1213k Gwefan Cymru-Catalonia / la Web de Gal·les i Catalunya - Wales-Catalonia Website. Dros Gyfanfor a Chyfandir:

Sef Hanes Taith o Gymru at Lanau y Môr Tawelog ac yn ôl, Trwÿ brif Daleithau a Thiriogaethau yr Undeb Americanaidd

Gan William Davies Evans. Aberystwÿth: Argraffwyd gan J. Gibson, Swyddfa'r ‘Cambrian News’ MDCCCLXXXIII (1883)

 

 

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_008_dgac_07_1213k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................1208k Y Gyfeirddalen i'r Llyfr Hwn (Dros Gyfanfor a Chyfandir)

..................................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

Dyma ran o Adran 11 yn y wefan hon, sef

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Dros Gyfanfor a Chyfandir

William Davies Evans (Aberystwÿth 1883)

 

Rhan 7 (tudalennau 151.173)

Adolygiadau diweddaraf:
19 12 2001

 

 

 

1208k

Cynllun y Llyfr Gordestun

 

 

1219k

Rhan 1 Tudalennau 1-22

1207k

Rhan 2 Tudalennau 23-49

1209k

Rhan 3 Tudalennau 49-76

1210k

Rhan 4 Tudalennau 76-103

1211k

Rhan 5 Tudalennau 103-126

1212k

Rhan 6 Tudalennau 126-151

1213k

Rhan 7 Tudalennau 151-173

1214k

Rhan 8 Tudalennau 173-200

1215k

Rhan 9 Tudalennau 200-227

1216k

Rhan 10 Tudalennau 227-250

 

1217k Hysbysebion Cefn y Llyfr

1218k

Mynegai - Amryw

 

 



 

 

 

(x151)

O LA JUNTA I RATON.

Gan ei bod yn nos arnaf yn myned trwy barthau de-ddwyreiniol Colorado nis gallaf ddysgrifio'r wlad, ond dywedir ei bod yn dir gwair a phorfa da, ac y cedwir yno lawer o anifeiliaid, gwartheg, a defaid. Trinidad, tref ieuanc a blodeuog, ydyw y canolbwynt a'r brif farchnadfa. Cyrhaeddasom yno erbyn glâs y boreu, ond tua haner awr cyn hyny cefais olwg ar yr hyn a chwenychais yn fawr weled am unwaith, sef prairie ar dân. Yr ydoedd hwn yn fur o dân tua milldir o hyd, a thua haner milldir oddiwrthym; yr oedd ynddo fylchau lawer, yn cael eu hachosi yn ddiau gan ddarnau o ddaear lom. Rhwng y bylchau ymgodai y fflamau tanbeidgoch yn uchel, uniawnsyth, ond chwifiog megis rhes o gleddyfau tanllyd, ysgwydedig, yn cael eu dal gan gerubiaid anweledig. Yr ydoedd dull mawreddus ar y tân, ac eto dywedid nad ydoedd ond bychan o'i gydmaru â rhai tânau a welir.

Wedi gadael Trinidad dechreuasom esgyn Mynydd Raton - a dyma esgyn! - nid myned ar i fyny yn raddol yn ol ffasiwn gyffredin cerbydresi, ond dringo i fyny rhiw fel gwagen. Gwelid yr agerbeirianau (canys yr oedd dau o honynt a digon o waith) i fyny fry, a'u holwynion fel traed ewigod yn ymafael yn y reiliau, ac wrthi yn pwffian â'u holl nerth i'n cael i fyny. Nid ar ein huniawn y gallem fyned, ond igam-ogam, o dde i aswy ac o aswy i dde, fel ceffyl yn dringo rhiw, ac am hyny yr oeddym ar droadau parhaus. O'r diwedd y mae amynedd y meirch tan yn pallu, ac yn lle parhau i fyned ar i fyny nes cael crib y mynydd, y maent yn gwthio eu
(x152) hunain ac yn tynu ninau ar eu hol i geudod tywyll y ddaear, ac yno cawsom dwnel o ddwy fil o droedfeddi. Yn nhywyllwch y (x153) twnel hwnw y darfyddodd fy nhaith yn Colorado, a phan dywynodd y goleuni arnaf drachefn yr oeddwn yn dechreu taith bleserus yn Mexico Newydd. Caniataer i ni felly brofi y cyfnewidiad mawr diweddaf. Terfyna ein taith ddaearol yn nghysgodion y Mynyddoedd Tywyll; ond hyfryd fydd dechreu taith wynfydedig yr ochr draw, yn ngwlad y goleuni tragwyddol.

 

Dechreuasom ddisgyn y mynydd ar yr ochr arall, ac os ydoedd yr esgyn yn rhyfedd, yr ydoedd y disgyn yn rhyfedd ac ofnadwy. Nis gallaf ddysgrifio fy nheimlad pan yn sefyll ar banlawr y cerbyd ar y disgyniad hwn, oblegid, nid yn unig gwelwn ddaear drom a chreigiau erch yn codi uwch ein penau ar y naill law, a dyfnder mawr mwy ofnadwy na hyny ar y llaw arall, a'r gerbydres a'i phen i lawr draw yn isel, a'i phen arall i fyny ar ein hol yn uchel, ond elem hefyd dros aml bontydd a thrawst-weithiau (trestle-works) uchel, a'r ffordd hefyd yn gwneud troadau ar benau y bagl-ffyn meinion hyn; a rhwng fod y cerbydau yn ymddangos yn fawrion a thrymion iawn, a'u bod yn gogwyddo ar eu hochrau ar y troadau, teimlwn iasiau yn myned trwof, ae ni chymerwn lawer am sefyll ar yr ochr isaf, rhag, i'm pwysau pwysig i (125 pwys) beri i'r holl gerbydres syrthio drosodd. Och! y y finau! Beth pe dygwyddai i olwyn dòri neu fyned yn rhydd yn y lle hwnw, neu i rai o'r coesau meinion a'n dalient i fyny roddi ffordd a'n gollwng i lawr? Wel, i lawr yr elem, ond pa le na pha bryd y cyrhaeddem y llawr isaf, nis gwn. Wrth waelod y disgyniad hwn y mae tref ieuanc a bywiog Raton (104 o filldiroedd o La Junta), o amgylch yr hon y mae gweithfaoedd glo.

 

O RATON I LAS VEGAS.

O Raton yn mlaen yr ydoedd y daith yn un ramantus ddigon. Ar ein haswy draw gwelem drumiau uchel o fryniau neu fynyddoedd. Ar ein deheu draw ymestynai i'r un cyfeiriad a ninau asgwrn cefn y cyfandir yn llucheinio yn mhelydrau yr haul gan y trwch o eira gwyn a'i gorchuddiai. Yr ydoedd arwedd ardderchog ar ei amryw bigynau uchel a chlaerwynion. Ar hyd yr hyn a ymddangosai i mi yn wastad-tir llydan, rhwng y mynyddoedd gwynion yna a'r bryniau geirwon eraill, y rhedai ein cerbydres. Ychydig o adeiladau a welid, am mai ychydig oeddynt breswylwyr y wlad, a'r rhai hyny gan amlaf (x 154) o rywogaeth y ranchers. Ceid cynifer a 25,000 o dda cyrnig yn eiddo i'r un person.

 

Daethom i'r tiroedd tlysion a elwir yn Park Grounds, yn y rhai y mae prenau bychain o gedrwydd, pinwydd, a bythwyrddion lwyni yn tyfu yn deneu, nid anhebyg i'r modd y plenir coed yn mharciau boneddigion Cymru. Rhwng y prenau hyn ymddangosai creigiau a cholofnau rhyfedd o dywod-faen, coch a gwyn, ar lun adeiladau,

 

(xLLUN: CRAIG-GOLOFNAU)

 

delwau, &c., tebyg i'r modd y gwelir yn Monument Park a Gardd y Duwiau, Colorado. Yr ydoedd yn ddiwrnod tesog, hafaidd, & hyfryd, yr hyn, yn nghyda gwyddlesni tyner y ddaear a'r coed, oedd yn dal gwrthweddiad rhyfedd â’r gauaf gerwin a welem ar y mynyddoedd draw. Wedi myned 111 o filldiroedd yn ddeheuol o Raton daethom i Las Vegas (p. 6,000), hen dref Fexicanaidd, yn yr hon y mae tai adobe, a dynion a merched yn rhodio yn yr hen ddulliau Mexicanaidd, y rhai y caf achlysur i'w dysgrifio yn mhellach yn mlaen ond y mae yr haner agosaf at yr orsaf o'r dref hon wedi dyfod i fodolaeth mewn cysylltiad i'r reilffordd, ac felly o ymddangosiad diweddar. Yn gyfagos y mae hen graig bengron, benlwyd a elwir Mynydd Meudwy (Hermit Mountain), ar yr hon y bu meudwy yn cartrefu dros amryw flynyddoedd. Byth ni ddeuai i lawr, ond ar gnau, gwreiddiau, a'r elusenau a ddygid iddo yr yr ymgynhaliai, ac o ffynon gerllaw yr yfai.

 

(x 155)

Y mae yn y dref hon, yn gystal ag yn agos holl drefi New Mexico ac Arizona, y bobl a elwir Edifeiryddion (Penitents), plaid a esgymunwyd o'r Eglwys Babaidd. Ymddengys mai o “drydedd urdd y tad seraphaidd Sant Francis Assisium” y deilliasant. Y mae ganddynt yr arferiad trwy gydol wythnos y dyoddefaint (passion week), sef y dyddiau o flaen y Pasg o fyned ar hyd ffordd arw,

 

(xLLUN: RANCHE YN MEXICO NEWYDD)

 

garegog, allan o'r dref, i ben mynydd, lle y mae croes. Wrth fyned ffrewyllant ac . archollant eu hunain â’u gilydd nes bydd gwaed yn ffrydio, ac ar yr un pryd gruddfanant, ochneidiant, wylant, ïe, crïant mewn dolefau torcalonus, a thraethant eiriau edifeiriol a galarus iawn. Dyna eu syniad hwy, druain, am ganlyn yr Oen! Ond prif enwogrwydd Las Vegas ydyw y ffynonau poethion sydd bellder o ddwy filldir oddiwrthi. Gellir gweled croes yr Edifeiryddion ar fryn uchel wrth fyned tuag atynt. Y mae yno ddwy-ar-hugain o'r cyfryw ffynonau, yn amrywio o ran gwres o 110 i 140 o raddau. Y mae cleiflon o holl ranau y wlad yn dyfod yma i'w hiachâu. Pobl yn y darfodedigaeth, a rhai ag amryw glefydau yn eu dala, sydd yn dyfod yma ar bob amserau o'r flwyddyn, a rhwng yr hinsawdd a'r (x 156) dyfroedd y mae yn ffaith ddilol fod yma gystal gobaith am iechyd ag a geir ar wyneb daear. Yn ein blaen a ni eto gan fvned trwy lawer o Park Grounds

 

(xLLUN: GWESTDY MONTEZUMA, FFYNONAU LAS VEGAS, MEXICO NEWYDD)

 

a meusydd agored o'r math mwyaf dymunol. Ymddangosai y gerbydres ei hun megys yn mwynhau y wlad, gan mor hamddenol yr elai rhagddi, gan dynu ei hun i ffurf neidr hydwythawl, a llawer gwaith y cafodd ei hun yn ffurf pedol ceffyl. Myned ar esgynfa hir yr oeddym, a bryniau a thyrau mânaidd o'n deutu yn addurno yr holl ffordd.

 

BRYNIAU A CHREIGIAU RHYFEDDACH ETO.

Daethum i ardal o fryniau a mynyddoedd a ymddangosent mor gyfluniaidd a chymesurol fel nas gallwn lai na theimlo, er y gwyddwn yn amgen, eu bod yn waith llaw celfyddyd. Byddai rhai yn hollol grynion, eraill yn ysgwar, eraill yn dri-ongl, eraill fel L, eraill ar lun darlun a wneir o seren-pwynt uchel yn y canol, gyda phurnp neu chwech o freichiau yn ymestyn allan o'u hamgylch. Ond yr un a dynai fwyaf o sylw ydoedd Pigyn Bernal (Bernal Peak), yr hwn a saif ar ei ben ei hun gan ymgodi yn serth ac uchel, a'i ffurf yn ysgwar ei hyd yn gymaint arall a'i led, ac ar ei ben y mae Craig uniawnsyth o tua 100 o droedfeddi o uchder. Dywedir ei bod yn ddwy-ar-hugain o erwau oddiarno. O dan y graig y mae y mynydd, nid yn unig yn bedwar-onglog, ond y mae o'i amgylch hefyd y trobant (curve) mwyaf prydferth, fel ag y mae ar lun pen pagoda. (x157 ) Perthyna i'r mynydd hynod hwn ddyddordeb hanesyddol hefyd. Yn amser y rhyfel a fu rhwng y Talaethau Unedig â Mexico

 

(xLLUN: CREIGIAU MEXICO NEWYDD)

 

(x158 ) gwnaeth tua 400 o Indiaid, y rhai a ryfelent o blaid y Talaethau, ymosodiad ar bentref Bernal, lle y trigianai Mexicaniaid, a gyrasant 26 o hoiiynt i ben y graig a nodwyd. Gan nad oedd ond un fynedfa yno gallai y Mexicaniaid amddiffyn eu hunain rhag unrhyw nifer o Indiaid. Yr Indiaid, yn lle rhoddi i fyny, fodd bynag, a benderfynasant eistedd o amgylch i'w gwylio nes y byddai pob un ag oedd arni

(xLLUN: CRAIG GASTELLAWG.)

wedi newynu i farwolaeth. Hyny hefyd a wnaethant, ac o hyny allan gelwir y graig yn nhafodiaith gyffredin y bobl yn Graig y Newynu (Starvation Rock).
Y mae yno ddwy groes amlwg wedi eu codi i fod yn goffadwriaeth am y tro. Gwelir yn y parthau hyn groesau mewn caeau, &c., trwy yr hyn y mae y preswylwyr crefyddol yn sicrhau amddiffyniad a bendith ar yr eiddynt.

(x 159)

Yn mhellach yn mlaen daeth i'r golwg gyfres hir o greigiau uchel, y rhai, o ran maintioli, ffurfiau, lliwiau, ac addurniadau, oeddynt can falched ag unrhyw greigiau a welais. O ran maintioli gallwn dybio eu bod, rai o honynt, yn ganoedd o droedfeddi o uchder. O ran ffurflau meddant wynebau (front) o bilerau, fel pe buasai llaw celfyddyd wedi eu gwneud. O ran lliwiau yr oedd eu haner isaf yn

 
(xLLUN: GOLYGFA YN MEXICO NEWYDD)

goch, agos fel ysgarlad, a'u haner uchaf yn wyn, bron fel marmor; ac o ran addurniant, yr ydoedd prenau gwyrddion yn tyfu allan o honynt, ac yn eu gwisgo yn dra thelaidd. Byddai coch a gwyn y creigiau, wrth ysbïo allan rhwng gwyrddlesni y cangau, yn gwneud yr effaith mwyaf dymunol. Ar hyd math o ddyffryn cul rhwng tyrau a llwyni rhamatus fel yna yr ydoedd ein taith yn awr. Am
(x 160) olygfeydd geirwon a mawrwyllt cymerer taith ar linellau reilffordd Denver a Rio Grande; ond os ewyllysir gweled yn ychwanegol at hyny y tlws a'r tyner, y gauaf a'r haf yr un amser yn chwerthin ar eu gilydd, cymerer reilffordd Atchison, Topeka, a Santa Fe, trwy Mexico Newydd. Wrth ystyried eto y gweddillion henafol lluosog a geir yn y diriogaeth hon ac Arizona, a bod y reilffordd yn rhedeg trwy hinsoddau hafaidd, hyfryd, diau y gellir penderfynu mai hon fydd y ffordd fwyaf poblogaidd at lànau y Môr Tawelog.

(xLLUN: TIRIOGAETHAU RHYFEDD)

 Gellir ystyried New Mexico ac Arizona, trwy y rhai yn wyf yn awr yn teithio, ar amryw gyfrifon y tiriogaethau rhyfeddaf yn y byd. Y maent yn rhyfedd o ran eu golygfeydd naturiol - parthau mawrion o dywod yn ymddangos fel llynoedd grisialaidd a thònog o ddwfr - mynyddoedd mor gyfluniaidd a phe wedi eu gosod gan ddwylaw dynion - creigiau mor debyg i adeiladau - tyrau, trefydd, delwau, ac hyd yn nod organau cerdd - fel y rhaid bod yn eu hymyl i ddeall ein camgymeriad; ac y mae eu haf a'u gauaf ar yr un pryd, y naill mor amlwg a'r llall. Y maent yn rhyfedd yn eu hafonydd, y rhai a symudant eu gwelyau mewn noswaith, gan ymorwedd rhwng glànau clyd o dywod-faen mor gryno a'r glànau a adawsant, ac yn achlysurol ymddiflanant o'r golwg yn llwyr, ac ar ol milldiroedd o deithiau tanddaearol deuant i'r golwg drachefn. Y maent yn rhyfedd yn eu hawyrgylch, yr hon, megys gwydr-ddrych dysglaer, sydd yn adlewyrchu ac yn dwyn i'r golwg wrthddrychau pell, er fod trwch mynyddoedd rhyngom â hwy. Y maent yn rhyfedd yn eu haddewidion, o gymaint ag fod yn gynwysedig ynddynt gyfoeth o aur ac arian, a thrysorau eraill llawer mwy eu gwerth, megys turquoise, a chyfrifir dernyn o faintioli swllt o'r math goreu o hwn yn werth ₤300. Y maent yn rhyfedd yn eu hanes a'u gweddillion henafiaethol; a phersonoli y gwledydd hyn, y maent fel un yn dihuno o freuddwyd pwysig, ac yn methu adgofio ei gysylltiadau. Y mae yr adfeilion cedyrn, y muriau mawrion, y camlesydd hirion, y llestri a'r arfau rhyfedd a geir, yn brofon eglur fod y parthau wedi bod yn cael eu poblogi gan genedl neu genedloedd llawer uwch mewn meddwl, gwareiddiad, a chelfyddyd na'r Indiaid a welir yno yn bresenol. Pwy oedd y dynion hyny? O ba le y daethant? Beth oedd eu hanes? a. pha beth
(x161) ddaeth o honynt? Dyheir am atebion i'r gofyniadau hyn, ond nis ceir, oddieithr yn rhanol. i'r gofyniad olaf.

Ar Cortez, y goresco, Ynydd Yspaenaidd gwaedlyd, y rhoddir y bai am ddwyn difodiant ar y bobl hyn, eu hymerodraeth, a'u hanes. Yn cael ei lygad-dynu gan yr aur a feddent ar eu gwisgoedd ac ar eu

(xLLUN: COPA GLORIETTA, MEXICO NEWYDD)

harfau, darfu iddo yn y flwyddyn 1514, yn gyntaf hud-ddenu Montezuma, eu brenin, i’w grafangau, yna teithio trwy y wlad gyda byddin gref, gan ladd mihynau o'r preswylwyr - cymeryd iddo ei hun y cyfoeth, a gwneud y wlad yn rhan o frenhiniaeth Yspaen. Yn ol crediniaeth yr Azteciaid, y bobl a oresgynwyd gan Cortez, yr ydoedd Quetzalcoatl, eu sylfaenydd a'u duw, yr hwn ydoedd ddyn goleu-bryd, tàl, a chanddo farf hirddu, wedi addaw iddynt ar ei ymadawiad, ar làn Llynclyn Mexico, y byddai iddo ef a'i ddisgynyddion ymweled â hwy drachefn. Tybiodd y bobl am yr
(x162 ) Yspaeniaid ysbeilgar mai hwy oeddynt yr hiliogaeth ddysgwyliedig, a bu hyn yn achos i'w gelynion gael buddugoliaeth rwydd arnynt a pherchenogaeth o'u gwlad.

 

Wedi myned 29 o filldiroedd hwnt i Las Vegas, daethom yn agos i Pecos, lle a fu yn bentref Aztecaidd pwysig. Dywed traddodiad mai yma y ganwyd Montezuma, eu brenin olaf, yr hwn yn awr a addolir gan lawer fel duw. Dywedir yn mhellach mai efe a adeiladodd y pueblo (pentref) hwn, a'r deml, yr hon ydoedd dri uchder llofft, ac a osododd yn ei estufa, (lle cydgynulliad y penaethiaid) â’i ddwylaw ei hun y tân santaidd, yr hwn ni pheidia a chyneu na dydd na nos. Cyn ei ymadawiad efe a gymerodd goeden uchel ac a'i planodd a'i brig i lawr yn ymyl yr estufa, gan ddweyd wrth ei bobl os byddai iddynt gadw y tân santaidd i fyny yn wastadol nes y syrthiai y goeden y byddai i bobl wynion ddyfod o'r dwyrain i feddianu y wlad a gyru yr Yspaeniaid, eu gorthrymwyr, ymaith, ac y byddai iddo ef ei hun ddychwelyd i adeiladu ei deyrnas, y byddai i'r wlad ddyfod yn gynyrchiol, a'r mynyddoedd roddi cyfoeth mawr o arian ac aur. Bu rhyfelwyr glewion yn ymdrechgar i gadw y tân santaidd i gyneu dros fwy na thri cham mlynedd. Yn 1837 lleihawyd y llwyth i ddim ond 45 o bersonau, o ba rai nid oedd ond saith rhyfelwr. Gan nas gallent warchae yn hw^y aeth tri o honynt i'r coed gyda'r tân, a chredir i Montezuma ei hun ymddangos iddynt yno a'u rhyddhau o’u trafferthion; yna aethant at eu cyfeillion i Pueblo Jemez, ar y tu gorllewinol i afon Rio Grande. Yn agos i Pecos y mae rhai ceryg ag arnynt yn eglur ôl traed dynol, a dywedir mai ôl traed Montezuma ar ei ymadawiad ydynt. Edrycha ei addolwyr tua chodiad haul bob boreu a dysgwyliant ddychweliad Montezuma. Yn Pecos y mae gweddillion hen eglwys gadeiriol fawr, 118 o droedfeddi o hyd, a godwyd yn 1628. Yn gyfagos yma y mae La Glorietta, lle y bu brwydr waedlyd rhwng y Gogleddwyr a'r Deheuwyr yn amser y Gwrthryfel diweddar.

(xLLUN: MYNEDIAD I SANTA FE.)

 

Wedi i'r gerbydres ddisgyn llethr mynydd mawr arall yn ol y raddeg o 180 o droedfeddi y filldir, tebyg i'r disgymad ar fynydd Raton, daethom i Lamy, 65 o filldiroedd yn ddeheuol o Las Vegas. Yno cymerais gangen arall o'r ffordd hon i fyned 17 o filldiroedd yn (x 163) orllewinol i weled hon dref ryfedd Santa Fe. EsgTn yr oed, Iyni yn awr, gan wneud troadau parhaus ar Park Gro?, tnds hyfryd. Ond yr olygfa ardderchocaf ydoedd niachludiad yr haul.Bum yn edrych o benau iaynyddoedd ac yn gweled haul-fachludiadau . gogoneddus lawer (, waith o'r blaen, ond ni welais erioed ddim y gellid ei gyffelybu i'r haul-facliludiad hwil. O! y fath nefoedd ryfedd a ymdaenodd uwchben, a'r fath gymylau gogoneddus a safasant o amgylch! Ni byddai dweyd coch, ysgarlad, porphor, y melyn, gwyrdd, glas, symudliw, arianliw, eurliw, &c., yn haner dysgrifio yr olygfa, oblegid yr oedd yno y fath gochni, y fath lesni, y fath dryloymder, y fath dynerwch, y fath burdeb, y fath hawddgarwch a serch, a’r fath amrywiad, cydgymysgiad, a chydweddiad o'r pethau yna oll yn y lliwiau! y fath feddwl a’r fath hudol swyn nas gallai ond y nefoedd eu rhoddi, nac iaith, ond iaith angel-fardd, eu gosod allan yn iawn. O! am i haul ein bywyd gael machludo fel hyn! - y fath adlewyrchiad gogoneddus yn prydferthu hyd yn nod ein cymylau ag a fyddo yn arwydd eglur fod ein henaid eto yn nofio yn awyrgylch glir goroniant yr ochr draw.

 

(xLLUN: SANTA FE.)

 

Canlynwyd y gogoniant hwn gan dywyllwch, ac erbyn myned i orsaf Sante Fe yr ydoedd yn dywyll nos. Y mae Sante Fe yn ei thai adobe mor debyg i'r ddaear fel mai anhawdd fyddai canfod ar unwaith ei bod yno hyd yn nod yn y dydd; yr ydoedd ei chael allan ar hyd nos yn llawer mwy anhawdd, oblegid oddieithr i un fod yn ei chanol y mae ei chanwyllau a'i llusernau megys tan lestri. Daethum at afon, yr hon nis gallwn ei chroesi. Troais yn ol gan yn hyny, ac wedi dyfod at dwmpathau duon, cefais mai preswyldai (x 164) oeddynt. Curais wrth ddrysau dau neu dri o honynt, ond yn lle dyfod i'w hagor, gwaeddai y menywod oddimewn rhywbeth yn Spaenaeg. Wrth gerdded ar hyd 1ôn gul, fudr, rhwng rhesi o dai isel a thywyll felly, daeth yn rymus i fy nghof y cynghor a gefais gan gyfaill yn Kansas,


“Peidiwch ar un cyfrif myned yn mhell oddiwrth y reilffordd yn
New Mexico, a pheidiwch a bod allan eich hun y nos.”

Daethum o'r diwedd at gongl, lle cefais ffrwd o oleuni yn dyfod allan trwy ddrws agored grog-shop neu drinking-saloon, yn yr hon yr oedd amryw ddynion - Americaniaid, Mexicaniaid, ac Indiaid - gyda llaw-ddrylliau a chyllill hirion yn crogi wrth wregysau a wisgent am eu canolau, rhai o honynt yn feddw, a gwedd fileinig arnynt oll. Siaradent yn uchel a chynhyrfus cyn fy mynediad i'w plith, ond dystawodd pawb - y foment yr aethum i mewn, a hyll- drement arnaf yn chwithig. Gofynais i w^rr y bar sut y gallwn fyned i'r dref, a chefais fy nghyfarwyddo ganddo. Er mor gas yr ymddangosai y gymdeithas hòno, yr oedd myned allan i'r tywyllwch drachefn braidd yn gasach, canys diflas fyddai cyfarfod âg un o'r cyllill hirion hyny lle na byddai neb yn gweled. Dywedwyd wrthyf dranoeth fy mod wedi bod mewn lle ofnadwy - fod yno ysbeilio, mwrdro, a dynion yn cael eu colli yn fynych.

YR HEN DREF.
Wedi myned dros bont ac ymddyrysu peth rhwng tai a heolydd culion, tywyll, daethum at y plaza, canol y dref, lle y ceid ychydig oleuni yn llewyrchu trwy ffenestri y siopau. Er hyny, teimlwn fy mod mewn rhyw le rhyfedd a dyeithr anghyffredin. Lletyais mewn gwestdy ag iddo uchder llofft, yr hyn a barai ei fod yn dy uchel yno.
Aethum i'm hystafell gysgu ar y llofft o veranda uchel ag oedd y tu allan. Ar fy ngwaith yn edrych trwy y ffenestr boreu dranoeth, gwelais fod haenen dew o eira wedi disgyn ar y ddaear borfaog, wastad, ond dyllog, ydoedd o flaen y ty. Wedi edrych yn fanylach, cefais mai penau y tai ydoedd y ddaear borfaog, wastad, ac mai y gwagleoedd rhyngddynt oeddynt y tyllau a welwn ynddi. Wrth rodio heolydd y ddinas yn ngoleuni haul, rhifo ei thyrau, ac ystyried ei rhagfuriau, teimlwn, i ddefnyddio iaith Mark Twain am Tangier: -

 

“Y fath hen dref ddigrif-ddwys ydyw! Ymddengys fel pe byddai gableddi i chwerthin ac ysmalio ymddyddanion dibwys ein dydd ni yn mhlith ei gweddillion (x165) henlwyd! Brawddeg-eiriad cadarn-ddwys ac ymadroddion mesuredig meibion y prophwydi yn unig fyddai gyfaddas i henafiaeth barchedig fel hyn! Dyma yma hon fur dadfaeliedig oedd yn hen pan ddarganfyddodd Columbus America! oedd yn hon pan ddarfu i Pedr Feudwy gyffroi marchogion y canol oesoedd i ymarfogi at y groesgad gyntaf! oedd yn hen pan ddarfu i Charlemagne gyda'i baladiniaid warchfaeddu cestyll dewiniedig a brwydro â chewri ac â gefaill-dduwiau yn nyddiau chwedlonol yr hen amser! oedd yn hen pan oedd Crist a'i ddysgyblion yn rhodio'r ddaear! yn sefyll lle y saif yn awr pan oedd gwefusau Memnon yn parablu, a dynion yn prynu ac yn gwerthu yn heolydd Thebes henafol.”

Ni wyddis a ydyw Santa Fe can hened a Tangier ai nid yw, ond golygir hi y dref henaf yn America. Bu yn brif dref pobl Montezuma ganrifoedd cyn fod dynion gwynion (ac eithrio yr hen Gymry, efallai) yn gwybod dim am y cyfandir.

(xLLUN: Y LLWYTHI CYNTAF O WLAN ALLAN O SANTA FE)

 Fel agos yr holl drefi Yspaenaidd y mae Santa Fe (p. 7,000) - yr hyn o'i gyfieithu yw “y santaidd ffydd” - wedi ei hadeiladu o amgylch tua dau erw a haner o dir, yr hwn a elwir plaza, a'r preswyl-dai yr un modd wedi eu hadeiladu o amgylch dernyn penagored a elwir placita, math o gyntedd ac a ddefnyddir gan lawer fel gardd yn nghanol y ty. Gwneir iawn am gulni yr heolydd gan y plaza a'r placitas hyn. Tai adobe ydynt yr adeiladau, sef tai pedair-onglog, heb lofft, wedi eu gwneud o briddfeini mawrion, y rhai a wnaed o bridd a gwellt ac a graswyd yn ngwres yr haul, yr un fath a
(x166) phriddfeini yr Aifft. Y mae y muriau llwydaidd, plaen, a marw yn droedfeddi o drwch ac yn uwch lia'r t6, yr hwn sydd wastad, ac

 

(xLLUN: LLE TAN MEWN TY ADOBE)

 

yn cael ei orchuddio gan drwch troedfedd neu fwy o bridd, a phan y mae glaswellt a chw`yn yn tyfu ar hwnw, ymddengys penau y tai fel caeau bychain. Gwelir y preswylwyr arnynt yn rhodio, yn chwareiu, ac yn dawnsio. Y mae tylla trwy ymyl uchaf y muriau i ollwng allan y dwfr pan yn gwlawio, a chafnau, neu bibellau, o goed yn ymestyn allan fel ag i wneud i'r dwfr syrthio tua phedair troedfedd oddiwrth y sail. Gwelir crefydd y bobl yn yr addurniadau sydd ganddynt uwchben eu lle tân oddifewn.

 

Dygwyddais fod yn y dref ar un o'r diwrnodau rhyfeddaf yn ei hanes, er fod iddi hanes rhyfedd, rhyfedd dros ganoedd o flynyddau. Diwrnod ydoedd hwn a gofir yn hir gan y preswylwyr yn gystal a chenyf inau; canys yr ydoedd yn gwlawio yn drwm yn y tai, a thesni digymylau oddiallan. Nid oedd neb yn cofio am eira wedi disgyn yno o'r blaen. Y mae hyny yn rhyfedd hefyd wrth ystyried fod y lle yn sefyll 7,000 o droedfeddi uwchlaw arwynebedd y môr. Er y byddai dwfr gwlaw yn rhedeg oddiar y tô trwy dyllau yn mhen y mur, yr oedd yr eira, wrth araf doddi yn ngwres yr haul, yn treiddio trwy y tô er dirfawr ofid i'r preswylwyr, am ei fod yn gwlychu gwelyau, cypyrddau, cistiau, a phob peth oedd ganddynt.

 

Yr adeilad enwocaf yn y lle ydyw y Palas - hen dy^ adobe mawr, a'i hyd yn gyfled a'r plaza ar yr ochr ogleddol, a pharhad o'i dô, yr hyn a ddelir i fyny gan res hir o bilerau, yn adeinio allan yn mhell dros ei wyneb. Adeiladwyd ef dros 300 o flynyddoedd yn ol, ac ynddo ef y bu yr hon gadfridogion Yspaenaidd yn llywodraethu gyda gallu unbenaethol a chreulondeb diymatal; y llywodraethwyr (x167) Mexicanaidd wedi hyny, heb fod yn un gradd llai eu traha; ac yma y cartrefa llywodraethwr y diriogaeth yn awr. Yma y carcharwyd rhai o uchelwyr y cyfandir, ac oddiyna yr arweimwyd llaweroedd allan i gael eu dienyddio wrth ddedfryd dyn y palas.” Yma y

 

(xLLUN: Y PALAS YN SANTA FE.)

 

trefnwyd dwyn yn mlaen yr amryw ryfeloedd a fu yn y diriogaetli y byddai eu hanes yn gyfrolau. Ac yma, meddir, y bu dygwyddiadau a ymddangosent yn y dyddiau hyn yn anhygoel. Dywedir mai hanes y palas ydyw hanes Sante Fe, megys mai hanes Santa Fe (x168) ydyw hanes New Mexico. Gyferbyn, yr ochr arall i'r plaza, dangoswyd i mi hen ddrws haiarn rhydlyd, trymllyd, ac isel, trwy yr hwn yr aeth llaweroedd o drueiniaid i mewn, byth i ddyfod allan am na byddent o'r un golygiadau crefyddol a'r offeiriad! Y mae amryw hen adeiladau eraill yn y dref o gryn ddyddordeb, ac eraill o adeiladwaith ddiweddar yn dechreu ymddangos. Ceir yno ar werth hen

 

(xLLUN: PRIDDLESTRI MEXICANAIDD)

arfau a hon lestri Aztecaidd, gyda delwau, a duwiau Indiaidd; a cheir hefyd dlysau, breichledau, gwddfdorchau, cadwynau, gwalltgribau, &c., yr oll o arian ac o ddull Mexicanaidd, nior gywrain fel y mae yn bleser edrych arnynt.

Hen dref ryfedd yn wir ydyw Santa Fe - rhyfedd yn ei ffurf, rhyfedd yn ei hanes, a rhyfedd yn ei phreswylwyr. Siaredir yno dair iaith - yr Yspaenaeg, y Saesonaeg, ac iaith y Pueblo Indians. Yn y flaenaf y dysgwylir i bawb ddeall eu gilydd. Gwisga y menywod shawls llaes dros eu penau a'u hysgwyddau, heb adael ond ychydig o'u gwynebau yn y golwg. Gwelir yno ddynion yn codi dwfr wrth raffau o bydewau yn null yr hon batriarchiaid; ac o flaen y drysau y ceir dwy gyda meini yn malu. Deuai y Mexicaniaid croen-dywyll i mewn or mwn-gloddiau, gyda hetiau isel a chantelau llydain yn cysgodi dros eu hysgwyddau, a gwregysau lledr gydag arfau angeuol am eu canolau. Deuai yr Indiald coch-ddu i mewn hefyd o'r creigiau neu o'r coedwigoedd, gyda napcynau cochion wedi eu nyddu fel rhaffau o amgylch eu penau, gwallt rhawnaidd, hir-ddu dros eu gwarau, gwrthbanau (blankets) brithresog am eu cefnau, llodrau lliain llaes am eu coesau, ac esgidiau o felyn-groen (mocassin) am eu traed. Hwynt hwy sydd yn cyflenwi y dref â thanwydd, y rhai a ddygant yno yn feichiau ar gefnau asynod bychain fel asynod Cymru, y rhai a elwir burros. Gelwir y farchnadfa goed yn Burro Alley, ac yno mawr ydyw tyrfa yr asynod. Dywedir y cymer ddiwrnod i Indiad dòri y baich coed, diwrnod arall i ddyfod âg ef i'r dref, trydydd diwrnod i'w werthu a sefyllach o amgylch, pedwerydd diwrnod i fyned adref, a chaiff chwarter dolar (swllt a dimai) am ei lwyth!

(xLLUN: YR HEN EGLWYSI).


Pabyddiaeth ydyw y brif grefydd yno, er y ceir yno yn y dyddiau diweddaf hyn rai enwadau Protestanaidd. Y mae yr eglwysi yn lluosog. Yn eu plith ymwelais â hen eglwys benafol San Miguel, yr hon sydd adobe, ac a adeiladwyd dros 300 o flynyddoedd yn ol. Ar y naill ochr iddi y mae y preswyldy henaf, efallai, yn America, henach na'r hon eglwys, a dywedir y gall ddal can' mlynedd eto. Y tu arall i'r eglwys y mae adeilad hardd, Athrofa y Brodyr Christionogol (Christian Brethren), y rhai yn barhaus a ddeuant i fewn i'r eglwys gan groesi eu hunain â dwfr santaidd, penlinio gyferbyn â'r delwau, adrodd gweddi fechan, croesi eu hunain drachefn a myned allan.
Yr oeddynt yn garedig iawn i mi, ac yn ewyllysgar i ddangos llawer o bethau cysegredig. Gerllaw hefyd y mae sefydliad y Chwiorydd Loretta.

 

Aethum i’r hon eglwys gadeiriol. Adobe mawr ydyw hon hefyd. Trwch y muriau yn chwe' throedfedd. Ynddi y mae llawer iawn o

(x170 ) ddelwau mawrion, llawer o honynt wedi dyfod o Yspaen. Yn un o'r muriau y mae megys bedd yr Arglwydd Iesu, ac yntau ynddo,

(xLLUN: EGLWYS AC ATHROFA, SAN MIGUEL, SANTA FE, N.M.)

 

(x171 ) gyda llenlian drosto, dan yr hon y gwelir ei ochr, ei law, a'i droed, gydag olion gwaedlyd y waewffon a'r hoelion. Clywais yn flaenorol byddai yma rai yn addoli bob amser, felly hefyd yn awr. Yr oedd dwy ddynes mewn du, y naill yn darllen a'r llall yn gweddio, o flaen delw y Forwyn fendigaid, er fod y gwlaw dyeithr yn disgyn arnynt yn doreithiog. Eisteddais enyd ar ben yr adeilad hwn, gan haner dychymygu mai mewn cae pori yr oeddwn yn y wlad yn niwedd

(xLLUN: EGLWYS GUADALUPE, SANTA FE).

mis Mawrth, dri chant o flynyddoedd yn ol. Yr ydys yn codi adeilad awreddog o geryg o amgylch hwn, a phan ei gorphenir teflir yr hen adobe allan o hono.

Ymwelais hefyd â hon gapel adobe Our Lady of Guadalupe. Ei nenfwd ydoedd gyffion geirwon o goed, ei lawr yn llawn o feddau pantiog, ei furiau yn blaen, heb ond ychydig ddarluniau hon yn crogi arnynt.

Yn gyfagos y mae capel adobe Our Lady of the Rosary, yr hwn sydd agos yn 200 mlwydd oed. Yn hwn, unwaith yn y flwyddyn,
(x 172) yr ydys yn cynal gwyl o wyth niwrnod i weddio am wlaw. Ar y Sabbath cyntaf, sef dydd cyntaf yr wyl, eir i'r eglwys gadeiriol i gyrchu Mair, a cherir hi gan bedwar o offeiriaid mewn ysgwydd-gerbyd ardderchog. Canlynir hi yn mlaenaf gan orymdaith o wyryfon mewn dillad gwynion, yna gan Mexicaniaid ac Indiaid, ac yn olaf gan bob rhyw bobl. Dygir y llawrleni (carpets) goreu allan

 

(xYR ARCHESGOB LAMY YN ARHOLI YN YR YSGOL YN SANTA FE)

 

o'r tai, taenir hwy ar hyd y ffordd, a dymunir ar i'r Forwyn orphwyso. Pan y gorphwysa y mae yr offeiriaid yn syrthio ar eu gliniau o'i hamgylch, yn deisyfu gwlaw, a'r bobl yn taflu eu harian i'r drysorfa. Wedi dyfod i eglwys Rosary gosodir y Forwyn ar banlawr dyrchafedig yn y gangell, a pharheir wyth niwrnod yn gweddïo am wlaw, a chan mai yn amser dechreuad y tymor gwlawog, y cynelir yr wyl, y mae y gweddïau, fel rheol, yn cael eu hateb; ond

(x173) y mae hanes am dro y bu raid ymddwyn yn greulawn at y Forwyn cyn i'r gwlaw ddyfod. Er ddarfod i'r offeiriaid barhau yn gweddïo, a'r bobl barhau yn offrymu, yr oedd y Forwyn yn parhau yn ystyfnig, ac ni ddeuai gwlaw. O'r diwedd pallodd amynedd yr addolwyr, ond yn wahanol i addolwyr siomedig Baal ar ben Carmel, yn lle tòri eu hunain â chyllyll, er y byddai y rhai hyny yn hynod gyfleus, tynasant y ddelw i lawr, ysbeiliasant hi o’i haddurniadau, ciciasant hi dros y creigiau, a thaflasant hi i'r afon. Y nos hono daeth gwlaw mawr iawn, y mwyaf a welwyd yno erioed. Daeth yn wlaw barnol, gorlifodd yr afon ei glanau, a bu agos i'r dref gael ei boddi. Brysiodd y bobl i adferu y Forwyn i'w lle - gwnaethant hi yn harddach nag o'r blaen, ac addawsant roddi ufudd-dod dauddyblyg iddi o hyny allan.

O flaen yr eglwys hon y mae coeden fechan a arferai fod yn ganolbwynt pit ceiliogod, ymladdfeydd y rhai a fyddent mor atdyniadol ag i ddenu llawer o Indiaid, Mexicaniaid, ac eraill i'r gwasanaeth crefyddol ar y Sabbathau. Anffawd fawr i'r achos fu gadael i'r chwareuon crefydd-gynaliol hyny fyned i lawr, oblegid nid oes mwyach foddion oddieithr y gwyliau blynyddol o flaen gwlaw, yn cael eu cadw yn yr eglwys hòno. Cymered ein heglwysi Protestanaidd rybudd oddiwrth hyn, i beidio difodi chwareu damwain (lotteries), yn nghyda chwareuon eraill, a llawer o ystrywiau santaidd trwy y rhai y galluogir yr Hollalluog i gynal ei achos yn y byd.

 

Y TUDALEN NESAF:  1214k  Rhan 8 Tudalennau 173-200

·····

 

·····

 

Ble'r wÿf i? Yr ÿch chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weørr àm ai? Yùù ààrr vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wébsait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website


 

 

 


Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats