1214k Gwefan Cymru-Catalonia / la Web de Gal·les i Catalunya - Wales-Catalonia Website. Dros Gyfanfor a Chyfandir:

Sef Hanes Taith o Gymru at Lanau y Môr Tawelog ac yn ôl, Trwÿ brif Daleithau a Thiriogaethau yr Undeb Americanaidd

Gan William Davies Evans. Aberystwÿth: Argraffwyd gan J. Gibson, Swyddfa'r ‘Cambrian News’ MDCCCLXXXIII (1883)

 

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_008_dgac_08_1214k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................1208k Y Gyfeirddalen i'r Llyfr Hwn (Dros Gyfanfor a Chyfandir)

..................................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

Dyma ran o Adran 11 yn y wefan hon, sef

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Dros Gyfanfor a Chyfandir

William Davies Evans (Aberystwÿth 1883)

 

Rhan 8 (tudalennau 173-200)

Adolygiadau diweddaraf:
19 12 2001

 

 

 

 

1208k

Cynllun y Llyfr Gordestun

 

 

1219k

Rhan 1 Tudalennau 1-22

1207k

Rhan 2 Tudalennau 23-49

1209k

Rhan 3 Tudalennau 49-76

1210k

Rhan 4 Tudalennau 76-103

1211k

Rhan 5 Tudalennau 103-126

1212k

Rhan 6 Tudalennau 126-151

1213k

Rhan 7 Tudalennau 151-173

1214k

Rhan 8 Tudalennau 173-200

1215k

Rhan 9 Tudalennau 200-227

1216k

Rhan 10 Tudalennau 227-250

 

1217k Hysbysebion Cefn y Llyfr

1218k

Mynegai - Amryw

 

 



 

 

PRESWYLWYR Y GRAIG.

Y mae yn New Mexico ac Arizona bobl ryfedd a elwir Pueblo Indians, hyny ydyw, Indiaid Pentrefol, y rhai, yn wahanol i lwythau crwydrol, rhyfelgar, ac ysbeilgar y Tiriogaethau, a chwenychant fyw mewn pentrefi; llafuriant y ddaear, ac y maent o duedd lonydd a heddychol. Y mae yn bosibl eu bod yn ddisgynyddion rhai o bobl Montezuma, ac hyd yn nod y cyn-frodorion ag oedd yn meddianu y wlad cyn i'r Azteciaid ddyfod iddi.

Triga y dosbarth iselaf o honynt mewn tyllau ac ogofeydd. Y rhai hyn “nid ydynt bobl rymus, eto hwy a wnant eu tai yn y graig.” Y mae gweled penau gwalltog rhai, a breichiau croen-gochddu eraill, yn chwifio allan o'r creigiau yma a thraw, yn ddigon i beri i un feddwl fod y mynydd yn feichiog o fodau dynol, a bod haid o'r cyfryw, fel
(x174) locustiaid, ar gael eu hunain yn rhyddion i rodio allan megys ninau. Gelwid trigfanau o'r fath yma yn pueblo (pentref), a disgynai y preswylwyr i'r dyffrynoedd i drin y ddaear. Yr oedd pobl debyg iddynt, neu waelach na hwy, yn y wlad y trigai Job ynddi. “Rhai a dorent yr hocys mewn brysglwyni, a gwraidd meryw yn fwyd iddynt. Hwy a yrid ymaith o fysg dynion (gwaeddent ar eu hol hwy, fel ar ol lleidr) i drigo mewn holltau afonydd, mewn tyllau y

 

{PUEBLO - CARTREF YR INDIAID PENTREFOL}

 

ddaear ac yn y creigiau. Hwy a ruent yn mhlith porthi: hwy a ymgasglent dan ddanadl.”Onid oes, er hyny, addewidion i rai fel hyn?”Y diffaethwch a'u dinasoedd, dyrchafant eu llef, y maesdrefi a breswylia Cedar; caned preswylwyr y graig, bloeddiant o ben y mynyddoedd.”

 

Gwehilion y llwythau sydd yn trigo mewn ogofeydd a thyllau yn y creigiau. Preswyliant, gan amlaf, mewn pentrefi gwneuthuredig o dai tebyg i dai adobe y Mexicaniaid. Saif y pentrefi hyn, rai ar (x175) wyneb y ddaear, eraill yn pwyso ar graig, ac eraill ar gopa craig uchel. Y mae yn amlwg fod dyogelwch yn wyneb ymosodiadau y llwythau rhyfelgar mewn golwg yn eu cynlluniad - maent yn un, dau, ac weithiau tri uchder llofft.. Aethum gyda chyfaill trwy wlad o laswellt twffiog, garw, rhwng creigiau garwach, i weled pueblo, gan fwriadu curo wrth ddrws y ty cyntaf yr aem ato; ond nid oedd yno ddrws, na mynediad i fewn nac allan trwy nac ystlys na thalcen. Gwelid colofn las o fwg yn ymfodrwyo i fyny o gorn a ymgodai oddiar dô gwastad. Clywem swn ymddyddan hefyd, fel swn cwynfanau tanddaearol, dwfn, a phell. Barnem oddiwrth hyny fod yno fodau dynol, os nad yn hollol fyw, heb gwbl ddystewi ar ol marw, neu rai yn dyfod i fyny o fro y marwolion. Wrth i ni godi ein golygon i graffu yn fanylach ar y golofn fwg i weled a allem ganfod rhith ysbrydion yn ymddyrchafu o'r lle y clywem y lleisiau dyeithr, dwfn, a phell, wele dwffyn du mawr megys o flew llathraidd, geirwon a hirion yn ymddyrchafu o'r tÿ. Safodd enyd, fel y saif morlo a'i ben uwchlaw y don, ond yn fuan dyna ymysgydwad, ymestyniad tuag i fyny - ysgwyddau a chorff yn ymddangos! Tybiasom ei fod yn debyg i ddyn. Safodd ar ei draed mor syth a phawl, mor llonydd a delw, mor ddystaw a drychiolaeth, mor welwddu ag angeu, mor ddiraen a'r bedd, ac mor ddifrifol a phe newydd adael Hades. A oedd y goleuni yn ei ddalla fel nad allai edrych arnom yn graff? Tybiem hyny, oblegid wedi aros enyd a'i wyneb yn syn-gyfeiriedig atom, a ninau yn ceisio dyfalu beth a gymerai le yn nesaf, pa un ai suddo yn ol i'w dwll, ai lledu allan ei wrthban llaes ac ehedeg ymaith, ynte diflanu yn y fan; gwelsom ef yn plygu yn isel, a chlywsom swn megys o'r ddaear drachefn. Ymuniawnodd y bôd i'w gyflawn hy^d ar hyn, ac wele ail fôd cyffelyb iddo yn dyfod i fyny, ac un arall, ac un arall drachefn a thrachefn, nes y gwelem ar ben y ty dyrfa o fodau syn a dystaw. Yn ddiweddaf oll tynwyd ysgol i fyny, a gosodwyd hi ar yr ochr allanol i'r adeilad, ac ar hyd-ddi daeth y dyrfa ryfedd i lawr ac atom. Cawsom ysgwyd dwylaw â hwy, wrth yr hyn y deallasom mai dynion oeddynt, canys teimlem fod ganddynt gnawd ac esgyrn. Darfyddodd ein hofergoeledd, a throesom i gael golwg fanylach ar yr adeiladau, ac wele yr holl bentref yn fyw o Indiaid, rhai ar benau y tai, rhai yn disgyn, a rhai yn dyfod atom. Nid oedd yno fawr o gyfnewid meddyliau. Gan na fedrem ni nac (x 176) Indianaeg nac Yspaenaeg, na hwythau na Saesonaeg na Chymraeg, nis gallem wneud yn well na cheisio edrych yn llon ar ein gilydd. Mor debyg i esgyrn pydredig mewn bedd yr oeddwn yn gweled eu crwyn, ac mor salw ac afler eu gwedd, fel nas gallwn wrth ystyried mai o'r un dechreuad yr oeddwn i a hwythau, ac mai o'r un fath ddefnyddiau yr ydym yn wneuthuredig, lai na themilo grym yr ymadrodd “Pridd wyt ti, ac i'r pridd y dychweli.” Byddai rhai wrth baentio eu hunain wedi gwneud eu gwynebau rhuddgoch yn fflamgoch. Trwy dwll yn y ty^ yr ant i'w tai, a thynant yr ysgol ar

 

(xPRESWYLFA GYNES).

 

eu hol, rhag y gallai dyn drwg wneud defnydd anmhriodol o honi. Ond y mae pueblos eraill, o wneuthuriad mwy diweddar, yn meddu drws yn y mur, a math o ffenestri i gael ychydig oleuni i fewn. Am y tai o fwy nag un uchder llofft nid ydynt debyg i dai felly yn ein gwlad ni. Y naill dy wedi ei godi ar ben y llall ydyw yr eiddynt hwy yn aml, heb fod ynddynt ddim yn gydfesurol â’u gilydd ond fod yr uchaf o angenrheidrwydd yn llai na'r isaf. Adeiladir amryw dai uchaf gyda thipyn o bellder rhyngddynt ar ben y ty isaf. Gellir golygu yr adeiladau hyn, o'i cydmaru â wigwams Indiaid eraill America, yn balasau. Y mae gan rai o'r bobl dai nid anhebyg i gychod gwenyn, ond eu bod o angenrheidrwydd yn fwy.

 

AMAETHYDDIAETH.

Rhai digyffelyb fel amaethwyr ydynt y bobl hyn. Y maent hwy, eu hanifeiliaid a'u celfi yn rhyfeddol i edrych arnynt. Rhoddwyd math o ddysgrifiad o honynt gyda'u hasynod yn marchnadfa goed Santa Fe. At gario beichiau yn unig y defnyddir asynod. eu hanifeiliaid tynu ydynt ychain, creaduriaid bychain a diraen ddigon yr olwg arnynt. Y mae eu haradr yn gynwysedig o ddau bren, y naill bren yn ddarn o gyff a changen, ac felly yn gam; pen y gangen (x 177) yn llaw ddeheu yr aradrwr, a phen y cyff, wedi ei naddu yn bigfain, yn y ddaear yn cymeryd arno wneud gwaith cwlltwr a swch. Yn gydiol â'r pren hwn yn ei gamder y mae pren hir arall, sef y pawl (pole), yn ymestyn rhwng y ddau ych fyddo yn tynu can belled a'u penau. Yno cydir ef â’r iau (yoke), yr hon sydd yn gorphwys, nid ar warau yr anifeiliaid, ond ar eu penau; rhwymir hi â llinynau wrth eu cyrn, ac ystrapiau yn groes i'w talcenau. Felly â’u talcenau y mae yr ychain yn aredig. Yn aml nid oes ond un ych neu fuwch yn tynu yr aradr. Yn llaw aswy yr aradrwr y mae pren i'w gyru yn mlaen.

 

(xAREDIG YN MEXICO NEWYDD)

 

Nid llai celfydd nag erydr y bobl hyn ydynt eu cludfèni, canys y mae yn eu plith ambell ffermwr mor gefnog ag i feddianu peth mawr felly. Y mae y fèn yn gynwysedig o ddwy olwyn, echel (axle), pawl, a blwch, neu gawell. Y ddwy olwyn ydynt ddau bren crwn haner troedfedd neu fwy o drwch, wedi eu llifio allan o fôn coeden fawr, a thwll trwyddynt i'w sicrhan wrth yr echel. Yn gydiol â'r hwn y Mae y pawl, yr hwn, fel y crybwyllwyd, a sicrheir gerfydd yr iau wrth benau yr ychain. Yn gorphwys ar yr echel a'r pawl y mae y blwch neu gawell uchel, yn yr hwn y cludir y pethau a gludir. Wrth ystyried y pwysau sydd felly yn dyfod ar benau yr ychain, rhaid credu mai y truenusaf o'r holl anifeiliaid ydynt hwy. Y fath ydyw yr anghydfod gwichianllyd sydd rhwng yr echel a'r olwynion pan fyddo y cerbyd yn myned fel y mae y creigiau yn diasbedain gan eu swn. Un tebyg ydyw y cerbyd hwn i'r twlyn, neu y “wagen druck,” y clywais rai o Gymry Wisconsin yn ddwced a arferid ganddynt hwy ar ddechreu eu hymsefydliad yno. Nid oes ddarn o haiarn yn y cerbydau, erydr, nac arall. Dyrnant eu hy^d trwy beri i'r ychain gerdded drosto. (x 178)

 

Pobl ryfedd ydynt y rhai hyn. Er eu bod o'r un lliw ag eraill o Indiaid America, y maent yn dra gwahanol eu tueddiadau a'u harferiadau. Y maent yn eulun-addolwyr selog, a chanddynt eu duwiau bychain a hyll, wedi eu gwneud o bridd y ddaear, yr un fath ag y gwnaed eu llestri pridd. Dyoddefasant lawer ar law eu gorthrymwyr, yn Indiaid, Yspaeniaid, a Mexicaniaid. Ac y mae eu hanes yn profi y medrant ryfela yn effeithiol pan fyddo raid mewn hunan-amddiffyniad. Y maent yn darfod yn gyflym oddiar wyneb y ddaear; ychydig eto a'r lle a'i hadwaencodd nis edwyn ddim o honynt mwy.

YR INDIAID CYMREIG.
Nid fy amcan yn hyn o sylwadau ydyw pleidio na gwrthwynebu yr hon athrawiaeth o gyn-hanfodiad pobl wynion yn mhersonau Cymry ar gyfandir America, a rhediad gwaed Cymreig yn ngwythienau yr hon genedl Aztecaidd, ond gan fod genyf ychydig hatlingaul wedi eu casglu yn y parthau hyn, mi a'u taflaf i'r drysorfa - eler a hwy i'r mint i'w profi, a gwneler â hwy fel y barner yn oreu.

Dyna Pecos, y dref, fel y tybia rhai, lle y ganwyd Montezuma, yr enwocaf o'r brenhinoedd Aztecaidd, a'r lle y cadwyd yn fyw dros ganoedd o flynyddoedd y tân santaidd a gyneuwyd ganddo. Dywedir mai ystyr yr enw Pecos yn iaith y brodorion ydyw goleubryd brychlyd; yn arwyddo mai pobl o bryd goleu a brychni yn eu gwynebau, neu frithni a wnelent ar eu cyrph, oedd yn trigianu y lle. Felly y mae Pecos bron yn gyfystyr â Picts, Pictiaid, Brithwyr, pobl o Scotland. Yn awr, os aeth lluaws o Ysgotiaid a Gwyddelod, fel y dywedir, yn gystal a Chymry, gyda Madog ab Owen Gwynedd i America yn y ddeuddegfed ganrif, ni byddai yn anmhosibl iddynt adeiladu dinas, ac i hòno gael ei galw ar eu henw.

O'r ychydig eiriau Aztecaidd sydd genyf y mae y mwyafrif o honynt yn meddu cryn debygolrwydd i eiriau Cymreig. Galwai yr Azteciaid y lleoedd hyny yn eu dinasoedd a ddefnyddid at gynal cyfarfodydd mawrion cenedlaethol, gwleidyddol, a llenyddol, yn estufa. Ai nid eisteddfa neu eisteddfod ydyw hyn? Enw cyntefig dinas Mexico, yr hon a saif ar fynydd 7,000 o droedfeddi uwchlaw arwynebedd y môr, ydoedd Tenochtitlan. Ai nid ystyr hyn a fod “Ty'n ochr taith i'r làn?” Gelwid y deml fawr byramidol
(x179) oedd ganddynt yn neu yn agos i'r ddinas hòno, ac ar sail yr hon yn awr y saif yr eglwys gadeiriol, yn Teocalli. Ai nid “Ty o allu,” neu “Ty y Gallu,” neu “Ty y Galluog” (yr Hollalluog) ydyw hyn? Dechreua llawer o'u henwau trefawl gyda

(xHen Eglwys yn Mexico Newydd)

 

Te. Gelwir amryw leoedd ar uchelfanau yn Tehua, “Ty uchaf,” efallai. Enwau lleawl eraill, yn ol y ffurf Saesonaeg, a ddechreuant allai gyda Tla, canys tl neu thl a ddefnyddia y Saeson am ll Gymreig. Gall mai lla, neu llan, neu lle ydoedd ffurf wreiddiol y dechreuad yna. (x 180)Tlacopan (Llan-copa neu Lle'r gopa); Tlapallan (Llali-bellaf neu Lle-pellaf); Tlascallans neu Llascallans ydoedd enw llwyth o'r Azteciaid; Cayman (Cae-man neu Cau-fan) ydoedd enw afon; pueblo (pentref), ai ni allai hwn ddeilliaw o “Pobl,” “Poblfa, “ neu le “poblog?”

 

Tua 200 o filldiroedd yn orllewinol o Santa Fe, lle y terfyna New Mexico ar Arizona, y mae Indiaid Zuni, gweddillion yr hen Azteciaid. Dywed un a fu yn aros yn mhlith y rhai hyny fod gan lawer o honynt wallt goleu a llygaid gleision, a'i fod yn anhawdd iawn i un allu credu mai Indiaid ydynt; a’u bod yn rhai glewion iawn yn eu bargeinion. Dywed yn mhellach fod gan yr Indiaid hyn y chwedl ganlynol am danynt eu hunain: - Ddarfod i gwmpeini o fwynwyr Cymreig a ddaethant gyda'r Tywysog Madog dros y môr yn a diluw gwaed gwragedd - ddarfod, iddynt gael y fath dderbyniad croesawgar fel y penderfynasant ymgartrefu yn eu plith. Nid aeth amser maith heibio, fodd bynag, cyn i'r Zuniaid ladd yr holl wrrywaid Cymreig a chymeryd eu menywaid yn wragedd iddynt eu hunain; ac fel yna y cyfrifant am fodolaeth y bobl oleu-bryd a’r llygaid gleision sydd yn eu plith.

 

Agos i gan' milltir yn orllewinol o wlad y Zuniaid, sef tua'r afon Colorado Chiquito, yn Arizona, y mae Indiaid Moquis (Madocwys, o bosibl), y rhai, medd rhai, ydynt debycach i Gymry na'r Zuniaid. Trigant mewn saith pueblo, neu dref, ar benau creigiau aruthrol, nad allodd y Navajoaid, yr Apacheaid, nac unrhyw Indiaid peryglus eraill fyned yn agos atynt i’w drygu. Siaradant iaith na fedr neb ond hwy eu hunain ei deall ac yn hynod iawn, y mae trigolion y dref fwyaf, yr hon a elwir Harro, yn siarad iaith nas gall pobl y trefydd eraill ei deall, ond gallant hwy siarad yn iaith y lleill. Dichon mai disgynyddion yr Ysgotiaid neu y Gwyddelod a aethant gyda Madog ydynt breswylwyr y dref neillduedig hon. Dywedir am y Moquis Indians fod ganddynt wareiddiad o'r eiddynt eu hunain. Pan yn Salt Lake City, dywedodd yr henuriad John S. Davies ddarfod iddo ef weled ac ymddyddan â rhai o honynt, ac y medrent ddweyd unrhyw eiriau Cymreig ar ei ol yn berffaith naturiol. Credai eu bod yn debyg eu gwynebau i'r Cymry; ac oddiwrth y darluniau o honynt a ddangosodd i mi, yr wyf finau yn (x181) argyhoeddedig eu bod, yn ddisgynyddion Adda Jones a'i wraig Azteciaid; Cayman (Cae-man neu Cau-fan) ydoedd enw afon; Ef a_______. Wel, dyna y pethau am danynt fel y maent genyf fi. Nid wyf ar hyn o bryd am benderfynu dim oddiwrthynt. Gwneled y darllenydd â hwy fel y byddo da yn ei olwg.

 

DYFFRYN RIO GRANDE.

Bu yn y parthau hyn, ac oddiyma i lànau y Tawelfor, fyd blaenorol o boblogaeth, pryd yr oedd trefi, adeiladau, meusydd, gerddi, a gwinllanoedd yn addurno yr holl wlad. Ceir arwyddion amlwg o gyn-hanfodiad cenedl o ddynion wedi cyrhaedd graddau o wareiddiad a chelfyddyd; ond daeth yr Yspaeniaid llawruddiog a’r

 

(xLLUN: ADFEILION AZTECAIDD)

 

am fath ddinystr tân a diluw gwaed dros y broydd, fel y rhoddwyd terfyn ar y cyfnod hwnw megys mewn un dydd; a’r fath ydoedd sêl ddâll y Pabyddion fel y dinystriasant bob ysgrifau ac arwyddluniau a allent drosglwyddo i ni eu hanes. Ni adawyd o'r preswylwyr ond gweddillion; lleihaodd ac ymddirywiodd y rhai hyny nes aeth y llwybrau yn anhygyrcd, a’r maesdrefi a ddarfuant.

 

Wedi teithio 67 o filldiroedd yn ddeheuol o Lamy daethum i Albuquerque, un o'r trefydd mwyaf a phwysicaf yn y diriogaeth; rhwng yr hon a Santa Fe y bydd yn ymdrechfa am fod yn brif ddinas y dalaeth. Ugain milldir islaw Albuquerque y mae pentref Isletta, lle dros ugain mlynedd yn ol y gwnaeth yr afon dro rhyfedd â Mr. S. W. Cozzens a'i gydymaith, gyda Jimmy, eu gwas, yr hwn ydoedd Wyddel. Pabellasant ar làn yr afon, yr hon oedd yno yn 300 troedfedd o led, gan fwriadu ei chroesi boreu dranoeth. Nid oes afon fwy cyfnewidiol na hon yn y byd - ei gwaelod yn ddim amgen na threigl-dywod (quicksand) peryglus. Yr ydoedd yn ddealledig (x 182) iddynt fod y man hwn yn neillduol felly, ac nid bychan ydoedd eu pryder wrth feddwl cael eu mulod a'u gwagen lwythog i'r làn arall. Pan ddaeth y boreu deffrowyd hwy gan waith Jimmy yn datgan â llef uchel nad allai miliynau o arian ei demtio ef i gymeryd un cam pellach yn y wlad reibiedig hòno. Nid ofn yr Indiaid gwaedlyd, ond rhywbeth arall, ac yr ydoedd yn myned i gychwyn adref ar unwaith, y foment fendigedig hono, a llefai yn diwys ar y saint santaidd am amddiffyniad. Buwyd yn hir cyn y gellid cael eglurhad ar ddim ganddo gan gymaint ei gyffra. O'r diwedd gofynodd,

 

(xLLUN: SYCHU CIG AR Y GWASTADEDDAU.)

 

“A b'le mae yr afon, ynte? “ Cyfeiriwyd at y lle y tybid ei bod, pryd y throdd Jimmy allan eilwaith i lefain - “Dyna fe! nid yna y mae heddyw; a sut yr aeth y diawl â hi i'r ochr arall, hoffwn wybod?” Pan edrychodd y ddau deithiwr allan, wele, fel y dywedodd Jimmy yr ydoedd yn bod. Cawsant yr afon yn rhedeg o'u tu cefn mor gryno, mor dawel, ac mor hamddenol a phe byddai wedi arfer rhedeg yn y gwely hwnw er's can' mlynedd; aethant dros ei hen wely mor ddyogel ag Israel yn myned trwy y Môr Coch. Mor dywodog ydyw glanau yr afon hon fel y mae yn newid ei gwely pa bryd hynag y cymer hyny yn ei phen; ac nid yw yn prisio na meusydd, na gwinllanoedd, na bueirth (corrals) y ranchers, na phentrefi, nac arall - rhaid i bobpeth roddi ffordd iddi hi ar rybudd (x 183) byr. Yr ydoedd gelyniaeth mawr {sic} rhwng dwy dref o'r enwau La Mesilla a Las Cruces. Achos yr elyniaeth ydoedd eu bod yn sefyll ar ochr wahanol i'w gilydd i'r afon - gelyniaeth o'r un natur ag a fyddai rhwng preswylwyr dau blwyf gwahanol yn Nghymru y yr hen amser da sydd wedi pasio. Pan ydoedd yr elyniaeth hon ar gyrhaedd pwynt peryglus, newidiodd yr afon ei gwely, ac aeth y ddwy dref ar yr un ochr â'u gilydd, ac am hyny yn gyfeillion, ac yn gydelynion i'r bobl oeddynt eto wedi eu gadael i fod ar yr ochr arall.

 

Wedi myned can belled a Rincon, 178 o filldiroedd yn ddeheuol o Albuquerque, cymerais gangen ddeheu-ddwyreiniol or reilffordd yr oeddwn arni i fyned 76 o filldiroedd i ei Paso Del Morte. Ar fy aswy gwelwn fynyddoedd yr Organau, y rhai a elwir felly ar gyfrif mawr debygolrwydd eu cribau uchel, rhwyllog i bibellau cerdd-organ. Ac yr oeddwn yn awr yn nhiriogaeth yr Indiaid peryglus a elwid Apaches, y rhai oeddynt ar y pryd yn gwrthryfela yn erbyn y llywodraeth. Y mae son yn bell ac agos am greulonderau yr anwariaid hyn, yr hyn a barai nad oedd arnaf gymaint o chwant eu gweled hwy na'u pentrefi ag oedd arnaf i weled Indiaid Pueblo. Nid yw yr Apaches erioed wedi cael eu gorchfygu yn iawn; nis medr milwyr eu canlyn i'w llochesau yn y creigiau; ac y mae eu harswyd hyd yn ddiweddar, ac eto i raddau, yn cadw cyfoeth mwnawl parthau o Mexico Newydd ac Arizona rhag cael eu tynu allan.

 

Ychydig cyn fy mynediad ar hyd y ffordd hen darfu i rywbeth fyned allan o le yn y gerbydres, fel y bu raid aros peth amser mewn parth anghyfaneddol i'w hadgyweirio. Yn y cyfamser aeth y teithwyr allan i weled yr amgylchoedd, ac aeth dyn a dynes yn rhy bell, fel erbyn iddynt ddychwelyd yr ydoedd y gerbydres wedi myned. Gan y gallai yr Apaches ofnadwy eu canfod a syrthio arnynt yr ydoedd eu sefyllfa yn bobpeth ond dymunol. Canfuasant hefyd fintai o'r anwariaid yn disgyn o'r mynydd ac yn brysio tuag atynt. Yr ydoedd eu pryder yn awr wedi cyrhaedd pwynt uchel; eu hunig obaith ydoedd dyfodiad cerbydres arall, ond nid oedd cerbydres i'w chanfod er y gallent weled yn mhell yr Apaches er hyny yn parhau i ddynesu gyda phob brys. Pan oedd pob gobaith bod yn gadwedig bron wedi ei ddwyn oddiarnynt, wele gwmwl bychan o fwg, megys cledr llaw gw^r, yn ymddangos ar y gorwel (x184) draw, ond bu yn hir cyn rhoddi arwydd o gynydd neu o ddynesiad. Iddynt hwy yn awr yr ydoedd mynyd o gyfeiriad y mwg yn gymaint ag awr, ac awr o gyfeiriad yr Apaches yn ddim ond mynyd. Gall fod amser felly yn pleidio eu gelynion aeth gobaith eto yn wan. Ond nid oeddynt yn deall holl awdurdod y mwg hwnw. Gwelwyd ef gan yr Apaches hefyd, yr hyn a barodd arafu eu camrau, canys nid oedd eu nifer yn ddigonol i gyflawni ysgelerder felly yn ngolwg y gerbydres. Cafodd y trueiniaid y cysur o weled ei bod yn dyfod.

 

(xLLUN: MYNED I’R WEST GYNT).

 

Ond gan nad oedd yno orsaf, beth os gwrthodai aros? Trefnwyd i’r ddynes sefyll o'i blaen i wneud arwyddion - oblegid dynes ydyw brenhines America. Nid yn yr un ffurf ag y mae Victoria yn frenhines Lloegr, mae yn wir, ond y mae ei gallu a'i hawdurdod yn llawer mwy, er fod ei chyflog yn llai. Pa le bynag y gwna hi ei hymddangosiad y mae yn hawlio ac yn cael pob gwarogaetb, ufudd-dod, a pharch. Felly y bu hefyd y tro hwn; safodd y gerbydres, codwyd y ddau i fyny, a chollodd yr Apaches gwaedlyd eu hysglyfaeth.

 

EL PASO DEL NORTE.

Erbyn fy nyfod i ei Paso, cwr deheu-orllewinol Texas, teimlwn fy mod yn mhell iawn; ond, ys dywedai Siencyn Ddwywaith, gan edrych o'i amgylch pan ddywedodd rhywun wrtho fod ei fferm yn mhell iawn – “Pell o ba le, dywedwch ?” Wel, pell o bob man y bum ynddynt, ac o bob man yr oeddwn ar fedr myned iddynt, agos 1,700 o filldiroedd o Chicago yn y gogledd-ddwyrain, ac agos 1,700 o filldiroedd o San Francisco yn y gogledd-orllewin. Dynion ofnadwy ydynt lawer o ranchers Texas, y rhai a elwir Cow-boys. Eu prif (x185) ddifyrwch ydyw saethu; a phe lladdent ddyn ni byddai fawr gofid iddynt. Wedi croesi y Rio Grande yr oeddwn yn ei Paso Del Norte, Mexico, yr hon, fel y gwyr y darllenydd, ond odid, sydd wlad arall, ac yn llywodraeth arall, wahanol i'r Talaethau Unedig. Hen dref ryfedd, ryfedd ydyw hon eto, hollol adobeaidd ei hadeiladau a Mexicanaidd ei harddull. Ymddangosai pawb a phobpeth ynddi yn

 

(xLLUN: GORSAf MARCH-GERBYDAU – ARIZONA).

 

hynod henafol. Gwisgai y dynion croen-dywyll hetiau goleu, isel, gyda chantelau llydain, cyfled â’r ysgwyddau, o amgylch yr hon y byddai llinyn addrnedig can braffed â rhaff, gyda thwffiau; siaced gryno can belled i lawr â’r wasg, yna llodrau llaesion. Am ganolau llawer o honynt y byddai gwregys lledr, llawn ergydlwythau (cartridges), llawddryll (revolver), a chyllell ddaufin mewn gwain. Y menywod a welid dan shawls brithresog, y rhai a grogent yn

(x186) llaes dros y pen a'r wàr; yna gy`nau goleu, plaen o luniau, blodeuog o liwiau, ac ar y Sabbathau a'r gwyliau yn gymen a glân.

 

Byddai y tai yn hynod blaen a difywyd oddiallan, ond plaenach oddifewn. Ychydig ddodrefn wnai y tro. Eithriadau rhyfedd fyddai cadeiriau na byrddau yn ystafelloedd y gwir Fexicaniaid. Gwnai y llawr y tro fel cader a bwrdd, a'u bysedd yn llawer gwell na chyllill a ffyrch. Nid at ddybenion bwytâol na naddawl y gwnaed y cyllill gloewon a gadwent wrth eu gwregys. Cynwysedig ydyw eu bwyd o tortillas, bara heb ei lefeinio - nid anhebyg o ran ffurf i fara radell, neu fara crai Cymru; chilli hefyd, sef pupyr cochion (Cayenne pepper). Synwn weled cymaint o hwn yn crogi yn rhaffau o godenau cochion a gwyrddion gerllaw y tai. Defnyddir pupyr cochion yno yn helaethach nag y defnyddir wynwyn yn Nghymru. Frejolies eto, sef pys neu ffa, a garlleg. Anfynych y defnyddir cig, am nad ydyw, ond lle y byddo rhaid iddo gael ei gogino gyda digonedd o bupyr cochion a garlleg. Dywedir y bydd Mexicaniad wedi eu galw ar enwau rhyw seintiau gwarcheidiol neu y santaidd yn berffaith ddedwydd os bydd ganddo becaid o ffa a rhaffaid o bupyr cochion, ac na weithia ddim tra fyddo ganddo ronyn o'r naill neu y llall.

 

Y mae y bobl hyn yn fwy celfydd fel amaethwyr nag Indiaid pueblo, ond nid wyf yn meddwl y talai i neb o Gymru fyned atynt i ddysgu amaethu. Eu peiriant dyrnu a wneir i fyny o nifer o ddefaid neu eifr, haner cant, fwy neu lai, weithiau gynifer i chant, wedi eu gosod i drotian a neidio dros yr yd mewn cylch. Mor dda y mae yr anifeiliaid hyn wedi eu haddysgu at eu gwaith fel y symudant pan symudant, ac y safant pan safant, mor rheolaidd â milwyr.

 

 

Bum tua'r milwrdy (barracks). Ymwisgai y milwyr mewn dillad gwynion, yr hyn a barai i'w crwyn ymddangos yn llawer tywyllach.Gerllaw yr oedd ugeiniau o honynt yn golchi eu dillad ac yn golchi eu hunain mewn llyn llwyd a budr, yr hwn a wnaethpwyd i'r dyben hwnw. Ond y peth mwyaf doniol a welais yn y parth hwn ydoedd ymladdfa ffyrnig rhwng dau ddyn. Am a wn i na wnai rhai yn bwriadu dilyn yr alwedigaeth hòno yn dda i fyned atynt i gael gwersi. Ymaflai un dyn yn y llall â’i ddwylaw, ac ysgydwai ef hi â’i holl nerth. Yna ymaflai y llall ynddo yntau, gan wneud megys y gwnaed iddo ef yn gyntaf; ac felly yr ysgydwent eu gilydd ar yn ail nes byddent wedi blino, a’r hwn a flinodd fwyaf, neu yr un fyddai (x187) wedi gwneud mwyaf i orchfygu ei hun, fyddai yn y diwedd wedi cael ei orchfygu. Nid ydyw taraw â dwrn yn feddylddrych ganddynt - at y llawddrylliau a'r cyllill yr eir pan êl y gwres yn ormod i'w gau mewn cylch ysgwyd.

 

Gyda yr eithriad o'r ymladdfa ddigrifol hon, ni welais ddim câs yn eu plith. Meddant fel dynion ymddangosiad lluniaidd, a llawer yn eu plith yn hardd. Mor amddifad o ffenestri arddangosol, ac o arwyddgraffau (signs) ydoedd y dref fel nas gellid yn hawdd wahaniaethu rhwng siopau a thai eraill; ac nid yw y gwestywyr yn meddwl am ffordd i ddenu; ond gyda math o ostyngeiddrwydd sarug, cymerant amynt nad oes ganddynt ddim yn gyfleus, er y bydd ganddynt, efallai, bobpeth yn ol ffasiwn y wlad. Nid ydynt yn meddwl fod addurniant celfyddydol i'w gymhwyso at ddim ond eu , dillad goreu a'u heglwysdai. Gwelir y rhai hyny, er yn henaidd, yn meddu colofnau a thyrau oddiallan, a llawer o ddelwau a lluniau eraill oddifewn. Wrth ystyried hefyd fod agos bob lle yn eu gwlad wedi eu galw ar enwau rhyw seintiau gwarcheidiol neu y santaidd groes, gellid tybio eu bod yn bobl dra chrefyddol, ac eto ni cheir o fewn terfynau cred bobl yn meddu llai o grefydd ymarferol; maent Y mae y bobl hyn yn fwy celfydd fel amaethwyr nag Indiaid pueblo, yn dywyll eu deall ac yn bechod eu buchedd.

 

ARIZONA.

Yn El Paso cefais ben y reilffordd newydd i California, sef y Southern Pacific. Cychwynais ar haner nos, ac wedi olwynaw 88 o

 

(xLLUN: ADFEILION YSPAENAIDD - ARIZONA.)

 

filldiroedd yr oeddwn yn Deming, y lle y daw teithwyr i fewn o'r gogledd-ddwyrain i fyned i California. Tua 40 milldir yn (x188) orllewinol i Deming daeth i'r golwg lyn dysglaer a hardd, a'r mynyddoedd uwchben yn adlewyrchu gyda thanbeidrwydd ynddo; gelwid ef mirage. Nid oedd dyferyn o ddwfr yn agos iddo; tywod yn mhellach, croesais y llinell i diriogaeth fawr Arizona, yr hyn o'i gyfieithu ydyw “Prydferth yr haul.” Dywedir y bydd llawer o'i daear yn dra chyiiyrchiol ar ol y dygir i weithrediad gyfundrefn effeithiol o ddyfrhau

 

(xLLUN: Y DYN DYFODOL)

 

ond yn ei chyfoeth mewnol y gall Arizona ymffrostio mwyaf. Prophwydir iddi ddiwrnod yn yr hwn y cydnabyddir hi y wlad gyfoethocaf yn y byd. Y mae miliynau o ddoleri wedi eu cynyg am rai o'i mwngloddiau aur arian, copr, &c. Ceir ynddi ddarnau cyfain (boulders) haner can' tunell o bwysau yn rhoddi o dri i bedwar . cant o ddoleri (£60 i £80) y dunell Y mae un hawl mewn gwythien (lode) ddeng milldir o hyd wedi rhoddi 200,000 o ddoleri (£40,000) bob mis. Nid ydyw y celloedd llawnion hyn eto ond megys newydd ddechreu gael eu hagor. Daeth anturiaethwyr Yspaenaidd i fewn mor foreu a’r flwyddyn 1540. Ugain mlynedd yn ddiweddarach sefydlwyd yma orsafoedd cenhadol gan y Jesuitiaid. Erbyn y flwyddyn 1725 meddent 30 o'r cyfryw orsafoedd, gyda 71 o bentrefi Indiaidd heblaw hyny o dan eu harolygiaeth. Dechreuasant ddiwygio yr anwariaid, y rhai yn ewyllysgar a gymerent eu haddysgu ganddynt. Ond cynyddodd traha a gorthrwm yr athrawon Pabaidd i'r fath raddau fel y cododd eu dysgyblion yn eu herbyn; lladdasant y cenhadon a (x189) llosgasant eu gorsafoedd. Bu y diriogaeth hon dros flynyddau hefyd yn fath o ddinas noddfa i bobl wynion o'r cymeriadau mwyaf ysgeler-lladron, llofruddion, a gwrthodedigion cymdeithas. Caent yn y parthau pellenig hyn gario pethau yn mlaen yn ol eu dymuniadau; a mwy fyddai y perygl oddiwrth y rhai hyn nac oddiwrth yr Indiaid. Hyd yn nod yr wythnos wedi i mi basio gwnaeth mintai o honynt ymgais at ysbeilio y gerbydres ar teithwyr; ond y mae eu dydd hwy yn gystal ag eiddo yr Indiaid yn cyflym ddiflanu, a gwareiddiad, cyfraith, a threfn yn myned yn oruchaf yn y tir. Wedi teithio er haner nos mewn gwlad noeth, anrhigianol, heb dai, heb gaeau, heb goed, heb anifeiliaid, heb ddim ond gwastadedd unffurf, mawr, yr ydoedd yn hyfryd dyfod at wersyll o bebyll wynion a byddin o filwyr duon, y rhai oeddynt yno i gario yn mlaen ryfel â’r Apaches cochion. Sychedent am newyddiaduron neu pa bethau hynag yn meddu naws gwlad drigianol a deflid iddynt.

 

CACTUS.

Heblaw y trumiau mynyddig a welid draw, draw, nid oedd ar y gwastadeddau hyn ddim i dynu sylw neillduol ond y llysiau rhyfeddol, a elwir cactus, neu prickly pears, neu “gelligenau pigog.” Dywedir fod dros dri chant o wahanol rywogaethan o honynt. Ymddengys rhai o honynt can lleied ag wyau bychain, gwyrddion, pigog, llygeidiog yn tyfui allan o'r ddaear; eraill yn amryw ddail crynion, tewion, fel tafodau drain-bigog; eraill yn dwffiau mawrion a bychain o ganoedd o ddail, neu yn hytrach gleddyfau hirion, tewion, triminiog, mor flaenllym â nodwyddau ac mor gelyd â phrenau. Byddai syrthio yn drwm ar un o'r tyffiau hyn, rhai o honynt yn droedfeddi o dryfesur, yn farwolaeth i unrhyw ddyn. Allan o rai o honynt y tyf megys pren main, uniawn, digangau a diddail, i'r uchder o tua 15 troedfedd. Yn eraill y gwelir y pren uniawn yn tyfu yn gyntaf, a’r twffyn canmil-cleddyfau yn gryno ar ei ben. Y .mae eraill fel math o brenau yn taflu allan ganghenau, a dail pigog yn tyfu allan o'r canghenau hyny. Yn eraill y mae y dail pigog, tewion, a chelyd yn tyfu yn gyfrodedd ar hyd yr un pren o'r gwaelod i fyny. Tyfa un math, yr hwn, efallai, a ddylid alw yn balmwydden, i’r uchder o 60 troedfedd. Hwnw ydyw y rhyfeddaf o honynt oll,  nid yn unig ar gyfrif ei faintioli, ond hefyd ar gyfrif ei liw a’i lun. (x190) Y mae tryfesuredd ei bren rhychbantiog yn dair troedfedd wrth y ddaear, a chan feinhau yn raddol terfyna fry yn berffaith flaenllym. Allan o hono, drosto oll, y tyfa pigau blaenllymion o fodfedd i dair modfedd o hyd. Y mae gan rai o'r llysiau pigdwraidd, pigog, rhychbantiog, a chawraidd hyn bump neu chwech o bigdyrau pigog a rhychbantiog fel hwythau yn tyfu allan o honynt tuag i fyny, fel yr erbyn myned i'r lle ddylai fod yn plaza (paire canol y dref), nid oedd ymddangosai darlun o honynt yn debyg i'r darluniau a wneir o ganwyllbren y tabemacl. Y mae lliwiau gwyrdd a melyn y rhywogaeth hon yn cymeradwyo eu gilydd yn dra rhagorol, Ymddengys un blodeuyn ar y brig unwaith yn y flwyddyn, a rhoddant ffrwyth a werthfawrogir gan yr Indiaid. Gelwir hwn yn boss cactus. Gwna yr aderyn a elwir woodpecker dwll ynddo yn agos i'w frig, ac yn y twll hwnw y maga ei blant Heblaw hyny dywedir mai y neidr gynffondrwst, y fadfall, a'r ddylluan ydynt yr holl greaduriaid byw a welir yn mharthau enwocaf y cactus. Daear uchel, dywodog, ar waelod creigiog nas gall coed na llysiau oraill ffynu ynddi, ydyw cartref brasaf y llysiau rhyfedd hyn.

 

HENAFIAETHAU.

Yr ydys wedi crybwyll am weddillion henafiaethol er dechreuad y daith trwy New Mexico, a gallesid nodi llawer eraill; ond dichon mai yn Arizona y ceir y rhai rhyfeddaf ar y llinell hon i California. Saif Tucson (p. 5,000) 307 o filldiroedd yn orllewinol o El Paso. Hona mai hi ydyw y dref henaf yn America o’r rhai ag sydd eto yn fyw; ond, yn anffodus, nid oes yn awr neb a fedr benderfynu y ddadl rhyngddi hi â Santa Fe. Fel y canlyn y desgrifir Tucson gan deithiwr 25 o flynyddau yn ol: - “Tucson y pryd hwn ydoedd brif dref y diriogaeth, gyda phoblogaeth o 600, agos eu haner yn Fexicaniaid a'r gweddill yn gymysgedd o Apachos, Pimos, Papagoes, a gwddf-dorwyr. Dichon na fu o fewn muriau unrhyw ddinas y fath gydgasgliad o ysbeilwyr ceffylau, hap-chwareuwyr, llofruddion, oferwyr, a dyhirod o bob math. Gellid meddwl mai bryn fuasai y lle ar y dechreu, a'i fod wedi ei daraw a'i chwalu gan fellten farnol, ac mae gweddillion y difrod ydoedd y tyllau priddlyd, llwydaidd, drygsawr, a thruenus yn y rhai y mynai y tw^r hwn o lygredigaeth anadlu. Nid oedd na mur gwyn na phren gwyrddlas i'w ganfod. Yr oll a groesawai y llygaid ar bob llaw oeddynt hen gysgodfeydd (x191) (sheds) o dai, hen redyll, hen grochanau a llestri tyllog, hen fueirth (corrals) wedi syrthio, ceffylau meirw, cw^n byw, Indiaid meddw, plant noethion, mulod, moch, a phob aflendid! Ni welais o'r blaen y fath olygfa o fewn terfynau gwareiddiad; cefais fy llwyr lenwi o ffleidd-dod. Nid oedd yno fonda (ty cyhoeddus) o fath yn y byd, ac erbyn myned i'r lle ddylai fod yn plaza (parc canol y dref), nid oedd i ni ond perffaith ddyryswch, heb allu gwybod i ba le i fyned. Cawsom o'r diwedd hen adfail wag o bridd. Yno taenasom ein gwrthbanau ar lawr o bridd, a choginiasom ein hymborth ar aelwyd bridd; a phan ddaeth y nos daethom a'r oll a feddem - wagen, mulod, a chwbl o fewn y muriau pridd, a bolltiasom y drysau; barnasom mai y peth goreu fyddai myned ymaith, ac ymaith yr aethom yn foreu.” Y mae y dref yn llawer iawn rhagorach na'r desgrifiad yna yn awr - adeiladau o ddulliau diweddar wedi eu codi, a’r trigolion o ansawdd uwch; ond y mae wedi colli yr enedigaeth-fraint o fod yn brif ddinas y diriogaeth am fod Prescot wedi ei dwyn oddiarni.

 

Deng milldir o Tucson y mae hen eglwys enwog San Xavier del Bac, 115 troedfedd o hyd wrth 75 troedfedd o led; y mae ar ddull croes, wedi ei hadeiladu gan y cenhadon Jesuitaidd 200 o flynyddau yn ol. Y mae oddifewn ac oddiallan wedi cadw ei chadernid a'i haddumiadau yn rhyfeddol, ac y mae hon hefyd yn hardd iawn, fel y mae yn bleser edrych arni. Y mae yn rhyfedd meddwl fod y fath adeilad costfawr a mawrwych wedi sefyll i fyny trwy yr oesoedd yn nghanol Indiaid tlodion, mwy na haner noethion. Daw y rhai hyn ati i ddweyd eu gweddïau boreuol mewn agorle ar ei thu gorllewinol. Ar ei thu deheuol y mae lleiandy, yn yr hwn y mae pedair o chwiorydd trugaredd yn ymweled i'r cleifion ac yn addysgu yr Indiaid.

 

Tua 12 milldir yn ogleddol o orsaf Casa Grande, ac yn ddeheuol i'r afon Gila y mae Casa Grande (Ty Mawr), yr hwn a saif i fyny yn adfail fawreddog yn nghanol amryw filldiroedd o hen adfaelion eraill, y rhai a amgylchir gan gamlas o'r afon Gila. Y mae y ty hwn yn 63 troedfedd o hyd, 45 troedfedd o led, a chymaint ag sydd yn aros o'r muriau yn 40 troedfedd o uchder, ac yn bum' troedfedd o drwch. Bu, o leiaf, yn bedwar uchder llofft; medda amryw ystafelloedd hirgul. Y mae dwy adfail eraill llai yn gyfagos.(x192) Bernir iddynt gael eu codi 800 o flynyddau yn ol. Y maent mewn cadwraeth dda, ond dywedir nad yw y mwyaf o'r rhai hyn ond bychan o'i gydmaru a rhai eraill. Y mae seiliau un adeilad yn 350 o droedfeddi o hyd wrth 150 o droedfeddi o led. Ceir yn eu plith ddarnau o lestri ac arfau celf. Os disgynyddion yr hen gyn-frodorion ydynt y Pimos, y Maricobas, y Cuchans, y Mojaves, y Papagoes, y Zunis, a’r Moquis presenol, rhaid eu bod wedi ymddirywio yn fawr. Ni wyddant hwy ddim am ddechreuad yr adeiladau hyn, ac nis gallai y cenhadon gael gan Indiaid 300 o flynyddau yn ol ddim eglurhad arnynt. Dywedir fod glànau y Gila yn uwch i fyny yn meddu adfeilion llawn mor rhyfedd. Ceir yn y diriogaeth un hen gamlas fawr 60 milldir o hyd a 50 troedfedd o led, gyda llynoedd gwneuthuredig o ddirfawr faintioli. Ar feinben mynydd serth, 3, 000 o droedfeddi uwchlaw y dyffryn, y mae castell cadarn, mawr. Deuir yn achlysurol o hyd i lestri llosg-gladdu (cremation urns), yn y rhai y ceir lludw a darnau llosgedig o esgyrn dynol. Y mae arwyddluniau (hieroglyphics) dynion, anifeiliaid, adar, ymlusgiaid, &c., wedi eu cerfio yn ddwfn a'u paentio yn y creigiau.

 

ANIALWCH GILA.

Wedi olwynaw o honom bellder mawr i'r gorllewin o Casa Grande, aethom rhwng bryniau geirwon, llymion, a charegog, yn rhoddi arwyddion eglur eu bod rhyw gyfnod pell yn ol wedi cael eu goleuo gan ffrwydriadau tanllyd o'r ddaear - y mae y pigynau o liw a llun crasboethedig, a'r llosgfalwy (lava) yn gorchuddio yr bell waelodion. Ac yn awr yr oeddym mewn anialwch gwag erchyyll fel anialwch Arabia. Ni welir yn tyfu o'r llwch mân ond llwyni teneuon, un yma ac un acw, o sages, ac ambell grimpiaid eraill. Gwelais un llyn mawr a'i ddwfr yn wyndew gan laid alkali. Yr ydys yn cario dwfr gyda'r gerbydres dros 150 o filldiroedd at wasanaeth y ffordd a'r dynion fyddo arni. Y mae gwres yma yn fawr iawn, cyfuwch â 125 o raddau yn y cysgod, ac weithiau yn uwch. Nid oes o Maricoba i Yuma, pellder o 150 o filldiroedd, unrhyw adeiladau oddieithr yr ychydig, a godwyd yma a thraw at wasanaeth y reilffordd. Y mae i'r rhai hyny ddau dô, y naill tua dwy droedfedd uwchlaw y llall, i'w cadw rhag gwres angerddol yr haul. Wedi rhedeg yn hir ar yr ochr ddeheuol i'r afon Gila, croesasom hi tuag Adonde; yna (x193) nid oedd ond llosgfalwy yn gorchuddio y ddaear ac yn llenwi agenau rhwng y creigiau. Ymwasgai y pigynau mynyddig o'n hamgylch, ac ymddangosai y creigiau ar yr ochr ogleddol yn hynod o debyg i gestyll, ac arwedd drymaidd a difrifol arnynt.

 

Wedi teithio 247 o filldiroedd yn orllewinol o Tucson daethum i Fort Yuma, ar ar làn yr afon Colorado, lle yr ymarllwysa y Gila iddi, 100 milldir yn ogleddol o Lynclyn Mexico. Ymwasgara y Gila i rai milldiroedd o led cyn yr ymarllwysa i'r Colorado, ac y mae yr olaf yn un o'r afonydd mwyaf rhamantus yn y byd; mordwyir hi dros 500 o filldiroedd. Y mae iddi 300 o filldiroedd mewn agen ddofn o 1,000 i 3,500 o droedfeddi o ddyfnder uniawnsyth yn y graig. Y mae Yuma yn un o'r trefi rhyfeddaf, cynwysedig o dai adobe plaen, heb lofft - muriau o dyweirch neu briddfeini haul-grasedig, yn bedair neu bump troedfedd o drwch, gyda thô o bridd ddwy droedfedd o drwch. O amgylch y tai y mae verandas llydain, mawrion o bolion a gwiail, ac o amgylch hyny fences uchel o'r un defnyddiau. Hon ydyw y dref fwyaf priddlyd a llwydaidd a welais; nid oedd wyrddlesni i'w ganfod ynddi - creigiau priddlyd, tai priddlyd, dwfr priddlyd, a dynion priddlyd eu lliw. Gwneir y boblogaeth i fyny o Indiaid, Alexicaniaid, Yspaeniaid, ac Americaniaid. Cysgir ar benau y tai, a gwisgir can lleied ag a ellir o ddillad. Nid yw holl wisg yr Indiaid ond megys cadach llogell yn gwneud gwaith ffigysddail Efa. Oddiwrth y cadechyn hwn y mae gan y rhai cyfoethocaf a balchaf ribyn coch yn crogi o'u tu ol fel cynffon mwnci, a hwnw yn llusgo'r llawr ar yr un egwyddor â gwisg boneddiges uchelradd yn y wlad hon. Pabyddiaeth ydyw y grefydd, a dywedir fod y bobl, er eu gwahaniaeth cenedlaethol, yn weddol dda eu moesau, ac ystyried mai hwy ydynt.

 

Cafodd y dref hen ddechreuad dyddorol. Yn fuan wedi i Arizona ddyfod i feddiant y Talaethau Unedig, acth nifer o ddynion yno i chwilio am fwnau gwerthfawr. Yn dymuno dychwelyd i California i gael arian i gario waith yn mlaen, daethant at afon Colorado, yr hon ni allent groesi. Ar y làn arall yr oedd Ellmyn yn cadw cwch, ond nis gallent hwy dalu iddo 25 o ddoleri, y pris gofynedig, am na feddent ddim. Yno, gan hyny, y gwersyllasant dros nos. Yn y cyfamser tarawodd meddylddrych i ben un o honynt, ac yn blygeiniol iawn tranoeth gosodasant ef mewn gweithrediad. Gyda'r cwmpawd, (x194) y prenau, a'r banerau bychain dechreuasant fesur y tir gan ei ranu yn lotiau, a'i drefnu yn heolydd. Yr Ellmyn, wrth weled y gweithrediadau, a rwyfodd drosodd er gweled beth oedd hyn, hwythau a ddywedasant wrtho fod yno ddinas a llongborth i gael eu hadeiladu er hwylysu trafnidiaeth o'r diriogaeth newydd. Yr Ellmyn ar hyn a aeth yn dra brwdfrydig, ac a fynai brynu dwy lot wrth yr afon. Hwythau a'u gwerthasant iddo, gan foddloni cymeryd eu cario drosodd i'r làn arall fel rhan o'r taliad; ac felly dygwyddodd iddynt bawb fyned drosodd yn ddyogel. Nid oedd yr oll yn meddwl yr anturiaethwyr ond dernyn o gyfrwysdra - yn ol y ddiareb, “Os na byddi gryf, bydd gyfrwys.” Aeth y sôn allan er hyny - dechreuwyd adeiladu, ac yn awr y mae Yuma yn dref o 3,000 o drigolion, a daw yn llawer mwy.

ANIALWCH
COLORADO.
Wedi croesi yr afon Colorado yr oeddwn mewn gwirionedd yn y dalaeth fwyaf, gyfoethocaf, ac enwocaf yn yr Undeb - California, gwlad yr aur dylun, y ffrwythau mawrion, y cnydau hunandyfol, y perllanoedd, a'r gwinllanoedd digyffelyb - gwlad y bythwyrddion feusydd, a'r anniflan brenau a'r hinsoddau iachusol - gwlad llanerchau, yr hon sydd yn meddu tragywyddol haf, na wywa byth ei blodau braf, nad oes byth auaf yn ymweled a hi, na rhew nac eira yn difa ei phrydferthwch - gwlad, y dywedir fod bendithion y moroedd a'r wybrenau, bendithion y mynyddoedd a bendithion y dyffrynoedd, yn etifeddiaeth iddi. Ai felly ei cefais? Nage, eto, o gryn lawer, Dros gant a haner o filldiroedd yn ogledd-orllewinol o Yuma, nid oedd fawr i'w weled ond anialwch, a pharthau o hono mor llwm o bobpeth, ond tywod gwyn, ag y gallai anialwch fod; mewn parthau eraill ymddangosai yma a thraw rywogaethau o sage brushes, a rhyw lysiau gwael eraill. Gelwir hwn yn Anialwch
Colorado am ei fod yn ffinio ar afon Colorado. Ymestyna rhwng dwy gadwen hir o fynyddoedd. Wedi myned tua 60 milldir hwnt i Yuma, dechreuasom ddisgyn i orddyfnderau y ddaear, nes i ni fyned 266 troedfedd islaw arwynebedd y môr, a dros 300 troedfedd islaw y glanau amgylchynol, y rhai oeddynt yn ymgodi 40 troedfedd uwchlaw y dwfr pan ydoedd y pantle hwn yn fôr gwirioneddol. Ceir profion eglur iddo fod felly ganoedd, efallai filoedd, o oesoedd (x195) yn ol. Ceir dwfr hallt i fyny eto wrth gloddio yn ddwfn. Ar ol i'r parth beidio bod yn fraich o'r Môr Tawelog cafodd gyfnod o fod yn llyn o ddwfr croew, fel y prawf y myrddiynau cregyn dwfr croew a geir yn gymysg o'r ceryg bychain, llyfnion a welir yn haen-linellau ar y llethrau, mor eglur a newydd â phe na byddai ond megys doe er pan ciliasai y dyfroedd. Collodd y Tawel-for mawr y rhan hon o'i ymerodraeth trwy i dywod yr anialwch ei gau allan; a chollodd y llyn peraidd ei fodolaeth am ddarfod i'r tywod lyncu y ffrydiau a'i cyflenwai, ac i'r afon fyned yn ddyhysbydd. Rhyfedd ydoedd meddwl fy mod yn teithio mewn lle a allai fforddio i longau hwylio ganoedd o droedfeddi uwch fy mhen, ac i forfilod y dyfnder chwareu o'm hamgylch; ond, fel Jonah gynt, cefais inau ddyfod i fyny yn ddiangol.
Tua pharth y pantle rhyfeddol hwn y mae tua 25 milldir ysgwar o ffynonau llaid, rhai yn oerion, ond y mwyafrif yn boethion, ac o dewdra sucan neu uwd, yn berwi ac yn pwffian allan o'r ddaear. Y maent yn bob maintioli, o 200 troedfedd i lawr - rhai yn gydwastad â’r ddaear, ac eraill yn codi yn bigfain i'r uchder o 25 troedfedd. Y mae eu harogl yn ddrwg, ac yn achlysurol clywir ynddynt dyrfiau tanddaearol. Weithlau tywyllir awyrgylch yr anialwch hwn gan gymylau o dywod yn cael eu cludo gan wyntoedd cryfion. Gorlifir parthau o hono ar adegau eraill gan yr hyn a elwir yn doriad cwmwl ar y mynyddoedd, pryd y bydd afonydd o 30 troedfedd o ddyfnder yn rhuthro trwy y pantiau tywodog. Dywedir fod yn mynyddoedd San Jacinto, ar y tu aswy, dyrfiau nad ydys eto yn deall yr achos o honynt; clywir twrw sydyn fel pe tanid deg o gyflegrau yn nghyd, a hyny weithiau dair gwaith neu bedair mewn noswaith, brydiau eraill bydd amryw ddiwrnodau rhyngddynt - deffroant bawb o fewn cylch clywedigaeth, ac ysgydwant y tai yn waeth nag unrhyw ddaeargrynfäau cyffredin.
Nis gellir cael allan yn hollol y fan o'r hwn y deillia'r twrf, ac nis gellir cyflogi yr Indiaid i fyned yn agos i'r parth. Dywedant fod rhai o honynt gynt wedi ei weled yn ddamweiniol wrth hela, ac mai ogof dywell, enfawr, a dychrynllyd ydyw, ac mai hen tah-quish (yr ysbryd drwg) sydd yn ceisio dyfod allan o'i garchar poeth i anadlu, a'i fod yn cael ei ddychrynu gan yr olwg ar rywbeth oddiallan, fel y mae yn cilio yn ol ac yn cau y drws mor chwyrn ag i wneud y twrw rhyfedd a glywir. Credir bodolaeth y gwr hwn gan bron bawb

 

 

(x 196)

DYFFRYNOEDD Y DEHEU.

Wedi dyfod i fyny o waelod y môr, a theithio llawer drachefn, gan gadw mynyddoedd San Bernardino ar ein de, a mynyddoedd San Jacinto ar ein haswy, a myned trwy fwlch San Gorgonio, 2, 600 o droedfeddi uwchlaw arwynebedd y môr, daethom i olwg dyffryn San Bernardino, ac yno gwelais rhywbeth tebyg i California - meusydd cynyrchiol, gwinllanoedd, perllanoedd, afal-llanoedd, aur-afal-llanoedd, &c. Codir o'r ddaear ddau gnwd y flwyddyn - haidd yn gyntaf, 50 mesur yr erw; yna Indrawn, o 50 i 60 mesur yr erw; ac o'r cnwd a elwir alfalfa, cnwd a dy^f o hono ei hun wedi ei hau unwaith, yr hwn sydd yn talu yn well na phobpeth arall, codir pump neu chwe' cnwd {sic} yn flynyddol.

 

Pedair milldir oddiwrth orsaf Colton y mae tref San Bernardino (p. 6,000), yr hon, yn nghyda'r amgylchoedd, yn 1847, a feddianwyd gan Seintiau y Dyddiau Diweddaf. Yn gymaint a'u bod dan erlidigaeth yn Illinois, danfonodd eu blaenor nifer o honynt yn mlaen i gyfaneddu y llanerch neillduedig hen. Gan ei bod yn cael ei ham- hamgylchynu gan fynyddoedd ac anialwch mawr, tybiai y fangre hon yn lle priodol i fod yn breswylfa lonydd i'r holl saint. Wedi i 300 o deuluoedd o honynt, trwy ddirfawr lafur, wneud y parth yn ddyfradwy, hau meusydd, planu gwinllanoedd, trefnu ac adeiladu y ddinas ar yr un cynllun ag yr adeiladwyd dinas y Llyn Halen wedi hyny, barnodd y prophwyd oddiwrth y ganmoliaeth ryfedd ydoedd i'r wlad, ei bod yn rhy dda iddynt gael llonydd yno yn hir, y byddai y cenhedloedd yn sicr o ddyfod i aflonyddu arnynt, am hyny danfonodd orchymyn ar iddynt adael y trigfanau dedwydd a baretoisant, a chymeryd eu heiddo a myned ar bererindod maith dros fynyddoedd . geirwon y Sierras ac anialwch erchyll America i wladychu yn niffaethleoedd y Llyn Halen. Hwythau, gan amlaf, a roddasant ufudd-dod, ond rhai a arosasant. Pa le y ceir esiampl ryfeddach o hunan-ymwadiad ac aberth er mwyn crefydd? Gadawodd yr Israeliaid yr Aifft i fyned i wlad yn llifeirio o laeth a mêl, ond gadawodd y rhai hyn wlad dda odiaeth, gan ffoi i'r anialwch fel y gallent fwynhau eu crefydd yn ol eu golygiadau eu hunain! Y mae yn rhyfedd na ragwelodd Brigham Young, ac efe yn brophwyd, y byddai i'r cenhedloedd ddyfod a reilffordd ac ymfudwyr i ddinas y Llyn Halen amryw flynyddoedd yn gynt nag y daethant i ddyffryn (x197) San Bernardino. Am y seintiau a fynasant aros, dywedai rhai o honynt hwy eu hunain eu bod, or holl ffrwythlonedd y ddaear a phob cysuron naturiol, fel y gaethglud ar làn afonydd Babylon, yn wylo gan hiraethu am fod gyda'u pobl eu hunain ac yn nghymdeithas y saint. Nid oes yno yn bresenol dros gant a haner o honynt, a'r rhai hyny yn perthyn i'r gangen Josephaidd, sef rhai yn gwrthod cydnabod Brigham yn brophwyd ac yn cosbu aml-wreiciaeth.

 

Dwy filldir a deugain yn mhellach ac yr oeddwn yn Ninas yr Angylion, Los Angeles (p. 12, 000), 249 o filldiroedd yn ogledd- orllewinol o Yuma. Hon ydyw y dref fwyaf ac enwocaf yn neheubarth California. Saif wrth odreu deheuol mynydd-gadwen Sierra Santa Monica, a thua deunaw, milldir oddiwrth dref Santa Monica, ar làn y Tawel-for, â'r hon y cysylltir hi gan reilffordd. Sylfaenwyd hi gan y cenhadon Pabaidd yn 1771, felly, fel tref Galiforniaidd, y mae yn hon ryfeddol. Y mae yr holl amgylchoedd yn gyfoethog a pharadwysaidd - gerddi a pherllanau rhesog a ffrwythlawn yn rhoddi aurafalau, lemons, limes, grawnwin, ffigys, bananas, pupyr, melons, pomgranadau, almonau, a bron holl gynhyrchion y cylch cyhydeddol. Ger San Gabriel, heb fod yn nepell, y mae yr aur-afallen (orange orchard) fwyaf yn y dalaeth, yr hon sydd 500 o erwau. Nid yw y parth hwn yn gwybod dim am , auaf, rhew, nac eira. Nid oes ddadl nad ydyw yn lle tra dymunol i breswylio ynddo. Deallwyf fod yn ac o amgylch Los Angeles ychydig Gymry; ond bum mor anffodus a bod heb wybod pan yno fod yn eu plith gyfnitheron i mi, gyda'r rhai yn blentyn y cyd-chwareuwn.

 

DROS FYNYDDOEDD A DIFFAETHWCH.

Dyma wlad ryfedd iawn! Ni pherthyn iddi gyffredin neu ganolig o ddim, ond ob peth mewn eithafedd - eithaf diffaethwch neu eithaf ffrwythlonedd - tragywyddol auaf neu dragywyddol haf - rhew ac eira gwastadol neu wyrddlesni gwastadol. Ar ol teithio canoedd o filldiroedd dros anialwch poethlyd a chrasdir diffaeth, daethum i ddyffrynoedd paradwysaidd San Bernardino a Los Angeles, ar y rhai y gellir casglu hufen pob ffrwythlonedd daearol. Yn awr, eto, yr wyf ar gychwyn dros fynyddoedd geirwon, a chan' milldir o anialwch gwag erchyll, ac wedi myned dros, drwy, a rhwng mynyddoedd (x 198)

 

(x198) rhamant-wyllt drachefn, deuwn i wlad fras, na cheir ei rhagorach, efallai, dan ser y nef.

Ar fynydd
San Fernando aethom trwy dwnel uniawn o agos 7,000 o droedfeddi o hyd. Gryn bellder yn mhellach daethom i fwlch hirgul, 25 milldir o hyd, a'i fariau creigiog yn ymgodi o 2,000 o droedfeddi o uchder. Cyfaneddir y parth hwn gan Fexicaniaid, a gelwir y bwlch yn Nyth yr Ysbeilwyr (Robbers’ Roost). Llawer a ddaliwyd ganddynt yn eu nythle bon, a rhai o honynt hwythau a ddaliwyd gan eu gwell, ac a ddienyddiwyd heb roddi fawr o drafferth i wyr y gyfraith. Wedi disgyn o'r mynyddoedd hyn dechreuasom ar gan' milldir o dywod mân, heb ond ychydig o frysglwyni (sages) gwylltion a choed y palmwydd i'w gweled yn deneu yma a thraw. Y mae y coed hyn, fel y cactus, yn ffynu oreu mewn tir a fyddai yn angeu i goed a llysiau eraill. Sonir llawer yn yr ysgrythyrau am y palmwydd. Y mae yr amrywiaethau o honynt yn dra lluosog, a'u rhinweddau i blant yr anialwch uwchlaw cyfrif. Diolchais inau iddynt am dòri mor ddymunol yr unffurfiaeth lom yr anialwch. Yr unig ddefnydd wneir o honynt yn y parthau hyn ydyw papyr; at wneud yr hyn y mae melinau priodol.

Esgynasom o'r dyrys anialwch hwn i fynydd uchel, lle, ar gopa bwlch Tehachapi, y cyrhaeddasom y pwynt uchaf ar y reilffordd hon, yr hwn sydd 3, 964 troedfedd uwchlaw arwynebedd y môr. Oddiyma i Caliente, 25 milldir yn mhellach, disgynasom 1,674 o droedfeddi, drwy 17 o dwnelau a thros laweroedd o bontydd a thrawstgweithau, ac yr oedd y dyfnder mewn manau yn aruthrol. Ond y peth rhyfeddaf ar y disgyniad hwn ydyw y peirianwaith rhyfeddol a elwir yn ddolen (loop). Y mae yn 3,795 troedfedd o hyd a'i hymyl uchaf yn 78 troedfedd yn uwch na'i hymyl isaf. Pa beth ydyw? Y reilffordd ydyw, wedi ei gwneud i droi a chroesi ei hun amryw weithiau, fel ag i fod ar ffurf gwddf-ddolen.
Yn mhellach y mae troadau eraill a elwir corkscrew; ac ar waelod y disgyniad y mae Caliente, 146 o filidiroedd o Los Angeles, a 336 o filldiroedd o San Francisco.

DYFFRYNOEDD Y GWASTADEDD.

Y mae dyffryn San Jaquin, yn nghyda pharthau Tulare a Kern, yn fath o ucheldir gwastad 300 milldir o hyd, ac ar gyfartaledd (x199) yn 35 rnilldir o led, rhwng Mynyddoedd y Glanau a Mynyddoedd Sierra; ac y mae yn un o'r llanerchau amaethyddol enwocaf yn y dalaeth enwocaf hon. Dyfrheir ef trwy wlawogydd, ond rhaid cael camlesydd hefyd, o ba rai y mae amryw yn 40 milldir o hyd, o 100 i 275 troedfedd o led, a thuag 8 troedfedd o ddyfnder. Mewn rhai achosion gwneir artesian wells, sef twll main i orddyfnderau y ddaear at wythien ddyfrawl, yr hon, os bydd wedi deilliaw o le uwch na'r fàn hòno, a fwria ei chynwys i fyny gyda nerth niawr. Ranches ydynt y tiroedd yrna gan amlaf. Y mae ranche gymaint yn fwy na fferm ag ydyw fferm yn fwy na gardd. Yn agos i'r llinell yr oeddwn arni mae ranche 73 o filldiroedd o hyd wrth 20 milldir o led, ar yr hon y cedwir 85,000 o wartheg a 40,090 o ddefaid. Codir dau gnwd y flwyddyn o haidd a gwenith, a chwe' chnwd o alfalfa. Nid oes eisieu ysguboriau nac hyd yn nod doi helmi beu deisi y^d. Ni ddaw y tymor gwlawog nes bydd yr holl hadau wedi eu dyrnu a'u dwyn i ddyddosrwydd, ac ni ddaw rhew ac eira o gwbl. Am bob math o ffrwythau coed, y maent yn gyflawn yn y fro. Ceidw rhai o'r ranchers hyn eu crefftwyr a'u llaw-weithfaoedd at wneud eu peirianau a'u celfi eu hunain. Gan un o honynt y mae yr aradr fwyaf yn y byd, yr hon a elwir “Great Western.” Pwysa tros dunell. Tynir hi gan 80 o ychain, a gwna gwys ddyddiol o wyth milldir o hyd, pum' troedfedd o led, a thair troedfedd o ddyfnder. Aradr arall a elwir “Samson,” eiddo yr un perchenog, a dynir gan 40 o fastard-mulod, ac a ddefnyddir at wneud cwteri, o ba rai, yn nghyda chamlesydd, y mae 150 o filldiroedd ar y ranche, heblaw dwy artesian well, y naill yn 260 a'r llall yn 300 o droedfeddi o ddyfnder, y rhai yn ddibaid a fwriant i'r uchder o 12 troedfedd uwchlaw y ddaear ddwy golofn o ddwfr, saith modfedd o dryfesur bob un, gan roddi cyflenwad dyddiol o 80,000 o alwyni. Nis gallai amaethwyr cyffredin wneud dim â'r tiroedd hyn, am na feddent gyfoeth digonol i sychu y corsleoedd nac i ddyfrhau y crasdir, ond medr eu perchenogion cyfoethog beri i'r naill wasanaethu y llall; a phan ddarffo iddynt wneud camlesydd a phob diwylliant angenrheidiol, amcenir gwerthu y tiroedd yn ffermydd llai yn ol dymuniad y prynwr. Yn Madera, yn y dyffryn hwn, 297 o filldiroedd o Los Angeles a 185 o San Francisco, yr arferir disgyn yn awr i fyned 70 milldir yn (x200) ddwyreiniol i weled y coed mawrion a dyffryn Yesomite, y rhai nad ydynt ail i'r penaf o ryfeddodau naturiol y byd. Yn Lathrop, daeth ein ffordd i reilffordd y Central Pacific, yna troisom i gyfeiriad gorllewinol. Yn Antioch, daethom at Bau Suisin, yr hwn sydd barhad o Bau San Pablo, yr hwn, yntau, sydd fraich fewndirol o'r Môr Tawelog. Ychydig yn ddeheuol o Antioch y mae Nortonville, lle y mae sefydliad o glowyr Cymreig. Ychydig yn ddeheuol drachefn y mae mynydd Diablo, o ben yr hwn y gellir gweled megys “Holl deyrnasoedd y byd a'u gogoniant.” Ymgyfyd yn fawreddog rhwng dyffrynoedd Sacramento a San Joaquin i'r uchder o 3,856 o droedfeddi. Gellir gweled oddiarno 40,000 o filldiroedd ysgwar o dir, yn cynwys prif ddyffrynoedd, mynyddoedd, afonydd, bauoedd, a dinasoedd California, heblaw pellder mawr o'r Môr Tawelog. Wedi cadw y bauoedd rhag-grybwylledig ar ein deheulaw dros rai oriau, a rhedeg dros wlad fryniog, greigiog, ac amrywiol ei golygfeydd, daethom i Oakland (p. 35,000), oddiar wharf yr hon y cymerwyd ni gan agerfad yn groes i Bau San Francisco, yna yr oeddwn mewn gwirionedd yn y ddinas enwog.

 

Y TUDALEN NESAF:  1215k   Rhan 9 Tudalennau 200-227

Ble'r wÿf i? Yr ÿch chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weørr àm ai? Yùù ààrr vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wébsait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

 

 

 


Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats