1219e
Gwefan Cymru-Catalonia / la Web de Gal·les i Catalunya - Wales-Catalonia
Website. Dros Gyfanfor a Chyfandir:
Sef Hanes Taith o Gymru at Lanau y Môr Tawelog ac
yn ôl, Trwÿ brif Daleithau a Thiriogaethau yr Undeb Americanaidd
Gan William Davies Evans. Aberystwÿth: Argraffwyd
gan J. Gibson, Swyddfa'r ‘Cambrian News’ MDCCCLXXXIII (1883)
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_008_dgac_01_1219k.htm
0001z Y Tudalen Blaen
..........1863c Y Porth Cymraeg
....................0009k Y Gwegynllun
..............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina
0860k y llyfr ymwelwyr |
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
Adolygiadau diweddaraf: |
Cynllun
y Llyfr Gordestun |
Rhan
1 Tudalennau 1-22 |
Rhan
2 Tudalennau 23-49 |
Rhan
3 Tudalennau 49-76 |
Rhan
4 Tudalennau 76-103 |
Rhan
5 Tudalennau 103-126 |
Rhan
6 Tudalennau 126-151 |
Rhan
7 Tudalennau 151-173 |
Rhan
8 Tudalennau 173-200 |
Rhan
9 Tudalennau 200-227 |
Rhan
10 Tudalennau 227-250 |
1217k
Hysbysebion Cefn y Llyfr |
Mynegai
- Amryw |
|
·····
·····
{Llÿfr a brynais am bumpunt yn
Eisteddfod Llanelli, 10 Awst 2001, yn stondin Siop yr Hen Bost. Ar y tudalen
cyntaf y mae enw perchennog gwreiddiol y llyfr, mewn llawysgrifiad
Fictorianaidd a blodeuog, sef
William Owen
Pandÿ
Corris}
Fe roir rhifau’r tudalennau
gwreiddiol yng nghorff y testun rhwng cromfachau pigog – er enghraifft (x21)
. Ceir sylwadau a chyweiriadau hefÿd mewn mannau rhwng cromfachau pigog.
·····
(xv)
Dros Gyfanfor a Chyfandir:
Sef Hanes Taith o Gymru at Lanau y Môr Tawelog ac yn ôl,
Trwÿ brif Daleithau a Thiriogaethau yr Undeb Americanaidd
Gan William Davies Evans
Aberystwÿth:
Argraffwyd gan J. Gibson, Swyddfa'r “Cambrian News,'
MDCCCLXXXIII (1883)
(xi)
EGLURHAD AR Y MAP.
{Mae rhÿwun wedi rhwÿgo’r map o’r llÿfr, gwaetha’r modd}
Trwy hynawsedd A. V. H. Carpenter, Ysw., boneddwr sydd yn caru ein cenedl ni,
cafwyd y map destlus sydd yn nechreu
y gwaith hwn yn anrheg (gwerth £50) gan gwmni reilffordd enwog Chicago,
Mlilwaukee, and St. Paul, y reilffordd f wyaf yn y byd, am berchenogion yr
hon y dywedai y Llywodraethwr Smith, un o'r enwogion mwyaf cyfrifol yn America,
eu bod y dynion goreu a mwyaf anrhydeddus allan. Mae y map yn hynod gywir a manwl, a diau y teimla y darllenwyr, yn gystal
a'r awdwr, yn ddiolchgar iawn i'r cwmni am y fath rodd werthfawr. Gradd o
annealltwriaeth ar ran y person a benodwyd i gyfaddasu y Map ar gyfer y llyfr
hwn a barodd nad yw y rhifnodau cochion sydd arno yn berffaith foddhaol. Er eu
bod ar y cyfan yn dda, hyderir y gellir gwneud gwell arddangosiad o'r
sefydliadau Cymreig yn y map fwriedir
roddi yn y llyfr nesaf - HANES TALAETHAU UNEDIG AMERICA A'R CYMRY YNDDYNT. Mae
y sefydliadau a ddynodir gan y rhifnodau canlynol yn rhai mawrion iawn, ac yn
cynwys bob un lawer o eglwysi:- 3, 6, 21, 23 (21 a 23, amryw ddinasoedd
pwysig), 44, 53, 54, 85, 91, 101, 108, 129, 130. Arddangosir holl reilffyrdd y
wlad gan y mân linellau duon.
REILFFORDD CHICAGO, MILWAUKEE, AND ST. PAUL. Gellir ar hon wneud taith o 4,500
o filldiroedd, trwy ILLINOIS, WISCONSIN, IOWA, MINNESOTA, a DAKOTA, a thrwy bob
dinas, tref, a chymydogaeth hynod yn y gogledd-orllewin mawr, heb fyned dros yr
un ffordd ddwywaith. Hon ydyw yr unig linell sydd yn rhedeg yn ddidor rhwng
CHICAGO, MILWAUKEE, ST. PAUL, a MINNEAPOLIS, a chyda y llinellau cysylltiedig
gellir teithio, dyffryn prydferth y Mississippi, rhwng MINNEAPOLIS a ST. LOUIS.
Gwelir ar y map fod gwahanol gangenau y ffordd hon yn arwain i'r holl
sefydliadau Cymreig yn y gogledd- orllewin, ae ni cheir harddach cerbydau a
chyflawnach cyfleusderau ar unrhyw reilffordd yn y byd. Dyma y ffordd i'r rhai
a ddymunant
YMSEFYDLU YN DAKOTA lle y mae miliyinau o erwau o'r tiroedd goreu am ddim ond
yr enw o dâl a ofynir gan y Llywodraeth. Ceir yn y parthau hyn gyflawnder o
ddyfroedd iachusol, a'r hinsawdd yn debyg i eiddo Wisconsin, Iowa, a Minnesota;
yr awyr yn bur a sych, ac anhwylderau yn bethau anghyffredin iawn. A ganlyn
sydd daflen swyddogol yn gosod allan ansawdd y tywydd yn Dakota o Hydref, 1881,
hyd Hydref, 1882. Saif G.O. am Gogledd-orllewinol, a D.Dd. am
Deheu-ddwyreiniol:-
|
Gradd-dyneredd yr Hin. |
Cyfeiriad y Gwynt |
Cyflymdra mwyaf y Gwynt |
Modfedd o Wlybydd |
Nifer Diwrnodau |
|||
|
Uchaf. |
Isaf. |
|
Milldiroedd yr Awyr. |
Eira
. |
Gwlaw. |
Clir. |
Gwlyb. |
Tachwedd |
70 |
1 |
G.O. |
15 |
4 |
|
17 |
8 |
Rhagfyr |
60 |
Zero. |
G.O. |
45 |
1 5-10 |
|
22 |
3 |
Ionawr |
40 |
10 |
G.O. G.Dd. |
32 |
6 |
|
17 |
7 |
Chwefror |
60 |
16 |
G.O. |
50 |
7 |
|
16 |
|
Mawrth |
62 |
2 |
G.O. |
55 |
7 |
1 |
16 |
13 |
Ebrill |
68 |
32 |
G. O. D. Dd. |
34 |
|
4 4-10 |
13 |
11 |
Mai |
82 |
40 |
G.O. D.Dd. |
30 |
|
2 1-10 |
18 |
14 |
Mehefin |
90 |
46 |
G. O. D. Dd. |
70 |
|
4 6-10 |
18 |
15 |
Gorphenaf |
96 |
60 |
D.Dd. |
30 |
|
4 3-10 |
20 |
14 |
Awst |
96 |
50 |
G.O. D.Dd. |
20 |
|
3 |
27 |
5 |
Medi |
96 |
37 |
D.Dd. |
20 |
|
6-10 |
18 |
6 |
Hydref |
84 |
25 |
D.Dd. |
20 |
|
3 3-10 |
17 |
9 |
(xii)
Cyfrifir y geill daear fyddo yn derbyn deg modfedd o wlybydd yn flynyddol gynyrchu
cnydau heb eu dyfrhau yn gelfyddydol. Yn ol y daflen uchod darfu i Dakota yn
ystod y flwyddyn ddiweddaf dderbyn 23 2-10 rnodfedd o wlaw a 25 5-10 o eira.
Cyfartaledd cnydau ar bob cyfer mewn ugain o siroedd, yn rhai o'r rhai y mae
sefydliadau Cymreig Brown, Miner, Lake, Aurora, a Spink - yn yr un diriogaeth,
am y flwyddyn ddiweddaf, sydd fel y canlyn: - 23 1-4 mesur o wenith; 59 3-4 o
geirch; 33 1-10 o haidd; 31 1-4 o ryg; 15 4-18 o lin. Indrawn, cloron, wynwyn,
&c., yn dda. Yn Lloegr arganmolir Manitoba, yn Canada, fel gwlad ragorol i
ymfudwyr; ond gwelir ar y map fod Dakota yn ddeheuol i Manitoba, ac o
angenrheidrwydd yn dynerach ei hinsawdd. Yn y diriogaeth ragorol hon, yn mhen
ychydig flynyddau, y gwelir y sefydliadau Cymreig cryfaf yn America. Dyma
gyfleusdra i ddynion teilwng ddechreu meddiannu tiroedd a chynyddu gyda chynydd
un o'r gwledydd goreu. Trwy gyfrwng y reilffyrdd y mae y wlad yn dal cymundeb
â'r MARCHNADOEDD YDAU MWYAF YN Y BYD, sef CHICAGO a MILWAUKEE. Rhwng pob peth
nid yw ryfedd fod ei phoblogaeth yn cynyddu gyda chyflymdra digyffelyb. Y mae
gan y cwmni mawr hwn hefyd
DIROEDD ARDDERCHOG YN IOWA
yn eiddo iddo ei hun- prairies tònog a chynyrchiol odiaeth, y rhai a
werthir am brisoedd isel ac ar delerau hawdd i dalu am danynt. Byddai yn
anhawdd cael harddach ac iachach gwlad na pharthau gogledd-orllewinol Iowa.
Mantais arbenig i'r Cymry ydyw fod y cwmni wedi penodi
GORUCHWYLIWR CYMREIG yn mherson Mr. WM. E. POWELL (Gwilym Eryri), yr hwn
sydd Gymro o waed, iaith, a chalon, a chanddo le uchel yn meddyliau Cymry y
gogledd-orllewin yn gyffredinol. Gellir rhoddi cwbl ymddiried yn ei farn a'i
onestrwydd. Dengys y manau goreu i ymfudwyr i hwylio eu camrau iddynt, ac wrth
ohebu âg ef byddis yn myned ar unwaith i lygad y ffynon. Trwy ddanfon ato
gellir cael am ddim bamphledau Cyrnreig a Saesonaeg, yn nghyda map yn desgrifio
y tiroedd yn Iowa, Minnesota, a Dakota. Y mae gan y cwmni ddau Gymro parchus
eraill yn Dakota i gyfarwyddo ymfudwyr ar eu mynediad yno. Ceir pamphledau a
phob cyfarwyddiadau hefyd trwy ddanfon at y goruchwyliwr Prydeinig, CHARLES E.
NORTON, 1, INNER TEMPLE, 24, DALE STREET, LIVERPOOL.
S. S. MERRILL,
General Manager.
W. E. POWELL,
General Emigration Agent,
Immigrant Office,
Milwaukee, U.S.A.
(xiii)
{tudalen gwag}
(xiv)
DROS GYFANFOR A CHYFANDIR.
Trwy linellau, llythyrenau, a rhifnodau y map sydd yn y darlun isod, dangosir
teithiau yr Awdwr, a rhai o'r prif leoedd y bu ynddynt.
(xLLUN ar ffurf cylch: ar y top, Indiaid a bualod, portread o’r awdur, ffermwr;
yn y canol, map o’r Unol Daleithiau Môr Iwerÿdd, Ynÿs Prydain a’r llwÿbrau môr
rhwng yr ynÿs a UDA; agerlong, llong hwÿlio, injin reilffordd)
(xLleoedd wedi eu dangos ar y map)
A. ASHLAND.
B. BUFFALO.
1. CHATTANOOGA.
C. CHICAGO.
2. CINCINNATI.
E. EL PASO DEL NORTE.
K. KANSAS CITY.
3. LEADVILLE.
L. LIVERPOOL.
N. NEW YORK.
P. PORT PIERRE.
Q. QUEENSTOWN.
4. SALT LAKE CITY.
S. SAN FRANCISCO.
5. SANTA FE.
6. ST. JOHN.
Y. FORT YUMA.
(xv)
{tudalen y
teitl} Dros Gyfanfor a Chyfandir: Sef Hanes Taith o Gymru at Lanau y
Môr Tawelog ac yn ôl, / Trwÿ brif Daleithau a Thiriogaethau yr Undeb
Americanaidd / Gan William Davies Evans / Aberystwÿth: / Argraffwyd gan J.
Gibson, Swyddfa'r “Cambrian News,' / MDCCCLXXXIII (1883)
(xvi)
{tudalen
gwag}
(xvii)
CYFARCHIAD.
HYNAWS DDARLLENYDD,
Dygwyddodd fy mod yn mhlith teithwyr boreuai y ffordd newydd at y Porth Auraidd
a Brenines y Gorllewin Pell, wedi yr agorwyd hi yii haf y flwyddyn 1881.
Nodweddir yr holl ffordd hono gan y fath hinsoddau hafaidd, golygfeydd
prydferth ae amrywiol, rhyfeddodau naturiol a hynafiaethol, yn gystal a chan
bwysigrwydd, llwyddiant, a rhagolygon dysglaer, fel na cheir ei rhagorach yn
America. Hyn, yn nghydag eangder a manylder fy nheithiau yn amryfal ranau
eraill y wlad, a ystyriwyf yn ddigon o reswm dros gyhoeddi yn hanes yn llyfr; a
chredwyf fy mod trwy hyny yn cael y fraint o ddwyn rhai gwybodaethau newyddion
am y tro cyntaf o fewn cylch llenyddiaeth Gymreig.
Tra mae yr iaith Seisnaeg, yn gystal a phob iaith flodeuog arall, yn gyfoethog
o hanes eu teithwyr a'u hanturiaethwyr, nid wyf yn meddwl fod y Gymraeg o lawer
mor llawn o hanes teithiau neb, chwaithach eiddo ei phlant ei hun, ag i wneud
fy llyfryn hwn yn annerbyniol. Yn wir, anogaethau canoedd o ddarllenwyr fy
llythyrau yn Maner ac Amserau Cymru a barodd i mi feddwl gyntaf am ei
gyhoeddi; a chan mai yn hwn yn unig y ceir hanes rhanau rhyfeddaf fy nhaith, yn
gystal a'r hyn a welais ac a brofais yn amser y Gwrthryfel Mawr, a'r ugain mlynedd
y bum yn cartrefu yn America, hyderaf na bydd yn annyddorol hyd yu nod i'r rhai
a ddarllenasant fy llythyrau.
Gan mai fy amcan wrth deithio, ac ymweled yn fanwl i'r rhai sydd ar wasgar o'n
cenedl, ydoedd casglu defnyddiau at wneud llyfr helaethach na yr enw “HANES
TALAETHIAU UNEDIG AMERICA A'R CYMRY” ac y bwriadwyf gyhoeddi yr unrhyw yn fuan,
ni fernais angenrheidiol gwneud yn y gyfrol hon ond sylwadau byrion am y (xviii) gwahanol sefydliadau
Cymreig; ac am enwogion Cymreig y Gorllewin ni ddywedir ynddi ddim.
Diau y ceir yn y llyfryn hwn ddiffygion, er i mi amcanu at gywirdeb. Gan na
ddarfu i mi fy hun fesur a phwyso yr holl wrthddrychau'a ddesgrifir, nis gallwn
well na dybynu ar y tystiolaethau poblogaidd am danynt. Defnyddiais y geiriau
parotaf, ysgrifenais mewn iaith syml, a chynilais gymaint o goethder ac
arucheledd ag a allaf fforddio at fy llyfr nesaf, yr hwn yr aethum allan o'i
blegid. Ydwyf rwymedig i eglwysi Cymreig America, o bob enwad, ac i laweroedd o
bersonau unigol, am garedigrwydd a chynorthwyon gwerthfawr ar fy nheithiau.
Dymunaf fendith y Nefoedd arnynt, ac i tithau, ddarllenydd hoff, gyflawn werth
dy amser o fwynhad uwchben fy llyfr.
Yr eiddot yn ddiffuant,
YR AWDWR.
(xt9)
CYCHWYN I'R DAITH.
Gan farnu yn well anghofio pellder taith fawr wrth ymadael âg anwyliaid
cartref, torais trwy yr amgylchiad hwnw mor ddiseremoni ag oedd modd. Canoedd o
weithiau er fy nyfodiad i Aberystwyth, yn y flwyddyn 1872, yr aethum ar y
gerbydres yn ei gorsaf heb gyfarfod â neb yn myned i wlad ymdaith fy ieuenctyd.
Ond y boreu hwn, sef y 19eg o Dachwedd, 1880, ar ol ysgwyd llaw â rhai
cyfeillion, “a chanu'n iach i Jane,” cefais fy hun wyneb yn wyneb â phedwar o
ddynion yn myned i America - dau o honynt yn myned y tro cyntaf, a gwedd yswil,
ddystaw, a phrudd-ystyriol arnynt, fel rhai yn meddwl am eu “Paradise Lost;” y
ddau eraill yn dychwelÿd i'w cartrefi, a gwedd lawen, lem arnynt, fel Yankees,
ac yn siarad fel rhai yn gwynebu eu “Paradise, Regained.” Ar ol llawer o
ymddyddan am bobl a phethau y ddwy wlad, gan eu cydmaru â‘u gilydd yn ol
arferiad Americaniaid yn Nghymru, aethom i ddadleu gyda golwg ar long i fyned
arni. Mynent hwy i i mi ymddadgysylltu â’r llong y cytunaswn â'i chwmpeini, a
myned ar eu llong hwy, oblegid llawer iawn gwell, meddynt, ydoedd. Mynwn inau
iddynt hwy ddyfod gyda mi; a phryd nad allem ddyfod i gytundeb, ymadawsom yn
Croesoswallt. Dymunasom fordaith gysurus i'n gilydd, a gobeithiem weled ein
gilydd eto “ar y làn brydferth draw.” Cyfarfuwÿd â mi a chymerwyd gofal o
honwyf yn Llynlleifiad gan Mr. J. D. Pierce (Clwydlanc), yr hwn, oddiar
dystiolaothau lawer yn gystal â’m profiad fy huii, y teimlwyf yn hy^f i'w
gymeradwyo i sylw ymfudwyr fel un y cânt gyfiawnder ar ei law a chysuron yn ei
dy^.
(xt10)
BWRDD YR ABYSSINIA.
Tranoeth, wrth godi fy ngolygon i fyny o'r tender i weled y llestr ag oedd i
fod yn gartref i mi ar y dyfnfor mawr, pwy yn gyntaf a welwn ar ei bwrdd yn
gwneud amneidion croesawgar arnaf, ond y cymdeithion y ffarweliais â hwy yn
Nghroesoswallt. Llawenychais; pan eu gwelais, nid yn gymaint am i ffawd roddi i
ini oruchafiaeth arynt, ond am y meddwl o gael eu cymdeithas. Cymerais fy lle
gyda'r dosbarth canol (intermediates), - lle glanwaith a chysurus o ran
ystafelloedd ac ymborth, a'r lle y cynghorwn fordeithwyr yn gyffredinol ei
ddewis, oddeithr fod ganddynt gyfoeth mawr, yna gallant gymeryd y saloon dysglaerwych;
neu dlodi mawr, yna rhaid cymeryd y steerage truenus. Nid oedd ond un
mordeithiwr o'r dosbarth
(xLLUN: DIDEITL O AGERLONG)
blaenaf ar y bwrdd y tro hwn; ac am fod amser morio weithian wedi myned heibio,
nid oedd ein nifer oll ond ychydig dros gant. Tuag un o'r gloch codwyd yr
angorau, a dechreuodd ein llestr hwylio lawr yr afon. Prydnawn hyfryd.
Ymdrechai natur ein gwneud yn galonog i'r daith - uwchben yn glir, yr awelon yn
falmaidd, gwyneb y môr yn llyfn, ac efallai mai o dosturi y darfu dynu
gorchuddlen deneu o niwl dros y glanau i arbed rhyw galon hiraethus y boen o
gymeryd y drem olaf ar hen wlad ei genedigaeth. Ar ol morio ugain awr bwriasom
angor ar gyfer Queenstown; ychwanegawyd at ein rhif trwy ddyfodiad atom fagad o
blant yr yr Ynys Werdd. Pobl o deimladau angerddol ydynt y Gwyddelod; trwy
ymdrechion celyd y gallent ymryddhau o'u cofleidion ymadawol. Nis gallwn lai na
syllu gyda dyddordeb a pheth cydymdeimlad ar fab a merch ar ol dychwelyd i'r
tender a gadael merch arall (chwaer, efallai) ar fwrdd ein llestr yn gwneud
arwyddion toddedig ar eu gilydd. Ymdrechent guddio eu galar o bob ochr, ac
arddangos (xt11) cymaint ag a allent fforddio o ffug sirioldeb. Pan orfyddai gwir deimlad y
fynwes, a’rr wylo yn mynu cael ei ffordd, brysient i ymguddio tuhwnt i'r simnai
(funnel), ac yno y llechent hyd onid elai yr aflwydd hwnnw heibio; a
phan fedrent enill digon o wroldeb i ffugio gwenau, deuent i olwg eu gilydd drachefn,
a pharhaent i ysgwyd napcynau nes eu myned yn rhy bell i allu canfod eu gilydd
mwy. Pa faint o ddagrau heillt y mae y mor hallt erioed wedi en tynu allan! Yn
nesaf at y bedd a rhyfel, diau ei fod ef wedi cael ei ran o’r trysorau
tryloewon hyn.
SALWCH A THYMHESTLOEDD.
Nid cynt y dechreuodd ein llestr fyned rhagddi drachefn nag y dechreuodd ei
newydd-ddyfodiaid Gwyddelig hyn fyned yn glaf; ie, ar unwaith, heb unrhyw
ymdroi, na rhagymadroddi na lol o fath yn y byd, ymdaflasant iddi o ddifrif, a
mawr yr annybendod a wnaethant ar y bwrdd - pob un yn y fan y dygwyddai fod yn
taflu allan gyda ffyrnigrwydd yr hyn ychydig yn flaenorol a gymerwyd i fewn
gyda phleser. Ar waith un ferch yn ymgrymu i gyflawni y ddyledswydd
angenrheidiol hon, chwythodd y gwynt ei het oddiam ei phen; yr het yn cael ei
dal gan y llinynau oeddynt wedi ymddyrysu yn ngwallt y ferch, a gyflewyd mor
ddeheuig dan ei genau fel y cafodd ei llenwi ar unwaith. Bu yn hir iawn yn
ceisio dadgysylltu y llinynau a'r gwallt, a'r holl amser yn cario yr het a'i
chynwys yn daclus wrth ei thrwyn, nes peru i'r edrychwyr anystyriol agos ymdori
gan chwerthin. Yr oeddem ni, y rhai a foriasom ugain awr, hyd yn hyn yn gallu
ymddwyn yn weddaidd. Pa beth, gan hyny, oedd yn peri i'r rhai hyn fyned mor
glaf ar unwaith? Ond yn gynar yn y prydnawn hi ddaeth arnom ninau, ac erbyn ei
myned yn nos yr oeddem gan amlaf wedi myned yn ddigon sobr. Noson arw fu y
noson horio. Dros amryw ddyddiau y parhaodd y ddrychin, a thros amryw ddyddiau
y buom ninau yn glaf - mwy felly nag a welais ac na phrofais yn flaenorol; a
chyffelyb ydoedd tystiolaeth y rhai a groesasant y weilgi ddwsinau o weithiau.
Gwynt cryf a gwrthwynebus fu ein rhan dros agos yr oll o'r fordaith. Ymffurfiai
y dyfroedd mawrion yn bob llun o fryniau brigwyn; y gwynt gyda'i esgyll cryfion
ni pheidiai a tharaw y môr ar ei wyneb, a chan chwerthin a chwibanu yn
watwarus, defnyddiai bob ystum i'w (xt12) gynhyrfu i natur ddrwg. Y môr yntau yn ei
gynddeiriogrwydd, a ysgyrnygai, gwingai, ewynai, rhuai, poerai yn wyneb y
gwynt, a rhoddai ergydion chwyrn yn ol. Cymaint ydoedd ymrysonfa yr elfenau fel
y gellid tybio na byddai gobaith ymwared i'n llestr fechan rhyngddynt; nid
ymddangosai ond megis brycheuyn yn neidio ar y berw; teflid hi ar y naill ochr,
a mynych y disgynai ar ei phen nes ei gorlifo gan y llif-ddyfroedd. Yn ei blaen
yr elai hi er hyny, heb ofalu pa un ai y gwynt ai y thnau fyddai drechaf. Ni
safodd ei pheirianau unwaith, ac ni throwyd hi allan o'i llwybr, ond clywem hi
yn ddi-daw ddydd a nos yn haff-haff-haffi-haff, haff-haff-haffi-haff, ac yn
gwanu trwy y gerwyn, gan ddweyd yn ei hiaith y mynai er pob peth weled ei
llwyth gwerthfawr yn ddiogel yn New York. Cafodd Mair yn ddiau fwy o addoliad
nag a gaffai ar dywydd teg; ac yn ol tystiolaeth llygad-dystion yr ydoedd gyda
ni un Gwyddel yn credu nad oedd gweddio Mair yn ddigon, oblegid cafwyd ef mewn
ymdrech wrol yn ceisio gosod pawl mawr dan ystlys y llong oddimewn, ae yn
eglurhad ar ei waith dywedodd “Don’t ye see this st'amer almost a fallin’! and,
sure, I thought this pole would help to prop her up.”
AI NID GWELL GWEDDIO?
Cofiais droion am noswaith dymhestlog arnom ar ein mordaith gyntaf yn ngwanwyn
1852. Yr oeddem oll tua naw cant o ymfudwyr, ar fwrdd “John Stuart,” llong
hwyliau fawr. Cawsom ar y noson grybwylledig ein cloi i fewn rhag bod ar ffordd
y morwyr swn a thrwst y rhai a glywem yn gymhleth â thwrf y tònau, ac i rhuadau
y gwyntoedd, yn bloeddio, rhedeg, tynu rhaffau a chadwynau trymion, yr hyn,
gyda gwaith y llestr fawr yn ymsiglo fel meddwyn, cwympo ar y naill ochr a
thrachefn ar yr ochr aiall, a blychaui barilau, a llestri yn llithro, treigio,
twmblo glingyr glangar ar draws eu gilydd, a chri ein cymydogion yn wylo a
gweddïo Mair, St. Pedr, St. Patrick, a phob sant arall, ydoedd yn gwneud y noswaith
yn un dra difrifol. Yr oedd gyda ni Gymro a elwid Dafydd, R_____. Hwn, ar
dywydd teg, a arferai alw yn lew ar enw ei dad, _____! Y noson hen, fodd bynag,
yr ydoedd yn dra defosiynol, ac a fynai fod yn dduwiol iawn. Gan fyned at hen
grefyddwr a blaenor, os wyf yn cofio yn iawn, o'r enw Dafydd Jones, ceisiai
ganddo ar haner (xt13) nos alw y Cymry yn nghyd i gynal cyfarfod gweddi. “Waeth,” meddai, “ni a
fyddwn bawb o honom yn nhragwyddoldeb yn mhen ychydig fynudau. De'wch, Dafydd
bach, i weddio tipyn gyda ni.” Hen frawd lled swta yn ei ffordd ydoedd Dafydd
Jones, ac meddai, “Yr wyf fi wedi gweddïo cyn dyfod i'r lle hwn. Gweddïa di, y
mae yn hen bryd i ti ddechreu. Hai ati.” Felly Dafydd, R---, a adawyd ei hunan,
a gwnaeth gydwybod o'i Destament Newydd. Erbyn y boreu lleddfodd y dymhestl, a
chyda thoriad y wawr dyma Bell, y morwr bychan llawen' a llon, fol, arfer, yn
agor y drws, ac yn gwaeddi arnom i ymbarotoi at ein boreufwyd. “Is there no
danger now, Bell?” gwaeddai Dafydd, R---. “No, it is all over,” attebai
Bell. “D---l, fechgyn,” meddai Dafydd, R---, “y mae yr hen ’storom wedi myned
heibio.” Aeth heibio hefyd yr angenrheidrwydd am grefydd. Gan mai un bychan
oeddwn ar y pryd nis gallaf gofio ond rhanau o'r amgylchiad; ond fel uchod y
mae yr hanes yn yn rhedeg. I ddychwelyd at fordaith yr “Abyssinia,” yr oedd
gyda ni
ANIFEILIAID GWYLLTION
oddifewn ac oddiallan. Oddifewn yr oedd cawrfilod ieuainc, zebra,
hyddod, rnwncïod, adar, a chreaduriaid eraill. Bu rhai o honynt feirw, ac nid
oedd y cawrfilod mewn un modd yn mwynhau eu sefyllfa, oblegid pa bryd bynag y
deuem i'w cymdogaeth clywem hwy yn brefu allan eu cw^ynfanau mewn modd aflafar
hynod. Darfu i un o’r anifeiliaid hyn wthio ymaith fyrddau ei gell - fel y
daeth allan. Tybiodd hen wr o Wyddel (Gwyddel eto) a ddygwyddai sefyll gerllaw
ei fod yn ymwneud am dano ef, a chan frysio i ffoi cafodd le i ymlechu yn y
gongl agosaf ato. Y cawrfil yn cael ei ysgytio gan y llong a syrthiodd ar ei
ochr o flaen y gongl hono, gan gau Pat i fewn. Yntau dan gynhyrfiad y foment a
neidiodd allan drosto. Cafodd ddychryn mawr, ond trodd y dygwyddiad yn enw
iddo, oblegid mynych ar ol hyny y clywyd ef yn ymffrostio – “I’m a sprightly
ould mon, sure enough, for jumped over an owliphant in my owld age.” Oddiallan
gwelem heidiau o'r pysgod a elwid porpoise. Neidient i fyny o'r dwfr, a
chan neidio felly cyflyment yn mlaen ochr yn ochr (xt14) â'r llong, yn gyffelyb
i'r modd y gwelsom gw^n yn rhedeg ar ol y gerbydres. Eraill a welid yn dyfod o
bellder megys i gyfarfod â ni. Pa beth ydoedd eu hamcan, tybed? Ai erlid y
llong allan o'u cyffiniau; ai dysgwyl cael rhywbeth ganddi; ai ynte rhyfeddu yr
oeddent weled creadur mor fawr yn gallu nofio mor hir a'i ben allan o'r dwfr;
ai rhywbeth arall ydoedd yn eu cynhyrfu! Creaduriaid teneu-lydain (flat),
penfain, cynffon-fain, llwyd-felynion, o dair i saith troedfedd o hyd, ydynt.
Cofiwyf weled dwfr yn cael ei chwythu i fyny fel geysers gan anadl morfil ar fy
mordaith flaenorol yn 1852. Adar hefyd a welid bob dydd, hyd yn nod ar ganol y
cefnfor, ac yn y tymhestloedd mwyaf. Pa le y gallai y rhai hyn gael
gorphwysdra? Dywedid wrthym eu bod yn cysgu, ac hyd yn nod yn dodwy, yn deor ac
yn magu eu rhai bychain “ar frigau'r geirwon dònau.” Nis gallaf sicrhau hyn;
ond ar nawfed dydd ein mordaith, yr unig ddiwrnod tawel a gawsom yn mhell o
dir, ymddangosodd arwyddion ffafriol i'r syniad, canys gwelsom adar bychain yn
methu ehedeg yn iawn ac yn ceisio ffoi gan ofn y llong, yr un modd ag y gwelsom
adar bychain yn ehedeg-redeg o'n blaen ar y maes yn amser cynhauaf. Pa fodd y
gallai y rhai hyn fod wedi dyfod i'r fath le - canoedd o filldiroedd oddiwrth y
tir agosaf ?
DIWEDD Y FORDAITH.
Nos Wener, yr ail ddydd o Ragfyr, daeth y pilot atom, ac erbyn y boreu yr oedd
yr holl elfenau mewn perfaith dangnefedd. Ymddang- osodd y Long Island ar ein
dehau tua naw o'r gloch, a chan gadw golygfeydd prydferth Jersey ar ein haswy,
hwyliasom yn araf ar i fyny; ac am dri or gloch brydnawn glaniasom bawb yn fyw
ac iach. Er i ni gael mordaith arw, a barhaodd bedwar diwrod ar ddeg, cawsom ei
gorphen, yn gystal a'i dechreu, yn y mwynhad o'r tywydd mwyaf dymunol.
Caniataer i ni felly orphen mordaith bywyd. Er tymhestloedd a pheryglon, bydd
yn hyfryd glanio os bydd ein hawyrgylch yn glir, Haul Cyfiawnder yn pelydru
arnom, a phrydferthion gwlad y gwynfyd yn ymddangos,
“I fewn i’r porthladd tawel, clyd,
O swn y ’storm a’i chlyw,
Y caf fynediad llon rhyw ddydd,
Fy Nhad sydd wrth y llyw.”
(xt15)
(xLLUN: “New York a Jersey City”)
(xt16)
Y ddinas fwyaf yn America ydyw hen, a'r bedwaredd o ddinasoedd y byd, ac o ran
pwysigrwydd saif yn uwch na hyny. Rhifa ei thrigolion dros filiwn, a chydrhwng
Brooklyn, Jersey City, a maes-drefi eraill, meddant gynifer o bobl a holl
Gymru. Adeiladwyd New York briodol ar Ynys Manhattan, wyth milldir o hyd o
ddwyrain i dde, a dwy filldir o led, yn meinhau at bob pen. Y mae heolydd y
rhan newyddaf a phwysicaf o honi wedi eu gwneud yn ol y gyfundrefn
Americanaidd, trwy en bod yn rhedeg yn gydbellochrog (parallel), ac
eraill yn en croesi yn gyfonglog (right-angle). Y rhai a redant yn
ogleddol a deheuol a elwir yn avenues, a rhifnodir hwy yn First Avenue,
Second Avenue, &c.; a'r rhai a redant yn ddwyreiniol a gorllewinol a elwir
yn streets, y rhai a rifnodir yr un modd yn First Street, Second
Street, &c. Gan fod y tai hefyd yn dwyn arnynt rifnodau, y mae can
hawdded cael hyd i'r chweched ty ar y ddegfed heol o New York ag a fyddai cael
cyfeiriad ty Simon, barcer, yn y chweched adnod o'r ddegfed benod o lyfr yr
Actau. Y mae rhai heolydd yn ewyllysio cadw en hen enwau clodfawr; yn en plith
Broadway, y brif dramwyfa, ac ymffrost benaf y ddinas. Hen ydyw yr heol
fasnacbol hwyaf, ardderchocaf, a chyfoethoca yn y mae dwy filldir a haner o
honi mor uniawn a saeth. Ar ol Broadway, New York, y mae ffasiynau yr holl wlad
yn rhedeg.Cyffelyb ydynt heol-gerbydau y ddinas a dinasoedd y wlad oll i'r
eiddo dinasoedd Prydain. Ond y mae reilffyrdd dyrchafedig (elevated
railroads) y ddinas yn sicr o dynu sylw dyeithriaid bron yn gyntaf peth.
Rheda reilffyrdd Llundain dan y ddaear, a rhaid i'r teithwyr gymeryd y mwg, y
tawch, a'r tywyllwch; ond rheda reilffyrdd New York ar drawst-weithiau (trestle-works)
dros ugain troedfedd uwchlaw y ddaear, a rhaid i'r heolyddion gymeryd y twrf
a'r anharddwch. Fel pob peth, gwell genyf gynllun ffyrdd Llundain, ond gwell
ydynt gerbydau New York. Y mae gorsafoedd dyrchafedig i'w hesgyn bob tua phump
ysgwar, a cherbydres hir yn pasio bob pum' mynyd. Deg cent ydyw y tâl, bydded y
daith hir neu fèr.
Nis gellir mewn llyfryn o derfynau hwn gynyg at ddesgrifio New York yn ei
hamryfal ranau, adeiladau, parciau, cenedloedd, sefydliadau, ac aneirif
ryfeddodau. Fel dinasoedd mawrion eraill, y mae ynddi, lawer o ddrygau a
thrueni, a llawer hefyd o rinwedd a dedwyddwch.
(xt17)
HENRY WARD BEECHER.
Ië, fel yna, heb na “Pharchedig” o'i flaen na “D.D.” ar ei ol - fel yna ei
cyfenwir ac ei hadnabyddir, ac fel yna y myn efe gyfenwi ei hun. Boreu Sabbath,
yr unig ddiwrnod cyfan yr arosais yn y lle y tro hwn, aethum drosodd i Brooklyn
i weled ac i glywed y gwr enwog hwn yn ei Plymouth Church, yr hwn, er ei
fod yn adeilad eang iawn, a’r hin yn wlawiog ryfeddol, ydoedd lawn o wrandawyr.
Ar y banlawr (platform) mawr (nid pulpud) y safai Mr. Beecher, hen wr
graenus, lluniaidd, a chadarngryf o gorpholaeth, ychydig yn fyrach, efallai,
na’r taldra cyffredin. Medda wyneb llawn, Ilyfn, a glandeg, gydag edrychiad
treiddgar a phenderfynol; gwallt gwyn, llathraidd, yn syrthio yn llaes dros ei
wegil; gwisgiad plaen ond trwsiadus iawn, heb unrhyw ymgais at fod yn
glerigaidd. Gwyddis ei fod yn un o'r siaradwyr mwyaf rhwydd a iiaturiol, ei
lais yn bereiddfwyn a threiddgar, ei ysgogiadau yn hardd ac yn ateb yn weddaidd
i'w ymadroddion, y rhai, llawn o feddylddrychau cyfain, trefnus, a rhagorol, a
ddylifent fel afon dryloyw, gref rhwng glanau gwyrdd ar raian glan. Ei destyn
ydoedd Cal,. vi. 15, 16. Pregethodd hefyd un o'i bregethau rhyfeddaf. Bu llawer
o siarad ac ysgrifenu ani dani dros
Y GERBYDRES.
Yn gymaint ag mai yn America y gwelir y gerbydres yn ei gogoniant penaf, ei bod
yn gyfrwng oll-bwysig yn agoriad y wlad a dadblygiad ei hadnoddau, a'i bod i
fod yn brif gartref yr ysgrifenydd dros fisoedd meithion ei ymdaith, priodol
ydyw cynyg desgrifiad o honi yma. Dywedir gan rai, ar ba sail nis gwn, nad ydyw
rheilffyrdd America gystal ag eiddo gwledydd Ewrop. Ond addefir yn gyffredinol
fod ei cherbydresi a'r clud-ddarpariadau perthynol iddynt yn tra rhagori. Yn
mlaenaf wrth reswm, daw yr agerbeiriant -- un hir, uchel, nerthol, a balch ei
osgo ydyw hwn. Yn ei haiarnwisg loew a'i bres dysglaerwych, a chyda'i lamp
enfawr,. ei hyddgyrn cangenog, ei simnai benlydan, ei gloch soniarus, ei
ystafell ffenestrawg, a'i aadurnawl ranau eraill, y mae ganddo ymddangosiad
mawreddus. Cyfateba y cerbydau iddo mewn maintioli a harddwch. Y nesaf ato ydyw
y cludgerbyd. Wrth bob blwch a llawgod (portmanteau)
(xt18)
(xLLUN: “Cerbydres Ymfudwyr – Reilffordd Pennsylvania”)
(xt19) a welir yn hwn, y mae dernyn bychan o bres yn dwyn rhifnod gyda cherdyn yn
grogedig gerfydd ystrapen, yn enwi yr orsaf y mae i fyned iddi. Rhyddheir
perchenog y blwch oddiwrth bob gofal yn ei gylch. Pa bryd bynag y cyflwyna efe
ddernyn pres o'r un ffurf a rhifnod a'r hwn fyddo wrth ei eiddo, ca (xsic) ef
allan o'r orsaf. Torodd clo fy llaw-gôd drom i yn fuan wedi i mi ei chael, ac
yn y cyflwr hwnw y teithiodd ddegau o filoedd o filldiroedd. Aeth trwy ganoedd
o wahanol ddwylaw a gorsafoedd. Nid anfynych y byddai canoedd o filldiroedd
rhyngof â hi, ac aeth wythnos heilbio amryw droion heb i mi ei gweled. Er hyn
oll ni chefais y drafferth leiaf yn ei chylch, ac ni chollais gymaint ag edefyn
allan o honi. Ond pe dygwyddai iddi gael ei cholli, byddai cwmpeini y ffordd yn
gyfrifol hyd at gan' dolar. Yn nesaf at hwn daw cerbyd yr express, yn yr hwn y
trosglwyddir ysgafn-nwyddau ac arian i wahanol fanau; y llythyr-gerbyd hefyd,
yr hwn sydd lythyr-swyddfa gyflawn ynddo ei hun. Llawer llythyr a ysgrifenwyd
ar y cerbydres ac a bostiwyd yn y cerbyd hwn pan ar wib. Cerbyd yr ysmygwyr
fydd y nesaf. Gan fod rhodfa trwy bob cerbyd, a drws a banlawr (platform)
ar bob pen iddynt, gall addolwyr duw y mwg ddyfod o unrhyw ran o'r gerbydres i
arogldarthu iddo yn y deml hon.
Yn nesaf daw cerbydau eraill y teithwyr, y rhai sydd yn addurnedig â mahogany -
neu walnut llugeiniol, pladiau a dyrnddolau arian-wisgedig, gydag
esmwyth-feinciau melfedaidd o ysgarlad neu wyrdd, awyryddion (ventilators)
o wydr amryliw, llusernau llachar, drychau dysglaerwych, cuddgelloedd (closets)
cyfleus, dyfrlestri glanwaith, stoves neu ager-bibellau cynes, a llawer
o gyfleusderau eraill ydynt hynod brydferth a chysurus. Anfynych iawn y gwelir
dim amgen na gweddeidd-dra a boneddigeiddrwydd sydd yn mhlith y teithwyr, sylw
y rhai a hawlir gan dri o bersonau yn dwyn ar eu hetiau deitl eu swydd. Yn
gyntaf y guard, yr hwn a elwir yno yn conductor. Efe ydyw y
nieistr, a daw trwodd yn fynych i gasglu tocynau pan fyddo'r gerbydres yn
myned. Yr ail ydyw y breaksman. Ar waith y gerbydres yn cychwyn allan
o'r orsaf clywir hwn yn bloeddio allan enw yr orsaf nesaf, “Newark is the
next station,” ac wrth fyned i mewn yno bloeddia drachefn, “Newark,
Newark.” Yn aml bydd un arall yn mhen arall y cerbyd yn bloeddio yr un
geiriau. Y trydydd ydyw y news boy, yr hwn a ddaw heibio yn fynych gyda
basgedaid (xt20) o newyddiaduron, neu lyfrau, neu ffrwythau, neu deganau, i'w cynyg
ar werth. Pris cyffredin teithio ydyw tair cent y filldir, llai ar rai
ffyrdd, mwy ar eraill. Canlynir y cerbydau rhag-grybwylledig, efallai,
gan balas-gerbyd, yr hwn sydd lawer ardderchocach eto. Ceir yn
hwn, yn lle esmwyth-feinciau, esmwyth-gadeiriau neu gadeiriau gorweddawg (reclining
chairs), y rhai y gall y teithwyr eu cyflunio fel
(xLLUN: “Cerbydres Ymfudwyr – Reilffordd Pennsylvania”)
ag i allu eistedd, lled-orwedd, neu wastad-orwedd, a chysgu ar eu hyd. Y mae
rhai o'r cerbydau hyn, gan gymaint ac ardderchoced eu ffenestri, agos a bod yn
balasau o wydr. Amcenir hwy i roddi i’r teithwyr gyflawn olwg ar ryfeddodau
naturiol y wlad. Yn nesaf ceir ar rai ffyrdd fwyd-gerbyd (dining car),
yn yr hwn y mae llawer
o fyrddau wedi eu trefnu yn y modd mwyaf destlus a'u hulio â’r (xt21)
(xLLUN: “Cerbyd Ymfudwyr – Reilffordd Atchison, Topeka a Santa Fe”)
danteithion mwyaf blasus, ac iachach ystafell fwyta nis ceir. Pris, 75 cents y
pryd. Gweinyddir yn gyffredin gan fechgyn Negroaidd - gwynebau gloewddu a
gwallt gwlangrychddu, y rhai ydynt yn gwrthweddu yn rhyfedd gyda'u harffedogau
gwynion, glan. Y mae hyn yn aros yn y wlad fel nôd o bendefigaeth, o gymaint ag
y byddai pendefigion y dê yn y dyddiau gynt yn cael gweini arnynt gan eu
caethion duon. Yn olaf daw y cwsg-gerbydau, ystafelloedd y rhai ydynt mor glyd
a'u gwelyau mor lanwaith ac esmwyth ag a geir mewn palasau. Pris ychwanegol,
dolar a haner y nos, a haner dolar y dydd. Negroaid sydd yn aml, nid bob amser,
yn gofalu am y rhai hyn hefyd.
Anfynych y ceir yr holl gerbydau a nodwyd yn nghyd yn yr un gerbydres. Y mae
cerbydres ratach ar gyfer cario ymfudwyr i'r gorllewin, ac y mae y rhai hyny,
gan amlaf, yn dra chysurus. Ceir cyfleusderau coginio, bwyta, cysgu, ymolchi,
&c., yn yr un cerbydau, fel y gwelir yn y darlun. Y mae gan ager-beirianau
rhai ffyrdd oleuni trydanol (electric lihtt) o'u blaen. Goleuir y
cerbydau gan amlaf gan nwy (gas). Y mae yr awyr-gloydd (air-break),
trwy yr hwn y medr peirianydd beri i'r gerbydres gyflymaf sefyll bron ar
unwaith, yn dyfod i arferiad (xt22) cyffredinol. Ar ychydig o ffyrdd y ceir bwyd-gerbydau,
ond arosir mewn gorsafoedd priodol ddigon o amser i'r teithwyr gael en diwallu
naill ai yn y dining-hall am o leiaf haner dolar, neu ar y lunch-counter
am o ddeg cent i fyny. Ni cheir dim meddwol yn un o bob cant o refreshment
rooms y wlad.
(xLLUN: “Dwfr-gafnau Reilffordd Pennsylvania”)
Nid ydyw yr ager-beiriant ar reilffyrdd Pennsylvania yn aros i gymeryd dwfr,
ond gan gyflymu rhagddo, y^f yn helaeth o'r dwfrgist neu gafn hir sydd rhwng y
reiliau.
YMLAEN I RAN
2: 1207k Tudalennau 23-49
·····
Ble'r wÿf i? Yr ÿch chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r
Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web
“CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weørr àm ai? Yuu ààrr vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wébsait
Where am I? You are visiting a
page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website