1209k Gwefan Cymru-Catalonia / la Web de Gal·les i Catalunya - Wales-Catalonia Website. Dros Gyfanfor a Chyfandir:

Sef Hanes Taith o Gymru at Lanau y Môr Tawelog ac yn ôl, Trwÿ brif Daleithau a Thiriogaethau yr Undeb Americanaidd

Gan William Davies Evans. Aberystwÿth: Argraffwyd gan J. Gibson, Swyddfa'r ‘Cambrian News’ MDCCCLXXXIII (1883)

 

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_008_dgac_03_1209k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................1208k Y Gyfeirddalen i'r Llyfr Hwn (Dros Gyfanfor a Chyfandir)

..................................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

Dyma ran o Adran 11 yn y wefan hon, sef

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Dros Gyfanfor a Chyfandir

William Davies Evans (Aberystwÿth 1883)

 

Rhan 3 (tudalennau 49-76)

Adolygiadau diweddaraf:
19 12 2001

 

·····

 

1208k

Cynllun y Llyfr Gordestun

 

 

1219k

Rhan 1 Tudalennau 1-22

1207k

Rhan 2 Tudalennau 23-49

1209k

Rhan 3 Tudalennau 49-76

1210k

Rhan 4 Tudalennau 76-103

1211k

Rhan 5 Tudalennau 103-126

1212k

Rhan 6 Tudalennau 126-151

1213k

Rhan 7 Tudalennau 151-173

1214k

Rhan 8 Tudalennau 173-200

1215k

Rhan 9 Tudalennau 200-227

1216k

Rhan 10 Tudalennau 227-250

 

1217k Hysbysebion Cefn y Llyfr

1218k

Mynegai - Amryw

 

 



·····
 
(x49)
MASNACH BERYGLUS.
Wedi ei dyfod yn ddydd, nid pryder, ond digrifwch a’n meddianai yn benaf wrth weled castiau direidus ein milwyr. Rhai drygionus digydwybod oedd y rhai hyn. Byddai Negroaid yn dyfod at y gorsafoedd i werthu pasteiod, water-melons, cider, &c., ond ni feiddiai y gwerthwr roddi ei nwydd o'i law nes byddai y tâl yn deg yn ei law arall; ac os gallai wneud marchnad deg gyda'r gofal hwnw, byddai yn ffodus dros ben, oblegid mynych y collai ei bell siop heb gael dim yn gyfnewid am dani. Dacw hen Negro du âg arffedog wen llawn o basteiod yn dyfod yn mlaen. Deil un o honynt yn ei law ddeheu i'w chynyg ar werth i rhyw filwr. Y mae hwnw yn cymeryd
arno fod eisieu gweled y lleill, iddo gael ei ddewis. Y mae yr hen Negro, yn deall y perygl, yn ceisio cilio yn ol, ond y mae y milwr erbyn hyn wedi cael gafael yn ymyl yr arffedog, ac yna y mae y naill yn tynu, a'r llall yn tynu, a'r pasteiod rhyngddynt y naill ar ol y llall yn syrthio i’r llawr. Codir hwy i fyny a meddienir hwy gan y milwyr diegwyddor, a'r Negro, druan, er yn methu myned yn dduach ei liw, yn gorfod troi ymaith gyda chalon drom, a’r arffedog lân yn ddim ond clwtyn carpiog. Ychydig yn mlaen, mewn gorsaf arall, wele, wedi ei thaenu ar y ddaear, siopaid olygus o gacenau, pasteiod, ffrwythau, water-melons, a dwy neu dair jugaid o cider, tri galwyn yr un, eiddo gwr a gwraig, o leiaf, dyn a dynes ddu oeddynt y masnachwyr, a gallasent fyned adref gyda llogellau trymion o bres pe cawsent gyfiawnder; ond aeth yn ffrwgwd rhwng y wraig ac un o'r milwyr yn nghylch y gwydriad cider. Haerai efe nad ydoedd yn llawn, a chan hawlio ychwaneg, ymaflai yn y jug, y wraig yn cadw ei gafael yn y pen arall iddi, a'r cynwys cydrhyngddynt yn myned i'r ddaear. Y milwyr eraill, gan gymeryd arnynt redeg yno i weled y sport, a ladratasant y watermelon, y cacenau, a chynwys y jugiau eraill. Ac yn debyg i hynyna y dygwyddai ar hyd yr holl ffordd. Ai nid oedd gan y milwyr hyny gydwybod? Beth yw hyny? Ai nid oedd deddf na rheol yn y fyddin i amddiffyn y trueiniaid. O, dear, oedd. Ond sut y gellid eu dwyn i weithrediad? Pa le y ceid y swyddog priodol? Cyn y ceid hyd i hwnw byddai y gerbydres wedi myned.

Edrychasom lawer ar y bont newydd - haner milldir o hyd - ag oedd yn croesi Afon Tennessee, oblegid yno, rai misoedd yn flaenorol, y torwyd yr hon bont gan y gelynion yn y fath fodd ag i beri i gerbydres hir yn llawn o filwyr syrthio i'r afon. Edrychasom fwy ar Point Lookout pan ddaeth i'r golwg fel man a son mawr am dano ar gyfrif ei gysylltiadau hanesyddol yn gystal a'i sefyllfa rhamantus. Yn gynar yn y prydnawn yr oeddwn yn Chattanooga (p. 13,000), tref filwrol y pryd hwnw, ar làn Afon Tennessee, yn nghanol meusydd y bu ynddynt rai o'r brwydrau mwyaf gwaedlyd. Dywedid nad oedd yn y wlad dref yn meddu amddiffynfeydd cadarnach na Chattanooga Heblaw yr amddiffynfeydd celfyddydol, yr oedd y mynyddoedd creigiog a serth o'i hamgylch a'r cul-fynedfeydd rhyngddynt yn ei gwneud yn dref anliawdd ryfeddol i'w henill.

MYNYDD LOOKOUT.
Credwyf fod hwn ar rhyw gyfrifon yn un o'r mynyddoedd rhyfeddaf. Un ydyw a'r uchaf o luaws trumiau mynyddoedd
Cumberland. Tair milldir i'r deheu o Chattanooga, ac yn ymgodi ddwy fil o droedfeddi uwchlaw iddi, y mae y trwyn rhyfedd a elwir Point Lookout. Y dernyn du bychan a welid ar ei ben yn yr awyr fry .ydoedd y ty yr oeddwn i fyned iddo erbyn nos, a'r hwn hefyd oedd i (x51) fod yn gartref i mi dros rai misoedd. Nid tair milldir ydoedd genyf i fyned iddo, oblegid yn ol y mesuriad hwnw rhaid fyddai i ini ehedeg, fel aderyn. Byddai y ffordd arferedig o saith milldir yn llawer hawddach i'w dringo pe gwnelsid hi yn hwy. Rhwng y boen a deimlwn yn fy llygaid, a’m anhawsder i weled mewn canlyniad i losg-frychau (cinders) oddiwrth yr agerbeiriant ddyfod iddynt, poethder angerddol yr hin, pwysau fy llaw-gôd drom, hyd a serthedd y rhiw, nis gwn pa fodd y gallaswn ei hesgyn oni bai i mi wrth droed y myhydd gyfarfod âg un o'r bechgyn goreu erioed, os bachgen hefyd. Nis gallaf feddwl am angel gyda mwy o barch nag y meddyliwyf am y milwr ieuanc hwn. Ni chyfarfyddais âg ef erioed o'r blaen, ac ni welais ef byth drachefn, er i mi ddymuno hyny ganwaith. Gan gymeryd fy llaw-gôd a chydrodio h mi, a chydeistedd i orphwyso - nes cyrhaedd pen y mynydd, efe a’m cynghorodd yn wyneb peryglon, profedigaethau, a themtasiynau y lle, ac a draethodd yr ymadroddion mwyaf nefol a glywais gan ddyn ieuanc erioed, a hyny gyda’r fath symledd a naturioldeb ag i’m llwyr argyhoeddi fod ynddo oleuni a gwres gwahanol i eiddo'r ddaear. Paham y cymerai y fath ddyddordeb yn achos estron, ac y collai chwys dan fy maich a dagrau ar fy rhan? Paham y rhedai y fath deimlad cynes o'i enaid ataf? Rhaid mai cangen fyw ydoedd o'r Hwn a adawodd y nefoedd o gariad a thosturi at fyd o bechaduriaid. Pa beth bynag a ddaeth o hono, pa le bynag y mae yn awr, bydded fendigedig byth. Byrhaodd lawer ar y ffordd hir, ysgafnhaodd yn rhyfeddol y rhiw drom, ac aethum i ben y mynydd yn ddiogel.

Heblaw fod ystlysau y mynydd hwn yn rhyfeddol o serth ac uchel, coronid ei gopa hir o'i amgylch dros ddegau o filltiroedd gan graig ysgythrog, oddeutu can’ troedfedd, mwy neu lai, o uchder. Ymgodai yn uniawnsyth mewn manau, ac ymestynai allan yn mhell mewn manau eraill, fel na byddai dichon eu hesgyn ond ar hyd ysgolion neu trwy y bylchau cul, “few and far between.” Gan fod yno hefyd gyflawnder o feini mawrion yn rhyddion y gellid eu treiglo i lawr i falurio byddin yrnosodol; aberoedd, ffrydiau, a llynoedd ddigon ag y gellid codi yno bethau angenrheidiol er cynaliaeth, gallai nifer fechan o ddewrion ar ei ben, gyda gwyliadwriaeth briodol, ei gadw er unrhyw allu milwrol. Eagle Cliff y gelwid y graig uchaf ond Point Lookout, y trwyn amlwg ar dalcen rhamantus y mynydd
(x52) uwchben tref Chattanooga ac Afon Tennessee, ydyw y rhyfeddaf. Y fath ydoedd yr ol ar y dyfnder mawr o dan y trwyn hwn fel nas gallwn ar y cyntaf, er ymlusgo ar ddeulun {sic} ac ar ddwylaw, fyned o fewn amryw latheni at y dibyn. Dyna hefyd yr ystum a gymerai mwyafrif y miloedd ymwelwyr a welais yn dynesu, ond buan y cynefinir â phob peth. Darfu i ddyn ieuanc dibris, i'r diben o ddangos ei gamp, geisio sefyll yma gyda ond darn o'i sawdl ar y graig, ac estyn allan ei goes arall, ond i lawr yr aeth, a thybir iddo farw hyd yn nod cyn cael y gwaelod. Un arall, ynfytach na hwn, o gywreinrwydd, a geisiodd yru ei geffyl a'i gerbyd at y dibyn. Dychrynai yr anifail, a gomeddai yn hir ddyfod yn agos, ond wrth gael ei gymhell a'i fflangellu yn greulon, gwnaeth naid ddychrymlyd, ac i lawr a hwy yn geffyl, cerbyd, a dyn, nes syrthio yn falurion yn y dyfnder mawr.

CARTREF UWCHLAW Y CYMYLAU.
Ar gopa y graig hon yr adeiladasid ein caban o gyffion, ac yno dros bedwar mis y cefais orwedd y nos ar fyrddau celyd, dan awyr-oleuni (skylight) diwydr a dido ein harlunfa (studio), yn gwylio y lloer, y sêr, neu y cymylau yn ehedeg heibio eu gilydd cyn cau fy llygaid, a sïanau yr awelon, ac yn fynych ruadau chwibanus y gwyntoedd cryfion, yn fy sio i gysgu, ie, mor gryf fyddai y gwynt yma ar achlysuron fel y byddai y ceryg a daflem i'w erbyn yn cael en chwythu yn ol dros ein penau fel plu. Nifer ein teulu yn y lle ydoedd chwech, sef Robert Linn, James ei frawd, Lewis fy mrawd a minau, gyda dau Negro ieuanc a fuasent gaethion, sef John, yr hwn yr oedd ei drian {sic} yn wyn, ei drian yn goch, a'i drian yn ddu, ei waith ef ydoedd cario dwfr a golchi ein dillad; a Bob, Negro perffaith gwbl, a'i groen mor ddu ag ogof baner nos; ganddo ef yr oedd darparu ein lluniaeth o fara Indrawn, triagl, coffl, a phethau eraill o'r fath fwyaf syml. Y gwrthddrychau cyntaf a ganfyddem wedi deffro yn y boreu fyddent fadfeillod gloywlas, mawrion yn dringo'r muriau, a pha bryd bynag y codem y byrddau ar y rhai y gorweddem caem olwg ar luosowgrwydd o ysgorpionau colynawg, brathiad un o rhai fyddai yn angeu buan. Ond chwareu teg iddynt ni ddangosent unrhyw duedd i ddefnyddio eu colynau ond mewn hunan-amddiffyniad. Bu John, druan, mor anffodus a chael ei frathu
(x53 ) yn ei law gan un o honynt; ond heb oedi rhwymodd ei arddwrn mor dy`n fel nad allai y gwaed redeg, a brysiodd at y meddyg yn Summerville, ddwy filldir yn ol ar y mynydd, yr hwn a’i gwellhaodd ac a'i canmolodd am ei gallineb. Bachgen call a hawddgar ydoedd John. Pe Bob fuasai wedi cael frathu diau mai yr angau glas fyddai ei

 
(LLUN: UWCHLAW Y CYMYLAU YN 1864)

feddyg ef, ac ni buasai ein byd lawer ar ei golled. Bywyd rhyfedd fu ein bywyd hwn, ac eto ni bum erioed yn iachach a hoenusach.

Caem oddiar Fynydd Lookout rai o'r golygfeydd ardderchocaf. Safai uwchlaw yr holl fynyddoedd cylchynol, fel y gellid ar ddiwrnod clir weled drostynt i bellder o gan' rrnlldir, a chanfod manau amlwg, mewn saith o wahanol dalaethau. Ymddangosai yr holl amgylchoedd yn fawreddus o donog a garw. Gyferbyn, islaw, yr oedd maes brwydr waedlyd Mission Ridge, tref
Chattanooga odditanodd, a phebyll gwynion y milwyr yn daenedig ar hyd y dyffryn. Ymddangosent oll yn bethau bychain, bychain, yr ffyrdd rhyngddynt can feined ag edau lin; Afon Tennessee fel nant fechan, a’r ager-fadau arni fel pe byddent chwiaid yn cario cyrn mwg ar eu cefnau; am ager-beiriant y reilffordd, braidd na chredem mai ei bychan ydoedd yn rhedeg heibio godrau y mynydd. Er yr ymddangosai gwrthddrychau yn fychain fel yna, byddent eglur iawn, ac ymddyrchafai lleisiau a seiniau i fyny gyda threiddgarwch rhyfeddol.

Ond ni byddai golygfeydd y diwrnod clir i'w cydmaru â golygfeydd y cymylau. Byddai niwl a chymylau tewion yn gorchuddio y wlad bron bob boreu, ac yn aml ar amserau eraill, ond ymestynai pen y mynydd uwchlaw iddynt oll, fel na byddai ond tu uchaf y cymylau yn ymddangos i ni mewn awyr glir, a'r haul gyda thanbeidrwydd
(x54) gogoneddus yn pelydra arnynt. Gwelaist, ddarllenydd, ymylon dysglaerwych y cymylau pan fyddai yr haul uwchlaw bron ymddangos; moroedd o arian toddedig felly ydynt y cymylau oll oddiarnynt, a’r haul-belydrau megys myrddiwn o lychedenau byw yn chwareu, yn rhedeg, ac yn dawnsio ar hyd-ddynt; a phan y mae y cymylau gan wyntoedd cryfion yn ymferwi trwy eu gilydd y mae yr olygfa uwchlaw desgrifiad. Heb eithrio Rheiadr y Niagara, nac unrhyw olygfa arall, y golygfeydd hyn oeddynt y rhai mwyaf gogoneddus. O'r gogoniant hwn yn achlysurol ymddyrchafai twrf taranau cryfion, pan fyddai gwlawogydd a mellt yn ymdywallt ar y dyffryn islaw.

“Ca'em edrych ar stormydd ac ofnau, taranau a mellt dros y tir,
A ninau'n ddihangol o'u cyrhaedd, ar dalgraig, a'n hawyr yn glir.”

Y mynydd hwn a'r daith i'w gopa ydyw y darlun perffeithiaf a welais o daith y Cristion - y rhan isaf o honi yn gymylau a thywyllwch, ystormydd a pheryglon, ond y rhan uchaf yn ddysglaerdeb gogoneddus, ac yn olygfeydd o ryfeddodau a llawenydd. “Goddiweddant lawenydd a hyfrydwch, a chystudd a galar a ffy ymaith.”

Beth am y nos? Llawn o ryfeddodau. Tybiwn i fod y lleuad a'r sêr i'w gweled yn ddysglaeriach yma nag y gwelais hwy o'r blaen. Buom yn eistedd llawer ar y graig wedi y tywyllai yn gwylio goleuadau, ac yn gwrando udgym, tibyrddau, a llon-floeddiadau y milwyr o'r dref a'r gwersyll islaw, ac yn edrych ar oleuni y signal corps ar y mynyddoedd draw, y rhai yn ngolwg eu gilydd a drosglwyddent newyddion a gorchymynion swyddogol y fyddin dros linell o ganoedd o filldiroedd mewn ychydig amser. Deallid hwy yn ol dull symudiadau y goleuni. Yr oedd teneudra y coed rhwng creigdyrau anferthol, gyda'r ystyriaeth o enbydrwydd yr amseroedd, yr amgylchoedd, a'r amgylchiadau, yn mhell oddiwrth bob anedd arall, gyda chuddlwynwyr a gwylliaid yn rhodio'r parthau, yn ychwanegu at ddyddordeb a rhamantusrwydd ein sefyllfa.

NADRODD.
Nid wyf yn meddwl fod y mynydd hwn yn gynaliaeth llawer o nadrodd, ac eto cefais fy nychrynu gan neidr unwaith ar fy ffordd i
Chattanooga. Yn lle myned o amgylch ar hyd y ffordd arferedig disgynais y graig ar hyd ysgol, a llithr-redais y goriwaered yn y (x55) cyfeiriad unionaf nes cael y gwaelod. Yno collais fy hun mewn brwysglwyni a chorsenau tewion, dyrus, cyfuwch ddwywaith a’m pen. Bum rai oriau cyn gallu dirwyn fy ffordd allan. Wedi blino gan gymaint y gwres eisteddais am tua chwarter awr a'm cefn yn gorphwys ar ddarn o graig. Pan droais fy wyneb beth a ganfyddwn ar y graig hòno yn hollol gyferbyn, ac yn ymyl fy mhen, ond neidr ddu, braff, tua dwy lath o hyd. Nid oes achos i mi ddweyd ddarfod i mi lleidio fel mynn, ac yr pren cryf ydoedd genyf lleddais hi ar y gareg, rhag y gallai gymeryd yn ei phen i redeg ar fy ol, fel y clywais y gwnai nadrodd duon y deheu. Nid yw y rhai hyn yn wenwynig. Eu dull o ymosod ydyw ymlusgo yn llechwraidd, ymgylymu o amgylch eu hysglyfaeth, an gwasgu i farwolaeth. Wrth son am y rhywogaeth hon cofiwyf fy mod ar y fferm gerllaw Newark, wedi rhedeg trwy gae a blino, yn taflu fy hun ar y ddaear; nid cynt y gwnaethum hyny nag y teimlais symudiad byw odditanaf, ac yn y man gwelwn neidr fraith, fawr, yn cyflymu oddiwrthyf. Cafodd hi ddychryn, ac felly finau. Yr oedd y naill a'r llall o honom yn foddlawn i ymadael â'n gilydd. Dro arall, wrth fyned o grugyn i grugyn i wasgaru tail, ac heb edrych llawer o fy mlaen, beth a welwn ar ben un o honynt pan ar roddi y bicwarch ynddo ond neidr copper-head o'r maintioli mwyaf, un o'r mathau mwyaf ffyritig a gwenwynig sydd yn bod. Yno yr ydoedd wedi cylch-ymdroi fel rhaff wedi ei chrynhoi ar y ddaear. O’i chanol ymestynai pen coch, dysglaer fel copr dyfnliw, a'i llygaid yn rhythu arnaf, ac ar roddi naid at fy wyneb. Heb gymeryd amser i feddwl gwthiais y bicwarch iddi, ac yn ffodus aeth un o'r pigau drwyddi. Wedi ei sicrhau felly yn y ddaear ceisiais bawl i'w lladd. Pe dygwyddasai i'r pigau oll fyned rhwng ei phlygion, ac nid trwyddi, buasai fy ngyrfa wedi dyfod i'r pen yno. Y penau copr yr nadrodd cynffon-drwst ydynt y rhai mwyaf peryglus a gyfarfyddir. Ond am y nadrodd duon, byddent ar ein fferm ger Newark yn lluosog; dringent y coed, a rhedent o'n blaenau ar y maes, ac ni byddent yn gwneud cyfrif yn y byd o honynt. Er y byddent yn yr afon ac yn y gamlas yn gylymau, a tortoises gyda hyny, ni pheidiem, yn hogiau gwynion a duon, fyned bob dydd yn nhymor haf i ymdrochi yn eu plith. Pan oeddwn unwaith, yn 1871, yn pregethu mewn capel bychan o gyffion, tua 15 milldir o Portsmouth, Ohio, aflonyddwyd ar y (x56) gwasanaeth gan waith gwraig a eisteddai ar fy aswy yn dwcyd rhywbeth wrth ei gwr, yr hwn ydoedd gyferbyn a hi yr ochr arall i'r capel. Gan na ddeallwyd hi y ddau dro cyntaf dywedodd y drydedd waith, “Y mae neidr dan eich sêt yn ceisio eich pigo.” Yno, hefyd, yr ydoedd cloben o sarff yn estyn ei phen at goes y dyn. Aed i guro arni yn ddiatreg, ac wedi ei lladd a'i thaflu anan cafwyd seibiant i fyned yn mlaen â'r gwasanaeth. Na ddychryned neb rhag nadrodd, y maent yn lleihau yn gyflym. Ni adnabyddais neb wedi cael niwed gwirioneddol ganddynt. Clywais bobl yn Nghymru yn adrodd pethau mor rhyfedd am seirff a dim a glywais. Ymddengys ddarfod i mi fy hun yn blentyn bychan ger Talysarn gario neidr fraith, fyw yn lle llyswen adref. Dychrynodd fy mam yn fawr, ac yn lle y mwynhad o gael gwledda ar fy nalfa gyntaf, gwelais hi yn cael ei thaflu allan bron gyda chyflymdra'r fellten.

DYGWYDDIADAU MYNYDD LOOKOUT.
Y prif ddygwyddiad hanesyddol ydoedd ei gymeryd gan fyddin yr Undeb, yr hyn a gymerodd le yn mhen amser ar ol cymeryd
Chattanooga a'r dyffryn islaw. Teimlai y gwrthryfelwyr fod ganddynt ar y mynydd hwn amddiffydfa nas gellid eu gyru o honi, ond cymerasant eu twyllo. Un prydnawn gwelwyd cyflegrau trymion byddin yr Undeb yn cael eu tynu i ben mynydd uchel gyferbyn, yr hwn yntau hefyd fyddai yn aml a'i ben uwchlaw'r cymylau. Yn blygeiniol boreu dranoeth dechreuodd y fyddin oddiyno dân-belenu gwersyll y gelyn ar Point Lookout. Y gelyn hefyd a ddygodd ei holl allu i'r Point i dân-belenu yn ol, a thros oriau bu y pelenau a'r tân yn chwareu trwy eu gilydd uwchlaw y cymylau. Yn y cyfamser yr oedd y Cadfridog Hooker gyda phrif nerth y fyddin Undebol yn teithio yn gyflym, ond perffaith ddystaw, dan orchudd y cymylau i gael bwlch tuag wyth milldir yn ol i fyned i ben Mynydd Lookout, a phan oedd y gelyn ar y Point yn gorfoleddu wrth weled leied y dinystr a fedrai yr Undebwyr o ben y mynydd arall wneud arnynt, dyna gynllwyn dinystr a marwolaeth o'u hol yn syrthio yn ddisymwth ar eu gwarthaf - Hooker a'i wy^r arnynt yn creu “twrf, tarf, terfysg,” nes gyru rhai bendramwnwgl dros y creigiau erch, eraill i ffoi ffyrdd eraill, ac eraill a ddaliwyd yn garcharorion. Noswaith a gofir genyf fi ydoedd y noson yr oeddus yn dysgwyl (x57) ymosodiad ar Chattanooga a’r mynydd gan y cadfridog gwrthryfelgar Hood. Yr oedd y Cadfridog Sherman wedi myned a bron yr oll o filwyr yr Undeb o'r parthau hyn i barthau Atlanta, 150 o filldiroedd yn mhellach, ac yn dechreu ar ei ymgyrch fawr fythgofiadwy o fyned tu draw i'r deheuwyr oll, i gyfarfod â byddin y Cadfridog Grant. Yr ydoedd Hood yn y cyfamser gyda byddin gref yn agos i Chattanooga. Clywsom ei gyflegrau yn dinystrio Ringold, 20 milldir oddiwrthym, a gwelsom ei mwg yn ymddyrchafu i’r nefoedd. Trannoeth dysgwylid ef atom ninau, ac yr ydoedd pryder yn amlwg ar wynebau pawb. Yr ydoedd Robert Linn, ein meistr ni, wedi myned a’r neges i’r gogledd, Lewis, fy mrawd, er’s wythnos yn Chattanooga, James Linn a minau gyda’r ddau Negro yn gofalu am y ty a’r gwaith ar y mynydd. Dywedodd James Linn wrthyf, tua phedwar o'r gloch brydnawn, fod arno eisieu myned a’r neges i Summerville, pentref ddwy filldir oddiwrthym ar y mynydd, lle hefyd yr oedd y tai agosaf atom. Addawai ddychwelyd erbyn nos. Daeth y nos, ond ni ddaeth James. Aethum i'r ty arall i edrych am y ddau Negro, ond yr oeddynt hwythau hefyd wedi ffoi, a myfi a adawyd fy hunan. Yn awr, pe deuai ymosodiad, byddai y graig hon yn nôd cyntaf y cyflegrau, fel y bu ddegau o weithiau yn flaenorol. Caffai ein bwthyn ni fyned yn ddrylliau ar unwaith rhag y gallai fod ysbiwyr neu ddirgel-gyfarwyddwyr yn llechu ynddo. Ofn i hyny gymeryd lle fu yn achos ffoedigaeth James Linn a’r ddau Negro. Pe gwybuasai rhai o'r dynion drygionus oeddynt yn mhlith y milwyr, yn gystal ag yspeilwyr y parthau, am fy sefyllfa unig a’r pethau oeddynt dan fy ngofal, gallasent yn hawdd roddi i mi drwydded dros y graig. Treuliais y nos yn gwrando ar gerbydres ar ol cerbydres yn dyfod a milwyr ac arfau i lawr o Nashville, y rhai hyny, wrth loni-gyfarch ei gilydd, bloeddio, a churo tabyrddau, a barent i'r creigiau ddiasbedain. Pan dorodd y wawr gwelais yr holl ddyffryn yn wyn gan bebyll. Daeth triugain mil o filwyr i fewn yn ystod y nos. Gwelodd Hodd y byddai y lle yn rhy boeth iddo, ac ymgadwodd draw. Daeth James Linn a'r ddau Negro eildro adref.

Ni byddai fy rhestr o ryfeddodau Lookout yn gyfiawn heb grybwylliad am Mr. Forster a’i ferched, hen fynyddwr gwladgatol na phediai dadleu dros yr Undeb dan y perygl o golli ei fywyd. Uchelnod ei ryfyg ydoedd ei waith yn cadw y 4ydd o Orphenaf,
(x58)
diwrnod gwyl genedlaethol yr Undeb Americanaidd, pan oedd y mynydd yn hollol yn meddiant y gwrthryfelwyr, a'u gwersylloedd o amgylch ei dy. Darfu iddo ef, gyda'i ferched, gadw y dydd hwnw trwy chwifio baner yr Undeb, saethu gwn, a darllen dadgniad Annibymaeth. Yr oedd y dirmyg hwn ar fyddin y gelyn yn fwy nas gellid ei oddef. Cafodd yr hon w^r ei ddal, ei brofi, a'i ddedfrydu i farw; ond ar y foment yr oedd i gael ei ddienyddio darfu i'r pen swyddog, wrth ystyried ei oed a rhyfeddu ei ddewrder a'i ddiysgogrwydd, orchymyn ei ryddhau. Hen w^r cadarngryf o gorpholaeth ydoedd, ac o edrychiad penderfynol, nid anbebyg i'r Parch. Edward Mathews. Gelwid ef yn Old man of themountain. Swyddogion milwrol, ac yn achlysurol eu gwragedd, fyddent yr ymwelwyr y pryd hwnw. Ond deallwyf fod ar y mynydd yn awr westdai ardderchog, ac ymwelwyr o bob parthau yn parhau i ddyfod yno oherwydd ei gysylltiadau hanesyddol yn gystal a'i ryfeddodau naturiol.

DYCHWELIAD O'R DE.
Buom rai misoedd yn pabellu yn
Chattanooga wedi dyfod i lawr o'r mynydd. Pebyll ydoedd banner y dref y pryd hwnw, ac yr oedd ein pabell ni yn un mor eang a rhagorol fel yr oedd genym wely llydan, mawr, ac esmwyth. Edrychid arnom oblegid hyny fel tywysogion, ond mwyaf oll ydoedd y perygl oddiwrth ysbeilwyr nosawl. Ni byddai odid noswaith yn myned heibio na byddai sôn fod pabell rhyw siopwr neu enillwr arall wedi ei hysbeilio, ac yil achlysurol ychwanegid hanes llofruddiaeth at hyny. Daeth brawd i fewn i'n pabell ninau unwaith, ond gan iddo gael ar ddeall ein bod yn effro ac yn paratoi at roddi croesawiad cynes iddo, ciliodd allan, nid oedd ein drws amgen na fflapyn o'n pabell gynfas, na'n clo ond llinynau wedi eu cylymu.

Yn gymaint ag i'r Cadfridog Sherman wrthod caniatâu i ni nac unrhyw bobl anfilwrol eraill fyned gydag ef ar ei gylchdaith fawr ddeheuol, meddyliais i a fy mrawd am fyned adref am dro. Cawsom rwydd hynt can belled a Nashville, ond yno bu raid llwgr-wobrwyo rhyw filwr am gael myned yn ngherbydres y milwyr Ac awfft y fath filwyr - milwyr Kentucky, y rhai a feddent y cymeriad o fod y rhai mwyaf ysgeler a berthynai i fyddin yr Undeb. Pan oedd yn haner nos aeth yn bandemonium ofnadwy trwy yr holl gerbyd – rhyw
(x59) greadur annynol, ar ol oriau o gymell llid, a ddygodd allan y fath gynen nes cynhyrfu agos yr holl filwyr i dynu allan eu llawddrylliau a'u cyllill mewn agwedd ddychrynlyd, a ninau ein dau yr unig estroniaid mewn dillad cyffredin yn eu plith, heb le i ysgoi y gethern. Siaradasom â'n gilydd yn Gymraeg; hwyrach mai amcan hyn oll ydoedd ein llethu a'n hysbeilio ni, oblegid gwyddem yn dda mai fel speculators yr edrychid arnom. Yr oeddem wedi cael ein holi gan amryw o honynt parthed ein gwaith a'n llwyddiant yn y de. Ond cyn iddi fyned yn dywallt gwaed cyffredinol, gan nad beth a wnaeth y dyrnodiau, rhuthrodd y swyddogion i fewn o'r cerbydau eraill, ac ar ol cryn drafferth a dodi y rhai mwyaf afreolus mewn dalfa, cafwyd gosteg. Aethom adref yn ddyogel, ond yn lle llawenydd, galar ydoedd yn ein aros.

“Dysgwyl pethau gwych i ddyfod, croes i hyny maent yn do’d; Meddwl foru daw gorfoledd, foru'r tristwch mwya' erioed.”

Cawsom ein mam yn weddw, a’n tad wedi myned i dy ei hir gartref er's pythefnos - llythyrau wedi myned ar goll, a ninau yn cael y newydd yn awr am y tro cyntaf. Rhoddodd hyn derfyn ar fy mwriad o fyned eilwaith i'r de.

Ni bu ein dychweliad adref ychwaith un diwrnod yn rhy fuan, oblegid yn uniongyrchol wedi hyny cauwyd y ffordd i fyny gan y cadfridog gwrthryfelgar Hood, fel nad allwyd teithio ar hyd-ddi dros wythnosau lawer; ac oblegid fod pob cymundeb â’r gogledd wedi ei dori, dyoddefodd y rhai a arosasant yn Chattanooga ac ar y mynydd fis o ddirfawr galedi trwy newyn ac oerder.

GORLLEWINBARTH
OHIO.

Yn awr y mae yn hen bryd symud yn mlaen gyda fy nhaith ddiweddaf. Gadewais Cincinnati gan fyned trwy Hamilton (p. 13,000) i Dayton (p. 39,000), 30 milldir yn ogleddol. Y mae hon yn un o'r trefi harddaf ac iachaf. Medda heolydd llydain rhyfeddol ac adeiladau rhagorol. Bum yn aros ynddi amryw fisoedd yn ngwanwyn 1864. Yr oeddwn ynddi pan ddychwelodd Valandingham, heb ganiathd, o'i alltudiaeth i'w gartref ynddi. Cyfreithiwr a gwleidyddwr (politician) galluog ydoedd y dyn hwn, ond cyfaill mor wresog ac effeithiol i wrthryfelwyr y de fel y barnodd yr Arlywydd Lincoln yn angenrheidiol ei wahardd i aros o fewn (x60) cylch yr Undeb. Ar ol tymor o alltudiaeth yn Canada anturiodd ddyfod adref. Cydymgynullodd tyrfa fawr o'i bleidwyr o flaen ei dy i'w lon-gyfarch. Traddododd yntau iddynt araeth herfeiddiol. Taenwyd allan y gair fod milwyr wedi eu gwysio i ddyfod o Columbus i'w ddal, ac yr ydoedd o ganlyniad yn amser cynhyrfus yn y dref. Wedi myned o honwyf i'r gwely a dechreu cysgu, deffrowyd fi gan dwrf meirch a cherbydau yn carlamu, a dynion yn rhedeg ac yn gwaeddi. Galwodd fy nghyfaill arnaf yn frysiog i ymwisgo, fod y frwydr yn dechreu. Trwy y ffenestr gwelwn dân yn fflachio ar hyd yr heol. Ond pa fodd na chlywid saethu! Tut, nid oedd y cyfan ond gwaith y tân-ddifoddwyr a'u peirianau, gyda segur-boblach yr heolydd, yn brysio i achub rhyw bwt o dy o afael yr elfen ddinystriol. Ni chawsom weled brwydr, ac ni chafodd Valandingham aflonyddwch.

Oddiyma cymerais daith o tua 80 milldir yn ogleddol i swyddi Allen a Putnam. Yn sefydliad Cymreig Gomer, swydd Allen, y gwelais yr amaethdai ardderchocaf a welais erioed mewn unrhyw wlad.
Y mae yn ffasiwn gyffredin ganddynt i wneud eu hanedd-dai yn balasau. Bum yn ceisio dyfalu y teimladau gwahanol fyddai yn meddianu dau ddyn, uchel-foneddwr a gwladwr cyffredin o Gymru, wrth agosau at un o'r preswylfeydd hyn. Byddai yr olwg ar y palas hardd a'r covered carriage gloywddu gerllaw yn gwneud i galon y boneddwr lawenychu ac i'w wyneb ddysgleirio. Gobeithiai fwynhau cymdeithas foesddysgedig y bobl fawr; ond âi y gwladwr yn fwy llwfr, gan ofn nad allai ymddwyn yn deilwng o urddas y teulu. Wedi myned i fewn cymerai pethau wedd wahanol. Pobl gyffredin, ddifalch ydynt y bobl, a'u harferiadau yn syml a dirodres. Elai y boneddwr i deimlo yn siomedig a'r gwladwr yn gysurol ei ysbryd.

Oddiyma aethum trwy Delphos i sefydliad Cymreig swydd Van Wert, tuag 20 milldir yn mhellach i'r gorllewin. Yr ydoedd yno gyfnewidiadau pwysig yn arwedd y wlad er pan fum yno ddeuddeng mlynedd yn flaenorol - y coed wedi eu clirio allan, adeiladau ardderchog wedi cymeryd lle tai o gyffion, a phentref Venedocia wedi dyfod i fodolaeth.

YSGYDWYR.
Trigiana mewn pellder o bum milldir o
Dayton sefydliad o (x61) Ysgydwyr (Shakers). Galwant eu hunain yn “Gymdeithas unedig y Credinwyr.” Ymwisgant yn blaen a garw. Honant feddu doniau gwyrthiol a chymundeb gweledig âg angylion. Cyfrifant fod ail ddyfodiad Crist wedi cymeryd lle ym mherson mwy gogoneddus eu prophwydes Ann Lee, Mother Ann, fel ei gelwir, ac mai dygiad eu cyfundeb hwy i fodolaeth ydyw yr adgyfodiad diweddaf, ac am eu bod hwy yn blant yr adgyfodiad nid ydynt yn gwreica nac yn gwra; a pha bobl briod bynag a fyn ymuno â hwy rhaid iddynt roddi heibio y bywyd priodasol a byw fel brodyr a chwiorydd perthynol i'r un teulu, gan gydofalu am yr un pethau yn dymhorol ac yn ysbrydol -cydweithio yn yr un buddiannau, a chydymgynal o’r un drysorfa. Nid ymyrant â rhyfeloedd na materion gwleidyddol, ac ni pherthyna iddynt geisio troi neb atynt, ond derbyn y neb, a ddaw os bernir ef neu hi yn deilwng. Meddant y cymeriad o fod yn bobl ddiwair, lanwaith, onest, ddiwyd, a chymwynasgar. Ymwelent â mi yn aml pan oeddwn yn byw yn Dayton, ac unwaith anrhegwyd fi gan un o'r frawdoliaeth â blodeuglwm o'r fath ragoraf, yr hyn, meddid, ydoedd arwydd o gyfeillgarwch mawr. Cefais ganiatâd i fyned i’w cyfarfod crefyddol, yr hyn oeddwn wedi chwenychu er's llawer dydd, yn neillduol gan fy mod wedi gweled a ganlyn am danynt mewn llyfr: - “In dancing during their public worship, they resemble the jumpers of Wales, and mingle their joy with.cries and singing.” Ni ddygwyddodd i mi weled y “jumpers of Wales,” ac ni chlywais sôn tra y aros yn “Wales” am ymarferiadau tebyg i eiddo y rhai hyn. Dechreuent eu gwasanaeth trwy ymaflu yn nwylaw ei gilydd, cerdded yi, gylch o amgylch yr ystafell, a mwngial canu mewn llais isel. Yn raddol elai y cerdded yn gyflymach, a’r canu yn uwch. Dechreuent ar fath o ddawns, ac wrth ddawnsio gallent droi yn hir ar eu sodlau gyda medrusrwydd celfyddydol. Gan barhau i godi y gwres a chryfhau yr hwyliau, elai y ddawns fechan yn ddawns fawr, y cerdded yn redeg, y canu cymedrol yn ganu cryfach, gwylltach, a mwy afreolaidd. Yn mhellach yn mlaen, a dyna hi wedi myned yn neidio, yn floeddio moliant, ac yn hwre, gyffredmol. Gan redeg o amgylch gwnaent ystumiau â’u penau â’u breichiau, fel pe baent yn gyru y diafol allan o'r ystafell. Byddai eraill a'u llygaid yn gauad a'u gwynebau tuag i fyny, rhai yn sobr iawn; ar wefusau eraill yn y chwareuai (x62) gwenau rhyfedd fel pe baent mewn gweledigaeth nefol. Diweddwyd y cyfarfod trwy i rhyw frawd roddi gair o gyngor.

TRAED-OLCHWYR.
Gan fy mod yn sôn am grefyddwyr hynod, gosodaf i lawr yma hanes noswaith gyda math arall o grefyddwyr yn neheubarth
Ohio amrai flynyddau yn ol. Gelwir hwy gan rai yn Draed-olchwyr, a chan eraill ar enwau eraill. Credant ei fod yn ddyledswydd ar ddynion i gysegru seithfed ran amser i addoli eu Creawdwr, heb ofalu pa un ai ar y Sabbath ai rhyw adeg arall y byddai fwyaf cyfleus i roddi y gwasanaeth hwnw. Ar y Sabbath y cynaliant enu cyfarfodydd fynychaf er hyny, a hyny yn y gauaf, am ei bod yn fwy cyfleus i bobl y wlad ddyfod iddynt; a gwnant i fyny am oferedd crefyddol yr haf trwy ddyblu diwydrwydd yn y ganaf. Addolent mewn ysgoldy. Yr ydoedd yn saith o'r gloch pan aethum i'w cyfarfod, a llonaid yr adeilad o wrandawyr. Yn mhen tuag awr daeth y pregethwr i fewn - dyn tàl, mawr, blewog, garw, tua 35 oed, yr hwn, gyda het jim crow ar ei ben, un o goesau ei lodrau gyda ei goes ei hun yn nghoes ei Wellington boot uchel, a'r llall yn haner a haner i fewn ac allan, a gerddodd yn mlaen i'r lle a wasanaethai fel pulpud, ac wedi eistedd yno am tua deng mynyd tynodd ei het ymaith, am ei bod yn gynes o bosibl, a dechreuodd y gwasanaeth. Darllenodd un o benodau hiraf y Testament Newydd, gweddiodd haner awr dda, a phregethodd awr a haner gyfan. Ac a ddywedwch chwi na fedr yr iaith Seisnaeg gynwys hwyl a thôn a thân fel yr iaith Gymraeg? Pe baech wedi gwrandaw y brawd hwn a'r Negroaid a llawer eraill a glywais i, yr wyf yn sicr na ddywedech hyny mwyach. Medrodd hwn, fel eryr cryf, ymgodi yn uchel dair gwaith yn nghyfnod ei bregeth, ac ehedeg yn orfoleddus yn nghanol y nef, a'r efengyl dragywyddol ganddo. Gallodd fy nghodi gydag ef y tro cyntaf er gwaethaf fy rhagfarn. Yr ail dro cedwais fy sêt, a gellais ei wrando fel beirniad. Y trydydd tro teimlwn fy mod yn myned i lawr am bob gradd yr esgynai efe i fyny; ac am y pedwerydd tro, mi a ddeisyfais na chymerai le. Ei destyn ydoedd Joan xiii. 17 - “Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gwnewch hwynt.” Ei bwnc ydoedd y pwysigrwydd i'r saint barhau yr ordinhad o olchi traed eu gilydd.

(x63) Ar derfyn y bregeth rhoddwyd chwarter awr o amser i'r bobl fyned allan i ymawryru, ac aeth yr ieuenctyd i'r coed i chwareu. Yma dechreuodd y rhan arall o'r gwasanaeth. Yr ydoedd y pregethwr erbyn hyn wedi rhoddi gwregys am ei ganol, a thywel yn crogi wrth hwnw, ac â'r cawg dwfr ydoedd yn ei law dechreuodd olchi traed y dysgyblion, y rhai, i'r dyben hwnw, oeddynt yn rhes yn mhen blaen yr ysgoldy, a’u hesgidiau a’u hosanau wedi eu tynu ymaith. Ar ol ymwisgo a rhoddi heibio y cawg, y tywel, a'r gwregys cyfranogwyd o swper yr Arglwydd. Rhoddid i bob un deisen fechan o fara a chwpanaid bychan o win. Wedi iddynt ganu hymn dywedodd y pregethwr, “Codwch, awn oddiyma,” ac yr ydoedd yn ganol nos.

CHICAGO.
O sefydliad Cymreig van Wert, Ohio, aethum trwy Fort Wayne (p. 27,000), agos 200 milldir yn mhellach, i Chicago, yr hon a saif ar gw’r de-orllewinol Llyn Michigan. Cafodd y ddinas, hon, fel
Venice, ei hadeiladu ar gorsle ddyfrllyd; ond, yn wahanol i Venice, gwnaeth waelod iddi ei hun fel ag i gael ei wadnau ar ddaear sech. Rhaid i breswylwyr Venice eto 0 ddefnyddio badau i fyned o dy i dy; ond yn Chicago, mewn cerbydau yr eir ar hyd heolydd ardderchog wedi eu codi, rai o honynt, dros ddeg troedfedd. Er nad ydyw hon ond baban o oed, y mae o ran maintioli, pwysigrwydd, ac aeddfedrwydd yn rhestr prif ddinasoedd y byd. Yn y flwyddyn 1830 nid ydoedd ond pentref bychan a gwael. Yn 1837 rhifai y preswylwyr 4,170, gyda dan addoldy. Yn 1882 y mae eu nifer yn 504,000, gyda chanoedd o gapelau heblaw canoedd o adeiladau cyhoeddus eraill. Yn 1871 difawyd y rhan bwysicelf o honi gan y ton mwyaf dinystriol a fu yn America erioed. Mewn ysbaid 36 o oriau llosgwyd 12,000 o adeiladau, a thrwy fwrw i lawr lawer o adeiladau eraill y gallwyd atal rhwysg yr elfen ofnadwy. Gwnaed 150,000 o bersonau yn ddigartref; collwyd gwerth deugain miliwn o bunau. Cafodd y ddinas, er hyny, ei phuro megys trwy dân - adgyfododd mewn ychydig amser ar ddull ardderchocach o lawer. Yn mhlith dinasoedd mawrion y cyfandir saif yn drydedd yn rhif ei thrigolion. Y mae mwy o bob math o fadau yn dyfod i’w phorthladd nag sydd yn dyfod i Boston, New York, Philadelphia, a New Orleans yn nghyd. Nid (x64) oes yn yr holl fyd y fath ladd-dai ac ystordai ag sydd ynddi. Trinia fwy o gig, grawn, a choed nag unrhyw ddinas arall ar y ddaear. Cynwysa ei grawn-ystordai, y rhai a elwir elevators, agos ddwy filiwn

(CHICAGO, ROCK ISLAND & PACIFIC DEPOT, CHICAGO, ILL.)

ar bymtheg o fwsieli. Heb gyfrif ei lluaws maes-drefi, saif y ddinas ei hun ar ddeugain milldir ysgwir o dir, gyda thair milldir a deugain o afon fordwyol yn rhedeg drwyddi. Croesir yr afon hon gan 36 o bontydd yn troi ar golynau yn gorphwys ar bilerau yn nghanol yr
(x65) afon, er mwyn rhoddi lle i ager-fadau, hwyl-longau &c., basio heibio. Odditan yr afon y mae dau dwnel, mil o droedfeddi o hyd, trwy y rhai yr â certi, troliau, &c. Medda y ddinas 700 milldir o heolydd; canolbwyntia ynddi 24 o reilffyrdd, ar hyd y rhai y mae 156 o gerbydresi teithwyr yn myned a dyfod yn ddyddiol. Ei pharciau rhagorol, ei hadeiladau, a'i rhyfeddodau eraill ydynt rhy luosog i'w henwi, chweithach eu desgrifio. Yn mhlith pob cenedl arall y mae llaweroedd o Gymry yn preswylio ynddi.

MILWAUKEE.
O Chicago cymerais daith o fwy na 60 milldir yn ogleddol i Racine, yn Wisconsin (p. 17,1000), gan yr hon y mae y porthladd goreu a berthyna i Lyn Michigan; 23 milldir yn mhellach ac yr oeddwn yn Milwaukee (p. 116,000), dinas yr hufen, a elwir felly ar gyfrif lliw hufenaidd ei phriddfeini. Hon ydyw, y fwyaf yn
Wisconsin, a dinas hardd ragorol ydyw. Medda heolydd llydain ac uniawn, adeiladau gwychion, parciau prydferth, ac arwedd lanwaith, iachus, a serchog ar yr oll. Fel marchnadfa wenith, nid ydyw yn ail i unrhyw ddinas yn yr Undeb. Saif ar làn Llyn Michigan, dros gan' milldir uwchlaw ei ben deheuol; nid yw er hyny dros y drydedd ran i’w ben gogleddol. Y mae y llyn hwn felly yn fwy na Llyn Tegid, ac eto y mae ei frawd, Llyn Superior, yn fwy nag yntau. Yma y mae prif swyddfa y reilffordd fwyaf yn y byd, sef y Chicago, Milwaukee, and St. Paul, i'r hon, fel goruchwyliwr ymfudol, y perthyna ein cydwladwr caredig W. E. Powell, Ysw. (Gwilym Eryri), ein goruchwyliwr tirawl penaf yn y wlad, a'r hwn y byddai yn dda i ymfudwyr ymohebu.

Yn swyddfa y reilffordd hon, un or adeiladau rhagoraf a welir, y cefais y ride gyntaf o waelod ty i'w ben ac yn ol mewn elevator. Wedi dysgwyl moment ar y llawr, daeth y cerbyd, a safodd o'n blaen; llithrwyd drws o haiarn-wyail yn ol, a chawsom fyned iddo. Eisteddasom ar esmwythfainc, a’n traed ar lawrlen hardd, a'n gwynebau prydferth yn adlewyrchu mewn drychau dysglaer o'n blaen. Esgynasom mor ddystaw a didrafferth a’r bluen. Safwyd ar gyfer y llawr nesaf i ollwng rhai o'r teithwyr allan ac i gymeryd eraill i mewn, ac felly yr aethom o lawr i lawr tua’r làn, rhai yn dyfod i fewn ac eraill yn myned allan, nes i ni ddyfod yr pen: O'r orsaf uchaf yr oedd genym i ddringo rhai grisiau eto, a chawsow ein
(x66 ) hunain yn sefyll ar binacl y deml, lle mewn mynyd awr y dangoswyd i ni, megys holl deyrnasoedd y byd a'u gogoniant. Cymellwyd ni gan yr olygfa, nid i fwrw ein hunain i lawr, ond i addoli, nid y diafol, ond natur a chelfyddyd. Nid hir ychwaith y cawsom ein cadw wrth draed y rhai hyny, oblegid, fel angylion da eraill, codasant ni i fyny, a chlywsom hwy yn dywedyd, “Addola Dduw.” Efe a'n gwnaeth. O Dduw! mor ardderchog yw dy enw! Mor

(LLUN: GWILYM ERYRI)

rhyfeddol holl ranau dy waith! Mor ogoneddus y mae dy fawredd, dy ddoethineb, a'th ddaioni yn dysgleirio yn yr oll! Y fath allu ac awdurdod a roddaist hefyd yn llaw dyn! Wele yr anghyfanedd-dra mawr wedi ei droi i fod yn drigfanau digonedd a dedwyddwch. Yn lle coedwigoedd tywyll, anwariaid creulawn, bwystfilod rheibus, ymlusgiaid aflan, siglenydd a chyrs, y mae yr holl barthau yn addurnedig gan adeiladau teg, perllanau persawrus, oll yn rhoddi i'r bröydd ymddangosiad paradwysaidd. Y mae yd-feusydd y wlad a masnach y ddinas yn llongyfarch eu gilydd yn gariadus; y bryniau a'r bröydd a floeddiant ganu, a holl goed y maes a gurant ddwylaw; yr ager-beirianau, wrth ddyfod o bellafoedd y gorllewin, a chwibanant ar yr ager-fadau mawrion i ddyfod i dderbyn o'i trysorau o ydau a ffrwythau y wlad, a'r rhai hyny a'u cludant dros y llynoedd a'r moroedd mawrion, nes y mae Cymru,
(x67) Ewrop, a'r bÿd oll yn cael cyfranu o honÿnt. Y mae gwÿddon a chelfyddÿd ar waith yn datod cylymau, yn agor cloion, yn tynu allan o drysorau natur, a dÿn syrthiedig, trwÿ ras Duw, yn cael doethineb a nerth i adenill ei arglwÿddiaeth ar y bÿd. Ardderchog yn wir yr ymddengÿs holl drefniadau Duw!

“Pob natur doed a'u nerthoedd oll yn awr
I ddadgan clod Duw, eu Creawdwr mawr.
Yr awÿr glir, a'r cyfan dan y rhod,
Y môr a'r tir, rhoent ei ryglyddawl glod.”

Ond dyna, rhaid dyfod i lawr. Pan ddaeth y cerbÿd i fynÿ drachefn aethom ynddo i lawr o lawr i lawr nes cael y gwaelod. Yn ngorsafoedd Chicago a Milwaukee y mae i'w gweled bob dÿdd ganoedd o ymfudwÿr o hen wledÿdd Ewrop yn myned i berchenogi y tiroedd breision sÿdd yn y gorllewin yn estÿn eu breichiau i'w cofleidio. Yn ystod ambell wÿthnos yn yr haf y mae cynifer ag ugain mil o dramorwÿr yn myned trwy Chicago yn unig. Yn wir, gwlad fawr, gwlad fras, a gwlad fendigedig ydÿw America, diolch i'r nefoedd am dani - noddfa barod i holl orthryrmedigion yr holl genedloedd; ac er cymaint sÿdd wedi ac yn myned iddi, “eto y mae lle.” Ond sicr meddienir y lleoedd goreu yn fuan bellach.

SWYDD WAUKESHA.
Tuag 20 milldir yn orllewinol o Milwaukee y mae y sefydliad amaethyddol Cymreig hynaf yn Wisconsin, sef Waukesha. Yr ydwÿt wedi arfer meddwl am y dalaeth hon, ddarllenÿdd, fel gwlad amaethyddol, ag ynddi laweroedd o Gymrÿ, ond y mae yn wlad hynod hefÿd ar gyfrif ei phrydferthion a'i rhyfeddodau naturiol. Gan y bwriadwyf gyhoeddi cyfrol o HANES TALAETHAU UNEDIG AMERICA A’R CYMRY YNDDYNT, ni ddesgrifir yn y gwaith hwn ond y pethau hynotaf a ddaethant dan fy sylw uniongyrchol fy hun. Y mae tref Waukesha yn enwog ar gyfrif ei ffynonau meddyginiaethol. Yr ydoedd eira trwchus, mwy a diweddarach nag arfer, yn gorchuddio yr holl wlad pan oeddwn yn y parthau hÿn - a'r cyfrÿw auaf a gefais i deithio yn barhaus o ddechreu mis Rhagfyr hÿd agos ddiwedd Ebrill. Oddiallan byddai yn oer iawn; oddifewn yn y tai ac ar y gerbydres yn gynes iawn; ac er y cyfnewidiadau parhaus hÿn ni chefais fawr o anwÿd na niwed o fath yn y bÿd ; y mae hÿn yn rhyfeddach o gymaint a fy mod yn Nghymru yn ddarostyngedig i anwÿd mynych.

(x68) Rhaid i mi benderfynu fod ganaf oer, sych, cyson, a hir-barhaol America yn llawer iachach na gauaf llaith a chyfnewidiol Cymru. Gwlad wastad, agos fel y bwrdd, ydyw yr hon sydd yn ymestyn gyda glàn y llyn o Chicago i Milwaukee. Ond am sefydliad Waukesha, y mae braidd yn fryniog a garw; ei gyrau pellaf, fodd bynag, megys amgylchoedd Bark River, yn fwy gwastad. Prydferthir y wlad yn rhyfedd, nid yn unig gan lynoedd grisialaidd, ond hefyd gan lwyni neu resi planedig o poplars a mathau eraill o goed yn cysgodi y ffyrdd ac amgylchoedd yr anedd-dai, y rhai, gydag ysguboriau mawrion a heirdd, a gwynt-rodau uchel o wneuthuriad y gorllewin at godi dwfr o'r ddaear, a roddant i'r eangdiroedd ddestlusrwydd tra dymunol. Talaeth ddymunol yr olwg arni ydyw Wisconsin.

IXONIA, WATERTOWN, â MADISON.
Ychydig yn ogledd-orllewinol o Waukesha y mae Ixonia Center, pentref a gorsaf mewn gwlad amaethyddol. Yma cefais y pleser

(GOLYGFA AR LYN YSPRYD, IOWA)

o gyfarfod â thri o'r pedwar Cymro a gyfarfyddais ar fy nghychwyniad o Aberystwyth.
Daethant trwy dywydd enbyd o wynt a gwlaw i'm gweled. Felly hefyd y dylai fod, oblegid y gallem felly gydgofio (x69) yn well am y fordaith arw ar fwrdd yr Abyssinia. Llon iawn genyf ydoedd cyfarfod â hwy yma a chael eu bod yn bobl mor gyfrifol yn y lle.

Tuag wyth milldir yn mhellach yn yr un cyfeiriad y mae Watertown (p. 8,000), lle y mae llaweroedd o Germamaid ac ychydig o Gymry, yn mhlith y rhai y mae Bardd Gwyn, yr hwn, yn nghyda'i deulu, ar y pryd oeddynt mewn trallod blin. Sefyll yr oeddynt yn hiraethlawn ar y làn, tra yn gwylio symudiadau y mab, atolygydd galluog un o newyddiaduron y dref, yn nyfroedd geirwon yr Iorddonen yn rnyned trwodd. Yma hefyd y gwelais y bregethwraig ddoniol, Mrs. Rachel Evans (Rahel o Fon). Er mai aelod selog o gyfundeb y Bedyddwyr ydyw, cartrefai yn gysurus, meddai, gyda'r ychydig Fethodistiaid Cymreig yn y lle. Clywais hi yn pregethu droion yn Ohio yn y flwyddyn 1871, ac yn sicr, pe buasai yn ddyn, nid wyf yn meddwl yr amheuai neb ei galwedigaeth i'r swydd. Cof genyf fod un o honom ni a ddaethai yn ddiweddar o Gymru y pryd hwnw yn dweyd na chredai efe y gallai yr Apostol Paul ei hun bregethu yn well na Rahel o Fon. Cefais hi yn Watertown â’i holl galon eto yn y gwaith, ond fod amgylchiadau teuluaidd yn lluddias iddi barhau mor amlwg ag y bu.

Wedi taith o tua 35 o filldiroedd yn ddeheu-orllewinol, cefais Madison (p. 11,000), prif ddinas y dalaeth, yr hon a saif ar godiad hynod brydferth ar wddfdir rhwng dau l`yn dysglaer fel y grisial. Yn y talaethdy hardd sydd yma welais un o'r llyfrgelloedd hanesyddol goreu y cefais y fraint o fod ynddi.

SWYDD IOWA.
O Madison ceisiais fyned i Picatonica, yn swydd Iowa (nid talaeth Iowa, cofier). Ni byddai y pellder ar linell uniawn ond rhywbeth fel 40 milldir yn dde-orllewinol; ond gan ddarfod i mi gymeryd fy nhwyllo gan fy map, yr hwn a ddywedai fod reilffordd lle nad oedd ond reilffordd yn cael ei bwriadu, bu raid i mi amgylchynu gan deithio agos 200 milldir trwy Milton Junction, Jamesville (p. 10,000), Hanover, Monroe (p. 5,000), yn ol i Hanover, Rockford yn Illinois (p. 14,000), Freeport (p. 10,000), Warren, DaTlington, a Mineral Point, lle, am naw o'r gloch yr ail noswaith, y cefais Mr, Robert W. Hughes, er wedi ei siomi lawer gwaith, yn
(x70) parhau yn amyneddgar i ddyfod i'r orsaf i edrych am danaf. Cefais ar ddeall mai yn y capel mawr, wyth milldir oddiyno, y'm dysgwylid at yr hwyr canlynol. Aethum yn agos yno at yr amser, ond dywedwyd wrthyf yno mai yn y capel cerig, tua phum' milldir yn mhellach, yr oeddwn i fod, ac ar yr un pryd tybid na byddai yno gynulleidfa, oblegid yn gymaint a fy mod wedi methu cyflawni dau neu dri o gyhoeddiadau, fod y si allan nad oedd y pregethwr wedi dyfod. Rhwng hyn a phellder y ffordd a diweddarwch yr amser, rhoddais heibio y meddylddrych o oedfa. Fy nôd bellach ydoedd ty y gweinidog erbyn amser gwely. Erbyn cyrhaedd yno nid oedd hyn nac arall i fod ond myned i'r capel. I’r capel, gan hyny, yr aethom ar hyd tair milldir o ffordd fryniog, leidiog, a thyllog, mewn buggy, wrth gwrs, ac yr ydoedd yn dywyll nos, a chawsom yno y pryd hwnw gynulleidfa amyneddgar o amgylch y capel. Pan ddeallasant am ein dyfodiad, agorwyd y drws ac aed i fewn. Yna buwyd amser maith yn chwilio am ddefnyddiau i wneud goleu, oblegid ni byddent arferol o gynal cyfarfodydd nosawl yno. Fy nhro i yn awr ydoedd dysgwyl wrthynt hwy, ond gan yr ymddangosent hwy mor gysurus md gweddaidd ynof fi fyddai grwgnach. O'r diwedd dechreuwyd yr oedfa. Er mwyn bod yn fyr ni roddwyd ond un penill i'w ganu. Gwnaethant hwy hwnw yn hir, oblegid dyblent a threblent ef, gan ganu â'r ysbryd, ac i raddau âr deall hefyd. Nid oedd ganddynt ddim i wneud i hyd y benod, y weddi, na'r bregeth, felly ceisiwyd gwthio y rhanau hyny trwodd yn frysiog, ond gwnelid yr amser i fyny drachefn gan ganu peraidd, a'r bobl yn dyfod i fewn ac yn parhau i ddyfod i fewn bob yn un neu ddau bron hyd ddiwedd yr oedfa; ag eithrio hyny o aflonyddwch, yr ydoedd agwedd gall, weddaidd, a gwrandawgar ar y gynulleidfa. Wedi gorphen hyn o wasanaeth, pryd y tybiwn i fod yn rhywyr gan bawb fyned adref, cododd y gweinidog siriol ar ei draed i wneud araeth lon-gyfarchiadol i mi ar fy nyfodiad atynt. Dygodd i gof ein cyn-gydnabyddiaeth yn Ohio, ac anogodd fi i gymeryd amser da eto i draethu iddynt - ar Gymru ac ar amcan fy nhaith trwy y talaethau. Minau, gan gredu yn awr eu bod wedi penderfynu treulio y noson hòno yno, a ymroddais i siarad, a gwell hwyl a gafwyd ar yr oedfa olaf na'r gyntaf ac hyd yn nod wedi gorphen hòno nid ymddangosai fod ar neb frys i fyned. Deuent ataf o un i un i holi hanes pobl a phethau (x71) yn yr hen wlad, ac i ddweyd yr hyn fyddai ar eu meddyliau o'u hanes hwythau. Dymunent arnaf i beidio dweyd yn Nghymru mai hen gapel o geryg oedd ganddynt, eu bod ar fedr tynu hwnw i lawr ac adeiladu un helaethach a harddach o goed; ond dywedodd un o honynt y byddai yn hawddach gan bobl yr hen wlad gredi {sic} ei fod yn hardd trwy feddwl am dano fel capel o geryg. Pobl dawel, boddlonus, a thirion y cefais y rhai hyn, ac y mae yn bosibl, er pob peth, fod pob un o honynt wedi cael cysgu rhai mynydau cyn codi haul.

Dychwelais dranoeth i Mineral Point. Dranoeth i hyny (Sabbath) hebryngodd Mr. R. W. Hughes fi yn ei buggy i Dodgeville, wyth milldir i'r gogledd, lle, yn ol y rhaglen a gefais, yr oeddwn i fod am ddeg o'r gloch, ond erbyn cyrhaedd yno cefais ar ddeall mai yn Salem, bedair milldir yn mhellach, yr oeddynt hwy wedi trefnu i mi fod yr awr hòno. Rhoddodd y gweinidog ei gaseg ardderchog o flaen ei buggy. A dyna gaseg! Yr wyf yn sicr y buasai horse-dealers Tregaron a Ffair Rhos yn llygadrythu ar hon. Pa un bynag ai ar hyd wyneb y ddaear ai trwy yr awyr yr aethom, pa un bynag ai un gyfanlen gyfrodeddog ai llawer oeddynt y coed a'r caeau; pa un bynag ai yn effro ai yn mreuddwyd yr oeddwn, y peth cyntaf bron a wybum oedd ein bod yn sefyll yn ymyl capel Salem, a llais yn galw arnaf i ddisgyn a myned i fewn.

Pregethais yn y prydnawn a'r hwyr yn Dodgeville i gynulleidia cynwysedig o dair, sef Bedyddwyr, Annibynwyr, a Threfnyddion Calfinaidd. Yr wyf yn nodi hyn am unwaith i'r dyben o roddi ar ddeall mai hyn ydyw yr arferiad, nid yn unig yn Dodgeville ond mewn llawer o leoedd eraill yn America. Pa w^r dyeithr bynag a ddaw heibio i bregethu, a pha un bynag ai bychan ai mawr fyddo, cyduna y Cymry o bob enwad fyned i'w wrando. Tranoeth aethum ar ol yr un gaseg ryfedd 18 milldir yn ddwyreiniol i ardal amaethyddol Blue Mounds, lle y mae y pigyn uchaf, meddir, rhwng yr Alleghanies a'r Mynyddoedd Creigiog.

WELSH A
PORTAGE PRAIRIES.
Ar ol taith o fwy na chan' milldir yn ogledd-ddwyreiniol trwy Milton Junction a Watertown, disgynais yn gyntaf yn Columbus, pentref mawr yn nghanol gwlad amaethyddol, lle y mae llaweroedd o Gymry. Oddiyno aethum yn mhellach i'r gogledd, a chefais yr (x72)hen sefydliadau Cymreig mawrion a phoblogaidd, Welsh a Portage Prairies. Er fod yn y lleoedd hyn ddefnyddiau lawer at wneud llyfr ar hanes Cymry America, ni ddigwyddodd i mi yn adeg fy ymweliad â hwy ddim yn neillduol i'w gofnodi, gan nad beth am gofio. Yn Welsh Prairie y mae pentrefi Columbia fryniog a Randolph wastad, ac ar y naill ben i Portage Prairie y mae Fox Lake, a llynoedd eraill mewn gwlad hyfryd. Gan fy mod tuag adeg fy ymdaith yn y parthau hyn yn arfer darllen pethau rhyfedd yn y wasg dan y penawd “Fflachiau o'r Byd Ysbrydol “ gan y fath enwogion a Dewi Emlyn ac Eos Glan Twrch, cofnodais yn ddibetrus yr hanesyn canlynol fel ei cefais gan wraig gyfrifol, yr hon y mae gan weinidog parchus, perffaith adnabyddus o honi, bob ymddiried yn ei geirwiredd: - Wedi i'r wraig grybwylledig un hwyr roddi y goleu allan a gorwedd yn ei gwely, a chyn cysgu clywodd guro cryf wrth ffenestr ei hystafell, a llais yn ei galw wrth ei henw,
“L_____, cyfod, y mae ysbryd yn y ty.”
Adnabu y llais fel eiddo ei thad, yr hwn ydoedd wedi marw. Dychrynodd ar y cyntaf, ac ymroddodd i ymguddio dan y dillad; ond yn y man clywai guro cryf drachefn, a'r un llais yn galw megys o'r blaen,
“L_____, cyfod, y mae ysbryd yn y ty.”
Y tro hwn teimlodd ei hun yn ymwroli. Cododd, aeth at y ffenestr, yno gwelodd ei thad yn
sefyll o'r tu allan, a chlywodd ef yn dywedyd wrthi drachefn y
drydedd waith,
“L_____, cyfod, y mae ysbryd yn y ty.”
Pan edrychodd, wele, yr oedd talcen y ty yn dechreu fflamio gan dân.
Galwodd eraill o'u gwelyau. Taflwyd hufen a llaeth, fel y gwlybyron hawddaf en cael, yn gyntaf ar y tan, ac wedi cario hefyd lawer o ddyfroedd llwyddwyd i'w ddiffoddi cyn gwneuthur o hono niwed mawr. Felly, trwy genad o'r byd ysbrydol, gwaredwyd y teulu y tro hwn rhag y fath anffawd fawr ag a'u goddiweddodd yn flaenorol, sef llwyr losgi en ty a'u dodrefn.

Wrth fyned o'r parthau hyn i Oshkosh elai ein cerbydres yn gyflymach nag arferol am ei bod haner awr yn ddiweddar, ond medrodd dau hogyn drygionus beri iddi aros ar y ffordd lawn haner awr arall tra fu y conductor ac eraill yn taflu ymaith y mur o goed a cheryg a godasant ar draws y reiliau, ac yn rhedeg tua thri lled cae i'w dal hwythau. Eu dal hefyd a wnaed, a chrient yn arw wrth gael eu dwyn yn garcharorion i'r gerbydres. I ba le yr aed a hwy, a
(x73) pha beth a wnaed iddynt ni chlywais, ond cawsant ride yn rhad i rywle yn wobr am eu gwaith; pe buasent wedi codi y mur hwnw yn min nos gallai y canlyniadau fod yn ddifrifol.

YN SWYDD WINNEBAGO.

Saif y sir ben ar ochr orllewinol llyn prydferth Winnebago, 35 o filldiroedd o hyd, a haner hyny o led. Gwlad hyfryd yr olwg arni ydyw. Ar ol talu ymweliad â'r parthau amaethyddol, yn y rhai. y mae llawer o'n cenedl ni, aethum i dref hardd Oshkosh (p. 16,000), lle y mae marchnad goed yn flodeuog.

(LLUN: LLWYNFEN Y CYTUNDEBAU).

Tua 15 milldir yn mhellach i'r gogledd y mae Neenah a Menasha, dwy dref ar ben uchaf Llyn Winnebago, yn sefyll y naill ar bob tu i Afon Fox, yn nghanol yr hon y mae Ynys Dotty, milldir a haner o hyd wrth haner hyny o led, ac ar yr hon y mae gorsaf y reilffordd wedi ei hadeiladu fel ag i ranu yn gyfiawn rhwng y ddwy dref. Y mae y lleoedd hyn, ar gyfrif eu safle hyfryd, yn gyrchfa ymwelwyr lawer yn yr haf, a medda rhai o'u gwrthddrychau gryn ddyddordeb hanesyddol, yn mhlith y rhai mae Llwyfen y Cytundebau (Treaty Elm), dan yr hon gynt y cyfarfyddai penaethiaid y gwahanol lwythau Indiaidd â'u gilydd, ac wedi hyny â'r gwynebau llwydion i wneud eu siarad mawr ac i ffurflo cyfamodau. Byddai (x74 ) werth i un fyned i'r ffactri goed sydd yma i weled ystwc yn cael ei wneud yn gwbl oll mewn eiliad, triugain bob mynyd; neu weled olwyn cerbyd, yn fothau, ysbogau, cantau, a chwbl oll, yn cael ei gwneud mewn llai o amser nag a gymer i ti, ddarllenydd, ddarllen hyn am dani.

Y DIWYGIWR YN AWR
Gan ei fod yn gymeriad nodedig ar gyfrif y nerthoedd a fu yn gweithio ynddo gynt, ei fod yn adnabyddus i filoedd yn Nghymru ac yn America, a'i fod yn preswylio gerllaw y ty y lletyais ynddo yn ardal Oshkosh, dymunais ddanfon am dano; yntau yn ddinag a ddaeth - dyn mawr, llyfndew, a'r ychydig wallt ag oedd ar ei ben yn hollol wyn. Ymddangosai yn hen w^r graenus, er nad ydoedd lawn haner cant oed, ac yn fywiog a siriol iawn ei ysbryd. Ar fy nymuniad rhoddodd i mi grynodeb da o hanes ei fywyd. Wedi adrodd am ei lafur yn ngly^n â'r adfywiadau crefyddol gynt, ychwanegai:-

“Ar ol hyn aethurn yn rhy wan i bregethu yn gyhoeddus. Bum bedair blynedd yn lletya yn Aberystwyth heb bregethu dim, a bum yn pregethu drachefn yn achlysurol yn y gylchdaith hòno. Yn y flwyddyn 1868 aethum i ddarllen ac i ysgrifenu fy ngolygiadau ar y Prophwydoliaethau. Nid oedd genyf y pryd hwnw flas ar ddim arall. Yn niwedd y flwyddyn hòno ysgrifenais lythyrau at y Pab ac at Napoleon III. Cyhoeddwyd hwy yr amser hwnw yn Maner ac Amserau Cymru, a'r pryd hwnw y dechreuodd pobl ddweyd fy mod yn ymddyrysu yn fy synwyrau.”

“Pa beth oedd y llythyrau a ysgrifenasoch at y Pab?”

“Ysgrifenais ato naill ai y byddai farw yn fuan neu y deuai terfyn buan ar ei allu tymorol yn y byd. Yn niwedd y flwyddyn 1868 yr ysgrifenais hyn at y Pab, ac yn niwedd y flwyddyn 1869 cyflawnwyd fy mhrophwydoliaeth i'r llythyren, canys dygwyd oddiarno y pryd hwnw bob llywodraeth dymorol ar y ddaear.”

“Pa beth a ysgrifenasoch at Napoleon? “
“Ysgrifenais ato ef dri o lythyrau. Dywedais yn un o honynt fy mod yn ei weled yn eistedd mewn cadair freichiau yn urddasol iawn, a dyn llygeidiog a milain yr olwg arno yn sefyll wrth ei gefn - fy mod yn ei weled ef (Napoleon) ai fryd ar godi, ond os codi a wnai y cymerai y dyn llym hwnw ei le, ac na chaffai efe y gadair byth
(x75) mwyach. Y dyn llym hwnw, fel y deallais wedi hyny, ydoedd M. Thiers, yr hwn a gafodd y gadair arlwyddol yn lle Napoleon.”

“Pa sut yr oeddech yn gweled pethau fel yna? “

Second sight y geilw yr Ysootiaid y peth.
Nis gallwn y pryd hwnw feddwl yn ddifrifol am ddim heb ei weled yn rhyw ffurf o fy mlaen. Pa bryd bynag y meddyliwn am Napoleon byddwn yn ei weled dan rhyw ffurf, a byddai yn argyhoeddiad trwyadl yn fy meddwl fod y ffurf hòno i'w golygu fel arddangosiad sicr o'i ddyfodol, ac ni chawn lonydd gan yr ymddangosiadau hyn nes ysgrifenu ato, ac yn wobr am fy ngwaith cefais gartref yn Caerfyrddin, lle y bum nes y gorchfygwyd Napoleon ac y cyflawnwyd fy rhagfynegiadau am dano. Pan welodd fy nheulu fod y pethau hyn wedi dyfod i ben, danfonasant am danaf i ddyfod drosodd i America. Bum ddwy flynedd wedi hyn gyda fy rhieni, ond gan fy mod yn y cyfamser yn ysgrifenu llythyrau at Mr. Gladstone, credodd fy nheulu eto fy mod yn ymddyrysu.”

“Pa bethau oeddech yn ysgrifenu at Mr. Gladstone?”

“Ysgrifenais ato fod y mil blynyddoedd yn agos, a rhoddais ddesgrifiad o honynt allan o'r Prophwydoliaethau. Mewn canlyniad i hyn cefais fy ngosod yn yr hospital yn
Oshkosh. Defnyddiwn fy amser yno i ddarllen ac i ysgrifenu ar y Prophwydoliaethau. Dywedai Dr. Kempster (arolygwr y sefydliad) fy mod yn all right yn mhob peth ond ar bwnc y Prophwydoliaethau. Wrth gwrs, nid oedd efe yn deall dim am y rhai hyny. Dywedai y gallwn fyned allan cyn pen dau fis ond i mi daflu y pynciau hyny allan o fy meddwl; ond, a dweyd y gwir, teimlwn fod yno y fath le da, a bod ynof finau y fath hoffder at y pynciau, fel nad oedd arnaf frys i ymadael h'r naill na'r llall. Dim ond gofyn am len o bapyr i ysgrifenu rhywbeth ar Lyfr Datguddiad byddent yn fy marnu yn nyfnder fy nyryswch.

Yn mhlith llawer eraill a ddaethant i fy ngweled yn y lle hwn yr oedd y Tad O'Malley (un o gedyrn yr eglwys Babaidd), dirwestwr selog ac enwog. Ar ei ddynesiad ataf dywedais wrtho, ‘Ostendo nobio misseracordium Domine' (Dangos i ni drugaredd, fy Arglwydd). Cawsom gyd-ymddyddan twymgalon - efe yn fy holi i a minau yr un modd yn ei holi yntau. Pan oedd yn ymadael â'r ward dywedodd yr attendant wrthyf am roddi iddo ffarwel yn Lladin,
(x76) Dywedais wrtho, 'Dominus vobiscum' (Yr Arglwydd fyddo gyda thi). Yntau, gan godi ei law ataf, a atebodd yn hirllais, 'Et cum spiritu tuo' (A chyda’h ysbryd dithau).”

“Mewn dirgel ffyrdd mae’r uchel Ior yn dwyn ei waith i ben.”

“Mewn dirgel ffyrdd “ yr arweiniodd ei was hwn. Llawer impyn diddawn, didalent, a diwerth a geir yn arolygu eglwysi mawrion, yn mwynhau bywioliaethau breision, a chanddynt enw o fod yn rhywrai mawr; a'r gweinidog ymdrechgar, yr hwn yn moreu ei ddyddiau.a wnaed yn offerynol i droi canoedd o gyfeiliorni eu ffyrdd, wedi gorfod treulio amser maith a'i draed megys yn y cyffion, a'r hesg wedi ymgylymu am ei ben, ac yn awr yn weinidog i eglwys fechan a dinod, ac eto dywedir fod rhywbeth yn hynod ynddo - fod ei weddi y nos Sabbath blaenorol megys yn anorchfygol. Pwy a wyr na chyfyd Duw ei was hwn i wneud mwy o waith nag hyd yn nod a wnaed trwyddo.

 

Y TUDALEN NESAF:  1210k  Rhan 4 Tudalennau 76-103
·····

·····

 

Ble'r wÿf i? Yr ÿch chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weørr àm ai? Yùù ààrr vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wébsait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

 

 

 

 


Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats