1211k
Gwefan Cymru-Catalonia / la Web de Gal·les i Catalunya - Wales-Catalonia
Website. Dros Gyfanfor a Chyfandir:
Sef Hanes Taith o Gymru at Lanau y Môr Tawelog ac
yn ôl, Trwÿ brif Daleithau a Thiriogaethau yr Undeb Americanaidd
Gan William Davies Evans. Aberystwÿth: Argraffwyd
gan J. Gibson, Swyddfa'r ‘Cambrian News’ MDCCCLXXXIII (1883)
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_008_dgac_05_1211k.htm
0001z Y Tudalen Blaen
..........1863c Y Porth Cymraeg
....................0009k Y Gwegynllun
..............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
........................................1208k Y Gyfeirddalen i'r Llyfr
Hwn (Dros Gyfanfor a Chyfandir)
..................................................y tudalen hwn / aquesta
pàgina
0860k y llyfr ymwelwyr |
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
Adolygiadau diweddaraf: |
Cynllun
y Llyfr Gordestun |
Rhan
1 Tudalennau 1-22 |
Rhan
2 Tudalennau 23-49 |
Rhan
3 Tudalennau 49-76 |
Rhan
4 Tudalennau 76-103 |
Rhan
5 Tudalennau 103-126 |
Rhan
6 Tudalennau 126-151 |
Rhan
7 Tudalennau 151-173 |
Rhan
8 Tudalennau 173-200 |
Rhan
9 Tudalennau 200-227 |
Rhan
10 Tudalennau 227-250 |
1217k
Hysbysebion Cefn y Llyfr |
Mynegai
- Amryw |
|
Y DAITH
I MITCHEL.
Nid yw Mitchel ond 55 o
filldiroedd o Fort Pierre, er hyny nid oedd yn gyfleus i mi fyned o'r naill i'r
llall heb wneud taith o agos 800 o filldiroedd. Dychwelais ar hyd yr un ffordd ag
y daethum can belled a Waseca, 380 o filldiroedd; yna cymerais gyfeiriad
deheuol i Albert Lea, tref ieuanc mewn gwlad brydferth, lawn o diroedd hela a
llynoedd cyfoethog o bysgod. Yn wir y mae yr holl linell hon i Iowa yn rhoddi
i'r llygad y golygfeydd mwyaf dymunol. Yn Mason City cymerais gyfeiriad
gorllewinol, heibio i Clear Lake hardd ac enwog; aethum trwy Algona,
Emmetsburgb, a lleoedd eraill llai. Disgynais yn Spencer, ac aethum daith ugain
milldir i'r gogledd i weled gwlad ryfeddol ar gyfrif ei llynoedd grisialaidd
a'i golygfeydd (x104) prydferth. Spirit Lake, East Okoboji, a West Okoboji, tua chwe' milldir o
hyd bob un, ydynt y rhai enwocaf. Amgylchir eu dyfroedd gloywon gan rô tywodog,
mân, ac mewn manau gan lanau creigiog,
(xLLUN: LAKE OKOBOJI (IOWA) LOOKING WEST, REACHED VIA “ALBERT LEA ROUTE.” )
serth. Addurnir y wlad
gan lwyni gwyrddlas o maple, derw, cedrwydd, elm, a phrenau dymunol eraill. Y
mae y dyfroedd yn fyw gan amryw fathau o bysgod, a'r amgylchoedd gan soflieir, (x105) chwyaid, gwyddau
gwylltion, crychyddod, eleirch, pelicanod, ac yn achlysurol gwelir yr hydd
ysgafndroed yn neidio dros y prairies neu trwy y coed. Y mae yr olygfa
tua Llyn West Okoboji yn gystal a dim a geir. Tua deuddeg milldir yn ddeheuol o
Spencer y mae trefedigaeth Gymreig lwyddiannus, lle y dywedir fod tir da am
brisiau gweddol isel, yn gystal a phob cyfleusderau tymorol ac ysbrydol. O
Spencer aethum i Mitchel Dakota, 156 o filldiroedd yn mhellach. Nid oedd y dref
hon ar y pryd dros ddwy flwydd oed, ac eto ymylai ar fod yn fawr, gan barhâu i
estyn ei chortynau gyda chyflymdra. Saif tua thair milldir yn orllewinol i'r
Afon James, mewn gwlad dda, heb fod yn wastad nac yn fryniog, ond rolling a
hollol ddi-goed. Ychydig yn orllewinol o Mitchel y mae amryw deuluoedd Cymreig
wedi cymeryd hawliau, a bydd yno sefydliad yn fuan.
O
MITCHEL I COLUMBUS CITY.
Ar fy nychweliad ar hyd
yr un ffordd ag y daethum disgynais yn Rock River Valley, i gymeryd taith o
gerdded wrthyf fy hun dros brairies swyddi Sioux a Lyon, cw`r gogledd-orllewinol
talaeth Iowa. Wedi taflu ysgrepan yn cynwys lluniaeth dros fy ysgwydd, a'm ffon
yn fy llaw, cefnais ar y dref, ac yn fuan nid oedd ond fy mhen a'm ysgwyddau
uwchlaw y glaswair tònog, mawr. Nis gallwn lai na meddwl am flaidd y prairie,
y badger, a'r neidr dorchog, ond ni chyfarfyddais âg un creadur byw ond
adar. Ymgedwais yn agos i'r afon, Rock River. Gan nad faint o rocks a
berthyna iddi mewn manau eraill, nid oedd ganddi lawer o honynt yn y parthau
hyn. Ymgodai y wlad oddiwrthi ar ei dau tu, nid yn fryniau, ond yn chwyddiadau
graddol a hyfryd, ac yr oedd yn llawn o'r llysiau hyny ag sydd, meddir, bob
amser yn arddangosiad o ddaear dda.
Wedi cael y gerbydres gwelais ddau ddyn glandeg yn rhanu traethodau. Daeth un
ataf a gofynodd
“Ai teithio yn achos
dirwest yr ydwyt ti?”
“Nage.”
“Ai pregethwr ydwyt?”
“Ie. Ai hyny ydych
chwi?”
“Nid ydym ni yn gwneud
pregethwyr, ond yr ydym yn deall fod pa aelod hynag o honom fyddo yn meddu dawn
i efengylu i wneud hyny. Yr wyf fi am hyny yn pregethu, ond nid yw fy mrawd.”
“I ba enwad y
perthynwch?”
“I'r Cyfeillion, neu y
bobl a elwir Crynwyr.”
“Yr ydych yn ymwisgo yr
un fath a dynion eraill.”
“Ydym; felly y gwnai
John Fox ei (x106)
hun, ymwisgai efe yn ffasiwn ei oes. Bod yn mwyg syml yr oes, heb goegni, ydyw
egwyddor ein crefydd ni; ond y mae rhai, wrth dalu gormod o warogaeth i oes
John Fox, yn colli golwg ar egwyddor crefydd John Fox.
“Dywedir mai pobl gyfiawn a geirwir iawn ydych chwi y Cyfeillion. A ydyw y rhan
hon o'r wlad yn gyfryw ag y gwnai dynion yn dda i ddyfod o'r dwyrain a thros y
môr i'w thrigianu?”
“Ydyw yn ddiau, yn enwedig tua Millcreek, yn swydd O'Brien. Dylit weled y parth hwnw. Y mae yn dda am fod ynddo ddaear dda, hawliau
da, a phobl dda. Gofala di osod dynion ar eu gwyliadwriaeth rhag iddynt gael eu
twyllo â thiroedd heb fod iddynt hawliau da.”
Yr oeddwn yn awr yn dyheu am orphwysdra. Gobeithiwn ei gael yn nhy fy modryb,
chwaer fy nhad, ac i'r dyben hwn aethum 200 o filldiroedd o fy llwybr
rhag-arfaethedig i
GEIRIAU Y GERBYDRES.
Troais fy wyneb gan hyny i gyfeiriad gogledd-ddwyreiniol. Yn Muscatine
cefais fy hun eto ar làn y
TAITH
I
O
Milwaukee aethum trwy ororau Winnebago i Appleton (p. 9,000), ar làn yr Afon
Fox, lle y mae gallu dyfrawl na cheir ei ragorach i ddybenion ymarferol. Oblegid hyn y mae gwahanol
fathau o felinau a llaw-weithfaoedd yn lluosog yn y lle. Naw-ar- hugain o
filldiroedd yn mhellach, wedi pasio De Pere, daethum i Fort Howard a Green Bay
(p. 8,000), y naill gyferbyn â’r llall ar lànau yr Afon Fox, lle yr ymarllwysa
i Green Bay, Llyn Michigan. Oddiyma aethum 29 o filldiroedd i Oconto (p.
4,000). Nid oedd i'w gweled ar hyd y ffordd hon, gydag ambell bentrefi, ond
coed, coed (x108) dros ugeiniau o filldiroedd.
Y degau milldiroead cyntaf oeddynt lawn o ysgerbydau a drychiolaethau coed. Ymddangosai
y ddaear yn werddlas, ac arni goed ieuaine o tua 15 troedfedd o uchder, yn
ymfalchïo yn eu dail a'u sirioldeb hafaidd. Ond
am yr hon goed mawrion ac uchel, yr un peth iddynt hwy ydoedd haf a ganaf. Yr
oedd eu mwynder wedi ymadaw, heb radd o fywyd ynddynt hwy ddihunant, ac ni
ddeffroant o'u cwsg.” Safant i fyny, er hyny, yn llu mawr iawn; eu godrau yn
olosg du, a'u breichiau noethion, hirion, teneu, yn ymestyn i bob cyfeiriad, ac
mewn modd torcalonus yn parhau i ddweyd o hyd ac o hyd “Y ffordd acw, a'r
ffordd draw, a'r ffordd yna y bu tânau mawrion y flwyddyn 187l,” y rhai a
ddifasant ganoedd o filldiroedd o goedwigoedd Wisconsin a Michigan. Tua yr un amser, hefyd, y
llosgwyd y ddinas fawr Chicago. Yn nghanol coelcerthi y coedwigoedd mawrion hyn
yr oedd tref Oconto, yn gystal a llawer o bentrefi eraill a ddifawyd. nid
oeddwn i yn gweled olion tânau arnynt yn awr, ond ymgynwysant at fod yn gynid
tân mawr arall pan ddigwydda, oblegid o goed y mae y tai a bron bob peth arall
wedi eu gwneud - â blawd llif y palmantir yr heolydd - ger pob gorsaf gwelid
pentyrau o drawstiau, byrddau, to-estyll (shingles), pyst, rail-road
ties, &c., oll yn barod i'w danfon ymaith i'r marchnadoedd.
Rhan fawr o waith y pentrefwyr, hefyd, ydyw gwneud
golosg (charcoal) at wasanaeth y ffwrneisiau blast sydd tua
gororau Llyn Superior. Gwelir y golosgdai o niferi deg neu bymtheg, yn sefyll
yn rhesi gwynion, pob un yn grwn fel pe gosodid haner uchaf helmi neu deisi yd
Cymru i sefyll ar y ddaear. O amgylch eu godrau y mae tyllau i ollwng allan y
mw^g. Trwy araf losgi coed yn y rhai hyn, rhywfodd, y gwneir golosg. Y tu draw
i'r coed defiedig y mae cyflawnder o goed pinwydd, cedrwydd, &c., y rhai
ydynt fyth yn wyrddion, a'u harddwch yn aros y gauaf fel yr haf. Gelwir y
parthau hyn yn pineries, ac oddiyma y danfonir llawer o'r pinwydd a geir
yn y wlad hen. Wedi myned trwy Peshtigo, Marinette, Menominee, lle y croesais
yr afon o Wisconsin i Michigan, ac amryw bentrefi eraill, daethum i Escanaba
(p. 3,000), tref fechan, fywiog, a phwysig iawn, nid yn unig ar gyfrif ei
marchnadfa goed, ond yn benaf ei marchnad haiarn. Y mae y wlad oddiyma i'r
gogledd, at lànau Llyn Superior, yn gyfoethog o'r mw^n haiarn. Saif Escanaba (x109) 243
o filldiroedd i'r gogledd o Milwaukee. Medda borthladd ar Lyn Michigan a allai
yn hawdd gynwys holl ryfel-longau y byd. Y mae ei thair dock haiarn agos
ddwy filldir o hyd; gallant ddal 55,000 o dynelli o fw^n haiarn, a llwytho
1,200 o geir yn ddyddiol. Y Mae gan gwmpeini reilffordd y Chicago & North
Western 2,700 o geir a 55 o ager-beiriannau yn unig yn y gwasanaeth hwn. Heblaw
hyn y mae yr amgylchoedd oll yn rhai ag y mae pleser-deithwyr yn hoffi eu
mynychu. Ceir yn y coedwigoedd tewion lawer o helwriaeth, yn cynwys yr hydd, yr
arth, a phethau eraill y mae plant Nimrod yn hoff o'u hela.
Yr oedd fy nhaith, bellach, mewn gwlad fryniog a garw; ae er fod coed lawer yn
tyfu ar bob llaw, haiarn ydoedd yn meddu y llywodraeth. Erbyn fy nyfod i
Negaunee (p. 4,000), 62 o filldiroedd i'r gogledd o Escanaba, nid ymddangosai
fod dynion yn trin dim braidd ond haiarn, yr hwn, gan fwyaf, a ddanfonir ymaith
fel y tynir ef o'r ddaear. Ishpeming (p. 7,000), ychydig yn mhellach, ydyw y
dref gyfoethocaf o'r nwydd hwn yn yr holl barthau. Dwy-a-deugain o filldiroedd
yn mhellach ac yr oeddwn yn Marquette (p. 7,000), glan Llyn Superior, tad y
dyfroedd, a'r mwyaf o holl lynoedd y byd. Tref hardd, lanwaith, ac iachus ydyw
hon; a'r amgylchoedd, y llawr a'r llyn, daear a dwfr, yn llawn o ddyddordeb i'r
neb fyddo yn caru natur yn ei gwylltedd a'i symledd fel y daeth o law ei
Chreawdwr. Draw yn y llyn claerwyn y gwelir ynysoedd amryw a choedwigoedd
arnynt, a badau pysgotwyr ac ager-fadau teithwyr a phleserwyr yn morio
rhyngddynt. Nid yw y glànau wedi eu cyfnewid fawr eto gan law celfyddyd. Ceir y dyn coch, plentyn y goedwig, heb fyned
yn mhell i chwilio am dano. Ceir ef yn ddiberygl hefyd yn y parthau hyn, yr hyn
a brawf ddylanwad daionus y cenhadon Pabaidd, y rhai yn amyneddgar a drigasant
dros genedlaethau yn wigwams gwael yr Indiaid i'w haddysgu. Ar fy
nychweliad i
CYLCH
CYMANFA
Ar ol agos mis o ddim ond
teithio o gw^r i gw^r i weled ansawdd a rhyfeddogau y wlad, dechreuais eto ar
daith bregethwrol trwy gylch (x110) cymanfa
(xLLUN: CEDAR
LAKE AND FORT SNELLING (MINN.), REACHED VIA “
milldir yn ddeheuol, i sefydliad Cymreig mawr Blue
Earth. Yn Lake Crystal, gerllaw.yno, yr oeddwn pan ddaeth y newydd fod yr Arlwydd
Garfield wedi. ei saethu, ac yn Mankato (p. 6,000), yn (x111) mhen
dwyreiniol y sefydliad, yr oeddwn ar y sydcl o Orphenaf, diwrnod mawr
cenedlaethol y Talaethau Unedig; ar y dydd hwn y darllenir Dadganiad
Annibyniaeth, y traddodir areithiau gwladgarol, ae y gwneir arddangosiadau o
lawenydd; ond y tro hwn nid oedd yn Mankato, nac yn odid dref arall trwy yr
Undeb, lawenydd. Tebycach ydoedd i ddiwrnod claddu - y wlad oll yn ei galar am
fod ei thywysog ai gw^r mawr wedi syrthio.
O'r parthau hyn yr oedd genyf, rywbeth fel can' milldir i fyned i
sefydliad Lime Springs, yr hwn sydd ar y terfyn rhwng talaethau
TAITH
ETO I DAKOTA
ar draws Talaeth Minnesota, trwy eangdiroedd rhyfeddol o wenith - gwenith yn
feusydd wrth feusydd, a meusydd ar ol meusydd, can belled ag y gallai y llygad
ganfod i bob cyfeiriad. Nid oedd y parthau hyn mor wastad a rhanau mwy deheuol
y dalaeth, ac am hyny
Yn agos i làn yr Afon
Minnesota y teithiais barth gorllewinol y dalaeth hon, ac wedi croesi y llinell
i Dakota, aethum yn fuan i dref ieuanc, hardd, a chynyddol Millbank, lle y
disgynais ac y cefais olwg ar eangder o wastadedd tra dymunol. Er fy mod wedi
teithio 190 o filldiroedd o Minneapolis, yr oedd genyf i fyned eto tua 80
milldir i swydd Brown, hwnt i Afon James, lle y mae trefedigaeth ieuanc o
Gymry. Yr oedd rhanau o'r daith hon dros fryniau neu chwyddiadau creigiog, a
hollol amddifad o goed. Anfynych iawn hefyd yr ymddangosai dim tebyg i
breswylfa ddynol. Tra y safai y gerbydres yn hir mewn un man, ceisiais wneud cytundeb âg Indian am ferlyn a ddygasai yno
i'w werthu. Methwyd cytuno wrth gwrs. Cefais i ei weled yn marchogaeth; cafodd
yntau trwy y cyfieithydd ganmoliaeth, ac felly cawsom ein dau foddlonrwydd.
Ceffid arwyddion o drigfanau dynol fel yr agosaem at Afon James. Tua dwy
filldir ar yr ochr orllewinol iddi y mae pentref Bath. Nid oedd ond mis oed ar
y pryd, a gwnelid ef i fyny o ychydig dai, gwneuthuredig o fyrddau geirwon wedi
eu hoelio rhywlun wrth eu gilydd, ac eraill yn ddim ond pebyll. Pabell o gynfas
gwyn ydoedd y brif faelfa (shop). Cynwysai er hyny amrywiaeth mawr o nwyddau.
Adeilad arall, gyda'i haner isaf yn fyrddau a'i haner uchaf o gynfas, ydoedd y
gwestdy (hotel), ty ag y mae llygad y teithiwr bob amser yn chwilio am dano.
Adeilad hir, isel arall a elwid yn livery stable, ty tra angenrheidiol
yn y gorllewin, am fod ar ymchwilwyr angen ceffylau i farchogaeth arnynt tra yn
gweled y parthau ac yn gwneud dewisiad o ffermydd.
DECHREU
YMSEFYDLU.
Bedair milldir i’r
gogledd o Bath y mae gwladfa Cymreig, cynwysedig yn benaf o bobl newydd fyned
yno o barthau Cambria, Wisconsin. Ar fy ffordd tuag yno gwelais ddyn yn eistedd
ar ei aradr (sulky plough), gyda thri o geffylau, yn tori y ddaear hòno
am y tro (x113) cyntaf erioed. Y ty cyntaf y gelwais ynddo ydoedd eiddo Mr. Robert
Rowlands. Edrychid arno ef fel hon sefydlydd, canys daethai yno er ys mwy na
blwyddyn. Gwelodd auaf yn y lle, ac yr oedd ei deulu wedi dyfod ddau fis cyn fy
mod i yno. Yr oedd ei dy hefyd y mwyaf a'r ardderchocaf yn yr ardal, fel yr
oedd llawer o son am dano, canys yr oedd mor fawr fel y gellid gwneud ynddo
ddwy ystafell ar y llawr isaf trwy dynu gwahanlen o gynfas trwy ei ganol, ac yr
oedd ei lawr wedi ei fyrddio. Byrddai geirwon ydoedd ei fur mewnol, am yr hwn y
codasid mur arall o dyweirch, tua dwy droedfedd a haner o drwch, er cadw y
tylwyth yn glyd dros y gauaf. Tyweirch hefyd ydoedd y tô, yn gorchuddio tô o
fyrddau. Ar fferrn arall cefais y gwr yn prysur adeiladu ty o dyweirch, fel y
gallai droi yr hen dy a gododd ychydig fisoedd yn flaenorol, i fod yn llety yr
anifeiliaid. Yn y ty nesaf cefais chwech o wyr ieuainc yn “bachio,” hyny
yw, yn cadw gweddwdy. Yr oeddynt wedi dyfod yno yn ddiweddar, cymeryd pob un
iddo ei hun fferm, a chytuno i godi un ty cydrhyngddynt oll, yn yr hwn y
coginent eu bwyd eu hunain, y golchent eu dillad eu hunain, ac y dwrdient eu
hunain. Edrych yr oeddent, er hyny, ar daledigaeth y gwobrwy, canys gobeithient
wneud eu ffermydd yn Eden Ardd, yn yr hon rhyw foreu hyfryd, wedi deffro o'u
llafur a'u lludded, y caent eu Hefa deg wedi eu dwyn atynt i fod iddynt yn
ymgeledd gymwys. Dywedwyd wrthyf fod yno dy neu ddau arall o'r un nodwedd. Y ty
nesaf, yr hwn hefyd y cefais letya ynddo, ydoedd y nesaf mewn rhagoriaeth at
eiddo Robert Rowlands. Dywedodd y pen teulu wrthyf mai efe ei hun hefyd a'i
gwnaeth, ac yr oedd llawer rhagorach gwneuthuriad arno nag a wnai pen-saer
celfydd, oblegid gan fod y byrddau wedi sychu a thynu atynt er pan eu hoeliwyd,
yr ydoedd haner modfedd o rigolau rhyngddynt amgylch-ogylch yr adeilad ac yn y
tô, ac felly awyryd ef oddifewn yn nhymor cynes yr haf. Beth am y gauaf ? Ei
wisgo a thyweirch, wrth gwrs, a'i wneud mor ddyddos a nyth y dryw.
Pa fath auaf sydd yno?
Gauaf ofnadwy, medd pobl o bell; gauaf digon hawdd ei oddef, medd rhai a
dreuliasant auafau yno. Tanwydd ydyw y nwydd prinaf. Ceir coed am bris uchel
oddiwrth lànau yr afon, a cheir glo ar yr orsaf. Bwriada y bobl blanu llwyni a
rhesi o cotton-wood, poplars, maple, &c., y rhai ydynt o
dyfiant cyflym; yna gwnant yn burion. Nid oes i wahaniaethu rhwng ffermydd a'u
gilydd (x114) ond pyst ar y conglau a osodwyd gan dirfesurwyr y Llywodraeth, ac yn
achlysurol cwysi wedi eu gwneud gan erydr y perchenogion. Am gaeau, nid ydynt
eto i'w cael. Gwelir dernyn o Indrawn yma, dernyn o wenith acw, dernyn o geirch
y fan draw, a dernyn o gloron fan arall. Eir i dori ac i gynheuafu gwair, pa le
bynag y byddo i'w gael, heb ofyn pwy fydd y perchenog; a gollyngir yr
anifeiliaid, fel y crybwyllwyd yn flaenorol, i'r yrr (herd) gyffredinol. Cedwir
y fuwch neu ddwy, yn gystal a'r ceffylau a ddefnyddir, yn aml yn rhwym gerfydd
rhaff a elwir larriet, tua 40 troedfedd o hyd, yn agos i'r ty, a
thruanaf o bawb yn y gorllewin ydynt y creaduriaid hyn. Pa faint bynag fyddo'r
gwres, nis gallant ddianc i'r cysgod. Daear wastad ydyw y ddaear hon, gydag
ychydig chwyddiadau graddol, ac y mae yr awyrgylch ar adegau yn ddrych, canys
ymddengys tref Columbia a lleoedd pell ac anweledig eraill yn achlysurol ar y
terfyngylch fel pe baent yn agos.
YN
NEBRASKA.
Fy mhwynt nesaf ydoedd
Talaeth Nebraska. Wedi taith gwmpasog o agos 900 o filldiroedd trwy Farmington,
Austin, McGregor, Davenport, a Des Moines, daethum i'r orsaf fawr a rhyfedd a
elwir Transfer, ger Council Bluffs, ar làn dwyreiniol yr Afon Missouri. Yma yn
benaf y mae dwyrain a gorllewin y talaethau yn cyfarfod a'u gilydd. Ar yr ochr
ddwyreiniol i'r orsaf y mae pen draw pump neu chwech o'r reilffyrdd mwyaf yn
gollwng eu teithwyr i lawr; ar yr ochr orllewinol y mae reilffordd enwog yr Union
Pacific yn eu cymeryd i fyny i'w trosglwyddo dros yr afon i Omaha a draw ar
hyd dyffryn Platte i'r Mynyddoedd Creigiog, tiriogaeth y Seintiau, a'r
gorllewin mawr. Saif Omaha (p. 31,000) a'r làn orllewinol y Missouri. Nid
ydoedd yma yn 1854 onid bwthyn o gyffion. Dvwedir mai Cymro, o'r enw Jones,
ydoedd post-feistr cyntaf y dref, ac mai yn ei het y cadwai y llythyrau; a chan
y byddai ynddo lawer o duedd at hela gwyllt-filod, bu raid i bobl bryderus am
eu llythyrau redeg milldiroedd lawer gwaith ar ol yr hen het. Y mae yn y dref yn
awr lythyrdy ardderchog, a'r lluaws adeiladau eraill yn cyfateb. Oddiyma
cymerais gyfeiriad deheuol o dros gan' milldir i weled y drefedigaeth Gymreig
sydd ger Blue Springs. Er mai ychydig flwyddi ydyw oedran y sefydliad hwn medda
agwedd (x115) lwyddiannus, ac y mae yn myned ar gynydd cyflym. Gwlad hyfryd yr olwg arni
ydyw y wlad hon, ar awyrgylch yn dymerus, heb fod yn gynes iawn yr haf, yn oer
iawn y gauaf, nac mewn un modd yn afiachus. Oddiyma aethum gan' milldir i
gyfeiriad gorllewinol, can belled a Red Cloud. Hyfryd yn wir ydoedd yr olwg ar
y wlad. y Dychwelais trwy Lincoln (p. 14,000), prif ddinas y dalaeth, i Omaha.
Oddiyma cymerais linell yr Union Pacific ar hyd dyffryn brâs ac enwog Afon
Platte, can belled a North Platte City, tua 300 o filldiroedd yn orllewinol, ac
yn ol, a gwelais feusydd o Indrawn a thiroedd pori o'r fath ragoraf.
BACHGEN
FFRAETH.
Tra yn aros i ddysgwyl y
cerbydres ar y transfer, rhedodd bachgen tua phymtheg oed o urdd y boot-blacks
ataf. Wedi cytuno âg ef am “shine,” a thra yn myned yn mlaen â'i waith,
holodd lawer arnaf parthed y trefi gorllewinol y bum ynddynt, eu llwyddiant a'u
rhagolygon. Ac meddai,
“I ba le yr ydych chwi yn myned?”
“I'r dwyrain,” atebais.
“Gwlad Duw ydyw y dwyrain,” meddai yntau.
“ Pa wlad ydyw y gorllewin?” gofynais.
“Gwlad y diafol.”
“Paham yr ydych chwi yn ewyllysio myned o wlad Duw i wlad y diafol?” “Am fod yn
well genyf ei deulu. Y mae ei holl blant ef yn genuine, ond am y rhai a
alwant eu hunain yn blant y llall, y mae eu haner yn fastardiaid; ac y mae eu
trwynau duon dan fentyll gwynion yn wrthun i'r rhai sydd yn caru gwirionedd a
phurdeb.”
“Fachgen ofnadwy,” meddwn wrtho, “a ydych yn deall beth ydych yn ei cymeryd i
fyny i'w trosglwyddo dros yr afon i Omaha a draw ar hyd ddweyd?”
“Efallai nac ydwyf, ac os felly yr wyf yn siarad yn grefyddol, canys yr wyf yn
sylwi nad yw llawer o'r rhai sydd yn siarad crefydd yn deall eu hiaith eu
hunain. Iaith y nefoedd ydyw iaith crefydd, ac y mae yn ardderchog. Nid oes neb
ond rhai a fu yn y nefoedd neu a gawsant eu dysgu gan ysbryd y nefoedd a fedr
ei deall. Ond am y rhigamoral crefyddol a glywir gan lawer, nid yw ond
iaith parrots, a santeiddrwydd ffasiynol yr oes ond dynwarediad mwncyod
y fagddu. Y mae genyf barch i grefydd os bydd o'r peth gwirioneddol. Yr wyf yn
caru y gwirioneddol na santeiddrwydd ffugiol. Anrhydeddusach creadur ydyw
ellyll hollol nag epa o angel.”
“I ba le yr ydych yn myned?” gofynais iddo.
“I bob man, efallai - af i ba le bynag y gallaf (x116) obeithio gwneud
ffortun.”
“O ba le y daethoch?”
“O bob man am a wn i. Pa nifer o leoedd y bum ynddynt cyn cof nis gallaf
ddweyd, ond er cof genyf fi bum yn Llundain, yn Paris, ac yn amryw o brif
ddinasoedd Ewrop. Daethum yma tua haner awr yn ol o Chicago, ac yn y man byddaf
yn myned gyda'r gerbydres acw i Colorado.” Rhaid fod genych lawer o arian i
allu teithio felly.”
“Na, nid trwy nerth arian yr wyf yn myned. Y mae yn perthyn i mi freiniau na
wyr y lluaws am danynt; meddwyf special compartment, yn yr hwn nid yw
rydd i eraill ddyfod iddo.”
“Pa le mae hwnw?”
“Gwelwch y sêt fechan acw sydd rhwng yr olwynion dan y cerbyd, acw yr wyf yn
eistedd, chwi gewch weled yn y man.”
“Beth pe baent yn eich gweled?”
“Wel, beth hefyd? Nis gallent ond fy nhynu ymaith - ni chaniatâ y gyfraith
iddynt fy lladd na'm niweidio; ond nis gwelant fi, ni chefais fy nhroi allan
unwaith.”
“Beth pe rhedai y gerbydres dros fuwch neu geffyl?”
“Wel, byddai yn well arnaf fi nag ar yr anifail druan; ond nid wyf yn arfer
rhedeg i gyfarfod gofidiau; pe felly buasent wedi fy mwyta yn mhell cyn fy
ngeni.”
“Wel, “meddwn, “y mae llawer ffordd i fyned trwy y byd.”
“Oes, “ meddai yntau, “ac yr wyf fi yn myned i fyned trwyddo. Teithiais eisoes
ranau o ddau gyfandir, ac mi a fynaf wybod pa ran i mi sydd yn y byd hwn.”
“A oes genych rieni yn fyw?”
“Oes am a wn i, neu nac oes am a wn i; ond mi a wn i na wn i ddim am danynt.
Mab ydwyf, o bosibl, i un o street walkers Llundain, neu i ryw eneth
barchus ac anwyl a dwyllwyd, neu, efallai, i ryw foneddiges urddasol a ddaeth o
bwrpas i rhyw gongl neillduedig o'r ddinas hòno i'in rhoddi yn anrheg iddi, neu
efallai y daw i'r golwg rywbryd fy mod yn etifedd o gyfoeth a theitlau uchel,
yr ysgrifenir am danaf ac y cenir fy nghlodydd; ond a fyddwch chwi yn gwybod
mai y boneddwr hwnw fu yn shino eich esgidiau yma heddyw?” Ar hyn canodd
y gloch, symudodd y gerbydres, ac yn chwim gosododd y bachgen ei hun, ei flwch,
a'i frwsh, fel y dywedodd, yn daclus ar rywbeth dan y cerbyd, ac ymaeth ag ef,
y creadur bychan, tlawd. Meddai brydwedd landeg a deniadol, gyda chyflawnder o
dalent a ffraethineb.
YN IOWA.
Ar ol hyn dechreuais ar
daith o bregethu trwy dalaethau Iowa, (x117) Missouri, a Kansas. Y lle y dechreuais ynddo
ydoedd Long Creek, ger Columbus City, o'r lle yr aethum i Iowa City (p. 9,000)
ac Old Man's Creek ; yna i Welsh Prairie, lle y'm cyhoeddwyd y Sabbath
(xLLUN: THE HOG BACK, SPIRIT LAKE (IOWA), REACHED VIA “ALBERT LEA ROUTE.”)
blaenorol fel pregethwr
o sir Aberteifi, am hyny cofiwch bawb ddyfod i'w wrandaw; “ oddiyno i
Williamsburgh. Yn yr oll o'r sefydliadau hyn y mae ein cenedl ni yn amaethwyr
cryfion a (x118) llwyddiannus iawn. Yn Marengo cymerais daith orllewinol o 90 o filldiroedd
i Des Moines (p. 23,000), prif ddinas y dalaeth, gerllaw i'r hon y mae Sevastopol,
ac yma y dechreuais ymweled â glowyr Iowa. Gan gymeryd cyfeiriad
deheu-ddwyreiniol trwy Knoxville, daethum i barthau Beacon a Givin, ger
Oskaloosa (p. 5,000), oddiyno i Ottumwa (p. 9,000) a Belknap.
Ar y daith rhwng y ddau le olaf adgofiais ymddyddan yr unfed-ganrif-ar-hugain
ar wastadedd Dakota, canys fel yr oeddwn yn sefyll allan ar y banlawr olaf, pan
oedd ein cerbydres yn pasio craig o faintioli tâs wair, rhedodd dyn allan mewn
syndod a gwaeddodd,
“Dyna graig fawr.”
Gan nad atebwyd iddo air dywedodd drachefn,
“A welsoch chwi graig mor fawr a honyna o’r blaen!”
“Do, rai,” oedd yr atebiad.
“Wel ni welais i, a dweyd y gwir. Yr wyf yn golygu y graig yna yn un o ryfeddodau y
greadigaeth. Ai nid ydy'ch chwi?”
“Y mae pob peth yn y greadigaeth yn rhyfedd, ac yn ddiameu byddai craig fel yna
yn rhyfeddod fawr yn eich gwlad chwi.”
“Pa fodd y gwyddoch pa wlad yr wyf yn byw ynddi? Yr
ydych yn byw yn ngogleddbarth y dalaeth hon, onid ydych?”
“Ydwyf; ond sut y gwyddoch chwi hyny?”
“Trwy weled darlun gwastadeddau eich gwlad yn eich llygaid, a syndod eich
wynebpryd pan welsoch y tamaid craig yna.”
“Ai nid ydyw yn un fawr ryfeddol ynte?”
“Mewn, cydmariaeth i dwrch-dwmpathau
eich gwlad chwi, y mae felly; ond mewn cydmariaeth i greigiau a welwch eto, os
ydych yn myned yn mhell i'r cyfeiriad hwn, nid ydyw ond megys twrch-dwmpath ei
hun.”
Ar ol syllu enyd ar yr hwn oedd yn ymddiddan âg ef, fel i wneud allan pa un ai
mewn cellwair ai sobrwydd yr ydoedd, aeth i fewn. Wedi cael ei sêt gwelais ef
yn syllu yn hir a manwl yn y drych (looking-glass) i weled, gallwn
dybio, a oedd llun ei wlad yn ymddangos yn ei lygaid. O Belknap cymerais
gyfeiriad gorllewinol can belled ag Allerton, yna i Lucas a Cleveland, lle y'm
hanrhegwyd â gweithiau Mormonaidd, ac ym haddysgwyd yn y gwahaniaeth sydd rhwng
y ddwy gangen, o Saint y Dyddiau Diweddaf.
(x119)
YN MISSOURI.
O
Cleveland cymerais daith ddeheuol o tua 150 o filldiroedd, trwy Centerville,
Kirkville, a Macon City, i Moberly (p. 7,000) a Huntsville, lle y mae llawer o
lowyr Cymreig. Am Americaniaid y parthau hyn, hen gaethfeistri, neu rai o'r
daliadau hyny, ydynt gan amlaf. Chwythant eu geiriau allan megys trwy eu
trwynau, a gwnant defnydd anarferol o'r llythyren h. Edrychant yn
ddirmygus i raddau ar ddyn gwyn fyddo yn gweithio. Ystyriant mai'r Negroaid
duon sydd i fod yn ddynion gwaith; ac y mae lluosogrwydd o'r cyfryw i'w gweled
yma.
O Huntsville cymerais gyfeiriad gogleddol i Bevier, yr hwn sydd bentref Cymreig
agos oll, lle y codir llaweroedd o lô. Pan oedd nifer o bobl yma yn rhoddi i mi hanes y
lle, gofynodd un o honynt a oeddwn yn bwriadu cyhoeddi eu hanes yn hollol fel y
mae.
“Amcenir at gywirdeb,” ydoedd yr ateb.
Meddai yntau, gyda chellwair yn lygaid,
“Nid ydym am roddi i chwi fwy o'n hanes nag sydd w eddaidd, gan hyny yr wyf yn
gofyn i chwi a ydyw yn weddaidd i weinidog Cymreig fedyddio Negroaid?”
“Gan y gorchymynir i weinidogion yr Efengyl ddysgu a bedyddio yr holl
genedloedd, a fod y genedl Negroaidd yn y rhestr, y mae yn weddaidd i weinidog
Cymreig fedyddio Negroaid.”
“Felly,” meddai yntau, “y mae yn rhydd i mi ddyweyd yr
hanes. Daeth nifer o deuluoedd Negroaidd i breswylio yn agos yma, a chan nad
oedd yn eu plith weinidog o honynt eu hunain, a'i fod yn marn gweinidogion
gwynion (llawer o'r rhai yn y parthau hyn ydynt o dras yr hon gaethfeistri) yn
anheilwng o'u hurddas i fedyddio Negroaid, daethant at weinidog Cymreig a
gofynasant iddo a wnai efe ymostwng i'w bedyddio hwy. Ymostwng i fedyddio!'
meddai'r Cymro; 'mi a'i cyfrifwn yn fraint o'r mwyaf i gael bedyddio unrhyw
greaduriaid, i wneud hyd yn nod pe baent fulod, ond cael ynddynt arwyddion eu
bod yn credu yn Nghrist.' Ac felly, heb ychwaneg o lol, efe a'i bedyddiodd.'“
Ddeng milldir yn mhellach i'r gorllewin y mae amgylchoedd New Cambria, gwlad fryniog
o amaethwyr, a'r sefydliad Cymreig mwyaf yn y dalaeth. Tua haner can' milldir
yn mhellach disgynais yn Utica i fyned i sefydliad Cyrareig arall a elwid Dawn.
Yno y mae gwlad fwy. dymunol yr olwg arni. Ychydig yn dde-orllewinol oddiyma y
mae sefydliad Cymreig Low Gap, lle y mae gwlad brydferth a (x120)
thiroedd da am brisoedd cydmarol isel. Oddiyma cymerodd cyfaill caredig fi ar
ganol nos yn ei gerbyd i fyned i Moresville i gael y gerbydres i Kansas City.
Ar ein gwaith yn pasio rhyw dy dywedodd, Dyma lle y cartrefa y Negro brydiog a
da at yr hwn yn amser caethwasiaeth yr arferai caethfeistri ddyfod a'u
caethesau fel y gallent godi stock dda o gaethion. Ystyrid ef yn un mor
rhagorol fel y deuent ato ganoedd o filldiroedd.”
Aeth y gerbydres i mi trwy barth o wlad a ffinid gryn lawer gan ysbeilwyr, y
rhai yn finteioedd yn y nos ac mewn lleoedd anghysbell a barent i stages,
ïe, trains cyfain sefyll tra fyddent yn eu hysbeilio. Bu hyny droion yn
yr amgylchoedd hyn yn ystod yr haf hwnw. Ychydig ddyddiau cyn fy myned y ffordd
hon, yr oeddynt wedi saethu yn farw conductor cerbydres ac un o'r
teithwyr, ac ysbeilio pawb arni. Gwnaent eu hymosodiadau sydyn, yn ol
cyfundrefn gyd-ddealledig. Rhaid fyddai i bob un yn y cerbyd ddal ei ddwylaw i
fyny dan y perygl o gael ei saethu yn y fan, tra byddai un o'r lladron yn myned
oddiamgylch gyda chwd i roddi llogell-lyfrau, oriaduron, arian, tlysau, a phob
peth gwerthfawr ynddo. Wedi ysbeilio hefyd gerbydau yr express a'r
llythyrau, inarchogent ymaith. hon wrthryfelwyr y d6 ydynt y creaduriaid hyn
gan amlaf. Deallwyf fod rhai o'r blaenoriaid mileinig wedi eu dal, a’r wlad yn
awr yn cael llonydd ganddynt.
Y mae Kansas City yn ddinas flodeuog ar fryniau rhamantus glan y Missouri.
Cynyddodd poblogaeth y ddinas hon mewn deg mlynedd o amser o 5,000 i 56,000.
Hwn ydoedd y trydydd lle i mi groesi y Missouri. Croesais hi y tro cyntaf ger
Fort Pierre, tua 600 o filldiroedd yn uwch i fyny, a thrachefn ger Omaha. Cynelid ffair flynyddol y Sir gerllaw Kansas City pan oeddwn yno. Parha
y ffeiriau hyn yn mhob Sir dri diwrnod. Eu hamcan ydyw, nid gwerthu, ond gwneud
arddangosiad o bethau, a gwobrwyo am y goreuon o'r anifeiliaid, ydau,
ffrwythau, peiriannau, marchogesau, ac agos bob peth defnyddiol. Prif atdynfa y
ffair hon ydoedd rhedegfa o bumtheg milldir ar feirch rhwng un Miss Williams a
rhyw Miss arall. Yr oedd Miss Williams wedi curo y llall mewn rhedegfa
flaenorol, ond y llall gurodd y tro hwn. Rhagorai un fel marchoges, a rhagorai
y llall mewn cyflymdra wrth newid meirch, y rhai a newidiwyd chwech neu saith o
weithiau.
(x121)
KANSAS.
O Kansas City aethum bedair milldir yn ddeheuol i Rosedale, lle y mae
llaweroedd o Gymry yn gweithio mewn tân-weithfaoedd. Wedi dychwelyd i Kansas
City cymerais daith orllewinol o ddeg milldir ar hugain i Lawrence (p. 9,000),
lle ag oedd yn ganolbwynt brwydrau gwaedlyd rhwng gwy^r geirwon y cyffiniau (border
ruffians) yn amser y gwrthryfel mawr. Meddianwyd ac ysbeiliwyd y lle
unwaith gan y carn-leidr hynod Quantrell a'i wylliaid. Saith
(xKANSAS AVENUE,
TOPEKA.)
milldir ar hugain yn mhellach ac yr oeddwn yn Topeka (p. 16,000). Yr oedd yno
ffair dalaethol, yr hyn a barai brysurdeb neillduol ar y reilffyrdd tuag yno o
bob cyfeiriad. Yr oedd i'w gweled yno ryfeddodau naturiol a chelfyddydol y
byddai yn werth teithio canoedd o filldiroedd i'w gweled. Er hyny, testun mawr
y ffair hon eto ydoedd rhedegfa ar feirch rhwng Miss Curtis, o Kansas, a (x122)
Miss Pinneo, o Colorado. Ugain milldir ydoedd y rhedegfa hon i fod, ond am fod
un o'r merched wedi myned yn glaf byrhawyd hi i ddeg. Gorphenodd y ferch glaf
ei gyrfa mewn llewyg, ond enillodd y goron.
Rhyfeddod fawr arall a welwyd yn y ffair hon ydoedd buddugoliaeth dirwest. Yn
mhlith y miloedd, ïe, y canoedd o filoedd dynion oeddynt wedi ymgynull o gylch
canoedd o filldiroedd, ni welid un dyn meddw yn eu plith, nac un dyn yn gwerthu
na phrynu diod feddwol trwy yr holl ffair. Y mae Kansas wedi gwneud cyfreithiau
dirwestol, ac nid ydyw yn gyfreithlawn i neb ond cyffeirwyr werthu diodydd
meddwol o'i mewn. Y mae, er hyny, trwy y dalaeth oll raddau mawr o werthu ac o
yfed sly. Gwelais ddau, a dim ond dau, yn arddangos gogoniant eu
cywilydd mewn tref ag y tybid ei bod yn hollol ddirwestol. Pwy oeddynt?
Indiaid? Nage. Gwyddelod? Nage. Ellmyniaid? Nage. Yankees? Nage. Nid Cymry, ai
e? Ië, yn wir, dau Gymro wedi dyfod yn ddiweddar iawn o Gymru!
DEFAID KANSAS.
Gan fy mod yn dysgwyl fy mhethau i ddyfod ar fy ol o Kansas City, ni ellais
ymadael i Topeka cyn dau o'r gloch y boreu. Cyrhaeddais Osage City erbyn pump,
ac ar ol llawer o drafferth. cefais hyd i Gymry, ond mor llwyr luddedig yr
oeddwn yn cael fy hun fel y bernais y byddai gwely yn llawer mwy cyfaddas na
phulpud, er ei bod yn Sabbath. Hebryngwyd fi y prydnawn hwnw ddeuddeg milldir i
sefydliad Cymreig Arvonia, lle y cyfarfyddais â'r Parch. M. B. Morris, ei
wraig, a'i ferch, o Colorado. Oni buasai y cydgyfarfyddiad hwn buasai rhan
ddyeithriaf a rhyfeddaf fy nhaith, hwyrach, heb ei chyflawni. Ar ddyferiad olew
grasol Mr. Morris i'm hysbryd llesg, ymadfywiais a chefais nerth i fyned
rhagof.
(x123)
I fyned o Arvonia i'r Bala, yn ngwlad Powys, tua phedwar ugain milldir yn
ogledd-orllewinol, yr oedd genyf i ddychwelyd i Osage City, lle y clywais am
farwolaeth yr Arlywydd Garfield, yn mhen agos i dri mis ar ol iddo gael ei
saethu. Aethum heibio Peterton, lle y mae llawer o lôwyr Cynireig, a thrwy
Burlingame i Manhattan. Daeth dyn o'r Bala a'i gerbyd i gyfarfod â mi i'r lle
hwn, ond gan iddo fy ngheisio ar orsaf wahanol i'r hon y daethum iddi, ni
ddaethom o hyd i'n gilydd, gan hyny mi a'i troediais allan tua chwe'milldir ar
hugain ar hyd Dyffryn y Gath Wyllt. Ymddangosai, y wlad hon yn debyg i rai
parthau o Gymru; bron na thybiwn wrth ganfod tai o geryg a chloddiau ceryg ar
fryniau ceryg, fy mod yn rhodio yn agos i'r môr yn Sir Feirionydd.
O'r Bala aethum i Junction City, tuag ugain milldir yn ddeheuol. Yr ydoedd yno
anghydfod rhwng y diodwyr a'r dirwestwyr. Os methid cael deuddeg o reithwyr i
euog-farnu dyn a fyddai yn cael ei erlyn am werthu diodydd meddwol, ystyrid y byddai
y fasnach feddwol wedi cario'r dydd, ac y byddai yn ddiogel i'r neb a
ewyllysiai werthu ei melldithion. Dywedid fod rhai trefydd yn y. dalaeth wedi
gorchfygu y modd hwn ac yn gallu herio y gyfraith.
(xYSGOL NORMALAIDD
EMPORIA, KANSAS.)
Oddiyma aethum i Emporia (p. 5,000), tua triugain milldir yn
ddeheu-ddwyreiniol. Yn, a ger y dref hon y mae y sefydliad Cymreig mwyaf ei
faint, ei lwydd a'i bwys yn y dalaeth. Arosais yma fwy nag wythnos, a chefais y
bobl yn hynod garedig. Ar ol tymor maith o sychder daeth yn wlaw mawr yno
brydnawn y 29ain o Fedi, a da gan bawb ydoedd derbyn y rhodd, ond daeth dinystr
i'w ganlyn, canys aeth heibio i'r dref, tua milldir oddiwrthi ar y tu
gogleddol, hyrddwynt ofnadwy, yr hwn a ddrylliodd amryw dai, ac a ddygodd ymaith
bedwar o fywydau dynol; gwelais ddau o'r cyrff, sef eiddo gwraig ieuanc a baban
blwydd a hanner oed.
(x124)
I
Burton, 93 o filldiroedd yn mhellach, lle y mae sefydliad bychan o Gymry, yr
aethum yn nesaf. Fel engraifft o'r croosaw a roddir i newydd-ddyfodiaid yn y
Gorllewin, wele a ganlyn o'r Burton Monitor am yr wythnos hono:-
“We
now have a tailor, in the person ef Mr. Owens, just from the old country
(Wales). He comes well recommended, has a good face upon him, and we are all going
to patronize him and help him along. We want every fellow that strikes our town
to ‘stick’.”'
Y
mae y wlad yn yr amgylchoedd hyn yn wastad agos fel bwrdd, ond tua deuddeg
milldir yn ddeheuol, tua glan yr afon Arkansas, y mae tiroedd ag ychydig chwyddiadau
ynddynt, tiroedd rhagorol, meddir, ac a werthir gan gwmpeini y reilffordd
ardderchog Atchison, Topeka, and Santa Fe am brisoedd isel a thelerau
manteisiol iawn i dalu; os myn neb ei feddianu ni ddylid colli amser, bydd yn
fuan wedi myned. Nid llawer o diroedd amaethu da a geir yn mhellach na hyn;
gwaelach, waelach y ceir ef bellach fel yr agoseir at y Mynyddoedd Creigiog.
Pymtheg milldir o Burrton y mae Hutchinson. O'r lle
hwn yn mlaen ymgadwai y reilffordd yn agos at yr afon Arkansas. Nid oedd ond
gwastadeddau mawrion i'w canfod, gyda threfi a pentrefi yma a thraw, wedi eu
cenhedlu a'u magu gan y reilffordd, a dywedir eu bod oll yn bwriadu dyfod, fel
eu mam, yn rhai mawrion ac enwog iawn. Sterling,
er engraifft (p. 2,000), yr hon yr ymffrostia ei phreswylwyr ei bod eisoes
gymaint a New York, ond yn unig ei bod heb ei hadeiladu. Yn mhellach yn mlaen y
mae Craig Pawnee, lle hynod mewn hanes ar gyfrif ei ryfeloedd Indiaidd. Yn
mhlith y lluaws enwau a dorwyd yn y graig y mae enw Robert E. Lee, prif gadlylwydd,
y De yn amser y gwrthryfel mawr; cerfiodd ei enw yma pan oedd yn ieuanc.
Yn
fuan wedi pasio Larned dechreuasom fyned trwy wlad gydmarol ddiffrwyth, fel
mynydd Gilboa, heb na gwlith na gwlaw (i raddau digonol) yn disgyn arni.
Dywedir ei bod yn ffaith ryfedd fod y cawodydd gwlaw yn myned i'r gorllewin o
flaen y preswylwyr yn ol y raddeg o ddeunaw milldir y flwyddyn. Nid yw natur yn
rhoddi ei bendithion lle na byddo galw am danynt. Lle na byddo ond tywod neu
greigiau ni cheir gwlaw, ond lle byddo gan y ddaear blant o wyrddlysiau a choed
y mae y Nefoedd yn rhoddi gwlaw i'w (x124) disychedu. Y mae hyn hefyd yn ysgrythyrol -
Canys yr Arglwydd a wrendy ar y nefoedd, a hwythau a wr andawant ar y ddaear;
a'r ddaear a wrendy ar yr yd a'r gwin a'r olew, a hwythau a wrandawant ar
Jezreel (Hos. ii: 21, 22). Byddai yr hon ddaearyddwyr yn nodi
(xYSGOLDY LARNED, KANSAS.)
Nebraska,
Kansas, a Colorado allan fel anial- wch mawr America; ac nid oes dros oes dda
er pan ydoedd yn grediniaeth gyffredinol na ellid codi dim o'r ddaear yn
orllewinol i afon Missouri. Pa sail bynag ydoedd i'r grediniaeth y pryd hwnw, y
mae er's blynyddau bellach wedi darfod. Yn y flwyddyn 1866 cyfrifid Kansas yn
bedwerydd ar hugain o dalaethau y Undeb yn ei chynyrchion amaethyddol. Yn y flwyddyn
1878 yr ydoedd yn flaenaf yn ei gwenith ac yn bedwerydd yn ei hindrawn.
COLORADO.
Colorado ydyw yr ieuangaf o'r talaethau. Talaethwyd
hi yn y flwyddyn 1876 ym mhen can' mlynedd ar ol Dadganiad Annibyniaeth, am
hyny gelwir hi y Dalaeth Ganmlwyddol (Centenial State). Gorwedda ar gefnau
geirwon y Mynydddoedd Creigiog. Y mae yn llawn o ryfeddodau natur, yr hyn, yn
nghyda'i chyfoeth mewnol o aur, arian, efydd, copr, haiarn, plwm, gol, &c.,
sydd wedi dwyn i ymarferiad ai o brif ryfeddodau celfyddyd. Teithiais lawer ynddi, ond gellir gosod swm a sylwedd yr hyn a welais
ynddi yn hanes fy nhaith o Erie trwy Denver a Pueblo i Leadville.
Erie, ynte, ydyw y lle cyntaf. Pentref mewn llanerch
blaen yn (x126)
Y TUDALEN NESAF: 1212k Rhan 6 Tudalennau 126-151
Ble'r wÿf i? Yr ÿch chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan
“CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weørr àm ai? Yùù ààrr vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wébsait
Where am I? You are visiting a page from the
“CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website