1210k Gwefan Cymru-Catalonia / la Web de Gal·les i Catalunya - Wales-Catalonia Website. Dros Gyfanfor a Chyfandir:

Sef Hanes Taith o Gymru at Lanau y Môr Tawelog ac yn ôl, Trwÿ brif Daleithau a Thiriogaethau yr Undeb Americanaidd

Gan William Davies Evans. Aberystwÿth: Argraffwyd gan J. Gibson, Swyddfa'r ‘Cambrian News’ MDCCCLXXXIII (1883)

 

 

 

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_008_dgac_04_1210k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................1208k Y Gyfeirddalen i'r Llyfr Hwn (Dros Gyfanfor a Chyfandir)

..................................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

Dyma ran o Adran 11 yn y wefan hon, sef

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Dros Gyfanfor a Chyfandir

William Davies Evans (Aberystwÿth 1883)

 

Rhan 4 (tudalennau 76-103)

Adolygiadau diweddaraf:
19 12 2001

 

 

 

 

1208k

Cynllun y Llyfr Gordestun

 

 

1219k

Rhan 1 Tudalennau 1-22

1207k

Rhan 2 Tudalennau 23-49

1209k

Rhan 3 Tudalennau 49-76

1210k

Rhan 4 Tudalennau 76-103

1211k

Rhan 5 Tudalennau 103-126

1212k

Rhan 6 Tudalennau 126-151

1213k

Rhan 7 Tudalennau 151-173

1214k

Rhan 8 Tudalennau 173-200

1215k

Rhan 9 Tudalennau 200-227

1216k

Rhan 10 Tudalennau 227-250

 

1217k Hysbysebion Cefn y Llyfr

1218k

Mynegai - Amryw

 

 



 

(x76)

I SWYDD WAUSHARA.

Yn Neenah cymerais y gerbydres i fyned tua 50 o filldiroedd yn orllewinol i Waupaca. Nid oedd ond newydd-deb gwlad yn nodweddu y ffordd hon - arloesdir (clearings) newyddion, ffermydd newyddion, adeiladau newyddion, a phentrefi newyddion; ond coedwigoedd hen yn taflu eu delwau dyfnddu i'r corsddyfroedd gloywddu hen a orchuddient y ddaear. Am y tro cyntaf erioed gwelais gloddiau neu fences, neu beth bynag y dylid eu galw, wedi eu gwneud yn unig o gyffion gwreiddiog (stumps) wedi eu tynu o'r ddaear a'u gosod yn rhesi hirion ochr yn ochr â'u gilydd, a'u gwraiddgeinciau, rhai yn gydblethedig, eraill yn estynedig tuag i fyny a thuag allan, yn gwneud cuchiau mor gâs fel yr wyf yn meddwl y byddai yn anhawdd gan unrhyw bedwar-carnol feddwl am neidio drostynt. Y mae Waupaca yn dref fechan flodeuog mewn gwlad brydferth ar làn cadwen o bedwar llyn, darlun un o'r rhai a welir ar y tudalen nesaf.

 

Gan nad aethum y dydd blaenorol yn ol dysgwyliad y cyfeillion yn sefydliad Cymreig, Wild Rose, y rhai yn garedig a ddanfonasant i gyfarfod a mi, nid oedd genyf yn awr ond ei throedio tuag yno, 15 milldir i gyfeiriad deheuol. Yr oedd yr hin yn gynes a’r ffordd yn dywodog; chwysais lawer, ac yfais lawer o ddwfr o bydewau y trigolion, a dw^r iachus ydoedd. Mor boff oeddwn wedi myned o'r (x77) elfen adfywiadol hen fel, pan agos i ben fy siwrnai, y derbyniais yn ddiolchgar wahoddiad a gefais gan lyn prydferth mewn llanerch neillduedig, dlos, i ymdrochi ynddo, ac, ag eithrio y dyn a gafodd ei olwg wrth ymolchi yn Llyn Siloam, y mae yn amheus genyf a gafodd neb fwy o fendith mewn llyn nag a gefais i yn y llyn cyfeillgar hwn. Daethum o hono gan ddiolch i'r Bod Mawr am ryddid felly i

 

(xLLUN: LLYN HICKS, GER WAUPACA, WIS.)

 

ddefnyddio dwfr ac i ymgofleidio â natur hawddgar heb ein llesteirio gan gyfreithiau dynion. Dair blynedd yn flaenorol cerddais dair milldir allan o dref fawr yn Lloegr gan chwilio am le i fyned 1 ymdrochi i afon fawr ag oedd yn rhedeg o fewn lled cae ataf ar fy ne; ond yn mhob lle yr ymddangosai mynedfa ati gwelwn astell wen ac arni lythyrenau duon mawrion a bygythiol, “ Trespassers will be prosecuted.” Os oedd Rhoddwr pob daioni, Tad caredig ei holl blant, wedi bwriadu i'r afon rydd-lifeiriol hòno ar ei thaith i'r mor fod yn adloniant i'w greaduriaid, cefais i fy ysbeilio o'm hawl. Dychwelais gyda theimladau chwerwon, a meddyliais am ddiwrnod (x78) yn yr hwn y ca llawer o'n boneddigion gorafaelgar weled mewn goleuni arall y frawddeg ofnadwy, “Trespassers will be prosecuted.” Sefydliad Pine River, neu Wild Rose, neu Indian Land, fel y geilw rhai ef, ydyw y sefydliad Cymreig mwyaf gogleddol yn Wisconsin. O hwn aethum trwy sefydliad Cymreig arall tua pharthau Berlin, tref 20 milldir i'r dwyrain; oddiyno i Milwaukee.

AT AC AR AFON
WISCONSIN.
Cymerais daith yn nesaf dros led Talaeth
Wisconsin, sef o Lyn Michigan at Afon Mississippi. Wedi myned trwy wlad amaethyddol, brydferth, heibio tref fechan a hardd Beaver Dam, ar lyn Beaver, a thrwy bentrefi Randolph a Cambria, disgynais yn Portage City (p. 5,000), gerllaw i'r hon y mae camlas, milldir a haner o hyd, yn cysylltu afonydd Wisconsin a Fox A'u gilydd, ac felly gwneuthur ffordd fordwyol o Green Bay, Llyn Michigan, i Afon Mississippi. Tua phum milldir yn ddeheuol o Portage City, hwnt i afon Baraboo, y mae sefydliad Cymreig Caledonia.

Dwy-ar-bymtheg o filldiroedd yn orllewinol o Portage City y mae Kilbourn City, yr hon, fel ugeiniau o cities gorllewin America, nid ydyw amgen na phentref. Yma y disgynir o'r gerbydres i fyned ar yr ager-fad bychan a hardd Dell Queen, i weled rhyfeddodau Afon
Wisconsin, yr hon sydd afon ryfedd yn wir, nid ar gyfrif ei maintioli na phwysigrwydd hanesyddol na masnachol, ond ar gyfrif ei ffurfiad anesboniedig, mewn gwely rhamantus o dywodfaen. Y mae y creigiau a ymgodant yn uchel a serth yn ac oddeutu yr afon wedi ymffurfio yn bob rhyw luniau, megys adeiladau, colofnau, delwau, llongau, simneiau, ac amrywiol ffurfiau eraill - rhai yn noethion ac eraill wedi eu gwisgo â mwswgl ac â rhedyn. Yr afon ei hun hefyd sydd ryfeddol yn ei gorweddiad. Mewn manau gorwedda megys ar wastad ei chefn, a'i harwyneb gloywddu, llydan, mawr yn adlewyrchu glâs llon y nefoedd rhwng delwau duon creigiau mud. Mewn manau eraill gorwedda megys ar ei hochr; ei dyfnder yn gan' troedfedd, a'i glanau serth mor gyfagos fel ag i dywyllu rhyngddynt. Y mae ganddi hefyd y troadau mwyaf sydyn, a rhanau o'i dyfroedd yn rhuthro trwy dyllau a rhwng cilfachau, fel ag i wneud rhydau, rhaiadrau, a chwympiadau hynod. Gormod yma fyddai desgrifio y gwahanol wrthddrychau dan eu gwahanol enwau, megys Clogwyn (x79) Rhamant, Craig y Simnai, Ogof Adsain, Tafarn Allen, Culfan y Capel, Llongborth, Elin y Diafol, Cadair freichiau'r Gwr Drwg, Pant y Gwrachod, Ystafell y Ddrychiolaeth, Trieni y Dyn Tew (yr hwn sydd gulfan rhwng y creigiau), a llawer o enwau awgrymiadol eraill.

“How were all those wond'rous objects formed among the pond'rous rocks?
Some primeval grand upheaval shook the land with frequent shocks;
Caverns yawned and fissures widened, tempests strident filled the air,
Madly urging foaming surges through the gorges opened there;
With free motion toward the ocean, rolling in impetuous course,
Rushing, tumbling, crushing, crumbling rocks with their resistless force
And the roaring waters, pouring on in ever broad’ning swells,
Eddying, twirling, seething, whirling, formed the wild Wisconsin Dells.”

O'R WISCONSIN I'R MISSISSIPPI.
O amgylch Afon
Wisconsin, ond yn benaf y tu gorllewinol iddi, y mae gwlad o ffurfiad gwahanol i bob rhyw wlad arall a welais. Gwastadedd eang ydyw, gyda chreigfryniau cryno yma a thraw yn ymgodi bron yn uniawnsyth, rhai o honynt yn ganoedd o droedfeddi o uchder. O ran mamtioli amrywiant o'r golofn fain hyd y bryn o amrai erwau oddiarnodd. Safant, rai yn agos at eu gilydd, ac eraill yn mhell ac unigol, filldiroedd oddiwrth bob un arall. Gorchuddir hwy yn brydferth gan goed a gwyrddlysiau, eraill yn noethion; ac y mae ganddynt hwythau enwau tarawiadol, megis y Graig Unig, Gefaill-glogwyni, Simnai y Gwr Drwg, &c. Ond pa fodd y daeth y creigfryniau rhyfeddol hyn i fodolaeth? a pha bryd? Pa beth a allai fod barn yr hen gynfrodorion am danynt? Os oeddynt hwy yn debyg i'n cyndadau ni, nid anhebyg mai eu penderfyniad arnynt oedd ddarfod i rhyw gawr anferthol, wrth ymdaith y ffordd hon, eu cael yn ddamweiniol yn llogell ei wasgod, neu yn ei esgidiau yn, dolurio ei draed, ac iddo eu hysgwyd allan yma. Y mae y creigiau hyn, fodd bynag, yn dwyn arwyddion eglur eu bod filoedd o flynyddoedd yn ol wedi cael eu golchi a'u treulio gan ddyfroedd geirwon. Y mae arwynebedd y parthau hefyd mor dywodawg, a chregyn, yn nghyda dyfrawl bethau eraill, iw cael yn achlysurol, fel ag i'w wneud yn eglur fod y wlad unwaith wedi bod yn waelod môr neu lyn mawr, neu, efallai, ddarfod i'w gwahanol ranau ar wahanol gyfnodau fod yn wely i'r Afon Mississippi. Y pryd hwnw ynysoedd oeddynt y creigfryniau a welir. Daear dywodog, wael ydyw y ddaear, a gadawir hi i gynyrchu yn unig frysglwyni a gwylltlysiau. Mewn lle a elwir (x80) Camp Douglas, 32 o filldiroodd yn orllewinol o Afon Wisconsin, y mae y fath gydgyfarfyddiad o'r creigfryniau a nodwyd fel y gallent wneud amddiffynfa filwrol gadarn ac effeithiol.

 

Aethum trwy y lle olaf hwn droion. Ar un achlysur dygwyddodd yn dro diflas arnaf Gan fod arnaf flys myned i St. Paul trwy wlad na theithiaswn yn flaenorol, gadawais reilffordd Chicago, Milwaukee, and St. Paul, ar holl gangenau yr hon yr oedd genyf drwydded, a chymerais reilffordd arall, gan dybied mai eiddo Chicago and North Western ydoedd, oblegid yr oedd genyf drwydded ar holl gangenau hòno hefyd ond nid hòno ydoedd hon, ac yn hytrach na thalu ar y

 

(xLLUN: PABELLU WRTH LYN YSPRYD, IOWA)

 

reilffordd ddyeithr hon, dewisais gerdded deng milldir yn ol i Camp Douglas i gael y reilffordd a adawais. Yr oedd yn bell yn y nos, heb na lleuad na seren i'm goleuo. Ni welais ar hyd yr holl ffordd unrhyw arwydd o anedd-dy, a chan i mi ddarllen yn y Guide Book y dydd blaenoral y sylw canlynol am y parthau hyn, gellir bod yn sicr nad oedd fy rhodfa yn un o'r rhai mwyaf pleserus: - “Of game, there is superabundance ef bears, wolves, deer, foxes, &c.” Os oedd yno “superabundance” o honynt, buont yn ddigon boneddigaidd i adael i mi basio heb fy molestu, a chefais wely yn Camp Douglas tuag un o'r ch gloch y boreu.

 

Y lle nesaf y disgynais ynddo ydoedd Sparta, tref fechan a glanwaith mewn gwlad gyfoethog o brydferthion natur. Saif ar un fanau uchaf y dalaeth, a medda awyr iachusol odiaeth, yn gystal a (x81) dyfroedd meddyginiaethol o enwogrwydd mawr. O ben Castle Rock, yr uchaf o'r creigfryniau cyfagos, y ceir golygfeydd pell ac ardderchog i bob cyfeiriad. Wyth milldir i'r deheu y mae sefydliad Cymreig Blaendyffryn. Oddiyma aethym trwy sefydliadau Cymreig Fishcreek a Bangor i La Crosse (p. 15, 000) ar lan Afon Mississippi, 196 o filldiroedd yn orllewinol o Milwaukee. Wrth agosau at La Crosse, bron na theimlwn mai ar un o reilffyrdd Cymru yr oeddwn, oblegid gwyrddlysiau Cymreig, megys rhedyn, banadl, hosanau'r gwcw, &c., oeddynt i'w gweled ar bob llaw. Yr oedd y bryniau hefyd a'r coed, y ceryg, y pridd, a phob peth ond dynion, yn siarad Cymraeg, ac yr oedd yn dda genyf eu clywed.

 

Y MISSISSIPPI UCHAF.

Yn La Crosse cymerais y gerbydres a redai ar hyd glan orllewinol y Mississippi i fyned can belled a Minneapolis, 139 o filldiroedd i'r gogledd. Wedi myned dros bont hir, cefais fy hun ar ochr Minnesota i'r afon. Nis gallwn dros ran o'r daith weled ei glan dwyreiniol gan fel yr oedd ynysoedd bychain a mawrion o amryw ffurfiau ac yn orchuddiedig gan wyrddgoed tew yn cysgodi rhyngof a hi. Yr ydoedd i'r aml ynysoedd hyn ymddangosiad paradwysaidd. Y fath hyfrydwch fyddai cael yma breswylfa lonydd i ymgymdeithasu yn gariadus a natur hardd yn symledd ei gogoniant; ystyried amrywiaethau ei dail a'i blodau, a gwylio eu gwenau llon wrth dderbyn. yn ddyddiol o gyfrinion adfywiol yr haul; gwrandaw yr adar bychain yn canu clodydd i'w Creawdwr yn gymhleth â sïanau yr awelon; ac islaw'r gerdd yn cael ei seinio gan ru yr afon ddofn! O Dduw dyro allu i'th fwynhau di yn amledd diderfyn dy weithredoedd. Ni welid yma, er hyny, na ffermydd nac anedd-dai fel y gwelid ar ynysoedd y Susquehanna. Yr achos o hyn yn ddiau ydyw fod yr ynysoedd yn achlysurol yn cael eu gorlifo. Os oedd yno

 

Pan ddaeth llawn led yr afon i'r golwg, gwelais ei bod ar y cyfan tua milldir o làn i làn a golygfeydd arddunol o fryniau creigiog a choediog ar ei deutu, gydag ager-fadau, rafftiau, &c., yn nofio arni. Ger Minnieska, ychydig islaw Winona (p. 11,000), y mae creigiau o ffurfiad ardderchog. Ar gyfer Wabasha dechreuodd yr afon ymddangos yn llyn pum' milldir o led. Gelwid hi yno yn Llyn Pepin. Ymestynai hyd Frontenac, 30 o filldiroedd uwchlaw. Yna gwelir hi (x82) eto yn ei lled naturiol ei hun. Bu amgylchoedd Llyn Pepin yn gartref yr hen drigolion cyn-Indiaidd hyny a elwid mound-builders. Y mae eu beddrodau hynod yn britho y parthau hyd

 

(xLLUN: LAKE CALHOUN (MINN.) AND SCENE OF THE DALLES OF ST. CROIX, REACHED VIA “ALBERT LEA ROUTE.”)

 

 heddyw. Bu Wabasha hefyd yn brif ddinas llwythau Sioux a Dakota. Ac yma, yn eu rhisgl babell (wigwam) genedlaethol, yr eisteddai eu penaethiaid mewn cynghorau difrifol ar achosion o (x83) ryfeloedd a hawliau. O ben unrhyw un o'r clogwyni uchel sydd o Wabasha i Frontenac, yr enwocaf o ba rai ydyw y Dorth Siwgr, ger Lake City, y gellir gweled holl eangder Llyn Pepin a'i ogoniant.

 

Y mae hanesynau a chwedlau Indiaidd lawer yn ngly^n w^r parthau hyn. Er engraifft, dyna Graig y Forwyn, lle y darfu i Comona brydferth, wedi i'r penaeth niawr, ei thad, ei diweddio yn wraig i ryfelwr dewr o lawer o bengrwyn, ond un na fedrai hi ei garu, osod terfyn ar ei gofid trwy fwrw ei hun i lawr i fynwes ddystaw, lonydd y Mississippi. Wedi myned trwy Redwing, (p. 6,000) ac i Hastings gerllaw i'r lle yr ymarllwysa Afon La Croix i'r Mississippi, aeth yr olaf yn llai, a gwylltineb ei hamgylchoedd yn llai, ond ei thynerwch ai thlysni i’m golwg i yn fwy.

 

ST. PAUL.

Nid anghofiaf yn fuan yr olwg gyntaf a gefais ar ddinas ddyrchafedig St. Paul fel yr ymddangosai yn y pellder. Y mae dyffryn tlws Mississippi yn rhedeg yn uniawn dros bellder mawr at y bryniau y saif dinas St. Paul arnynt. Yr oedd gorchuddlen (veil) deneu wen y pellder, a'r goleuni wedi ei thaenu mor annesgrifiadwy o brydferth dros yr afon risialaidd, y dyffryn llydan gwyrdd, a'r coed, y rhai nid oeddynt rhy agos at eu gilydd, a rhwng y rhai ac uwchlaw y rhai y gwelid pinaclau ardderchog y ddinas yn ymgodi draw, nes yr ymddangosai yr holl olygfa, yn ddinas, bryniau, coed, dyffryn, ac afon, fel pe yn disgyn i lawr o'r aw r. Tebycach ydoedd i weledigaeth neu freuddwyd hyfryd nag i wir ddaear. Sonir am weithiau arlunwyr a phaentwyr, ond yr Hollalluog am waith! Nid oes ei fath ef yn mysg, y duwiau, na gweithredoedd fel ei weithredoedd ef. Os na bydd i ti, ddarllenydd, gael yr olwg awyraidd yna ar St. Paul o'r cyfeiriad hwn, bydd y bai naill ai ynot ti neu yn ansawdd anffafriol yr awyrgylch ar y pryd, oblegid y cyfryw ydynt y cyfnewidiadau fel y methais inau gael yr un fath weledigaeth pan aethum yno ar ol hyn. St. Paul (p. 42,000) ydyw prif ddinas Talaeth Minnesota. Saif ar fryniau heirdd ar làn y Mississippi, yn croesi yr hon y mae un o'r pontydd rhyfeddaf, yn arwain ar i fyny o gopa craig ar y làn arall i gopa craig, llawer uwch ar ochr St. Paul.

 

Cefais yn flaenorol gipdrem frysiog ar Indiaid Cochion, ond yn St. Paul y cofais y cyfleustra cyntaf i fanylu tipyn arnynt. Deuent yno (x84) a chrwyn anifeiliaid gwylltion i'w gwerthu neu i'w cyfnewid am nwyddau pobl wynion. Ceisiai y squaws (gwragedd) ymwisgo yn niwyg gwragedd gwynion, ond eu bod yn fwy afler gyda mocassin (esgidiau o grwyn melynion) am eu traed, a dim ond gwallt rhawnaidd hir a llaes am eu penau. Gellid gweled o bell mai Indiaid fyddent wrth eu hysgogiadau. Cerddent yn gyflym pan gerddent, y naill ar ol y llall. Safant yn sydyn pan safent, a hyny mor uniawn a pholion. Troent eu gwynebau i edrych dros gyfeiriad eu hysgwyddau. Cychwynent ar ol hyny yn chwimwth, fel wedi darganfod rhywbeth neillduol i fyned ato. Deuent at fur ty, cryment ac edrychent heibio i'w gongl, fel y byddent arferol o lechu wrth gefn coeden neu graig i ysbio am elyn neu helfa. Yn lle eistedd, crwcwdent ar y ddaear nes byddai eu penliniau cyfuwch a'u genau. Meddant y wynebau mawrion o liw rhuddgoch, edrychiad meddylgar, difrifol, a phenderfynol. Y mae, er hyny, gryn amrwyiaeth llinellau yn eu gwynebau yn arddangos amrywiaeth meddyliau, galluoedd, a thueddiadau. Yn hyn y maent yn wahanol i'r Negroaid, canys y maent hwy yn llawer mwy unffurf.

 

MINNEAPOLIS.

Prin ddeng milldir yn uwch i fyny ar y Mississippi, lle y mae rheiadrau rhyfeddol St. Anthony, y mae chwaer i ddinas St. Paul, ieuengach, er hyny grefach a glanach, na hi, sef Minneapolis (p. 48,000). Bu hon yn hynod o ffodus yn ei dewisiad o le i osod ei hun i lawr, o gymaint ai fod yn lle hardd ac iachus, ac y mae hithau wedi cyflunio ei hun mewn dullwedd hawddgar arno, gyda heolydd llydain a glân ac adeiladau rhagorol. Medda y manteision dyfrawl goreu allan, y rhai a ddefnyddir i droi y lluaws melinau mawrion, un o ba rai ydyw y felin flawd fwyaf yn y byd. Heblaw y melinau, ceir yn y ddinas hon y fath rawnystordai (elevators) uchel a mawrion fel y mae yn rhyfeddod i edrych arnynt. Fel y canlyn y gwnaeth un gyfrifiad o'r pethau hyn dair blynedd yn ol: - “ Y mae yn y ddilias 21 o felinau; gallent falu 15,000 o farilau o beilliaid yn ddyddiol. Yn Ewrop y mae y prif farchnadoedd iddynt. Y mae saith trainaid o flawd yn myned o'r ddinas i'r dwyrain bob dydd gyda 125 o farilau yn mhob cerbyd. Gwenith o barthau yr Afon Croch a ddefnyddir yn benaf. Danfonwyd 1,650,850 o farileidiau ymaith yn ystod y (x84) flwyddyn ddiweddaf. Y cynwys o wenith a dderbymwyd ydoedd 8,103,710 o fwsieli. Byddai hyd yr holl gerbydresi nwyddau a aethant

 

(xLLUN: LAKE MINNETONKA, NEAR MINNEAPOLIS (MINN.), REACHED VIA “ALBERT LEA ROUTE” #}

 

allan yn ystod y flwyddyn ddiweddaf uwchlaw 300 o filldiroedd.

Pe gwnelid yr holl goed sydd yn marchnadfa goed Minneapolis yn
fyrddau troedfedd o led a modfedd o drwch, a'u gosod wrth benau eu
gilydd, amgylchent y byd.” Y mae y figyrau yn llawer uwch yn
awr canys dinas yn myned ar gynydd cyflym ydyw hon.


(x86)
Meusydd cynyrchiol gorllewin America, gydag ystordai a melinau

fel eiddo Minneapolis, ydynt gynalyddion pobl dlodion Lloegr a Chymru yn gystal ag eraill o wledydd yr hen fyd. A’r rhai hyn hefyd, meddir, sydd yn drygu ffermwyr y gwledydd hyn, trwy dynu prisoedd eu cynyrchion i lawr yn y farchnad. Ond fy meddwl i yw y gall y ffermwyr fod yn dawel ar y pen hwn. Os drygu rhywrai, drygu eu tir-feddianwyr a wna yr ystorfeydd hyn. Nid ydyw o fawr bwys i'r hwn sydd yn talu ardreth am ei dir yn y gwledydd hyn pa un ai llawer ai ychydig fydd ei gynyrchion, na pha un a'i uchel a'i isel fydd y farchnad. Hyd y gall y meistr tir gael allan y swm, myn i'w logell ddiwaelod ei hun yr oll ag fyddo dros ben rhoddi i'w denant, ei ddynion, a'i anifeiliaid foddion cynaliaeth arw, i'w cadw yn gryfion at waith. Gall fod eithriadau anrhydeddus.

 

Y mae amgylchoedd Minneapolis yn gyfoethog o olygfeydd naturiol mawreddus, rheiadrau, llynoedd, &c., fel y mae pleserdeithwyr yn misoedd yr haf yn dyfod yma wrth y miloedd i bysgota ac i rodiana. Tua thair milldir o'r ddinas y mae “afonig fechan, fywiog, fad” Minnehaha, nid anhebyg i afonydd mynyddig Cymru, wedi cyrhaedd cryn enwogrwydd, yn benaf ar gyfrif y cwymp a elwir Cwymp Minnehaha, yr hyn o'i gyfieithu o'r iaith Indiaidd ydyw “Cwymp y Dyfroedd Chwerthingar.” Y mae trem chwerthingar hefyd ar yr afonig, a sw`n chwerthingar ganddi wrth ymddolenu, treiglo, rhedeg, a neidio dros greigiau mawr a graian mân. Wrth agoshau at y cwymp, lleda allan ei godreu a neidia yn mhell yn un llen deneu, ledan, wen, fel y gellir cerdded yn ddyogel rhyngddi a'r graig. Cana -

“I come from fields of frost and snow - my winding way I follow;
I come from where the wild woods grow, I come from hill and: hollow;
I foam, I flash, I leap, I dash, I glide with music merry,
O'er pebbles bright, with rainbow light, along the lovely prairie.
Minnehaha, Minnehaha, laughing, laughing Minnehaha,
Minnehaha, Minnehaha, ha ha, ha, ha, ha, ha, ha, ha.

I tremble on the rocky brink - my winding way I follow,
I gleam, I pause, I plunge, I sink into the hidden hollow;
I loudly roar along the shore - I tremble and I quiver;

I rush along, with joyous song, to greet with mighty river.

Minnehaha, Minnehaha, laughing, laughing Minnehaha,
Minnehaha, Minnehaha, ha ha, ha, ha, ha, ha, ha, ha.”

Y penaf o'r llynoedd ydyw Llyn Minnetonka “dwfr mawr” – 15
(x87) milldir o Minneapolis. Cyfres ydyw hwnw o 25 o fanoedd, ar y rhai y mae pleserfadau lawer yn nofio, ac o amgylch y rhai y mae

 

(xLLUN: MINNEHAHA FALLS, BETWEEN MINNEAPOLIS AND FT. SNELLING (MINN.) , REACHED VIA “ALBERT LEA ROUTE.”)

 

coedwigoedd prydferth yn tyfu, gwestdai rhagorol ar y glanau, ac ymwelwyr yn syllu ar y rhyfeddodau.

 

(x88)

Y “WEST.”

Wedi dychwelyd tua chan' milldir ar hyd glan y Mississippi can belled a Winona, cynmrais gerbydres y Chicago and North Western tua’r gorllewin, gan bonderfynu, os byddai modd, fy`nu gweled y “West,” Yn nhalaethau New York a Pennsylvania siaradid am bobl Ohio, ganoedd o filldiroedd yn mhellach, fel rhai yn byw yn y West. Erbyn dyfod i Ohio dywedid y byddai raid i un fyned trwy dalaethau Indiana ac lllinois i Wisconsin, ganoedd o filldiroedd yn mhellach, i gael golwg ar y West. I Wisconsin yr aethum. Ond beth wyddai pobl Wisconsin am y West? Nid yno yr oedd. Siaradent hwy lawer am dano, a chan gyfeirio eu bysedd tua chyfeiriad yr afon fawr Mississippi, dywedent ei fod er's blynyddau lawer wedi croesi hòno. Croesais inau hi gan hyny, ond yr oedd y West wedi gadael ei glànau am rhyw fangre bellenig tua broydd machlud haul. Cychwynais o Winona tua haner nos, gan dybio y buaswn erbyn codiad haul megys ar ganol môr o dir yn mhell o drigfanau dynol - heb ffermydd, tai, dynion, nac anifeiliaid gwar i'w gweled. Ond er myned, a myned yn yn ddiflino, yn mhlith fferniydd, adeiladau, a dynion, yr oeddwn yn gweled fy hun yn y boreu fel arferol, ae felly hefyd y parhaodd nes ydoedd yn bell ar y dydd. Erbyn hyn, dechreuwn ameu ynof fy hun a oedd y fath beth a West mewn gwirionedd yn bod. Ai nid rhyw greadur chwedlonol yn bodoli yn unig yn nychymyg dynion ydoedd wedi yr oll. Ond tua haner dydd daeth y West i'r golwg, ac fel hyn yr ymddangosodd: - Gyr fawr o wartheg - cant, mwy neu lai - yn myned oddiwrth dref St. Peter's ar lan Afon Minnesota, mewn gwlad heb gaeau, cloddiau, fences, nac ond ychydig o dai bychain yn bell oddiwrth eu gilydd. Gofynais i orllewinwr cyfarwydd a eisteddai yn fy ymyl, paham yr ydoedd y fath nifer o wartheg i'w gweled yn nghyd. “Gwartheg y dref ydynt,” meddai yntau, “yn myned allan i'w porfäau. Gwelweh acw ddyn ar gefn ceffyl. Efe sydd yn gofalu am danynt; efe sydd yn myned a hwy allan, ac yn dyfod a hwy i fewn; ac y mae perchenogion yr anifeiliaid yn talu iddo hyn a hyn y pen am ei waith.” Felly hefyd y gwelais ar ol hyn ar y prairies yn gyffredinol, oblegid nad oes eto na gwrych nac arall yn gwahaniaethu rhwng ffermydd a ffermydd a rhwng caeau a chaeau. Try pawb yn y gymydogaeth eu hanifeiliaid, yn wartheg, ceffylau, (x89) defaid, &c., i'r yrr gyffredinol, a dynion neu blant, gyda chw^n, yn gofalu am danynt, ac yn gofalu ar fod y darnau yd, gwenith, Indrawn, &c., yn peidio cael eu sathru ganddynt. Gyda hyn o eithriad, y mae ganddynt yr holl wlad. Gallant fyned y ffordd fyd fyw fynont i borthi eu hanifeiliaid. Yr oedd gweled y naill ar ol y llall o'r gyrroedd hyn, a hyny mor bell oddiwrth eu gilydd, yn dwyn i fy meddwl yr hanesion a geir am y dwyreinwyr a'r patriarchiaid gynt yn gyru allan eu deadelloedd pa le bynag y caent borfa.

 

O! yr eangder o wlad oeddwn yn weled o Minnesota! Daear! daear! daear! can belled ag y gallai y llygad ganfod i bob cyfeiriad. Môr digyfor o ddaear! ie, mwy na môr o lawer. Y mae y môr yn diflanu o olwg y fan acw - y mae y terfyngylch (horizon) yn ymddangos mor agos; ond am y prairies mawrion hyn, parhânt i ymestyn draw, draw, yn bell, bell i “rywle byd.” Y mae yn syndod meddwl pa fodd y meddyliodd neb erioed am wneud byd mor fawr. Nid yw y llygad yn cael ei foddloni o gwbl wrth edrych ar y môr; chwyrn, a'r march tin yn carlamu gan ffroen-chwythu a gwreichioni teimla y gallai weled yn mhellach o lawer pe bae godrau yr awyr yn cael ei chodi neu ei thynu y naill ochr. Ond y mae yr olwg ar yr ehangdiroedd hyn yn peri iddo ddweyd “Digon.” Y mae yn gweled mor bell fel y mae yn eithaf sicr nad oes ganddo nerth i weled yn mhellach. Diflana y pellafoedd o olwg, nid ar unwaith a diseremoni fel y gwnant ar y môr, ond yn raddol, tyner, cariadus, a thoddedig. Gesyd natur dros ei gwyneb orchuddlen (veil) deneu, deg o liw llwydwyn, gyda gwawr felen, dlos, a chan wrido dani yn min nos rhydd good night lednais, gariadus, a hardd.

 

Nid gwastadedd hollawl ydyw y ddaear. Ymgyfyd yn fryniau neu yn hytrach yn chwyddiadau graddol, mwyn fel llyfndònau'r môr. Y mae yr ychydig adeiladau a welir gyda'u coedlanau o lwyni neu resi o boplars, cotton-wood, maple, &c., o blaniad dynion, yn gystal ag ambell ribynau o goed bychain a dyfant ar lànau y nentydd, yn rhoddi i'r wlad ymddangosiad dymunol. Tua'r parthau hyn y mae ffrwd ymfudiaeth y dyddiau hyn. Pan fydd y wlad hon wedi ei phoblogi yn dda a'i dwyn i raddau uchel o ddiwylliant, gyda ffermydd wedi eu trefnu, caeau, adeiladau, trefi, prif-ffyrdd, palasau,a pherllanau ffrwythlon yma a thraw, gellir bod yn sicr y bydd yn dda odiaeth yr olwg arni. Yn St. Peter's (p. 4,000), tref ieuanc, hardd, wedi ei gosod yn wasgaredig mewn llanerch baradwysaidd o (x90) goedlwyni, 436 o filldiroedd yn orllewinol o Chicago, yr oeddem yn croesi Afon Minnesota, amgylchoedd bryniog a choed prydferth glànau yr hon oeddynt yn tori yn ddymunol ar unffurflaeth y prairies.

 

PETHAU BLINION.

Tua 29 o filldiroedd yn orllewinol o St. Peter's y mae New Ulm (p. 3,000), yn ac o amgylch yr hon y mae trefedigaeth o Germaniaid. Dywedir fod yr ymsefydlwyr cyntaf oll yn gynwysedig o Ryddfeddylwyr (Freethinkers), math o anffyddwyr, a bod eu casineb at bob math o grefyddau mor fawr fel y gwnaethant lw na oddefent i addoldy gael ei godi yn eu plith. A phan, wedi hyn, y daeth pobl fwy crefyddol i'r lle, y fath ydoedd gwrthwynebiad yr annuwiaid iddynt i godi addoldy fel y bu raid cael milwyr i'w gostegu. Y mae yno yn awr Eglwys Babaidd a dau gapel Protestanaidd. Annuwiaeth y bobl hyn, yn ol rhai, sydd wedi tynu ar y lle y barnau trymion a brofwyd o dro i dro. Yma, yn 1862, y bu waethaf gyflafan ofnadwy yr Indiaid, y rhai a laddasant mewn gwaed oer laweroedd o wÿr, gwragedd, a phlant; diangodd y bobl o'r dref a'r amgylchoedd; yr Indiaid hwythau, yn ofni atdaliad, ni ddeuent yn agos dros amser, ac felly bu y dref, yn cynwys anedd-dai dodrefnedig, siopau, ac ystordai llawn o nwyddau, heb un trigianydd dynol yn agos atynt. Y bobl wynion a ddaethant gyntaf, gyda milwyr. Codwyd amddiffynfa, ar yr hon y gwnaeth yr Indiaid ymosodiad egniol, ond aflwyddiannus. Wedi gorchfygu yr Indiaid, a dal o dri i bedwar cant o honynt yn garcharorion, ofnai y Cadfridog Sibley eu cymeryd trwy New Ulm rhag i'r bobl godi a'u baeddu ar y ffordd, am hyny ceisiodd ymgadw draw, gan fyned heibio ar hyd ffordd arall, cwmpasog, ond cyfarfuwyd â hwy yno gan dyrfaoedd o wragedd a phlant, y rhai, er gwaethaf bygythion y Cadfridog, a barasant i gawodydd o geryg syrthio ar benau y erwyn cochion.

 

Ymwelwyd droion â'r parth hwn, yn gystal ag â pharthau eraill yn y gogledd-orllewin, gan heidiau dinystriol o locustiaid (grasshoppers). Rhydd gohebydd y Cincinnati Commercial y desgrifiad . canlynol o honynt: - “Tranoeth aethum trwy dair haid o honynt, pob un tua haner milldir o led. Yn y ty yr arosais i gael ciniaw ynddo, eisteddai y ffermwr yn ddrych o anobaith, tra yr oedd ei wraig a'i ferch yn wylo ac yn curo eu dwylaw yn nghyd o wir ofid. (x91) Gorweddai eu fferm yn union yn llwybr y dinystrwyr, a chan fyned gyda hwy i'r cae gwenith, yr hwn ydoedd yn awr yn troi yn felyn i'r cynhauaf, gwelais y pryfaid yn ymarllwys iddo o'r tu gogleddol yn fil-fyrddiynau o rifedi gyda rhu gwae-ddaroganawl. O'u blaen yr oedd prairies gwyrddion a meusydd melynion o yd; o'u hol, duwch, anghyfanedd-dra, a marwolaeth. Gwelais hwy drachefn yn heidiau mwy, ac yn ehedeg yn uwch yn yr awyr, lle yr ymddysgleirient yn y pelydrau megys darnau o bapyr gwyn a melyn.”

 

Corwyntoedd dinystriol, a chenllysg hefyd, fu yn curo ar y xyz parthau hyn; y mwyaf oll o'r rhai ydoedd y rhythrwynt erchyll parthau hyn ddaeth dros New Ulm brydnawn y 15fed o Orphenaf, 1881, ychydig ddiwrnodau wedi i mi fod yn y lle. Drylliwyd a chwalwyd heolydd ac adeiladau bron yn llwyr Byddai cylymau o dri neu bedwar o dai yn cael eu cymeryd ymaith mor llwyr fel na adewid gymaint ag olion o honynt. Collwyd o leiaf ddeuddeg ar hugain o fywydau, clwyfwyd mwy na hyny, ac aeth chwech yn wallgof gan gymaint y cyffro, y dychryn, a'r gofid. Lladdwyd anifeiliaid lawer, a byddai hyd yn nod ceffylau yn cael eu codi i'r awyr yn y gethern. Dywedir fod ceffyl byw wedi ei gael yn mrig coeden y boreu canlynol. Tua phump o'r gloch yn y prydnawn y bu yr ymosodiad mawr. Tywyllodd y dref fel nad allai pobl weled eu gilydd. Yn nghanol y tywyllwch torodd allan fellt a tharanau arswydlawn, gyda swn megys rhythro a chw^ynfanau yn y cymylau. Yn canlyn hyny, megys ar unwaith, chwyrn-godwyd i'r awyr a chwyrldrowyd trwy eu gilydd wahanol bethau'r ddaear - tai, teisi, celfi, llestri, anifeiliaid, ieir, gwyddau, twrcis, a phob rhyw beth, oll yn cael eu cydgymysgu - to-estyll (shingles), trawstiau, llestri yn cwympo, treiglo, twmblo, rhedeg ar hyd y ffyrdd a thrwy yr awyr, gan glecian a ratlo-ymarllwysiad y gwlaw mawr gyda hyny, fflachiadau y mellt, twrw y taranau, rhuadau y gwyntoedd, ysgrechfeydd dynion, gwragedd, a phlant, brefiadau yr anifeiliaid, a gweryron y meirch - y swn a'r golygfeydd erchyll yn gwneud y gethern megys diwedd byd. Parhaodd y rhythr mawr am tuag ugain munyd, ac yr ydoedd y dymestl yn ddwy filldir o led.

 

Tua saith milldir o'r lle hwn y mae pen gorllewinol sefydliad Cymreig Swydd Blue Earth. Cafodd y Cymry yno, yn gystal a llawer o bobl dda eraill yr amgylchoedd, brofi ymylon y cawodydd, (x92) a'u gwneud i gryn raddau yn gyfranogion o'r colledion. Collasant rai bywydau yn Nghyflafan yr Indiaid, a llawer o eiddo trwy y locustiaid, y cenllysg, a'r corwyntoedd. Am y locustiaid y maent wedi cilio er's blynyddau; ciliasant ar unwaith, ac nid yn raddol fel o leoedd eraill. Gofynais i amryw beth a allai fod yr achos o'u hymadawiad. Yr oll a ddywedent wrthyf oedd fod rhywbeth yn rhyfedd, dirgelaidd, ac anesbomadwy yn yr oruchwyliaeth: ddarfod iddynt fyned yr un pryd megys trwy gytundeb; ac ychwanegodd un dyn ei fod yn credu iddynt gael eu danfon yniaith mewn atebiad i weddiau y saint.
“A fu y saint mewn rhyw fodd neillduol yn gweddio ar iddynt gael eu gyru ymaith?” gofynais iddo.
“Do,” meddai yntau; “darfu i lywodraethwr y dalaeth anfon gorchymyn (proclamation) allan ar fod diwrnod o ymostyngiad a gweddi i gael ei gadw i ofyn i Dduw symud ymaith y fflangel hon, ac ar ol hyny ni chawsom ein blino ganddi.”


TREFI GORLLEWINOL.

Ceir ar hyd y llinell hon o reilffordd bentrefi bob rhyw ddeuddeg milldir, ac er nad ydynt ond megys er doe, ceir ynddynt bob peth angenrheidiol am brisiau y dwyrain, a danfonir o honynt gynhyrchion y wlad, yn ydau ac anifeiliaid, i farchnadoedd y dwyrain. Gyda'r anedd-dai gwelir ynddynt weithdai, siopau, ystordai, tafarnau, capelau, ysgoldy, &c. Cyhoeddir ynddynt yn gyffredin ddau newyddiadur lwythnosol, perthynol i'r ddwy blaid wleidyddol sydd yn y wlad. Anturiaethwyr diwyd a gonest ydynt y preswylwyr hyn gan amlaf. Efallai, er hyny, na ddylid cysylltu yr ansoddair olaf â phawb o'r tir-fasnachwyr a'r tafarnwyr. Gw^yr y bobl fod y gwledydd hyn yn cael eu poblogi yn fuan, fod yma agoriad iddynt hwy o ba alwedigaeth . bynag. Y mae moesau y pentrefi a'r amgylchoedd a'r y cyfan yn dda; y rheswm am hyny yw mai dynion gweithgar, calonog, yn gosod eu bryd ar fyw yn iawn, ydynt, fel rheol, yn ymwthio i'r pellafoedd hyn. Y mae ganddynt ddigon o le hefyd, fel nad oes achos iddynt achub ar eu gilydd na rhoddi meithrinfa i genfigen na thueddiadau maleisus. Nid oes yn eu plith hudoliaeth i ysbeilwyr; gwell gan y rhai hyny, yn gystal a phob oferwyr eraill, lercian mewn dinasoedd a pharthau mwy poblog, lle y mae ysbail ac ysglyfaeth yn gyflawnach.
(x93) Cofier mai trefi newyddion parthau amaethyddol y gorllewin a ddysgrifir fel hyn. Am drefi newyddion y rhanau gweithfaol, a'r rhai ydynt yn debyg o ddyfod yn ganolbwyntiau masnach a thrafnidiaeth bwysig, y mae yn wahanol, o gymaint a fod y rhai hyny yn aml, er yn cynnwys llawer o ddynion rhagorol, eto yn nythle i bob aderyn aflan, meddwon, lladron, hap-chwareuwyr (gamblers), &c.

 

Rhywle tudraw i New Ulm y mae Sleepy Eye (Llygad Cysglyd), gerllaw llyn o'r un enw. Y mae enwau rhyfedd ar rai lleoedd. Yn Pennsylvania aethum trwy Aderyn mewn Llaw (Bird in Hand), ac yn Iowa trwy y Cyfleusdra Diweddaf (Last Chance). Yn Nevada y mae You Bet a Red Dog; - enwau perseiniol iawn hefyd megys Shickshinny, Kittakattakon, &c. O ran hyny y mae genym enwau ein hunain a ystyrir gan bobl eraill yn anorchfygol. Ar waith un goruchwyliwr yn rhoddi i mi drwydded ar ei reilffordd, ceisiodd gael fy nghyfeiriad. Rhoddais iddo “Llanfihangel-y-Creuddyn.”
Thlan what? Say it again, please, if you can remember it,” meddai, gan agor ei lygaid a'i geg yn ddelweddiad o syndod, chwerthin, a phenbleth. Ar fy ngwaith yn cynyg ei ysgrifenu iddo, tynodd allan lèn fwy na foolscap, gan ofyn a oedd hòno yn ddigon hir. Ar ein gwaith yn agoshau at le o'r enw Walnut Grove, dysgwyliai y teithwyr hiraethlawn gael golwg ar goed; ond nid oedd yno namyn son fod rhywun rhywle gerllaw wedi planu ychydig blanhigion. Enw prophwydoliaethol, gan hyny, oedd yr enw hwnw a seiniau yn felus-ber yn y wlad ddigoed hòno. Pe gelwid y pentref yn Walnut Grove City, byddai Americaniaeth y brophwydoliaeth yn berffaith gwbl. Yn agos i Tracy, tref ieuanc a chynyddol, y mae trefedigaeth fechan o Gymry. Wyth milldir yn ddeheuol o'r lle hwn y mae y golygfeydd llynawl goreu, efallai, yn y dalaeth, cartrefle cynyrchiol y creyr glas, y dwfr-whyad, a'r barcut Twrcaidd.

 

CEISIO GWLAD.

Wedi gadael Tracy yr oeddem a'n gwynebau tua'r tiroedd ag oedd yn ddiweddar wedi dyfod i'r farchnad. Daeth goruchwyliwr tirawl cwmpeini y reilffordd trwy y gerbydres i gyfarwyddo y rhai oeddynt a'u bryd ar weled a phrynu tir. Rhai felly oedd y teithwyr gan amlaf oll. Dynion ieuainc oedd yn y mwyafrif o lawer, yn mhlith y rhai y byddai parau, megys gwr a gwraig ieuanc. Ac nid ychydig (x94) o ddyddordeb i mi ydoedd gwylio eu gwahanol brydweddion, a cheisio darllen teimladau ar wynebau oeddynt yn awr yn ceisio cartrefi ar gefn y prairies mawrion pell, di-dai, di-gaeau, di-goed, di-anifeiliaid, di-ddynion, di-bobpeth, ond daear ac awyn Wele acw fab a merch, par ieuanc y mae yn debyg, mewn dillad trwsiadus, ac yn dwyn pob arwyddion rhai wedi cael dygiad da i fyny; ond y mae gwedd ddifrifol, feddylgar, bruddaidd, a dystaw arnynt ill dau, yn fwyaf neillduol arni hi. Treulia lawer o'i hamser megys yn cysgu ar ei bwys ef. Yn achlysurol cymerai olwg drist dros yr olygfa fawr a ymddangosai trwy y ffenestr, ac yna syrthiai yn ol a'i llygaid yn crauad. Pan ddaeth y goruchwyliwr heibio, dangosasant iddo docynau tir-ymchwiliadol. Edrychwn arnynt fel rhai newydd adael cartref dedwydd gerllaw tref mewn gwlad boblog, dan nawdd rhieni gofalus, i ddechreu rhwyfo eu cwch eu hunain ar fôr mawr, llydan bywyd. Ar sêt arall, wele bar ieuanc tra gwahanol o wisgoedd ac ymddangosiad mwy cyffredin, ond yn llawn hyd yr ymyl o fywyd, o lawenydd, ac o ddireidi. Ond hi a ragorai yn hyn eto. Dangosasant hwythau docynau tir-ymchwiliadol, ac edrychwn arnynt fel pobl ieuainc ddiwyd a darbodus, yn myned i wario eu henillion boreuol ar dir i ddechreu byw yn nghyd. Wele eto gerllaw iddynt deulu, cynwysedig o dad a mam ieuainc, gyda phedwar o blant bychain, y ddau henaf o'r rhai fyddent a'u trwynau a'u llygaid wrth y ffenestr, ac yn ddidaw gyda'u paham a'u pa fodd - pa fodd y gallent adeiladu ty heb goed na cheryg yn y wlad? - pa fodd yno y gallent gael afalau, peaches, a cherries? - a mil o ba foddau eraill, y rhai, er syndod i mi, a atebid oll gan y fam i foddlonrwydd. Wele eto ddau ddyn ieuainc, hwythau hefyd ar yr unrhyw ymgyrch. Edrychwn ar y teithwyr hyn fel rhai y darllenir eu hanes yn mhen oesoedd eto fel pioneers – tadau a mamau y parthau hyny o'r wlad. Gymaint hawddach ydyw cael gwlad yn awr nag a fyddai gynt. Er's tuag oes yn ol byddai raid i bobl wedi croesi'r môr fyned i'r coedwigoedd, a byw yn mhell o gyfleusderau reilffyrdd, trefi, a marchnadoedd; a byddai raid i'r oes gyntaf gael ei threulio yn gwbl mewn alltudiaeth, yn tori'r coed i lawr ac yn arloesu'r tir. Yn awr y mae reilffyrdd yn myned o flaen y bobl i wahanol gyrau'r wlad -
“Gwneir cerbydau cyn bod teithiwr, gwneir gorsafodd cyn bod nwydd,

Gwneir o'r dwyrain i'r gorllewin yn dramwyfa ryfedd, rwydd.”

 

(x95)
Y mae y ddaear hefyd yn barod i'w throi âg aradr ar unwaith, ac i dderbyn yr hâd. Gellir prynu tir yn y parthau hyn naill ai gan y Llywodraeth, cwmniau y reilffyrdd, neu dir-fasnachwyr. Ca un 160 cyfer gan y Llywodraeth am ddolar a chwarter, neu ddwy ddolar a haner y cyfer, yn ol ei agosrwydd at neu bellder oddiwrth reilffordd, neu ca 160 cyfer am blanu deg cyfer o goed arno, neu ca 160 cyfer am drigianu pum' mlynedd arno. Tir y Llywodraeth sydd yn myned gyntaf. Manylir yn helaeth ar y pethau hyn yn y llyfr a fwriedir gyhoeddi ar HANES TALAETHAU UNEDIG AMERICA A’R CYMRY YNDDYNT.

 

TIRIOGAETH DAKOTA.

Y mae parthau cydiad Minnesota a Dakota yn fwy bryniog, na pharthau eraill a welais ar y reilffordd hon. I mi yr ydoedd yr amgylchoedd yn meddu ymddangosiad mynyddig, er mai nid llawer o fynydd ydoedd ychwaith. Yr achos o'r ymddangosiad hwn yn ddiau doedd aniddifadrwydd y wlad o adeiladau, trefniant a diwylliant tirawl. Wedi pasio Gary, y dref gyntaf yn Dakota, daeth yr arwyneb yn fwy gwastad drachefn. Pan yn sefyll yn ngorsafoedd Chicago a Milwaukee, a gweled y fath dyrfaoedd o dramoriaid, Germaniaid, Norwegiaid, Swediaid, Pwliaid, Gwyddelod, &c., yn llenwi cerbydres ar ol cerbydres am y gorllewin, ac wrth weled yn y newyddiaduron fod cynifer ag ugain mil o'r cyfryw yn myned yn wythnosol trwy Chicago yn unig, teimlwn yn bryderus rhag i'r wlad gael ei gorlenwi yn fuan. Ond erbyn myned i'r gorllewin mawr, a gweled y fath ddiderfyn eangdiroedd, aethum i ddyfalu o ba le y gallai digon o bobl i'w preswylio ddyfod; ac i ba le wedi yr oll yr ydoedd yr holl Norwegiaid, Swediaid, a thafodau dyeithr yn myned? Nid oeddwn yn cael yn yr holl drefi a phentrefi hyn ond Americaniaid gydag ambell un o rhyw rai eraill.

 

Wedi myned 93 o filldiroedd tuhwnt i Tracy, 619 o filldiroedd o Chicago, cefais Watertown, ar làn yr Afon Sioux, lle y pryd hwnw ag oedd yn ben draw y gangen hon o reilffordd. Nid oedd y dref hon ond dwy flwydd oed. Gosodasid ei hadeilad cyntaf yn Mawrth, 1879. Pan oeddwn i yno yn Mehefin, 1881, meddai 30 o siopau, 2 swyddfa newyddiadurol, 7 gwesty, 3 eglwys, 2 fane, I grawn ystordy (elevator), 5 timber yard, 1 ysgoldy, gwerth 4, 000 o ddoleri, (x96) a phob peth at gyflenw angenion y wlad oddiamgylch; anedd-dai a heolydd trefnus, ac yr oedd hyd yn nod palasau yn dechreu gwneud eu hymddangosiad. Engraifft ydyw Watertown o'r llinellau trefi newyddion sydd yn canlyn yr ugeiniau reilffyrdd a dreiddiant trwy wahanol barthau y gorllewin.

 

Y mae gwlad dda a golygfeydd dymunol o amgylch Watertown. Yn mhlith yr amryw lynoedd y mae un heb fod yn nebpell a elwir Llyn y Fenyw Gospedig (Punished Woman's Lake), cyfieithiad o'r enw Indiaidd. Yr oedd gan benaeth Indiaidd ferch brydweddol a gerid gan ddau benaeth ieuainc. Meddai hithau gariad cryf at y naill, ond gorfododd ei thad hi i briodi y llall. Hithau yn ddiatreg a ffôdd ymaith gyda ei dewis-fab ei hun, yr hyn a barodd i'w gwr digofus benderfynu cymeryd ei farch a'i arfau i chwilio am danynt, a gwnaeth lw na roddai i fyny nes dial amynt ill dau. Wedi treulio misoedd aflwyddiannus yn yr ymchwil, a phan yn agosau i'w fro ei hun, esgynodd i ben clogwyn i weled ai ni allai eu canfod. Wedi methu, disgynodd yr ochr arall, ac yn sydyn canfyddodd y ddau yn cysgu yn gariadus yn mreichiau eu gilydd. Yn rhy fawrfrydig i ruthro arnynt yn eu cwsg, galwodd arnynt i ddeffroi, a rhybuddiodd y dyn ieuanc i ymbaretoi i'r frwydr farwol. Hwnw, gan ymaflyd yn ei arf a neidio ar ei draed, a ymegniodd i'r ornest, ond rhy fychan ydoedd ei nerth i wrthsefyll ei elyn llidiog, a syrthiodd yn farw wrth ei draed. Y gwr, wedi trywanu y wraig hefyd yn farwol, fel y tybiai, a ddychwelodd at ei bobl, a mynegodd iddynt yr hyn a wnaethai. Yr hon benaeth, yn drallodus iawn ei fron, frysiodd tua'r lle, ond yr oedd ei ferch wedi myned oddiyno. Canlynodd hi wrth ei gwaed nes daeth at y llyn crybwylledig, ac yno y cafodd hi yn farw. Cysegrodd lwybr ei gwaed â phalmant o geryg; ac enw y llyn o hyny allan fu “Llyn y Fenyw Gospedig.”

 

Y DAITH I HURON.

I gael y gangen arall o reilffordd y Chicago and North Western yr oedd genyf i ddychwelyd can belled a Tracy, yna cymeryd taith orllewinol o 255 o filldiroedd i Fort Pierre ar làn Afon Missouri. Yr oedd y daith can belled a Huron, hwnt i Afon James, yn dyfod a rhai o'r golygfeydd tlysaf i'r golwg - rhai parthau yn wastadeddau pell ganfyddadwy o fath ag a ddesgrifiwyd yn flaenorol; ond tua (x 97) pharthau Llyn Benton a chydiad Minnesota a Dakota yr oedd y golygfeydd hyfrydaf i'm golwg i - llynoedd grisialaidd, coedlwyni prydferth, prairies agored, gwastadeddau bychain, chwyddiadau graddol, bryniau tlysion o fath a garai y Cymry, oll wedi eu cyfleu mor gymesurol, ac yn canmol eu gilydd mor deuluaidd, nes portreadu yn dra dymunol amrywiol rasusau natur. O! na byddai y Cyrmry wedi dyfod drosodd mewn pryd a meddiannu y parthau hyn. Diau fod y cyffelyb barthau eto i'w cael gan y Llywodraeth, ond gellir bod yn dra sicr y rhaid cymeryd meddiant o honynt gyda blaenwawr y reilffordd, onide byddant wedi myned.

 

(xLLUN: SPIRIT LAKE, IOWA)

 

Ymofynwyd, fel arfer, pa rai o'r teithwyr oeddent yn dymuno cael swper yn Huron, a phellebrwyd am i swper i'r rhai hyny gael ei baratoi. Ond nid oedd swper i fod yr hwyrnos hòno. Pan oedd ein cerbydres ar ganol corsle ddyfrllyd, fawr, lle nad allem yn rhwydd fyned allan, ataliwyd hi gan gerbydres o nwyddau ag oedd wedi myned yn ddrylliau ar y ffordd ychydig oriau yn flaenorol. Yno, gan hyny, y buom o chwech o'r gloch yr hwyr hyd chwech o'r gloch y boreu, heb gymaint ag un ffeneztr oleu yn arwydd o dy i'w gweled o unrhyw gyfeiriad. Llawer cylla gwag yn ein plith oedd yn crefu am ei swper, a llawer dysgl lawn yn Huron oedd yn dysgwyl am y bwytawyr, ond y pellder yn rhy fawr i ymgofleidio y noson hòno.

 

(x98)

Cogyddion Huron a edrychasant trwy y ffenestri, ac a waeddasant trwy y dellt, “Paham yr oeda y cerbyd ddyfod?” Paham yr arafodd olwynion y cerbydau?” Sylwyd arnom oddifry gan y lleuad, a chymerodd yn ei phen i'n dyfyru trwy alw ar y ddaear a'r sêr i ddyfod gyda hi i chwareu hide and seek. Tua haner nos tynodd orchuddlen ddugoch, fawr dros ei holl wyneb, fel dros amser na ellid gweled ysmotyn o honi, er fod yr awyr yn glir. Gwnaeth y ddaear hefyd yr un peth i'n golwg ni, oblegid tywyllodd ei goleuni hithau. Daeth miloedd o ser allan i chwilio am danynt; agorent eu llygaid ac ymfflamychent yn danbeidiach nag o'r blaen. Sêr na welais mo honynt yn amser llawn lloer o'r blaen a ddaethant allan i chwareu a dawnsio o'i hamgylch. Pan wnaeth hi ei hymddangosiad eilchwyl prysurasant hwythau i fyned ymaith. Goleuodd ac ymsiriolodd y ddaear, ac erbyn i'r haul mawr, eu tad hwy oll, ddyfod allan o'i ystafell, yr oeddynt wedi peidio a'u chwareu. Agorwyd y ffordd i ninau fyned rhagom; teimlwyd fod yr olwynion eto yn troi, ac wedi bod hir ddirwest aethom bawb yn gysurol wrth feddwl cael sefydlu ein llygaid, nid ar y lleuad a'r sêr yn chwareu mic, ond ar gogyddion Huron yn bulio ein boreufwyd.

 

Ychydig cyn cyrhaedd Huron croesasom Afon James, neu Afon Dakota yn ol yr hon enw, yr hon y mae llawer iawn o sôn am ei dyffryn fel gwlad dda odiaeth i ymfudwyr. Ati hi, gan hyny, y mae dylifiant y cenhedloedd yn y dyddiau hyn; ond am y Cymry, yn olaf, fel rheol, y maent hwy yn dyfod i ymofyn breintiau o'r fath – “tranoeth y ffair.” Y mae reilffyrdd yn cael eu gwneud ar hyd y dyffryn hwn o ogledd i dde. Pe cytunai amryw deuluoedd o Gymru a pharthau dwyreiniol America ar ymsefydlu yn drefedigaeth gref ar un o lanerchau breision y gorllewin, lle y mae reilffyrdd, trefydd, a phob cyfleusderau i gael eu mwynhau yn fuan, gosod ar nifer o ddynion deallus, profiadol, a phrofedig i ymweled a'r gwahanol barthau, a gwneud dewisiad doeth, byddai hyny yn un o'r bendithion tymorol mwyaf a allai ddyfod i'w rhan. Helaethir ar hyn yn fy llyfr nesaf. Yn awr awn rhagom ar y daith.

 

PRAIRIE! PRAIRIE!

Yn fuan wedi gadael Huron dechreuasom ar fwy na chan' milldir o brairie noeth a hollol unffurf. Rhwng Huron a Fort Pierre, pellder (x99) o 120 o filldiroedd, nid oes ond wyth o leoedd i'r gerbydres aros, y rhai a rifnodir yn Siding No. 1, Siding No. 2, &c., heb ddim ynddynt ond ty bychan i'r rhai a weithiant ar y ffordd. Oddieithr hyny, nid oedd na thy na thas, na phridd na phren, na chae na chlawdd, na môr, na wynydd, na bryn na phant, na llyn na nant, na dyn nac anifail, na dim ond daear, daear, daear drom i’w gweled i bod cyfeiriad. Clywais un yn gofyn pa le yr oedd yr adar, ac arall yn ateb fod adar yn hoffi canlyn lluestdai dynion. Pa un ai gwir hyn ai peidio, nid wyf yn cofio i mi weled aderyn yn y pellafoedd hyn. Oblegid hyny, yn gystal ag oherwydd perffaith lonyddwch, dystawrwydd, ac unffurfiaeth y wlad, teimlwn megys mewn rhyw fyd pellach a dyeithrach na'r môr. Ar y môr gwelir adar a physgod, ac y mae i'r tonau a'u cynhyrfiadau lawer o amrywiaethau. Gwelwn y ddaear hon, er hyny, yn debycach i'r môr mawr, llonydd nag i eangdiroedd Minnesota. Yno y mae ambell adeiladau, coedlanau, a gwrthddrychau eraill yn peri i ni feddwl ein bod yn gweled yn mhell iawn; ond oblegid am ddifadrwydd o bethau fel yna ar y prairies hyn, ymddengys y terfyngylch yn llawer nês atom; ac nis gallwn lai na bod yn barhaus dan yr argraff ein bod yn teithio mewn pant. Ymddangosai y tir fel yn graddol godi oddiwrthym i bob cyfeiriad. Tybiwn pe baem wedi myned yn mlaen can belled ag y gallwn weled ar y pryd, y byddem ar ben y rhiw ac y dechreuem ddisgyn ar yr ochr arall; ond er myned a myned, ymgadwai pen y rhiw tua yr un pellder o'n blaen. Yn agos atom ymddangosai mathau o lysiau a blodau tlysion nas gwelir mewn math arall o wlad.

 

Gan nad oedd ar y ffordd hon amrywiaethau golygfeydd i'm dyfyru am y presenol, aethum yn mhell i'r gorphenol i chwilio am danynt, ond ni chefais ddim can belled a chreadigaeth y byd - na daeargrynfäau, na llosgffrwydriadau, na gorlifiadau, na dim ond tyfiant yr egin mân, ac ymweliadau achlysurol trefau o fualod (buffaloes) ac ambell fintai o anwariaid yn eu hela. Aethum i'r dyfodol, yno cefais olygfa yr unfed ganrif ar hugain, ac wele yr holl wlad yn addurnedig gan drefi, ffyrdd, ffermydd, adeiladau mawrion a bychain, coedlanau ac adar yn lleisio rhyngddynt, perllanau a'u cangau yn crymu gan bwysau'r ffrwyth. Gwelais feusydd o yd yn chwareu fel tonau'r môr dan ogleisad yr awelon, a'r anifeiliaid yn pori ac yn chwareu gerllaw-henafgwyr, gwy^r ieuainc, a gwyryfon, (x100) yn llanw yr heolydd - sain cân a moliant yn ymddyrchafu o rhwng y temlau - llwyddiant a llawenydd, tristwch a galar, yn ymweledi'r wlad fel â gwledydd eraill. Yn mhlith y pethau hwn gwelais fam gyda'i dau blentyn bychan yn eistedd o flaen ei thy dan faplwydden gysgodawl yn cynal ymddyddan fel y canlyn: -

 

“ Pa beth ydyw bryn, mami?” gofynai un o'r plant.

 

“Welais i yr un bryn erioed,” oedd yr atebiad, “ond gwelodd nain rai pan ydoedd yn eneth fechan. Twmpath mawr o ddaear ydyw bryn, tebyg i gefn bedd pytatws, ond ei fod yn llawer iawn mwy, mwy o lawer na'r ty hwn, mwy nag ysgubor fawr Owen Pugh, ac y mae mynydd yn llawer mwy na bryn.”

 

“Wel,” meddai y bychan ar ol ystyried ychydig,” rhaid fod y pytatws y maent yn gadw mewn bryn gymaint a phumkins, a’r rhai y maent yn gadw mewn mynydd gymaint a barilau. Beth yw afon, mami?”

 

“Afon ydyw rhibyn mawr o ddwfr wedi gwneud pant hir iddo ei hun i redeg ynddo ar y ddaear, fel y gwelaist ddwfr yn rhedeg yn ol yr olwyn pan oedd yn gwlawio. Yr wyf yn cofio ddarfod i mi pan yn beth fechan ar ymweliad â modryb Mary gael golwg ar Afon James; yr oedd hòno yn un fawr neillduol, gymaint a lled y ty yma.”

 

Dear! dear! “ meddai Johnnie, “b'le yn y byd y mae pydew mor fawr ag a gynwysa gymaint a hyny o ddwfr? a b'le ceir rhod wynt ddigon nerthol i'w godi? A gaf fi fyned i dy modryb Mary i gael gweled afon, mami? “

 

“Cei di a Susy fyned pan fyddwch yn rhai mawr os byddwch yn blant da.”

 

Wedi holi ac ateb yn nghylch llynoedd, creigiau, rheiadrau, a llawer o bethau nas gwelsant, ymaith a'r ddau blentyn i godi twmpathau, esgus mai bryniau oeddynt, a gwneud i'r golchddwfr redeg yn ol eu bysedd yn y ddaear, esgus mai afonydd oeddynt.

 

RANCHES.

Amrai filldiroedd cyn ein myned at Afon Missouri ymffurfiodd y wlad yn fryniau geirwon, toriadau sydyn, dyffrynoedd bychain, a. nentydd chwim rhwng glànau serth. Daeth amaethdy i'r golwg ar lechwedd uchel ar y dde, ac ar weirglodd fras ar yr aswy ymddangosodd gyrr fawr o wartheg; eiddo un Mr. Read ydoedd, a gelwid y (x101) parth hwn o'r wlad, yn gystal a'r yrr, yn Read's Ranche. Rance y gelwir fferm o amryw filldiroedd o faintioli a gedwir gan un dyn neu gwmpeini; ar rai o honynt y mae miloedd o wartheg, ar eraill filoedd o ddefaid, ac ar eraill filoedd o anifeiliaid cymysg. Cânt ymgynal haf a gauaf ar y prairies, fel y cynhelir defaid Cymru ar y mynyddoedd. Y mae ambell auaf caled yn peri colledion trymion. Dywedir i berchenog y ranche oeddym yn awr yn weled golli dros 500 o wartheg y gauaf blaenorol. Y mae llawer o'r ranchers hyn yn cael eu hysbeilio hefyd gan Indiaid yn gystal a chan ladron gwynion. Danfonant eu hanifeiliaid i'r marchnadoedd yn yr haf, ac er pob math o golledion dywedir fod ranchio yn dwyn elw mawr. Lle nad oes derfyn ar eu meusydd pori, y mae llawer o'r anifeiliaid yn myned ar ddisberod. Unwaith yn y flwyddyn y mae “round up” gyffredinol yn cymeryd lle, trwy yr hyn y mae yr holl ranchers yn cymeryd pob un ei gylch mawr yn y wlad, ac yn gyru yr holl anifeiliaid a geir o fewn i'r cylch hwnw i ganolbwynt, lle y gwneir didoliad, ac y danfonir pob anifail yn ol y nôd fyddo arno i'w wir berchenog. Bywyd rhyfedd ydyw eiddo y ranchers - yn byw mewn lleoedd anghysbell, ugeiniau o filldiroedd yn aml oddiwrth gymydogaeth o ddynion; ac os ydynt hwy yn cael eu peryglu a'u blino gan Indiaid a lladron eraill, maent hwythau weithiau yn berygl ac yn flinder i ymsefydlwyr newyddion. Pan y mae tiroedd weithiau yn cael eu gwerthu gan y Llywodraeth i ymsefydlwyr, y mae y ranchers na feddant diroedd eu hunain yn cael cyfyngu arnynt. Gydag eiddigedd, gan hyny, yr edrychant ar ddynesiad ymsefydlwyr i'w parthau, ac oddieithr fod y cyfryw ymsefydlwyr yn ddigon o drefedigaeth i amddiffyn eu hawliau, nid yw yn hollol ddiogel iddynt ddyfod i wrthdarawiad â'r rhai hyn.

 

FORT PIERRE.

Wedi rhedeg i fyny ar hyd glàn ddwyreiniol Afon Missouri, daethom i Port Pierre. Am yr afon yn y lle hwn nid oes i'w ddweyd amgen na'i bod yn rhedeg yn araf a llwydaidd ei lliw, tua milldir a chwarter o led. Ond am Fort Pierre ar ei dau tu, dyma dref! Dyma weithio! Dyma adeiladu! Dyma achub y cyfleusdra! Llai na blwyddyn cyn fy mod yno, dywedir nad oedd y pentref oll ond rhyw haner dwsin o dai bychain. Ond credwyf y gallwn i ar fy ymweliad (x102) hwn rifo canoedd os nad yn wir filoedd o bob math o honynt - rhai o briddfeini, a pheth afrifed o honynt o goed yn bob rhyw lun; rhai wedi eu fframio yn dda, rhai yn fyrddau ar ei hochrau, rhai yn fyrddau ar ei penau, rhai yn gyffion croes i'w gilydd, rhai yn bolion wedi eu pwyo i'r ddaear, wedi eu plethu a brigau a'u dwbio â chlai. Byddai eraill wedi eu codi yn unig o dyweirch. Llawer iawn o deuluoedd a welid yn byw mewn pebyll (tents), ac nid ychydig fyddai yn byw mewn gwageni a chynfasau gwynion drostynt. Bum yno Sabbath, ac er hyny ni pheidiau {sic} swn y morthwylion ar benau y tai, llifio coed, cywain nwyddau, gyru yr anifeiliaid, ychain, mulod, a cheffylau, bloeddio, clecian chwipiau, a phob rhyw dwrw, nes ydoedd yr amgylchoedd yn diasbedain. Wele acw siop enfawr o flychau, sachau, celfi, a phob rhyw nwyddau wedi eu pentyru fel tasau o fawn ar y ddaear tra fyddai y siopwr gyda'i ddynion â’u holl egni yn parotoi ei dy. Wele eto siop arall newydd ddyfod i mewn gyda'r gerbydres yn cael ei gosod i fyny yn yr un modd. Yn dyrau yma a thraw hefyd y gwelid, dodrefn tai. O amgylch y dref neu wersyll neu beth bynag ydoedd y byddai anifeiliaid dôf o bob rhywogaeth, lliw, a llun, gwych a gwael, megys mewn ffair. Yn mhlith y rhai hyn, yma a thraw, byddai Dutchmen a'i gwageni, wedi dyfod i gynyg eu cynyrchion ar werth. Dutchmen! Beth yw y rhai hyny! Nid Ellmyniaid, ond amaethwyr Indiaidd. Byddai Indiaid eraill gwylltach, y rhai na charient arf, ond gwn, ac na wnaent waith ond hela a rhyfela, yn ystyried y rhai hyn yn ddosbarth israddol, am eu bod yn gweithio fel squaws (gwragedd). Nis gwn pa fodd yr aethpwyd i'w galw yn ymsefydlwyr o Dutch, yn trin y ddaear. Byddai y rhai hyn, yn enwedig y merched, er yn gochion eu lliw, yn paentio eu gwynebau i'w gwneud yn fflam-goch. Gwelais yn eu plith un o'r dynion harddaf a welais mewn unrhyw wlad. Y mae y Llywodraeth yn neillduo tiroedd i'r bobl hyn, ac yn eu cyflenwi â thai, anifeiliaid, celfi, a phob peth anghenrheidiol at maethu; ac y mae rhai o honÿnt yn gwneud yn dda. Ar yr ochr bellaf i'r afon y mae eu reservation.

Y rheswm am y cydgrynhoad rhyfeddol hwn o bobl yn Fort
Pierre ydyw gweithiad y reilffordd trwodd i'r Bryniau Duon (Black Hills), lle yn awr y mae mwn-gloddiau a ystyrir y rhai cyfoethocaf allan. Saif Deadwood, y lle agosaf yn Black Hills y cyrchir ato, (x103) 175 o filldiroedd yn orllewinol o Fort Pierre. Gan nad yw y reilffordd hyd yn hyn yn myned yn mhellach na'r lle olaf, gwneir gweddill y daith mewn stages. Cludir nwyddau trymion oddiyma i'r Black Hills mewn rhesi o wageni mawrion, chwech neu saith o'r rhai a gysylltir wrth eu gilydd, y naill ar ol y llall, yn un gerbydres, o flaen yr hon y gosodir wyth neu naw cwpl o ychain banog, ac felly lonc-di-lonc, lonc-di-lonc yr eir yn mlaen ddydd a nos dros y prairies unig, pell. Rhyfeddwn weled y fflangellau (whips) a gariai y gyrwyr - math o raff braff, drom o ledr, yn meinhau at y blaen, tua phymtheg troedfedd o hyd. Cysylltid hi gerfydd tua modfedd o ledr main, gwydn â phren hir yr ymaflai y gyrwr ynddo. Wedi iddo daflu y rhaff hon ddwywaith neu dair o amgylch ei ben, gwnai iddi ddisgyn ar gefn yr anifail draw nes byddai yn nydd-droi trwyddo dan y cerydd. Lle annuwiol ydoedd Fort Pierre y pryd hwn. Gwynebau mileinig oeddynt eiddo llawer o'r preswylwyr. Gwelid yno dai yied, gamblo, a phob drygioni ar bob llaw. Daethai agos yr holl breswylwyr yno megys o bedwar ban y byd yn nghydol yr ychydig fisoedd blaenorol - neb o honynt yn adnabod eu gilydd o'r blaen, ond i fod yn gymydogion o hyn allan. Y mae safle y dref hon ar làn yr afon fawr ac ar y llinell sydd yn cysylltu y Black Hills â'r dwyrain yn sicrhau iddi ddyfodol pwysig. Dyma le brâf, gan hyny, i anturiaethwyr, agoriadau addawol i fasnach a chelfyddyd; a lle y byddo y gelain, yno yr ymgasgl yr eryrod. Saif y lle hwn 781 o filldiroedd yn orllewinol o Chicago.

 

Y TUDALEN NESAF:  1211k   Rhan 5 Tudalennau 103-126

·····

 

Ble'r wÿf i? Yr ÿch chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weørr àm ai? Yùù ààrr vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wébsait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

 

 

 


Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats