlu yn y manau canlynol: — Yn Liverpool, yn cynwys aelodau o’r Tabernacl, Bethel, Salem, Seion (Birkenhead), a Great Mersey St.; Llanelli, Bethesda, Ffestiniog, Caergybi, Caernarfon, Rhos, Wern, ac yr ydym wedi clywed fod pwyllgorau ar gael eu ffurfio mewn manau eraill. Heblaw hyny, y mae o dri i bedwar cant o lyfrau casglu wedi eu dosbarthu yn y lleoedd uchod, a manau gwledig lle nad ellir ffurfio pwyllgorau. Ni ddarfu i ni erioed ddysgwyl cael y fath gydweithrediad cyffredinol. Nid oeddym ar y cyntaf wedi meddwl gweithio y tu allan i gylch Liverpool a Birkenhead, ond fel yr oedd y cyfeillion yn Nghymru yn anfon atom yn dymuno cael cydweithredu â ni.

“Gyda golwg ar gyhoeddi y llythyrau ymosodol ar y symudiad hwn, y cwbl a ddysgwyliwn oddi wrthych ydyw, cyhoeddi enwau priodol yr ysgrifemvyr wrth eu hysgrifau, a pheidio gadael i neb lechu yn gowardaidd o dan ffugenw, megis Cyfaill, tra yn gwneud eu hymosodiadau anfoneddigaidd. Ac yr ydym yn ymddiried i’ch doethineb chwi i beidio gollwng dim i fewn fyddo islaw safon papur parchus fel Baner ac Amserau Gymru.

.........................................................................Yr eiddoch yn barchus dros y pwyllgor,
....................................................................................THOMAS MORRIS, Llywydd.
....................................................................................DAVID DAVIES, Trysorydd.
....................................................................................SAMUEL JONES PARRY
....................................................................................THOMAS HUGHES Ysgrifenyddion.

(x135) Yr oedd y protest hwn yn ei gwneud hi yn anhawdd i’r Faner i gyhoeddi llythyrau ymosodol dienw, a buasai i’r ysgrifenwyr roddi eu henwau yn dinystrio y cwbl; a’r peth gore nesaf oedd gomedd cyhoeddi llythyrau ffafriol i’r dysteb. Edrychid yn mlaen gyda chryn ddyddordeb at adeg dychweliad S.R., a threfnai pob ardal gael lladd rhyw lo pasgedig pan ddeuai heibio. Cynygiodd cyfeillion Llanbrynmair yn eu heisteddfod Nadolig, 1866, wobr am y gân ore o groesawiad i S.R. ar ei ddychweliad. Ac yn nglyn a’r eisteddfod hono, ymffurfiasant yn bwyllgor i wneud eu “rhan gyda’r dysteb, a phenderfynwyd:—

1. “Fod y cyfarfod hwn yn gynwysedig o hen gymydogion a chyfeillion S.R., yn dymuno datgan eu cydymdeimlad dwys ag ef yn ngwyneb y profedigaethau chwerwon a’i cyfarfu yn America.

2. “Eu bod yn dymuno datgan eu cymeradwyaeth uchaf a mwyaf gwresog o’i gysondeb a’i onestrwydd yn ei ymdrechion diflino yma ac yn America yn erbyn rhyfel a’i ddrygau anocheladwy, ac o blaid heddwch a’i effeithiau bendigedig; ac yn erbyn caethiwed yn mhob dull ac yn mhob man, ac o blaid rhyddid yn wladol ac cglwysig.

3. “Eu bod yn dymuno datgan eu gonaith diffuant na bydd iddo laesu dwylaw yn ei ymdrechiadau, ond yn hytrach ychwanegu nerth, diystyru pob gwrthwynebiadau, sefyll yn wrol yn nydd y frwydr o blaid yr egwyddorion gogoneddus a bregethwyd gan ein Ceidwad, a eglurwyd yn ei fywyd, ac a fu farw o dan eu llywodraeth.

4. “Eu bod yn dymuno datgan eu diolchgarwch diragrith i’r pwyllgor yn Liverpool, y rhai a gychwynasant y symudiad er cael tysteb iddo, ac i’r gwahanol bwyllgorau sydd wedi eu ffurfio i’r un dyben — Ffestiniog, Llanelli, Rhos, Bethesda, Caernarfon, Caergybi, Llanuwchllyn, Wern, a Chaerfyrddin, yn nghyda’r pwyllgorau ddichon gael eu ffurfio eto er dwyn yr un amcan teilwng i ben yn anrhydeddus.

5. “Eu bod yn dymuno datgan eu parodrwydd a’u penderfyniad i gydweithredu a hwynt hyd eithaf eu gallu er cael tysteb deilwng o’r genedl ac o’r gwrthrych a’u gwasanaethodd mor ffyddlon a gwrol ar hyd ei oes yn mhob peth (x136)
ag oedd o duedd i’w dyrchafu yn wladol, moesol, a chrefyddol. Penodwyd Mynyddog yn Llywydd; R. Hughes, Ysw., Cwmcarnedd, yn Drysorydd; a Mr. E. Davies, yn Ysgrifenydd.”
Dywed Maurice Jones i’r adroddiad gael ei anfon i’r Faner yn nglyn a hanes yr eisteddfod, ond nis gallai y Gol. gyhoeddi yr un gair o hono.


“Gwrthodwyd,” meddai, “dychwelyd yr ysgrif, am ei bod wedi myned i’r ‘fasged,’ a rhoddwyd hi yno am nas gallai y Gol. ei chyhoeddi. Ond paham nas gallai ? Gallodd gyhoeddi adroddiadau llu o eisteddfodau eraill a gynhaliwyd dydd Nadolig.
Mae genym esponiad i ni ein hunain ar y paham. Mau cwibl y Faner gyda’r dysteb hon yn arwyddo nad oedd yr awdurdodau, ‘rywfodd,’ yn ffafriol iawn iddi; ond yn mlaen y mae yn myned yn ardderchog yma fel mewn manau eraill. Mae tanysgrifiadau ysgolion y Capel a Tafolwern yn ₤40. Ni dderbyniwyd y cyfrif o’r pedair ysgol arall. Anfonwyd yma gan bedwar o gyfeillion S.R. ₤16 1s. Os gwna rhywrai yn gyffelyb eto, diolchwn iddynt am eu cyfarwyddo i’n Trysorydd, via Oswestry.” Ymddengys na fynai y Faner gyhoeddi adroddiad o weithrediadau yr eisteddfod hono, rhag, drwy hyny, roddi cyhoeddusrwydd i’r dysteb a dychweliad S. R. Sut bynag am hyny, cynyrchodd yr eisteddfod hono groesawgerdd ardderchog. Dywed y beirniad Tafolog am dani, “ Mae yn gân ragorol, ac yn dangos angherddolrwydd teimlad.” Prin y gellir cael geiriau yn yr iaith i osod allan deimladau mwy tyner, a chydnaws â theimlad Cymru ar y pryd. Mae yn sicr y bydd yn dda gan y rhai sydd yn cofio yr adeg weled y gân, a bydd yn werth i’r to ieuengach ei darllen, er eu cynorthwyo i ddeall gwir safle S. R. yn marn a theimlad ei gydgenedl. Argraffwyd rhai miloedd o honi, a thaflwyd yr elw i drysorfa y dysteb.
.............................“Ymdaenodd cymyl hiraeth prudd
...............................Dros holl awyrgylch Cymru fad,
........................Ac wylo bu byth er y dydd
...............................Y cefnodd Roberts ar ei wlad. (x137)
........................Aeth lawer gwaith yn drist ei bron,
........................I ddyweud ei chw^yn yn nghlust y dòn,
........................A gyru’r genadwri hon
...............................Ar edyn chwa i Tennessee: —
........................‘O! fab athrylith! tyr’d yn ol,
........................Derbynia Cymru di i’w chô1,
...............................Mae’n wylo am dy weled di!’

..............................“Cei eto ddringo’i bryniau iach,
...............................Ac yfed ei hawelon mwyn
........................Fel cynt, — pan oeddit blentyn bach,
...............................Yn nghanol gwenau serch a swyn;
........................A phletha’r Cymry’u breichiau am
........................Dy wddf o gariad — megys mam
........................Am wddf ei baban bach dinam;
...............................O! tyr’d yn ol i Gymru fad!
........................Cei lonydd yma, Roberts wiw,
........................Fel cynt, i wir addoli’th Dduw,
...............................Yn nhemlau dy hynafol wlad.

.............................“Ond nid oedd serch gobaith cu
...............................I’w gweled am flynyddoedd maith;
........................Gwatwarai’r tonau’n lleddfol gri,
...............................A gwawdiai’r gwynt o hyd ein hiaith!
........................Amheuaeth lanwai tyner fron,
........................A gwynt anobaith rewai hon,
........................Tra hiraeth megis ton ’rol ton
...............................Yn chwyddo môr ein teimlad cudd!
........................Ond yn ddisymwth torodd gwawr,
........................Trwy wyll anobaith du yn awr,
...............................‘Daw Roberts ’nol!’ O! henffych ddydd!

.............................“Gwladgarwch megis duwies gu
...............................A ddawnsiai o lawenydd pur,
........................Wrth edrych ar yr adeg i
...............................Gofleidio’i phlentyn cyn bo hir!
........................Llenyddiaeth Cymru wenai’n fwyn,
........................A Rhyddid wisgai newydd swyn,
........................Tra’r awel fel yn falch o ddwyn
...............................Y newydd i’w gyfeillion mad;
........................‘S. R. y llenor, bardd a sant, -
........................Pur noddwr moes ei oes a’i phlant,
...............................Sy’n d’od yn ol i’w anwyl wlad.’

(x138)
..............................“Ar edyn gwefrau gwyllt yr aeth
...............................Y newydd i bob cwr o’n tud,
........................Ar danau teimlad taro wnaeth,
...............................Nes llwyr wefreiddio’n serch a’n bryd.
........................Hawddamor frawd, mae Cymru wiw,
........................Fu flwyddi maith a’i bron yn wiw,
........................Yn barod i dy dderbyn — clyw
...............................Ei chroesaw-gerdd yn awr i ti: —
........................‘Os yw dy fron yn artref loes,
........................A thithau’n nod i wyntoedd croes,
...............................Helyntion blinion Tennessee.

.............................“Os bu magnelau maes y gâd
...............................Yn gyrru braw i’th fynwes gu,
........................Nes gwneud i ti a’th deulu mad,
...............................I fod yn ddeiliaid dychryn du;
........................Os surodd amgylchiadau byd
........................Win dy gysuron bron i gyd,
........................Paham yr wyli’n isel fryd ?
...............................Gwel freichiau tyner Cymru wen
........................Yn barod i dy dderbyn di;
........................Cei wir dosturi ganddi hi,
...............................A choron cariad ar dy ben!

...............................“Caiff balm o gydymdeimlad pur
...............................Ei dywallt i dy fynwes friw:
........................Iacheir dy glwyfau a dy gur
...............................A charedigrwydd o bob rhyw.
........................Os bu cenfigen hyll a brâd
........................Cyfeillion gau — dieflig had,
........................Yn taflu arnat frwnt sarhâd,
...............................Mae calon ddidwyll Cymru lân
........................Yn dân o serch tuag atat ti,
........................A gwisga’i gwyneb wenau cu,
...............................I’th roesaw’n ol â dawns a chân!

..............................“Mor llawen ag yw’r blodau heirdd,
...............................Wrth roesaw gwên yr huan mawr,
........................Yw teimlad pur plant ‘Gwlad y beirdd,’
...............................I’th roesaw di yn ol yn awr! (x139)
........................Os balch yw’r byd o’i degwch prid,
........................O’i flodau cain, a’i dlysni’i gyd,
........................Mwy balch yw calon meib dy dud,
...............................O gael dy weled eto’n fyw,
........................Ar dir dy enedigol wlad,
........................Sef cartref llwch dy rïaint mâd,
...............................A thyrfa o dy geraint gwiw!

..............................“Bydd Llanbrynmair yn gwisgo gwên
...............................Wrth estyn i ti ddeheulaw;
........................Ieuenctyd siriol gyda’r hen
...............................I byrth y dref i’th roesaw ddaw;
........................Braidd na ddiosga’r bryniau ban,
........................A’r twyni heirdd o gylch y fan,
........................Eu gwisg auafol ymaith pan
...............................Canfyddant dy wynebpryd llon,
........................Er gwisgo hafaidd wisg i gyd,
........................I roesaw Roberts o un fryd
...............................Yn ol i’r ardal anwyl hon.

..............................“Daw beirdd dy enedigol wlad
...............................I ‘lan y môr ‘ i’th gwrdd yn llu,
........................A phlella’r awen gathlau rhad, .
...............................‘Hawddamor adref blentyn cu.’
........................Os buost fyw yn ddeiliad cur,
........................Ar dir Amerig bell yn hir,
........................Mae yn dy ddysgwyl gysur pur,
...............................Rhwng bryniau cribog Gwalia fâd,
........................Chwi dònau’r aig distewch a’ch rhu, ‘
........................A thithau wynt na wga’r lli,
...............................Nes cludo Roberts ’nol i’w wlad.

..............................“Na lwfrha tra ar dy daith;
...............................Os marw torf o’th geraint gwiw,
........................Mae’r Gymry’n siarad yr un iaith,
...............................Ac yn addoli yr un Duw;
........................Yr un yw gwedd ein bryniau serth,
........................A’n holl ddaneddog greigiau certh:
........................Mae’r Wyddfa a’r Eryri ferth,
...............................Yn sefyll heddyw megis cynt;
........................Mae baner heddwch ar ein mur,
........................A mwyn alawon rhyddid pur,
...............................O hyd a genir yn y gwynt.

(x140)
..............................“Mae’r CRONICL BACH yn fyw yn awr,
...............................Yn barod i’th roesawu di;
........................Fe’th amddiffynodd megis cawr
...............................Rhag saethau llym cenfigen du,
........................Pan oedd ystormydd o bob rhyw
........................Yn chwythu arnat Roberts wiw;
........................A thithau megis llong heb lyw,
...............................Rhwng tonau amgylchiadau blin;
........................Ond ar ol cyrhaedd Cymru fwyn,
........................Drwy’r CRONICL BACH cei dd’weud dy gwyn,
...............................Wrth genedl gydymdeimla’n gun.

..............................“Paid oedi, - brysia i dy daith, -
...............................Mae Cymru yn hiraethu am
........................Dy weled yma cyn yn faith,
...............................Ac O! fe rodda ’i chalon lam,
........................Wrth fwyn gusanu’i phlentyn mad,
........................Fu’n alltud mewn estronol wlad,
........................Yn byw mewn gofid, llid a brad,
...............................Yn wylo’n hidl am yspaid hir.
........................Ac ah! pa fodd y teimli di,
........................Wrth dderbyn tysteb ganddi hi,
...............................Fel arlun byw o’i theimlad pur ?

.............................“Cyn gorphen y ‘GROESAWGERDD’ hon,
...............................Ai gormod gofyn i ti air, —
........................A wnei di drigo mwy yn llon,
...............................Fel cynt, yn ardal Llanbrynmair?
........................Os gwnai, cei dreulio nawn dy oes,
........................Yn ddedwydd uwch corwyntoedd croes,
........................Fu’n rhwygo’th fron ag ingawl loes.;
...............................A phan y machlud haul dy ddydd,
........................Cei huno’n mynwes Cymru wen,
........................Tywallta hithau uwch dy ben
...............................Dryloewon ddagrau hiraeth prudd.”
.....................................................................“GERAINT GOCH,” Glan Cunllo.

Bu llawer o feirdd eraill yn chwarae ar yr un tant, rhai yn edrych ar S. R. o un cyfeiriad, eraill o gyfeiriad arall, a phe casglesid holl gynyrchion croesawol yr awen iddo, gwnelsai lyfr lled fawr. Wele nifer o benillion o gan o eiddo Gutyn Ebrill:—

(x141)
.............................“Cwrlid brith dros ddaear Maldwyn
...............................Wnelai ei ysgrifau ef,
........................A’i resymau rhag camwri
...............................Wnaethai iddi gadwen gref; ‘
........................Crach stiwardiaid ei huchel-wyr
...............................’Sgydwodd a beiddgarwch cawr—
........................Gyda thrist dyddynwyr Cymru
...............................Cydymdeimlodd lawer awr.

.............................“Gwaeddai ef am ddiwygiadau,
...............................Pan y chwarddai brodyr lu
........................Am ei ben, - ei fod yn llamu,
...............................Yn rhy wyllt o’r dull a fu;
........................Yn ei flaen ai Samuel Roberts,
...............................Er gwatwareg mil a mwy:
........................Erbyn heddyw mae’i gynlluniau
...............................Wedi troi i’w gwatwar hwy.

.............................“Teyrnas heddwch ddarfu bleidio
...............................Yn frwdfrydig drwy ei oes;
........................Mynai weinio’r cledd a’r fagnel,
...............................Serch i’r llu fod iddo’n groes:
........................Mynai ef resymu ’stormydd
...............................Gwlad ac eglwys bob yr un,
........................Heb lyfethair na gorfodaeth,
...............................Ond iawnderau dyn i ddyn.

..............................“Dydd cymylog iawn i Gymru
...............................Ydoedd diwrnod colli Sam,
........................A chymylog iddo yntau
...............................Fu ei fyn’d at feibion Ham;
........................Ow! bu agos i’r gwrthryfel
...............................Fyn’d a’i fywyd gwerthfawr ef,
........................Yn ysglyfaeth i gynddaredd
...............................Pleidiau ffol Amerig gref.”

Ac er fod y Faner yn agored led y pen i wrthwynebwyr S. R. i’w bardduo fel y mynent o dan ffugenwau, ond yn gauedig yn erbyn ei gefnogwyr, eto myned rhagddi yr oedd y dysteb, a’r teimlad am weled S. R. yn dychwelyd yn myned yn fwy angherddol gyda phob ymosodiad. Ceir syniad lled gywir o’r teimlad cyhoeddus ar y pryd yn yr englyn canlynol: —

(x142)
CROESAWIAD I S.R. I GYMRU.
...............“De a Gwynedd gydgana — eich mawl gwych,
......................Mê1 y gan gewch yma;
................A Seion a’ch croesawa, - ’n ddiarbed,
................A chewch weled os dewch i Walla.”
............................................................................LLAIS Y WLAD.


Ymosodid yn awr, nid ar S.R. yn unig, ond hefyd ar bwyllgor y dysteb yn Liverpool, a’r holl bwyllgorau lleol oedd yn cydweithio a hwy; a gobeithid drwy yr ymosodiadau hyn a chau y Faner y llwyddid i ddychrynu cefnogwyr y dysteb, ac y llethid y symudiad. A buasid, mae’n sicr, wedi gwneud hyny i raddau oni buasai am y Cronicl, yr hwn a ddeuai bob mis drwy y wlad fel heddgeidwad, gyda’i lusern, i daflu goleuni ar gonglau tywyll, ac i gyhoeddi ar benau tai yr hyn a wneid yn y dirgel. Hyn, mae’n ddiau, oedd dechreuad y casineb at y Gronicl.


Yn mhlith y rhai mwyaf llafurus o’r cwmni oedd dros lethu y dysteb, ceir enw C.R. Jones, gwr sydd wedi bod bob amser yn dra gwasanaethgar i’w gyfeillion: aeth lawer tro ar ei ben yn ddwfn i’r llaid drostynt, heb gael ond tâl digon bychan yn y diwedd. Yr oedd efe, dealler (rhwng cromfachau), yn gydymaith i’r Parch. J. Thomas, Liverpool, yn America yn 1865, pryd y gwnaed trefniadau mawrion ar gyfer “rulio” Independia Cymru yn y dyfodol; ond nid oeddynt yn breuddwydio y gallai S. R., yr hwn oedd yr amser hwnw yn ddigon isel-galon, fod byth yn graig rhwystr, o ba herwydd rhoddwyd iddo wybod rhai o ddirgelion y deyrnas oedd i gael ei sefydlu. Yn hanes Cymanfa Oneida y flwyddyn hono, cawn fod C.R. Jones yn llanw lle tri o weinidogion, ac yn ol y Dysgedydd, diolchai Morris Roberts, Remsen, yn gynes am ei wasanaeth. Yr oedd gweinidogion ac eglwysi Maldwyn wedi anfon gwahoddiad cynes i S.R. i ddychwelyd i Gymru, ac yn nghyfarfod chwarter Maldwyn, Mawrth, 1866, yr ydym yn cael C.R. Jones yn darllen atebiad S.R. i’r gwahoddiad hwnw. Yr oedd C.R. yn (x143) barod dros ben i wneud rhyw fân swyddi fel hyn, hyd yn nod i S. R., ond nid oedd eto son am y dysteb; a chymerid yn ganiatâol, os dychwelai S.R. rywbryd i Gymru, y byddai raid iddo ddychwelyd a gofyn, “A welwch chwi yn dda, wyr urddasol, i oddef i hen bechadur gael llechu dan eich cysgod am weddill ei oes, a bydd yn dda ganddo gario dwfr a thori coed i chwi am ei damaid.” Yr oedd gwneud tysteb iddo, gan hyny, iddynt hwy, yn fustl a wermod, ac nid oedd gweled aelodau o’u heglwysi eu hunain yn cymeryd rhan flaenllaw yn y symudiad, yn ddim amgen crogi Haman ar ei grogbren ei hun.

 
Yr oedd y Faner wedi bod yn gauedig er ys talm yn erbyn cefnogwyr S. R., ond ymddengys nad oedd hyny yn talu*, (*OL-NODYN: Yr unig argument mae’r Faner yn ddeall yw colli cylchrediad.) a chyhoeddodd y Gol. y cai pleidwyr y dysteb gyhoeddi llythyr i ateb C.R. Jones, ac ysgrifenodd J.R. y llythyr canlynol, ond gwrthododd y Faner ei gyhoeddi: —

“Y mae llythyr diweddaf C.R. mor ddisail a chableddus, fel yr wyf yn argyhoeddedig mai y peth goreu fyddai ei adael i’w ateb a’i ddinystrio ei hun, yn nghyd a chymeriad ei awdwr. Nid wyf, chwaith, yn ystyried eich bod chwithau wrth ail-agor y drws yn gwneud gormod o chwarau teg â ni. Ni wnaethom ond sefyll ar yr amddiffynfa, pan ymosodwyd arnom mor ddiachos a phe yr ymosodasid ar Stephan y Merthyr. Ysgrifenem y gwir yn hollol foneddigaidd, a rhoddodd pob un ei enw wrth ei ysgrif. Ni ellir dyweud hyn am ein gwrthwynebwyr. Awgrymwyd lawer gwaith yn y Faner mai C.R. ydyw ‘Cyfaill.’ Dylai y Gol wadu hyn, canys gwadodd nad eraill yw, pan nad oedd neb wedi awgrymu na meddwl am danynt. Fel hyn y bu. Ymosododd ‘ Cyfaill’ yn frwnt iawn ar gychwynwyr y dysteb, ac ar yr un pryd ymosododd ‘Anibynwr,’ un o’r cwmni, ar J. R., gan geisio dyrchafu J. T., Lerpwl. Yr ydym yn casglu oddi wrth yr esgusawd fod ar y Gol. gywilydd o hwn. Yna daeth tad C.R. allan, fel efe ei hun, ac ymosododd yn benaf ar J.R. a’r Gronicl. Wedi hyny, daeth C.R. allan fel yntau ei hun, ac ymosododd ar bawb. Cafodd J.R. (x144) drosto ei hun, a Mr. Parry dros gyfeillion Lerpwl, wneud ychydig sylwadau; yna ymddangosodd llythyr olaf C.R. Ac os medrwch chwi, Mr. Gol., ddangos colofn a haner yn dangos y fath haeriadau disail, ac iaith mor anfoneddigaidd, mewn unrhyw bapyr a gyhoeddwyd erioed yn Nghymru, rhoddaf ‘Daith y Pererin’ yn wobr i chwi, a chwanegaf at hyny ‘Orphwysfa y Saint’ os medrwch ddangos rhywbeth cyffelyb o’r ochr arall. Dyma ychydig engreifftiau o lythyrau C.R. a’i dad:—


“ Darparu abwyd mae y ‘Cronicl’ i ddynionach ymrysongar a chynhenus.’ — ‘Dynionach ymrysongar a chynhenus yw y rhai a’i pleidiant. — ‘Y ‘Cronicl’ yw champion rebels yr eglwysi.’ — ‘Mae poblogrwydd y ‘Cronicl’ yn debyg i’r eiddo ‘Calcrafft,’ neu ddaeargwn a ymladdant ar faes y gymanfa.’ — ‘Faction cenfigen a spite yw cychwynwyr y dysteb yn Lerpwl, heb ganddynt y mymryn lleiaf o barch i S.R.’ — ‘Gwnaeth y ‘Cronicl’ fwy na dim arall yn Nghymru y 12 mlynedd diweddaf i wrthwynebu dylanwad crefydd efengylaidd yn ein heglwysi.”


“Clywodd C.R. fwy na deuddeg o weinidogion yn dyweud eu bod yn cydolygu ag ef am y peth olaf, ond ni enwa’r un o honynt. Mae yn rhyfedd nad ydynt am roddi eu henwau nac ymddangos yn erbyn peth a wnaeth fwy o niwaid na meddwdod yn ein heglwysi y 12 mlynedd diweddaf.

.. “Buasai Gol. y Cronicl, Syr, yn cefnu ar yr arolygiaeth am byth, yn cymeryd ei ysgrepan ar ei gefn, ac yn myned i fugeilio defaid Hiraethog, cyn y buasai yn cyhoeddi pethau fel yr uchod am y Faner a’r Gol., heb sail iddynt. Buasai yn foddlon gadael yr ymadroddion hyn yn y Cronicl heb air o esponiad, ond y mae eu cyhoeddi yn y Faner yn wahanol, canys y mae canoedd yn ei darllen hi nad adwaenant mo’r Gronicl na C.R.


“Ond yn un o’r Banerau o’r rhai y dyfynwyd y brawddegau uchod, ysgrifena yr adolygydd fel ‘hyn am y Cronicl:—


‘Nodweddir Cronicl lonawr, 1867, gan yr holl ragoriaethau sydd wedi enill iddo boblogrwydd mor fawr, sef yspryd bywiog, mater ac iaith swynol, a beirniadaeth (x145) ddi-dderbyn-wyneb ar bynciau y dydd; ac y mae yr amrywiaeth sydd ynddo yn ychwanegu llawer at ei swyn. Nid ydym yn synu dim fod ei boblogrwydd yn para.’


“Rhaid i’r darllenwyr benderfynu fod naill ai C.R. ai yr adolygydd yn cymeryd trafferth i’w twyllo, a bod un o’r ddau yn cymeryd rhyddid echryslon i wyrdroi y gwirionedd. Dywed Mr. Gol. nad oes enw newydd i gael ei dynu i’r ddadl, ond y mae C.R. wedi tynu iddi enwau 170 weinidogion, ac y mae yn anmhosibl i mi amddiffyn fy hun heb sylwi ar y rhai hyny. Myn C.R. a’i gwmni fod J.R. yn ymosod, os na saif yn darged i’r neb a fyno ollwng eu picellau ato.”


Yna enwa restr o’r achosion y cyhudda C.R. y Cronicl o fod yn ymosodwr, a’r diweddaf a enwa yw y ddadl ar Natur Eglwys a’r Dr. Edwards o’r Bala:—


“Mae ganddo baragraph maith ar hyn. Gw^yr y Dr. mai efe a ymosododd ar Anibyniaeth. Atebwyd ef gan y diweddar Barch. T. Parry, Ruthin; ond nid oedd hyny yn ddigon gan Anibynwyr. Anfonid llythyrau oddiwrth bersonau a chynadleddau i ddeisyf ar S.R. i ddyfod allan. Ni bu neb yn daerach arno na thad C.R., yr hwn oedd yr amser hwnw yn Ol. y Dysgedydd. Bu S.R. yn gyndyn i gydsynio, fel y dywed yn rhagymadrodd y ddadl. Ond ysgrifenodd, ac yn awr mae C.R. y mab yn nodi hyn fel un o ‘ymosodiadau y teulu.’
Da genyf fod y mab yn dangos pa fath un ydyw. A oes yr un o’r rhai a enwa a ddaw allan i gefnogi ei haeriadau? Cai y Cronicl felly gyfle i esbonio, ac os profid mai J. R. fu yr ymosodwr, cai C.R. y clod am y’sgrifenu un gwir.” “Diolchaf hyd fy medd fod yn Nghymru fwy nag un wasg. Os clywaf fod y Faner eto yn dadleu o blaid rhyddid y wasg, neu ryw ryddid arall, gwn pa bwys rydd fy nheimladau ar ei geiriau. Nos da iddi. J. R.”


Ond yn ei blaen yr oedd y dysteb yn myned, er pob ymosodiad — pwyllgorau newyddion yn cael eu ffurfio yn mhob cyfeiriad, a’r rhai hyny yn llefaru yr un iaith, a hono mor groew fel nad oedd modd camgymeryd. Gwnai rhai eu trefniadau ar goedd y gynulleidfa ar y Sabbath, gan yr ystyrient fod amddiffyn gwirionedd yn nglyn ag S.R. yn (x146) wasanaeth mor grefyddol ag oedd gwaith Iesu yn bwrw allan gythreuliaid. Dywedai cyfeillion Ffestiniog na wyddent am neb wedi gweithio mwy nag S.R. o blaid pob achos cydweddol â’r efengyl, ond fod rhai dynion yn ddigon rhyfygus i ymosod yn haerllug a digywilydd ar y fath wron duwiolfrydig. Galwent arno i dalu ymweliad buan â’r hen wlad, — fod yma filoedd yn awyddus am ei glywed yn pregethu ac yn areithio. Llawnodwyd y penderfyniadau gan C. Thomas a Cadwaladr Jones, Diaconiaid.


Yn Penygroes yr oedd yr unfrydedd mwyaf — y Parch.
E. J. Evans yn Gadeirydd; O. Roberts y Post Office, yn Ysgrifenydd; a’r Dr. Williams yn Drysorydd. Yr oedd pawb yn Earlestown yn barod ar unwaith — D. Hughes yn Gadeirydd; D. Griffiths ac R.O. Roberts yn Ysgrifenyddion; a H.P. Morris yn Drysorydd. Yn Talsarn yr oedd y Parch. E. Jones yn Gadeirydd; Rees y Creigiau mawr yn Drysorydd; a Jones, Penyrorsedd, yn Ysgrifenydd. Ysgrifenai Robert Thomas o Rymni, —

 

“Y Cadeirydd yw y Parch. R. Roberts, Graig a Gosen; y Parch.W. P. Davies yw yr Ysgrifenydd; a’r Parch. George Owens yw y Trysorydd. Ymdrechwn er gwaethaf camgyhuddiadau gelynion ddangos parch i’r hwn yr ydym yn chwenych ei anrhydeddu. A hefyd, am fod Cymanfa Mynwy y flwyddyn nesaf i gael ei chynal yn Seion, Rhymni, dangoswyd awydd mawr am i S.R. dalu ymweliad â ni ar y pryd i bregethu neu ddarlithio. Mae yma ganoedd yn chwenych ei weled.”


Rhoddwn yma ddyfyniad o lythyr cyfeillion Tredegar: —


“Pe na buasai S.R. ond llenor a bardd cawsai dderbyniad croesawgar, ond gan ei fod yn llenor, bardd, a sant, ac ychwaneg na hyny, sef gweinidog yr efengyl dragywyddol, a’i bregeth yn wastadol fel ‘cân cariad un hyfrydlais,’ mae y teimlad yn llawer mwy cynhesol a thanbeidiol. Cawsai groesawiad anarferol iawn, heb y sarhad a daflwyd arno gan ei gyfeillion camgymeriadol, y rhai yn rhy fyrbwyll a gondemniasant ei farn wleidyddol, ac a fynent, gallesid (x147)
meddwl, ‘rwymo maen melin o amgylch ei wddf,’ fel dyn cyhoeddus; ac yn awr wedi i’r fath anturiaeth anffortunus gael ei gwneuthur a throi yn fethiant, mae teimlad y wlad wedi codi fel ‘ymchwydd yr Iorddonen;’ y mae wedi ymdaenu fel dylif drwy y Dywysogaeth oll, ac yr ydym ninau yn awr ar ben mynyddoedd duon Mynwy yn nofio ynddo.

“S.R. anwyl, os wyt ti yn meddwl dychwelyd byth, dychwel yn awr. Mae spring tide teimlad y cyhoedd o’th du, yn lle maen melin am dy wddf i’th foddi, —

................................‘Fe bletha’r Cymry’u breichiau am

.................................Dy wddf o gariad megis mam

.................................Am wddf ei baban bach dinam.’


Mae yma lawer o bethau pwysig yn parhau yn ddigyfnewid yn ein plith. Mae’r Ysgol Sul yn ein plith fel tywysoges mor gymeradwy ag erioed, — mae’r ‘hen hwyl’ anwyl fel gwres o’r nefoedd yn ein cyfarfodydd, yr hen benillion fel blodau paradwysaidd heb golli eu perarogl — a diolch, —

................................’Mae’r iachawdwriaeth fel y môr,

.................................Yn chwyddo byth i’r lan.’


A goreu oll, mae Iesu Grist ddoe a heddyw yr un ,—

.................................‘Cyfnewidiol ydyw dynion,

..................................A siomedig yw cyfeillion,’

..................................Hwn a bery byth yn ffyddlon,

............................................Pwy fel efe?’


“Mae gweinidogion Anibynol Tredegar a’r gymydogaeth yn uno i wneuthur rhyw gymaint at dysteb S.R. Penodwyd D. Hughes, Manchester House yn Drysorydd, J. Thomas, gweinidog Zoar yn Ysgrifenydd. Mae rhai o’r brodyr wedi gwneud cryn ymdrech eisoes gyda’r symudiad, yn enwedig y Parch. D. Hughes, B.A, Saron. Yr eiddoch,
................................ ................................J. THOMAS, Zoar.”


Fel hyn y dywedai Henry Richard, un o brif arweinwyr cyfeillion rhinwedd yn ei ddydd, —

 

(x148) “I have the highest possible respect for the Rev. Samuels Roberts. Few men living have rendered greater services to the Principality of Wales than he has done. For many years he was foremost in every good work, labouring incessantly by tongue and pen and purse, to promote the material, moral, and spiritual prosperity of his country. I very cordially approve of the proposal to present a testimonial to him, expressive of the esteem and admiration in which he is held by thousands, both in this country and America.
HENRY RICHARD.”


Gwnaeth H. Richard ei ran yn dda gyda’r pwyllgor yn Llundain i hyrwyddo y dysteb yn ei blaen.
Rhoddwn yma eto ranau o lythyr un T. Jones, o Liverpool,—-


“Er nad wyf yn un o bwyllgor y dysteb, yr wyf yn adnabod rhai o honynt, ac y mae genyf barch iddynt fel brodyr crefyddol, a pharch i’r gwirionedd, fel nas gallaf ymatal heb wneud ychydig nodiadau. Mae rhai o honynt yn ddiaconiaid, a’r oll yn aelodau parchus, ac iddynt air da yn yr holl eglwysi.


“Os ydynt yn euog o’r hyn a ddygir yn eu herbyn, rhaid fod yr eglwysi yma wedi myned yn llygredig dros ben. Ond gwel pob darllenydd diragfarn mai cenfigen sydd lon’d calon yr ymosodydd at y symudiad, a’i fod yn treio tori cymeriad y dynion hyn fel na byddo i’r wlad gydweithio a hwy; ond yn mlaen mae y dysteb yn myn’d, ac yn mlaen yr ä, a byddai yr un mor hawdd i C.R. symud y Wyddfa a rhwystro hon. Mae y miloedd yn gwybod ac yn teimlo beth wnaeth S.R. dros ei genedl, ac y maent am ddangos parch i’r gwr y mae parch yn ddyledus. Mae y pwyllgor a gychwynodd y symudiad yn haeddu y gefnogaeth wresocaf. Ac nid yw y cyhuddiadau a ddygir yn eu herbyn ond haeriadau disail. Dywedir eu bod yn anadnabyddus,— anadnabyddus i bwy, tybed? I’r ymosodydd mae’n debyg. Maent yn adnabyddus drwy yr holl eglwysi yma. Ac ni fyddai ei fod ef yn eu nabod yn eu gwneuthur un mymryn yn fwy teilwng, am wn i. Ai tybed fod yn rhaid iddo ef nabod pawb gyda phob symudiad da cyn eu bod yn deilwng o gefnogaeth? Gelwir hwynt yn ‘faction y dysteb,’ hyny yw, (x149) plaid derfysglyd. Dymunem ofyn, pa derfysg gododd y dynion hyn gyda’r symudiad hwn neu unrhyw symudiad da arall? Na rodded y gwr ei gymeriad ei hun i’r dynion hyn. Ni wnaethant y terfysg lleiaf, ond yr oeddynt am ddangos parch i’w hen gyfaill S.R., a’u cydymdeimlad ag ef yn ngwyneb y blinderau a’i cyfarfu drwy wneuthur tysteb iddo. A dyma y gwr hwn yn rhuthro arnynt drwy y Faner, ac yn treio argraffu ar y wlad nad oeddynt deilwng o gefnogaeth. Mae yn ymddangos fod y gwr wedi cael clefyd melyn cenfigen yn bur drwm, fel y mae yn gweled y dynion hyn yr un lliw ag ef ei hun. Mae y clefyd yn un peryglus iawn, fel y dywed y gwr doeth, ‘cenfigen a ladd ei pherchenog.’
.....................................................................................T. J., Liverpool.”


Tra y chwyrnai yr ymosodiadau fel crackers o wahanol gyfeiriadau, i’r rhai, mae’n wir, nid oedd gallu wedi ei roddi i wneud niwed i neb. Canai awen Bryniog fel hyn:—


...................................“’Leni, dros y lli wr llad, — anturia
..........................................Wynt eirian dy hen-wlad,

.....................................Ar bob llaw cei groesawiad

.....................................Yma’n wir, a phob mwynhad.

 


...................................“Y gwron! ein serch a gura — atat

.........................................Ti etto yn Ngwalia;
......................................Heb frad na gwyn, i’r dyn da,

......................................Samuel, wyt hoffus yma.

 


................................... “Ys emawg gwnai resymu, - am ryddid,

...........................................Mawr heddwch wnai garu;
......................................Mae’n wych elyn — myn chwalu,

......................................A’i rym doeth, bob gorthrwm du.

 


................................... “Gwyr ein talaeth a hiraetha, - yn fawr,
.....................................Cei fil a’th groesawa;

.....................................O! tyred, ac anturia,

.....................................Yn rhwydd yn nhymor yr ha’.

Bala.......................................................................................................BRYNIOG.”


Teimlai S.R.erbyn hyn fod y “wlad” wedi cymeryd y ddadl o’i ddwylaw ef yn hollol, a bod y pwyllgorau, y (x150) penderfyniadau, a’r tanysgrifiadau yn atebion llawer mwy ymarferol ac effeithiol i’r gwrthwynebwyr na dim a fedrai efe ddyweud; a barnodd yn ddoeth adael iddynt gael eu ffordd, gan wybod y byddai iddynt yn fuan redeg eu hunain allan o wynt. Ni wnaeth fawr sylw o honynt ar ol hyn, oddigerth gair byr at hen Olygydd y Dysgedydd. Dywed am, neu wrth hwnw, fel hyn:—


“Yr wyf yn gweled fod ‘Hen Olygydd y ‘ Dysgedydd’’ newydd anfon allan drwy Gymru ac America, ar edyn llydain y wasg, gyfeiriad anfrawdol at ‘yspryd hunanol ac ymrysongar’ ei hen gyfaill S.R. Mae yr hen S.R. weithiau dan brofedigaeth i fod yn ‘hunanol ac ymrysongar’ fel eraill o blant Adda. Yr adeg y bu fwyaf ‘hunanol ac ymrysongar’ yn ei holl oes, oedd bymtheg mlynedd ar hugain yn ol, pan fyddai ‘Hen Olygydd y Dysgedydd’ yn curo ei gefn am ‘ymryson’ o’i du ef a’i egwyddorion a’i gynlluniau yn y Dysgedydd drwy y blynyddoedd cyn cychwyniad y Cronicl. Cawsai yr hen S.R. ‘ymryson’ yn ddiorphen yn y Dysgedydd heb gael ei gyfrif gan yr hen Olygydd yn ‘hunanol’ nac ‘ymrysongar.’ Ond gan iddo feiddio meddwl y buasai misolyn bychan ceiniog a dimau yn fuddiol i ieuenctyd Cymru, a chan iddo ryfygu cychwyn un felly ar ei draul a’i gyfrifoldeb ei hun, a hyny cyn cyhoeddiad Penny Magazine Dr. Campbell, aeth ar unwaith yn ddyn ‘ymrysongar’ a ‘hunanol’ yn nghyfrif hen Olygydd y Dysgedydd; ond ceisiaf faddeu i’m hen gyfaill eiriau pigog ei anfrawdgarwch, ond nid allaf yn hawdd eu llwyr anghofio, oblegid ni wnaethum ddim erioed yn ei erbyn i alw am y fath enllib. Yr oedd rhyw resymau ganddo am ddewis yr adeg bresenol i roddi ei frath dwfn i gymeriad ac i galon ei hen gyfaill S.R. Buaswn yn ddiolchgar iddo am ei gynghor, pe gallaswn gredu ei fod yn codi o galon gynes, lawn o frawdgarwch; ond nid tynerwch ei gariad a’i cynhyrfodd i gymhwyso mewn dull mor gyhoeddus y fath eiriau at ei hen gyfaill: nid o’r ‘yspryd addfwyn ag sydd ger bron Duw yn werthfawr,’ y daethant. Os o’i gariad y daethant, yr wyf yn foddlon iddo gael cysur oddiwrthynt; ond os o hen gronfa o genfigen y daethant, ni ddeillia iddo ef ddim diddanwch oddi wrthynt yn ei hen ddyddiau a’i oriau diweddaf.”

 
 

(x151) Wedi deall o S.R. fod y cyhoedd wedi cymeryd mewn llaw i ateb ei wrthwynebwyr, a bod llanw mawr y cydymdeimlad cyhoeddus yn chwyddo o'i du, newidiodd ei don, ac yn ei holl lythyrau o hyny allan mae yn edrych fel llong wedi codi ei hangorion yn barod i fyned ond cael gwynt. Ysgrifena Mai 31, 1866,-

 

"Mae awydd myned i'r hen wlad - weithiau yn fwy na llon'd fy mynwes. Nis gallaf ddyfod eleni, ond os caf fyw flwyddyn eto, yr wyf am dori drwy bob rhwystrau a phob digalondid. Yr hyn wyf yn ofni waethaf yw, effeithiau hen adgofion a hen olygfeydd, ac adnewyddiad hen gyfeillachau, ar fy nheimladau."

 

Ysgrifena Hydref 31, 1866,-

 

"Yr wyf yn gobeithio, os caf flwyddyn eto o fywyd, cael yr hyfrydwch o weled yr hen wlad cyn fy marw."

 

Rhagfyr 19, 1866, ysgrifena o Philadelphia,-

 

"Yn Chicago pregethais dair gwaith, a rhoddais ddau anerchiad yn addoldy y Trefnyddion Calfinaidd. Cyfarfum yno â fy nghyfeillion, y Parch. D. Williams, gynt o Llanidloes, a'r Parch. Moses Williams, a Mr. John Davies ac eraill o'm cydnabod. Yn Racine, Tach. 6 a 7, a Rhag. 2, cefais dair odfa a dau gymundeb gyda'r Anibynwyr, a darlith a phregeth yn addoldy y Trefnyddion Calfinaidd - y gynulleidfa yno nos Sabbath oedd y fwyaf a welais yn America oddigerth ar wyl cymanfa. Yr oedd y Parch. W. Hughes, gynt o Lanrwst, yn cael croesawu y diwrnod hwnw tua deuddeg o ferched ieuainc gobeithiol i gymundeb yr eglwys, ac y mae yno eto yn y gyfeillach dros haner cant o bobl ieuainc yn holi y ffordd tua Seion."

 

Cafodd ddwy odfa yn Milwaukee, saith o odfaon yn Cambria, yn Watertown, Spring Green, Prairieville, Arena, Ridgeway, Dodgeville, Bangor La Crosse, Portage City, Oshkosh, Rosendale, Big Rock, Aurora, Cincinnati, Columbus, Steubenville, Pittsburgh, a Johnstown. Dywed -

(x152) “Ni byddai ond math o gau-wylder i mi i beidio cyfeirio at y crybwylliadau am y dysteb, ac ni byddai ond rhagrith ffol i mi geisio celu fy nheimladau o ddiolch cynes i’m cyfeillion yn Nghymru am y fath amlygiad brawdgar o’u cydymdeimlad. Yr oedd y peth yn anisgwyliadwy i mi, fel mai prin yr oedd fy nghalon yn gallu credu tystiolaeth fy llygaid pan y gwelais gyntaf ‘benderfyniadau y cyfarfod yn Liverpool.’ Daeth yr adroddiad i Wisconsin, pan yr oeddwn ar daith yno; a phan yr oedd cyfaill i mi yn ei ddarllen, ac yn egluro yr amcan i gynhadledd o’i gyfeillion, yr oedd eu llawenydd yn gryf, ac amlygasant hyny â’u llaw ac â’u llais; ond yr oedd yno un yn y gyfeillach oedd wedi cael ei lwyr orchfygu, ac yr oedd yn gorfod cuddio ei wyneb â’i napcyn, er ceisio sychu y dagrau o serch ac o ddiolch oeddynt yn treiglo heb genad dros ei ruddiau.”

“Mae yr adgofion am yr oriau dedwydd a dreuliais gyda hen gyfeillion yn Nghymru, yn ymwthio i’m meddwl yn feunyddiol, ac y maent weithiau yn wledd i’m calon, ac, weithiau yn ei llenwi â hiraeth.”

Ysgrifena o New York, Ion. 1, 1867 at bwyllgor y dysteb:—

“Bu penderfyniadau eich brawdgarwch, a chynygion eich cydymdeimlad, yn nerth i’m calon pan oedd yn wan, ac yn godiad i’m meddwl pan oedd wedi bod yn hynod o isel am flynyddoedd. Fy ofn presenol yw, y bydd y cyfarfod yn Liverpool i weled wynebau fy nghymwynaswyr, ac i dderbyn offrwm eu cariad a’u cydymdeimlad, yn ormod i’m natur. Bydd y dydd hwnw, os caf fyw i’w weled, yn un o ddyddiau rhyfeddaf fy mywyd; ond bydd raid ceisio sefyll ei brawf, er y gwn y bydd fy nghalon yn fwy gwan a meddal, neu yn fwy cryf a chaled nag y gweddai iddi fod. Nid yw yn awr mor iach a chyfan ag oedd pan yn ymadael â chwi gyda’r brawd Price yn addoldy Salem, ddeng mlynedd yn ol. Yr oedd y cyfarfod hwnw yn gymaint a allai ddal. Cafodd ar ol hyny lawer archoll ddofn yn ei rhanau tyneraf, ac y mae yn rhyfedd na buasai rhai o honynt wedi, profi yn archollion marwol.

“Mae rhagddychymyg oddidraw am eich cyfarfod yn Liverpool, a chael ymweled wedi hyny â hen ardaloedd (x153) iachus tirion Cymru, yn gorchfygu fy nheimladau, hyd yn nod yn awr, pan mewn unigedd pell o gyrhaedd pob golygfa, a phob odfa o adgofion cynhyrfus am ein hen gyfeillachau yn y dyddiau gynt. Yr wyf yn ofni ein cyfarfyddiad nesaf, ond dichon y gallaf ddal eu hawelon cynes yn well na’m dysgwyliad. Yr wyf wedi gweled llawer dydd tywyll a niwlog, o bryder dwys, ac o brofiad chwerw, er pan ddaethum i America, ac yr wyf wedi cael nerth hyd yma i ddal dan y cymylau, ac yn wyneb y tymhestloedd. Bu cenfigen yn fy nghamliwio yn bur gas, ond y mae erbyn heddyw bron wedi gweithio ei hun allan o wynt. Chwythodd ei gwenwyn i bedwar gwynt y nefoedd; nis gall wneuthur i mi ond ychydig iawn o niwaid yn mhellach. Yr wyf yn awr yn ninas N. York, a byddai yn llai o lafur i mi ddyfod oddiyma i gysegr enwog Salem, nag a fydd i mi fyned oddiyma i gysegr bychan Brynyffynon.
 
“Ni waeth imi heb geisio celu fy nheimladau, mae fy hen galon lesg glwyfedig yn cynhesu drwyddi o ddiolchgarwch i’r cyfeillion ydynt yn gweithio mior frawdol ac mor effeithiol o blaid y DYSTEB.
 
“Yr wyf o galon lawn o wres yn dymuno ‘Blwyddyn newydd dda’ i’m holl gyfeillion yn Nghymru, blwyddyn o iechyd a nerth, o lafur a diwydrwydd, o ddefnyddioldeb a dedwyddwch, a gobeithio y cawn ar ol darfod â blinderus deithiau yr anialwch gyfarfod i gydgymdeithasu mewn gwlad lawn o beraroglau iachus, balmaidd bywyd anherfynol, mewn gwlad flodeuog, heulog, o wyrddlesni haf, na dderfydd, mewn gwlad o gariad, heddwch a gorfoledd, lle na bydd mesur dyddiau na blynyddoedd yn ol trefn gwyliau a thymhorau y ddaear.”

Eto ysgrifena o Brynyffynon Mawrth 21, 1867, ac amlwg yw fod y llanw yn codi yn gyflym o’i gylch, braidd na thybiech eich bod yn ei weled yn ysgwyd ar frig y tònau, ac yn gwaeddi, “let go the ropes.” Dywed,—

”Dichon y dylwn ysgrifenu ychydig eiriau o ddiolchgarwch at bob un o’r pwyllgorau, ond nis gwn pa fodd i wneud hyny. Yr wyf yn gobeithio, os caf fyw eto ychydig fisoedd, y caf yr hyfrydwch o’u gweled oll.”

“Byddaf yn dyfod drosodd wedi deng mlynedd o drallodion mewn talaeth bellenig, ond ni byddaf ond hen bregethwr egwan, bron (x154) darfod ei nerth, wedi bod ar y maes am saith mlynedd a deugain.”

“Ysgrifenaf yn fuan eto i nodi yr amser y bwriadaf gychwyn. Darfu i amryw gynulleidfaoedd yn Pennsylvania a New York erfyn arnaf droi ychydig o’r ffordd i alw heibio iddynt pan ar fy nhaith tua Chymru.
Carwn eu boddhau, os gallaf heb golli gormod o amser. Mae ynwyf ddyfnach hiraeth am weled Cymru a’m cyfeillion yno, nag a all fod gan neb yno am fy ngweled i.”

“Bydd y DYSTEB yn debyg o’m codi uwch ymchwydd un o’r tònau trymaf fu yn treiglo dros fy mhen drwy y deng mlynedd diweddaf, a bydd yn felus iawn i un gael ei anadl wedi bod gyhyd dan y dòn.”

Ebrill 2, ysgrifena o Brynyffynon,—

“Buaswn yn cychwyn yn ddioed, ond y mae fy iechyd drwy y chwech wythnos diweddaf wedi bod yn wael, a dichon mai pryder a gofid am fod rhai yn Nghymru anwyl a’u hanadl yn fy erbyn oedd y prif achos o’m hiselder.”

“Yr wyf yn gobeithio gallu cyrhaedd yna cyn pen pedwar mis, efallai cyn pen tri mis. Anfonaf air prydlawn pa bryd y byddaf yn cymeryd llong, yna cewch drefnu fel y barnoch yn ore.”


Dywed mewn llythyr a.ysgrifenodd Mai 1, at bwyllgorau a chefnogwyr y dysteb.

“Yr wyf yn gobeithio cyrhaedd yna cyn pen dau fis,— diwedd Mehefin. Nid wyf yn meddwl y buaswn yn cael na chalon na moddion i ymweled â gw1ad anwyl fy ngenedigaeth oni buasai eich caredigrwydd a’ch haelioni chwi o blaid y dysteb. Buaswn wedi cychwyn cyn hyn, ond y mae fy iechyd wedi bod yn waelach nag arferol drwy y tri mis diweddaf. Yr wyf yn awr yn gwella ac yn ymwroli at y daith.” .

Ysgrifena o Cincinnati Mai 28, “Yr wyf yn awr yn dechreu ar fy nhaith i ymweled â hen wlad fy nhadau.” Yr oedd Cincinnati yn fath o orphwysfa iddo - rhwng De a Gogledd. Dyna y lle nesaf i Tennessee yn Ohio, a thrwy fod yno lu mawr o Gymry parchus yn byw, llawer o honynt o Lanbrynmair a’r cylchoedd, yn gystal a llawer o hen gyfeillion eraill, yr oedd yn teimlo yno yn gartrefol iawn.

 


(x155) Byddai yn aros yno i gasglu nerth wrth fyned i Brynyffynon, yn aros yno i ddadluddedu wrth ddychwelyd o Brynyffynon. Cartrefai yn gyffredin naill ai gyda theuluoedd y Griffisiaid o Lanbrynmair, neu gyda meibion y diweddar Barch. S. Griffiths o Horeb, Sir Aberteifi. Tybed y gallasai S. R. gadw caethion yn Tennessee, neu wneud rhywbeth yn y cyfeiriad hwnw, heb i hyny gyrhaedd i glustiau y teuluoedd hyn? Tybed na fuasai y teuluoedd hyn yn rhoddi tystiolaeth yn ei erbyn pe yn gwybod? Os nad oedd ei gymydogion agosaf yn gwybod am ei gaethion, pa fodd y daeth pobl o bell i wybod?

Pan welodd y cyfeillion yn America fod pwyllgor Liverpool wedi rhoddi datganiad i’w teimladau yn Nghymru, a bod pwyllgorau yn cael eu ffurfio drwy y wlad, y rhai a daflent yr enllibau, y camgyhuddiadau, a'r anwireddau yn ol gyda dirmyg i wyneb y gwrthwynebwyr, penderfynasant hwythau wneuthur eu rhan yn yr un cyfeiriad: codasant ati ar ffrwst, ac er mor wasgedig oedd yr amser — pethau heb ddyfod i drefn ar ol y rhyfel, - hwy a wnaethant iddo mewn ychydig ddyddiau anrheg o dros ₤350.

Rhoddwn yma ddyfyniadau o ddau lythyr - a ysgrifenwyd am dano o America yn y cyfnod hwn, y naill gan y Parch. W. Hughes, gweinidog y Trefnyddion Calfinaidd yn Racine, ar llall gan un David Kirkham.

“Yr oeddym yn ofni braidd ar y cyntaf y buasai yr ychydig anghydwelediad fu rhwng S. R. a rhai o'i hen gyfeillion yn effeithio ar ei boblogrwydd yn ein plith, ond cawsom ein siomi, ac un o'r siomedigaethau mwyaf hyfryd i ni ydoedd hefyd. Gwyddai fy nghyfaill o Tennessee yn eithaf da er's llawer dydd bellach fod ysgrifenydd y llinellau hyn yn gwahaniaethu oddi wrtho mewn barn a theimlad am weinyddiaeth yr Arlywyddion Lincoln a Johnson. Ar yr un pryd nis gallaswn, ac yn wir ni ddymunaswn ar un cyfrif, edrych arno ef o herwydd hyny islaw 'gwr Duw’ neu weinidog cymhwys y Testament Newydd, a diameu mai felly y dymunai yntau ymddwyn ataf finau. Bu yn dda
(x156) genyf lawer gwaith feddianu sail ddigonol i farnu na bu gan fy mrodyr y Trefnyddion Calfinaidd un llaw yn y ddadl hon, rhag i’r chwerwedd a ymddangosodd ynddi gael ei gario yn mhellach nag yr aeth. Da genyf allu hysbysu fod ymweliad Mr. Roberts yn cael edrych arno gan lawer yn fendithiol.

……………………………………………………………W. HUGHES, Racine.”


“Nid oes dyn yn America heddyw yn cael ei groesawu yn fwy nag S. R., ac y dangosir fwy o barch iddo. Derbyniodd, a derbynia fwy o amlygrwydd o hyn nag un Cymro y gwybum am dano yn America. Bu rhai o honom yn wahanol iddo mewn barn am rai pethau, ond pwy a wyr nad efe sydd yn ei le ar ol yr holl erlid.”

 

“Yr oedd yn dda genyf glywed fod y genedl yn myned i wneud tysteb iddo, gobeithio y bydd yn deilwng o honynt, a sicrhaf iddynt fod y teimlad yr ochr yma yn cyd-daro â’r eiddynt hwy. Y mae gonestrwydd S.R. yn ddigyffelyb yn ei ysgrifau ar ein helyntion. Gwyddai yn eithaf da beth fuasai yn taro teimlad;
y Gogledd ar y pryd, ac yn lle rhoddi ymborth i’w chwaeth, mentrodd ddyweud ei farn yn erbyn eu teimlad. Mae y teimladau personol a ddangosodd rhai ato o bob tu i’r môr yn rhwym o beri iddynt wrido, os gwyddant rywbeth am yspryd crefydd.
……………………………………………DAVID KIRKHAM.”

Ysgrifenodd y Parch. J. Davies, un o weinidogion hynaf yr Anibynwyr yn America, am dano fel y canlyn:—


“Deallaf fod parotoi yna at wneud tysteb i S.R. Os yw ymdrechu dros egwyddorion cyfiawnder, ac yn erbyn anghyfiawnder a gormes, yn teilyngu cael ei gydnabod, mae Mr. Roberts yn teilyngu. Os ydyw ymdrechu o blaid heddwch ac yn erbyn rhyfel yn teilyngu gwobr, mae efe yn wrthrych teilwng i’w wobrwyo. Os ydyw sefyll yn wrol dros iawnderau gwladol yn teilyngu cael ei gydnabod, mae efe yn un o’r rhai blaenaf, os nid y blaenaf o’i gydgenedl yn hyn. Os yw sefyll yn ddiysgog yn erbyn caethwasiaeth, — drwy ddarlunio yn yr iaith gryfaf ddrygau y rhai a brynant ac a werthant eu cyd-ddynion yn teilyngu tysteb, mae efe yn deilwng o honi. Nid ydym yn gwybod am neb wedi ysgrifenu yn gryfach nag efe yn erbyn y drygau hyn. Yr ydym er dechreu yr ymosodiadau arno wedi dal sylw manwl (x157) arno ef a'i wrthwynebwyr, ac yr ydym yn rhyfeddu at y camddarlunio a'r pardduo fu arno. Buom yn dysgwyl llawer i'r rhai mwyaf boneddigaidd gydnabod eu bod wedi gwneud cam ag ef, ond yn ofer. Yr ydym yn credu y bydd enw Mr. Roberts yn perarogli wedi i ysbryd rhyfel a’i bleidwyr fyned yn ffieidd-beth yn ffroenau y byd Cristionogol.
Teimlwn yn ddiolchgar o waelod ein calon i gyfeillion caredig Mr. Roberts yna am eu cydymdeimlad ag ef. Beth bynnag fydd swm y Drych bydd y cydymdeimlad yn fwy o gynhaliaeth a chysur i'w feddwl na dim arall. Yr ydym yn credu mai dynion o'r un ysbryd ac o'r un farn ag ef fyddant yn offerynau i ddwyn y byd i beidio a dysgu rhyfel mwyach.

"Rhaid i mi addef fod llawer o honom yma, ie, rhai sydd mewn enw yn filwyr Brenin heddwch, wedi bod yn ymladdwyr lled dwym yn y misoedd diweddaf, ond y mae rhai o honom yn oeri ychydig wedi i’r ymladd ddarfod. Buom yn enwog o lawer o bechodau heblaw lladd ein gilydd, ac nid y lleiaf yw dwyn camdystiolaeth yn erbyn ein cymydog.' Pan oedd S. R. yn dymuno arnom i beidio darnio ein gilydd â’n cleddyfau, troisom ato dan ei gablu, a dyweud ei fod o blaid caethiwed yn goperhead, ac yn waeth rebel na neb yn y South, &c. Mae rhai o honom yn addef ein bod wedi colli ychydig o ysbryd yr efengyl, ond y mae y nifer luosocaf o lawer yn aros eto yn eu pechodau. Dymunwn ran yn ngweddiau ein brodyr a'n chwiorydd yn Nghymru. Nid ydych chwi yn gwybod ond ychydig am y profedigaethau chwerwon ydym ni wedi eu cyfarfod yn y wlad hon.

……………………………………………………………………JOHN DAVIES.

Spring Green, Wis., Chwef. 12, 1867.”

 



Y Tudalen nesaf:
1775k kimkat1775k RHAN 5
Pennod 7: Dychweliad S.R. ...158
Pennod 8: Y Dadleuon...188


 

DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

0043c kimkat0043c
Yr iaith Gymraeg
·····
0005k kimkat0005k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan
·····
1343k kimkat1343k
Y Cymry yn América
·····
0052c kimkat0052c
Testunau Cymraeg â throsiad Catalaneg yn y gwefan hwn
(Textos en gal·lès amb traducció catalana en aquesta web)
·····
1051e kimkat1051e
Testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn
(Texts in Welsh with an English translation in this website)
 

 

COFIANT Y TRI BRAWD O LANBRYNMAIR A CONWY (1893). GAN E. PAN JONES, D.PH., M.A, MOSTYN. (1834-1922)
·····
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats