1215k
Gwefan Cymru-Catalonia / la Web de Gal·les i Catalunya - Wales-Catalonia
Website. Dros Gyfanfor a Chyfandir:
Sef Hanes Taith o Gymru at Lanau y Môr Tawelog ac
yn ôl, Trwÿ brif Daleithau a Thiriogaethau yr Undeb Americanaidd
Gan William Davies Evans. Aberystwÿth: Argraffwyd
gan J. Gibson, Swyddfa'r ‘Cambrian News’ MDCCCLXXXIII (1883)
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_008_dgac_09_1215k.htm
0001z Y Tudalen Blaen
..........1863c Y Porth Cymraeg
....................0009k Y Gwegynllun
..............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
........................................1208k Y Gyfeirddalen i'r Llyfr
Hwn (Dros Gyfanfor a Chyfandir)
..................................................y tudalen hwn / aquesta
pàgina
0860k y llyfr ymwelwyr |
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
Adolygiadau diweddaraf: |
·····
Cynllun
y Llyfr Gordestun |
Rhan
1 Tudalennau 1-22 |
Rhan
2 Tudalennau 23-49 |
Rhan
3 Tudalennau 49-76 |
Rhan
4 Tudalennau 76-103 |
Rhan
5 Tudalennau 103-126 |
Rhan
6 Tudalennau 126-151 |
Rhan
7 Tudalennau 151-173 |
Rhan
8 Tudalennau 173-200 |
Rhan
9 Tudalennau 200-227 |
Rhan
10 Tudalennau 227-250 |
1217k
Hysbysebion Cefn y Llyfr |
Mynegai
- Amryw |
|
Yn mhen pellaf y gorllewin, os goddefir yr ymadrodd
(canys eithafoedd y dwyrain y gelwir y gwledydd cyntaf a geir tudraw hyn), y
mae lle a elwir Porth Auraidd (Golden Gate), yr hwn a wneir gan waith y
Tawel-for mawr yn cymeryd milldir o led i ymwythio i mewn i’r wlad auraidd
California. Wedi cael ei hun yn deg i mewn, rheda i'r gogledd a'r dwyrain 60
milldir, dan yr enwau Bau San Pablo a Bau Suisin; a rheda cangen arall i'r dê,
dan yr enw Bau San Francisco. Ar y gwddfdir, rhwng y Tawel-for a’r bau olaf
hwn, ac ar ei làn yn agos i'r Porth Auraidd, y mae dinas
Ond y mae gan y ddinas ei hochr oleu yn gystal a'i hochr dywyll. Rhifa ei
chapelau, ei heglwysi, a'i chymdeithasau daionus wrth yr ugeiniau. Y mae ynddi
ddynion rhinweddol, a rhai yn cysegru eu hunain oll i geisio adferu y rhai
colledig. Un o'r cyfryw ydyw ein cydwladwr, y Parch. Aaron Williams, yr hwn,
heb arian, heb gyflog, ac heb ddim ond “Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol,”
sydd yn defnyddio ei holl amser, “mewn amser ac allan o amser,” i genhadu yn y
ddinas fawr - ymweled â'r rhai truenus, rhybuddio yr afreolus, aros yn hwyr wrth
ddrysau y free theatres i ddysgwyl cyfleusdra i roddi cyngor i rhyw w^r
ieuanc gwyllt; ïe, wedi ymwisgo yn glerigaidd, mentra i blith yr ynfydion i
weled ai ni chywilyddia rhai o honynt. Adnabyddir ef gan flaenoriaid yr
uffern-dyllau hyn yn gystal a chan weinidogion y pulpudau addurnedig. Hwn, heb
ganddo ddim yn weddill, a ddywedodd wrthyf, os byddai arnaf eisieu dim, am
roddi gwybod iddo ef, ei fod yn credu y gallai gyflenwi fy rhaid. Er na fum dan
yr angenrheidrwydd o elwa ar ei gynyg, rhyfeddwn yn fawr ei hyder ar Roddwr pob
daioni, oblegid oddiyno oedd efe yn meddwl tynu yn ddiau, ac y mae ei hanes yn
profi (x202) fod i'w hyder sail dda. Y mae eglwys Gymreig
fechan wedi ei sefydlu yn y ddinas, ac addolant mewn neuadd berthynol i'r Cymry
a dymunir iddynt lwyddiant mawr. Trwy hynawsedd D. Roberts, Ysw., dangoswyd i
mi ddirgeledigaethau y mint, lle y coinir arian y llywodraeth. Gwelais y
mwnwr yn dyfod a'r llwch aur mewn cwdyn lledr i fewn, ei bwyso, ei roddi yn y
tân, ei buro, ei brofi, ei bwyso drachefn, ei wneud yn fàrau, ei dòri yn
ddarnau crynion, stampio y rhai hyny, eu taflu ar glawr cyfaddas, fel y
gellid ar unwaith wybod eu nifer heb eu rhifo. Doleri arian a darnau aur ugain doler oeddynt
yn cael eu gwneud y diwrnod hwnw. Hynod ydyw y ddinas hon am ei gwestdai
mawrion a chysurus, y mwyaf o honynt, a'r mwyaf yn y byd, ydyw y Palace
Hotel, 344 troedfedd o hyd, 265 troedfodd o led, 115 troedfedd o uchder,
gyda saith uchder llofft. Y mae ei gynteddau (courts) yn ei ganol gyda'i
amryw orielau (elevators), sef ystafelloedd i dynu pobl i fyny ac i'w
gollwng i lawr, artesian wells yn taflu bob awr 28,000 o alwyni, yn
nghyda'i amryfal ranau eraill, yn rhy ardderchog i allu eu dysgrifio yma. Y mae amryw o heol-gerbydau (street cars) y ddinas yn myned i
fyny ac i lawr heb ddim gweledig yn eu tynu. Y mae rhaff danddaearol yn rnyned
yn barhaus, ac y mae gan y cerbyd fraich a llaw odditanodd yn myned trwy agen
agored yn y ddaear; pan gydia y llaw yn y rhaff bydd y cerbyd yn myned, a phan
ollynga ei afael wrth amnaid ei feistr safa ar unwaith. At Graig y Môr-loi, ger
y Porth Auraidd, tua chwe' milldir allan o'r ddinas, y mae y rhodfa mwyaf
poblogaidd. Gwelir y môr-loi yno yn niferi mawrion, rhai a'u haner allan o'r
dyfroedd, ac eraill yn glir ar y creagiau, ac yn gwaeddi eu “Ioi Hoi, Ioi Hoi,
Ioi,” fel y gellid meddwl mai llais porthmyn yn gyru anifeiliaid a glywid.
Rhyfeddwn weled pob ymborth a phethau eraill yn y ddinas mor rhad - ffrwythau
mawrion o bob math yn gyflawn yn ei heolydd - gwin mor helaeth a llaeth, ac
agos can rated. Pwy bynag a fyno fod yn foneddwr ffasiynol yma, yfed ddwfr.
Trwy Oakland rheda cerbydresi hirion ac ardderchog bob haner awr bob ffordd, ac
nid oes dim i dalu arnynt. Y cyfryw fu gofal y cyngor trefol am gyfleusderau y
dinasyddion fel y mynasant hyn o fraint gan berchenogion y reilffordd am
ganiatad i fyned trwy eu dinas. Saif San Francisco ac
CHINEAID
Y Chineaid ydynt yn cael mwyaf o sylw o bawb yn
Y mae rhan fawr o
(x204) fod yno rywbeth bwytadwy ar werth.
Trwy y gwyll clywir lleisiau meinion, plentynaidd, trwymaidd, ond treiddgar y
stondinwyr gyda math o hir-dònau aflafar, fel pe deuent allan o'r ddaear, yn
galw
(xtLLUN: CHINEAD)
cwsmeriaid; oddieithr hyny nid oes bloedd na llef uchel i’w glywed, ond bodau
ysgafndroed yn prysur gerdded trwy eu gilydd yn y tywyllwch. Yr arogl hefyd,
heb fod y mwyaf dymunol, a wnai i mi (x205)ystyyied ai nid yn un o gynteddau gwlad anwn yr
oeddwn. Ar heolydd mwy llydain y mae mwy goleuni, siopau, chwareudai, gyda
lanternau crynion o sidan aml-lywiog yn crogi o'u blaenau - pob peth, yn wir,
mor Chineaidd eu dull ag y gallai rhan o ddinas Americanaidd fod. Yn eu joss-houses
yr addolant eu heulunod. Yn eu chwareudai y mae lluniau ofnadwy, megys
ysbrydion yn codi o'r pwll diwaelod, a lleisiau fel aflafar leisiau cathod yn
cymeryd arnynt osod allan rywbeth a ddygwyddodd ugain mil o flynyddoedd yn ol.
Wedi eu gweled unwaith ni bydd chwant eu gweled mwyach.
Y mae y Chineaid yn bobl ddefnyddiol ryfeddol yn
(·LLUN: derbynneb·)
Y GEYSERS.
Tua chan' milldir yn ogleddol o
Y Geysers.- Gallwn weled yr ager, fel eiddo ager-beiriant, yn
ymddyrchafu yn mhell cyn dyfod atynt; a dywedir y gellir yn achlysurol glywed
eu sw^n cryn filldir o ffordd. Ceir hwy rhwng toriadau
priddlyd, poeth, coch, a noeth, ar ael mynydd. Teimlais fy mod yn sangu ar fynydd
tân, a'm gwadnau a boethasant. Allan o'r ddaear ddyeithr hon y tardd tros ddau
gant o ffynonau dwfr o bob yn wynion fel llaeth, eraill yn gochion fel
ysgarlad, rhai yn beraidd, rhai yn felus, rhai yn sur, ac eraill yn hallt, rhai
yn chwythu fel gwyddau, rhai yn canu fel tea-kettle, rhai yn tyrfio fel melin
fal, ac eraill yn rhuo fel ager-fbd, a'u hager yn esgyn yn uchel. Y ffynon (x 207 )
fwyaf ydyw yr hon a elwir Witch's Cauldron, tua chwe' throedfedd o
dryfesur, a'i dyfnder yn fwy nag y gallwyd eto ei blymio. Yno mewn pair o graig
y teifl ei dyfroedd duon i fyny gyda'r berw poethaf a allai fod ar ddwfr.
Adgofia i un linellau Shakespeare, oddiwrth y rhai y cafodd ei henw: -
“For a charm of powerful trouble, like a hell-broth boil and bubble,
Double, double, toil and trouble, fire burn and cauldron bubble.”
Nid oes yma lysieuyn gwyrdd nac unrhyw hawddgarwch. Lle rhyfedd ac ofnadwy
ydyw. Dywedir ddarfod i un Ellmyn ar ol dyfod i'w olwg droi yn sydyn ar ei
sawdl, a dweyd, “Dewch oddiyma ar frys. Mi a wn nad yw uffern ei hun dros haner
milldir o'r lle.”
GEYSERS ERAILL.
Wedi i'r nos ddyfod, eisteddais i ymddadflino ychydig ar y llosgfalwy cynhes;
canys gobeithiwn na fyddai gan fwystfil drwg achos na gwroldeb i ddyfod i'r lle
llwm a dychrynlyd hwnw, a dysgwyliwn i'r lleuad godi, fel ag i mi gychwyn yn ol
mewn trefn i gael y gerbydres yn Gloverdale am bump o'r gloch y boreu. Am a wn i nad y nos hòno
ydoedd y fwyaf rhyfygus a dreuliais erioed. Yr ydoedd y daith i fyny yn hyfryd,
ond yr oedd y daith i lawr yn fath arall o hyfrydwch, yn cael ei gymysgu â
graddau o ofn, canys gwyddwn fy mod yn unig ac yn mhell oddiwrth bawb. Ni
welais ond pedwar o dai o Gloverdale i fyny, ond yr oedd yr adgof o'r ychydig
ddefaid a welais yn peri i mi obeithio nad allai fod y bwystfilod rheibus yn
newynllyd iawn. Ymddangosai y lleuad yn harddach a serchocach nag y gwelais hi
erioed o'r blaen; ond ni byddai dros haner yr amser yn y golwg; gan fy mod yn
rhodio cwm dwfn, byddai rhyw greigiau neu fynyddoedd rhyngof a hi yn fynych, ac
yr oedd ei goleuni a dwfn-gysgodion y clogwyni a'r coed yn cyfnewid eu gilydd
yn ogleisiol. Murmuron yr afonig ydoedd yr oll a glywid yn cydodli a disgyniad
traed y teithiwr unig, meddyliau yr hwn y noson hòno yn neillduol oeddynt hynod
fywiog i ehedeg yn mhell, yn mhell ar edyn chwim dychymyg - weithiau dros
gyfandir a chyfanfor at ei wraig a'i ddau blentyn bychan yn Nghymru draw;
weithiau tua ser y nef, a hwnt i hyny i'r ysbrydol fyd, gan felus feddwl y
gallai fod rhai anwyl ydynt er's blynyddau yno yn edrych arno ar ei wibdaith
ddyeithr hon; weithiau i'r gorffenol pell y mynai y meddwl fyned, gan
ddychymygu dechreuad (x 208 ) yr holl bethau rhyfedd hyn, ac ewyllysio
gofyn i'r lleuad a'r clogwyni ban er's pa bryd yr oeddent wedi cyfarch eu
gilydd felly, a pha droion rhyfedd a welsant ar y llwybr hwn er pan ddaethant i
gydnabyddiaeth a'u gilydd; brydiau eraill i'r dyfodol pell y cymerai ei hynt
gan ddychymygu y diwedd, ac ymson –
“Chwi gedyrn binclau y ddaear, gydoeswch a huan a lloer,
Safasoch effeithiau difäol, a threuliawr hin wresog ac oer;
Ond gwelaf ddiwrnod gyferbyn - a ellwch chwi sefyll pryd hyn?
Y ddaear a ymchwel fel meddwyn, a nerthoedd y nefoedd
a gryn.”
Beth wedyn? Aethum gydag Emanuel Swedenborg i'r tiriogaethau ysbrydol, ac yno
ceisiais weled y nefoedd a'r ddaear, yr ban], y lloer, a'r ser, mynyddoedd,
coedwigoedd, anifeiliaid, a phob peth – nid yn yr ymgorfforiad allanol a garw o
honynt fel eu gwelir yma, ond yn y mewnol ysbrydol, mewn sefyllfa awyraidd a
nefolaidd, fil-fil fwy gogoneddus na'r arwedd ogoneddusaf arnynt yma. Ar goll
mewn myfyrdodau o'r fath yna yr oeddwn pan ddeffrowyd fi gan drwst cerddediad
rhyw greadur trwm yn y brysglwyni ar fy aswy, ac wele ar wastadedd cul, yn cael
ei gysgodi gan greigiau a choed uchel, y cefais fy
Wedi cael fy ngwlychu yn dda wrth groesi afon ledan, daethum i Gloverdale, ac
yr ydoedd yn ddau o'r gloch y boreu. Dystawrwydd a thawelwch a amgylchynai bob
ty oddieithr un grogshop, yno clywn ralio o rhegi rhyfedd. Yn mhellach,
mewn cysgod tywyll rhag eu gweled gan y lleuad lân, canfyddais dw’r llonydd a
dystaw o ddynion, a dau yn y canol yn paffio eu gilydd ar y ddaear. Tair awr arall
o ddysgwyl ar yr orsaf, ac agos sythu gan ivlybaniaeth fy nillad ac oerlymder y
boreu, a chefais y gerbydres. Cyfarfyddais arni âg arth-heliwr, o'r enw John
Wesley Curadon, yr hwn a ddywedodd (x209) wrthyf y gallaswn yn hawdd fod wedi myned yn
frecwast i fwystfil a gallu am a allai wneud y tro arnaf heb na phupyr, na
halen, na gras. Perchenogai Mr. Curadon fferm fechan o bymtheg mil o erwau, ac
nid oedd yn gallu amgyffred sut yr oedd dynion yn teimlo yn gysurus ar ffermydd
can gyfynged â chant neu ddau. Gwahoddai fi yn serchog i ddychweled gydag ef,
ac addawai i mi geffyl a gw^n i'w ganlyn yn ei anturiaethau helwriaethol. Efe,
ei dad, a bachgenyn bychan o nai oeddynt holl drigianwyr ei fferrn. Un George
Davies (Cymro) a fu yn aros gydag ef ydoedd y dyn gwylltaf ar ymladdwr penaf a
welodd erioed. Addawais, os byddai yr amgylchiadau yn caniatau, yr awn i
dreulio wythnos neu ddwy gydag ef y tro nesaf y deuwn i
AR GOLL YN Y COED.
Y mae son am y noson hòno yn dwyn ar gof i mi noswaith bryderus arall a fu
arnaf yn Hydref y flwyddyn 1871. O gariad at unigedd a gwylltineb natur, yn
gystal a gobeithio cael seibiant i yfed awyr iachus, aethum i dreulio pedwar
mis mewn gwlad wyllt a theneu ei phoblogaeth yn neheubarth
TAITH OGLEDDOL ARALL.
Wedi dychwelyd o'r geysers, chwenychais fyned 80 milldir ar hyd
llinell y North Pacific Coast can belled a Duncan Mills. Mae y daith hon
yn un o'r rhai tlysaf ac amrywiolaf ei golygfeydd. Nid oes iddi y fath greigiau
llymion a thoriadau dyfnion ag eiddo Denver a Rio Grande, ond mae ganddi yr
esgyniadau serth, y troadau pedol-ffurf, y twnelau lluosog, y pontydd a'r
trawstweithiau uchel, y cymoedd rhyfeddaf, y bryniau cywreiniaf, a'r coed
talaf, oll wedi eu gwisgo mewn gwyrddlesni bywiog a serchog, na welir ond yn
California eu math. Y mae amryw o'r bryniau yn meddu ffurf ganol-rhychbantiog,
tebyg i gragen wystrys, neu wyneb-wyntell (fan) Chineaidd, ac y mae eu
gwyrddlesni bron yn ddigyffelyb. Gan fod parthau helaeth o’r dalaeth hon yn
meddu haf a gwanwyn parhaus, gwelir dail bychain yn blaendarddu ar y coed pan
fyddo hen ddail yn syrthio. Y mae egin ieuanc y ddaear yn tyfu i fewn i'r hen
egin, y rhai yn fuan a syrthiant ymaith.
Y mae math o lyffant corniog, pigog yn
(xtLLUN: BWLCH
TOLTEC AR REILFFORDD DENVER A RIO GRANDE) .
(x212) ac amrywiol fathau eraill, ond y rhai mwyaf, harddaf, a rhyfeddaf ydynt
y coed cochion (red wood). Oddifewn y mae y rhai hyn yn gochion,
oddiallan y maent yn wastadol o liw gwyrdd, dwfn. Tyfant i'r uchelder o fwy na
thri chant o droedfeddi, a hyny mor uniawn a saeth. Tua 60 troedfedd uwchlaw y
ddaear yr ymestyna y ceinciau isaf allan, ac y mae bod mewn coedwig lân o'r
cyfryw yn peri i un deimlo ei fod mewn rhyw baradwys werdd, fawr, ddofn,
gysgodol, ac yn mwynhau math o neillduedd a thawelwch hyfryd, ond dyeithr, na
theimlir mewn lle arall cyffelyb iddo - y fath ddaear werdd! y fath dô gwyrdd!
y fath ystafelloedd pell a chyfriniol a welir yn ymestyn draw i bob cyfeiriad
rhwng y colofnau mawreddog! Gwelais fonccyff cau un o'r coed prydferth hyn a
allai yn hawdd gynwys cynulleidfa o bobl. Nid ydyw y coed mawrion hyn ond
bychain o'u cydmaru a choed eraill yn y dalaeth hon, y rhai, chwe' troedfedd
uwchlaw y ddaear, ydynt 30 troedfedd o dryfesuredd, 90 o amgylchedd, a thros
400 troedfedd o uchder; un goeden yn 37 troedfedd o dryfesuredd, a 112 o
amgylchedd; un arall, wedi cwympo, yn 40 troedfedd o dryfesuredd a 120 o
amgylchedd, ac y mae dynion yn cerdded 200 troedfedd trwy geudod hon, ac yn
dyfod allan heb blygu trwy dwll colfen. Trwy foncyff un goeden gwnaethpwyd
ffordd i feirch a cherbydau.
TRWY
Arfaethais fyned o
Wedi myned dros 20 milldir yn ogledd-ddwyreiniol o
Ar y disgyniad daethom i dref Truckee, yn agos i'r hon y mae dau lyn enwog, i
weled y rhai y daw llaweroedd o ddyeithriaid; y naill ydyw Llyn Tahoe (Dwfr
Mawr), yr hwn sydd 22 milldir o hyd wrth 10 milldir o led; a Llyn Donner, tair
milldir o hyd ac un o led - un o'r llynoedd bychain siriolaf yr olwg arno, ond
y mae yn ngly^n â'i hanes un o'r digwyddiadau pruddaf, sef newyniad i farwolaeth
un Mr. Donner, a'i wraig, a'i anifeiliaid ar ei làn yn ngauaf 1864, trwy gael
eu dal a'u cau i fyny gan eira pan oeddynt ar eu taith i California.
TRWY NEVADA.
Tua 220 milldir yn ogledd-ddwyreiniol o San Francisco croesais y llinell
derfyn o California i Nevada; disgynais hefyd rai miloedd o droedfeddi, gan
adael gauaf brigwyn y Sierras am hinsawdd fwy tymherus. Yn Reno, 20 milldir o'r
llinell derfyn, y gadewir y brif reilffordd i fyned i fyny ar hyd ffordd
ramantus iawn i Carson ac i Virginia City, lle, efallai, y mae y mwngloddiau
arian cyfoethocaf yn y byd, yn y rhai y mae llaweroedd o Gymry, ac yn eu plith
y seneddwr J. P. Jones, yr hwn a gyfrifir yn un o'r tri neu bedwar cyfoethogion
penaf y byd. Uwchlaw Virginia City yr ymgyfyd Mynydd Davidson yn fawreddog, a
dynion ar ei gopa fry yn syllu ar ryfeddodau yr amgylchoedd. Odditan y ddinas,
i ddyfnder o tua 2,000 0 droedfeddi, y gweithir y mwngloddiau, a dynion yn eu
gwaelodion obry yn tynu allan o'u trysorau.
Yn fuan wedi gadael Reno, dechreuasom ar anialwch Nevada. Yma a thraw gwelwn
ager yn ymddyrchafu o ffynonau berwedig, trwy y rhai y cedwir ein daear rhag
ffrwydro gan ormod gwres mewnol. Yn agos i le a elwir Mirage, ar y ffordd hon,
y ceir yn achlysurol megys gwelediad llyn mawr o ddwfr gloew, afonydd dysglaer
yn rhedeg iddo, a choed gwyrddion yn ei amgylchu, ond (x215)
wrth fyned ato diflana, ac ni cheir yn ei le ond anialwch cras a llwm. Llawer
teithiwr sychedig a dwyllwyd gan y rhith twyllodrus hwn i fyned filldiroedd
allan o'i ffordd yn y gobaith o gael ei ddisychedu. Yn mhellach yn mlaen y mae
ein reilffordd yn dyfod at lyn gwirioneddol, Llyn Humbolt, 35 milldir o hyd
wrth ddeng milldir o led. Deng milldir i'r de o hwn y mae Llyn Carson, 23 milldir o hyd wrth
ddeng milldir o led. Ymarllwysa Llyn Humbolt i Lyn Carson yn yr haf, ac yn y
gauaf, neu y tymor gwlawog, y mae y ddau yn un llyn mawr o 80 milldir o hyd. Yr Afon Humbolt, ar ol rhedeg 350 o filldiroedd, a ymarllwysa i Lyn
Humbolt yn ei ben gogleddol. Yr afon Carson, ar ol rhedeg 175 o filldiroedd, a
ymarllwysa i Lyn Carson yn ei ben deheuol, a gwnant yr hyn a elwir yn Humbolt
and Carson Sink, o'r hwn ni welir dim dwfr yn rhedeg allan. I ba le, gan hyny, y mae y
dyfroedd yn myned? Cael eu colli yn y tywod, medd rhai; cael eu sugno i’r awyr
gan y gwres, medd eraill; ac y mae trydydd dosbarth yn dal eu bod yn rhedeg yn
afonydd tanddaearol i'r gorllewin; a chan fod hefyd afonydd cryflon yn tòri
allan bron ar unwaith o ystlys orllewinol y Sierras, honant fod i'w tybiaeth
sail dda. Y mae amryw lynoedd eraill ar y gwastadeddau hyn yn dwyn yr unrhyw
nodweddion. Ceir yma arwyddion eglur o ddaear-chwydiadau mawrion, o gymaint ag
fod llawer o losgfalwy yn gorchuddio'r lle, Bu hefyd yn gartref môr neu lyn
mawr, canys y mae cregin, pysg-ysgerbydau, a'r cyffelyb weddillion i'w cael
eto. I ba le yr aeth y môr neu y llyn hwnw? I'r un lle, yswaeth, ag yr â yr
afonydd a'r llynoedd presenol iddo. Gwelaf yn y newyddiaduron fod llyn mawr
Ruby wedi diflanu yn sydyn o’r diriogaeth hon er pan fum ynddi.
Rhedasom i fyny bellach ar hyd dyffryn yr Humbolt, a
mynyddoedd i'w gweled ar bob llaw. Aethom heibio llawer gorsaf o ymddangosiad
bychan a dibwys, er hyny yn meddu trafnidiaeth fawr, yn gymaint ag y danfonir o
honynt laweroedd o fwnau gwerthfawr i'r marchnadoedd. Ceir yn y dyffryn hwn
hefyd lawer o ranchers cryfion; un ranche yn meddu 80,000 o
anifeiliaid, a 28,000 erw o honi wedi ei chau i fewn. Aethom heibio
(xtLLUN: INDIAID)
dy`n wrth fwrddyn, neu fath o gawell, ar ben uchaf yr hwn y byddai tô plethedig
o wiail i gysgodi y pen rhag y gwres. Yn rhwymedig felly, heb allu symud pen na
choes, y cerid y pethau bychain yn ngholau neu ar gefnau eu mamau; ac yr oedd
agwedd amyneddgar arnynt. Dysgant ddyoddef o'u mebyd i fyny. ººYn mlaen a ni
heibio Dyffryn y Ffynonau Poethion, lle y gwelem ager yn ymddyrchafu o ddaear
goch; heibio trefedigaeth o belicanod drachefn ac yn mhellach yr ydym yn pasio
bedd unig, wedi ei gau i fewn ag arno groes, ar y naill ochr i'r hon y mae y
geiriau, “The Maiden's Grave,” ac ar yr ochr arall “Lucinda Duncan.” Lucinda
Duncan ydoedd ferch ieuanc rinweddol, deunaw mlwydd oed, a aethai yn glaf ac a
fu farw yma tra yr ydoedd y teulu, ar eu taith i
Wedi pasio gorsaf a elwid Carlin, aethom trwy fwlch creigiog (x217)
Five Mile Canyon; ac yn llawer uwch i fyny daethom at Ffynonau Humbolt, ugain
o'r rhai a geir mewn dyffryn bychan ar ucheldir, 5,400 troedfedd uwchlaw arwynebedd
y môr; ymddangosant fel llynoedd bychain tua saith troedfedd o dryfesur, ac
agos yn grwn. Nid oes neb wedi gallu eu plymio i'w gwaelodion. Bernir mai olion
hen ffrwydriadau tanllyd o'r ddaear ydynt. Treiddia eu dyfroedd yn anweledig
trwy y tywod i'r Afon Humbolt, gyda yr hen yr ânt i Suddfa Humbolt, 300 milldir
islaw, lle yr ymddiflanant mor ddirgelaidd ag y daethant i'r golwg.
Wedi gadael gorsaf Tecoma, croesais y llinell i
Daethom yn fuan i diroedd mwy toreithiog na'r anialwch. Erbyn cyrhaedd
DINAS Y
LLYN HALEN.
Pobl ryfedd ydynt y Mormoniaid, gwlad ryfedd ydyw eu gwlad, a dinas ryfedd eu
dinas. I fyned iddi gadewais y brif linell yn
TRI DIWRNOD YN Y DDINAS.
Y ty cyntaf yr aethum iddo ydoedd westdy, eiddo un o'r cenhedloedd. Er ei
fod yn dy hardd, dygwyddodd mai ynddo ef yn unig y gwelais ddim tebyg i ddyn am
fy ysbeilio. Deffroais yn sydyn tua dau o'r gloch y boreu, ac wele, oleuni yn
fy ystafell, a dyn mawr gyda gwyneb Gwyddelig, fflamgoch yn dyfod at fy ngwely.
Pan welodd fi yn edrych arno diffoddodd ei ganwyll yn frysiog, ac aeth allan
o'r ystafell, Y ty nesaf yr aethum iddo ydoedd eiddo Anthony Thomas, Ysw.,
Ysgrifenydd y Diriogaeth – Cymro ieuanc, talentog, a hawddgar iawn. Un o'r
cenhedloedd ydyw yntau; rhoddodd i mi lawer o hanes y diriogaeth, ac o ansawdd
ein cenedl ni ynddi. Ymwelais i'r henuriad George Bywater, un o ffyddloniaid yr
eglwys, ac iddo air da gan y saint a'r cenhedloedd hefyd; cefais ef yn ddyn (x221)
call a chymdeithasgar, gyda llonaid ei galon o awydd gwneud daioni ysbrydol i
mi; ymresymai yn gryf a difrifol. Anrhegodd fi â chopi o lyfr Mormon. Anogodd
fi i fyned at yr henuriad John S. Davies, argraffydd a llenor Cymreig, y cawn
ganddo ef weithiau ac addysg helaethach. John S. Davies, henafgwr yn awr, ond
un a fuasai yn fachgen yn argraffydd yn ngwasanaeth Brutus.' Beth a ddywedodd
Brutus am John S. Davies? gofynais i Mr. Bywater. “Dywedodd,” meddai yntau,
“fod yn drueni fod un o dalentau dysgleiriaf Cymru yn ymddifwyno gyda pheth mor
wael a Mormoniaeth.” Beth a ddywedodd Brutus am danoch chwi? gofynais i Mr.
John S. Davies pan welais ef. “Wrth fy nhad, yr hwn ydoedd yn ei feio am adael
i mi gymdeithasu â'r saint, dywedodd, ‘Daeth eich bachgen ataf fi yn gythraul,
ac y mae yn myned oddiwrthyf yn sant.”' Cefais Mr. Davies yn cyfaneddu ty hardd
iawn. Dipyn yn gadnoaidd yr oeddwn yn tybio ei fod; teimlwn ei fod yn edrych
arnaf fel yspiwr wedi dyfod i weled noethder y wlad, am hyny celu pethau ydoedd
ei ddoethineb ef, a diau mai nid yn ofer yr oedd y ddoethineb hono ganddo,
canys y mae llawer o ysgriblwyr wedi ymweled â'r bobl hyn i'r unig ddyben o raffu
camdystiolaethau yn eu herbyn. Dywedais wrth Mr. Davies pa gymorth gwerthfawr
y.tybiai Mr. Bywater a gawn ganddo ef. Rhoddodd yntau i mi amryw ddail bychain
yn cynwys cân o'i eiddo yn gosod allan ragoriaeth bwrw o'i eiddo, a elwid Davies'
Cronk Beer. Cefais ganddo hefyd amryw gopiau o lyfr at faintioli Rhodd
Mam, o'r enw Bee Hive Songster, being a collection of original
songs, composed by Ieuan (Mr. Davies ei hun). Aethum i dy Mr. Davies yr ail
waith, yn ol rhag-benodiad. Cefais fod yno y pryd hwnw ddeintydd, wedi dyfod i
dynu dant Mr. Davies, a meddyg arall gyda rhyw flwch trydanol yn iachbâu Mrs.
Davies o rhyw anhwylusdod oedd yn ei blino hithau. Dywedid wrthyf y gallai
hwnw, gyda'i drydaniaeth, roddi i minau gwbl iachâd oddiwrth wendid yn y cylla.
Wrth fy ngweled yn syllu ar ei flwch a'i wifrau, dywedodd y meddyg hwnw, gan
edrych yn syn yn fy llygaid, ei fod yn gweled fy mod yn un tra chwilfrydig, ac
os awn gydag ef i'w gartref y gwnai egluro i mi ddirgelion y peiriant. Dywedai
yn mhellach fod yr hyn ag oedd yn blino fy nghylla yn gofyn gallu ysbrydegawl,
craffus iawn i’w ganfod i'w waelodion, a chan fod ei wraig yn meddu y gallu
hwnw yn helaethach nag efe, gwahoddai fi (x222)
fyned gydag ef, y mynegai i mi yr oll a berthynai i fy natur ac i fy amgylchiadau,
a'r cyfan heb dâl. Yr oeddwn wedi darllen mewn llyfrau fod ysbrydegiaeth, mesmeryddiaeth,
&c., yn elfenau pwysig yn llwyddiant y gyfundrefn Formonaidd, ond nid
oeddwn wedi edrych ar y cyfryw amgen nag ymgais ei gelynion i'w phardduo. Yn
awr dyma gyfleusdra i mi weled y peth drosof fy hun; ac yn llawn o ysbryd pryf
y ganwyll, yr hwn ni fedr beidio chwareu â'r perygl, addawais fyned i'w dy yr
hwyrnos hono, er y perygl o gael fy mesmereiddio. Derbyniwyd fi ganddo
yn foneddigaidd. Dyn main, tal ydoedd efe; dynes dew, dal ei wraig. Dywedodd
wrthi am fy narllen. Dywedodd hithau ei bod yn ofni fod fy ysbryd yn gyfryw ag
nas gallai ei hysbryd hi ddwyn dan reolaeth, mai anfynych y gallai lwyddo ar
ddynion dysgedig. Ar ol hyn o gompliment dechreuodd ymwthio i'r
ysbrydol. Wedi enyd o ddystawrwydd dywedodd drachefn fy mod yn rhy gryf, ei bod
yn barnu pe bawn yn ysbrydegwr y gwnawn medium da. Yn raddol, fodd
bynag, dechreuodd weled, ei genau a agorwyd, a thraethodd fy hanes, a hanes fy
nheulu gartref - dysgrifiad o honynt a llawer o bethau; ond ni bu erioed fwy o
ddygwydd a damwain; gallai unrhyw un arall ddweyd pethau mor gywir ac mor
anghywir a hithau; ond o ran hyny cwynai yn barhaus ei bod yn methu cael
rheolaeth briodol ar fy ysbryd, a bod rhyw ysbrydion eraill yn sefyll rhyngddi
fi a’r gwrthddrychau priodol. Erbyn hyny daeth chwaer arall i fewn, yr hon,
ddywedid, ydoedd y medium alluocaf yn y ddinas. Ond yr oedd fy amser i
fyny, felly ymadawais heb deimlo fy mod yn ddim callach na dylach ychwaith.
Dywedai y meddyg a'r feddyges hyn nad oeddynt hwy yn Formoniaid, ond eu bod yn
edmygu y bobl yn fawr.
SABBATH YN NGHYNULLEIDFA Y SAINT.
Bum mor ffodus a bod yn y ddinas ar Sabbath pwysig iawn. Yr ydoedd wedi bod yn
etholiad yn y Diriogaeth am gynrychiolydd i'r Gydgynghorfa (Congress) yn
Canwyd yn gyntaf, ac wedi hyny offrymwyd gweddi synwyrol a chynwysfawr gan ddyn
ieuanc. Ar ol hyn torwyd bara gan “seithwyr da eu gair,” y rhai a'i rhoddasant
ar ddysglau i laweroedd eraill i’w ranu rhwng y gynulleidfa. Cyfranogent oll,
hyd yn nod y plant lleiaf, y rhai a roddent eu cyllill heibio, ac a beidient
naddu eu prenau tra byddent yn estyn eu dwylaw i dderbyn yr elfenau. Wedi hyn
cafwyd anerchiad gan un o'r henuriaid, lleferydd yr hwn a’i cyhuddai o fod yn
Ar ol hyn tywalltwyd dwfr (nid gwin) gan y saith diacon, a rhanwyd ef gan y
lleill rhwng y gynulleidfa. Yna daeth G. Q. Cannon, y pregethwr mawr, yn mlaen;
gw^r braidd yn hen, llai na'r taldra cyffredin, ond o gyfansoddiad cydnerth,
wyneb llawn a deallus, gwallt gwyn o amgylch y pen, ond moelni ar y coryn;
meddai lais peraidd, ac ystum ddeniadol; diau ei fod yn llefarwr gwir alluog.
Darllenodd ei destyn o lyfr Mormon, tudalen 307.
“Fy mab, rho glust i'm geiriau, canys yr wyf yn dywedyd wrthyt, megys (x224) y
dywedais wrth Helaman, yn gymaint ag y cedwi orchymynion Duw, y llwyddi yn y
tir; ac yn gymaint ag na chedwi orchymynion Duw, ti a fwrir ymaith o'i
bresenoldeb.” Traethodd lawer ar elyniaeth y cenhedloedd at yr eglwys, ar y
bwriadau a'r cynllunitlu a wnaed o dro i dro i'w dynystrio, ar yr amddiffyn
gwyrthiol a'r arweiniad dwyfol a gafodd, y modd y tywyswyd hi trwy yr anialwch
mawr, y planwyd hi yn y wlad hono, y magwyd ac y weithrinwyd hi, a hyn oll fel
y rhagfynegwyd gan y prophwyd mawr, Joseph Smith. Anogai y bobl i fod yn ddyfal
i gadw gorchymynion yr Arglwydd, ac i fod y'n dra gwyliadwrus rhag syrthio i
bechodau rhyfygus, yn enwedig godineb, yr hwn, fel yr ymddangosai, ydoedd y
pechod parod i amgylchu y saint, trwy hwn y syrthiodd llawer o honynt, hyd yn
nod Joseph Smith ei hun, a'r tystion, y rhai a welsant yr angel a'r llafnau
aur, aethant hwy trwy y pechod hwn yn wrthgilwyr ac yn elynion i'r eglwys, ond safasant
at eu tystiolaeth, ac yn hyny gwelai ryfedd doethineb Duw, fel na chaffai neb
achlysur i ddweyd mai caredigion yr eglwys yn unig oedd yn dwyn tystiolaeth i'w
seiliau. Nid oedd yn pryderu am y dyfodol. Yr ydoedd yn myned i
GWEDDILL Y DAITH YN
Gadewais y ddinas enwog am
“Ai darllen llyfr Mormon yr ydych?” gofynai cenadwr Mormonaidd ag oedd ar ein
cerbydres yn myned i Loegr i oleuo y wlad dywyll hono.
“Ië,” atebai y darllenydd, yr hwn ydoedd
genedlddyn, darllen llyfr a gefais yn anrheg yn
Morm.- Pa beth ydyw eich barn am dano?
Cenedlddyn.- Nid wyf wedi darllen digon
Morm. -Da genyf ddeall eich bod yn ei hoffi. Darllenwch ef oll gyda
meddwl diragfarn, a byddwch yn sicr o gael lles mawr trwyddo.
Cen.-Y mae y rhan hon,o hono yn fy moddloni ac yn fy nyrysu hefyd: -
“Wele y mae'r Lamaniaid, eich brodyr, y rhai a gasewch chwi o herwydd eu
haflendid a'r melldithion a ddaeth ar eu crwyn, yn gyfiawnach na chwi canys nid
ydynt hwy yn anghofio gorchymyn yr Arglwydd, yr hwn a roddwyd i'n tadau, na chaffent
onid un wraig; a gordderch-wragedd na chafent un; ac na chyflawnent
odineb yn eu mysg. Ac yn awr y maent hwy yn cadw y gorchymyn hwn; gan hyny, am
eu bod hwy yn cadw y gorchymyn hwn, yr Arglwydd Dduw nis difetha hwynt, eithr a
fydd yn drugarog wrthynt, a hwy a fyddant ryw ddydd yn bobl wynfydedig.”
Y mae y rhan
yna fel y mae yn fy moddloni. Ond y mae eich bod (x226) chwi yn adeiladu eglwys ar
sail y llyfr hwn, ac ar yr un pryd yn dal i fyny amlwreicaeth, yn fy nyrysu.
Morm. -Yr ydych yn siarad yn berffaith synwyrol. Yr oedd pechod y bobl yna yn
gynwysedig mewn anufuddhau gorchymyn yr Arglwydd. Pan oedd efe yn gwahardd
amlwreicaeth, yr ydoedd yn bechod ei arfer. Ond yn awr pan y mae wedi rhoddi
gorchymyn o ganiatad, y mae amlwreicaeth yn iawn. (Yna darllenodd y datguddiad
a gafodd Brigham Young gan Dduw ar y pen hwri.) Ac ar wahan i'r datguddiad a
gafodd Brigham Young, y mae yr ysgrythyrau trwy esiamplau y duwiolion penaf, yn
cymeradwyo yr aferiad. Ystyriwch Abraham, Jacob, Dafydd, a llawer iawn eraill.
Cen.- A yw gwahanol wragedd yr un gwr yn eich plith chwi yn gydradd, ynte a oes
un neu rai yn uwch na'r lleill? â oes gordderch-wragedd yn eich plith?
Morm. - O, nac oes un. Y mae y gwragedd oll i'w golygu yn gydradd.
I ateb i'r pethau yna cymerodd a chafodd y cenadwr Mormonaidd gryn haner awr i
egluro y modd y mae Duw yn rhoddi gorchymynion ar un cyfnod, a gorchymynion
eraill ar gyfnodau eraill. Yr ydoedd yn hyawdl iawn hefyd, gan nad beth am
gysondeb. Tynodd sylw pawb ag oedd o fewn cylch clywedigaeth, ac yr oedd hwnw
wedi myned yn eang; canys enynodd tân, ac efe a lefarodd a'i dafod.
Pan beidiodd a llefaru, gofynodd y cenedlddyn iddo,”Yn awr, cymerwch yn
ganiataol fy mod yn derbyn goleuni, yn credu, ac yn ewyllysio dyfod i
Morm.- Fel y darllenasoch, os darllenasoch hefyd, yn Taith y Pererin am
Gristion yn gadael ei wraig a'i blant ar ol, ac yn rhedeg ei
Cen.- Crefydd ryfedd iawn yr ymddengys i mi y grefydd hono a rydd anogaeth i wr
adael gwraig dda - yr unig un, efallai, a fedrai (x227)
garu - ei gadael ar ol ei dwyn i'r fath ddyryswoh, a'r plant hefyd, yn anialwch
mawr y byd.
Morm.-Y mae yn grefydd Iesu Grist. “Os daw neb ataf fi, ac ni chasao ei dad a'i
fam, a'i wraig a'i blant, a'i frodyr a'i. chwiorydd, ïe, ei einioes ei hun
hefyd, ni all efe fod yn ddysgybl i mi.”
Cen.- Yn ol yr ymadrodd yna y mae yn gryn anffawd fod gan ddyn un wraig i'w
chasau, ond y mae yn waeth ar yr amlwreiciwr, am fod ganddo ef wragedd lawer
i'w casau.
Morm.- O, na;
os bydd y gwragedd hefyd yn canlyn Crist ac yn ei garu, ni bydd achos eu casau
hwy.
Cen.- Pa beth ydym i ddeall wrth ganlyn Crist a'i
garu?
Morm. - Credu ynddo, dylyn ei esiampl, a chadw ei orchymynion.
Cen.- Yr wyf fi yn meddwl fod fy ngwraig yn credu yn Nghrist, ac yn cadw ei
orchymynion yn fwy na llawer. Am ei esiampl ar y pen hwn, nid wyf yn deall fod
ganddo ef un wraig. Hen lanciau, yn ol y rheol yna, sydd yn eu lle. Yr wyf fi ar lawr, ac
yr ydych chwi ar lawr yn ofnadwy. (Chwerthin.) Yn awr, a ydych chwi yn barnu y
byddai yn ol ewyllys Crist i mi adael gwraig dda, a minau wedi gwneud
amod.difrifol i fod gyda hi hyd angeu?
Morm. - Hyd angau! Ni roddem ddiolch am briodas hyd
angeu. Nid yw peth fel yna yn deilwng o'r enw priodas. Yr ydym ni yn priodi ei
gwragedd yn ysbrydol, ac y mae yr undeb ysbrydol hwnw i barhau yn dragywyddol.
Cen.- O jaest i! os yw yr undeb i fod yn dragywyddol, gwell genyf stickio wrth
yr hon sydd genyf. “When you get a good thing, keep it, keep it.”
Ar hyn aeth yn chwerthin mawr trwy gylch y gwrandawyr, a therfynodd y ddadl.
Y TUDALEN NESAF: 1216k Rhan 10 Tudalennau 227-250
Ble'r wÿf i? Yr ÿch chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu
visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weørr àm ai? Yùù ààrr vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wébsait
Where am I? You are visiting a page from the
“CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website