1207k Gwefan Cymru-Catalonia / la Web de Gal·les i Catalunya - Wales-Catalonia Website. Dros Gyfanfor a Chyfandir:

Sef Hanes Taith o Gymru at Lanau y Môr Tawelog ac yn ôl, Trwÿ brif Daleithau a Thiriogaethau yr Undeb Americanaidd

Gan William Davies Evans. Aberystwÿth: Argraffwyd gan J. Gibson, Swyddfa'r ‘Cambrian News’ MDCCCLXXXIII (1883)

 

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_006_soar_sir_fon_0998k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................1208k Y Gyfeirddalen i'r Llyfr Hwn (Dros Gyfanfor a Chyfandir)

..................................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

Dyma ran o Adran 11 yn y wefan hon, sef

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Dros Gyfanfor a Chyfandir

William Davies Evans (Aberystwÿth 1883)

 

Rhan 2 (tudalennau 23-49)

Adolygiadau diweddaraf:
05 11 2001

 

 

 

1208k

Cynllun y Llyfr Gordestun

 

 

1219k

Rhan 1 Tudalennau 1-22

1207k

Rhan 2 Tudalennau 23-49

1209k

Rhan 3 Tudalennau 49-76

1210k

Rhan 4 Tudalennau 76-103

1211k

Rhan 5 Tudalennau 103-126

1212k

Rhan 6 Tudalennau 126-151

1213k

Rhan 7 Tudalennau 151-173

1214k

Rhan 8 Tudalennau 173-200

1215k

Rhan 9 Tudalennau 200-227

1216k

Rhan 10 Tudalennau 227-250

 

1217k Hysbysebion Cefn y Llyfr

1218k

Mynegai - Amryw

 

 



 

(x23)
I FYNY GYDA’R HUDSON.
Gan gymeryd y gerbydres yn New York, aethum i gyfeiriad gogleddol ar hyd glan ddwyreiniol yr afon Hudson, yr hon, er nad ydyw ond cydmarol fèr, sydd yma yn llydan iawn, ac yn meddu cryn bwysigrwydd trafnidiol. Ymgodai y wlad yn fryniau geirwon ar ei dau tu. Brithid hi yma a thraw gan ambell ynys goediog, ac allan o'i hystlysau yr ymddyrchafai adeiladau coed mawrion ac uchel, yn y rhai y cedwid cynyrchion y wlad i'w danfon ymaith. Rhyfeddwn ei gweled mor amddifad o longau ac ager-fadau y pryd hwn; ond yn fuan cefais esboniad ar y ffaith, canys fel yr elem i fyny caem ei bod yn oeri yn gyflym. Erbyn ein myned i Poughkeepsie (p. 22,000), dinas a saif yn brydferth ar godiad o 200 o droedfeddi uwchlaw yr afon, 65 o filldiroedd o New York, yr oedd “eira gwyn ar bant ac ar fryn.” Nid lle anenwog ydyw hwn, ar gyfrif ei amryw weithfaoedd, yn gystal a'i cysylltiadau hanesyddol. Yma, yn 1788, y mabwysiadwyd cyfansoddiad llywodraeth yr Undeb Talaethol. Yn Albany, prif ddinas talaeth New York, 67 o filldiroedd yn mhellach, yr oedd yr afon yn gloedig gan rew. Albany (p. 90,000), yn nesaf at Jamestown, Virginia, ydyw y ddinas henaf yn y wlad. Rhwng yr afon, camlesydd, reilffyrdd, safle naturiol, a chysylltiadau gwleidyddol, y mae yn un o brif dramwyfäau y cyfandir. At ei lluaws tai cyhoeddus eraill, bydd ei thalaethdy yn un o'r adeiladau ardderchocaf yn y byd, yn gorchuddio tri chyfer a haner o dir, ac yn ymestyn 384 o droedfeddi tuag i fyny. Yn Troy (p. 57,000), ugain milldir yn mhellach, ni cheid golwg ar gerbydau olwynawg ar yr heolydd, ond llithr-feni oedd yn gwibio heibio eu gilydd, gydag ystrapiau addurnedig o glychau bychain o amgylch y ceffylau, fel y gellid clywed eu swn, rhag i wrthdarawiadau gymeryd lle, ac, wrth gwrs, i fod i fyny hefyd â'r ffasiwn. Mor galed a llithrig ydoedd y ddaear fel mai gydag anhawsder mawr y gallwn i, heb wadnau rubber, gerdded ar hyd-ddi. Tyner iawn ydoedd yr hinsawdd yn New York pan adawais hi yn y boreu, ond daeth yn auaf cyflawn arnaf mewn un diwrnod!

CHWARELAU VERMONT.
Y mae yn y rhai hyn laweroedd o Gymry, ond ni ellais aros ond mewn tri lle yn eu plith, sef Middle Granville (N.Y.), Poultney, a Fair Haven. Yn y blaenaf o'r lleoedd hyn dangoswyd i mi amryw
(x24) fathau o lechfeini, yn nghyda'r rhyfeddodau sydd yn nglyn a’u codi o'r ddaear, eu naddu, marbleiddio, eu caboli, a'u cyflunio yn eirch, mantle-pieces, a chywrain bethau eraill. Yn yr ail le gwelais un o'r pentrefi glanaf ac iachusaf yr olwg arno. Oddiwrth led mawr ac uniawnder ei heolydd, gwychder ei adeiladau, a threfn tyfiant ei brenau cysgodawl, gallwn dybio ei fod yn lle paradwysaidd yn yr haf. Am y trydydd lle, nis gwn paham y gelwir ef Haven, ond ateba yn gyflawn i'r ansoddair Fair. Y mae y desgrifiad uchod o Poultney yn briodol hefyd i'r dref hon, gyda yr ychwanegiad ei bod yn fwy, ac ynddi adeiladau gwychach. Gwelais ynddi ddau balas wedi eu gwneud yn gwbl oll o farmor gwyn, o fath y bedd-golofnau tecaf a welir; preswylydd a pherchenog y goreu o’r ddau sydd foneddwr nad ydoedd yn ei ddechreuad ond tipyn o grydd. Gwelais yn y dref bentyrau o'r cyfryw feini marmor y dywedid eu bod yn pwyso deg tunell yr un. O'r nwydd hwn y gwnaent lawer o'u hyml-rodfeydd (sidewalks), grisiau, march-geryg, march-bolion, &c. Ymddengys fod moesau y trigolion hefyd yn cydweddu â lliw, tegwch, a gwerth eu marmor, oblegid pan oeddwn i yno nid oedd le, oddigerth shop y druggist, y gellid cael pethau meddwol ynddo, er fod y preswylwyr yn rhifo o ddwy i dair mil. Nid ydyw ryfedd felly fod y dref yn hardd a'r bobl yn ddedwydd. Saif y chwarelau hyn ychydig dros ddau can' milldir i'r gogledd o ddinas New York,

SEFYDLIADAU ONEIDA.
I fyned i'r sefydliadau hyn, agos i gant a haner o filldiroedd yn orllewinol o'r chwarelau, yr oedd genyf i fyned trwy Saratoga Springs (p. 10,000), y lle enwocaf yn y talaethau am ffynonau meddyginiaethol a gwestdai ffasiynol. Cyfrifir fod yr ymwelwyr, y rhai gan amlaf ydynt o'r dosbarth uchaf, yn rhifo bob haf tua 35,000. Aethum trwy Shenectady hefyd (p. 14,000), lle ar ganol nos yn ngauaf 1689 y llofruddiwyd gan y Ffrancod a'r Indiaid agos yr oll o'r trigolion ; ychydig a ffoisant yn eu dillad nos, rhai i drengu yn y rhew a'r eira ar y ffordd, ac eraill i gyrhaedd Albany, pellder o ugain milldir. Llosgwyd y dref, ac ysbeiliwyd hi o bob peth gwerthfawr. Oddiyma rhedem i fyny ar hyd dyffryn bras afon Mohawk, yr hon sydd yn ymarllwys i'r Hudson, ac ar yr hon, yn gystal a'i chamlesydd, y gwelir llawer o fadau.

(x25)
Erbyn fy nyfod i Utica (p. 40,000) yr oeddwn yn mhrif ddinas swydd Oneida, canolbwynt yr holl sefydliadau Cymreig cylchynol, ac Athen Cymry America. Yma y cyhoeddir y Drych, prif newyddiadur ein cenedl yn y wlad; Y Cyfaill hefyd, cylchgrawn misol y Trefnyddion Calfinaidd; a'r Wawr, cylchgrawn misol y Bedyddwyr. Medda y ddinas gryn bwysigrwydd masnachol a gweithfaol. Saif tref hardd Rome (p. 13,000) 12 milldir yn uwch i fyny. Remsen, 18 milldir i'r gogledd o Utica, sydd bentref enwog o ran ei gysylltiadau Cymreig. Yma y cyhoeddir y Cenhadwr Americanaidd, cylchgrawn misol y Cynulleidfaolwyr. Prospect, Holland Patent, ac yn nghwr deheuol y sir Waterville, ydynt bentrefi canolbwyntiol sefydliadau o Gymry. Amaethwyr o rywogaeth y llaethwyr (dairymen) ydynt y gwladwyr gan amlaf; ac yn mharthau deheuol Oneida, yn gystal ag yn swydd Otsego, codir llawer o hops.

DYFFRYNOEDD LACKAWANNA A WYOMING.
I fyned i'r glofaoedd enwog sydd yn y dyffrynoedd hyn, agos 200 milldir yn ddeheuol o Oneida, aethum trwy Binghampton (p. 18,000), ac yn Scranton (p. 46,000), talaeth Pennsylvania, yr oeddwn yn nghanolbwÿnt lofawl a masnachol y parthau. Yn Hyde Park, Bellevue, Taylorville, Providence, a lleoedd eraill o amgylch Scranton, y mae heidiau lluosog o Gymry yn gwneud i fyny yr eglwysi a’r cynulliadau Cymreig mwyaf yn y wlad. Bu ac y mae yr amgylchoedd hyn enwog ar gyfrif eu llenyddiaeth a'u heisteddfodau. Wedi myned trwy Olyphant, Termyn, a phentrefi eraill can belled a Carbondale (p. 8,000), yn y pen gogledd-ddwyreiniol, lle hefyd yn y flwÿddÿn 1822 y dechreuwyd agor y glofeusydd hyn, troais yn fy ol i fyned trwy Scranton, Moosic, Pittston (p. 11,000), Plainsville, Wilkesbarre (p. 23,000), Warrior Run, Kingston, Plymouth, Nanticoke, a Wanamie. Yr bell leoedd hyn a chydrhyngddynt o Carbondale i lawr dros 40 milldir sydd megys un rhwydwaith ridyllawg o lo-dyllau, a’r glowyr prysur fel morgrug dirifedi yn pigo iddi nes y mae y ddaear hardd yn heneiddio fel dilledyn wedi i'r pryf ei fwyta. Glo caled (anthracite) ydyw yr hwn a godir yma. Yn mhlith yr amrywiol adeiladau a welir nid y lleiaf rhyfedd a dyddorol ydynt yr adeiladau coed uchelfain a elwir coal-breakers, yn
(x26) y rhai y mae peirianau yn cael eu gweithio gan nerth ager at dori glo yn ddarnau o faintioli priodol. Gwneir chwech maintioli (size), yr hwn a werthir yn ol y maintioli a geisir, megys size 1, size 2, &c. Codir y llwyth glo ar hyd osglawr (incline) i ben yr adeilad, a daw i lawr trwy wahanol ystafelloedd a pheirianau, gan gael ei dori rhwng danedd rowliau anferthol, a thrwy ridyllau (screens) disgyna i lo-feni y reilffordd yn y gwaelod.

CYFARFOD Y NEGROAID
Tra yn aros yn Wilkesbarre aethum gyda chyfaill i gyfarfod adfywiadol y Negroaid. Yr ydoedd yn hwyr pan aethom i'w capel, y ty eisoes yn boeth, a'r gynulleidfa mewn llawn hwyliau.
Cymerasom ein heisteddle yn agos i'r pulpud, fel, os byddai bosibl, y gallem weled a chlywed y cwbl. Amgylchynid ni gan bob graddau o liw, o Elizabeth oleuwen hardd, hyd Topsy groenddu fel y frân. Credwyf fod yr holl weinidogion yno yn hollawl ddu fel “Fy ewythr Twm,” a hawdd y gellid eu hadnabod wrth eu gwisg, eu gwedd, a'u gwaith. Ymwisgent yn glerigaidd iawn, a byddai y neisiad wen am eu gyddfau yn gwrthweddu yn fendigedig gyda du dwfn eu gwynebau sobr-ddwys a'u cobau parchedig. Y maent hwy yn fwy gofalus na neb yn America am gadw i fyny “dignity y weinidogaeth “ yn y pethau hyn. Meddant hefyd gyflawnder o safnau, ac felly, yn ol cyfundraeth y ddau Jones, y maent i’w hystyried y llefarwyr galluocaf yn y byd. Ond yn ol yr un safon nid yw Henry Ward Beecher yn llefarwr o gwbl. Er fod y gynulleidfa yn berwi drwyddi ymddygai y gweinidogion yn bwyllog. Elai rhai o amgylch i gymell hwn a'r llall yn mlaen at sedd y galarwyr (mourners' bench); safai eraill yn ymyl y galarwyr i'w cyfarwyddo – a’u calonogi yn eu hymdrech am fywyd. Yr oedd yn rhydd i'r rhai hyn, a phawb eraill o ran hyny, fwngial neu wylo-weddio yn hyglyw gan nad beth arall fyddai yn myned yn mlaen ar y pryd. Gweddio a chanu ar yn ail ydoedd trefn, y cyfarfod, pe byddai drefn er hyny. Ymgymerai rhyw un o hono ei hun âg arwain mewn gweddi yn uchel a hwyliog, ac eraill yn canlyn gyda eu geiriau eu hunain mewn lleisiau ychydig,yn is. Oblegid hyn, yn nghyda'u hacen Negroaidd, a gwaith rhai yn wylo a rhai yn bloeddio “Glory! - Halleluia! - I am saved! - Praise the Lord,” &c., yr ydoedd yn annichonadwy i ni wneud allan (x27) beth a draethid ar y brif weddi. Cawsom, er hyny, gryn foddhad pan aeth un hen wr byr, tew, melynlwyd ar ei liniau. Nid anhebyg ydoedd i hen Gymro twymngalon {sic} o'r hen ffasiwn. Efallai fod gwaed Cymro ynddo. Y mae llawer o honynt wedi cael eu henwau - Jones, Davies, Williams, &c.- oddiwrth eu hen gaethfeistri, y rhai mewn llawer o achosion fyddent hefyd eu gwir dadau. Pa fodd bynag am hyny, yr oedd rhywbeth rhyfedd yn hwn. Gostegodd y lleisiau afreolus eraill i raddau fel pe i wrando yr eos beraidd hon yn traethu ei chân. Mor dyner ac mor doddedig ydoedd ei lais; mor gynes, mor daer, a difrifiol ei deimlad; mor gall, mor drefnus, a sylweddol ei faterion; mor effeithiol y gosodai allan geudeb amser, byd a'i bethau yn ymyl tragywyddoldeb dyfnddwys mawr; mor erchyll ac ynfyd y gwelai bechodau a gau-bleserau yn ngoleuni tanbaid y farn ofnadwy! mor ffyddiog, diolchus, a chariadus yr ymorphwysai ar unig drefn cadw, fel yr oedd yn wledd ei glywed. Y mae ei lais eto ar adegau yn swnio yn fy nghlustiau.

Cenid, hefyd, trwy y byddai rhywun, rhywle, rhywfodd, heb gymaint a rhoddi gair allan, yn dechreu canu emyn a thôn gynefin, a’r lleill yn ymuno. Byddai hyd yn nod y cantorion mwyaf tawel yn ol tirawiadau y dôn yn symud ac yn gweithio eu holl gyrph nes yr ymddangosant fel coed yn ysgwyd gan wynt nerthol. Curent yr amser hefyd a’u traed, nes peri i'r llawr swnio fel tabwrdd, ac yn achlysurol elent trwy eu gilydd i ysgwyd dwylaw, fel pe ar ymadael i wlad bell tra y canent -

“O say!
Shall I meet you on the happy, happy shore!”

Elent dros yr un geiriau drosodd a throsodd, gan ddyblu a threblu drachefn a thrachefn. Deuai y gydgan (chorus) bob llinell neu ddwy a chyda blas canent â’r ysbryd, a chanent â’r corph hefyd.

“If you get there before I do, tell 'em that I’m a comin' too
Comin 'too, comin’ too, tell 'em that I’m a comin' too.”

Byddai rhai, wedi colli pob hunan-lywodraeth, yn neidio cyfuwch a'r seti, ac yn bloeddio â'u holl nerth, a phan dybiem eu bod ar roddi heibio y geiriau hyn, wae a hi drachefn gydag adnewyddol nerth –

“If you get there before I do,” &c.

Ond gadewch i ni weled pethau tua sedd y galarwyr. Yno y mae dau, mab a merch, ar eu gliniau mewn ymdrech galed am yr
(x28) adenedigaeth. Gallem feddwl fod y mab yn arddangos arwyddion o lwfrdra a chwant rhoddi i fyny; ond y meddygon ysbrydol, gan sisial geiriau gobeithiol yn ei glustiau, a'u calonogent i barhau. Unwaith sylwais eu bod, ar ol craffu yn fanwl arno, yn gwneud arwyddion llongyfarchiadol ar eu gilydd, gystal a dweyd, y mae gwaith gwirioneddol yn cael ei wneud ar hwn. Am y ferch, yr ydoedd yn galed iawn arni hi. Torai allan mewn ysgrechfeydd o anobaith; estynai ei breichiau yn nydd-droedig tuag i fyny, ac yr oedd ei holl gyfansoddiad megys yn cael ei ddirdynu yn aethus. O'r diwedd ymroddodd y cantorion i ganu o amgylch y ddau - canu yn ddiddiwedd nes oeddynt bawb yn wres, yn chwys, ac yn darth drosdynt oll, ac yn y sefyllfa hono y gadawsom ni hwy, ac yr ydoedd agos yn ganol nos. Druain o blant Ham. Y maent yn dyfod i fyny o'r anialwch, ac y maent yn dda genym eu gweled. Y maent yn awr yn rhodio y tiroedd y bu ein tadau yn Nghymru arnynt.

“Fe lama'r gwyllt farbariad gwael, fe lona’r Ethiop du,
Wrth glywed am yr anfeidrol Iawn a gaed ar Galfari.”

TEITHIAU CWMPASOG.
 O Plymouth aethum 60 milldir yn orllewinol i Danville (p. 8,000) lle y mae melinau haiarn a dur yn rhoddi gwaith i lawer o’n cenedl ni. Oddiyno gwnaed i mi fyned agos gan' milldir yn ddwyreiniol i Slatington trwy barth a thref hynod a elwir Mauch Chunk (p. 6,000), lle mewn cwm cul a dwfn iawn y ceid prin digon o le i'r afon, y reilffordd, a’r rhestr dai. Yma tynir cerbydau reilffordd i fyny ar hyd osglawr i gopa lle a elwir Mynydd Pisgah, mil o droedfeddi uwchlaw yr afon, yna gollyngir hwy i fyned yn eu pwysau 8 milldir i Summit Hill. Gelwir y parthau hyn yn Switzerland America, a llawer yn yr haf sydd yn dyfod i'w gweled gan hardded y golygfeydd. Tref yn nghanol gwlad o lech-chwarelau ydyw Slatington (p. 5,000) ar làn yr afon Lehigh, ychydig yn ddeheuol o Mauch Chunk. Y mae y Cymry a fegir yma, trwy gydfyw i chenedl arall, mor hyddysg yn yr Ellmynaeg ag ydynt yn y Gymraeg a'r Seisnaeg. Gan gymeryd cyfeiriad deheuol oddiyma trwy Allenton (p. 19,000) daethum i Philadelphia. Caf achlysur i roddi desgrifiad o'r ddinas hon ar fy nychweliad; ni chrybwyllaf, gan hyny, yn awr ond ddarfod i mi, ar ol aros agos wythnos ynddi, gymeryd taith orllewinol o fwy
(x29) na chan’ milldir trwy Lancaster (p. 30,000) i West Bangor. Wedi dyfod i le a elwir Peach Bottom, cerddais agos ddwÿ filltir yn groes

(xLLUN: “Craig Chiques – Reilffordd Pennsylvania”)

i afon Susquehanna, ac er fod dyfnderoedd o ddyfroedd gwlybion danodd, cedwais fy ngwadnau yn sychion. Tair milldir drachefn ac yr oeddwn yn mhlith chwarelwÿr Cymreig West Bangor. Wedi
(x30) cerdded ar ddyfroedd celyd yr afon yn ol a chymeryd y gerbydres ar hyd ei galon i gyfeiriad gogledd-orllewinol, heibio Columbia (p. 7,000) Craig Chiques, oddiar yr hon y ceir golygfeydd ardderchog, a rhedeg dan greigiau rhamantus eraill rhyngddynt â'r afon, daethum i Harrisburgh, y ddinas dalaethol (p. 31,000). Un o'r pontydd hiraf ac ardderchocaf ydyw yr hon sydd gan y reilffordd yma yn croesi y Susquehanna, ac afon brydferth iawn ydyw yr afon hon; y mae iddi led dirfawr, ond rheda ar ormod o oriwaered i fod yn fordwyol. Y mae ynddi lawer o ynysoedd hyfryd, gyda ffermydd ac adeiladau rhagorol arnynt. Yr ynysoedd hyn a brynodd William Penn gyntaf gan yr Indiaid, a'r wlad ar ddau tu yr afon drachefn. Pan oeddwn yn teithio y ffordd hon ar dymor mwy hafaidd, ddeng mlynedd yn flaenorol, yr ydoedd arwedd baradwysaidd ar y wlad. Y pryd hwnw yr oedd gwyrddlesni y llechweddau prydferth, y rhai a ymgodent yn raddol ac yn mhell o ddau tu yr afon, ac eiddo yr ynysoedd ynddi yn cyfarch eu gilydd yn hynod o gariadus; y dyfroedd llydain, bywiog, a grisialaidd rhyngddynt yn serianu dan gyffyrddiad y pelydrau; adeiladau heirdd a meusydd o y^d a pherllanau yn britho y dyffryn a'r bröydd; pigdyrau y ddinas draw, y bont fawreddus ar res hir o fwäau, a'r gerbydres chwim, oll yn llefaru gwareiddiad ac adferiad trefn a pharadwys. Cydrhwng natur a chelfyddyd tybiwn glywed mewn cydgerdd bêr adseiniad y gân a ddysgodd y nefoedd i'r ddaear – “Gogoniant yn y goruchaf i Dduw: ar y ddaear tangnefedd i ddynion ewyllys da.” O Harrisburgh aethum fwy na chan' milldir i gyfeiriad gogledd-ddwyreiniol, gan fyned yn gyfagos i Mauch Chunk, a chroesi rywle y ffordd y bum arni o'r blaen o Danville i Slatington. Yr ydoedd eira tew yn gorchuddio y mynyddoedd, a naws auafol ryfeddol ar yr hin. Gelwais yn Pottsville (p. 14,000), tref fywiog yn nghanol glo-feusydd cyfoethog; y mae ynddi hefyd amrai ffwrneisiau a melinau tân. Saif mewn lle harddwyllt uwchlaw y fan y rhuthra Afon Schuylkil trwy gulfwlch hir yn y mynydd. Gelwais hefyd yn Minersville, St. Clair, a Shenandoah (p. 11,000), yn yr oll o'r rhai, yn gystal ag amrywiol drefydd eraill o amgylch, y mae llaweroedd o Gymry yn tori glo. Wedi myned i'r cyfeiriad hwn can belled a Jeddo ac Upper Lehigh, cymerais gyfeiriad gorllewinol o 60 milldir trwy Hazleton (p. 8,000) i Danville.

(x31)
Wedi dychwelyd o'r capel i dy un o'r swyddogion mewn rhyw dref ar un o'm teithiau hyn, cawsom fod ei ferch fechan, wrth erbyn stove eiriasboeth wedi serio ei dwylaw, a chymaint fel yr oedd yn drueni clywed y fechan yn crio.

“A fyddwch chwi gystal a chyrchu Mrs. _____ (Ellmynes) yma?” gofynai y tad i'w gydswyddog.

“Gwnaf, yn union,” atebai hwnw, ac ymaith ag ef.

“A ydych chwi, Evans, yn credu mewn powwowio?” gofynwyd i mi yn nesaf. Gair Indiaidd yw powwow am ddefod Indiaidd o iachâu trwy riniaeth.

“Ni welais erioed mo hono, ac nis gwn beth ydyw,” atebais.

“Wel, chwi gewch weled yn union os ewyllysiwch. Dyna beth ydyw, rhai yn lleddfu poenau ac yn iachâu archollion a chlefydau trwy wneud arwyddion a dweyd geiriau neillduol.”

Yn fuan daeth dyn (nid oedd y ddynes gartref) yno, ymaflodd yn nwylaw y ferch fechan, rhwbiodd hwy rai gweithiau â'i ddwylaw ei hun, ac ar yr un pryd sybrydai rhyw eiriau rhy isel i neb o honom allu eu deall. Syrthiodd y fechan i gysgu yn ddiatreg. Ni theimlodd y poenau drachefn, ac yn raddol cwbl iachâodd ei dwylaw. Yr wyf yn meddwl nad oedd y gallu a feddai y dyn yn caniatâu iddo godi tâl am ei waith, ond yr oedd yn. rhydd iddo dderbyn rhodd. Gofynais iddo a wnai efe gyfranu y ddawn hono i mi. Atebodd nas gallai dyn ei chael trwy ddyn, na dynes trwy ddynes, fod un o'r naill yn gyfrwng trosglwyddiad o honi i un o'r rhyw arall, ond fod yn rhydd iddo ein hysbysu y gallai unrhyw un arafu neu atal rediad gwbl gwaed o archoll hyd oni ddelai cymorth mewn achos o ddamwain trwy ddweyd dair gwaith uwchben yr archolledig y geiriau, “Yn dy waed bydd fyw.”

GORLLEWINBARTH PENNSYLVANIA.
O Danville cychwynais ar daith o 180 o filldiroedd yn orllewinol i fyned i Ebensburgh. Y
{sic} oeddwn yn awr yn myned a fy wyneb ar wlad fynyddig arw. Dengys y darlun le yn yr hwn, dros gan' mlynedd yn ol, y llofruddiwyd Jack Anderson a'l gydymaith, helwyr, gan yr Indiaid, llawer o'r rhai cyn hyny a laddwyd ganddynt hwy. Gelwir y lle am hyny yn Jack's neu Jack Anderson's Narrows. Megys y gwelir yn y darlun hwn, y mae holl reilfford Pennsylvania

(x32)
(xLLUN: “Culfanau Jack (Jack’s Narrows) – Reilffordd Pennsylvania”)

(x33) yn ddwbl, trwy yr hyn y cauir allan y perygl o wrthdarawiadau. Y mae y ffordd hon yn ei holl gysylltiadau yn un o'r rhai goreu, mwyaf dyogel, a chyfleus i ymfudwyr a theithwyr o bob math. Anmhosibl fyddai cael gwell cysylltiadau i wahanol bwyntiau y gorllewin nag a geir ar hon. Dan reolaeth ei pherchenogion hi y mae y prif ffyrdd belled a Chicago a St. Louis. Yn Altoona (p. 20,000) dechreuasom o ddifrif esgyn Mynyddoedd Alleghany. Ar ei hesgyniad can belled a Cresson, pwynt uchaf y llinell, ymddirwynai y gerbydres ar byd llethrau mynyddig, gan arddangos rhai golygfeydd o’r fath fwyaf ardderchog, Ar y ffordd hon y mae yr Horseshoe Bend enwog, lle y mae tro mor sydyn fel ag i beri i ambell gerbydres hir ymddangos fel pe byddai ei cherbydau blaenaf yn myned i gyfeiriad gwrthgyferbyniol i'w cherbydau olaf. Llawer teithiwr a dwyllwyd yma gan y dybiaeth mai cerbydres arall yn myned i gyfeiriad arall fyddai rhan o'i gerbydres ei hun.

Disgynais yn Cresson, lle ffasiynol ar gyfrif ei ymwelwyr yn nhymor haf, i fyned wyth milldir yn ogleddol i Ebensburgh. Yma y mae y sefydliad Cymreig henaf yn y wlad, sef o'r rhai ag sydd eto yn siarad yr hen iaith. Hwn ydyw y pwynt uchaf ond un ar Fynyddoedd yr Alleghany; saif dros 6,500 o droedfeddi uwchlaw arwynebedd y môr. Y mae y mynyddoedd hyn yn wneuthuredig o rai gadwyni tua 900 o filldiroedd o hyd o dde-orllewin i ogledd-ddwyrain, ac o 50 i 200 milldir o led. Yn ol y Parch. B. F. Bowen, awdwr America Discovered by the Welsh, y mae eu henw Alleghany o darddiad Cymreig, sef o gallu a geni, yn golygu genedigaeth alluog neu enwog, wedi ei gael oddiwrth yr hen breswylwyr, yr Alligewi {sic} Indians, llwyth a dybiai ef ydoedd o hiliogaeth Cymry a ddaethant gyda Madog ab Owen Gwynedd i America dros 700 o flynyddoedd yn ol. Ceir crybwyllion pellach am yr Indiaid Cymreig yn y gwaith hwn.

O Ebensburgh disgynais ar hyd y goriwaered ar y tu gorllewinol i'r mynyddoedd, a'm gwyneb ar y wlad eangfawr sydd rhyngddynt i'r Mynyddoedd Creigiog, cydrhwng y rhai nid oes ond bryniau a rhai o'r gwastadeddau mwyaf yn y byd. Ar y goriwaered, 18 milldir yn dde-orllewinol o Ebensburgh, y mae
Johnstown (p. 22,000), dinas fywiog ar lan afon Conemaugh. Glofaoedd y parthau, yn gystal a'r tân-weithfaoedd, sydd yn cadw y trigolion mewn prysurdeb (x34) mawr. Yma, meddir, y mae y felin ddur fwyaf yn y wlad. Gan gymeryd y gerbydres eto agos 80 milldir yn orllewinol trwy Greensburgh, Irwin, a Braddocks, yn yr oll o'r rhai y mae llaweroedd o dân-weithwyr, a glowyr o Gymru, daethum i Pittsburgh, y ddinas enwocaf am weithfaoedd haiarn, dur, copr, alcan, gwydr, &.c., yn yr holl wlad. Darfu i beirianydd y ddinas yn ei adroddiad swyddogol, rai blynyddau yn ol, ddweyd pe gosodid holl weithfaoedd y ddinas i gyffwrdd â'u gilydd yn rhes y gwnaent linell o 36½ o filldiroedd. Bernir y gwnaent yn awr 40 milldir. Dinas fyglyd ryfeddol ydyw, ond yn ei mwg y mae ei chyfoeth. Gwahanir Pittsburgh briodol (p. 157,000) oddiwrth Alleghany City (p. 79,000) gan Afon Alleghany, ac oddiwrth Birmingham neu South Side (p. 9,000) gan Afon Monongohela. Y ddwy afon hyn yn nghyd, islaw y ddinas, a wnant yr Ohio. Amgauir y dinasoedd gan fryniau creigiog, serth a ymgodant 500 o droedfeddi uwchlaw yr Ohio. Gorchuddir hwy gyda chyflymdra rhyfeddol gan adeiladau newyddion ac osgloriau i ollwng y preswylwyr mewn cerbydau crogedig i lawr ac i'w tynu i fyny. Yn Pittsburgh y cyhoeddir y Wasg, newyddiadur Cymreig.

BOD YN DDYN DYEITHR.
Ar derfyn taith arall o 60 milldir yn ogledd-orllewinol, daethum i
Sharon (p. 6,000), yr hon a saif bron ar y llinell derfyn rhwng Pennsylvania ac Ohio. Yr oeddwn wedi drwgdybio fy hun droion nad oedd gwedd barchedig na hawddgar arnaf, ac yn y lle hwn cafodd fy nrwgdybiaeth ei gryfhau, canys methodd y rhai a ddaethant i'r orsaf i gyfarfod â mi weled neb tebyg i bregethwr yn disgyn o'r gerbydres. Dychwelasant, gan hyny, hebddo, a minau a grwydrais hyd a lled y dref i chwilio am Gymry neu eu capel. Ar fy ngwaith yn holi am y cyfryw yn nrws rhyw dy cynwysedig o rhyw genedl ryfedd, daeth arnynt fraw disymwyth. Pa un ai gweled arnaf arwyddion dialeddwr, neu guddgeisiad (detective), neu rywbeth cas arall yr oeddynt, nis gwn. Er i mi geisio edrych yn llon a thyneru fy llais, yr oll a gawn ganddynt ydoedd “No - I don't know,” gydag arwyddion o awydd angerddol am i mi fyned; ac nid cynt y cefnais arnynt nag y clywais y drws yn chwyrn gau, yr agoriad yn troi, a'r clo yn cloi; ac er cloion, c'lymau cloriau clud, y mae yn rhyfedd genyf os na welsant fi drachefn yn eu cwsg gydag (x35) arfau angeuol yn barod i'w lladd. O'r diwedd cefais y ty iawn, y capel iawn, a chefais mai pobl iawn oedd Cymry Sharon. Oddiyma aethum i'r lleoedd cyfagos yn Ohio, sef Brookfield, Coalburgh, Hubbard, a Crabcreek. Traed-deithiwr oeddwn yn y parthau hyn. Ar fy nynesiad at Hubbard daeth arnaf chwant bwyd. Rhag na chawn gyfleusdra yn fuan drachefn aethum i'r ty cyntaf a ymddangosai yn debyg i eating house; ond nid hyny ydoedd; nid oedd i'w gweled yno ond pethau yfed ac yfwyr llawen-ffol. Mynegais fy nghamgymeriad wrth w^r y bar, yr hwn ydoedd Wyddel. Yntau ar unwaith a'm dûg i ystafell arall, a pharodd osod ciniaw da o fy mlaen, ac er fy syndod gwrthododd gymeryd tâl - “Because ye have a riverend appearance and a ginuine timperance mon.” Cymerais gysur ar ol hyn, gan wenieithio i mi fy hun fod y dyn hwn yn gweled yn ddyfnach na phobl Sharon. Nid oedd genyf gyhoeddiad, dealler, yn Hubbard, na neb o'r Cymry yn rhagwybod am fy nyfodiad.

Ond wrth fy mod yn son am bethau fel hyn y mae yn dyfod i fy nghof ddiwrnod yn
Pennsylvania y daeth cyfaill gyda mi i _____, wel, ni waeth i ba le, i holi hanes y Cymry yno. Dygwyddasonm fod yn llety gweinidog un eglwys pan oeddynt yn hwyliaw at giniaw, ac yn nhy diacon eglwys arall pan oeddynt ar fyned at y bwrdd. Gan na chawsom wahoddiad i gyfranogi yn y naill dy na'r llall, aethom trwy y pentref yn y prydnawn i chwilio am rhyw dy y gallem brynu lluniaeth ynddo. Gan nad oedd y cyfryw i'w weled dywedais wrth fy nghyfaill, “Dacw restaurant, ni a gawn ymborth acw ond odid.” Gwyddwn fod llawer o dai yn myned dan yr enw restaurant heb fod ynddynt bethau meddwol, ond yn ddiweddar y daethai fy nghyfaill o Gymru, yn gystal ag at yr achos dirwestol, ac atebodd yn benderfynol, “Na, nid af i'r ty acw ar un cyfrif, rhag i rywrai ein gweled a dwyn arnom anair.” Minau, yn parchu ei deimlad a'i burdeb, nid ymrysonais âg ef yn mhellach. Gwelsom siop fechan, cynwys ffenestr yr hon a roddai le i ni obeithio cael rhywbeth yno. Gofynasom a allem gael te yno. “O, gellwch,” meddai y dyn, gydag Ellmyniaeth dew ar ei dafod. Arweiniwyd ni i ystafell briodol, ac i ddysgwyl i'r dwfr ferwi daeth bara ac ymenyn a rhyw bethau eraill i'r bwrdd. Can gynted ag y gwelsom ac yr aroglasom y pethau hyny darfyddodd ein chwant bwyd, do, daethom i deimlo yn ddigonol (x36) fel nad oedd arnom eisieu dim. Ein gofal nesaf ydoedd am rhyw ffordd i osgoi bwyta. Gan wneud esgus i fyned i'r heol ffoisom tua'r orsaf, gan ysgwyd y llwch oddiwrth ein traed yn dystiolaeth yn erbyn y gweinidog a'r diacon.

GOGLEDD-DDWYRAIN OHIO.
Parthau glofaol yn benaf ydynt Brookfield, Coalcreek, Hubbard, a Crabcreek. O'r lle diweddaf nid oedd genyf ond dwy filldir i Youngstown (p. 16,000), tref fywiog a chynyddol iawn. Gwahanol fathau o felinau tân ydynt eu bywyd penaf, er fod masnach yn gyffredinol yn flodeuog ynddi, a glofaoedd mawrion o’i hamgylch. Bum yn ceisio bugeilio deadell fechan yn y dref hon, yn gystal a Weathersfield a Church Hill, rai blynyddoedd yn ol. Llawenydd i mi ydoedd gweled yr achos wedi cynyddu cymaint yn Youngstown, ac yn y ddau le arall yn dal ei dir. Wedi talu ymweliad â hwy, a myned trwy Girard, Mineral Ridge, a Niles, oll yn agos i'w gilydd, cymerais daith o tuag ugain milldir yn orllewinol i Palmyra, pentref mewn hen sefydliad Cymreig. Ar fy ngwaith yn myned i siop gyfferiau Morddal, cefais ef ar wastad ei gefn ar ei faelfwrdd (counter) yn cyfansoddi marwnad. Nid ysgrifenasai onid dwy linell –

“Dystawed holl derfysglyd leisiau'r cread,
Tra y dadganwyf ddyfnder dwys fy nheimlad”

- pan y daeth gwas y cread, yn mherson ysgrifenydd yr hanes hwn, i aflonyddu
arno am holl helyntion y Cymry yn y rhan hono o'r cread. Oddiyma aethum i Parisville, bum' milldir yn ogleddol, ac oddiyno i Tallmadge a Thomastown, 30 o filldiroedd yn orllewinol, lle y codir glo. Wedi cael y gerbydres yn Akron (p. 17,000), aethum 33 o filldiroedd yn ogleddol, a chefais Cleveland (p. 161,000), ar lan Llyn Erie. Yn nesaf at Cincinnatti hon ydyw y ddinas fwyaf a phwysicaf yn y dalaeth. Y mae yn hardd yn ei gosodiad allan, ac yn gyfoethog yn ei masnach a'i hamrywiol weithfaoedd. Yn ei gwahanol gyrau, Newburgh, Lake Shore, a West Side, y mae llaweroedd o Gymry.

Yn agos yma y preswyliai y Cadfridog James A. Garfield, yr hwn, yn ol ei addeflad ei hun, ydoedd o waedoliaeth Gymreig. Cofiwyf yn dda am ei gyd-chwaer-yn-nghyfraith, yr hon y pryd
(x37) hwnw ydoedd Miss Phillips, o Parisville, merch ieuanc hawddgar a

(xLLUN: “J. A. Garfield”)

phrydweddol, a chantores o enwogrwydd mawr. Daeth y Cadfridog hefyd yn dra hoff o honi. Yr ydoedd yn amser o lawenydd yn yr amgylchoedd hyn pan oeddwn yno, a pharotoadau mawrion yn cael eu gwneud ar gyfer hebrwng
Garfield yr wythnos nesaf i Washington i gymeryd y gadair arlywyddol. Edrychir ar yr Arlywydd hwn fel engraifft nodedig o ddyn hunan-wneuthuredig. Delir ef allan bellach yn hanes y wlad fel gwron gwirionedd, esiampl deilwng, ac anogaeth gref i bobl ieuainc ymroddgar yn milwrio yn erbyn rhwystrau.

DELAWARE A COLUMBUS.
O Cleveland yr oedd genyf dros gan' milldir i fyned yn ddeheuol i Delaware a Radnor, tref a phentref wyth milldir oddiwrth eu gilydd, mewn gwlad amaethyddol, lle y mae llawer o hen ymsefydlwyr Cymreig. Yn Delaware (p. 7,000) y bum, yn y blynyddoedd 1868-9, yn myfyrio yn yr Ohio Wesleyan University. Daeth i'r athrofa hon (x38) y pryd hwnw fachgen o Gymro, bron newydd ddyfod o Gymru, ac yn ei holl berson yn berffaith Gymroaidd, gydag eithriad o fod yn amddifad; o'r yswildod hwnw ag sydd yn dueddol i flino y cyfryw fechgyn yn mhlith estroniaid. Wedi iddo raddio yma a threulio dwy flynedd mewn athrofa dduwinyddol, dair blynedd drachefn yn Athrofa Hulle, Prwssia, a rhyw gymaint o amser yn Ffrainc a chyda'r Llydawiaid, galwodd heibio i mi yn Pontrhydfetidigaid ar ei ddychweliad i America yn y flwyddyn 1878. Yr oedd i'w enw erbyn hyny gynffon hir, ledan, ac aml-lygeidiog fel eiddo paen - B.A., B.D., Ph.D. Dewiswyd ef i fod yn tutor yn Athrofa Delaware, ac wedi marw y Proffeswr La Croix cafodd waith hwnw. Ganddo ef yn awr yr oedd gofal Hebraeg, Germanaeg, a Ffrancaeg yr athrofa, ac y mae yn hyddysg mewn pump o ieithoedd eraill. Pregethwr sychlyd ddigon, meddir, ond ysgolhaig rhagorol. Gweithiodd ei hun i fyny trwy lawer o anhawsderau. Cefais ef ar fy ymweliad hwn, er yn meddu priod hawddgar o Americanes, mor Gymroaidd a dirodres ag erioed.

Oddiyma aethum i ardal
Westerville i weled fy mrawd a'i deulu, ac oddiyno i Columbus, prif ddinas y dalaeth (p. 52,000). Hen gartrefle i mi ydoedd y ddinas hardd hon. Yn yr eglwys Fethodistaidd yno, yn nechreu y flwyddyn 1868, y cofais y fraint o ddechreu ar fywyd cyhoeddus. Y mae y talaethdy mawr, lle y cyferfydd deddfwrfa Ohio, y carchardy talaethol, y nawdd-dai rhagorol i fyddariaid, mudion, deillion, a gwallgofiaid, yr arf-orsaf filwrol, athrofa amaethyddol, ynghyda nifer o adeiladau a sefydliadau rhagorol eraill, yn rhy luosog i gynyg desgrifiad o honynt yma.

JOHN B. GOUGH.
Dylaswn fod wedi nodi mai ar yr achlysur o fy ymweliad diweddaf hwn â
Delaware y cefais y pleser o wrando y byd-enwog J. B. Gough yn darlithio i'r myfyrwyr ar ei “Platform Experience.” Gw^r blewog ydyw efe, ac yn dechreu myned yn henafgwr. O ran corpholaeth, efallai ei fod ychydig yn fwy na'r maintioli canolig, heb fod yn dew nac yn deneu, yn arw nac yn dêg, yn llon nac yn llwfr, nac yn ddyn neillduol yn ei safiad cyffredin, ond medda ei gyfansoddiad y fath hydwythedd (elasticity) fel y gall neidio fel mynn, a gwneud pob ystumiau cyfatebol i'w ymadroddion byw a darluniadol (x39) a hyny gyda'r rhwyddineb a'r naturioldeb mwyaf. Gallai fel chwareuydd (actor) fod yn seren o'r maintioli mwyaf. Yr achos, meddai, na byddai wedi dilyn yr alwedigaeth hono, ar ol syrthio mewn cariad angerddol ati yn ei ieuenctyd, ydoedd yr olwg ar y twyll, y rhith, y paent, y ffugwyneb, a'r carpiau gwael yr ymorchuddiai ynddynt. Cafodd ragrith yr alwedigaeth yn gyfryw y byddai yn gywilydd ganddo ei harddel. Yr achos na byddai wedi myned i'r weinidogaeth ydoedd ei amddifadrwydd o rai o'r doniau mwyaf angenrheidiol er ei chyflawni. Ni fedrai arwain cynulleidfa mewn gweddi. Pa bryd bynag y gelwid arno i wneud hyny crynai fel eithnen, a byddai yn barhaus yn y perygl o dori i lawr. Profedigaeth chwerw iddo fu cael ei a1w - yn sydyn gan Dr. Parker, Llundain, i ddiweddu oedfa yn ei City Temple. Y mae y ddawn ddesgrifiadol yn rhyfeddol gan Gough, a'i ddylanwad yn gyfatebol. Medr daflu cynulleidfa o filoedd nes byddo yn swp ar lawr, a'r foment nesaf ei chodi a pheri iddi ehedeg yn orfoleddus yn y goruchafion. Gwna i'r difrifol a'r digrifol gyd-rodio yn gymdeithasgar, a phair i wylo a chwerthin brydferthu eu gilydd fel gwelediad enfys amryliw ar gwmwl du. Caffaeliad anmhrisiadwy i achos dirwest fu i'r areithiwr rhyfeddol hwn gysegru ei hun yn gwbl iddo.

ADGOFION HIRAETHLAWN.
O'r miloedd milldiroedd a deithiais, y darn plaen o
Columbus i Newark, ar gyfrif adgofion cysegredig, oedd y mwyaf dyddorol i mi. Yn ngorsaf Columbus, 18 mlynedd yn ol, y cefais yr olwg olaf ar fy nhad, ac y gwrandawais ei gyngor diweddar. Ar hyd y reilffordd hen, yn mhen ychydig fisoedd drachefn, yr aed a'i gorph i'w osod i gyd-orwedd âg eiddo ei fab hynaf yn y fynwent gerllaw Newark, a ninau, myfi a’m brawd, yn mhellderau y de gyda'r fyddin yn gwybod dim am y peth. Ar hyd yr un ffordd wedi hyny yr aethom gyda'r hyn oedd farwol o'n hanwyl fam, i’w gosod yn yr un lle. Adgyfododd yn fy meddwl ugeiniau o hen ddygwyddiadau rhyfedd yn nghydol yr awr y cyflawnais y daith hon. Dyna yn dyfod i'r golwg ar yr aswy hen ysgoldy Willoughby, lle, 30 o flynyddoedd yn ol, yr aethum gyntaf i'r ysgol. Dyna eto ar y dde yr hen dy, yr hen berllan, y coed a'r caeau, ein preswylfod cyntaf yn y wlad. Yn Newark a’r amgylchoedd cefais gyfnewidiadau - hen adeiladau wedi (x40) myned, ac eraill wedi dyfod yn eu lle; ac - am yr hen gydnabyddion -

“Mae rhai mewn beddau'n huno, a'r lleill ar led y byd,
Nad oes un gloch a ddichon eu galw heddyw ’nghyd.”

Aethum i weled yr hen fferm a'r anedd-dy. Dyeithriaid oeddynt yno yn awr - dyeithriaid yr anifeiliaid, yr adar, y celfi, a phobpeth, hyd yn nod y meusydd, y ffyrdd a'r llwybrau cynefin, er fy mod yn cofio am danynt gyda pharch, ac yn eu caru yn fawr. Nid oedd ganddynt hwy yr adgof lleiaf am danaf fi, ac ni fedrent ddweyd gair wrthyf. Telais ymweliad â’r fynwent; yno yr oedd llaw celfyddyd wedi gwneud ei goreu i gysegr-harddu llanerch y meirw - rhodfeydd cywraint, gyda pherthi a llwyni o fythwyrddion brenau yn gwahanu rhwng y rhandiroedd (lots) teuluol, ar y rhai y safai colofnau addurnedig, o feini teg. Unigedd a dystawrwydd pruddaidd, er hyny, a deyrnasai trwy y lle. Gan eistedd yno wrth feddgolofn ein teulu, ymollyngais i fyfyrio, ac mor llwyr yr ymgollais mewn hen adgofion fel y gellais bresenoli yn fy meddwl y tymor bachgenaidd a dreuliais dan edyn gwarcheidiol fy rhieni. Y pryd hwnw arferai dynwarediad gwan o'r awen gyfeillachu â mi. Daeth ataf hefyd yn awr, a chefais ganddi a ganlyn:-

Er dyfod dros y moroedd maith             
I'r llanerch gysegredig hon,               
Nid oes a etyb gri fy mron               
Ond daear laith.                           

Dan y twmpathau gwyrddlas hyn              
Mae fy anwyliaid wedi eu cloi,             
A'u henwau yma wedi eu rhoi                 
Ar farmor gwyn.                            

Gynt galwent fi, gofalent fwy              
Am danaf nag am gyfoeth trwch;             
Yn awr, er bod yn ymyl eu llwch,           
Nis gwyddant hwy.                          

O, drymed ydyw cwsg y bedd!                
Llawenydd llawn - gofidiau'r byd,             
Ei gri, ei gerdd, a'i dwrf i gyd,          
Ni thyr eu hedd                            

Pe'n effro heddyw, O fy nhad!             
Pe medrech holi anwyl fam,               
Pa holi serchog wnelech am                
Hen Gymru fad!      
                      
Y manau seiniech ynddynt gerdd,
A'r llwybrau rodiech ar bob darn
O'r wlad o amgylch Talysarn,
I’r fynwent werdd.

O'ch hen gyfoedion gwelais rai
A'u penau eto uwchlaw'r bedd;
Yn barchus, gyda gwelw wedd,
Gwnaent eich coffhau.

Yr hen amserau bywiog gynt
Yn welw rithiau welaf draw
A lwyr ddiflanant maes o law;
Cysgodau ynt.

Diflana pob adgofion yn
Meddyliau pawb o luaws hil,
Y rhai a ddaeth trwy droion fil
I'r beddau hyn.

Os un o'r rhai'n ar ddamwain ddaw
Rhyw gyfnod pell, i heibio’n chwim
I'r fangre hen, heb feddwl dim
O'r llwch gerllaw.

(x41)  (xLLUN: GAN EISTEDD YNO WRTH FEDD-GOLOFN EIN TEULU, YMOLLYNGAIS I FYFYRIO.)

Awelon mwyn ac adar mân,             
Parhewch er hyn trwy oesau fyrdd,       
Rhwng cangau'r coed uwch egingwyrdd,     
Eich galar-gân.                         

Fy nhad a'm marn, fy mrawd a'm chwaer,  
Rhaid i mi eto grwydro'n mhell,         
A'ch gadael chwi mewn dystaw goll,     
Yn nghol y ddae’r.

Ai yma ai yn Nghymru draw.
Ai arall fan y'm cleddir i,
Gobeithiaf eto gwrdd â chwi
Ar ddeheu-law.

Y ddeheu-law! O gysur gwir!
Mae bywyd eto yn Iesu mwyn;
Anllygredigaeth wedi ei ddwyn
I oleu clir!

(x42) Y mae ar y tu gorllewinol i Newark weddillion cynfrodoraidd mor hynod, efallai, ag a welir yn y wlad. Hen amddiffynfeydd eu gelwir, pa bethau bynag oeddynt. Gorchuddiant rai milldiroedd o dir. Y mae yr oreu o honynt eto mewn cadwraeth dda. Cynwysedig ydyw hon o glawdd pridd cadarn, tua 15 troedfedd o uchder, milldir o amgylchedd, ac mor berffaith grwn fel nad allai peirianwyr goreu yr oes hon ragori arno. Amgylch ogylch oddifewn i'r clawdd y mae pantle dwfn a allasai fod yn gamlas. Ar ganol y tir amgauedig y mae codiad neu fath o fryn celfydd ar ffurf aderyn. Gall mai dinas gaerog ydoedd yr amddiffynfa hon, ac mai brenindy, neu senedd-dy, neu deml, ydoedd ar gefn yr aderyn. Bernir oddiwrth y coed mawrion a dyfant allan o'r gweithiau fod eu hoedran yn saith can' mlynedd o leiaf. Y mae yn y parthau hefyd lawer o ddaeargrugiau, a elwir Indian Mounds, yn y rhai wrth gloddio y ceir esgyrn dynol, arfau, a thrysorau eraill. Pwy oedd y dynion a wnaeth y pethau rhyfedd hyn yn gystal a'r gweddillion rhyfedd a welir yn nyffrynoedd yr Ohio a'r Mississippi, nid oes neb yn awr a fedr ddweyd. Arferwn pan yn fachgenyn gasglu gaethflanau (xsic) llymion o gallestr (flint) yn y parthau hyn, ond gall mai eiddo yr Indiaid diweddar oedd y rhai hyny.

Pan yn trigianu tua 12 milldir o'r lle hwn yn Hydref y flwyddyn 1854, synid ni gan yr olwg a gaem ar fyrdd-fyrddiynau o golomenod gwylltion, y rhai dros ysbaid tair awr bob prydnawn a barhäent yn ehedeg dros ein ty yn un cwmwl cyfrodedd, fel mai prin y gellid gweled yr awyr rhyngddynt. Ni byddai raid i un ond saethu ar antur na byddai nifer o adar yn sicr o syrthio. Myned i gysgu yr oeddynt i goedwig mewn corsle tua thair milldir oddiwrthym, a rhyfedd y difrod a wneid arnynt yno. Bob nos clywid twrf tanio megys ar faes rhyfel-helwyr o'r wlad a'r pentrefi cyfagos wedi dyfod a'u gynau, llusernau, a ffetanau. Ar yn ail âg ysbeidiau o saethu ar antur i frigau y coed aent gyda llusernau a ffetanau i gasglu yr helfa. Llenwid y marchnadoedd â'r cigfwyd hwn nes aeth y bobl yn ddigonol
arno, fel Israel gynt ar y soflieir. Hon ydoedd y flwyddyn ryfeddaf yn myd yr adar a welais erioed, ac un o'r rhai rhyfeddaf y clywais son am danynt.

AT YR
OHIO.
Wedi talu ymweliad i Granville a Bryniau Cymru, lleoedd agos i (x43) Newark (p. 10,000), cymerais daith ddeheuol o tua 150 o filldiroedd at yr Afon Ohio. Gelwais ar fy ffordd yn Shawnee a New Straitsville. Cefais letya yn nhy hen bobl garedig, wreiddiol, a chyffredin anghyffredin. Meddai yr hen wraig, Mrs. Esther Williams, eto yr edrychiad llawen a'r chwerthiniad llawn a roddwyd gyntaf i ddynion, yn nhyda'r ddawn o wneud dyeithrddyn ar unwaith yn berffaith gartrefol.

“Eistedd i lawr, fachgen,” meddai, “a rho beth o dy hanes. Yn mh’le yr wyt ti wedi bod? Fuost ti yn Sugar Creek eto?”

“Naddo, yr wyf yn meddwl galw yno ar fy ffordd yn ol.”

“Yr oeddwn i yno pan ddechreuodd yr achos crefyddol, wel di - pan ddechreuodd Howell Powell bregethu yno. Fi wnaeth y llyfrau ysgol cyntaf yn y lle. Yr oeddem yn ffaelu cael llyfrau eraill; ac mi neis i A B C ar bapyr gwyn a'i bastio ar shingles (to-estyll), ac yr oedd yr hen blant yn eu dysgu yn iawn, ac yn eu galw yn Llyfr Esther.”

Wedi dyfod at yr afon cefais fy hun mewn rhibyn main hir o bentrefi dan wahanol enwau - Syracuse, Minersville, Pomeroy, a Middleport, oll tua saith milldir o hyd. Ar eu tu cefn y mae bryniau mawrion, serth, allan o'r rhai y ceir glo a dyfroedd at wneud
halen a bromine. O'u blaen y mae yr afon ledan, lonydd, lwyd, ar yr hen y mae badau yn cario eu trysorau ymaith i'r marchnadoedd. Wrth hyn deallir mai glowyr, halenwyr, cylchwyr, a siopwyr ydynt y trigianwyr. O'r lleoedd hyn aethum tua 18 milldir yn mhellach i lawr i dref Gallipolis, lle, tua deugain mlynedd yn ol, yr arferai y Cymry adael yr afon i fyned i'r sefydliad, tuag 20 milldir yn ogleddol.
Gair Indiaidd ydyw
Ohio yn gosod allan, medd rhai, syndod neu ryfeddod. Byddai yr Indiaid pan ddeuent i olwg yr afon ar amserau gorlifiad, wrth weled y talpiau rhew anferthol, gyda bonion coed yn nofio i lawr ei dyfroedd trochionllyd, yn arfer codi en dwylaw mewn syndod a gwaeddi, “O! Hi! O!” ac felly y gelwir hi. Yr afon hen, yn amser caethwasiaeth, ydoedd y terfyn pwysicaf rhwng y talaethau rhydd a chaeth. Llawer ffoadur tylawd a fu yn dysgwyl yn bryderus ar lan yr afon hon, ac wedi ei chroesi teimlai fel wedi myned trwy ei Fôr Coch allan o'r Aifft. Yn Gallipolis cymerais yr ager-fad i fyned i Ironton. Gan fy (x44) mod wedi rhoddi desgrifiad o'r gerbydres, priodol yma ydyw gwneud y cyffelyb ran â’r ager-fad. Oddiallan y mae yn debycach i balas nofiedig nag i'r ager-fadau a welir ar y môr. Nid oes iddo ond un saloon, a hòno yn cyrhaedd agos o'r naill ben i’r llall ar y deck uchaf. Ychydig bellder oddiwrth eu gilydd yn y saloon ddysglaerwych hon y mae amryw fyrddau (telescope tables), ar y rhai y bydd rhai yn ysgrifenu, darllen, chwareu, &c.; ond ni chaniateir chwareu am arian, nac unrhyw ymadroddion nac ymddygiadau amgen na'r hyn fyddo weddaidd, a rhaid i'r ysmygwyr fyned allan. Y byrddau hyn, yn amser prydiau bwyd, a estynir at eu gilydd i wneud nifer llai o fyrddau hirach, ar y rhai yr hulir y danteithion brasaf a melusaf yn y drefn ardderchocaf mewn llestri dysglaer wedi eu goreuro neu eu gwisgo âg arian. Y mae yn syndod gweled cyflymdra y gweinyddion yn gosod y pethau hyn ar y byrddau ac yn eu tynu ymaith drachefn, cyflawnant yr oll megys ar darawiad; nid oes un cwmpeini o filwyr yn deall eu cyd-darawiadau yn well. Yn gyfochrog â’r ystafell hir hon ar bob ochr iddi, y mae mân ystafelloedd i gysgu ynddynt, lle i bedwar, dau bob ochr, y naill uwchlaw y llall. Pleser ydyw bod ar un o'r badau hyn ar dywydd hyfryd - gweled golygfeydd amrywiol, yn fryniau, dyffrynoedd, afonydd, coedwigoedd, meusydd, amaethdai, perllanau, &c., ar y glànau; pasio ynysoedd a chyfarfod ager-fadau mawrion a gwrthddrychau eraill ar yr afon. Gan nad oedd fy afon-daith y tro hwn ond 40 milldir daeth i'r pen yn rhy fuan o lawer.

Tref fywiog ydyw Ironton (p. 9,000), ac y mae y Cymry wedi ac yn chwareu rhan bwysig yn ei bodolaeth a'i chynydd. Melinau haiarn yn benaf sydd yn eu cadw mewn gwaith. Oddiyma aethum 30 o filldiroedd yn mhellach, i
Portsmouth (p. 12, 000), lle y mae Afon Scioto yn ymarllwys i'r Ohio. Oddiyno yn awr yr eir i

SEFYDLIAD CYMREIG JACKSON A GALIA,

un o'r rhai mwyaf a pharchusaf yn y wlad. Pobl o Sir Aberteifi yn fwyaf neillduol ydynt ei breswylwyr, yr hyn a bair alw y lle gan lawer yn Sir Aberteifi America. Rhaid mai Moriah ydyw el Llangeitho. Llafurio y ddaear a thynu mw^n haiam allan o honi a'i doddi mewn ffwrneisiau blast ydyw gwaith y trigolion. Oak Hill a Centerville ydynt y prif bentrefi, ac ychydig yn ogleddol i'r sefydliad (x45) y mae Jackson, prif dref Swydd Jackson. Gan fy mod yno ar adeg leidiog, pan oedd rhew ar ffyrdd toredig wedi toddi, a thrwch anarferol o eira lluwchiog wedi syrthio ar hyny, yr oedd eu teithio yn gryn orchwyl; ond rhoddwyd i mi geffyl cadarngryf i'm cario, do, rhoddwyd i mi Dock, yr hen geffyl du, cyfeillgar, eiddo yr Anrh. T. LI. Hughes; cariodd fi yn ddiddig trwy gydol saith mis y bum yn aros yn y sefydliad hwn yn flaenorol. Yr ydoedd y pryd hwnw, er yn ieuanc, yn geffyl sad a chyfrifol, ac yr oedd yn llawen genyf gyfarfod âg ef yn awr, a'i gael yn cadw ei oed, ei ysbryd, a'i nerth mor dda. Caffed ddigon o geirch hyd y diwedd, ac wedi hyny gorphwysed mewn heddwch.

Wrth basio hen adeilad gwag o gyffion a fuasai unwaith yn gapel bychan
Berea, daeth i fy nghof un o brofedigaethau digrifaf fy ngyrfa bregethwrol. Pregethu yr oeddwn yno o flaen y Parch. D. Harries (Chicago yn awr), pryd y cymerodd yr aderyn rhyfedd hwnw ei safle ar gangen yn ymyl y ffenestr, gan waeddi yn uchel, treiddgar, a dibaid dros ysbaid pum munyd, “Whip-poor-will, Whip-poor-will, “ nes peri i mi ddyryswch rhyfedd. Wedi myned allan gofynodd Harries yn gellweirus pa fodd y daeth yr aderyn i wybod fy enw.

CINCINNATI.
Yn Jackson cymerais y gerbydres i fyned tua 150 o filldiroedd yn orllewillol trwy
Chillicothe (p. 11,000) i Cincinnati (p. 256,000), y ddinas fwyaf yn nhalaeth yn gystal ag ar làn Afon Ohio. Enw y ddinas hon ar y cyntaf fuasai Losantville, yr hyn o'i gyfieithu yw “Y dref gyferbyn â’r geneu,” am ei bod yn sefyll gyferbyn a genau Afon Licking, ar ochr Kentucky i'r afon. Yn nesaf at Chicago, hon ydyw y laddfa foch fwyaf yn y byd, ac y mae yn dra enwog ar gyfrif ei masnach a'i hamryw weithfaoedd. Rhwng yr afon a'r lluaws reilffyrdd, deil gysylltiad uniongyrchol â phob lle pwysig yn y wlad. Amgauir hi o’i hôl gan fryniau geirwon, y rhai a ddringa gyda hoenusrwydd ieuenctyd.

Cyfarfuwyd â mi yn yr orsaf gan gyfaill, yr hwn, wedi fy nhywys i heol-gerbyd, a'm hysbysodd y byddai i ni y prydnawn hwnw fyned trwy Ardd Eden; ond cyn cyrhaedd y llanerch baradwysaidd hòno safodd ein cerbyd wrth odrau bryn serth. Chwap, teimlwn ein bod
(x46) yn myned drachefin. Ond pa fath fyned? Nid oedd y ceffylau yn symud troed, nac olwynion y cerbyd yn troi; nis gallwn weled ein bod yn pasio y railings na dim arall, ac eto teimlwn yn sicr ein bod yn myned rywsut i rywle. Erbyn ymchwilio cefais ein bod, yn gerbyd, ceffylau, ac oll mewn ty, a'r ty ar olwynion, yn cael ei ddirwyn ar hyd osglawr i ben y bryn. Fel yr esgynem daeth cyfangorph y ddinas i'r golwg odditanom. Daeth i fy nghof yr olygfa nosawl a gefais arni o ben un o'r bryniau hyn ddeunaw mlynedd yn ol. Y pryd hwnw ni chanfyddwn ond miloedd o nwy-oleuadau yn serenu yn y tywyllwch i bellderau draw. Gan eistedd fy hunan ar dwyn uchel, ceisiwn ddychymygu y myrddiwn golygfeydd a digwyddiadau oeddynt y munydau hyny yn myned yn mlaen yn y ddinas - rhai yn ynfydu yn y chwareudai, eraill yn wylo yn nhai galar ac yn llochesau trueni; rhai mewn llawnder a llawenydd, sidanau, gemau, ac aur yn ymfwytho yn eu parlyrau; eraill agos yn noethion, yn newymlyd, ac yn chwilio am rhyw dwll i lechu dros y nos; rhai yn eu hystafelloedd yn gweddio ac yn mwynhau cymdeithas ddirgelaidd â’u Duw, eraill mor ddirgelaidd a hyny yn llercian oddiamgylch, ac yn cynllwyn am gyfle i dori i dai; rhai yn cael eu geni i'r byd ac yn dechreu ar ddirif ddygwyddiadau bywyd, eraill yn ystafelloedd angeu yn anadlu eu holaf ac yn wynebu byd yr ysbrydoedd. Pa gymysedd aruthrol o ryfeddodau a allaswn ganfod dan fantell y nos hòno yn yr un ddinas hon pe cawswn fenthyg llygaid angel! Dychrynwyd fi gan symudiad rhywbeth yn fy ymyl, deffroais o'm gwibfeddyliau (reveries), a brysiais i lawr i gymeryd rhan fy hun yn y drama. Ffaith ddifrifol ydyw fod delweddiad perffaith o holl ddygwyddiadau y nos hòno, a phob nos a phob dydd arall yn mhob lle, wedi en hargraffu yn annileadwy ar leni tragywyddol y byd ysbrydol, ac yr ymddangosant eto yn ngoleum tanbaid y farn! Wedi cael pen y bryn y tro hwn a myned trwy Edell Park, cefais fy hun yn un o fyrdd-dai Athrofa Dduwinyddol Lane, ar Walnut Hill.

TAITH YN NGWLAD Y RHYFEL.
Ni ynwelais a
Tennessee ar fy nhaith ddiweddaf hon, ond gan mai o Cincinnati yr aethum yno yn haf y flwyddyn 1864, a bod dygwyddiadau y daith hòno yn amrywiol, mi a roddaf ei hanes yma. Wedi cael galwad i fyned i wasanaethu fel arluniedydd yn y fyddin, (x47) lle yr oedd fy mrawd yn flaenorol, gadewais cartref yn Columbus, ac wedi dyfod i Cincinnati cymerais yr ager-fad, can belled a Louisville (p. 124,000), dros 80 milldir i lawr yr afon. Hon ydyw y ddinas fwyaf yn Kentucky, a'r enwocaf o bell ddinasoedd America fel marchnadfa myglys. Saif uwchlaw rheiadrau Ohio, lle y mae disgyniad o 22½ o droedfeddi mewn dwy filldir. Oblegid hyn rhaid i lawer o’r nwyddau a gludir ar yr afon gael eu trawsfudo i fadau is neu uwchlaw y rheiadrau. Medda y ddinas heolydd uniawn, heirdd, yn cael eu cysgodi lawer o honynt gan goedydd prydferth. Nis gallwn fyned yn mhellach heb ddangos fy nhrwydded, canys yr oedd y reilffyrdd a phobpeth arall yn meddiant y fyddin. Gellais fyned can belled a Nashville, agos i 200 milldir yn ddeheuol, heb brofedigaeth, yn ngherbydres y milwyr. Nashville (p. 44,000) ydyw prif ddinas yn gystal â’r ddinas fwyaf a chyfoethacaf yn Tennessee; ond y pryd hwnw yr ydoedd agwedd aflêr ddigon arni., fel y rhan luosocaf o ddinasoedd y de yn amser y gwrthryfel inawr. Lle rhyfedd ydoedd y farchnadfa, gellid meddwl fod yr holl wlad wedi dyfod yno i gael bwyd - byddent yno yn wynion, duon, a melynion – gwy^ r, gwragedd, a phlant - milwyr a dinasyddion - caethion newydd gael eu rhyddhau, a phobl wynion wedi colli cartrefi a meddianau trwy y rhyfel - lluaws mawr gyda basgedau neu arffedogau yn gwerthu bara ac ymenyn, cacenau, pasteiod, tatws a chig wedi eu berwi, cwpaneidiau o goffi, te, cider, potes, a phob rhyw  stwff; eraill yn prynu, a gwelid minteioedd ar bob congl ac ar bob careg, rhai yn eistedd, rhai yn sefyll, a rhai yn cerdded tra yn ymborthi, a'r llaid yn ehelaeth {sic} dan draed, ac yn cynorthwyo y rhwygiadau a'r clytiau amryliw i addurno eu gwisgoedd. Golygfa ryfedd iawn. Gydag anhawsdra mawr y gellais cael cerbydres i fyned yn mhellach. Nid oedd reol o gwbl ar gerbydresi teithwyr cyffredin. Aethum y nos cyntaf i hotel i gysgu. I gysgu! Nage ond i ryfela yn ddychrynllyd â’r mosquitoes ofnadwy. Er i mi darianu fy hun â llenlïan (sheet) y gwely (nis gallwn gan y gwres fyw a'm pen dan fwy o ddillad pe baent i'w cael), cefais fy mhigo fel erbyn y boreu yr oedd un o fy llygaid wedi cau yn hollol, a'r llall yn gallu agor yn brin. Treuliais yr ail noswaith ar yr orsaf gyda'r milwyr, a chefais lonydd yno gan y mileiniaid colynawg., Y drydedd noswaith dywedid fod cerbydres at gario teithwyr yn cael ei darparu i (x48) gychwyn tua haner nos. Yn lle aros i hòno bum mor ffodus a chyfarfod â milwr caredig, yr hwn a berswadiodd y swyddog ganiatâu i mi gael myned gydag ef yn ngherbydres y milwyr, tua chan milldir yn mhellach.

Ffawd ryfeddol fu i mi gael myned ar y gerbydres hòno, oblegid daliwyd y gerbydres gyntaf a ddaeth ar ei hol gan y gelynion, carcharwyd y milwyr, ysbeiliwyd y teithwyr eraill, torwyd y ffordd, fel y buwyd bythefnos cyn y gellid teithio arni drachefn.

Gwelid olion difrodawl y rhyfel ar y wlad yn mhell cyn cyrhaedd
Nashville; ond wedi pasio y ddinas hòno, nid oedd ond olion rhyfel i'w canfod ar bob llaw. Ni welid na chlawdd, na gwrych, na fences, na chaeau o fath yn y byd. Gyda'u bod wedi eu clirio o lawer o'u coedwigoedd mawrion, yr ydoedd y parthau wedi eu darostwng bron i'r un annrhefn ac anghyfanedd-dra ag oeddynt cyn i'r wlad gael ei meddianu erioed. Yma a thraw gwelid ambell adeiladau gwynion mawrion yn ddrylliau, a bwthynod y caethion yn gyfagos - rhai yn weigion ac eraill yn cael eu trigianu gan weddillion preswylwyr. Gadewais Ohio pan oedd y bryniau a'r bröydd yn llwythog gan gynhyrchion aeddfed y ddaear, cnydau toreithiog a ffrwythau yn plygu cangau'r coed. Ond yn y parthau deheuol hyn ni chanfyddid ond noethder a llymder megys bro marwolaeth. O! ddifrod a dinystr ofnadwy ydyw eiddo rhyfeloedd; ac O! mor dda yr addewidion a sicrhant derfyn hollawl arnynt. Y trefi a'r pentrefi oll oeddynt wedi eu meddianu gan filwyr, ac yn amlach na hyny, byddai amddiffynfeydd wedi eu codi er cadw gwyliadwriaeth ar y ffordd.

Nid oedd hon mewn un modd yn daith ddiberygl. Yr oedd yn wybyddus fod nid yn unig ysbiwyr a milwyr rheolaidd o eiddo'r gelyn, .ond hefyd cwmniau arfog o wylliad, llwyn-guddwyr, a charn-ladron yn llercian o gwmpas. Ac er pob gwyliadwriaeth, byddent yn aml yn tori y ffordd, ysbeilio y gerbydres, lladd, clwyfo, carcharu, neu adael yn ddiymgeledd bersonau wedi eu hysbeilio. Yn enwedig byddent ar y cyfryw anturiaethau yn ceisio llygadu rhai heb fod yn filwyr, am y tybient mai masnachwyr neu speculators fyddent hwy, ac yn debyg o fod yn werth eu dal. Yr ydoedd yn raddau o oleu leuad y noson hòno, a llawer gwaith yr edrychais allan ar rês o brenau neu rhyw wrthddrychau eraill gan dybied y gallent fod yn ysbeilwyr neu filwyr gelynol, a bron na ddysgwyliwn weled y tân yn
(x49) fflachio ar eu gwaith yn saethu i’n cerbydau, fel y gwnaent yn aml. Ond aeth y nos heibio heb i ddim annumynol ddygwydd i mi, er i'r gerbydres a ddaeth ychydig oriau ar ein hol ei chael yn druenus. Darfu i'n cerbydres ninau hefyd aros ddwywaith neu dair tra yr elai milwyr yn mlaen i weled beth oedd yr hyn achosai ddrwg-dybiaeth iddynt.

Tra yn aros yn hir mewn un man, cefais gyfleusdra i wrando gyriedydd ein peiriant yn adrodd peth o'i hanes. Ar un achlysur gwelodd yn agos i’r fan lle y safem y pryd hwnw nifer mawr o'r gelynion yn brysio - rhai i dori y ffordd o'i flaen, ac eraill i osod eu hunain mewn safleoedd cyfleus i saethu i'r cerbydau. Yntau, ar ol ager-chwibanu rhybydd o berygl, a chodi yr ager i'w bwynt uchaf, a barodd i'r peiriant redeg, a defnyddio ei iaith ef ei hun, trwy ganol y d__l__d i u__n
{= y diawled i uffern}, os mynai. Ac felly dygodd ei gerbydres trwyddynt yn ddiogel, a pharodd bwledau y milwyr oddifewn i lawer o honynt orwedd ar y ddaear fel na feddyliasant am gastiau felly byth mwyach.

 

 

Y TUDALEN NESAF:  1209k  Rhan 3 Tudalennau 49-76

·····

 

Ble'r wÿf i? Yr ÿch chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weørr àm ai? Yùù ààrr vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wébsait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

 
 

 

 

 


Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats