1216k Gwefan Cymru-Catalonia / la Web de Gal·les i Catalunya - Wales-Catalonia Website. Dros Gyfanfor a Chyfandir:

Sef Hanes Taith o Gymru at Lanau y Môr Tawelog ac yn ôl, Trwÿ brif Daleithau a Thiriogaethau yr Undeb Americanaidd

Gan William Davies Evans. Aberystwÿth: Argraffwyd gan J. Gibson, Swyddfa'r ‘Cambrian News’ MDCCCLXXXIII (1883)

 

 

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_008_dgac_10_1216k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................1208k Y Gyfeirddalen i'r Llyfr Hwn (Dros Gyfanfor a Chyfandir)

..................................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

Dyma ran o Adran 11 yn y wefan hon, sef

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Dros Gyfanfor a Chyfandir

William Davies Evans (Aberystwÿth 1883)

 

Rhan 10 (tudalennau 227-250)

Adolygiadau diweddaraf:
19 12 2001

 

 

 

1208k

Cynllun y Llyfr Gordestun

 

 

1219k

Rhan 1 Tudalennau 1-22

1207k

Rhan 2 Tudalennau 23-49

1209k

Rhan 3 Tudalennau 49-76

1210k

Rhan 4 Tudalennau 76-103

1211k

Rhan 5 Tudalennau 103-126

1212k

Rhan 6 Tudalennau 126-151

1213k

Rhan 7 Tudalennau 151-173

1214k

Rhan 8 Tudalennau 173-200

1215k

Rhan 9 Tudalennau 200-227

1216k

Rhan 10 Tudalennau 227-250

 

1217k Hysbysebion Cefn y Llyfr

1218k

Mynegai - Amryw

 

 



 

 

(x227)
TRWY
WYOMING.
Rhwng gorsafoedd Castle Rock a Wasatch croesasom y llinell o Utah i Wyoming. Ychydig yn mhellach aethom heibio man a fu unwaith yn dref flodeuog dan yr enw Bear River City. Y peth hynotaf yn nghoffadwriaeth y gyndref hon ydyw ddarfod i'r gwyr geirwon (roughs, gamblers, lladron, llofruddion, &c.) wneud yma wrthsaflad penderfynol, ond aflwyddiannus. Gyrwyd hwy oddiyno fel o bob man arall. Yr oeddwn yn awr eto wedi esgyn i barth y rhew a’r eira gwastadol, ac aethom trwy nifer o dai eira fel ar fynyddoedd (x228) oedd Sierra; ac ar ol olwynaw gryn bellder, daethom at lanau y Afon Werdd, yr hen y mae ei dyfroedd yn wyrddion a'i chreigiau yn debyg i gestyll. Yn mhellach ac yr ydym yn gweled astell wedi ei chodi yn uchel, ac arni y geiriau “'CONTINENTAL DIVIDE” (rhandir cyfandirol). Ac yma y mae asgwrn cefn cyfandir mawr America, 7,100 troedfedd uwchlaw wyneb y mor. Nid yw hyn yn haner uchder amrai o'r pigynau, ac y mae lleoedd uwch ar y rheilffordd hen. Er hyny, dros y fan yma y rhed y llinell raniadol. Nid ymddangosai, er hyny, ein bod ar gefn mynydd mawr, ond yn hytrach fel be baem ar wastadedd mawr, garw, tyllog, twmpathog, creigiog, eiraog, ac oer, a'r pigynau gwynion i'w gweled i bob cyfeiriad yn ymestyn i fyny nes ymgolli o olwg yn y cymylau. Draw yn y gogledd pell y gwelem linellau tywyll y Bryniau Duon (Black Hills). Wedi myned gryn bellder yn mlaen daethom i leoedd mwy dymunol ac i wastadeddau Laramie, lle gynt y gellid gweled y bualod gwylltion (buffaloes) yn ganoedd ac yn filoedd, a'r Indiaid Cochion yn eu hela. Yr oedd llawer o ardderchogrwydd yn y creaduriaid hyn, yn enwedig pan gerddent neu pan rodent yn finteoedd afrifed yn nghyd, nes peri i'r ddaear grynu filltiroedd o’u hamgylch. Y maent yn awr ar ddibyn difodiant; ychydig eto ac ni byddant, na'r Indiaid ychwaith. Y mae yr hen rywogaethau o greaduriaid yn darfod oddiar ddaear America, a rhywogaethau eraill yn cymeryd en lle. Perchenogir gwastadeddau Laramie gan y gwynebau llwydwynion, ac yn lle trofäau y bualod gwelir ranches mawrion o wartheg, defaid, ceffylau, &c. Y mae tref Laramie ar y llinell hon yn flodeuog, ac ynddi hi y tyngedwyd deuddeg o reithwragedd mewn llys cyfreithiol gyntaf yn y byd. Achos un o wyr geirwon y gorllewin oedd ganddynt. Gofynasant gyfarwyddyd dwyfol cyn penderfynu ar reithfarn; ac yr oedd y morwynion gartref yn canu i'r rhai bychain,

“Nice little baby, don't get in a fury, 'Cause mamma is gone to sit eu the jury.”


O'r gorllewin hyd yma yr ydoedd y reilffordd yn cael ei gweithio gan Chineaid, yr hyn a rydd gyfrif, meddir, am amddifadrwydd y trefi o lygod a thafarnau. Y mae y tafarnwyr yn gystal â'r Gwyddelod dros gadw y Chineaid allan or wlad. Yn mhellach eto ac yr ydym yn
Sherman, y pwynt uchaf ar y (x229) llinell i Galifornia. Saif 8,242 o droedfeddi uwchlaw gwyneb y môr, 1,365 o filldiroedd o San Francisco, a 549 o filldiroedd o Omaha. Wedi dyfod i Cheyenne (p. 4,000), yr oeddwn yn y dref fwyaf a phwysicaf ar y llinell hon rhwng Ogden ac Omah. Pellder o'r naill a’r llall, 516 o filldiroedd. Oddiyma rheda reilffordd yn ddeheuol i dalaeth fawr a mwngloddiau cyfoethog Colorado; ac oddiyma yr eir mewn stages i fwngloddiau enwog y Bryniau Duon yn y Gogledd.

Tra yn aros o flaen ty cyhoeddus ar yr heol yn y lle hwn, gwahoddwyd fi gan y gwestywr i’w gapel i wrando arno yn pregethu. Derbyniais y gwahoddiad, ac arweiniwyd fi i ystafell eang yn ei dy^, lle y gwelais ar y mur ddarluniau amryw o brophwydi ac apostolion yr eglwys Formonaidd. Darllenodd, pregethodd, a gweddiodd y pregethwr i gynulleidfa o haner dwsin. Bu yn fyr a chall. Ei destyn oedd Gen. ii. 7. Dysgai mai fod yr Arglwydd yn anadlu bywyd ynom yn barhaus ydoedd achos mawr ein cynaliaeth yn gystal a'n creadigaeth; pe buasai efe yn peidio ein dal i fyny âg anadl ei Yspryd y darfuasai am danom fel y tawdd ymenyn o flaen tân. Ar ol y gwasanaeth, dywedodd ei fod wedi bod yn gwerthu diodydd meddwol yn yr ystafell hòno, ac nas gallai y pryd hwnw edrych ar ei gwsmeriaid ond gyda chil ei lygaid, ond ddarfod iddo ddeuddeg mlynedd yn flaenorol droi yr ystafell i fod yn gapel, ac fod yn arferiad ganddo bob hwyr a boreu wahodd y rhai a gaffai ar yr heol i fod yn bresenol gyda’r teulu ar yr awr weddi ac i wrando gair o gynghor, a'i fod yn awr yn gallu edrych ar ei wrandawyr â llygaid llawn ac a chalon ddedwydd. Dywedai mai i'r gangen Josephaidd o Eglwys Saint y Dyddiau Diweddaf y perthynai; ac yr oedd yn casâu y gangen Brighamaidd a’i hamlwreicaeth â'i holl enaid.
Yr ydoedd yn bresenol yn Nghyflafan y Morrisiaid.

TRWY AMRYW DALAETHAU.
Wedi myned trwy y ty eira olaf, a chael y drem olaf ar Bigyn Pike, 175 o filldiroedd i'r de, daethum 1 Nebraska, a dechreuais deimlo fy mod wedi dyfod y tu yma i'r gorllewin pell. Wedi pasio amrai greigiau hynod, a myned trwy ddinas fawr o eiddo cw^n y prairies, daethom i diriogaethau ffermydd go fawr, ar y rhai y cedwir o 500 i fyny o anifeiliaid. Y fwyaf ydyw fferm Iliff, yr hon sydd 150 o filldiroedd o hyd wrth gafartaledd o 25 milldir o led, ac arni 48,000
(x230) O anifeiliaid yn pori, ac y mae rhyw siopwr bach yn nhref Sidney, yn y parth hwn, yn perchenogi tipyn o dir ar yr hwn y ceidw, er ei bleser, 8,000 o wartheg a 3,000 o ddefaid.
Bu yr Indiaid yn hir cyn mentro dyfod yn agos at y gerbydres, end yn raddol daethant yn fwy hyf. Mewn lle heb fod yn mhell o orsaf
Big Spring, ar y llinell ben, darfu i nifer o honynt geisio taflu cerbydres o deithwyr oddiar y reiliau trwy yru ugeiniau o ferlynod (ponies) yn sydyn o’i blaen lle yr ydoedd tro yn y ffordd. Methasant yn eu hamcan, lladdwyd degau o'r anifeiliaid, a chafodd y crwyn cochion deimlo plwm y teithwyr. Ar ol y tro beiddgar hwn galwant yr ager-beiriant yn “Wagen dân! - chief mawr! uch! dim daioni!” Yn North Platte City yr oeddwn mewn man y bum ynddo o'r blaen. Gerllaw yma y croesir yr Afon Platte. Daethom yn fuan i diroedd llafar da. Y tro cyntaf y bum y ffordd hon yr ydoedd yr holl ddyffryn can belled ag y gellid canfod i bob cyfeiriad yn brydferth gan Indrawn uchel a da. Rai milldiroedd yn ogleddol o dref a gorsaf Columbus y mae sefydliad o Gymry. Wedi cael Omaha a'r Afon Missouri daethum i ben y llinell enwog sydd yn arwain at y Tawel-for. Croesais y Missouri i Iowa, ac aethum i barthau Gomer a Red Oak, lle y mae sefydliad Cymreig tra blodeuog. Oddiyma aethum trwy Des Moines, Davenport, a Rock Island, lle y croesais y Mississippi, yna i Braceville a Braidwood, Illinois, dau le cyfagos ac ynddynt lawer o lowyr Cymreig. Yna trwy Toliet (p. 17,000) i Chicago. Oddiyma cymerais gyfeiriad gogledd-orllewinol i Prairie-du-chien, ar lan y Mississippi eto, ac i sefydliad Cymreig Picatonica, Wisconsin, lle y treuliais Sabbath, a lle y cefais glywed efengyl hedd yn cael ei seinio mewn Cymraeg pereiddfwyn trwy enau y Parch. J. R. Daniel. Yr ydoedd yn awr yn auaf, a'r eira yn gorchuddio'r ddaear. Arosais hefyd yn Dodgeville a Madison, a phrysurais i Milwaukee, o'r lle, er yn anamserol, yr arfaethais fyned at lanau Llyn Superior, yn y gogledd.

“ACHOSION I GANU Y NOS.”
Cychwynais tua chanol nos ar reilffordd Wisconsin Central am daith o 351 o filldiroedd i
Ashland. Canlynwyd yr oerni annaturiol a'm blinai gan.wres a syched mawr, cûr yn y pen, a phoenau trwy yr holl gyfansoddiad - meddyliwn ynof fy hun pa fath fyd fyddai (x231) arnai os byddai i mi fod yn olaf amser maith yn mhlith dyeithriaid mewn tref newydd hwnt i ugeiniau o filldiroedd o goedwigoedd ac

(xLLUN: GLIMPSES OF BAD RIVER / BALSAM FIRS)

Indiaid. Dymunais yn fawr gyfarfod â Chymro.: Yr ydoedd yn naw o'r gloch yr ail nos pan gyrhaeddais ben fy nhaith yn winegau mawrion. Cyfeiriwyd fi i dy parchus a chysurus. Nid cynt y cefais gadair i cistedd yno nag. y daeth gw^r tal, gwisgi, a thrwsiadus, a'r pren almon yn blodeuo
arno, i fewn, a chan gymeryd cadair yn fy ymyl gofynodd -
“Are you sick?
“Yes, sir.”
“Did you come on that train ?”
(x232)
“Yes, sir.”
“Where from?”
“From Milwaukee.”
“Do you live in
Milwaukee?”
“No, sir; I live in Wales.”
“Bachgen! chi Cymro? Rhowch llaw. O p'le o Cymru chi d'od?”
“O yn agos i Aberystwyth, sir Aberteifi.”
“Fi balch iawn gwel'd chi, bachgen; gwelais i dim Cymro er's deg blynedd. Drwg gen i bod chi’n sâl; ond cym'rwch chi calon, cewch chi lle da yma; yn y ty hyn fi lodgio, ac edrycha i ar ych ol chi cystal a base gwraig chi yma.”
“Yna, wedi gorchymyn y gwely goreu a’r ystafell oreu i mi, gofynodd -
“Clywsoch chi sôn am Twm Chaen Bwlet?.”
“Na, nid wyf yn cofio'n siwr. “
“Dim wedi clywed am Twm Chaen Bwlet! Twm Chaen Bwlet oedd y gw^r goreu yn Cymru. Clywsoch chi sôn am Tom Sayers?”
“Tom Sayers, yr ymladdwr, do lawer gwaith.”
“Wel, Twm Chaen Bwlet oedd wedi trainio fe i ymladd, a fi yn brawd i Twm.”
Felly cefais fy hun dan
aden un cadarn i'm hamddiffyn; gosododd fi yn glud mewn gwely, ac nes fy nyfod o hono cymerodd ofal tadol o honwyf. Ymwelwyd â mi yn y boreu gan feddyg, o ddanfoniad Mr. Thomas, yr hwn, fel y Samariad trugarog, a ddywedodd wrtho am gymeryd gofal dyladwy o honwyf, a pha beth bynag fyddai cyfiawn y talai efe iddo. Pan gefnodd hwn daeth meddyg arall, o ddanfoniad gwr y ty. Pan gefnodd hwn, wele drydydd meddyg yn dyfod ataf, wedi ei ddanfon gan rhyw wraig drugarog, yr hon hithau hefyd a roddodd i hwnw y cyffelyb orchymyn am danaf ac addewid o dal. Pan gefnodd hwn daeth is-lywodraethwr y dalaeth i fy ngweled; aeth i'w glustiau rywfodd fod genyf gred-lythyr oddiwrth y Llywodraethwr Smith; yntau a'm cynghorodd i fod yn ddiofal a gwneud fy holl angen yn wybyddus iddo ef. Erbyn hyn yr oeddwn wedi fy ngorchfygu gan syndod a diolchgarwch, a dyfalwn paham y gwnai y bobl y fath sylw o estron hollawl. Cafodd y clefyd a ymaflasai ynof ei attal yn ddeheuig mewn pryd, ac yn lle mis o glaf orwedd, ac efallai fedd yr estron unig, cefais godi yn mhen (x233)

(xLLUN: ASHLANDWISCONSIN)

(x234) tridiau. Nid bychan fu y dyddanwch a gefais gan Mr. Thomas, trwy ei ganiadau yn gystal a hanesynau.

ASHLAND A’R AMGYLCHOEDD.
Saif tref
Ashland mewn lle hynod o ddarluniadol a hardd. O'i thu cefn y cyfyd y bryniau gwyrddion, addurnedig gan y pinwydd gwerthfawr a phrenau eraill dymunol yr olwg arnynt. O'i blaen y mae Bau Chequamegon, yr harddaf a'r penaf a fedd y penaf o'r llynoedd mawrion, sef y Superior. Ymarllwysa i'r bau hwn yn agos i Ashland laweroedd o'r afonydd a'r aberoedd ardaerchocaf eu ffurf, puraf

(xLLUN: PABELLU AR YNYS)

eu dyfroedd, a llawnaf eu pysgod. Yn y wlad oddiamgylch y mae llynoedd grisialaidd a physgodfawr, ac yn bauoedd y mae ynysoedd o brydferthion a physgodwyr. Rhwng hyn a gwylltineb swynol y golygfeydd, yn cynwys daear, dyfroedd, dynion, ac anifeiliaid, y mae y lle yn gyrchfa ymwelwyr lawer yn misoedd yr haf. Y rhai ydynt hoff o hela a physgota, dyma iddynt lanerchau o'r fath a garai eu henaid. Y rhai a hoffant ryfeddodau naturiol cant yma gyflenwi eu chwilfrydedd. Y rhai a flinir gan wendidau a chlefydau corphorol a iacheir yma gan yr awelon cryfhaol a'r dylanwadau mwyaf
(x235) adfywiol. Y mae llawer o gyfoethogion yn dyfod yma i dreulio hafau cyfain; codant iddynt eu hunain bebyll ar yr ynysoedd neu ar lanau y llynoedd. Boneddigesau tyner, nad allent gartref feddwl am dreulio diwrnod heb y moethau, yr esmwythfeinciau, a'r gwelyau o ffinblu, ydynt yma yn meddwl mai nefoedd fechan ydyw cael cysgu

(xLLUN: GWESTDY CHEQUAMEGON)

ar y ddaear trwy yr haf dan dô o gynfas, a chasglu brigau yn danwydd i ferwi eu crochanau. Y mae Chequamegon Hotel, ar làn y bau, yn gyfryw ag na cheir ei ragorach o ran cysuron a rhamantusrwydd safle yn y wlad. Dywed y Llywodraethwr W. E. Smith na welodd, er gweled prif olygfeydd America, Ewrop, Asia, ac Affrica,
(x236) olygfa harddach nag a geir o'r gwestdy hwn a'r Bau Chequamegon, y glanau a'r ynysoedd.

Ychydig yn ddwyreiniol o
Ashland, trwy y coedwigoedd tewion, y mae Odanah, gwlad Indiaid Cochion Chippewa. Gan gymaint y rhyfeloedd fu rhwng y llwyth hwn a llwythau gelynol, nid oes ond gweddillion o hono yn aros. Y maent yn eu holl ddullwedd ac

(xLLUN: BARK POINT, GER CHEQUAMEGON)

arferiadau yn berffaith Indiaidd, ond hollol ddiberygl, yr hyn ellir ddweyd hefyd am holl Indiaid glanau Llyn Superior. Cyrhaedda rhai o honynt oedran mawr, a dywedir na welir gan Indiad pur, pa hened bynag fyddo, na blewyn gwyn na dant yn eisieu. Diau fod gwareiddiad yn ei ffurf anmherffaith bresenol yn peri llawer o ddrygau yn gystal a llawer o ddaioni. Codir rice gan yr Indiaid hyn. Eu moeth penaf ydyw castor oil, yr hwn a ddefnyddiant yn symiau mawrion; rhydd y Llywodraeth gyfraid o hono iddynt. Pan yn gwneud ymchwiliad i'r achos eu bod yn defnyddio cymaint,
(x237) ar un achlysur, cafwyd eu bod yn rhostio eu cloron (potatoes) ynddo.

Tua deunaw milldir yn ogleddol o Ashland y mae ei chwaer fechan, dlos, Bayfield, gyferbyn a'r hon y mae yr Ynysoedd Apostol- aidd (Apostle Islands), y rhai a safant allan yn fawrion a bychain, hirion a chrynion, rhai yn foelion a rhai yn orchuddiedig gan binwydd heirdd, y rhai, yn nghyda'r creigiau ogofawl, uchel, a daflant eu delwau dyfnwyrdd i'r dyfroedd dyfnddu a daenant danodd. Yn La Pointe, ar Ynys Madelaine, y fwyaf o'r Ynysoedd Apostolaidd, agos ddau gant a haner o flynyddau yn ol, y sefydlwyd gorsaf genhadol yn mhlith yr Indiaid gan y Tad Marquette, un o'r Jesuitiaid. Saif i fyny eto; ymddengys yn hen dref fechan ryfedd, ryfedd, ac ynddi hen eglwys fechan ryfeddach na hyny, hen fynwent Indiaidd fechan ryfeddach drachefn, lle yr huna dychweledigion llawer oes.

(xLLUN: O ASHLAND I MILWAUKEE)

Lluddiwyd fi gan afiechyd i weled y ffordd wrth fyned, ond ymdrechais ddal ar ei rhyfeddodau wrth ddychwelyd. Chwe' milldir yn ddeheuol o
Ashland croesasom yr Afon Wen (White River). Y mae y bont hir ac uchel iawn sydd yma yn un o'r rhai cywreiniaf a welir. Geilw, yr Indiaid hi yn “Bont y pryf copyn mawr.” Yn mhellach daethum at yr afon sydd gan ramantusrwydd ei golygfeydd bron myned yn fyd-enwog, nid ar gyfrif ei maintioli na’i hanes, ond ar gyfrif ei ffurf ramantwyllt, ei throadau mynych, mynych, a'i chwympiadau amrywffurf a mawreddus. Gelwir hi yr Afon Ddrwg (Bad River). Croesir hi gan y reilffordd 17 o weithiau mewn naw milldir, ar teithwyr, mor wyllt a chynhyrfus a hithau, a neidient o'r naill ochr i'r llall i'r cerbydau i gael golwg arni. Mewn pellder o 13 o filldiroedd, ffordd yr ehedai bran, disgyna yr afon 2,000 o droedfeddi; felly nid yw ei gyrfa igam-ogam amgen na chyfres o gwympiadau trystfawr, a'r rhai hyny yn cael eu gwthio rhwng agenau culion gyda'r fath ruthr fel y gellid tybio fod y mynyddoedd tragywyddol yn pwyso arnynt i'w ogwasgu trwodd. Syrthiant mewn manau o 80 i 100 o droedfeddi ar un naid; mewn manau eraill llithrant gan ffrochi.oni a thyrfio yn rhyfedd dros risiau o greigiau a chlapiau anferthol Yn nghulfwlch yr afon hon yr oeddym yn myned trwy fynydd-gadwen Penokee.

(x238)
Nid oedd yn ein hamgylchynu ar y ffordd hen ond coed - coed o hyd ac o hyd. Dyddorol ydoedd gweled yn y gorsafoedd a'r pentrefi bychain a newyddion y fath gyflawnder o fyrddau, trawstiau tô-estyll, pyst, a phob rhyw ffurfiau yn dyrau mawrion parod- i'w danfon i ffordd. Y torwyr coed, hefyd, dyna ddynion rhyfedd ydynt

(xLLUN: PONT YR AFON WEN)

y rhai hyny! Swediaid, Norwegiaid, a thramorwyr eraill ydynt gan amlaf, cryfion a geirwon eu gwedd; ymwisgant yn y lliwiau amlycaf- capiau o goch, gwyn, a glas; crysau gleision, llodrau o ysgarlad, gwregysau o goch dwfn, a botasau uchel. Ymddangosant rhwng y pinwydd gwyrdd yn dra effeithiol. Gorganmolir y coedwigoedd hyn fel lle manteisiol i ymfudwyr. Nid oes ddadl nad oes yma lawer o ddaear dda, a chredir mai tir coed wedi ei glirio ydyw y mwyaf cynyrchiol. I goedwigeedd y byddai yr hen ymfudwyr o Gymru yn arferol o fyned, ond yn
(x239) ddiweddar ystyrir fod prairies y gorllewin yn barotach i'w trin. Y mae llawer o fanteision, fodd bynag, yn perthyn i gartref newydd yn y coed. Nid rhaid planu coed ar y tir; ni raid myned i gostau

(xLLUN: RHEIADRAU YR AFON DDRWG)

mawrion i gael defnyddiau at adeiladu, ond ar unwaith codir ty log, y ty bychan glanaf a chynesaf a all fod. Ni raid bod yn brin, o ddefnyddiau cau nac o danwydd - tanwydd yn wir ydyw gogoniant cartref yn y coed. Ni raid dyoddef prinder ychwaith o herwydd
(x240) methiant enydau y blynyddoedd cyntaf. Gellir cael yma ddigon o waith tori a thrin coed yn ngwasanaeth y reilffordd neu gwmniau y pinwydd, a chael tâl da am hyny. Oblegid y rhesymau hyn ac eraill, gellid barnu na wnai pobl dylodion yn well na phrynu tiroedd rhad yn y coedwigoedd hyn, eu harloesi, a thalu am danynt fel y gallent, a gweithio i gyflogwyr pan fyddai arnynt angen arian; ac os daeth y tadau gynt yn eu blaen yn mhell oddiwrth bob cyfleusderau, yn sicr dylai ymsefydlwyr yn y coedwigoedd hyn ragori, pan y mae reilffordd, pentrefi, a phob cyfleusderau megys wrth eu drysau. Wedi pasio amryw leoedd a llawer o ddyddordeb yn perthyn iddynt, megys Phillips, Waupaca, Neenah, Llyn Elkhart, ac eraill; daethum i Milwaukee.

OBERLIN.
O Milwaukee cymerais daith ddeheu-ddwyreiniol o 195 o filldiroedd trwy
Lafayette (p. 15,000) i Indianapolis (p. 76,000), prif ddinas talaeth Indiana. 115 o filldiroedd yn mhellach ac yr oeddwn yn Cincinnatti; 153 o filldiroedd drachefn trwy Columbus a daethum i Newark, lle, yn nhy fy mrawd, y gwnaethum gryn arosfa er cydgasglu defnyddiau y llyfr yr aethum allan o'i blegid, sef HANES TALAETHAU UNEDIG AMERICA A'R CYMRY YNDDYNT. O Newark aethum 127 o filldiroedd yn ogleddol i Oberlin (p. 4,000), lle gynt y treuliais beth amser yn yr athrofa, ar lle mwyaf crefyddol ac iachusol ei ddylanwadau a welais erioed. Credwyf mai yr athrofa hon yn unig sydd yn cymeryd i fewn bob rhyw, cenedl, a gradd o'r hil ddynol yn ddiwahaniaeth. Byddai meibion a merched, gwynion a duon, yn cydgyfarfod yn yr un dosbarthiadau, a chydnabyddid yn gyffredinol fod hyny yn Oberlin, o herwydd mawr grefyddolder y lle, yn cael effeithiau dymunol. Nid anghorir byth gyfarfodydd gweddi y bobl ieuainc bob nos Lun a nos Iau, lle y byddai ysgolheigion graddiol, talentog, a choeth gyda ieuenctyd cyffredin, y dref - meibion a merched o hiliogaeth Sem, Cam, a Tapheth, yn anghofio pob gwahaniaethau, “Gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr ysbryd yn nghwlwm tangnefedd.” Nid oedd yno ruthro na methu ymatal o fath yn y byd, nac ychwaith lesgedd na llusgo yn mhlith y llwythau, ond gwnelid pob peth yn weddaidd ac mewn trefn, ac amlwg oedd fod yr eneidiau ya hyfryd lawn o'r ysbryd, megys hefyd (x241) y byddai yr adeilad bob tro yn orlawn o gynulleidfa. Ar yn ail â'r gweddiau gafaelgar a chanu gwirioneddol foliant, byddai gan un brofiad, gan arll salm, gan arall hanes cysurus, ac yn fynych gosodid ger bron geisiadau am weddiau dros bersonau neu achosion neillduol. Am dri o'r gloch brydnawn, bob dydd, byddai cyfarfodydd gweddi cyffredinol. Nid rhywbeth a barhaodd am dymor byr ydoedd hyn, ond am oes; y mae eto yn parhau, a chaffed barhau hyd ddiwedd y byd. Yno y gwelais y Sabbathau cyflawnaf a pherffeithiaf ar y ddaear. Gweinidogaethid gan yr hen ddiwygiwr llafurus ac enwog Charles G. Finney, gw^r hen, tàl, a'i lygaid yn gwreichioni gan fywiogrwydd a sêl; cafodd lawer o'i gam-ddeall, ac am hyny hefyd ei gam-esbonio. Gan nad beth am ei olygiadau ar rai materion, diau ei fod yn ddyn cydwybodol a duwiol iawn – “Oherwydd paham, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt.” Dylanwadau Finney a wnaeth Oberlin yr hyn ydyw, a phe ceid yn mhob tref y fath ffrwythau iachusol ag sydd yno byddai yn baradwys ar y ddaear. Nid oes yno dy i yfed pethau meddwol na chwareudy. Gwnaeth circus gais at ddyfod i fewn unwaith, ond gweddiodd Finney ar ddechreu y gwasanaeth boreuol gyda'r gynulleidfa fawr ar i'r dref gael ei gwaredu rhag yr oferedd hwnw. Torodd gwageni y circus fel nad allodd ddyfod yn nes na thair milldir i'r dref. Diweddid y cyfarfodydd cenhadol rhyfeddol a gynelid bob nos Sabbath fynychaf trwy ganu yn Seisnaeg emynau peraidd ganiedydd Cymru – “Dros y bryniau,” &c., “Doed yr Indiaid,” &c., “Ar ardaloedd,” &c., “Gwawria, gwawria,” &c., “Hêd fel mellten,” &e.

Yr oedd Oberlin yn orsaf bwysig ar y reilffordd danddaearol. Gw^yr y darllenydd, ond odid, mai llinellau o ddyngarwyr glewion oedd y reilffordd danddaearol hon. Yr oedd rhyw leoedd, megys Oberlin, yn fwy blaenllaw nac eraill i roddi cymorth i'r trueiniaid ddianc o'r talaethau caethion i
Canada rydd. Os llwyddai y ffoadur ddyfod o hyd i wy^r y ffordd hon byddai yn dra sicr o ddiangfa, paentient ei wyneb du yn wyn, gwisgent ei ben crychddu â gwallt coch, cuddient ef dros wythnosau, hebryngent ef o orsaf i orsaf, a gwylient drosto ar hyd yr holl ffordd, ond byddent felly yn peryglu eu hunain, canys yr oedd y gyfraith yn eu herbyn. Ar un achlysur cafodd ugain o wy^r blaenaf Oberlin eu dodi mewn dalfa yn Cleveland am gynorthwyo rhyw ffoaduriaid; yn y carchar y treuliasant Sabbath, (x 242) ac ni bu Sabbath o fath hwnw yn Oberlin nac yn Cleveland ychwaith. Yn y lle blaenaf gweddi ddyfal a wnaethpwyd gan yr eglwys ar ran y carcharorion. Yn y lle olaf tyrodd y bobl o amgylch, a phregethodd y carcharorion iddynt, nes, megys yn Phillipi, y teimlid fod seiliau y carchar yn siglo. Dydd Llun trodd y prawf yn ofnadwy yn erbyn yr erlynwyr, a da ganddynt fu cael myned yn waglaw i wlad Dixie; canys gwnaethant gamwedd erchyll, nid yn unig erlyn ar ol dynion duon, ond hefyd ddàl a charcharu dynion gwynion, rhyddion, a pharchus. Nis gellid meddwl am ddyn-ladrad gwaeth. Teithiais, a gwelais lawer o ryfeddodau, ond yr wyf yn gosod Oberlin dawel a duwiol yn y rhestr flaenaf o honynt oll. Yr oedd crefydd megys yn elfen yn awyrgylch y lle.

RHEIADRAU
NIAGARA.
O Oberlin cymerais daith ddwyreiniol o 217 o filldiroedd gyda glan Llyn Erie trwy Cleveland, Ashtabula (p. 5,000), a Dunkirk (p. 7,000), i Buffalo (p. 156,000), hen ddinas enwog wrth ben dwyreiniol y llyn, lle rhed allan o hono afon fawr Niagara Yr afon hon, wedi rhedeg 331 o filldiroedd yn ogleddol, a ymarllwysa i Lyn Ontario. Bumtheg milldir o
Buffalo y mae y rheiadrau enwog, y rhai, gan gymaint a ddywedwyd, y mae yn anhawdd cael dim yn newydd i ddweyd am danynt. Gallwn weled eu mygdarth a chlywed eu twrf yn mhell cyn dyfod atynt. Cefais yr amgylchoedd yn dra gwahanol i'r hyn y byddai yn naturiol i un feddwl eu bod, o gymaint ag fod y ddaear yn wastad. Tua milldir neu ddwy uwchlaw y cwympiadau y mae yr afon lydan yn cael ei chulhau gan y glanau; cyflyma i lawr felly a'i bell wyneb yn erwyn o arw ar faith oriwaered. Pan ddaw at y cwymp rhenir hi gan ynys fechan a elwir Ynys yr Afr (Goat Island). Syrthia y rhan fwyaf o honi i lawr rhwng pen uchaf yr ynys hen a Canada, ar ffurf pedol ceffyl. Gelwir y cwymp hwn yn Canada Fall neu Horseshoe Fall. Y imae yn 149 o droedfeddi o uchder, ac yn 2,100 o droedfeddi o led. Rheda rhan arall yr afon megys o'r tu cefn i'r ynys, a disgyna islaw iddi yn llen hir megys dros geulan, a'i gwyneb at Canada. Gelwir y cwymp hwn yn American Fall. Y mae yn 162 o droedfeddi o uchder, ac yn 1,125 o led. Dywedir y syrthia can' miliwn o (x 243) dunelli o ddwfr i lawr yn y ddau gwymp bob awr. Wedi berwi a ffrochioni danynt rheda yr afon mewn gwely cul a dwfn o tua 800 o o droedfeddi o led, a 300 o ddyfnder. Y mae sefyll gyferbyn â’r rheiadrau, a gweled yr afon wyllt yn rhedeg a neidio o bell i gymeryd ei naid ddihafal hon, y fath gynwys o ddyfroedd gwyrddion yn olwynaw i lawr yn barhaus a pharhaus, y mygdarth tew yn ymgodio'r dyfnder, y ffrydiau enfawr yn ymgladdu ynddo fel yn ymarllwysi gwmwl, yr enfys awryliw, dysglaer, a hardd yn chwareu yn y cwmwl hwnw, y berw trochionllyd yn y gwaelod, y twrf byddarol gyda hyny, y mae hyn oll yn olygfa! ond nis gellir ei desgrifio. Hawdd defnyddio ansoddeiriau – “mawr,” “ardderchog” - ond nid hawdd gosod allan fawredd ac ardderchogrwydd y rheiadrau hyn. Bum yn ffodus yn fy niwrnod i'w gweled, canys yr oedd aml gymylau yr awyrgylch wrth lenu a dadlenu yr haul bob yn ail yn peri i liwiau y dyfroedd mawrion gyfnewid o'r golau i'r tywyll, ac i'r enfys ddiflanu ac ymddangos, yn bob rhyw raddau o ddysglaerdeb. Bydd darlun hardd o'r olygfa yn fy llyfr nesaf.

Hi wisga'r goleuni yn fantellau dani,
Lle dawnsia'r pelydrau fel myrddiwn o sêr
Llaes addurn ei godrau sydd gwmwl yn codi
O'r dyfnder berwedig, brigwynawl, a thêr.
Am ei gwasg y mae gwregys o enfys lliwiedig,
Dysglaeriach na'r gemau rhagoraf a gaed;
Dan goron ei balchder hi chwardd yn wyrenig,
A’r gorddyfn ferw yn balmant i'w thraed.

O raiadr ferth! mae yn hardd ac yn wridog,
Tra'n gorphwys ei phen yn chwareugar a llon
Ar fynwes fawr arian ei chariad dihalog,
I deimlo gwaedguriad cariadus ei fron
Ei hymffrost a glywir yn nhwrf ei chwympiadau,
Ei balchder a welir yn mawredd ei nerth,
Tra'n rhedeg heb orphwys, heb flino, hyd risiau
Y dalgraig fawreddog, ddaneddog, a serth.

I PHILADELPHIA A’R AMGYLCHOEDD.
Dychwelais trwy
Buffalo, a daethum i sefydliad Cymreig Cattaraugus. Pan ydoedd cyfaill yn myned a mi yn ei gerbyd heibio lladd-dy yn y gymydogaeth hon, dywedai mai yno yr oeddynt yn gwneud deacons, a chyda’r gair daeth rhywbeth arall i fod yn destyn ymddyddan, fel yr anghofiais ofyn eglurhad ar y modd y gwneid


(x244) diaconiaid mewn lladd-dy. Nis gallwn lai na dyfalu, pan adgofiais, beth a allai hyny fod - pa raid oedd dwyn pobl dda dan law y cigydd, ac efallai ollwng eu gwaed cyn y gellid eu gwneud yn ddiaconiaid. Gwelais wneud diaconiaid yn Nghymru. Bum yn nghyfarfod misol Aberyffrwd “er ys talwm,” lle y gwelais bobl wrth y gwaith, ond gweinidogion oeddynt hwy, ac mewn capel. Ond sut yn y byd yr oedd cigydd yn ei wneud mewn lladd-dy? Yn y dyryswch y buaswn wedi fy ngadael onibai i hen ddiacon parchus o'r ardal roddi i mi yr eglurhad canlynol: - Cedwir gan bobl y parthau hyn lawer o wartheg, i wneud caws o'u llaeth. Er mwyn cael y llaeth oll arferid gynt ladd y lloi yn dridiau oed a'u taflu i'r cwn; ond daeth rhyw ddyn o ddiacon i'r ardal a phrynai grwyn y cyfryw loi i wneud rhywbeth o honynt, am hyny gelwid y crwyn hyny yn deacon’s skins, a thrwy dalfyru yr enw aethpwyd i'w galw yn deacons yn unig. Oddiyma aethum trwy Corry (p. 6,000), Oil City (p. 10,000), a Braddy's Bend i Pittsburgh. Ar y daith hen aethum trwy barthau lle y codir olew (petroleum) o'r ddaear. Yr oedd y cerbydresi llwythog o hono yn profi ei fod yn nwydd helaeth a phwysig yn Pennsylvania. Y mae golygfeydd glanau yr Afon Alleghanny hefyd yn werth i edmygydd prydferthion natur ymweled â hwy. O Pittsburgh aethum i Harrisburgh; yna yn ddeheuol i York (p. 14,000), oddiyno i West Bangor, yna trwy Elkton, Maryland, a Wilmington, Delaware (p. 43,000), i Philadelphia, dinas y cariad brawdol.

Priodol y gelwir y ddinas hen felly. Cariad brawdol roddodd fodolaeth i'r meddylddrych o honi. Cariad brawdol a brynodd y tir, a gynlluniodd y ddinas, ac a'i hadeiladodd; ac y mae pawb ag sydd yn meddu elfenau cariad brawdol, ac yn gwybod hanes y ddinas hen, yn ei charu. Y mae wedi mwynhau graddau o dawelwch a chyrhaedd y fath harddwch ac enwogrwydd fel y mae yn deilwng o'i henw. William Penn, Cymro a Chrynwr (Quaker) duwiol, ddau can' mlynedd yn ol, wedi cael sicrwydd am y diriogaeth gan frenin Lloegr, a fargeiniodd gyda'r Indiaid ac eraill mor gyfiawn fel ag i sicrhau eu brawdgarwch a'u hedmygedd parhaus. Ei amcan ydoedd cael gwlad a dinas lle y caffai dynion fwynhau rhyddid i addoli Duw yn ol eu cydwybodau. Y mae y cynllun yn ol yr hwn yr adeiladwyd
Philadelphia hyd heddyw yn gynllun holl ddinasoedd goreu America. (x246)

(xLLUN: LLONGBORTH EWROPEAIDD- PHILADELPHIA)

Croesa ei heolydd yn gyfonglog, bron oll yn dal yr un pellder oddiwrth eu gilydd, ac yn rhedeg mor uniawn a saeth. Saif y ddinas ar wddfdir rhwng yr afonydd
Delaware a Schuylkill; ac er

(xLLUN: GORSAF ARDMORE; GER PHILADELPHIA)

ei bod dros 80 milldir oddiwrth y môr, y mae y llongau cyfanforawl mwyaf yn dyfod i'w llongborth. . Hon ydyw yr ail ddinas:yn rhif ei phoblogaeth (900,000) yn y wad, Y mae ei hadeiladau mawrion a
(x247) heirddd, a'i hamryfal sefydliadau, yn lliosocach nag y gellir yma wneud crybwyllion am danynt. Yn y ddihas hon, yn y flwyddyn 1774, y, mabwysiadwyd dadganiad iawnderau y wlad; ac o honi hi, yn y flwyddyn 1776, y daeth dadganiad annibyniaeth allan. O 1790 hyd 1800 bu yn brif ddinas y llywodraeth.

Y mae yn
Philadelphia laweroedd o Gymry, a mwy na hyny o waedoliaeth Cymreig. Medda ran helaeth yn hanes y Cymry cyntaf a ddaethant i'r dalaeth ac a ymsefydlasant yn y parthau. Ar fy nhaith yno o Slatington, y flwyddyn flaenorol, aethum trwy dair gorsaf agosaf i'w gilydd a elwid North Wales, Gwynedd, a Penllyn. Ychydig yn nes i'r ddinas y mae gorsaf Jenkin; ac ar ffordd arall yn yr un sir, sef Montgomery, y mae Bryn Mawr, Pencoed, ar enwau Cymreig eraill. Yn y parthau hyn y gwelais yr amaethdai, ysguboriau, a bueirth tebycaf i eiddo Cymru, a cheir yn yr amgylchoedd dai ardderchog gyda llinellau llydain o liwiau gwahanol yn y muriau a ymddangosent i mi fel wedi deilliaw oddiwrth gynllun hen dai brithion du a gwyn sir Drefaldwyn. Wele enghraifft yn y darlun blaenorol o orsaf Ardmore. Y mae enwau Cymreig ar lawer o'r preswylwyr, a cheir hen lyfrau ac ysgrifau Cymreig yn achlysurol yn eu tai, ond Americaniaid hollawl ydynt er's oesoedd bellach. Rhoddir hanes helaeth am yr hen ymsefydlwyr boreuol yn fy llyfr nesaf - HANES TALAETHIAU UNEDIG AMERICA A'R CYMRY YNDDYNT.

AT AC AR Y CEFNFOR ETO.
Can gymeryd cangen New Jersey o reilffordd ardderchog Pennsylvania ar hyd glyn y Delaware, aethum 80 milldir trwy Trenton (p. 30,000), Elizabeth (p. 29,000), a Newark (p. 137,000), lleoedd pwysig yn hanesyddiaeth boreuol y wlad, i Jersey City (p. 121,000). Jersey City, ar gyfrif ei phorthladdoedd pwysig a'i hamrywiol reilffyrdd, a ellir ystyried yn brif dramwyfa y wlad. Yma disgynais am y waith olaf o'r gerbydres Americanaidd. Yr hen gerbydres anwyl! Cartrefais arni agos flwyddyn a haner. Hi a'm cariodd yn ei chôl yn glud a diogel dros bob rhyw fath o ddaear. Pa anffodion bynag a ddygwyddodd i bobl eraill arni, rhaid i mi ddwyn tystiolaeth i'w gofal a'i ffyddlondeb. Gan gymeryd trem hiraethlawn arni, cymerais y bâd, a chroesais yr afon i New York. Yno cyfarfyddais â'r Parch. Theophilus Davies, Mineral Ridge, Ohio, wedi dyfod, nid i dderbyn
(x248) ei anwyl briod yn iach a llawen fel y gobeithiasai, ond i gael golwg ar ei gwyneb gwelw mewn arch ac amdo. Dyfod yr ydoedd hi gyda'i chwe' phlentyn bychan at ei phriod, yr hwn a ddaethai rai misoedd yn flaenorol; ond ar y diwrnod y cyrhaeddodd y llong gyda'i rhan ddaearol y wlad ddaearol yr oedd ei phriod galarus ynddi, cafodd ei rhan ysbrydol, ni a hyderwn, hwylio yn iach i'r wlad ysbrydol y mae ei Phriod nefol yn orfoleddus byth o'i mewn. Erbyn fy mod yn New York, teimlwn nad oedd ond megys cam rhyngof â chartref, ac mor awyddus oeddwn i gymeryd y cam hwnw fel heb ymdroi y cymerais y City of Berlin arddercbog, nid y gyflymaf,

(xLLUN: CITY OF BERLIN)

er hyny y rhagoraf, efallai, o'r holl agerlongau rhagorol a groesant yr Atlantic. Ddeng mlynedd yn flaenorol yr oeddwn yn cael y fraint o gyd-forio ar fwrdd y City of Baltimore â'r hybarch William Jones, un o dri chedyrn Llanllyfni, a'i ferch. Ymwelais âg ef hefyd ar fy ymweliad diweddar â'i ardal yn Wisconsin, ac ymddangosai, er yn hen ac megys wedi ei adael ei hunan, eto yn dirf ac iraidd ei ysbryd. Y peth rhyfeddaf ar y fordaith hon ydoedd ymddangosiad tanllyd y tònau. Treuliais oriau wedi y tywyllai yr awyrgylch yn gwylio y dyfroedd yn cael eu gwànu gan yr agerlong a'r borlymau agos a phell, ac ymddangosent fel pe byddent hylif o dân yn dyfod i fyny. Dywedai rhai mai myrddfyrddiynau o greaduriaid bychain byw, yn meddu arwyneb tebyg i eiddo mageuod goleuedig (glow-worm), oedd yn peri yr ymddangosiad. Pa un bynag ai hyny ai ansawdd phosphoraidd y dyfroedd eu hunain ydoedd, ymddangosai “Y môr a'i donau'n dân.” Ar y degfed dydd daethom i Liverpool.

(x249)
Y DAITH YN NGHYMRU.
Wedi croesi i Birkenhead cefais fy hun mewn compartment bychan ar y gerbydres, a phared rhyngof â dosbarth o uwchraddolion. Felly dyma fi eto yn Mhrydain Fawr. Wedi myned i'r wlad daeth i mewn chwech o wy^r parchus ar eu taith i gynadledd gyfundebol, ac yr oedd yn amlwg fod y rhai hyn hefyd yn perthyn i wahanol ddosbarthiadau. Ymddangosai tri o honynt fel yn meddu safle, y pedwerydd fel dyn ieuanc yn esgyn, a'r ddau eraill, gallwn dybio, yn weinidogion call o'r trydydd dosbarth, canys ar eu gwynebau prydweddol, dystaw, a gofalus yr eisteddai y wedd wylaidd sydd yma yn nodweddiadol o'r cyfryw yn mhresenoldeb rhai uwch! Siaredid yn ddifrifol gan y rhai blaenaf ar y pethau oedd i fod yn faterion y gynadledd. Gosodwyd ger bron yr angenrheidrwydd o gael “book- proof .” “Beth yw hyny ?” gofynai un. Atebwyd mai pwyllgor fyddai, wedi ei awdurdodi i edrych dros bob ysgrifau cyn y caent ymddangos yn y newyddiaduron - goruwch-olygwyr dros holl olygwyr Cymru. Ymdriniwyd hefyd ar y priodoldeb o gael enw cyfaddas ar yr adran Seisnigaidd o'r cyfundeb. Yr oedd yr holl siarad yn frwdfrydig, a llawer o bethau a benderfynwyd yno, fel ag iddynt gael eu cyflwyno megys yn ready-made yn y wir gynadledd.

Aeth y rhai hyn allan, a chymerwyd eu lle gan brynwyr a gwerth- wyr defaid; a phwnc yr ymddyddan gan y rhai hyii ydoedd pethau perthynol i'r alwedigaeth hono, yn fwyaf neillduol y fantais a'r anfantais o dori cynffonau defaid. Daeth bron bob math o gynffonau i'r bwrdd, nes o'r diwedd y gofynwyd paham na roddwyd cynffon i ddyn fel i bob anifail arall. Wrth weled rhyw ddyn nad oedd hyd yn hyn wedi cymeryd rhan yn yr ymddyddan yn gwenu, trodd un o'r frawdoliaeth ato a dywedodd, “Maddeuwch fy hyfdra, syr, ond gan eich bod yn ymddangos fel yn cymeryd dyddordeb yn ein hymddyddan, a welwch chwi yn dda egluro i ni paham y gadawyd dyn mwy na chreaduriaid eraill yn amddifad o gynffon?” “Am ei fod wedi ei adael i ddyn i enill cynffon iddo ei hun,” ydoedd yr ateb. “Dyna fo ar ei ben,” gwaeddai un o honynt hwythau, “a'r creadur o ddyn na fedr enill cynffon o deitlau neu gynffon o sidanau, nid yw deilwng o gynffon dafad.” Wedi i'r rhai hyn fyned allan gorlanwyd yr ystafell fechan gan rhyw genedl heb fod yn Gymry nac yn Saeson iawn, ac eto rhywfodd, rhwng math o Gymraeg a math o Seisnaeg,
(x250) medrent raffu ymadroddion serthedd a chableddau yn ddiymatal. Rhwng hyn a'u hymddygiadau anfoesgar a'u mwg myglys, gwaredigaeth fawr fu eu mynediad hwythau allan. O hyny yn mlaen i Aberystwyth cefais y lle oll i mi fy hun, a sylwais nad yw Cymru fad, wrth ei chydmaru fig amrywiol wledydd America, yn colli dim yn ei thlysni a'i hawddgarwch - ei llechweddau gwyrddlas, ei dyffrynoedd mwynion, ei hafonydd a'i rheiadrau bychain, chwareugar, a llygadlon, ei chaeau, ei pherthi, a'i choedlwyni siriol, ei haneddau tawel, ei hanifeiliaid gwar, a'i haml gerddorion asgellawg O! mor baradwysaidd, mor gartrefol, ac mor gariadus yr ymddangosant oll. Gall Cymro pur deithio'r byd a chadw yn ddihalog ei serch at, a'i edmygedd o wlad ei enedigaeth.

Dros gyfanfor a chyfandir, draw i fro-dir machlyd haul;
Dros frigwynion dònau mawrion, gyrwynt geirwon heb eu hail;
Dros noethdiroedd, pell goedwigoedd, anial-leoedd craslwch mân;
Dros fynyddau, cribawg greigiau, oesawl gartre'r eira glân;
Ni chanfyddais i, er hyny, dlysach gwlad na gwlad y Cymry,
“Cymru, gwlad y gan.”

Dros gyfanfor a chyfandir, yn mhlith brodyr o bob hil -
Dynion gwynion, cochion, duon, a melynion lawer mil;
Ewropeaid, Americiaid, a Mexiciaid ryfedd ran;
Meibion Asia, plant Ethiopia, gyda gwallt fel nos o wlan;
Ond ni cheir yn mhlith y rheiny bobl megys pobl o Gymru,
“Cymru, gwlad y gan.”

Dros gyfanfor a chyfandir y canfyddir ffrwythau fyrdd;
Dychymygion pob rhyw ddynion, pob rhyw ffwdan, pob rhyw ffyrdd,
Pob rhyw gredo, pob rhyw grefydd, pob gwehelyth heb wahân,
At bob dawn a dyfais dofir daear, awyr, dw^r, a thân.
Yn eu plith yn hoew, heini, gwelir camrau meibion Cymru,
“Cymru, gwlad y gan.”

Daethum i Aberystwyth yn gynar yn y prydnawn - gartref cyn nos, a chefais fy hun, ar ol agos flwyddyn a haner o absenoldeb, wedi cyflawni taith o tua deunaw-mil-ar-hugain o filldiroedd - Tad ein holl drugareddau wedi parhau yn ei ofal rhyfedd drosof fi a'r eiddof, fel ag i ni oll gael cydgyfarfod gartref yn fyw, yn iach, ac yn llawen. A gawn ni felly orphen taith yr anialwch yn y byd? A gawn ni ar ol ein crwydriadau pell, blinderau a pheryglon fyrdd, orphwyso gyda'r teulu gwaredigol mewn cartref o lawenydd a hyfrydwch tragywyddol?

“Mae'n hyfryd meddwl ambell dro, wrth deithio anial le,
Ar ol ein holl flinderau dwys cawn orphwys yn y Ne'.”



Y TUDALEN NESAF:  1217k Hysbysebion Cefn y Llÿfr

 

Ble'r wÿf i? Yr ÿch chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weørr àm ai? Yùù ààrr vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wébsait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website



 

 


Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats