1212k Gwefan Cymru-Catalonia / la Web de Gal·les i Catalunya - Wales-Catalonia Website. Dros Gyfanfor a Chyfandir:

Sef Hanes Taith o Gymru at Lanau y Môr Tawelog ac yn ôl, Trwÿ brif Daleithau a Thiriogaethau yr Undeb Americanaidd

Gan William Davies Evans. Aberystwÿth: Argraffwyd gan J. Gibson, Swyddfa'r ‘Cambrian News’ MDCCCLXXXIII (1883)

 

 

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_008_dgac_06_1212k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................1208k Y Gyfeirddalen i'r Llyfr Hwn (Dros Gyfanfor a Chyfandir)

..................................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

Dyma ran o Adran 11 yn y wefan hon, sef

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Dros Gyfanfor a Chyfandir

William Davies Evans (Aberystwÿth 1883)

 

Rhan 6 (tudalennau 126-151)

Adolygiadau diweddaraf:
19 12 2001

 

 

 

 

1208k

Cynllun y Llyfr Gordestun

 

 

1219k

Rhan 1 Tudalennau 1-22

1207k

Rhan 2 Tudalennau 23-49

1209k

Rhan 3 Tudalennau 49-76

1210k

Rhan 4 Tudalennau 76-103

1211k

Rhan 5 Tudalennau 103-126

1212k

Rhan 6 Tudalennau 126-151

1213k

Rhan 7 Tudalennau 151-173

1214k

Rhan 8 Tudalennau 173-200

1215k

Rhan 9 Tudalennau 200-227

1216k

Rhan 10 Tudalennau 227-250

 

1217k Hysbysebion Cefn y Llyfr

1218k

Mynegai - Amryw

 

 



 

(x126)

AMGYLCHOEDD COLORADO SPRINGS.

Tref ieuanc, bardd, iachusol, a rhinweddol wrth droed y mynydd, uchel, Pike's Peak, ydyw Colorado Springs. Y mae ei hystrydoedd yn gant a'i havenues yn haner can' troedfedd o led, a rhesi o brenau deiliog yn eu cysgodi. Y mae y dref hon hefyd, fel amryw o drefi America, yn dref ddirwestol. Nis gall dyn a fyddo yn perchenogi (x127) tir ynddi, nac arall trwy ei ganiatâd, werthu dyferyn o ddiod feddwol ar y cyfryw dir heb ei fod, yn ol telerau y weithred (deed) a gafodd, yn colli ei hawl yn gwbl iddo.

 

Pum’ milldir o Colorado Springs y mae Manitou, tref fechan ffasiynol iawn arall, yn llechu yn ddyddos yn nghesail y mynydd. Llaweroedd ydynt yr ymwelwyr a ddeuant yn feunyddiol i'r ddwy dref hyn i fwynhau awyr gryfhaol, ffynonau meddyginiaethol, a golygfeydd rhyfeddol. Yn mhob un o'r pethau hyn y mae y llanerch hon yn hynod.

 

Ychydig filldiroedd yn ogleddol o'r trefi hyn y mae Monument Park, lle yn gymysg â choedlwyni gwyrddion; y mae creigiau a cholofnau o dywodfaen coch a gwyn yn sefyll i fyny yn bob maintioli a desgrifiad, rhai mor gyfluniaidd a phe byddai dwylaw dynion wedi eu gwneud a chynion. Ymddangosai rhai. fel pyrth bwäog, eraill fel pigdyrau, eraill fel eingion gof, eraill fel delwau cerfiedig, ac eraill fel bedd-golofuau.

 

Yn nes i Manitou y mae Gardd y Duwiau (Garden of the Gods), lle y gwelir meini ar lun dynion, eraill ar lun menywod a gorchudd-leni drostynt, eraill ar lun delwau a duwiau yr hen ddwyreinwyr, a chanddynt benau adar, llewod, ychain, &c. Safant rai wrthynt eu hunain, eraill yn ddau neu dri

 

(x128)

(xLLUN: MANITOU, COLORADO)

 

(x129) yn nghyd, ac eraill yn gynulleidfa o fodau dystaw, llonydd, prudd, a sobr. Wrth edrych arnynt o un cyfeiriad ymddangosent yn fathau neillduol o greaduriaid byw. Wrth edrych arnynt o gyfeiriad arall ymddangosent yn fathau eraill o greaduriaid hollol wahanol. Byddai creigiau eraill yn eu plith ar ffurf adeiladau, eglwysdai pinaclog, a chaerau tyrawg. Pe gosodid dyeithr-ddyn yn ei gwsg i lawr yn y lle

 

(xLLUN: MONUMENT PARK, COLORADO)
 

rhyfedd hwn, ac iddo ddeffro ar noson oleu leuad, yr wyf yn sicr y meddienid ef gan deimladau rhyfedd - nid ofn llewod nac eirth, er yn wir gallai fod ganddo achos i ofni - y rhai hyny, ond amheuaeth parthed ei wir sefyllfa, pa un ai yn y byd hwn ai yn y byd arall - y byddai. Tra yn cerdded yma gwelais fonion coed perffaith wedi  (x130)myned yn geryg perffaith. Gellir treulio diwrnodau yn y fangre hon a gweled rhyfeddodau newyddion yn dyfod i'r golwg yn barhaus.

 

(xLLUN: Monument Park, Colorado)

 

Tua milldir i'r gogledd o Manitou y mae Ogof y Gwyntoedd (Cave ef the winds), yn yr hon y mae deuddeg a thri-ugain o neuaddau ac ystafelloedd eang, trwy y rhai y gall dyn gerdded yn uniawnsyth. Gwelir ynddynt gyflawnder o goed-feini (basalt) a rhew-feini (stalactites), y rhai a grogant o'r nenfwd fel pigynau o rew. Y mae rhodio wrth oleu llusern yn yr ogof hon, a gwrando ein hadlais, rhwng ystafelloedd.ac agenau agos a phell, fel lleisiau ysbrydion, yn cynyrchu yn y fynwes y fath deimlad dorus ag a feddianai ddyn a safai ei hunan yn Ngardd Duwiau wrth oleu'r lloer.

 

Yn gyfagos eto y mae Ute Pass, sef toriad rhamantus rhwng creigiau uniawnsyth, uchel, a mawreddus, yn yn rhai y mae rhai o'r ogofeydd, tyllau, a dwfr-ddisgyniadau rhyfeddaf. Cheyenne Canyon, a Williams’ Canyon, a Glen Eyrie, yn gystal (x131)

 

(xLLUN: CRAIG YR EINGION)

 

â llawer o wrthddrychau eraill yn y parthau hyn ydynt yn werth dyfod o bell i'w gweled.

 

CYCHWYN I PIKE'S PEAK.

Pigyn Pike yn Colorado, er nad yr uchaf oll, ydyw un o'r rhai uchaf, ac ar rhyw gyfrifon yr enwocaf, o bigynau y Mynyddoedd Creigiog; ac arno ef, meddir, y mae y breswylfa ddynol uchaf yn y byd. Ymddyrcha ei gopa 14,147 o droedfeddi uwchlaw arwynebedd y môr; felly, yn ymyl bod bedair gwaith uchder y Wyddfa. Bu y mynydd hwn unwaith yn brif atdynfa y rhai a chwilient am aur, ac yn brif dir-nôd (land-mark) tir-fesurwyr y llywodraeth. Y mae ei gopa eto yn orsaf, ar yr ben y cedwir dynion i wneud arsylliadau awyrawl i gadw y llywodraeth yn hyddysg yn ansawdd y tywydd.

 

Llawer yn misoedd yr haf ydynt yn ceisio cyflawni un orchest-gamp fawr yn eu bywyd, trwy ddringo i ben y mynydd enwog hwn. (x132) Meddianwyd finau gan yr un ysbrydiaeth, ac aethum mor uchelgeisiol a phenderfynu dyfod allan yn y dosbarth blaenaf, sef rhai yn cyflawni yr orchest trwy nerth en coesau a'u hanadl en hunain, ac a dreuliant noswaith ar y pigyn i weled yr haul yn codi. Ar gefnau ceffylau a gedwir yn Manitou i'r dyben hwn y mae y lluaws yn myned, ond anturiaethwyr ail-raddol y cyfrifir y rhai hyn. Saif Manitou ychydig dros 6, 000 o droedfeddi uwchlaw arwynebedd

 

(xCAREG GYDBWYS, MANITOU, COLORADO)

 

y môr. Y mae copa y mynydd, felly, tua 8,000 o droedfeddi uwchlaw iddi hihiau. Y ffordd yno yn un milldir ar ddeg, ac, a thynu allan o hyn y filldir gyntaf am ei bod yn wastad, y mae yn esgyniad o ddeng milldir yn ol y raddeg o wyth gant o droedfeddi y filldir. I ddeall y daith hon, ddarllenydd, meddylia am rhyw riw fawr chwarter milldir o hyd, a'i phen ddau cant o droedfeddi yn uwch na'i gwaelod, . a'th fod yn dringo deg milldir o'r cyfryw riw - nid ar hyd ffordd wneuthuredig, hyfryd, fel prif-ffyrdd Cymru, ond ar hyd llwybr cul o raian mânaidd a threiglog, ar y rhai y byddai dy draed yn llithro rhyw gymaint yn ol am bob cam a roddit yn mlaen; brydiau eraill ar geryg mânaidd, pigog, y rhai, oddieithr i wadnau dy esgidiau fod yn dewion a gwydn, a fyddent yn sicr o dòri trwodd at y traed; mewn manau drachefn yn gorfod bras-gamu megys i fyny grisiau, o gareg fawr i gareg fawr, a bod yn dra gwyliadwrus i beidio gwneud cam difeddwl, rhag i hyny beri i ti beidio meddwl am wneud cam byth mwyach.

 

(x133)  Wedi cychwyn yn foreu o dref baradwysaidd Manitou, a rhodio tua milldir o ffordd wastad, hyfryd, ac yfed o ffynonau bywiol o ddyfroedd haiarn a soda, na choir en rhagorach, efallai, yn y byd, cefais fy hun wrth droed yr esgynfa, ac yno yr ydoedd golygfa arddunawl ryfeddol yn fy nghroesawu - y dyffryn tlws yn terfynu, a chreigiau aruthrol, wedi en haddurno â bythwyrddion brenau, yn ymgodi ar unwaith o ddau tu i'r afon wyllt a ffrochionai i lawr rhyngddynt;

 

(xGWESTDY YN MANITOU, COLORADO.)

 

a chan ddisgyn mewn dysglaerder a dwndwr o'r uchelder, chwareuai a neidiai o graig i graig, a chwarddai trwyddi wrth gael gwaelod yr aig, mewn lle yn llawn ei llonder. Yr oedd natur oll megys ar ei goreu yn fy nifyru a'm gwneud yn galonog i'r daith - y nefoedd yn glir a'r hinsawdd yn ddymunol. Ond gormod o ddillad ydoedd am danaf, a gormod y baich ydoedd ar fy nghefn, am fy mod wedi darparu ar gyfer y gauaf gerwin y byddwn erbyn nos wedi myned iddo.

 

RHAN GYNTAF YR ESGYNIAD.

Dechreuais esgyn, ac wrth esgyn gwelwn uwch fy mhen ar y naill y law y meini mawrion a'r cribau creigiog yn edrych i lawr arnaf mor fygythiol a phe baent y mynydau hyny yn barod i syrthio arnaf Ond rhyngddynt byddai y cedrwydd caredig a'r pinwydd siriol yn amneidio arnaf i fyned rhagof a pheidio ofni dim. Ar fy llaw 

(x134) ddeheu yr oedd yr agen ddofn, a dyfnder yn galw ar ddyfnder wrth swn eu pistylloedd; a hwnt i'r dyfroedd a'r dyfnderau gwelwn eto haenau yn gorphwys ar haenau, creigiau yn crogi wrth greigiau, colofnau tuhwnt i golofnau, a phinaclau uwch pinaclau, nes, i'm golwg i, yr oeddynt yn cyffwrdd yn deg â nenfwd glas y nefoedd. I fyny ac i fyny yr ymddirwynai fy llwybr cul, igam-ogam, o'r hwn, gan dewed y coed a' r creigiau, nis gallwn weled yn mhell yn mlaen nac yn ol, nac i unrhyw gyfeiriad ond i fyny; mewn agenau rhwng creigiau serth; weithiau yn croesi yr afon o'r naill làn i'r llall, ond fynychaf ar fin y dibyn mawr. Er fod y daith yn drom, teimlwn yn ddiolchgar fy mod heb geffyl, am fod genyf fwy o ymddiried yn fy nhraed fy hun; ac heb arweinydd, am fy mod yn cael mwy o hamdden i ddal cymdeithas â natur hardd yn ngogoniant ei gwylltineb, ac anadlu moliant “i Dad y trugareddau i gyd.”

Yr oedd darnau metelaidd megys plwm ag arian claerwyn, copr dyfngoch, efydd, ac efallai beth aur melyn, yn y ceryg a'r graian, yr hyn a barai i'r llwybr ac ystlysau y creigiau fflachio dan y pelydrau. Ychydig uwchlaw y droedbont, lle y croesais yr afon mewn un man, yr oedd maen mawr o faintioli ty yn ei chwbl orchuddio, a hithau wedi gweithio ffordd iddi ei hun odditanodd. Gelwid y cwymp hwn yn Sheltered Falls. Yn mhellach yn mlaen gwelais goeden fawr, ei bôn yn bedair troedfedd o dryfesur, mwy na'r coed sydd yn tyfu yno yn awr, wedi syrthio, a'i gwreiddiau yn sefyll i fyny o'r ddaear, ac yr ydoedd drosti a thrwyddi oll yn gareg berffaith. Cadwai y rhisgl, y graen, a'r gwreiddiau eu ffurf, er hyny, fel pe byddent eto yn bren.

Wedi esgyn bedair milldir, heb gyfarfod â neb na chlywed swn neb na dim amgen twrf y dyfroedd, sïanau yr awelon, a chathlau yr adar, daethum i olwg ty newydd o gyffion, gerllaw i'r hwn y safai dau geffyl cyfrwyedig, wedi eu rhwymo, a dau ddryll yn gorphwys wrth y mur, ac oddifewn cefais ddau ddyn ieuanc golygus, y rhai a ddywedent wrthyf mai gwyr cyfiawn a heddychol oeddynt hwy, yn llafurio y ddaear, yn porthi anifeiliaid, ac yn hela gwyllt filod er mwyn eu crwyn, a'u bod, o hoffder at wylltineb natur a pherffaith dawelwch, wedi dewis y gilfach anghysbell hono i godi ynddi weddw-dy. Gofynais pa fodd yr oeddynt yn gallu llafurio y ddaear a phorthi anifeiliaid rhwng u creigiau geirwon felly. Atebasant fod yno ddarnau bychain o wastadeddau ychydig yn uwch i fyny, lle y codant gloron ac yr ymhyfrydent 
(x135) gyda'i gwartheg. Synent yn fawr fy ngweled yn unig ac ar draed, heb gymaint ac arf ychwaith i amddiffyn fy hun pe deuai ymosodiad. Dywedent fod eirth, jaguars, neu lewod y mynydd, a panthers yn gwneud eu hymddangosiad yn achlysurol, ac y byddai yn gysur mawr i deithiwr unig feddu moddion amddiffynol pe deuai achos. Yr oeddwn wedi clywed o'r blaen fod y creaduriaid hyn yn llechu yn ystlysau Pike's Peak, a gwnaeth ymadroddion y brodyr hyn i'r peth ddyfod adref dipyn yn ddifrifol, ac nid heb radd o ddrwgdybiaeth y gallwn feddwl am danynt hwythau. Aethum i ddyfalu beth a allai beri iddynt hwy ddewis byw felly yn mhell oddiwrth drigfanau dynol. Fodd bynag, gan fy mod wedi gosod fy meddwl ar sangu copa'r mynydd, a gweled fy mod eisioes wedi dringo llawer; penderfynais fyned rhagof. I fyny yr aethum, gan ddilyn yr afon wyllt trwy fylchau culach a rhwng creigiau erchyllach nag o'r blaen. Yn sydyn cefais fy hun yn wynebu lle agored, tua deugain cyfer, efallai, o ddaear agos a bod yn wastad - llecyn gwyrddlas, tyner, gwyrddgoed mwynion yn tyfu arno, ac “afonig fechan, fywiog, fad” yn sïan ganu wrth dreiglo trwyddo, canys yr oeddwn yn awr wedi gadael y brif afon. Amgaerid y llecyn dymunol hwn o bob tu gan y cedyrn greigiau, y rhai a sicrhaent iddo dawelwch mawr. Yma, ar lawnt gwyrddlas, y gorphwysais, ac o ddyfroedd gloywon yr afon yr yfais, a llawer gwaith wedi hyn y meddyliais yr hoffwn drigfan dawel mewn llanerch dlos o'r fath hono.

RHAN UCHAF YR ESGYNIAD.
Wedi myned trwy y baradwys hon dechreuais drachefn ddringo'r rhiwiau geirwon. Nid oedd gweddill y daith agos mor ddymunol, oblegid, yn un peth, ei bod, er yn arw, yn fwy llwydaidd a diaddurn. Dechreuodd y mwynder ymadaw, ac aeth y gwyrddlesni i ymddangos lawr obry yn mhell ar ol, a, gwaeth na'r oll, aeth fy llwybr â mi oddiwrth yr afonig gyfeillgar. Bu raid dringo y chwe' milldir olaf heb ddwfr, a daeth syched angerddol arnaf. Daethum i'r uchder hwnw nas gall prenau dyfu ynddo, a rhoddais ffarwel i'r cyfeillion hyn. Wrth barhau i ddringo'r llethrau moelion, aethum i deimlo yn llesg a lluddedig iawn. Yr oedd egin gwanaidd, gwanaidd yn parhau i'm sirioli, er fod y gwynt yn chwythu yn gryf a'r hinsawdd yn oer. Ymddangosai hefyd. flodau llai, gwanach a
(x136)  phlaenach na llygaid y dydd, eu lliw yn fetelaidd fel plwm, ac yr oeddynt mor frau fel y byddai ymaflyd ynddynt yn eu malurio. Yr oeddwn yn awr yn y diriogaeth hono y mae llawer yn methu myned gam yn mhellach gan deneudra yr awyr - teimlant y fath anhawsdra i anadlu, eu cnawd yn chwyddo a’u gwaed yn tori allan trwy eu genau, eu ffroenau, lieu eu clustiau, fel y rhaid brysio i fyned i lawr. Nid oeddwn i, fodd bynag, yn teimlo yr anhawsderau yna. O ran yr anadl, credwyf y gallwn gadw yr un cyflymdra o'r gwaelod i'r pen, ond yr oedd y coesau yn myned yn ddiffrwyth, ac nis gallwn bellach gerdded dros ddau ddwsin o gamrau heb gael pump neu ddeng mynyd o orphwysdra; aethum i ddymuno fel Richard III. ar faes Bosworth – “A horse ! a horse! My kingdom for a horse !” Yr oedd yr egin a'r blodau olaf yn awr wedi diflanu allan o olwg, ac nid oedd yn fy amgylchynu ond ceryg a chreigiau yn eu noethlymder. Aeth y pigynau cymydogol i ymddangos odditanaf, a'r wlad yn gyffredinol wedi myned yn un llen niwliog, pell yn y gwaelodion. Gwelwn heolydd Colorado Springs draw, draw obry, obry fel fain yn croesi eu gilydd. Tybiwn fy mod yn gweled rhai llynoedd hefyd yn ysmotiau gwynion bychain; oddieithr hyny nid oedd na bryniau na phantiau, na choedwigoed {sic} na phrairies, i'w gwahaniaethu oddiwrth eu gilydd. Am y pentyrau diderfyn o geryg a chreigiau rhuddgochion, miniog, pigog, conglog, a pheryglus a'm hamgylchent, amlwg yw iddynt gael eu dryllio a'u taflu yn ddidrefn ar eu gilydd pan chwydwyd hwy allan o'r ddaear rhyw gyfnod pell yn ol. O ran maintioli amrywiant o'r graian i'r graig ganoedd o droedfeddi o uchder. Tebyg, ar y cyfan, ydoedd yr ymddangosiad o honynt i'r hyn a wnelai holl flychau, trunkiau, styciau, adeiladau, ceryg chwarelau, a môr-greigiau Cymru, pe baent oll wedi eu paentio yn gochion a'u taflu at eu gilydd nes gwneud pentyrau gymaint a'r serth-glogwyni mwyaf a welir. Yr oedd eu noethder dieithriad yn peri i mi deimlo yn hurt, megys mewn rhyw fyd arall, a'u cras-gochni ffwrneis-liw yn peri i'm syched, gallwn dybio, fod yn fwy angerddol.

 

Yr oedd ymddygiad y mynydd hwn ataf yn dra gwahanol i’r hyn a addawodd. Pan oeddwn haner can' milldir oddiwrtho gwahoddai fi i bleser-deithio ar hyd-ddo, ac hyd yn nod pan oeddwn yn cyffwrdd â’i droed yn Colorado Springs, dywedai wrthyf nad oedd efe fawr uwch na'r pigynau eraill, ac mai gwaith hawdd fyddai ei ddringo. (x137) Ond yn awr yr oedd ei blant cochion a geirwon ar ei gefn yn ymddangos fel yn cael mwynhad yn fy mlino a’m gwawdio. Ar ol y buaswn wedi cerdded, cerdded, a cherdded i geisio myned heibio congl rhyw glogwyn neu graig uchel, gan feddwl mai hwnw fyddai yr olaf, deuai craig anferthol arall i'r golwg, ac arall drachefn a thrachefn, nos oedd fy siomiantau wedi myned bron yn anobaith. Ni bu erioed mor llawen genyf weled asynod ag oedd canfod dau o honynt yn dyfod i lawr y llwybr cul, a'r ffrâm sydd ganddynt yn cario en beichiau yn rhwym ar eu cefnau. Cadwent wyliadwriaeth synwyrol ar bob cam a roddent. Daethum at lyn bychan o rew-dwfr gwlaw wedi rhewi rhwng y ceryg. Torais o hwnw ddarnau mân i'w doddi yn fy ng'enau, a chefais esboniad ar y geiriau – “Dyfroedd oerion i'r enaid sychedig.” Yna gwelais bedwar o asynod eraill yn dyfod i lawr, yn cael en canlyn gan ddau ddyn, y rhai a ddywedasant wrthyf nad oedd genyf ond chwarter milldir i fyned i'r pen, a bu yn galed ryfeddol arnaf gyflawni hyny; ond o'r diwedd, pan ddaeth y signal station i'r golwg, mi a lawenychais â llawenydd mawr dros ben. Derbyniwyd fi gan y ddau breswylydd. Cyflawnais y daith o 11 milldir ar ol naw awr o ymdrech galed. Yr oedd gwadn un o'm hesgidiau wedi myned yn llwyr, fel nid oedd ond yr hosan rhwng fy nhroed a'r ceryg.

 

NOSWAITH AR Y MYNYDD.

Wedi yfed dwfr, ymdwymno, a dyfod dipyn ataf fy hun, a chylymu darn o ledr dan y gweddill esgid oedd genyf, aethum allan i weled yr amgylchoedd. Gallai fod copa y pigyn yn ddau gyfer oddiarno, oll yn geryg cochion, geirwon, mawrion o'r fath a ddysgrif- iwyd; ar y canol yr oedd adeilad isel a phlaen o'r un defnydd, ac ynddo bedair ystafell; y preswylwyr oeddynt Sergeant O'Keef a Major Criben, arsyllwyr y llywodraeth, a gwaedgi mawr. Oddiamgylch yr oedd llygod, daear wiwerod rhesfrithion, ac adar tebyg i adar y tô. Cysylltid y ty^ hwn, trwy wifren bellebyr, â Colorado Springs ac â Washington, i'r rhai y pellebrid ansawdd y tywydd a chyfeiriad y gwynt bob dydd. Encyd fechan oddiwrth y ty^ yr oedd careg fedd o farmor gwyn, teg, ac arni yn gerfiedig, mewn llythyrenau duon, a ganlyn:-

 

(x138)

“Fair Cynthia with her starry train
Shall linger o'er thy silent rest,
And waft one soft sweet spheric strain
To Erin dear, among the blest.


ERECTED
By Sergeant John and Norah O'Keef in memory ef their infant daughter,
Erin O'Keef, who was destroyed by mountain rats at the
U.S. Signal Station on the summit of Pike's Peak,
May 25th, A.D. 1876.”

Yn anffodus, yr ydoedd graddau o gymylau a niwl yn rhwystro i mi gael yr olwg eangfawr ar ganoedd o filldiroedd a gawn pe byddai yn hollol glir. Gallwn, er hyny, weled prif bigynau eraill y Mynyddoedd Creigiog a'r brif gadwen yn y gorllewin draw - yr eira gwyn am danynt, a'r olwg arnynt yn ogoneddus o arw ac oer. Gwyliais yr haul yn machludo yn y gorllewin. Ond yn y dwyrain yr ymddangosodd y rhyfeddod fwyaf ar y pryd, canys gwelid yno gysgod du Pike's Peak ar yr awyr yn ymgodi yn uchel o'r terfyngylch, gyda dau gorn dysglaer o oleuni yn ymddyrchafu oddiwrtho, y naill yn fyny-ogleddol a'r llall yn fyny-ddeheuol. Ar ol cael lluniaeth, cynaliwyd cyfarfod difyrus o bedair rhan - awr bob rhan. Yn y rhan gyntaf rhoddodd y ddau arsyllydd i mi ddysgrifiad o'r modd y maent yn byw. Tair milldir islaw y mae afonig a choed yn tyfu, ac yno y mae ty arall perthynol iddynt a dau ddyn yn byw ynddynt, y rhai hyny, gyda'u hasynod (a elwir burros), a gyfarfum ar fy ffordd i fyny. Ar gefnau yr asynod hyny y dygir coed, dwfr, lluniaeth, a phob rhyw beth i'r orsaf. Deuant i fyny yn llwythog, a rhaid iddynt gario digon yr haf erbyn y gauaf; oblegid trwy gydol misoedd meithion y gauaf y maent yn cael eu cau i fyny fel nas gall fod negesau rhyngddynt a neb ond trwy gyfrwng y gwifrau. Dangosasant i mi drysorfäau llawnion o bob moethau a darpariaethau. Meddent lyfrgell ragorol, ac yr oedd agwedd galonog arnynt.

 

Gwaith ail ran y cyfarfod ydoedd ceisio dal i fyny gymeriad Prydain yn wyneb ymosodiadau ofnadwy y Sergeant, a chyda llaw, gallaf grybwyll ddarfod i ti gael llawer o'r gwaith hwn yn ngwahanol barthau y wlad. Adnabyddir fi gan lawer yn sir Aberteifi fel Americanwr selog, a chofir am danaf gan lawer yn America fel un yn teimlo gormod dros Brydain. Y mae gan rai pobl gibddall yn (x139) Mhrydain y fath syniadau gwrthun am America rhagfarn front tuag ati, a chan rai pobl anwybodus yn America yr un modd y fath syniadau cul am Brydain a chasineb ati, fel y mae dyfod i wrthdarawiad â’r cyfryw yn pergylu yr heddwch ar y pryd. Elai y Sergeant ar y pen yma yn babwyr gwyllt, a bron na thybiwn ei fod yr awr hòno yn myned i wisgo ei arfau, disgyn o'r mynydd, croesi yr Atlantic, a rhoddi maethgen iawn i Loegr. Da oedd fod y Major yn ddyn arafaidd, oeraidd, a chall, oblegid hyny a waredodd y mynydd rhag myned yn fflam.

 

Gwaith y drydedd ran ydoedd cydmaru ein gwahanol ieithoedd â'u gilydd. Yr oeddym ni ein tri yn cynrychioli tair cangen o'r cyff Celtaidd - Sergeant O'Kief y Wyddelig; Major Criben y Fanawaidd; a minau y Gymreig. Gwyn fyd na buaswn wedi gwybod am hyn cyn cychwyn o Gymru, fel y gallwn fod wedi gofyn i'r Proffeswr John Rhys ddyfod gyda mi i gael ei berffeithio; oblegid er ei fod wedi dringo yn uchel iawn fel ysgolhaig Celtaidd, yr wyf yn sicr y byddai bod yn gadeirydd y cynghor Celtaidd hwn ar gopa Pigyn Pike, yn mhell uwchlaw holl ysgolheigion y byd, yn ddyrchafiad mawr iddo. Mor bell ag yr oeddym ni yn gallu myned, cawsom fod priod-ddull (idiom) y tair iaith yn dra thebyg, ac amryw eiriau bron yr un fath. Ond er ein bod yn dri chefnderwyr, a phob un yn meddu ei briodiaith, wedi dyfod o'r un gwreiddiaith, rhaid oedd i'n hymddyddan fod yn estroniaith y Sais. Diweddwyd y rhan hon o'r cyfarfod trwy i'r Sergeant adrodd rhigwn o brydyddiaith yn iaith y Gwyddel; y Major ddameg y deng morwyn yn iaith Ynys Manaw; a minau y Salm cyntaf yn iaith Adda Jones.

 

Gwaith olaf y cyfarfod ydoedd fy nysgu i yn nirgelion pellebryddiaeth ac awyrsylliadaeth: -

Pike's. - Enw yr orsaf.
Noddy. - Uchder y gwlaw-fesurydd (barometer): 30·04.
Female.- Uchder yr hin-fesurydd (thermometer) – 18º.
Grief. - Swm y lleithni: 70.
Head. - Cyfeiriad y gwynt ac ansawdd y tywydd: I'r deheu ac yn glir.
Lawyer. - Cyflymdra'r gwynt: 36m. yr awr a chyson.

Dyma gyflwr yr awyr y dydd hwnw, ac fel yna y pellebrwyd i Washington pan oeddwn yno. Dywedent i mi fod yn hynod o ffodus, gan i mi gael un o'r diwrnodau llarieiddiaf yn y   flwyddyn. Ar ol hyn (x140 ) ceisiasom gysgu; ond yr oedd caledwch fy ngwely ar y llawr, blinder y dydd, teneudra yr awyr, yr adgof am y gareg fedd, gyda thrwst y llygod a swn y Sergeant yn rhegu ei gi yn nghwsg ac yn effro, yn peri na chefais gysgu amrentyn. Aethum yn glafaidd, megys o glefyd y môr, yr hyn, meddent wrthyf, ydoedd rhan pob newydd-ddyfodiaid i'r uchelder hwnw.

 

TRANOETH.

Codais yn foreu i weled yr haul yn codi. Yr oedd yn fwy niwliog a chymylog na'r noson flaenorol. Rhwng mai haner goleu ydoedd a’r gwynt cryf yn chwythu y niwl a'r cymylau gyda chyflymdra gwyllt dros y creigiau geirwon, y rhai yn filoedd ac yn filoedd a ymddiflanent ac a ymddangosent fel pe byddai yr holl fyd yn furum ferw, yr oedd yr olygfa yn fwy erchyll na'r môr garwaf a welais erioed. Yn ffodus ciliodd y cymylau mwyaf ymaith mewn pryd, safodd eraill ar yr awyr, a chwareuai y lleill, tra byddai y pelydrau yn gosod arnynt y lliwiau mwyaf gogoneddus - coch dysglaer, yn graddio o'r dyfnaf i'r ysgafnaf, a chyda hyny amryfal liwiau yr enfys, oll mor danbaid, mor doddedig, ac ar faes mor eang ac amrywiol, ac yn cynwys y cymylau rhyfeddaf - rhai yn wynion, rhai yn dduon, rhai yn haenau, rhai yn rowliau, rhai yn wlanog, a rhai yn rhesi. Rhyfeddol gynydd y gogoniant ar y rhai hyn oll fel y dynesai yr haul anweledig at y gorwel ydoedd olygfa nas gall na bardd na darluniedydd byth ei gosod allan; a phan ddaeth yr haul ei hun i'r golwg atebodd y flapiau niwl a ehedent heibio ddyben rhagorol trwy fy ngalluogi i edrych arno trwyddynt. Ymddangosodd cysgod rhyfedd y mynydd hefyd ar yr awyr yn y gorllewin, ond y tro hwn yn amddifad o'r ddau gorn goleu. Beth a allai fod yr achos o'r gwahaniaeth, nis gwn, oddieithr mai adlewyrchiad o eira gwyn y mynydd - gadwyni gorllewinol oedd yn peri y cyrn goleu.

 

Y gamp nesaf ydoedd disgyn. Torwyd coesau botasau Major Criben, a chyda gwifrau o bres rhwymwyd y lledr dan fy esgidiau, ac felly y cychwynais. Yr oedd hanesynau yr arsyllwyr a'u hadroddiadau am nerth a chreulonder y jaguar, ac ddarfod i ddyn gael ei golli wrth ddisgyn o'r lle hwn yr wythnos flaenorol, megys ag y collwyd llawer cyn hyny, yn peri fod arnaf fwy o ofn disgyn nag oedd arnaf i esgyn. Mwynhawyd yr ofn hwnw wedi mi {sic} ddyfod i lawr can (x 141) belled a'r coed, lle y cyfarfyddais â dau ddyn yn myned i fyny ar gefnau ceffylau, canys canfyddais ôl palfau, mwy o lawer na phalfau unrhyw gi, yn rhodio i lawr y llwybr, a hyny mor ddiweddar fel yr oedd wedi dinystrio rhanau o ôl carnau y ceffylau a gyfarfum. Tybiwn mai wedi myned i'r afon i gael dwfr yr oedd y bwystfil, ac y gallwn gyfarfod âg ef ar ei ddychweliad, ond diolch i'r nefoedd, ni chefais gymaint a'i weled. Byddai yn well genyf dalu am gael golwg arno mewn gwylltfilodfa (menagerie). Cerddais yn galed heb gymeryd hamdden i orphwyso, hyd yn nod yn y llecyn gwastad a hyfryd; ac yn mhell cyn cyrhaedd y gwaelod yr oedd fy nghoesau wedi gwrthod myned â mi. Yn wyneb hyn nid oedd genyf ond eu taflu yn mlaen, yr un fath yn hollol ag y teifl dyn goes o gorcyn fyddo ganddo. Bum dri diwrnod ar ol hyn heb allu cerdded braidd ddim. Hwn ydoedd y blinder mwyaf a brofais erioed. Bum ar gopa Pike's Peak! Da genyf hyny. Ond nid wyf yn meddwl y bydd arnaf flys gwneud taith gyffelyb eto.

 

TWMPATHAU RHYFEDD.

Wele fi eto ar y reilffordd o Colorado Springs i Pueblo. Pa bethau ydynt y mil-filoedd twmpathau yma, pob un gymaint a dwsin o dwrch-dwmpathau yn nghyd? Y rhai yna ydynt breswylfeydd y morgrug. Mewn un man nis mllwn weled ond y rhai hyn ar bob

 

(xLLUN: CRAIG-GOLOFNAU HYNOD)

 

  tu i'r reilffordd mor bell ag y gallwn ganfod. morgrug cochion, mawrion ydynt, a gallu yn eu safnau. Y mae miloedd lawer o honynt yn trigianu mewn ystafell - ac wrth ystyried y.oedd ac orielau cywrain yn yr un ty; ac wrth ystyried y miloedd tai sydd yn

agos at eu gilydd, rhaid fod nifer y trigolion yn aruthrol fawr, a chan nad oes un diogyn, nac araf, nac anfedrus yn eu plith, y mae y gwaith a gyflawnant uwchlaw ein dirnadaeth. Diau y byddai dysgrifio eu holl ddeddfau ac arferiadau, a chronicle eu rhyfeloedd, anturiaethau, a'u prif symudiadau, yn llenwi cyfrolau mawrion.

 

Pa bethau ydynt y twmpathau eraill yna, mwy annyben na thai morgrug, a thwll yn nghanol bob un o honynt? Y rhai yna ydynt breswylfeydd cwn y ddaear (prairie dogs) - creaduriaid bychain,

 

(xLLUN: CWN Y PRAIRIE)

 

llwyd-felynion, mwy a thrymach na llygod Ffrengig. Rhedant a chwareuant o amgylch, ond y foment y gwelant y gerbydres yn dynesu, rhedant bob un at ei dwll twmpathog, a chan eistedd yno (x143) cyfarthant â’u holl egni. Ond wedi myned hyd bellder ergyd careg atynt, ymddiflanant. Y mae y Mexicaniaid yn eu bwyta. Dywedir fod ci y prairie, dylluan y prairie, a’r neidr gynffondrwst yn hoffi trigo yn yr un ty. Diau mai y ci ydyw y gwir berchenog, ac y mae yn amheus fod i'r lleill groesaw.

 

Pa bethau eto ydyw y bryniau bychain, crynion, cryno, pigfain yna, tebyg i dai y morgrug, ond llawer iawn mwy o faintioli? Ymddangosant hwythau hefyd yn aml yn yr un llanerch. Gwynt-fryniau (wind-hills) neu dywod-fryniau (sand-hills) y gelwir y rhai yna. Dywedir mai nydd-droadau y gwynt yn cydgasglu holl dywod y parth yn un pentwr a roddodd gychwyniad iddynt, ac yna ychwaneg o dywod wrth gael eu chwythu o dro i dro yn glynu wrthynt, nes i'r crugiau, fel lluwchfeydd eira, fyned yn fawr; ac y mae amser erbyn hyn wedi eu sefydlu a'u caledu nes y maent, fel y ddaear o'u hamgylch, yn orchuddiedig gan y fath egin a llysiau gweiniaid ag sydd yn tyfu yn y parthau hyn. Gwelir bryniau wedi eu ffurfio gan ddyfroedd yn mhob gwlad, a rhai wedi eu ffurfio gan ddaear-chwydiadau mewn llawer gwlad, ond wrth odrau y Mynyddoedd Creigiog yn unig y gwelais fryniau wedi eu ffurfio gan wyntoedd!

 

PUEBLO, COAL CREEK, A CANYON CITY.

Gair yn dynodi tref ydyw Pueblo, ac yn mlaen rhoddir dysgrifiad o Pueblos, New Mexico, ac Arizona. Am y Pueblo hon, y mae fel tref Indiaidd a Mexicanaidd yn hen, yn cynwys rhai tai adobe, y rhai a ddysgrifir yn mlaen yn hanes Santa Fe. Ychydig allan o'r dref y mae pentref o dugouts, sef preswyldai wedi eu gwneud mewn agen neu doriad yn nghanol bryn neu graig, a'r muriau allanol wedi eu wneud o bolion, plethedig â gwiail, ac wedi eu dwbio â chlai, a'r ddaear ei hun yn dô iddynt. Gellid meddwl fod holl geudod y ddaear yn dân gan fel y byddai colofnau o fw^g yn ymddyrchafu oddiwrthi. Clywais rai Cymry, ag sydd yn awr yn trigo mewn palasau, yn dweyd mai mewn dugouts felly y dechreuasant eu byd yn y gorllewin. Ond ni thrigai yn y dugouts hyn a welais i namyn Mexicaniaid croenllwyd-ddu. Ac yma y cefais yr olwg gyntaf ar y genedl hòno ac adgofiwyd fi yn rymus o'r darluniau Beiblaidd a chwareuant o amgylch, ond y foment y gwelant y gerbydres yn welais o'r hen ddwyreinwyr, oblegid yr oedd y gwragedd gyda'u shawls llaes, y rhai a wasanaethent hefyd i gysgodi y pen, y wàr, a'r cefn, (x144) ac yn cario eu hystenau dwfr yn eu dwylaw ac ar eu penau, yn null Rebeca wrth y pydew.

 

Fel tref ddiweddar ac eiddo dynion gwynion y mae Pueblo (p. 9, 000) yn fath o ddwy dref, sef Pueblo a South Pueblo, ac afon Arkansas yn rhedeg rhyngddynt. Tai o adeiladaeth ddiweddar ydyw mwyafrif eu hadeiladau - rhai yn fawrion a heirdd, a llawer yn ddim ond byrddau wedi eu hoelio wrth eu gilydd rhywlun ac mewn brys Gwelais ugeiniau o bebyll (tents) wedi eu gosod ar rô yr afon, ac yr oedd yn syndod gweled mor drefnus a glanwaith oddimewn yr oedd rhai o honynt wedi eu gosod. Byddai llawrleni a dodrefn ynddynt a allent fod yn addurniadau mewn tai gwell. O Denver hyd yma yr oeddwn wedi dyfod 120 o filldiroedd, a fy ngwyneb yn ddeheuol; ond yn awr cymerais gyfeiriad gogledd-orllewinol am daith o 158 o filldiroedd i Leadville. Mae Pueblo 35 milldir o Coalcreek, lle y mae sefydliad mawr o glowyr Cymreig. Arosais yn y lle hwn amryw ddiwmodau dan gronglwyd y Parch. M. B. Morris, yr hwn y crybwyllwyd am dano yn y nodiad ar Arvonia, Kansas, ac yr wyf yn ddyledus iddo ef, ei briod hawddgar, a’u merch fechan angelaidd am lawer iawn o garedigrwydd. Naw milldir yn mhellach eto y mae Canyon City, lle y dywedir fod y glo goreu yn y dalaeth, a ffynonau rhinweddol o ddyfroedd haiarn a soda. Y mae rhinweddau glöawl a dyfrawl y dref hon, yn nghyda rhyfeddodau naturiol yr amgylchoedd, yn tueddu i’w gwneud yn lle masnachol a ffasiynol o gryn bwys.

 

(x145)

Y GRAND CANYON Â’R ROYAL GORGE.

Son am olygfeydd mawreddog a rhamantus! Yn awr, ynte, am danynt - golygfeydd nad ydynt ail i Raiadr Niagara nac unrhyw wrthddrychau daearol eraill. Y mae pobl o bob cwr o'r wlad ac o'r byd gwareiddiedig yn dyfod i weled y man hwn. Cysylltwyd â’n cerbydres yn Canyon City gerbyd arsylliadol (observation car), heb dô iddo, fel y gallem weled y rhyfeddodau. Bwlch gorddwfn o ddeuddeg milldir o hyd wedi ei wneud gan yr afon Arkansas yn y mynydd ydyw y Grand Canyon, a'r rhan ryfeddaf o'r bwlch hwn yn doriad neu agen gul yn y graig, filldir a haner o hyd, ydyw y Royal Gorge. Y mae y toriadau dyfnion hyn a wna yr afonydd yn nhywodfaen y ddaear yn un o arbenigion y Mynyddoedd Creigiog, ac yn gwneud i fyny rai o'r golygfeydd mwyaf gwyllt, mawreddus, a chynhyrfus y gellir meddwl am danynt. Ymddolena yr afon ar hyd y gwaelod, gan gyflymu, rhedeg, neidio, cwympo, ffrochio, a thyrfio dros, dan, rhwng, a heibio meini mawrion, fel y gwna y Towi tuagYstrad Ffin. Ar bob tu iddi yr ymgyfyd yn uniawnsyth y creigiau mwyaf a welais erioed. Nid yw yr haul byth yn pelydru, yma, ond fry, fry, ganoedd, ie, filoedd o droedfeddi y gwelir rhibyn main o lâs dwfn y nefoedd. Gellid meddwl mai y gwaith hawddaf yn y byd fyddai i un daflu careg o'r naill làn i'r llall, ond nid oes hanes am neb wedi gallu taflu careg mor bell ag iddi syrthio yn yr afon, ac eto nid oes ond 35 o droedfeddi rhwng y glànau a'u gilydd mewn unman. Dyfnder yr agen hon ydyw 2, 008 o droedfeddi. Yr un peth o ran dyfnder ydyw y toriad hwn ag a fyddai agen yn y Wyddfa, pe yr holltid hi trwy ei chanol, fel ag i wneud gwaelod gwastad o Beddgelert i Lanberis. Ychydig a feiddiant edrych i lawr i'r toriad hwn fwy nag unwaith, ac y mae un gipdrem yn ddigon i grëu yn y meddwl feddylddrych o'r gair “dyfnder” na freuddwydiodd am dano o'r blaen, ac nad anghofia tra fyddo byw.

 

Rhedai y reilffordd ar hyd glàn yr afon, ar y gwaelod, ac mewn un man elai ein cerbydres dros bont, nid yn groes, ond ar hyd yr afon, gan gyfynged y lle. Gan fod yr afon yn gwneud troadau mynych a sydyn rhyfeddol, ac nas gallem o ganlyniad weled yn mhell yn mlaen nac yn ol, gwelem ein hunain yn barhaus megys wedi ein cau i fyny mewn pwll dwfn, ac eto yr oedd ein cerbydres yn cael lle i fyned, a myned yr oedd hefyd, nid yn araf a hwyrdrwm (x146) fel y byddant arferol o wneud troadau ar reilffyrdd llydain ond myned yr oedd hon fel Jehu ynfyd - yn ei bwrw ei hun yn                                                                               

 

(xLLUN: GRAND CANYON)

 

(x147) mlaen helter-skelter, ffordd a fynai, ffwrdd i hi. Bron na thybiem weithiau ein bod ar gael ein taflu yn deilchion yn erbyn craig fawr a safai yn hollol o'n blaen; ond gyda hyny o gwelem yr agerbeiriant bychan, dewr, a ffyrnig yn cyflymu heibio ei chongl fel llycheden, ac yn tynu y gerbydres fel neidr chwim-ddolenawg ar ei ol. Unwaith teimlwn yn sicr yn fy meddwl ein bod yn myned trwy dwnel, oblegid ymddangosai fel be na byddai ond rhan olaf y gerbydres allan o'r graig. Ond yn y man dyna yr agerbeiriant eto yn y golwg, wedi darganfod llwybr iddo ei hun i fyned heibio, ac, fel ysgyfarnog ddychrynedig, cyflymai ar hyd-ddo, a ninau yn glynu wrtho megys am ein hoedl - y gerbydres yn gwyllt-gyflymu tuag i fyny, yr afon ffrochionllyd yn gwyllt-gyflymu tuag i lawr, a phob peth symudadwy yn ymddangos megys mewn brys mawr i ffoi rhag i'r crogawl greigiau syrthio arnynt! Byddai wynebau y teithwyr gan syndod wedi anghofio eu hunain; cegau rhai yn gystal a'u llygaid yn llydain agored, eraill yn codi eu dwylaw, ac heb neb yn dyweyd dim, torem allan i chwerthin yn uchel - rhyw gongl neu bigyn rhyfedd yn neidio i'r golwg yn y goruchafion, neu rhyw dro cywrain a sydyn yn cael ei wneud, nes gogleisio ein teimladau yn rhyfedd! Pwy, yn wir, a allai beidio chwerthin wrth weled natur ramant-fawr a chelfyddyd gariad-wyllt yn chwareu y fath ystranciau digrifol gyda eu gilydd? Un hardd, fawreddog, ac addurnawl iawn ydyw natur yn ngogoniant ei gwylltineb; ac, yn wir, un eofn arni, feiddgar, ac ardderchog ydyw celfyddyd; cydmarant yn rhagorol mewn glan briodas.

 

Y DAITH I LEADVILLE.

Wedi myned o honom trwy y Grand Canyon, gadawyd y cerbyd arsylltiadol ar ol, ac aeth y teithwyr i gerbydau mwy cynes. Ond anghofiais i ei bod yn oer gan gymaint y pleser o fod ar y banlawr yn edrych ar ryfeddodau y ffordd, oblegid parhaent yn gyfryw ag na cheir ond anfynych rai cyffelyb iddynt. Wedi i'r nos ddyfod, arosais yn Salida, a thrachefn wrth ddychwelyd yn Buena, Vista, fel na chollid dim, ond yn hytrach y cawn oleu haul i weled y cwbl. Wedi codi yn foreu yn Salida, ac edrych tua’r gogledd, O! yr olygfa fawr, oer, a gauafol a gefais! A fedr golwg y llygad yn unig gynyrchu oerder neu rhyw naws arall yn y corff ? Tybwyf hyny, oblegid teimlwn yn gysurus pan ddaethum allan i'r heol y boreu (x1548) hwnw. Ond y foment y gwelais hen fynyddoedd duon, uchel Ouray, Shavano, Yale, Havard, La Plata, Grizzly, ac eraill, a'u penau oll ataf, yn sefyll yn uchel, pruddaidd, llonydd, dystaw, a mawreddog, megys yn yr ymyl (er eu bod yn mhell), fel rhes o gawrfilod anferthol, eu cefnau crwpäog yn orchuddedig gan eira gwyn, a'r cymylau fry, fry, rhai yn araf chwarian chwareu o amgylch en pigynau, eraill yn ehedeg ar ffrwst o flaen gwyntoedd cryfion, a'u rhuadau trymllyd i'w clywed rhywle yn mhell yn y goruchafion - pan welais a phan glywais hyn aethum i deimlo yn rhynllyd gan oerder.

 

(xLLUN: SOFLIEIR Y MYNYDDOEDD CREIGIOG)

 

 Yn mhellach yn mlaen daethum i gymydogaeth y gefaill-lynoedd (twin-lakes), y rhai a safant dros 9,000 o droedfedd uwchlaw arwynebedd y môr, a hwn ydyw y pwynt uchaf yn y byd y gwelir badau arno. Llawer yn misoedd yr haf ydynt yn dyfod yma i ymbleseru. Y mae golwg tra dymunol ar y llecyn, yr hwn a gysgodir yn dadol fynydd Elbert ac eraill. Y mae copa y blaenaf yn ymestyn 4,000 o droedfeddi uwchlaw y llynoedd.

 

Daethum i Leadville, yr hon y mae ei bodolaeth a chyflymdra ei chynydd megys gwyrth, a'i phoblogneth wedi ei geni megys mewn diwrnod.

 

Yn y flwyddyn 1877 y dehbreuodd Leadville fod yn.bentref; yn awr y mae yn ddinas gyda mwy na 40,000 o breswylwyr. Y mae ynddi rai adeiladau gwychion a heolydd trefnus. Nid oes hanes am ddinas mor fawr wedi cynyddu mor gyflym. Y mae ganddi fwngloddiau cyfoethog o aur, arian, a llawer o fwnau eraill; ac fel mewn achosion cyffelÿb y mae y mwnau hyn wedi gwneud llawer o dlodion yn gyfoethogion mewn amser byr, a rhai cyfoethogion yn dlodion; canys y mae daear o aur ac arian, pa le bynag eu ceir, yn sicr o fod yn (x149) gyrchfa anturiaethwyr o bob gradd - doethion ac ynfydion hefyd. Bu y ddinas hon yn gyrchfa dyhirod o bob math. Dywedir mai anfynych y gwawriai boreu dair blynedd yn ol na byddai son am rhyw un neu rhyw rai wedi eu mwrdro ynddi yn ystod y nos. Er ei bod wedi gwella llawer yn ei moesau a'i chrefydd, eto y mae lle. Deallwyf fod ynddi ac o'i hamgylch lawer o Gymry. Saif dros 10,000 o droedfeddi uwchlaw arwynebedd y môr. O'r lluaws sydd yn myned yno i wneud eu cyfoeth, ychydig sydd yn meddwl aros yno i'w fwynhau, ond dewisant leoedd mwy tymherus.

 

(xLLUN: TY NEWYDD YN COLORADO.)

 

Y mae gan Colorado awyrgylch sech, glir, ac iachusol - mor sech ydyw fel y gwelir ysgerbydau anifeiliaid ar wyneb y maes, nid yn braenu a drwgsawru, ond yn sychu i fyny. Gwelir y croen yn glynu yn dyn am ddim ond esgyrn yn mhell ar ol i'r cnawd ddarfod. Mor glir ydyw hefyd fel y mae gwrthddrychau pell yn ymddangos yn agos. Llawer troed-deithiwr, anghyfarwydd o'r dwyrain, a gafodd ei dwyllo trwy hyn - cychwyn ar ben boreu gan amcanu cyrhaedd y twyn draw cyn haner dydd, ond er cerdded yn galed nes byddai yn hwyr brydnawn, byddai y twyn o hyd y'n ymddangos yn yr un pellder a phan gychwynodd. Llawer yn cael eu blino gan ddiffyg anadl, gwall-dreuliad, &c., sydd yn cael iachfâd yn y parthau hyn. Nid llai rhyfedd hefyd ydyw tuedd garegawl y wlad. Rhai coedwigoedd a geir wedi myned yn geryg hollawl, er yn parhau i gadw graen a ffurfiau coed. Nid anhebyg na fydd cyrph dynion, yn eu plith eiddo rhai a ddarllenant y sylwadau hyn, yn mynwentydd y Mynyddoedd (x150) Creigiog, wedi myned yn gyrff o geryg, mewn cadwraeth well na hen mummies yr Aifft.

GOLYGFA YN LA JUNTA.
Y mae yn awr ddwy ffordd o'r Afon Missouri at lànau y Môr Tawelog; y naill yn gynwysedig o reilffyrdd yr Union Pacific a'r Central Pacific, trwy Nebraska, Wyoming, Utah, Nevada, a California.
Gwneir y llall i fyny gan reilffyrdd Atchison, Topeka, and Santa Fe, a'r Southern Pacific, yn myned trwy Kansas, Colorado, New Mexico,

(xLLUN: DWFRGIST REILFFORDD ATCHISON, TOPEKA, A SANTA FE)

Arizona, a California. Hon ydyw y ffordd newyddaf, ac y mae yn llawnach o ryfeddodau naturiol a henafiaethol na'r llall. Ar hyd y ffordd hon yr aethum, gyda'r bwriad o ddychwelyd ar hyd y llall. Dychwelais o Leadville, gan hyny, can belled a La Junta, pellder o 221 m., i'r dyben o gael pen y ffordd i'r de-orllewin

Y mae yn arferiad gan lawer yn y parthau hyn i gario llawddrylliau (revolvers), a hyny, efallai, yn gymaint o ffasiwn ag o ddefnydd. Fel yr oedd llonaid ty o honom yn aros yn ngorsaf-dy La Junta, i ddysgwyl y gerbydres, daeth i fewn tua haner nos bedwar dyn meddw. Amgylchynasant y stove ar unwaith, gan glegar cynhadledd gecrus yn eu plith eu hunain, a chadw pawb eraill yn mhell oddiwrth y tan.. Yr oedd dau greadur anneallus o honynt yn ceisio rhoddi eglurhad annealladwy ar rhyw fater annealledig i'r ddau hurtyn anneallgar eraill, a phryd nad oeddynt ond suddo yn ddyfnach i'r annealldwriaeth, cynygiasant, yn y lle a'r amser hwnw, roddi prawf ar eu deall i drin llawddrylliau; ond gyda hyny, wedi yn gyntaf wneud y ffordd yn glir rhyngddynt a'r drws, dyma geidwad y blychau gyda cheisbwl cawraidd yn dyfod ar eu gwarthaf, ac heb gymaint a dweyd “How d’you do?” allan y cawsant fyned, dinben drosben, drwy y drws, fel
(x151) pedair pêl droed, a chanlynwyd arnynt, nes mai da iawn ganddynt o'r diwedd ydoedd cael hyd i'w traed hir-golledig, a mwy ymddiried a ddangosasant yn eu traed nag yn eu dwylaw. Gwnaeth gwadnau lledr eu hesgidiau well gwasanaeth iddynt na’u llawddrylliau, oblegid pan gawsant ganiatad yr oeddynt yn rhedeg yn ogoneddus, a'u gwynebau ill pedwar tua phedwar pwynt y cwmpawd. Ond gan eu bod hwythau hefyd i fyned ar y gerbydres, dychwelasant yn sobr a heddychol, canys yn awr ymddangosai pob peth yn eglur iddynt, ac ymddygasant o hyny allon fel plant da. Mawr fel y mwynheid y dygwyddiad gan y gwyddfodolion - rhywbeth yn gyfnewid am ddiflastdod y dysgwyl.

 

Y TUDALEN NESAF:  1213k   Rhan 7 Tudalennau 151-173

 

Ble'r wÿf i? Yr ÿch chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weørr àm ai? Yùù ààrr vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wébsait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

 

 

 

 


Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats